## **ADRODDIAD BLYNYDDOL A DATGANIADAU ARIANNOL am y flwyddyn 1 Ebrill 2024 i 31 Mawrth 2025** 

**Sefydliad Corfforedig Elusennol Rhif elusen:  1155539 www.eisteddfod.cymru** 



## **Eisteddfod Genedlaethol Cymru** 

## **CYNNWYS** 

|Adroddiad yr Ymddiriedolwyr:||
|---|---|
|Amcanion a Gweithgareddau’r elusen|2|
|Cyflawniadau a Pherfformiad|4|
|Adolygiad Ariannol|11|
|Gwybodaeth Gyfreithiol a Gweinyddol|14|
|Strwythur, Llywodraethu a Rheoli|15|
|Cynlluniau’r Dyfodol|18|
|Adroddiad yr Archwilwyr Annibynnol|19|
|Datganiad o’r Gweithgareddau Ariannol|23|
|Mantolen|24|
|Datganiad o’r Llif Arian|25|
|Nodiadau i’r datganiadau ariannol|26|



1 



**Eisteddfod Genedlaethol Cymru** 

## **ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR** 

## **Adroddiad yr ymddiriedolwyr am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2025** 

Mae'r ymddiriedolwyr yn cyflwyno eu hadroddiad blynyddol a datganiadau ariannol yr elusen am y flwyddyn o 1 Ebrill 2024 i 31 Mawrth 2025.  Paratowyd y datganiadau ariannol yn unol â'r polisïau cyfrifyddu a nodir yn nodyn 1 i'r cyfrifon ac yn cydymffurfio â chyfansoddiad yr elusen, Deddf Elusennau 2011, Datganiad o Arferion a Argymhellwyd i Elusennau (SORP) sy’n paratoi eu cyfrifon yn unol â’r Safon Adrodd Ariannol sy’n berthnasol yn y Deyrnas Gyfunol a Gweriniaeth Iwerddon (FRS102). 

## **AMCANION A GWEITHGAREDDAU'R ELUSEN** 

Amcanion yr Eisteddfod, er budd y cyhoedd yng Nghymru a ledled y byd, yw: 

- hyrwyddo addysg y cyhoedd yn nhreftadaeth a diwylliant Cymru, y gwyddorau a’r iaith Gymraeg; a hyrwyddo, cadw a diogelu treftadaeth a diwylliant Cymru a’r iaith Gymraeg, drwy unrhyw ddull a modd yr ystyrir yr ymddiriedolwyr yn dda yn cynnwys trwy gynnal gŵyl genedlaethol yn flynyddol, sef Eisteddfod Genedlaethol Cymru. 

Mae’r Ymddiriedolwyr yn gweithredu i gyflawni’r amcanion hyn trwy ddilyn yr ymrwymiadau a ganlyn: 

- Y Gymraeg yw iaith gweithgareddau’r Eisteddfod a’r Ŵyl. Tra’n parchu’r egwyddor hon, dylid sicrhau bod gwybodaeth ar gael i’r di-gymraeg, a gweithgareddau i’r rhai hynny 

- sy’n dysgu’r Gymraeg. 

- Bwriedir i’r Eisteddfod barhau i fod yn Ŵyl deithiol/symudol. Trwy weithio mewn partneriaeth â’r cymunedau lleol, Cymdeithas awdurdodau lleol Cymru a chyrff eraill, dylid ymdrechu i sicrhau bod yr ymweliadau’n gymorth i hyrwyddo adnewyddiad y cymunedau, a bod y budd economaidd, cymdeithasol a diwylliannol i’r ardaloedd hynny yn sylweddol a pharhaol. 

- Bwriedir i’r Eisteddfod Genedlaethol ddathlu egni a chyfoesedd yr iaith Gymraeg, ardderchowgrwydd diwylliant Cymru, a thraddodiadau gwerthfawr a drosglwyddwyd o genhedlaeth i genhedlaeth. 

- Bwriedir i’r Eisteddfod barhau i fod yn Ŵyl gystadleuol yn ei hanfod. Dylid adolygu nifer 

   - a natur y cystadlaethau’n rheolaidd i sicrhau eu bod yn addas a pherthnasol i’r cyfnod. 

- Bwriedir i’r Eisteddfod hefyd fod yn llwyfan i’r goreuon yn amrywiol agweddau’r diwylliant Cymreig a’r celfyddydau yng Nghymru, boed amatur neu broffesiynol. 

- Rhaid sicrhau strwythur rheoli a threfnu effeithiol sy’n cyd-fynd â’r gofynion cyfreithiol ac ymarferol sy’n bodoli er mwyn sicrhau gweithredu amserol a diwastraff gan wneud y defnydd gorau o’r adnoddau. Dylai’r rheolaeth fod yn agored a thryloyw ac yn parchu egwyddorion sylfaenol priodoldeb a llywodraeth gorfforaethol yn gyffredinol. 

- Dylid cydweithio gyda chyrff lleol a chenedlaethol (cyrff cyhoeddus, cyrff gwirfoddol a chwmnïau preifat) a chymunedau Cymru er mwyn sicrhau llwyddiant yr Ŵyl. 

- Ni ddefnyddir eiddo’r Eisteddfod at ddibenion nad ydynt yn elusennol. 

2 



**Eisteddfod Genedlaethol Cymru** 

## **AMCANION A GWEITHGAREDDAU'R ELUSEN** 

## Budd cyhoeddus 

Mae’r ymddiriedolwyr yn cadarnhau eu bod nhw wedi cydymffurfio â'r ddyletswydd yn adran 17 o Ddeddf Elusennau 2011 i roi sylw priodol i'r canllawiau budd cyhoeddus a gyhoeddir gan y Comisiwn Elusennol wrth benderfynu ar ein gweithgareddau. 

Amcanion craidd yr Eisteddfod Genedlaethol yw hyrwyddo diwylliant Cymru a diogelu iaith, hanes a thraddodiadau Cymru mewn cymdeithas amrywiol fodern.  Mae gŵyl flynyddol yn cael ei chynnal i ddathlu popeth Cymreig ac i ddatblygu diwylliant Cymru o fewn y brif ffrwd drwy: 

- Annog pobl i ddefnyddio a dysgu’r iaith Gymraeg; 

- Hyrwyddo diwylliant, bwyd, tirlun a threftadaeth Cymru sy’n adlewyrchu Cymru; 

- Arddangos perfformwyr Cymreig i gynulleidfa ehangach; 

- Darparu canolbwynt ar gyfer gweithgareddau cymdeithasol, economaidd a diwylliannol. 

Mae’r ŵyl yn hyrwyddo a’n hybu'r defnydd o’r iaith Gymraeg, trwy arddangos talent o Gymru. Mae hyn yn cael ei gyflawni drwy ymglymu artistiaid, cerddorion, perfformwyr, busnesau, addysg a darparwyr cymdeithasol.  Mae’r holl bobl leol a’r holl fusnesau lleol yn cael eu hannog i fynd ati i gymryd rhan, gan greu cyfuniad â blas Cymreig arbennig i adlewyrchu diwylliant, traddodiadau a gwerthoedd pobl Cymru. 

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn cyflawni ei hamcanion craidd trwy: 

- Arddangos hunaniaeth ddiwylliannol unigryw a threftadaeth Cymru; annog pobl i ddathlu hanes a diwylliant Cymru; 

- Feithrin a chynyddu’r defnydd o’r iaith Gymraeg ymysg pob grŵp oedran; 

- Ddarparu cyfleoedd cyffrous i ysgolion a chymunedau trwy gydol Cymru i gymryd rhan ynddynt; 

- Ddarparu cyfleoedd i’n hartistiaid Cymreig blaenllaw i arddangos eu talentau; 

- Ddod yn hygyrch i gynulleidfa fwy eang o wahanol oedrannau, rhyw ac ethnigrwydd, trwy ddod â’r Eisteddfod i mewn i’r oes fodern; 

- Hyrwyddo’r iaith Gymraeg ymysg busnesau yn y sector preifat; 

- Gynyddu proffil Cymru ar lefel rhyngwladol; 

- Gydlyniant cymunedol trwy weithredu a chymryd rhan yn wirfoddol yn lleol; 

- Weithio gyda sefydliadau lleol i gryfhau Cymru a’i chymunedau; 

- Godi proffil a phoblogrwydd canu corawl yng Nghymru; 

- Arloesi gyda thechnoleg newydd e.e. y cyntaf yn y Byd i we-ddarlledu’n fyw yn y Gymraeg yn 2000, a’r rhaglen Gymraeg gyntaf ar gyfer yr iPhone yn 2010; 

- Annog datblygiad addysgol; 

- Gryfhau llwyfan Cymru; 

- Gynyddu cystadleuaeth iach a gwaith tîm; 

- Annog pobl i gyfrannu o gefndiroedd di-gymraeg; 

- Adeiladu pontydd rhwng pobl o ethnigrwydd a chenhedloedd amrywiol. 

3 



**Eisteddfod Genedlaethol Cymru** 

## **CYFLAWNIADAU A PHERFFORMIAD** 

## **Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024** 

## **Yr arlwy artistig** 

Un o’r digwyddiadau mwyaf poblogaidd yn y **Babell Lên** eleni oedd Sesiwn Goffa Llwyd o’r Bryn, pan fu’r actores arobryn, Siân Phillips, yn sgwrsio gyda Steffan Donnelly am ei bywyd a’i gwaith. Mae hon yn datblygu i fod yn sesiwn flynyddol sy’n apelgar a phoblogaidd. 

Unwaith eto eleni, roedd y Cwt Cabaret yn boblogaidd gydag amrywiaeth ddifyr o weithgareddau nos yn llenwi gofod y Babell Lên gyda’r hwyr. 

Lleoliad arall sy’n denu cynulleidfa fawr gyda’r nos yw’r **Tŷ Gwerin** , ac unwaith eto eleni, roedd y rhaglen yn ddeniadol ac yn gymysgedd dda o sesiynau lleol a chenedlaethol, gydag ambell ffefryn fel y Stomp Werin a’r Gymanfa Gerdd Dant yn dychwelyd eto eleni. 

Gyda churadur newydd wrth y llyw, rhoddwyd cyfle i lawer mwy o artistiaid arddangos yn **Y Lle Celf** eleni, gydag ymdeimlad o gelf mewn gŵyl yn yr oriel ac awyrgylch braf. Mae angen ystyried rôl yr arddangosfa arbennig yn Y Lle Celf, a thrafod a yw’r cysyniad o arddangosfa ar ei ffurf bresennol yn gweithio ynteu a oes angen bod yn fwy arbrofol a beiddgar. 

Roedd naws braf yn **Encore** eleni gyda’r rhaglen yn apelgar ac agosatoch, gyda chymysgedd o sesiynau lleol a chenedlaethol drwy gydol yr wythnos. 

Mae’r berthynas gyda Llywodraeth Cymru a Dysgu Cymraeg yn mynd o nerth i nerth ac ardal y **Pentref Dysgu Cymraeg** yn elwa oherwydd hyn. Er i’r ardal gael ei leoli’n agos at y brif fynedfa ers rhai blynyddoedd bellach, y bwriad yw edrych ar leoli’r Pentref Dysgu Cymraeg mewn rhan arall o’r Maes y flwyddyn nesaf. 

Ceir cymysgedd o sesiynau hwyliog a swmpus, ac mae’r ardal yn cynnwys sesiynau ar gyfer dysgwyr ar bob lefel, yn ogystal â digwyddiadau sy’n pontio rhwng siaradwyr newydd a siaradwyr hyderus. 

Bu’r ardal chwarae yng nghanol Parc Ynysangharad yn ychwanegiad hyfryd i ardal y **Pentref Plant** eleni, gyda’r parc a’r gweithgareddau’n denu miloedd o blant cyn ac oedran cynradd yn ystod yr wythnos. Dyma ardal sydd wedi ennill ei blwyf dros y blynyddoedd diwethaf, gydag amserlen syml ond llwyddiannus, sy’n gadael i blant gymdeithasu a chwarae. Roedd yr Ynys Glyd, ardal synhwyraidd i blant niwro-amrywiol hefyd yn ychwanegiad pwysig i’r pentref eleni. 

Gweithiodd yr **arlwy theatrig** o amgylch y Maes yn dda iawn eleni, gyda chynyrchiadau mwy ffurfiol yn cael eu cynnal yng nghanolfan YMa yng nghanol y dref. Mae cynnal gweithgareddau theatrig mewn gwahanol rannau o’r Maes yn apelio at ein cynulleidfa, gydag arlwy dawns fel rhan o theatr stryd yn genre sy’n cynyddumewn poblogrwydd yn flynyddol. 

Rhoddwyd ffocws ar ddatblygu sgwennwyr newydd eleni. Cafwyd ymateb ardderchog i _Corn Gwlad_ a _Brên. Calon. Fi._ dau gydgynhyrchiad gyda’r Eisteddfod a berfformiwyd yn gyntaf fel gwaith mewn datblygiad ar y Maes cyn dychwelyd fel cynyrchiadau llawn yn ddiweddarach. 

Gweithiodd y berthynas gyda’r Gwasanaeth Cerdd a’r cyngor yn dda ar y **bandstand** gan roi cyfle i artistiaid lleol yn ystod y dydd. Defnyddiwyd y bandstand ar gyfer perfformiadau golau cannwyll gyda’r nos. 

Mae **Caffi Maes B** yn lleoliad poblogaidd ar gyfer perfformiadau theatrig. Mae comedi yn parhau yn boblogaidd, gyda galw am slot gomedi dyddiol yn y dyfodol. 

4 



**Eisteddfod Genedlaethol Cymru** 

## **CYFLAWNIADAU A PHERFFORMIAD** 

Eleni, roedd dwy ganolfan oddi ar y Maes, y **Muni** ac **YMa** yng nghanol y dref. Defnyddiwyd y Muni ar gyfer rhagbrofion a pherfformiadau min nos, ac roedd YMa yn leoliad gwych ar gyfer perfformiadau theatrig mwy ffurfiol. Cymerodd rhain le yr ail bafiliwn eleni, gyda’r Muni yn arbennig yn dangos y byddai gofod hyblyg ar gyfer rhagbrofion hefyd yn gallu cael ei ddefnyddio’r greadigol gyda’r nos wrth edrych i’r dyfodol. 

## **Cyngerdd y Côr** 

Addasiad cwbl newydd o stori eiconig Nia Ben Aur oedd sioe fawr yr Eisteddfod eleni. Gyda chystadlu’n parhau gyda’r nos am ran helaeth o’r wythnos, dim ond un cyngerdd a gynhaliwyd yn y Pafiliwn. 

Hanner canrif ar ôl premiere y sioe roc Gymraeg eiconig yn Eisteddfod Bro Myrddin, 1974, rhoddodd Patrick Rimes a Sam Humphreys wedd werinol ac electro i’r caneuon, a chrëwyd sgript newydd sbon gan Fardd Plant Cymru, Nia Morais. Crëwyd y trefniannau corawl gan Richard Vaughan, gyda Angharad Lee yn cyfarwyddo’r sioe. Roedd y côr yn un o elfennau cymunedol mwyaf y prosiect eleni, gyda thros 300 o bobl leol, yn siaradwyr Cymraeg hyderus, dysgwyr ac yn ddi-gymraeg yn cael cyfle i berfformio. Roedd yr addasiad yn hynod arbrofol a’r sioe yn ei chyfanrwydd yn wahanol i’r hyn roedd ein cynulleidfa’n ei ddisgwyl. 

## **Y Maes** 

Dychwelodd yr Hwb Trydydd Sector eleni, mewn partneriaeth gyda Chyngor Gwirfoddol Cenedlaethol Cymru ac Interlink, gan sicrhau presenoldeb i dros 30 o elusennau lleol a chenedlaethol. 

