OpenCharities

This text was generated using OCR and may contain errors. Check the original PDF to see the document submitted to the regulator.

2021-03-31-accounts

Rhif Cwmni Cofrestredig: 7550507 Rhif Elusen Cofrestredig: 1143525

Y COLEG CYMRAEG CENEDLAETHOL

Adroddiad yr Ymddiriedolwyr a'r Datganiadau Ariannol Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2021

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Adroddiad yr Ymddiriedolwyr a'r datganiadau ariannol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021

TUDALEN
GWYBODAETH GYFREITHIOL A GWEINYDDOL 1
ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR AR GYFER Y FLWYDDYN A 2
DDAETH I BEN AR 31 MAWRTH 2021
ADRODDIAD YR ARCHWILWYR ANNIBYNNOL AT AELODAU Y 9
COLEG CYMRAEG CENEDLAETHOL
DATGANIAD O WEITHGAREDDAU ARIANNOL (GAN GYNNWYS Y 12
CYFRIF INCWM A GWARIANT) AR GYFER Y FLWYDDYN A DDAETH I
BEN AR 31 MAWRTH 2021
MANTOLEN AR 31 MAWRTH 2021 13
DATGANIAD O LIFAU ARIAN PAROD 14
NODIADAU I'R DATGANIADAU ARIANNOL 15

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Gwybodaeth gyfreithiol a gweinyddol

Ymddiriedolwyr a Chyfarwyddwyr

Cadeirydd

Llinos Roberts (penodwyd fel Cadeirydd interim ar 4 Gorffennaf 2021)

Cyfarwyddwyr Pedr ap Llwyd William David Callaway Yr Athro Thomas Gerald Hunter Gwilym Dyfri Jones Dr Thomas Hefin Jones (daeth ei dymor i ben 31 Mawrth 2021) Dr Rhodri Llwyd Morgan (death ei dymor I ben 3 Tachwedd 2021) Llinos Ann Roberts

Yr Athro Hywel Rhys Thomas (daeth ei dymor i ben 31 Mawrth 2021) Angharad Mai Roberts Nia Elias Meri Huws Dr Anwen Jones (penodwyd ar 17 Mawrth 2021) Yr Athro Enlli Môn Thomas (penodwyd ar 1 Ebrill 2021) Ann Beynon (penodwyd ar 1 Ebrill 2021) Rhys Evans (penodwyd ar 17 Tachwedd 2021) Gareth Ellis Pierce (bu farw ar 3 Gorffennaf 2021)

Swyddfa Y Llwyfan gofrestredig Heol Y Coleg Caerfyrddin Sir Gaerfyrddin SA31 3EQ

Rhif 07550507 (Cymru a Lloegr) cofrestredig Statws Cwmni cyfyngedig drwy warant Rhif elusen 1143525

1

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Adroddiad yr Ymddiriedolwyr ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021

Mae'n dda gan yr Ymddiriedolwyr gyflwyno eu hadroddiad blynyddol, ynghyd â datganiadau ariannol archwiliedig yr Elusen am y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2021, sydd hefyd yn bodloni'r gofynion ar gyfer adroddiad cyfarwyddwyr a datganiadau ariannol at ddibenion Deddf Cwmnïau.

Mae'r datganiadau ariannol yn cydymffurfio â Deddf Elusennau 2011, Deddf Cwmnïau 2006, y Memorandwm ac Erthyglau Cymdeithasu, Datganiad o'r Arfer a Argymhellir sy'n berthnasol i elusennau sy'n paratoi eu datganiadau ariannol yn unol â'r Datganiad Adrodd Ariannol sy'n berthnasol yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon (FRS102) (a ddaeth i rym 1 Ionawr 2019) (SORP Elusennau (FRS102)).

Adroddiad Cadeirydd y Coleg

Cyflwynir adroddiad eleni gan Gadeirydd interim Bwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg. Yn ddisymwth, bu farw’r Cadeirydd, Gareth Pierce ar 3 Gorffennaf 2021. Mae dyled y Coleg yn fawr iawn i Gareth am ei waith ddiflino yn llywio’r Coleg yn ddeheuig drwy gyfnod y pandemig, gan gynnwys cynnal trafodaethau adeiladol gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau cyllideb ychwanegol i’r Coleg ar gyfer 2021/22 a thu hwnt. Mae dyled Cymru yn fawr iawn iddo am ei gyfraniad ers degawadau i fyd addysg ac estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf i’w briod, ei deulu a’i gydnabod.

Taflodd y pandemig gysgod dros holl weithgareddau’r Coleg yn ystod 2020/21, ond ymatebwyd yn effeithiol a hyblyg i’r heriau drwy addasu ei ddulliau gweithio a’i gynlluniau, a sicrhau fod cymaint â phosib o’n gweithgareddau yn parhau (ar ryw ffurf).

Ym maes Addysg Uwch mae’r drefn gyllido drwy Grantiau Pynciol yn parhau ac mae swyddogion y Coleg yn cydweithio’n agos gyda phrifysgolion ac adrannau unigol oddi fewn i’r prifysgolion i sicrhau fod nodau uchelgeisiol yn cael eu cyrraedd. Mae’r cynllun Darlithwyr Cysylltiol yn parhau i dyfu gan gynnwys pob darlithydd cyfrwng Cymraeg yn yr adrannau / ysgolion academaidd hynny sy’n derbyn Grantiau Pynciol.

Cofrestrodd dros 3,000 o ddysgwyr a myfyrwyr, dros 2,000 o ddarpar fyfyrwyr a dros 1,000 o staff yn aelodau o gymuned academaidd y Coleg. Dyfarnwyd dros 600 o ysgoloriaethau myfyriwr – y nifer uchaf erioed. Bu’r Coleg yn cydlynu prosiect sylweddol i ddatblygu deunyddiau dysgu digidol cyfrwng Cymraeg dan nawdd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn ystod y flwyddyn, gan dynnu ynghyd staff academaidd o nifer o sefydliadau a phynciau er mwyn cyfoethogi’r adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr. Cyhoeddwyd dau rifyn o Gwerddon ynghyd ag adnoddau cynhwysfawr fel y Pecyn Adnoddau Amlgyfrwng Cymdeithaseg , cyfres podlediadau Pod JOMEC Cymraeg , gwefan Profion Ffitrwydd , adnoddau Sbaeneg/Cymraeg Ánimo , ac adroddiad dylanwadol ar Ail gartrefi: Datblygu polisïau newydd yng Nghymru .

Mae’r Coleg hefyd wedi cyflawni gwaith sylweddol ym meysydd Addysg Bellach a Phrentisiaethau. Mae gwaith cynllunio sylweddol wedi digwydd ac mae’r gyfres gyntaf o Grantiau Datblygu i gefnogi swyddi mewn meysydd blaenoriaeth wedi eu dyfarnu.

Bydd yr argyfwng COVID a’i effeithiau yn dylanwadu ar y Coleg a’i bartneriaid am gyfnod sylweddol i ddod.

Diolchwn i bawb sydd wedi gweithio oddi fewn a thu allan i’r Coleg wrth ymateb yn rhagweithiol i’r cyfnod digynsail hwn.

2

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Adroddiad yr Ymddiriedolwyr

ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021 (parhad)

Ein diben a'n gweithgareddau

Amcanion elusennol

Amcan y Coleg fydd, er budd y cyhoedd, hyrwyddo dysgu a gwybodaeth drwy:

Budd cyhoeddus

Mae'r Ymddiriedolwyr wedi ystyried canllawiau'r Comisiwn Elusennau ar fudd cyhoeddus gan gydnabod tair egwyddor budd cyhoeddus ac mae o'r farn bod y Coleg, fel elusen, yn bodloni'r egwyddorion hynny. Nodir Amcanion y Coleg uchod.

Cyflawniadau a pherfformiad

Nodir y rhain yn Adroddiad y Cadeirydd.

