**COFNODION PWYLLGOR BLYNYDDOL CFFI ERYRI** 

## **Dyddiad:  Nos Wener, 8 Medi 2023** 

**Amser: 19:30** 

## **Lleoliad:  Newborough Arms, Bontnewydd** 


**PG** 

## 1. **YMDDIHEURIADAU** : Derbyniwyd ymddiheuriad gan Glwb y Rhiw 

2. **PRESENNOL** : Geraint Puw, Llywydd y sir – Cadeirydd Gwen Thomas, Dyffryn Nantlle, Cadeirydd y sir 2022/23 Sioned Wyn Jones, Caernarfon, Is-gadeirydd y sir 2022/23 Elin Owen Jones, Godre’r Eifl, Trysorydd y sir 2022/23 Glesni Lewis,  Dyffryn Nantlle, Is-drysorydd y sir 2022/23 Gwenlli Thomas, Godre’r Eifl – Ysgrifennydd Carwyn Edwards, Swyddog Cefnogi’r sir Elin Jones, Swyddog Cefnogi (ar gyfnod mamolaeth) Huw Thomas, Is Lywydd y sir Anwen Bumby, Cadeirydd Pwyllgor Cyllid a Staffio Begw Williams, Dyffryn Madog Esyllt Williams, Dyffryn Madog Marian Puw, Dyffryn Madog Mererid Prys Owen, Llangybi Cian Iolen Rhys, Dyffryn Ogwen Myfanwy Harper, Aelod Anrhydeddus Swyn Owen, Dyffryn Ogwen Iwan Harper, Dyffryn Ogwen Sallie Roberts, Dyffryn Ogwen Dylan Roberts, Llanrwst Huw Roberts, Llanrwst Arthur Williams, Llanrwst Lois Jones, Dyffryn Nantlle Elen Williams, Dyffryn Nantlle Cai Williams, Rowen Elliw Newsham, Rowen Megan Williams, Rowen Heledd Williams, Rowen Caron Hughes, Rowen Cai Hughes, Rowen Alaw Morgan, Caernarfon Non Griffith, Caernarfon Rhodri Jones, Godre’r Eifl Tomos Dobson, Porthdinllaen Beca Dobson, Porthdinllaen Lora Jen, Llangybi 



## 3. **DERBYN COFNODION** : 

Derbyn Cofnodion – 30.09.2022 

Derbyniwyd y cofnodion yn gywir gan Tomos Dobson ac eiliodd Glesni Lewis. 

## 4. **MATERION YN CODI O’R COFNODION** 

Ni chodwyd unrhyw faterion. 

## 5. **GOHEBIAETH** 

Nid oedd unrhyw ohebiaeth 

## 6. **ADRODDIAD CADEIRYDD Y MUDIAD** 

Croesawodd  Gwen  Thomas  bawb  i’r  Pwyllgor  Blynyddol.  Dywedodd  ei  bod  wedi  bod  yn flwyddyn  hynod  o  brysur,  heriol  ond  pleserus  yn  arbennig  yn  ystod  ac  arf  ôl digwyddiadau.  Nododd  Gwen  bod  dau  ddigwyddiad  blynyddol  yn  sefyll  allan  iddi  sef  y Diwrnod  Gwaith  Maes  a’r  Ras  Aredig.  Teimlodd  Gwen  bod  y  ddau  ddigwyddiad  yn  un  a oedd  yn  mynd  a’r  mudiad  yn  ôl  at  ei  gwreiddiau,  sef  amaethyddiaeth.  Eglurodd  mai  eleni oedd  y  tro  cyntaf  iddi  fynychu’r  Ras  Aredig  ac  iddi  fwynhau  yn  llawer  mwy  na’r  disgwyl. Diolchodd  i  Huw  Thomas,  Meillionnydd  a’r  Pwyllgor  Ras  Aredig  am  gynnwys  y  mudiad yn  y  diwrnod  a  rhoi  cyfle  i  aelodau  gystadlu.  Cafodd  Gwen  fwynhad  mawr  yn  gweld sgiliau  ac  ymroddiad  yr  aelodau.  O  ganlyniad  i’r  mwynhad  a  gafodd  yno,  anogodd  yr aelodau  i  fynychu  digwyddiad  blynyddol  CFfI  Eryri  nad  ydynt  wedi’i  fynychu  o’r  blaen eleni. 

