## **EGLWYS EFENGYLAIDD ARDUDWY** 

## ELUSEN RHIF: 1165697 

## ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR AR GYFER Y FLWYDDYN ARIANNOL 2020-2021 

Bu’r flwyddyn ariannol ddiwethaf yn un fydd yn cael ei chofio yn y llyfrau hanes o ran effaith Covid-19 ar y wlad, ac ar unigolion.  Yr un modd bu raid i ninnau fel eglwys ddod a’n cyfarfodydd yn y capel i ben am ran helaeth y flwyddyn, yn unol a rheolau y llywodraeth. Ond da oedd gallu dal i gyfarfod drwy gyfrwng Skype. 

Rydym yn ei chyfrif yn fraint fel aelodau o Eglwys Efengylaidd Ardudwy, ac fel ymddiriedolwyr yr elusen, ein bod wedi, ac yn cael parhau i addoli Duw, ac i ddatgan ei drugaredd. 

Rydym yn cadarnhau fod yr adroddiad ariannol yn gywir ac yn ei chyflwyno i’r Comisiwn Elusennau yn unol a’r gyfraith. 

O ran y sefyllfa ariannol, bu y sefyllfa yn sefydlog, gyda rhoddion drwy’r post a’r banc, yn gwneud i fyny am y diffyg casgliadau yn ystod gwasanaethau. 

Cafodd yr arian ei ddefnyddio i gynnal yr eglwys a’r gweinidog er budd yr aelodau a’r gymuned ehangach.  Rhoddwyd un rhodd eleni at waith Indian Village Ministries i gynnal y tlawd a’r gorthrymedig dramor. 

Byddwn yn parhau i gysidro y modd gorau i ddefnyddio’n adnoddau ariannol. 

Yn gywir, 

Meirion Williams, Henuriad 

Tony Eastwood, Trysorydd 

Euryn Roberts, Ysgrifennydd 



## **Mantolen Eglwys Efengylaidd Ardudwy** 

## **6ed o Ebrill 2020 - 5ed o Ebrill 2021** 

## **Derbyniadau:** 

## **Taliadau:** 

|Casgliadau'r Sul (a rhoddion eraill):|£22,955.00|Cyflog y gweinidog:||£19,810.56|
|---|---|---|---|---|
|Ad-daliad Rhodd Gymorth:|£6,140.54|Yswiriant cenedlaethol:||£4,365.28|
|Llog:|£12.23|Talu nol ad-daliad Rhodd Gymorth:||£150.00|
||------------------|Costau teithio:||£0.00|
|**Cyfanswm y derbyniadau:**|**£29,107.77**|Trydan:||£912.00|
|Mewn llaw yn y banc 6/4/2020:|£70,226.13|Pregethwyr ar y Sul:||£400.00|
|||Dwr:||£141.00|
|**CYFANSWM TERFYNOL:**|**£99,333.90**|Yswiriant yr adeilad:||£1,067.07|
|||Gwaith ar y capel a safle we:||£86.99|
|||Ysgol Sul:||£70.21|
|||Rhoddion:||£500.00|
|||Indian Village Ministries:|£500||
|||||------------------|
|||**Cyfanswm y taliadau:**||**£27,503.11**|
|||Mewn llaw yn y banc 5/4/2021:||£71,830.79|
|||**CYFANSWM TERFYNOL:**||**£99,333.90**|





## **Par / Re: Eglwys Efengylaidd Ardudwy** 

Archwilwyd y llyfrau ac fe’u cafwyd yn gywir. 

The accounts were audited and found to be correct. 

Alwena M. Evans 

Cyfrifydd / Accountant 

21ain o Fai 2021 / 21[st] May 2021 

