OpenCharities

This text was generated using OCR and may contain errors. Check the original PDF to see the document submitted to the regulator.

2022-03-31-accounts

Adroddiad y Cadeirydd (6 Ebrill 2021 – 5 Ebrill 2022)

Yn ddi-os, bu’r flwyddyn ariannol 2021-2022 yn un anarferol arall i elusen y Gorlan. O ganlyniad i ledaeniad Coronafeirws yng Nghymru, gohiriwyd Eisteddfod Genedlaethol Tregaron am yr ail flwyddyn yn olynol. Ychydig fisoedd wedi’r penderfyniad hwn, cyhoeddodd awdurdodau’r Eisteddfod y byddai ‘Eisteddfod AmGen’ yn digwydd yn ddigidol eto ym mis Awst.

Er y bu hi’n flwyddyn heriol arall i waith a chenhadaeth y Gorlan, ni ddylid diystyru’r pethau cadarnhaol a ddigwyddodd yn 2021 a dechrau 2022. Un o’r pethau hynny oedd cael croesawu Tomos Gwynfor ac Esyllt Roberts yn aelodau newydd o Bwyllgor Gwaith y Gorlan. Rydym yn ddiolchgar iawn i’r Arglwydd am Tomos ac Esyllt ac am eu parodrwydd i wasanaethu Duw trwy’r Gorlan. Fel pwyllgor, buom yn gweddïo ers tro y byddai’r Arglwydd yn caniatáu i Gristnogion ifanc, brwdfrydig ymuno â’r Pwyllgor Gwaith. Mae’r ffaith fod Tomos ac Esyllt wedi ymuno gyda ni yn tystio’n glir fod Duw yn gwrando ac yn ateb ein gweddïau.

Peth cadarnhaol arall a ddigwyddodd oedd y ‘Cynllun Cyfryngau Cymdeithasol’ a baratowyd gan ein Swyddog Marchnata, Siwan Fflur, yn 2021. Yn ystod y flwyddyn, bu Siwan yn gosod deunydd cenhadol a Beiblaidd ar gyfryngau cymdeithasol y Gorlan er mwyn rannu’r newyddion da am Iesu gyda’r Cymry Cymraeg. Mewn blwyddyn lle nad oedd modd cyfarfod â phobl ar faes yr Eisteddfod, roedd y defnydd hwn o’r cyfryngau cymdeithasol yn elfen bwysig o’n tystiolaeth.

Uchafbwynt y flwyddyn, er hynny, oedd y gyfres o fideos byrion a gafodd eu darlledu ar y cyfryngau cymdeithasol yn ystod wythnos yr Eisteddfod AmGen. Yn seiliedig ar ddywediadau ‘Myfi yw...’ Iesu yn Efengyl Ioan, bwriad y fideos hyn oedd rhannu’r newyddion da am Iesu gyda’r Cymry a fyddai’n gwylio’r Eisteddfod AmGen. Cafwyd fideo ar ‘Bara’r Bywyd’ (6:35) gennyf fi; ar ‘Oleuni’r Byd’ (8:12) gan Elin; ar ‘Ddrws y Defaid’ (10:7) gan Gruffydd; ar y ‘Bugail da’ (10:11) gan Twm; ar yr ‘Atgyfodiad a’r Bywyd’ (11:25) gan Siwan; ar ‘Y ffordd a’r gwirionedd a’r bywyd’ (14:6) gan Lewis; ac ar ‘Y wir winwydden’ (15:1) gan Eleri. Bu’r ymgyrch hon yn llwyddiannus ac mae’n amlwg fod cannoedd o bobl wedi gwylio’r fideos ar Facebook, Instagram a YouTube. Gweddïwn y bydd yr Arglwydd yn defnyddio’r fideos hyn er clod i’w hunan.

Fel Cadeirydd, rwyf yn ddiolchgar iawn i’r pwyllgor i gyd am eu gwaith yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Diolch i Gruffydd am ei wasanaeth diflino fel Ysgrifennydd ac am gadw cofnodion manwl o’n cyfarfodydd. Diolch i Eleri am gadw golwg ar ein hadnoddau ariannol fel Trysorydd ac i Siwan, Lewis, Twm, Esyllt ac Elin am eu mewnbwn gwerthfawr yn mhob cyfarfod pwyllgor. Wedi symud i’r Iwerddon, ymddeolodd Elin â’r Pwyllgor Gwaith ym mis Mawrth. Rydym yn ddiolchgar iawn i’r Arglwydd am ei chyfraniad pwysig i’r Gorlan a gweddïwn am fendith Duw arni â’i gŵr, Eli. Fel Pwyllgor Gwaith, rydym hefyd yn gyson yn diolch i Dduw am holl gefnogwyr y Gorlan, boed yn eglwysi lleol neu’n unigolion. Diolch am ein cefnogi mewn gweddi ac yn ariannol ar hyd y flwyddyn.

Rydym yn edrych ymlaen yn obeithiol at y dyfodol. Er bod Covid-19 yn dal i fod gyda ni, bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn digwydd yn

1

Nhregaron ym mis Awst. Gweddïwn y bydd yr Arglwydd yn rhoi nifer o gyfleodd i ni sôn amdano Ef yn yr eisteddfod hon.

Gwilym Tudur Cadeirydd y Gorlan Mehefin 2022

2

Mantolen Y Gorlan 2021-22

Mantolen Y Gorlan 2021-22
Derbyniadau Taliadau
£ £
Yny Cyfrif 31ain Mawrth 2021 3,951.63
Storio 600.00
Gwefan 104.40
Yny cyfrif 31ain Mawrth 2022 3,247.23

Wedi ei archwilio a’r ddarganfod yn gywir

Arwyddwyd 31/01/2022

Taliadau

Dyddiad Arian (£) Disgrifiad Categori
01/04/2021 50.00 Bedwyr T Davies Store
Rooms
Storio
01/05/2021 50.00 Bedwyr T Davies Store
Rooms
Storio
01/06/2021 50.00 Bedwyr T Davies Store
Rooms
Storio
01/07/2021 50.00 Bedwyr T Davies Store
Rooms
Storio
02/08/2021 50.00 Bedwyr T Davies Store
Rooms
Storio
01/09/2021 50.00 Bedwyr T Davies Store
Rooms
Storio
01/10/2021 50.00 Bedwyr T Davies Store
Rooms
Storio
01/11/2021 50.00 Bedwyr T Davies Store
Rooms
Storio
01/12/2021 50.00 Bedwyr T Davies Store
Rooms
Storio
04/01/2022 50.00 Bedwyr T Davies Store
Rooms
Storio
01/02/2022 50.00 Bedwyr T Davies Store
Rooms
Storio
08/02/2022 86.40 1310 WIX
COM*PREMI
Gwefan
22/02/2022 18.00 1310 and 1 IONOS Gwefan
01/03/2022 50.00 Bedwyr T Davies Store
Rooms
Storio