OpenCharities

This text was generated using OCR and may contain errors. Check the original PDF to see the document submitted to the regulator.

2022-12-31-accounts

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

ADRODDIAD BLYNYDDOL A DATGANIAD ARIANNOL

Y flwyddyn hyd at 31[ain ] Rhagfyr 2022

Capel y Tabernacl, Cyf. Cwmni Cyfyngedig Cofrestredig: 06349041 (Cymru) Elusen Gofrestredig Rhif: 1122584

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

CYNNWYS

Gwybodaeth Gyfreithiol a Gweinyddol Tudalen 2–3 Swyddogion y Tabernacl Tudalen 4–5 Adroddiad yr Ymddiriedolwyr Tudalen 6–7 Adroddiad y Cadeirydd Tudalen 8–9 Adroddiad yr Archwilydd Annibynnol Tudalen 10 Datganiad o’r Gweithgareddau Ariannol Tudalen 11 Mantolen Tudalen 12 Nodiadau sy’n ffurfio rhan o’r Datganiadau Ariannol Tudalen 13–19 Datganiad Manwl o’r Gweithgareddau Ariannol Tudalen 20

Enw cofrestredig y cwmni: Capel y Tabernacl, Cyf. Cwmni Cyfyngedig Cofrestredig: 06349041 (Cymru) Elusen Gofrestredig: 1122584

Cyfeiriad Cofrestredig:

9 Gerddi’r Sofran, Ffordd Cefn yr Hendy, Meisgyn, Pont-y-clun CF72 8SZ

Ysgrifennydd y Cwmni:

Gwilym Huws

2

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

YMDDIRIEDOLWYR YR ELUSEN A CHYFARWYDDWYR Y CWMNI

Enw Etholwyd Geraint Wyn Davies Tachwedd 2019 Edwyn Evans Tachwedd 2018 Gwion Prys Evans Tachwedd 2021 Rhian Eyres Tachwedd 2021 Hefin Gwyn Gruffydd Tachwedd 2020 Bethan Haulwen Guilfoyle Tachwedd 2020 Sarah Eleri Jones Tachwedd 2019 Helen Middleton Tachwedd 2020 Iwan Llwyd Rowlands Tachwedd 2020 (Cadeirydd) Gwenfil Edwina Thomas Tachwedd 2019 Nia Mair Williams* Tachwedd 2019 Elwyn Hughes Tachwedd 2022 Aled Illtud Humphreys Tachwedd 2022 Sian Jones Tachwedd 2022 Non Gibbon Morris Tachwedd 2022 Bethan Elen Reynolds Tachwedd 2022

Mae disgwyl i draean yr ymddiriedolwyr / cyfarwyddwyr ymddeol yn eu tro bob blwyddyn. Ymddeolodd y rhai gyda * ar bwys eu henwau ym mis Tachwedd 2022.

Gwefan: www.tabernacl.org

Cyfreithwyr: Devonalds, York House, Pontypridd CF37 1JW

Banc: Lloyds Bank, Sgwâr y Farchnad, Pontypridd CF37 2TF

Cyfrifwyr: Huw Aled Accountants Ltd., Cyfrifwyr Siartredig, 60 Ashbourn Way, Llanishen, Caerdydd, CF14 5EY

3

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

SWYDDOGION Y TABERNACL

Cadeirydd

Iwan Llwyd Rowlands

Ysgrifennydd Gwilym Huws

Trysorydd

Arwyn Lloyd Jones

Y Gweithgor Gweinidogaethu Parchedig D. Eirian Rees (Cadeirydd)

Trefnyddion Oedfaon, Cyhoeddiadau a Phriodasau

Geraint Rees Rhiannon Humphreys Helen Prosser Heulyn Rees Lyn West

Panel Priodasau

Geraint Rees (Cadeirydd) Rhiannon Humphreys Cofrestru Priodasau: Rhys Llewelyn a Helen Middleton

Organyddion a Chyfeilyddion

Sian Elin Jones gyda chymorth Bethan Roberts, Elwyn Hughes, Rhiannon Humphreys ac Eleri Huws

Merched y Tabernacl

Judith Thomas Gaynor Evans

4

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

SWYDDOGION Y TABERNACL – parhad

Y Gweithgor Cyfiawnder Cymdeithasol

John Ll. Thomas (Cadeirydd) Ann D. Davies (Ysgrifennydd) Cymorth Cristnogol: John Ll. Thomas

Yr Ysgol Sul a’r Twmiaid

Ysgol Sul: Caroline Rees a Manon Humphreys Huws Y Twmiaid: Eleri Mai Thomas

Pwyllgor Amddiffyn Plant ac Oedolion Bregus

Gwion Evans (Cadeirydd) Gwiriwr DBS: Wendy Reynolds

Pwyllgor Arloesi a Buddsoddi Hefin Gwyn Gruffydd (Cadeirydd)

Pwyllgor y Meddiannau Mike West (Cadeirydd) Y Fynwent: Edwyn Evans Rhandiroedd: Emlyn P. Jones

Gweithgor Ariannol

Gwilym Huws (Cadeirydd) Arwyn Lloyd Jones (Trysorydd)

Swyddog Ieuenctid a Chymunedol

Eleri Mai Thomas

Rheolwyr Safle Mike West a Rhian Eyres

5

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR

Mae’r Ymddiriedolwyr, sydd hefyd yn Gyfarwyddwyr yr elusen at ddiben deddfwriaeth cwmnïau, yn cyflwyno eu hadroddiad blynyddol a’r datganiadau ariannol archwiliedig am y flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 2022. Mae’r Ymddiriedolwyr wedi mabwysiadu’r “Datganiad o Arferion a Argymhellwyd i Elusennau” a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2015 wrth baratoi’r adroddiad blynyddol, ac mae’r datganiadau hyn yn unol â Safon Adroddiadau Ariannol y Deyrnas Gyfunol a Gweriniaeth Iwerddon (FRS 102) (yn weithredol o 1 Ionawr 2015).

Strwythur, rheoli a threfn lywodraethol

Mae Capel y Tabernacl, Cyf. yn gwmni elusennol ac yn gwmni cyfyngedig o dan warant fel y’i diffinnir yn Neddf Cwmnïau 2006. Fe’i sefydlwyd yn unol â’r Memorandwm sy’n datgan manylion a phwerau’r cwmni, a chaiff ei reoli’n unol â’r Erthyglau Cymdeithasiad.

Prif ddiben y cwmni yw hybu’r grefydd Gristnogol yn unol â chredoau’r anghydffurfwyr Protestannaidd a elwir yn Annibynwyr Cymraeg, fel aelodau o Undeb yr Annibynwyr Cymraeg; a hefyd at ddibenion cyffredinol y cyfryw gyrff elusennol neu at ddibenion eraill a fydd yn elusennol yn unig fel y penderfynir o bryd i’w gilydd gan yr Ymddiriedolwyr. Y Bwrdd sydd yn gyfrifol am arolygu holl waith a busnes yr elusen, gyda’r aelodau’n gweithredu fel Ymddiriedolwyr.

