ADRODDIAD I’R COMISIWN ELUSENNAU
AM Y CYFNOD 01.07.2023 I 30.06.2024
ENW’R GYMDEITHAS : CYMDEITHAS EDWARD LLWYD
RHIF COFRESTRU: 1126027
1. ENWAU YMDDIRIEDOLWYR:
-
1 Goronwy Wynne: Llywydd
-
Duncan Brown: Is Lywydd
-
T wm Elias: Is Lywydd
-
Iona Evans: Cadeirydd
-
Hywel Madog Jones: Is Gadeirydd
-
Gareth Jones: Ysgrifennydd
-
Margaret Roberts/ 8. Amanda Skull : Trysoryddion
-
Jackie Willmington: Ysgrifennydd Cofnodion
-
Elizabeth Roberts: Trefnydd y Gynhadledd
-
Gwyn Roberts: Golygydd y Cylchlythyr
-
Dafydd Lewis: Ysgrifennydd Aelodaeth a Golygydd y Naturiaethwr
-
Iwan Roberts: Trefnydd teithiau’r Gogledd Ddwyrain
-
Eirian Davies: Trefnydd teithiau’r De a’r Canolbarth
-
John Griffith: Cyd drefnydd teithiau Gogledd Orllewin a Threfnydd Gwyliau
-
Haf Meredydd: Aelod o’r Pwyllgor.Gwaith
-
Rhisiart ap Gwilym: Aelod o’r Pwyllgor.Gwaith 18. Alan Williams: Aelod o’r Pwyllgor.Gwaith
-
Dominig Kervegant Aelod o’r Pwyllgor.Gwaith 20. Shelagh Fishlock Aelod o’r Pwyllgor.Gwaith
1
2. STRWYTHUR, LLYWODRAETHU A RHEOLIAEth
i) Yr ymddiriedolwyr a sut y byddant yn cael eu penodi.
Mae’r Ymddiriedolwyr i gyd yn aelodau o’r Gymdeithas ac fe’u hetholir yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Ni chaiff Ymddiriedolwyr eu talu.
Ym mis Hydref bob blwyddyn cynhelir Cyfarfod Blynyddol fel rhan o benwythnos Cynhadledd y Gymdeithas. Mae pob aelod yn derbyn manylion trwy’r post am y penwythnos gyda chyfle i gofrestru. Cynhelir y Cyfarfod Blynyddol ar brynhawn Sadwrn y Gynhadledd. Anfonir manylion am y cyfarfod at yr aelodau sydd wedi cofrestru pythefnos ymlaen llaw gan gynnwys yr agenda a chofnodion Cyfarfod y flwyddyn gynt. Rhoddir dogfennau hefyd ar wefan a thudalen Weplyfr y Gymdeithas ac mae ychydig o gopïau caled ar gael yn y Cyfarfod.
Cyn y Cyfarfod Blynyddol mae’r Ysgrifennydd yn cysylltu â’r holl ymddiriedolwyr i ofyn a ydynt yn fodlon cael eu hailethol i’r Pwyllgor Gwaith a dal ati gyda’i swydd lle bo’n berthnasol.
ii ) Y Pwyllgor Gwaith (PG)
Mae’r Ymddiriedolwyr yn aelodau o’r Pwyllgor Gwaith (PG) sydd yn rheoli’r Gymdeithas ar ran yr aelodau. Cynhelir pedwar cyfarfod o’r PG bob blwyddyn.
Bydd yr Ysgrifennydd yn anfon cais i’r holl ymddiriedolwyr am eitemau i’w rhoi ar agenda’r cyfarfod yna bydd yr agenda yn cael ei rannu cyn y cyfarfod fel bod pob aelod yn cael cyfle i gyfrannu. Bydd Cadeirydd y Gymdeithas yn llywio’r cyfarfodydd. Mae cofnodion manwl yn cael eu cadw o bob cyfarfod gan yr Ysgrifennydd Cofnodion ac yn cael eu hanfon i’r holl Ymddiriedolwyr. Yn y PG dilynol bydd cyfle i gytuno fod y cofnodion yn rhai cywir ac yna eu cyhoeddi ar wefan y Gymdeithas.
