**Rhif Cwmni Cofrestredig: 7550507 Rhif Elusen Cofrestredig: 1143525** 

## **Y COLEG CYMRAEG CENEDLAETHOL** 

**Adroddiad yr Ymddiriedolwyr a'r Datganiadau Ariannol Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2021** 



Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 

## **Adroddiad yr Ymddiriedolwyr a'r datganiadau ariannol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021** 

||**TUDALEN**|
|---|---|
|GWYBODAETH GYFREITHIOL A GWEINYDDOL|1|
|ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR AR GYFER Y FLWYDDYN A|2|
|DDAETH I BEN AR 31 MAWRTH 2021||
|ADRODDIAD YR ARCHWILWYR ANNIBYNNOL AT AELODAU Y|9|
|COLEG CYMRAEG CENEDLAETHOL||
|DATGANIAD O WEITHGAREDDAU ARIANNOL (GAN GYNNWYS Y|12|
|CYFRIF INCWM A GWARIANT) AR GYFER Y FLWYDDYN A DDAETH I||
|BEN AR 31 MAWRTH 2021||
|MANTOLEN AR 31 MAWRTH 2021|13|
|DATGANIAD O LIFAU ARIAN PAROD|14|
|NODIADAU I'R DATGANIADAU ARIANNOL|15|





Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 

## **Gwybodaeth gyfreithiol a gweinyddol** 

## **Ymddiriedolwyr a Chyfarwyddwyr** 

## **Cadeirydd** 

Llinos Roberts (penodwyd fel Cadeirydd interim ar 4 Gorffennaf 2021) 

**Cyfarwyddwyr** Pedr ap Llwyd William David Callaway Yr Athro Thomas Gerald Hunter Gwilym Dyfri Jones Dr Thomas Hefin Jones  (daeth ei dymor i ben 31 Mawrth 2021) Dr Rhodri Llwyd Morgan  (death ei dymor I ben 3 Tachwedd 2021) Llinos Ann Roberts 

Yr Athro Hywel Rhys Thomas  (daeth ei dymor i ben 31 Mawrth 2021) Angharad Mai Roberts Nia Elias Meri Huws Dr Anwen Jones  (penodwyd ar 17 Mawrth 2021) Yr Athro Enlli Môn Thomas  (penodwyd ar 1 Ebrill 2021) Ann Beynon  (penodwyd ar 1 Ebrill 2021) Rhys Evans  (penodwyd ar 17 Tachwedd 2021) Gareth Ellis Pierce  (bu farw ar 3 Gorffennaf 2021) 

**Swyddfa** Y Llwyfan **gofrestredig** Heol Y Coleg Caerfyrddin Sir Gaerfyrddin SA31 3EQ 

**Rhif** 07550507 (Cymru a Lloegr) **cofrestredig Statws** Cwmni cyfyngedig drwy warant **Rhif elusen** 1143525 

1 



Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 

## **Adroddiad yr Ymddiriedolwyr ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021** 

Mae'n dda gan yr Ymddiriedolwyr gyflwyno eu hadroddiad blynyddol, ynghyd â datganiadau ariannol archwiliedig yr Elusen am y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2021, sydd hefyd yn bodloni'r gofynion ar gyfer adroddiad cyfarwyddwyr a datganiadau ariannol at ddibenion Deddf Cwmnïau. 

Mae'r datganiadau ariannol yn cydymffurfio â Deddf Elusennau 2011, Deddf Cwmnïau 2006, y Memorandwm ac Erthyglau Cymdeithasu, Datganiad o'r Arfer a Argymhellir sy'n berthnasol i elusennau sy'n paratoi eu datganiadau ariannol yn unol â'r Datganiad Adrodd Ariannol sy'n berthnasol yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon (FRS102) (a ddaeth i rym 1 Ionawr 2019) (SORP Elusennau (FRS102)). 

## **Adroddiad Cadeirydd y Coleg** 

Cyflwynir adroddiad eleni gan Gadeirydd interim Bwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg. Yn ddisymwth, bu farw’r Cadeirydd, Gareth Pierce ar 3 Gorffennaf 2021. Mae dyled y Coleg yn fawr iawn i Gareth am ei waith ddiflino yn llywio’r Coleg yn ddeheuig drwy gyfnod y pandemig, gan gynnwys cynnal trafodaethau adeiladol gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau cyllideb ychwanegol i’r Coleg ar gyfer 2021/22 a thu hwnt. Mae dyled Cymru yn fawr iawn iddo am ei gyfraniad ers degawadau i fyd addysg ac estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf i’w briod, ei deulu a’i gydnabod. 

Taflodd y pandemig gysgod dros holl weithgareddau’r Coleg yn ystod 2020/21, ond ymatebwyd yn effeithiol a hyblyg i’r heriau drwy addasu ei ddulliau gweithio a’i gynlluniau, a sicrhau fod cymaint â phosib o’n gweithgareddau yn parhau (ar ryw ffurf). 

Ym maes Addysg Uwch mae’r drefn gyllido drwy Grantiau Pynciol yn parhau ac mae swyddogion y Coleg yn cydweithio’n agos gyda phrifysgolion ac adrannau unigol oddi fewn i’r prifysgolion i sicrhau fod nodau uchelgeisiol yn cael eu cyrraedd. Mae’r cynllun Darlithwyr Cysylltiol yn parhau i dyfu gan gynnwys pob darlithydd cyfrwng Cymraeg yn yr adrannau / ysgolion academaidd hynny sy’n derbyn Grantiau Pynciol. 

Cofrestrodd dros 3,000 o ddysgwyr a myfyrwyr, dros 2,000 o ddarpar fyfyrwyr a dros 1,000 o staff yn aelodau o gymuned academaidd y Coleg. Dyfarnwyd dros 600 o ysgoloriaethau myfyriwr – y nifer uchaf erioed. Bu’r Coleg yn cydlynu prosiect sylweddol i ddatblygu deunyddiau dysgu digidol cyfrwng Cymraeg dan nawdd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn ystod y flwyddyn, gan dynnu ynghyd staff academaidd o nifer o sefydliadau a phynciau er mwyn cyfoethogi’r adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr. Cyhoeddwyd dau rifyn o _Gwerddon_ ynghyd ag adnoddau cynhwysfawr fel y _Pecyn Adnoddau Amlgyfrwng Cymdeithaseg_ , cyfres podlediadau _Pod JOMEC Cymraeg_ , gwefan _Profion Ffitrwydd_ , adnoddau Sbaeneg/Cymraeg _Ánimo_ , ac adroddiad dylanwadol ar _Ail gartrefi: Datblygu polisïau newydd yng Nghymru_ . 

Mae’r Coleg hefyd wedi cyflawni gwaith sylweddol ym meysydd Addysg Bellach a Phrentisiaethau. Mae gwaith cynllunio sylweddol wedi digwydd ac mae’r gyfres gyntaf o Grantiau Datblygu i gefnogi swyddi mewn meysydd blaenoriaeth wedi eu dyfarnu. 

Bydd yr argyfwng COVID a’i effeithiau yn dylanwadu ar y Coleg a’i bartneriaid am gyfnod sylweddol i ddod. 

Diolchwn i bawb sydd wedi gweithio oddi fewn a thu allan i’r Coleg wrth ymateb yn rhagweithiol i’r cyfnod digynsail hwn. 

2 



Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 

## **Adroddiad yr Ymddiriedolwyr** 

## **ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021 (parhad)** 

## **Ein diben a'n gweithgareddau** 

## **Amcanion elusennol** 

Amcan y Coleg fydd, er budd y cyhoedd, hyrwyddo dysgu a gwybodaeth drwy: 

- (a) hyrwyddo, cynnal, datblygu a chynllunio darpariaeth cyfrwng Cymraeg a iaith Gymraeg a gweithgareddau perthynol mewn addysg uwch, sefydliadau addysg bellach ac addysg barhaus yng Nghymru, gan weithio gyda sefydliadau addysg uwch, addysg bellach, ysgolion a sefydliadau partner yng Nghymru a thrwyddynt; a 

- (b) hyrwyddo, cynnal, datblygu a chynllunio dysgu, caffael, gwella a gloywi sgiliau cyfathrebu iaith Gymraeg i bobl yn gyffredinol gyda sefydliadau addas yng Nghymru a mannau eraill. 

## **Budd cyhoeddus** 

Mae'r Ymddiriedolwyr wedi ystyried canllawiau'r Comisiwn Elusennau ar fudd cyhoeddus gan gydnabod tair egwyddor budd cyhoeddus ac mae o'r farn bod y Coleg, fel elusen, yn bodloni'r egwyddorion hynny. Nodir Amcanion y Coleg uchod. 

- a) Mae'n rhaid bod budd neu fuddiannau canfyddadwy sy'n glir, yn gysylltiedig â nodau'r Coleg ac wedi'u pwyso a'u mesur yn erbyn unrhyw anfantais neu niwed; 

- b) Mae'n rhaid bod buddiannau i'r cyhoedd neu garfan o'r cyhoedd.  Mae'n rhaid i'r buddiolwyr fod yn briodol i'r nodau ac, os cynigir budd i garfan o'r cyhoedd, ni ddylid cyfyngu'n afresymol ar y cyfle i gael budd ac ni ddylid eithrio pobl mewn tlodi rhag cael budd; 

- c) Yr unigolion hynny sydd am gael addysg uwch, addysg bellach, ac sydd am ddysgu yn y gweithle drwy gyfrwng y Gymraeg yw'r buddiolwyr posibl o ran gweithgareddau'r Coleg. Mae hyn yn agored i bawb sy'n meddu ar y sgiliau gofynnol a'r penderfyniad i geisio addysg ôl-orfodol yn y modd hwn. 

