OpenCharities

This text was generated using OCR and may contain errors. Check the original PDF to see the document submitted to the regulator.

2022-06-30-accounts

COFNODION PWYLLGOR BLYNYDDOL CFFI ERYRI

Dyddiad:30 Medi 2022

Amser: 19:00

Lleoliad: Newborough Arms, Bontnewydd

----- Start of picture text -----
P
G
----- End of picture text -----

1. YMDDIHEURIADAU:

Elin Jones (Trysorydd), Anwen Bumby, Iwan Harper.

2. PRESENNOL :

Meinir Jones (Cadeirydd y Sir), Gwen Thomas (Is-gadeirydd y Sir), Geraint Roberts (Llywydd y Sir), Elin Jones (Swyddog Cefnogi), Miriam Williams, Non Griffith, Elin Morgan, Alaw Morgan, Gethin Wynne, Lois Elan Jones, Elen Williams, Lora Jen Pritchard, Geraint Puw, Marian Puw, Manon Puw, Huw Arfon, Dylan Roberts, Cai Williams, Wil Seth, Lois Glyn Jones, Myfanwy Harper, Sallie Roberts, Gethin Harper, Elenid Alun, Ffion Ellis, Erin Evans, Mairwen Davies, Glyn Owen, Hafwen Owen, Sion Arfon, Menna Williams, Mererid Owen, Sioned Wyn Jones, Mari Jones, Arthur Williams, Gwyn Jones, Glesni Lewis, Robat Thomas, Huw Thomas, Elliw Owen.

3. DERBYN COFNODION :

– Derbyn Cofnodion 24.09.2021:

Derbyniwyd y cofnodion yn gywir gan Non ac eiliodd Miriam.

4. MATERION YN CODI :

Nid oedd unrhyw fater yn codi o'r cofnodion.

5. GOHEBIAETH

Ni ddaeth gohebiaeth i law.

6. ADRODDIAD CADEIRYDD Y MUDIAD – MEINIR OWEN - LLANGYBI

Lle mae dechrau ’dwch? Wel yn wir i chi, dyna beth oedd blwyddyn!!

Yn dilyn blwyddyn a hanner o gyfarfodydd Zoom, roedd yn nefoedd ar y Ddaear cael cyfarfod wyneb yn wyneb unwaith eto am y tro cyntaf yn ystod ein Pwyllgor Blynyddol nôl ym mis Medi llynedd. Braint ac anrhydedd oedd cael fy ethol fel Cadeirydd y Mudiad a hynny yn Sied tŷ ni! Diolch yn fawr am y cyfle. Roeddwn yn gwybod fod gennym fel Swyddogion her a hanner o’n blaenau gan nad oedd Trefnydd bellach wrth y llyw, ac ar y nodyn yna, hoffwn ddiolch o galon i Eleri am ei holl waith di-flino i’r Mudiad dros y blynyddoedd a hefyd i’r ddiweddar annwyl Elin Cae Hetar am ei chefnogaeth hithau yn y Swyddfa.

Fodd bynnag, os na chlywsoch chi am ‘Dream Team’ o’r blaen, wel dyma

‘Dream Team’ i chi!!! ‘Dw i wedi hen golli cyfrif ar y negeseuon roeddem fel Swyddogion yn eu gyrru yn ôl ac ymlaen yn trio cadw’r Mudiad i fynd tra nad oedd aelod o staff wrth y llyw. Ni allaf ddiolch digon i’r Swyddogion am eu gwaith arbennig ac am ddioddef fy holl swnian yn ystod y flwyddyn!

Roedd yn fendith gweld y Clybiau yn ail-ddechrau cyfarfod unwaith eto a phawb yn cymdeithasu drwy ddilyn rheolau’r ‘Normal Newydd’. Rhaid canmol yr Aelodau yn fawr am barchu’r rheolau hyn a chadw atynt. Pleser o’r mwyaf oedd cael mynd o amgylch rhai o’r clybiau yn eu tro i gynnal gemau gwirion. Pwy fuasai’n meddwl fod cymaint o hwyl i gael gyda phegs, peli, pâr o deits a photeli dŵr?? Diolch yn fawr i’r Clybiau am y croeso.

Roedd hi’n fis Hydref mewn dim ac roeddem wedi bod wrthi fel lladd nadroedd yn trefnu a pharatoi ar gyfer yr Eisteddfod sef un o uchafbwyntiau’r flwyddyn i mi. Roedd cyffro mawr y tro hwn gan mai dyma’r cystadlu cyntaf i gael ei gynnal yn dilyn y pandemig. Fodd bynnag, does dim geiriau i ddisgrifio y siom a gefais noswyl cyn yr Eisteddfod pan gefais brawf Cofid positif!! Dyna beth oedd siom a hanner!!! Ond fe aeth yr Eisteddfod ymlaen fel watsh diolch i’r holl Swyddogion a phawb a gamodd i’r bwlch funud olaf. Gwelais fwy ar yr Eisteddfod eleni dros Zoom nad wyf erioed wedi ei wneud o’r blaen! Dyna beth oedd gwledd a hanner o gystadlu safonnol tra wedi lapio fel nionyn mewn plancedi ar y soffa!

Ymlaen â ni wedyn at ddiwrnod y Ffair Aeaf ble cawsom groeso cynnes yn Nhŷ Newydd, Llandegai. Roedd yn hyfryd gweld aelodau gwahanol i griw yr Eisteddfod yn cystadlu y tro hwn a phawb yn frwdfrydig.

O’r diwedd, daeth eto haul ar fryn i Eryri ddiwedd fis Tachwedd pan benodwyd Swyddog Cefnogi newydd ar gyfer y Mudiad sef Elin Jones (Elin Ty’n Simdde i’r rhai ohonoch sydd yn ei hadnabod). Braf iawn oedd croesawu Elin atom a throsglwyddo’r awenau trefnu drosodd.

Bu mis Rhagfyr yn fis prysur iawn yn ein plith ble cafwyd Parti Nadolig yng Nghlwb Golff Caernarfon, noson codi ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl gan DPJ a noson Garolau yn Sied Bryn Mawr. Distaw iawn fu ein hanes ym mis Ionawr ond cafodd y beirniaid wledd a hanner yn ystod ein noson Siarad Cyhoeddus yn Ysgol Syr Hugh Owen yn Chwefror. Roedd cystadlu brwd ac roedd yn hyfryd gweld cymaint yn elwa ar sgiliau oes.

Cyn i ni droi, roedd hi’n fis Mai, sy’n golygu ond un peth – RALI!! Diolch o galon i deulu Gwythrian am y croeso cynnes a hynny ddwy flynedd yn ddiweddarach na’r dyddiad gwreiddiol. Yn wir i chi, roedd yr holl aros yn werth aros amdano gan ei fod yn chwip o ddiwrnod. Roedd gwylio’r aelodau yn mwynhau pob eiliad yn bleser pur.

Braf oedd cael cyfle i fynd o amgylch gweddill y clybiau nad oeddwn wedi ymweld â nhw yn ystod eu Pwyllgorau Blynyddol. Roedd yn wych gweld brwdfrydedd aelodau at y flwyddyn newydd ac yn wir i chi mae’r Mudiad

mewn dwylo diogel.

I ddiweddu fy mlwyddyn fel Cadeirydd, fe es ati i gynnal Taith Feics Noddedig a Gig gan y Welsh Whisperer. Diolch o galon i bawb â ymunodd ac i bawb am eu cefnogaeth. Llwyddom i gasglu dros £1,300 ar gyfer elusennau hynod bwysig sef DPJ, Mind Cymru, Meddwl.org a Samariaid Cymru.

Do wir, fe fu’n flwyddyn wahanol iawn yma yn Eryri ond rwy’n grediniol fod y Mudiad yn dal yr un mor gryf. Yn sicr, mae seibiant o flwyddyn a hanner wedi dangos i ni pa mor bwysig ydy mudiadau fel y Ffermwyr Ifanc. Mudiad sydd yn cynnig mwy o gyfleoedd i aelodau nag unrhyw fudiad arall. Mudiad sydd yn magu hyder unigolion. Mudiad sydd yn meithrin doniau. Mudiad amhrisiadwy.

Hoffwn gymryd y cyfle i ddiolch o galon i holl swyddogion y Clybiau am fod yn amyneddgar dros y flwyddyn ddiwethaf yn enwedig yn ystod y cyfnod ble nad oedd gennym Swyddog Sirol. Yn sicr, roedd pob un ohonoch wedi gwneud ein swyddi ni yn llawer haws. Diolch enfawr i’r Swyddogion Sirol ac i Elin am eu holl waith di-flino.

Fe ddwedais ar y dechrau mai braint ac anrhydedd oedd cael fy ethol yn Gadeirydd y Mudiad yn Sied Tŷ Ni, ond braint ac anrhydedd arall ydy trosglwyddo’r awenau eleni i un o fy ffrindiau gorau sef Gwen. Yn sicr, bydd y Mudiad yn mynd o nerth i nerth yn nwylo medrus Gwen. Pob dymuniad da i ti a’r tîm a fydd wrth y llyw flwyddyn nesaf.

