OpenCharities

This text was generated using OCR and may contain errors. Check the original PDF to see the document submitted to the regulator.

2021-12-31-accounts

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

ADRODDIAD BLYNYDDOL A DATGANIAD ARIANNOL

Y flwyddyn hyd at 31[ain ] Rhagfyr 2021

Capel y Tabernacl, Cyf. Cwmni Cyfyngedig Cofrestredig: 06349041 (Cymru) Elusen Gofrestredig Rhif: 1122584

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

CYNNWYS

Gwybodaeth Gyfreithiol a Gweinyddol Tudalen 2–3
Swyddogion y Tabernacl Tudalen 4–5
Adroddiad yr Ymddiriedolwyr Tudalen 6–7
Adroddiad y Cadeirydd Tudalen 8–9
Adroddiad yr Archwilydd Annibynnol Tudalen 10
Datganiad o’r Gweithgareddau Ariannol Tudalen 11
Mantolen Tudalen 12
Nodiadau sy’n ffurfio rhan o’r Datganiadau Ariannol Tudalen 13–19
Datganiad Manwl o’r Gweithgareddau Ariannol Tudalen 20

Enw cofrestredig y cwmni: Capel y Tabernacl, Cyf. Cwmni Cyfyngedig Cofrestredig: 06349041 (Cymru) Elusen Gofrestredig: 1122584

Cyfeiriad Cofrestredig:

9 Gerddi’r Sofran, Ffordd Cefn yr Hendy, Meisgyn, Pont-y-clun CF72 8SZ

Ysgrifennydd y Cwmni:

Gwilym Huws

2

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

YMDDIRIEDOLWYR YR ELUSEN A CHYFARWYDDWYR Y CWMNI

Enw Etholwyd Geraint Wyn Davies Tachwedd 2019 Edwyn Evans Tachwedd 2018 (Cadeirydd) Gwion Prys Evans Tachwedd 2021 Rhian Eyres Tachwedd 2021 Hefin Gwyn Gruffydd Tachwedd 2020 Bethan Haulwen Guilfoyle Tachwedd 2020 Sarah Eleri Jones Tachwedd 2019 Bethan Angharad Lloyd Herbert Tachwedd 2018 Helen Middleton Tachwedd 2020 Iwan Llwyd Rowlands Tachwedd 2020 Gwenfil Edwina Thomas Tachwedd 2019 David Michael West Tachwedd 2018 Nia Mair Williams Tachwedd 2019

Mae disgwyl i draean yr ymddiriedolwyr / cyfarwyddwyr ymddeol yn eu tro bob blwyddyn. Ymddeolodd y rhai gyda * ar bwys eu henwau ym mis Tachwedd 2021.

Gwefan: www.tabernacl.org

Cyfreithwyr: Devonalds, York House, Pontypridd CF37 1JW

Banc: Lloyds Bank, Sgwâr y Farchnad, Pontypridd CF37 2TF

Cyfrifwyr: Huw Aled Accountants Ltd., Cyfrifwyr Siartredig, 60 Ashbourn Way, Llanishen, Caerdydd, CF14 5EY

3

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

SWYDDOGION Y TABERNACL

Cadeirydd

Edwyn Evans

Ysgrifennydd Gwilym Huws

Trysorydd Arwyn Lloyd Jones

Y Gweithgor Gweinidogaethu Parchedig D. Eirian Rees (Cadeirydd)

Trefnyddion Oedfaon, Cyhoeddiadau a Phriodasau

Rhiannon Humphreys Helen Prosser Heulyn Rees Lyn West

Panel Priodasau

Geraint Rees (Cadeirydd) Cofrestru Priodasau: Rhys Llewelyn a Helen Middleton

Organyddion a Chyfeilyddion

Sian Elin Jones gyda chymorth Bethan Roberts, Rhiannon Humphreys ac Eleri Huws

Golygydd y Wefan Emlyn Davies

Gweithgor Cysylltwyr Ardal

Geraint Wyn Davies (Cadeirydd) Lowri Roberts (Ysgrifennydd)

