CAPEL Y TABERNACL, Cyf. 

## **ADRODDIAD BLYNYDDOL A DATGANIAD ARIANNOL** 

Y flwyddyn hyd at 31[ain ] Rhagfyr 2022 


**Capel y Tabernacl, Cyf.** Cwmni Cyfyngedig Cofrestredig: 06349041 (Cymru) Elusen Gofrestredig Rhif: 1122584 



CAPEL Y TABERNACL, Cyf. 

## **CYNNWYS** 

Gwybodaeth Gyfreithiol a Gweinyddol Tudalen 2–3 Swyddogion y Tabernacl Tudalen  4–5 Adroddiad yr Ymddiriedolwyr Tudalen 6–7 Adroddiad y Cadeirydd Tudalen 8–9 Adroddiad yr Archwilydd Annibynnol Tudalen 10 Datganiad o’r Gweithgareddau Ariannol Tudalen 11 Mantolen Tudalen 12 Nodiadau sy’n ffurfio rhan o’r Datganiadau Ariannol Tudalen 13–19 Datganiad Manwl o’r Gweithgareddau Ariannol Tudalen 20 

**Enw cofrestredig y cwmni:** Capel y Tabernacl, Cyf. **Cwmni Cyfyngedig Cofrestredig:** 06349041 (Cymru) **Elusen Gofrestredig:** 1122584 

**Cyfeiriad Cofrestredig:** 

9 Gerddi’r Sofran, Ffordd Cefn yr Hendy, Meisgyn, Pont-y-clun CF72 8SZ 

## **Ysgrifennydd y Cwmni:** 

Gwilym Huws 

2 



CAPEL Y TABERNACL, Cyf. 

## **YMDDIRIEDOLWYR YR ELUSEN A CHYFARWYDDWYR Y CWMNI** 

**Enw Etholwyd** Geraint Wyn Davies* Tachwedd 2019 Edwyn Evans* Tachwedd 2018 Gwion Prys Evans Tachwedd 2021 Rhian Eyres Tachwedd 2021 Hefin Gwyn Gruffydd Tachwedd 2020 Bethan Haulwen Guilfoyle Tachwedd 2020 Sarah Eleri Jones* Tachwedd 2019 Helen Middleton Tachwedd 2020 Iwan Llwyd Rowlands Tachwedd 2020 _(Cadeirydd)_ Gwenfil Edwina Thomas* Tachwedd 2019 Nia Mair Williams* Tachwedd 2019 Elwyn Hughes Tachwedd 2022 Aled Illtud Humphreys Tachwedd 2022 Sian Jones Tachwedd 2022 Non Gibbon Morris Tachwedd 2022 Bethan Elen Reynolds Tachwedd 2022 

Mae disgwyl i draean yr ymddiriedolwyr / cyfarwyddwyr ymddeol yn eu tro bob blwyddyn. Ymddeolodd y rhai gyda * ar bwys eu henwau ym mis Tachwedd 2022. 

**Gwefan: www.tabernacl.org** 

**Cyfreithwyr:** Devonalds, York House, Pontypridd CF37 1JW 

**Banc:** Lloyds Bank, Sgwâr y Farchnad, Pontypridd CF37 2TF 

**Cyfrifwyr:** Huw Aled Accountants Ltd., Cyfrifwyr Siartredig, 60 Ashbourn Way, Llanishen, Caerdydd, CF14 5EY 

3 



CAPEL Y TABERNACL, Cyf. 

## **SWYDDOGION Y TABERNACL** 

## **Cadeirydd** 

Iwan Llwyd Rowlands 

**Ysgrifennydd** Gwilym Huws 

**Trysorydd** 

Arwyn Lloyd Jones 

**Y Gweithgor Gweinidogaethu** Parchedig D. Eirian Rees _(Cadeirydd)_ 

## **Trefnyddion Oedfaon, Cyhoeddiadau a Phriodasau** 

Geraint Rees Rhiannon Humphreys Helen Prosser Heulyn Rees Lyn West 

## **Panel Priodasau** 

Geraint Rees _(Cadeirydd)_ Rhiannon Humphreys _Cofrestru Priodasau:_ Rhys Llewelyn a Helen Middleton 

## **Organyddion a Chyfeilyddion** 

Sian Elin Jones gyda chymorth Bethan Roberts, Elwyn Hughes, Rhiannon Humphreys ac Eleri Huws 

## **Merched y Tabernacl** 

Judith Thomas Gaynor Evans 

4 



CAPEL Y TABERNACL, Cyf. 

## **SWYDDOGION Y TABERNACL –** _**parhad**_ 

## **Y Gweithgor Cyfiawnder Cymdeithasol** 

John Ll. Thomas _(Cadeirydd)_ Ann D. Davies _(Ysgrifennydd) Cymorth Cristnogol:_ John Ll. Thomas 

## **Yr Ysgol Sul a’r Twmiaid** 

_Ysgol Sul:_ Caroline Rees a Manon Humphreys Huws _Y Twmiaid:_ Eleri Mai Thomas 

## **Pwyllgor Amddiffyn Plant ac Oedolion Bregus** 

Gwion Evans _(Cadeirydd) Gwiriwr DBS:_ Wendy Reynolds 

**Pwyllgor Arloesi a Buddsoddi** Hefin Gwyn Gruffydd _(Cadeirydd)_ 

**Pwyllgor y Meddiannau** Mike West _(Cadeirydd) Y Fynwent:_ Edwyn Evans _Rhandiroedd:_ Emlyn P. Jones 

## **Gweithgor Ariannol** 

Gwilym Huws _(Cadeirydd)_ Arwyn Lloyd Jones _(Trysorydd)_ 

## **Swyddog Ieuenctid a Chymunedol** 

Eleri Mai Thomas 

**Rheolwyr Safle** Mike West a Rhian Eyres 

5 



CAPEL Y TABERNACL, Cyf. 

## **ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR** 

Mae’r Ymddiriedolwyr, sydd hefyd yn Gyfarwyddwyr yr elusen at ddiben deddfwriaeth cwmnïau, yn cyflwyno eu hadroddiad blynyddol a’r datganiadau ariannol archwiliedig am y flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 2022. Mae’r Ymddiriedolwyr wedi mabwysiadu’r “Datganiad o Arferion a Argymhellwyd i Elusennau”  a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2015 wrth baratoi’r adroddiad blynyddol, ac mae’r datganiadau hyn yn unol â Safon Adroddiadau Ariannol y Deyrnas Gyfunol a Gweriniaeth Iwerddon (FRS 102) (yn weithredol o 1 Ionawr 2015). 

## **Strwythur, rheoli a threfn lywodraethol** 

Mae Capel y Tabernacl, Cyf. yn gwmni elusennol ac yn gwmni cyfyngedig o dan warant fel y’i diffinnir yn Neddf Cwmnïau 2006. Fe’i sefydlwyd yn unol â’r Memorandwm sy’n datgan manylion a phwerau’r cwmni, a chaiff ei reoli’n unol â’r Erthyglau Cymdeithasiad. 

Prif ddiben y cwmni yw hybu’r grefydd Gristnogol yn unol â chredoau’r anghydffurfwyr Protestannaidd a elwir yn Annibynwyr Cymraeg, fel aelodau o Undeb yr Annibynwyr Cymraeg; a hefyd at ddibenion cyffredinol y cyfryw gyrff elusennol neu at ddibenion eraill a fydd yn elusennol yn unig fel y penderfynir o bryd i’w gilydd gan yr Ymddiriedolwyr. Y Bwrdd sydd yn gyfrifol am arolygu holl waith a busnes yr elusen, gyda’r aelodau’n gweithredu fel Ymddiriedolwyr. 

## **Yr Ymddiriedolwyr** 

Etholir yr Ymddiriedolwyr gan Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol Capel y Tabernacl, Cyf. Ni fyddant yn llai na chwech mewn nifer ond (oni bai y pennir fel arall gan benderfyniad cyffredin), ni fyddant yn amodol ar unrhyw uchafswm. Mae gan y Bwrdd hawl i gyfethol Ymddiriedolwyr ychwanegol. Yn dilyn pob Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, bydd yr Ymddiriedolwyr yn penodi un o’u plith i fod yn gadeirydd eu cyfarfodydd. Y nifer angenrheidiol i ffurfio cworwm yw 6 person sydd â’r hawl i bleidleisio ar y mater i’w drafod. 

