**COFNODION PWYLLGOR BLYNYDDOL CFFI ERYRI** 

## **Dyddiad:30 Medi 2022** 

## **Amser: 19:00** 

## **Lleoliad: Newborough Arms, Bontnewydd** 



**----- Start of picture text -----**<br>
P<br>G<br>**----- End of picture text -----**<br>


## **1. YMDDIHEURIADAU:** 

Elin Jones (Trysorydd), Anwen Bumby, Iwan Harper. 

## **2. PRESENNOL** : 

Meinir Jones (Cadeirydd y Sir), Gwen Thomas (Is-gadeirydd y Sir), Geraint Roberts (Llywydd y Sir), Elin Jones (Swyddog Cefnogi), Miriam Williams, Non Griffith,  Elin  Morgan,  Alaw  Morgan,  Gethin  Wynne,  Lois  Elan  Jones,  Elen Williams,  Lora  Jen  Pritchard,  Geraint  Puw,  Marian  Puw,  Manon  Puw,  Huw Arfon,  Dylan  Roberts,  Cai  Williams,  Wil  Seth,  Lois  Glyn  Jones,  Myfanwy Harper, Sallie Roberts, Gethin Harper, Elenid Alun, Ffion Ellis, Erin Evans, Mairwen  Davies, Glyn  Owen,  Hafwen Owen,  Sion  Arfon,  Menna  Williams, Mererid Owen, Sioned Wyn Jones, Mari Jones, Arthur Williams, Gwyn Jones, Glesni Lewis, Robat Thomas, Huw Thomas, Elliw Owen. 

## **3. DERBYN COFNODION** : 

– Derbyn Cofnodion 24.09.2021: 

Derbyniwyd y cofnodion yn gywir gan Non ac eiliodd Miriam. 

## **4. MATERION YN CODI** : 

Nid oedd unrhyw fater yn codi o'r cofnodion. 

## **5. GOHEBIAETH** 

Ni ddaeth gohebiaeth i law. 

## **6. ADRODDIAD CADEIRYDD Y MUDIAD – MEINIR OWEN - LLANGYBI** 

Lle mae dechrau ’dwch? Wel yn wir i chi, dyna beth oedd blwyddyn!! 

Yn dilyn blwyddyn a hanner o gyfarfodydd Zoom, roedd yn nefoedd ar y Ddaear cael cyfarfod wyneb yn wyneb unwaith eto am y tro cyntaf yn ystod ein Pwyllgor Blynyddol nôl ym mis Medi llynedd. Braint ac anrhydedd oedd cael fy ethol fel Cadeirydd y Mudiad a hynny yn Sied tŷ ni! Diolch yn fawr am y cyfle. Roeddwn yn gwybod fod gennym fel Swyddogion her a hanner o’n blaenau gan nad oedd Trefnydd bellach wrth y llyw, ac ar y nodyn yna, hoffwn ddiolch o galon i Eleri am ei holl waith di-flino i’r Mudiad dros y blynyddoedd a hefyd i’r ddiweddar annwyl Elin Cae Hetar am ei chefnogaeth hithau yn y Swyddfa. 

Fodd bynnag, os na chlywsoch chi am ‘Dream Team’ o’r blaen, wel dyma 



‘Dream Team’ i chi!!! ‘Dw i wedi hen golli cyfrif ar y negeseuon roeddem fel Swyddogion yn eu gyrru yn ôl ac ymlaen yn trio cadw’r Mudiad i fynd tra nad oedd aelod o staff wrth y llyw. Ni allaf ddiolch digon i’r Swyddogion am eu gwaith **arbennig** ac am ddioddef fy holl swnian yn ystod y flwyddyn! 

Roedd yn fendith gweld y Clybiau yn ail-ddechrau cyfarfod unwaith eto a phawb yn cymdeithasu drwy ddilyn rheolau’r ‘Normal Newydd’. Rhaid canmol yr Aelodau yn fawr am barchu’r rheolau hyn a chadw atynt. Pleser o’r mwyaf oedd cael mynd o amgylch rhai o’r clybiau yn eu tro i gynnal gemau gwirion. Pwy fuasai’n meddwl fod cymaint o hwyl i gael gyda phegs, peli, pâr o deits a photeli dŵr?? Diolch yn fawr i’r Clybiau am y croeso. 

Roedd  hi’n  fis  Hydref  mewn  dim  ac  roeddem  wedi  bod  wrthi  fel  lladd nadroedd yn trefnu a pharatoi ar gyfer yr Eisteddfod sef un o uchafbwyntiau’r flwyddyn i mi. Roedd cyffro mawr y tro hwn gan mai dyma’r cystadlu cyntaf i gael  ei  gynnal  yn  dilyn  y  pandemig.  Fodd  bynnag,  does  dim  geiriau  i ddisgrifio y siom a gefais noswyl cyn yr Eisteddfod pan gefais brawf Cofid positif!! Dyna beth oedd siom a hanner!!! Ond fe aeth yr Eisteddfod ymlaen fel watsh diolch i’r holl Swyddogion a phawb a gamodd i’r bwlch funud olaf. Gwelais fwy ar yr Eisteddfod eleni dros Zoom nad wyf erioed wedi ei wneud o’r blaen! Dyna beth oedd gwledd a hanner o gystadlu safonnol tra wedi lapio fel nionyn mewn plancedi ar y soffa! 

Ymlaen â ni wedyn at ddiwrnod y Ffair Aeaf ble cawsom groeso cynnes yn Nhŷ Newydd, Llandegai. Roedd yn hyfryd gweld aelodau gwahanol i griw yr Eisteddfod yn cystadlu y tro hwn a phawb yn frwdfrydig. 

O’r  diwedd,  daeth  eto  haul  ar  fryn  i  Eryri  ddiwedd  fis  Tachwedd  pan benodwyd Swyddog Cefnogi newydd ar gyfer y Mudiad sef Elin Jones (Elin Ty’n Simdde i’r rhai ohonoch sydd yn ei hadnabod). Braf iawn oedd croesawu Elin atom a throsglwyddo’r awenau trefnu drosodd. 

Bu mis Rhagfyr yn fis prysur iawn yn ein plith ble cafwyd Parti Nadolig yng Nghlwb Golff Caernarfon, noson codi ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl gan DPJ a noson Garolau yn Sied Bryn Mawr. Distaw iawn fu ein hanes ym mis Ionawr ond cafodd y beirniaid wledd a hanner yn ystod ein noson Siarad Cyhoeddus yn Ysgol Syr Hugh Owen yn Chwefror. Roedd cystadlu brwd ac roedd yn hyfryd gweld cymaint yn elwa ar sgiliau oes. 

Cyn i ni droi, roedd hi’n fis Mai, sy’n golygu ond un peth – RALI!! Diolch o galon  i  deulu  Gwythrian  am  y  croeso  cynnes  a  hynny  ddwy  flynedd  yn ddiweddarach na’r dyddiad gwreiddiol. Yn wir i chi, roedd yr holl aros yn werth aros amdano gan ei fod yn chwip o ddiwrnod. Roedd gwylio’r aelodau yn mwynhau pob eiliad yn bleser pur. 

Braf oedd cael cyfle i fynd o amgylch gweddill y clybiau nad oeddwn wedi ymweld â nhw yn ystod eu Pwyllgorau Blynyddol. Roedd yn wych gweld brwdfrydedd aelodau at y flwyddyn newydd ac yn wir i chi mae’r Mudiad 



## mewn dwylo diogel. 

I ddiweddu fy mlwyddyn fel Cadeirydd, fe es ati i gynnal Taith Feics Noddedig a Gig gan y Welsh Whisperer. Diolch o galon i bawb â ymunodd ac i bawb am eu cefnogaeth. Llwyddom i gasglu dros £1,300 ar gyfer elusennau hynod bwysig sef DPJ, Mind Cymru, Meddwl.org a Samariaid Cymru. 

Do wir, fe fu’n flwyddyn wahanol iawn yma yn Eryri ond rwy’n grediniol fod y Mudiad yn dal yr un mor gryf. Yn sicr, mae seibiant o flwyddyn a hanner wedi dangos i ni pa mor bwysig ydy mudiadau fel y Ffermwyr Ifanc. Mudiad sydd yn cynnig mwy o gyfleoedd i aelodau nag unrhyw fudiad arall. Mudiad sydd yn  magu  hyder  unigolion.  Mudiad  sydd  yn  meithrin doniau.  Mudiad amhrisiadwy. 

Hoffwn gymryd y cyfle i ddiolch o galon i holl swyddogion y Clybiau am fod yn amyneddgar dros y flwyddyn ddiwethaf yn enwedig yn ystod y cyfnod ble nad  oedd  gennym  Swyddog  Sirol.  Yn  sicr,  roedd  pob  un  ohonoch  wedi gwneud ein swyddi ni yn llawer haws. Diolch enfawr i’r Swyddogion Sirol ac i Elin am eu holl waith di-flino. 

Fe ddwedais ar y dechrau mai braint ac anrhydedd oedd cael fy ethol yn Gadeirydd  y  Mudiad  yn  Sied  Tŷ  Ni,  ond  braint  ac  anrhydedd  arall  ydy trosglwyddo’r awenau eleni i un o fy ffrindiau gorau sef Gwen. Yn sicr, bydd y Mudiad yn mynd o nerth i nerth yn nwylo medrus Gwen. Pob dymuniad da i ti a’r tîm a fydd wrth y llyw flwyddyn nesaf. 

