## **LLANW**

## **CYFRIFLENNI ARIANNOL**

**CYFNOD YN DIWEDDU 31 GORFFENNAF 2023**

**RHIF ELUSEN 1166349**

1

LLANW MYNEGAI CYFNOD YN DIWEDDU 31 GORFFENNAF 2023

|ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR|3|

|DATGANIAD O WEITHGARWCH ARIANNOL|7|
|TAFLEN BALANS|8|
|NODIADAU I'R CYFRIFON|9|
|ATODIAD 1|10|

2

## **LLANW ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR AM Y CYFNOD DDAETH I BEN 31 GORFFENNAF 2023**

Mae'r Ymddiriedolwyr yn cyflwyno eu hadroddiad a'u cyfr4ifon ariannol am y cyfnod ddaeth i ben 31 Gorffennaf 2023

## **Gwybodaeth Gweinyddol**

|Enw'r Elusen|Llanw|

|Rhif Cofrestru'r Elusen|1166349|
|Cyfeiriad Gweithredol|Llechwedd|
||Llandysul|
||Ceredigion|
||SA44 4DT|
|Ymddiriedolwyr|Parch Meirion Morris|
||Anna Mari Huws|
||Dr Cynan Dafydd Llwyd|
||Elin Bryn Williams|
||Dr Menna Machreth|
||Dr Alice Charlotte Egerton-Kemp|
||Dr Heledd Fflur Iago|
||Celfyn Williams|
||Parch Hywel Rhys Edwards|
||Steffan Rhys Morris|
||Angharad Clwyd Edwards|
||Emrys Owen|
||Parch Nan Wyn Powell-Davies|
|Cadeirydd|Parch Meirion Morris|
|Ysgrifennydd|Dr Heledd Fflur Iago|
|Trysorydd|Dr Alice Charlotte Egerton-Kemp|
|Archwiliwr|Mr Huw Aaron|
|Bancwyr|The Co-operative Bank|

3

## **LLANW ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR AM Y CYFNOD DDAETH I BEN 31 GORFFENNAF 2023**

## **Strwythur, Rheolaeth a Llywodraethiad**

Elusen Gristnogol yw Llanw, a cofrestrwyd yr Elusen ar y 4 o Ebrill 2016 Rheolir yr Elusen gan Ddogfen Lywodraethol a ddyddiwyd ar y 4ydd o Ebrill 2016

## Apwyntio Pwyllgor Rheoli

Mae Ymddiriedolwyr yr Elusen yn cael eu hystyried i fod y Pwyllgor Rheoli. Bydd yr Ymddiriedolwyr yn derbyn adroddiadau gan grwpiau o wirfoddolwyr ar wahanol agweddau gwaith Llanw.

Dewisir pob Ymddiriedolwr mewn cyfarfod rheolaidd o'r Ymddiriedolwyr yn unol â'r Cyfansoddiad. Nid oes tymor penodol yn perthyn i'r rhai sy'n Ymddiriedolwyr

Etholir y Swyddogion (Cadeirydd, Ysgrifennydd a Thrysorydd) yng nghyfarfod Blynyddol yr Ymddiriedolwyr.

Cynhelir cyfarfod o holl aelodau'r elusen fel y diffinnir y rhain gan y Cyfansoddiad yn ystod G ŵ yl Flynyddol yr Elusen

## Hyfforddiant ac Anwytho

Mae'r Ymddiriedolwyr yn gyfarwydd â gwaith ymarferol yr Elusen

gan eu bod yn derbyn adroddiadau a diweddariadau cyson yng nghyfarfodydd rheolaidd yr Ymddiriedolwyr. Y maent oll yn gwbl gyfarwydd â chyd-destun ein gweithgarwch, ac yn gyfarwydd

hefyd â'n gweithdrefnau a pholisïau.

## Rheolaeth Risg

Bydd yr Ymddiriedolwyr yn diweddaru eu cofrestr risg yn gyson gan dynnu sylw at y prif risgiau. Yr ydym yn ystyried mae'r prif risgiau hynny yw:

Enw da - mewn perthynas â'r gwaith y byddwn yn ei wneud yn gyhoeddus a hygrededd arweinwyr y gweithgarwch hwnnw.

Diogelu - mewn perthynas â'r gweithgaredd plant ac ieuenctid sy'n digwydd yn Llanw Ariannol - mewn perthynas â'r sicrwydd o gyllid digonol i gyfarfod â'n hymrwymiadau ariannol wrth gynnal ein gwaith.

Y mae gennym weithdrefnau a polisïau ar waith i gyfarfod â'r risgiau hyn gan gynnwys: Sicrhau fod pawb sy'n Ymddiriedolwr neu yn cyfrannu yn gyhoeddus yn enw Llanw yn cydsynio â'n Cyffes Ffydd a Datganiad Ethos Gweithdrefnau Diogelu Polisi ariannol cronfeydd wrth gefn.

