## **ADRODDIAD I’R COMISIWN ELUSENNAU** 

**AM Y CYFNOD 01.07.2023 I 30.06.2024** 

**ENW’R GYMDEITHAS** : **CYMDEITHAS EDWARD LLWYD** 

**RHIF COFRESTRU: 1126027** 

## **1. ENWAU YMDDIRIEDOLWYR:** 

- 1 Goronwy Wynne: Llywydd 

2. Duncan Brown: Is Lywydd 

3. T wm Elias: Is Lywydd 

4. Iona Evans: Cadeirydd 

5. Hywel Madog Jones: Is Gadeirydd 

6. Gareth Jones: Ysgrifennydd 

7. Margaret Roberts/ 8. Amanda Skull : Trysoryddion 

9. Jackie Willmington: Ysgrifennydd Cofnodion 

10. Elizabeth Roberts: Trefnydd y Gynhadledd 

11. Gwyn Roberts: Golygydd y Cylchlythyr 

12. Dafydd Lewis: Ysgrifennydd Aelodaeth a Golygydd y Naturiaethwr 

13. Iwan Roberts: Trefnydd teithiau’r Gogledd Ddwyrain 

14. Eirian Davies: Trefnydd teithiau’r De a’r Canolbarth 

15. John Griffith: Cyd drefnydd  teithiau Gogledd Orllewin a Threfnydd Gwyliau 

16. Haf Meredydd: Aelod o’r Pwyllgor.Gwaith 

17. Rhisiart ap Gwilym: Aelod o’r Pwyllgor.Gwaith 18. Alan Williams: Aelod o’r Pwyllgor.Gwaith 

19. Dominig Kervegant Aelod o’r Pwyllgor.Gwaith 20. Shelagh Fishlock Aelod o’r Pwyllgor.Gwaith 

1 



## **2. STRWYTHUR, LLYWODRAETHU A RHEOLIAEth** 

## **i) Yr ymddiriedolwyr a sut y byddant yn cael eu penodi.** 

Mae’r Ymddiriedolwyr i gyd yn aelodau o’r Gymdeithas ac fe’u hetholir yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.  Ni chaiff Ymddiriedolwyr eu talu. 

Ym mis Hydref bob blwyddyn cynhelir Cyfarfod Blynyddol fel rhan o benwythnos Cynhadledd y Gymdeithas.  Mae pob aelod yn derbyn manylion trwy’r post am y penwythnos gyda chyfle i gofrestru.  Cynhelir y Cyfarfod Blynyddol ar brynhawn Sadwrn y Gynhadledd.  Anfonir manylion am y cyfarfod at yr aelodau sydd wedi cofrestru pythefnos ymlaen llaw gan gynnwys yr agenda a chofnodion Cyfarfod y flwyddyn gynt.  Rhoddir dogfennau hefyd ar wefan a thudalen Weplyfr y Gymdeithas ac mae ychydig o gopïau caled ar gael yn y Cyfarfod. 

Cyn y Cyfarfod Blynyddol mae’r Ysgrifennydd yn cysylltu â’r  holl ymddiriedolwyr i ofyn a ydynt yn fodlon cael eu hailethol i’r Pwyllgor Gwaith  a dal ati gyda’i swydd lle bo’n berthnasol. 

## ii **)  Y Pwyllgor Gwaith (PG)** 

Mae’r Ymddiriedolwyr yn aelodau o’r Pwyllgor Gwaith (PG) sydd yn rheoli’r Gymdeithas ar ran yr aelodau.  Cynhelir pedwar cyfarfod o’r PG bob blwyddyn. 

Bydd yr Ysgrifennydd yn anfon cais i’r holl ymddiriedolwyr am eitemau i’w rhoi ar agenda’r cyfarfod yna bydd yr agenda yn cael ei rannu cyn y cyfarfod fel bod pob aelod yn cael cyfle i gyfrannu.  Bydd Cadeirydd y Gymdeithas yn llywio’r cyfarfodydd.  Mae cofnodion manwl yn cael eu cadw o bob cyfarfod gan yr Ysgrifennydd Cofnodion ac yn cael eu hanfon i’r holl Ymddiriedolwyr.  Yn y PG dilynol bydd cyfle i gytuno fod y cofnodion yn rhai cywir ac yna eu cyhoeddi ar wefan y Gymdeithas. 