## **7. ADRODDID ARIANNOL – GLESNI LEWIS (ar ran Elin Jones)** 

Dwi’n ymddiheuro’n ofnadwy na fedra i fod yno heno.  Ar y 30 o Fehefin eleni, dyma’r balansau oedd yng nghyfrifon banc y ffederasiwn: 

- Cyfrif Cyfredol Natwest £4,314.22 

- Cyfrif Clwb 200 Natwest £1,352.00 

- Cyfrif Cyfredol HSBC £37,167.51 

- Cyfrif Cadw HSBC £63,100.77 

- Cyfrif Tripiau £646.30 

- Cyfrif Hyfforddiant £6,353.49 

- 

Ni aeth arian i mewn nac allan o gyfrif Cadw na Thripiau Natwest eleni a felly roedd eu balansau yn £0.00 a gwerth y ffederasiwn yn yn £112,934.29 ar y 30 o Fehefin, 2022.  £86,237.70 oedd gwerth y ffederasiwn ar ddiwedd y flwyddyn ariannol blaenorol.  Mae’r cynnydd mewn gwerth yn deillio o ddau brif beth.  Y cyntaf gan i ni fedru cynnal Rali am y tro cyntaf ers 2019, ac wedi creu cryn elw o’r digwyddiad.  Yn ail,  nid ydym wedi derbyn anfoneb gan CFfI Cymru am Aelodaeth eto, ond rydym wedi anfonebu clybiau’r Sir amdanynt sydd yn golygu fod gennym oddeutu £9,000 yn barod i fynd at yr anfoneb hwn. Yn dilyn ambell flwyddyn anodd i bawb rydym yn falch fod y ffederasiwn yn ffynnu yn ariannol.  Mae hyn wedi bod yn bosib oherwydd 



rhoddion gan Gynghorau Cymuned yn ogystal â haelioni sefydliadau megis yr NFU a’r FUW, a rydym yn werthfawrogol tu hwnt o hyn. Hoffwn ddiolch yn arbennig  eleni  i  deulu  Bodlondeb  sydd  wedi  cyfrannu swm  sylweddol  i’r mudiad er cof am Mr Wyn Griffith, Bodlondeb. 

Eto eleni, diolchwn i Gyngor Sir Conwy sydd wedi rhoi £2,500 yn grant i ni. 

Hoffwn ddiolch i Geraint Roberts, Tyddyn Wilym sef Llywydd ein Sir.  Bu iddo greu ymgyrch i godi arian i Apêl Wcraen yn enw’r Sir drwy werthu ei stoc ym Marchnad Llanrwst.  Trwy ei haelioni ef a phawb arall wnaeth gyfrannu i’r achos, llwyddwyd i godi dros £1,500 i’r ymgyrch.  Diolch yn fawr iawn iddo. 

Diolchwn hefyd i aelodau Cynllun Ffrindiau’r mudiad am eu haelioni eto eleni. Mae pob aelod yn buddsoddi unai £100 yn flynyddol neu £8.50 pob mis gan dderbyn amrywiol fuddiannau yn sgîl eu haelodaeth.   Mae croeso i unrhyw un o’r newydd ymuno â’r cynllun neu ymuno â Chlwb 200 y Sir ble gellir ennill symiau ariannol drwy gydol y flwyddyn. 

Hoffwn dynnu eich sylw at ddau gynllun arall sydd yn helpu’r Sir yn ariannol. Os ydych chi neu rhywun o’ch teulu yn gwerthu wyn i’r cwmni Dunbia, mae’r cwmni yn cyd-weithio gyda CFFI Cymru i sicrhau y caiff y mudiad fuddion ariannol os ydy eu haelodau yn gwerthu eu cynnyrch i Dunbia.  Croeso i chi gysylltu os ydych  eisiau mwy o fanylion am hynny.  Yn ail, os ydych chi’n berson sydd yn gwneud tipyn o siopa ar-lein, gallwch greu cyfrif ar wefan a elwir yn ‘Easy Funding’ sydd yn ymrwymo i roi canran o’ch gwariant chi yn syth i elusen, ac mae CFFI Eryri wedi cofrestru fel elusen ar y wefan hon. Rydym eisoes wedi gwneud ychydig o arian drwy’r cynlluniau bychain hyn a rydym yn ddiolchgar dros ben. 

Rydym yn parhau i fod yn gyfrifol am ein cyflogres ein hunain ac hoffwn ddiolch i gwmni cyfrifydd Richard Williams a’i gwmni am eu parodrwydd i weinyddu’r cyflogau ar ein rhan eto eleni. 

Hoffwn roi sylw i’r gefnogaeth ydw i’n ei dderbyn drwy gydol y flwyddyn.  Gai ddiolch i brif swyddogion y Sir sydd wedi gweithio yn aruthrol o galed dros y blynyddoedd diweddar i sichrau parhad i’r mudiad.  Gai hefyd estyn diolch i’r pwyllgor gwaith a’r is-bwyllgor Cyllid a Staffio am eu holl gymorth eto eleni. Mae eu gwaith di-flino nhw yn sicrhau parhad llewyrchus i’r mudiad. 

Yn olaf, hoffwn ddiolch i Elin ein Swyddog Cefnogi sydd wedi bod yn gymorth mawr i mi eleni a gwneud fy swydd i fel Trysorydd yn un hawdd. 

Diolch yn fawr i bawb, Elin. 



## **8. ADRODDIAD Y SWYDDOG CEFNOGI – ELIN JONES** 

Mae amser wedi flio ers i mi gychwyn yn y swydd nol yn niwedd Tachwedd flwyddyn  dwytha.  Dwi  wir  wedi  mwynhau’r  dasg  o  gefnogi  i  drefnu digwyddiadau’r Mudiad hyd yma, ac er fy mod wedi bod yn aelod yn Glwb Y Rhiw  pan  yn  fengach,  ond  heb  sylweddoli  rhywsut  faint  sydd  yn  mynd ymlaen o fewn y mudiad. 

Mae hi’n wych gweld y profiadau mae’r aelodau yn ei gael, ar brwdfrydedd sydd ganddynt wrth gymryd rhan. Mae hynny yn dod a pleser mawr i mi wrth neud y gwaith, a dwi’n mwynhau fy hun yn iawn hyd yma. 

Dwi’n  gobeithio  fod  y  mudiad  wedi  datblygu  ychydig  ymhellach  ers  mi gychwyn, wrth i ni drio symyd y rhan fwyaf o bethau ar lein o ran gwaith papur ayyb. Y gobaith yw fod y broses o gysylltu hefo clybiau a’r swyddfa yn haws  i  bawb,  er  dwi’n  gwbod  bod  chi  gyd  sydd  ar  y  grwp  WhatsApp swyddogion isio mi gau ngheg weithiau a stopio gyrru gymaint o links!! 

Ond gan fod technoleg mor wych dyddiau yma, dwi’n gobeithio ei fodo’n gweithio i bawb. 

Rhaid i mi ddiolch i Meinir a Gwen, coeliwch fi mae grwp WhatApp y dair ohonom ni yn waeth, lot gwaeth! Fyswn i heb lwyddo yn y swydd hyd yma hebddyn nhw, mae na gymaint mwy na dachi feddwl i’w ddysgu a dod i’w ddallt o fewn y swydd. Diolch genod! 

Diolch hefyd i weddill swyddogion y mudiad sydd wedi bod yna os oes sgini gwestiwn, ac ambell i aelod hefyd sydd wedi helpu fi, da dachi gyd i feddwl fod  pawb  yn  neud  y  gwaith  yn  wirfoddol,  mae  eich  ymroddiad  chi  yn anhygoel!! 

Nai ddim mynd ymlaen ac adrodd am bob digwyddiad sydd wedi bod ers mi gychwyn, ac boddi chi mewn ffigyrau ynglyn a’r sir ond braf ydi deud fod niferoedd aelodaeth y sir wedi codi rhyw fymryn ers y flwyddyn 2019 (sef y flwyddyn cyn cofid hitio ni). 

Yn amlwg un o’r uchafbwyntiau’r flwyddyn oedd y Rali, mi oeddi’n ddiwrnod gwych draw yn Gwythrian a diolch i chi gyd am y gefnogaeth wrth drefnu, cystadlu neu fynychu, fysai heb fod yn lwyddiant heb yr holl bobl wnaeth droi fyny i fwynhau, ac mi oeddi’n team effort go iawn o ran y trefnu a cynnal! 

Mi oeddi hefyd yn braf gweld brwdfrydedd yr aelodau aeth mlaen i gystadlu yn y Sioe Frenhinol lawr yn Llanelwedd nol yn mis Gorffenaf yn y tywydd poeth bendigedig ‘na. 

Felly edrych ymlaen am yr Eisteddfod sydd nesa, a gweddill y digwyddiadau sydd wedi eu trefnu ar gyfer yr aelodau. 

Ac felly ar y nodyn yna, diolch eto i chi gyd am y croeso cynnes dwi wedi dderbyn gan bawb sydd yn ymwneud a’r mudiad, mai wedi bod yn braf dod i nabod chi gyd, a mae gini dal waith dod i nabod llawer un eto. Diolch. 

## **9. ANERCHIAD Y LLYWYDD – MR GERAINT ROBERTS, LLANRWST** 



Wel dwi’n siŵr eich bod yn disgwyl chwip o araith gan fy mod wedi cael digon o amser i baratoi ond eich siomi wnâi ma gennai ofn ! 

Mae’r mudiad wedi bod drwy newidiadau mawr ac mae wedi bod yn gyfnod reit heriol I bob clwb  trio dod nol ir normal ar ôl y pandemic. 

Cafwyd Eisteddfod llwyddiannus ym Mhorthmadog a diwrnod  beirniadu stoc yn y Ffair Aeaf lle ddaeth na griw da I gystadlu – braf gweld pethau yn dechrau dod yn nol I normal eto. Cafwyd Rali llwyddiannus iawn a chroeso arbennig  gan  deulu  Gwythrian  a  lleoliad  gwerth  chweil  gyda  pawb  wedi mwynhau yn fawr. 

Diolch am yr anrhydedd am gael bod yn Is Lywydd a Llywydd hira mewn hanes y mudiad gan fy mod wedi cael fy ethol ers tair mlynedd yn nol a gobeithio na fydd rhaid I neb guro’r record byth drwy bandemic arall. 

Pob lwc ir mudiad a chofiwch fwynhau ‘r cystadlu a’r cymdeithasu -wnewch chi byth ddifaru’r profiadau y cewch chi drwy fudiad y Ffermwyr Ifanc 

## **10 ADRODDIADAU PWYLLGORAU . a.  Cyllid  a  Staffio:  Miriam  Williams,  Cadeirydd  Pwyllgor  Cyllid  a Staffio** 

Dyma gyflwyno fy adroddiad fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid a Staffio ar gyfer y  flwyddyn  a  fu.  Gwerth  sôn  yn  fras  beth  yn  union  ydi  dyletswyddau’r pwyllgor hwn, ar gyfer yr rheiny ohonoch sydd o bosib ddim mor gyfarwydd â hynny ag o. Yn syml, mae’r pwyllgor hwn yn cynnwys Prif Swyddogion y mudiad ac aelodau ymgynghorol, sef unigolion nad sy’n aelodau o’r mudiad ond sydd fel arfer â chyswllt ag o, megis bod yn gyn-aelod neu yn riant i aelod ac ati. Mae’r Pwyllgor fel arfer yn cwrdd tua phedair gwaith y flwyddyn, neu yn ôl y galw. Ein gwaith ydi trafod materion ariannol, strategol a staffio y sir. 