## **Cyflawniadau a pherfformiad** 

Nodir y rhain yn Adroddiad y Cadeirydd. 

## **Cynlluniau i’r dyfodol** 

Bydd cynlluniau tymor byr i ganolig yn 2021/22 a thu hwnt yn cael eu dylanwadu arnynt yn sylweddol gan COVID a’r goblygiadau i’r sector ôl-orfodol yng Nghymru. Bydd y Coleg yn gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, i gynllunio, datblygu, diogelu a goruwchwylio darpariaeth a gweithgareddau cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog. Byddwn hefyd yn ceisio adnabod cyfleoedd sy’n codi, e.e. datblygiad dysgu cyfunol er mwyn hybu addysg Gymraeg a dwyieithog. Bydd y Coleg yn gweithredu’n strategol yn y sectorau Addysg Uwch, Addysg Bellach a Phrentisiaethau er mwyn datblygu a chynnal darpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog o’r radd flaenaf a thrwy hynny gwneud cyfraniad penodol i’r amcan o greu Miliwn o Siaradwyr Cymraeg. 

3 



Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 

## **Adroddiad yr Ymddiriedolwyr ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021 (parhad)** 

## **Cyfarwyddwyr** 

Datgelir y cyfarwyddwyr a oedd yn eu swyddi yn ystod y flwyddyn a hyd at ddyddiad llofnodi'r datganiadau ariannol o fewn y rhestr isod. 

Pedr ap Llwyd William David Callaway Yr Athro Thomas Gerald Hunter Gwilym Dyfri Jones Dr Thomas Hefin Jones  (hyd at 31 Mawrth 2021) Dr Rhodri Llwyd Morgan  (hyd at 3 Tachwedd 2021) Llinos Ann Roberts Yr Athro Hywel Rhys Thomas  (hyd at 31 Mawrth 2021) Angharad Mai Roberts Nia Elias Meri Huws Dr Anwen Jones  (o 17 Mawrth 2021) Yr Athro Enlli Môn Thomas  (penodwyd ar 1 Ebrill 2021) Ann Beynon  (penodwyd ar 1 Ebrill 2021) Rhys Evans  (penodwyd ar 17 Tachwedd 2021) Gareth Ellis Pierce*  (bu farw ar 3 Orffennaf 2021) 

## **Adolygiad ariannol** 

Nodir y canlyniadau a'r sefyllfa ariannol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2021 ar dudalennau 12 i 23. Mae'r refeniw yn deillio'n bennaf o arian a gafwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae'r rhan fwyaf o'r costau yn ystod y flwyddyn yn gostau sy'n ymwneud ag ariannu rhaglen weithgareddau'r Coleg, ar ffurf arian grant i brifysgolion, colegau addysg bellach a darparwyr prentisiaethau, -a chostau canolog sy'n ymwneud â rhedeg y Coleg. 

Mae canlyniadau ariannol y Coleg yn ystod y flwyddyn hon wedi cael eu heffeithio yn sylweddol gan gynnydd nas wireddwyd hyd yn hyn yng ngwerth buddsoddiadau’r Coleg. 

## **Polisi buddsoddol** 

Mae Pwyllgor Cyllid a Dibenion Cyffredinol y Coleg wedi cymeradwyo polisi buddsoddi ar ran y Coleg sy’n gosod ffrâm ar gyfer buddsoddiadau’r Coleg sy’n cynnwys materion moesegol wrth fuddsoddi. Mae’r Pwyllgor wedi penodi Sarasin fel rheolwyr buddsoddi ac mae’r Coleg yn monitro’r buddsoddiadau bob chwarter yn ffurfiol drwy’r Pwyllgor. 

## **Polisi cronfeydd wrth gefn a busnes gweithredol** 

Mae'r Ymddiriedolwyr yn fodlon bod asedau'r Coleg yn ddigonol i gyflawni ei rwymedigaethau o ran ei ymrwymiadau rhagamcanol. Mae’r Ymddiriedolwyr wedi ystyried yn ofalus goblygiadau posib COVID o ran cyllid y Coleg. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i barhau i gyllido a chefnogi gwaith y Coleg, ac mae hyn i’w weld a’i nodi yn natganiadau Gweinidogion Cymru ar lawr y Senedd. 

Ystyrir bod lefel y cronfeydd wrth gefn yn briodol i sicrhau y gall y Coleg gyflawni ei amcanion ac mae'n gyson â'r Polisi Cronfeydd wrth Gefn, sy'n dynodi bod angen cronfa wrth gefn anghyfynedig o leiaf £2 miliwn. Mae’r Ymddiriedolwyr hefyd wedi nodi fod cronfeydd wrth gefn y Coleg erbyn hyn o gwmpas tair miliwn sy’n rhoi sicrwydd fod arian wrth gefn petai materion annisgwyl yn codi yn sgil COVID. Bydd y Coleg yn ystyried ymhellach ei pholisi cronfeydd wrth gefn yn 2021/22 yn sgil y pandemig. 

4 



Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 

## **Adroddiad yr Ymddiriedolwyr ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021 (parhad)** 

## **Strwythur, llywodraethu a rheoli** 

Mae'r Bwrdd yn cynnwys y Cadeirydd a 12 aelod a benodir yn unol ag Offeryn Llywodraethu'r Coleg. Gwahaniaethir yn glir rhwng rôl y Cadeirydd a rôl Prif Weithredwr y Coleg. Nodir y materion hynny a neilltuir yn arbennig i'w penderfynu gan y Bwrdd yn Erthyglau Cymdeithasu'r Coleg. Mae'r Bwrdd yn gyfrifol am gyfeiriad strategol parhaus y Coleg, defnydd effeithiol ac effeithlon o adnoddau a chymeradwyo datblygiadau mawr, ac mae'n derbyn adroddiadau rheolaidd gan uwch reolwyr. 

Mae'r Bwrdd yn cyfarfod deirgwaith y flwyddyn fel arfer ac mae ganddo bum pwyllgor sefydlog (y Bwrdd Academaidd, y Grŵp Strategol Ôl-16, y Pwyllgor Archwilio a Risg, y Pwyllgor Cyllid a Dibenion Cyffredinol, a’r Pwyllgor Penodiadau a Safonau Llywodraethiant). 

Mae'r Bwrdd Academaidd yn cynghori Bwrdd y Cyfarwyddwyr ar faterion academaidd ym maes Addysg Uwch. Mae'n rhoi ffocws parhaus ar waith cynllunio academaidd yn y Coleg ym maes Addysg Uwch ac yn fforwm ar gyfer cynnal cyswllt ffurfiol rhwng y Coleg a’r canghennau yn y prifysgolion. Mae’r Coleg hefyd wedi sefydlu Bwrdd Strategol Ôl-16. Mae’r Bwrdd Ôl-16 yn cynghori’r Cyfarwyddwyr a’r Coleg ar faterion yn ymwneud ag Addysg Bellach a Phrentisiaethau ac yn goruchwylio cynnydd yn erbyn y Cynllun Gweithredu Addysg Bellach a Phrentisiaethau. 

Mae'r Pwyllgor Archwilio a Risg yn cynghori ac yn cefnogi Bwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg a’r swyddogion drwy roi sicrwydd annibynnol iddynt ynglŷn ag effeithiolrwydd rheolaeth fewnol, llywodraethu corfforaethol a rheoli risg y Coleg. Mae'r Pwyllgor Archwilio a Risg hefyd yn gwneud argymhellion ynghylch penodi archwilwyr mewnol ac allanol ac yn adolygu datganiadau ariannol y Coleg, a chyn iddynt gael eu cyflwyno i'r Bwrdd, mae'n adolygu'r llythyr rheoli ac yn derbyn ac ystyried adroddiadau cynnydd ar feysydd o risg sylweddol a nodir gan reolwyr academaidd. Yn ogystal, mae'r Pwyllgor Archwilio a Risg yn derbyn ac yn ystyried adroddiadau fel y maent yn effeithio ar fusnes y Coleg ac mae'n monitro cydymffurfiaeth â gofynion rheoliadol. Er bod uwch swyddogion yn mynychu cyfarfodydd y Pwyllgor Archwilio a Risg fel y bo angen, nid ydynt yn aelodau o'r Pwyllgor. 

Mae archwilwyr mewnol y Coleg, TIAA, wedi cynnal sawl adolygiad yn ystod 2020/21, sef: adolygiadau o Reolaethau Ariannol Allweddol, Lles Staff a Rheoli Absenoldeb, Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol, Diogelwch Seibr, a Changhennau Academaidd – Parhad Busnes yn ystod y Pandemig. Mae’r adolygiadau yma yn cael eu cynnal er mwyn darparu sicrwydd i’r Pwyllgor Archwilio dros gynlluniad a gweithrediad rheolaethau y Coleg ac i ganfod cyfleoedd ar gyfer gwelliant. 

Fel cwmni elusennol, caiff y Coleg ei lywodraethu gan ei Femorandwm a'i Erthyglau Cymdeithasu, sy'n darparu ar gyfer penodi ac ailbenodi Ymddiriedolwyr. Er mwyn sicrhau elfen annibynnol i benodi Ymddiriedolwyr, sefydlwyd Pwyllgor Penodiadau a Safonau Llywodraethiant gan y Bwrdd. Mae’r Pwyllgor yn gyfrifol am gynnal prosesau penodi aelodau Bwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg, gan gynnwys y Cadeirydd, ac aelodau pwyllgorau eraill o fewn strwythur llywodraethiant Bwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg. Mae’r Pwyllgor hefyd yn goruchwylio safonau llywodraethiant oddi fewn i’r Coleg. 

