OpenCharities

This text was generated using OCR and may contain errors. Check the original PDF to see the document submitted to the regulator. This document is also available as Markdown.

2025-03-31-accounts

ADRODDIAD BLYNYDDOL A DATGANIADAU ARIANNOL am y flwyddyn 1 Ebrill 2024 i 31 Mawrth 2025

Sefydliad Corfforedig Elusennol Rhif elusen: 1155539 www.eisteddfod.cymru

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

CYNNWYS

Adroddiad yr Ymddiriedolwyr:
Amcanion a Gweithgareddau’r elusen 2
Cyflawniadau a Pherfformiad 4
Adolygiad Ariannol 11
Gwybodaeth Gyfreithiol a Gweinyddol 14
Strwythur, Llywodraethu a Rheoli 15
Cynlluniau’r Dyfodol 18
Adroddiad yr Archwilwyr Annibynnol 19
Datganiad o’r Gweithgareddau Ariannol 23
Mantolen 24
Datganiad o’r Llif Arian 25
Nodiadau i’r datganiadau ariannol 26

1

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR

Adroddiad yr ymddiriedolwyr am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2025

Mae'r ymddiriedolwyr yn cyflwyno eu hadroddiad blynyddol a datganiadau ariannol yr elusen am y flwyddyn o 1 Ebrill 2024 i 31 Mawrth 2025. Paratowyd y datganiadau ariannol yn unol â'r polisïau cyfrifyddu a nodir yn nodyn 1 i'r cyfrifon ac yn cydymffurfio â chyfansoddiad yr elusen, Deddf Elusennau 2011, Datganiad o Arferion a Argymhellwyd i Elusennau (SORP) sy’n paratoi eu cyfrifon yn unol â’r Safon Adrodd Ariannol sy’n berthnasol yn y Deyrnas Gyfunol a Gweriniaeth Iwerddon (FRS102).

AMCANION A GWEITHGAREDDAU'R ELUSEN

Amcanion yr Eisteddfod, er budd y cyhoedd yng Nghymru a ledled y byd, yw:

Mae’r Ymddiriedolwyr yn gweithredu i gyflawni’r amcanion hyn trwy ddilyn yr ymrwymiadau a ganlyn:

2

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

AMCANION A GWEITHGAREDDAU'R ELUSEN

Budd cyhoeddus

Mae’r ymddiriedolwyr yn cadarnhau eu bod nhw wedi cydymffurfio â'r ddyletswydd yn adran 17 o Ddeddf Elusennau 2011 i roi sylw priodol i'r canllawiau budd cyhoeddus a gyhoeddir gan y Comisiwn Elusennol wrth benderfynu ar ein gweithgareddau.

Amcanion craidd yr Eisteddfod Genedlaethol yw hyrwyddo diwylliant Cymru a diogelu iaith, hanes a thraddodiadau Cymru mewn cymdeithas amrywiol fodern. Mae gŵyl flynyddol yn cael ei chynnal i ddathlu popeth Cymreig ac i ddatblygu diwylliant Cymru o fewn y brif ffrwd drwy:

Mae’r ŵyl yn hyrwyddo a’n hybu'r defnydd o’r iaith Gymraeg, trwy arddangos talent o Gymru. Mae hyn yn cael ei gyflawni drwy ymglymu artistiaid, cerddorion, perfformwyr, busnesau, addysg a darparwyr cymdeithasol. Mae’r holl bobl leol a’r holl fusnesau lleol yn cael eu hannog i fynd ati i gymryd rhan, gan greu cyfuniad â blas Cymreig arbennig i adlewyrchu diwylliant, traddodiadau a gwerthoedd pobl Cymru.

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn cyflawni ei hamcanion craidd trwy:

3

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

CYFLAWNIADAU A PHERFFORMIAD

Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024

Yr arlwy artistig

Un o’r digwyddiadau mwyaf poblogaidd yn y Babell Lên eleni oedd Sesiwn Goffa Llwyd o’r Bryn, pan fu’r actores arobryn, Siân Phillips, yn sgwrsio gyda Steffan Donnelly am ei bywyd a’i gwaith. Mae hon yn datblygu i fod yn sesiwn flynyddol sy’n apelgar a phoblogaidd.

Unwaith eto eleni, roedd y Cwt Cabaret yn boblogaidd gydag amrywiaeth ddifyr o weithgareddau nos yn llenwi gofod y Babell Lên gyda’r hwyr.

Lleoliad arall sy’n denu cynulleidfa fawr gyda’r nos yw’r Tŷ Gwerin , ac unwaith eto eleni, roedd y rhaglen yn ddeniadol ac yn gymysgedd dda o sesiynau lleol a chenedlaethol, gydag ambell ffefryn fel y Stomp Werin a’r Gymanfa Gerdd Dant yn dychwelyd eto eleni.

Gyda churadur newydd wrth y llyw, rhoddwyd cyfle i lawer mwy o artistiaid arddangos yn Y Lle Celf eleni, gydag ymdeimlad o gelf mewn gŵyl yn yr oriel ac awyrgylch braf. Mae angen ystyried rôl yr arddangosfa arbennig yn Y Lle Celf, a thrafod a yw’r cysyniad o arddangosfa ar ei ffurf bresennol yn gweithio ynteu a oes angen bod yn fwy arbrofol a beiddgar.

Roedd naws braf yn Encore eleni gyda’r rhaglen yn apelgar ac agosatoch, gyda chymysgedd o sesiynau lleol a chenedlaethol drwy gydol yr wythnos.

Mae’r berthynas gyda Llywodraeth Cymru a Dysgu Cymraeg yn mynd o nerth i nerth ac ardal y Pentref Dysgu Cymraeg yn elwa oherwydd hyn. Er i’r ardal gael ei leoli’n agos at y brif fynedfa ers rhai blynyddoedd bellach, y bwriad yw edrych ar leoli’r Pentref Dysgu Cymraeg mewn rhan arall o’r Maes y flwyddyn nesaf.

Ceir cymysgedd o sesiynau hwyliog a swmpus, ac mae’r ardal yn cynnwys sesiynau ar gyfer dysgwyr ar bob lefel, yn ogystal â digwyddiadau sy’n pontio rhwng siaradwyr newydd a siaradwyr hyderus.

Bu’r ardal chwarae yng nghanol Parc Ynysangharad yn ychwanegiad hyfryd i ardal y Pentref Plant eleni, gyda’r parc a’r gweithgareddau’n denu miloedd o blant cyn ac oedran cynradd yn ystod yr wythnos. Dyma ardal sydd wedi ennill ei blwyf dros y blynyddoedd diwethaf, gydag amserlen syml ond llwyddiannus, sy’n gadael i blant gymdeithasu a chwarae. Roedd yr Ynys Glyd, ardal synhwyraidd i blant niwro-amrywiol hefyd yn ychwanegiad pwysig i’r pentref eleni.

Gweithiodd yr arlwy theatrig o amgylch y Maes yn dda iawn eleni, gyda chynyrchiadau mwy ffurfiol yn cael eu cynnal yng nghanolfan YMa yng nghanol y dref. Mae cynnal gweithgareddau theatrig mewn gwahanol rannau o’r Maes yn apelio at ein cynulleidfa, gydag arlwy dawns fel rhan o theatr stryd yn genre sy’n cynyddumewn poblogrwydd yn flynyddol.

Rhoddwyd ffocws ar ddatblygu sgwennwyr newydd eleni. Cafwyd ymateb ardderchog i Corn Gwlad a Brên. Calon. Fi. dau gydgynhyrchiad gyda’r Eisteddfod a berfformiwyd yn gyntaf fel gwaith mewn datblygiad ar y Maes cyn dychwelyd fel cynyrchiadau llawn yn ddiweddarach.

Gweithiodd y berthynas gyda’r Gwasanaeth Cerdd a’r cyngor yn dda ar y bandstand gan roi cyfle i artistiaid lleol yn ystod y dydd. Defnyddiwyd y bandstand ar gyfer perfformiadau golau cannwyll gyda’r nos.

Mae Caffi Maes B yn lleoliad poblogaidd ar gyfer perfformiadau theatrig. Mae comedi yn parhau yn boblogaidd, gyda galw am slot gomedi dyddiol yn y dyfodol.

4

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

CYFLAWNIADAU A PHERFFORMIAD

Eleni, roedd dwy ganolfan oddi ar y Maes, y Muni ac YMa yng nghanol y dref. Defnyddiwyd y Muni ar gyfer rhagbrofion a pherfformiadau min nos, ac roedd YMa yn leoliad gwych ar gyfer perfformiadau theatrig mwy ffurfiol. Cymerodd rhain le yr ail bafiliwn eleni, gyda’r Muni yn arbennig yn dangos y byddai gofod hyblyg ar gyfer rhagbrofion hefyd yn gallu cael ei ddefnyddio’r greadigol gyda’r nos wrth edrych i’r dyfodol.

Cyngerdd y Côr

Addasiad cwbl newydd o stori eiconig Nia Ben Aur oedd sioe fawr yr Eisteddfod eleni. Gyda chystadlu’n parhau gyda’r nos am ran helaeth o’r wythnos, dim ond un cyngerdd a gynhaliwyd yn y Pafiliwn.

Hanner canrif ar ôl premiere y sioe roc Gymraeg eiconig yn Eisteddfod Bro Myrddin, 1974, rhoddodd Patrick Rimes a Sam Humphreys wedd werinol ac electro i’r caneuon, a chrëwyd sgript newydd sbon gan Fardd Plant Cymru, Nia Morais. Crëwyd y trefniannau corawl gan Richard Vaughan, gyda Angharad Lee yn cyfarwyddo’r sioe. Roedd y côr yn un o elfennau cymunedol mwyaf y prosiect eleni, gyda thros 300 o bobl leol, yn siaradwyr Cymraeg hyderus, dysgwyr ac yn ddi-gymraeg yn cael cyfle i berfformio. Roedd yr addasiad yn hynod arbrofol a’r sioe yn ei chyfanrwydd yn wahanol i’r hyn roedd ein cynulleidfa’n ei ddisgwyl.

Y Maes

Dychwelodd yr Hwb Trydydd Sector eleni, mewn partneriaeth gyda Chyngor Gwirfoddol Cenedlaethol Cymru ac Interlink, gan sicrhau presenoldeb i dros 30 o elusennau lleol a chenedlaethol.

Bu’n rhaid torri i lawr ar nifer yr arlwywr a ddaeth i’r Maes eleni, oherwydd bod gofod yn brin, ac o’r herwydd roedd safon y bwyd yn well. Golygodd hyn hefyd fod llawer o bobl wedi gadael y Maes i brynu bwyd a chyfrannu i’r economi leol. Roedd nifer o’r arlwywyr yn cynnig prydau fforddiadwy am `5, ac mae’n rhaid sicrhau fod y rhain ar gael drwy gydol yr wythnos.

Un o amcanion mawr y cyngor sir a ninnau wrth gynnal yr ŵyl ym Mhontypridd oedd creu Eisteddfod werdd gyda phwyslais amlwg ar drafnidiaeth gyhoeddus. Gorffennwyd y gwaith lleol ar y Metro, a bu tîm aml-asiantaeth yn gweithio ar gynllun trafnidiaeth am fisoedd, gan annog pobl i ddefnyddio’r bws a’r trên a pheidio â gyrru i ganol y dref. Gweithiodd hyn yn wych, gyda threnau rheolaidd a thocynnau bws am £1 o amgylch yr ardal, a chrëwyd glasbrint ar gyfer y dyfodol. Mae hyn yn rhan bwysig o’n polisi amgylcheddol a fydd yn dod yn elfen fwy amlwg o’n gwaith wrth i ni weithio tuag at statws sero-garbon dros y blynyddoedd nesaf.

Roedd nifer o heriau wrth gynnal yr Eisteddfod drefol mewn cwm, ac un o’r rheini oedd sicrhau fod gennym ni ddigon o dir addas ar gyfer y maes carafanau yn ogystal â’r Maes ei hun. Ni fu hyn yn hawdd a chafwyd rhai cwynion am y pellter o’r Maes (0.4 milltir).

Gosodwyd yr hwb hygyrchedd wrth ymyl y llecyn llonydd, a symudwyd Byw Bywyd yno er mwyn i bobl allu gollwng eu sgwteri mewn ardal benodol ar ôl 18:00. Bu’r gwasanaeth bygi’n boblogaidd gydag ymwelwyr ag anghenion hygyrchedd ychwanegol, yn arbennig wrth fynd o’r Pafiliwn i’r brif fynedfa. Bu’r cyfieithu BSL yn fwy poblogaidd eleni, a chynhyrchwyd fideo penodol ymlaen llaw er mwyn ei hyrwyddo.

Gweithiodd y Maes yn arbennig o dda yn ystod yr wythnos, ond bu gosod y strwythurau a’r cyfleusterau’n llawer mwy heriol na’r arfer. Roedd rhaid ystyried pa strwythurau fyddai’n ffitio yn y gwahanol ofodau ac o amgylch yr adeiladau parhaol ar y safle. Roedd cael dim ond un fynedfa i gerbydau hefyd yn heriol, ond gweithiodd ein system rheoli cerbydau’n dda, a byddwn yn parhau i ddilyn y drefn hon y flwyddyn nesaf.

