EGLWYS EFENGYLAIDD ARDUDWY
ELUSEN RHIF: 1165697
ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR AR GYFER Y FLWYDDYN ARIANNOL 2020-2021
Bu’r flwyddyn ariannol ddiwethaf yn un fydd yn cael ei chofio yn y llyfrau hanes o ran effaith Covid-19 ar y wlad, ac ar unigolion. Yr un modd bu raid i ninnau fel eglwys ddod a’n cyfarfodydd yn y capel i ben am ran helaeth y flwyddyn, yn unol a rheolau y llywodraeth. Ond da oedd gallu dal i gyfarfod drwy gyfrwng Skype.
Rydym yn ei chyfrif yn fraint fel aelodau o Eglwys Efengylaidd Ardudwy, ac fel ymddiriedolwyr yr elusen, ein bod wedi, ac yn cael parhau i addoli Duw, ac i ddatgan ei drugaredd.
Rydym yn cadarnhau fod yr adroddiad ariannol yn gywir ac yn ei chyflwyno i’r Comisiwn Elusennau yn unol a’r gyfraith.
O ran y sefyllfa ariannol, bu y sefyllfa yn sefydlog, gyda rhoddion drwy’r post a’r banc, yn gwneud i fyny am y diffyg casgliadau yn ystod gwasanaethau.
Cafodd yr arian ei ddefnyddio i gynnal yr eglwys a’r gweinidog er budd yr aelodau a’r gymuned ehangach. Rhoddwyd un rhodd eleni at waith Indian Village Ministries i gynnal y tlawd a’r gorthrymedig dramor.
Byddwn yn parhau i gysidro y modd gorau i ddefnyddio’n adnoddau ariannol.
Yn gywir,
Meirion Williams, Henuriad
Tony Eastwood, Trysorydd
Euryn Roberts, Ysgrifennydd
Mantolen Eglwys Efengylaidd Ardudwy
6ed o Ebrill 2020 - 5ed o Ebrill 2021
Derbyniadau:
Taliadau:
| Casgliadau'r Sul (a rhoddion eraill): | £22,955.00 | Cyflog y gweinidog: | £19,810.56 | |
|---|---|---|---|---|
| Ad-daliad Rhodd Gymorth: | £6,140.54 | Yswiriant cenedlaethol: | £4,365.28 | |
| Llog: | £12.23 | Talu nol ad-daliad Rhodd Gymorth: | £150.00 | |
| ------------------ | Costau teithio: | £0.00 | ||
| Cyfanswm y derbyniadau: | £29,107.77 | Trydan: | £912.00 | |
| Mewn llaw yn y banc 6/4/2020: | £70,226.13 | Pregethwyr ar y Sul: | £400.00 | |
| Dwr: | £141.00 | |||
| CYFANSWM TERFYNOL: | £99,333.90 | Yswiriant yr adeilad: | £1,067.07 | |
| Gwaith ar y capel a safle we: | £86.99 | |||
| Ysgol Sul: | £70.21 | |||
| Rhoddion: | £500.00 | |||
| Indian Village Ministries: | £500 | |||
| ------------------ | ||||
| Cyfanswm y taliadau: | £27,503.11 | |||
| Mewn llaw yn y banc 5/4/2021: | £71,830.79 | |||
| CYFANSWM TERFYNOL: | £99,333.90 |
Par / Re: Eglwys Efengylaidd Ardudwy
Archwilwyd y llyfrau ac fe’u cafwyd yn gywir.
The accounts were audited and found to be correct.
Alwena M. Evans
Cyfrifydd / Accountant
21ain o Fai 2021 / 21[st] May 2021