Felly, ar y nodyn hynny, gwerth fyddai sôn beth sydd wedi bod yn digwydd y tu ôl i’r lleni yn ystod y flwyddyn a fu. 

## **Recriwtio Aelod o Staff** 

Yn yr AGM diwethaf, fe soniais ein bod ni’n cychwyn hysbysebu am yr eildro am aelod o staff – mi fasa Miriam mis Medi 2021 wedi bod yn falch iawn o wybod bod Elin Jones ar y ffordd fel Swyddog Cefnogi. Fe benodwyd Elin ym mis Tachwedd y llynedd ac mae hi wedi setlo mewn i’r rôl yn gyflym tu hwnt gan wneud byd o les i waith y sir. Diolch i ti Elin am dy waith caled, a dymuniadau gorau i ti am y flwyddyn sydd i ddod – edrychwn ymlaen at dy gael di’n nol hefo ni yn fuan. Byddwn yn mynd ati i recriwtio am rywun i weithio  cyfnod  mamolaeth  Elin  yn  ystod  y  dyddiau  nesaf  –  mi  fyddai’r pwyllgor yn gwerthfawrogi cymorth pawb i rannu’r hysbyseb i bedwar ban byd. 



## **Aelodau Ymgynghorol** 

Braf oedd croesawu aelodau ymgynghorol newydd i eistedd ar y pwyllgor eleni. Rydym wedi croesawu Sara Lloyd Evans fel Cyfreithwraig Ymgynghorol, ac Emyr Williams ac Elliw Owen fel Aelodau Ymgynghorol. Bydd tymor Glyn Owen a Richard Parry yn dod i ben yn y cyfarfod nesaf, a diolch o galon iddynt am eu gwaith. 

## **Systemau** 

Rydym  wedi  gwneud  llawer  o  waith  ar  ddatblygu  a  mireinio  systemau Adnoddau Dynol dros y flwyddyn ddiwethaf. Rydym bellach yn defnyddio system PeopleHR er mwyn tracio a chofnodi oriau / gwyliau / treuliau. Mae’n gwneud bywyd yn llawer haws i bawb. 

Mae croeso i unrhyw un wneud cais i weld cofnodion y Pwyllgor Cyllid a Staffio pe bai gennych ddiddordeb yn ein gwaith – cysylltwch â mi, neu holwch Elin am fy nghyfeiriad ebost. 

Diolch i’r holl aelodau am eu cefnogaeth eleni, a diolch i Myfanwy Harper fy rhafglaenydd am ei gwaith hithau, ac i Anwen Bumby, yr Is Gadeirydd am ei chefnogaeth a’i gwaith trylwyr bob amser. 

Diolch i Elin Goetre a Glesni am ofalu am gyfrifon ariannol y Mudiad mor drylwyr a phroffesiynol – mae’n waith cymleth ac yn aml yn ddi-ddiolch, felly diolch i chi’ch dwy. 

Diolch i Gwen am fod yn Is Gadeirydd cefnogol ac ymarferol i dy Gadeirydd a’th gyd-swyddogion, a phob lwc i ti am y flwyddyn sydd i ddod. Dyna felly adael un bach ar ôl – Meinir. Diolch o galon i ti Meinir am fod yn Gadeirydd mor weithgar ar y sir ac am dy holl ymroddiad dros y flwyddyn a mwy diwethaf. Ches di’n sicr ddim amser hawdd fel Cadeirydd, ond mi wnes di sicrhau bod y mudiad yn mynd o nerth i nerth yn ystod dy gyfnod ac mae’n diolch yn fawr i ti am hynny. Mwynha dy ymddeoliad! 

## **b. Rali: Robat Thomas, Cadeirydd Pwyllgor y Rali** 

Wedi hir ymaros dros ddwy flynedd, fe gawsom o’r diwedd gynnal Rali Eryri yn Gwythrian ar yr 28ain o Fai. Diolch yn fawr iawn i Deulu Gwythrian a m gael cynnal y rali ac am eu cefnogaeth barhaus. Wedi misoedd o baratoi, braf iawn oedd gweld y cystadlu a’r cyfeillgarwch yn nôl rhwng aelodau’r Mudiad arbennig hwn. Yn sicr, mae’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi amlygu gwerth y mudiad i ni yng nghefn gwlad Eryri. Hoffwn fanteisio ar y cyfle yma i ddiolch i Elin Tŷ Simdde ac i Meinir a Gwen a phawb yn y Mudiad am eu gwaith caled iawn yn ein cefnogi i drefnu diwrnod mor llwyddiannus. 

Roedd y gefnogaeth a dderbyniwyd yn anhygoel. Nol yn 2019 oedd hi pan gynhaliwyd y cyfarfod gwreiddiol i drefnu Rali 2020 ac roedd Neuadd Ysgol Botwnnog yn orlawn. Bu i’r gefnogaeth yma barhau ar hyd y daith gyda chyn aelodau, rheini a chwmnïau lleol yn rhoi oriau o’r hamser i’n cefnogi ar y trefnu ac yna stiwardio a’n cefnogi yn y caffi drwy'r dydd. Rydym wirionedd yn  gwerthfawrogi. 



Y Faenol 1958 – dyna’r tro diwethaf i Glwb y Rhiw ennill y Rali! 64 mlynedd yn ddiweddarach, braf iawn ydi dweud y daeth buddugoliaeth eto! 

Pob dymuniad da i Glwb Dyffryn Madog ar y trefnu. Dwi’n siŵr y bydd yn Rali lwyddiannus iawn. 

## **c. Eisteddfod: Dylan Roberts, Llanrwst ar ran Rhodri Sion, Cadeirydd y Pwyllgor** 

Wedi saib o ddwy flynedd heb Eisteddfod, braf oedd cael cynnal un y llynedd. Roedd pethau’n parhau i fod yn ansicr o safbwynt cyfyngiadau, gyda nifer yr achosion Covid ar gynnydd, ac roedd hyn ychwanegu at y gwaith. Er hynny, pan ddaeth enwau’r cystadleuwyr i law, calonogol iawn oedd gweld cymaint o frwdfrydedd ymysg yr aelodau, a da oedd gweld cymaint o gyfeillion y mudiad yn dod i’n cefnogi ar y diwrnod yn y gynulleidfa. 

Hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch i bawb fu’n gweithio mor galed i ni allu cynnal  yr  Eisteddfod  y  llynedd.  Nid  hawdd  oedd  gwneud  hynny  dan  yr amgylchiadau ar y pryd, felly diolch yn fawr i bob un ohonoch. Dw i’n siŵr bod Elin yn edrych ymlaen at ei ’Steddfod gyntaf yn ei swydd, a phob lwc i bawb ar y cystadlu eto eleni. 

## **ch. Hyfforddiant: Gwen Thomas. Cadeirydd Pwyllgor Hyfforddiant** 

Nodwyd bod y Pwyllgor yn bwriadu mynd ati i drefnu cyrsiau codi wal sych, cymorth  cyntaf  a  thynnu  trelar  er  mwyn  cwrdd  â  gofynion  Magnox  gan gyfrannu 50% tuag at gost pob aelod ac yna symud ymlaen i ddatblygu system ble mae aelodau yn cwblhau ffurflen gais ar gyfer derbyn 50% o gyfraniad tuag at gwrs byr sydd am eu cynorthwyo i gael swydd. 

## **11 ADRODDIADAU’R CLYBIAU** 

## **.**  **Sioned Wyn Jones ar ran CFFI Caernarfon.** 

Dilyn seibiant (a hanner!) oherwydd y pandemig, braf ofnadwy oedd gweld aelodau hen a newydd yn dychwelyd i’r clwb ym mis Medi, a phawb yn awyddus am y flwyddyn o’i blaen. Yn unol â’r traddodiad, Helfa Drysor oedd ein noson gyntaf yn ôl fel clwb. Roedd gwaith crafu pen i’r aelodau wrth iddynt gael ei yrru o amgylch cwrs gosodwyd gan y cadeiryddion. Roedd y noson hwn yn un noson ddiddorol ym musg nifer o nosweithiau eraill a threfnwyd gan swyddogion y clwb, gyda nosweithiau yn amrywio o noson mewn Escape Room yn Llandudno i noson ymweliad fferm. Yn sicr fe wnaeth y swyddogion yn siwr fod rhywbeth at ddant pawb yn rhaglen y clwb eleni. 

Yn sydyn iawn ar ôl cychwyn yn ddoth y Ffair Aeaf, a braf oedd gweld gwaith caled yr aelodau yn talu ar ei ganfed wrth i’r clwb llwyddo i ddod yn y safle 1af ar ddiwedd y dydd. Ar ol y digwyddiad sirol, aeth sawl aelod ymlaen i gystadlu’n genedlaethol yn Ffair Aeaf y Sioe Frenhinol, a phob un yn gneud yn dda iawn. 



Ar ol dathliadau’r nadolig, cychwynnodd yr ail hanner i’r flwyddyn yn ôl gydag nosweithiau clwb yn parhau yn wythnosol. Ond cyn i ni droi, roedd hi’n amser paratoi at y rali. Tynnodd pawb ei bwysau yn y gwaith paratoi a llwyddo i ennill y 4ydd safle wnaethom fel clwb yn rali y Rhiw. 

Edrych  ymlaen  at  y  flwyddyn  sydd  i  ddod  yr  ydym  erbyn  hym,  gydag sywddogion newydd yn ei le yn y clwb ar gyfer blwyddyn llwyddiannus eto. Mae’r nosweithiau wythnosol wedi cychwyn yn ôl ac mae brwdfrydedd yr aelodau am y flwyddyn sydd i ddod yn well nag y fuodd o erioed. 