7. ADRODDID ARIANNOL – GLESNI LEWIS (ar ran Elin Jones)

Dwi’n ymddiheuro’n ofnadwy na fedra i fod yno heno. Ar y 30 o Fehefin eleni, dyma’r balansau oedd yng nghyfrifon banc y ffederasiwn:

Ni aeth arian i mewn nac allan o gyfrif Cadw na Thripiau Natwest eleni a felly roedd eu balansau yn £0.00 a gwerth y ffederasiwn yn yn £112,934.29 ar y 30 o Fehefin, 2022. £86,237.70 oedd gwerth y ffederasiwn ar ddiwedd y flwyddyn ariannol blaenorol. Mae’r cynnydd mewn gwerth yn deillio o ddau brif beth. Y cyntaf gan i ni fedru cynnal Rali am y tro cyntaf ers 2019, ac wedi creu cryn elw o’r digwyddiad. Yn ail, nid ydym wedi derbyn anfoneb gan CFfI Cymru am Aelodaeth eto, ond rydym wedi anfonebu clybiau’r Sir amdanynt sydd yn golygu fod gennym oddeutu £9,000 yn barod i fynd at yr anfoneb hwn. Yn dilyn ambell flwyddyn anodd i bawb rydym yn falch fod y ffederasiwn yn ffynnu yn ariannol. Mae hyn wedi bod yn bosib oherwydd

rhoddion gan Gynghorau Cymuned yn ogystal â haelioni sefydliadau megis yr NFU a’r FUW, a rydym yn werthfawrogol tu hwnt o hyn. Hoffwn ddiolch yn arbennig eleni i deulu Bodlondeb sydd wedi cyfrannu swm sylweddol i’r mudiad er cof am Mr Wyn Griffith, Bodlondeb.

Eto eleni, diolchwn i Gyngor Sir Conwy sydd wedi rhoi £2,500 yn grant i ni.

Hoffwn ddiolch i Geraint Roberts, Tyddyn Wilym sef Llywydd ein Sir. Bu iddo greu ymgyrch i godi arian i Apêl Wcraen yn enw’r Sir drwy werthu ei stoc ym Marchnad Llanrwst. Trwy ei haelioni ef a phawb arall wnaeth gyfrannu i’r achos, llwyddwyd i godi dros £1,500 i’r ymgyrch. Diolch yn fawr iawn iddo.

Diolchwn hefyd i aelodau Cynllun Ffrindiau’r mudiad am eu haelioni eto eleni. Mae pob aelod yn buddsoddi unai £100 yn flynyddol neu £8.50 pob mis gan dderbyn amrywiol fuddiannau yn sgîl eu haelodaeth. Mae croeso i unrhyw un o’r newydd ymuno â’r cynllun neu ymuno â Chlwb 200 y Sir ble gellir ennill symiau ariannol drwy gydol y flwyddyn.

Hoffwn dynnu eich sylw at ddau gynllun arall sydd yn helpu’r Sir yn ariannol. Os ydych chi neu rhywun o’ch teulu yn gwerthu wyn i’r cwmni Dunbia, mae’r cwmni yn cyd-weithio gyda CFFI Cymru i sicrhau y caiff y mudiad fuddion ariannol os ydy eu haelodau yn gwerthu eu cynnyrch i Dunbia. Croeso i chi gysylltu os ydych eisiau mwy o fanylion am hynny. Yn ail, os ydych chi’n berson sydd yn gwneud tipyn o siopa ar-lein, gallwch greu cyfrif ar wefan a elwir yn ‘Easy Funding’ sydd yn ymrwymo i roi canran o’ch gwariant chi yn syth i elusen, ac mae CFFI Eryri wedi cofrestru fel elusen ar y wefan hon. Rydym eisoes wedi gwneud ychydig o arian drwy’r cynlluniau bychain hyn a rydym yn ddiolchgar dros ben.

Rydym yn parhau i fod yn gyfrifol am ein cyflogres ein hunain ac hoffwn ddiolch i gwmni cyfrifydd Richard Williams a’i gwmni am eu parodrwydd i weinyddu’r cyflogau ar ein rhan eto eleni.

Hoffwn roi sylw i’r gefnogaeth ydw i’n ei dderbyn drwy gydol y flwyddyn. Gai ddiolch i brif swyddogion y Sir sydd wedi gweithio yn aruthrol o galed dros y blynyddoedd diweddar i sichrau parhad i’r mudiad. Gai hefyd estyn diolch i’r pwyllgor gwaith a’r is-bwyllgor Cyllid a Staffio am eu holl gymorth eto eleni. Mae eu gwaith di-flino nhw yn sicrhau parhad llewyrchus i’r mudiad.

Yn olaf, hoffwn ddiolch i Elin ein Swyddog Cefnogi sydd wedi bod yn gymorth mawr i mi eleni a gwneud fy swydd i fel Trysorydd yn un hawdd.

Diolch yn fawr i bawb, Elin.

8. ADRODDIAD Y SWYDDOG CEFNOGI – ELIN JONES

Mae amser wedi flio ers i mi gychwyn yn y swydd nol yn niwedd Tachwedd flwyddyn dwytha. Dwi wir wedi mwynhau’r dasg o gefnogi i drefnu digwyddiadau’r Mudiad hyd yma, ac er fy mod wedi bod yn aelod yn Glwb Y Rhiw pan yn fengach, ond heb sylweddoli rhywsut faint sydd yn mynd ymlaen o fewn y mudiad.

Mae hi’n wych gweld y profiadau mae’r aelodau yn ei gael, ar brwdfrydedd sydd ganddynt wrth gymryd rhan. Mae hynny yn dod a pleser mawr i mi wrth neud y gwaith, a dwi’n mwynhau fy hun yn iawn hyd yma.

Dwi’n gobeithio fod y mudiad wedi datblygu ychydig ymhellach ers mi gychwyn, wrth i ni drio symyd y rhan fwyaf o bethau ar lein o ran gwaith papur ayyb. Y gobaith yw fod y broses o gysylltu hefo clybiau a’r swyddfa yn haws i bawb, er dwi’n gwbod bod chi gyd sydd ar y grwp WhatsApp swyddogion isio mi gau ngheg weithiau a stopio gyrru gymaint o links!!

Ond gan fod technoleg mor wych dyddiau yma, dwi’n gobeithio ei fodo’n gweithio i bawb.

Rhaid i mi ddiolch i Meinir a Gwen, coeliwch fi mae grwp WhatApp y dair ohonom ni yn waeth, lot gwaeth! Fyswn i heb lwyddo yn y swydd hyd yma hebddyn nhw, mae na gymaint mwy na dachi feddwl i’w ddysgu a dod i’w ddallt o fewn y swydd. Diolch genod!

Diolch hefyd i weddill swyddogion y mudiad sydd wedi bod yna os oes sgini gwestiwn, ac ambell i aelod hefyd sydd wedi helpu fi, da dachi gyd i feddwl fod pawb yn neud y gwaith yn wirfoddol, mae eich ymroddiad chi yn anhygoel!!

Nai ddim mynd ymlaen ac adrodd am bob digwyddiad sydd wedi bod ers mi gychwyn, ac boddi chi mewn ffigyrau ynglyn a’r sir ond braf ydi deud fod niferoedd aelodaeth y sir wedi codi rhyw fymryn ers y flwyddyn 2019 (sef y flwyddyn cyn cofid hitio ni).

Yn amlwg un o’r uchafbwyntiau’r flwyddyn oedd y Rali, mi oeddi’n ddiwrnod gwych draw yn Gwythrian a diolch i chi gyd am y gefnogaeth wrth drefnu, cystadlu neu fynychu, fysai heb fod yn lwyddiant heb yr holl bobl wnaeth droi fyny i fwynhau, ac mi oeddi’n team effort go iawn o ran y trefnu a cynnal!

Mi oeddi hefyd yn braf gweld brwdfrydedd yr aelodau aeth mlaen i gystadlu yn y Sioe Frenhinol lawr yn Llanelwedd nol yn mis Gorffenaf yn y tywydd poeth bendigedig ‘na.

Felly edrych ymlaen am yr Eisteddfod sydd nesa, a gweddill y digwyddiadau sydd wedi eu trefnu ar gyfer yr aelodau.

Ac felly ar y nodyn yna, diolch eto i chi gyd am y croeso cynnes dwi wedi dderbyn gan bawb sydd yn ymwneud a’r mudiad, mai wedi bod yn braf dod i nabod chi gyd, a mae gini dal waith dod i nabod llawer un eto. Diolch.

9. ANERCHIAD Y LLYWYDD – MR GERAINT ROBERTS, LLANRWST

Wel dwi’n siŵr eich bod yn disgwyl chwip o araith gan fy mod wedi cael digon o amser i baratoi ond eich siomi wnâi ma gennai ofn !

Mae’r mudiad wedi bod drwy newidiadau mawr ac mae wedi bod yn gyfnod reit heriol I bob clwb trio dod nol ir normal ar ôl y pandemic.