Bu’n rhaid torri i lawr ar nifer yr arlwywr a ddaeth i’r Maes eleni, oherwydd bod gofod yn brin, ac o’r herwydd roedd safon y bwyd yn well. Golygodd hyn hefyd fod llawer o bobl wedi gadael y Maes i brynu bwyd a chyfrannu i’r economi leol. Roedd nifer o’r arlwywyr yn cynnig prydau fforddiadwy am `5, ac mae’n rhaid sicrhau fod y rhain ar gael drwy gydol yr wythnos. 

Un o amcanion mawr y cyngor sir a ninnau wrth gynnal yr ŵyl ym Mhontypridd oedd creu Eisteddfod werdd gyda phwyslais amlwg ar drafnidiaeth gyhoeddus. Gorffennwyd y gwaith lleol ar y Metro, a bu tîm aml-asiantaeth yn gweithio ar gynllun trafnidiaeth am fisoedd, gan annog pobl i ddefnyddio’r bws a’r trên a pheidio â gyrru i ganol y dref. Gweithiodd hyn yn wych, gyda threnau rheolaidd a thocynnau bws am £1 o amgylch yr ardal, a chrëwyd glasbrint ar gyfer y dyfodol. Mae hyn yn rhan bwysig o’n polisi amgylcheddol a fydd yn dod yn elfen fwy amlwg o’n gwaith wrth i ni weithio tuag at statws sero-garbon dros y blynyddoedd nesaf. 

Roedd nifer o heriau wrth gynnal yr Eisteddfod drefol mewn cwm, ac un o’r rheini oedd sicrhau fod gennym ni ddigon o dir addas ar gyfer y maes carafanau yn ogystal â’r Maes ei hun. Ni fu hyn yn hawdd a chafwyd rhai cwynion am y pellter o’r Maes (0.4 milltir). 

Gosodwyd yr hwb hygyrchedd wrth ymyl y llecyn llonydd, a symudwyd Byw Bywyd yno er mwyn i bobl allu gollwng eu sgwteri mewn ardal benodol ar ôl 18:00. Bu’r gwasanaeth bygi’n boblogaidd gydag ymwelwyr ag anghenion hygyrchedd ychwanegol, yn arbennig wrth fynd o’r Pafiliwn i’r brif fynedfa. Bu’r cyfieithu BSL yn fwy poblogaidd eleni, a chynhyrchwyd fideo penodol ymlaen llaw er mwyn ei hyrwyddo. 

Gweithiodd y Maes yn arbennig o dda yn ystod yr wythnos, ond bu gosod y strwythurau a’r cyfleusterau’n llawer mwy heriol na’r arfer. Roedd rhaid ystyried pa strwythurau fyddai’n ffitio yn y gwahanol ofodau ac o amgylch yr adeiladau parhaol ar y safle. Roedd cael dim ond un fynedfa i gerbydau hefyd yn heriol, ond gweithiodd ein system rheoli cerbydau’n dda, a byddwn yn parhau i ddilyn y drefn hon y flwyddyn nesaf. 

5 



**Eisteddfod Genedlaethol Cymru** 

## **CYFLAWNIADAU A PHERFFORMIAD** 

Bu’n rhaid cyfyngu stondinwyr i ddwy uned yr un eleni, er mwyn sicrhau bod lle i bawb a digon o amrywiaeth ar y Maes. Yn ogystal, cyflwynwyd stondinau llai o faint (3m x 3m) am y tro cyntaf, gyda’r rhain yn cael eu hyrwyddo i fusnesau bach a lleol. Cynhaliwyd dwy sesiwn galw draw i drafod stondinau ym Mharc Ynysangharad ddiwedd Chwefror ar gyfer busnesau lleol, gyda dwy arall yn cael eu cynnal ar Zoom ar gyfer darpar stondinwyr cenedlaethol. Gweithiodd y system archebu amser i stondinwyr gyrraedd y Maes i osod i fyny yn dda, a byddwn yn dilyn yr un drefn eto y flwyddyn, er mwyn torri i lawr ar nifer y cerbydau ar y Maes cyn yr ŵyl. 

Yn dilyn llwyddiant y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg dros y blynyddoedd diwethaf, eleni penderfynwyd arbrofi drwy greu Pentref Celf, gan osod clwstwr o stondinau a chytiau pren wrth ymyl Y Lle Celf. Bu hyn yn llwyddiant a byddwn yn parhau gyda’r arbrawf hwn y flwyddyn nesaf. 

Unwaith eto eleni, roedd y Maes yn edrych yn ddeniadol a lliwgar ac mae hyn yn ychwanegu cymaint at naws gŵyl yn ystod yr wythnos. 

## **Cyfathrebu a digidol** 

Gan nad oedd yr Eisteddfod wedi’i chynnal yn ardal Rhondda Cynon Taf ers cynifer o flynyddoedd, roedd codi ymwybyddiaeth o’r brand a chyflwyno elfennau o’r ŵyl mewn ffordd ddeniadol a syml yn hollbwysig. 

Cafodd hyn ei wneud drwy ymgyrch farchnata eang ar draws yr ardal a oedd yn cynnwys hysbysebion ar fysiau, fflagiau ar y stryd, baneri cymunedol ar draws y dalgylch ynghyd â defnydd deniadol o’r brand o amgylch adeilad y llyfrgell wrth i ymwelwyr gyrraedd y Maes. 

Defnyddiwyd y brand yn ofalus drwy gydol y flwyddyn er mwyn i drigolion lleol ddod i’w adnabod, gyda defnydd cryf o’r brand hefyd yn rhan allweddol o’n hymgyrch genedlaethol i hyrwyddo’r ŵyl, tocynnau a’r rhaglen artistig. 

Defnyddiodd y cyngor elfennau cryf o’n brandio ni wrth hyrwyddo’r ŵyl o amgylch y dalgylch hefyd, gan ein helpu ni godi ymwybyddiaeth ymhellach. 

Mae cynhyrchu rhaglen ar ffurf cofrodd, gyda chyfres o erthyglau nodwedd yn gweithio’n dda, a byddwn yn parhau gyda hyn y flwyddyn nesaf. 

Mae gennym berthynas dda iawn gyda newyddiadurwyr lleol a chenedlaethol gyda llawer iawn o sylw positif drwy gydol y flwyddyn ac yn ystod yr ŵyl ei hun. Yn naturiol, nid yw pob stori’n bositif, ac rydyn ni’n derbyn ein bod ni am gael sylw negyddol pan fo stori ddilys yn torri. 

Un o lwyddiannau mawr wythnos yr Eisteddfod oedd y teithiau tywys a oedd yn cael eu cynnal ddwywaith y dydd. Denodd y rhain gannoedd o bobl dros yr wythnos, gyda chymysgedd o drigolion lleol a oedd yn dod yn mynychu am y tro cyntaf ynghyd â nifer dda o ymwelwyr o wahanol rannau o’r byd.  Mae’r rhain wedi’u targedu at ymwelwyr a’r rheini sy’n dysgu Cymraeg, ac yn cael eu cynnal gan ddysgwr sy’n hyderus erbyn hyn. 

Cafodd y teithiau ganmoliaeth mawr gan rai o staff Croeso Cymru eleni, a byddwn yn eu cynnwys yn rhaglen y Pentref Dysgu Cymraeg o hyn ymlaen fel gweithgaredd ffurfiol. 

Rydyn ni’n parhau i ddatblygu ein defnydd o’n gwefan a’r app, ac mae gwefan yr Eisteddfod ymysg y gwefannau Cymraeg mwyaf poblogaidd. 

6 



**Eisteddfod Genedlaethol Cymru** 

## **CYFLAWNIADAU A PHERFFORMIAD** 

Eleni, gwnaethpwyd gwell defnydd o’r digwyddiadur ar-lein a byddwn yn edrych ar sut y gellir ehangu ar hyn y flwyddyn nesaf. Byddwn hefyd yn datblygu system hysbysebion ar y wefan fel ffordd syml o gynyddu incwm, yn arbennig yn ystod y cyfnodau prysur. 

Mae app yr Eisteddfod yn parhau i fynd o nerth i nerth, ac eleni cafwyd dyluniad newydd glân i gyd-fynd â’r wefan. 

Cafodd yr app ei ddefnyddio gan dros 30,000 o unigolion yn ystod yr wythnos, gyda thua 20% o’r rhain yn ddefnyddwyr newydd. Cyflwynwyd system hysbysiadau ar yr app a oedd yn ddefnyddiol iawn ddydd Iau pan oedd angen symud a chanslo sesiynau oherwydd y tywydd, a byddwn yn edrych ar ei wneud yn fwy strwythuredig i flwyddyn nesaf. 

## **Y Gronfa Leol a nawdd** 

Erbyn bore cyntaf yr Eisteddfod, roedd y Gronfa Leol wedi cyrraedd £0.305m, ac wrth ychwanegu cyfraniadau mewn da gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ac eraill, cyhoeddwyd fod y cyfanswm wedi cyrraedd y nod. 

Rydyn ni’n ddiolchgar i bawb a weithiodd mor galed ym mhob rhan o’r dalgylch yn codi arian, yn enwedig gan nad oes unrhyw gynghorau cymuned yn yr ardal fel sy’n bodoli mewn rhannau eraill o Gymru, ac sy’n barod iawn i gefnogi’r Eisteddfod yn lleol. 

Gweithiodd y tri chwm mewn ffordd wahanol i’w gilydd, gydag aelodau’r pwyllgorau lleol yn dewis sut roedden nhw am weithio. Roedd Rhondda a Chynon yn ffafrio un pwyllgor codi arian ar gyfer yr ardal ac ardal Taf wedi’i rhannu’n wardiau tebycach i’r arfer. 

Am y tro cyntaf, gweinyddwyd system archebu gwobrau ar ein gwefan, a gweithiodd hyn yn dda, yn enwedig er mwyn annog pobl o’r tu allan o’r dalgylch i gyflwyno gwobr yn ogystal â’r rheini a oedd yn byw yn lleol. Roedd yr wybodaeth yn cael ei uwch lwytho’n awtomatig ar gyfer y rhaglen ac roedd hyn yn help mawr yn ystod cyfnod prysur. 

Llwyddodd y gronfa nawdd i gyrraedd ei nod hefyd ac rydyn ni’n ddiolchgar iawn i noddwyr hen a newydd am eu cefnogaeth unwaith eto eleni. Rydyn ni wedi datblygu nifer o becynnau nawdd newydd dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac mae’n braf gweld bod rhain yn apelgar gan noddwyr o’r sector preifat yn ogystal â’r rheini sydd yn y sector cyhoeddus. 

## **Cystadlu** 

Llwyddwyd i gwblhau’r gwaith o greu’r rhaglen gystadlu ddrafft yn gynnar eleni fel bod modd ei chyhoeddi cyn y dyddiad cau a helpu cystadleuwyr i wneud trefniadau teithio ac aros ar gyfer yr wythnos, a byddwn yn parhau gyda’r drefn hon eleni. 

Nodwedd newydd arall oedd bod y rhaglen yn gweithio tuag at uchafbwynt ddiwedd yr wythnos gyda’r brif gystadleuaeth unigol ym mhob adran yn cael eu cynnal ar y dydd Sadwrn olaf, gan wella llif a siâp yr wythnos. 

Gweithiodd y nosweithiau cystadlu’n dda, gan ddenu cynulleidfa newydd i wylio’r cystadlu, yn enwedig gyda pherfformiadau eraill yn ystod y nosweithiau. Bu’r sŵn o Lwyfan y Maes yn broblem, ond cafwyd cydweithio da rhwng y tîm cystadlaethau a rheolwyr Llwyfan y Maes, yn enwedig yn ystod ail hanner yr wythnos er mwyn ceisio cytuno ar gyfaddawd a oedd yn gweithio i bawb. Bydd yr arbrawf o gynnal cystadlaethau gyda’r hwyr yn parhau yn Wrecsam y flwyddyn nesaf. 

Cafodd y gystadleuaeth côr newydd i’r Eisteddfod groeso brwd gyda 14 o gorau newydd yn cymryd rhan gydag amryw o’r dalgylch gan roi cyfle i dros 750 o unigolion berfformio mewn 

7 



**Eisteddfod Genedlaethol Cymru** 

## **CYFLAWNIADAU A PHERFFORMIAD** 

côr ar lwyfan cenedlaethol am y tro cyntaf. Eto, bydd y gystadleuaeth yma’n parhau yn 2025. Mae cynnal rhagbrofion y gwahanol adrannau yn yr isbafiliynau perthnasol i’w crefft (Tŷ Gwerin, Encore a’r Babell Lên) yn y bore hefyd yn gweithio’n dda, ac eleni, cynhaliwyd y rhagbrofion cyffredinol yn y Muni yng nghanol y dref. Roedd niferoedd cystadlu eleni’n ardderchog ac mae gwaith eisoes ar droed i hyrwyddo cystadlaethau 2025 yn eang er mwyn denu cynifer o gystadleuwyr â phosibl. 

## **Gwirfoddoli** 

Agorodd ein porth gwirfoddoli ym mis Mawrth eleni, a derbyniwyd dros 500 o geisiadau i stiwardio’n syth. Diolch i bawb ddaeth atom ni ym Mhontypridd eleni, ynghyd â phawb sy’n rhoi o’u hamser i weithio gyda ni ar draws pob maes yn ystod y flwyddyn. 

Yn ôl amcangyfrifon gan gyrff sy’n cynnig grantiau, mae amser ein gwirfoddolwyr ni werth dros £0.120m yn ystod wythnos yr ŵyl yn unig.  Wrth gwrs, mae eu gwerth i’r Eisteddfod ei hun yn llawer mwy na hyn gan na fyddai modd cynnal yr ŵyl na rhedeg ein prosiectau heb eu gwaith a’u cefnogaeth. Mae cyfraniad y rheini sy’n rhan o’n pwyllgorau amrywiol drwy gydol y prosiect yn ychwanegol at hyn. 

Un o’n prosiectau gwaddol ni eleni oedd i gydweithio gyda grwpiau lleol er mwyn ceisio sicrhau bod rhai o’n gwirfoddolwyr lleol ni’n parhau i ddefnyddio’u Cymraeg i wirfoddoli gydag elusennau a grwpiau gwirfoddol eraill yn Rhondda Cynon Taf ar ddiwedd yr ŵyl. 

Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda’r fenter iaith leol, Interlink, Strategaeth Bryncynon, Ymbweru Bro a’r cyngor sir ar brosiect gwaddol gwirfoddoli, gyda ffair wirfoddoli a digwyddiad arbennig i gyflwyno tystysgrifau a diolch i’n gwirfoddolwyr lleol ddiwedd Tachwedd eleni. Dyma’r tro cyntaf i ni gynnal digwyddiad fel hyn. 

Rydyn ni hefyd wedi penodi Cydlynydd Gwirfoddoli i weithio gyda ni ar wahanol brosiectau am ddiwrnod yr wythnos drwy gydol y flwyddyn. Rydyn ni’n edrych ar ddatblygu’r cyfleoedd gwirfoddoli sydd ar gael drwy gydol y flwyddyn, yn ogystal ag edrych ar sut y gallwn ni ehangu apêl yr Eisteddfod i wirfoddolwyr ar bob lefel. 

Rydyn ni eisoes yn trafod sut y gallwn ni ffurfioli’r berthynas gyda Chyngor Gwirfoddoli Cenedlaethol Cymru dros y misoedd nesaf ac mae nifer o gynlluniau eraill ar y gweill i adeiladu ar y gwaith gwaddol gwirfoddoli sydd wedi’i wneud yn ardal Rhondda Cynon Taf wrth symud ymlaen at 2025 a 2026. 

## **Cymunedol** 

Dechreuodd y gwaith cymunedol yn gynharach na’r arfer yn ardal Rhondda Cynon Taf, diolch i grant gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, lle bu modd cyflogi swyddog cymunedol i weithio fel rhan o’r tîm am dair blynedd. 

Cynhaliwyd dros ddeuddeg o brosiectau meicro-leol gan roi blas o’n hiaith a’n diwylliant yn enw’r Eisteddfod. Roedd yn bwysig ein bod ni’n creu prosiectau yn Rhondda, Cynon a Thaf, a bod yr Eisteddfod a threftadaeth a diwylliant lleol yn rhan bwysig o’r prosiectau. 