## **Rheoli** 

Cynhelir cyfarfodydd y Bwrdd yn fisol. Mae gwaith yr eglwys yn cael ei drefnu o ddydd i ddydd gan nifer o bwyllgorau a gweithgorau sy’n cwrdd yn rheolaidd. 

Bydd pob un o’r pwyllgorau a’r gweithgorau hyn yn adrodd yn ôl i’r Bwrdd yn rheolaidd. 

Mae’r Erthyglau Cymdeithasiad yn datgan bod pob aelod o’r Elusen yn ymgymryd i gyfrannu at asedau’r elusen swm gofynnol na fydd yn fwy na deg punt os digwydd i’r elusen gael ei dirwyn i ben. 

## **Cyflogaeth** 

Mae Capel y Tabernacl Cyf. yn cyflogi un person rhan-amser, sef Swyddog Ieuenctid a Chymunedol, ynghyd â glanhäwr. 

## **Adolygiad Risg** 

Mae Bwrdd yr Ymddiriedolwyr wedi adolygu’r risgiau sylweddol hynny lle mae Capel y Tabernacl, Cyf. yn agored i risg, ac mae systemau wedi eu sefydlu i leihau’r risgiau hynny. Paratowyd adroddiadau rheolaidd er mwyn sicrhau bod y camau priodol yn bodoli i leihau’r risgiau, sydd yn cynnwys risgiau megis parhad y capel, materion ariannol, iechyd a diogelwch, amddiffyn plant ac oedolion bregus, data personol yr aelodau, staffio a’r amgylchedd. 

## **Amcanion a Gweithgareddau** 

Mae’r elusen yn rhoi sylw dyladwy i arweiniad y Comisiwn Elusennol ar lesâd cyhoeddus. Prif amcan yr elusen yw bod yn eglwys sy’n cynnig cyfle i’r aelodau fod yn dystion i Iesu Grist ym mhentref Efail Isaf, ac yn yr ardal o gwmpas. Golyga hynny ymgymryd â’r holl weithgareddau sy’n arferol i eglwys Gristnogol, ac fe’u rhestrir yn yr Erthyglau Cymdeithasiad. Mae gan y cwmni hefyd hawl i arddel at ddibenion cyffredinol unrhyw gorff elusennol y dymuna’r Ymddiriedolwyr ei gefnogi, neu at ddibenion eraill y bydd yr Ymddiriedolwyr yn eu hystyried yn rhai cyfan gwbl elusennol. 

## **Llwyddiannau a Pherfformiad** 

Gweler adroddiad y Cadeirydd. Hefyd ceir manylion pellach yng nghorff yr Adroddiad Blynyddol. 

6 



## CAPEL Y TABERNACL, Cyf. 

## **Adolygiad Ariannol** 

Adroddir canlyniadau’r elusen am y flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 2022 yn y Datganiad o Weithgareddau Ariannol ar dudalennau 11–19. 

Derbyniwyd cyfanswm incwm o £69,321 (2021: £55,328) a gwariwyd £78,177 (2021: £48,125), ac felly y _gwariant net_ am y flwyddyn oedd £8,856 (2021: incwm o £7,203). Y prif reswm dros y cynnydd yng ngwariant yr elusen oedd y cyflogau a dalwyd i'r Swyddog Ieuenctid o dan Rhaglen Arloesi a Buddsoddi Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, cynnydd yng nghostau gwres, golau a dŵr a chynnydd yng nghostau cynnal a chadw yr adeiladau. 

Cyfanswm cronfeydd y cwmni ar 31 Rhagfyr 2022 oedd £793,615, o’r hyn roedd £6,684 wedi ei gadw at ddibenion cyfyngedig a £676,695 wedi ei glymu mewn asedau sefydlog a buddsoddi. O ganlyniad roedd gan yr elusen £110,236 o asedau net cyfredol wrth gefn ar ddiwedd y flwyddyn (2021: £99,822). Ni roddwyd unrhyw dâl i’r Ymddiriedolwyr. 

## **Polisi Arian Wrth Gefn** 

Penderfynodd yr Ymddiriedolwyr roi ystyriaeth fanwl i anghenion y cwmni elusennol am arian wrth gefn, yn unol â chanllawiau’r Comisiwn Elusennau yn y ddogfen “Elusennau a chronfeydd wrth gefn” (CC19). 

Yn ein barn ni, mae angen cronfa wrth gefn i’r dibenion canlynol: 

1. I gynnal gwaith yr elusen a gweithgareddau’r eglwys mewn cyfnodau lle y gallem fod yn wynebu gostyngiad mewn incwm. 

2. I wireddu prosiectau mewn cyfnod byr yn ôl y galw. 

3. I gynnal a chadw’r adeiladau fel ein bod yn medru wynebu unrhyw waith atgyweirio angenrheidiol heb i’r gost lesteirio ein prif waith fel eglwys. 

## **Polisi Buddsoddi** 

Rheolwyd polisi buddsoddi’r cwmni gan yr Erthyglau Cymdeithasiad, o fewn y canllawiau a osodwyd. Rydym yn adolygu’r sefyllfa hon yn gyson. 

## **Polisi Cronfeydd** 

Mae’r cwmni’n ffodus bod cyfran helaeth o’r incwm yn dod trwy gyfraniadau aelodau, a’r rheiny ar y cyfan yn weddol gyson trwy’r flwyddyn, gyda nifer helaeth yn talu trwy archeb banc. Derbynnir tua £22,000 y flwyddyn mewn cyfraniadau gan aelodau. Y polisi yw ceisio sicrhau bod tua 3 mis o wariant arferol yn aros yn y cyfrif cyfredol yn gyson, a’r gweddill yn cael ei drosglwyddo i’r gronfa fuddsoddi, fel y nodwyd uchod. 

## **Datblygiadau** 

Teimla’r Ymddiriedolwyr yn hyderus fod dyfodol ariannol Capel y Tabernacl, Cyf. ar seiliau cadarn iawn. 

## **Archwilydd Annibynnol** 

Archwilydd Annibynnol y cyfrifon hyn oedd Huw Aled Accountants Ltd., 60 Ashbourn Way, Llanishen, Caerdydd, CF14 5EY. 

Paratowyd yr adroddiad hwn ar sail canllawiau _Cyfrifo ac Adrodd i Elusennau: Datganiad o Arferion a Argymhellwyd,_ sy’n berthnasol i elusennau wrth baratoi eu cyfrifon ac yn unol â gofynion Safonau Adroddiadau Ariannol y Deyrnas Gyfunol a Gweriniaeth Iwerddon (FRS 102) (gweithredol o 1 Ionawr 2015). 

Cymeradwywyd gan y Cyfarwyddwyr/Ymddiriedolwyr ar 18 Gorffennaf 2023 ac fe’i llofnodwyd ar eu rhan gan: 


Enw: Rhian Eyres Ymddiriedolwr 

Enw: Bethan Elen Reynolds Ymddiriedolwr 

7 



CAPEL Y TABERNACL, Cyf. 

## **ADRODDIAD Y CADEIRYDD** 

## Annwyl Gyd-aelodau 

Yn gyntaf, hoffwn ddiolch am y fraint o gael fy enwebu’n gadeirydd y Bwrdd am eleni. Er fy mod yn aelod o’r Tabernacl ers sawl blwyddyn bellach, dim ond drwy fod yn aelod o’r Bwrdd rwyf wedi sylweddoli faint o waith sy’n cael ei wneud ar hyd y flwyddyn i gynnal yr achos yma yn Efail Isaf. Mawr yw ein diolch fel eglwys i’r holl bobl sy’n gweithio’n dawel yn y cefndir gan chwarae eu rhan yn ddiffwdan. Er bod effaith COVID yn parhau i gael ei deimlo mewn mannau – ac fel athro rwy’n rhagweld y bydd ei gysgod yn parhau am flynyddoedd eto – o ran ein gwaith yma yn y Tabernacl bellach mae COVID yn teimlo fel rhan o hanes. Ar wahân i ddechrau’r oedfaon am 11 y bore yn hytrach na 10.45, mae llawer o’n gweithdrefnau nawr yn ymdebygu i’r blynyddoedd cyn COVID – gyda gogwydd mwy cyfoes, wrth gwrs, wrth i ni geisio ymateb i newidiadau yn ein haelodaeth ac o fewn y gymdeithas. 