Caiff yr Ymddiriedolwyr eu penodi am gyfnod cychwynnol o bedair blynedd, a gellir eu hailbenodi am gyfnod pellach o bedair blynedd.  Mae’r Prif Weithredwr a’r uwch reolwyr yn bresennol yng nghyfarfodydd yr Ymddiriedolwyr a bydd rheolwyr eraill yn bresennol o dro i dro os yn cyflwyno papurau ar eu meysydd cyfrifoldeb. 

Mae'r Ymddiriedolwyr yn goruchwylio pob un o brif feysydd gweithredol y Coleg, gan gynnwys datblygu a chynllunio darpariaeth academaidd a galwedigaethol, cyllid, adnoddau dynol, iechyd a diogelwch, datblygu staff, marchnata / cyfathrebu, a gwasanaethau gwybodaeth. 

Yr Ymddiriedolwyr sy'n penderfynu ar y strategaeth ar gyfer y Coleg.  Dirprwyir y gwaith o weithredu'r strategaeth a gwaith rheoli gweithredol i'r Prif Weithredwr a'r rheolwyr. 

5 



Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 

## **Adroddiad yr Ymddiriedolwyr ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021 (parhad)** 

## **Strwythur, llywodraethu a rheoli (parhad)** 

Mae'r Coleg yn ymrwymedig i sicrhau safonau uchel o lywodraethu corfforaethol. Mae'r datganiad hwn yn disgrifio sut y caiff egwyddorion llywodraethu corfforaethol perthnasol eu cymhwyso i'r Coleg. 

## **Strategaeth rheoli risg** 

Y Bwrdd sy'n bennaf gyfrifol am sicrhau bod system gadarn o reoli risg, rheolaeth a llywodraethiant ar waith. Mae'r cyfarwyddwyr yn cyflawni'r ddyletswydd hon drwy'r elfennau canlynol: 

- Adolygiad effeithiol gan y Bwrdd a phwyllgorau perthnasol, yn enwedig y Pwyllgor Archwilio a Risg; 

- Systemau rheoli sy'n cynnwys polisïau, amcanion a chynlluniau, rheoli risgiau a chyfleoedd allweddol, monitro perfformiad ariannol a gweithredol, diogelu asedau, gwahanu dyletswyddau, awdurdodi a chymeradwyo gweithdrefnau, a systemau gwybodaeth; 

- Nodi a rheoli risg ym mhob system busnes. 

Nodir dull y Coleg o reoli risg yn effeithiol isod: 

- Mae'r Coleg yn canolbwyntio ar reoli risg mewn ffordd weithredol fel rhan annatod o'r broses reoli ym mhob rhan o'r sefydliad; 

- Fel rhan o'r fframwaith rheoli risg, mae'r Coleg yn nodi'n glir wahanol fathau o risgiau a wynebir o ran cyflawni ei amcanion. Gall y risgiau hyn fod yn strategol neu'n weithredol a gall fod iddynt oblygiadau o ran enw da'r Coleg, ei sefyllfa ariannol neu ei weithrediadau o ddydd i ddydd neu unrhyw gyfuniad ohonynt; 

- Mae'r Coleg yn annog pob rheolwr i ystyried y risgiau sydd ynghlwm wrth bob penderfyniad, contract neu brosiect mawr fel rhan arferol o'i waith o ddydd i ddydd; 

- Mae'r Coleg yn cynnwys gweithgareddau rheoli risg yn y broses gynllunio flynyddol, sef y ffordd y mae Bwrdd y Cyfarwyddwyr yn cydgysylltu gweithgareddau academaidd a gweithgareddau eraill y Coleg ac yn penderfynu arnynt; 

- Mae'r Bwrdd a'r uwch dîm rheoli yn ceisio nodi a chanolbwyntio ar risgiau uniongyrchol a risgiau dros dro ag iddynt oblygiadau strategol, a all newid o wythnos i wythnos, yn ogystal â'r risgiau mwy sylweddol a pharhaol a nodir yng nghofrestr risgiau'r Coleg; 

- Disgwylir i reolwyr gysylltu'r broses o nodi risgiau â chamau gweithredu, boed hynny er mwyn lleddfu'r risg neu mewn ymateb iddi. 

- Mae'r tîm rheoli yn gweithredu'r gweithdrefnau rheoli risg yn effeithiol fel rhan o weithrediad y Coleg o ddydd i ddydd. 

- Mae'r Bwrdd yn ei gwneud yn ofynnol i'r Pwyllgor Archwilio a Risg gynnal asesiad o risg sylweddol sy'n rhoi ciplun o'r sefyllfa deirgwaith y flwyddyn. Caiff yr asesiad ei gofnodi drwy'r gofrestr risgiau ac mae'n rhan o'r broses barhaus o reoli risg. Mae'r gofrestr risgiau yn nodi risgiau sylweddol ac yn cynnwys y manylion canlynol: 

`o` natur y risg `o` ei heffaith bosibl 

`o` y sawl sy'n 'berchen' ar y risg 

`o` y prosesau rheoli sy'n rheoli'r risg 

- ei heffaith bosibl wedi dilyn y prosesau rheoli 

Mae'r Pwyllgor Archwilio a Risg yn adolygu digonolrwydd y broses o reoli risg yn y Coleg yn rheolaidd wrth iddi barhau i gael ei datblygu. 

Mae'r Bwrdd o'r farn bod proses barhaus ar waith ar gyfer nodi, gwerthuso a rheoli risgiau sylweddol y Coleg, bod y broses honno wedi bod ar waith ar gyfer y cyfnod a ddaeth i ben 31 Mawrth 2020 a hyd at ddyddiad cymeradwyo'r adroddiad blynyddol a'r datganiadau ariannol, a bod y broses yn cael ei hadolygu'n rheolaidd gan y Bwrdd. 

6 



Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 

## **Adroddiad yr Ymddiriedolwyr ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021 (parhad)** 

## **Datganiad o gyfrifoldebau'r Ymddiriedolwyr** 

Mae'r Ymddiriedolwyr (sydd hefyd yn gyfarwyddwyr Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol at ddibenion cyfraith cwmnïau) yn gyfrifol am baratoi Adroddiad yr Ymddiriedolwyr a'r datganiadau ariannol yn unol â'r gyfraith a'r rheoliadau perthnasol. 

O dan gyfraith cwmnïau mae'n ofynnol i'r Ymddiriedolwyr baratoi datganiadau ariannol ar gyfer pob cyfnod ariannol. O dan y gyfraith honno, mae'r Ymddiriedolwyr wedi paratoi'r datganiadau ariannol yn unol â Safonau Cyfrifyddu'r Deyrnas Unedig, sy'n cynnwys FRS 102 “The Financial Reporting Standard applicable in the UK and Republic of Ireland”, a chyfraith berthnasol (Arfer Cyfrifyddu a Dderbynnir yn Gyffredinol yn y Deyrnas Unedig). O dan gyfraith cwmnïau ni ddylai'r Ymddiriedolwyr gymeradwyo'r datganiadau ariannol oni fyddant yn fodlon bod y datganiadau hynny yn rhoi darlun gwir a theg o sefyllfa'r cwmni elusennol ac adnoddau sy'n dod i mewn a'r modd y cymhwysir adnoddau'r elusen, gan gynnwys incwm a gwariant, am y cyfnod hwnnw. 

Wrth baratoi'r datganiadau ariannol hyn, mae'n ofynnol i'r Ymddiriedolwyr wneud y canlynol: 

- dewis polisïau cyfrifyddu addas a'u cymhwyso'n gyson; 

- arsylwi’r dulliau a’r egwyddorion sydd yn y “Statement of Recommended Practice: Accounting and Reporting by Charities (2019)”; 

- llunio barn a gwneud amcangyfrifon sy'n rhesymol ac yn synhwyrol; 

- nodi a ddilynwyd Safonau Cyfrifyddu cymwys y DU, yn cynnwys FRS 102, yn amodol ar unrhyw wyriadau perthnasol a ddatgelir ac a eglurir yn y datganiadau ariannol; 

- paratoi'r datganiadau ariannol ar sail busnes gweithredol, oni bai ei bod yn amhriodol tybio y bydd y cwmni elusennol yn parhau i weithredu. 

Mae'r Ymddiriedolwyr yn gyfrifol am gadw cofnodion cyfrifyddu sy'n ddigonol i ddangos ac esbonio trafodion y cwmni elusennol a datgelu sefyllfa ariannol y cwmni elusennol yn rhesymol gywir ar unrhyw adeg a'u galluogi i sicrhau bod y datganiadau ariannol yn cydymffurfio â Deddf Cwmnïau 2006. Maent hefyd yn gyfrifol am ddiogelu asedau’r cwmni elusennol ac felly am gymryd camau rhesymol i atal a chanfod achosion o dwyll ac anghysondebau eraill. 

Mae'r Ymddiriedolwyr yn gyfrifol am gynnal gwefan y cwmni elusennol a sicrhau ei bod yn gywir. Gall deddfwriaeth yn y Deyrnas Unedig sy'n llywodraethu'r gwaith o baratoi a lledaenu datganiadau ariannol fod yn wahanol i ddeddfwriaeth mewn awdurdodaethau eraill. 

## **Datgelu gwybodaeth i archwilwyr** 

Hyd y gŵyr yr Ymddiriedolwyr: 

- nid oes unrhyw wybodaeth archwilio berthnasol nad yw archwilwyr y cwmni elusennol yn ymwybodol ohoni; ac 

- mae'r Ymddiriedolwyr wedi cymryd yr holl gamau y dylent fod wedi'u cymryd i sicrhau eu bod yn ymwybodol o unrhyw wybodaeth archwilio berthnasol ac i sicrhau bod yr archwilwyr yn ymwybodol o'r wybodaeth honno. 