Cynlluniau i’r dyfodol

Bydd cynlluniau tymor byr i ganolig yn 2021/22 a thu hwnt yn cael eu dylanwadu arnynt yn sylweddol gan COVID a’r goblygiadau i’r sector ôl-orfodol yng Nghymru. Bydd y Coleg yn gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, i gynllunio, datblygu, diogelu a goruwchwylio darpariaeth a gweithgareddau cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog. Byddwn hefyd yn ceisio adnabod cyfleoedd sy’n codi, e.e. datblygiad dysgu cyfunol er mwyn hybu addysg Gymraeg a dwyieithog. Bydd y Coleg yn gweithredu’n strategol yn y sectorau Addysg Uwch, Addysg Bellach a Phrentisiaethau er mwyn datblygu a chynnal darpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog o’r radd flaenaf a thrwy hynny gwneud cyfraniad penodol i’r amcan o greu Miliwn o Siaradwyr Cymraeg.

3

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Adroddiad yr Ymddiriedolwyr ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021 (parhad)

Cyfarwyddwyr

Datgelir y cyfarwyddwyr a oedd yn eu swyddi yn ystod y flwyddyn a hyd at ddyddiad llofnodi'r datganiadau ariannol o fewn y rhestr isod.

Pedr ap Llwyd William David Callaway Yr Athro Thomas Gerald Hunter Gwilym Dyfri Jones Dr Thomas Hefin Jones (hyd at 31 Mawrth 2021) Dr Rhodri Llwyd Morgan (hyd at 3 Tachwedd 2021) Llinos Ann Roberts Yr Athro Hywel Rhys Thomas (hyd at 31 Mawrth 2021) Angharad Mai Roberts Nia Elias Meri Huws Dr Anwen Jones (o 17 Mawrth 2021) Yr Athro Enlli Môn Thomas (penodwyd ar 1 Ebrill 2021) Ann Beynon (penodwyd ar 1 Ebrill 2021) Rhys Evans (penodwyd ar 17 Tachwedd 2021) Gareth Ellis Pierce* (bu farw ar 3 Orffennaf 2021)

Adolygiad ariannol

Nodir y canlyniadau a'r sefyllfa ariannol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2021 ar dudalennau 12 i 23. Mae'r refeniw yn deillio'n bennaf o arian a gafwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae'r rhan fwyaf o'r costau yn ystod y flwyddyn yn gostau sy'n ymwneud ag ariannu rhaglen weithgareddau'r Coleg, ar ffurf arian grant i brifysgolion, colegau addysg bellach a darparwyr prentisiaethau, -a chostau canolog sy'n ymwneud â rhedeg y Coleg.

Mae canlyniadau ariannol y Coleg yn ystod y flwyddyn hon wedi cael eu heffeithio yn sylweddol gan gynnydd nas wireddwyd hyd yn hyn yng ngwerth buddsoddiadau’r Coleg.

Polisi buddsoddol

Mae Pwyllgor Cyllid a Dibenion Cyffredinol y Coleg wedi cymeradwyo polisi buddsoddi ar ran y Coleg sy’n gosod ffrâm ar gyfer buddsoddiadau’r Coleg sy’n cynnwys materion moesegol wrth fuddsoddi. Mae’r Pwyllgor wedi penodi Sarasin fel rheolwyr buddsoddi ac mae’r Coleg yn monitro’r buddsoddiadau bob chwarter yn ffurfiol drwy’r Pwyllgor.

Polisi cronfeydd wrth gefn a busnes gweithredol

Mae'r Ymddiriedolwyr yn fodlon bod asedau'r Coleg yn ddigonol i gyflawni ei rwymedigaethau o ran ei ymrwymiadau rhagamcanol. Mae’r Ymddiriedolwyr wedi ystyried yn ofalus goblygiadau posib COVID o ran cyllid y Coleg. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i barhau i gyllido a chefnogi gwaith y Coleg, ac mae hyn i’w weld a’i nodi yn natganiadau Gweinidogion Cymru ar lawr y Senedd.

Ystyrir bod lefel y cronfeydd wrth gefn yn briodol i sicrhau y gall y Coleg gyflawni ei amcanion ac mae'n gyson â'r Polisi Cronfeydd wrth Gefn, sy'n dynodi bod angen cronfa wrth gefn anghyfynedig o leiaf £2 miliwn. Mae’r Ymddiriedolwyr hefyd wedi nodi fod cronfeydd wrth gefn y Coleg erbyn hyn o gwmpas tair miliwn sy’n rhoi sicrwydd fod arian wrth gefn petai materion annisgwyl yn codi yn sgil COVID. Bydd y Coleg yn ystyried ymhellach ei pholisi cronfeydd wrth gefn yn 2021/22 yn sgil y pandemig.

4

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Adroddiad yr Ymddiriedolwyr ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021 (parhad)

Strwythur, llywodraethu a rheoli

Mae'r Bwrdd yn cynnwys y Cadeirydd a 12 aelod a benodir yn unol ag Offeryn Llywodraethu'r Coleg. Gwahaniaethir yn glir rhwng rôl y Cadeirydd a rôl Prif Weithredwr y Coleg. Nodir y materion hynny a neilltuir yn arbennig i'w penderfynu gan y Bwrdd yn Erthyglau Cymdeithasu'r Coleg. Mae'r Bwrdd yn gyfrifol am gyfeiriad strategol parhaus y Coleg, defnydd effeithiol ac effeithlon o adnoddau a chymeradwyo datblygiadau mawr, ac mae'n derbyn adroddiadau rheolaidd gan uwch reolwyr.

Mae'r Bwrdd yn cyfarfod deirgwaith y flwyddyn fel arfer ac mae ganddo bum pwyllgor sefydlog (y Bwrdd Academaidd, y Grŵp Strategol Ôl-16, y Pwyllgor Archwilio a Risg, y Pwyllgor Cyllid a Dibenion Cyffredinol, a’r Pwyllgor Penodiadau a Safonau Llywodraethiant).

Mae'r Bwrdd Academaidd yn cynghori Bwrdd y Cyfarwyddwyr ar faterion academaidd ym maes Addysg Uwch. Mae'n rhoi ffocws parhaus ar waith cynllunio academaidd yn y Coleg ym maes Addysg Uwch ac yn fforwm ar gyfer cynnal cyswllt ffurfiol rhwng y Coleg a’r canghennau yn y prifysgolion. Mae’r Coleg hefyd wedi sefydlu Bwrdd Strategol Ôl-16. Mae’r Bwrdd Ôl-16 yn cynghori’r Cyfarwyddwyr a’r Coleg ar faterion yn ymwneud ag Addysg Bellach a Phrentisiaethau ac yn goruchwylio cynnydd yn erbyn y Cynllun Gweithredu Addysg Bellach a Phrentisiaethau.

Mae'r Pwyllgor Archwilio a Risg yn cynghori ac yn cefnogi Bwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg a’r swyddogion drwy roi sicrwydd annibynnol iddynt ynglŷn ag effeithiolrwydd rheolaeth fewnol, llywodraethu corfforaethol a rheoli risg y Coleg. Mae'r Pwyllgor Archwilio a Risg hefyd yn gwneud argymhellion ynghylch penodi archwilwyr mewnol ac allanol ac yn adolygu datganiadau ariannol y Coleg, a chyn iddynt gael eu cyflwyno i'r Bwrdd, mae'n adolygu'r llythyr rheoli ac yn derbyn ac ystyried adroddiadau cynnydd ar feysydd o risg sylweddol a nodir gan reolwyr academaidd. Yn ogystal, mae'r Pwyllgor Archwilio a Risg yn derbyn ac yn ystyried adroddiadau fel y maent yn effeithio ar fusnes y Coleg ac mae'n monitro cydymffurfiaeth â gofynion rheoliadol. Er bod uwch swyddogion yn mynychu cyfarfodydd y Pwyllgor Archwilio a Risg fel y bo angen, nid ydynt yn aelodau o'r Pwyllgor.