Yr Ymddiriedolwyr

Etholir yr Ymddiriedolwyr gan Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol Capel y Tabernacl, Cyf. Ni fyddant yn llai na chwech mewn nifer ond (oni bai y pennir fel arall gan benderfyniad cyffredin), ni fyddant yn amodol ar unrhyw uchafswm. Mae gan y Bwrdd hawl i gyfethol Ymddiriedolwyr ychwanegol. Yn dilyn pob Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, bydd yr Ymddiriedolwyr yn penodi un o’u plith i fod yn gadeirydd eu cyfarfodydd. Y nifer angenrheidiol i ffurfio cworwm yw 6 person sydd â’r hawl i bleidleisio ar y mater i’w drafod.

Rheoli

Cynhelir cyfarfodydd y Bwrdd yn fisol. Mae gwaith yr eglwys yn cael ei drefnu o ddydd i ddydd gan nifer o bwyllgorau a gweithgorau sy’n cwrdd yn rheolaidd.

Bydd pob un o’r pwyllgorau a’r gweithgorau hyn yn adrodd yn ôl i’r Bwrdd yn rheolaidd.

Mae’r Erthyglau Cymdeithasiad yn datgan bod pob aelod o’r Elusen yn ymgymryd i gyfrannu at asedau’r elusen swm gofynnol na fydd yn fwy na deg punt os digwydd i’r elusen gael ei dirwyn i ben.

Cyflogaeth

Mae Capel y Tabernacl Cyf. yn cyflogi un person rhan-amser, sef Swyddog Ieuenctid a Chymunedol, ynghyd â glanhäwr.

Adolygiad Risg

Mae Bwrdd yr Ymddiriedolwyr wedi adolygu’r risgiau sylweddol hynny lle mae Capel y Tabernacl, Cyf. yn agored i risg, ac mae systemau wedi eu sefydlu i leihau’r risgiau hynny. Paratowyd adroddiadau rheolaidd er mwyn sicrhau bod y camau priodol yn bodoli i leihau’r risgiau, sydd yn cynnwys risgiau megis parhad y capel, materion ariannol, iechyd a diogelwch, amddiffyn plant ac oedolion bregus, data personol yr aelodau, staffio a’r amgylchedd.

Amcanion a Gweithgareddau

Mae’r elusen yn rhoi sylw dyladwy i arweiniad y Comisiwn Elusennol ar lesâd cyhoeddus. Prif amcan yr elusen yw bod yn eglwys sy’n cynnig cyfle i’r aelodau fod yn dystion i Iesu Grist ym mhentref Efail Isaf, ac yn yr ardal o gwmpas. Golyga hynny ymgymryd â’r holl weithgareddau sy’n arferol i eglwys Gristnogol, ac fe’u rhestrir yn yr Erthyglau Cymdeithasiad. Mae gan y cwmni hefyd hawl i arddel at ddibenion cyffredinol unrhyw gorff elusennol y dymuna’r Ymddiriedolwyr ei gefnogi, neu at ddibenion eraill y bydd yr Ymddiriedolwyr yn eu hystyried yn rhai cyfan gwbl elusennol.

Llwyddiannau a Pherfformiad

Gweler adroddiad y Cadeirydd. Hefyd ceir manylion pellach yng nghorff yr Adroddiad Blynyddol.

6

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

Adolygiad Ariannol

Adroddir canlyniadau’r elusen am y flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 2022 yn y Datganiad o Weithgareddau Ariannol ar dudalennau 11–19.

Derbyniwyd cyfanswm incwm o £69,321 (2021: £55,328) a gwariwyd £78,177 (2021: £48,125), ac felly y gwariant net am y flwyddyn oedd £8,856 (2021: incwm o £7,203). Y prif reswm dros y cynnydd yng ngwariant yr elusen oedd y cyflogau a dalwyd i'r Swyddog Ieuenctid o dan Rhaglen Arloesi a Buddsoddi Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, cynnydd yng nghostau gwres, golau a dŵr a chynnydd yng nghostau cynnal a chadw yr adeiladau.

Cyfanswm cronfeydd y cwmni ar 31 Rhagfyr 2022 oedd £793,615, o’r hyn roedd £6,684 wedi ei gadw at ddibenion cyfyngedig a £676,695 wedi ei glymu mewn asedau sefydlog a buddsoddi. O ganlyniad roedd gan yr elusen £110,236 o asedau net cyfredol wrth gefn ar ddiwedd y flwyddyn (2021: £99,822). Ni roddwyd unrhyw dâl i’r Ymddiriedolwyr.

Polisi Arian Wrth Gefn

Penderfynodd yr Ymddiriedolwyr roi ystyriaeth fanwl i anghenion y cwmni elusennol am arian wrth gefn, yn unol â chanllawiau’r Comisiwn Elusennau yn y ddogfen “Elusennau a chronfeydd wrth gefn” (CC19).

Yn ein barn ni, mae angen cronfa wrth gefn i’r dibenion canlynol:

  1. I gynnal gwaith yr elusen a gweithgareddau’r eglwys mewn cyfnodau lle y gallem fod yn wynebu gostyngiad mewn incwm.

  2. I wireddu prosiectau mewn cyfnod byr yn ôl y galw.

  3. I gynnal a chadw’r adeiladau fel ein bod yn medru wynebu unrhyw waith atgyweirio angenrheidiol heb i’r gost lesteirio ein prif waith fel eglwys.

Polisi Buddsoddi

Rheolwyd polisi buddsoddi’r cwmni gan yr Erthyglau Cymdeithasiad, o fewn y canllawiau a osodwyd. Rydym yn adolygu’r sefyllfa hon yn gyson.

Polisi Cronfeydd

Mae’r cwmni’n ffodus bod cyfran helaeth o’r incwm yn dod trwy gyfraniadau aelodau, a’r rheiny ar y cyfan yn weddol gyson trwy’r flwyddyn, gyda nifer helaeth yn talu trwy archeb banc. Derbynnir tua £22,000 y flwyddyn mewn cyfraniadau gan aelodau. Y polisi yw ceisio sicrhau bod tua 3 mis o wariant arferol yn aros yn y cyfrif cyfredol yn gyson, a’r gweddill yn cael ei drosglwyddo i’r gronfa fuddsoddi, fel y nodwyd uchod.

Datblygiadau

Teimla’r Ymddiriedolwyr yn hyderus fod dyfodol ariannol Capel y Tabernacl, Cyf. ar seiliau cadarn iawn.

Archwilydd Annibynnol

Archwilydd Annibynnol y cyfrifon hyn oedd Huw Aled Accountants Ltd., 60 Ashbourn Way, Llanishen, Caerdydd, CF14 5EY.

Paratowyd yr adroddiad hwn ar sail canllawiau Cyfrifo ac Adrodd i Elusennau: Datganiad o Arferion a Argymhellwyd, sy’n berthnasol i elusennau wrth baratoi eu cyfrifon ac yn unol â gofynion Safonau Adroddiadau Ariannol y Deyrnas Gyfunol a Gweriniaeth Iwerddon (FRS 102) (gweithredol o 1 Ionawr 2015).