7 



Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Adroddiad yr Ymddiriedolwyr
ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021 (parhad)
Eithriad cwmnlau bach
Wrth lunio'r adroddiad hwn, mae'r cyfarwyddwyr wedi manteisio ar eithriadau cwmnlau bach a
ddarperir gan adran 415A o Ddeddf Cwmnlau 2006.
Cafodd yr adroddiad hwn ei gymeradwyo gan yr Ymddiriedolwyr ar
lofnodi ar eu rhan gan-.
Gwilym Dyfrl Jones
Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 

## _**Adroddiad yr archwilwyr annibynnol at aelodau Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol**_ 

## **Adroddiad ar yr archwiliad o'r datganiadau ariannol** 

## **Barn** 

Yn ein barn ni, mae datganiadau ariannol Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (y "datganiadau ariannol"): 

- yn rhoi darlun gwir a theg o sefyllfa'r cwmni elusennol ar 31 Mawrth 2021 ynghyd â'r adnoddau a ddaeth i mewn a'r ffordd y defnyddiwyd yr adnoddau, gan gynnwys ei incwm a'i wariant, a llifau arian parod ar gyfer y cyfnod a ddaeth i ben bryd hynny; 

- wedi'u paratoi'n briodol yn unol ag Arfer Cyfrifyddu a Dderbynnir yn Gyffredinol yn y Deyrnas Unedig (Safonau Cyfrifyddu'r Deyrnas Unedig, sy'n cynnwys FRS 102 “The Financial Reporting Standard applicable in the UK and Republic of Ireland”, a chyfraith gymwys); ac 

- wedi'u paratoi yn unol â gofynion Deddf Cwmnïau 2006. 

Rydym wedi archwilio'r datganiadau ariannol, sydd wedi'u cynnwys yn Adroddiad yr Ymddiriedolwyr a'r Datganiadau Ariannol (yr "Adroddiad Blynyddol"), sy'n cynnwys: y fantolen ar 31 Mawrth 2021; datganiad o weithgareddau ariannol (gan gynnwys y cyfrif incwm a gwariant), y datganiad o lifau arian parod ar gyfer y cyfnod a ddaeth i ben bryd hynny; a'r nodiadau i'r datganiadau ariannol. 

## **Sail y farn** 

Cynhaliwyd ein harchwiliad yn unol â Safonau Archwilio Rhyngwladol (y DU) a chyfraith gymwys. Caiff ein cyfrifoldebau o dan y Safonau hyn eu disgrifio ymhellach yn adran Cyfrifoldebau'r archwilwyr dros archwilio'r datganiadau ariannol o'n hadroddiad. Credwn fod y dystiolaeth archwilio rydym wedi'i chael yn ddigonol ac yn briodol i ddarparu sail i'n barn. 

## _Annibyniaeth_ 

Gwnaethom barhau i fod yn annibynnol o’r cwmni elusennol yn unol â'r gofynion moesegol sy'n berthnasol i'n harchwiliad o'r datganiadau ariannol yn y DU, sy'n cynnwys Safon Foesegol yr FRC ac rydym wedi cyflawni ein cyfrifoldebau moesegol eraill yn unol â'r gofynion hyn. 

## **Casgliadau yn ymwneud â busnes gweithredol** 

Ar sail y gwaith a gyflawnwyd, nid ydym wedi canfod unrhyw ansicrwydd perthnasol yn gysylltiedig â digwyddiadau neu amodau a all, yn unol neu’n gyfun, fwrw amheuaeth sylweddol dros allu’r cwmni elussenol i fabwysiadu sail gyfrifyddu busnes gweithredol am gyfnod o 12 mis o leiaf o’r dyddiad pan awdurdodir cyhoeddi’r datganiadau ariannol. 

Wrth archwilio’r datganiadau ariannol, rydym wedi casglu fod defnydd yr Ymddiriedolwyr o sail gyfrifyddu busnes gweithredol wrth baratoi’r datganiadau ariannol yn briodol. 

Fodd bynnag, am nad oes modd rhagweld pob digwyddiad neu amod yn y dyfodol, nid yw'r datganiad hwn yn gwarantu gallu'r cwmni elusennol i barhau fel busnes gweithredol. 

Mae ein cyfrifoldebau a chyfrifoldebau’r ymddiriedolwyr ynglŷn â sail busnes gweithredol wedi eu disgrifio yn yr adrannau perthnasol o’r adroddiad hon. 

## **Cyflwyno adroddiadau ar wybodaeth eraill** 

Mae'r wybodaeth arall yn cynnwys yr holl wybodaeth yn yr Adroddiad Blynyddol, heblaw am y datganiadau ariannol ac adroddiad ein harchwilwyr arnynt. Yr Ymddiriedolwyr sy'n gyfrifol am y wybodaeth arall. Nid yw ein barn am y datganiadau ariannol yn cwmpasu'r wybodaeth arall ac, felly, ni fynegwn farn archwilio nac ychwaith, ar wahân i'r graddau a nodir fel arall yn benodol yn yr adroddiad hwn, unrhyw fath o sicrwydd arni. 

Mewn cysylltiad â'n harchwiliad o'r datganiadau ariannol, ein cyfrifoldeb ni yw darllen y wybodaeth arall ac, wrth wneud hynny, ystyried a yw'r wybodaeth arall yn berthnasol anghyson â'r datganiadau ariannol neu'r wybodaeth a gafwyd yn yr archwiliad, neu wedi'i gamddatgan yn sylweddol neu fel arall. Os nodwn anghysondeb perthnasol neu gamddatganiad perthnasol ymddangosiadol, mae'n ofynnol i ni bennu a fu camddatganiad perthnasol o'r datganiadau ariannol neu gamddatganiad perthnasol o'r wybodaeth arall. Os down i'r casgliad, ar sail ein gwaith, fod camddatganiad perthnasol o'r wybodaeth arall hon, rhaid i ni nodi hynny. Nid oes gennym unrhyw beth i'w nodi ar sail y cyfrifoldebau hyn. 

Ar sail y gwaith a gyflawnwyd yn ystod yr archwiliad, mae Deddf Cwmnïau 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i ni adrodd rhai barnau a materion fel y disgrifir isod. 

9 



Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 

## _**Adroddiad yr archwilwyr annibynnol at aelodau Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (parhad)**_ 

## _Adroddiad yr Ymddiriedolwyr_ 

Yn ein barn ni, ar sail y gwaith a wnaed yn ystod yr archwiliad, mae'r wybodaeth a roddwyd yn Adroddiad yr Ymddiriedolwyr ar gyfer y cyfnod ariannol y paratowyd y datganiadau ariannol ar ei chyfer yn gyson â'r datganiadau ariannol; ac mae Adroddiad yr Ymddiriedolwyr wedi'i baratoi yn unol â gofynion cyfreithiol cymwys. 

Hefyd, yn sgil gwybodaeth a dealltwriaeth y cwmni elusennol a'i amgylchedd a gafwyd yn ystod yr archwiliad, mae'n ofynnol i ni adrodd a ydym wedi nodi unrhyw gamddatganiadau perthnasol yn Adroddiad yr Ymddiriedolwyr. Nid oes gennym unrhyw beth i'w nodi yn hyn o beth. 

## **Cyfrifoldebau dros y datganiadau ariannol a’r archwiliad** 

## _Cyfrifoldebau’r Ymddiriedolwyr dros y datganiadau ariannol_ 

Fel yr eglurir yn fanylach yn y Datganiad o gyfrifoldebau'r Ymddiriedolwyr ar dudalen 7, mae'r Ymddiriedolwyr (sydd hefyd yn gyfarwyddwyr y cwmni elusennol at ddibenion cyfraith cwmnïau) yn gyfrifol am baratoi'r datganiadau ariannol yn unol â'r fframwaith cymwys ac am fodloni'u hunain bod y datganiadau hynny yn rhoi darlun gwir a theg. Mae'r Ymddiriedolwyr hefyd yn gyfrifol am y fath reolaeth fewnol ag sy'n angenrheidiol yn eu barn nhw i allu paratoi datganiadau ariannol heb unrhyw gamddatganiadau perthnasol, boed hynny drwy dwyll neu wall. 

Wrth baratoi'r datganiadau ariannol, mae'r Ymddiriedolwyr yn gyfrifol am asesu gallu'r cwmni elusennol i barhau fel busnes gweithredol, gan ddatgelu fel sy'n gymwys, faterion yn ymwneud â busnes gweithredol a defnyddio sail gyfrifyddu busnes gweithredol oni fydd yr Ymddiriedolwyr naill ai'n bwriadu diddymu'r cwmni elusennol neu roi'r gorau i weithredu, neu nad oes ganddynt opsiwn amgen realistig ond gwneud hynny. 

## _Cyfrifoldebau’r archwilwyr dros archwilio’r datganiadau ariannol_ 

Ein hamcanion yw cael sicrwydd rhesymol ynghylch a yw'r datganiadau ariannol gyda'i gilydd yn rhydd o gamddatganiad perthnasol, boed hynny drwy dwyll neu wall, a chyhoeddi adroddiad yr archwilwyr sy'n cynnwys ein barn. Mae sicrwydd rhesymol yn lefel uchel o sicrwydd, ond nid yw'n gwarantu y bydd archwiliad a gynhelir yn unol â Safonau Archwilio Rhyngwladol y DU bob amser yn canfod camddatganiad perthnasol pan fo'n bodoli. Gall camddatganiadau ddeillio o dwyll neu wall ac fe'u hystyrir yn berthnasol os, yn unigol neu gyda'i gilydd, y gellid disgwyl iddynt yn rhesymol ddylanwadu ar benderfyniadau economaidd defnyddwyr a wneir ar sail y datganiadau ariannol hyn. 