Mae archwilwyr mewnol y Coleg, TIAA, wedi cynnal sawl adolygiad yn ystod 2020/21, sef: adolygiadau o Reolaethau Ariannol Allweddol, Lles Staff a Rheoli Absenoldeb, Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol, Diogelwch Seibr, a Changhennau Academaidd – Parhad Busnes yn ystod y Pandemig. Mae’r adolygiadau yma yn cael eu cynnal er mwyn darparu sicrwydd i’r Pwyllgor Archwilio dros gynlluniad a gweithrediad rheolaethau y Coleg ac i ganfod cyfleoedd ar gyfer gwelliant.

Fel cwmni elusennol, caiff y Coleg ei lywodraethu gan ei Femorandwm a'i Erthyglau Cymdeithasu, sy'n darparu ar gyfer penodi ac ailbenodi Ymddiriedolwyr. Er mwyn sicrhau elfen annibynnol i benodi Ymddiriedolwyr, sefydlwyd Pwyllgor Penodiadau a Safonau Llywodraethiant gan y Bwrdd. Mae’r Pwyllgor yn gyfrifol am gynnal prosesau penodi aelodau Bwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg, gan gynnwys y Cadeirydd, ac aelodau pwyllgorau eraill o fewn strwythur llywodraethiant Bwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg. Mae’r Pwyllgor hefyd yn goruchwylio safonau llywodraethiant oddi fewn i’r Coleg.

Caiff yr Ymddiriedolwyr eu penodi am gyfnod cychwynnol o bedair blynedd, a gellir eu hailbenodi am gyfnod pellach o bedair blynedd. Mae’r Prif Weithredwr a’r uwch reolwyr yn bresennol yng nghyfarfodydd yr Ymddiriedolwyr a bydd rheolwyr eraill yn bresennol o dro i dro os yn cyflwyno papurau ar eu meysydd cyfrifoldeb.

Mae'r Ymddiriedolwyr yn goruchwylio pob un o brif feysydd gweithredol y Coleg, gan gynnwys datblygu a chynllunio darpariaeth academaidd a galwedigaethol, cyllid, adnoddau dynol, iechyd a diogelwch, datblygu staff, marchnata / cyfathrebu, a gwasanaethau gwybodaeth.

Yr Ymddiriedolwyr sy'n penderfynu ar y strategaeth ar gyfer y Coleg. Dirprwyir y gwaith o weithredu'r strategaeth a gwaith rheoli gweithredol i'r Prif Weithredwr a'r rheolwyr.

5

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Adroddiad yr Ymddiriedolwyr ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021 (parhad)

Strwythur, llywodraethu a rheoli (parhad)

Mae'r Coleg yn ymrwymedig i sicrhau safonau uchel o lywodraethu corfforaethol. Mae'r datganiad hwn yn disgrifio sut y caiff egwyddorion llywodraethu corfforaethol perthnasol eu cymhwyso i'r Coleg.

Strategaeth rheoli risg

Y Bwrdd sy'n bennaf gyfrifol am sicrhau bod system gadarn o reoli risg, rheolaeth a llywodraethiant ar waith. Mae'r cyfarwyddwyr yn cyflawni'r ddyletswydd hon drwy'r elfennau canlynol:

Nodir dull y Coleg o reoli risg yn effeithiol isod:

o natur y risg o ei heffaith bosibl

o y sawl sy'n 'berchen' ar y risg

o y prosesau rheoli sy'n rheoli'r risg

Mae'r Pwyllgor Archwilio a Risg yn adolygu digonolrwydd y broses o reoli risg yn y Coleg yn rheolaidd wrth iddi barhau i gael ei datblygu.

Mae'r Bwrdd o'r farn bod proses barhaus ar waith ar gyfer nodi, gwerthuso a rheoli risgiau sylweddol y Coleg, bod y broses honno wedi bod ar waith ar gyfer y cyfnod a ddaeth i ben 31 Mawrth 2020 a hyd at ddyddiad cymeradwyo'r adroddiad blynyddol a'r datganiadau ariannol, a bod y broses yn cael ei hadolygu'n rheolaidd gan y Bwrdd.

6

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Adroddiad yr Ymddiriedolwyr ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021 (parhad)

Datganiad o gyfrifoldebau'r Ymddiriedolwyr

Mae'r Ymddiriedolwyr (sydd hefyd yn gyfarwyddwyr Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol at ddibenion cyfraith cwmnïau) yn gyfrifol am baratoi Adroddiad yr Ymddiriedolwyr a'r datganiadau ariannol yn unol â'r gyfraith a'r rheoliadau perthnasol.

O dan gyfraith cwmnïau mae'n ofynnol i'r Ymddiriedolwyr baratoi datganiadau ariannol ar gyfer pob cyfnod ariannol. O dan y gyfraith honno, mae'r Ymddiriedolwyr wedi paratoi'r datganiadau ariannol yn unol â Safonau Cyfrifyddu'r Deyrnas Unedig, sy'n cynnwys FRS 102 “The Financial Reporting Standard applicable in the UK and Republic of Ireland”, a chyfraith berthnasol (Arfer Cyfrifyddu a Dderbynnir yn Gyffredinol yn y Deyrnas Unedig). O dan gyfraith cwmnïau ni ddylai'r Ymddiriedolwyr gymeradwyo'r datganiadau ariannol oni fyddant yn fodlon bod y datganiadau hynny yn rhoi darlun gwir a theg o sefyllfa'r cwmni elusennol ac adnoddau sy'n dod i mewn a'r modd y cymhwysir adnoddau'r elusen, gan gynnwys incwm a gwariant, am y cyfnod hwnnw.

Wrth baratoi'r datganiadau ariannol hyn, mae'n ofynnol i'r Ymddiriedolwyr wneud y canlynol:

Mae'r Ymddiriedolwyr yn gyfrifol am gadw cofnodion cyfrifyddu sy'n ddigonol i ddangos ac esbonio trafodion y cwmni elusennol a datgelu sefyllfa ariannol y cwmni elusennol yn rhesymol gywir ar unrhyw adeg a'u galluogi i sicrhau bod y datganiadau ariannol yn cydymffurfio â Deddf Cwmnïau 2006. Maent hefyd yn gyfrifol am ddiogelu asedau’r cwmni elusennol ac felly am gymryd camau rhesymol i atal a chanfod achosion o dwyll ac anghysondebau eraill.

Mae'r Ymddiriedolwyr yn gyfrifol am gynnal gwefan y cwmni elusennol a sicrhau ei bod yn gywir. Gall deddfwriaeth yn y Deyrnas Unedig sy'n llywodraethu'r gwaith o baratoi a lledaenu datganiadau ariannol fod yn wahanol i ddeddfwriaeth mewn awdurdodaethau eraill.

Datgelu gwybodaeth i archwilwyr

Hyd y gŵyr yr Ymddiriedolwyr:

7

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol Adroddiad yr Ymddiriedolwyr ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021 (parhad) Eithriad cwmnlau bach Wrth lunio'r adroddiad hwn, mae'r cyfarwyddwyr wedi manteisio ar eithriadau cwmnlau bach a ddarperir gan adran 415A o Ddeddf Cwmnlau 2006. Cafodd yr adroddiad hwn ei gymeradwyo gan yr Ymddiriedolwyr ar lofnodi ar eu rhan gan-. Gwilym Dyfrl Jones Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Adroddiad yr archwilwyr annibynnol at aelodau Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Adroddiad ar yr archwiliad o'r datganiadau ariannol

Barn

Yn ein barn ni, mae datganiadau ariannol Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (y "datganiadau ariannol"):

Rydym wedi archwilio'r datganiadau ariannol, sydd wedi'u cynnwys yn Adroddiad yr Ymddiriedolwyr a'r Datganiadau Ariannol (yr "Adroddiad Blynyddol"), sy'n cynnwys: y fantolen ar 31 Mawrth 2021; datganiad o weithgareddau ariannol (gan gynnwys y cyfrif incwm a gwariant), y datganiad o lifau arian parod ar gyfer y cyfnod a ddaeth i ben bryd hynny; a'r nodiadau i'r datganiadau ariannol.

