## Adroddiad y Cadeirydd 

## 22.11.25 

Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi edrych yn wahanol iawn i’r Gorlan, ond rhaid diolch i’r Arglwydd am y cyfleon y cawsom i tystio i Iesu Grist dros y flwyddyn ddiwethaf. Braf oedd cael y cyfle unwaith eto i wasanaethu pobl ifanc Cymru yn ymarferol ac yn ysbrydol drwy gynnig te a thost yn y ddau ddigwyddiad Rhyng-Golegol. Roedd hi’n fraint arbennig i gydweithio gyda a chefnogi UCCA yn eu cenhadaeth nhw i fyfyrwyr yn y Ddawns Ryng-Golegol 2024 ac Eisteddfod Rhyng-golegol 2025, a hyfryd oedd cael ein gofyn i gynnig hyfforddiant efengylu iddynt. Wrth feddwl am weledigaeth y Gorlan i gefnogi Cristnogion Cymru yn gwneud cenhadaeth yn eu cyd-destunau penodol nhw, mae cefnogi ymarferol a darparu hyfforddiant efengylu yn sicr yn gam cadarnhaol i’r cyfeiriad hwnnw. Er i ni estyn allan i wyliau lleol gyda’r gobaith o gefnogi eglwysi lleol (Gŵyl Canol Dre fel enghraifft), ni wireddwyd y gobaith hwnnw yn y flwyddyn 2024-25. Dyma rywbeth i ni geisio eto i’w gyflawni yn y flwyddyn sy’n dod petai’r Arglwydd yn agor y drws i ni wneud. Rhaid diolch i Eleri Davies am ei gwasanaeth ffyddlon fel trysorydd y Gorlan am sawl blwyddyn erbyn hyn. Ar ddiwedd ei chyfnod yn y rôl, diolchwn i Dduw amdani, ac am y ffordd mae hi wedi gwasanaethu’r Arglwydd drwy ei gwaith hi dros y Gorlan. 

## **Mantolen Y Gorlan 2024-25** 

||Derbyniadau (£)|Taliadau (£)|
|---|---|---|
|Yn y Cyfrif ar 31ain Mawrth<br>2024|2,475.90||
|Gwefan||18.00|
|Rhoddion|500.00||
|Yn y Cyfrif ar 31ain Mawrth<br>2025|2,957.90||



|Dyddiad|Arian (£)|Disgrifiad|Categori|
|---|---|---|---|
|25/10/2024|+500|Rhodd|Rhodd|
|08/11/2024|-18|Ionos Cloud Ltd|Gwefan|