5

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

CYFLAWNIADAU A PHERFFORMIAD

Bu’n rhaid cyfyngu stondinwyr i ddwy uned yr un eleni, er mwyn sicrhau bod lle i bawb a digon o amrywiaeth ar y Maes. Yn ogystal, cyflwynwyd stondinau llai o faint (3m x 3m) am y tro cyntaf, gyda’r rhain yn cael eu hyrwyddo i fusnesau bach a lleol. Cynhaliwyd dwy sesiwn galw draw i drafod stondinau ym Mharc Ynysangharad ddiwedd Chwefror ar gyfer busnesau lleol, gyda dwy arall yn cael eu cynnal ar Zoom ar gyfer darpar stondinwyr cenedlaethol. Gweithiodd y system archebu amser i stondinwyr gyrraedd y Maes i osod i fyny yn dda, a byddwn yn dilyn yr un drefn eto y flwyddyn, er mwyn torri i lawr ar nifer y cerbydau ar y Maes cyn yr ŵyl.

Yn dilyn llwyddiant y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg dros y blynyddoedd diwethaf, eleni penderfynwyd arbrofi drwy greu Pentref Celf, gan osod clwstwr o stondinau a chytiau pren wrth ymyl Y Lle Celf. Bu hyn yn llwyddiant a byddwn yn parhau gyda’r arbrawf hwn y flwyddyn nesaf.

Unwaith eto eleni, roedd y Maes yn edrych yn ddeniadol a lliwgar ac mae hyn yn ychwanegu cymaint at naws gŵyl yn ystod yr wythnos.

Cyfathrebu a digidol

Gan nad oedd yr Eisteddfod wedi’i chynnal yn ardal Rhondda Cynon Taf ers cynifer o flynyddoedd, roedd codi ymwybyddiaeth o’r brand a chyflwyno elfennau o’r ŵyl mewn ffordd ddeniadol a syml yn hollbwysig.

Cafodd hyn ei wneud drwy ymgyrch farchnata eang ar draws yr ardal a oedd yn cynnwys hysbysebion ar fysiau, fflagiau ar y stryd, baneri cymunedol ar draws y dalgylch ynghyd â defnydd deniadol o’r brand o amgylch adeilad y llyfrgell wrth i ymwelwyr gyrraedd y Maes.

Defnyddiwyd y brand yn ofalus drwy gydol y flwyddyn er mwyn i drigolion lleol ddod i’w adnabod, gyda defnydd cryf o’r brand hefyd yn rhan allweddol o’n hymgyrch genedlaethol i hyrwyddo’r ŵyl, tocynnau a’r rhaglen artistig.

Defnyddiodd y cyngor elfennau cryf o’n brandio ni wrth hyrwyddo’r ŵyl o amgylch y dalgylch hefyd, gan ein helpu ni godi ymwybyddiaeth ymhellach.

Mae cynhyrchu rhaglen ar ffurf cofrodd, gyda chyfres o erthyglau nodwedd yn gweithio’n dda, a byddwn yn parhau gyda hyn y flwyddyn nesaf.

Mae gennym berthynas dda iawn gyda newyddiadurwyr lleol a chenedlaethol gyda llawer iawn o sylw positif drwy gydol y flwyddyn ac yn ystod yr ŵyl ei hun. Yn naturiol, nid yw pob stori’n bositif, ac rydyn ni’n derbyn ein bod ni am gael sylw negyddol pan fo stori ddilys yn torri.

Un o lwyddiannau mawr wythnos yr Eisteddfod oedd y teithiau tywys a oedd yn cael eu cynnal ddwywaith y dydd. Denodd y rhain gannoedd o bobl dros yr wythnos, gyda chymysgedd o drigolion lleol a oedd yn dod yn mynychu am y tro cyntaf ynghyd â nifer dda o ymwelwyr o wahanol rannau o’r byd. Mae’r rhain wedi’u targedu at ymwelwyr a’r rheini sy’n dysgu Cymraeg, ac yn cael eu cynnal gan ddysgwr sy’n hyderus erbyn hyn.

Cafodd y teithiau ganmoliaeth mawr gan rai o staff Croeso Cymru eleni, a byddwn yn eu cynnwys yn rhaglen y Pentref Dysgu Cymraeg o hyn ymlaen fel gweithgaredd ffurfiol.

Rydyn ni’n parhau i ddatblygu ein defnydd o’n gwefan a’r app, ac mae gwefan yr Eisteddfod ymysg y gwefannau Cymraeg mwyaf poblogaidd.

6

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

CYFLAWNIADAU A PHERFFORMIAD

Eleni, gwnaethpwyd gwell defnydd o’r digwyddiadur ar-lein a byddwn yn edrych ar sut y gellir ehangu ar hyn y flwyddyn nesaf. Byddwn hefyd yn datblygu system hysbysebion ar y wefan fel ffordd syml o gynyddu incwm, yn arbennig yn ystod y cyfnodau prysur.

Mae app yr Eisteddfod yn parhau i fynd o nerth i nerth, ac eleni cafwyd dyluniad newydd glân i gyd-fynd â’r wefan.

Cafodd yr app ei ddefnyddio gan dros 30,000 o unigolion yn ystod yr wythnos, gyda thua 20% o’r rhain yn ddefnyddwyr newydd. Cyflwynwyd system hysbysiadau ar yr app a oedd yn ddefnyddiol iawn ddydd Iau pan oedd angen symud a chanslo sesiynau oherwydd y tywydd, a byddwn yn edrych ar ei wneud yn fwy strwythuredig i flwyddyn nesaf.

Y Gronfa Leol a nawdd

Erbyn bore cyntaf yr Eisteddfod, roedd y Gronfa Leol wedi cyrraedd £0.305m, ac wrth ychwanegu cyfraniadau mewn da gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ac eraill, cyhoeddwyd fod y cyfanswm wedi cyrraedd y nod.

Rydyn ni’n ddiolchgar i bawb a weithiodd mor galed ym mhob rhan o’r dalgylch yn codi arian, yn enwedig gan nad oes unrhyw gynghorau cymuned yn yr ardal fel sy’n bodoli mewn rhannau eraill o Gymru, ac sy’n barod iawn i gefnogi’r Eisteddfod yn lleol.

Gweithiodd y tri chwm mewn ffordd wahanol i’w gilydd, gydag aelodau’r pwyllgorau lleol yn dewis sut roedden nhw am weithio. Roedd Rhondda a Chynon yn ffafrio un pwyllgor codi arian ar gyfer yr ardal ac ardal Taf wedi’i rhannu’n wardiau tebycach i’r arfer.

Am y tro cyntaf, gweinyddwyd system archebu gwobrau ar ein gwefan, a gweithiodd hyn yn dda, yn enwedig er mwyn annog pobl o’r tu allan o’r dalgylch i gyflwyno gwobr yn ogystal â’r rheini a oedd yn byw yn lleol. Roedd yr wybodaeth yn cael ei uwch lwytho’n awtomatig ar gyfer y rhaglen ac roedd hyn yn help mawr yn ystod cyfnod prysur.

Llwyddodd y gronfa nawdd i gyrraedd ei nod hefyd ac rydyn ni’n ddiolchgar iawn i noddwyr hen a newydd am eu cefnogaeth unwaith eto eleni. Rydyn ni wedi datblygu nifer o becynnau nawdd newydd dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac mae’n braf gweld bod rhain yn apelgar gan noddwyr o’r sector preifat yn ogystal â’r rheini sydd yn y sector cyhoeddus.

Cystadlu

Llwyddwyd i gwblhau’r gwaith o greu’r rhaglen gystadlu ddrafft yn gynnar eleni fel bod modd ei chyhoeddi cyn y dyddiad cau a helpu cystadleuwyr i wneud trefniadau teithio ac aros ar gyfer yr wythnos, a byddwn yn parhau gyda’r drefn hon eleni.

Nodwedd newydd arall oedd bod y rhaglen yn gweithio tuag at uchafbwynt ddiwedd yr wythnos gyda’r brif gystadleuaeth unigol ym mhob adran yn cael eu cynnal ar y dydd Sadwrn olaf, gan wella llif a siâp yr wythnos.

Gweithiodd y nosweithiau cystadlu’n dda, gan ddenu cynulleidfa newydd i wylio’r cystadlu, yn enwedig gyda pherfformiadau eraill yn ystod y nosweithiau. Bu’r sŵn o Lwyfan y Maes yn broblem, ond cafwyd cydweithio da rhwng y tîm cystadlaethau a rheolwyr Llwyfan y Maes, yn enwedig yn ystod ail hanner yr wythnos er mwyn ceisio cytuno ar gyfaddawd a oedd yn gweithio i bawb. Bydd yr arbrawf o gynnal cystadlaethau gyda’r hwyr yn parhau yn Wrecsam y flwyddyn nesaf.

Cafodd y gystadleuaeth côr newydd i’r Eisteddfod groeso brwd gyda 14 o gorau newydd yn cymryd rhan gydag amryw o’r dalgylch gan roi cyfle i dros 750 o unigolion berfformio mewn

7

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

CYFLAWNIADAU A PHERFFORMIAD

côr ar lwyfan cenedlaethol am y tro cyntaf. Eto, bydd y gystadleuaeth yma’n parhau yn 2025. Mae cynnal rhagbrofion y gwahanol adrannau yn yr isbafiliynau perthnasol i’w crefft (Tŷ Gwerin, Encore a’r Babell Lên) yn y bore hefyd yn gweithio’n dda, ac eleni, cynhaliwyd y rhagbrofion cyffredinol yn y Muni yng nghanol y dref. Roedd niferoedd cystadlu eleni’n ardderchog ac mae gwaith eisoes ar droed i hyrwyddo cystadlaethau 2025 yn eang er mwyn denu cynifer o gystadleuwyr â phosibl.

Gwirfoddoli

Agorodd ein porth gwirfoddoli ym mis Mawrth eleni, a derbyniwyd dros 500 o geisiadau i stiwardio’n syth. Diolch i bawb ddaeth atom ni ym Mhontypridd eleni, ynghyd â phawb sy’n rhoi o’u hamser i weithio gyda ni ar draws pob maes yn ystod y flwyddyn.

Yn ôl amcangyfrifon gan gyrff sy’n cynnig grantiau, mae amser ein gwirfoddolwyr ni werth dros £0.120m yn ystod wythnos yr ŵyl yn unig. Wrth gwrs, mae eu gwerth i’r Eisteddfod ei hun yn llawer mwy na hyn gan na fyddai modd cynnal yr ŵyl na rhedeg ein prosiectau heb eu gwaith a’u cefnogaeth. Mae cyfraniad y rheini sy’n rhan o’n pwyllgorau amrywiol drwy gydol y prosiect yn ychwanegol at hyn.

Un o’n prosiectau gwaddol ni eleni oedd i gydweithio gyda grwpiau lleol er mwyn ceisio sicrhau bod rhai o’n gwirfoddolwyr lleol ni’n parhau i ddefnyddio’u Cymraeg i wirfoddoli gydag elusennau a grwpiau gwirfoddol eraill yn Rhondda Cynon Taf ar ddiwedd yr ŵyl.

Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda’r fenter iaith leol, Interlink, Strategaeth Bryncynon, Ymbweru Bro a’r cyngor sir ar brosiect gwaddol gwirfoddoli, gyda ffair wirfoddoli a digwyddiad arbennig i gyflwyno tystysgrifau a diolch i’n gwirfoddolwyr lleol ddiwedd Tachwedd eleni. Dyma’r tro cyntaf i ni gynnal digwyddiad fel hyn.

Rydyn ni hefyd wedi penodi Cydlynydd Gwirfoddoli i weithio gyda ni ar wahanol brosiectau am ddiwrnod yr wythnos drwy gydol y flwyddyn. Rydyn ni’n edrych ar ddatblygu’r cyfleoedd gwirfoddoli sydd ar gael drwy gydol y flwyddyn, yn ogystal ag edrych ar sut y gallwn ni ehangu apêl yr Eisteddfod i wirfoddolwyr ar bob lefel.

Rydyn ni eisoes yn trafod sut y gallwn ni ffurfioli’r berthynas gyda Chyngor Gwirfoddoli Cenedlaethol Cymru dros y misoedd nesaf ac mae nifer o gynlluniau eraill ar y gweill i adeiladu ar y gwaith gwaddol gwirfoddoli sydd wedi’i wneud yn ardal Rhondda Cynon Taf wrth symud ymlaen at 2025 a 2026.

Cymunedol

Dechreuodd y gwaith cymunedol yn gynharach na’r arfer yn ardal Rhondda Cynon Taf, diolch i grant gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, lle bu modd cyflogi swyddog cymunedol i weithio fel rhan o’r tîm am dair blynedd.

Cynhaliwyd dros ddeuddeg o brosiectau meicro-leol gan roi blas o’n hiaith a’n diwylliant yn enw’r Eisteddfod. Roedd yn bwysig ein bod ni’n creu prosiectau yn Rhondda, Cynon a Thaf, a bod yr Eisteddfod a threftadaeth a diwylliant lleol yn rhan bwysig o’r prosiectau.

Roedd rhai’n edrych yn ôl ar eisteddfodau’r gorffennol ac yn dysgu am yr hyn a fu yn ddiwylliannol ac yn yr ŵyl, ac eraill yn edrych ar yr Eisteddfod heddiw, ac yn creu cyfleoedd diwylliannol newydd ac i’r dyfodol.