Sail y farn

Cynhaliwyd ein harchwiliad yn unol â Safonau Archwilio Rhyngwladol (y DU) a chyfraith gymwys. Caiff ein cyfrifoldebau o dan y Safonau hyn eu disgrifio ymhellach yn adran Cyfrifoldebau'r archwilwyr dros archwilio'r datganiadau ariannol o'n hadroddiad. Credwn fod y dystiolaeth archwilio rydym wedi'i chael yn ddigonol ac yn briodol i ddarparu sail i'n barn.

Annibyniaeth

Gwnaethom barhau i fod yn annibynnol o’r cwmni elusennol yn unol â'r gofynion moesegol sy'n berthnasol i'n harchwiliad o'r datganiadau ariannol yn y DU, sy'n cynnwys Safon Foesegol yr FRC ac rydym wedi cyflawni ein cyfrifoldebau moesegol eraill yn unol â'r gofynion hyn.

Casgliadau yn ymwneud â busnes gweithredol

Ar sail y gwaith a gyflawnwyd, nid ydym wedi canfod unrhyw ansicrwydd perthnasol yn gysylltiedig â digwyddiadau neu amodau a all, yn unol neu’n gyfun, fwrw amheuaeth sylweddol dros allu’r cwmni elussenol i fabwysiadu sail gyfrifyddu busnes gweithredol am gyfnod o 12 mis o leiaf o’r dyddiad pan awdurdodir cyhoeddi’r datganiadau ariannol.

Wrth archwilio’r datganiadau ariannol, rydym wedi casglu fod defnydd yr Ymddiriedolwyr o sail gyfrifyddu busnes gweithredol wrth baratoi’r datganiadau ariannol yn briodol.

Fodd bynnag, am nad oes modd rhagweld pob digwyddiad neu amod yn y dyfodol, nid yw'r datganiad hwn yn gwarantu gallu'r cwmni elusennol i barhau fel busnes gweithredol.

Mae ein cyfrifoldebau a chyfrifoldebau’r ymddiriedolwyr ynglŷn â sail busnes gweithredol wedi eu disgrifio yn yr adrannau perthnasol o’r adroddiad hon.

Cyflwyno adroddiadau ar wybodaeth eraill

Mae'r wybodaeth arall yn cynnwys yr holl wybodaeth yn yr Adroddiad Blynyddol, heblaw am y datganiadau ariannol ac adroddiad ein harchwilwyr arnynt. Yr Ymddiriedolwyr sy'n gyfrifol am y wybodaeth arall. Nid yw ein barn am y datganiadau ariannol yn cwmpasu'r wybodaeth arall ac, felly, ni fynegwn farn archwilio nac ychwaith, ar wahân i'r graddau a nodir fel arall yn benodol yn yr adroddiad hwn, unrhyw fath o sicrwydd arni.

Mewn cysylltiad â'n harchwiliad o'r datganiadau ariannol, ein cyfrifoldeb ni yw darllen y wybodaeth arall ac, wrth wneud hynny, ystyried a yw'r wybodaeth arall yn berthnasol anghyson â'r datganiadau ariannol neu'r wybodaeth a gafwyd yn yr archwiliad, neu wedi'i gamddatgan yn sylweddol neu fel arall. Os nodwn anghysondeb perthnasol neu gamddatganiad perthnasol ymddangosiadol, mae'n ofynnol i ni bennu a fu camddatganiad perthnasol o'r datganiadau ariannol neu gamddatganiad perthnasol o'r wybodaeth arall. Os down i'r casgliad, ar sail ein gwaith, fod camddatganiad perthnasol o'r wybodaeth arall hon, rhaid i ni nodi hynny. Nid oes gennym unrhyw beth i'w nodi ar sail y cyfrifoldebau hyn.

Ar sail y gwaith a gyflawnwyd yn ystod yr archwiliad, mae Deddf Cwmnïau 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i ni adrodd rhai barnau a materion fel y disgrifir isod.

9

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Adroddiad yr archwilwyr annibynnol at aelodau Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (parhad)

Adroddiad yr Ymddiriedolwyr

Yn ein barn ni, ar sail y gwaith a wnaed yn ystod yr archwiliad, mae'r wybodaeth a roddwyd yn Adroddiad yr Ymddiriedolwyr ar gyfer y cyfnod ariannol y paratowyd y datganiadau ariannol ar ei chyfer yn gyson â'r datganiadau ariannol; ac mae Adroddiad yr Ymddiriedolwyr wedi'i baratoi yn unol â gofynion cyfreithiol cymwys.

Hefyd, yn sgil gwybodaeth a dealltwriaeth y cwmni elusennol a'i amgylchedd a gafwyd yn ystod yr archwiliad, mae'n ofynnol i ni adrodd a ydym wedi nodi unrhyw gamddatganiadau perthnasol yn Adroddiad yr Ymddiriedolwyr. Nid oes gennym unrhyw beth i'w nodi yn hyn o beth.

Cyfrifoldebau dros y datganiadau ariannol a’r archwiliad

Cyfrifoldebau’r Ymddiriedolwyr dros y datganiadau ariannol

Fel yr eglurir yn fanylach yn y Datganiad o gyfrifoldebau'r Ymddiriedolwyr ar dudalen 7, mae'r Ymddiriedolwyr (sydd hefyd yn gyfarwyddwyr y cwmni elusennol at ddibenion cyfraith cwmnïau) yn gyfrifol am baratoi'r datganiadau ariannol yn unol â'r fframwaith cymwys ac am fodloni'u hunain bod y datganiadau hynny yn rhoi darlun gwir a theg. Mae'r Ymddiriedolwyr hefyd yn gyfrifol am y fath reolaeth fewnol ag sy'n angenrheidiol yn eu barn nhw i allu paratoi datganiadau ariannol heb unrhyw gamddatganiadau perthnasol, boed hynny drwy dwyll neu wall.

Wrth baratoi'r datganiadau ariannol, mae'r Ymddiriedolwyr yn gyfrifol am asesu gallu'r cwmni elusennol i barhau fel busnes gweithredol, gan ddatgelu fel sy'n gymwys, faterion yn ymwneud â busnes gweithredol a defnyddio sail gyfrifyddu busnes gweithredol oni fydd yr Ymddiriedolwyr naill ai'n bwriadu diddymu'r cwmni elusennol neu roi'r gorau i weithredu, neu nad oes ganddynt opsiwn amgen realistig ond gwneud hynny.

Cyfrifoldebau’r archwilwyr dros archwilio’r datganiadau ariannol

Ein hamcanion yw cael sicrwydd rhesymol ynghylch a yw'r datganiadau ariannol gyda'i gilydd yn rhydd o gamddatganiad perthnasol, boed hynny drwy dwyll neu wall, a chyhoeddi adroddiad yr archwilwyr sy'n cynnwys ein barn. Mae sicrwydd rhesymol yn lefel uchel o sicrwydd, ond nid yw'n gwarantu y bydd archwiliad a gynhelir yn unol â Safonau Archwilio Rhyngwladol y DU bob amser yn canfod camddatganiad perthnasol pan fo'n bodoli. Gall camddatganiadau ddeillio o dwyll neu wall ac fe'u hystyrir yn berthnasol os, yn unigol neu gyda'i gilydd, y gellid disgwyl iddynt yn rhesymol ddylanwadu ar benderfyniadau economaidd defnyddwyr a wneir ar sail y datganiadau ariannol hyn.

Mae afreoleiddiau, gan gynnwys twyll, yn enghreifftiau o ddiffyg cydymffurfiad gyda chyfreithiau neu rheoliadau. Rydym yn cynllunio gweithrediadau yn unol â’n cyfrifoldebau, fel nodir uchod, i ganfod camddatganiadau perthnasol yn ymwneud â’r afreoleiddiau, gan gynnwys twyll. Mae’r gradd y gall ein gweithrediadau ganfod afreoleiddiau, gan gynnwys twyll, wedi ei nodi isod.