Symudodd  Gwen  yn  ei  blaen  i  grynhoi  digwyddiadau’r  a  gynhaliodd  fel  Cadeirydd  eleni. Diolchodd  i  bawb  a  gyfrannodd  yn  ei  gwasanaeth  carolau  rhithiol  a  rannwyd  gyda chartrefi  gofal  yn  y  sir.  Derbyniodd  adborth  cadarnhaol  gan  y  cartrefi  gofal  oll. Cynhaliodd  Gwen  hefyd  noson  gemau  i  dri  chlwb  ar  y  tro  mewn  ymdrech  i  annog clybiau  i  gynnal  mwy  o  ddigwyddiadau  ar  y  cyd.  Anogodd  yr  aelodau  i  geisio  parhau nosweithiau ar y cyd. 

Diolchodd  Gwen  i’r  swyddogion  sydd  wedi  ei  chefnogi  a  chydweithio  gyda  hi  drwy  gydol y  flwyddyn.  Diolchodd  i  Elin  Jones  a  Carwyn  Edwards  y  swyddogion  cefnogi.  Diolchodd i  Elin  Owen  Jones  a  Glesni  Lewis  am  eu  gwaith  diwyd  tu  ôl  i’r  llenni  fel  trysoryddion  y sir, a mynegodd y bydd colled fawr ar eu holau flwyddyn nesaf. 

Cloeodd  Gwen  ei  hadroddiad  drwy  amlygu  bod  y  sir  bellach  yn  ffynnu,  a  bod  100  yn  fwy o  aelodau  ar  ddiwedd  y  flwyddyn  o  gymharu  â  ffigyrau  2021/22.  Anogodd  yr  aelodau  i fanteisio  ar  bob  cyfle  a  ddaw  i’w  rhan  fel  aelodau  er  mwyn  cael  profiadau  bythgofiadwy a sgiliau oes. 

## 7. **ADRODDIAD ARIANNOL Y MUDIAD** 

Cyflwynwyd yr adroddiad canlynol gan Elin Owen Jones, Trysorydd y Sir 2022/23: 

“Ar y 30 o Fehefin eleni, dyma’r cyfanswm a oedd yng nghyfrifon banc y ffederasiwn: Cyfrif Cyfredol Natwest £7,109.53 Cyfrif Clwb 200 Natwest £2,114.00 Cyfrif Cyfredol HSBC £35,532.19 



Cyfrif Cadw HSBC £85,300.00 Cyfrif Hyfforddiant £6,160.99. 

Nid fu symudiadau yn y Cyfrif Cadw na Thripiau Natwest eleni ac felly roedd eu cyfanswm yn £0.00, ac yn ôl dymuniad y pwyllgor gwaith, rydym wedi symud  cyfanswm oedd yng nghyfrif Tripiau HSBC i’r cyfredol felly £0.00 oedd y cyfanswm ar ddiwedd y flwyddyn.  Mae gwerth y ffederasiwn wedi cynyddu o £112,934.29 i £136,216.71 rhwng dechrau a diwedd y flwyddyn ariannol eleni.    Mae’r cynnydd mewn gwerth yn deillio o ddau brif beth.  Y rheswm cyntaf dros hynny ydy’r ffaith i glwb Ddyffryn Madog gynnal chwip o rali yn Llystyn Ganol eleni, ble gwnaethpwyd dros £24,000 o elw.  Mae ein diolch yn mynd i deulu Llystyn, clwb Dyffryn Madog, holl noddwyr y Rali, holl gyfranwyr yr Erwau a phawb oedd yng nghlwm â’r trefnu ‘lenni - roedd hi’n ddiwrnod bythgofiadwy! Yn ail, mae’r Sir yn hynod lwcus o haelioni mudiadau ac awdurdodau.  Hoffwn gyfeirio at y gefnogaeth ydym yn ei gael gan NFU pob blwyddyn a hynny drwy gyfrannu’n hael tuag at ein Rali a’n costau staffio, a thrwy sicrhau fod gennym safle i’n swyddfa heb unrhyw gostau.  Bûm yn lwcus iawn eleni i gael rhannu eu stondin ar faes yr Eisteddfod draw ym Moduan, ac yn ddiolchgar dros ben am y croeso.   Yn ogystal rydym wedi bod yn ffodus i gael nifer o grantiau eleni, cafwyd £1,000 Haf o Hwyl gan Lywodraeth Cymru aeth i ariannu noson BBQ y llynedd a’n galluogi i ni brynu offer BBQ parhaol.  Cafwyd £7,500 gan Gyngor Gwynedd tuag at gostau ein gweithgareddau trwy gydol y flwyddyn. Rydym yn parhau i dderbyn £7,356 gan Lywodraeth Cymru am weithredu trwy’r Gymraeg.  Eto eleni, diolchwn i Gyngor Sir Conwy sydd wedi rhoi £2,500 yn grant i ni. Rydym hefyd yn lwcus ofnadwy o fudiadau fel FUW a Grŵp Cynefin am eu parodrwydd i noddi cystadlaethau drwy gydol y flwyddyn. 