Roedd rhai’n edrych yn ôl ar eisteddfodau’r gorffennol ac yn dysgu am yr hyn a fu yn ddiwylliannol ac yn yr ŵyl, ac eraill yn edrych ar yr Eisteddfod heddiw, ac yn creu cyfleoedd diwylliannol newydd ac i’r dyfodol. 

Roedd hefyd yn bwysig ein bod ni’n gweithio gyda phobl o bob oed a phob cefndir, a phenderfynwyd canolbwyntio ar gynulleidfaoedd newydd ac anghyfarwydd i’r Eisteddfod yn ystod y prosiect. Hefyd, roedd gweithio gydag ysgolion yn amcan pwysig o’r prosiect, ond 

8 



**Eisteddfod Genedlaethol Cymru** 

## **CYFLAWNIADAU A PHERFFORMIAD** 

roeddem yn awyddus i gamu y tu hwnt i ysgolion Cymraeg yn unig a chreu cyfleoedd i blant mewn ysgolion lle nad yw’r Gymraeg yn brif iaith addysgu’n allweddol. 

Roedd hefyd yn bwysig i ni weithio gydag ysgolion mewn ardaloedd difreintiedig ac ysgolion nad ydynt yn derbyn llawer o gyfleoedd, fel ein bod ni’n mynd â’n hiaith a’n diwylliant - a’r Eisteddfod - allan i’r gymuned ac yn cyrraedd teuluoedd a chynulleidfaoedd newydd. 

Braf yw nodi fod nifer fawr o’r rheini fu’n cydweithio gyda ni fel rhan o’r prosiect allymestyn wedi archebu stondinau yn yr Eisteddfod yn ystod yr wythnos, ac wedi dod yn rhan o’r gwaith o drefnu’r Eisteddfod ei hun, yn union fel yr oeddem ni wedi’i obeithio. 

Un o’r prosiectau oedd grŵp Cwm Taf People First, grŵp o oedolion gydag anghenion dysgu ychwanegol sy’n cyfarfod yn Ferndale yn y Rhondda. Cawsom gyfle i ymweld â hwy i sôn am yr Eisteddfod ac erbyn diwedd ein hymweliad, roedden nhw wedi penderfynu eu bod nhw eisiau cyfansoddi cân ar gyfer yr Eisteddfod gyda’u therapydd. Cafodd y gân ei chyfieithu i’r Gymraeg a ffilmiwyd y grŵp yn ei pherfformio, ac yna fe ddaethon nhw i’r Maes i ganu fel rhan o raglen Encore. Mae’r grŵp wedi cysylltu’n ôl gyda ni ers yr Eisteddfod yn dweud eu bod nhw wedi mwynhau’r profiad yn arw a’u bod nhw wrthi’n creu cân newydd, ac yn gofyn a oes modd iddyn nhw ddod i fyny i Wrecsam i’w pherfformio y flwyddyn nesaf. 

Dyma enghraifft o sut rydyn ni’n ymgysylltu ar lawr gwlad a sut mae’r Eisteddfod, ein hiaith a’n diwylliant yn gallu ysbrydoli pobl ar lefel meicro-leol. 

Mae gadael gwaddol ar ddiwedd yr ŵyl yn rhan bwysig o’n cenadwri, ac eleni rydyn ni wedi gweithio gyda nifer o sefydliadau, gan gynnwys y fenter iaith leol, Ymbweru Bro, y cyngor sir a Llywodraeth Cymru er mwyn gwneud hyn. 

Un o’r prosiectau hyn yw Gwobrau Busnes Ardal yr Eisteddfod sy’n cael eu harwain gan y fenter, a fydd yn gwobrwyo’r busnesau yn Rhondda Cynon Taf a aeth ati i ddefnyddio’r Gymraeg mewn ffordd newydd ac effeithiol yn y cyfnod hyd at, yn ystod ac ers yr Eisteddfod. Cyflwynir y gwobrau dros frecwast yn y Lido ddydd Iau 5 Rhagfyr. 

Gwaddol arall a adawyd yn lleol oedd y murlun arbennig i ddathlu dyfodiad yr Eisteddfod ar dalcen cartref Evan a James James a gyfansoddodd ein hanthem genedlaethol. Roedd dathlu’r anthem yn rhan bwysig o weledigaeth yr wythnos, gyda premiere gwaith newydd gan Eilir Owen Griffiths yn cloi’r ŵyl ym Mhontypridd, ac mae cynlluniau ar waith i ail-berfformio’r gwaith hynod hwn yn Wrecsam y flwyddyn nesaf. 

Unwaith eto eleni, comisiynwyd Tudur Phillips i greu sioe am yr Eisteddfod ar gyfer cyfnod pontio blwyddyn 6 a 7, gyda’r sioe yn cael ei chynnig i ysgolion Cymraeg a’r ysgolion lle nad yw’r Gymraeg yn brif iaith y dysgu. 

Yn ogystal, anfonwyd pecyn o weithgareddau digidol i bob ysgol gynradd yn y sir ynghyd â gwahoddiad i fod yn rhan o gystadleuaeth arlunio arbennig. Denodd y gystadleuaeth bron i 300 o geisiadau a chafodd y gwaith buddugol ei osod ar baneli finyl yn ffenestri Llyfrgell Pontypridd yn y cyfnod cyn ac yn ystod yr ŵyl. 

9 



**Eisteddfod Genedlaethol Cymru** 

## **CYFLAWNIADAU A PHERFFORMIAD** 

## **Yr Orsedd** 

Eleni oedd blwyddyn gyntaf yr Archdderwydd Mererid wrth y llyw, a chafodd groeso brwd yn yr Eisteddfod yn Rhondda Cynon Taf ynghyd ag yn ei seremoni gyntaf yn Cyhoeddi Eisteddfod Wrecsam fis Ebrill. 

Yn anffodus, bu’n rhaid cynnal seremonïau urddo aelodau newydd o’r Orsedd yn y Pafiliwn eleni oherwydd tywydd anffafriol fore Llun a Gwener. Er hynny, gweithiodd y Pafiliwn yn arbennig o dda gyda digon o le i gynulleidfa fawr fwynhau’r ddwy seremoni. 

Mae’r rhain yn seremonïau lliwgar sy’n apelgar i bawb, yn deuluoedd a ffrindiau’r rheini sy’n cael eu hurddo, yn ogystal ag ymwelwyr anghyfarwydd a newydd. Mae’r apêl yma’n cael ei golli drwy gynnal y seremoni y tu mewn, er ein bod yn gwerthfawrogi’r angen i wneud hyn os yw’r tywydd yn wael. 

## **Tocynnau** 

Cyflwynwyd system waith ar-lein newydd yn ei chyfanrwydd eleni, a hynny ar ôl ei datblygu dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae hyn wedi trawsnewid ein ffordd o weithio wrth baratoi ar gyfer yr ŵyl ei hun, gan fod popeth yn cael ei fwydo i mewn i un system ganolog. 

Mae hyn yn cynnwys tocynnau noddwyr, perfformwyr ac artistiaid, a byddwn yn blaenoriaethu’r gwaith o sicrhau fod y system hon a’n system docynnau’n gallu cysylltu ‘i gilydd er mwyn osgoi unrhyw ddyblygu. 

Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth er mwyn gallu darparu tocynnau ar gyfer teuluoedd ar incwm isel ar draws y dalgylch. 

Rydyn ni hefyd yn cynnig talebau bwyd ar gyfer plant fel rhan o’r cynllun hwn, a weithiodd yn well nag erioed eleni.  Braf oedd clywed am gymaint o’r teuluoedd yn mwynhau’r ŵyl ac yn dychwelyd yn nes ymlaen yn yr wythnos. Dyma gynllun pwysig sy’n ein galluogi ni i sicrhau fod yr Eisteddfod yn ŵyl i bawb. 

Roedd y shifft rhwng prynu ar y giât ac ymlaen llaw yn amlwg i’w weld eleni, gyda chyfradd uwch nag erioed yn dewis prynu tocynnau ar-lein cyn cyrraedd y Maes. Roedd nifer fawr yn amlwg yn prynu wrth deithio ar y bws neu’r trên i’r Maes, a’r gobaith yw y bydd hyn yn parhau i dyfu ymhellach dros y blynyddoedd er mwyn hwyluso gwaith yr uned docynnau. 

10 



**Eisteddfod Genedlaethol Cymru** 

## **ADOLYGIAD ARIANNOL** 

Adroddir ar ganlyniadau’r elusen am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2025 yn y Datganiad o’r Gweithgareddau Ariannol ar dudalen 23. Mae'r ffigyrau cyfatebol ar gyfer 2024 yn adlewyrchu cyfnod ariannol o 15 mis, sef 1 Ionawr 2023 i 31 Mawrth 2024.  Cafodd y cam hwn i wneud y llynedd am nifer o resymau ymarferol, rheoleiddiol a strategol ac o hyn allan bydd yr adroddiadau blynyddol yn diweddu ar 31 Mawrth.  O ganlyniad i’r newid hwn, nid oes modd cymharu'r symiau a gyflwynir yn y cyfrifon yn llwyr. 

Derbyniwyd cyfanswm o £6.695m o incwm i mewn yn ystod y cyfnod i gymharu gyda £8.686m yn 2024 a gwariwyd cyfanswm o £6.503m (£7.729m yn 2024).  Gan gynnwys hefyd y gostyngiad o £0.042m yng ngwerth y buddsoddiadau (cynnydd o £0.080m yn 2024), mae hyn yn gadael gweddill (cyn y lleihad yng ngwerth y cynllun pensiwn) ar ddiwedd y cyfnod o £0.150m (2024: Gweddill o £1.037m). 

Ar 31 Mawrth 2025 roedd yr asedau net yn £8.380m (£9.070m yn 2024). 

## **Cronfeydd** 

Mae'r Eisteddfod yn cadw cronfeydd ariannol mewn nifer o gategorïau: 

Cronfeydd cyffredinol (anghyfyngedig) - ar gael i'w defnyddio, yn ôl disgresiwn yr ymddiriedolwyr, i unrhyw un o ddibenion elusennol yr Eisteddfod Genedlaethol. Cyfanswm y gronfa ar 31 Mawrth 2025 oedd £5.018m (2024 - £2.362m). 

Cronfeydd Cyfyngedig - arian a roddir i’w defnyddio ar gyfer pwrpas penodol, ac mae eu defnydd yn gyfyngedig i’r pwrpas hwnnw.  Cyfanswm y gronfa ar 31 Mawrth 2025 oedd £0.560m (2024: £1.039m). 

Cronfeydd Penodol - yn cynrychioli incwm a dderbynnir ar gyfer Eisteddfodau’r dyfodol.  Yn ystod y cyfnod, derbyniwyd cyfanswm o £0.960m ar gyfer Eisteddfod Wrecsam 2025 a £0.046 tuag at Eisteddfod Y Garreg Las 2026. Yn ogystal rhyddhawyd swm o £0.610m yn ôl mewn perthynas ag arian a godwyd ar gyfer Eisteddfod Rhondda Cynon Taf cyn 2024.  Dangosir y symudiadau i’r gronfa yn nodyn 16 o’r cyfrifon. Roedd cyfanswm y gronfa ar 31 Mawrth 2025 yn £1.007m (31 Mawrth 2024 - £0.610m). 

Cronfeydd Gwaddol - cronfeydd sydd i'w cadw er budd yr elusen fel Cronfa Cyfalaf.  Cyfanswm y gronfa yma ar 31 Mawrth 2025 oedd £1.795m (£1.769m ar 31 Mawrth 2024). 

Cronfa Bensiwn – Ar 31 Mawrth 2024 roedd gwarged yn y gronfa bensiwn o £3.290m.  Cafodd y cynllun pensiwn budd diffiniedig ei gau ar 31 Mai 2024, gan ryddhau'r gwarged ymadael, ar ôl prisiad actiwaraidd terfynol, o £2.45m i gronfeydd cyffredinol yr elusen. 

## **Polisi Cronfeydd wrth gefn** 

Mae'r cronfeydd wrth gefn yn cael eu cynnal ar gyfer unrhyw ddiffyg dros dro (e.e. colled mewn Eisteddfod benodol neu gynnydd anrhagweladwy yn y gwariant) fel y gall yr elusen parhau i weithredu ar unrhyw adeg. 

Oherwydd natur ansicr nifer o ffynonellau incwm a gwariant, fel y gronfa leol, grantiau, nawdd, gwerthiant tocynnau a chostau ychwanegol o ran tywydd drwg, mae’r ymddiriedolwyr wedi cytuno ar bolisi lle dylai’r cronfeydd anghyfyngedig fod yn werth 100% o leiaf o gyfanswm y gwariant (yn seiliedig ar gyfrifon eleni), sy’n cyfartalu i dua £6.5m mewn cronfeydd wrth gefn. Ar y lefel yma, teimlai’r ymddiriedolwyr y bydd yr elusen yn gallu parhau i weithredu mewn achos o ddiffyg sylweddol naill ai oherwydd amgylchiadau fel y pandemig Covid-19 neu fod un o wyliau’r Eisteddfod yn gwneud colled ariannol.  Nid yw’r cronfeydd rhydd, llai yr Eiddo Parhaol, o £4.573m (2024: £1.887m) yn cyrraedd y nod ar hyn o bryd.  Mae’r strategaeth yn parhau i gynyddu’r arian rhydd drwy greu gwarged blynyddol ar ei weithgareddau. 

11 



**Eisteddfod Genedlaethol Cymru** 

## **ADOLYGIAD ARIANNOL** 

## **Arferion codi arian** 

Rydym yn ffodus ac yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a chyfraniad ariannol, rhai a dderbynnir yn flynyddol ac eraill ar gyfer Eisteddfodau penodol.  Mae’r ymddiriedolwyr, gan gynnwys swyddogion y pwyllgorau cyllid ar draws Cymru, yn ymdrechu bob amser i sicrhau y safonau uchaf, llywodraethu da ac adolygiad parhaus mewn perthynas â'n gweithgareddau codi arian. 

Cronfeydd Lleol a Chyffredinol - Mae’r mwyafrif o’r rhoddion a dderbyniwyd gan yr elusen yn cael eu derbyn trwy bwyllgorau apêl leol i godi arian i'r Eisteddfod sydd yn ymweld â'u hardal. Hwn yw gyfraniad dalgylch yr Eisteddfod i’r gost o gynnal yr ŵyl ac yn arferol mae’r pwyllgorau apêl yn codi arian am gyfnod o ddwy i dair blynedd hyd at gynnal yr Eisteddfod.  Mae’r derbyniadau yma’n cynnwys rhoddion gan unigolion i ddigwyddiadau codi arian cyffredinol. 

Mae pob pwyllgor apêl newydd yn derbyn cyfarwyddiadau gweithredu gan yr elusen.  Mae cynrychiolwyr o bob pwyllgor apêl yn cyfarfod yn rheolaidd i adrodd yn nôl i’r Pwyllgor Cyllid Canolog. 

Mae swyddogion y pwyllgor cyllid hefyd yn sicrhau: 

- Dim ymyrraeth afresymol ar breifatrwydd unigolyn; 

- Dim ymagweddau parhaus at ddiben cyfreithloni neu gaffael arian neu eiddo arall ar ran yr elusen; 

- Bod neb yn rhoi pwysau gormodol ar rywun i roi arian neu eiddo arall. 

Yn ystod 2024/25, derbyniwyd £0.305m (2024: £0.328m) ar gyfer y cronfeydd lleol a chyffredinol. Mae’r swm a godwyd yn flynyddol yn gallu amrywio gan ei fod yn dibynnu ar ba mor gyflym y mae pwyllgorau'r apêl yn codi arian. 

Mae’r ffigwr yma yn cynrychioli derbyn arian o £0.158m yn y flwyddyn ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf a £0.148m a gasglwyd yn ystod y cyfnod tuag at Eisteddfodau Wrecsam 2025 ac Eisteddfod Y Garreg Las 2026. 