Cymeradwywyd gan y Cyfarwyddwyr/Ymddiriedolwyr ar 18 Gorffennaf 2023 ac fe’i llofnodwyd ar eu rhan gan:

Enw: Rhian Eyres Ymddiriedolwr

Enw: Bethan Elen Reynolds Ymddiriedolwr

7

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

ADRODDIAD Y CADEIRYDD

Annwyl Gyd-aelodau

Yn gyntaf, hoffwn ddiolch am y fraint o gael fy enwebu’n gadeirydd y Bwrdd am eleni. Er fy mod yn aelod o’r Tabernacl ers sawl blwyddyn bellach, dim ond drwy fod yn aelod o’r Bwrdd rwyf wedi sylweddoli faint o waith sy’n cael ei wneud ar hyd y flwyddyn i gynnal yr achos yma yn Efail Isaf. Mawr yw ein diolch fel eglwys i’r holl bobl sy’n gweithio’n dawel yn y cefndir gan chwarae eu rhan yn ddiffwdan. Er bod effaith COVID yn parhau i gael ei deimlo mewn mannau – ac fel athro rwy’n rhagweld y bydd ei gysgod yn parhau am flynyddoedd eto – o ran ein gwaith yma yn y Tabernacl bellach mae COVID yn teimlo fel rhan o hanes. Ar wahân i ddechrau’r oedfaon am 11 y bore yn hytrach na 10.45, mae llawer o’n gweithdrefnau nawr yn ymdebygu i’r blynyddoedd cyn COVID – gyda gogwydd mwy cyfoes, wrth gwrs, wrth i ni geisio ymateb i newidiadau yn ein haelodaeth ac o fewn y gymdeithas.

Mawr yw ein diolch am gyfraniad Edwyn fel Cadeirydd dros y ddwy flynedd ddiwethaf; yn ei adroddiad y llynedd soniodd am rai o’r bendithion a gychwynnwyd yn ystod y pandemig, megis y boreau coffi ar ddydd Mawrth ac ymgyrch y Gweithgor Cyfiawnder Cymdeithasol ar foreau Iau a Sadwrn. Mae’r ddau beth bellach yn elfennau sefydlog o weithgareddau’r Tabernacl ac yn mynd o nerth i nerth. Mae cyfraniad y Gweithgor Cyfiawnder Cymdeithasol, dan arweiniad John Llew, wedi parhau yr un mor egnïol ag erioed yn ystod y flwyddyn – nid yn unig trwy’r gwaith wythnosol o gasglu a didoli celfi ac offer cegin i rai sy’n symud i’w cartref eu hunain am y tro cyntaf, ond hefyd y talebau Nadolig, yr ymgyrch wyau Pasg, casgliad Wythnos Cymorth Cristnogol, y casgliad i elusennau lleol, Apêl y Banciau Bwyd, ac Apêl Wcrain. Mae gwaith y Gweithgor bellach yn cael ei gydnabod fel esiampl o arfer da gan eglwysi eraill ac yn enghraifft wych o aelodau’r Tabernacl yn rhoi eu crefydd ar waith.

Un o’r heriau mwyaf i wynebu eglwysi hyd a lled Cymru yn y cyfnod ôl-bandemig oedd denu plant a phobl ifanc yn ôl i’r Ysgol Sul. Braf felly yw adrodd bod Ysgol Sul y Tabernacl wedi cryfhau ymhellach dros y flwyddyn, ac mae’n hyfryd gweld y plant yn mynychu’r oedfaon ar y Sul ac yn cyfrannu atynt unwaith yn rhagor. I lawer, gan gynnwys fi, eu perfformiad Nadoligaidd yw uchafbwynt y flwyddyn. Mae ein diolch i’r rhieni a’r rhai sy’n gofalu am yr Ysgol Sul. Diolch hefyd i Eleri Mai am y profiadau niferus mae’r Twmiaid a’r Twmiaid Bach yn eu derbyn, a chyflwynir gwerthoedd yr Efengyl i’r bobl ifanc mewn gwisg gwbl gyfoes. Ac wrth gwrs rhaid llongyfarch y Twmiaid ar eu llwyddiant yn Eisteddfod yr Urdd yn ddiweddar wrth greu fideo. Ni fyddai’r gwaith gyda’r bobl ifanc yn bosib oni bai am gefnogaeth ariannol Undeb yr Annibynwyr a’i Raglen Arloesi a Buddsoddi. Mae’n dda deall bod Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn ystyried ein defnydd o’r arian fel esiampl o arfer da. Llongyfarchiadau i Eleri Mai am ei chyfraniad ardderchog unwaith yn rhagor eleni i waith yr eglwys.

Yn ystod y flwyddyn derbyniwyd 12 o aelodau newydd i’r eglwys. Maent i gyd eisoes yn wynebau cyfarwydd i ni yn y capel, ond mae’n hyfryd eu croesawu fel aelodau llawn. Rwy’n siŵr y byddwch yn gysurus yn ein plith ac yn derbyn bendith o fod yn rhan o gymuned yr eglwys. Tristwch, ar y llaw arall, yw cofnodi marwolaeth dwy o’n haelodau anwylaf yn ystod y flwyddyn, sef Mrs Margaret Penny Jones a Mrs Sheila Jones. Estynnwn ein cydymdeimlad didwyll gyda’u teuluoedd yn eu hiraeth.

Nid ar chwarae bach y mae trefnu rhaglen wythnosol o oedfaon, ac yn ystod y flwyddyn rydym wedi derbyn bendith o’r amrywiaeth eang o themâu. Bellach mae gennym dîm newydd yn gyfrifol am lenwi’r Suliau, sef Rhiannon Humphreys, Lyn West, Helen Prosser, Heulyn a Geraint Rees – diolch iddynt am eu gwaith a hefyd i’r aelodau sydd wedi bod yn barod i gyfrannu i’r oedfaon drwy lywyddu, cyflwyno myfyrdod a chyfeilio. Yn yr un modd, diolchwn i’r Parchedigion Aled Edwards a Gethin Rhys hwythau am barhau i gyfrannu’n rheolaidd unwaith eto eleni. Bellach hefyd mae derbyn Dolen y Tab yn rhan annatod o wythnos llawer o’n haelodau, a hoffwn ddiolch i Gwilym am ei waith diwyd yn ei baratoi’n wythnosol.

Un agwedd o fywyd yr eglwys rydym wedi bod yn ei drafod eleni yw’r adolygiad o’r trefniadau gofal bugeiliol. Ffurfiwyd criw bychan gan y Bwrdd er mwyn ystyried y ffordd orau i ailgydio yn y trefniadau hyn. Yn dilyn ymgynghoriad gyda’r aelodau rydym wedi sefydlu Gweithgor, ac o fis Medi ymlaen byddwn yn mynd ati i gwrdd er mwyn clustnodi’r dyletswyddau a byddwn yn adrodd yn ôl i’r gynulleidfa yn yr hydref. Mae croeso i unrhyw un ymuno â’r Gweithgor hwn, a byddem yn estyn croeso arbennig i unrhyw wirfoddolwyr o blith aelodau iau y gynulleidfa.

