OpenCharities

This text was generated using OCR and may contain errors. Check the original PDF to see the document submitted to the regulator.

2023-07-31-accounts

LLANW

CYFRIFLENNI ARIANNOL

CYFNOD YN DIWEDDU 31 GORFFENNAF 2023

RHIF ELUSEN 1166349

1

LLANW MYNEGAI CYFNOD YN DIWEDDU 31 GORFFENNAF 2023

ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR 3
DATGANIAD O WEITHGARWCH ARIANNOL 7
TAFLEN BALANS 8
NODIADAU I'R CYFRIFON 9
ATODIAD 1 10

2

LLANW ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR AM Y CYFNOD DDAETH I BEN 31 GORFFENNAF 2023

Mae'r Ymddiriedolwyr yn cyflwyno eu hadroddiad a'u cyfr4ifon ariannol am y cyfnod ddaeth i ben 31 Gorffennaf 2023

Gwybodaeth Gweinyddol

Enw'r Elusen Llanw
Rhif Cofrestru'r Elusen 1166349
Cyfeiriad Gweithredol Llechwedd
Llandysul
Ceredigion
SA44 4DT
Ymddiriedolwyr Parch Meirion Morris
Anna Mari Huws
Dr Cynan Dafydd Llwyd
Elin Bryn Williams
Dr Menna Machreth
Dr Alice Charlotte Egerton-Kemp
Dr Heledd Fflur Iago
Celfyn Williams
Parch Hywel Rhys Edwards
Steffan Rhys Morris
Angharad Clwyd Edwards
Emrys Owen
Parch Nan Wyn Powell-Davies
Cadeirydd Parch Meirion Morris
Ysgrifennydd Dr Heledd Fflur Iago
Trysorydd Dr Alice Charlotte Egerton-Kemp
Archwiliwr Mr Huw Aaron
Bancwyr The Co-operative Bank

3

LLANW ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR AM Y CYFNOD DDAETH I BEN 31 GORFFENNAF 2023

Strwythur, Rheolaeth a Llywodraethiad

Elusen Gristnogol yw Llanw, a cofrestrwyd yr Elusen ar y 4 o Ebrill 2016 Rheolir yr Elusen gan Ddogfen Lywodraethol a ddyddiwyd ar y 4ydd o Ebrill 2016

Apwyntio Pwyllgor Rheoli

Mae Ymddiriedolwyr yr Elusen yn cael eu hystyried i fod y Pwyllgor Rheoli. Bydd yr Ymddiriedolwyr yn derbyn adroddiadau gan grwpiau o wirfoddolwyr ar wahanol agweddau gwaith Llanw.

Dewisir pob Ymddiriedolwr mewn cyfarfod rheolaidd o'r Ymddiriedolwyr yn unol â'r Cyfansoddiad. Nid oes tymor penodol yn perthyn i'r rhai sy'n Ymddiriedolwyr

Etholir y Swyddogion (Cadeirydd, Ysgrifennydd a Thrysorydd) yng nghyfarfod Blynyddol yr Ymddiriedolwyr.

Cynhelir cyfarfod o holl aelodau'r elusen fel y diffinnir y rhain gan y Cyfansoddiad yn ystod G ŵ yl Flynyddol yr Elusen

Hyfforddiant ac Anwytho

Mae'r Ymddiriedolwyr yn gyfarwydd â gwaith ymarferol yr Elusen

gan eu bod yn derbyn adroddiadau a diweddariadau cyson yng nghyfarfodydd rheolaidd yr Ymddiriedolwyr. Y maent oll yn gwbl gyfarwydd â chyd-destun ein gweithgarwch, ac yn gyfarwydd

hefyd â'n gweithdrefnau a pholisïau.

Rheolaeth Risg

Bydd yr Ymddiriedolwyr yn diweddaru eu cofrestr risg yn gyson gan dynnu sylw at y prif risgiau. Yr ydym yn ystyried mae'r prif risgiau hynny yw:

Enw da - mewn perthynas â'r gwaith y byddwn yn ei wneud yn gyhoeddus a hygrededd arweinwyr y gweithgarwch hwnnw.

Diogelu - mewn perthynas â'r gweithgaredd plant ac ieuenctid sy'n digwydd yn Llanw Ariannol - mewn perthynas â'r sicrwydd o gyllid digonol i gyfarfod â'n hymrwymiadau ariannol wrth gynnal ein gwaith.

Y mae gennym weithdrefnau a polisïau ar waith i gyfarfod â'r risgiau hyn gan gynnwys: Sicrhau fod pawb sy'n Ymddiriedolwr neu yn cyfrannu yn gyhoeddus yn enw Llanw yn cydsynio â'n Cyffes Ffydd a Datganiad Ethos Gweithdrefnau Diogelu Polisi ariannol cronfeydd wrth gefn.