Fel clwb, hoffem estyn ein gwerthfawrogiad i bawb a fu’n ein cynorthwyo a’n hyfforddi yn ystod y flwyddyn. Hoffem ddiolch i Elin am ei gwaith diflino, ond hefyd, hoffem ddiolch i’r swyddogion Sirol am ei gwaith angenrheidiol a ddifai yn cadw’r mudiad i fynd yn ystod cyfnod y pandemig. Hoffwn innau fel Cadeiryddes  CFfI  Caernarfon  ddiolch  i’r  aelodau  am  ei  parodrwydd  i  roi cynnig ar bethau newydd ac i ddysgu. Mae ei agwedd tuag at yr CFfI yn bendant  yn  gwneud  ein  gwaith  fel  swyddogion  clwb  yn  waith  hawdd  a gwobruol iawn. 

##  **Manon Puw ar ran CFFI Dyffryn Madog.** 

Braf iawn oedd gweld y Clwb yn ail ddechrau eleni ar ôl dwy flynedd ddiflas. Mae’n anodd credu bod tair mlynedd wedi mynd heibio ers Rali lwyddiannus Ysbyty Ifan. Roedd hi’n braf iawn gweld wynebau newydd yn y Clwb yn ogystal â rhai cyfarwydd. Gyda thristwch y clywsom am benderfyniad Mair Parri, Gwindy i ymddeol fel arweinydd y Clwb wedi blynyddoedd o wasanaeth a chefnogaeth, mae  colled  wedi bod ar ei  ôl.  Llongyfarchiadau i Dafydd Martin Williams ar gael ei ethol yn gyd arweinydd, diolch am gamu i’r bwlch. Pob lwc i Elin hefyd yn ei rôl newydd fel Swyddog Cefnogi’r Sir. 

Cafwyd noson hwyliog iawn i ddechrau’r tymor yn Fferm Llwyn Mafon Isaf gyda Slip and Slide a barbeciw blasus i ddilyn. Wedi hynny cawsom lawer o nosweithiau diddorol fel teithiau fferm, gemau, cwis, noson ffilm a tecawe, bingo  a  choginio.  Ymysg  y  gweithgareddau,  mae  noson  ddringo  yng Nghaernarfon  yn  sefyll  allan.  Uchafbwynt  arall  oedd  ymuno  gyda  Chlwb Llangybi lle cafwyd noson ClocsFit. 

Bu llwyddiant yn yr Eisteddfod eleni. Enillodd Dyffryn Madog Darian Tudur Owen i’r Parti Deulais a chipio’r wobr am yr eitem orau yn yr Adran Gerdd. Enillodd Erin Gwpan Griff Roberts, Porthdinllaen am yr eitem orau yn yr Adran Lefaru.  Aeth  5  eitem  buddugol  o’r  Clwb  ymlaen  i  gynrychioli  Cymru. Llongyfarchiadau i Erin am dderbyn yr ail wobr yn y Monolog. Diolch yn fawr i Gwenan Dwyfor Roberts am eu hyfforddi a Rhys Glyn am gyfeilio. 

Bu rhai aelodau yn cystadlu yn y Ffair Aeaf yn Nhŷ Newydd a braf oedd gweld aelodau ifanc yn mentro. 

Mentrodd rhai ar y siarad cyhoeddus hefyd a llongyfarchiadau i Anna Pugh ar gael ei dewis i dîm siarad cyhoeddus Eryri. 



Hoffwn ddiolch i’r holl aelodau a swyddogion am eu hymroddiad i’r Clwb. 

##  **Lois Elan Jones ar ran CFFI Dyffryn Nantlle** . 

Braf ydi bod yng nghwmni swyddogion ac aelodau a ffrindiau’r sir heno, llawer brafiach na’r tywydd gawson ni heddiw. 

Awn ni’n nôl i fis Medi dwytha’ i gychwyn. Croesawu aelodau’n ôl gyda noson o gemau i ddod i ‘nabod eu gilydd a chofio pwy oedd pwy ar ôl gymaint o amser ar wahan. Yn dilyn y noson agoriadol mi gawson ni ystod eang o nosweithiau clwb, megis noson Taskmaster, ymweliad i Menai Jerseys gyda Chlwb  Caernarfon  a  noson  chwaraeon  ym  Mhlas  Silyn.  Daeth  llwyddiant gyda’r Eisteddfod ar y 23ain o Hydref i un o’n haelodau wrth iddi gipio’r gadair, llongyfarchiadau mawr Elan Mair. Gorffennodd y cystadlu a daeth y clwb yn 3ydd. Mae’r clwb hefyd yn falch iawn o Leisa a fuodd yn cynrychioli’r sir yn Eisteddfod Cymru ym mis Tachwedd gan gipio’r wobr gyntaf yn yr unawd dan 16 ac ail yn yr unawd alaw werin. 

Mae’r holl gystadlu ‘ma yn waith caled, ac felly ffarwelion ni gyda 2021 wrth ddathlu ein llwyddiannau gyda gem o AirSoft a phitsa yn Crasu yn y parti Nadolig. 

Ymlaen a ni i 2022 a gyda blwyddyn newydd daeth mwy o nosweithiau di-ri gan gynnwys noson Sion a Sian, ymweld a Thy’n Llan a Coffi Poblado. Gyda blwyddyn newydd death newid i’n clwb hefyd, bu Gwen i roi’r gorau i fod yn gadeirydd ar ôl sawl blwyddyn o weithio’n ddiflino – a hoffwn gymryd y cyfle yma  i  ddiolch  iddi  unwaith  eto  am  yr  holl  waith.  Gyda  dim  cadeirydd swyddogol i gymryd ei lle, bu i’r swyddogion lenwi y twll, a hoffwn ddiolch yn fan hyn i Gwen ac i Elin am ateb yr holl gwestiynna twp gen i, ac yn parhau i wneud hyd heddiw. 

Nid yw’n ddrwg o beth bod ganddom ambell I aelod siaradus pan mae’n dod i’r gystadleuaeth Siarad Cyhoeddus, llongyfarchiadau i’r tim dan 14 am ddod yn ail, ac i’r tim dan 16 am ddod yn ail hefyd. Bu Anni  a Lucy yn cynrychioli’r sir yng nghystadleuaeth Siarad Cyhoeddus Cymru. 

Gyda ‘chydig o nosweithiau clwb ar ôl cyn ymarferion y rali, croesawom ni ffotograffydd lleol atom, noson gyda sefydliad y DPJ ac trafod y syniad o Hwb Bwyd ym Mhenygroes gyda’r Orsaf. 

A gyda hynny, roedd hi’n Fis Mai. Gyda phrysurdeb y rali yn cicio off roedd hi’n  syth  i  fewn  i  ymarferion  canu  a  dawnsio,  peintio,  coginio,  gwneud gwisgoedd a phob dim yn y canol. Chwip o rali oedd hi hefyd felly diolch i glwb y Rhiw am ei chynnal a’i wneud yn un mor dda. Daeth y clwb yn wythfed ar y diwedd y cystadlu. 

Bu’r criw canu i lawr yn y Sioe Frenhinol yn cystadlu yng nghanol y gwres 



mawr. Diolch i glwb Llangybi am roi menthyg gwisgoedd i ni ddefnyddio – er i’n aelodau bron iawn feddalu ynddyn nhw. 

Yn y pwyllgor blynyddol ar yr 8fed o Fehefin, fe penodwyd fi ac Elen yn gadeiryddion y clwb a ‘so far so good’ fel maent yn ddweud. Fe gymron ni fantais ar y grant haf o hwyl gan Llywodraeth Cymru i gynnal ein noson agoriadol ar fferm Lleuar yn Llanllyfni gan gynnal gem o rownderi a barbeciw. Hyd yn hyn mae tua pymtheg o aelodau newydd wedi cychwyn gyda’r clwb ac felly ‘da ni’n edrych ymlaen am beth sydd gen y flwyddyn nesa’ i’w gynnig i’n clwb ni. 

Hoffwn  orffen  yr  adroddiad  drwy  ddiolch  a  dymuno  pob  lwc  i’r  holl swyddogion sy’n cael ei ethol heno, a dwi’n siwr erbyn diwedd y flwyddyn mi fyddwch chi ‘di cael llond bol o weld fy enw i’n poppio fyny ar eich ffôn yn gofyn mwy o gwestiyna twp! 

## Diolch yn fawr 

 **Sallie Roberts ar ran CFFI Dyffryn Ogwen.** 

Dechreuodd y clwb nol ym mis Medi 2021 ar ôl be oedd yn teimlo fel amser maith ers cynnal noson.  Gyda’r hen griw yn ôl ac ambell i wyneb newydd. Cafwyd helfa drysor i ddechrau a orffennodd yn Ty Newydd, Llandegai  am barbeciw. 

Yn ystod y flwyddyn cynhaliwyd nifer o nosweithiau difyr yn cynnwys gemau gwirion , ymweld â Fferm Menai Jerseys, noson ffilm a Elen o Sefydliad DPJ. 

Mwynhaodd yr aelodau gystadlu yn y Ffair Aeaf, Siarad Cyhoeddus, Barnu a’r Rali.  Llongyfarchiadau i’r rhai gafodd lwyddiant a diolch iddynt am fynd i gynrychioli’r Sir yng Nghymru. 

Ar ôl prysurdeb y flwyddyn buom ddigon ffodus i westeio ymwelydd tramor – Peter o Ogledd Iwerddon yn ystod mis Gorffennaf.  Bu’n aros gyda teulu Griffith yn Bethesda a cafwyd ychydig o ddyddiau da yn ei gwmni. Ymwelwyd a ffermydd lleol, Sir Fôn a Sarn. Bu hefyd yn cerdded mynydd gyda rhai o’r aelodau.  Diolch yn fawr iawn i deulu Griffith am adael i Peter aros efo nhw ag i Awel, Betsan, Meilir a Sallie am fod yn gyfrifol amdano. 

Yn olaf, hoffaf ar ran Clwb Dyffryn Ogwen ddiolch i bawb sydd wedi helpu’r clwb yn ystod y flwyddyn hon.  Diolch mawr i’r Arweinyddion – Cari a Geraint am gadw trefn arnom.  Diolch arbennig hefyd i swyddogion a staff sirol am eu gwaith caled drwy’r flwyddyn. 

Bob lwc i bawb am y flwyddyn nesa. 

Diolch yn fawr iawn. 



 **Miriam Williams ar ran CFFI Godre’r Eifl.** 

Dyma  ni  ar  drothwy  blwyddyn  brysur  arall  i  aelodau  Clwb  Godre’r  Eifl. Blwyddyn o gymdeithasu, cystadlu a digonedd o hwyl. 