8

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

ADRODDIAD Y CADEIRYDD – parhad

Un o bwyllgorau prysuraf y Tabernacl yw Pwyllgor y Meddiannau, sydd â rhestr helaeth o gyfrifoldebau i ofalu am gyflwr a diogelwch yr adeiladau, y fynwent, y maes parcio, yr ardd gymunedol a’r rhandiroedd. Maent yn cwrdd yn wythnosol drwy’r flwyddyn i gadw golwg dros y cyfan, gan gyflawni gwaith tacluso a thrwsio, ynghyd â threfnu gyda gweithwyr cymwys i ofalu bod pethau megis y goleuadau argyfwng a’r larymau diogelwch yn gweithio fel y dylent. Croesawyd un aelod ychwanegol i’r Pwyllgor eleni, sef Rhian Eyres, sydd bellach yn cydweithio gyda Mike West fel un o ddau Reolwr Safle. Wrth i mi lunio’r adroddiad hwn, braf oedd clywed bod gwaith ardderchog Pwyllgor y Meddiannau wedi cael cydnabyddiaeth haeddiannol iawn wrth iddynt dderbyn Gwobr Gymunedol y Faner Werdd am greu llecyn gwyrdd sydd o fendith mawr i’r gymuned yn Efail Isaf a’r cyffiniau.

Dros y blynyddoedd mae’r eglwys wedi cofleidio’r cyfryngau newydd fel ffordd effeithiol o gyfathrebu gyda’r aelodau. Y cyfrwng mwyaf poblogaidd erbyn hyn yw’r dudalen Facebook, gyda chanran helaeth o’n haelodau’n troi ati’n rheolaidd. Yn sgil y datblygiad hwn penderfynwyd yn ystod y flwyddyn i beidio â diweddaru cynnwys gwefan y Tabernacl gan nad oedd unrhyw un wedi dangos parodrwydd i olygu’r cynnwys yn rheolaidd. Emlyn Davies fu’n ysgwyddo’r gwaith hwn am dros ugain mlynedd, ac mae’n briodol ein bod yn diolch yn ddiffuant iddo am ei holl waith. Serch hynny, mae’r wefan yn parhau’n adnodd gwerthfawr oherwydd y cynnwys hanesyddol a geir ynddi.

Un o’r datblygiadau mwyaf cyffrous eleni oedd sefydlu gwasanaeth ffrydio’r oedfaon yn fyw ar dudalen Facebook yr eglwys. Bu’n rhaid dangos cryn amynedd i oresgyn sawl her wrth geisio priodi’r hen system a’r newydd, ond erbyn hyn mae’r cyfan yn gweithio’n ardderchog. Rydym yn hynod o ddiolchgar nid yn unig i’r tîm sy’n brysur yn rheoli’r cyfan o Ystafell y Diaconiaid ar foreau Sul, ond hefyd i’r rhai a gynigiodd eu harbenigedd a’u hamser yn ystod y flwyddyn er mwyn sicrhau bod y system bellach yn ddibynadwy fel bod y rhai sy’n methu mynychu’r cwrdd yn derbyn bendith o’i ddilyn yn rhithiol. Rydym yn ddiolchgar i Ymddiriedolaeth Pantyfedwen ac i Gyfundeb Dwyrain Morgannwg am eu cefnogaeth ariannol i’r datblygiad.

Bob blwyddyn mae tymor rhai o aelodau’r Bwrdd yn dod i ben, ac eleni ffarweliwyd â phum aelod, sef Edwyn Evans, Geraint Wyn Davies, Eleri Jones, Gwenfil Thomas a Nia Williams. Diolch i’r pump am eu gwasanaeth – a diolch arbennig i Edwyn am fod yn Gadeirydd hynod effeithiol dros ddwy flynedd. Yn yr un modd, rydym yn croesawu pump o aelodau newydd, sef Siân Jones, Non Morris, Bethan Reynolds, Aled Humphreys ac Elwyn Hughes. Mae’r Bwrdd eisoes wedi elwa o’u cyfraniadau i drafodaethau ar nifer o faterion yn ein cyfarfodydd. Fel Cadeirydd, hoffwn ddiolch i holl aelodau’r Bwrdd am eu cefnogaeth a’u doethineb yn ystod y flwyddyn – heb anghofio am gyfraniadau Arwyn, ein Trysorydd, sy’n gofalu mor gydwybodol am holl agweddau ariannol yr achos, a Gwilym fel yr Ysgrifennydd. Yn yr un modd mae gennym le unwaith yn rhagor i ddiolch i Aled Wyn Thomas o gwmni Huw Aled Accountants Cyf., Llanishen, Caerdydd am ei waith manwl wrth baratoi’r adroddiad ariannol.

Wrth gloi, un peth sy’n gwbl amlwg yng ngwaith yr eglwys yw parodrwydd y gynulleidfa i wneud eu rhan. ‘Mewn undod mae nerth.’ Yn ddieithriad mae pobl sy’n ymweld, neu yn newydd i’r capel, yn synnu o weld pa mor dda mae pawb yn cydweithio er mwyn sicrhau ei fod yn fan croesawgar ac yn dangos y gwerthoedd Cristnogol gorau o fewn ein cymdeithas leol a thu hwnt. Mewn oes lle mae rhai pobl yn camddefnyddio crefydd, rwy’n falch o fod yn aelod o eglwys lle mae helpu pobl eraill yn gonglfaen i’n ffydd.

Iwan Llwyd Rowlands Cadeirydd Dyddiad: 18 Gorffennaf 2023

9

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

ADRODDIAD YR ARCHWILYDD ANNIBYNNOL I YMDDIRIEDOLWYR CAPEL Y TABERNACL, CYF.

Adroddiad yr archwilydd annibynnol i ymddiriedolwyr Capel y Tabernacl, Cyf. (‘y Cwmni’)

Yr wyf yn adrodd i ymddiriedolwyr yr elusen am fy archwiliad o gyfrifon y Cwmni am y flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 2022.

Cyfrifoldebau a sail yr adroddiad

Fel ymddiriedolwyr y Cwmni (a hefyd y cyfarwyddwyr at ddibenion deddfwriaeth cwmnïau) chi’n sy’n gyfrifol am baratoi’r cyfrifon yn unol â gofynion Deddf Cwmnïau 2006 (‘Deddf 2006’).

Wedi bodloni fy hun nad oes angen i gyfrifon y Cwmni dderbyn awdit o dan Rhan 16 Deddf 2006, a’i bod yn gymwys ar gyfer archwiliad annibynnol, gallaf adrodd ar sail fy archwiliad o gyfrifon yr elusen o dan Adran 145 o Ddeddf Elusennau 2011 (‘Deddf 2011’). Wrth gynnal fy archwiliad rwyf wedi dilyn Cyfarwyddiadau y Comisiwn Elusennau o dan Adran 145(5) (b) o Ddeddf 2011).

Datganiad yr Archwilydd Annibynnol

Rwyf wedi cwblhau fy archwiliad, a gallaf gadarnhau nad oes unrhyw fater wedi dod i’m sylw mewn cysylltiad â’m harchwiliad sy’n peri i mi gredu:

  1. nad yw’r cofnodion cyllido wedi eu cadw mewn perthynas â’r Cwmni yn unol â gofynion Adran 386 Deddf 2006; neu

  2. nad yw’r cyfrifon yn cyd-fynd â’r cofnodion hyn; neu

  3. nad yw’r cyfrifon yn cydymffurfio â gofynion Adran 396 Deddf 2006 ac eithrio unrhyw ofyniad bod y cyfrifon yn cyflwyno darlun cywir a theg nad yw’n rhan o’r materion gaiff eu hystyried fel rhan o archwiliad annibynnol; neu

  4. nad yw’r cyfrifon wedi eu paratoi yn unol â methodoleg ac egwyddorion y Datganiad o Ymarfer a Argymhellwyd ( Statement of Recommended Practice ) a ddefnyddir i gyfrifo ac adrodd gan elusennau sy’n berthnasol i elusennau wrth baratoi eu cyfrifon yn ôl gofynion Safon Adroddiadau Ariannol y Deyrnas Gyfunol a Gweriniaeth Iwerddon (FRS 102).

