## **Adroddiad y Cadeirydd (6 Ebrill 2021 – 5 Ebrill 2022)**

Yn ddi-os, bu’r flwyddyn ariannol 2021-2022 yn un anarferol arall i elusen y Gorlan. O ganlyniad i ledaeniad Coronafeirws yng Nghymru, gohiriwyd Eisteddfod Genedlaethol Tregaron am yr ail flwyddyn yn olynol. Ychydig fisoedd wedi’r penderfyniad hwn, cyhoeddodd awdurdodau’r Eisteddfod y byddai ‘Eisteddfod AmGen’ yn digwydd yn ddigidol eto ym mis Awst.

Er y bu hi’n flwyddyn heriol arall i waith a chenhadaeth y Gorlan, ni ddylid diystyru’r pethau cadarnhaol a ddigwyddodd yn 2021 a dechrau 2022. Un o’r pethau hynny oedd cael croesawu Tomos Gwynfor ac Esyllt Roberts  yn  aelodau  newydd  o  Bwyllgor  Gwaith  y  Gorlan.  Rydym  yn ddiolchgar iawn i’r Arglwydd am Tomos ac Esyllt ac am eu parodrwydd i wasanaethu Duw trwy’r Gorlan. Fel pwyllgor, buom yn gweddïo ers tro y byddai’r Arglwydd yn caniatáu i Gristnogion ifanc, brwdfrydig ymuno â’r Pwyllgor Gwaith. Mae’r ffaith fod Tomos ac Esyllt wedi ymuno gyda ni yn tystio’n glir fod Duw yn gwrando ac yn ateb ein gweddïau.

Peth cadarnhaol arall a ddigwyddodd oedd y ‘Cynllun Cyfryngau Cymdeithasol’ a baratowyd gan ein Swyddog Marchnata, Siwan Fflur, yn 2021.  Yn  ystod  y  flwyddyn,  bu  Siwan  yn  gosod  deunydd  cenhadol  a Beiblaidd ar gyfryngau cymdeithasol y Gorlan er mwyn rannu’r newyddion da am Iesu gyda’r Cymry Cymraeg. Mewn blwyddyn lle nad oedd modd cyfarfod â phobl ar faes yr Eisteddfod, roedd y defnydd hwn o’r cyfryngau cymdeithasol yn elfen bwysig o’n tystiolaeth.

Uchafbwynt y flwyddyn, er hynny, oedd y gyfres o fideos byrion a gafodd  eu  darlledu  ar y  cyfryngau cymdeithasol  yn  ystod  wythnos  yr Eisteddfod  AmGen.  Yn  seiliedig  ar  ddywediadau  ‘Myfi  yw...’  Iesu  yn Efengyl Ioan, bwriad y fideos hyn oedd rhannu’r newyddion da am Iesu gyda’r  Cymry  a  fyddai’n  gwylio’r  Eisteddfod  AmGen.  Cafwyd  fideo  ar ‘Bara’r Bywyd’ (6:35) gennyf fi; ar ‘Oleuni’r Byd’ (8:12) gan Elin; ar ‘Ddrws y Defaid’ (10:7) gan Gruffydd; ar y ‘Bugail da’ (10:11) gan Twm; ar yr ‘Atgyfodiad a’r Bywyd’ (11:25) gan Siwan; ar ‘Y ffordd a’r gwirionedd a’r bywyd’ (14:6) gan Lewis; ac ar ‘Y wir winwydden’ (15:1) gan Eleri. Bu’r ymgyrch hon yn llwyddiannus ac mae’n amlwg fod cannoedd o bobl wedi gwylio’r fideos ar Facebook, Instagram a YouTube. Gweddïwn y bydd yr Arglwydd yn defnyddio’r fideos hyn er clod i’w hunan.

Fel Cadeirydd, rwyf yn ddiolchgar iawn i’r pwyllgor i gyd am eu gwaith yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Diolch i Gruffydd am ei wasanaeth  diflino  fel  Ysgrifennydd  ac  am  gadw  cofnodion  manwl  o’n cyfarfodydd. Diolch i Eleri am gadw golwg ar ein hadnoddau ariannol fel Trysorydd  ac  i  Siwan,  Lewis,  Twm,  Esyllt  ac  Elin  am  eu  mewnbwn gwerthfawr yn  mhob cyfarfod pwyllgor. Wedi symud i’r Iwerddon, ymddeolodd Elin â’r Pwyllgor Gwaith ym mis Mawrth. Rydym yn ddiolchgar  iawn  i’r  Arglwydd  am  ei  chyfraniad  pwysig  i’r  Gorlan  a gweddïwn am fendith Duw arni â’i gŵr, Eli. Fel Pwyllgor Gwaith, rydym hefyd yn gyson yn diolch i Dduw am holl gefnogwyr y Gorlan, boed yn eglwysi lleol neu’n unigolion. Diolch am ein cefnogi mewn gweddi ac yn ariannol ar hyd y flwyddyn.

Rydym yn edrych ymlaen yn obeithiol at y dyfodol. Er bod Covid-19 yn dal i fod gyda ni, bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn digwydd yn

1

Nhregaron ym mis Awst. Gweddïwn y bydd yr Arglwydd yn rhoi nifer o gyfleodd i ni sôn amdano Ef yn yr eisteddfod hon.

Gwilym Tudur Cadeirydd y Gorlan Mehefin 2022

2

**Mantolen Y Gorlan 2021-22**

||**Mantolen Y Gorlan 2021-22**||

||**Derbyniadau**|**Taliadau**|

|**Yny Cyfrif 31ain Mawrth 2021**|3,951.63||
|Storio||600.00|
|Gwefan||104.40|
|**Yny cyfrif 31ain Mawrth 2022**|3,247.23||

Wedi ei archwilio a’r ddarganfod yn gywir

## Arwyddwyd 31/01/2022

## **Taliadau**

||**Dyddiad**||**Arian (£)**||**Disgrifiad**||**Categori**|

|01/04/2021|||50.00|Bedwyr T Davies Store
Rooms|||Storio|
|01/05/2021|||50.00|Bedwyr T Davies Store
Rooms|||Storio|
|01/06/2021|||50.00|Bedwyr T Davies Store
Rooms|||Storio|
|01/07/2021|||50.00|Bedwyr T Davies Store
Rooms|||Storio|
|02/08/2021|||50.00|Bedwyr T Davies Store
Rooms|||Storio|
|01/09/2021|||50.00|Bedwyr T Davies Store
Rooms|||Storio|
|01/10/2021|||50.00|Bedwyr T Davies Store
Rooms|||Storio|
|01/11/2021|||50.00|Bedwyr T Davies Store
Rooms|||Storio|
|01/12/2021|||50.00|Bedwyr T Davies Store
Rooms|||Storio|
|04/01/2022|||50.00|Bedwyr T Davies Store
Rooms|||Storio|
|01/02/2022|||50.00|Bedwyr T Davies Store
Rooms|||Storio|
|08/02/2022|||86.40|1310 WIX
COM*PREMI|||Gwefan|
|22/02/2022|||18.00|1310 and 1 IONOS|||Gwefan|
|01/03/2022|||50.00|Bedwyr T Davies Store
Rooms|||Storio|