Cafwyd Eisteddfod llwyddiannus ym Mhorthmadog a diwrnod beirniadu stoc yn y Ffair Aeaf lle ddaeth na griw da I gystadlu – braf gweld pethau yn dechrau dod yn nol I normal eto. Cafwyd Rali llwyddiannus iawn a chroeso arbennig gan deulu Gwythrian a lleoliad gwerth chweil gyda pawb wedi mwynhau yn fawr.

Diolch am yr anrhydedd am gael bod yn Is Lywydd a Llywydd hira mewn hanes y mudiad gan fy mod wedi cael fy ethol ers tair mlynedd yn nol a gobeithio na fydd rhaid I neb guro’r record byth drwy bandemic arall.

Pob lwc ir mudiad a chofiwch fwynhau ‘r cystadlu a’r cymdeithasu -wnewch chi byth ddifaru’r profiadau y cewch chi drwy fudiad y Ffermwyr Ifanc

10 ADRODDIADAU PWYLLGORAU . a. Cyllid a Staffio: Miriam Williams, Cadeirydd Pwyllgor Cyllid a Staffio

Dyma gyflwyno fy adroddiad fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid a Staffio ar gyfer y flwyddyn a fu. Gwerth sôn yn fras beth yn union ydi dyletswyddau’r pwyllgor hwn, ar gyfer yr rheiny ohonoch sydd o bosib ddim mor gyfarwydd â hynny ag o. Yn syml, mae’r pwyllgor hwn yn cynnwys Prif Swyddogion y mudiad ac aelodau ymgynghorol, sef unigolion nad sy’n aelodau o’r mudiad ond sydd fel arfer â chyswllt ag o, megis bod yn gyn-aelod neu yn riant i aelod ac ati. Mae’r Pwyllgor fel arfer yn cwrdd tua phedair gwaith y flwyddyn, neu yn ôl y galw. Ein gwaith ydi trafod materion ariannol, strategol a staffio y sir.

Felly, ar y nodyn hynny, gwerth fyddai sôn beth sydd wedi bod yn digwydd y tu ôl i’r lleni yn ystod y flwyddyn a fu.

Recriwtio Aelod o Staff

Yn yr AGM diwethaf, fe soniais ein bod ni’n cychwyn hysbysebu am yr eildro am aelod o staff – mi fasa Miriam mis Medi 2021 wedi bod yn falch iawn o wybod bod Elin Jones ar y ffordd fel Swyddog Cefnogi. Fe benodwyd Elin ym mis Tachwedd y llynedd ac mae hi wedi setlo mewn i’r rôl yn gyflym tu hwnt gan wneud byd o les i waith y sir. Diolch i ti Elin am dy waith caled, a dymuniadau gorau i ti am y flwyddyn sydd i ddod – edrychwn ymlaen at dy gael di’n nol hefo ni yn fuan. Byddwn yn mynd ati i recriwtio am rywun i weithio cyfnod mamolaeth Elin yn ystod y dyddiau nesaf – mi fyddai’r pwyllgor yn gwerthfawrogi cymorth pawb i rannu’r hysbyseb i bedwar ban byd.

Aelodau Ymgynghorol

Braf oedd croesawu aelodau ymgynghorol newydd i eistedd ar y pwyllgor eleni. Rydym wedi croesawu Sara Lloyd Evans fel Cyfreithwraig Ymgynghorol, ac Emyr Williams ac Elliw Owen fel Aelodau Ymgynghorol. Bydd tymor Glyn Owen a Richard Parry yn dod i ben yn y cyfarfod nesaf, a diolch o galon iddynt am eu gwaith.

Systemau

Rydym wedi gwneud llawer o waith ar ddatblygu a mireinio systemau Adnoddau Dynol dros y flwyddyn ddiwethaf. Rydym bellach yn defnyddio system PeopleHR er mwyn tracio a chofnodi oriau / gwyliau / treuliau. Mae’n gwneud bywyd yn llawer haws i bawb.

Mae croeso i unrhyw un wneud cais i weld cofnodion y Pwyllgor Cyllid a Staffio pe bai gennych ddiddordeb yn ein gwaith – cysylltwch â mi, neu holwch Elin am fy nghyfeiriad ebost.

Diolch i’r holl aelodau am eu cefnogaeth eleni, a diolch i Myfanwy Harper fy rhafglaenydd am ei gwaith hithau, ac i Anwen Bumby, yr Is Gadeirydd am ei chefnogaeth a’i gwaith trylwyr bob amser.

Diolch i Elin Goetre a Glesni am ofalu am gyfrifon ariannol y Mudiad mor drylwyr a phroffesiynol – mae’n waith cymleth ac yn aml yn ddi-ddiolch, felly diolch i chi’ch dwy.

Diolch i Gwen am fod yn Is Gadeirydd cefnogol ac ymarferol i dy Gadeirydd a’th gyd-swyddogion, a phob lwc i ti am y flwyddyn sydd i ddod. Dyna felly adael un bach ar ôl – Meinir. Diolch o galon i ti Meinir am fod yn Gadeirydd mor weithgar ar y sir ac am dy holl ymroddiad dros y flwyddyn a mwy diwethaf. Ches di’n sicr ddim amser hawdd fel Cadeirydd, ond mi wnes di sicrhau bod y mudiad yn mynd o nerth i nerth yn ystod dy gyfnod ac mae’n diolch yn fawr i ti am hynny. Mwynha dy ymddeoliad!

b. Rali: Robat Thomas, Cadeirydd Pwyllgor y Rali

Wedi hir ymaros dros ddwy flynedd, fe gawsom o’r diwedd gynnal Rali Eryri yn Gwythrian ar yr 28ain o Fai. Diolch yn fawr iawn i Deulu Gwythrian a m gael cynnal y rali ac am eu cefnogaeth barhaus. Wedi misoedd o baratoi, braf iawn oedd gweld y cystadlu a’r cyfeillgarwch yn nôl rhwng aelodau’r Mudiad arbennig hwn. Yn sicr, mae’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi amlygu gwerth y mudiad i ni yng nghefn gwlad Eryri. Hoffwn fanteisio ar y cyfle yma i ddiolch i Elin Tŷ Simdde ac i Meinir a Gwen a phawb yn y Mudiad am eu gwaith caled iawn yn ein cefnogi i drefnu diwrnod mor llwyddiannus.

Roedd y gefnogaeth a dderbyniwyd yn anhygoel. Nol yn 2019 oedd hi pan gynhaliwyd y cyfarfod gwreiddiol i drefnu Rali 2020 ac roedd Neuadd Ysgol Botwnnog yn orlawn. Bu i’r gefnogaeth yma barhau ar hyd y daith gyda chyn aelodau, rheini a chwmnïau lleol yn rhoi oriau o’r hamser i’n cefnogi ar y trefnu ac yna stiwardio a’n cefnogi yn y caffi drwy'r dydd. Rydym wirionedd yn gwerthfawrogi.

Y Faenol 1958 – dyna’r tro diwethaf i Glwb y Rhiw ennill y Rali! 64 mlynedd yn ddiweddarach, braf iawn ydi dweud y daeth buddugoliaeth eto!

Pob dymuniad da i Glwb Dyffryn Madog ar y trefnu. Dwi’n siŵr y bydd yn Rali lwyddiannus iawn.

c. Eisteddfod: Dylan Roberts, Llanrwst ar ran Rhodri Sion, Cadeirydd y Pwyllgor

Wedi saib o ddwy flynedd heb Eisteddfod, braf oedd cael cynnal un y llynedd. Roedd pethau’n parhau i fod yn ansicr o safbwynt cyfyngiadau, gyda nifer yr achosion Covid ar gynnydd, ac roedd hyn ychwanegu at y gwaith. Er hynny, pan ddaeth enwau’r cystadleuwyr i law, calonogol iawn oedd gweld cymaint o frwdfrydedd ymysg yr aelodau, a da oedd gweld cymaint o gyfeillion y mudiad yn dod i’n cefnogi ar y diwrnod yn y gynulleidfa.

Hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch i bawb fu’n gweithio mor galed i ni allu cynnal yr Eisteddfod y llynedd. Nid hawdd oedd gwneud hynny dan yr amgylchiadau ar y pryd, felly diolch yn fawr i bob un ohonoch. Dw i’n siŵr bod Elin yn edrych ymlaen at ei ’Steddfod gyntaf yn ei swydd, a phob lwc i bawb ar y cystadlu eto eleni.

ch. Hyfforddiant: Gwen Thomas. Cadeirydd Pwyllgor Hyfforddiant

Nodwyd bod y Pwyllgor yn bwriadu mynd ati i drefnu cyrsiau codi wal sych, cymorth cyntaf a thynnu trelar er mwyn cwrdd â gofynion Magnox gan gyfrannu 50% tuag at gost pob aelod ac yna symud ymlaen i ddatblygu system ble mae aelodau yn cwblhau ffurflen gais ar gyfer derbyn 50% o gyfraniad tuag at gwrs byr sydd am eu cynorthwyo i gael swydd.

11 ADRODDIADAU’R CLYBIAU

.Sioned Wyn Jones ar ran CFFI Caernarfon.