Os bydd y Swyddogion angen barn aelodau’r PG ar fater brys bydd modd cysylltu gyda phob aelod trwy e-bost a hynny fel arfer dan arweiniad yr Ysgrifennydd. 

## **iii)  Yr Is-bwyllgor Marchnata (PM)** 

Mae grŵp o aelodau’r PG yn ffurfio is-bwyllgor dan arweiniad yr Is-gadeirydd sy’n adrodd yn ôl i’r PG.   Prif bwrpas y PM yw  paratoi presenoldeb y Gymdeithas yn yr Eisteddfod Genedlaethol. 

## **iv) Prosiect Llên Natur** 

Mae Prosiect Llên Natur yn adnodd pwysig dan adain Y Gymdeithas.  Mae ychydig o aelodau’r PG yn rheoli prosiect Llên Natur ac yn adrodd yn ôl  i’r PG.  Mae’r Prosiect yn codi ymwybyddiaeth o faterion amgylcheddol ymhlith y cyhoedd (yn ogystal ag aelodau’r Gymdeithas) drwy gynnal gwefan a thudalen Weplyfr a chyhoeddi bwletin a ddosbarthir drwy e-bost. 

2 



## **3. AMCANION A GWEITHGAREDDAU’R GYMDEITHAS.** 

Mae’r Gymdeithas yn croesawu pawb sydd â diddordeb ym myd natur ac yn yr amgylchedd a threftadaeth naturiol Cymru.  Ei hamcan yw cynyddu ymwybyddiaeth, dealltwriaeth a gwerthfawrogiad ohonynt.  Cymraeg yw iaith y Gymdeithas.  Ymdrechir i hybu’r defnydd o Gymraeg yn y meysydd amgylcheddol a rhoddir croeso i aelodau sy’n dysgu Cymraeg. 

- Cynhelir teithiau maes, Cynhadledd Flynyddol, stondin a darlith yn yr Eisteddfod Genedlaethol a gwyliau. 

- Cyhoeddir dau gylchgrawn, y Cylchlythyr a’r Naturiaethwr. 

- Cynhelir dwy wefan, un yn delio â gweithgareddau’r Gymdeithas a’r llall yn trin materion amgylcheddol. 

- Ymgymerir â thrawsgrifio a dadansoddir hen ddyddiaduron gyda chynnwys perthnasol i fyd natur a’r amgylchedd. 

- Cyhoeddir rhestrau o enwau Cymraeg safonol ar rywogaethau. 

## **4. CYFLAWNIADAU A PHERFFORMIAD** 

i). **Teithiau Maes** Cynhaliwyd tair taith faes bron bob Sadwrn mewn tri lleoliad yng Nghymru.  Cyhoeddir manylion y teithiau, gan gynnwys y man cyfarfod, fesul mis drwy wefan ac ap ffôn symudol y Gymdeithas.  Cynhaliwyd ambell daith ychwanegol yng nghanol yr wythnos neu gyda’r nos yn ystod yr haf. 

Cafwyd y teithiau eu harwain gan aelodau’r Gymdeithas a hefyd gan staff mudiadau sydd yn ymwneud a byd natur megis y Parciau Cenedlaethol ac Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.  Ar ddiwedd y teithiau cafodd luniau o’r teithiau eu rhannu ar dudalen Weplyfr y Gymdeithas a chafwyd ymateb ffafriol i'r lluniau gan sawl aelod. 

**ii)  Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd** Darparwyd safle ar faes yr Eisteddfod ym mis Awst 2023.  Roedd yn gyfle i ddenu aelodau newydd, i ddarparu paned a chroeso i unrhyw un fyddai’n ymweld â’r babell ac yn hyrwyddo’r Gymdeithas i bawb oedd yn ymweld.  Dangoswyd posteri a baratowyd i gynyddu gwybodaeth am hanes a bywyd gwyllt yr ardal. 

Cynhaliwyd cystadleuaeth dan adain yr Eisteddfod am erthygl addas i'r Naturiaethwr. Mae’r Gymdeithas yn cynnig £200 o wobr ac roedd 4 wedi ymgeisio. 

Traddodwyd darlith y Gymdeithas gan Cathryn Charnell White o Brifysgol Aberystwyth a drafododd y tywydd yn Llenyddiaeth Cymru.  Daeth cynulleidfa deilwng i gefnogi a derbyniwyd adborth ffafriol. 

Cynigiwyd dwy daith maes a oedd ar agor i’r cyhoedd. 