Os bydd y Swyddogion angen barn aelodau’r PG ar fater brys bydd modd cysylltu gyda phob aelod trwy e-bost a hynny fel arfer dan arweiniad yr Ysgrifennydd.
iii) Yr Is-bwyllgor Marchnata (PM)
Mae grŵp o aelodau’r PG yn ffurfio is-bwyllgor dan arweiniad yr Is-gadeirydd sy’n adrodd yn ôl i’r PG. Prif bwrpas y PM yw paratoi presenoldeb y Gymdeithas yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
iv) Prosiect Llên Natur
Mae Prosiect Llên Natur yn adnodd pwysig dan adain Y Gymdeithas. Mae ychydig o aelodau’r PG yn rheoli prosiect Llên Natur ac yn adrodd yn ôl i’r PG. Mae’r Prosiect yn codi ymwybyddiaeth o faterion amgylcheddol ymhlith y cyhoedd (yn ogystal ag aelodau’r Gymdeithas) drwy gynnal gwefan a thudalen Weplyfr a chyhoeddi bwletin a ddosbarthir drwy e-bost.
2
3. AMCANION A GWEITHGAREDDAU’R GYMDEITHAS.
Mae’r Gymdeithas yn croesawu pawb sydd â diddordeb ym myd natur ac yn yr amgylchedd a threftadaeth naturiol Cymru. Ei hamcan yw cynyddu ymwybyddiaeth, dealltwriaeth a gwerthfawrogiad ohonynt. Cymraeg yw iaith y Gymdeithas. Ymdrechir i hybu’r defnydd o Gymraeg yn y meysydd amgylcheddol a rhoddir croeso i aelodau sy’n dysgu Cymraeg.
-
Cynhelir teithiau maes, Cynhadledd Flynyddol, stondin a darlith yn yr Eisteddfod Genedlaethol a gwyliau.
-
Cyhoeddir dau gylchgrawn, y Cylchlythyr a’r Naturiaethwr.
-
Cynhelir dwy wefan, un yn delio â gweithgareddau’r Gymdeithas a’r llall yn trin materion amgylcheddol.
-
Ymgymerir â thrawsgrifio a dadansoddir hen ddyddiaduron gyda chynnwys perthnasol i fyd natur a’r amgylchedd.
-
Cyhoeddir rhestrau o enwau Cymraeg safonol ar rywogaethau.
4. CYFLAWNIADAU A PHERFFORMIAD
i). Teithiau Maes Cynhaliwyd tair taith faes bron bob Sadwrn mewn tri lleoliad yng Nghymru. Cyhoeddir manylion y teithiau, gan gynnwys y man cyfarfod, fesul mis drwy wefan ac ap ffôn symudol y Gymdeithas. Cynhaliwyd ambell daith ychwanegol yng nghanol yr wythnos neu gyda’r nos yn ystod yr haf.
Cafwyd y teithiau eu harwain gan aelodau’r Gymdeithas a hefyd gan staff mudiadau sydd yn ymwneud a byd natur megis y Parciau Cenedlaethol ac Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Ar ddiwedd y teithiau cafodd luniau o’r teithiau eu rhannu ar dudalen Weplyfr y Gymdeithas a chafwyd ymateb ffafriol i'r lluniau gan sawl aelod.
ii) Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd Darparwyd safle ar faes yr Eisteddfod ym mis Awst 2023. Roedd yn gyfle i ddenu aelodau newydd, i ddarparu paned a chroeso i unrhyw un fyddai’n ymweld â’r babell ac yn hyrwyddo’r Gymdeithas i bawb oedd yn ymweld. Dangoswyd posteri a baratowyd i gynyddu gwybodaeth am hanes a bywyd gwyllt yr ardal.
Cynhaliwyd cystadleuaeth dan adain yr Eisteddfod am erthygl addas i'r Naturiaethwr. Mae’r Gymdeithas yn cynnig £200 o wobr ac roedd 4 wedi ymgeisio.
Traddodwyd darlith y Gymdeithas gan Cathryn Charnell White o Brifysgol Aberystwyth a drafododd y tywydd yn Llenyddiaeth Cymru. Daeth cynulleidfa deilwng i gefnogi a derbyniwyd adborth ffafriol.