Roedd hefyd yn bwysig ein bod ni’n gweithio gyda phobl o bob oed a phob cefndir, a phenderfynwyd canolbwyntio ar gynulleidfaoedd newydd ac anghyfarwydd i’r Eisteddfod yn ystod y prosiect. Hefyd, roedd gweithio gydag ysgolion yn amcan pwysig o’r prosiect, ond

8

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

CYFLAWNIADAU A PHERFFORMIAD

roeddem yn awyddus i gamu y tu hwnt i ysgolion Cymraeg yn unig a chreu cyfleoedd i blant mewn ysgolion lle nad yw’r Gymraeg yn brif iaith addysgu’n allweddol.

Roedd hefyd yn bwysig i ni weithio gydag ysgolion mewn ardaloedd difreintiedig ac ysgolion nad ydynt yn derbyn llawer o gyfleoedd, fel ein bod ni’n mynd â’n hiaith a’n diwylliant - a’r Eisteddfod - allan i’r gymuned ac yn cyrraedd teuluoedd a chynulleidfaoedd newydd.

Braf yw nodi fod nifer fawr o’r rheini fu’n cydweithio gyda ni fel rhan o’r prosiect allymestyn wedi archebu stondinau yn yr Eisteddfod yn ystod yr wythnos, ac wedi dod yn rhan o’r gwaith o drefnu’r Eisteddfod ei hun, yn union fel yr oeddem ni wedi’i obeithio.

Un o’r prosiectau oedd grŵp Cwm Taf People First, grŵp o oedolion gydag anghenion dysgu ychwanegol sy’n cyfarfod yn Ferndale yn y Rhondda. Cawsom gyfle i ymweld â hwy i sôn am yr Eisteddfod ac erbyn diwedd ein hymweliad, roedden nhw wedi penderfynu eu bod nhw eisiau cyfansoddi cân ar gyfer yr Eisteddfod gyda’u therapydd. Cafodd y gân ei chyfieithu i’r Gymraeg a ffilmiwyd y grŵp yn ei pherfformio, ac yna fe ddaethon nhw i’r Maes i ganu fel rhan o raglen Encore. Mae’r grŵp wedi cysylltu’n ôl gyda ni ers yr Eisteddfod yn dweud eu bod nhw wedi mwynhau’r profiad yn arw a’u bod nhw wrthi’n creu cân newydd, ac yn gofyn a oes modd iddyn nhw ddod i fyny i Wrecsam i’w pherfformio y flwyddyn nesaf.

Dyma enghraifft o sut rydyn ni’n ymgysylltu ar lawr gwlad a sut mae’r Eisteddfod, ein hiaith a’n diwylliant yn gallu ysbrydoli pobl ar lefel meicro-leol.

Mae gadael gwaddol ar ddiwedd yr ŵyl yn rhan bwysig o’n cenadwri, ac eleni rydyn ni wedi gweithio gyda nifer o sefydliadau, gan gynnwys y fenter iaith leol, Ymbweru Bro, y cyngor sir a Llywodraeth Cymru er mwyn gwneud hyn.

Un o’r prosiectau hyn yw Gwobrau Busnes Ardal yr Eisteddfod sy’n cael eu harwain gan y fenter, a fydd yn gwobrwyo’r busnesau yn Rhondda Cynon Taf a aeth ati i ddefnyddio’r Gymraeg mewn ffordd newydd ac effeithiol yn y cyfnod hyd at, yn ystod ac ers yr Eisteddfod. Cyflwynir y gwobrau dros frecwast yn y Lido ddydd Iau 5 Rhagfyr.

Gwaddol arall a adawyd yn lleol oedd y murlun arbennig i ddathlu dyfodiad yr Eisteddfod ar dalcen cartref Evan a James James a gyfansoddodd ein hanthem genedlaethol. Roedd dathlu’r anthem yn rhan bwysig o weledigaeth yr wythnos, gyda premiere gwaith newydd gan Eilir Owen Griffiths yn cloi’r ŵyl ym Mhontypridd, ac mae cynlluniau ar waith i ail-berfformio’r gwaith hynod hwn yn Wrecsam y flwyddyn nesaf.

Unwaith eto eleni, comisiynwyd Tudur Phillips i greu sioe am yr Eisteddfod ar gyfer cyfnod pontio blwyddyn 6 a 7, gyda’r sioe yn cael ei chynnig i ysgolion Cymraeg a’r ysgolion lle nad yw’r Gymraeg yn brif iaith y dysgu.

Yn ogystal, anfonwyd pecyn o weithgareddau digidol i bob ysgol gynradd yn y sir ynghyd â gwahoddiad i fod yn rhan o gystadleuaeth arlunio arbennig. Denodd y gystadleuaeth bron i 300 o geisiadau a chafodd y gwaith buddugol ei osod ar baneli finyl yn ffenestri Llyfrgell Pontypridd yn y cyfnod cyn ac yn ystod yr ŵyl.

9

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

CYFLAWNIADAU A PHERFFORMIAD

Yr Orsedd

Eleni oedd blwyddyn gyntaf yr Archdderwydd Mererid wrth y llyw, a chafodd groeso brwd yn yr Eisteddfod yn Rhondda Cynon Taf ynghyd ag yn ei seremoni gyntaf yn Cyhoeddi Eisteddfod Wrecsam fis Ebrill.

Yn anffodus, bu’n rhaid cynnal seremonïau urddo aelodau newydd o’r Orsedd yn y Pafiliwn eleni oherwydd tywydd anffafriol fore Llun a Gwener. Er hynny, gweithiodd y Pafiliwn yn arbennig o dda gyda digon o le i gynulleidfa fawr fwynhau’r ddwy seremoni.

Mae’r rhain yn seremonïau lliwgar sy’n apelgar i bawb, yn deuluoedd a ffrindiau’r rheini sy’n cael eu hurddo, yn ogystal ag ymwelwyr anghyfarwydd a newydd. Mae’r apêl yma’n cael ei golli drwy gynnal y seremoni y tu mewn, er ein bod yn gwerthfawrogi’r angen i wneud hyn os yw’r tywydd yn wael.

Tocynnau

Cyflwynwyd system waith ar-lein newydd yn ei chyfanrwydd eleni, a hynny ar ôl ei datblygu dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae hyn wedi trawsnewid ein ffordd o weithio wrth baratoi ar gyfer yr ŵyl ei hun, gan fod popeth yn cael ei fwydo i mewn i un system ganolog.

Mae hyn yn cynnwys tocynnau noddwyr, perfformwyr ac artistiaid, a byddwn yn blaenoriaethu’r gwaith o sicrhau fod y system hon a’n system docynnau’n gallu cysylltu ‘i gilydd er mwyn osgoi unrhyw ddyblygu.

Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth er mwyn gallu darparu tocynnau ar gyfer teuluoedd ar incwm isel ar draws y dalgylch.

Rydyn ni hefyd yn cynnig talebau bwyd ar gyfer plant fel rhan o’r cynllun hwn, a weithiodd yn well nag erioed eleni. Braf oedd clywed am gymaint o’r teuluoedd yn mwynhau’r ŵyl ac yn dychwelyd yn nes ymlaen yn yr wythnos. Dyma gynllun pwysig sy’n ein galluogi ni i sicrhau fod yr Eisteddfod yn ŵyl i bawb.

Roedd y shifft rhwng prynu ar y giât ac ymlaen llaw yn amlwg i’w weld eleni, gyda chyfradd uwch nag erioed yn dewis prynu tocynnau ar-lein cyn cyrraedd y Maes. Roedd nifer fawr yn amlwg yn prynu wrth deithio ar y bws neu’r trên i’r Maes, a’r gobaith yw y bydd hyn yn parhau i dyfu ymhellach dros y blynyddoedd er mwyn hwyluso gwaith yr uned docynnau.

10

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

ADOLYGIAD ARIANNOL

Adroddir ar ganlyniadau’r elusen am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2025 yn y Datganiad o’r Gweithgareddau Ariannol ar dudalen 23. Mae'r ffigyrau cyfatebol ar gyfer 2024 yn adlewyrchu cyfnod ariannol o 15 mis, sef 1 Ionawr 2023 i 31 Mawrth 2024. Cafodd y cam hwn i wneud y llynedd am nifer o resymau ymarferol, rheoleiddiol a strategol ac o hyn allan bydd yr adroddiadau blynyddol yn diweddu ar 31 Mawrth. O ganlyniad i’r newid hwn, nid oes modd cymharu'r symiau a gyflwynir yn y cyfrifon yn llwyr.

Derbyniwyd cyfanswm o £6.695m o incwm i mewn yn ystod y cyfnod i gymharu gyda £8.686m yn 2024 a gwariwyd cyfanswm o £6.503m (£7.729m yn 2024). Gan gynnwys hefyd y gostyngiad o £0.042m yng ngwerth y buddsoddiadau (cynnydd o £0.080m yn 2024), mae hyn yn gadael gweddill (cyn y lleihad yng ngwerth y cynllun pensiwn) ar ddiwedd y cyfnod o £0.150m (2024: Gweddill o £1.037m).

Ar 31 Mawrth 2025 roedd yr asedau net yn £8.380m (£9.070m yn 2024).

Cronfeydd

Mae'r Eisteddfod yn cadw cronfeydd ariannol mewn nifer o gategorïau:

Cronfeydd cyffredinol (anghyfyngedig) - ar gael i'w defnyddio, yn ôl disgresiwn yr ymddiriedolwyr, i unrhyw un o ddibenion elusennol yr Eisteddfod Genedlaethol. Cyfanswm y gronfa ar 31 Mawrth 2025 oedd £5.018m (2024 - £2.362m).

Cronfeydd Cyfyngedig - arian a roddir i’w defnyddio ar gyfer pwrpas penodol, ac mae eu defnydd yn gyfyngedig i’r pwrpas hwnnw. Cyfanswm y gronfa ar 31 Mawrth 2025 oedd £0.560m (2024: £1.039m).

Cronfeydd Penodol - yn cynrychioli incwm a dderbynnir ar gyfer Eisteddfodau’r dyfodol. Yn ystod y cyfnod, derbyniwyd cyfanswm o £0.960m ar gyfer Eisteddfod Wrecsam 2025 a £0.046 tuag at Eisteddfod Y Garreg Las 2026. Yn ogystal rhyddhawyd swm o £0.610m yn ôl mewn perthynas ag arian a godwyd ar gyfer Eisteddfod Rhondda Cynon Taf cyn 2024. Dangosir y symudiadau i’r gronfa yn nodyn 16 o’r cyfrifon. Roedd cyfanswm y gronfa ar 31 Mawrth 2025 yn £1.007m (31 Mawrth 2024 - £0.610m).

Cronfeydd Gwaddol - cronfeydd sydd i'w cadw er budd yr elusen fel Cronfa Cyfalaf. Cyfanswm y gronfa yma ar 31 Mawrth 2025 oedd £1.795m (£1.769m ar 31 Mawrth 2024).

Cronfa Bensiwn – Ar 31 Mawrth 2024 roedd gwarged yn y gronfa bensiwn o £3.290m. Cafodd y cynllun pensiwn budd diffiniedig ei gau ar 31 Mai 2024, gan ryddhau'r gwarged ymadael, ar ôl prisiad actiwaraidd terfynol, o £2.45m i gronfeydd cyffredinol yr elusen.

Polisi Cronfeydd wrth gefn

Mae'r cronfeydd wrth gefn yn cael eu cynnal ar gyfer unrhyw ddiffyg dros dro (e.e. colled mewn Eisteddfod benodol neu gynnydd anrhagweladwy yn y gwariant) fel y gall yr elusen parhau i weithredu ar unrhyw adeg.

Oherwydd natur ansicr nifer o ffynonellau incwm a gwariant, fel y gronfa leol, grantiau, nawdd, gwerthiant tocynnau a chostau ychwanegol o ran tywydd drwg, mae’r ymddiriedolwyr wedi cytuno ar bolisi lle dylai’r cronfeydd anghyfyngedig fod yn werth 100% o leiaf o gyfanswm y gwariant (yn seiliedig ar gyfrifon eleni), sy’n cyfartalu i dua £6.5m mewn cronfeydd wrth gefn. Ar y lefel yma, teimlai’r ymddiriedolwyr y bydd yr elusen yn gallu parhau i weithredu mewn achos o ddiffyg sylweddol naill ai oherwydd amgylchiadau fel y pandemig Covid-19 neu fod un o wyliau’r Eisteddfod yn gwneud colled ariannol. Nid yw’r cronfeydd rhydd, llai yr Eiddo Parhaol, o £4.573m (2024: £1.887m) yn cyrraedd y nod ar hyn o bryd. Mae’r strategaeth yn parhau i gynyddu’r arian rhydd drwy greu gwarged blynyddol ar ei weithgareddau.

11

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

ADOLYGIAD ARIANNOL

Arferion codi arian

Rydym yn ffodus ac yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a chyfraniad ariannol, rhai a dderbynnir yn flynyddol ac eraill ar gyfer Eisteddfodau penodol. Mae’r ymddiriedolwyr, gan gynnwys swyddogion y pwyllgorau cyllid ar draws Cymru, yn ymdrechu bob amser i sicrhau y safonau uchaf, llywodraethu da ac adolygiad parhaus mewn perthynas â'n gweithgareddau codi arian.