Mawr yw ein diolch am gyfraniad Edwyn fel Cadeirydd dros y ddwy flynedd ddiwethaf; yn ei adroddiad y llynedd soniodd am rai o’r bendithion a gychwynnwyd yn ystod y pandemig, megis y boreau coffi ar ddydd Mawrth ac ymgyrch y Gweithgor Cyfiawnder Cymdeithasol ar foreau Iau a Sadwrn. Mae’r ddau beth bellach yn elfennau sefydlog o weithgareddau’r Tabernacl ac yn mynd o nerth i nerth. Mae cyfraniad y Gweithgor Cyfiawnder Cymdeithasol, dan arweiniad John Llew, wedi parhau yr un mor egnïol ag erioed yn ystod y flwyddyn – nid yn unig trwy’r gwaith wythnosol o gasglu a didoli celfi ac offer cegin i rai sy’n symud i’w cartref eu hunain am y tro cyntaf, ond hefyd y talebau Nadolig, yr ymgyrch wyau Pasg, casgliad Wythnos Cymorth Cristnogol, y casgliad i elusennau lleol, Apêl y Banciau Bwyd, ac Apêl Wcrain. Mae gwaith y Gweithgor bellach yn cael ei gydnabod fel esiampl o arfer da gan eglwysi eraill ac yn enghraifft wych o aelodau’r Tabernacl yn rhoi eu crefydd ar waith. 

Un o’r heriau mwyaf i wynebu eglwysi hyd a lled Cymru yn y cyfnod ôl-bandemig oedd denu plant a phobl ifanc yn ôl i’r Ysgol Sul. Braf felly yw adrodd bod Ysgol Sul y Tabernacl wedi cryfhau ymhellach dros y flwyddyn, ac mae’n hyfryd gweld y plant yn mynychu’r oedfaon ar y Sul ac yn cyfrannu atynt unwaith yn rhagor. I lawer, gan gynnwys fi, eu perfformiad Nadoligaidd yw uchafbwynt y flwyddyn. Mae ein diolch i’r rhieni a’r rhai sy’n gofalu am yr Ysgol Sul. Diolch hefyd i Eleri Mai am y profiadau niferus mae’r Twmiaid a’r Twmiaid Bach yn eu derbyn, a chyflwynir gwerthoedd yr Efengyl i’r bobl ifanc mewn gwisg gwbl gyfoes. Ac wrth gwrs rhaid llongyfarch y Twmiaid ar eu llwyddiant yn Eisteddfod yr Urdd yn ddiweddar wrth greu fideo. Ni fyddai’r gwaith gyda’r bobl ifanc yn bosib oni bai am gefnogaeth ariannol Undeb yr Annibynwyr a’i Raglen Arloesi a Buddsoddi. Mae’n dda deall bod Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn ystyried ein defnydd o’r arian fel esiampl o arfer da. Llongyfarchiadau i Eleri Mai am ei chyfraniad ardderchog unwaith yn rhagor eleni i waith yr eglwys. 

Yn ystod y flwyddyn derbyniwyd 12 o aelodau newydd i’r eglwys. Maent i gyd eisoes yn wynebau cyfarwydd i ni yn y capel, ond mae’n hyfryd eu croesawu fel aelodau llawn. Rwy’n siŵr y byddwch yn gysurus yn ein plith ac yn derbyn bendith o fod yn rhan o gymuned yr eglwys. Tristwch, ar y llaw arall, yw cofnodi marwolaeth dwy o’n haelodau anwylaf yn ystod y flwyddyn, sef Mrs Margaret Penny Jones a Mrs Sheila Jones. Estynnwn ein cydymdeimlad didwyll gyda’u teuluoedd yn eu hiraeth. 

Nid ar chwarae bach y mae trefnu rhaglen wythnosol o oedfaon, ac yn ystod y flwyddyn rydym wedi derbyn bendith o’r amrywiaeth eang o themâu. Bellach mae gennym dîm newydd yn gyfrifol am lenwi’r Suliau, sef Rhiannon Humphreys, Lyn West, Helen Prosser, Heulyn a Geraint Rees – diolch iddynt am eu gwaith a hefyd i’r aelodau sydd wedi bod yn barod i gyfrannu i’r oedfaon drwy lywyddu, cyflwyno myfyrdod a chyfeilio. Yn yr un modd, diolchwn i’r Parchedigion Aled Edwards a Gethin Rhys hwythau am barhau i gyfrannu’n rheolaidd unwaith eto eleni. Bellach hefyd mae derbyn _Dolen y Tab_ yn rhan annatod o wythnos llawer o’n haelodau, a hoffwn ddiolch i Gwilym am ei waith diwyd yn ei baratoi’n wythnosol. 

Un agwedd o fywyd yr eglwys rydym wedi bod yn ei drafod eleni yw’r adolygiad o’r trefniadau gofal bugeiliol. Ffurfiwyd criw bychan gan y Bwrdd er mwyn ystyried y ffordd orau i ailgydio yn y trefniadau hyn. Yn dilyn ymgynghoriad gyda’r aelodau rydym wedi sefydlu Gweithgor, ac o fis Medi ymlaen byddwn yn mynd ati i gwrdd er mwyn clustnodi’r dyletswyddau a byddwn yn adrodd yn ôl i’r gynulleidfa yn yr hydref. Mae croeso i unrhyw un ymuno â’r Gweithgor hwn, a byddem yn estyn croeso arbennig i unrhyw wirfoddolwyr o blith aelodau iau y gynulleidfa. 

8 



CAPEL Y TABERNACL, Cyf. 

## **ADRODDIAD Y CADEIRYDD –** _**parhad**_ 

Un o bwyllgorau prysuraf y Tabernacl yw Pwyllgor y Meddiannau, sydd â rhestr helaeth o gyfrifoldebau i ofalu am gyflwr a diogelwch yr adeiladau, y fynwent, y maes parcio, yr ardd gymunedol a’r rhandiroedd. Maent yn cwrdd yn wythnosol drwy’r flwyddyn i gadw golwg dros y cyfan, gan gyflawni gwaith tacluso a thrwsio, ynghyd â threfnu gyda gweithwyr cymwys i ofalu bod pethau megis y goleuadau argyfwng a’r larymau diogelwch yn gweithio fel y dylent. Croesawyd un aelod ychwanegol i’r Pwyllgor eleni, sef Rhian Eyres, sydd bellach yn cydweithio gyda Mike West fel un o ddau Reolwr Safle. Wrth i mi lunio’r adroddiad hwn, braf oedd clywed bod gwaith ardderchog Pwyllgor y Meddiannau wedi cael cydnabyddiaeth haeddiannol iawn wrth iddynt dderbyn Gwobr Gymunedol y Faner Werdd am greu llecyn gwyrdd sydd o fendith mawr i’r gymuned yn Efail Isaf a’r cyffiniau. 

Dros y blynyddoedd mae’r eglwys wedi cofleidio’r cyfryngau newydd fel ffordd effeithiol o gyfathrebu gyda’r aelodau. Y cyfrwng mwyaf poblogaidd erbyn hyn yw’r dudalen Facebook, gyda chanran helaeth o’n haelodau’n troi ati’n rheolaidd. Yn sgil y datblygiad hwn penderfynwyd yn ystod y flwyddyn i beidio â diweddaru cynnwys gwefan y Tabernacl gan nad oedd unrhyw un wedi dangos parodrwydd i olygu’r cynnwys yn rheolaidd. Emlyn Davies fu’n ysgwyddo’r gwaith hwn am dros ugain mlynedd, ac mae’n briodol ein bod yn diolch yn ddiffuant iddo am ei holl waith. Serch hynny, mae’r wefan yn parhau’n adnodd gwerthfawr oherwydd y cynnwys hanesyddol a geir ynddi. 