Cynigiwyd dwy daith maes a oedd ar agor i’r cyhoedd.
iii) Gwyliau’r Gymdeithas Ebrill 2024 Anfonwyd manylion i holl aelodau’r Gymdeithas am y gwyliau a drefnwyd yng Ngwesty Llwyngwair, Trefdraeth, Sir Benfro. Bu pedwar
3
aelod ar hugain yn aros yn y gwesty gydag ambell aelod ychwanegol yn ymuno â rhai o'r gweithgareddau. Cafwyd wythnos o deithiau dan ofal arweinwyr lleol gan ddangos hyfrydwch a byd natur yr ardal i'r rhai a gefnogodd y gwyliau. Roedd cyfle i gymdeithasu a mwynhau’r ardal.
Mae’r teithwyr yn talu cost lawn y gwyliau; nid oes cost net i’r Gymdeithas.
iv) Y Gynhadledd Flynyddol Cynhaliwyd Cynhadledd yng ng westy y Diplomat yn Llanelli ar benwythnos 20 – 22 Hydref 2023. Bu sgwrs am yr Ardd Fotaneg nos Wener, taith gerdded yn ardal Llanelli ddydd Sadwrn, sgwrs nos Sadwrn am hanes y Mynydd Du a thaith fore Sul i weld olion y mwyngloddio a sut mae Byd Natur yn hawlio ei le yn ôl erbyn hyn. Bu 23 aelod yn bresennol yn y Cyfarfod Blynyddol brynhawn Sadwrn 21 Hydref.
v) Pwyllgorau Cynhaliwyd pedwar cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith:-
18 Medi 2023 (yn rhithiol)
16 Tachwedd 2023 (yn rhithiol)
15 Chwefror 2024 (yn rhithiol)
16 Mai 2024 (yn Neuadd Rhydypennau)
Cynhaliwyd pum cyfarfod rhithiol o’r Is-bwyllgor Marchnata dan gadeiryddiaeth Is-gadeirydd y Gymdeithas.
vi) Y Cylchlythyr Cynhyrchwyd dau rifyn o’r Cylchlythyr yn Haf 2023 a Chwefror 2024. Erbyn hyn mae’n llawn hanesion y teithiau a gynhaliwyd yn ystod y chwe mis blaenorol. Mae’n gylchgrawn deniadol a swmpus sydd yn lliwgar iawn ac yn cael ei anfon i bob aelod drwy law’r argraffwyr Gwasg Y Lolfa.
vii) Y Naturiaethwr Cynhyrchwyd dau rifyn o’r cylchgrawn Y Naturiaethwr yn ystod y flwyddyn a’u hanfon allan yr un pryd â’r Cylchlythyr. Mae’r Naturiaethwr yn llawn erthyglau difyr am bob agwedd o fyd natur gyda chyfle i unrhyw aelod gyfrannu. Yn y tudalennau canol ceir detholiad o eitemau o fwletin Llên Natur “Glas”. Mae’r Gymdeithas yn cynnig gwobr am erthygl i’r Naturiaethwr gan ddysgwr y Gymraeg.
viii) Prosiect Llên Natur .Dosbarthir Bwletin Prosiect Llên Natur “Glas” drwy e-bost i unrhyw un sy’n cofrestru, boed yn aelod o’r Gymdeithas ai peidio. Anelir at gynhyrchu rhifyn bob mis ond collwyd un neu ddau rifyn eleni oherwydd salwch y gwirfoddolwyr allweddol.
Mae miloedd o bobl yn dilyn “Cymuned Llên Natur”, grŵp Weplyfr Llên Natur, ac mae’r nifer yn dal i gynyddu. Mae nifer fawr yn cyfrannu lluniau a holi am wybodaeth am bob agwedd o fyd natur a’r amgylchedd.
Cyfrannodd aelodau o dîm rheoli Llên Natur at ddigwyddiadau Bioblitz yn ystod y flwyddyn.
4
ix) Cyhoeddi Llyfrau Mae gwirfoddolwyr wedi chwarae rhan allweddol wrth baratoi i gyhoeddi cyfrol yn trafod dyddiaduron 1820-1827 Owen Edwards, ffermwr o Benmorfa, yn canolbwyntio ar agweddau perthnasol i fyd natur a’r amgylchedd.