Mae’r cyfrifon hefyd yn cynnwys incwm o £0.860m a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod i Incwm o’r Ŵyl sydd yn cynrychioli gwerthiant tocynnau Maes B, stondinau, nawdd a cheisiadau maes carafanau a gwersylla gogyfer ag Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025.  Cyfrifwyd am yr incwm yma trwy’r Cronfeydd Penodol a dangosir y symudiadau yn nodyn 16. 

Rhoddion trwy ewyllys – Derbyniwyd bedair rhodd eleni, gwerth cyfanswm o £0.299m, lle mae cefnogwr yr Eisteddfod wedi dewis rhoi rhodd yn eu ewyllys (2024: naw rhodd – gwerth £0.534m).  Derbyniwyd hefyd un gymynrodd, gwerth £0.043m (2024: £0.233m) i’r Cronfeydd Gwaddol Parhaol lle bydd yr arian yn cael ei fuddsoddi i’w ddefnyddio at ddiben penodol. 

Ymgyrchoedd eraill - Ymgymerir â phob marchnata uniongyrchol arall gan staff yr Eisteddfod i sicrhau nad yw'n afresymol ymwthiol na pharhaus. Gwneir cyswllt trwy farchnata uniongyrchol _mailchimp_ ar gyfartaledd tua unwaith y mis. Mae'r holl ddeunydd marchnata yn cynnwys cyfarwyddiadau clir ar sut y gellir tynnu person oddi ar restrau postio. 

Nid yw'r Eisteddfod yn defnyddio unrhyw gorff proffesiynol i godi arian. Ni fu unrhyw gwynion yn ystod y cyfnod am weithgaredd codi arian yr elusen. 

## **Polisi Buddsoddi** 

Mae’r Ymddiriedolwyr wedi penderfynu buddsoddi arian am y tymor hir mewn portffolio risg canolig – cyfuniad o stoc y llywodraeth, cyfranddaliadau rhestredig ac unedau buddsoddi er mwyn cwrdd â gofynion am gynhyrchu incwm a thyfiant cyfalaf.  Yr ymgynghorwyr buddsoddi annibynnol Brewin Dolphin sydd yn buddsoddi cronfeydd yr Eisteddfod ar ei rhan. Caiff y cronfeydd hyn eu hadolygu’n gyson. 

12 



**Eisteddfod Genedlaethol Cymru** 

## **ADOLYGIAD ARIANNOL** 

Mae’r Ymddiriedolwyr wedi penderfynu na ddylid buddsoddi mewn cwmnïau sydd yn gysylltiedig â chynhyrchu neu ddosbarthu arfau a thybaco. Roedd gwerth y buddsoddiadau hir dymor ar ddiwedd y cyfnod yn £4.395m o gymharu â £1.869m ar 31 Mawrth 2024. 

## **Gwirfoddolwyr** 

Mae’r elusen yn ddiolchgar iawn am gyfraniad eu gwirfoddolwyr sy’n gweithio’n ddi-dâl, o godi arian i stiwardio ar faes yr Eisteddfod . Nid ydym yn gallu rhoi gwerth ariannol ar yr holl waith yma ac felly, nid yw’n cael ei gynnwys yn y Datganiad o’r Gweithgareddau Ariannol. 

## **Rheoli risg** 

Mae’r Tîm Rheoli yn gyfrifol am adnabod a gwerthuso’r risgiau sylweddol sy’n berthnasol i’w meysydd busnes, ynghyd â chynllunio a gweithredu rheolaeth fewnol briodol.  Asesir y risgiau hyn ar sail barhaus ac yn cofnodi risgiau materol yn y gofrestr risg. 

Mae’r Panel Archwilio a’r Bwrdd Rheoli yn arolygu’r gofrestr risg o leiaf ddwywaith y flwyddyn i sicrhau bod y camau priodol yn bodoli i leihau’r risgiau hynny. Mae’r risgiau yn cynnwys parhad yr Eisteddfod, materion ariannol, Iechyd a Diogelwch, staffio a’r amgylchedd. 

## **Rhagdybiaeth Busnes Byw** 

Mae'r Ymddiriedolwyr o'r farn bod yr Elusen mewn sefyllfa dda i reoli ei risgiau busnes trwy'r cyfnod hwn o ansicrwydd economaidd a bod disgwyliad rhesymol gan yr Eisteddfod bod yr adnoddau yn ddigonol i barhau i weithredu'n hyd y gellir rhagweld. Am y rhesymau hyn maent yn parhau i fabwysiadu sail busnes sy’n fyw wrth baratoi’r cyfrifon. 

13 



**Eisteddfod Genedlaethol Cymru** 

## **GWYBODAETH GYFREITHIOL A GWEINYDDOL** 

Enw’r elusen: Eisteddfod Genedlaethol Cymru Cyfansoddiad: Sefydliad Corfforedig Elusennol Rhif yr elusen: 1155539 Swyddfa gofrestredig: 40 Parc Tŷ Glas Llanisien Caerdydd CF14 5DU Bwrdd Rheoli ac Ymddiriedolwyr: Nic Parry (Llywydd y Llys – Penodwyd ar 07/08/2025) Gethin Thomas (Cadeirydd y Cyngor) Heulwen Jones (Is-gadeirydd y Cyngor) Gwenno Williams (Trysorydd) Christine James (Gorsedd y Beirdd) Llinos Roberts (Cadeirydd 2025 – Penodwyd 17/05/2025) John Davies (Cadeirydd 2026 – Penodwyd 17/05/2025) Aled Walters Aneurin Brown Darran Phillips (Penodwyd ar 30/01/2025) Deian Rhys Elin Jones Michael Strain Trystan Lewis Ashok Ahir (Hyd at 07/08/2025) Elin Haf Gruffydd Jones (Hyd at 07/08/2025) Gwerfyl Pierce Jones (Hyd at 07/08/2024) Heledd Bebb (Hyd at 07/08/2024) Helen Prosser (Hyd at 07/08/2025) Rhian Huws Williams (Hyd at 07/08/2024) Ysgrifennydd Catrin Jones Prif Weithredwr: Betsan Moses Archwilwyr: Ashmole & Co. 3 Stryd y Farchnad Llandeilo SA19 6AH Bancwyr: HSBC 56 Heol y Frenhines Caerdydd CF10 9NA Brocer Buddsoddiadau: Brewin Dolphin 5 Sgwâr Callaghan Caerdydd CF10 5BT Cyfreithwr Mygedol: Aled Walters 

14 



**Eisteddfod Genedlaethol Cymru** 

## **STRWYTHUR, LLYWODRAETHU A RHEOLI** 

## Cyfansoddiad 

Mae Eisteddfod Genedlaethol Cymru wedi cofrestru fel Sefydliad Corfforedig Elusennol gyda’r Comisiwn Elusennau ar 29 Ionawr 2014.  Trosglwyddwyd asedau a rhwymedigaethau _Eisteddfod Frenhinol Genedlaethol Cymru_ (rhif elusen 219171) i’r Sefydliad Elusennol Corfforedig ar 1[af] Ionawr 2015.  Mae’r elusen newydd yma’n weithredol o’r dyddiad hwn. 

## Y Llys 

Mae’r Llys yn cynnwys holl aelodau’r Elusen, gyda holl hawliau arferol i’w gweithredu trwy Gyfarfodydd Cyffredinol. Mae’r hawliau hyn yn cynnwys (heb gyfyngiad) yr hawl i benodi ac i ddiswyddo Swyddogion, Ymddiriedolwyr, ac aelodau’r Cyngor, yn unol â’r Cyfansoddiad, Rheolau Sefydlog yr elusen ac yn unol â Deddf Elusennau 2011. Mae’r Llys, mewn cyfarfodydd cyffredinol, yn ystyried ac yna’n derbyn neu wrthod adroddiadau’r Ymddiriedolwyr, y Cyngor a Bwrdd yr Orsedd, ac mae’r hawl gan y Llys i sicrhau fod yr amcanion a’r ymrwymiadau’n cael eu gweithredu’n briodol ac yn unol â dymuniad y Llys ac yn unol â’r Ddeddf.  Mae’r Prif Weithredwr llawn amser yn rheoli gweithgareddau’r elusen gyda chymorth aelodau staff.  Mae aelodaeth o’r Llys yn agored i bawb. 

## Y Cyngor 

Swyddogaeth y Cyngor ydi gweithredu fel bwrdd goruchwylio a chorff ymgynghorol sydd yn cymryd golwg strategol ar waith a datblygiad yr Eisteddfod. Mae’r Cyngor yn cynnwys 36 aelod ynghyd a’r Cymrodyr a Chyn-Lywyddion– caiff 24 o aelodau eu hethol gan y Llys, 6 gan yr Ymddiriedolwyr, a hawl gan y Cyngor i gyfethol hyd at 6 aelod.  Rhaid i aelodau o’r Cyngor a’r Bwrdd Rheoli fod yn aelodau o Lys yr Eisteddfod Genedlaethol.  Mae’r Cyngor yn cynnal o leiaf dri chyfarfod bob blwyddyn. 

Mae gan y Cyngor ddau bwyllgor, sef 

1. Pwyllgor Archwilio; 

2. Pwyllgor Gweithredu’r Rheol Gymraeg – i arolygu ac adrodd ar weithredu’r Rheol Gymraeg ym mhob Gŵyl. 

## Bwrdd Rheoli/Ymddiriedolwyr 

Y Bwrdd Rheoli sydd yn gyfrifol am arolygu holl waith a busnes yr elusen, gyda’r aelodau’n gweithredu fel ymddiriedolwyr. Disgwylir i Brif Weithredwr a phrif staff yr elusen fynychu cyfarfodydd y Bwrdd Rheoli, ond heb hawl pleidleisio gan nad ydynt yn ymddiriedolwyr. Mae’r Bwrdd yn cyfarfod o leiaf wyth gwaith yn ystod y flwyddyn. 

Er mwyn cyflawni gwaith yr elusen sefydlwyd y Pwyllgorau a ganlyn: 

Pwyllgor Llywio/Pwyllgor Gwaith ar gyfer pob Gŵyl. 

Pwyllgor Diwylliannol – i gydlynu gwaith panelau sefydlog i gynnig cyngor arbenigol ar feysydd cystadleuol penodol ac i gymryd cyfrifoldeb am y rhestr gystadlaethau. 

Pwyllgor Technegol – i gynnig cyngor arbenigol am y maes, adeiladau, trafnidiaeth, a’r holl agweddau ar iechyd a diogelwch mewn perthynas â’r Ŵyl. 

Pwyllgor Marchnata – i gynnig cyngor arbenigol ar weithgareddau hyrwyddo a marchnata’r Eisteddfod a’r Ŵyl. 

Pwyllgor Adnoddau Dynol – i gynnig cyngor arbenigol ar faterion yn ymwneud â staffio a chyflogau. 

15 



**Eisteddfod Genedlaethol Cymru** 

## **STRWYTHUR, LLYWODRAETHU A RHEOLI** 

Pwyllgor Cynhwysedd ac Amrywiaeth – i edrych ar holl weithdrefnau a gweithgareddau’r Eisteddfod i sicrhau eu bod yn agored a chynhwysol. 

Pwyllgor Artistig - i gynnig cyngor arbenigol ar raglenni hwyr; a phrosiectau artistig mawr. 

Panel Enwebu – i argymell enwau Ymddiriedolwyr, aelodau’r Cyngor ac aelodau Pwyllgorau a phanelau sefydlog er mwyn cyflawni gofynion y Rheolau Sefydlog. 

Panel Cwynion, Disgyblu a Diswyddo – i gwrdd yn ôl yr angen i ystyried unrhyw gŵyn ysgrifenedig a dderbynnir am Swyddogion yr elusen a chwynion am Ymddiriedolwyr yr elusen a’r staff. 

## Penodi Ymddiriedolwyr 

Mae cymalau 12 ac 13 o’r Cyfansoddiad a’r Rheolau Sefydlog yn darparu ar gyfer penodi/ethol ymddiriedolwyr fel a ganlyn: 

1. Penodir tri ymddiriedolwr yn rhinwedd eu swyddi, sef: 

   - Llywydd y Llys; Cadeirydd y Cyngor;  Is-gadeirydd y Cyngor. 

2. Dim llai na phedwar na mwy nag wyth ymddiriedolwr enwebedig wedi eu henwebu fel a ganlyn: 

   - (i) Bwrdd yr Orsedd (1); 

   - (ii) Pwyllgorau Gwaith y tair eisteddfod gyfredol (3); 

   - (iii) Cyngor (4). 

3. Dim llai na phedwar na mwy na chwe ymddiriedolwr etholedig i’w hethol gan y Llys gyda’r hawl i’r ymddiriedolwyr benodi i lenwi bylchau hyd y cyfarfod nesaf o’r Llys; 

4. Dim mwy na dau ymddiriedolwr wedi eu cyfethol gan yr ymddiriedolwyr eraill. 

Bwriedir sicrhau y bydd ystod eang o sgiliau a phrofiad o fewn y Bwrdd Ymddiriedolwyr gan gynnwys sgiliau a phrofiad diwylliannol, marchnata, technegol, busnes, ariannol, cyfreithiol a rheolaeth, ynghyd â phrofiad blaenorol o waith Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Bydd yn ofynnol i bob Ymddiriedolwr allu cyfathrebu’n rhugl drwy’r Iaith Gymraeg; 

Bwriedir hefyd geisio sicrhau cydbwysedd rhesymol ar draws yr holl Ymddiriedolwyr o safbwynt rhyw, oedran a chysylltiadau lleol; 

## Hyfforddiant ac anwytho Ymddiriedolwyr 

Mae gan yr holl Ymddiriedolwyr presennol gysylltiad hir gyda’r Eisteddfod Genedlaethol. Maent yn cael cynnig derbyn gwybodaeth am eu dyletswyddau a’u cyfrifoldebau. Pe bai ymddiriedolwyr newydd yn cael eu penodi fe fyddai hynny’n golygu y byddant yn cael hyfforddiant ar weithdrefnau a pholisïau’r Eisteddfod. Byddai asesiad yn cael ei wneud o’r anghenion hyfforddi, gyda darpariaeth ar gyfer hyfforddiant pellach yn ystod y flwyddyn. 

## Datganiad o gyfrifoldebau’r Ymddiriedolwyr 

Yr ymddiriedolwyr sy’n gyfrifol am baratoi Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr a’r datganiadau ariannol yn unol â’r gyfraith berthnasol a Safonau Cyfrifyddu’r Deyrnas Unedig (Arfer Cyfrifo a Dderbynnir yn Gyffredinol y Deyrnas Unedig). 

Mae'r gyfraith sy'n berthnasol i elusennau yng Nghymru a Lloegr yn ei gwneud yn ofynnol i'r ymddiriedolwyr baratoi datganiadau ariannol ar gyfer pob blwyddyn ariannol sy'n rhoi golwg wir a theg o sefyllfa'r elusen ac o'r adnoddau sy'n dod i mewn a chymhwyso adnoddau'r elusen am y cyfnod hwnnw. 

16 



**Eisteddfod Genedlaethol Cymru** 

## **STRWYTHUR, LLYWODRAETHU A RHEOLI** 

Wrth baratoi’r datganiadau ariannol hyn, mae’n ofynnol i’r ymddiriedolwyr wneud y canlynol: 

- dewis polisïau cyfrifyddu addas ac yna eu cymhwyso'n gyson; 

- arsylwi ar y dulliau a'r egwyddorion yn SORP yr Elusennau; 

- llunio dyfarniadau ac amcangyfrifon sy'n rhesymol ac yn ddarbodus; 

- nodi a ddilynwyd safonau cyfrifyddu cymwys, sy'n cynnwys FRS 102, yn amodol ar unrhyw ymadawiadau perthnasol a ddatgelwyd ag eglurir yn y datganiadau ariannol; a 

- • paratoi'r datganiadau ariannol ar sail busnes gweithredol oni bai ei bod yn amhriodol tybio y bydd yr elusen yn parhau mewn busnes. 