Dilyn seibiant (a hanner!) oherwydd y pandemig, braf ofnadwy oedd gweld aelodau hen a newydd yn dychwelyd i’r clwb ym mis Medi, a phawb yn awyddus am y flwyddyn o’i blaen. Yn unol â’r traddodiad, Helfa Drysor oedd ein noson gyntaf yn ôl fel clwb. Roedd gwaith crafu pen i’r aelodau wrth iddynt gael ei yrru o amgylch cwrs gosodwyd gan y cadeiryddion. Roedd y noson hwn yn un noson ddiddorol ym musg nifer o nosweithiau eraill a threfnwyd gan swyddogion y clwb, gyda nosweithiau yn amrywio o noson mewn Escape Room yn Llandudno i noson ymweliad fferm. Yn sicr fe wnaeth y swyddogion yn siwr fod rhywbeth at ddant pawb yn rhaglen y clwb eleni.

Yn sydyn iawn ar ôl cychwyn yn ddoth y Ffair Aeaf, a braf oedd gweld gwaith caled yr aelodau yn talu ar ei ganfed wrth i’r clwb llwyddo i ddod yn y safle 1af ar ddiwedd y dydd. Ar ol y digwyddiad sirol, aeth sawl aelod ymlaen i gystadlu’n genedlaethol yn Ffair Aeaf y Sioe Frenhinol, a phob un yn gneud yn dda iawn.

Ar ol dathliadau’r nadolig, cychwynnodd yr ail hanner i’r flwyddyn yn ôl gydag nosweithiau clwb yn parhau yn wythnosol. Ond cyn i ni droi, roedd hi’n amser paratoi at y rali. Tynnodd pawb ei bwysau yn y gwaith paratoi a llwyddo i ennill y 4ydd safle wnaethom fel clwb yn rali y Rhiw.

Edrych ymlaen at y flwyddyn sydd i ddod yr ydym erbyn hym, gydag sywddogion newydd yn ei le yn y clwb ar gyfer blwyddyn llwyddiannus eto. Mae’r nosweithiau wythnosol wedi cychwyn yn ôl ac mae brwdfrydedd yr aelodau am y flwyddyn sydd i ddod yn well nag y fuodd o erioed.

Fel clwb, hoffem estyn ein gwerthfawrogiad i bawb a fu’n ein cynorthwyo a’n hyfforddi yn ystod y flwyddyn. Hoffem ddiolch i Elin am ei gwaith diflino, ond hefyd, hoffem ddiolch i’r swyddogion Sirol am ei gwaith angenrheidiol a ddifai yn cadw’r mudiad i fynd yn ystod cyfnod y pandemig. Hoffwn innau fel Cadeiryddes CFfI Caernarfon ddiolch i’r aelodau am ei parodrwydd i roi cynnig ar bethau newydd ac i ddysgu. Mae ei agwedd tuag at yr CFfI yn bendant yn gwneud ein gwaith fel swyddogion clwb yn waith hawdd a gwobruol iawn.

Manon Puw ar ran CFFI Dyffryn Madog.

Braf iawn oedd gweld y Clwb yn ail ddechrau eleni ar ôl dwy flynedd ddiflas. Mae’n anodd credu bod tair mlynedd wedi mynd heibio ers Rali lwyddiannus Ysbyty Ifan. Roedd hi’n braf iawn gweld wynebau newydd yn y Clwb yn ogystal â rhai cyfarwydd. Gyda thristwch y clywsom am benderfyniad Mair Parri, Gwindy i ymddeol fel arweinydd y Clwb wedi blynyddoedd o wasanaeth a chefnogaeth, mae colled wedi bod ar ei ôl. Llongyfarchiadau i Dafydd Martin Williams ar gael ei ethol yn gyd arweinydd, diolch am gamu i’r bwlch. Pob lwc i Elin hefyd yn ei rôl newydd fel Swyddog Cefnogi’r Sir.

Cafwyd noson hwyliog iawn i ddechrau’r tymor yn Fferm Llwyn Mafon Isaf gyda Slip and Slide a barbeciw blasus i ddilyn. Wedi hynny cawsom lawer o nosweithiau diddorol fel teithiau fferm, gemau, cwis, noson ffilm a tecawe, bingo a choginio. Ymysg y gweithgareddau, mae noson ddringo yng Nghaernarfon yn sefyll allan. Uchafbwynt arall oedd ymuno gyda Chlwb Llangybi lle cafwyd noson ClocsFit.

Bu llwyddiant yn yr Eisteddfod eleni. Enillodd Dyffryn Madog Darian Tudur Owen i’r Parti Deulais a chipio’r wobr am yr eitem orau yn yr Adran Gerdd. Enillodd Erin Gwpan Griff Roberts, Porthdinllaen am yr eitem orau yn yr Adran Lefaru. Aeth 5 eitem buddugol o’r Clwb ymlaen i gynrychioli Cymru. Llongyfarchiadau i Erin am dderbyn yr ail wobr yn y Monolog. Diolch yn fawr i Gwenan Dwyfor Roberts am eu hyfforddi a Rhys Glyn am gyfeilio.

Bu rhai aelodau yn cystadlu yn y Ffair Aeaf yn Nhŷ Newydd a braf oedd gweld aelodau ifanc yn mentro.

Mentrodd rhai ar y siarad cyhoeddus hefyd a llongyfarchiadau i Anna Pugh ar gael ei dewis i dîm siarad cyhoeddus Eryri.

Hoffwn ddiolch i’r holl aelodau a swyddogion am eu hymroddiad i’r Clwb.

Lois Elan Jones ar ran CFFI Dyffryn Nantlle .

Braf ydi bod yng nghwmni swyddogion ac aelodau a ffrindiau’r sir heno, llawer brafiach na’r tywydd gawson ni heddiw.

Awn ni’n nôl i fis Medi dwytha’ i gychwyn. Croesawu aelodau’n ôl gyda noson o gemau i ddod i ‘nabod eu gilydd a chofio pwy oedd pwy ar ôl gymaint o amser ar wahan. Yn dilyn y noson agoriadol mi gawson ni ystod eang o nosweithiau clwb, megis noson Taskmaster, ymweliad i Menai Jerseys gyda Chlwb Caernarfon a noson chwaraeon ym Mhlas Silyn. Daeth llwyddiant gyda’r Eisteddfod ar y 23ain o Hydref i un o’n haelodau wrth iddi gipio’r gadair, llongyfarchiadau mawr Elan Mair. Gorffennodd y cystadlu a daeth y clwb yn 3ydd. Mae’r clwb hefyd yn falch iawn o Leisa a fuodd yn cynrychioli’r sir yn Eisteddfod Cymru ym mis Tachwedd gan gipio’r wobr gyntaf yn yr unawd dan 16 ac ail yn yr unawd alaw werin.

Mae’r holl gystadlu ‘ma yn waith caled, ac felly ffarwelion ni gyda 2021 wrth ddathlu ein llwyddiannau gyda gem o AirSoft a phitsa yn Crasu yn y parti Nadolig.

Ymlaen a ni i 2022 a gyda blwyddyn newydd daeth mwy o nosweithiau di-ri gan gynnwys noson Sion a Sian, ymweld a Thy’n Llan a Coffi Poblado. Gyda blwyddyn newydd death newid i’n clwb hefyd, bu Gwen i roi’r gorau i fod yn gadeirydd ar ôl sawl blwyddyn o weithio’n ddiflino – a hoffwn gymryd y cyfle yma i ddiolch iddi unwaith eto am yr holl waith. Gyda dim cadeirydd swyddogol i gymryd ei lle, bu i’r swyddogion lenwi y twll, a hoffwn ddiolch yn fan hyn i Gwen ac i Elin am ateb yr holl gwestiynna twp gen i, ac yn parhau i wneud hyd heddiw.

Nid yw’n ddrwg o beth bod ganddom ambell I aelod siaradus pan mae’n dod i’r gystadleuaeth Siarad Cyhoeddus, llongyfarchiadau i’r tim dan 14 am ddod yn ail, ac i’r tim dan 16 am ddod yn ail hefyd. Bu Anni a Lucy yn cynrychioli’r sir yng nghystadleuaeth Siarad Cyhoeddus Cymru.

Gyda ‘chydig o nosweithiau clwb ar ôl cyn ymarferion y rali, croesawom ni ffotograffydd lleol atom, noson gyda sefydliad y DPJ ac trafod y syniad o Hwb Bwyd ym Mhenygroes gyda’r Orsaf.

A gyda hynny, roedd hi’n Fis Mai. Gyda phrysurdeb y rali yn cicio off roedd hi’n syth i fewn i ymarferion canu a dawnsio, peintio, coginio, gwneud gwisgoedd a phob dim yn y canol. Chwip o rali oedd hi hefyd felly diolch i glwb y Rhiw am ei chynnal a’i wneud yn un mor dda. Daeth y clwb yn wythfed ar y diwedd y cystadlu.

Bu’r criw canu i lawr yn y Sioe Frenhinol yn cystadlu yng nghanol y gwres

mawr. Diolch i glwb Llangybi am roi menthyg gwisgoedd i ni ddefnyddio – er i’n aelodau bron iawn feddalu ynddyn nhw.