Ar sail ein dealltwriaeth o’r cwmni elusennol/diwydiant, adnabon ni fod y prif risg o ddiffyg cydymffurfiad gyda chyfreithiau neu rheoliadau yn ymwneud â deddfwriaeth cyflogaeth neu elusennol, ac fe ystyrion ni y gradd y gall unrhyw ddiffyg cydymffurfiad gael effaith perthnasol ar y datganiadau ariannol. Hefyd, fe ystyrion ni y cyfreithiau a rheoliadau sy’n cael effaith uniongyrchol ar y datganiadau ariannol fel Deddf Cwmnïau 2006. Gwerthuson ni gymhelliant a chyfle y rheolwyr ar gyfer triniaeth twyllodrus o’r datganiadau ariannol (gan gynnwys y risg o ddiystyru rheolaethau) gan gasglu fod y prif risgiau yn ymwneud â thrafodiadau twyllodrus wedi eu dylunio i orddatgan perfformiad a safle cyllidol y cwmni. Mae’r gweithdrefnau archwiliol a berfformiwyd yn cynnwys:

• Adolygu cofnodion y Bwrdd a chynnal trafodaethau gyda’r rheolwyr, gan gynnwys ystyried unrhyw enghreifftiau hysbys neu amheuaethol o ddiffyg cydymffurfiad gyda chyfreithiau neu rheoliadau a thwyll;

• Defnyddio thechnegau cyfrifiadurol i gydnabod a phrofi cofnodion risg uwch, yn enwedig y rhai sy’n cael eu hystyried i gynnwys cyfuniadau cyfrifon annisgwyl;

Mae cyfyngiadau cynhenid yn y gweithdrefnau archwiliol a ddisgrifir uchod. Rydym yn llai tebygol i ganfod enghreifftiau o ddiffyg cydymffurfiad gyda chyfreithiau neu rheoliadau sydd ddim yn hynod gysylltiedig â’r digwyddiadau a thrafodiadau a ddatgelir o fewn y datganiadau ariannol. Hefyd, mae’r risg o beidio canfod camddatganiad perthnasol o achos twyll yn uwch na’r risg o beidio canfod un o achos gwall, gan y gall twyll gynnwys cudd bwriadol drwy, er enghraifft, ffugio neu camliwiad bwriadol neu drwy gydgynllwynio.

10

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Adroddiad yr archwilwyr annibynnol at aelodau Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (parhad)

Ceir disgrifiad pellach o'n cyfrifoldebau am archwilio'r datganiadau ariannol ar wefan y Cyngor Adrodd Ariannol ar: www.frc.org.uk/auditorsresponsibilities. Mae'r disgrifiad hwn yn rhan o'n hadroddiad archwilio.

Defnyddio’r adroddiad hwn

Paratowyd yr adroddiad hwn, yn cynnwys y farn, ar gyfer aelodau'r elusen fel corff ac ar eu cyfer hwy yn unig yn unol â Phennod 3 o Ran 16 o Ddeddf Cwmnïau 2006 ac nid at unrhyw ddiben arall. Nid ydym, wrth roi'r farn hon, yn derbyn nac yn cymryd cyfrifoldeb am unrhyw ddiben arall nac unrhyw berson arall y dangosir yr adroddiad hwn iddo neu y daw ger ei fron heblaw lle y mynegir hynny'n benodol drwy ein caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw.

Adroddiadau gofynnol eraill

Adroddiadau eithriadau Deddf Cwmnïau 2006

Yn unol â Deddf Cwmnïau 2006, mae'n ofynnol i ni eich hysbysu os yw'r canlynol yn berthnasol yn ein barn ni:

Nid oes unrhyw eithriadau gennym i'w cofnodi yn deillio o'r cyfrifoldeb hwn.

Yr hawl i fanteisio ar eithriadau

Yn unol â Deddf Cwmnïau 2006, mae'n ofynnol i ni eich hysbysu os, yn ein barn ni, nad oedd gan yr Ymddiriedolwyr yr hawl i wneud y canlynol: paratoi datganiadau ariannol yn unol â threfn y cwmnïau bach; manteisio ar yr eithriad i gwmnïau bach wrth baratoi Adroddiad yr Ymddiriedolwyr; a manteisio ar yr eithriad i gwmnïau bach rhag paratoi Adroddiad Strategol. Nid oes unrhyw eithriadau gennym i'w cofnodi yn deillio o'r cyfrifoldeb hwn.

Jonathan Bound (Uwch Archwilydd Statudol) dros ac ar ran PricewaterhouseCoopers LLP Cyfrifyddion Siartredig ac Archwilwyr Statudol Caerdydd 18 Tachwedd 2021

11

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Rhif Cwmni Cofrestredig: 7550507 Rhif Elusen Cofrestredig: 1143525

Datganiad o weithgareddau ariannol (gan gynnwys y cyfrif incwm a gwariant) ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021

2021 2020
Nodyn
£000 £000
Incwm
Gweithgareddau elusennol 3 7,545 7,027
Incwm o fuddsoddiad 88 91
Cyfanswm yr adnoddau sy'n dod i mewn 7,633 7,118
Gwariant
Gweithgareddau elusennol 4 (7,476) (6,733)
Cyfanswm y gwariant (7,476) (6,733)
Incwm net ar gyfer y flwyddyn 157 385
(Colledion)/Enillion o fuddsoddiadau na wireddwyd 368 (103)
Colledion llog (7) (12)
Symudiad net mewn cronfeydd 518 270
Cysoni cronfeydd
Balansau'r cronfeydd a ddygwyd ymlaen ar 2,859 2,589
ddechrau’r flwyddyn
Balansau'r cronfeydd a gariwyd ymlaen ar 3,377 2,859
ddiwedd y flwyddyn

Mae'r holl enillion a cholledion a gydnabuwyd yn ystod y flwyddyn wedi'u cynnwys yn y Datganiad o Weithgareddau Ariannol.

Mae'r holl adnoddau a ddaeth i mewn a'r adnoddau a wariwyd yn deillio o weithgareddau parhaus.

12

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol Mantolen ar 31 Mawrth 2021 Nodyn 2021 £000 2020 £000 Asedau sefydlog Asedau diriaethol Buddsoddiadau 72 3,518 2,814 Asedau cyfredol Dyledwyr Arian parod yn y banc ac mewn Ilaw Cyfanswm yr asedau cyfredol Credydwyr: symiau sy'n ddyledus o fewn bwddyn Asedau cyfredol net 520 589 202 327 847 791 (3891 402 {629) 218 Cyfanswm yr asedau Ilal rhwymedigaethau cyfredol Darpari8eth bensiwn Asedau net 3,792 3,289 10 14151 3.377 {430} 2,859 Cronfeydd yr elusen Cyfanswm cronfeydd yr elusen I cronfeydd incwm anghyfyngedig 3,377 2,859 Caiff y datganiadau ariannol hyn eu paratoi'n unol a darpariaethau arbennig Rhan 15 o'r Ddeddf Cwmniau sy'n ymwneud a chwmnlau bach ac maent yn ffiJrFio'r datganiadau ariannol btynyddol sy'n ofynnol o dan Ddeddf Cwmnlau 2006 a dylid eu rhannu ag aelodau'r cwmni. Cymeradwywyd y datganiadau ariannol ar dudalennau 12 i 23 gan yr Ymddiriedowr ac fe'u Ilofnodir ar eu rhan gan.. Gwilym Dyfri Jones Cyfarwyddwr Dyddiad 17. 11. 21. Mae'r nodiadau ar dudalennau 15 i 23 yn rh8n o'r datganiadau ariannol hyn. 13

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Datganiad o lifau arian parod ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021

2021 2020
£000 £000
Arian parod a gynhyrchwyd gan/(ddefnyddiwyd gan) 419 (205)
weithgareddaugweithredu(gweler isod)
Llifau arian parod o weithgareddau buddsoddi
Incwm llog 88 91
Prynu asedau buddsoddi (859) (1,086)
Gwerthu asedau buddsoddi 501 300
Prynu asedau sefydlogdiriaethol (17) (64)
Arian parod a ddefnyddiwyd mewn
gweithgareddau buddsoddi (287) (736)
Llifau arianparod o weithgareddau ariannu
Colledion llog (7) (12)
Cynnydd/(gostyngiad) mewn arian parod a'r hyn
sy'n cyfateb i arian parod yn y flwyddyn
125 (953)
Arian parod a'r hyn sy'n cyfateb i arian parod ar
ddechrau'r flwyddyn
202 1,155
Cyfanswm arian parod a'r hyn sy'n cyfateb i arian
parod ar ddiweddy flwyddyn
327 202