Cyn cychwyn edrych yn ôl ar y flwyddyn ddiwethaf, hoffem diolch i Ffermwyr Ifanc Eryri am gynnal digwyddiadau rhithiol yn ystod y clo mawr. Cawsom Eisteddfod a Rali rithiol, cyfres o sgyrsiau addysgiadol dros Zoom, ac ni allwn chwaith anghofio am y sialens _toilet roll_ ! Yn sicr fe wnaeth y digwyddiadau hynny godi ein calonnau yn ystod cyfnod heriol iawn. 

Daeth Clwb Godre’r Eifl ynghyd am y tro cyntaf ers Clo Mawr Mawrth 2020 ym mis Medi 2021, a hynny mewn parti yn fferm Tanrallt, Efailnewydd. Daeth aelodau newydd, presennol yn ogystal â chyn-aelodau ynghyd i ddiolch yn fawr i Ann a Gwyndaf am dros ddeng mlynedd o wasanaeth fel arweinwyr Clwb Godre’r Eifl. Mwynhasom wledd fendigedig wedi’i pharatoi gan Caffi Ni, Nefyn  ac  roedd  Rhodri  ein  Is-gadeirydd  wedi  trefnu  gemau  hwyliog  i ddiddanu pawb. Hoffem gymryd y cyfle hwn i ddiolch yn fawr unwaith eto i Ann a Gwyndaf am eu  gwaith diflino a’u  hymroddiad  dros yr holl flynyddoedd. Yn sicr, mae’r flwyddyn gyntaf hon o nosweithiau clwb heb eu harweiniad a’u cwmni wedi teimlo yn chwithig iawn ar brydiau. 

Mor braf oedd plethu’r hyn oedden ni wedi ei ddysgu yn y cyfnod clo i mewn i’r flwyddyn ddiwethaf drwy gynnal digwyddiadau wythnosol. Roedd llawer o’r digwyddiadau wyneb yn wyneb megis helfa drysor ceir ac ymweliad i Siop Fferm Abersoch, ac eraill yn rhithiol, fel cwis doniol iawn yng nghwmni Dewi pws a’i wraig, Rhiannon. 

Fel  pob  blwyddyn  arall,  mae’r  flwyddyn  ddiwethaf  wedi  bod  yn  llawn  o gystadlu brwd. Diolch yn fawr iawn i bawb sy’n dod atom yn wirfoddol i’n hyfforddi ar gyfer cystadlaethau’r flwyddyn gan gynnwys Enid Evans, Arwyn, Rhian ac Elen gyda’r Eisteddfod heb anghofio Dewi Tŷ Corniog gyda’r barnu a’r Rali. Hoffwn hefyd ddiolch i rieni a theuluoedd yr aelodau am helpu i feddwl am syniadau ar gyfer cystadlaethau ac am ddanfon pawb i’r holl ymarferion! 

Ond yn fwy na hynny, mae’r diolch mwyaf yn mynd i’r aelodau gweithgar sydd wedi serenu dros y flwyddyn ddiwethaf! Er fod aelodaeth y clwb wedi lleihau yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r aelodau wedi bod yn llwyddiannus ym mhob cystadleuaeth sirol eleni. Daeth sawl tarian i ofal y clwb am y flwyddyn gan gynnwys rhai am ddod yn ail yn yr Eisteddfod ac am waith celf a chrefft yn y Rali. Rydym hefyd yn falch iawn o dderbyn Tlws Brwdfrydedd y Sir eleni am y clwb oedd wedi casglu’r mwyaf o farciau mewn cyfartaledd gyda nifer yr aelodau. Diolch yn fawr iawn i’r holl aelodau, a llongyfarchiadau! 

Hoffai’r clwb hefyd longyfarch pawb a fu’n cystadlu dros y flwyddyn ac yn enwedig i glwb Llangybi am fod yn fuddugol yn yr Eisteddfod, ac i glwb Y 



Rhiw am fod yn llwyddiannus yn eu Rali llewyrchus dros ben! 

Yn ystod y flwyddyn, bu i’r clwb godi arian ar gyfer elusennau pwysig iawn: The DPJ Foundation, Awyr Las ac Tir Dewi. Mae hyn yn dilyn penderfyniad Meinir, Cadeirydd y Sir i god arian i Mind a DPJ Foundation fel rhan o’i her. Wrth gwrs, roedd yr aelodau a thrigolion yr ardal yn awyddus iawn i gefnogi’r elusennau  hyn  yn dilyn  sawl  trychineb  lleol,  ac rydym  dal  i  gofio  am  y teuluoedd hynny heddiw. 

Daeth Clybiau Porthdinllaen, Llangybi a ninnau at ein gilydd er mwyn cynnal taith  tractors  er  budd  yr  elusennau  hyn.  Llwyddom  i  godi  £3750.00  i’w rannu’n gyfartal rhwng y tri elusen. Unwaith yn rhagor, hoffwn ddiolch i’r gymuned  gyfan  am  ddod  i’n  cefnogi  –  y  110  dreifar  tractor,  yr  holl passengers,  pawb  ddaeth  i  gefnogi  ar  y  dechrau  ac  i  bawb  oedd  wedi ymgynnull  ar  hyd  y  daith  i  weld  y  tractors  yn  mynd  heibio.  Ni  fyddai’r diwrnod wedi bod yn lwyddiant oni bai am garedigrwydd Haydn a’i staff yn Wynnstay, Ela a’i thim yn Oinc Oink, Glyn Bryn Mawr am ei gymorth, Arwel Gilfach am ei gynghor ac Enlli, Gwen a Huw am dynnu lluniau gwerthfawr. Diolch i’n noddwyr, ac i pawb oedd wedi dod allan ar ddiwrnod poeth ym mis mai ar gyfer tair elusen hynod arwrol. 

Teimla’r clwb fod gefnogaeth Cyngor Gwynedd wedi bod yn allweddol ar gyfer ail-gychwyn cyfarfod yn llwyddiannus. Dros y flwyddyn diwethaf rydym wedi gallu mynd i fowlio yn Glasfryn a chael pryd o fwyd yno ac hefyd mynd i Bounce Below gyda chinio dydd Sul yn Grapes Maentwrog (ar y ffordd adra) fel  rhan  o’u  grant  Gaeaf  Llawn  Lles  a  Haf  o  Hwyl.  Rydym  yn  hynod  o ddiolchgar i’r Cyngor a’r Ffederasiwn am £500 ar ddechrau’r flwyddyn hon eto. Rydym wedi llwyddo i ddenu aelodau newydd drwy gynnal noson gemau a pitsa, ac hefyd wedi prynu esgidiau addas ar gyfer y gystadleuaeth tynnu rhaff gyda’r arian yma. Diolch yn fawr iawn iddyn nhw! 

Hoffem fel swyddogion longyfarch Elin am ei gwaith caled a’i chefnogaeth gwerthfawr fel Swyddog Cefnogol y sir. Ni allwn chwaith gloi ein hadroddiad heb ddiolch o galon i gyn-drefnydd y sir, Eleri a’i hysgrifenyddes, y diweddar Elin, am flynyddoedd o wasanaeth amhrisiadwy i’r mudiad. 

Dymuniadau gorau am y flwyddyn nesaf, mae hi’n siwr o fod yn un cofiadwy arall! 

##  **Lora Jen Pritchard ar ran CFFI Llangybi.** 

Ar ôl bwlch o ddwy flynedd, roedd y cyffro o ddod nôl i'r drefn yn dew. Fis Medi, 2021, oedd fy mlwyddyn gyntaf i fel aelod yng Nghlwb Llangybi, ac am chwip o flwyddyn oedd hi! 

O  ymweld  â  Fferm  Crugeran,  i  ddringo  yng  Nghanolfan  Beacon,  cafwyd amrywiaeth  o  nosweithiau  yng  nghalendr  blynyddol  y  clwb.  Mae  Clwb Llangybi yn gwerthfawrogi amser ac ymdrech pob ymwelydd, teulu a chwmni 



a  gytunodd  i  gynnal  noson  â  ni.  Rydym  yn  lwcus  iawn  o  barodrwydd busnesau a thalentau lleol i rannu eu straeon a'u profiadau. 

Buan iawn y daeth mis Hydref, a'r Eisteddfod yn nesáu. Wedi'r ymarferion ddarfod, balch iawn oedd cael dod ar darian yn ei hôl i Gapel Pencae. Fis Tachwedd, aeth criw ohonom i lawr i Bont Rhyd Fendigaid i gystadlu ar ran y Sir, ac am deimlad oedd cael cynrychioli Llangybi ar lwyfan Cymru am y tro cyntaf! 

Drwy  gydol  y  flwyddyn  bu  i  aelodau  Llangybi  gystadlu  mewn  llu  o gystadlaethau. O farnu yn y Ffair Aeaf, i farnu ar Fferm Nanhoron cyn y Rali. Noson  bwysig  yng  nghalendr  y  clwb  eleni  oedd  y  gystadleuaeth  Siarad Cyhoeddus. Gyda Cynwal yn dwyn teitl Aelod Iau y Flwyddyn, a sawl aelod o Langybi yn ennill ac yn mynd ymlaen i gystadlu yn Llanelwedd, roedd y digwyddiad hwnnw yn un i'w  drysori  eleni.  Hefyd  bu i dri aelod ifanc o Langybi ddod yn drydydd yng nghystadleuaeth Ffensio y Ras Aredig. Rydan ni'n teimlo'n hynod o lwcus o gael y fath amrywiaeth o gyfleoedd ar hyd y flwyddyn, ac yn aelodau balch o Ffederasiwn Eryri o'u hachos. 

Rhywbeth a fu'n sioc mawr i ni fel clwb eleni, oedd dod yn ail yn yr Rali. Fel clwb sydd ddim yn hanesyddol gryf yng nghystadlaethau'r Rali, roedd hyn yn destament fod gwaith caled a brwdfrydedd aelodau yn talu ar ei ganfed. Diolch i Glwb y Rhiw am gynnal diwrnod i'w drysori. 