Mae'r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am gadw cofnodion cyfrifyddu cywir sy'n datgelu sefyllfa ariannol yr elusen gyda chywirdeb rhesymol ar unrhyw adeg ac yn eu galluogi i sicrhau bod y datganiadau ariannol yn cydymffurfio â Deddf Elusennau 2011, Rheoliadau Elusennau (Cyfrifon ac Adroddiadau) 2008. Maent hefyd yn gyfrifol am ddiogelu asedau'r elusen ac felly am gymryd camau rhesymol i atal a chanfod twyll ac afreoleidd-dra eraill. 

Mae'r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am gynnal a chadw cyfanrwydd yr elusen a'r wybodaeth ariannol sydd wedi'i chynnwys ar wefan yr elusen. Gall deddfwriaeth yn y Deyrnas Unedig sy'n llywodraethu paratoi a lledaenu datganiadau ariannol fod yn wahanol i ddeddfwriaeth mewn awdurdodaethau eraill. 

Cyn belled ag y mae’r Ymddiriedolwyr yn ymwybodol: 

- nid oes gwybodaeth archwiliad perthnasol nad yw’n wybyddus i archwilwyr y cwmni elusennol; 

- mae’r Ymddiriedolwyr wedi cymryd pob cam angenrheidiol i’w gwneud yn ymwybodol o unrhyw wybodaeth archwiliad perthnasol ac i sefydlu bod yr archwilwyr yn ymwybodol o’r wybodaeth honno. 

## Prif Weithredwr ac Uwch Reolwyr 

Mae'r Prif Weithredwr yn gyfrifol am reoli materion yr elusen o ddydd i ddydd ac am weithredu polisïau y cytunwyd arnynt gan y Bwrdd Rheoli. Mae'r Prif Weithredwr yn cael ei gynorthwyo gan grŵp o uwch reolwyr sy'n ffurfio'r Tîm Rheoli. 

Betsan Moses (Prif Weithredwr) Elen Elis (Cyfarwyddwr Artistig) Gwenllïan Carr (Cyfarwyddwr Strategol) Peter Davies (Cyfarwyddwr Cyllid) 

Caiff tâl uwch reolwyr ei bennu gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr, gyda’r Pwyllgor Staffio yn darparu’r adolygiad manwl a’r argymhellion. Mae’r Pwyllgor yn asesu lefelau cyflog gan ddefnyddio data meincnodi perthnasol a chyfrifoldebau pob rôl er mwyn sicrhau tegwch, tryloywder a llywodraethu priodol. 

## Polisi cyflogi 

Mae’r Eisteddfod yn gyflogwr cyfle cyfartal.  Nid yw’n caniatáu gwahaniaethu ar sail rhyw, hil, lliw, anabledd, cefndir ethnig neu gefndir economaidd cymdeithasol, oedran, sefyllfa deuluol, statws priodasol, gweithwyr rhan neu llawn amser, crefydd, gwleidyddiaeth, tueddfryd rhywiol neu unrhyw wahaniaeth amherthnasol arall, ac mae’n ymroddedig i ystyried amrywiaethau mewn modd positif.  Defnyddir egwyddorion cystadleuaeth deg ac agored ac mae penodiadau yn ddibynnol ar deilyngdod. 

## Cydnabyddiaeth 

Mae pob ymddiriedolwr yn rhoi o'u hamser am ddim.  Ni chafodd yr ymddiriedolwyr unrhyw dâl yn ystod y cyfnod. 

17 



**Eisteddfod Genedlaethol Cymru** 

## **CYNLLUNIAU’R DYFODOL** 

Daw ein strategaeth i ben yn 2025, ac rydym wrthi’n cynnal sgyrsiau, sy’n gyfle i wyntyllu popeth, i edrych yn fanylach ar ein blaenoriaethau strategol. 

Gyda’r byd wedi newid yn sylweddol ers cyfnod datblygu’r strategaeth bresennol, a ninnau yn dod at ddiwedd cyfnod y strategaeth, mae’n amserol ein bod yn cychwyn ar y broses o ymgysylltu gyda’n rhanddeiliaid a’n cymunedau er mwyn gwrando ar eu barn, cynnal trafodaeth agored ac adnabod blaenoriaethau gweithredu ar gyfer y dyfodol. Mae’n hollbwysig ein bod yn taflu’r rhwyd yn eang –gan glywed wrth ein partneriaid, ein cefnogwyr a’r rheini sydd eto i’w denu atom. 

Blaenoriaethau Strategol yr Eisteddfod 

- Codi ymwybyddiaeth o’r Eisteddfod fel prif ŵyl ddiwylliannol Cymru, adref ac yn rhyngwladol; 

- Hyrwyddo’r Gymraeg, yn enwedig ymysg pobl ifanc a siaradwyr Cymraeg newydd; 

- Dyfnhau ymrwymiad yr Eisteddfod i gymunedau Cymru; 

- Cryfhau gwytnwch yr Eisteddfod yn ariannol a gweithredol; 

- Cydweithio’n agos â phartneriaid er mwyn lledaenu cyfoeth ieithyddol a diwylliannol Cymru; 

- Creu Eisteddfod sydd yn hygyrch ac yn groesawus i bobl o bob oed a chymuned; 

- Anrhydeddu ein cyfrifoldeb i lesiant cenedlaethau’r dyfodol. 

Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi ein helpu a’n cefnogi dros y flwyddyn ddiwethaf. 

Ar ran yr ymddiriedolwyr 

Gethin Thomas 

Ymddiriedolwr (Cadeirydd y Cyngor) 

23 Rhagfyr 2025 

18 



**Eisteddfod Genedlaethol Cymru** 

## **ADRODDIAD YR ARCHWILWYR ANNIBYNNOL I YMDDIRIEDOLWYR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU** 

## **Adroddiad ar y datganiadau ariannol** 

## **Barn** 

Archwiliwyd cyfrifon Eisteddfod Genedlaethol Cymru am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2025; maent yn cynnwys y Datganiad o Symudiadau Ariannol, y Fantolen a’r nodiadau perthnasol. Paratowyd y cyfrifon yn unol â’r polisïau cyfrifo a nodir yn y cyfrifon. Cynhaliwyd ein harchwiliad yn unol â Safonau Cyfrifo’r Deyrnas Unedig (Ymarfer Cyfrifyddu Derbyniol Cyffredinol y Deyrnas Unedig), sy’n cynnwys FRS 102 Y Safon Adrodd Ariannol sy’n gymwys yn y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon. 

## Yn ein barn ni: 

- Mae’r cyfrifon yn rhoi adlewyrchiad cywir a theg o gyflwr ariannol yr elusen ar 31 Mawrth 2025 a’r adnoddau a ddefnyddiwyd yn ystod y cyfnod ariannol; 

- Mae’r cyfrifon wedi eu paratoi yn unol â’r gyfraith berthnasol o Safonau Cyfrifo’r Deyrnas Unedig (Ymarfer Cyfrifo Derbyniol Cyffredinol y Deyrnas Unedig), sy’n cynnwys FRS 102 Y Safon Adrodd Ariannol sy’n gymwys yn y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon. 

- Mae’r cyfrifon wedi eu paratoi’n gywir yn unol â Deddf Elusennau 2011 a Rheoliad 8 o Reoliadau Elusennau (Cyfrifon ac Adroddiadau) 2008. 

## **Sail y farn** 

Gwnaethom gynnal ein harchwiliad yn unol â Safonau Archwilio Rhyngwladol (DU) (“ISA’s (UK)”) a’r gyfraith berthnasol. Disgrifir ein cyfrifoldebau o dan ISAs (DU) ymhellach yn adran Cyfrifoldebau’r archwilwyr am archwilio’r datganiadau ariannol o’n hadroddiad. Fe wnaethom aros yn annibynnol o’r elusen yn unol â'r gofynion moesegol sy'n berthnasol i'n harchwiliad o'r datganiadau ariannol yn y DU, sy'n cynnwys Safon Foesegol yr FRC ac rydym wedi cyflawni ein cyfrifoldebau moesegol eraill yn unol â'r gofynion hyn. Credwn fod y dystiolaeth archwilio a gawsom yn ddigonol ac yn briodol i ddarparu sylfaen i’n barn ni. 

## **Casgliadau yn ymwneud â busnes gweithredol** 

Wrth archwilio’r cyfrifon, rydym o’r farn bod defnydd yr ymddiriedolwyr o sail busnes gweithredol wrth baratoi’r datganiadau ariannol yn briodol. 

Yn seiliedig ar y gwaith rydym wedi'i wneud, nid ydym wedi nodi unrhyw ansicrwydd perthnasol sy'n ymwneud â digwyddiadau neu amodau a allai, yn unigol neu ar y cyd, fwrw amheuaeth sylweddol ar allu'r elusen i barhau fel busnes gweithredol am gyfnod o ddeuddeng mis o leiaf o'r adeg yr awdurdodir y datganiadau ariannol i'w cyhoeddi. 

Fodd bynnag, oherwydd na ellir rhagweld holl ddigwyddiadau neu amodau'r dyfodol, nid yw'r datganiad hwn yn warant o allu'r elusen i barhau fel busnes gweithredol. 

Disgrifir ein cyfrifoldebau a chyfrifoldebau'r ymddiriedolwyr mewn perthynas â busnes gweithredol yn adrannau perthnasol yr adroddiad hwn. 

## **Gwybodaeth arall** 

Mae'r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am y wybodaeth arall. Mae'r wybodaeth arall yn cynnwys yr wybodaeth a gynhwysir yn yr Adroddiad Blynyddol, ac eithrio'r datganiadau ariannol ac Adroddiad yr Archwilwyr Annibynnol. 

Nid yw ein barn ar y datganiadau ariannol yn cwmpasu'r wybodaeth arall ac, ac eithrio i'r graddau a nodir fel arall yn ein hadroddiad, nid ydym yn mynegi unrhyw fath o gasgliad sicrwydd arno. 

19 



**Eisteddfod Genedlaethol Cymru** 

## **ADRODDIAD YR ARCHWILWYR ANNIBYNNOL I YMDDIRIEDOLWYR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU (PARHAD)** 

Mewn cysylltiad â'n harchwiliad o'r datganiadau ariannol, ein cyfrifoldeb ni yw darllen y wybodaeth arall ac, wrth wneud hynny, ystyried a yw'r wybodaeth arall yn anghyson yn sylweddol â'r datganiadau ariannol neu’r wybodaeth a gafwyd yn ystod yr archwiliad neu fel arall yn ymddangos eu bod wedi'i cam-ddatgan yn sylweddol. Os byddwn yn nodi anghysondebau sylweddol o'r fath neu gamddatganiadau ymddangosiadol sylweddol, mae'n ofynnol i ni benderfynu a yw hyn yn arwain at gamddatganiad yn y datganiadau ariannol eu hunain. Os byddwn, yn seiliedig ar y gwaith yr ydym wedi'i wneud, yn dod i'r casgliad bod camddatganiad o'r wybodaeth arall hon, mae'n ofynnol i ni adrodd y ffaith honno.  Nid oes gennym ddim i'w adrodd yn hyn o beth. 

## **Materion yr ydym yn rhwymedig i adrodd drwy eithriad** 

Nid oes gennym ni ddim i'w adrodd mewn perthynas â'r eitemau canlynol lle mae'r Rheoliadau Elusennau (Cyfrifon ac Adroddiadau) 2008 yn gofyn i ni adrodd i chi os, yn ein barn ni: 

- bod y wybodaeth a roddir yn Adroddiad yr Ymddiriedolwyr yn anghyson mewn unrhyw berthynas materol â’r datganiadau cyllid; neu 

- bod yr elusen heb gadw cofnodion cyfrifo derbyniol; neu 

- bod y datganiadau cyllid ddim yn cyd fynd â’r cofnodion cyfrifo a ffurflenni statudol: neu 

- nad ydym wedi derbyn yr holl wybodaeth ac esboniadau angenrheidiol i gyflawni ein harchwiliad. 

## **Cyfrifoldebau’r ymddiriedolwyr** 

Fel yr esboniwyd yn llawnach yn y Datganiad o Gyfrifoldebau Ymddiriedolwyr, mae'r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am baratoi'r datganiadau ariannol ac am fod yn fodlon eu bod yn rhoi darlun cywir a theg, ac am unrhyw reolaeth fewnol y mae'r ymddiriedolwyr yn penderfynu sy'n angenrheidiol er mwyn gallu paratoi datganiadau ariannol sy'n rhydd o gamddatganiad sylweddol, boed hynny oherwydd twyll neu wall. 

Wrth baratoi'r datganiadau ariannol, mae'r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am asesu gallu’r elusen i barhau fel busnes gweithredol, gan ddatgelu, fel y bo'n berthnasol, unrhyw fater ynghylch defnyddio sail busnes gweithredol cyfrifyddu oni bai bod yr ymddiriedolwyr naill ai'n bwriadu diddymu'r elusen neu roi'r gorau i weithrediadau, neu nad oes ganddynt ddewis amgen realistig ond gwneud hynny. 

## **Cyfrifoldebau’r archwilwyr am archwilio’r datganiadau ariannol** 

Rydym wedi'n penodi'n archwilwyr o dan Adran 144 o Ddeddf Elusennau 2011 ac yn adrodd yn unol â'r Ddeddf a'r rheoliadau perthnasol a wnaed neu sy'n cael effaith o dan y Ddeddf honno. 

Ein hamcanion yw cael sicrwydd rhesymol ynghylch a yw'r datganiadau ariannol yn eu cyfanrwydd yn rhydd o gamddatganiad perthnasol, boed hynny oherwydd twyll neu gamgymeriad, ac i gyhoeddi Adroddiad gan yr Archwilwyr Annibynnol sy'n cynnwys ein barn. Mae sicrwydd rhesymol yn lefel uchel o sicrwydd, ond nid yw'n warant y bydd archwiliad a gynhelir yn unol ag ISAs (DU) bob amser yn canfod camddatganiad perthnasol pan fydd yn bodoli. Gall camddatganiadau godi o dwyll neu gamgymeriad ac fe'u hystyrir yn berthnasol os gellid disgwyl yn rhesymol iddynt, yn unigol neu ar y cyfan, ddylanwadu ar benderfyniadau economaidd defnyddwyr a wneir ar sail y datganiadau ariannol hyn. 

Achosion o beidio â chydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau yw afreoleidd-dra. Amcanion ein harchwiliad yw cael digon o dystiolaeth archwilio priodol ynghylch cydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau sy'n cael effaith uniongyrchol ar benderfynu ar symiau a datgeliadau sylweddol yn y datganiadau ariannol, cyflawni gweithdrefnau archwilio er mwyn helpu nodi achosion o beidio â chydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau eraill a allai gael effaith sylweddol ar y datganiadau ariannol, ac i ymateb yn briodol i ddiffyg cydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau a nodwyd yn ystod yr archwiliad. 

20 



**Eisteddfod Genedlaethol Cymru** 

## **ADRODDIAD YR ARCHWILWYR ANNIBYNNOL I YMDDIRIEDOLWYR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU (PARHAD)** 

O ran twyll, amcanion ein harchwiliad yw nodi ac asesu'r risg o gamddatganiad sylweddol o'r datganiadau ariannol oherwydd twyll, casglu digon o dystiolaeth archwilio priodol ynghylch y risgiau aseswyd o gamddatganiad sylweddol trwy dwyll gan ddylunio a gweithredu ymatebion priodol ac ymateb yn briodol i dwyll neu dwyll tybiedig a nodwyd yn ystod yr archwiliad. Fodd bynnag, prif gyfrifoldeb y rheolwyr, gyda goruchwyliaeth y rhai sy'n gyfrifol am lywodraethu, yw sicrhau bod gweithrediadau'r endid yn cael eu cynnal yn unol â darpariaethau cyfreithiau a rheoliadau ac ar gyfer atal a chanfod twyll. 