Fel ydych chi’n gweld, mae sefyllfa ariannol y Sir yn sefydlog ar hyn o bryd ac rydym yn werthfawrogol tu hwnt am yr holl gefnogaeth ydyn ni wedi ei gael drwy gydol y flwyddyn. Hoffwn ddiolch yn arbennig eleni i deulu Pritchard, Nant Peris sydd wedi cyfrannu swm sylweddol i’r mudiad er cof annwyl am Meirion.  Cytunwyd efo’r teulu i ddefnyddio’r arian i brynu bwrdd lapio gwlân i’r mudiad.  Diolchwn i Dei Tai Hirion am greu’r bwrdd ar ein cyfer a gafodd ei ddefnyddio yn y Rali eleni. 

Hoffwn dynnu eich sylw at ddau gynllun arall sydd yn helpu’r Sir yn ariannol.  Os ydych chi neu rywun o’ch teulu yn gwerthu ŵyn i’r cwmni Dunbia, mae’r cwmni yn cyd-weithio gyda CFfI Cymru i sicrhau y caiff y mudiad fuddion ariannol os ydy eu haelodau yn gwerthu eu cynnyrch i Dunbia.  Yn ail, os ydych chi’n berson sydd yn gwneud tipyn o siopa ar-lein, gallwch greu cyfrif ar wefan a elwir yn ‘Easy Funding’ sydd yn ymrwymo i roi canran o’ch gwariant chi yn syth i elusen, ac mae CFFI Eryri wedi cofrestru fel elusen ar y wefan hon.  Croeso i chi gysylltu os ydych eisiau mwy o fanylion am hynny. Hoffwn ddiolch i gwmni cyfrifydd Richard Williams a’i gwmni am eu parodrwydd i weinyddu’r cyflogau ar ein rhan eto eleni. 

Diolchwn hefyd i aelodau Cynllun Ffrindiau’r mudiad am eu cefnogaeth eto eleni.  Mae pob aelod yn buddsoddi un ai £100 yn flynyddol neu £8.50 pob mis gan dderbyn amrywiol fuddiannau yn sgîl eu haelodaeth. Un uchelgais sydd gen i fel Trysorydd eleni ydy hyrwyddo’r cynllun hwn a Chlwb 200 y Sir fwyfwy, ac ar hynny hoffwn groesawu unrhyw un o’r newydd ymuno â’r cynlluniau hyn. 

Ers dechrau fy nghyfnod yn Drysorydd Sir nôl yn 2017, mae Glesni Lewis wedi bod wrth fy ochr yn is-drysorydd, ond bellach yn ymddeol o’r rôl eleni.  Diolch am dy holl gefnogaeth ers blynyddoedd Gles, mi fydd chwith ar dy ôl yn y Pwyllgorau Cyllid a Staffio!  Mae’r mudiad wedi bod yn lwcus iawn o gael ethol Catrin Roberts, Hafod y Porth o glwb Ddyffryn Madog yn is-drysorydd eleni, a dwi’n edrych ymlaen yn fawr i gyd-weithio efo hi. 