Nodyn i’r Datganiad o lifau arian parod

(a) Cysoni symudiadau net mewn cronfeydd i lif arian parod net a gynhyrchwyd gan/(ddefnyddwyd gan) weithgareddau gweithredu

2021 2020
£000 £000
Symudiad net mewn cronfeydd 518 270
Ychwanegu tâl dibrisio 33 30
Ychwanegu/(Didynnu) enillion o fuddsoddiadau a wireddwyd
ac na wireddwyd
(368) 103
Didynnu incwm llog a ddangosir mewn gweithgareddau
buddsoddi
(88) (91)
(Cynnydd)/Gostyngiad mewn dyledwyr 69 (414)
Cynnydd mewn credydwyr 240 172
Symudiad mewn darpariaethpensiwn 15 (275)
Arian parod net a gynhyrchwyd gan/(ddefnyddiwyd gan)
weithgareddaugweithredu
419 (205)

14

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Nodiadau i’r datganiadau ariannol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021

1 Datganiad o Bolisïau Cyfrifyddu

Mae’r prif bolisïau cyfrifyddu, dyfarniadau a ffynonellau allweddol o ansicrwydd amcangyfrif a ddefnyddiwyd wrth baratoi’r datganiadau ariannol fel a ganlyn:

(a) Sail y paratoi

Mae'r datganiadau ariannol wedi'u paratoi'n unol â’r Charities Statement of Recommended Practice sy'n gymwys i elusennau sy'n paratoi eu datganiadau ariannol yn unol â Financial Reporting Standard applicable in the UK and Republic of Ireland (FRS102) (yn weithredol o 1 Ionawr 2019) – SORP Elusennau (FRS102), Financial Reporting Standard applicable in the UK and Republic of Ireland (FRS102) a Deddf Cwmnïau 2006.

(b) Trethiant

Fel elusen gofrestredig, mae'r elusen wedi'i heithrio ar y cyfan rhag treth gorfforaeth o dan adrannau 466 i 493 o Ddeddf Trethi Corfforaeth 2010, ar yr amod bod yr incwm a geir yn cael ei gymhwyso at ddibenion elusennol. Mae Adran 256 o TCGA 1992 hefyd yn darparu eithriad rhag treth ar enillion cyfalaf, ar yr amod bod yr enillion yn cael eu cymhwyso at ddibenion elusennol. Nid oes unrhyw dâl treth yn codi yn y flwyddyn.

(c) Incwm a pholisïau cydnabod

Caiff eitemau incwm eu cydnabod a'u cynnwys yn y datganiadau ariannol pan fydd yr holl feini prawf canlynol wedi'u bodloni:

(d) Llog derbyniadwy

Caiff llog ar gronfeydd a ddelir ar flaendal ei gynnwys pan fydd yn dderbyniadwy ac y gall yr elusen fesur y swm yn ddibynadwy; gwneir hyn fel arfer pan geir hysbysiad ynghylch y llog a dalwyd neu sy'n daladwy gan y Banc.

(e) Cyfrifo’r gronfa Mae cronfeydd anghyfyngedig ar gael i'w gwario ar weithgareddau sy'n datblygu unrhyw un o ddibenion yr elusen.

(f) Gwariant

Cydnabyddir gwariant unwaith y bydd rhwymedigaeth gyfreithiol neu adeiladol i wneud taliad i drydydd parti, ei bod yn debygol y bydd angen setliad ac y gellir mesur swm y rhwymedigaeth yn ddibynadwy. Caiff gwariant ei ddosbarthu o dan y penawdau gweithgareddau canlynol:

(g) Dyrannu costau cymorth

Costau cymorth yw'r swyddogaethau hynny sy'n cynorthwyo gwaith yr elusen ond nad ydynt yn cyflawni gweithgareddau elusennol yn uniongyrchol. Mae costau cymorth yn cynnwys costau swyddfa gefn, personél cyllid, cyflogres a llywodraethu sy'n cefnogi'r gweithgareddau addysgol. Mae'r seiliau a ddefnyddiwyd i ddyrannu costau cymorth wedi'u nodi yn nodyn 4.

15

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Nodiadau i’r datganiadau ariannol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021 (parhad)

1 Datganiad o Bolisïau Cyfrifyddu (parhad)

(h) Asedau sefydlog diriaethol Caiff asedau sefydlog eu cyfalafu ar sail cost a chânt eu dibrisio drwy gydol eu hoes economaidd ddefnyddiol amcangyfrifedig ar sail llinell syth fel a ganlyn:

Cyfradd flynyddol Offer swyddfa 10-25% Offer cyfrifiadurol 33%

(i) Dyledwyr Caiff dyledwyr masnach a dyledwyr eraill eu cydnabod ar y swm setlo. Caiff rhagdaliadau eu prisio ar y swm a ragdalwyd ar ôl ystyried unrhyw ostyngiadau masnach sy'n ddyledus.

(j) Buddsoddiadau Caiff buddsoddiadau eu prisio ar bris y farchnad a ddyfynnir. Mae enillion neu golledion na wireddwyd yn deillio o'r symudiad yng ngwerth y farchnad yn y flwyddyn.

(k) Arian parod yn y banc ac mewn llaw Mae arian parod yn y banc ac mewn llaw yn cynnwys arian parod a buddsoddiadau hynod hylifol byrdymor gyda chyfnod aeddfedrwydd byr o dri mis neu lai o'r dyddiad caffael neu ddyddiad agor cyfrif adneuo neu gyfrif tebyg.

(l) Credydwyr

Mae credydwyr byr dymor wedi eu mesur ar bris y gweithrediad (fel arfer pris yr anfoneb).

(m) Offerynnau ariannol Mae’r Coleg wedi dewis mabwysiadu adrannau 11 a 12 o FRS 102 mewn perthynas ag offerynnau ariannol.

i. Asedau ariannol

Caiff asedau ariannol sylfaenol, gan gynnwys dyledwyr masnach a dyledwyr eraill, arian parod a balansau banc a buddsoddiadau mewn papur masnachol, eu cydnabod yn y lle cyntaf ar bris y trafodiad, oni bai bod y trefniant yn golygu trafodyn ariannu, lle mesurir y trafodyn ar werth presennol y derbyniadau yn y dyfodol wedi'u disgowntio ar gyfradd llog y farchnad.

O ganlyniad, caiff asedau o'r fath eu cario ar gost wedi'i hamorteiddio gan ddefnyddio'r dull llog effeithiol.

Ar ddiwedd pob cyfnod adrodd caiff asedau ariannol a fesurir ar gost wedi'i hamorteiddio eu hasesu ar gyfer tystiolaeth wrthrychol o amhariad. Os amherir ar ased, y golled o ran lleihad mewn gwerth yw'r gwahaniaeth rhwng swm cario a gwerth presennol y llifau arian parod amcangyfrifedig wedi’u disgowntio ar gyfradd llog effeithiol wreiddiol yr ased. Cydnabyddir y golled o ran lleihad mewn elw neu golled.

Os bydd gostyngiad yn y golled o ran lleihad mewn gwerth sy'n deillio o ddigwyddiad ar ôl i'r amhariad gael ei gydnabod, caiff y nam ei wrthdroi. Mae'r gwrthdroad yn golygu nad yw'r swm cario cyfredol yn fwy na'r swm cario pe na bai'r amhariad wedi'i gydnabod o'r blaen. Cydnabyddir y gwrthdroad amhariad mewn elw neu golled.

Mae asedau ariannol eraill, gan gynnwys buddsoddiadau mewn offerynnau ecwiti nad ydynt yn is-gwmnïau, cymdeithion na chyd-fentrau, yn cael eu mesur i ddechrau ar werth teg, sef pris y trafodiad fel rheol.