**iii) Gwyliau’r Gymdeithas Ebrill 2024** Anfonwyd manylion i holl aelodau’r Gymdeithas am y gwyliau a drefnwyd yng Ngwesty Llwyngwair, Trefdraeth, Sir Benfro.  Bu pedwar 

3 



aelod ar hugain yn aros yn y gwesty gydag ambell aelod ychwanegol yn ymuno â rhai o'r gweithgareddau.  Cafwyd wythnos o deithiau dan ofal arweinwyr lleol gan ddangos hyfrydwch a byd natur yr ardal i'r rhai a gefnogodd y gwyliau.  Roedd cyfle i gymdeithasu a mwynhau’r ardal. 

Mae’r teithwyr yn talu cost lawn y gwyliau; nid oes cost net i’r Gymdeithas. 

**iv)   Y Gynhadledd Flynyddol** Cynhaliwyd Cynhadledd yng ng westy y Diplomat yn Llanelli ar benwythnos 20 – 22 Hydref 2023.  Bu sgwrs am yr Ardd Fotaneg nos Wener, taith gerdded yn ardal Llanelli ddydd Sadwrn, sgwrs nos Sadwrn am hanes y Mynydd Du a thaith fore Sul i weld olion y mwyngloddio a sut mae Byd Natur yn hawlio ei le yn ôl erbyn hyn.  Bu 23 aelod yn bresennol yn y Cyfarfod Blynyddol brynhawn Sadwrn 21 Hydref. 

**v)  Pwyllgorau** Cynhaliwyd pedwar cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith:- 

18 Medi 2023 (yn rhithiol) 

16 Tachwedd 2023 (yn rhithiol) 

15 Chwefror 2024 (yn rhithiol) 

16 Mai 2024 (yn Neuadd Rhydypennau) 

Cynhaliwyd pum cyfarfod rhithiol o’r Is-bwyllgor Marchnata dan gadeiryddiaeth  Is-gadeirydd y Gymdeithas. 

**vi)  Y Cylchlythyr** Cynhyrchwyd dau rifyn o’r Cylchlythyr yn Haf 2023 a Chwefror 2024. Erbyn hyn mae’n llawn hanesion y teithiau a gynhaliwyd yn ystod y chwe mis blaenorol. Mae’n gylchgrawn deniadol a swmpus sydd yn lliwgar iawn ac yn cael ei anfon i bob aelod drwy law’r argraffwyr Gwasg Y Lolfa. 

**vii)  Y Naturiaethwr** Cynhyrchwyd dau rifyn o’r cylchgrawn _Y Naturiaethwr_ yn ystod y flwyddyn a’u hanfon allan yr un pryd â’r Cylchlythyr.  Mae’r _Naturiaethwr_ yn llawn erthyglau difyr am bob agwedd o fyd natur gyda chyfle i unrhyw aelod gyfrannu.  Yn y tudalennau canol ceir detholiad o eitemau o fwletin Llên Natur “Glas”. Mae’r Gymdeithas yn cynnig gwobr am erthygl i’r Naturiaethwr gan ddysgwr y Gymraeg. 

**viii) Prosiect Llên Natur** .Dosbarthir Bwletin Prosiect Llên Natur “Glas” drwy e-bost i unrhyw un sy’n cofrestru, boed yn aelod o’r Gymdeithas ai peidio.  Anelir at gynhyrchu rhifyn bob mis ond collwyd un neu ddau rifyn eleni oherwydd salwch y gwirfoddolwyr allweddol. 

Mae miloedd  o bobl yn dilyn  “Cymuned Llên Natur”, grŵp  Weplyfr Llên Natur, ac mae’r nifer yn dal i gynyddu.  Mae  nifer fawr yn cyfrannu lluniau a holi am wybodaeth am bob agwedd o fyd natur a’r amgylchedd. 

Cyfrannodd aelodau o dîm rheoli Llên Natur  at ddigwyddiadau Bioblitz yn ystod y flwyddyn. 

4 



**ix)  Cyhoeddi Llyfrau** Mae gwirfoddolwyr wedi chwarae rhan allweddol wrth baratoi i gyhoeddi cyfrol yn trafod dyddiaduron 1820-1827 Owen Edwards, ffermwr o Benmorfa, yn canolbwyntio ar agweddau perthnasol i fyd natur a’r amgylchedd. 

Mae Is-gadeirydd y Gymdeithas wedi rhoi cymorth gyda pharatoi llyfr yn y Gymraeg am Edward Llwyd. 