Gai ddiolch hefyd i Gwen, sydd yn gorffen ei rôl fel Cadeirydd heno am gadw trefn arna i a phawb arall, mae dy ymroddiad diflino di wedi bod yn un i’w edmygu, ac ni allaf ddiolch digon i chdi am y gefnogaeth ydw i wedi’i gael.  Dwi’n edrych ymlaen at flwyddyn arall o Ffermwyr Ifanc dan ofal Sioned, Caernarfon ein Cadeirydd ac Iwan, ’ Dyffryn Ogwen ein Is-gadeirydd - mae r mudiad yn sicr mewn dwylo saff. 



Gai hefyd estyn diolch i’r pwyllgor gwaith ac i Anwen ac aelodau’r is-bwyllgor Cyllid a Staffio am eu holl gymorth eto eleni.    Mae eu gwaith di-flino nhw yn sicrhau parhad llewyrchus i’r mudiad. 

Yn olaf, hoffwn ddiolch i swyddogion cyflogedig y Sir.  I Elin, am ei gwaith tu hwnt o drefnus yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn Ffermwyr Ifanc oedd yn gwneud fy rôl i’n un hawdd.  A diolch i Carwyn sydd wedi camu i’r trothwy fel Swyddog Cefnogi ym mis Ionawr tra bod Elin ar gyfnod mamolaeth.  Mi fydd hi’n rhyfedd iawn heb y galwadau ffôn a’r panics ar ôl fis Hydref.  Diolch am yr holl hwyl dros y misoedd diwethaf Carwyn, ac am yr _ego-boosts_ ydw i wedi’u cael gen ti sydd wedi fy ngadael yn teimlo fel _wizz-kid_ mewn excel.  Paid â bod yn ddiarth! 

Diolch yn fawr. 

## **8. ADRODDIAD SWYDDOG CEFNOGI’R MUDIAD** 

Diolchodd  Carwyn  Edwards  i  bawb  am  fynychu’r  pwyllgor.  Eglurodd  bod  cychwyn  y swydd  hon  yn  newid  byd  iddo  ond  ei  fod  wedi  mwynhau  pob  eiliad,  yn  arbennig  y  gwaith o  drefnu’r  Rali  yn  Llystyn  Ganol.  Pwysleisiodd  na  fyddai  wedi  gallu  cwblhau  gwaith llynedd  heb  help  a  chefnogaeth  Gwen  Thomas,  Cadeirydd  2022/23.  Diolchodd  Carwyn hefyd  i  Elin  Owen  Jones,  Trysorydd  2022/23  am  ei  chefnogaeth  barod.  Diolchodd Carwyn  i’r  aelodau  am  fod  mor  barod  i  gydweithio.  Dymunodd  yn  dda  i  Elin  Jones  a  fydd yn dychwelyd o’i chyfnod mamolaeth cyn y Nadolig 

## **9. ANERCHIAD Y LLYWYDD** 

Agorodd  Geraint  Puw,  Pen  Mount  ei  anerchiad  drwy  fynegi  ei  bod  wedi  bod  yn  fraint cael  bod  yn  lywydd  CFfI  Eryri,  ac  ni  feddyliodd  erioed  y  byddai’n  cael  y  cynnig.  Eglurodd bod  y  mudiad  wedi  bod  yn  rhan  fawr  o’i  fywyd  rhwng  bod  yn  aelod  o  Glwb  Dyffryn Madog  ei  hun  flynyddoedd  yn  ôl,  yna  gweld  ei  blant  yn  ymuno  â’r  clwb.  Dywedodd  ei  fod bellach  yn  arweinydd  y  clwb  ac  wrth  ei  fodd,  a’i  fod  wedi  gwirioni  cael  bod  yn  llywydd  y flwyddyn  yr  oedd  y  clwb  yn  cynnal  y  rali.  Nododd  mai’r  uchafbwyntiau  iddo  eleni  oedd ennill  y  cystadlaethau  tynnu  rhaff  ar  ddiwrnod  y  rali,  cyn  mynd  ymlaen  i  ddod  yn fuddugol  fel  clwb  ar  ddiwedd  y  diwrnod.  Diolchodd  i  Elin  Jones  a  Carwyn  Edwards  am eu  gwaith  fel  Swyddogion  Cefnogi’r  sir.  Diolchodd  i’r  holl  swyddogion  sy’n  gwirfoddoli  ac yn  rhoi  gymaint  o’u  hamser,  yn  arbennig  Gwen  Thomas,  Elin  Owen  Jones,  Glesni  Lewis ac Anwen Bumby. Pwysleisiodd na fyddai yna fudiad heb eu gwaith diflino. 