Cronfeydd Lleol a Chyffredinol - Mae’r mwyafrif o’r rhoddion a dderbyniwyd gan yr elusen yn cael eu derbyn trwy bwyllgorau apêl leol i godi arian i'r Eisteddfod sydd yn ymweld â'u hardal. Hwn yw gyfraniad dalgylch yr Eisteddfod i’r gost o gynnal yr ŵyl ac yn arferol mae’r pwyllgorau apêl yn codi arian am gyfnod o ddwy i dair blynedd hyd at gynnal yr Eisteddfod. Mae’r derbyniadau yma’n cynnwys rhoddion gan unigolion i ddigwyddiadau codi arian cyffredinol.

Mae pob pwyllgor apêl newydd yn derbyn cyfarwyddiadau gweithredu gan yr elusen. Mae cynrychiolwyr o bob pwyllgor apêl yn cyfarfod yn rheolaidd i adrodd yn nôl i’r Pwyllgor Cyllid Canolog.

Mae swyddogion y pwyllgor cyllid hefyd yn sicrhau:

Yn ystod 2024/25, derbyniwyd £0.305m (2024: £0.328m) ar gyfer y cronfeydd lleol a chyffredinol. Mae’r swm a godwyd yn flynyddol yn gallu amrywio gan ei fod yn dibynnu ar ba mor gyflym y mae pwyllgorau'r apêl yn codi arian.

Mae’r ffigwr yma yn cynrychioli derbyn arian o £0.158m yn y flwyddyn ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf a £0.148m a gasglwyd yn ystod y cyfnod tuag at Eisteddfodau Wrecsam 2025 ac Eisteddfod Y Garreg Las 2026.

Mae’r cyfrifon hefyd yn cynnwys incwm o £0.860m a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod i Incwm o’r Ŵyl sydd yn cynrychioli gwerthiant tocynnau Maes B, stondinau, nawdd a cheisiadau maes carafanau a gwersylla gogyfer ag Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025. Cyfrifwyd am yr incwm yma trwy’r Cronfeydd Penodol a dangosir y symudiadau yn nodyn 16.

Rhoddion trwy ewyllys – Derbyniwyd bedair rhodd eleni, gwerth cyfanswm o £0.299m, lle mae cefnogwr yr Eisteddfod wedi dewis rhoi rhodd yn eu ewyllys (2024: naw rhodd – gwerth £0.534m). Derbyniwyd hefyd un gymynrodd, gwerth £0.043m (2024: £0.233m) i’r Cronfeydd Gwaddol Parhaol lle bydd yr arian yn cael ei fuddsoddi i’w ddefnyddio at ddiben penodol.

Ymgyrchoedd eraill - Ymgymerir â phob marchnata uniongyrchol arall gan staff yr Eisteddfod i sicrhau nad yw'n afresymol ymwthiol na pharhaus. Gwneir cyswllt trwy farchnata uniongyrchol mailchimp ar gyfartaledd tua unwaith y mis. Mae'r holl ddeunydd marchnata yn cynnwys cyfarwyddiadau clir ar sut y gellir tynnu person oddi ar restrau postio.

Nid yw'r Eisteddfod yn defnyddio unrhyw gorff proffesiynol i godi arian. Ni fu unrhyw gwynion yn ystod y cyfnod am weithgaredd codi arian yr elusen.

Polisi Buddsoddi

Mae’r Ymddiriedolwyr wedi penderfynu buddsoddi arian am y tymor hir mewn portffolio risg canolig – cyfuniad o stoc y llywodraeth, cyfranddaliadau rhestredig ac unedau buddsoddi er mwyn cwrdd â gofynion am gynhyrchu incwm a thyfiant cyfalaf. Yr ymgynghorwyr buddsoddi annibynnol Brewin Dolphin sydd yn buddsoddi cronfeydd yr Eisteddfod ar ei rhan. Caiff y cronfeydd hyn eu hadolygu’n gyson.

12

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

ADOLYGIAD ARIANNOL

Mae’r Ymddiriedolwyr wedi penderfynu na ddylid buddsoddi mewn cwmnïau sydd yn gysylltiedig â chynhyrchu neu ddosbarthu arfau a thybaco. Roedd gwerth y buddsoddiadau hir dymor ar ddiwedd y cyfnod yn £4.395m o gymharu â £1.869m ar 31 Mawrth 2024.

Gwirfoddolwyr

Mae’r elusen yn ddiolchgar iawn am gyfraniad eu gwirfoddolwyr sy’n gweithio’n ddi-dâl, o godi arian i stiwardio ar faes yr Eisteddfod . Nid ydym yn gallu rhoi gwerth ariannol ar yr holl waith yma ac felly, nid yw’n cael ei gynnwys yn y Datganiad o’r Gweithgareddau Ariannol.

Rheoli risg

Mae’r Tîm Rheoli yn gyfrifol am adnabod a gwerthuso’r risgiau sylweddol sy’n berthnasol i’w meysydd busnes, ynghyd â chynllunio a gweithredu rheolaeth fewnol briodol. Asesir y risgiau hyn ar sail barhaus ac yn cofnodi risgiau materol yn y gofrestr risg.

Mae’r Panel Archwilio a’r Bwrdd Rheoli yn arolygu’r gofrestr risg o leiaf ddwywaith y flwyddyn i sicrhau bod y camau priodol yn bodoli i leihau’r risgiau hynny. Mae’r risgiau yn cynnwys parhad yr Eisteddfod, materion ariannol, Iechyd a Diogelwch, staffio a’r amgylchedd.

Rhagdybiaeth Busnes Byw

Mae'r Ymddiriedolwyr o'r farn bod yr Elusen mewn sefyllfa dda i reoli ei risgiau busnes trwy'r cyfnod hwn o ansicrwydd economaidd a bod disgwyliad rhesymol gan yr Eisteddfod bod yr adnoddau yn ddigonol i barhau i weithredu'n hyd y gellir rhagweld. Am y rhesymau hyn maent yn parhau i fabwysiadu sail busnes sy’n fyw wrth baratoi’r cyfrifon.

13

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

GWYBODAETH GYFREITHIOL A GWEINYDDOL

Enw’r elusen: Eisteddfod Genedlaethol Cymru Cyfansoddiad: Sefydliad Corfforedig Elusennol Rhif yr elusen: 1155539 Swyddfa gofrestredig: 40 Parc Tŷ Glas Llanisien Caerdydd CF14 5DU Bwrdd Rheoli ac Ymddiriedolwyr: Nic Parry (Llywydd y Llys – Penodwyd ar 07/08/2025) Gethin Thomas (Cadeirydd y Cyngor) Heulwen Jones (Is-gadeirydd y Cyngor) Gwenno Williams (Trysorydd) Christine James (Gorsedd y Beirdd) Llinos Roberts (Cadeirydd 2025 – Penodwyd 17/05/2025) John Davies (Cadeirydd 2026 – Penodwyd 17/05/2025) Aled Walters Aneurin Brown Darran Phillips (Penodwyd ar 30/01/2025) Deian Rhys Elin Jones Michael Strain Trystan Lewis Ashok Ahir (Hyd at 07/08/2025) Elin Haf Gruffydd Jones (Hyd at 07/08/2025) Gwerfyl Pierce Jones (Hyd at 07/08/2024) Heledd Bebb (Hyd at 07/08/2024) Helen Prosser (Hyd at 07/08/2025) Rhian Huws Williams (Hyd at 07/08/2024) Ysgrifennydd Catrin Jones Prif Weithredwr: Betsan Moses Archwilwyr: Ashmole & Co. 3 Stryd y Farchnad Llandeilo SA19 6AH Bancwyr: HSBC 56 Heol y Frenhines Caerdydd CF10 9NA Brocer Buddsoddiadau: Brewin Dolphin 5 Sgwâr Callaghan Caerdydd CF10 5BT Cyfreithwr Mygedol: Aled Walters

14

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

STRWYTHUR, LLYWODRAETHU A RHEOLI

Cyfansoddiad

Mae Eisteddfod Genedlaethol Cymru wedi cofrestru fel Sefydliad Corfforedig Elusennol gyda’r Comisiwn Elusennau ar 29 Ionawr 2014. Trosglwyddwyd asedau a rhwymedigaethau Eisteddfod Frenhinol Genedlaethol Cymru (rhif elusen 219171) i’r Sefydliad Elusennol Corfforedig ar 1[af] Ionawr 2015. Mae’r elusen newydd yma’n weithredol o’r dyddiad hwn.

Y Llys

Mae’r Llys yn cynnwys holl aelodau’r Elusen, gyda holl hawliau arferol i’w gweithredu trwy Gyfarfodydd Cyffredinol. Mae’r hawliau hyn yn cynnwys (heb gyfyngiad) yr hawl i benodi ac i ddiswyddo Swyddogion, Ymddiriedolwyr, ac aelodau’r Cyngor, yn unol â’r Cyfansoddiad, Rheolau Sefydlog yr elusen ac yn unol â Deddf Elusennau 2011. Mae’r Llys, mewn cyfarfodydd cyffredinol, yn ystyried ac yna’n derbyn neu wrthod adroddiadau’r Ymddiriedolwyr, y Cyngor a Bwrdd yr Orsedd, ac mae’r hawl gan y Llys i sicrhau fod yr amcanion a’r ymrwymiadau’n cael eu gweithredu’n briodol ac yn unol â dymuniad y Llys ac yn unol â’r Ddeddf. Mae’r Prif Weithredwr llawn amser yn rheoli gweithgareddau’r elusen gyda chymorth aelodau staff. Mae aelodaeth o’r Llys yn agored i bawb.

Y Cyngor

Swyddogaeth y Cyngor ydi gweithredu fel bwrdd goruchwylio a chorff ymgynghorol sydd yn cymryd golwg strategol ar waith a datblygiad yr Eisteddfod. Mae’r Cyngor yn cynnwys 36 aelod ynghyd a’r Cymrodyr a Chyn-Lywyddion– caiff 24 o aelodau eu hethol gan y Llys, 6 gan yr Ymddiriedolwyr, a hawl gan y Cyngor i gyfethol hyd at 6 aelod. Rhaid i aelodau o’r Cyngor a’r Bwrdd Rheoli fod yn aelodau o Lys yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae’r Cyngor yn cynnal o leiaf dri chyfarfod bob blwyddyn.

Mae gan y Cyngor ddau bwyllgor, sef

  1. Pwyllgor Archwilio;

  2. Pwyllgor Gweithredu’r Rheol Gymraeg – i arolygu ac adrodd ar weithredu’r Rheol Gymraeg ym mhob Gŵyl.

Bwrdd Rheoli/Ymddiriedolwyr

Y Bwrdd Rheoli sydd yn gyfrifol am arolygu holl waith a busnes yr elusen, gyda’r aelodau’n gweithredu fel ymddiriedolwyr. Disgwylir i Brif Weithredwr a phrif staff yr elusen fynychu cyfarfodydd y Bwrdd Rheoli, ond heb hawl pleidleisio gan nad ydynt yn ymddiriedolwyr. Mae’r Bwrdd yn cyfarfod o leiaf wyth gwaith yn ystod y flwyddyn.

Er mwyn cyflawni gwaith yr elusen sefydlwyd y Pwyllgorau a ganlyn:

Pwyllgor Llywio/Pwyllgor Gwaith ar gyfer pob Gŵyl.

Pwyllgor Diwylliannol – i gydlynu gwaith panelau sefydlog i gynnig cyngor arbenigol ar feysydd cystadleuol penodol ac i gymryd cyfrifoldeb am y rhestr gystadlaethau.

Pwyllgor Technegol – i gynnig cyngor arbenigol am y maes, adeiladau, trafnidiaeth, a’r holl agweddau ar iechyd a diogelwch mewn perthynas â’r Ŵyl.

Pwyllgor Marchnata – i gynnig cyngor arbenigol ar weithgareddau hyrwyddo a marchnata’r Eisteddfod a’r Ŵyl.

Pwyllgor Adnoddau Dynol – i gynnig cyngor arbenigol ar faterion yn ymwneud â staffio a chyflogau.

15

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

STRWYTHUR, LLYWODRAETHU A RHEOLI

Pwyllgor Cynhwysedd ac Amrywiaeth – i edrych ar holl weithdrefnau a gweithgareddau’r Eisteddfod i sicrhau eu bod yn agored a chynhwysol.

Pwyllgor Artistig - i gynnig cyngor arbenigol ar raglenni hwyr; a phrosiectau artistig mawr.

Panel Enwebu – i argymell enwau Ymddiriedolwyr, aelodau’r Cyngor ac aelodau Pwyllgorau a phanelau sefydlog er mwyn cyflawni gofynion y Rheolau Sefydlog.

Panel Cwynion, Disgyblu a Diswyddo – i gwrdd yn ôl yr angen i ystyried unrhyw gŵyn ysgrifenedig a dderbynnir am Swyddogion yr elusen a chwynion am Ymddiriedolwyr yr elusen a’r staff.

Penodi Ymddiriedolwyr

Mae cymalau 12 ac 13 o’r Cyfansoddiad a’r Rheolau Sefydlog yn darparu ar gyfer penodi/ethol ymddiriedolwyr fel a ganlyn:

  1. Penodir tri ymddiriedolwr yn rhinwedd eu swyddi, sef:

  2. Llywydd y Llys; Cadeirydd y Cyngor; Is-gadeirydd y Cyngor.

  3. Dim llai na phedwar na mwy nag wyth ymddiriedolwr enwebedig wedi eu henwebu fel a ganlyn:

  4. (i) Bwrdd yr Orsedd (1);

  5. (ii) Pwyllgorau Gwaith y tair eisteddfod gyfredol (3);

  6. (iii) Cyngor (4).

