Adroddiad y Cadeirydd
22.11.25
Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi edrych yn wahanol iawn i’r Gorlan, ond rhaid diolch i’r Arglwydd am y cyfleon y cawsom i tystio i Iesu Grist dros y flwyddyn ddiwethaf. Braf oedd cael y cyfle unwaith eto i wasanaethu pobl ifanc Cymru yn ymarferol ac yn ysbrydol drwy gynnig te a thost yn y ddau ddigwyddiad Rhyng-Golegol. Roedd hi’n fraint arbennig i gydweithio gyda a chefnogi UCCA yn eu cenhadaeth nhw i fyfyrwyr yn y Ddawns Ryng-Golegol 2024 ac Eisteddfod Rhyng-golegol 2025, a hyfryd oedd cael ein gofyn i gynnig hyfforddiant efengylu iddynt. Wrth feddwl am weledigaeth y Gorlan i gefnogi Cristnogion Cymru yn gwneud cenhadaeth yn eu cyd-destunau penodol nhw, mae cefnogi ymarferol a darparu hyfforddiant efengylu yn sicr yn gam cadarnhaol i’r cyfeiriad hwnnw. Er i ni estyn allan i wyliau lleol gyda’r gobaith o gefnogi eglwysi lleol (Gŵyl Canol Dre fel enghraifft), ni wireddwyd y gobaith hwnnw yn y flwyddyn 2024-25. Dyma rywbeth i ni geisio eto i’w gyflawni yn y flwyddyn sy’n dod petai’r Arglwydd yn agor y drws i ni wneud. Rhaid diolch i Eleri Davies am ei gwasanaeth ffyddlon fel trysorydd y Gorlan am sawl blwyddyn erbyn hyn. Ar ddiwedd ei chyfnod yn y rôl, diolchwn i Dduw amdani, ac am y ffordd mae hi wedi gwasanaethu’r Arglwydd drwy ei gwaith hi dros y Gorlan.
Mantolen Y Gorlan 2024-25
| Derbyniadau (£) | Taliadau (£) | |
|---|---|---|
| Yn y Cyfrif ar 31ain Mawrth 2024 |
2,475.90 | |
| Gwefan | 18.00 | |
| Rhoddion | 500.00 | |
| Yn y Cyfrif ar 31ain Mawrth 2025 |
2,957.90 |
| Dyddiad | Arian (£) | Disgrifiad | Categori |
|---|---|---|---|
| 25/10/2024 | +500 | Rhodd | Rhodd |
| 08/11/2024 | -18 | Ionos Cloud Ltd | Gwefan |