A thra'n sôn am drysor, Cadeirydd y Sir eleni oedd Meinir Bryn Mawr. Un o'r aelodau mwyaf triw a gweithgar sy'n bod. Rydym mor eithriadol o falch ohonot  ti  Meinir,  ac  yn  gobeithio  fod  gweddill  y  Sir  wedi  cydnabod  dy gyfraniad amhrisiadwy di dros y flwyddyn diwethaf. 

Amhosib yw enwi pob digwyddiad y Ffermwyr Ifanc ers Medi 2021. Ond does dim amheuaeth fod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un o'r rhai mwyaf llwyddiannus a chofiadwy i Glwb Llangybi ers talwm iawn. 

Ar ran holl aelodau Clwb Ffermwyr Ifanc Llangybi, hoffwn ddiolch yn ddiffuant i Elin, Gwen a Meinir sydd wedi gweithio'n ddi-flino tu ôl i'r llenni i sicrhau blwyddyn  brysur,  diddorol  a  chyffrous  i  holl  aelodau  Eryri.  Ac  edrychwn ymlaen at y flwyddyn brysur sydd o'n blaenau. 

##  **Dylan Roberts ar ran CFFI Llanrwst.** 

Braf oedd sôn am gyfarfod eto ym mis Medi 2021 gan ddechrau’r flwyddyn gyda  barbeciw.  Nid oedd  yn gychwyn  delfrydol  gan nad  oedd  llawer  o’r aelodau iau yno oherwydd eu bod yn gorfod hunanynysu! Er hynny, roedd niferoedd da wedi bod yn dod i’r clwb wrth i ni gyfarfod bob pythefnos i ddechrau ac yna yn wythnosol. Er na wnaethom allu cynnal parti Nadolig eleni oherwydd y sefyllfa Covid, roed parti Pasg i wneud iawn am hynny! 

Rydym wedi bod yn brysur yn cystadlu eleni hefyd. Bu’r clwb yn llwyddiannus iawn yn y Ffair Aeaf sirol, lle’r oedd sawl aelod yn 1af, 2il a 3ydd, ac wedyn 



ar lefel Cymru yn y Ffair Aeaf yn Llanelwedd, lle cafodd Arthur a Robin, Tyddyn Du, 1af am farnu gwartheg cigyddion. Cafwyd llwyddiant yn y Siarad Cyhoeddus, gydag un tîm dan 16 yn fuddugol a’r tîm dan 28 yn 2il. Roedd cynrychiolaeth dda yn mynd ymlaen i gystadleuaeth Cymru hefyd. Llongyfarchiadau i bawb! Roedd criw gweithgar hefyd wedi bod yn paratoi at y Rali yng Ngwythrian, a thalodd hynny i’r clwb wrth inni gael 3ydd. 

Mae criw addawol wedi dod ynghyd yn barod at eleni mewn noson groesawu ac rydym yn edrych ymlaen at flwyddyn brysur arall. 

##  **Gethin Wynne ar ran CFFI Rowen.** 

Wel ella ni gyd cytuno mar flwyddyn diwethaf wedi hedfan !! A braf oedd cael y ffermwyr ifanc yn dol ar ôl gyfnod pryderus yn ysgil covid . 

Gafodd  ni  noson  ysgafn  croesawu  aelodau  yn  ty  Gwyn  noson  Hynod  o llwyddiannus dros Ben gyda ein aeloda wedi dyblu !! 

Mae’r clwb wedi cystadlu dipyn o weithgareddau y sir megis yr eisteddfod y ffair aeaf , barnu stoc ac yr rali i enwi rhai , a rhai or clwb d bod yn cystadlu yn y ffair aeaf yn Llanelwedd , a rhai wedi bod lawr yn y sioe frenhinol hefyd yn cystadlu. 

Mae hi wedi bod yn bleser i cael enwau i mewn i cystadlaethau sir , gan fod pawb yn barod i rhoi enwau i mewn sydd yn neud gwaith yr aelodau hun yn clwb dipyn haws , ond ma ne ddiolch mawr yn mYnd i Mari sydd wedi bod yma i barod ein helpu ni hefo Yr eisteddfod helpu hefo y diwrnod oedd y clwb yn gwneud bwyd yn open gardens Rowen ac ein helpu hefo cystadlaethau rali , hefyd ma ne ddiolch mawr yn mynd i Ieu hefo tynnu rhaff gan rhoi eu amser 2-3 noson yr wythnos i hyfforddi ac i criw dyffryn Ogwen aeth ymuno a ni i greu tim tynnu rhaf hun. 

Mae angen llongyfarch clwb y rhiw am gynnal chwip o rali Mae na ddiolch mawr yn mynd ir rhieni a ffrindiau y sydd wedi bod yn helpu hefo y clwb. 

Mae yna ddiolch yn mynd i Meinir a Gwen ar swyddogion y sir sydd wedi bod yn rhedeg y sir am gyfnod heb trefnydd neu swyddog cefnogi sir . 

Ac yn olaf Diolch i Elin ein swyddog cefnogi sydd wedi bod mor barod i helpu bob amser Diolch 

##  **Robat Thomas ar ran CFFI Y Rhiw.** 

Cynhaliwyd y  noson agoriadol yn Glampio Coed, Rhoshirwaun. Braf iawn oedd  cael  ymgynnull  eto  wedi’r  fath  amser  a  braf  iawn  hefyd  croesawu wynebau newydd. Cafwyd noson hwyliog dros ben a pizzas bendigedig! 

Cafwyd nosweithiau difyr o Fedi dan y Nadolig gan gynnwys noson ddifyr yng nghwmni Euros Hughes yn cynnal helfa drysor drwy fap. Cawson hefyd noson gystadleuol yn Bowlio 10 Glasfryn ac yna noson yng nghwmni’r arwerthwr 



Huw  Myfyr.  Roedd  pawb  wedi  mwynhau  cael  cyfle  i  brisio  ond  efallai  y byddai’n well gadael y prisio i Huw! Braf iawn oedd cael croesawu Mathew Penllech Bach atom i gynnal sgwrs ddifyr am y diwydiant godro a’i fenter newydd – Garej Ni, Sarn. Fe wnaeth Lois gynnal noson ddifyr i n hefyd eto gwelwyd ysbryd cystadleuol iawn yr aelodau. 

O  fis  Ionawr  i  Fawrth  cafwyd  eto  nosweithiau  difyr.  Gwelwyd  ysbryd cystadleuol eto mewn noson hwyliog dros  ben a gynhaliwyd gan Meinir, Cadeirydd y Sir. Buom yn ffodus hefyd i fanteisio ar nawdd Gaeaf Llawn Lles drwy gael noson yn Beacon Climbing yng Nghaernarfon. Roedd pawb wedi mwynhau yn arw gyda rhai wedi wynebu eu hofnau. Yn sicr, uchafbwynt arall oedd noson yng nghwmni Lowri o’r elusen DPJ yn codi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl. Cafwyd noson ddifyr iawn yn Siop Fferm Abersoch gyda Sion yn dysgu am fenter lwyddiannus. Nosweithiau difyr eraill oedd dysgu am wenynod gan John  Bwlch Ffordd ac ail ymweld a Colin Cae Hen i weld Cwch Enlli wedi ei chwblhau. 

O hynny ymlaen, ymarfer a pharatoi at y Rali fu’r Clwb. 

Diolch yn fawr i Glesni Talsarn am ein harwain dros y flwyddyn ddiwethaf. Rydym yn hynod ddiolchgar iddi am ein cefnogi a’r ymroddiad i’w clwb a'r aelodau. 

##  **Elenid Alun ar ran CFFI Ysbyty Ifan.** 

Er mwyn dechrau dod nol i rhyw fath o ‘swing’ cawsom bwyllgor blynyddol ym Mis Medi, ac ethol swyddogion newydd i’r clwb. Penderfynwyd cynnal clwb bob pythefnos  am  y  tro er mwyn ceisio dod nôl i  arferiad a  denu aelodau newydd.  Dechreuwyd y flwyddyn yn agos at adref ar fferm Pennant, Ysbyty Ifan. Pawb gyda’i frwsh paent yn ei law ar gyfer noson fach hwyliog o beintio  giatiau  ar  gyfer  Sioe  Gwn  Ysbyty  Ifan.  Cawsom  dêc  awê  bach  i groesawu pawb yn ôl i’r clwb – yn aelodau hen a newydd . Noson hwyliog arall mae pawb yn ei mwynhau yw noson Helfa Drysor. Diolch yn fawr iawn i Sioned Pennant am drefnu yr helfa i ni eleni. Er fod yna ambell gar wedi mynd y ffordd anghywir ac heb ddarllen y cyfarwyddiadau yn iawn,  braf iawn oedd cael diweddu y noson yn saff yn y neuadd a chael pitsa blasus gan Alun Tan Lan i lenwi’n boliau. 

Daeth yn gyfnod dechrau ymarfer ar gyfer y Steddfod nesa, a chyfle i ganu o’r diwedd wrth baratoi i gystadlu ym Mhorthmadog. Llongyfarchiadau mawr i Llangybi am ennill yr Eisteddfod eleni. 

Braf hefyd oedd cael ail gydio yn y barnu ar gyfer y ffair Aeaf a chael cyfle am drip i Lanelwedd i farnu carcas. Diolch i Hefin Bryn Ddraenen a Guto Carreg y Fran am bob cymorth gyda’r paratoadau. 

Un o uchafbwyntiau’r flwyddyn yw cael cystadlu yn y Siarad Cyhoeddus yng Nghaernarfon. Diolch o galon i Mari Carreg Y Fran am ein helpu unwaith eto 



eleni. Braf iawn oedd cael llwyddiant gyda’r ddau dîm  siarad cyhoeddus a llongyfarchiadau i bawb aeth ymlaen i Lanelwedd i gystadlu. 

Cawsom noson ddiddorol iawn ddechrau Ionawr yng nghwmni Trefor, Ceir Cymru yn garej Glasfryn,  a noson gan elusen DPJ yn Neuadd  Sbyty yn hwyrach yn y tymor.  Ymhlith gweddill gweithgareddau’r tymor roedd parti Nadolig hwyr yn Surf Snowdonia, noson ysgafn o chwarae gemau bwrdd ac yfed siocled poeth, a noson o goginio a mwynhau crempogau blasus iawn! Croesawyd Meinir,  Cadeirydd y Sir i’r clwb a chafwyd noson  llawn hwyl a gemau  gwirion.  Yn  ddiweddar  cawsom  wahoddiad  i   ymuno  gyda  Clwb Uwchaled a Chwmtirmynach yn Ysgol Cerrig y drudion, a chael noson hwyliog iawn yno yng nghwmni Sian Pentre Draw. 