Yn y pwyllgor blynyddol ar yr 8fed o Fehefin, fe penodwyd fi ac Elen yn gadeiryddion y clwb a ‘so far so good’ fel maent yn ddweud. Fe gymron ni fantais ar y grant haf o hwyl gan Llywodraeth Cymru i gynnal ein noson agoriadol ar fferm Lleuar yn Llanllyfni gan gynnal gem o rownderi a barbeciw. Hyd yn hyn mae tua pymtheg o aelodau newydd wedi cychwyn gyda’r clwb ac felly ‘da ni’n edrych ymlaen am beth sydd gen y flwyddyn nesa’ i’w gynnig i’n clwb ni.

Hoffwn orffen yr adroddiad drwy ddiolch a dymuno pob lwc i’r holl swyddogion sy’n cael ei ethol heno, a dwi’n siwr erbyn diwedd y flwyddyn mi fyddwch chi ‘di cael llond bol o weld fy enw i’n poppio fyny ar eich ffôn yn gofyn mwy o gwestiyna twp!

Diolch yn fawr

Sallie Roberts ar ran CFFI Dyffryn Ogwen.

Dechreuodd y clwb nol ym mis Medi 2021 ar ôl be oedd yn teimlo fel amser maith ers cynnal noson. Gyda’r hen griw yn ôl ac ambell i wyneb newydd. Cafwyd helfa drysor i ddechrau a orffennodd yn Ty Newydd, Llandegai am barbeciw.

Yn ystod y flwyddyn cynhaliwyd nifer o nosweithiau difyr yn cynnwys gemau gwirion , ymweld â Fferm Menai Jerseys, noson ffilm a Elen o Sefydliad DPJ.

Mwynhaodd yr aelodau gystadlu yn y Ffair Aeaf, Siarad Cyhoeddus, Barnu a’r Rali. Llongyfarchiadau i’r rhai gafodd lwyddiant a diolch iddynt am fynd i gynrychioli’r Sir yng Nghymru.

Ar ôl prysurdeb y flwyddyn buom ddigon ffodus i westeio ymwelydd tramor – Peter o Ogledd Iwerddon yn ystod mis Gorffennaf. Bu’n aros gyda teulu Griffith yn Bethesda a cafwyd ychydig o ddyddiau da yn ei gwmni. Ymwelwyd a ffermydd lleol, Sir Fôn a Sarn. Bu hefyd yn cerdded mynydd gyda rhai o’r aelodau. Diolch yn fawr iawn i deulu Griffith am adael i Peter aros efo nhw ag i Awel, Betsan, Meilir a Sallie am fod yn gyfrifol amdano.

Yn olaf, hoffaf ar ran Clwb Dyffryn Ogwen ddiolch i bawb sydd wedi helpu’r clwb yn ystod y flwyddyn hon. Diolch mawr i’r Arweinyddion – Cari a Geraint am gadw trefn arnom. Diolch arbennig hefyd i swyddogion a staff sirol am eu gwaith caled drwy’r flwyddyn.

Bob lwc i bawb am y flwyddyn nesa.

Diolch yn fawr iawn.

Miriam Williams ar ran CFFI Godre’r Eifl.

Dyma ni ar drothwy blwyddyn brysur arall i aelodau Clwb Godre’r Eifl. Blwyddyn o gymdeithasu, cystadlu a digonedd o hwyl.

Cyn cychwyn edrych yn ôl ar y flwyddyn ddiwethaf, hoffem diolch i Ffermwyr Ifanc Eryri am gynnal digwyddiadau rhithiol yn ystod y clo mawr. Cawsom Eisteddfod a Rali rithiol, cyfres o sgyrsiau addysgiadol dros Zoom, ac ni allwn chwaith anghofio am y sialens toilet roll ! Yn sicr fe wnaeth y digwyddiadau hynny godi ein calonnau yn ystod cyfnod heriol iawn.

Daeth Clwb Godre’r Eifl ynghyd am y tro cyntaf ers Clo Mawr Mawrth 2020 ym mis Medi 2021, a hynny mewn parti yn fferm Tanrallt, Efailnewydd. Daeth aelodau newydd, presennol yn ogystal â chyn-aelodau ynghyd i ddiolch yn fawr i Ann a Gwyndaf am dros ddeng mlynedd o wasanaeth fel arweinwyr Clwb Godre’r Eifl. Mwynhasom wledd fendigedig wedi’i pharatoi gan Caffi Ni, Nefyn ac roedd Rhodri ein Is-gadeirydd wedi trefnu gemau hwyliog i ddiddanu pawb. Hoffem gymryd y cyfle hwn i ddiolch yn fawr unwaith eto i Ann a Gwyndaf am eu gwaith diflino a’u hymroddiad dros yr holl flynyddoedd. Yn sicr, mae’r flwyddyn gyntaf hon o nosweithiau clwb heb eu harweiniad a’u cwmni wedi teimlo yn chwithig iawn ar brydiau.

Mor braf oedd plethu’r hyn oedden ni wedi ei ddysgu yn y cyfnod clo i mewn i’r flwyddyn ddiwethaf drwy gynnal digwyddiadau wythnosol. Roedd llawer o’r digwyddiadau wyneb yn wyneb megis helfa drysor ceir ac ymweliad i Siop Fferm Abersoch, ac eraill yn rhithiol, fel cwis doniol iawn yng nghwmni Dewi pws a’i wraig, Rhiannon.

Fel pob blwyddyn arall, mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn llawn o gystadlu brwd. Diolch yn fawr iawn i bawb sy’n dod atom yn wirfoddol i’n hyfforddi ar gyfer cystadlaethau’r flwyddyn gan gynnwys Enid Evans, Arwyn, Rhian ac Elen gyda’r Eisteddfod heb anghofio Dewi Tŷ Corniog gyda’r barnu a’r Rali. Hoffwn hefyd ddiolch i rieni a theuluoedd yr aelodau am helpu i feddwl am syniadau ar gyfer cystadlaethau ac am ddanfon pawb i’r holl ymarferion!

Ond yn fwy na hynny, mae’r diolch mwyaf yn mynd i’r aelodau gweithgar sydd wedi serenu dros y flwyddyn ddiwethaf! Er fod aelodaeth y clwb wedi lleihau yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r aelodau wedi bod yn llwyddiannus ym mhob cystadleuaeth sirol eleni. Daeth sawl tarian i ofal y clwb am y flwyddyn gan gynnwys rhai am ddod yn ail yn yr Eisteddfod ac am waith celf a chrefft yn y Rali. Rydym hefyd yn falch iawn o dderbyn Tlws Brwdfrydedd y Sir eleni am y clwb oedd wedi casglu’r mwyaf o farciau mewn cyfartaledd gyda nifer yr aelodau. Diolch yn fawr iawn i’r holl aelodau, a llongyfarchiadau!

Hoffai’r clwb hefyd longyfarch pawb a fu’n cystadlu dros y flwyddyn ac yn enwedig i glwb Llangybi am fod yn fuddugol yn yr Eisteddfod, ac i glwb Y

Rhiw am fod yn llwyddiannus yn eu Rali llewyrchus dros ben!

Yn ystod y flwyddyn, bu i’r clwb godi arian ar gyfer elusennau pwysig iawn: The DPJ Foundation, Awyr Las ac Tir Dewi. Mae hyn yn dilyn penderfyniad Meinir, Cadeirydd y Sir i god arian i Mind a DPJ Foundation fel rhan o’i her. Wrth gwrs, roedd yr aelodau a thrigolion yr ardal yn awyddus iawn i gefnogi’r elusennau hyn yn dilyn sawl trychineb lleol, ac rydym dal i gofio am y teuluoedd hynny heddiw.

Daeth Clybiau Porthdinllaen, Llangybi a ninnau at ein gilydd er mwyn cynnal taith tractors er budd yr elusennau hyn. Llwyddom i godi £3750.00 i’w rannu’n gyfartal rhwng y tri elusen. Unwaith yn rhagor, hoffwn ddiolch i’r gymuned gyfan am ddod i’n cefnogi – y 110 dreifar tractor, yr holl passengers, pawb ddaeth i gefnogi ar y dechrau ac i bawb oedd wedi ymgynnull ar hyd y daith i weld y tractors yn mynd heibio. Ni fyddai’r diwrnod wedi bod yn lwyddiant oni bai am garedigrwydd Haydn a’i staff yn Wynnstay, Ela a’i thim yn Oinc Oink, Glyn Bryn Mawr am ei gymorth, Arwel Gilfach am ei gynghor ac Enlli, Gwen a Huw am dynnu lluniau gwerthfawr. Diolch i’n noddwyr, ac i pawb oedd wedi dod allan ar ddiwrnod poeth ym mis mai ar gyfer tair elusen hynod arwrol.