Mae afreoleiddiau, gan gynnwys twyll, yn enghreifftiau o ddiffyg cydymffurfiad gyda chyfreithiau neu rheoliadau. Rydym yn cynllunio gweithrediadau yn unol â’n cyfrifoldebau, fel nodir uchod, i ganfod camddatganiadau perthnasol yn ymwneud â’r afreoleiddiau, gan gynnwys twyll. Mae’r gradd y gall ein gweithrediadau ganfod afreoleiddiau, gan gynnwys twyll, wedi ei nodi isod. 

Ar sail ein dealltwriaeth o’r cwmni elusennol/diwydiant, adnabon ni fod y prif risg o ddiffyg cydymffurfiad gyda chyfreithiau neu rheoliadau yn ymwneud â deddfwriaeth cyflogaeth neu elusennol, ac fe ystyrion ni y gradd y gall unrhyw ddiffyg cydymffurfiad gael effaith perthnasol ar y datganiadau ariannol. Hefyd, fe ystyrion ni y cyfreithiau a rheoliadau sy’n cael effaith uniongyrchol ar y datganiadau ariannol fel Deddf Cwmnïau 2006. Gwerthuson ni gymhelliant a chyfle y rheolwyr ar gyfer triniaeth twyllodrus o’r datganiadau ariannol (gan gynnwys y risg o ddiystyru rheolaethau) gan gasglu fod y prif risgiau yn ymwneud â thrafodiadau twyllodrus wedi eu dylunio i orddatgan perfformiad a safle cyllidol y cwmni. Mae’r gweithdrefnau archwiliol a berfformiwyd yn cynnwys: 

• Adolygu cofnodion y Bwrdd a chynnal trafodaethau gyda’r rheolwyr, gan gynnwys ystyried unrhyw enghreifftiau hysbys neu amheuaethol o ddiffyg cydymffurfiad gyda chyfreithiau neu rheoliadau a thwyll; 

• Defnyddio thechnegau cyfrifiadurol i gydnabod a phrofi cofnodion risg uwch, yn enwedig y rhai sy’n cael eu hystyried i gynnwys cyfuniadau cyfrifon annisgwyl; 

- Derbyn cadarnhad gan bartïon allanol dros holl drefniadau bancio a chyllido y cwmni. 

Mae cyfyngiadau cynhenid yn y gweithdrefnau archwiliol a ddisgrifir uchod. Rydym yn llai tebygol i ganfod enghreifftiau o ddiffyg cydymffurfiad gyda chyfreithiau neu rheoliadau sydd ddim yn hynod gysylltiedig â’r digwyddiadau a thrafodiadau a ddatgelir o fewn y datganiadau ariannol. Hefyd, mae’r risg o beidio canfod camddatganiad perthnasol o achos twyll yn uwch na’r risg o beidio canfod un o achos gwall, gan y gall twyll gynnwys cudd bwriadol drwy, er enghraifft, ffugio neu camliwiad bwriadol neu drwy gydgynllwynio. 

10 



Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 

## _**Adroddiad yr archwilwyr annibynnol at aelodau Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (parhad)**_ 

Ceir disgrifiad pellach o'n cyfrifoldebau am archwilio'r datganiadau ariannol ar wefan y Cyngor Adrodd Ariannol ar: www.frc.org.uk/auditorsresponsibilities. Mae'r disgrifiad hwn yn rhan o'n hadroddiad archwilio. 

## _Defnyddio’r adroddiad hwn_ 

Paratowyd yr adroddiad hwn, yn cynnwys y farn, ar gyfer aelodau'r elusen fel corff ac ar eu cyfer hwy yn unig yn unol â Phennod 3 o Ran 16 o Ddeddf Cwmnïau 2006 ac nid at unrhyw ddiben arall. Nid ydym, wrth roi'r farn hon, yn derbyn nac yn cymryd cyfrifoldeb am unrhyw ddiben arall nac unrhyw berson arall y dangosir yr adroddiad hwn iddo neu y daw ger ei fron heblaw lle y mynegir hynny'n benodol drwy ein caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw. 

## **Adroddiadau gofynnol eraill** 

## **Adroddiadau eithriadau Deddf Cwmnïau 2006** 

Yn unol â Deddf Cwmnïau 2006, mae'n ofynnol i ni eich hysbysu os yw'r canlynol yn berthnasol yn ein barn ni: 

- nid ydym wedi cael yr holl wybodaeth ac esboniadau sydd eu hangen arnom ar gyfer ein harchwiliad; neu 

- nid oes cofnodion cyfrifyddu digonol wedi'u cadw, neu ni chafwyd ffurflenni sy'n ddigonol ar gyfer ein harchwiliad gan ganghennau nad ymwelwyd â hwy; neu 

- ni wneir rhai datgeliadau ynghylch cydnabyddiaeth Ymddiriedolwyr a ragnodwyd gan y gyfraith; neu 

- nid yw'r datganiadau ariannol yn gyson â'r cofnodion a'r ffurflenni cyfrifyddu. 

Nid oes unrhyw eithriadau gennym i'w cofnodi yn deillio o'r cyfrifoldeb hwn. 

## **Yr hawl i fanteisio ar eithriadau** 

Yn unol â Deddf Cwmnïau 2006, mae'n ofynnol i ni eich hysbysu os, yn ein barn ni, nad oedd gan yr Ymddiriedolwyr yr hawl i wneud y canlynol: paratoi datganiadau ariannol yn unol â threfn y cwmnïau bach; manteisio ar yr eithriad i gwmnïau bach wrth baratoi Adroddiad yr Ymddiriedolwyr; a manteisio ar yr eithriad i gwmnïau bach rhag paratoi Adroddiad Strategol. Nid oes unrhyw eithriadau gennym i'w cofnodi yn deillio o'r cyfrifoldeb hwn. 


Jonathan Bound (Uwch Archwilydd Statudol) dros ac ar ran PricewaterhouseCoopers LLP Cyfrifyddion Siartredig ac Archwilwyr Statudol Caerdydd 18 Tachwedd 2021 

11 



Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 

**Rhif Cwmni Cofrestredig: 7550507 Rhif Elusen Cofrestredig: 1143525** 

## **Datganiad o weithgareddau ariannol (gan gynnwys y cyfrif incwm a gwariant) ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021** 

|||**2021**|2020|
|---|---|---|---|
||Nodyn|||
|||**£000**|£000|
|**Incwm**||||
|Gweithgareddau elusennol|3|**7,545**|7,027|
|Incwm o fuddsoddiad||**88**|91|
|**Cyfanswm yr adnoddau sy'n dod i mewn**||**7,633**|7,118|
|**Gwariant**||||
|Gweithgareddau elusennol|4|**(7,476)**|(6,733)|
|**Cyfanswm y gwariant**||**(7,476)**|(6,733)|
|**Incwm net ar gyfer y flwyddyn**||**157**|385|
|(Colledion)/Enillion o fuddsoddiadau na wireddwyd||**368**|(103)|
|Colledion llog||**(7)**|(12)|
|**Symudiad net mewn cronfeydd**||**518**|270|
|**Cysoni cronfeydd**||||
|Balansau'r cronfeydd a ddygwyd ymlaen ar||**2,859**|2,589|
|ddechrau’r flwyddyn||||
|**Balansau'r cronfeydd a gariwyd ymlaen ar**||**3,377**|2,859|
|**ddiwedd y flwyddyn**||||



Mae'r holl enillion a cholledion a gydnabuwyd yn ystod y flwyddyn wedi'u cynnwys yn y Datganiad o Weithgareddau Ariannol. 

Mae'r holl adnoddau a ddaeth i mewn a'r adnoddau a wariwyd yn deillio o weithgareddau parhaus. 

12 



Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Mantolen ar 31 Mawrth 2021
Nodyn
2021
£000
2020
£000
Asedau sefydlog
Asedau diriaethol
Buddsoddiadau
72
3,518
2,814
Asedau cyfredol
Dyledwyr
Arian parod yn y banc ac mewn Ilaw
Cyfanswm yr asedau cyfredol
Credydwyr: symiau sy'n ddyledus o fewn bwddyn
Asedau cyfredol net
520
589
202
327
847
791
(3891
402
{629)
218
Cyfanswm yr asedau Ilal rhwymedigaethau
cyfredol
Darpari8eth bensiwn
Asedau net
3,792
3,289
10
14151
3.377
{430}
2,859
Cronfeydd yr elusen
Cyfanswm cronfeydd yr elusen I cronfeydd incwm
anghyfyngedig
3,377
2,859
Caiff y datganiadau ariannol hyn eu paratoi'n unol a darpariaethau arbennig Rhan 15 o'r Ddeddf
Cwmniau sy'n ymwneud a chwmnlau bach ac maent yn ffiJrFio'r datganiadau ariannol btynyddol
sy'n ofynnol o dan Ddeddf Cwmnlau 2006 a dylid eu rhannu ag aelodau'r cwmni.
Cymeradwywyd y datganiadau ariannol ar dudalennau 12 i 23 gan yr Ymddiriedowr ac fe'u
Ilofnodir ar eu rhan gan..
Gwilym Dyfri Jones
Cyfarwyddwr
Dyddiad
17. 11. 21.
Mae'r nodiadau ar dudalennau 15 i 23 yn rh8n o'r datganiadau ariannol hyn.
13