Prysurdeb mawr wrth gychwyn paratoit y Rali yn Gwrthian. Pawb wedi cyffroi yn lan, ac yn falch iawn o gael y rali yn nol. Sbyty wedi dod yn bumed a phawb wedi mwynhau eu diwrnod, diolch yn fawr i glwb y Rhiw am westeio. Rhai wedi cael llwyddiant, ac wedi bod lawr yn sioe fawr Llanelwedd. Clwb Syty  hefyd  wedi  bod  yn  brysur  yn  gwesteio  Peter  o  Iwerddon  ac  wedi mwynhau ei gwmni yma. 

Rydym yn edrych mlaen am flwyddyn llawn hwyl eto flwyddyn yma. A diolch o galon i’r aelodau i gyd am eu gwaith, er mwyn cynnal y clwb, ac hefyd i staff y sir am eu cefnogaeth. 

- Ni chafwyd adroddiad gan CFFI Porthdinllaen. 

*Mae copiau o’r holl adroddiadau wedi eu hatodi. 

## **12 ETHOL SWYDDOGION Y MUDIAD am 2022/2023** 

## **.** 

## **a. Llywydd** 

- Cynigiodd  Manon  Puw,  Dyffryn  Madog  Geraint  Puw,  Dyffryn  Madog  ac eiliodd Lois Elan Jones, Dyffryn Nantlle. Ni ddaeth unrhyw gynnig arall i law. 

## **b. Is Lywydd** 

- Cynigiodd Lois Glyn Jones, Y Rhiw Huw Thomas, Meillionnydd ac eiliodd Miriam Williams, Godre’r Eifl. Ni ddaeth unrhyw gynnig arall i law. 

## **c. Cadeirydd** 

- Cynigiodd Elen Williams, Dyffryn Nantlle Gwen Thomas, Dyffryn Nantlle ac eiliodd Lora Jen Pritchard, Llangybi. Ni ddaeth unrhyw gynnig arall i law. 

## **Ch. Is-Gadeirydd** 

- Cynigiodd  Non  Griffith,  Caernarfon  Sioned  Wyn  Jones,  Caernarfon  ac eiliodd Glesni Lewis, Dyffryn Nantlle. Ni ddaeth unrhyw gynnig arall i law. 

## **d. Trysorydd ac Is Drysorydd** 

- Cynigiodd Meinir Owen, Llangybi Elin Jones, Godre'r Eifl yn Drysorydd a Glesni  Jones,  Dyffryn  Nantlle  yn  Is  Drysorydd,  eiliodd  Gwen  Thomas, Dyffryn Nantlle. Ni ddaeth unrhyw gynnig arall i law. 



## **13 CADARNHAU CYFANSODDIAD AC YMDDIRIEDOLWYR Y MUDIAD** 

- **.** Cynigiodd Gwen Thomas, Dyffryn Nantlle bod y canlynol yn gweithredu fel ymddiriedolwyr y Mudiad am y flwyddyn 2022/2023: 

   - CFFI Caernarfon: Sioned Jones a Non Griffith 

   - CFFI Dyffryn Madog: Dafydd Parry ac Erin Roberts 

   - CFFI Dyffryn Nantlle: Lois Elan Jones ac Elen Williams 

   - CFFI Dyffryn Ogwen: Iwan Harper a Betsan Griffith 

   - CFFI Godre'r Eifl: Manon Jones a Rhodri Jones 

   - CFFI Llangybi: Siwan Owen a Robin Pari 

   - CFFI Llanrwst: Arthur Williams a Dylan Roberts 

   - CFFI Porthdinllaen: Beca Dobson 

   - CFFI Rowen: Elliw Newsham a Heledd Williams 

   - CFFI Y Rhiw: Lora Thomas a Sera Griffiths 

   - CFFI Ysbyty Ifan: Elenid Alun a Marged Alun 

   - Llywydd: Geraint Puw 

   - Is Lywydd: Huw Thomas 

   - Cadeirydd a Chadeirydd Pwyllgor Hyfforddiant: Gwen Thomas 

   - Is-Gadeirydd: Sioned Wyn Jones 

   - Trysorydd: Elin Jones 

   - Cadeirydd Pwyllgor Cyllid a Staffio: Miriam Williams 

   - Cadeirydd Pwyllgor Rali: Erin Roberts a Manon Puw 

   - Aelod Hyn: Iwan Harper 

   - Aelod Iau: Lora Jen Pritchard 

   - Cadeirydd Pwyllgor Eisteddfod: Gronw Ellis Griffith 

Eiliodd Meinir Jones, Llangybi y cynnig. 

Ni chafwyd cynnig arall a chytunodd pawb. 

## **14 TÂL AELODAETH** 

- **.**  Nodwyd bod lefi tâl aelodaeth CFFI Cymru yn £18 eleni. 

   - Nodwyd bod y Pwyllgor Gwaith wedi pleidleisio i gadw lefi tâl aelodaeth CFFI Eryri'r un fath am eleni ac felly bydd £25 o dâl aelodaeth yn ddyledus i’r Sir eleni. 

   - Cynigiodd Glesni Jones, Is Drysorydd ac eiliodd Gwen Thomas, Dyffryn Nantlle. 

   - Ni chafwyd unrhyw gynnig arall. 

## **15 CYFLWYNO TLYSAU 2021-2022 .**  **Tarian Goffa Llinos Owen:** Llangybi 

- **Cwpan W.J.Owen:** Llangybi 

- **Tlws Hafod y Llan:** Rowen 

- **Tlws Hwsmon Iau’r Flwyddyn:** Alaw Morgan, Caernarfon 



- **Tlws Stocmon y Flwyddyn:** Bedwyr Jones, Caernarfon 

- **Cwpan Barhaol Bob Parry:** Caernarfon 

- **Tlws y Flwyddyn:** Llangybi 

- **Tarian Henblas:** Godre’r Eifl 

- **Tarian Catherine Rhian** : Llangybi 

## **16 UNRHYW FATER ARALL** 

- **.**  Eglurodd Elliw Owen bod yr Ambiwlans Awyr yn ystyried cau eu safle yn Dinas Dinlle ac adleoli’r gwasanaeth i Lanelwy. Gofynnodd wrth yr aelodau i arwyddo deiseb yn gwrthwynebu’r bwriad. 

## **16 DIOLCHIADAU** 

**.** Talodd Gwen Thomas, Is Gadeirydd y Sir y diolchiadau. 

Diolchodd i’r canlynol, 

- Mr Geraint Roberts, Llywydd y Sir 

- Elin Jones a Glesni Lewis, Trysorydd ac Is Drysorydd y Sir 

- Cadeiryddion, Is Gadeiryddion ac Ysgrifennyddion yr holl Bwyllgorau 

- Y Clybiau a’i Swyddogion 

- Y Newborough Arms, Bontnewydd 

- Pob Beirniad, Stiward a Chefnogwr 

- Elin Jones, Swyddog Cefnogi’r Sir 

- Meinir Jones, Cadeirydd y Sir 

## Daeth y cyfarfod i ben am 20:30. 



## **ATODIAD 1: MANTOLEN** 

## **CLYBIAU FFERMWYR IEUAINC ERYRI GWERTH Y FFEDERASIWN AR MEHEFIN 30ain 2022** 

Cyfrif Cyfredol _(NATWEST)_ £4,314.22 Cyfrif Cadw _(NATWEST)_ £0.00 Cyfrif Clwb 200 _(NATWEST)_ £1,352.00 Cyfrif Tripiau _(NATWEST)_ £0.00 Cyfrif Cyfredol _(HSBC)_ £37,167.51 Cyfrif Cadw _(HSBC)_ £63,100.77 Cyfrif Tripiau _(HSBC)_ £646.30 Cyfrif Hyfforddiant _(HSBC)_ £6,353.49 **Cyfanswm £ 112,934.29** 

(Gwerth y Ffederasiwn ar Mehefin 30ain 2021 = £86,237.70) 



## **MANTOLEN AM Y CYFNOD YN DIWEDDU MEHEFIN 30ain 2022** 


**----- Start of picture text -----**<br>
Cyfrif Cyfredol Natwest 15500039<br>DERBYNIADAU TALIADAU<br>£ £<br>Yn y Banc Gorffennaf 1af 2021 6,212.06<br>Swyddfa 0.00 449.68<br>Llungopiwr 0.00<br>1,448.16<br>Grant Gaeaf Llawn Lles - Cyngor  1,062.50<br>0.00<br>Gwynedd<br>0.00<br>1,062.50<br>Trosglwyddo’r grant uchod i’r<br>Cyfrif Cyfredol HSBC<br>Yn y Banc Mehefin 30ain 2022 4,314.22<br>CYFANSWM 7,274.56 7,274.56<br>TRYSORYDD: ___________________________________________________<br>Elin Owen Jones<br>**----- End of picture text -----**<br>


**Archwilwyd a cadarnhawyd yn gywir yn unol gyda’r wybodaeth a roddwyd** 

**ARWYDDWYD:___________________________________________________ Glesni Jones Is-drysorydd CFFI Eryri** 




## **CLYBIAU FFERMWYR IEUAINC ERYRI** 


## **MANTOLEN AM Y CYFNOD YN DIWEDDU MEHEFIN 30ain 2022** 

## **Cyfrif Cadw Natwest - 15511588** 


**----- Start of picture text -----**<br>
DERBYNIADAU TALIADAU<br>£ £<br>Yn y Banc Gorffennaf 1af 2021 0.00<br>Trosglwyddo i’r Cyfredol Natwest 0.00<br>Llôg<br>0.00<br>Yn y Banc Mehefin 30ain 2022 0.00<br>CYFANSWM 0.00 0.00<br>**----- End of picture text -----**<br>



**----- Start of picture text -----**<br>
TRYSORYDD: ___________________________________________________<br>Elin Owen Jones<br>**----- End of picture text -----**<br>