Un o’r datblygiadau mwyaf cyffrous eleni oedd sefydlu gwasanaeth ffrydio’r oedfaon yn fyw ar dudalen Facebook yr eglwys. Bu’n rhaid dangos cryn amynedd i oresgyn sawl her wrth geisio priodi’r hen system a’r newydd, ond erbyn hyn mae’r cyfan yn gweithio’n ardderchog. Rydym yn hynod o ddiolchgar nid yn unig i’r tîm sy’n brysur yn rheoli’r cyfan o Ystafell y Diaconiaid ar foreau Sul, ond hefyd i’r rhai a gynigiodd eu harbenigedd a’u hamser yn ystod y flwyddyn er mwyn sicrhau bod y system bellach yn ddibynadwy fel bod y rhai sy’n methu mynychu’r cwrdd yn derbyn bendith o’i ddilyn yn rhithiol. Rydym yn ddiolchgar i Ymddiriedolaeth Pantyfedwen ac i Gyfundeb Dwyrain Morgannwg am eu cefnogaeth ariannol i’r datblygiad. 

Bob blwyddyn mae tymor rhai o aelodau’r Bwrdd yn dod i ben, ac eleni ffarweliwyd â phum aelod, sef Edwyn Evans, Geraint Wyn Davies, Eleri Jones, Gwenfil Thomas a Nia Williams. Diolch i’r pump am eu gwasanaeth – a diolch arbennig i Edwyn am fod yn Gadeirydd hynod effeithiol dros ddwy flynedd. Yn yr un modd, rydym yn croesawu pump o aelodau newydd, sef Siân Jones, Non Morris, Bethan Reynolds, Aled Humphreys ac Elwyn Hughes. Mae’r Bwrdd eisoes wedi elwa o’u cyfraniadau i drafodaethau ar nifer o faterion yn ein cyfarfodydd. Fel Cadeirydd, hoffwn ddiolch i holl aelodau’r Bwrdd am eu cefnogaeth a’u doethineb yn ystod y flwyddyn – heb anghofio am gyfraniadau Arwyn, ein Trysorydd, sy’n gofalu mor gydwybodol am holl agweddau ariannol yr achos, a Gwilym fel yr Ysgrifennydd. Yn yr un modd mae gennym le unwaith yn rhagor i ddiolch i Aled Wyn Thomas o gwmni Huw Aled Accountants Cyf., Llanishen, Caerdydd am ei waith manwl wrth baratoi’r adroddiad ariannol. 

Wrth gloi, un peth sy’n gwbl amlwg yng ngwaith yr eglwys yw parodrwydd y gynulleidfa i wneud eu rhan. ‘Mewn undod mae nerth.’ Yn ddieithriad mae pobl sy’n ymweld, neu yn newydd i’r capel, yn synnu o weld pa mor dda mae pawb yn cydweithio er mwyn sicrhau ei fod yn fan croesawgar ac yn dangos y gwerthoedd Cristnogol gorau o fewn ein cymdeithas leol a thu hwnt. Mewn oes lle mae rhai pobl yn camddefnyddio crefydd, rwy’n falch o fod yn aelod o eglwys lle mae helpu pobl eraill yn gonglfaen i’n ffydd. 


Iwan Llwyd Rowlands Cadeirydd Dyddiad: 18 Gorffennaf 2023 

9 



CAPEL Y TABERNACL, Cyf. 

## **ADRODDIAD YR ARCHWILYDD ANNIBYNNOL I YMDDIRIEDOLWYR CAPEL Y TABERNACL, CYF.** 

## **Adroddiad yr archwilydd annibynnol i ymddiriedolwyr Capel y Tabernacl, Cyf. (‘y Cwmni’)** 

Yr wyf yn adrodd i ymddiriedolwyr yr elusen am fy archwiliad o gyfrifon y Cwmni am y flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 2022. 

## **Cyfrifoldebau a sail yr adroddiad** 

Fel ymddiriedolwyr y Cwmni (a hefyd y cyfarwyddwyr at ddibenion deddfwriaeth cwmnïau) chi’n sy’n gyfrifol am baratoi’r cyfrifon yn unol â gofynion Deddf Cwmnïau 2006 (‘Deddf 2006’). 

Wedi bodloni fy hun nad oes angen i gyfrifon y Cwmni dderbyn awdit o dan Rhan 16 Deddf 2006, a’i bod yn gymwys ar gyfer archwiliad annibynnol, gallaf adrodd ar sail fy archwiliad o gyfrifon yr elusen o dan Adran 145 o Ddeddf Elusennau 2011 (‘Deddf 2011’). Wrth gynnal fy archwiliad rwyf wedi dilyn Cyfarwyddiadau y Comisiwn Elusennau o dan Adran 145(5) (b) o Ddeddf  2011). 

## **Datganiad yr Archwilydd Annibynnol** 

Rwyf wedi cwblhau fy archwiliad, a gallaf gadarnhau nad oes unrhyw fater wedi dod i’m sylw mewn cysylltiad â’m harchwiliad sy’n peri i mi gredu: 

1. nad yw’r cofnodion cyllido wedi eu cadw mewn perthynas â’r Cwmni yn unol â gofynion Adran 386 Deddf 2006; _neu_ 

2. nad yw’r cyfrifon yn cyd-fynd â’r cofnodion hyn; _neu_ 

3. nad yw’r cyfrifon yn cydymffurfio â gofynion Adran 396 Deddf 2006 ac eithrio unrhyw ofyniad bod y cyfrifon yn cyflwyno darlun cywir a theg nad yw’n rhan o’r materion gaiff eu hystyried fel rhan o archwiliad annibynnol; _neu_ 

4. nad yw’r cyfrifon wedi eu paratoi yn unol â methodoleg ac egwyddorion y Datganiad o Ymarfer a Argymhellwyd ( _Statement of Recommended Practice_ ) a ddefnyddir i gyfrifo ac adrodd gan elusennau sy’n berthnasol i elusennau wrth baratoi eu cyfrifon yn ôl gofynion Safon Adroddiadau Ariannol y Deyrnas Gyfunol a Gweriniaeth Iwerddon (FRS 102). 

Nid oes gennyf unrhyw gonsýrn ac nid wyf wedi dod ar draws unrhyw faterion mewn cysylltiad â’r archwiliad y dylid tynnu sylw atynt yn yr adroddiad hwn er mwyn dod i ddealltwriaeth lawn o’r cyfrifon. 


10 



CAPEL Y TABERNACL, Cyf. 

## **DATGANIAD O WEITHGAREDDAU ARIANNOL (YN CYNNWYS CYFRIF O INCWM A GWARIANT) AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 RHAGFYR 2022** 

|**Nodiadau**<br>**INCWM A GWADDOLION O:**<br>Rhoddion a Chymynroddion<br>**4**<br>**Gweithgareddau Elusennol**<br>Gweithgareddau crefyddol<br>**6**<br>Incwm o fuddsoddiadau<br>**5**<br>**Cyfanswm**<br>**GWARIANT AR**<br>**Gweithgareddau Elusennol**<br>Gweithgareddau Crefyddol<br>**7**<br>**(GWARIANT)/INCWM**<br>**GWEITHREDU NET**<br>Enillion heb eu gwireddu o ailbrisio<br>asedau buddsoddi<br>**14**<br>**INCWM/(GWARIANT) NET**<br>**CYSONI’R CRONFEYDD**<br>**12**<br>**Cysoni’r cronfeydd a ddygwyd**<br>**ymlaen**<br>**CYFANSWM Y CRONFEYDD A**<br>**GARIWYD YMLAEN**|Cronfeydd<br>Anghyfyngedig<br>Cronfeydd<br>Cyfyngedig<br>£<br>£<br>45,800<br>-<br>-<br>23,480<br>41<br>-<br>45,841<br>23,480<br>64,552<br>13,625<br>(18,711)<br>9,855<br>15,000<br>-<br>(3,711)<br>9,855<br>774,926<br>12,545<br>771,215<br>22,400|2022<br>Cyfanswm<br>Cronfeydd<br>£<br>45,800<br>23,480<br>41<br>69,321<br>78,177<br>(8,856)<br>15,000<br>6,144<br>787,471<br>793,615|2021<br>Cyfanswm<br>Cronfeydd<br>£<br>36,326<br>18,995<br>7|
|---|---|---|---|
||||55,328<br>48,125|
||||7,203<br>10,000|
||||17,203<br>770,268|
||||787,471|