4

## **LLANW ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR AM Y CYFNOD DDAETH I BEN 31 GORFFENNAF 2023**

## **NODAU AC AMCANION**

Prif weithgarwch yr Elusen yw

Hyrwyddo'r Ffydd Gristnogol, yn unol â'n Cyffes Ffydd a'r Datganiad Ethos drwy

Yn ystod y cyfnod hwn, cynhaliwyd ein Gŵyl Flynyddol lawn gyntaf ers cyfnod Covid Gwahoddwyd siaradwyr i'n harwain a'n hysbrydoli

Cynhaliwyd gweithgareddau Cristnogol gyda plant ac ieuenctid

Rhoddwyd cyfle i arweinwyr addoliad newydd gymryd rhan yn y digwyddiad cenedlaethol Ehangwyd y nifer o wirfoddolwyr sy'n cynorthwyo i ddiogelu rhediad effeithiol Llanw.

## **Perfformiad**

## Yr Ŵyl Flynyddol

Llwyddwyd i ddenu dros 400 o unigolion i'r Ŵyl eleni yn Llangrannog

Yr oedd y penderfyniad i ddewis Gwersyll Llangrannog fel lleoliad wedi derbyn ymateb cadarnhaol. Cafwyd oedfaon, seminarau a gweithgaredd gweddi heriol a bendithiol.

## **Adolygiad Ariannol**

Er fod yr Ŵyl wedi gwneud colled ariannol yn ystod y flwyddyn, mae'r Ymddiriedolwyr yn fodlon iawn

â'r sefyllfa, ac yn falch o fedru cynnig cymorth i unigolion a theuluoedd i fynychu. Er hyn, y mae gan yr elusen dros £8,000 o arian mewn llaw, ac yr ydym yn gyffyrddus gyda'r lefel yma

## Ffynonellau incwm

Bydd y rhan fwyaf o'n hincwm yn dod o fwciadau am yr Ŵyl, ac yr ydym yn edrych i gynyddu ffrydiau eraill megis,

cyfraniadau gan unigolion, eglwysi, grwpiau o eglwysi ac enwadau. Yr ydym hefyd yn awyddus i sicrhau grantiau tuag at ein gwaith.

5

## **LLANW ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR AM Y CYFNOD DDAETH I BEN 31 GORFFENNAF 2023**

## Polisi arian wrth gefn

Mae'r Ymddiriedolwyr wedi ystyried angen yr Elusen am arian wrth gefn yng ngoleuni y prif risgiau i'r Elusen. Yr ydym yn fodlon ar bolisi sy'n gofyn dal cyfwerth â rhwng 3 a 6 mis o wariant mewn cronfeydd anghyfyngedig

## Cyfrifoldebau'r Ymddiriedolwyr

Mae'r Ddeddf Elusennau yn ei gwneud yn ofynnol i Ymddiriedolwyr baratoi datganiadau ar gyfer pob blwyddyn ariannol, sy'n rhoi golwg gwir a theg o gyflwr materion yn yr elusen, a hynny ar ddyddiad y Fantolen, gan gynnwys yr adnoddau gafwyd a sut y defnyddiwyd y rhain, yn cynnwys incwm, gwariant y flwyddyn ariannol. Wrth baratoi'r datganiadau hynny dylai'r ymddiriedolwyr ddilyn arfer gorau, a

dewis polisïau cyfrifo addas a'u cymhwyso'n gyson, dod i benderfyniadau a chasgliadau sy'n rhesymol a gofalus paratoi datganiadau ariannol ar sail parhad

Mae'r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am gadw cofnodion cyfrifyddu priodol sy'n datgelu gyda chywirdeb rhesymol ar unrhyw adeg sefyllfa ariannol y Elusen ac i'w galluogi i sicrhau bod y datganiadau ariannol yn cydymffurfio gyda'r Ddeddf Elusennau. Mae'r Ymddiriedolwyr hefyd yn gyfrifol am ddiogelu asedau'r Elusen ac felly am gymryd camau rhesymol ar gyfer y atal twyll a chanfod twyll ac afreoleidd-dra eraill.

## Ymddiriedolwyr

Rhestri yr Ymddiriedolwyr ar dudalen 1

## Archwilio

Penderfynir ar lefel yr Archwiliad yn unol â gofyn y Comisiwn Elusennau

Ar gyfer y flwyddyn ariannol yn dod i ben ar yr 31aain o Orffennaf 2023 a gan bod ein trosiant ariannol rhwng £25,000 a £100,00, gwahoddwyd Mr Huw Aaron i wneud y gwaith hwn, ac fe ymatebodd yn gadarnhaol i'r gwahoddiad.

Cymeradwywyd gan yr Ymddiriedolwyr ar 4/4/24

ac arwyddwyd ar ran yr Ymddiriedolwyr gan:

Meirion Morris (Cadeirydd)

Archwiliwyd y Cyfrifon blynyddol gan

Mr Huw Aaron

ac arwyddodd gopi o'r fantolen (atodiad 1) ar y 4ydd o Ebrill 2024.