Wrth asesu a nodi’r risgiau o gamddatganiad sylweddol mewn perthynas ag afreoleidd-dra, gan gynnwys twyll, fe wnaeth y tîm archwilio: 

- gael dealltwriaeth o natur y diwydiant a'r sector, gan gynnwys y fframwaith cyfreithiol a rheoleiddiol y mae'r elusen yn gweithredu ynddo a sut mae'n cydymffurfio â'r fframwaith cyfreithiol a rheoleiddiol; 

- holi'r rheolwyr, a'r rhai sy'n gyfrifol am lywodraethu, am eu hasesiad a chydnabyddiaeth eu hunain o beryglon afreoleidd-dra, gan gynnwys unrhyw achosion gwirioneddol, tybiedig neu honedig o dwyll; 

- drafod materion ynghylch peidio â chydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau a sut y gallai twyll ddigwydd gan gynnwys asesu sut a ble y gallai'r datganiadau ariannol fod yn agored i dwyll. 

O ganlyniad i'r gweithdrefnau hyn, rydym yn ystyried y cyfreithiau a'r rheoliadau mwyaf arwyddocaol sy'n cael effaith uniongyrchol ar y datganiadau ariannol yw SoRP Elusennau, FRS 102 a Deddf Elusennau 2011. Gwnaethom gynnal gweithdrefnau archwilio i ganfod diffyg cydymffurfio a allai gael effaith sylweddol ar y datganiadau ariannol a oedd yn cynnwys adolygu’r datgeliadau yn y cyfrifon. 

Nododd y tîm archwilio mai’r risg mwyaf i gamddatganiad sylweddol trwy dwyll fyddai o ganlyniad i’r rheolwyr yn diystyru rheolaethau mewnol. Roedd y gweithdrefnau archwilio a berfformiwyd yn cynnwys ond nid oeddent wedi'u cyfyngu i brofi cyfnodolion ac addasiadau eraill a gwerthuso'r rhesymeg fusnes mewn perthynas ag unrhyw drafodion sylweddol, anarferol a wnaed y tu allan i gwrs busnes arferol. 

Yn ogystal â’r uchod, roedd ein gweithdrefnau’n cynnwys: 

- holi rheolwyr a'r rhai sy'n gyfrifol am lywodraethu ynghylch achosion cyfreithiol a hawliadau gwirioneddol a photensial; 

- perfformio gweithdrefnau dadansoddol i nodi unrhyw gysylltiadau anarferol neu annisgwyl a gallai ddangos risg o gamddatganiad sylweddol oherwydd twyll; 

- adolygiad o gofnodion cyfarfodydd bwrdd yr ymddiriedolwyr a phwyllgorau gwaith lle bo'n berthnasol; 

- 

- sylwadau ysgrifenedig. 

Ceir disgrifiad pellach o'n cyfrifoldebau dros archwilio'r datganiadau ariannol ar wefan y Cyngor Adrodd Ariannol yn www.frc.org.uk/auditorsresponsibilities. Mae'r disgrifiad hwn yn rhan o'n hadroddiad archwilwyr annibynnol. 

## **Defnyddio'r adroddiad hwn** 

Paratowyd yr adroddiad hwn ar gyfer ymddiriedolwyr yr elusen yn unig, fel corff yn unol a Rhan 4 o’r Rheoliadau Elusennau (Cyfrifon ac Adroddiadau) 2008. 

21 



**Eisteddfod Genedlaethol Cymru** 

## **ADRODDIAD YR ARCHWILWYR ANNIBYNNOL I YMDDIRIEDOLWYR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU (PARHAD)** 

Mae ein gwaith archwilio wedi'i wneud fel y gallem ddatgan i ymddiriedolwyr yr elusen y materion hynny y mae'n ofynnol i ni eu datgan iddynt mewn adroddiad archwilwyr ac nid at unrhyw ddiben arall. I'r graddau llawnaf a ganiateir gan y gyfraith, nid ydym yn derbyn nac yn cymryd cyfrifoldeb i unrhyw un heblaw'r elusen ac ymddiriedolwyr yr elusen fel corff, am ein gwaith archwilio, ar gyfer yr adroddiad hwn, nac am y farn yr ydym wedi'i ffurfio. 

22 



**Eisteddfod Genedlaethol Cymru** 

## **DATGANIAD O'R GWEITHGAREDDAU ARIANNOL (GAN GYNNWYS CYFRIF INCWM A GWARIANT) AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2025** 

|**2025**<br>Cronfeydd<br>Cronfeydd Cronfeydd<br>Anghyfyngedig Cyfyngedig<br>Gwaddol<br>**Cyfanswm**<br>Nodyn<br>£ 000<br>£ 000<br>£ 000<br>£ 000<br>**INCWM**<br>Rhoddion a chymynroddion:<br>2<br>834 -<br>43<br>877<br>Gweithgareddau elusennol:<br>Grantiau<br>3<br>-<br>1,130 -<br>1,130<br>Gŵyl yr Eisteddfod<br>5<br>4,566 -<br>-<br>4,566<br>Gweithgareddau masnachu<br>6<br>12 -<br>-<br>12<br>Incwm o fuddsoddiadau<br>7<br>81 -<br>29<br>110<br>**Cyfanswm incwm**<br>**5,493**<br>**1,130**<br>**72**<br>**6,695**<br>**GWARIANT**<br>Gweithgraeddau codi arian<br>8<br>21 -<br>-<br>21<br>Gweithgareddau elusennol:<br>Gŵyl yr Eisteddfod<br>8<br>4,844<br>1,609<br>29<br>6,482<br>**Cyfanswm gwariant**<br>**4,865**<br>**1,609**<br>**29**<br>**6,503**<br>Enillion/(Colledion) ar fuddsoddiadau<br>**(25)** -<br>**(17)**<br>**(42)**<br>**Incwm/Gwariant Net**<br>**603**<br>**(479)**<br>**26**<br>**150**<br>**Enillion cydnabyddedig eraill**<br>(Lleihad) / Cynnydd yn y cynllun<br>pensiwn budd-diffiniedig<br>(840) -<br>-<br>(840)<br>**Symudiad net yn y cronfeydd**<br>**(237)**<br>**(479)**<br>**26**<br>**(690)**<br>**Cysoni'r Cronfeydd**<br>Balansau ddygwyd ymlaen 1 Ebrill<br>6,262<br>1,039<br>1,769<br>9,070<br>Balansau gariwyd ymlaen 31 Mawrth<br>**6,025**<br>**560**<br>**1,795**<br>**8,380**|**2024**|
|---|---|
||Cronfeydd<br>Cronfeydd Cronfeydd<br>Anghyfyngedig  Cyfyngedig<br>Gwaddol<br>**Cyfanswm**<br>£ 000<br>£ 000<br>£ 000<br>£ 000<br>1,226 -<br>233<br>1,459<br>-<br>1,847 -<br>1,847<br>5,272 -<br>-<br>5,272<br>14 -<br>-<br>14<br>36 -<br>58<br>94|
||**6,548**<br>**1,847**<br>**291**<br>**8,686**|
||22 -<br>-<br>22<br>5,919<br>1,788 -<br>7,707|
||**5,941**<br>**1,788         -**<br>**7,729**|
||-<br>-<br>**80**<br>**80**<br>**607**<br>**59**<br>**371**<br>**1,037**<br>800 -<br>-<br>800|
||**1,407**<br>**59**<br>**371**<br>**1,837**<br>4,855<br>980<br>1,398<br>7,233|
||**6,262**<br>**1,039**<br>**1,769**<br>**9,070**|



23 



## **Eisteddfod Genedlaethol Cymru** 

## **MANTOLEN AR 31 MAWRTH 2025** 

|||2025|2024|
|---|---|---|---|
||Nodyn|£ 000|£ 000|
|**Asedau sefydlog**||||
|Asedau anniriaethol|10|8|20|
|Eiddo parhaol|10|1,005|1,115|
|Buddsoddiadau|11|4,395|1,869|
|||5,408|3,004|
|**Asedau cyfredol**||||
|Dyledwyr|12|1,002|1,022|
|Buddsoddiadau tymor byr|11|1,731|1,770|
|Banc||417|171|
|||3,150|2,963|
|**Credydwyr:**Symiau sy'n dod yn||||
|ddyledus o fewn blwyddyn|13|(178)|(187)|
|**Asedau cyfredol net**||2,972|2,776|
|**Cyfanswm yr asedau**||||
|**llai dyledion cyfredol**||8,380|5,780|
|Cynllun pensiwn budd-diffiniedig||-|3,290|
|**Asedau net**||**8,380**|**9,070**|
|**Cronfeydd Cadw**||||
|Cronfeydd gwaddol||1,795|1,769|
|Cronfeydd cyffredinol||5,018|2,362|
|Cronfeydd penodol|16|1,007|610|
|Cronfeydd cyfyngedig|17|560|1,039|
|Cronfa bensiwn budd-diffiniedig||-|3,290|
|**Cyfanswm Cronfeydd**||**8,380**|**9,070**|



Cymeradwywyd gan fwrdd yr ymddiriedolwyr ar 23 Rhagfyr 2025 ac fe'i llofnodwyd ar eu rhan gan: 

Gwenno Williams Trysorydd 

24 



**Eisteddfod Genedlaethol Cymru** 

## **DATGANIAD O'R LLIF ARIAN AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2025** 

|**Llif arian o Weithgareddau Gweithredol**<br>**Llif arian o Weithgareddau buddsoddi**<br>Llog a dderbynnir<br>Taliadau am eiddo parhaol<br>Derbyniadau trwy werthu buddsoddiadau<br>Cau'r Cynllun pensiwn budd diffiniedig<br>Taliadau am fuddsoddiadau parhaol newydd<br>Symudiadau buddsoddiadau COIF Cadw ac arian buddsoddi<br>Mewnlif net ariannol o weithgareddau buddsoddi<br>**Arian a chyfwerthoedd arian ar 1 Ebrill**<br>**Arian a chyfwerthoedd arian ar 31 Mawrth**|**2025**<br>**2024**<br>£ 000<br>£ 000<br>237<br>1,190<br>110<br>94<br>(22)<br>(86)<br>739<br>387<br>2,450<br>-<br>(3,307)<br>(597)<br>480<br>-<br>687<br>988<br>**2,421**<br>**1,433**<br>**3,108**<br>**2,421**|
|---|---|



## **Cysoniad y llif arian a'r symudiad mewn gweithgareddau gweithredol** 

|Incwm net<br>Dibrisiad asedau diriaethol<br>Amorteiddiad asedau anniriaethol<br>Colledion/(enillion) ar fuddsoddiadau<br>Llog a dderbynnir<br>Lleihad mewn dyledwyr cyfredol<br>Lleihad mewn credydwyr cyfredol<br>Mewnlif net ariannol o weithgareddau gweithredol<br>**Dadansoddiad o arian a chyfwerthoedd arian**<br>Buddsoddiadau - COIF Cadw ac arian buddsoddi<br>Buddsoddiadau tymor byr - Cyfrif banc<br>Banc<br>**Cyfanswm arian a chyfwerthoedd arian**|2025<br>£ 000<br>150<br>132<br>12<br>42<br>(110)<br>20<br>(9)<br>237<br>2025<br>£ 000<br>960<br>1,731<br>417<br>**3,108**|2024<br>£ 000<br>1,037<br>168<br>15<br>(80)<br>(94)<br>264<br>(120)|
|---|---|---|
|||1,190|
|||2024<br>£ 000<br>480<br>1,770<br>171|
|||**2,421**|



25 



**Eisteddfod Genedlaethol Cymru** 

## **NODIADAU I’R DATGANIADAU ARIANNOL** 

**AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2025** 

## **1. Polisïau Cyfrifo** 

## **a.   Sail paratoi** 

Paratowyd y cyfrifon (datganiadau ariannol) yn unol â'r Datganiad o Arfer a Argymhellir (SORP): Cyfrifo ac Adrodd gan Elusennau sy'n paratoi eu cyfrifon yn unol â'r Safon Adrodd Ariannol sy'n berthnasol yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon (FRS 102) (yn weithredol o 1 Ionawr 2019) a’r Safon Adrodd Ariannol sy'n gymwys yn y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon (FRS 102) a Deddf Elusennau 2011 ac Arfer Cyfrifyddu a Dderbynnir yn Gyffredinol yn y Deyrnas Unedig fel y mae'n berthnasol o 1 Ionawr 2015. 

Mae Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn bodloni'r diffiniad o endid budd cyhoeddus o dan FRS 102. Mae’r Asedau a rhwymedigaethau yn cael eu cydnabod ar gost hanesyddol neu eu gwerth trafodiad oni nodir yn wahanol yn y nodyn polisi cyfrifyddu(au) perthnasol. 

## **b.   Incwm** 

Cydnabyddir incwm pan fydd gan yr elusen yr hawl i dderbyn yr arian a bod unrhyw amod ynghlwm wrth yr eitem neu eitemau o incwm wedi cael eu bodloni, ac yn  debygol y bydd yr incwm yn cael eu derbyn a gall y swm ei fesur yn ddibynadwy. 

Mae incwm oddi wrth y llywodraeth a grantiau eraill, boed yn grantiau 'cyfalaf' neu’n grantiau 'refeniw' yn cael ei gydnabod yn y flwyddyn y cynhelir yr Eisteddfod. 

Cydnabyddir incwm ewyllys a chymynroddion pan fydd gan yr elusen yr hawl i’r incwm, mae derbyn yr arian yn debygol a gellir mesur y swm yn ddibynadwy. 

Lle mae cymynroddion wedi eu hysbysu i'r elusen, neu mae’r elusen yn ymwybodol o'r profiant, a'r meini prawf ar gyfer cydnabod incwm wedi heb gael eu bodloni, yna mae'r gymynrodd yn cael ei thrin fel ased wrth gefn a ddatgelir os yn berthnasol. 

## **c.   Llogau a dderbynnir** 

Mae llog ar gyfrifon cadw yn cael ei gynnwys pan gaiff ei dderbyn a gall y swm ei fesur yn ddibynadwy gan yr elusen; mae hyn fel arfer ar hysbysiad am y llog a delir neu yn daladwy gan y banc. 

## **ch. Cronfeydd** 

Cronfeydd cyffredinol (anghyfyngedig) - ar gael i'w defnyddio, yn ôl disgresiwn yr ymddiriedolwyr, i unrhyw un o ddibenion elusennol yr Eisteddfod Genedlaethol. 

Cronfeydd cyfyngedig yw’r arian a roddir i’w defnyddio ar gyfer pwrpas penodol, ac mae eu defnydd yn gyfyngedig i’r pwrpas hwnnw. 

Mae’r cronfeydd penodol yn cynrychioli incwm anghyfyngedig lle mae’r ymddiriedolwyr yn ôl eu disgresiwn, wedi ei roi o'r neilltu i'w ddefnyddio at ddiben penodol. 

Mae’r cronfeydd gwaddol yn cynnwys rhoddion lle mae'r rhoddwr wedi nodi eu bod yn cael eu defnyddio yn unig ar gyfer pwrpas penodol o waith yr elusen neu ar gyfer prosiectau artistig penodol a wneir gan yr elusen. 

26 



**Eisteddfod Genedlaethol Cymru** 

## **NODIADAU I’R DATGANIADAU ARIANNOL** 

## **AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2025** 

## **d.   Gwariant a TAW na ellir ei adennill** 

Mae gwariant yn cael ei gydnabod unwaith mae’r rhwymedigaeth gyfreithiol neu adeiladol i wneud taliad i drydydd parti, ac yn debygol y bydd setliad yn ofynnol a swm y rhwymedigaeth yn cael ei fesur yn ddibynadwy. Mae’r gwariant wedi'i ddosbarthu o dan y penawdau gweithgarwch canlynol: 

- Costau codi arian yn cynnwys costau masnachu masnachol ar gyfer loteri'r Eisteddfod. 

- Mae gwariant ar weithgareddau elusennol yn cynnwys costau o berfformiadau, arddangosfeydd a gweithgareddau addysgol eraill a wnaed i hyrwyddo dibenion yr elusen a'u costau cymorth cysylltiedig. 