_Mae’r nodiadau yn ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol_ 

11 



## CAPEL Y TABERNACL, Cyf. 

|**MANTOLEN**<br>**AR 31 RHAGFYR 2022**<br>**ASEDAU SEFYDLOG**<br> **Nodiadau**<br>Asedau Diriaethol<br>**13**<br>Asedau Buddsoddi<br>**14**<br>**ASEDAU CYFREDOL**<br>Dyledwyr<br> **15**<br>Arian yn y banc<br>**CREDYDWYR**<br>Yn ddyledus o fewn blwyddyn<br>**16**<br>**ASEDAU NET CYFREDOL**<br>**CYFANSWM ASEDAU LLAI**<br>**DYLEDION CYFREDOL**<br>**ASEDAU NET**<br>**CRONFEYDD**<br>**18**<br>Cronfeydd Anghyfyngedig<br>Cronfeydd Cyfyngedig<br>**CYFANSWM Y CRONFEYDD**|Cronfeydd<br>Anghyfyngedig<br>Cronfeydd<br>Cyfyngedig<br>£<br>£<br>516,695<br>-<br>160,000<br>-<br>2,986<br>-<br>108,300<br>6,684|2022<br>Cyfanswm<br>Cronfeydd<br>2021<br>Cyfanswm<br>Cronfeydd<br>£<br>£<br>516,695<br>530,104<br>160,000<br>145,000<br>2,986<br>2,609<br>114,984<br>110,808|
|---|---|---|
||111,286<br>6,684<br>(1,050)<br>-|117,970<br>113,417<br>(1,050)<br>(1,050)|
||110,236<br>6,684|116,920<br>112,367|
||786,931<br>6,684|793,615<br>787,471|
||786,931<br>6,684|793,615<br>787,471|
|||786,931<br>774,926<br>6,684<br>12,545|
|||793,615<br>787,471|



Mae gan y cwmni elusennol hawl i beidio â chynnal awdit, dan Adran 477 o Ddeddf Cwmnïau 2006, am y flwyddyn yn diweddu ar 31 Rhagfyr 2022. 

Nid yw’r aelodau wedi gofyn i’r cwmni elusennol gynnal awdit o’u cyfrifon ariannol am y flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 2022 yn unol ag Adran 476 Deddf Cwmnïau 2006. 

Mae’r Ymddiriedolwyr yn cydnabod eu cyfrifoldeb dros y canlynol: 

(a) sicrhau bod y cwmni elusennol yn cadw cyfrifon sy’n cyd-fynd â gofynion Adran 386 a 387 o Ddeddf Cwmnïau 2006, ac 

(b) yn paratoi datganiadau ariannol sy’n adlewyrchu’n gywir a theg sefyllfa’r cwmni elusennol ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol, gan gynnwys y gwarged neu’r ddyled yn unol â gofynion Adrannau 394 a 395 ac sydd fel arall yn cydymffurfio â gofynion Deddf Cwmnïau 2006 o safbwynt datganiadau ariannol sy’n berthnasol i gwmnïau elusennol. 

Cafodd y datganiadau ariannol hyn eu paratoi i gydymffurfio â gofynion arbennig Rhan 15 o Ddeddf Cwmnïau 2006 sy’n berthnasol i gwmnïau elusennol bychan. 

Cafodd y datganiadau ariannol eu cymeradwyo gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr ar 18 Gorffennaf 2023 a’u llofnodi ar eu rhan gan: 


Enw: Rhian Eyres Ymddiriedolwr 

Enw: Bethan Elen Reynolds Ymddiriedolwr 

_Mae’r nodiadau yn ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol_ 

12 



CAPEL Y TABERNACL, Cyf. 

## **NODIADAU AR DDATGANIADAU ARIANNOL AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 RHAGFYR  2022** 

## **1. GWYBODAETH STATUDOL** 

Mae Capel y Tabernacl, Cyf. yn gwmni cyfyngedig dan warant wedi ei ymgorffori yng Nghymru o fewn y Deyrnas Gyfunol. Y Swyddfa Gofrestredig yw 9 Gerddi’r Sofran, Meisgyn, Pontyclun, Cymru, CF72 8SZ. 

Mae’r datganiadau ariannol wedi eu cyflwyno mewn Sterling (£), sef arian cyfred y cwmni, yn grwn i’r bunt agosaf. 

Prif ddiben a natur yr elusen yw hybu gweithgarwch crefyddol. 

Caiff y prif bolisïau cyfrifo a ddefnyddiwyd wrth baratoi’r datganiadau ariannol hyn eu nodi isod. Cafodd y polisïau eu gweithredu’n gyson dros yr holl flynyddoedd a gyflwynir, oni nodir yn wahanol. 

## **2. POLISÏAU CYFRIFO** 

## **Sail paratoi’r datganiadau ariannol** 

Mae datganiadau ariannol y cwmni elusennol, sydd yn endid budd cyhoeddus o dan FRS 102, wedi cael eu paratoi yn unol â SORP (FRS 102) _Accounting and Reporting by Charities: Statement of Recommended Practice_ sy’n gymwys i elusennau sy’n paratoi eu cyfrifon yn unol â Safon Adroddiadau Ariannol yn y Deyrnas Gyfunol a Gweriniaeth Iwerddon (FRS 102) (gweithredol o 1 Ionawr 2019), a Deddf Cwmnïau 2006. Mae’r datganiadau ariannol wedi eu paratoi ar sail confensiwn hanesyddol. 

Mae Capel y Tabernacl, Cyf. yn cwrdd â’r diffiniad o endid budd cyhoeddus dan FRS 102. Caiff yr asedau a’r dyledion eu cydnabod o’r cychwyn cyntaf ar gost neu werth gweithrediad hanesyddol oni nodir yn wahanol yn y nodyn / nodiadau cyfrifo perthnasol. 

## **Incwm** 

Caiff yr holl incwm ei gydnabod yn y Datganiad o Weithgareddau Ariannol unwaith mae gan yr elusen hawl i’r cronfeydd, mae’r incwm yn debygol o gael ei dderbyn, ac mae modd mesur y swm yn hyderus. 

## **Incwm cyfraniadau a chymynroddion** 

Mae incwm cyfraniadau a chymynroddion yn cynnwys cyfraniadau, rhoddion a grantiau sy’n sicrhau cyllid craidd neu sydd o natur gyffredinol a gydnabyddir lle bo hawl, a thebygolrwydd o’i dderbyn, a lle gellir mesur y swm gyda hyder digonol. Caiff incwm ei gadw’n ôl yn unig pan fydd y rhoddwr yn nodi bod rhaid ei ddefnyddio mewn cyfnod cyfrifo gwahanol, neu lle bo’r rhoddwr wedi gosod amodau y mae’n rhaid i’r elusen gwrdd â hwy cyn sicrhau hawl diamod ar y swm. 

## **Incwm o weithgareddau elusennol** 

Mae’r incwm o weithgareddau elusennol yn cynnwys incwm a dderbyniwyd dan gytundeb neu lle bo’r hawl yn amodol ar berfformiad dan amodau penodol. Caiff yr incwm hwn ei gydnabod gan bod y gwasanaethau perthynol yn cael eu darparu, ac y mae yna hawl, a thebygolrwydd o dderbynneb, a gellir mesur y swm gyda dibynadwyedd digonol. Caiff yr incwm ei ohirio lle bo’r arian yn cael ei dderbyn cyn cyflawni’r gwasanaeth neu’r digwyddiad mae’r arian yn berthnasol iddo. 

## **Incwm buddsoddiadau** 

Caiff incwm o fuddsoddiadau ei gydnabod ar sail ei dderbyn. 