6

## LLANW

DATGANIAD O WEITHGAREDD ARIANNOL CYFNOD YN DIWEDDU 31 GORFFENNAF 2023

|Nodiadau
**Incwm**
Cyfraniadau (gan gynnwys ad-daliad Rhodd
Cymorth)
2
Gweithgaredd
3
Gwerthiant
**Cyfanswm Incwm**
**Gwariant ar:**
Gweithgarwch Elusennol
4
Adnoddau
5
**Cyfanswm Gwariant**
**Incwm net / (gwariant)**
**Cyfanswm cronfeydd ddygwyd ymlaen**|31/07/2023
Cyfanswm
£913.27
£28,874.17
£29,787.44
£31,754.45
£1,301.32
£33,055.77

£3.268.33)
£8,168.13|31/07/2022
Cyfanswm
£821.82
£3,168.23|

|||£3,990.05|
|||£3,257.69
£1,163.26|
|||£4,420.95|
|||(-£430.90)|
|||£11,436.46|

7

## LLANW

DATGANIAD O'R SEFYLLFA ARIANNOL AR 31 GORFFENNAF 2023

|Nodyn
**Asedau Cyfredol**
Arian yn y banc
Credydwyr - swm yn
ddyledus o fewn
blwyddyn
**Asedau Cyfredol Net**
**Asedau Net**
**Cyfanswm Cronfeydd**
Cymeradwywyd gan yr Ymddiriedolwyr
ac arwyddwyd ar eu
rhan
MEIRION MORRIS - CADEIRYDD
Dyddiad
04.04.2024|2023|2023
£8,168.13
£8,168.13
£8,168.13|2022|2022
£11,436.46|

||£8,168.13||£11,436.46||

||£8,168.13||£11,436.46||
||£0.00||£0.00||
||£0.00||£0.00||

|||||£11,436.46|

|||||£11,436.46|

8

**LLANW NODIADAU I'R CYFRIFON AM Y CYFNOD DDAETH I BEN 31 GORFFENNAF 2023**

## **1 POLISI CYFRIFO**

Mae'r polisi cyfrifo yn cael ei grynoi isod. Mae'r polisi cyfrifo wedi ei gymhwyso'n gyson ar draws y flwyddyn

## **a** Sail paratoi y cyfrifon ariannol

Mae'r cyfrifon hyn wedi eu paratoi a'u harchwilio yn unol â gofyn y Comisiwn Elusennau.

Y maent yn  cael eu cyflwyno yn unol â SORP Elusennau (FRS102)

## **b** Incwm

Y mae'r holl incwm yn cael ei gydnabod o fewn y Datganiad o Weithgaredd Ariannol unwaith y bydd gan yr elusen hawl i'r cronfeydd, a hynny pan fydd yr incwm wedi ei dderbyn ac yn incwm y gellir ei fesur yn ddibynadwy.

## **c** Gwariant

Y mae rhwymedigaethau yn cael eu cydnabod fel gwariant unwaith y bydd gofyn cyfreithiol neu clir sy'n ymrwymo'r elusen i'r gwariant hwn, a bod hynny yn medru ei fesur yn ddibynadwy

## **ch.** Trethiant

Y mae'r Elusen wedi ei heithrio rhag talu Treth Corfforaethol ar ei gweithgarwch elusennol.

## **d.** Cyfrifo cronfeydd

Gall yr Elusen ddefnyddio pob cronfa anghyfyngedig yn unol â nodau elusennol Llanw a hynny yn ddarostyngedig i benderfyniad yr Ymddiriedolwyr a lles y cyhoedd.

## **2 INCWM - cyfraniadau**

|Rhoddion uniongyrchol
£360.00
Rhoddion drwy Stewardship
£470.81
Rhodd Cymorth
£82.46
INCWM - Gweithgaredd
Bwciadau drwy Eventbrite
£24,168.00
Taliadau yn syth i'r banc
£4,356.25
Taliadau Sumup
£349.92
**3**
**GWARIANT - Gweithgarwch Elusennol**
Lleoliad
£30,475.00
Gwaith Plant ac Ieuenctid
£23.85
Siaradwyr & Addoliad
£1,255.60
**4**
**GWARIANT - Adnoddau**
Hysbysebu
£90.00
Argraffu
£388.25
Sain
£654.00
Paneidiau
£64.94
Arall
£104.13|£913.27
£28,874.17
£31,754.45
£1,301.32|

## **TALIADAU I YMDDIRIEDOLWYR A TROSGLWYDDIADAU PARTION CYSYLLTIEDIG**

Ni dderbyniodd yr un o'r Ymddiriedolwyr gydnabyddiaeth, tâl na chostau yn ystod y flwyddyn

9

Nid oedd gan yr Elusen unrhyw gyflogai yn ystod y flwyddyn

## **Atodiad 1**

10