## **10.  ADRODDIAD PWYLLGOR CYLLID A STAFFIO** 

Cyflwynwyd  yr  adroddiad  canlynol  gan  Anwen  Bumby,  Cadeirydd  y  Pwyllgor  Cyllid  a Staffio 2022/23: 

“Mae’n  bleser  gennyf  gyflwyno  i  chi  adroddiad  o  waith  y  Pwyllgor  Cyllid  a  Staffio  yn ystod  y  flwyddyn  ddiwethaf.  Cyn  cychwyn  ar  fy  adroddiad  hoffwn  gymryd  y  cyfle  i ddiolch  i  Miriam  Williams,  cyn  cadeirydd  y  pwyllgor,  am  ei  gwaith  yn  arwain  y  pwyllgor  a sicrhau fod y mudiad yn parhau yn sefydlog drwy gyfnod anodd cofid a newid personél. Gyda  gweithgareddau’r  mudiad  yn  ôl  i’r  arfer  canolbwyntiodd  y  Pwyllgor  ar  sicrhau  fod sylfaen  ariannol  gadarn  gan  y  mudiad  a  bod  gweithdrefnau  mewn  lle  i  sicrhau  fod  y mudiad  yn  rhedeg  mor  effeithiol  â  phosib.  Buddsoddwyd  mewn  offer  swyddfa  sydd  yn caniatáu  i’n  swyddog  cyswllt  allu  gweithio  yn  hybrid  h.y.  o  adref  neu  yn  y  swyddfa.  Fel  yr ydych  i  gyd  yn  ymwybodol  bu  Elin  ein  Swyddog  Cefnogi  i  ffwrdd  ar  gyfnod  mamolaeth ac  yn  mwynhau  cael  magu  Morus.  Gallaf  gadarnhau  y  bydd  Elin  yn  ail  gychwyn  ar  ei dyletswyddau ar Dachwedd y 6ed. 

Mewn  cyfnod  ble  mae  nifer  o  fudiadau  yn  cael  hi  yn  anodd  recriwtio  staff  newydd,  rydym fel  mudiad  wedi  bod  yn  ffodus  i  allu  penodi  Carwyn  Edwards  yn  Swyddog  Cyswllt  dros 



gyfnod  mamolaeth  Elin.  Gan  fod  Elin  yn  dychwelyd  ym  mis  Tachwedd  bydd  cyfnod cyflogedig  Carwyn  yn  dod  i  ben  ddechrau  Tachwedd.  Diolchwn  i  chdi  Carwyn  am  dy waith a dymunwn yn dda i chdi gyda dy gynlluniau i’r dyfodol. 

Hoffem  gymryd  y  cyfle  i  ddiolch  i’r  Undebau  amaethyddol  a’r  holl  gwmnïau  lleol  sydd  yn cefnogi’r  mudiad  yn  ariannol.  Rydym  yn  gwerthfawrogi  eich  cefnogaeth  a’ch  haelioni. Bu’r  Rali  yn  llwyddiant  mawr  o  ran  gweithgaredd  ond  hefyd  yn  ariannol,  diolch  i  aelodau a  chyfeillion  y  clwb  am  eu  gwaith  yn  sicrhau  fod  y  digwyddiad  yn  llwyddiannus  ymhob ffordd. 