Teimla’r clwb fod gefnogaeth Cyngor Gwynedd wedi bod yn allweddol ar gyfer ail-gychwyn cyfarfod yn llwyddiannus. Dros y flwyddyn diwethaf rydym wedi gallu mynd i fowlio yn Glasfryn a chael pryd o fwyd yno ac hefyd mynd i Bounce Below gyda chinio dydd Sul yn Grapes Maentwrog (ar y ffordd adra) fel rhan o’u grant Gaeaf Llawn Lles a Haf o Hwyl. Rydym yn hynod o ddiolchgar i’r Cyngor a’r Ffederasiwn am £500 ar ddechrau’r flwyddyn hon eto. Rydym wedi llwyddo i ddenu aelodau newydd drwy gynnal noson gemau a pitsa, ac hefyd wedi prynu esgidiau addas ar gyfer y gystadleuaeth tynnu rhaff gyda’r arian yma. Diolch yn fawr iawn iddyn nhw!

Hoffem fel swyddogion longyfarch Elin am ei gwaith caled a’i chefnogaeth gwerthfawr fel Swyddog Cefnogol y sir. Ni allwn chwaith gloi ein hadroddiad heb ddiolch o galon i gyn-drefnydd y sir, Eleri a’i hysgrifenyddes, y diweddar Elin, am flynyddoedd o wasanaeth amhrisiadwy i’r mudiad.

Dymuniadau gorau am y flwyddyn nesaf, mae hi’n siwr o fod yn un cofiadwy arall!

Lora Jen Pritchard ar ran CFFI Llangybi.

Ar ôl bwlch o ddwy flynedd, roedd y cyffro o ddod nôl i'r drefn yn dew. Fis Medi, 2021, oedd fy mlwyddyn gyntaf i fel aelod yng Nghlwb Llangybi, ac am chwip o flwyddyn oedd hi!

O ymweld â Fferm Crugeran, i ddringo yng Nghanolfan Beacon, cafwyd amrywiaeth o nosweithiau yng nghalendr blynyddol y clwb. Mae Clwb Llangybi yn gwerthfawrogi amser ac ymdrech pob ymwelydd, teulu a chwmni

a gytunodd i gynnal noson â ni. Rydym yn lwcus iawn o barodrwydd busnesau a thalentau lleol i rannu eu straeon a'u profiadau.

Buan iawn y daeth mis Hydref, a'r Eisteddfod yn nesáu. Wedi'r ymarferion ddarfod, balch iawn oedd cael dod ar darian yn ei hôl i Gapel Pencae. Fis Tachwedd, aeth criw ohonom i lawr i Bont Rhyd Fendigaid i gystadlu ar ran y Sir, ac am deimlad oedd cael cynrychioli Llangybi ar lwyfan Cymru am y tro cyntaf!

Drwy gydol y flwyddyn bu i aelodau Llangybi gystadlu mewn llu o gystadlaethau. O farnu yn y Ffair Aeaf, i farnu ar Fferm Nanhoron cyn y Rali. Noson bwysig yng nghalendr y clwb eleni oedd y gystadleuaeth Siarad Cyhoeddus. Gyda Cynwal yn dwyn teitl Aelod Iau y Flwyddyn, a sawl aelod o Langybi yn ennill ac yn mynd ymlaen i gystadlu yn Llanelwedd, roedd y digwyddiad hwnnw yn un i'w drysori eleni. Hefyd bu i dri aelod ifanc o Langybi ddod yn drydydd yng nghystadleuaeth Ffensio y Ras Aredig. Rydan ni'n teimlo'n hynod o lwcus o gael y fath amrywiaeth o gyfleoedd ar hyd y flwyddyn, ac yn aelodau balch o Ffederasiwn Eryri o'u hachos.

Rhywbeth a fu'n sioc mawr i ni fel clwb eleni, oedd dod yn ail yn yr Rali. Fel clwb sydd ddim yn hanesyddol gryf yng nghystadlaethau'r Rali, roedd hyn yn destament fod gwaith caled a brwdfrydedd aelodau yn talu ar ei ganfed. Diolch i Glwb y Rhiw am gynnal diwrnod i'w drysori.

A thra'n sôn am drysor, Cadeirydd y Sir eleni oedd Meinir Bryn Mawr. Un o'r aelodau mwyaf triw a gweithgar sy'n bod. Rydym mor eithriadol o falch ohonot ti Meinir, ac yn gobeithio fod gweddill y Sir wedi cydnabod dy gyfraniad amhrisiadwy di dros y flwyddyn diwethaf.

Amhosib yw enwi pob digwyddiad y Ffermwyr Ifanc ers Medi 2021. Ond does dim amheuaeth fod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un o'r rhai mwyaf llwyddiannus a chofiadwy i Glwb Llangybi ers talwm iawn.

Ar ran holl aelodau Clwb Ffermwyr Ifanc Llangybi, hoffwn ddiolch yn ddiffuant i Elin, Gwen a Meinir sydd wedi gweithio'n ddi-flino tu ôl i'r llenni i sicrhau blwyddyn brysur, diddorol a chyffrous i holl aelodau Eryri. Ac edrychwn ymlaen at y flwyddyn brysur sydd o'n blaenau.

Dylan Roberts ar ran CFFI Llanrwst.

Braf oedd sôn am gyfarfod eto ym mis Medi 2021 gan ddechrau’r flwyddyn gyda barbeciw. Nid oedd yn gychwyn delfrydol gan nad oedd llawer o’r aelodau iau yno oherwydd eu bod yn gorfod hunanynysu! Er hynny, roedd niferoedd da wedi bod yn dod i’r clwb wrth i ni gyfarfod bob pythefnos i ddechrau ac yna yn wythnosol. Er na wnaethom allu cynnal parti Nadolig eleni oherwydd y sefyllfa Covid, roed parti Pasg i wneud iawn am hynny!

Rydym wedi bod yn brysur yn cystadlu eleni hefyd. Bu’r clwb yn llwyddiannus iawn yn y Ffair Aeaf sirol, lle’r oedd sawl aelod yn 1af, 2il a 3ydd, ac wedyn

ar lefel Cymru yn y Ffair Aeaf yn Llanelwedd, lle cafodd Arthur a Robin, Tyddyn Du, 1af am farnu gwartheg cigyddion. Cafwyd llwyddiant yn y Siarad Cyhoeddus, gydag un tîm dan 16 yn fuddugol a’r tîm dan 28 yn 2il. Roedd cynrychiolaeth dda yn mynd ymlaen i gystadleuaeth Cymru hefyd. Llongyfarchiadau i bawb! Roedd criw gweithgar hefyd wedi bod yn paratoi at y Rali yng Ngwythrian, a thalodd hynny i’r clwb wrth inni gael 3ydd.

Mae criw addawol wedi dod ynghyd yn barod at eleni mewn noson groesawu ac rydym yn edrych ymlaen at flwyddyn brysur arall.

Gethin Wynne ar ran CFFI Rowen.

Wel ella ni gyd cytuno mar flwyddyn diwethaf wedi hedfan !! A braf oedd cael y ffermwyr ifanc yn dol ar ôl gyfnod pryderus yn ysgil covid .

Gafodd ni noson ysgafn croesawu aelodau yn ty Gwyn noson Hynod o llwyddiannus dros Ben gyda ein aeloda wedi dyblu !!

Mae’r clwb wedi cystadlu dipyn o weithgareddau y sir megis yr eisteddfod y ffair aeaf , barnu stoc ac yr rali i enwi rhai , a rhai or clwb d bod yn cystadlu yn y ffair aeaf yn Llanelwedd , a rhai wedi bod lawr yn y sioe frenhinol hefyd yn cystadlu.

Mae hi wedi bod yn bleser i cael enwau i mewn i cystadlaethau sir , gan fod pawb yn barod i rhoi enwau i mewn sydd yn neud gwaith yr aelodau hun yn clwb dipyn haws , ond ma ne ddiolch mawr yn mYnd i Mari sydd wedi bod yma i barod ein helpu ni hefo Yr eisteddfod helpu hefo y diwrnod oedd y clwb yn gwneud bwyd yn open gardens Rowen ac ein helpu hefo cystadlaethau rali , hefyd ma ne ddiolch mawr yn mynd i Ieu hefo tynnu rhaff gan rhoi eu amser 2-3 noson yr wythnos i hyfforddi ac i criw dyffryn Ogwen aeth ymuno a ni i greu tim tynnu rhaf hun.

Mae angen llongyfarch clwb y rhiw am gynnal chwip o rali Mae na ddiolch mawr yn mynd ir rhieni a ffrindiau y sydd wedi bod yn helpu hefo y clwb.

Mae yna ddiolch yn mynd i Meinir a Gwen ar swyddogion y sir sydd wedi bod yn rhedeg y sir am gyfnod heb trefnydd neu swyddog cefnogi sir .

Ac yn olaf Diolch i Elin ein swyddog cefnogi sydd wedi bod mor barod i helpu bob amser Diolch

Robat Thomas ar ran CFFI Y Rhiw.

Cynhaliwyd y noson agoriadol yn Glampio Coed, Rhoshirwaun. Braf iawn oedd cael ymgynnull eto wedi’r fath amser a braf iawn hefyd croesawu wynebau newydd. Cafwyd noson hwyliog dros ben a pizzas bendigedig!