Nid oes gennyf unrhyw gonsýrn ac nid wyf wedi dod ar draws unrhyw faterion mewn cysylltiad â’r archwiliad y dylid tynnu sylw atynt yn yr adroddiad hwn er mwyn dod i ddealltwriaeth lawn o’r cyfrifon.

10

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

DATGANIAD O WEITHGAREDDAU ARIANNOL (YN CYNNWYS CYFRIF O INCWM A GWARIANT) AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 RHAGFYR 2022

Nodiadau
INCWM A GWADDOLION O:
Rhoddion a Chymynroddion
4
Gweithgareddau Elusennol
Gweithgareddau crefyddol
6
Incwm o fuddsoddiadau
5
Cyfanswm
GWARIANT AR
Gweithgareddau Elusennol
Gweithgareddau Crefyddol
7
(GWARIANT)/INCWM
GWEITHREDU NET
Enillion heb eu gwireddu o ailbrisio
asedau buddsoddi
14
INCWM/(GWARIANT) NET
CYSONI’R CRONFEYDD
12
Cysoni’r cronfeydd a ddygwyd
ymlaen
CYFANSWM Y CRONFEYDD A
GARIWYD YMLAEN
Cronfeydd
Anghyfyngedig
Cronfeydd
Cyfyngedig
£
£
45,800
-
-
23,480
41
-
45,841
23,480
64,552
13,625
(18,711)
9,855
15,000
-
(3,711)
9,855
774,926
12,545
771,215
22,400
2022
Cyfanswm
Cronfeydd
£
45,800
23,480
41
69,321
78,177
(8,856)
15,000
6,144
787,471
793,615
2021
Cyfanswm
Cronfeydd
£
36,326
18,995
7
55,328
48,125
7,203
10,000
17,203
770,268
787,471

Mae’r nodiadau yn ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol

11

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

MANTOLEN
AR 31 RHAGFYR 2022
ASEDAU SEFYDLOG
Nodiadau
Asedau Diriaethol
13
Asedau Buddsoddi
14
ASEDAU CYFREDOL
Dyledwyr
15
Arian yn y banc
CREDYDWYR
Yn ddyledus o fewn blwyddyn
16
ASEDAU NET CYFREDOL
CYFANSWM ASEDAU LLAI
DYLEDION CYFREDOL
ASEDAU NET
CRONFEYDD
18
Cronfeydd Anghyfyngedig
Cronfeydd Cyfyngedig
CYFANSWM Y CRONFEYDD
Cronfeydd
Anghyfyngedig
Cronfeydd
Cyfyngedig
£
£
516,695
-
160,000
-
2,986
-
108,300
6,684
2022
Cyfanswm
Cronfeydd
2021
Cyfanswm
Cronfeydd
£
£
516,695
530,104
160,000
145,000
2,986
2,609
114,984
110,808
111,286
6,684
(1,050)
-
117,970
113,417
(1,050)
(1,050)
110,236
6,684
116,920
112,367
786,931
6,684
793,615
787,471
786,931
6,684
793,615
787,471
786,931
774,926
6,684
12,545
793,615
787,471

Mae gan y cwmni elusennol hawl i beidio â chynnal awdit, dan Adran 477 o Ddeddf Cwmnïau 2006, am y flwyddyn yn diweddu ar 31 Rhagfyr 2022.

Nid yw’r aelodau wedi gofyn i’r cwmni elusennol gynnal awdit o’u cyfrifon ariannol am y flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 2022 yn unol ag Adran 476 Deddf Cwmnïau 2006.

Mae’r Ymddiriedolwyr yn cydnabod eu cyfrifoldeb dros y canlynol:

(a) sicrhau bod y cwmni elusennol yn cadw cyfrifon sy’n cyd-fynd â gofynion Adran 386 a 387 o Ddeddf Cwmnïau 2006, ac

(b) yn paratoi datganiadau ariannol sy’n adlewyrchu’n gywir a theg sefyllfa’r cwmni elusennol ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol, gan gynnwys y gwarged neu’r ddyled yn unol â gofynion Adrannau 394 a 395 ac sydd fel arall yn cydymffurfio â gofynion Deddf Cwmnïau 2006 o safbwynt datganiadau ariannol sy’n berthnasol i gwmnïau elusennol.

Cafodd y datganiadau ariannol hyn eu paratoi i gydymffurfio â gofynion arbennig Rhan 15 o Ddeddf Cwmnïau 2006 sy’n berthnasol i gwmnïau elusennol bychan.

Cafodd y datganiadau ariannol eu cymeradwyo gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr ar 18 Gorffennaf 2023 a’u llofnodi ar eu rhan gan:

Enw: Rhian Eyres Ymddiriedolwr

Enw: Bethan Elen Reynolds Ymddiriedolwr

Mae’r nodiadau yn ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol

12

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

NODIADAU AR DDATGANIADAU ARIANNOL AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 RHAGFYR 2022

1. GWYBODAETH STATUDOL

Mae Capel y Tabernacl, Cyf. yn gwmni cyfyngedig dan warant wedi ei ymgorffori yng Nghymru o fewn y Deyrnas Gyfunol. Y Swyddfa Gofrestredig yw 9 Gerddi’r Sofran, Meisgyn, Pontyclun, Cymru, CF72 8SZ.

Mae’r datganiadau ariannol wedi eu cyflwyno mewn Sterling (£), sef arian cyfred y cwmni, yn grwn i’r bunt agosaf.

Prif ddiben a natur yr elusen yw hybu gweithgarwch crefyddol.

Caiff y prif bolisïau cyfrifo a ddefnyddiwyd wrth baratoi’r datganiadau ariannol hyn eu nodi isod. Cafodd y polisïau eu gweithredu’n gyson dros yr holl flynyddoedd a gyflwynir, oni nodir yn wahanol.

2. POLISÏAU CYFRIFO

Sail paratoi’r datganiadau ariannol

Mae datganiadau ariannol y cwmni elusennol, sydd yn endid budd cyhoeddus o dan FRS 102, wedi cael eu paratoi yn unol â SORP (FRS 102) Accounting and Reporting by Charities: Statement of Recommended Practice sy’n gymwys i elusennau sy’n paratoi eu cyfrifon yn unol â Safon Adroddiadau Ariannol yn y Deyrnas Gyfunol a Gweriniaeth Iwerddon (FRS 102) (gweithredol o 1 Ionawr 2019), a Deddf Cwmnïau 2006. Mae’r datganiadau ariannol wedi eu paratoi ar sail confensiwn hanesyddol.