- Mae gwariant yn cael ei gyfrif ar sail groniadau ac mae'n cynnwys TAW na ellir ei adfer. 

- Mae gwariant arall yn cynrychioli eitemau hynny nad ydynt yn dod i mewn i unrhyw bennawd arall. 

## **dd. Dyrannu costau cefnogi** 

Costau cynnal yw’r costau hynny sy'n cynorthwyo gwaith yr elusen ond nid ydynt yn uniongyrchol yn ymgymryd â gweithgareddau elusennol. Maent yn cynnwys costau swyddfa, cyllid, personél, cyflogau a llywodraethu sy'n cefnogi gwaith yr elusen. 

Mae'r costau hyn wedi cael eu dyrannu o dan gweithgareddau elusennol. 

## **e.   Prydlesi gweithredol** 

- Prydlesi gweithredol yw offer lle mae’r teitl i'r offer yn parhau gyda'r prydleswr. Mae taliadau rhent yn cael eu cyflwyno i’r Datganiad o’r Gweithgareddau Ariannol ar sail llinell syth dros dymor y brydles. 

## **f.    Asedau treftadaeth** 

Cofnodir asedau treftadaeth yn ôl y gost wreiddiol. Gan fod asedau treftadaeth yr elusen wedi eu cynnal dros gyfnod o gan mlynedd a mwy mae’r gost wreiddiol yn rhy fach i gofnodi yn y Fantolen. 

## **ff.  Asedau anniriaethol** 

Mae’r Eisteddfod yn cyfrifo am ei feddalwedd fel asedau anniriaethol. Cynhwysir asedau anniriaethol ar eu cost hanesyddol.  Mae’r asedau yma’n cael eu hamorteiddio drwy randaliadau cyfartal blynyddol droes eu hoes economaidd defnyddiol amcangyfrifedig o bum mlynedd. 

## **g.   Asedau parhaol** 

Polisi’r Eisteddfod yw cofnodi asedau sefydlog ar y gost wreiddiol hyd yma, llai’r dibrisiant a grynhowyd. 

## **ng. Dibrisiant** 

Mae’r prif gyfraddau, gan ddefnyddio’r dull llinell syth, fel a ganlyn: 

|Moduron, dodrefn ac offer swyddfa|-|20%|
|---|---|---|
|Adeiladau parhaol|-|2%|
|Adeiladau ac eiddo arall|-|10%|
|Eiddo i’r Orsedd (Cyffredinol)|-|10%|
|Eiddo i’r Orsedd (Cylch yr Orsedd symudol)|-|Dim|



27 



**Eisteddfod Genedlaethol Cymru** 

## **NODIADAU I’R DATGANIADAU ARIANNOL** 

## **AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2025** 

## **h.   Buddsoddiadau** 

Dangosir buddsoddiadau yn ôl gwerth y farchnad.  Mae hyn yn golygu cadw cofnodion prisio cyfoes, felly pan fydd buddsoddiadau yn cael eu gwerthu nid oed enillion na cholledion mewn perthynas â blynyddoedd blaenorol.  Cydnabuwyd unrhyw enillion neu golled yn eu gwerth yn y Datganiad o’r Gweithgareddau Ariannol. 

## **i.    Stoc** 

Mae stoc yn cael ei gynnwys ar yr isaf o'r gost neu'r gwerth gwireddadwy net. 

## **j.    Dyledwyr** 

Mae dyledwyr masnach a dyledwyr eraill yn cael eu cydnabod ar y swm sy'n ddyledus ar ôl setlo unrhyw ddisgownt masnach a gynigir. Mae rhagdaliadau wedi eu prisio ar y swm a dalwyd ymlaen llaw, net o unrhyw ostyngiadau masnachol sy'n ddyledus. 

## **l.    Arian yn y banc ac mewn llaw** 

Mae arian yn y banc ac arian mewn llaw yn cynnwys arian parod a buddsoddiadau byr rhybudd hylifol iawn gydag aeddfedrwydd byr o dri mis neu lai o’r dyddiad caffael neu agor y cyfrif. 

## **ll.   Credydwyr** 

Mae credydwyr a darpariaethau yn cael eu cydnabod pan fydd gan yr elusen rwymedigaeth bresennol sy'n deillio o ddigwyddiad yn y gorffennol a fydd yn ôl pob tebyg yn arwain at drosglwyddo arian i drydydd parti ac mae'r swm sy'n ddyledus i setlo'r rhwymedigaeth yn cael ei fesur neu amcangyfrif yn ddibynadwy.  Fel arfer, mae credydwyr ac unrhyw ddarpariaethau eraill yn cael eu cydnabod fel y swm setliad ar ôl caniatáu ar gyfer unrhyw ostyngiadau dyledus. 

## **m. Tanysgrifiadau am Oes** 

Trosglwyddir tanysgrifiadau aelodau newydd y Llys, sy’n dymuno ymaelodi am oes, sef £100, i gyfrif Tanysgrifiadau am Oes yn y credydwyr.  Rhyddheir un rhan o ddeg pob blwyddyn i’r Datganiad o’r Gweithgareddau Ariannol. 

## **n.   Offerynnau ariannol** 

Dim ond asedau ariannol a rhwymedigaethau ariannol sylfaenol sydd gan yr elusen. Mae offerynnau ariannol sylfaenol yn cael eu cydnabod ar werth trafodiad ac wedyn mesur ar eu gwerth anheddiad. 

## **o.   Costau pensiwn budd diffiniedig** 

Yn ystod 2023/2024 trafododd yr elusen delerau gyda chynllun Pensiwn Caerdydd a'r Fro i adael y cynllun hwn ar 31 Mai 2024. Mae hyn wedi arwain at warged ymadael o £2.45m i'r elusen a dderbyniwyd ar 2 Rhagfyr 2024. 

## **p.   Costau pensiwn cyfraniadau diffiniedig** 

Mae’r Eisteddfod hefyd wedi trefnu cynllun pensiwn gyda chyfraniadau wedi’u diffinio. Mae cynllun cyfraniadau wedi’u diffinio yn gynllun pensiwn lle mae’r Eisteddfod yn talu cyfraniadau penodedig i mewn i endid ar wahân. Rheolwyd y cynllun yn annibynnol ac mae’r elusen yn cyfrannu 6% o gyflog pensiynadwy.  Ar ôl talu’r cyfraniadau, nid yw’r Eisteddfod dan ragor o rwymedigaethau talu. 

Pan fydd y cyfraniadau’n daladwy, fe’u cydnabyddir yn gost yn y Datganiad o’r 

Gweithgareddau Ariannol.  Mae’r symiau nas talwyd i’w gweld yn credydwyr eraill, ar ffurf rhwymedigaeth, yn y Fantolen. 

28 



**Eisteddfod Genedlaethol Cymru** 

## **NODIADAU I’R DATGANIADAU ARIANNOL** 

**AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2025** 

## **p.   Costau pensiwn cyfraniadau diffiniedig (parhad)** 

Cafwyd tâl pensiwn o £0.135m ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill i 31 Mawrth 2025 (cyfnod 1 Ionawr o 31 Mawrth 2024 - £0.018m). 

## **ph. Treth** 

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn elusen gofrestredig ac felly, nid yw’n gorfod talu treth gorfforaethol ar ei gweithgareddau elusennol. 

## **r.   Gwirfoddolwyr** 

Mae’r elusen yn derbyn cymorth gwerthfawr gan wirfoddolwyr, sydd yn cefnogi gweithgareddau yr Eisteddfod, e.e., cynnal digwyddiadau a chodi arian, stiwardio a gwaith gweinyddol. Nid yw gwerth ariannol y cymorth hwn wedi’i gofnodi yn y cyfrifon. 

29 



**Eisteddfod Genedlaethol Cymru** 

## **NODIADAU I'R DATGANIADAU ARIANNOL** 

## **AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2025** 

## **2. Rhoddion** 

|**Rhoddion**|||||
|---|---|---|---|---|
|Cronfeydd<br> <br>Anghyfyngedig<br>£ 000<br>Y Cronfeydd Lleol a Chyffredinol<br>158<br>Ymddiriedolaeth Edwin Griffiths, UDA<br>247<br>Rhoddion trwy ewyllys<br>256<br>Rhoddion gan sefydliadau eraill<br>20<br>Tanysgrifiadau aelodaeth<br>5<br>686|Cronfeydd<br> <br>Penodol<br>£ 000<br>148<br>-<br>-<br>-<br>-<br>148|Cronfeydd<br>Gwaddol<br>£ 000<br>-<br>-<br>43<br>-<br>-<br>43|||
||||2025<br>£ 000<br>305<br>247<br>299<br>20<br>5<br>**877**|2024<br>£ 000<br>328<br>337<br>767<br>20<br>7|
|||||**1,459**|
||||||



## **3. Grantiau** 

Mae'r grantiau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod fel a ganlyn: 

|Cronfeydd<br> <br>Anghyfyngedig<br>£ 000<br>Llywodraeth Cymru - Grant craidd 2024/25<br>-<br>Cyngor Celfyddydau Cymru<br>-<br>Grantiau eraill<br>-<br>Llywodraeth Cymru - Cynllun fforddiadwy 2024<br>-<br>Llywodraeth Cymru - Isadeiledd 2023<br>-<br>Stonewall<br>-<br>Llywodraeth Cymru - Dydd Miwsig Cymru 2024<br>-<br>British Council Cymru<br>-<br>Llywodraeth Cymru - Dydd Miwsig Cymru 2023<br>-<br>**Cyfanswm y grantiau**<br>-|Cronfeydd<br>Cyfyngedig<br>£ 000<br>1,000<br>99<br>31<br>-<br>-<br>-<br>-<br>-<br>-<br>**1,130**|||
|---|---|---|---|
|||2025<br>£ 000<br>1,000<br>99<br>31<br>-<br>-<br>-<br>-<br>-<br>-<br>**1,130**|2024<br>£ 000<br>1,000<br>168<br>28<br>350<br>150<br>65<br>44<br>22<br>20|
||||**1,847**|



30 



**Eisteddfod Genedlaethol Cymru** 

## **NODIADAU I'R DATGANIADAU ARIANNOL AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2025** 

## **4. Cymynroddion gwaddol parhaol** 

|Derbyniwyd un gymynrodd yn ystod 2024/25:<br>Cronfa Ysgoloriaeth Eira Francis Davies<br>Cronfa John Harry, Pontarddulais<br>Tlws Coffa Leah Owen<br>**Cyfanswm**|2025<br>£ 000<br>43<br>-<br>-|2024<br>£ 000<br>200<br>28<br>5|
|---|---|---|
||**43**|**233**|



## **5. Gweithgareddau elusennol:** 

|**Gweithgareddau elusennol:**|||||
|---|---|---|---|---|
|Cronfeydd<br> <br>Anghyfyngedig<br>Gŵyl yr Eisteddfod:<br>£ 000<br>Incwm o'r Ŵyl<br>2,323<br>Incwm o'r Maes<br>710<br>Awdurdodau a chynghorau Lleol<br>404<br>Cynlluniau nawdd<br>218<br>Incwm arall ar weithgareddau elusennol<br>27<br>Maes Carafanau<br>24<br>**Cyfanswm**<br>3,706|Cronfeydd<br> <br>Penodol<br> <br>£ 000<br>216<br>340<br>-<br>15<br>-<br>289<br>860|Cronfeydd<br>Cyfyngedig<br>£ 000<br>-<br>-<br>-<br>-<br>-<br>-<br>-|||
||||2025<br>£ 000<br>2,539<br>1,050<br>404<br>233<br>27<br>313|2024<br>£ 000<br>2,697<br>1,375<br>404<br>244<br>63<br>489|
||||**4,566**|**5,272**|



## **6. Gweithgareddau masnachu** 

Cynllun loteri 

|2025|2024|
|---|---|
|£ 000|£ 000|
|**12**|**14**|



## **7. Incwm o fuddsoddiadau** 

|Cronfeydd<br> <br>Anghyfyngedig<br>£ 000<br>Llog y buddsoddiadau<br>43<br>Llog buddsoddiadau byr<br>38<br>82|Cronfeydd<br>Gwaddol<br>£ 000<br>29<br>-<br>29|||
|---|---|---|---|
|||2025<br>£ 000<br>72<br>38|2024<br>£ 000<br>70<br>24|
|||**110**|**94**|



31 



**Eisteddfod Genedlaethol Cymru** 

## **NODIADAU I'R DATGANIADAU ARIANNOL** 

## **AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2025** 

## **8. Gwariant** 

|Gwariant<br>Uniongyrchol <br>£ 000<br>**Gweithgareddau codi arian**<br>Cynllun loteri<br>11<br>Ffi broceriaid buddsoddiadau<br>9<br>Cyfanswm<br>21<br>**Gweithgareddau elusennol**<br>Gŵyl yr Eisteddfod<br>5,911<br>**Cyfanswm**<br>5,931<br>**Dadansoddiad o'r costau cynnal**<br>Rheolaeth (Swyddfa a gwasanaethau TG)<br>Dibrisiad adnoddau<br>Costau cyllid<br>Llywodraethu<br>Cyfanswm|Costau<br> Cynnal<br>£ 000<br>-<br>-<br>-<br>572<br>572|2025<br>£ 000<br>11<br>9<br>21<br>6,483<br>**6,503**<br>316<br>132<br>51<br>72<br>572|2024<br>£ 000<br>12<br>10|
|---|---|---|---|
||||22<br>7,707|
||||**7,729**|
||||288<br>168<br>106<br>90|
||||652|



Mae'r costau llywodraethu yn cynnwys tâl i'r archwiliwyr am wasanaethau archwilio cyfrifon 2025 o £9,875 (2024: £9,500). 

## **9. Costau staff** 

Mae costau staff yn cynnwys cyflogau, cyfraniadau i’r cynllun pensiwn, yswiriant cenedlaethol a buddion eraill. 

|Cyflogau gros (gan gynnwys gwerth trethadwy nwyddau mewn da)<br>Cyfraniadau Yswiriant Cenedlaethol y cyflogwr<br>Cost pensiwn y cyflogwr|2025<br>£ 000<br>515<br>48<br>175<br>738|2023/24<br>£ 000<br>611<br>61<br>134|
|---|---|---|
|||806|



Ar gyfartaledd, cyflogwyd 13 aelod o staff craidd llawn amser (2023/24 - 12) yn ystod y flwyddyn. 

## **Personél Rheoli Allweddol** 

Y personél rheoli allweddol yr Eisteddfod Genedlaethol yw'r ymddiriedolwyr ynghyd â'r Tîm Rheoli sydd yn gweithredu trwy'r Bwrdd Rheoli. 

Mae aelodau'r Tîm Rheoli yn cynnwys y Prif Weithredwr, Cyfarwyddwr Artistig, Cyfarwyddwr Strategol a'r Cyfawyddwr Cyllid.  Cyfanswm y tâl gros a buddion i weithwyr y personél rheoli allweddol oedd £386,184 - 4 aelod. (2024: am y cyfnod o 15 mis £435,125 - 4 aelod). 

Nifer o gyflogeion yr oedd eu taliadau, yn cynnwys gwerth trethadwy nwyddau mewn da ond heb gynnwys cyfraniadau pensiwn y cyflogwr, o fewn yr ystodau canlynol: 

|||2025<br>|2024|
|---|---|---|---|
|£90,000|- £99,000|-|1|
|£80,000|- £89,000|-|-|
|£70,000|- £79,000|1|2|
|£60,000|- £69,000|1|1|



## **Ymddiriedolwyr** 

Ni chafodd yr ymddiriedolwr unrhyw dâl yn ystod y flwyddyn (2023/24: £ dim). 

Cafodd treuliau gwerth £709 eu had-dalu i ddau ymddiriedolwr (2023/24: £45) am gostau teithio ac i ad-dalu costau wrth gyflawni eu dyletswyddau. 