Nid yw’n bolisi gan yr elusen i ddangos incwm net o wariant. 

## **Gwariant** 

Caiff ymrwymiadau eu cydnabod fel gwariant cyn gynted ag y bo rheidrwydd cyfreithiol neu ymarferol yn ymrwymo’r elusen i’r gwariant hwnnw. Mae’n debygol y bydd rhaid trosglwyddo buddiannau economaidd fel setliad a gellir mesur yr ymrwymiad mewn modd dibynadwy. Caiff y gwariant ei gyfrifo ar sail croniadau, ac fe’i dosbarthwyd dan benawdau sy’n corlannu’r holl gostau o fewn y categori. Lle nad oes modd clustnodi costau dan bennawd penodol, maent wedi ei glustnodi o dan weithgareddau ar sail sy’n gyson â’r defnydd a wneir o’r adnoddau. 

Mae costau sy’n ymwneud â chodi arian yn cynnwys costau ymgyrchu, hysbysebu a marchnata, a defnyddiau postio uniongyrchol. 

Mae gwariant ar weithgarwch elusennol yn cynnwys y costau hynny a delir gan yr elusen wrth gyflawni ei gweithgareddau a’i gwasanaethau er lles ei derbynwyr. Mae’n cynnwys nid yn unig y costau y gellir eu clustnodi’n uniongyrchol, ond hefyd y gweithgareddau a’r costau hynny o natur anuniongyrchol sy’n angenrheidiol er mwyn eu cefnogi. 

_Mae’r nodiadau hyn yn ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol_ 

13 



CAPEL Y TABERNACL, Cyf. 

**NODIADAU AR DDATGANIADAU ARIANNOL AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 RHAGFYR  2022 – PARHAD** 

## **2. POLISÏAU CYFRIFO** 

## **Gwariant – parhad** 

Costau Cynorthwyol yw’r costau hynny nad ydynt, er yn hanfodol i’r elusen gyflawni ei hamcanion, yn creu na chyflawni gweithgarwch elusennol. Mae’r rhain yn cynnwys costau llywodraethiant, sef y costau hynny i gwrdd â gofynion cyfansoddiadol a statudol yr elusen, gan gynnwys ffioedd cyfrifo a chostau’n gysylltiedig â rheolaeth strategol yr elusen. 

## **Asedau Sefydlog diriaethol** 

Caiff asedau sefydlog eu cyfalafu ar gost. 

Amcangyfrifir y dibrisiad er mwyn lleihau cost yr ased, namyn yr amcangyfrif o werth sy’n weddill, dros oes yr ased fel a ganlyn: 

|Eiddo rhyddfraint|- dros 40 mlynedd|
|---|---|
|Offer a chyfarpar|- 25% o’r gost|
|Offer cyfrifiadurol|- 50% o’r gost|



## **Asedau Buddsoddi** 

Mae asedau buddsoddi yn cael eu cyfalafu ar gost ac yn cael eu hailbrisio i werth teg yr ased ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Mae unrhyw enillion neu colledion o'r ailbrisio blynyddol yn cael eu cynnwys o dan y pennawd 'Enillion/(colledion) heb eu gwireddu o ailbrisio asedau buddsoddi" yn y Datganiad o Weithgareddau Ariannol. 

Nid yw'r asedau buddsoddi yn cael eu dibrisio. 

## **Trethiant** 

Mae’r elusen yn cael ei heithrio o dalu treth gorfforaethol ar ei gweithgarwch elusennol. 

## **Cyfrifo Cronfeydd** 

Gellir defnyddio cronfeydd anghyfyngedig yn unol â’r amcanion elusennol gyda sêl bendith yr ymddiriedolwyr. Dim ond at ddibenion penodol o fewn amcanion yr elusen y gellir defnyddio cronfeydd cyfyngedig. Ceir cyfyngiad pan fo’r rhoddwr yn nodi hynny, neu pan fo’r gronfa wedi ei chreu i godi arian at bwrpasau cyfyngedig penodol. 

Ceir esboniad pellach am natur a diben pob cronfa yn y nodiadau i’r datganiadau ariannol. 

## **Offerynnau Ariannol** 

Dim ond asedau ac ymrwymiadau ariannol o’r math sy’n gymwys ar gyfer offerynnau ariannol sylfaenol sydd gan yr elusen. Caiff offerynnau ariannol sylfaenol eu derbyn yn y lle cyntaf ar sail y gwerth ariannol, ac yna eu mesur ar sail eu gwerth setliad. 

Caiff benthyciadau rhatach eu derbyn a’u mesur yn y lle cyntaf ar sail eu gwerth ariannol, gyda’r symiau gaiff eu cario drosodd yn cael eu haddasu yn y blynyddoedd canlynol i adlewyrchu taliadau a wnaed ac unrhyw log sy’n deillio ohonynt. 

## **Dyledwyr** 

Cydnabyddir dyledwyr masnachol a dyledwyr eraill yn ôl y swm y cytunwyd arno ar ôl cynnwys unrhyw ddisgownt masnachol. Caiff blaendaliadau eu prisio ar y swm net o unrhyw ddisgownt sy’n ddyledus a dalwyd ymlaen llaw. 

## **Credydwyr** 

Cydnabyddir credydwyr lle mae gan yr elusen ymrwymiad cyfredol o ganlyniad i ddigwyddiad yn y gorffennol sy’n debygol o arwain at drosglwyddo arian i drydydd parti, a bod y swm i gwrdd â’r ymrwymiad yn un y gellir ei fesur neu ei amcangyfrif yn ddibynadwy. Fel arfer, caiff credydwyr eu cydnabod wrth iddynt setlo’r swm ar ôl caniatáu unrhyw ddisgownt masnachol sy’n ddyledus. 

_Mae’r nodiadau hyn yn ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol_ 

14 



CAPEL Y TABERNACL, Cyf. 

## **NODIADAU AR DDATGANIADAU ARIANNOL AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 RHAGFYR  2022 – PARHAD** 

## **4. RHODDION A CHYMYNRODDION** 

|Aelodaeth<br>Casgliadau Rhydd a Rhoddion<br>Rhent Tŷ Capel<br>Hurio’r Ganolfan<br>Amrywiol<br>Ad-daliad Treth Incwm<br>**5**.<br>**INCWM BUDDSODDIADAU**<br>Llog cyfrif cadw<br>**6.**<br>**INCWM O WEITHGAREDDAU ELUSENNOL**<br>Rhaglen Arloesi                     Gweithgarwch Crefyddol<br>Cronfa Elusennol<br>Gweithgarwch Crefyddol<br>Cymorth Cristnogol            Gweithgarwch Crefyddol<br>Apêl Talebau Nadolig           Gweithgarwch Crefyddol<br>Apêl Banc Bwyd                  Gweithgarwch Crefyddol<br>Apêl Wcrain                         Gweithgarwch Crefyddol<br>**7.**<br>**COSTAU GWEITHGAREDDAU CREFYDDOL**<br>Costau<br> <br>Uniongyrchol<br>(gweler nodyn 8)<br>Gweithgareddau Crefyddol<br>£<br>77,127<br>**8.**<br>**COSTAU UNIONGYRCHOL GWEITHGAREDDAU ELUSENNOL**<br>Costau Staff (anghyfyngedig)<br>Costau Staff (cyfyngedig, Rhaglen Arloesi a Buddsoddi Undeb yr Annibynwyr)<br>Yswiriant<br>Gwres, Golau a Dŵr<br>Pregethwyr<br>Undeb yr Annibynwyr Cymraeg<br>Llenyddiaeth<br>Gweinyddol<br>Y Ganolfan<br>Y Fynwent<br>Amrywiol<br>Cronfa Elusennau<br>Cymorth Cristnogol<br>Costau Cynnal a Chadw<br>Rhoddion ychwanegol<br>Apêl Banc Bwyd<br>Apêl Wcrain<br>Dibrisiant||2022<br>£<br>22,673<br>10,041<br>4,767<br>1,155<br>-<br>7,164<br>45,800<br>2022<br>£<br>41<br>2022<br>£<br>10,000<br>3,861<br>1,708<br>1,250<br>2,470<br>4,191<br>23,480<br>Costau<br>Cymorth<br>£<br>1,050<br>2022<br>£<br>1,390<br> 20,758<br>3,937<br> 10,405<br>1,900<br>840<br>535<br>1,507<br>-<br>1,383<br>552<br>4,245<br>2,020<br>6,886<br>-<br>2,740<br>4,620<br> 13,409<br> 77,127|2021<br>£<br>22,269<br>2,272<br>3,813<br>-<br>-<br>7,972|
|---|---|---|---|
||||36,326|
||||2021<br>£<br>7<br>2021<br>£<br>10,000<br>3,430<br>1,165<br>1,390<br>3,010<br>-|
||||18,995|
||<br>||Cyfanswm<br>£<br>78,177<br>2021<br>£<br>2,306<br>2,934<br>3,681<br>8,197<br>1,620<br>800<br>322<br>1,656<br>-<br>967<br>117<br>3,430<br>1,145<br>1,546<br>980<br>3,965<br>-<br>13,409<br>47,075|



_Mae’r nodiadau hyn yn ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol_ 

15 



CAPEL Y TABERNACL, Cyf. 