16

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Nodiadau i’r datganiadau ariannol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021 (parhad)

1 Datganiad o Bolisïau Cyfrifyddu (parhad)

(m) Offerynnau ariannol (parhad)

Yn dilyn hynny, mae asedau o'r fath yn cael eu cario ar werth teg a chydnabyddir y newidiadau mewn gwerth teg mewn elw neu golled, ac eithrio bod buddsoddiadau mewn offerynnau ecwiti nad ydynt yn cael eu masnachu'n gyhoeddus ac na ellir mesur eu gwerthoedd teg yn ddibynadwy yn cael eu mesur ar gost llai amhariad.

Mae asedau ariannol yn cael eu dad-gydnabod pan fydd (a) yr hawliau cytundebol i'r llif arian o'r ased yn dod i ben neu'n cael eu setlo neu (b) yn sylweddol bod holl risgiau a gwobrau perchnogaeth yr ased yn cael eu trosglwyddo i barti arall neu (c) rheolaeth o’r ased wedi ei drosglwyddo i barti arall sydd â'r gallu ymarferol i werthu'r ased yn unochrog i drydydd parti digyswllt heb orfodi cyfyngiadau ychwanegol.

ii. Rhwymedigaethau ariannol

Mae rhwymedigaethau ariannol sylfaenol, gan gynnwys credydwyr, yn cael eu cydnabod yn y lle cyntaf ar bris y trafodiad, oni bai bod y trefniant yn gyfystyr â thrafodyn cyllido, lle mesurir yr offeryn dyled ar werth presennol y derbyniadau yn y dyfodol wedi'u disgowntio ar gyfradd llog y farchnad.

Mae credydwyr masnach yn ymrwymiadau i dalu am nwyddau neu wasanaethau sydd wedi'u caffael yng nghwrs arferol busnes gan gyflenwyr. Caiff credydwyr eu dosbarthu fel rhwymedigaethau cyfredol os yw'r taliad yn ddyledus o fewn un flwyddyn neu lai. Os nad ydynt, fe'u cyflwynir fel rhwymedigaethau anghyfredol. Caiff credydwyr masnach eu cydnabod yn y lle cyntaf ar bris y trafodiad a'u mesur yn dilyn hynny ar gost wedi'i hamorteiddio gan ddefnyddio'r dull llog effeithiol.

Caiff rhwymedigaethau ariannol eu diddymu pan gaiff yr atebolrwydd ei ddiddymu, hynny yw, pan mae'r rhwymedigaeth gytundebol yn cael ei chyflawni, ei chanslo neu ei dirwyn i ben.

iii. Gwrthbwyso

Caiff asedau a rhwymedigaethau ariannol eu gwrthbwyso a'r symiau net eu cyflwyno yn y datganiadau ariannol pan fo hawl gyfreithiol i orfodi'r symiau cydnabyddedig a bod bwriad i setlo ar sail net neu i wireddu'r ased a setlo'r rhwymedigaeth ar yr un pryd.

(n) Cynlluniau pensiwn

Prif gynllun pensiwn budd diffiniedig staff y Coleg yw Cynllun Blwydd-dal y Prifysgolion (USS). Mae'r cynllun yn gynllun budd diffiniedig a ariennir. Caiff y cronfeydd eu prisio yn actiwaraidd gan actiwari cymwysedig proffesiynol bob tair blynedd gan ddefnyddio naill ai'r dull cronni neu'r dull oedran a gyrhaeddwyd gyda chyfraddau'r cyfraniad sy'n daladwy yn cael eu pennu gan Ymddiriedolwyr y cynllun ar sail cyngor yr actiwari. Y prisiant diweddaraf oedd ar gael ar gyfer y cynllun ar 31 Mawrth 2018 oedd y prisiant Mawrth 2018. Mae prisiant o’r cynllun ar 31 Mawrth 2020 ar y gweill.

Mae'r USS yn gynllun aml-gyflogwr ac nid yw'n bosibl nodi'r asedau na'r rhwymedigaethau i aelodau'r Coleg oherwydd natur gydfuddiannol y cynllun. Felly, cyfrifir am y cynllun fel cynllun budd ymddeol cyfraniad diffiniedig.

Cofnodir rhwymedigaeth o fewn darpariaethau unrhyw ymrwymiad cytundebol i ariannu diffygion blaenorol o fewn y cynllun USS.

17

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Nodiadau i’r datganiadau ariannol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021 (parhad)

1 Datganiad o Bolisïau Cyfrifyddu (parhad)

(o) Amcangyfrifon a barnau sylweddol

Roedd yr amcangyfrifon a'r barnau sylweddol a ddefnyddiwyd wrth baratoi'r wybodaeth ariannol hon fel a ganlyn:

(i) Rhwymedigaethau budd ymddeol

Cyfrifir am yr USS fel cynllun cyfraniad diffiniedig gan nad oes digon o wybodaeth ar gael i ddefnyddio cyfrifyddu budd diffiniedig. Fodd bynnag, gan fod y Coleg yn gytundebol rhwymedig i dalu cyfraniadau i'r USS er mwyn ariannu diffygion blaenorol, mae’r elfen hon o’r rhwymedigaeth wedi ei ddatgelu ar y fantolen.

Mae'r cynllun adfer diffygion a roddwyd ar waith gan yr USS yn nodi cyfran y cyfraniadau ariannol sy'n ymwneud ag adfer diffygion blaenorol, a'r cyfnod y'u hymrwymir iddo. Caiff y cyfraniadau diffyg ymrwymedig hyn eu hailasesu pan brisir y cynllun bob tair blynedd, ac maent yn sail i'r ddarpariaeth, ynghyd â thybiaethau ynghylch ffactorau chwyddiant a disgownt priodol. Mae’r tybiaethau hyn yn effeithio ar lefel y ddarpariaeth a gyfrifir. Mae manylion pellach wedi eu cyflwyno o fewn Nodyn 10.

2 Statws cyfreithiol yr Elusen

Mae'r Elusen yn gwmni cyfyngedig drwy warant ac nid oes ganddi gyfalaf cyfranddaliadau. Pe bai'r Elusen yn cael ei dirwyn i ben, mae'r rhwymedigaeth mewn perthynas â'r warant wedi'i chyfyngu i £10 fesul aelod.

3 Adnoddau sy’n dod i mewn o weithgareddau elusennol

Gweithgareddau elusennol

eithgareddau elusennol
2021 2020
£000 £000
Grantiau Llywodraeth Cymru 6,621 6,357
Incwm arall 924 670
7,545 7,027

4 Dadansoddiad gwariant

Mae'r prif eitemau gwariant fel a ganlyn:

f eitemau gwariant fel a ganlyn:
2021 2020
£000 £000
Gweithgareddau elusennol
Ariannu prosiectau Addysg 5,642 4,969
Costau cyflogaeth y Coleg – uniongyrchol 719 695
Gostyngiad yn y ddarpariaeth USS (Nodyn 10) (1) (275)
Costau cyflogaeth y Coleg – cymorth 547 569
Costau llywodraethu 51 42
Costau cymorth 518 733
7,476 6,733

18

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Nodiadau i’r datganiadau ariannol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021 (parhad)

4 Dadansoddiad gwariant (parhad)

adansoddiad gwariant (parhad)
2021 2020
£000 £000
Costau cymorth
Marchnata a chyfathrebu 50 194
Hyfforddiant 26 40
Costau cytundeb rhwydwaith 179 221
Rhent 119 88
Gweinyddu 144 190
518 733

Caiff costau eu dyrannu i gostau cymorth ar sail dadansoddiad o'r rheswm dros fynd i'r costau dan sylw.


ostau dan sylw.
2021 2020
£000 £000
Costau llywodraethu
Archwiliad allanol 16 14
Archwiliad mewnol 12 11
Cyfarfodydd yr Ymddiriedolwyr 23 17
**51 ** 42
Mae'r adnoddau a wariwyd yn cynnwys y costau canlynol:
2021 2020
£000 £000
Dibrisiant 33 30

Mae'r adnoddau a wariwyd yn cynnwys y costau canlynol:

5 Dadansoddiad o gostau staff a chydnabyddiaeth a threuliau'r Ymddiriedolwyr

Ni chafodd yr Ymddiriedolwyr unrhyw enillion yn ystod y flwyddyn (2020: £dim). Talwyd treuliau o £4,375 (2020: £11,442) i’r Ymddiriedolwyr. Talwyd treuliau i 5 o Ymddiriedolwyr (2020: 7).