Mae’r  Pwyllgor  wedi  bod  yn  adolygu  polisïau’r  mudiad  dros  y  misoedd  diwethaf  ac  y rydych  eisoes  wedi  dechrau  eu  mabwysiadu,  a  dyma  fydd  ffocws  gwaith  y  Pwyllgor  am y misoedd nesaf, tasg ddiflas ond angenrheidiol. 

Cyn  cloi,  hoffwn  gymryd  y  cyfle  i  ddiolch  i’m  cyd  aelodau  ar  y  pwyllgor  am  eu  cefnogaeth a  hefyd  yn  arbennig  i  swyddogion  sir  am  eu  gwaith  caled,  rydym  fel  mudiad  yn  hynod lwcus  o  gael  swyddogion  cydwybodol  a  gweithgar,  felly  diolch  Gwen,  Sioned,  Elin Goetra  a  Glesni  am  eich  gwaith  sydd  wedi  hwyluso  fy  ngwaith  i  fel  cadeirydd  y  panel. 'Da ni fel mudiad yn hynod falch ohonoch. 

Diolch am wrando a dymuniadau gorau i chi gyd a gobeithio y bydd clybiau Eryri yn cael blwyddyn lwyddiannus. 

## **11.  ADRODDIAD PWYLLGOR RALI 12.  ADRODDIAD PWYLLGOR EISTEDDFOD** 

## **13.  ADRODDIAD PWYLLGOR HYFFORDDIANT** 

Cyflwynwyd adroddiad y Pwyllgor Hyfforddiant gan Gwen Thomas. 

Dywedodd  ei  bod  yn  falch  o  ddweud  bod  y  sir  wedi  cael  trefn  ar  y  Pwyllgor  Hyfforddiant eleni.  Nododd  bod  y  sir  wedi  cynnig  hyfforddiant  codi  wal,  cymorth  cyntaf  a  thynnu  trelar i’r  aelodau.  Cadarnhaodd  bod  amryw  wedi  bod  yn  bresennol  ac  wedi  cael  budd  o’r  tri hyfforddiant.  Cyhoeddodd  y  bydd  y  Pwyllgor  yn  gweithredu  system  geisiadau  o  hyn ymlaen.  Eglurodd  y  bydd  modd  i  aelodau  gyflwyno  cais  i’r  mudiad  ad-dalu  hyd  at  £500 am  gwrs  byr  a  fydd  yn  gwella  eu  cyflogadwyedd.  Dywedodd  eu  bod  yn  y  broses  o  lunio ffurflenni  cais  a  meini  prawf  ar  gyfer  y  system  ar  hyn  o  bryd  a’u  bod  yn  gobeithio  eu cyflwyno  ganol  Tachwedd  2023.  Nododd  Gwen  bod  oddeutu  £6000  ar  ôl  yn  y  gronfa hyfforddiant. 

## **14.  ADRODDIADAU’R CLYBIAU** 

**Caernarfon** 

**Dyffryn Madog Dyffryn Nantlle Dyffryn Ogwen Godre’r Eifl Llangybi Llanrwst Rowen Porthdinllaen Y Rhiw** 

**Ysbyty Ifan** 

**15.  ETHOL SWYDDOGION** 

at 



## **Llywydd y Sir – Huw Thomas, Meillionydd, ardal CFfI Y Rhiw** 

Cynigiodd CFfI Rhiw Huw Meillionydd i fod yn lywydd y mudiad ar gyfer y flwyddyn 2023/24. Pwysleision fod Huw wedi chwarae rhan greiddiol yng ngwaith Pwyllgor Rali Gwythrian 2022. Dywedon fod Huw yn gyn-aelod o Glwb y Rhiw ac yn rhan o bwyllgor Ras Aredig Sarn a’r cylch. Nodon fod Huw pob amser yn barod i helpu’r clwb neu unrhyw ddigwyddiad lleol. Eiliodd CFfI Godre’r Eifl gan nodi y byddai’n fraint ei gael yn lywydd y sir. Tynnon sylw at ei ymroddiad yntau a’i deulu i’r sir ers blynyddoedd, yn arbennig yn ystod cystadlaethau ffensio’r mudiad yn y Ras Aredig flynyddol. 