Mae Capel y Tabernacl, Cyf. yn cwrdd â’r diffiniad o endid budd cyhoeddus dan FRS 102. Caiff yr asedau a’r dyledion eu cydnabod o’r cychwyn cyntaf ar gost neu werth gweithrediad hanesyddol oni nodir yn wahanol yn y nodyn / nodiadau cyfrifo perthnasol.

Incwm

Caiff yr holl incwm ei gydnabod yn y Datganiad o Weithgareddau Ariannol unwaith mae gan yr elusen hawl i’r cronfeydd, mae’r incwm yn debygol o gael ei dderbyn, ac mae modd mesur y swm yn hyderus.

Incwm cyfraniadau a chymynroddion

Mae incwm cyfraniadau a chymynroddion yn cynnwys cyfraniadau, rhoddion a grantiau sy’n sicrhau cyllid craidd neu sydd o natur gyffredinol a gydnabyddir lle bo hawl, a thebygolrwydd o’i dderbyn, a lle gellir mesur y swm gyda hyder digonol. Caiff incwm ei gadw’n ôl yn unig pan fydd y rhoddwr yn nodi bod rhaid ei ddefnyddio mewn cyfnod cyfrifo gwahanol, neu lle bo’r rhoddwr wedi gosod amodau y mae’n rhaid i’r elusen gwrdd â hwy cyn sicrhau hawl diamod ar y swm.

Incwm o weithgareddau elusennol

Mae’r incwm o weithgareddau elusennol yn cynnwys incwm a dderbyniwyd dan gytundeb neu lle bo’r hawl yn amodol ar berfformiad dan amodau penodol. Caiff yr incwm hwn ei gydnabod gan bod y gwasanaethau perthynol yn cael eu darparu, ac y mae yna hawl, a thebygolrwydd o dderbynneb, a gellir mesur y swm gyda dibynadwyedd digonol. Caiff yr incwm ei ohirio lle bo’r arian yn cael ei dderbyn cyn cyflawni’r gwasanaeth neu’r digwyddiad mae’r arian yn berthnasol iddo.

Incwm buddsoddiadau

Caiff incwm o fuddsoddiadau ei gydnabod ar sail ei dderbyn.

Nid yw’n bolisi gan yr elusen i ddangos incwm net o wariant.

Gwariant

Caiff ymrwymiadau eu cydnabod fel gwariant cyn gynted ag y bo rheidrwydd cyfreithiol neu ymarferol yn ymrwymo’r elusen i’r gwariant hwnnw. Mae’n debygol y bydd rhaid trosglwyddo buddiannau economaidd fel setliad a gellir mesur yr ymrwymiad mewn modd dibynadwy. Caiff y gwariant ei gyfrifo ar sail croniadau, ac fe’i dosbarthwyd dan benawdau sy’n corlannu’r holl gostau o fewn y categori. Lle nad oes modd clustnodi costau dan bennawd penodol, maent wedi ei glustnodi o dan weithgareddau ar sail sy’n gyson â’r defnydd a wneir o’r adnoddau.

Mae costau sy’n ymwneud â chodi arian yn cynnwys costau ymgyrchu, hysbysebu a marchnata, a defnyddiau postio uniongyrchol.

Mae gwariant ar weithgarwch elusennol yn cynnwys y costau hynny a delir gan yr elusen wrth gyflawni ei gweithgareddau a’i gwasanaethau er lles ei derbynwyr. Mae’n cynnwys nid yn unig y costau y gellir eu clustnodi’n uniongyrchol, ond hefyd y gweithgareddau a’r costau hynny o natur anuniongyrchol sy’n angenrheidiol er mwyn eu cefnogi.

Mae’r nodiadau hyn yn ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol

13

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

NODIADAU AR DDATGANIADAU ARIANNOL AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 RHAGFYR 2022 – PARHAD

2. POLISÏAU CYFRIFO

Gwariant – parhad

Costau Cynorthwyol yw’r costau hynny nad ydynt, er yn hanfodol i’r elusen gyflawni ei hamcanion, yn creu na chyflawni gweithgarwch elusennol. Mae’r rhain yn cynnwys costau llywodraethiant, sef y costau hynny i gwrdd â gofynion cyfansoddiadol a statudol yr elusen, gan gynnwys ffioedd cyfrifo a chostau’n gysylltiedig â rheolaeth strategol yr elusen.

Asedau Sefydlog diriaethol

Caiff asedau sefydlog eu cyfalafu ar gost.

Amcangyfrifir y dibrisiad er mwyn lleihau cost yr ased, namyn yr amcangyfrif o werth sy’n weddill, dros oes yr ased fel a ganlyn:

Eiddo rhyddfraint - dros 40 mlynedd
Offer a chyfarpar - 25% o’r gost
Offer cyfrifiadurol - 50% o’r gost

Asedau Buddsoddi

Mae asedau buddsoddi yn cael eu cyfalafu ar gost ac yn cael eu hailbrisio i werth teg yr ased ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Mae unrhyw enillion neu colledion o'r ailbrisio blynyddol yn cael eu cynnwys o dan y pennawd 'Enillion/(colledion) heb eu gwireddu o ailbrisio asedau buddsoddi" yn y Datganiad o Weithgareddau Ariannol.

Nid yw'r asedau buddsoddi yn cael eu dibrisio.

Trethiant

Mae’r elusen yn cael ei heithrio o dalu treth gorfforaethol ar ei gweithgarwch elusennol.

Cyfrifo Cronfeydd

Gellir defnyddio cronfeydd anghyfyngedig yn unol â’r amcanion elusennol gyda sêl bendith yr ymddiriedolwyr. Dim ond at ddibenion penodol o fewn amcanion yr elusen y gellir defnyddio cronfeydd cyfyngedig. Ceir cyfyngiad pan fo’r rhoddwr yn nodi hynny, neu pan fo’r gronfa wedi ei chreu i godi arian at bwrpasau cyfyngedig penodol.

Ceir esboniad pellach am natur a diben pob cronfa yn y nodiadau i’r datganiadau ariannol.

Offerynnau Ariannol

Dim ond asedau ac ymrwymiadau ariannol o’r math sy’n gymwys ar gyfer offerynnau ariannol sylfaenol sydd gan yr elusen. Caiff offerynnau ariannol sylfaenol eu derbyn yn y lle cyntaf ar sail y gwerth ariannol, ac yna eu mesur ar sail eu gwerth setliad.

Caiff benthyciadau rhatach eu derbyn a’u mesur yn y lle cyntaf ar sail eu gwerth ariannol, gyda’r symiau gaiff eu cario drosodd yn cael eu haddasu yn y blynyddoedd canlynol i adlewyrchu taliadau a wnaed ac unrhyw log sy’n deillio ohonynt.

Dyledwyr

Cydnabyddir dyledwyr masnachol a dyledwyr eraill yn ôl y swm y cytunwyd arno ar ôl cynnwys unrhyw ddisgownt masnachol. Caiff blaendaliadau eu prisio ar y swm net o unrhyw ddisgownt sy’n ddyledus a dalwyd ymlaen llaw.

Credydwyr

Cydnabyddir credydwyr lle mae gan yr elusen ymrwymiad cyfredol o ganlyniad i ddigwyddiad yn y gorffennol sy’n debygol o arwain at drosglwyddo arian i drydydd parti, a bod y swm i gwrdd â’r ymrwymiad yn un y gellir ei fesur neu ei amcangyfrif yn ddibynadwy. Fel arfer, caiff credydwyr eu cydnabod wrth iddynt setlo’r swm ar ôl caniatáu unrhyw ddisgownt masnachol sy’n ddyledus.