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 

## **Datganiad o lifau arian parod ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021** 

||**2021**|2020|
|---|---|---|
||**£000**|£000|
|Arian parod a gynhyrchwyd gan/(ddefnyddiwyd gan)|**419**|(205)|
|weithgareddaugweithredu(gweler isod)|||
|**Llifau arian parod o weithgareddau buddsoddi**|||
|Incwm llog|**88**|91|
|Prynu asedau buddsoddi|**(859)**|(1,086)|
|Gwerthu asedau buddsoddi|**501**|300|
|Prynu asedau sefydlogdiriaethol|**(17)**|(64)|
|**Arian parod a ddefnyddiwyd mewn**|||
|**gweithgareddau buddsoddi**|**(287)**|(736)|
|**Llifau arianparod o weithgareddau ariannu**|||
|Colledion llog|**(7)**|(12)|
|**Cynnydd/(gostyngiad) mewn arian parod a'r hyn**<br>**sy'n cyfateb i arian parod yn y flwyddyn**|**125**|**(953)**|
|Arian parod a'r hyn sy'n cyfateb i arian parod ar<br>ddechrau'r flwyddyn|**202**|1,155|
|**Cyfanswm arian parod a'r hyn sy'n cyfateb i arian**<br>**parod ar ddiweddy flwyddyn**|**327**|202|



## **Nodyn i’r Datganiad o lifau arian parod** 

## (a) **Cysoni symudiadau net mewn cronfeydd i lif arian parod net a gynhyrchwyd gan/(ddefnyddwyd gan) weithgareddau gweithredu** 

||**2021**|2020|
|---|---|---|
||**£000**|£000|
|Symudiad net mewn cronfeydd|**518**|270|
|Ychwanegu tâl dibrisio|**33**|30|
|Ychwanegu/(Didynnu) enillion o fuddsoddiadau a wireddwyd<br>ac na wireddwyd|**(368)**|103|
|Didynnu incwm llog a ddangosir mewn gweithgareddau<br>buddsoddi|**(88)**|(91)|
|(Cynnydd)/Gostyngiad mewn dyledwyr|**69**|(414)|
|Cynnydd mewn credydwyr|**240**|172|
|Symudiad mewn darpariaethpensiwn|**15**|(275)|
|**Arian parod net a gynhyrchwyd gan/(ddefnyddiwyd gan)**<br>**weithgareddaugweithredu**|**419**|(205)|



14 



Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 

## **Nodiadau i’r datganiadau ariannol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021** 

## 1 **Datganiad o Bolisïau Cyfrifyddu** 

Mae’r prif bolisïau cyfrifyddu, dyfarniadau a ffynonellau allweddol o ansicrwydd amcangyfrif a ddefnyddiwyd wrth baratoi’r datganiadau ariannol fel a ganlyn: 

## (a) **Sail y paratoi** 

Mae'r datganiadau ariannol wedi'u paratoi'n unol â’r Charities Statement of Recommended Practice sy'n gymwys i elusennau sy'n paratoi eu datganiadau ariannol yn unol â Financial Reporting Standard applicable in the UK and Republic of Ireland (FRS102) (yn weithredol o 1 Ionawr 2019) – SORP Elusennau (FRS102), Financial Reporting Standard applicable in the UK and Republic of Ireland (FRS102) a Deddf Cwmnïau 2006. 

(b) **Trethiant** 

Fel elusen gofrestredig, mae'r elusen wedi'i heithrio ar y cyfan rhag treth gorfforaeth o dan adrannau 466 i 493 o Ddeddf Trethi Corfforaeth 2010, ar yr amod bod yr incwm a geir yn cael ei gymhwyso at ddibenion elusennol.  Mae Adran 256 o TCGA 1992 hefyd yn darparu eithriad rhag treth ar enillion cyfalaf, ar yr amod bod yr enillion yn cael eu cymhwyso at ddibenion elusennol.  Nid oes unrhyw dâl treth yn codi yn y flwyddyn. 

(c) **Incwm a pholisïau cydnabod** 

Caiff eitemau incwm eu cydnabod a'u cynnwys yn y datganiadau ariannol pan fydd yr holl feini prawf canlynol wedi'u bodloni: 

- Mae gan yr Elusen hawl i'r cronfeydd; 

- Mae unrhyw amodau perfformiad sydd ynghlwm wrth yr eitem(au) incwm wedi'u bodloni neu o dan reolaeth lawn yr elusen; 

- Mae digon o sicrwydd i ystyried bod yr incwm yn debygol o ddod i law; a 

- Gall y swm gael ei fesur yn ddibynadwy. 

## (d) **Llog derbyniadwy** 

Caiff llog ar gronfeydd a ddelir ar flaendal ei gynnwys pan fydd yn dderbyniadwy ac y gall yr elusen fesur y swm yn ddibynadwy; gwneir hyn fel arfer pan geir hysbysiad ynghylch y llog a dalwyd neu sy'n daladwy gan y Banc. 

(e) **Cyfrifo’r gronfa** Mae cronfeydd anghyfyngedig ar gael i'w gwario ar weithgareddau sy'n datblygu unrhyw un o ddibenion yr elusen. 

## (f) **Gwariant** 

Cydnabyddir gwariant unwaith y bydd rhwymedigaeth gyfreithiol neu adeiladol i wneud taliad i drydydd parti, ei bod yn debygol y bydd angen setliad ac y gellir mesur swm y rhwymedigaeth yn ddibynadwy.  Caiff gwariant ei ddosbarthu o dan y penawdau gweithgareddau canlynol: 

- Gwariant ar weithgareddau elusennol gan gynnwys costau gweithgareddau addysgol a gynhelir i ddatblygu dibenion yr elusen a'u costau cymorth cysylltiedig; 

- Mae gwariant arall yn cynrychioli'r eitemau hynny nad ydynt yn perthyn i unrhyw bennawd arall. 

## (g) **Dyrannu costau cymorth** 

Costau cymorth yw'r swyddogaethau hynny sy'n cynorthwyo gwaith yr elusen ond nad ydynt yn cyflawni gweithgareddau elusennol yn uniongyrchol.  Mae costau cymorth yn cynnwys costau swyddfa gefn, personél cyllid, cyflogres a llywodraethu sy'n cefnogi'r gweithgareddau addysgol. Mae'r seiliau a ddefnyddiwyd i ddyrannu costau cymorth wedi'u nodi yn nodyn 4. 

15 



Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 

## **Nodiadau i’r datganiadau ariannol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021 (parhad)** 

1 **Datganiad o Bolisïau Cyfrifyddu (parhad)** 

(h) **Asedau sefydlog diriaethol** Caiff asedau sefydlog eu cyfalafu ar sail cost a chânt eu dibrisio drwy gydol eu hoes economaidd ddefnyddiol amcangyfrifedig ar sail llinell syth fel a ganlyn: 

**Cyfradd flynyddol** Offer swyddfa 10-25% Offer cyfrifiadurol 33% 

(i) **Dyledwyr** Caiff dyledwyr masnach a dyledwyr eraill eu cydnabod ar y swm setlo.  Caiff rhagdaliadau eu prisio ar y swm a ragdalwyd ar ôl ystyried unrhyw ostyngiadau masnach sy'n ddyledus. 

(j) **Buddsoddiadau** Caiff buddsoddiadau eu prisio ar bris y farchnad a ddyfynnir. Mae enillion neu golledion na wireddwyd yn deillio o'r symudiad yng ngwerth y farchnad yn y flwyddyn. 

(k) **Arian parod yn y banc ac mewn llaw** Mae arian parod yn y banc ac mewn llaw yn cynnwys arian parod a buddsoddiadau hynod hylifol byrdymor gyda chyfnod aeddfedrwydd byr o dri mis neu lai o'r dyddiad caffael neu ddyddiad agor cyfrif adneuo neu gyfrif tebyg. 

(l) **Credydwyr** 

Mae credydwyr byr dymor wedi eu mesur ar bris y gweithrediad (fel arfer pris yr anfoneb). 

(m) **Offerynnau ariannol** Mae’r Coleg wedi dewis mabwysiadu adrannau 11 a 12 o FRS 102 mewn perthynas ag offerynnau ariannol. 

## _i. Asedau ariannol_ 

Caiff asedau ariannol sylfaenol, gan gynnwys dyledwyr masnach a dyledwyr eraill, arian parod a balansau banc a buddsoddiadau mewn papur masnachol, eu cydnabod yn y lle cyntaf ar bris y trafodiad, oni bai bod y trefniant yn golygu trafodyn ariannu, lle mesurir y trafodyn ar werth presennol y derbyniadau yn y dyfodol wedi'u disgowntio ar gyfradd llog y farchnad. 

O ganlyniad, caiff asedau o'r fath eu cario ar gost wedi'i hamorteiddio gan ddefnyddio'r dull llog effeithiol. 

Ar ddiwedd pob cyfnod adrodd caiff asedau ariannol a fesurir ar gost wedi'i hamorteiddio eu hasesu ar gyfer tystiolaeth wrthrychol o amhariad. Os amherir ar ased, y golled o ran lleihad mewn gwerth yw'r gwahaniaeth rhwng swm cario a gwerth presennol y llifau arian parod amcangyfrifedig wedi’u disgowntio ar gyfradd llog effeithiol wreiddiol yr ased. Cydnabyddir y golled o ran lleihad mewn elw neu golled. 

Os bydd gostyngiad yn y golled o ran lleihad mewn gwerth sy'n deillio o ddigwyddiad ar ôl i'r amhariad gael ei gydnabod, caiff y nam ei wrthdroi. Mae'r gwrthdroad yn golygu nad yw'r swm cario cyfredol yn fwy na'r swm cario pe na bai'r amhariad wedi'i gydnabod o'r blaen. Cydnabyddir y gwrthdroad amhariad mewn elw neu golled. 

Mae asedau ariannol eraill, gan gynnwys buddsoddiadau mewn offerynnau ecwiti nad ydynt yn is-gwmnïau, cymdeithion na chyd-fentrau, yn cael eu mesur i ddechrau ar werth teg, sef pris y trafodiad fel rheol. 