## **NODIADAU AR DDATGANIADAU ARIANNOL AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 RHAGFYR  2022 – PARHAD** 

## **9. INCWM NET/(GWARIANT)** 

Nodir incwm net/(gwariant) ar ôl codi tâl /(credydu): 

|Ffi archwilio<br>Dibrisiant – asedau’r cwmni|2022<br>£<br>1,050<br>13,409|2021<br>£<br>1,050<br>13,409|
|---|---|---|



## **10. CYDNABYDDIAETH A BUDDIANNAU’R YMDDIRIEDOLWYR** 

Ni roddwyd unrhyw gydnabyddiaeth na buddiannau eraill i’r ymddiriedolwyr yn ystod y flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 2022 na’r flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 2021. 

## **Costau’r Ymddiriedolwyr** 

Ad-dalwyd cyfanswm o £dim (2021: £dim) i'r Ymddiriedolwr yn ystod y flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 2022 am gostau a dalwyd gan yr Ymddiriedolwr ar ran y Capel. Ni thalwyd unrhyw dreuliau i’r ymddiriedolwyr yn ystod y flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 2022 na’r flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 2021. 

## **11. COSTAU STAFF** 

Ar gyfartaledd misol, cyflogwyd y nifer canlynol o staff yn ystod y flwyddyn: 

|2022|2021|
|---|---|
|2|2|



Ni dderbyniodd yr un o’r cyflogeion dâl o fwy na £60,000. 

## **12. CYMARIAETHAU AR GYFER Y DATGANIAD O WEITHGAREDDAU ARIANNOL** 

|**INCWM A CHYMYNRODDION O:**<br>Rhoddion a Chymynroddion<br>**Gwaith Elusennol**<br>Gweithgarwch Crefyddol<br>Incwm Buddsoddi<br>**Cyfanswm**<br>**GWARIANT AR:**<br>**Gweithgarwch Elusennol**<br>Gweithgarwch Crefyddol<br>**Cyfanswm**<br>**INCWM NET/(GWARIANT) GWEITHREDU**<br>Enillion heb eu gwireddu o ailbrisio asedau buddsoddi<br>**INCWM/(GWARIANT) NET**<br>**CYSONI CRONFEYDD**<br>Cyfanswm a gariwyd ymlaen<br>**CYFANSWM CRONFEYDD A DDYGWYD YMLAEN**|Cronfeydd<br>anghyfyngedig<br>Cronfeydd<br>cyfyngedig<br>£<br>£<br>36,326<br>-<br>-<br>18,995<br>7<br>-<br>36,333<br>18,995<br>36,651<br>11,474<br>36,651<br>11,474<br>(318)<br>7,521<br>10,000<br>-<br>9,682<br>7,521<br>765,244<br>5,024<br>774,926<br>12,545|Cyfanswm<br>cronfeydd<br>£<br>36,326<br>18,995<br>7|
|---|---|---|
|||55,328<br>48,125|
|||48,125|
|||7,203<br>10,000|
|||17,203|
|||770,268|
|||787,471|



_Mae’r nodiadau hyn yn ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol_ 

16 



CAPEL Y TABERNACL, Cyf. 

**NODIADAU AR DDATGANIADAU ARIANNOL AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 RHAGFYR  2022 – PARHAD** 

## **13. ASEDAU SEFYDLOG DIRIAETHOL** 

|**14.**<br>**ASEDAU BUDDSODDI**<br>**15.**<br>**DYLEDWYR: SYMIAU’N DDYLEDUS O FEWN UN BLWYDDYN**<br>2022<br>£<br>Blaendaliadau<br>2,986<br>-------<br>**16.**<br>**CREDYDWYR: SYMIAU SY'N DDYLEDUS O FEWN UN BLWYDDYN**<br>2022<br>£<br>Ffi archwilio<br>1,050<br>--------<br>1,050<br>--------<br>Eiddo<br>Rhyddfraint<br>Cyfarpar ac<br>Offer<br> **COST**<br>£<br>£<br>Ar 1 Ionawr 2021 a 31 Rhagfyr 2021<br>636,377<br>24,614<br>**Ar 1 Ionawr 2022 a 31 Rhagfyr 2022**<br>**636,377**<br>**24,614**<br>**DIBRISIANT**<br>Ar 1 Ionawr 2021<br>92,864<br>24,614<br>Tâl am y flwyddyn<br>13,409<br>-<br>**Ar 1 Ionawr 2022**<br>**106,273**<br>**24,614**<br>Tâl am y flwyddyn<br>13,409<br>-<br>**Ar 31 Rhagfyr  2022**<br>**119,682**<br>**24,614**<br>**GWERTH NET YN Y LLYFR**<br>**Ar 31 Rhagfyr 2022**<br>**516,695**<br>**-**<br>Ar 31 Rhagfyr 2021<br>530,104<br>-<br>Ar 1 Ionawr 2022<br>Enillion heb eu gwireddu o ailbrisio asedau buddsoddi<br>**Ar 31 Rhagfyr 2022**|Eiddo<br>Rhyddfraint<br>Cyfarpar ac<br>Offer<br>£<br>£<br>636,377<br>24,614|Cyfansymiau<br>£<br>660,991|
|---|---|---|
||**636,377**<br>**24,614**|**660,991**|
||92,864<br>24,614<br>13,409<br>-|117,478<br>13,409|
||**106,273**<br>**24,614**<br>13,409<br>-|**130,887**<br>13,409|
||**119,682**<br>**24,614**|**144,296**|
||**516,695**<br>**-**|**516,695**|
||530,104<br>-|530,104|
|||**Tŷ Capel**<br>£<br>145,000<br>15,000|
|||**160,000**|
|||2021<br>£<br>2,609<br>--------<br>2021<br>£<br>1,050<br>-------<br>1,050<br>-------|



_Mae’r nodiadau hyn yn ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol_ 

17 



CAPEL Y TABERNACL, Cyf. 