32 



**Eisteddfod Genedlaethol Cymru** 

## **NODIADAU I'R DATGANIADAU ARIANNOL AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2025** 

## **10.  Eiddo parhaol** 

## **Asedau treftadaeth** 

Gan nad oes cost ar gyfer regalia'r Orsedd (sydd yn cynnwys y Cleddyf Mawr a'r Corn Hirlas) nid ydym yn cynnwys yr eitemau hyn fel eiddo.  Amcangyfrif gwerth ariannol y regalia ar gyfer pwrpas yswiriant yw £222,000 (Mehefin 2016). 

|**Asedau anniriaethol**<br>**Cost**<br>1 Ebrill 2024<br>Ychwanegiadau<br>Gwarediadau<br>31 Mawrth 2025<br>**Amorteiddiad**<br>1 Ebrill 2024<br>Cost am y flwyddyn<br>Gwarediadau<br>31 Mawrth 2025<br>**Gwerth net yr asedau**<br>**31 Mawrth 2025**<br>31 Mawrth 2024<br>**Asedau parhaol**<br>**Cost**<br>1 Ebrill 2024<br>Ychwanegiadau<br>Gwarediadau<br>31 Mawrth 2025<br>**Dibrisiad**<br>1 Ebrill 2024<br>Cost am y flwyddyn<br>Gwarediadau<br>31 Mawrth 2025<br>**Gwerth net yr eiddo**<br>**31 Mawrth 2025**<br>31 Mawrth 2024|Gwefan<br>Cyfanswm<br>£ 000<br>£ 000<br>68<br>68<br>-<br>-<br>-<br>-<br>68<br>68<br>48<br>48<br>12<br>12<br>-<br>-<br>60<br>60<br>**8**<br>**8**<br>20<br>20<br>Adeiladau<br>Adeiladau<br>Peiriannau/<br>Dodrefn<br>Dodrefn<br>Eiddo<br>Parhaol<br>Eraill<br>Offer Maes<br>Llwyfan<br>Swyddfa<br>i'r Orsedd<br>£ 000<br>£ 000<br>£ 000<br>£ 000<br>£ 000<br>£ 000<br>570<br>1,023<br>863<br>30<br>130<br>33<br>4<br>-<br>13<br>-<br>5<br>-<br>-<br>(17)<br>-<br>-<br>(20)<br>-<br>574<br>1,006<br>876<br>30<br>115<br>33<br>307<br>254<br>839<br>22<br>103<br>9<br>11<br>101<br>9<br>2<br>9<br>-<br>-<br>(17)<br>-<br>-<br>(20)<br>-<br>318<br>338<br>848<br>24<br>92<br>9<br>**256**<br>**668**<br>**28**<br>**6**<br>**22**<br>**24**<br>263<br>769<br>24<br>8<br>27<br>24|Cyfanswm<br>£ 000<br>2,649<br>22<br>(37)|
|---|---|---|
|||2,634|
|||1,534<br>132<br>(37)|
|||1,629|
|||**1,005**|
|||1,115|



Mae adeiladau parhaol yr elusen yn cael eu dal yn enw’r ymddiriedolwyr ar ran yr elusen. Er bod y teitl yn gyfreithiol yn nwylo’r ymddiriedolwyr, dim ond at ddibenion elusennol y sefydliad y cedwir yr asedau.  Yr elusen yw perchennog buddiol yr eiddo hyn, ac maent wedi’u cynnwys yn y datganiadau ariannol yn unol â hynny. 

33 



**Eisteddfod Genedlaethol Cymru** 

**NODIADAU I'R DATGANIADAU ARIANNOL AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2025** 

## **11.   Buddsoddiadau** 

Dewiswyd y buddsoddiadau i gwrdd â gofynion yr Eisteddfod am logau sylweddol, diogelwch cyfalaf, a'r rhwyddineb i droi rhai ohonynt yn arian yn ôl gofynion y llif arian. 

## **Buddsoddiadau Eiddo Parhaol** 

|**Buddsoddiadau Eiddo Parhaol**|||||||
|---|---|---|---|---|---|---|
||||Gwerth y|Farchnad|Y Gost||
||Cronfeydd<br>|Cronfeydd|31.03.25|31.03.24|31.03.25|Llog|
||Anghyfyngedig|Gwaddol<br>|Cyfanswm|Cyfanswm|Cyfanswm|2024/25|
||£ 000|£ 000|£ 000|£ 000|£ 000|£ 000|
|CCLA|||||||
|Cyfrif Cadw COIF|863|87|950|472|950|29|
|Cronfa Fuddsoddi Foesegol COIF|-|500|500|-|500|-|
|Llog Sefydlog|465|323|788|362|806|16|
|Cyfranddaliadau|1,041|724|1,765|856|1,741|22|
|Nwyddau|64|44|108|38|84|-|
|Eiddo|88|61|150|60|154|2|
|Buddsoddiadau eraill|73|51|124|73|142|4|
|Arian ar gyfer dibenion buddsoddi|6|4|10|8|20|-|
|Cyfanswm Buddsoddiadau parhaol|2,601|1,795|**4,395**|1,869|4,397|73|
|Buddsoddiadau Tymor Byr|1,731|-|**1,731**|1,770|1,731|37|
|Cyfanswm Buddsoddiadau|4,331|1,795|6,126|3,639|6,128|110|



Mae'r arian yng ngyfrif COIF Cadw yn arian hylifol iawn ar gyfer buddsoddi yn y tymor hwy. 

Mae'r arian a gynhwysir fel Buddsoddiadau Tymor Byr yn cynrychioli'r arian a dderbyniwyd i'w ddefnyddio ar gyfer yr Eisteddfodau a gynhelir yn y dyfodol agos. 

## **Symudiadau yn y Buddsoddiadau Eiddo Parhaol** 

|Gwerth y Farchnad - 31 Mawrth 2024<br>Gwerthu buddsoddiadau (Gwerth y farchnad)<br>Prynu buddsoddiadau newydd (Cost)<br>Colledion ar fuddsoddiadau<br>**Gwerth y Farchnad - 31 Mawrth 2025**|Cyfanswm<br>£ 000<br>1,869<br>(739)<br>3,307<br>(42)|
|---|---|
||**4,395**|



34 



**Eisteddfod Genedlaethol Cymru** 

## **NODIADAU I'R DATGANIADAU ARIANNOL AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2025** 

## **12. Dyledwyr** 

|Dyledwyr - Masnachol<br>Dyledwyr - Eraill<br>Ad-daliad Treth Incwm a TAW<br>Rhagdaliadau ac incwm cronedig|2025<br>2024<br>£ 000<br>£ 000<br>755<br>341<br>16<br>10<br>2<br>483<br>229<br>188<br>1,002<br>1,022|
|---|---|



Mae'r Rhagdaliadau ac incwm cronedig uchod yn cynnwys gwariant o £191,241 ar gyfer blaendaliadau am wasanaethau i Eisteddfod Wrecsam 2025 ac £8,883 ar gyfer Eisteddfod y Garreg Las 2026 (2024 -  £144,902 ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol RCT 2024). 

## **13. Credydwyr:  Dyledus mewn llai na blwyddyn** 

|Credydwyr Masnachol<br>Credydwyr eraill<br>Croniadau<br>Tanysgrifiadau am Oes|2025<br>2024<br>£ 000<br>£ 000<br>120<br>115<br>39<br>43<br>9<br>18<br>10<br>11<br>178<br>187|
|---|---|



## **14. Dadansoddiad o'r Asedau net** 

|Cronfeydd<br>Anghyfyngedig<br> <br>£ 000<br>Eiddo anniriaethol<br>8<br>Eiddo Parhaol<br>445<br>Buddsoddiadau<br>2,600<br>Asedau cyfredol<br>3,150<br>Credydwyr cyfredol<br>(178)<br>Cynllun pensiwn<br>-<br>6,025|Cronfeydd<br> <br>Cyfyngedig<br>£ 000<br>-<br>560<br>-<br>-<br>-<br>-<br>560|Cronfeydd<br>Gwaddol<br>£ 000<br>-<br>-<br>1,795<br>-<br>-<br>-<br>1,795||
|---|---|---|---|
||||2025<br>2024<br>£ 000<br>£ 000<br>8<br>20<br>1,005<br>1,115<br>4,395<br>1,869<br>3,150<br>2,963<br>(178)<br>(187)<br>-<br>3,290|
||||8,380<br>9,070|



## **15. Cytundebau prydles** 

Dadansoddiad o'r rhent sydd i'w dalu o dan gytundebau prydles am y ceir swyddogol: 

|Y cytundeb yn dod i ben:<br>Mewn llai na blwyddyn<br>Rhwng blwyddyn a dwy flynedd<br>Rhwng dwy a phum mlynedd|2025<br>2024<br>£ 000<br>£ 000<br>4<br>4<br>-<br>-<br>-<br>-<br>4<br>4|
|---|---|



Mae taliadau rhentu wedi’u cynnwys yn y Datganiad o'r Gweithgareddau Ariannol. 

35 



**Eisteddfod Genedlaethol Cymru** 

## **NODIADAU I'R DATGANIADAU ARIANNOL** 

## **AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2025** 

## **16. Symudiadau yn y Cronfeydd Penodol** 

|**Balans 1 Ebrill 2024**<br>**(Rhyddhau incwm) / incwm a dderbyniwyd ar gyfer yr**<br>**Eisteddfod gyfredol:**<br>Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024<br>Cronfeydd lleol a chyffredinol<br>Incwm o'r Ŵyl<br>Incwm o'r Maes<br>Awdurdodau a Chynghorau lleol<br>Nawdd<br>Meysydd Carafanau a Gwersylla<br>**Incwm a dderbyniwyd yn ystod y flwyddyn ar gyfer**<br>**Eisteddfodau'r dyfodol:**<br>Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025<br>Cronfeydd lleol a chyffredinol<br>Incwm o'r Ŵyl<br>Incwm o'r Maes<br>Nawdd<br>Meysydd Carafanau a Gwersylla<br>Eisteddfod Genedlaethol Y Garreg Las 2026<br>Cronfeydd lleol a chyffredinol<br>**Balans 31 Mawrth 2025**<br>**7. Symudiadau yn y Cronfeydd Cyfyngedig**<br>01.04.24 Derbyniwyd  Gwariwyd<br>£ 000<br>£ 000<br>£ 000<br>**Llywodraeth Cymru:**<br>-  Grant cyfalaf - Stondinau newydd<br>640<br>-<br>(80)<br>- Cynllun tocynnau fforddiadwy i deuluoedd<br>350<br>-<br>(350)<br>- Cynllun dathlu Dydd Miwsig Cymru<br>27<br>-<br>(27)<br>**British Council:**<br>- Prosiect cerddorion o Gymru a Llydaw<br>22<br>-<br>(22)<br>**Llywodraeth Cymru:**<br>- Grant gweithgareddau craidd<br>-<br>1,000<br>(1,000)<br>- Hybu gweithgareddau ieuenctid<br>6<br>(6)<br>**Cyngor Celfyddydau Cymru:**<br>- Gweithgareddau ar Faes yr Eisteddfod<br>-<br>99<br>(99)<br>**Grant Ffyniant Cymunedol**<br>- Prosiect cymunedol 'Anthem'<br>-<br>15<br>(15)<br>**Media Cymru**<br>- Ffilmio Cynaliadwy Deallusrwydd Artiffisial<br> -<br>10<br>(10)<br>Cyfanswm<br>1,039<br>1,130<br>(1,609)|**Balans 1 Ebrill 2024**<br>**(Rhyddhau incwm) / incwm a dderbyniwyd ar gyfer yr**<br>**Eisteddfod gyfredol:**<br>Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024<br>Cronfeydd lleol a chyffredinol<br>Incwm o'r Ŵyl<br>Incwm o'r Maes<br>Awdurdodau a Chynghorau lleol<br>Nawdd<br>Meysydd Carafanau a Gwersylla<br>**Incwm a dderbyniwyd yn ystod y flwyddyn ar gyfer**<br>**Eisteddfodau'r dyfodol:**<br>Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025<br>Cronfeydd lleol a chyffredinol<br>Incwm o'r Ŵyl<br>Incwm o'r Maes<br>Nawdd<br>Meysydd Carafanau a Gwersylla<br>Eisteddfod Genedlaethol Y Garreg Las 2026<br>Cronfeydd lleol a chyffredinol<br>**Balans 31 Mawrth 2025**<br>**7. Symudiadau yn y Cronfeydd Cyfyngedig**<br>01.04.24 Derbyniwyd  Gwariwyd<br>£ 000<br>£ 000<br>£ 000<br>**Llywodraeth Cymru:**<br>-  Grant cyfalaf - Stondinau newydd<br>640<br>-<br>(80)<br>- Cynllun tocynnau fforddiadwy i deuluoedd<br>350<br>-<br>(350)<br>- Cynllun dathlu Dydd Miwsig Cymru<br>27<br>-<br>(27)<br>**British Council:**<br>- Prosiect cerddorion o Gymru a Llydaw<br>22<br>-<br>(22)<br>**Llywodraeth Cymru:**<br>- Grant gweithgareddau craidd<br>-<br>1,000<br>(1,000)<br>- Hybu gweithgareddau ieuenctid<br>6<br>(6)<br>**Cyngor Celfyddydau Cymru:**<br>- Gweithgareddau ar Faes yr Eisteddfod<br>-<br>99<br>(99)<br>**Grant Ffyniant Cymunedol**<br>- Prosiect cymunedol 'Anthem'<br>-<br>15<br>(15)<br>**Media Cymru**<br>- Ffilmio Cynaliadwy Deallusrwydd Artiffisial<br> -<br>10<br>(10)<br>Cyfanswm<br>1,039<br>1,130<br>(1,609)|2024/25<br>£ 000<br>£ 000<br>610<br>(129)<br>(78)<br>(276)<br>(1)<br>(33)<br>(94)<br>(610)<br>101<br>216<br>340<br>15<br>289<br>961<br>46<br>46<br>**1,007**|2024/25<br>£ 000<br>£ 000<br>610<br>(129)<br>(78)<br>(276)<br>(1)<br>(33)<br>(94)<br>(610)<br>101<br>216<br>340<br>15<br>289<br>961<br>46<br>46<br>**1,007**|
|---|---|---|---|
||||**1,007**|
|||Arall<br>£ 000<br>-<br>-<br>-<br>-<br>-<br>-<br>-<br> -||
||||31.03.25<br>£ 000<br>560<br>-<br>-<br>-<br>-<br>-<br>-<br> -|
||1,039<br>1,130<br>(1,609)|-|560|



## **17. Symudiadau yn y Cronfeydd Cyfyngedig** 

36 



**Eisteddfod Genedlaethol Cymru** 

## **NODIADAU I'R DATGANIADAU ARIANNOL AR GYFER Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2025** 

## **18. Symudiadau yn y Cronfeydd Cadw** 

|**Cronfa**<br>Cronfeydd Gwaddol<br>Cronfeydd Cyffredinol<br>Cronfeydd Penodol<br>Cronfeydd Cyfyngedig<br>Cyfanswm|01.04.24<br>£ 000<br>1,769<br>5,652<br>610<br>1,039<br>9,070|Incwm<br>£ 000<br>72<br>4,486<br>1,007<br>1,130<br>6,695|Gwariant<br>£ 000<br>(29)<br>(5,095)<br>(610)<br>(1,609)<br>(7,343)|Symudiad<br>net<br>£ 000<br>43<br>(609)<br>397<br>(479)<br>(648)|Enillion/<br>Colledion 31.03.25<br>£ 000<br>£ 000<br>(17)<br>1,795<br>(25)<br>5,018<br>-<br>1,007<br>-<br>560<br>(42)<br>8,380|
|---|---|---|---|---|---|



## **19. Trafodion gyda phartïon cysylltiedig** 

Cafodd un ymddiriedolwr dâl o £350 (2023/24: £ dim) am lunio cerddi a chymryd rhan mewn gweithgareddau yn ystod Eisteddfod Rhondda Cynon Taf 2024, sef gwasanaeth y tu allan i'w ddyletswyddau fel ymddiriedolwr. 

37 