Mae’r nodiadau hyn yn ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol

14

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

NODIADAU AR DDATGANIADAU ARIANNOL AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 RHAGFYR 2022 – PARHAD

4. RHODDION A CHYMYNRODDION

Aelodaeth
Casgliadau Rhydd a Rhoddion
Rhent Tŷ Capel
Hurio’r Ganolfan
Amrywiol
Ad-daliad Treth Incwm
5.
INCWM BUDDSODDIADAU
Llog cyfrif cadw
6.
INCWM O WEITHGAREDDAU ELUSENNOL
Rhaglen Arloesi Gweithgarwch Crefyddol
Cronfa Elusennol
Gweithgarwch Crefyddol
Cymorth Cristnogol Gweithgarwch Crefyddol
Apêl Talebau Nadolig Gweithgarwch Crefyddol
Apêl Banc Bwyd Gweithgarwch Crefyddol
Apêl Wcrain Gweithgarwch Crefyddol
7.
COSTAU GWEITHGAREDDAU CREFYDDOL
Costau

Uniongyrchol
(gweler nodyn 8)
Gweithgareddau Crefyddol
£
77,127
8.
COSTAU UNIONGYRCHOL GWEITHGAREDDAU ELUSENNOL
Costau Staff (anghyfyngedig)
Costau Staff (cyfyngedig, Rhaglen Arloesi a Buddsoddi Undeb yr Annibynwyr)
Yswiriant
Gwres, Golau a Dŵr
Pregethwyr
Undeb yr Annibynwyr Cymraeg
Llenyddiaeth
Gweinyddol
Y Ganolfan
Y Fynwent
Amrywiol
Cronfa Elusennau
Cymorth Cristnogol
Costau Cynnal a Chadw
Rhoddion ychwanegol
Apêl Banc Bwyd
Apêl Wcrain
Dibrisiant
2022
£
22,673
10,041
4,767
1,155
-
7,164
45,800
2022
£
41
2022
£
10,000
3,861
1,708
1,250
2,470
4,191
23,480
Costau
Cymorth
£
1,050
2022
£
1,390
20,758
3,937
10,405
1,900
840
535
1,507
-
1,383
552
4,245
2,020
6,886
-
2,740
4,620
13,409
77,127
2021
£
22,269
2,272
3,813
-
-
7,972
36,326
2021
£
7
2021
£
10,000
3,430
1,165
1,390
3,010
-
18,995

Cyfanswm
£
78,177
2021
£
2,306
2,934
3,681
8,197
1,620
800
322
1,656
-
967
117
3,430
1,145
1,546
980
3,965
-
13,409
47,075

Mae’r nodiadau hyn yn ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol

15

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

NODIADAU AR DDATGANIADAU ARIANNOL AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 RHAGFYR 2022 – PARHAD

9. INCWM NET/(GWARIANT)

Nodir incwm net/(gwariant) ar ôl codi tâl /(credydu):

Ffi archwilio
Dibrisiant – asedau’r cwmni
2022
£
1,050
13,409
2021
£
1,050
13,409

10. CYDNABYDDIAETH A BUDDIANNAU’R YMDDIRIEDOLWYR

Ni roddwyd unrhyw gydnabyddiaeth na buddiannau eraill i’r ymddiriedolwyr yn ystod y flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 2022 na’r flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 2021.

Costau’r Ymddiriedolwyr

Ad-dalwyd cyfanswm o £dim (2021: £dim) i'r Ymddiriedolwr yn ystod y flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 2022 am gostau a dalwyd gan yr Ymddiriedolwr ar ran y Capel. Ni thalwyd unrhyw dreuliau i’r ymddiriedolwyr yn ystod y flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 2022 na’r flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 2021.

11. COSTAU STAFF

Ar gyfartaledd misol, cyflogwyd y nifer canlynol o staff yn ystod y flwyddyn:

2022 2021
2 2

Ni dderbyniodd yr un o’r cyflogeion dâl o fwy na £60,000.

12. CYMARIAETHAU AR GYFER Y DATGANIAD O WEITHGAREDDAU ARIANNOL

INCWM A CHYMYNRODDION O:
Rhoddion a Chymynroddion
Gwaith Elusennol
Gweithgarwch Crefyddol
Incwm Buddsoddi
Cyfanswm
GWARIANT AR:
Gweithgarwch Elusennol
Gweithgarwch Crefyddol
Cyfanswm
INCWM NET/(GWARIANT) GWEITHREDU
Enillion heb eu gwireddu o ailbrisio asedau buddsoddi
INCWM/(GWARIANT) NET
CYSONI CRONFEYDD
Cyfanswm a gariwyd ymlaen
CYFANSWM CRONFEYDD A DDYGWYD YMLAEN
Cronfeydd
anghyfyngedig
Cronfeydd
cyfyngedig
£
£
36,326
-
-
18,995
7
-
36,333
18,995
36,651
11,474
36,651
11,474
(318)
7,521
10,000
-
9,682
7,521
765,244
5,024
774,926
12,545
Cyfanswm
cronfeydd
£
36,326
18,995
7
55,328
48,125
48,125
7,203
10,000
17,203
770,268
787,471

Mae’r nodiadau hyn yn ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol

16

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

NODIADAU AR DDATGANIADAU ARIANNOL AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 RHAGFYR 2022 – PARHAD

13. ASEDAU SEFYDLOG DIRIAETHOL

14.
ASEDAU BUDDSODDI
15.
DYLEDWYR: SYMIAU’N DDYLEDUS O FEWN UN BLWYDDYN
2022
£
Blaendaliadau
2,986
-------
16.
CREDYDWYR: SYMIAU SY'N DDYLEDUS O FEWN UN BLWYDDYN
2022
£
Ffi archwilio
1,050
--------
1,050
--------
Eiddo
Rhyddfraint
Cyfarpar ac
Offer
COST
£
£
Ar 1 Ionawr 2021 a 31 Rhagfyr 2021
636,377
24,614
Ar 1 Ionawr 2022 a 31 Rhagfyr 2022
636,377
24,614
DIBRISIANT
Ar 1 Ionawr 2021
92,864
24,614
Tâl am y flwyddyn
13,409
-
Ar 1 Ionawr 2022
106,273
24,614
Tâl am y flwyddyn
13,409
-
Ar 31 Rhagfyr 2022
119,682
24,614
GWERTH NET YN Y LLYFR
Ar 31 Rhagfyr 2022
516,695
-
Ar 31 Rhagfyr 2021
530,104
-
Ar 1 Ionawr 2022
Enillion heb eu gwireddu o ailbrisio asedau buddsoddi
Ar 31 Rhagfyr 2022
Eiddo
Rhyddfraint
Cyfarpar ac
Offer
£
£
636,377
24,614
Cyfansymiau
£
660,991
636,377
24,614
660,991
92,864
24,614
13,409
-
117,478
13,409
106,273
24,614
13,409
-
130,887
13,409
119,682
24,614
144,296
516,695
-
516,695
530,104
-
530,104
Tŷ Capel
£
145,000
15,000
160,000
2021
£
2,609
--------
2021
£
1,050
-------
1,050
-------