## **Is-lywydd y sir – Mari Hughes, ardal CFfI Rowen** 

Cynigiodd CFfI Rowen Mari Hughes fel Is-lywydd y sir ar gyfer y flwyddyn 2023/24 oherwydd ei hymroddiad amhrisiadwy i’r clwb fel arweinydd sy’n annog aelodau ac yn sicrhau eu bod yn mwynhau. Eiliodd CFfI Llanrwst gan nodi bod Mari Hughes yn arweinydd hynod weithgar ac yn fwy na theilwng. 

## **Cadeirydd y sir – Sioned Wyn Jones, CFfI Caernarfon** 

Cynigiodd CFfI Caernarfon Sioned Wyn Jones fel Cadeirydd y sir ar gyfer y flwyddyn 2023/24 oherwydd ei phrofiad fel Is-gadeirydd y sir a’i hymroddiad i’r mudiad ers blynyddoedd. Eiliodd CFfI Dyffryn Nantlle gan nodi hefyd bod Sioned yn aelod brwd a gweithgar o’r mudiad ers blynyddoedd. 

## **Is-gadeirydd y sir – Iwan Harper, CFfI Dyffryn Ogwen** 

Cynigiodd CFfI Dyffryn Ogwen Iwan Harper fel Is-gadeirydd y sir ar gyfer y flwyddyn 2023/24gan ei fod yn aelod sydd wastad yn fodlon helpu’r sir ers blynyddoedd lawer. Eiliodd CFfI Llanrwst gan nodi fod Iwan y sir yn ffodus o gael Iwan yn aelod ers blynyddoedd. 

## **Trysorydd ac Is-drysorydd - Elin Jones Owen, CFfI Godre’r Eifl (Trysorydd) a Catrin Roberts, CFfI Dyffryn Madog (Is-drysorydd)** 

Cynigiodd CFfI Godre’r Eifl Elin Jones Owen fel Trysorydd y sir ar gyfer y flwyddyn 2023/24 hyd nes y pennir rhywun newydd i’r swydd oherwydd ei phrofiad gwerthfawr yn y swydd. Cynigiodd CFfI Godre’r Eifl Catrin Roberts, Dyffryn Madog fel Is-drysorydd y sir ar gyfer y flwyddyn 2023/24 oherwydd ei phrofiad o fod yn drysorydd CFfI Dyffryn Madog a’r sgiliau perthnasol sydd ganddi yn rhinwedd ei swydd. Eiliodd CFfI Dyffryn Nantlle y ddwy gan nodi y bydd yn werthfawr i Catrin gael cysgodi Elin gyda’r gobaith y bydd hi’n dymuno ymgymryd â’r swydd Trysorydd yn y dyfodol. 

**16.  CADARNHAU YMDDIRIEDOLWYR Y MUDIAD** 

Cadarnhaodd Sioned Wyn Jones y canlynol fel ymddiriedolwyr y mudiad 

Caernarfon  - Sioned Wyn Jones a Non Griffith Dyffryn Madog – Nel Dafydd ac Efa Jones Dyffryn Ogwen – Iwan Harper a Sallie Roberts Godre’r Eifl – Gwenlli Thomas a Rhodri Jones Llangybi – Siwan Prys Owen a Robin Wyn Pari Llanrwst – Arthur Emyr Williams a Dylan Roberts Porthdinllaen – Beca a Tomos Dobson 

Y Rhiw – Lora Thomas a Sera Griffiths 



Rowen – Elliw Newsham a Heledd Williams 

Ysbyty Ifan – Elenid a Marged Alun 

## **Cadarnhaodd Iwan Harper y swyddogion canlynol** 

Llywydd – Huw Thomas 

Is-lywydd – Mari Hughes 

Cadeirydd – Sioned Wyn Jones 

Is-gadeirydd - Iwan Harper 

Cadeirydd Pwyllgor Hyfforddiant – Gwen Thomas Trysorydd – Elin Owen Jones 

Cadeirydd Pwyllgor Cyllid a Staffio – Anwen Bumby 

Cadeirydd  neu  Gadeiryddion  y  Pwyllgor  Rali  –  heb  gyfarfod 

## **17.  TAL AELODAETH** 

Cynigiodd Elin Owen Jones bod y dal aelodaeth yn parhau yn £25 y pen eto eleni, cyn belled a bod lefi Cymru yn cael ei gymeradwyo yn £17.92 yn ystod AGM CFfI Cymru wythnos nesaf. Nododd Elin Owen Jones bod sefyllfa ariannol y sir yn sefydlog a chynigiodd felly nad oes angen codi’r pris tra bo costau byw mor uchel. 