  7. Dim llai na phedwar na mwy na chwe ymddiriedolwr etholedig i’w hethol gan y Llys gyda’r hawl i’r ymddiriedolwyr benodi i lenwi bylchau hyd y cyfarfod nesaf o’r Llys;

  8. Dim mwy na dau ymddiriedolwr wedi eu cyfethol gan yr ymddiriedolwyr eraill.

Bwriedir sicrhau y bydd ystod eang o sgiliau a phrofiad o fewn y Bwrdd Ymddiriedolwyr gan gynnwys sgiliau a phrofiad diwylliannol, marchnata, technegol, busnes, ariannol, cyfreithiol a rheolaeth, ynghyd â phrofiad blaenorol o waith Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Bydd yn ofynnol i bob Ymddiriedolwr allu cyfathrebu’n rhugl drwy’r Iaith Gymraeg;

Bwriedir hefyd geisio sicrhau cydbwysedd rhesymol ar draws yr holl Ymddiriedolwyr o safbwynt rhyw, oedran a chysylltiadau lleol;

Hyfforddiant ac anwytho Ymddiriedolwyr

Mae gan yr holl Ymddiriedolwyr presennol gysylltiad hir gyda’r Eisteddfod Genedlaethol. Maent yn cael cynnig derbyn gwybodaeth am eu dyletswyddau a’u cyfrifoldebau. Pe bai ymddiriedolwyr newydd yn cael eu penodi fe fyddai hynny’n golygu y byddant yn cael hyfforddiant ar weithdrefnau a pholisïau’r Eisteddfod. Byddai asesiad yn cael ei wneud o’r anghenion hyfforddi, gyda darpariaeth ar gyfer hyfforddiant pellach yn ystod y flwyddyn.

Datganiad o gyfrifoldebau’r Ymddiriedolwyr

Yr ymddiriedolwyr sy’n gyfrifol am baratoi Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr a’r datganiadau ariannol yn unol â’r gyfraith berthnasol a Safonau Cyfrifyddu’r Deyrnas Unedig (Arfer Cyfrifo a Dderbynnir yn Gyffredinol y Deyrnas Unedig).

Mae'r gyfraith sy'n berthnasol i elusennau yng Nghymru a Lloegr yn ei gwneud yn ofynnol i'r ymddiriedolwyr baratoi datganiadau ariannol ar gyfer pob blwyddyn ariannol sy'n rhoi golwg wir a theg o sefyllfa'r elusen ac o'r adnoddau sy'n dod i mewn a chymhwyso adnoddau'r elusen am y cyfnod hwnnw.

16

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

STRWYTHUR, LLYWODRAETHU A RHEOLI

Wrth baratoi’r datganiadau ariannol hyn, mae’n ofynnol i’r ymddiriedolwyr wneud y canlynol:

Mae'r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am gadw cofnodion cyfrifyddu cywir sy'n datgelu sefyllfa ariannol yr elusen gyda chywirdeb rhesymol ar unrhyw adeg ac yn eu galluogi i sicrhau bod y datganiadau ariannol yn cydymffurfio â Deddf Elusennau 2011, Rheoliadau Elusennau (Cyfrifon ac Adroddiadau) 2008. Maent hefyd yn gyfrifol am ddiogelu asedau'r elusen ac felly am gymryd camau rhesymol i atal a chanfod twyll ac afreoleidd-dra eraill.

Mae'r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am gynnal a chadw cyfanrwydd yr elusen a'r wybodaeth ariannol sydd wedi'i chynnwys ar wefan yr elusen. Gall deddfwriaeth yn y Deyrnas Unedig sy'n llywodraethu paratoi a lledaenu datganiadau ariannol fod yn wahanol i ddeddfwriaeth mewn awdurdodaethau eraill.

Cyn belled ag y mae’r Ymddiriedolwyr yn ymwybodol:

Prif Weithredwr ac Uwch Reolwyr

Mae'r Prif Weithredwr yn gyfrifol am reoli materion yr elusen o ddydd i ddydd ac am weithredu polisïau y cytunwyd arnynt gan y Bwrdd Rheoli. Mae'r Prif Weithredwr yn cael ei gynorthwyo gan grŵp o uwch reolwyr sy'n ffurfio'r Tîm Rheoli.

Betsan Moses (Prif Weithredwr) Elen Elis (Cyfarwyddwr Artistig) Gwenllïan Carr (Cyfarwyddwr Strategol) Peter Davies (Cyfarwyddwr Cyllid)

Caiff tâl uwch reolwyr ei bennu gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr, gyda’r Pwyllgor Staffio yn darparu’r adolygiad manwl a’r argymhellion. Mae’r Pwyllgor yn asesu lefelau cyflog gan ddefnyddio data meincnodi perthnasol a chyfrifoldebau pob rôl er mwyn sicrhau tegwch, tryloywder a llywodraethu priodol.

Polisi cyflogi

Mae’r Eisteddfod yn gyflogwr cyfle cyfartal. Nid yw’n caniatáu gwahaniaethu ar sail rhyw, hil, lliw, anabledd, cefndir ethnig neu gefndir economaidd cymdeithasol, oedran, sefyllfa deuluol, statws priodasol, gweithwyr rhan neu llawn amser, crefydd, gwleidyddiaeth, tueddfryd rhywiol neu unrhyw wahaniaeth amherthnasol arall, ac mae’n ymroddedig i ystyried amrywiaethau mewn modd positif. Defnyddir egwyddorion cystadleuaeth deg ac agored ac mae penodiadau yn ddibynnol ar deilyngdod.

Cydnabyddiaeth

Mae pob ymddiriedolwr yn rhoi o'u hamser am ddim. Ni chafodd yr ymddiriedolwyr unrhyw dâl yn ystod y cyfnod.

17

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

CYNLLUNIAU’R DYFODOL

Daw ein strategaeth i ben yn 2025, ac rydym wrthi’n cynnal sgyrsiau, sy’n gyfle i wyntyllu popeth, i edrych yn fanylach ar ein blaenoriaethau strategol.

Gyda’r byd wedi newid yn sylweddol ers cyfnod datblygu’r strategaeth bresennol, a ninnau yn dod at ddiwedd cyfnod y strategaeth, mae’n amserol ein bod yn cychwyn ar y broses o ymgysylltu gyda’n rhanddeiliaid a’n cymunedau er mwyn gwrando ar eu barn, cynnal trafodaeth agored ac adnabod blaenoriaethau gweithredu ar gyfer y dyfodol. Mae’n hollbwysig ein bod yn taflu’r rhwyd yn eang –gan glywed wrth ein partneriaid, ein cefnogwyr a’r rheini sydd eto i’w denu atom.

Blaenoriaethau Strategol yr Eisteddfod

Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi ein helpu a’n cefnogi dros y flwyddyn ddiwethaf.

Ar ran yr ymddiriedolwyr

Gethin Thomas

Ymddiriedolwr (Cadeirydd y Cyngor)

23 Rhagfyr 2025

18

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

ADRODDIAD YR ARCHWILWYR ANNIBYNNOL I YMDDIRIEDOLWYR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU

Adroddiad ar y datganiadau ariannol

Barn

Archwiliwyd cyfrifon Eisteddfod Genedlaethol Cymru am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2025; maent yn cynnwys y Datganiad o Symudiadau Ariannol, y Fantolen a’r nodiadau perthnasol. Paratowyd y cyfrifon yn unol â’r polisïau cyfrifo a nodir yn y cyfrifon. Cynhaliwyd ein harchwiliad yn unol â Safonau Cyfrifo’r Deyrnas Unedig (Ymarfer Cyfrifyddu Derbyniol Cyffredinol y Deyrnas Unedig), sy’n cynnwys FRS 102 Y Safon Adrodd Ariannol sy’n gymwys yn y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon.

Yn ein barn ni:

Sail y farn

Gwnaethom gynnal ein harchwiliad yn unol â Safonau Archwilio Rhyngwladol (DU) (“ISA’s (UK)”) a’r gyfraith berthnasol. Disgrifir ein cyfrifoldebau o dan ISAs (DU) ymhellach yn adran Cyfrifoldebau’r archwilwyr am archwilio’r datganiadau ariannol o’n hadroddiad. Fe wnaethom aros yn annibynnol o’r elusen yn unol â'r gofynion moesegol sy'n berthnasol i'n harchwiliad o'r datganiadau ariannol yn y DU, sy'n cynnwys Safon Foesegol yr FRC ac rydym wedi cyflawni ein cyfrifoldebau moesegol eraill yn unol â'r gofynion hyn. Credwn fod y dystiolaeth archwilio a gawsom yn ddigonol ac yn briodol i ddarparu sylfaen i’n barn ni.

Casgliadau yn ymwneud â busnes gweithredol

Wrth archwilio’r cyfrifon, rydym o’r farn bod defnydd yr ymddiriedolwyr o sail busnes gweithredol wrth baratoi’r datganiadau ariannol yn briodol.

Yn seiliedig ar y gwaith rydym wedi'i wneud, nid ydym wedi nodi unrhyw ansicrwydd perthnasol sy'n ymwneud â digwyddiadau neu amodau a allai, yn unigol neu ar y cyd, fwrw amheuaeth sylweddol ar allu'r elusen i barhau fel busnes gweithredol am gyfnod o ddeuddeng mis o leiaf o'r adeg yr awdurdodir y datganiadau ariannol i'w cyhoeddi.

Fodd bynnag, oherwydd na ellir rhagweld holl ddigwyddiadau neu amodau'r dyfodol, nid yw'r datganiad hwn yn warant o allu'r elusen i barhau fel busnes gweithredol.

Disgrifir ein cyfrifoldebau a chyfrifoldebau'r ymddiriedolwyr mewn perthynas â busnes gweithredol yn adrannau perthnasol yr adroddiad hwn.

Gwybodaeth arall

Mae'r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am y wybodaeth arall. Mae'r wybodaeth arall yn cynnwys yr wybodaeth a gynhwysir yn yr Adroddiad Blynyddol, ac eithrio'r datganiadau ariannol ac Adroddiad yr Archwilwyr Annibynnol.

Nid yw ein barn ar y datganiadau ariannol yn cwmpasu'r wybodaeth arall ac, ac eithrio i'r graddau a nodir fel arall yn ein hadroddiad, nid ydym yn mynegi unrhyw fath o gasgliad sicrwydd arno.

19

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

ADRODDIAD YR ARCHWILWYR ANNIBYNNOL I YMDDIRIEDOLWYR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU (PARHAD)

Mewn cysylltiad â'n harchwiliad o'r datganiadau ariannol, ein cyfrifoldeb ni yw darllen y wybodaeth arall ac, wrth wneud hynny, ystyried a yw'r wybodaeth arall yn anghyson yn sylweddol â'r datganiadau ariannol neu’r wybodaeth a gafwyd yn ystod yr archwiliad neu fel arall yn ymddangos eu bod wedi'i cam-ddatgan yn sylweddol. Os byddwn yn nodi anghysondebau sylweddol o'r fath neu gamddatganiadau ymddangosiadol sylweddol, mae'n ofynnol i ni benderfynu a yw hyn yn arwain at gamddatganiad yn y datganiadau ariannol eu hunain. Os byddwn, yn seiliedig ar y gwaith yr ydym wedi'i wneud, yn dod i'r casgliad bod camddatganiad o'r wybodaeth arall hon, mae'n ofynnol i ni adrodd y ffaith honno. Nid oes gennym ddim i'w adrodd yn hyn o beth.

Materion yr ydym yn rhwymedig i adrodd drwy eithriad

Nid oes gennym ni ddim i'w adrodd mewn perthynas â'r eitemau canlynol lle mae'r Rheoliadau Elusennau (Cyfrifon ac Adroddiadau) 2008 yn gofyn i ni adrodd i chi os, yn ein barn ni:

Cyfrifoldebau’r ymddiriedolwyr

Fel yr esboniwyd yn llawnach yn y Datganiad o Gyfrifoldebau Ymddiriedolwyr, mae'r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am baratoi'r datganiadau ariannol ac am fod yn fodlon eu bod yn rhoi darlun cywir a theg, ac am unrhyw reolaeth fewnol y mae'r ymddiriedolwyr yn penderfynu sy'n angenrheidiol er mwyn gallu paratoi datganiadau ariannol sy'n rhydd o gamddatganiad sylweddol, boed hynny oherwydd twyll neu wall.

Wrth baratoi'r datganiadau ariannol, mae'r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am asesu gallu’r elusen i barhau fel busnes gweithredol, gan ddatgelu, fel y bo'n berthnasol, unrhyw fater ynghylch defnyddio sail busnes gweithredol cyfrifyddu oni bai bod yr ymddiriedolwyr naill ai'n bwriadu diddymu'r elusen neu roi'r gorau i weithrediadau, neu nad oes ganddynt ddewis amgen realistig ond gwneud hynny.

Cyfrifoldebau’r archwilwyr am archwilio’r datganiadau ariannol

Rydym wedi'n penodi'n archwilwyr o dan Adran 144 o Ddeddf Elusennau 2011 ac yn adrodd yn unol â'r Ddeddf a'r rheoliadau perthnasol a wnaed neu sy'n cael effaith o dan y Ddeddf honno.