4

LLANW ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR AM Y CYFNOD DDAETH I BEN 31 GORFFENNAF 2023

NODAU AC AMCANION

Prif weithgarwch yr Elusen yw

Hyrwyddo'r Ffydd Gristnogol, yn unol â'n Cyffes Ffydd a'r Datganiad Ethos drwy

Yn ystod y cyfnod hwn, cynhaliwyd ein Gŵyl Flynyddol lawn gyntaf ers cyfnod Covid Gwahoddwyd siaradwyr i'n harwain a'n hysbrydoli

Cynhaliwyd gweithgareddau Cristnogol gyda plant ac ieuenctid

Rhoddwyd cyfle i arweinwyr addoliad newydd gymryd rhan yn y digwyddiad cenedlaethol Ehangwyd y nifer o wirfoddolwyr sy'n cynorthwyo i ddiogelu rhediad effeithiol Llanw.

Perfformiad

Yr Ŵyl Flynyddol

Llwyddwyd i ddenu dros 400 o unigolion i'r Ŵyl eleni yn Llangrannog

Yr oedd y penderfyniad i ddewis Gwersyll Llangrannog fel lleoliad wedi derbyn ymateb cadarnhaol. Cafwyd oedfaon, seminarau a gweithgaredd gweddi heriol a bendithiol.

Adolygiad Ariannol

Er fod yr Ŵyl wedi gwneud colled ariannol yn ystod y flwyddyn, mae'r Ymddiriedolwyr yn fodlon iawn

â'r sefyllfa, ac yn falch o fedru cynnig cymorth i unigolion a theuluoedd i fynychu. Er hyn, y mae gan yr elusen dros £8,000 o arian mewn llaw, ac yr ydym yn gyffyrddus gyda'r lefel yma

Ffynonellau incwm

Bydd y rhan fwyaf o'n hincwm yn dod o fwciadau am yr Ŵyl, ac yr ydym yn edrych i gynyddu ffrydiau eraill megis,

cyfraniadau gan unigolion, eglwysi, grwpiau o eglwysi ac enwadau. Yr ydym hefyd yn awyddus i sicrhau grantiau tuag at ein gwaith.

5

LLANW ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR AM Y CYFNOD DDAETH I BEN 31 GORFFENNAF 2023

Polisi arian wrth gefn

Mae'r Ymddiriedolwyr wedi ystyried angen yr Elusen am arian wrth gefn yng ngoleuni y prif risgiau i'r Elusen. Yr ydym yn fodlon ar bolisi sy'n gofyn dal cyfwerth â rhwng 3 a 6 mis o wariant mewn cronfeydd anghyfyngedig

Cyfrifoldebau'r Ymddiriedolwyr

Mae'r Ddeddf Elusennau yn ei gwneud yn ofynnol i Ymddiriedolwyr baratoi datganiadau ar gyfer pob blwyddyn ariannol, sy'n rhoi golwg gwir a theg o gyflwr materion yn yr elusen, a hynny ar ddyddiad y Fantolen, gan gynnwys yr adnoddau gafwyd a sut y defnyddiwyd y rhain, yn cynnwys incwm, gwariant y flwyddyn ariannol. Wrth baratoi'r datganiadau hynny dylai'r ymddiriedolwyr ddilyn arfer gorau, a

dewis polisïau cyfrifo addas a'u cymhwyso'n gyson, dod i benderfyniadau a chasgliadau sy'n rhesymol a gofalus paratoi datganiadau ariannol ar sail parhad

Mae'r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am gadw cofnodion cyfrifyddu priodol sy'n datgelu gyda chywirdeb rhesymol ar unrhyw adeg sefyllfa ariannol y Elusen ac i'w galluogi i sicrhau bod y datganiadau ariannol yn cydymffurfio gyda'r Ddeddf Elusennau. Mae'r Ymddiriedolwyr hefyd yn gyfrifol am ddiogelu asedau'r Elusen ac felly am gymryd camau rhesymol ar gyfer y atal twyll a chanfod twyll ac afreoleidd-dra eraill.

Ymddiriedolwyr

Rhestri yr Ymddiriedolwyr ar dudalen 1

Archwilio

Penderfynir ar lefel yr Archwiliad yn unol â gofyn y Comisiwn Elusennau

Ar gyfer y flwyddyn ariannol yn dod i ben ar yr 31aain o Orffennaf 2023 a gan bod ein trosiant ariannol rhwng £25,000 a £100,00, gwahoddwyd Mr Huw Aaron i wneud y gwaith hwn, ac fe ymatebodd yn gadarnhaol i'r gwahoddiad.