Eiliodd Glesni Lewis. 

## **18.  CYFLWYNO TLYSAU** 

**Cyflwynwyd y tarianau canlynol i’r clybiau isod:** 

**Tarian Goffa Llinos Owen Jones -** Llangybi 

**Cwpan Barhaol W. J Owen -** Llangybi 

**Tlws Hafod y Llan –** Dyffryn Madog 

**Tlws Hwsom Iau -** Elin Morgan, Caernarfon 

**Tlws stocmon y flwyddyn -–** Caron Hughes, Rowen 

**Cwpan barhaol Bob Parry i’r clwb buddugol yn y rali -** Caernarfon **.** 

**Tlws y flwyddyn i’r clwb sydd wedi cynrychioli eryri fwyaf yng nghystadlaeuthau Cymru –** Dyffryn Madog 

**Tarian Henblas –** Dyffryn Ogwen 

**Tarian Cathrine Rhian –** Dyffryn Madog 

## **19.  CYHOEDDI AELOD HŶN AC AELOD IAU'R FLWYDDYN 2023/24** 

Croeawyd Rhys Richards, Cadeirydd CFfI Cymru i draddodi’r feirniadaeth. Diolchodd i’r holl aelodau a gystadlodd yn y ddwy gystadleuaeth ac am baratoi mor drylwyr. Nododd bod y ceisiadau oll yn dangos gwerth y profiad a’r sgiliau sydd gan yr aelodau i’r sir. Pwysleisiodd y budd sydd i gystadlu yn y gystadleuaeth hon ac anogodd y rhai na fu’n fuddugol i ymgeisio eto flwyddyn nesaf. 

Cyhoeddodd yr enillwyr canlynol: 

Aelod Iau y flwyddyn 2023/24  - Lora Jên, CFfI Llangybi Aelod Hŷn y flwyddyn 2023/24 – Rhodri Jones, CFfI Godre’r Eifl 

Llongyfarchwyd y ddau ohonynt ar eu llwyddiant. 

**20.  UNRHYW FATER ARALL** 

Ni  godwyd  unrhyw  fater  arall **.** 

**21.  DIOLCHIADAU** 

Diolchodd Sioned Wyn Jones i’r Newborough Arms am westesio’r noson. 



Diolchodd i aelodau’r sir am y gwaith y maent wedi’i wneud dros y flwyddyn ddiwethaf. Tynnodd sylw at arolwg a wnaed gan CFfI Cymru a oedd yn dangos bod aelodau yn rhoi 4 awr yr wythnos yr un i’r mudiad ar gyfartaledd. 

Diolchodd i swyddogion sirol 2022/23 am eu cefnogaeth ddiflino. 

Diolchodd i Geraint Puw am ei waith caled fel llywydd. 

Diolchodd i Elin Owen Jones a Glesni Lewis am eu gwaith trylwyr fel Trysoryddion y sir Diolchodd i Elin Jones a Carwyn Edwards am eu gwaith fel Swyddogion Cefnogi'r sir. Diolchodd yn olaf i Gwen Thomas, Cadeirydd 2022/23 am fynd y filltir ychwanegol pob amser ac am sicrhau bod y clwb yn y sefyllfa lewyrchus y mae ynddi ar hyn o bryd. Nododd ei bod yn gadael esgidiau mawr iddi geisio eu llenwi fel Cadeirydd 2023/24. Dymunodd Sioned yn dda i’r holl glybiau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod a phwysleisiodd ei bod wastad ar gael i helpu. 