Mae’r nodiadau hyn yn ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol

17

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

NODIADAU AR DDATGANIADAU ARIANNOL AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 RHAGFYR 2022 – PARHAD

18. SYMUDIADAU O FEWN CRONFEYDD

Cronfeydd Anghyfyngedig
Cronfa Gyffredinol
Cronfeydd Cyfyngedig
Cronfa Lesotho
Rhaglen Arloesi
Cronfa Elusennol
Cymorth Cristnogol
Apêl Llifogydd
Apêl Banc Bwyd
Apêl Talebau Nadolig
Apêl Diffibriliwr
Apêl Wcrain
Cronfa Ailbrisio
CYFANSYMIAU CRONFEYDD
Mae’r symudiadau net mewn cronfeydd, a gynhwysir
uchod fel a ganlyn:
Cronfeydd Anghyfyngedig
Cronfa gyffredinol
Cronfeydd Cyfyngedig
Rhaglen Arloesi
Cronfa Elusennol
Cymorth Cristnogol
Apêl Talebau Nadolig
Apêl Banc Bwyd
Apêl Wcrain
Cronfa Ailbrisio
CYFANSYMIAU CRONFEYDD
Symudiadau cymharol mewn cronfeydd
Cronfeydd Anghyfyngedig
Cronfa Gyffredinol
Cronfeydd Cyfyngedig
Cronfa Lesotho
Rhaglen Arloesi
Cronfa Elusennol
Cymorth Cristnogol
Apêl Llifogydd
Apêl Banc Bwyd
Apêl Talebau Nadolig
Apêl Diffibriliwr
Cronfa Ailbrisio
CYFANSYMIAU CRONFEYDD
Ar 1/1/22
Symudiadau net
mewn cronfeydd
Ar
31/12/22
£
£
£
732,613
(2,995)
729,618
214
-
214
7,066
(7,066)
-
-
-
-
20
(20)
-
2,095
-
2,095
25
(25)
-
2,585
1,250
3,835
540
-
540
-
-
-
12,545
(5,861)
6,684
42,313
15,000
57,313
787,471
6,144
793,615
Adnoddau a
dderbyniwyd
£
Adnoddau a wariwyd
£
Symudiadau
mewn
cronfeydd
£
45,841
(48,836)
(2,995)
10,000
(17,066)
(7,066)
3,861
(3,861)
-
1,708
(1,728)
(20)
1,250
-
1,250
2,470
(2,495)
(25)
4,191
(4,191)
-
23,480
(29,341)
(5,861)
15,000
-
15,000
84,321
(78,177)
6,144
Ar 1/1/21
Symudiadau net
mewn cronfeydd
Ar 31/12/21
£
£
£
732,931
(318)
732,613
214
-
214
-
7,066
7,066
-
-
-
-
20
20
2,095
-
2,095
980
(955)
25
1,195
1,390
2,585
540
-
540
5,024
7,521
12,545
32,313
10,000
42,313
770,268
17,203
787,471

Mae’r nodiadau hyn yn ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol

18

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

NODIADAU AR DDATGANIADAU ARIANNOL AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 RHAGFYR 2022 – PARHAD

18. SYMUDIADAU O FEWN CRONFEYDD – parhad

Mae’r symudiadau net mewn cronfeydd, a gynhwysir yn yr uchod fel a ganlyn:


fel a ganlyn:
Cronfeydd Anghyfyngedig
Cronfa gyffredinol
Cronfeydd Cyfyngedig
Rhaglen Arloesi
Cronfa Elusennol
Cymorth Cristnogol
Apêl Talebau Nadolig
Apêl Banc Bwyd
Cronfa Ailbrisio
CYFANSYMIAU CRONFEYDD
Adnoddau a
dderbyniwyd
£
Adnoddau a wariwyd
£
Symudiadau
mewn
cronfeydd
£
36,333
(36,651)
(318)
10,000
(2,934)
7,066
3,430
(3,430)
-
1,165
(1,145)
20
1,390
-
1,390
3,010
(3,965)
(955)
18,995
(11,474)
7,521
10,000
-
10,000
65,328
(48,125)
17,203

19. DATGELIADAU PARTÏON PERTHYNOL

Cyfanswm y cyfraniadau a wnaed i’r elusen gan bartïon perthynol yn ystod y flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 2022 oedd £3,814 (2021: £3,454).

20. OFFERYNNAU ARIANNOL

Asedau ariannol ar sail cost amorteiddiad
Treuliau ariannol ar sail cost amorteiddiad
2022
2021
£
114,983
£
110,808
1,050
1,050

Mae’r nodiadau hyn yn ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol

19

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

DATGANIAD MANWL O’R GWEITHGAREDDAU ARIANNOL AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 RHAGFYR 2022

INCWM A CHYMYNRODDION
Cyfraniadau a Chymynroddion
Aelodaeth
Casgliadau rhydd a rhoddion
Rhent Tŷ Capel
Llogi’r Ganolfan
Amrywiol
Ad-daliad Treth Incwm
Incwm Buddsoddiadau
Llog y Cyfrif Cadw
Gweithgareddau Elusennol
Rhaglen Arloesi a Buddsoddi Undeb yr Annibynwyr Cymraeg
Cronfa Elusennau
Cymorth Cristnogol
Apêl Banc Bwyd
Apêl Wcrain
Apêl Talebau Nadolig
Cyfanswm yr adnoddau a dderbyniwyd
GWARIANT
Gweithgareddau Elusennol
Cyflogau (anghyfyngedig)
Cyflogau (cyfyngedig, Rhaglen Arloesi a Buddsoddi Undeb yr Annibynwyr Cymraeg)
Yswiriant
Gwres, golau a dŵr
Pregethwyr
Undeb yr Annibynwyr Cymraeg
Llenyddiaeth
Gweinyddol
Y Ganolfan
Y Fynwent
Amrywiol
Cronfa Elusennau
Cymorth Cristnogol
Costau Cynnal a Chadw
Rhoddion ychwanegol
Apêl Wcrain
Apêl Banc Bwyd
Dibrisiant
Costau Cymorth (Costau Llywodraethu)
Ffi Archwilwyr
Cyfanswm yr adnoddau a wariwyd
Enillion heb eu gwireddu o ailbrisio asedau buddsoddi
Incwm net
2022
£
22,673
10,041
4,767
1,155
-
7,164
45,800
41
10,000
3,861
1,708
2,470
4,191
1,250
23,480
69,321
1,390
20,758
3,937
10,405
1,900
840
535
1,507
-
1,383
552
4,245
2,020
6,886
-
4,620
2,740
13,409
77,127
1,050
78,177
15,000
6,144
2021
£
22,269
2,272
3,813
-
-
7,972
36,326
7
10,000
3,430
1,165
3,010
-
1,390
18,995
55,328
2,306
2,934
3,681
8,197
1,620
800
322
1,656
-
967
117
3,430
1,145
1,546
980
-
3,965
13,409
47,075
1,050
48,125
10,000
17,203

Nid yw’r dudalen hon yn rhan o’r datganiad ariannol statudol

20