## **NODIADAU AR DDATGANIADAU ARIANNOL AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 RHAGFYR  2022 –  PARHAD** 

## **18. SYMUDIADAU O FEWN CRONFEYDD** 

|**Cronfeydd Anghyfyngedig**<br>Cronfa Gyffredinol<br>**Cronfeydd Cyfyngedig**<br>Cronfa Lesotho<br>Rhaglen Arloesi<br>Cronfa Elusennol<br>Cymorth Cristnogol<br>Apêl Llifogydd<br>Apêl Banc Bwyd<br>Apêl Talebau Nadolig<br>Apêl Diffibriliwr<br>Apêl Wcrain<br> Cronfa Ailbrisio<br>**CYFANSYMIAU CRONFEYDD**<br>Mae’r symudiadau net mewn cronfeydd, a gynhwysir<br>uchod fel a ganlyn:<br>**Cronfeydd Anghyfyngedig**<br>Cronfa gyffredinol<br>**Cronfeydd Cyfyngedig**<br>Rhaglen Arloesi<br>Cronfa Elusennol<br>Cymorth Cristnogol<br>Apêl Talebau Nadolig<br>Apêl Banc Bwyd<br>Apêl Wcrain<br>Cronfa Ailbrisio<br>**CYFANSYMIAU CRONFEYDD**<br>**Symudiadau cymharol mewn cronfeydd**<br>**Cronfeydd Anghyfyngedig**<br>Cronfa Gyffredinol<br>**Cronfeydd Cyfyngedig**<br>Cronfa Lesotho<br>Rhaglen Arloesi<br>Cronfa Elusennol<br>Cymorth Cristnogol<br>Apêl Llifogydd<br>Apêl Banc Bwyd<br>Apêl Talebau Nadolig<br>Apêl Diffibriliwr<br> Cronfa Ailbrisio<br>**CYFANSYMIAU CRONFEYDD**|Ar 1/1/22<br>Symudiadau net<br>mewn cronfeydd<br>Ar<br>31/12/22<br>£<br>£<br>£<br>732,613<br>(2,995)<br>729,618<br>214<br>-<br>214<br>7,066<br>(7,066)<br>-<br>-<br>-<br>-<br>20<br>(20)<br>-<br>2,095<br>-<br>2,095<br>25<br>(25)<br>-<br>2,585<br>1,250<br>3,835<br>540<br>-<br>540<br>-<br>-<br>-|
|---|---|
||12,545<br>(5,861)<br>6,684<br>42,313<br>15,000<br>57,313|
||787,471<br>6,144<br>793,615|
||Adnoddau a<br>dderbyniwyd<br>£<br>Adnoddau a wariwyd<br>£<br>Symudiadau<br>mewn<br>cronfeydd<br>£<br>45,841<br>(48,836)<br>(2,995)<br>10,000<br>(17,066)<br>(7,066)<br>3,861<br>(3,861)<br>-<br>1,708<br>(1,728)<br>(20)<br>1,250<br>-<br>1,250<br>2,470<br>(2,495)<br>(25)<br>4,191<br>(4,191)<br>-|
||23,480<br>(29,341)<br>(5,861)<br>15,000<br>-<br>15,000|
||84,321<br>(78,177)<br>6,144|
||Ar 1/1/21<br>Symudiadau net<br>mewn cronfeydd<br>Ar 31/12/21<br>£<br>£<br>£<br>732,931<br>(318)<br>732,613<br>214<br>-<br>214<br>-<br>7,066<br>7,066<br>-<br>-<br>-<br>-<br>20<br>20<br>2,095<br>-<br>2,095<br>980<br>(955)<br>25<br>1,195<br>1,390<br>2,585<br>540<br>-<br>540|
||5,024<br>7,521<br>12,545<br>32,313<br>10,000<br>42,313|
||770,268<br>17,203<br>787,471|



_Mae’r nodiadau hyn yn ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol_ 

18 



CAPEL Y TABERNACL, Cyf. 

## **NODIADAU AR DDATGANIADAU ARIANNOL AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 RHAGFYR  2022 – PARHAD** 

## **18. SYMUDIADAU O FEWN CRONFEYDD – parhad** 

Mae’r symudiadau net mewn cronfeydd, a gynhwysir yn yr uchod fel a ganlyn: 

|<br>fel a ganlyn:||
|---|---|
|**Cronfeydd Anghyfyngedig**<br>Cronfa gyffredinol<br>**Cronfeydd Cyfyngedig**<br>Rhaglen Arloesi<br>Cronfa Elusennol<br>Cymorth Cristnogol<br>Apêl Talebau Nadolig<br>Apêl Banc Bwyd<br>Cronfa Ailbrisio<br>**CYFANSYMIAU CRONFEYDD**|Adnoddau a<br>dderbyniwyd<br>£<br>Adnoddau a wariwyd<br>£<br>Symudiadau<br>mewn<br>cronfeydd<br>£<br>36,333<br>(36,651)<br>(318)<br>10,000<br>(2,934)<br>7,066<br>3,430<br>(3,430)<br>-<br>1,165<br>(1,145)<br>20<br>1,390<br>-<br>1,390<br>3,010<br>(3,965)<br>(955)|
||18,995<br>(11,474)<br>7,521<br>10,000<br>-<br>10,000|
||65,328<br>(48,125)<br>17,203|



## **19. DATGELIADAU PARTÏON PERTHYNOL** 

Cyfanswm y cyfraniadau a wnaed i’r elusen gan bartïon perthynol yn ystod y flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 2022 oedd £3,814 (2021: £3,454). 

## **20. OFFERYNNAU ARIANNOL** 

|Asedau ariannol ar sail cost amorteiddiad<br>Treuliau ariannol ar sail cost amorteiddiad|**2022**<br>**2021**<br>**£**<br>114,983<br>**£**<br>110,808<br>1,050<br>1,050|
|---|---|



_Mae’r nodiadau hyn yn ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol_ 

19 



## CAPEL Y TABERNACL, Cyf. 

## **DATGANIAD MANWL O’R GWEITHGAREDDAU ARIANNOL AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 RHAGFYR 2022** 

|**INCWM A CHYMYNRODDION**<br>**Cyfraniadau a Chymynroddion**<br>Aelodaeth<br>Casgliadau rhydd a rhoddion<br>Rhent Tŷ Capel<br>Llogi’r Ganolfan<br>Amrywiol<br>Ad-daliad Treth Incwm<br>**Incwm Buddsoddiadau**<br>Llog y Cyfrif Cadw<br>**Gweithgareddau Elusennol**<br>Rhaglen Arloesi a Buddsoddi Undeb yr Annibynwyr Cymraeg<br>Cronfa Elusennau<br>Cymorth Cristnogol<br>Apêl Banc Bwyd<br>Apêl Wcrain<br>Apêl Talebau Nadolig<br>**Cyfanswm yr adnoddau a dderbyniwyd**<br>**GWARIANT**<br>**Gweithgareddau Elusennol**<br>Cyflogau (anghyfyngedig)<br>Cyflogau (cyfyngedig, Rhaglen Arloesi a Buddsoddi Undeb yr Annibynwyr Cymraeg)<br>Yswiriant<br>Gwres, golau a dŵr<br>Pregethwyr<br>Undeb yr Annibynwyr Cymraeg<br>Llenyddiaeth<br>Gweinyddol<br>Y Ganolfan<br>Y Fynwent<br>Amrywiol<br>Cronfa Elusennau<br>Cymorth Cristnogol<br>Costau Cynnal a Chadw<br>Rhoddion ychwanegol<br>Apêl Wcrain<br>Apêl Banc Bwyd<br>Dibrisiant<br>**Costau Cymorth (Costau Llywodraethu)**<br>Ffi Archwilwyr<br>**Cyfanswm yr adnoddau a wariwyd**<br>Enillion heb eu gwireddu o ailbrisio asedau buddsoddi<br>**Incwm net**|2022<br>£<br>22,673<br>10,041<br>4,767<br>1,155<br>-<br>7,164<br>45,800<br>41<br>10,000<br>3,861<br>1,708<br>2,470<br>4,191<br>1,250<br>23,480<br>69,321<br>1,390<br>20,758<br>3,937<br>10,405<br>1,900<br>840<br>535<br>1,507<br>-<br>1,383<br>552<br>4,245<br>2,020<br>6,886<br>-<br>4,620<br>2,740<br>13,409<br>77,127<br>1,050<br>78,177<br>15,000<br>6,144|2021<br>£<br>22,269<br>2,272<br>3,813<br>-<br>-<br>7,972|
|---|---|---|
|||36,326<br>7<br>10,000<br>3,430<br>1,165<br>3,010<br>-<br>1,390|
|||18,995|
|||55,328<br>2,306<br>2,934<br>3,681<br>8,197<br>1,620<br>800<br>322<br>1,656<br>-<br>967<br>117<br>3,430<br>1,145<br>1,546<br>980<br>-<br>3,965<br>13,409|
|||47,075<br>1,050<br>48,125<br>10,000<br>17,203|



_Nid yw’r dudalen hon yn rhan o’r datganiad ariannol statudol_ 

20 