Cafwyd nosweithiau difyr o Fedi dan y Nadolig gan gynnwys noson ddifyr yng nghwmni Euros Hughes yn cynnal helfa drysor drwy fap. Cawson hefyd noson gystadleuol yn Bowlio 10 Glasfryn ac yna noson yng nghwmni’r arwerthwr

Huw Myfyr. Roedd pawb wedi mwynhau cael cyfle i brisio ond efallai y byddai’n well gadael y prisio i Huw! Braf iawn oedd cael croesawu Mathew Penllech Bach atom i gynnal sgwrs ddifyr am y diwydiant godro a’i fenter newydd – Garej Ni, Sarn. Fe wnaeth Lois gynnal noson ddifyr i n hefyd eto gwelwyd ysbryd cystadleuol iawn yr aelodau.

O fis Ionawr i Fawrth cafwyd eto nosweithiau difyr. Gwelwyd ysbryd cystadleuol eto mewn noson hwyliog dros ben a gynhaliwyd gan Meinir, Cadeirydd y Sir. Buom yn ffodus hefyd i fanteisio ar nawdd Gaeaf Llawn Lles drwy gael noson yn Beacon Climbing yng Nghaernarfon. Roedd pawb wedi mwynhau yn arw gyda rhai wedi wynebu eu hofnau. Yn sicr, uchafbwynt arall oedd noson yng nghwmni Lowri o’r elusen DPJ yn codi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl. Cafwyd noson ddifyr iawn yn Siop Fferm Abersoch gyda Sion yn dysgu am fenter lwyddiannus. Nosweithiau difyr eraill oedd dysgu am wenynod gan John Bwlch Ffordd ac ail ymweld a Colin Cae Hen i weld Cwch Enlli wedi ei chwblhau.

O hynny ymlaen, ymarfer a pharatoi at y Rali fu’r Clwb.

Diolch yn fawr i Glesni Talsarn am ein harwain dros y flwyddyn ddiwethaf. Rydym yn hynod ddiolchgar iddi am ein cefnogi a’r ymroddiad i’w clwb a'r aelodau.

Elenid Alun ar ran CFFI Ysbyty Ifan.

Er mwyn dechrau dod nol i rhyw fath o ‘swing’ cawsom bwyllgor blynyddol ym Mis Medi, ac ethol swyddogion newydd i’r clwb. Penderfynwyd cynnal clwb bob pythefnos am y tro er mwyn ceisio dod nôl i arferiad a denu aelodau newydd. Dechreuwyd y flwyddyn yn agos at adref ar fferm Pennant, Ysbyty Ifan. Pawb gyda’i frwsh paent yn ei law ar gyfer noson fach hwyliog o beintio giatiau ar gyfer Sioe Gwn Ysbyty Ifan. Cawsom dêc awê bach i groesawu pawb yn ôl i’r clwb – yn aelodau hen a newydd . Noson hwyliog arall mae pawb yn ei mwynhau yw noson Helfa Drysor. Diolch yn fawr iawn i Sioned Pennant am drefnu yr helfa i ni eleni. Er fod yna ambell gar wedi mynd y ffordd anghywir ac heb ddarllen y cyfarwyddiadau yn iawn, braf iawn oedd cael diweddu y noson yn saff yn y neuadd a chael pitsa blasus gan Alun Tan Lan i lenwi’n boliau.

Daeth yn gyfnod dechrau ymarfer ar gyfer y Steddfod nesa, a chyfle i ganu o’r diwedd wrth baratoi i gystadlu ym Mhorthmadog. Llongyfarchiadau mawr i Llangybi am ennill yr Eisteddfod eleni.

Braf hefyd oedd cael ail gydio yn y barnu ar gyfer y ffair Aeaf a chael cyfle am drip i Lanelwedd i farnu carcas. Diolch i Hefin Bryn Ddraenen a Guto Carreg y Fran am bob cymorth gyda’r paratoadau.

Un o uchafbwyntiau’r flwyddyn yw cael cystadlu yn y Siarad Cyhoeddus yng Nghaernarfon. Diolch o galon i Mari Carreg Y Fran am ein helpu unwaith eto

eleni. Braf iawn oedd cael llwyddiant gyda’r ddau dîm siarad cyhoeddus a llongyfarchiadau i bawb aeth ymlaen i Lanelwedd i gystadlu.

Cawsom noson ddiddorol iawn ddechrau Ionawr yng nghwmni Trefor, Ceir Cymru yn garej Glasfryn, a noson gan elusen DPJ yn Neuadd Sbyty yn hwyrach yn y tymor. Ymhlith gweddill gweithgareddau’r tymor roedd parti Nadolig hwyr yn Surf Snowdonia, noson ysgafn o chwarae gemau bwrdd ac yfed siocled poeth, a noson o goginio a mwynhau crempogau blasus iawn! Croesawyd Meinir, Cadeirydd y Sir i’r clwb a chafwyd noson llawn hwyl a gemau gwirion. Yn ddiweddar cawsom wahoddiad i ymuno gyda Clwb Uwchaled a Chwmtirmynach yn Ysgol Cerrig y drudion, a chael noson hwyliog iawn yno yng nghwmni Sian Pentre Draw.

Prysurdeb mawr wrth gychwyn paratoit y Rali yn Gwrthian. Pawb wedi cyffroi yn lan, ac yn falch iawn o gael y rali yn nol. Sbyty wedi dod yn bumed a phawb wedi mwynhau eu diwrnod, diolch yn fawr i glwb y Rhiw am westeio. Rhai wedi cael llwyddiant, ac wedi bod lawr yn sioe fawr Llanelwedd. Clwb Syty hefyd wedi bod yn brysur yn gwesteio Peter o Iwerddon ac wedi mwynhau ei gwmni yma.

Rydym yn edrych mlaen am flwyddyn llawn hwyl eto flwyddyn yma. A diolch o galon i’r aelodau i gyd am eu gwaith, er mwyn cynnal y clwb, ac hefyd i staff y sir am eu cefnogaeth.

*Mae copiau o’r holl adroddiadau wedi eu hatodi.

12 ETHOL SWYDDOGION Y MUDIAD am 2022/2023

.

a. Llywydd

b. Is Lywydd

c. Cadeirydd

Ch. Is-Gadeirydd

d. Trysorydd ac Is Drysorydd

13 CADARNHAU CYFANSODDIAD AC YMDDIRIEDOLWYR Y MUDIAD

Eiliodd Meinir Jones, Llangybi y cynnig.

Ni chafwyd cynnig arall a chytunodd pawb.

14 TÂL AELODAETH

15 CYFLWYNO TLYSAU 2021-2022 .Tarian Goffa Llinos Owen: Llangybi

16 UNRHYW FATER ARALL

16 DIOLCHIADAU

. Talodd Gwen Thomas, Is Gadeirydd y Sir y diolchiadau.

Diolchodd i’r canlynol,

Daeth y cyfarfod i ben am 20:30.

ATODIAD 1: MANTOLEN

CLYBIAU FFERMWYR IEUAINC ERYRI GWERTH Y FFEDERASIWN AR MEHEFIN 30ain 2022

Cyfrif Cyfredol (NATWEST) £4,314.22 Cyfrif Cadw (NATWEST) £0.00 Cyfrif Clwb 200 (NATWEST) £1,352.00 Cyfrif Tripiau (NATWEST) £0.00 Cyfrif Cyfredol (HSBC) £37,167.51 Cyfrif Cadw (HSBC) £63,100.77 Cyfrif Tripiau (HSBC) £646.30 Cyfrif Hyfforddiant (HSBC) £6,353.49 Cyfanswm £ 112,934.29

(Gwerth y Ffederasiwn ar Mehefin 30ain 2021 = £86,237.70)

MANTOLEN AM Y CYFNOD YN DIWEDDU MEHEFIN 30ain 2022

----- Start of picture text -----
Cyfrif Cyfredol Natwest 15500039
DERBYNIADAU TALIADAU
£ £
Yn y Banc Gorffennaf 1af 2021 6,212.06
Swyddfa 0.00 449.68
Llungopiwr 0.00
1,448.16
Grant Gaeaf Llawn Lles - Cyngor 1,062.50
0.00
Gwynedd
0.00
1,062.50
Trosglwyddo’r grant uchod i’r
Cyfrif Cyfredol HSBC
Yn y Banc Mehefin 30ain 2022 4,314.22
CYFANSWM 7,274.56 7,274.56
TRYSORYDD: _________
Elin Owen Jones
----- End of picture text -----

Archwilwyd a cadarnhawyd yn gywir yn unol gyda’r wybodaeth a roddwyd

ARWYDDWYD:_________ Glesni Jones Is-drysorydd CFFI Eryri

CLYBIAU FFERMWYR IEUAINC ERYRI

MANTOLEN AM Y CYFNOD YN DIWEDDU MEHEFIN 30ain 2022

Cyfrif Cadw Natwest - 15511588

----- Start of picture text -----
DERBYNIADAU TALIADAU
£ £
Yn y Banc Gorffennaf 1af 2021 0.00
Trosglwyddo i’r Cyfredol Natwest 0.00
Llôg
0.00
Yn y Banc Mehefin 30ain 2022 0.00
CYFANSWM 0.00 0.00
----- End of picture text -----