**Archwilwyd a cadarnhawyd yn gywir yn unol gyda’r wybodaeth a roddwyd** 



## **ARWYDDWYD:___________________________________________________** 

## **Glesni Jones Is-Drysorydd CFFI Eryri** 



# **CLYBIAU FFERMWYR IEUAINC ERYRI** 

# **MANTOLEN AM Y CYFNOD YN DIWEDDU MEHEFIN 30ain 2022** 

**Cyfrif Clwb 200 Natwest – 15500063** 


**----- Start of picture text -----**<br>
DERBYNIADAU TALIADAU<br>£ £<br>Yn y Banc Gorffennaf 1af 2021 45.00<br>Tal Aelodaeth 1,712.00<br>**----- End of picture text -----**<br>




|Gwobrau 2021-22<br>Trosglwyddo i’r Cyfredol HSBC<br>Yn y Banc Mehefn 30ain 2022||390.00<br>15.00<br>1,352.00|
|---|---|---|
|**CYFANSWM**|**1,757.00**|**1,757.00**|
|**TRYSORYDD: ___________________________________________________**<br>**Elin Owen Jones**|||



**Archwilwyd a cadarnhawyd yn gywir yn unol gyda’r wybodaeth a roddwyd** 

**ARWYDDWYD:___________________________________________________ Glesni Jones Is-Drysorydd CFFI Eryri** 




## **CLYBIAU FFERMWYR IEUAINC ERYRI** 


# **MANTOLEN AM Y CYFNOD YN DIWEDDU MEHEFIN 30ain 2022** 

## **Cyfrif Tripiau Natwest - 73751073** 


**----- Start of picture text -----**<br>
DERBYNIADAU TALIADAU<br>£ £<br>Yn y Banc Gorffennaf 1af 2021 0.00<br>Trosglwyddo i’r cyfrif Cyfredol  0.00 0.00<br>HSBC<br>0.00<br>Yn y Banc Mehefin 30ain 2022<br>CYFANSWM 0.00 0.00<br>**----- End of picture text -----**<br>


**TRYSORYDD: ___________________________________________________** 

## **Elin Owen Jones** 

## **Archwilwyd a cadarnhawyd yn gywir yn unol gyda’r wybodaeth a roddwyd** 



**ARWYDDWYD:___________________________________________________** 

## **Glesni Jones Is-Drysorydd CFFI Eryri** 


## **CLYBIAU FFERMWYR IEUAINC ERYRI** 


# **MANTOLEN AM Y CYFNOD YN DIWEDDU MEHEFIN 30ain 2022** 

**Cyfrif Cyfredol HSBC - 51846477** 

**DERBYNIADAU TALIADAU £ £** Yn y Banc Gorffennaf 1af 2021 9,782.30 



||Aelodaeth 2021-22<br>Yswiriant 2020-21<br>Cardiau Aelodaeth<br>Rali 2021-22<br>Erwau 2020-21<br>Eisteddfod Sir Eryri<br>Eisteddfod Cymru<br>Ffair Aeaf<br>Siarad Cyhoeddus<br>Noson Codi Ymwybyddiaeth Iechyd<br>Meddwl<br>Noson Garolau’r Sir<br>Pwyllgor Blynyddol<br>Cynghorau Cymuned<br>Parti Nadolig<br>Ras Aredig<br>Rygbi<br>CFfI Cymru – Cynllun Wyn Dunbia<br>Grant Gaeaf Llawn Lles<br>Swyddfa<br>Ff Banc - HSBC<br>Mygiau Iechyd Meddwl<br>Cynllun Ffrindiau<br>Grant Llywodraeth Cymru<br>Gwariant Grant Mantell Gwynedd<br>Cyfraniad NFU tuag at gostau<br>cyfogi<br>Paypal – ‘Easy Funding’<br>CFFI Cymru<br>Costau Teithio|9,400.00<br>0.00<br>0.00<br>34,446.15<br>1,250.00<br>1,413.20<br>265.00<br>0.00<br>0.00<br>281.00<br>179.57<br>0.00<br>500.00<br>1,705.00<br>50.00<br>0.00<br>123.80<br>2,200.50<br>0.00<br>0.00<br>25.00<br>5,330.00<br>7,356.00<br>0.00<br>5,000.00<br>0.00<br>0.00<br>0.00<br>50.00|0.00<br>660.00<br>608.00<br>16,926.54<br>2,685.00<br>1,566.00<br>265.00<br>0.00<br>28.41<br>281.00<br>0.00<br>585.00<br>0.00<br>1,599.00<br>0.00<br>40.00<br>0.00<br>2,090.50<br>2,261.23<br>47.58<br>0.00<br>0.00<br>0.00<br>561.98<br>0.00<br>0.00<br>10.00<br>590.31<br>50.00||
|---|---|---|---|---|






**----- Start of picture text -----**<br>
CFFI Y Rhiw 1,087.21 155.00<br>Cronfa er cof Wyn Griffith,  0.00 125.00<br>Bodlondeb<br>0.00 300.00<br>Hyfforddiant Staff<br>1,512.50 0.00<br>Hysbysebu Swydd<br>15.00 0.00<br>Apêl Wcraen – Cyfraniad Llywydd<br>0.00 15,801.95<br>Trosglwyddo o’r Cyfrif Clwb 200<br>432.78 0.00<br>Cyflog 2021-22<br>2,000.00 0.00<br>Cynllun Furlough<br>Rhent Cool Hire 2022<br>37,167.51<br>Yn y Banc Mehefin 30ain 2022<br>CYFANSWM 84,405.01 84,405.01<br>**----- End of picture text -----**<br>


Yn y banc 30.06.2022 yn ôl y fantolen banc 31,517.01 

## Llai sieciau heb fynd trwy'r banc: 

100041 Gwobr Rali – Ysbyty Ifan (50.00) 100043 Gwobr Rali – Y Rhiw (100.00) Ychwanegu sieciau perthnasol a fanciwyd yng 07/2022 Siec Anfoneb Y Rhiw 698.81 Siec Anfoneb Cool Hire £2,000 Siec Anfoneb Dyffryn Madog £1,701.69 Siec Rhodd Cyngor Cymuned Bontnewydd £200.00 Siec Rhodd NFU i’r Rali £2,000.00 5,101.69 Yn y banc 30.06.2022 37,167.51 



**TRYSORYDD: ___________________________________________________** 

## **Elin Owen Jones** 

## **Archwilwyd a cadarnhawyd yn gywir yn unol gyda’r wybodaeth a roddwyd** 

**ARWYDDWYD:___________________________________________________ Glesni Jones Is-Drysorydd CFFI Eryri** 


## **CLYBIAU FFERMWYR IEUAINC ERYRI** 


# **MANTOLEN AM Y CYFNOD YN DIWEDDU MEHEFIN 30ain 2022** 

**Cyfrif Cadw HSBC 81846612** 

## **DERBYNIADAU** 

**TALIADAU** 



||**£**|**£**|
|---|---|---|
|Yn y Banc Gorfennaf 1af 2021<br>Trosglwyddo o’r Cyfredol HSBC<br>Trosglwyddo i’r Cyfredol HSBC<br>Llog<br>Yn y Banc Mehefn 30ain 2022|63,086.55<br>0.00<br>14.22|0.00<br>63,100.77|
|**CYFANSWM**|**63,100.77**|**63,100.77**|
|**TRYSORYDD: ___________________________________________________**<br>**Elin Owen Jones**|||



**Archwilwyd a cadarnhawyd yn gywir yn unol gyda’r wybodaeth a roddwyd** 

**ARWYDDWYD:___________________________________________________ Glesni Jones Is-Drysorydd CFFI Eryri** 




## **CLYBIAU FFERMWYR IEUAINC ERYRI** 


# **MANTOLEN AM Y CYFNOD YN DIWEDDU MEHEFIN 30ain 2022** 

**Cyfrif Tripiau HSBC - 61846590** 


**----- Start of picture text -----**<br>
DERBYNIADAU TALIADAU<br>£ £<br>Yn y Banc Gorffennaf 1af 2021 676.30<br>Ffioedd Banc<br>30.00<br>Yn y Banc Mehefin 30ain 2022<br>646.30<br>CYFANSWM 676.30 676.30<br>**----- End of picture text -----**<br>


**TRYSORYDD: ___________________________________________________ Elin Owen Jones** 



**Archwilwyd a cadarnhawyd yn gywir yn unol gyda’r wybodaeth a roddwyd** 

**ARWYDDWYD:___________________________________________________ Glesni Jones Is-Drysorydd CFFI Eryri** 

# **CLYBIAU FFERMWYR IEUAINC ERYRI MANTOLEN AM Y CYFNOD YN DIWEDDU MEHEFIN 30ain 2022** 

**Cyfrif Hyfforddiant HSBC - 81846604** 




**----- Start of picture text -----**<br>
DERBYNIADAU TALIADAU<br>£ £<br>Yn y Banc Gorffennaf 1af 2021 6,435.49<br>Trosglwyddiadau i’r HSBC<br>1,699.00<br>Cyfredol *<br>1,649.00<br>Trosglwyddiadau o’r HSBC<br>Cyfredol<br>32.00<br>Ffioedd Banc<br>Yn y Banc Mehefin 30ain 2022<br>6,353.49<br>CYFANSWM 8,084.49 8,084.49<br>**----- End of picture text -----**<br>


* 

Defnyddir llyfr siec y cyfrif hwn yn hytrach na chyfrif Cyfredol HSBC er mwyn gwneud y taliadau canlynol. 

£100.00 – Fflot ariannol Noson Codi Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 

£1,299.00 – Taliad anfoneb Clwb Golff Caernarfon ar gyfer Parti Nadolig y Sir 

£250.00 – Taliad i’r Ganolfan Porthmadog ar gyfer yr Eisteddfod Sirol 

£50.00 – Taliad i’r Ras Aredig 

Mae’r taliadau uchod wedi eu cynnwys o dan y penawadau penodol ym mantolen HSBC Cyfredol am eu bod wedi eu had-dalu oni bai am y £50.00 Ras Aredig sydd yn ddyledus ar ddiwedd y flwyddyn ac yn cael ei dalu’n ol i’r cyfrif yn 2022-23 

* 

## **TRYSORYDD: ___________________________________________________** 

## **Elin Owen Jones** 



## **Archwilwyd a cadarnhawyd yn gywir yn unol gyda’r wybodaeth a roddwyd** 

**ARWYDDWYD:___________________________________________________ Glesni Jones Is-Drysorydd CFFI Eryri** 