## **5.   CASGLIAD** 

Mae’r Gymdeithas yn hyrwyddo gweithgareddau yn ymwneud a Byd Natur. Mae ymateb cadarnhaol gan yr aelodau gan fod cefnogaeth deilwng ar bob taith sydd wedi ei threfnu ym mhob rhan o Gymru ac i’r holl weithgareddau eraill a drefnir. 

Iona Evans. Cadeirydd. 

## **6.  ADOLYGIAD ARIANNOL** 

Mae’r fantolen yn dangos fod £33.5mil wrth gefn.  Er bod £5200 o wahaniaeth rhwng  y gwariant a’r incwm, penderfynodd yr Ymddiriedolwyr nad oedd angen gweithredu ar frys ond cytunwyd i fonitro’r sefyllfa ac ystyried codi’r tâl aelodaeth yn y flwyddyn 2026/7. 

5 



CYMDEITHAS EOWARD LLWYD - RHIF ELUSEN 1126027
Cylrlf Incwm a Gwarljnt 0110712023 hyd 3010612024
GWARIANT
INCWM
2023-2024
2022.2023
2023.2024
2022-2023
T41 A•lodaeth
Gwerthlann•u Llyfrau CELI
12,034.00
82.02
13,183
305
Argraffu..
Cylctrrfronn•u
Deunydd I werthu Prlnt Arall
eitemau Cell
BloFlits
Llyfr•ulCYlch8ron￿U
6,975.LM)
268.99
407.34
430.
I,￿) c
721
Prlnt Ar•ll
Dlllad
S73.87
105.00
180.00
I,S27.29
743
52
52
Dlmddlad•u
P05t/Oosbarthu
250
2,735
19
4.726
Inrym Cylarfod Blyrtyddol
Elsteddfod
Cyfarfod Blynyddol
T•¢h Wybodieth Gwel•n
Ar•ll
4,182.10
4.016.29
1.086.
58S
46
Dl8wyddi4d•u YmGwAMt
Llc6 Banc
Rhgddlon
IrKwm Arall
280.00
797.95
73.00
10,731.00
326
370
11,340
Pwyllqor
Cost•u Eralll
Costsu Aelod•u:
Cost•u B•nc
Gwarlant Arall
14.28
150.¢X)
25.34
L082.67
170.fAI
448.08
Gwobr Dy$8wr
Telthlo
nmorfa archwlllo
Yswlriont
160
431
4- T￿t￿Tr*dr4•th Trlp 2024
10.731.IXI
31.587.09
11,340
33,912
26.384.13
739
Mewfi Ilaw 0110712023
Cyfrif v Trysorydd
Cyfrlf 8usnes
Mewn Il•w 3010612024
Cyfrif y Trysorydd
Cyfr¢l Busms
459.62
33.044.93
38.327.13
3¢707.51
65,)91.64
33,504.55
65,091.64
As•Oau mewn Il•w
Llylr•¢J
Yrwyf wedloKhwllh(oAnodlo# InKwmo6**rfont C>tyThdthsEd*YMtUwydumzow24wmgertynorflewwchh7dr￿rose/yll1u y61n￿e[t￿$iM￿C1￿ah￿fv
Wllli4m G Straln Arolygwr
Margaret Roberts Trysorydd
450

COMISIWN EIUSENNA
AR GYFER CYMRU A LLOEGR
Adroddiad yr archwiliwr annibynnol
ar y cyfrifon
Adran A
Aitroddiad yr Archwilivff Annjbynnol
Adro(kliad i
CYMDEITHAS EDWARD LLWYD
Ar y cyfrifon y
) MEHEFIN 2024
Rhrf yr Elvsen
(os oesl
1126(r27
Jt [108 nadyw*
Llofno(l*y
3 Hythf 2(f24
WILLIAAI G STRAIN

CsThhwyster
(c￿wy$le[au) neu gorff
proffesiynol perthnasol
(os oesl:
Cyfeiriad:
Gwyn￿ld
Datoeliad
Cwblhewch dirn ond os ￿S angen i'r archwlwr dynnu sww at fatenon o bryder Igweler
CC32. ArChwI￿j amibynnol o gyffifc￿ eIusenn￿. Cyraf￿￿ja￿ a Ch￿Ilaw￿lU I
archwiw).
Rhowch fanylion
yma am unrhyw
eitemau yr
hoffai'i
archwiliwr eu
datoelu
IER
Hydref 2018