----- Start of picture text -----
TRYSORYDD: _________
Elin Owen Jones
----- End of picture text -----

Archwilwyd a cadarnhawyd yn gywir yn unol gyda’r wybodaeth a roddwyd

ARWYDDWYD:_________

Glesni Jones Is-Drysorydd CFFI Eryri

CLYBIAU FFERMWYR IEUAINC ERYRI

MANTOLEN AM Y CYFNOD YN DIWEDDU MEHEFIN 30ain 2022

Cyfrif Clwb 200 Natwest – 15500063

----- Start of picture text -----
DERBYNIADAU TALIADAU
£ £
Yn y Banc Gorffennaf 1af 2021 45.00
Tal Aelodaeth 1,712.00
----- End of picture text -----

Gwobrau 2021-22
Trosglwyddo i’r Cyfredol HSBC
Yn y Banc Mehefn 30ain 2022
390.00
15.00
1,352.00
CYFANSWM 1,757.00 1,757.00
TRYSORYDD: _________
Elin Owen Jones

Archwilwyd a cadarnhawyd yn gywir yn unol gyda’r wybodaeth a roddwyd

ARWYDDWYD:_________ Glesni Jones Is-Drysorydd CFFI Eryri

CLYBIAU FFERMWYR IEUAINC ERYRI

MANTOLEN AM Y CYFNOD YN DIWEDDU MEHEFIN 30ain 2022

Cyfrif Tripiau Natwest - 73751073

----- Start of picture text -----
DERBYNIADAU TALIADAU
£ £
Yn y Banc Gorffennaf 1af 2021 0.00
Trosglwyddo i’r cyfrif Cyfredol 0.00 0.00
HSBC
0.00
Yn y Banc Mehefin 30ain 2022
CYFANSWM 0.00 0.00
----- End of picture text -----

TRYSORYDD: _________

Elin Owen Jones

Archwilwyd a cadarnhawyd yn gywir yn unol gyda’r wybodaeth a roddwyd

ARWYDDWYD:_________

Glesni Jones Is-Drysorydd CFFI Eryri

CLYBIAU FFERMWYR IEUAINC ERYRI

MANTOLEN AM Y CYFNOD YN DIWEDDU MEHEFIN 30ain 2022

Cyfrif Cyfredol HSBC - 51846477

DERBYNIADAU TALIADAU £ £ Yn y Banc Gorffennaf 1af 2021 9,782.30

Aelodaeth 2021-22
Yswiriant 2020-21
Cardiau Aelodaeth
Rali 2021-22
Erwau 2020-21
Eisteddfod Sir Eryri
Eisteddfod Cymru
Ffair Aeaf
Siarad Cyhoeddus
Noson Codi Ymwybyddiaeth Iechyd
Meddwl
Noson Garolau’r Sir
Pwyllgor Blynyddol
Cynghorau Cymuned
Parti Nadolig
Ras Aredig
Rygbi
CFfI Cymru – Cynllun Wyn Dunbia
Grant Gaeaf Llawn Lles
Swyddfa
Ff Banc - HSBC
Mygiau Iechyd Meddwl
Cynllun Ffrindiau
Grant Llywodraeth Cymru
Gwariant Grant Mantell Gwynedd
Cyfraniad NFU tuag at gostau
cyfogi
Paypal – ‘Easy Funding’
CFFI Cymru
Costau Teithio
9,400.00
0.00
0.00
34,446.15
1,250.00
1,413.20
265.00
0.00
0.00
281.00
179.57
0.00
500.00
1,705.00
50.00
0.00
123.80
2,200.50
0.00
0.00
25.00
5,330.00
7,356.00
0.00
5,000.00
0.00
0.00
0.00
50.00
0.00
660.00
608.00
16,926.54
2,685.00
1,566.00
265.00
0.00
28.41
281.00
0.00
585.00
0.00
1,599.00
0.00
40.00
0.00
2,090.50
2,261.23
47.58
0.00
0.00
0.00
561.98
0.00
0.00
10.00
590.31
50.00

----- Start of picture text -----
CFFI Y Rhiw 1,087.21 155.00
Cronfa er cof Wyn Griffith, 0.00 125.00
Bodlondeb
0.00 300.00
Hyfforddiant Staff
1,512.50 0.00
Hysbysebu Swydd
15.00 0.00
Apêl Wcraen – Cyfraniad Llywydd
0.00 15,801.95
Trosglwyddo o’r Cyfrif Clwb 200
432.78 0.00
Cyflog 2021-22
2,000.00 0.00
Cynllun Furlough
Rhent Cool Hire 2022
37,167.51
Yn y Banc Mehefin 30ain 2022
CYFANSWM 84,405.01 84,405.01
----- End of picture text -----

Yn y banc 30.06.2022 yn ôl y fantolen banc 31,517.01

Llai sieciau heb fynd trwy'r banc:

100041 Gwobr Rali – Ysbyty Ifan (50.00) 100043 Gwobr Rali – Y Rhiw (100.00) Ychwanegu sieciau perthnasol a fanciwyd yng 07/2022 Siec Anfoneb Y Rhiw 698.81 Siec Anfoneb Cool Hire £2,000 Siec Anfoneb Dyffryn Madog £1,701.69 Siec Rhodd Cyngor Cymuned Bontnewydd £200.00 Siec Rhodd NFU i’r Rali £2,000.00 5,101.69 Yn y banc 30.06.2022 37,167.51

TRYSORYDD: _________

Elin Owen Jones

Archwilwyd a cadarnhawyd yn gywir yn unol gyda’r wybodaeth a roddwyd

ARWYDDWYD:_________ Glesni Jones Is-Drysorydd CFFI Eryri

CLYBIAU FFERMWYR IEUAINC ERYRI

MANTOLEN AM Y CYFNOD YN DIWEDDU MEHEFIN 30ain 2022

Cyfrif Cadw HSBC 81846612

DERBYNIADAU

TALIADAU

£ £
Yn y Banc Gorfennaf 1af 2021
Trosglwyddo o’r Cyfredol HSBC
Trosglwyddo i’r Cyfredol HSBC
Llog
Yn y Banc Mehefn 30ain 2022
63,086.55
0.00
14.22
0.00
63,100.77
CYFANSWM 63,100.77 63,100.77
TRYSORYDD: _________
Elin Owen Jones

Archwilwyd a cadarnhawyd yn gywir yn unol gyda’r wybodaeth a roddwyd

ARWYDDWYD:_________ Glesni Jones Is-Drysorydd CFFI Eryri

CLYBIAU FFERMWYR IEUAINC ERYRI

MANTOLEN AM Y CYFNOD YN DIWEDDU MEHEFIN 30ain 2022

Cyfrif Tripiau HSBC - 61846590

----- Start of picture text -----
DERBYNIADAU TALIADAU
£ £
Yn y Banc Gorffennaf 1af 2021 676.30
Ffioedd Banc
30.00
Yn y Banc Mehefin 30ain 2022
646.30
CYFANSWM 676.30 676.30
----- End of picture text -----

TRYSORYDD: _________ Elin Owen Jones

Archwilwyd a cadarnhawyd yn gywir yn unol gyda’r wybodaeth a roddwyd

ARWYDDWYD:_________ Glesni Jones Is-Drysorydd CFFI Eryri

CLYBIAU FFERMWYR IEUAINC ERYRI MANTOLEN AM Y CYFNOD YN DIWEDDU MEHEFIN 30ain 2022

Cyfrif Hyfforddiant HSBC - 81846604

----- Start of picture text -----
DERBYNIADAU TALIADAU
£ £
Yn y Banc Gorffennaf 1af 2021 6,435.49
Trosglwyddiadau i’r HSBC
1,699.00
Cyfredol
1,649.00
Trosglwyddiadau o’r HSBC
Cyfredol
32.00
Ffioedd Banc
Yn y Banc Mehefin 30ain 2022
6,353.49
CYFANSWM 8,084.49 8,084.49
----- End of picture text -----*

Defnyddir llyfr siec y cyfrif hwn yn hytrach na chyfrif Cyfredol HSBC er mwyn gwneud y taliadau canlynol.

£100.00 – Fflot ariannol Noson Codi Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl

£1,299.00 – Taliad anfoneb Clwb Golff Caernarfon ar gyfer Parti Nadolig y Sir

£250.00 – Taliad i’r Ganolfan Porthmadog ar gyfer yr Eisteddfod Sirol

£50.00 – Taliad i’r Ras Aredig

Mae’r taliadau uchod wedi eu cynnwys o dan y penawadau penodol ym mantolen HSBC Cyfredol am eu bod wedi eu had-dalu oni bai am y £50.00 Ras Aredig sydd yn ddyledus ar ddiwedd y flwyddyn ac yn cael ei dalu’n ol i’r cyfrif yn 2022-23

TRYSORYDD: _________

Elin Owen Jones

Archwilwyd a cadarnhawyd yn gywir yn unol gyda’r wybodaeth a roddwyd

ARWYDDWYD:_________ Glesni Jones Is-Drysorydd CFFI Eryri