Cymeradwywyd gan yr Ymddiriedolwyr ar 4/4/24

ac arwyddwyd ar ran yr Ymddiriedolwyr gan:

Meirion Morris (Cadeirydd)

Archwiliwyd y Cyfrifon blynyddol gan

Mr Huw Aaron

ac arwyddodd gopi o'r fantolen (atodiad 1) ar y 4ydd o Ebrill 2024.

6

LLANW

DATGANIAD O WEITHGAREDD ARIANNOL CYFNOD YN DIWEDDU 31 GORFFENNAF 2023

Nodiadau
Incwm
Cyfraniadau (gan gynnwys ad-daliad Rhodd
Cymorth)
2
Gweithgaredd
3
Gwerthiant
Cyfanswm Incwm
Gwariant ar:
Gweithgarwch Elusennol
4
Adnoddau
5
Cyfanswm Gwariant
Incwm net / (gwariant)
Cyfanswm cronfeydd ddygwyd ymlaen
31/07/2023
Cyfanswm
£913.27
£28,874.17
£29,787.44
£31,754.45
£1,301.32
£33,055.77
(-
£3.268.33)
£8,168.13
31/07/2022
Cyfanswm
£821.82
£3,168.23
£3,990.05
£3,257.69
£1,163.26
£4,420.95
(-£430.90)
£11,436.46

7

LLANW

DATGANIAD O'R SEFYLLFA ARIANNOL AR 31 GORFFENNAF 2023

Nodyn
Asedau Cyfredol
Arian yn y banc
Credydwyr - swm yn
ddyledus o fewn
blwyddyn
Asedau Cyfredol Net
Asedau Net
Cyfanswm Cronfeydd
Cymeradwywyd gan yr Ymddiriedolwyr
ac arwyddwyd ar eu
rhan
MEIRION MORRIS - CADEIRYDD
Dyddiad
04.04.2024
2023 2023
£8,168.13
£8,168.13
£8,168.13
2022 2022
£11,436.46
£8,168.13 £11,436.46
£8,168.13 £11,436.46
£0.00 £0.00
£0.00 £0.00
£11,436.46
£11,436.46

8

LLANW NODIADAU I'R CYFRIFON AM Y CYFNOD DDAETH I BEN 31 GORFFENNAF 2023

1 POLISI CYFRIFO

Mae'r polisi cyfrifo yn cael ei grynoi isod. Mae'r polisi cyfrifo wedi ei gymhwyso'n gyson ar draws y flwyddyn

a Sail paratoi y cyfrifon ariannol

Mae'r cyfrifon hyn wedi eu paratoi a'u harchwilio yn unol â gofyn y Comisiwn Elusennau.

Y maent yn cael eu cyflwyno yn unol â SORP Elusennau (FRS102)

b Incwm

Y mae'r holl incwm yn cael ei gydnabod o fewn y Datganiad o Weithgaredd Ariannol unwaith y bydd gan yr elusen hawl i'r cronfeydd, a hynny pan fydd yr incwm wedi ei dderbyn ac yn incwm y gellir ei fesur yn ddibynadwy.

c Gwariant

Y mae rhwymedigaethau yn cael eu cydnabod fel gwariant unwaith y bydd gofyn cyfreithiol neu clir sy'n ymrwymo'r elusen i'r gwariant hwn, a bod hynny yn medru ei fesur yn ddibynadwy

ch. Trethiant

Y mae'r Elusen wedi ei heithrio rhag talu Treth Corfforaethol ar ei gweithgarwch elusennol.

d. Cyfrifo cronfeydd

Gall yr Elusen ddefnyddio pob cronfa anghyfyngedig yn unol â nodau elusennol Llanw a hynny yn ddarostyngedig i benderfyniad yr Ymddiriedolwyr a lles y cyhoedd.

2 INCWM - cyfraniadau

Rhoddion uniongyrchol
£360.00
Rhoddion drwy Stewardship
£470.81
Rhodd Cymorth
£82.46
INCWM - Gweithgaredd
Bwciadau drwy Eventbrite
£24,168.00
Taliadau yn syth i'r banc
£4,356.25
Taliadau Sumup
£349.92
3
GWARIANT - Gweithgarwch Elusennol
Lleoliad
£30,475.00
Gwaith Plant ac Ieuenctid
£23.85
Siaradwyr & Addoliad
£1,255.60
4
GWARIANT - Adnoddau
Hysbysebu
£90.00
Argraffu
£388.25
Sain
£654.00
Paneidiau
£64.94
Arall
£104.13
£913.27
£28,874.17
£31,754.45
£1,301.32

TALIADAU I YMDDIRIEDOLWYR A TROSGLWYDDIADAU PARTION CYSYLLTIEDIG

Ni dderbyniodd yr un o'r Ymddiriedolwyr gydnabyddiaeth, tâl na chostau yn ystod y flwyddyn

9

Nid oedd gan yr Elusen unrhyw gyflogai yn ystod y flwyddyn

Atodiad 1

10