Mae Is-gadeirydd y Gymdeithas wedi rhoi cymorth gyda pharatoi llyfr yn y Gymraeg am Edward Llwyd.
5. CASGLIAD
Mae’r Gymdeithas yn hyrwyddo gweithgareddau yn ymwneud a Byd Natur. Mae ymateb cadarnhaol gan yr aelodau gan fod cefnogaeth deilwng ar bob taith sydd wedi ei threfnu ym mhob rhan o Gymru ac i’r holl weithgareddau eraill a drefnir.
Iona Evans. Cadeirydd.
6. ADOLYGIAD ARIANNOL
Mae’r fantolen yn dangos fod £33.5mil wrth gefn. Er bod £5200 o wahaniaeth rhwng y gwariant a’r incwm, penderfynodd yr Ymddiriedolwyr nad oedd angen gweithredu ar frys ond cytunwyd i fonitro’r sefyllfa ac ystyried codi’r tâl aelodaeth yn y flwyddyn 2026/7.
5
CYMDEITHAS EOWARD LLWYD - RHIF ELUSEN 1126027 Cylrlf Incwm a Gwarljnt 0110712023 hyd 3010612024 GWARIANT INCWM 2023-2024 2022.2023 2023.2024 2022-2023 T41 A•lodaeth Gwerthlann•u Llyfrau CELI 12,034.00 82.02 13,183 305 Argraffu.. Cylctrrfronn•u Deunydd I werthu Prlnt Arall eitemau Cell BloFlits Llyfr•ulCYlch8ronU 6,975.LM) 268.99 407.34 430. I,) c 721 Prlnt Ar•ll Dlllad S73.87 105.00 180.00 I,S27.29 743 52 52 Dlmddlad•u P05t/Oosbarthu 250 2,735 19 4.726 Inrym Cylarfod Blyrtyddol Elsteddfod Cyfarfod Blynyddol T•¢h Wybodieth Gwel•n Ar•ll 4,182.10 4.016.29 1.086. 58S 46 Dl8wyddi4d•u YmGwAMt Llc6 Banc Rhgddlon IrKwm Arall 280.00 797.95 73.00 10,731.00 326 370 11,340 Pwyllqor Cost•u Eralll Costsu Aelod•u: Cost•u B•nc Gwarlant Arall 14.28 150.¢X) 25.34 L082.67 170.fAI 448.08 Gwobr Dy$8wr Telthlo nmorfa archwlllo Yswlriont 160 431 4- TtTrdr4•th Trlp 2024 10.731.IXI 31.587.09 11,340 33,912 26.384.13 739 Mewfi Ilaw 0110712023 Cyfrif v Trysorydd Cyfrlf 8usnes Mewn Il•w 3010612024 Cyfrif y Trysorydd Cyfr¢l Busms 459.62 33.044.93 38.327.13 3¢707.51 65,)91.64 33,504.55 65,091.64 As•Oau mewn Il•w Llylr•¢J Yrwyf wedloKhwllh(oAnodlo# InKwmo6rfont C>tyThdthsEdYMtUwydumzow24wmgertynorflewwchh7drrose/yll1u y61ne[t$iMC1ahfv Wllli4m G Straln Arolygwr Margaret Roberts Trysorydd 450
COMISIWN EIUSENNA AR GYFER CYMRU A LLOEGR Adroddiad yr archwiliwr annibynnol ar y cyfrifon Adran A Aitroddiad yr Archwilivff Annjbynnol Adro(kliad i CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Ar y cyfrifon y ) MEHEFIN 2024 Rhrf yr Elvsen (os oesl 1126(r27 Jt [108 nadyw Llofno(ly 3 Hythf 2(f24 WILLIAAI G STRAIN
CsThhwyster (cwy$le[au) neu gorff proffesiynol perthnasol (os oesl: Cyfeiriad: Gwynld Datoeliad Cwblhewch dirn ond os S angen i'r archwlwr dynnu sww at fatenon o bryder Igweler CC32. ArChwIj amibynnol o gyffifc eIusenn. Cyrafja a ChIlawlU I archwiw). Rhowch fanylion yma am unrhyw eitemau yr hoffai'i archwiliwr eu datoelu IER Hydref 2018