Ein hamcanion yw cael sicrwydd rhesymol ynghylch a yw'r datganiadau ariannol yn eu cyfanrwydd yn rhydd o gamddatganiad perthnasol, boed hynny oherwydd twyll neu gamgymeriad, ac i gyhoeddi Adroddiad gan yr Archwilwyr Annibynnol sy'n cynnwys ein barn. Mae sicrwydd rhesymol yn lefel uchel o sicrwydd, ond nid yw'n warant y bydd archwiliad a gynhelir yn unol ag ISAs (DU) bob amser yn canfod camddatganiad perthnasol pan fydd yn bodoli. Gall camddatganiadau godi o dwyll neu gamgymeriad ac fe'u hystyrir yn berthnasol os gellid disgwyl yn rhesymol iddynt, yn unigol neu ar y cyfan, ddylanwadu ar benderfyniadau economaidd defnyddwyr a wneir ar sail y datganiadau ariannol hyn.

Achosion o beidio â chydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau yw afreoleidd-dra. Amcanion ein harchwiliad yw cael digon o dystiolaeth archwilio priodol ynghylch cydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau sy'n cael effaith uniongyrchol ar benderfynu ar symiau a datgeliadau sylweddol yn y datganiadau ariannol, cyflawni gweithdrefnau archwilio er mwyn helpu nodi achosion o beidio â chydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau eraill a allai gael effaith sylweddol ar y datganiadau ariannol, ac i ymateb yn briodol i ddiffyg cydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau a nodwyd yn ystod yr archwiliad.

20

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

ADRODDIAD YR ARCHWILWYR ANNIBYNNOL I YMDDIRIEDOLWYR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU (PARHAD)

O ran twyll, amcanion ein harchwiliad yw nodi ac asesu'r risg o gamddatganiad sylweddol o'r datganiadau ariannol oherwydd twyll, casglu digon o dystiolaeth archwilio priodol ynghylch y risgiau aseswyd o gamddatganiad sylweddol trwy dwyll gan ddylunio a gweithredu ymatebion priodol ac ymateb yn briodol i dwyll neu dwyll tybiedig a nodwyd yn ystod yr archwiliad. Fodd bynnag, prif gyfrifoldeb y rheolwyr, gyda goruchwyliaeth y rhai sy'n gyfrifol am lywodraethu, yw sicrhau bod gweithrediadau'r endid yn cael eu cynnal yn unol â darpariaethau cyfreithiau a rheoliadau ac ar gyfer atal a chanfod twyll.

Wrth asesu a nodi’r risgiau o gamddatganiad sylweddol mewn perthynas ag afreoleidd-dra, gan gynnwys twyll, fe wnaeth y tîm archwilio:

O ganlyniad i'r gweithdrefnau hyn, rydym yn ystyried y cyfreithiau a'r rheoliadau mwyaf arwyddocaol sy'n cael effaith uniongyrchol ar y datganiadau ariannol yw SoRP Elusennau, FRS 102 a Deddf Elusennau 2011. Gwnaethom gynnal gweithdrefnau archwilio i ganfod diffyg cydymffurfio a allai gael effaith sylweddol ar y datganiadau ariannol a oedd yn cynnwys adolygu’r datgeliadau yn y cyfrifon.

Nododd y tîm archwilio mai’r risg mwyaf i gamddatganiad sylweddol trwy dwyll fyddai o ganlyniad i’r rheolwyr yn diystyru rheolaethau mewnol. Roedd y gweithdrefnau archwilio a berfformiwyd yn cynnwys ond nid oeddent wedi'u cyfyngu i brofi cyfnodolion ac addasiadau eraill a gwerthuso'r rhesymeg fusnes mewn perthynas ag unrhyw drafodion sylweddol, anarferol a wnaed y tu allan i gwrs busnes arferol.

Yn ogystal â’r uchod, roedd ein gweithdrefnau’n cynnwys:

Ceir disgrifiad pellach o'n cyfrifoldebau dros archwilio'r datganiadau ariannol ar wefan y Cyngor Adrodd Ariannol yn www.frc.org.uk/auditorsresponsibilities. Mae'r disgrifiad hwn yn rhan o'n hadroddiad archwilwyr annibynnol.

Defnyddio'r adroddiad hwn

Paratowyd yr adroddiad hwn ar gyfer ymddiriedolwyr yr elusen yn unig, fel corff yn unol a Rhan 4 o’r Rheoliadau Elusennau (Cyfrifon ac Adroddiadau) 2008.

21

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

ADRODDIAD YR ARCHWILWYR ANNIBYNNOL I YMDDIRIEDOLWYR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU (PARHAD)

Mae ein gwaith archwilio wedi'i wneud fel y gallem ddatgan i ymddiriedolwyr yr elusen y materion hynny y mae'n ofynnol i ni eu datgan iddynt mewn adroddiad archwilwyr ac nid at unrhyw ddiben arall. I'r graddau llawnaf a ganiateir gan y gyfraith, nid ydym yn derbyn nac yn cymryd cyfrifoldeb i unrhyw un heblaw'r elusen ac ymddiriedolwyr yr elusen fel corff, am ein gwaith archwilio, ar gyfer yr adroddiad hwn, nac am y farn yr ydym wedi'i ffurfio.

22

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

DATGANIAD O'R GWEITHGAREDDAU ARIANNOL (GAN GYNNWYS CYFRIF INCWM A GWARIANT) AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2025

2025
Cronfeydd
Cronfeydd Cronfeydd
Anghyfyngedig Cyfyngedig
Gwaddol
Cyfanswm
Nodyn
£ 000
£ 000
£ 000
£ 000
INCWM
Rhoddion a chymynroddion:
2
834 -
43
877
Gweithgareddau elusennol:
Grantiau
3
-
1,130 -
1,130
Gŵyl yr Eisteddfod
5
4,566 -
-
4,566
Gweithgareddau masnachu
6
12 -
-
12
Incwm o fuddsoddiadau
7
81 -
29
110
Cyfanswm incwm
5,493
1,130
72
6,695
GWARIANT
Gweithgraeddau codi arian
8
21 -
-
21
Gweithgareddau elusennol:
Gŵyl yr Eisteddfod
8
4,844
1,609
29
6,482
Cyfanswm gwariant
4,865
1,609
29
6,503
Enillion/(Colledion) ar fuddsoddiadau
(25) -
(17)
(42)
Incwm/Gwariant Net
603
(479)
26
150
Enillion cydnabyddedig eraill
(Lleihad) / Cynnydd yn y cynllun
pensiwn budd-diffiniedig
(840) -
-
(840)
Symudiad net yn y cronfeydd
(237)
(479)
26
(690)
Cysoni'r Cronfeydd
Balansau ddygwyd ymlaen 1 Ebrill
6,262
1,039
1,769
9,070
Balansau gariwyd ymlaen 31 Mawrth
6,025
560
1,795
8,380
2024
Cronfeydd
Cronfeydd Cronfeydd
Anghyfyngedig Cyfyngedig
Gwaddol
Cyfanswm
£ 000
£ 000
£ 000
£ 000
1,226 -
233
1,459
-
1,847 -
1,847
5,272 -
-
5,272
14 -
-
14
36 -
58
94
6,548
1,847
291
8,686
22 -
-
22
5,919
1,788 -
7,707
5,941
1,788 -
7,729
-
-
80
80
607
59
371
1,037
800 -
-
800
1,407
59
371
1,837
4,855
980
1,398
7,233
6,262
1,039
1,769
9,070

23

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

MANTOLEN AR 31 MAWRTH 2025

2025 2024
Nodyn £ 000 £ 000
Asedau sefydlog
Asedau anniriaethol 10 8 20
Eiddo parhaol 10 1,005 1,115
Buddsoddiadau 11 4,395 1,869
5,408 3,004
Asedau cyfredol
Dyledwyr 12 1,002 1,022
Buddsoddiadau tymor byr 11 1,731 1,770
Banc 417 171
3,150 2,963
Credydwyr:Symiau sy'n dod yn
ddyledus o fewn blwyddyn 13 (178) (187)
Asedau cyfredol net 2,972 2,776
Cyfanswm yr asedau
llai dyledion cyfredol 8,380 5,780
Cynllun pensiwn budd-diffiniedig - 3,290
Asedau net 8,380 9,070
Cronfeydd Cadw
Cronfeydd gwaddol 1,795 1,769
Cronfeydd cyffredinol 5,018 2,362
Cronfeydd penodol 16 1,007 610
Cronfeydd cyfyngedig 17 560 1,039
Cronfa bensiwn budd-diffiniedig - 3,290
Cyfanswm Cronfeydd 8,380 9,070

Cymeradwywyd gan fwrdd yr ymddiriedolwyr ar 23 Rhagfyr 2025 ac fe'i llofnodwyd ar eu rhan gan:

Gwenno Williams Trysorydd

24

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

DATGANIAD O'R LLIF ARIAN AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2025

Llif arian o Weithgareddau Gweithredol
Llif arian o Weithgareddau buddsoddi
Llog a dderbynnir
Taliadau am eiddo parhaol
Derbyniadau trwy werthu buddsoddiadau
Cau'r Cynllun pensiwn budd diffiniedig
Taliadau am fuddsoddiadau parhaol newydd
Symudiadau buddsoddiadau COIF Cadw ac arian buddsoddi
Mewnlif net ariannol o weithgareddau buddsoddi
Arian a chyfwerthoedd arian ar 1 Ebrill
Arian a chyfwerthoedd arian ar 31 Mawrth
2025
2024
£ 000
£ 000
237
1,190
110
94
(22)
(86)
739
387
2,450
-
(3,307)
(597)
480
-
687
988
2,421
1,433
3,108
2,421

Cysoniad y llif arian a'r symudiad mewn gweithgareddau gweithredol

Incwm net
Dibrisiad asedau diriaethol
Amorteiddiad asedau anniriaethol
Colledion/(enillion) ar fuddsoddiadau
Llog a dderbynnir
Lleihad mewn dyledwyr cyfredol
Lleihad mewn credydwyr cyfredol
Mewnlif net ariannol o weithgareddau gweithredol
Dadansoddiad o arian a chyfwerthoedd arian
Buddsoddiadau - COIF Cadw ac arian buddsoddi
Buddsoddiadau tymor byr - Cyfrif banc
Banc
Cyfanswm arian a chyfwerthoedd arian
2025
£ 000
150
132
12
42
(110)
20
(9)
237
2025
£ 000
960
1,731
417
3,108
2024
£ 000
1,037
168
15
(80)
(94)
264
(120)
1,190
2024
£ 000
480
1,770
171
2,421

25

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

NODIADAU I’R DATGANIADAU ARIANNOL

AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2025

1. Polisïau Cyfrifo

a. Sail paratoi

Paratowyd y cyfrifon (datganiadau ariannol) yn unol â'r Datganiad o Arfer a Argymhellir (SORP): Cyfrifo ac Adrodd gan Elusennau sy'n paratoi eu cyfrifon yn unol â'r Safon Adrodd Ariannol sy'n berthnasol yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon (FRS 102) (yn weithredol o 1 Ionawr 2019) a’r Safon Adrodd Ariannol sy'n gymwys yn y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon (FRS 102) a Deddf Elusennau 2011 ac Arfer Cyfrifyddu a Dderbynnir yn Gyffredinol yn y Deyrnas Unedig fel y mae'n berthnasol o 1 Ionawr 2015.

Mae Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn bodloni'r diffiniad o endid budd cyhoeddus o dan FRS 102. Mae’r Asedau a rhwymedigaethau yn cael eu cydnabod ar gost hanesyddol neu eu gwerth trafodiad oni nodir yn wahanol yn y nodyn polisi cyfrifyddu(au) perthnasol.

b. Incwm

Cydnabyddir incwm pan fydd gan yr elusen yr hawl i dderbyn yr arian a bod unrhyw amod ynghlwm wrth yr eitem neu eitemau o incwm wedi cael eu bodloni, ac yn debygol y bydd yr incwm yn cael eu derbyn a gall y swm ei fesur yn ddibynadwy.

Mae incwm oddi wrth y llywodraeth a grantiau eraill, boed yn grantiau 'cyfalaf' neu’n grantiau 'refeniw' yn cael ei gydnabod yn y flwyddyn y cynhelir yr Eisteddfod.

Cydnabyddir incwm ewyllys a chymynroddion pan fydd gan yr elusen yr hawl i’r incwm, mae derbyn yr arian yn debygol a gellir mesur y swm yn ddibynadwy.

Lle mae cymynroddion wedi eu hysbysu i'r elusen, neu mae’r elusen yn ymwybodol o'r profiant, a'r meini prawf ar gyfer cydnabod incwm wedi heb gael eu bodloni, yna mae'r gymynrodd yn cael ei thrin fel ased wrth gefn a ddatgelir os yn berthnasol.

c. Llogau a dderbynnir

Mae llog ar gyfrifon cadw yn cael ei gynnwys pan gaiff ei dderbyn a gall y swm ei fesur yn ddibynadwy gan yr elusen; mae hyn fel arfer ar hysbysiad am y llog a delir neu yn daladwy gan y banc.

ch. Cronfeydd

Cronfeydd cyffredinol (anghyfyngedig) - ar gael i'w defnyddio, yn ôl disgresiwn yr ymddiriedolwyr, i unrhyw un o ddibenion elusennol yr Eisteddfod Genedlaethol.