Costau staff

Nifer fisol gyfartalog yr unigolion a gyflogwyd gan y Coleg yn ystod y flwyddyn oedd 27 (2020: 27).

2021 2020
£000 £000
Cyflogau 969 961
Costau nawdd cymdeithasol 106 101
Costau pensiwn eraill 210 198
1,285 1,260

19

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Nodiadau i’r datganiadau ariannol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021 (parhad)

5 Dadansoddiad o gostau staff a chydnabyddiaeth a threuliau'r Ymddiriedolwyr (parhad)

Nodir isod fanylion cyflogeion gyda chyflogau sy'n fwy na £60,000:

2021 2020
Nifer Nifer
£60,000 - £70,000 - 2
£70,000 - £80,000 2 1
£80,000-£90,000 1 -
6 Asedau diriaethol
Offer Offer Cyfanswm
swyddfa cyfrifiadurol
£000 £000 £000
Cost
Ar 1 Ebrill 2020 56 234 290
Ychwanegiadau - 17 17
Ar 31 Mawrth 2021 56 251 307
Dibrisiant cronedig
Ar 1 Ebrill 2020 49 169 218
Tâl a godwyd am y cyfnod 3 30 33
Ar 31 Mawrth 2021 49 169 218
Gwerth llyfr net
Ar 31 Mawrth 2021 4 52 56
Ar 31 Mawrth 2020 7 65 72
7 Buddsoddiadau
2021 2020
£000 £000
Ar 1 Ebrill 2,814 2,131
Ychwanegiadau 859 1,086
Gwerthiant (501) (300)
(Colledion)/enillion net na wireddwyd yn y flwyddyn 346 (103)
Ar 31 Mawrth 3,518 2,814

Mae buddsoddiadau'n cael eu cadw yng nghronfeydd buddsoddi a reolir yn y Deyrnas Unedig.

Mae'r buddsoddiadau'n cynnwys £301,000 (2020: £302,000) a fuddsoddwyd mewn cronfa rhydd a £3,216,000 (2020: £2,490,000) a fuddsoddir mewn cronfeydd pen agored. Cedwir yr holl fuddsoddiadau mewn cronfeydd a ymgorfforir yn y Deyrnas Unedig.

8 Dyledwyr

yledwyr
2021 2020
£000 £000
Dyledwyr masnach 422 455
Rhagdaliadau ac incwm cronedig 98 134
520 589

20

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Nodiadau i’r datganiadau ariannol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021 (parhad)

2021 2020
£000 £000
Credydwyr masnach 209 266
Trethiant a nawdd cymdeithasol arall 23 26
Croniadau ac incwmgohiriedig 397 97
629 389

10 Darpariaeth pensiwn

arpariaeth pensiwn
Rhwymedigaeth i
ariannu diffyg ar
bensiwn USS
£000
Ar 1 Ebrill 2020 430
Cyfraniadau (20)
Gostyngiad yn y ddarpariaeth (1)
Colledion llog 6
Ar 31 Mawrth 2021 415

Diffyg USS

Mae'r rhwymedigaeth i ariannu'r diffyg blaenorol ar Gynllun Blwydd-dal y Prifysgolion (USS) yn deillio o'r rhwymedigaeth gytundebol â'r cynllun pensiwn am gyfanswm taliadau yn ymwneud â buddiannau o berfformiad blaenorol. Mae'r rheolwyr wedi asesu cyflogeion y dyfodol o fewn y cynllun USS a thaliadau cyflog dros gyfnod y rhwymedigaeth gytundebol wrth asesu gwerth y ddarpariaeth hon yn seiliedig ar amodau oedd yn bodoli ar yr adeg hynny.

Roedd y tybiaethau allweddol a ddefnyddiwyd ar ddiwedd y cyfnod adrodd fel a ganlyn:

2021 2020
% %
Twf cyflogau 2.50 2.50
Cyfradd disgownt 1.10 1.53

11 Trafodion â phartïon cysylltiedig

Yn ystod y cyfnod, cynhaliwyd y trafodion canlynol â phartïon cysylltiedig:

21

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Nodiadau i’r datganiadau ariannol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021 (parhad)

12 Cwmni cyfyngedig drwy warant

Mae'r Coleg yn gwmni cyfyngedig drwy warant ac felly nid oes ganddo unrhyw gyfalaf cyfranddaliadau.

Y sefydliadau canlynol yw gwarantwyr y cwmni:

Cyfyngir rhwymedigaeth pob aelod i £10, sef y swm y mae pob aelod yn ymrwymo i'w gyfrannu at asedau'r Coleg os caiff ei ddirwyn i ben tra ei fod yn aelod neu o fewn blwyddyn i'r dyddiad y daeth ei aelodaeth i ben, er mwyn:

13 Cynllun pensiwn

Cynllun Blwydd-dal y Prifysgolion (USS) yw'r prif gynllun sy'n cwmpasu staff, sy'n darparu buddion yn seiliedig ar gyflog pensiynadwy terfynol ar gyfer aelodau Cyflog Terfynol (sydd bellach ar gau i newydd-ddyfodiaid) a Buddion a Ailbrisiwyd yn ystod Gyrfa (CRB) ar gyfer newydd-ddyfodiaid ers 2011. Delir asedau'r cynllun ar wahân mewn cronfa a weinyddir gan yr ymddiriedolwr, Universities Superannuation Limited.

Oherwydd natur gydfuddiannol y cynllun, nid yw asedau'r cynllun wedi'u neilltuo i'r Coleg a sefydliadau unigol a phennir cyfraniad cynllun eang. Felly mae'r Coleg yn agored i risgiau actiwaraidd sy'n gysylltiedig â chyflogeion sefydliadau eraill ac ni all nodi ei gyfran o asedau a rhwymedigaethau sylfaenol y cynllun ar sail gyson a rhesymol ac felly, fel sy'n ofynnol gan FRS102, mae'n cyfrif am y cynllun fel petai'n gynllun cyfraniad diffiniedig.

O ganlyniad, mae'r swm a godir i'r cyfrif incwm a gwariant yn cynrychioli'r cyfraniadau sy'n daladwy i'r cynllun o ran y cyfnod cyfrifyddu. Fodd bynnag, o dan y SORP Elusennau newydd (FRS102), mae rhwymedigaeth hefyd wedi'i chofnodi o fewn darpariaethau ar gyfer unrhyw ymrwymiad cytundebol i ariannu diffygion blaenorol o fewn yr USS.

Gall symudiadau yn y ddarpariaeth hon hefyd arwain at godi ffioedd ar y cyfrif incwm a gwariant fel y dangosir yn nodyn 10 uchod.

22

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Nodiadau i’r datganiadau ariannol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021 (parhad)

14
Offerynnau ariannol
Mae gan yr elusen yr offerynnau ariannol canlynol:
Nodyn 2021
£000
2020
£000
Asedau ariannol
Asedau ariannol ar werth teg drwy elw a cholled
- Buddsoddiadau 7 3,518 2,814
Asedau ariannol sy'n offerynnau dyled a fesurir ar gost
amorteiddio
- Dyledwyr masnach 8 422 455
Cyfanswm asedau ariannol 3,940 3,269
Rhwymedigaethau ariannol
Rhwymedigaethau ariannol a fesurir ar gost amorteiddio
- Credydwyr masnach 9 209 266
- Croniadau 9 397 97
Cyfanswm rhwymedigaethau ariannol 606 363

15 Ymrwymiadau prydlesu gweithredol

Mae lleiafswm y taliadau prydlesu dyfodol drwy prydlesu gweithredol nad ellir eu dirymu fel a ganlyn:

2021 2020
£000 £000
- Heb fod yn hwyrach na blwyddyn 71 71
- Yn hwyrach na blwyddyn a heb fod yn hwyrach na 188 259
phum mlynedd
259 330

23