16 



Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 

## **Nodiadau i’r datganiadau ariannol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021 (parhad)** 

## 1 **Datganiad o Bolisïau Cyfrifyddu (parhad)** 

## (m) **Offerynnau ariannol (parhad)** 

Yn dilyn hynny, mae asedau o'r fath yn cael eu cario ar werth teg a chydnabyddir y newidiadau mewn gwerth teg mewn elw neu golled, ac eithrio bod buddsoddiadau mewn offerynnau ecwiti nad ydynt yn cael eu masnachu'n gyhoeddus ac na ellir mesur eu gwerthoedd teg yn ddibynadwy yn cael eu mesur ar gost llai amhariad. 

Mae asedau ariannol yn cael eu dad-gydnabod pan fydd (a) yr hawliau cytundebol i'r llif arian o'r ased yn dod i ben neu'n cael eu setlo neu (b) yn sylweddol bod holl risgiau a gwobrau perchnogaeth yr ased yn cael eu trosglwyddo i barti arall neu (c) rheolaeth o’r ased wedi ei drosglwyddo i barti arall sydd â'r gallu ymarferol i werthu'r ased yn unochrog i drydydd parti digyswllt heb orfodi cyfyngiadau ychwanegol. 

## _ii. Rhwymedigaethau ariannol_ 

Mae rhwymedigaethau ariannol sylfaenol, gan gynnwys credydwyr, yn cael eu cydnabod yn y lle cyntaf ar bris y trafodiad, oni bai bod y trefniant yn gyfystyr â thrafodyn cyllido, lle mesurir yr offeryn dyled ar werth presennol y derbyniadau yn y dyfodol wedi'u disgowntio ar gyfradd llog y farchnad. 

Mae credydwyr masnach yn ymrwymiadau i dalu am nwyddau neu wasanaethau sydd wedi'u caffael yng nghwrs arferol busnes gan gyflenwyr. Caiff credydwyr eu dosbarthu fel rhwymedigaethau cyfredol os yw'r taliad yn ddyledus o fewn un flwyddyn neu lai. Os nad ydynt, fe'u cyflwynir fel rhwymedigaethau anghyfredol. Caiff credydwyr masnach eu cydnabod yn y lle cyntaf ar bris y trafodiad a'u mesur yn dilyn hynny ar gost wedi'i hamorteiddio gan ddefnyddio'r dull llog effeithiol. 

Caiff rhwymedigaethau ariannol eu diddymu pan gaiff yr atebolrwydd ei ddiddymu, hynny yw, pan mae'r rhwymedigaeth gytundebol yn cael ei chyflawni, ei chanslo neu ei dirwyn i ben. 

## _iii. Gwrthbwyso_ 

Caiff asedau a rhwymedigaethau ariannol eu gwrthbwyso a'r symiau net eu cyflwyno yn y datganiadau ariannol pan fo hawl gyfreithiol i orfodi'r symiau cydnabyddedig a bod bwriad i setlo ar sail net neu i wireddu'r ased a setlo'r rhwymedigaeth ar yr un pryd. 

## (n) **Cynlluniau pensiwn** 

Prif gynllun pensiwn budd diffiniedig staff y Coleg yw Cynllun Blwydd-dal y Prifysgolion (USS). Mae'r cynllun yn gynllun budd diffiniedig a ariennir. Caiff y cronfeydd eu prisio yn actiwaraidd gan actiwari cymwysedig proffesiynol bob tair blynedd gan ddefnyddio naill ai'r dull cronni neu'r dull oedran a gyrhaeddwyd gyda chyfraddau'r cyfraniad sy'n daladwy yn cael eu pennu gan Ymddiriedolwyr y cynllun ar sail cyngor yr actiwari. Y prisiant diweddaraf oedd ar gael ar gyfer y cynllun ar 31 Mawrth 2018 oedd y prisiant Mawrth 2018. Mae prisiant o’r cynllun ar 31 Mawrth 2020 ar y gweill. 

Mae'r USS yn gynllun aml-gyflogwr ac nid yw'n bosibl nodi'r asedau na'r rhwymedigaethau i aelodau'r Coleg oherwydd natur gydfuddiannol y cynllun. Felly, cyfrifir am y cynllun fel cynllun budd ymddeol cyfraniad diffiniedig. 

Cofnodir rhwymedigaeth o fewn darpariaethau unrhyw ymrwymiad cytundebol i ariannu diffygion blaenorol o fewn y cynllun USS. 

17 



Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 

## **Nodiadau i’r datganiadau ariannol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021 (parhad)** 

## 1 **Datganiad o Bolisïau Cyfrifyddu (parhad)** 

## (o) **Amcangyfrifon a barnau sylweddol** 

Roedd yr amcangyfrifon a'r barnau sylweddol a ddefnyddiwyd wrth baratoi'r wybodaeth ariannol hon fel a ganlyn: 

## (i) Rhwymedigaethau budd ymddeol 

Cyfrifir am yr USS fel cynllun cyfraniad diffiniedig gan nad oes digon o wybodaeth ar gael i ddefnyddio cyfrifyddu budd diffiniedig. Fodd bynnag, gan fod y Coleg yn gytundebol rhwymedig i dalu cyfraniadau i'r USS er mwyn ariannu diffygion blaenorol, mae’r elfen hon o’r rhwymedigaeth wedi ei ddatgelu ar y fantolen. 

Mae'r cynllun adfer diffygion a roddwyd ar waith gan yr USS yn nodi cyfran y cyfraniadau ariannol sy'n ymwneud ag adfer diffygion blaenorol, a'r cyfnod y'u hymrwymir iddo. Caiff y cyfraniadau diffyg ymrwymedig hyn eu hailasesu pan brisir y cynllun bob tair blynedd, ac maent yn sail i'r ddarpariaeth, ynghyd â thybiaethau ynghylch ffactorau chwyddiant a disgownt priodol. Mae’r tybiaethau hyn yn effeithio ar lefel y ddarpariaeth a gyfrifir. Mae manylion pellach wedi eu cyflwyno o fewn Nodyn 10. 

## 2 **Statws cyfreithiol yr Elusen** 

Mae'r Elusen yn gwmni cyfyngedig drwy warant ac nid oes ganddi gyfalaf cyfranddaliadau. Pe bai'r Elusen yn cael ei dirwyn i ben, mae'r rhwymedigaeth mewn perthynas â'r warant wedi'i chyfyngu i £10 fesul aelod. 

## 3 **Adnoddau sy’n dod i mewn o weithgareddau elusennol** 

## **Gweithgareddau elusennol** 

|**eithgareddau elusennol**|||
|---|---|---|
||**2021**|2020|
||**£000**|£000|
|Grantiau Llywodraeth Cymru|**6,621**|6,357|
|Incwm arall|**924**|670|
||**7,545**|7,027|



4 **Dadansoddiad gwariant** 

Mae'r prif eitemau gwariant fel a ganlyn: 

|f eitemau gwariant fel a ganlyn:|||
|---|---|---|
||**2021**|2020|
||**£000**|£000|
|**Gweithgareddau elusennol**|||
|Ariannu prosiectau Addysg|**5,642**|4,969|
|Costau cyflogaeth y Coleg – uniongyrchol|**719**|695|
|Gostyngiad yn y ddarpariaeth USS (Nodyn 10)|**(1)**|(275)|
|Costau cyflogaeth y Coleg – cymorth|**547**|569|
|Costau llywodraethu|**51**|42|
|Costau cymorth|**518**|733|
||**7,476**|6,733|



18 



Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 

## **Nodiadau i’r datganiadau ariannol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021 (parhad)** 

## 4 **Dadansoddiad gwariant (parhad)** 

|**adansoddiad gwariant (parhad)**|||
|---|---|---|
||**2021**|2020|
||**£000**|£000|
|**Costau cymorth**|||
|Marchnata a chyfathrebu|**50**|194|
|Hyfforddiant|**26**|40|
|Costau cytundeb rhwydwaith|**179**|221|
|Rhent|**119**|88|
|Gweinyddu|**144**|190|
||**518**|733|



Caiff costau eu dyrannu i gostau cymorth ar sail dadansoddiad o'r rheswm dros fynd i'r costau dan sylw. 

|<br>ostau dan sylw.|||
|---|---|---|
||**2021**|2020|
||**£000**|£000|
|**Costau llywodraethu**|||
|Archwiliad allanol|**16**|14|
|Archwiliad mewnol|**12**|11|
|Cyfarfodydd yr Ymddiriedolwyr|**23**|17|
||**51 **|42|
|Mae'r adnoddau a wariwyd yn cynnwys y costau canlynol:|||
||**2021**|2020|
||**£000**|£000|
|Dibrisiant|**33**|30|



Mae'r adnoddau a wariwyd yn cynnwys y costau canlynol: 

## 5 **Dadansoddiad o gostau staff a chydnabyddiaeth a threuliau'r Ymddiriedolwyr** 

Ni chafodd yr Ymddiriedolwyr unrhyw enillion yn ystod y flwyddyn (2020: £dim). Talwyd treuliau o £4,375 (2020: £11,442) i’r Ymddiriedolwyr. Talwyd treuliau i 5 o Ymddiriedolwyr (2020: 7). 