Cronfeydd cyfyngedig yw’r arian a roddir i’w defnyddio ar gyfer pwrpas penodol, ac mae eu defnydd yn gyfyngedig i’r pwrpas hwnnw.

Mae’r cronfeydd penodol yn cynrychioli incwm anghyfyngedig lle mae’r ymddiriedolwyr yn ôl eu disgresiwn, wedi ei roi o'r neilltu i'w ddefnyddio at ddiben penodol.

Mae’r cronfeydd gwaddol yn cynnwys rhoddion lle mae'r rhoddwr wedi nodi eu bod yn cael eu defnyddio yn unig ar gyfer pwrpas penodol o waith yr elusen neu ar gyfer prosiectau artistig penodol a wneir gan yr elusen.

26

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

NODIADAU I’R DATGANIADAU ARIANNOL

AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2025

d. Gwariant a TAW na ellir ei adennill

Mae gwariant yn cael ei gydnabod unwaith mae’r rhwymedigaeth gyfreithiol neu adeiladol i wneud taliad i drydydd parti, ac yn debygol y bydd setliad yn ofynnol a swm y rhwymedigaeth yn cael ei fesur yn ddibynadwy. Mae’r gwariant wedi'i ddosbarthu o dan y penawdau gweithgarwch canlynol:

dd. Dyrannu costau cefnogi

Costau cynnal yw’r costau hynny sy'n cynorthwyo gwaith yr elusen ond nid ydynt yn uniongyrchol yn ymgymryd â gweithgareddau elusennol. Maent yn cynnwys costau swyddfa, cyllid, personél, cyflogau a llywodraethu sy'n cefnogi gwaith yr elusen.

Mae'r costau hyn wedi cael eu dyrannu o dan gweithgareddau elusennol.

e. Prydlesi gweithredol

f. Asedau treftadaeth

Cofnodir asedau treftadaeth yn ôl y gost wreiddiol. Gan fod asedau treftadaeth yr elusen wedi eu cynnal dros gyfnod o gan mlynedd a mwy mae’r gost wreiddiol yn rhy fach i gofnodi yn y Fantolen.

ff. Asedau anniriaethol

Mae’r Eisteddfod yn cyfrifo am ei feddalwedd fel asedau anniriaethol. Cynhwysir asedau anniriaethol ar eu cost hanesyddol. Mae’r asedau yma’n cael eu hamorteiddio drwy randaliadau cyfartal blynyddol droes eu hoes economaidd defnyddiol amcangyfrifedig o bum mlynedd.

g. Asedau parhaol

Polisi’r Eisteddfod yw cofnodi asedau sefydlog ar y gost wreiddiol hyd yma, llai’r dibrisiant a grynhowyd.

ng. Dibrisiant

Mae’r prif gyfraddau, gan ddefnyddio’r dull llinell syth, fel a ganlyn:

Moduron, dodrefn ac offer swyddfa - 20%
Adeiladau parhaol - 2%
Adeiladau ac eiddo arall - 10%
Eiddo i’r Orsedd (Cyffredinol) - 10%
Eiddo i’r Orsedd (Cylch yr Orsedd symudol) - Dim

27

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

NODIADAU I’R DATGANIADAU ARIANNOL

AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2025

h. Buddsoddiadau

Dangosir buddsoddiadau yn ôl gwerth y farchnad. Mae hyn yn golygu cadw cofnodion prisio cyfoes, felly pan fydd buddsoddiadau yn cael eu gwerthu nid oed enillion na cholledion mewn perthynas â blynyddoedd blaenorol. Cydnabuwyd unrhyw enillion neu golled yn eu gwerth yn y Datganiad o’r Gweithgareddau Ariannol.

i. Stoc

Mae stoc yn cael ei gynnwys ar yr isaf o'r gost neu'r gwerth gwireddadwy net.

j. Dyledwyr

Mae dyledwyr masnach a dyledwyr eraill yn cael eu cydnabod ar y swm sy'n ddyledus ar ôl setlo unrhyw ddisgownt masnach a gynigir. Mae rhagdaliadau wedi eu prisio ar y swm a dalwyd ymlaen llaw, net o unrhyw ostyngiadau masnachol sy'n ddyledus.

l. Arian yn y banc ac mewn llaw

Mae arian yn y banc ac arian mewn llaw yn cynnwys arian parod a buddsoddiadau byr rhybudd hylifol iawn gydag aeddfedrwydd byr o dri mis neu lai o’r dyddiad caffael neu agor y cyfrif.

ll. Credydwyr

Mae credydwyr a darpariaethau yn cael eu cydnabod pan fydd gan yr elusen rwymedigaeth bresennol sy'n deillio o ddigwyddiad yn y gorffennol a fydd yn ôl pob tebyg yn arwain at drosglwyddo arian i drydydd parti ac mae'r swm sy'n ddyledus i setlo'r rhwymedigaeth yn cael ei fesur neu amcangyfrif yn ddibynadwy. Fel arfer, mae credydwyr ac unrhyw ddarpariaethau eraill yn cael eu cydnabod fel y swm setliad ar ôl caniatáu ar gyfer unrhyw ostyngiadau dyledus.

m. Tanysgrifiadau am Oes

Trosglwyddir tanysgrifiadau aelodau newydd y Llys, sy’n dymuno ymaelodi am oes, sef £100, i gyfrif Tanysgrifiadau am Oes yn y credydwyr. Rhyddheir un rhan o ddeg pob blwyddyn i’r Datganiad o’r Gweithgareddau Ariannol.

n. Offerynnau ariannol

Dim ond asedau ariannol a rhwymedigaethau ariannol sylfaenol sydd gan yr elusen. Mae offerynnau ariannol sylfaenol yn cael eu cydnabod ar werth trafodiad ac wedyn mesur ar eu gwerth anheddiad.

o. Costau pensiwn budd diffiniedig

Yn ystod 2023/2024 trafododd yr elusen delerau gyda chynllun Pensiwn Caerdydd a'r Fro i adael y cynllun hwn ar 31 Mai 2024. Mae hyn wedi arwain at warged ymadael o £2.45m i'r elusen a dderbyniwyd ar 2 Rhagfyr 2024.

p. Costau pensiwn cyfraniadau diffiniedig

Mae’r Eisteddfod hefyd wedi trefnu cynllun pensiwn gyda chyfraniadau wedi’u diffinio. Mae cynllun cyfraniadau wedi’u diffinio yn gynllun pensiwn lle mae’r Eisteddfod yn talu cyfraniadau penodedig i mewn i endid ar wahân. Rheolwyd y cynllun yn annibynnol ac mae’r elusen yn cyfrannu 6% o gyflog pensiynadwy. Ar ôl talu’r cyfraniadau, nid yw’r Eisteddfod dan ragor o rwymedigaethau talu.

Pan fydd y cyfraniadau’n daladwy, fe’u cydnabyddir yn gost yn y Datganiad o’r

Gweithgareddau Ariannol. Mae’r symiau nas talwyd i’w gweld yn credydwyr eraill, ar ffurf rhwymedigaeth, yn y Fantolen.

28

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

NODIADAU I’R DATGANIADAU ARIANNOL

AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2025

p. Costau pensiwn cyfraniadau diffiniedig (parhad)

Cafwyd tâl pensiwn o £0.135m ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill i 31 Mawrth 2025 (cyfnod 1 Ionawr o 31 Mawrth 2024 - £0.018m).

ph. Treth

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn elusen gofrestredig ac felly, nid yw’n gorfod talu treth gorfforaethol ar ei gweithgareddau elusennol.

r. Gwirfoddolwyr

Mae’r elusen yn derbyn cymorth gwerthfawr gan wirfoddolwyr, sydd yn cefnogi gweithgareddau yr Eisteddfod, e.e., cynnal digwyddiadau a chodi arian, stiwardio a gwaith gweinyddol. Nid yw gwerth ariannol y cymorth hwn wedi’i gofnodi yn y cyfrifon.

29

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

NODIADAU I'R DATGANIADAU ARIANNOL

AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2025

2. Rhoddion

Rhoddion
Cronfeydd

Anghyfyngedig
£ 000
Y Cronfeydd Lleol a Chyffredinol
158
Ymddiriedolaeth Edwin Griffiths, UDA
247
Rhoddion trwy ewyllys
256
Rhoddion gan sefydliadau eraill
20
Tanysgrifiadau aelodaeth
5
686
Cronfeydd

Penodol
£ 000
148
-
-
-
-
148
Cronfeydd
Gwaddol
£ 000
-
-
43
-
-
43
2025
£ 000
305
247
299
20
5
877
2024
£ 000
328
337
767
20
7
1,459

3. Grantiau

Mae'r grantiau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod fel a ganlyn:

Cronfeydd

Anghyfyngedig
£ 000
Llywodraeth Cymru - Grant craidd 2024/25
-
Cyngor Celfyddydau Cymru
-
Grantiau eraill
-
Llywodraeth Cymru - Cynllun fforddiadwy 2024
-
Llywodraeth Cymru - Isadeiledd 2023
-
Stonewall
-
Llywodraeth Cymru - Dydd Miwsig Cymru 2024
-
British Council Cymru
-
Llywodraeth Cymru - Dydd Miwsig Cymru 2023
-
Cyfanswm y grantiau
-
Cronfeydd
Cyfyngedig
£ 000
1,000
99
31
-
-
-
-
-
-
1,130
2025
£ 000
1,000
99
31
-
-
-
-
-
-
1,130
2024
£ 000
1,000
168
28
350
150
65
44
22
20
1,847

30

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

NODIADAU I'R DATGANIADAU ARIANNOL AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2025

4. Cymynroddion gwaddol parhaol

Derbyniwyd un gymynrodd yn ystod 2024/25:
Cronfa Ysgoloriaeth Eira Francis Davies
Cronfa John Harry, Pontarddulais
Tlws Coffa Leah Owen
Cyfanswm
2025
£ 000
43
-
-
2024
£ 000
200
28
5
43 233

5. Gweithgareddau elusennol:

Gweithgareddau elusennol:
Cronfeydd

Anghyfyngedig
Gŵyl yr Eisteddfod:
£ 000
Incwm o'r Ŵyl
2,323
Incwm o'r Maes
710
Awdurdodau a chynghorau Lleol
404
Cynlluniau nawdd
218
Incwm arall ar weithgareddau elusennol
27
Maes Carafanau
24
Cyfanswm
3,706
Cronfeydd

Penodol

£ 000
216
340
-
15
-
289
860
Cronfeydd
Cyfyngedig
£ 000
-
-
-
-
-
-
-
2025
£ 000
2,539
1,050
404
233
27
313
2024
£ 000
2,697
1,375
404
244
63
489
4,566 5,272

6. Gweithgareddau masnachu

Cynllun loteri

2025 2024
£ 000 £ 000
12 14

7. Incwm o fuddsoddiadau

Cronfeydd

Anghyfyngedig
£ 000
Llog y buddsoddiadau
43
Llog buddsoddiadau byr
38
82
Cronfeydd
Gwaddol
£ 000
29
-
29
2025
£ 000
72
38
2024
£ 000
70
24
110 94

31

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

NODIADAU I'R DATGANIADAU ARIANNOL

AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2025

8. Gwariant

Gwariant
Uniongyrchol
£ 000
Gweithgareddau codi arian
Cynllun loteri
11
Ffi broceriaid buddsoddiadau
9
Cyfanswm
21
Gweithgareddau elusennol
Gŵyl yr Eisteddfod
5,911
Cyfanswm
5,931
Dadansoddiad o'r costau cynnal
Rheolaeth (Swyddfa a gwasanaethau TG)
Dibrisiad adnoddau
Costau cyllid
Llywodraethu
Cyfanswm
Costau
Cynnal
£ 000
-
-
-
572
572
2025
£ 000
11
9
21
6,483
6,503
316
132
51
72
572
2024
£ 000
12
10
22
7,707
7,729
288
168
106
90
652

Mae'r costau llywodraethu yn cynnwys tâl i'r archwiliwyr am wasanaethau archwilio cyfrifon 2025 o £9,875 (2024: £9,500).

9. Costau staff

Mae costau staff yn cynnwys cyflogau, cyfraniadau i’r cynllun pensiwn, yswiriant cenedlaethol a buddion eraill.

Cyflogau gros (gan gynnwys gwerth trethadwy nwyddau mewn da)
Cyfraniadau Yswiriant Cenedlaethol y cyflogwr
Cost pensiwn y cyflogwr
2025
£ 000
515
48
175
738
2023/24
£ 000
611
61
134
806

Ar gyfartaledd, cyflogwyd 13 aelod o staff craidd llawn amser (2023/24 - 12) yn ystod y flwyddyn.

Personél Rheoli Allweddol

Y personél rheoli allweddol yr Eisteddfod Genedlaethol yw'r ymddiriedolwyr ynghyd â'r Tîm Rheoli sydd yn gweithredu trwy'r Bwrdd Rheoli.

Mae aelodau'r Tîm Rheoli yn cynnwys y Prif Weithredwr, Cyfarwyddwr Artistig, Cyfarwyddwr Strategol a'r Cyfawyddwr Cyllid. Cyfanswm y tâl gros a buddion i weithwyr y personél rheoli allweddol oedd £386,184 - 4 aelod. (2024: am y cyfnod o 15 mis £435,125 - 4 aelod).