## **Costau staff** 

Nifer fisol gyfartalog yr unigolion a gyflogwyd gan y Coleg yn ystod y flwyddyn oedd 27 (2020: 27). 

||**2021**|2020|
|---|---|---|
||**£000**|£000|
|Cyflogau|**969**|961|
|Costau nawdd cymdeithasol|**106**|101|
|Costau pensiwn eraill|**210**|198|
||**1,285**|1,260|



19 



Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 

## **Nodiadau i’r datganiadau ariannol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021 (parhad)** 

## 5 **Dadansoddiad o gostau staff a chydnabyddiaeth a threuliau'r Ymddiriedolwyr (parhad)** 

Nodir isod fanylion cyflogeion gyda chyflogau sy'n fwy na £60,000: 

||||**2021**|2020|
|---|---|---|---|---|
||||**Nifer**|Nifer|
||£60,000 - £70,000||**-**|2|
||£70,000 - £80,000||**2**|1|
||£80,000-£90,000||**1**|-|
|6|**Asedau diriaethol**||||
|||**Offer**|**Offer**|**Cyfanswm**|
|||**swyddfa**|**cyfrifiadurol**||
|||**£000**|**£000**|**£000**|
||**Cost**||||
||Ar 1 Ebrill 2020|56|234|290|
||Ychwanegiadau|-|17|17|
||**Ar 31 Mawrth 2021**|**56**|**251**|**307**|
||**Dibrisiant cronedig**||||
||Ar 1 Ebrill 2020|49|169|218|
||Tâl a godwyd am y cyfnod|3|30|33|
||**Ar 31 Mawrth 2021**|**49**|**169**|**218**|
||**Gwerth llyfr net**||||
||**Ar 31 Mawrth 2021**|**4**|**52**|**56**|
||Ar 31 Mawrth 2020|7|65|72|
|7|**Buddsoddiadau**||||
||||**2021**|2020|
||||**£000**|£000|
||Ar 1 Ebrill||**2,814**|2,131|
||Ychwanegiadau||**859**|1,086|
||Gwerthiant||**(501)**|(300)|
||(Colledion)/enillion net na wireddwyd yn y flwyddyn||**346**|(103)|
||Ar 31 Mawrth||**3,518**|2,814|



Mae buddsoddiadau'n cael eu cadw yng nghronfeydd buddsoddi a reolir yn y Deyrnas Unedig. 

Mae'r buddsoddiadau'n cynnwys £301,000 (2020: £302,000) a fuddsoddwyd mewn cronfa rhydd a £3,216,000 (2020: £2,490,000) a fuddsoddir mewn cronfeydd pen agored. Cedwir yr holl fuddsoddiadau mewn cronfeydd a ymgorfforir yn y Deyrnas Unedig. 

## 8 **Dyledwyr** 

|**yledwyr**|||
|---|---|---|
||**2021**|2020|
||**£000**|£000|
|Dyledwyr masnach|**422**|455|
|Rhagdaliadau ac incwm cronedig|**98**|134|
||**520**|589|



20 



Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 

## **Nodiadau i’r datganiadau ariannol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021 (parhad)** 

- 9 **Credydwyr: symiau sy’n ddyledus o fewn blwyddyn** 

||**2021**|2020|
|---|---|---|
||**£000**|£000|
|Credydwyr masnach|**209**|266|
|Trethiant a nawdd cymdeithasol arall|**23**|26|
|Croniadau ac incwmgohiriedig|**397**|97|
||**629**|389|



## 10 **Darpariaeth pensiwn** 

|**arpariaeth pensiwn**||
|---|---|
||**Rhwymedigaeth i**|
||**ariannu diffyg ar**|
||**bensiwn USS**|
||**£000**|
|Ar 1 Ebrill 2020|430|
|Cyfraniadau|(20)|
|Gostyngiad yn y ddarpariaeth|(1)|
|Colledion llog|6|
|**Ar 31 Mawrth 2021**|**415**|



## **Diffyg USS** 

Mae'r rhwymedigaeth i ariannu'r diffyg blaenorol ar Gynllun Blwydd-dal y Prifysgolion (USS) yn deillio o'r rhwymedigaeth gytundebol â'r cynllun pensiwn am gyfanswm taliadau yn ymwneud â buddiannau o berfformiad blaenorol. Mae'r rheolwyr wedi asesu cyflogeion y dyfodol o fewn y cynllun USS a thaliadau cyflog dros gyfnod y rhwymedigaeth gytundebol wrth asesu gwerth y ddarpariaeth hon yn seiliedig ar amodau oedd yn bodoli ar yr adeg hynny. 

Roedd y tybiaethau allweddol a ddefnyddiwyd ar ddiwedd y cyfnod adrodd fel a ganlyn: 

||**2021**|2020|
|---|---|---|
||**%**|%|
|Twf cyflogau|**2.50**|2.50|
|Cyfradd disgownt|**1.10**|1.53|



## 11 **Trafodion â phartïon cysylltiedig** 

Yn ystod y cyfnod, cynhaliwyd y trafodion canlynol â phartïon cysylltiedig: 

- Talwyd swm o £4,522,000 (2020: £4,969,000) i sefydliadau Addysg er mwyn ariannu gweithgareddau addysgol yn y sefydliadau hynny. Mae’r sefydliadau yma yn waranwyr o’r Coleg fel nodir isod. 

- Buddion gweithiwr rheolwyr allweddol y Coleg oedd £286,000 (2019: £338,000). 

21 



Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 

## **Nodiadau i’r datganiadau ariannol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021 (parhad)** 

## 12 **Cwmni cyfyngedig drwy warant** 

Mae'r Coleg yn gwmni cyfyngedig drwy warant ac felly nid oes ganddo unrhyw gyfalaf cyfranddaliadau. 

Y sefydliadau canlynol yw gwarantwyr y cwmni: 

- Prifysgol Aberystwyth 

- Prifysgol Bangor 

- Prifysgol Caerdydd 

- Prifysgol De Cymru 

- Prifysgol Glyndŵr 

- Prifysgol Abertawe 

- Prifysgol Metropolitan Caerdydd 

- Prifysgol Cymru- y Drindod Dewi Sant 

- Y Brifysgol Agored 

Cyfyngir rhwymedigaeth pob aelod i £10, sef y swm y mae pob aelod yn ymrwymo i'w gyfrannu at asedau'r Coleg os caiff ei ddirwyn i ben tra ei fod yn aelod neu o fewn blwyddyn i'r dyddiad y daeth ei aelodaeth i ben, er mwyn: 

- (a) talu dyledion a rhwymedigaethau'r Coleg a gafwyd tra ei fod yn dal i fod yn aelod, 

- (b) talu'r costau, taliadau a'r treuliau sy'n gysylltiedig â dirwyn y Coleg i ben, ac 

- (c) addasu hawliau'r cyfranwyr hynny ymhlith ei gilydd. 

## 13 **Cynllun pensiwn** 

Cynllun Blwydd-dal y Prifysgolion (USS) yw'r prif gynllun sy'n cwmpasu staff, sy'n darparu buddion yn seiliedig ar gyflog pensiynadwy terfynol ar gyfer aelodau Cyflog Terfynol (sydd bellach ar gau i newydd-ddyfodiaid) a Buddion a Ailbrisiwyd yn ystod Gyrfa (CRB) ar gyfer newydd-ddyfodiaid ers 2011.  Delir asedau'r cynllun ar wahân mewn cronfa a weinyddir gan yr ymddiriedolwr, Universities Superannuation Limited. 

Oherwydd natur gydfuddiannol y cynllun, nid yw asedau'r cynllun wedi'u neilltuo i'r Coleg a sefydliadau unigol a phennir cyfraniad cynllun eang.  Felly mae'r Coleg yn agored i risgiau actiwaraidd sy'n gysylltiedig â chyflogeion sefydliadau eraill ac ni all nodi ei gyfran o asedau a rhwymedigaethau sylfaenol y cynllun ar sail gyson a rhesymol ac felly, fel sy'n ofynnol gan FRS102, mae'n cyfrif am y cynllun fel petai'n gynllun cyfraniad diffiniedig. 

O ganlyniad, mae'r swm a godir i'r cyfrif incwm a gwariant yn cynrychioli'r cyfraniadau sy'n daladwy i'r cynllun o ran y cyfnod cyfrifyddu.  Fodd bynnag, o dan y SORP Elusennau newydd (FRS102), mae rhwymedigaeth hefyd wedi'i chofnodi o fewn darpariaethau ar gyfer unrhyw ymrwymiad cytundebol i ariannu diffygion blaenorol o fewn yr USS. 

Gall symudiadau yn y ddarpariaeth hon hefyd arwain at godi ffioedd ar y cyfrif incwm a gwariant fel y dangosir yn nodyn 10 uchod. 

22 



Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 

## **Nodiadau i’r datganiadau ariannol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021 (parhad)** 

|14<br>**Offerynnau ariannol**<br>||||
|---|---|---|---|
|Mae gan yr elusen yr offerynnau ariannol canlynol:||||
||Nodyn|**2021**<br>**£000**|2020<br>£000|
|**Asedau ariannol**||||
|Asedau ariannol ar werth teg drwy elw a cholled||||
|- Buddsoddiadau|7|**3,518**|2,814|
|Asedau ariannol sy'n offerynnau dyled a fesurir ar gost||||
|amorteiddio||||
|- Dyledwyr masnach|8|**422**|455|
|**Cyfanswm asedau ariannol**||**3,940**|3,269|
|**Rhwymedigaethau ariannol**||||
|Rhwymedigaethau ariannol a fesurir ar gost amorteiddio||||
|- Credydwyr masnach|9|**209**|266|
|- Croniadau|9|**397**|97|
|**Cyfanswm rhwymedigaethau ariannol**||**606**|363|



## 15 **Ymrwymiadau prydlesu gweithredol** 

Mae lleiafswm y taliadau prydlesu dyfodol drwy prydlesu gweithredol nad ellir eu dirymu fel a ganlyn: 

||**2021**|2020|
|---|---|---|
||**£000**|£000|
|- Heb fod yn hwyrach na blwyddyn|**71**|71|
|- Yn hwyrach na blwyddyn a heb fod yn hwyrach na|**188**|259|
|phum mlynedd|||
||**259**|330|



23 