Nifer o gyflogeion yr oedd eu taliadau, yn cynnwys gwerth trethadwy nwyddau mewn da ond heb gynnwys cyfraniadau pensiwn y cyflogwr, o fewn yr ystodau canlynol:

2025
2024
£90,000 - £99,000 - 1
£80,000 - £89,000 - -
£70,000 - £79,000 1 2
£60,000 - £69,000 1 1

Ymddiriedolwyr

Ni chafodd yr ymddiriedolwr unrhyw dâl yn ystod y flwyddyn (2023/24: £ dim).

Cafodd treuliau gwerth £709 eu had-dalu i ddau ymddiriedolwr (2023/24: £45) am gostau teithio ac i ad-dalu costau wrth gyflawni eu dyletswyddau.

32

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

NODIADAU I'R DATGANIADAU ARIANNOL AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2025

10. Eiddo parhaol

Asedau treftadaeth

Gan nad oes cost ar gyfer regalia'r Orsedd (sydd yn cynnwys y Cleddyf Mawr a'r Corn Hirlas) nid ydym yn cynnwys yr eitemau hyn fel eiddo. Amcangyfrif gwerth ariannol y regalia ar gyfer pwrpas yswiriant yw £222,000 (Mehefin 2016).

Asedau anniriaethol
Cost
1 Ebrill 2024
Ychwanegiadau
Gwarediadau
31 Mawrth 2025
Amorteiddiad
1 Ebrill 2024
Cost am y flwyddyn
Gwarediadau
31 Mawrth 2025
Gwerth net yr asedau
31 Mawrth 2025
31 Mawrth 2024
Asedau parhaol
Cost
1 Ebrill 2024
Ychwanegiadau
Gwarediadau
31 Mawrth 2025
Dibrisiad
1 Ebrill 2024
Cost am y flwyddyn
Gwarediadau
31 Mawrth 2025
Gwerth net yr eiddo
31 Mawrth 2025
31 Mawrth 2024
Gwefan
Cyfanswm
£ 000
£ 000
68
68
-
-
-
-
68
68
48
48
12
12
-
-
60
60
8
8
20
20
Adeiladau
Adeiladau
Peiriannau/
Dodrefn
Dodrefn
Eiddo
Parhaol
Eraill
Offer Maes
Llwyfan
Swyddfa
i'r Orsedd
£ 000
£ 000
£ 000
£ 000
£ 000
£ 000
570
1,023
863
30
130
33
4
-
13
-
5
-
-
(17)
-
-
(20)
-
574
1,006
876
30
115
33
307
254
839
22
103
9
11
101
9
2
9
-
-
(17)
-
-
(20)
-
318
338
848
24
92
9
256
668
28
6
22
24
263
769
24
8
27
24
Cyfanswm
£ 000
2,649
22
(37)
2,634
1,534
132
(37)
1,629
1,005
1,115

Mae adeiladau parhaol yr elusen yn cael eu dal yn enw’r ymddiriedolwyr ar ran yr elusen. Er bod y teitl yn gyfreithiol yn nwylo’r ymddiriedolwyr, dim ond at ddibenion elusennol y sefydliad y cedwir yr asedau. Yr elusen yw perchennog buddiol yr eiddo hyn, ac maent wedi’u cynnwys yn y datganiadau ariannol yn unol â hynny.

33

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

NODIADAU I'R DATGANIADAU ARIANNOL AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2025

11. Buddsoddiadau

Dewiswyd y buddsoddiadau i gwrdd â gofynion yr Eisteddfod am logau sylweddol, diogelwch cyfalaf, a'r rhwyddineb i droi rhai ohonynt yn arian yn ôl gofynion y llif arian.

Buddsoddiadau Eiddo Parhaol

Buddsoddiadau Eiddo Parhaol
Gwerth y Farchnad Y Gost
Cronfeydd
Cronfeydd 31.03.25 31.03.24 31.03.25 Llog
Anghyfyngedig Gwaddol
Cyfanswm Cyfanswm Cyfanswm 2024/25
£ 000 £ 000 £ 000 £ 000 £ 000 £ 000
CCLA
Cyfrif Cadw COIF 863 87 950 472 950 29
Cronfa Fuddsoddi Foesegol COIF - 500 500 - 500 -
Llog Sefydlog 465 323 788 362 806 16
Cyfranddaliadau 1,041 724 1,765 856 1,741 22
Nwyddau 64 44 108 38 84 -
Eiddo 88 61 150 60 154 2
Buddsoddiadau eraill 73 51 124 73 142 4
Arian ar gyfer dibenion buddsoddi 6 4 10 8 20 -
Cyfanswm Buddsoddiadau parhaol 2,601 1,795 4,395 1,869 4,397 73
Buddsoddiadau Tymor Byr 1,731 - 1,731 1,770 1,731 37
Cyfanswm Buddsoddiadau 4,331 1,795 6,126 3,639 6,128 110

Mae'r arian yng ngyfrif COIF Cadw yn arian hylifol iawn ar gyfer buddsoddi yn y tymor hwy.

Mae'r arian a gynhwysir fel Buddsoddiadau Tymor Byr yn cynrychioli'r arian a dderbyniwyd i'w ddefnyddio ar gyfer yr Eisteddfodau a gynhelir yn y dyfodol agos.

Symudiadau yn y Buddsoddiadau Eiddo Parhaol

Gwerth y Farchnad - 31 Mawrth 2024
Gwerthu buddsoddiadau (Gwerth y farchnad)
Prynu buddsoddiadau newydd (Cost)
Colledion ar fuddsoddiadau
Gwerth y Farchnad - 31 Mawrth 2025
Cyfanswm
£ 000
1,869
(739)
3,307
(42)
4,395

34

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

NODIADAU I'R DATGANIADAU ARIANNOL AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2025

12. Dyledwyr

Dyledwyr - Masnachol
Dyledwyr - Eraill
Ad-daliad Treth Incwm a TAW
Rhagdaliadau ac incwm cronedig
2025
2024
£ 000
£ 000
755
341
16
10
2
483
229
188
1,002
1,022

Mae'r Rhagdaliadau ac incwm cronedig uchod yn cynnwys gwariant o £191,241 ar gyfer blaendaliadau am wasanaethau i Eisteddfod Wrecsam 2025 ac £8,883 ar gyfer Eisteddfod y Garreg Las 2026 (2024 - £144,902 ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol RCT 2024).

13. Credydwyr: Dyledus mewn llai na blwyddyn

Credydwyr Masnachol
Credydwyr eraill
Croniadau
Tanysgrifiadau am Oes
2025
2024
£ 000
£ 000
120
115
39
43
9
18
10
11
178
187

14. Dadansoddiad o'r Asedau net

Cronfeydd
Anghyfyngedig

£ 000
Eiddo anniriaethol
8
Eiddo Parhaol
445
Buddsoddiadau
2,600
Asedau cyfredol
3,150
Credydwyr cyfredol
(178)
Cynllun pensiwn
-
6,025
Cronfeydd

Cyfyngedig
£ 000
-
560
-
-
-
-
560
Cronfeydd
Gwaddol
£ 000
-
-
1,795
-
-
-
1,795
2025
2024
£ 000
£ 000
8
20
1,005
1,115
4,395
1,869
3,150
2,963
(178)
(187)
-
3,290
8,380
9,070

15. Cytundebau prydles

Dadansoddiad o'r rhent sydd i'w dalu o dan gytundebau prydles am y ceir swyddogol:

Y cytundeb yn dod i ben:
Mewn llai na blwyddyn
Rhwng blwyddyn a dwy flynedd
Rhwng dwy a phum mlynedd
2025
2024
£ 000
£ 000
4
4
-
-
-
-
4
4

Mae taliadau rhentu wedi’u cynnwys yn y Datganiad o'r Gweithgareddau Ariannol.

35

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

NODIADAU I'R DATGANIADAU ARIANNOL

AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2025

16. Symudiadau yn y Cronfeydd Penodol

Balans 1 Ebrill 2024
(Rhyddhau incwm) / incwm a dderbyniwyd ar gyfer yr
Eisteddfod gyfredol:
Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024
Cronfeydd lleol a chyffredinol
Incwm o'r Ŵyl
Incwm o'r Maes
Awdurdodau a Chynghorau lleol
Nawdd
Meysydd Carafanau a Gwersylla
Incwm a dderbyniwyd yn ystod y flwyddyn ar gyfer
Eisteddfodau'r dyfodol:
Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025
Cronfeydd lleol a chyffredinol
Incwm o'r Ŵyl
Incwm o'r Maes
Nawdd
Meysydd Carafanau a Gwersylla
Eisteddfod Genedlaethol Y Garreg Las 2026
Cronfeydd lleol a chyffredinol
Balans 31 Mawrth 2025
7. Symudiadau yn y Cronfeydd Cyfyngedig
01.04.24 Derbyniwyd Gwariwyd
£ 000
£ 000
£ 000
Llywodraeth Cymru:
- Grant cyfalaf - Stondinau newydd
640
-
(80)
- Cynllun tocynnau fforddiadwy i deuluoedd
350
-
(350)
- Cynllun dathlu Dydd Miwsig Cymru
27
-
(27)
British Council:
- Prosiect cerddorion o Gymru a Llydaw
22
-
(22)
Llywodraeth Cymru:
- Grant gweithgareddau craidd
-
1,000
(1,000)
- Hybu gweithgareddau ieuenctid
6
(6)
Cyngor Celfyddydau Cymru:
- Gweithgareddau ar Faes yr Eisteddfod
-
99
(99)
Grant Ffyniant Cymunedol
- Prosiect cymunedol 'Anthem'
-
15
(15)
Media Cymru
- Ffilmio Cynaliadwy Deallusrwydd Artiffisial
-
10
(10)
Cyfanswm
1,039
1,130
(1,609)
Balans 1 Ebrill 2024
(Rhyddhau incwm) / incwm a dderbyniwyd ar gyfer yr
Eisteddfod gyfredol:
Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024
Cronfeydd lleol a chyffredinol
Incwm o'r Ŵyl
Incwm o'r Maes
Awdurdodau a Chynghorau lleol
Nawdd
Meysydd Carafanau a Gwersylla
Incwm a dderbyniwyd yn ystod y flwyddyn ar gyfer
Eisteddfodau'r dyfodol:
Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025
Cronfeydd lleol a chyffredinol
Incwm o'r Ŵyl
Incwm o'r Maes
Nawdd
Meysydd Carafanau a Gwersylla
Eisteddfod Genedlaethol Y Garreg Las 2026
Cronfeydd lleol a chyffredinol
Balans 31 Mawrth 2025
7. Symudiadau yn y Cronfeydd Cyfyngedig
01.04.24 Derbyniwyd Gwariwyd
£ 000
£ 000
£ 000
Llywodraeth Cymru:
- Grant cyfalaf - Stondinau newydd
640
-
(80)
- Cynllun tocynnau fforddiadwy i deuluoedd
350
-
(350)
- Cynllun dathlu Dydd Miwsig Cymru
27
-
(27)
British Council:
- Prosiect cerddorion o Gymru a Llydaw
22
-
(22)
Llywodraeth Cymru:
- Grant gweithgareddau craidd
-
1,000
(1,000)
- Hybu gweithgareddau ieuenctid
6
(6)
Cyngor Celfyddydau Cymru:
- Gweithgareddau ar Faes yr Eisteddfod
-
99
(99)
Grant Ffyniant Cymunedol
- Prosiect cymunedol 'Anthem'
-
15
(15)
Media Cymru
- Ffilmio Cynaliadwy Deallusrwydd Artiffisial
-
10
(10)
Cyfanswm
1,039
1,130
(1,609)
2024/25
£ 000
£ 000
610
(129)
(78)
(276)
(1)
(33)
(94)
(610)
101
216
340
15
289
961
46
46
1,007
2024/25
£ 000
£ 000
610
(129)
(78)
(276)
(1)
(33)
(94)
(610)
101
216
340
15
289
961
46
46
1,007
1,007
Arall
£ 000
-
-
-
-
-
-
-
-
31.03.25
£ 000
560
-
-
-
-
-
-
-
1,039
1,130
(1,609)
- 560

17. Symudiadau yn y Cronfeydd Cyfyngedig

36

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

NODIADAU I'R DATGANIADAU ARIANNOL AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2025

18. Symudiadau yn y Cronfeydd Cadw

Cronfa
Cronfeydd Gwaddol
Cronfeydd Cyffredinol
Cronfeydd Penodol
Cronfeydd Cyfyngedig
Cyfanswm
01.04.24
£ 000
1,769
5,652
610
1,039
9,070
Incwm
£ 000
72
4,486
1,007
1,130
6,695
Gwariant
£ 000
(29)
(5,095)
(610)
(1,609)
(7,343)
Symudiad
net
£ 000
43
(609)
397
(479)
(648)
Enillion/
Colledion 31.03.25
£ 000
£ 000
(17)
1,795
(25)
5,018
-
1,007
-
560
(42)
8,380

19. Trafodion gyda phartïon cysylltiedig

Cafodd un ymddiriedolwr dâl o £350 (2023/24: £ dim) am lunio cerddi a chymryd rhan mewn gweithgareddau yn ystod Eisteddfod Rhondda Cynon Taf 2024, sef gwasanaeth y tu allan i'w ddyletswyddau fel ymddiriedolwr.

37