Merched y Tabernacl

Judith Thomas Gaynor Evans

4

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

SWYDDOGION Y TABERNACL – parhad

Y Gweithgor Cyfiawnder Cymdeithasol

John Ll. Thomas (Cadeirydd) Ann D. Davies (Ysgrifennydd) Cymorth Cristnogol: John Ll. Thomas Cronfa Lesotho: Nia Williams

Yr Ysgol Sul a’r Twmiaid

Ysgol Sul: Caroline Rees a Manon Humphreys Huws Twmiaid: Eleri Mai Thomas

Pwyllgor Amddiffyn Plant ac Oedolion Bregus

Gwion Evans (Cadeirydd) Gwirwyr DBS: Wendy Reynolds a Gwerfyl Morse

Pwyllgor Arloesi a Buddsoddi

Hefin Gwyn Gruffydd (Cadeirydd)

Pwyllgor y Meddiannau

Mike West (Cadeirydd) Y Fynwent: Edwyn Evans Rhandiroedd: Emlyn P. Jones

Gweithgor Ariannol

Gwilym Huws (Cadeirydd) Arwyn Lloyd Jones (Trysorydd)

Swyddog Ieuenctid a Chymunedol

Eleri Mai Thomas

Rheolwr Safle

Mike West

5

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR

Mae’r Ymddiriedolwyr, sydd hefyd yn Gyfarwyddwyr yr elusen at ddiben deddfwriaeth cwmnïau, yn cyflwyno eu hadroddiad blynyddol a’r datganiadau ariannol archwiliedig am y flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 2021. Mae’r Ymddiriedolwyr wedi mabwysiadu’r “Datganiad o Arferion a Argymhellwyd i Elusennau” a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2015 wrth baratoi’r adroddiad blynyddol, ac mae’r datganiadau hyn yn unol â Safon Adroddiadau Ariannol y Deyrnas Gyfunol a Gweriniaeth Iwerddon (FRS 102) (yn weithredol o 1 Ionawr 2015).

Strwythur, rheoli a threfn lywodraethol

Mae Capel y Tabernacl, Cyf. yn gwmni elusennol ac yn gwmni cyfyngedig o dan warant fel y’i diffinnir yn Neddf Cwmnïau 2006. Fe’i sefydlwyd yn unol â’r Memorandwm sy’n datgan manylion a phwerau’r cwmni, a chaiff ei reoli’n unol â’r Erthyglau Cymdeithasiad.

Prif ddiben y cwmni yw hybu’r grefydd Gristnogol yn unol â chredoau’r anghydffurfwyr Protestannaidd a elwir yn Annibynwyr Cymraeg, fel aelodau o Undeb yr Annibynwyr Cymraeg; a hefyd at ddibenion cyffredinol y cyfryw gyrff elusennol neu at ddibenion eraill a fydd yn elusennol yn unig fel y penderfynir o bryd i’w gilydd gan yr Ymddiriedolwyr. Y Bwrdd sydd yn gyfrifol am arolygu holl waith a busnes yr elusen, gyda’r aelodau’n gweithredu fel Ymddiriedolwyr.

Yr Ymddiriedolwyr

Etholir yr Ymddiriedolwyr gan Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol Capel y Tabernacl, Cyf. Ni fyddant yn llai na chwech mewn nifer ond (oni bai y pennir fel arall gan benderfyniad cyffredin), ni fyddant yn amodol ar unrhyw uchafswm. Mae gan y Bwrdd hawl i gyfethol Ymddiriedolwyr ychwanegol. Yn dilyn pob Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, bydd yr Ymddiriedolwyr yn penodi un o’u plith i fod yn gadeirydd eu cyfarfodydd. Y nifer angenrheidiol i ffurfio cworwm yw 6 person sydd â’r hawl i bleidleisio ar y mater i’w drafod.

Rheoli

Cynhelir cyfarfodydd y Bwrdd yn fisol. Mae gwaith yr eglwys yn cael ei drefnu o ddydd i ddydd gan nifer o bwyllgorau a gweithgorau sy’n cwrdd yn rheolaidd.

Bydd pob un o’r pwyllgorau a’r gweithgorau hyn yn adrodd yn ôl i’r Bwrdd yn rheolaidd.

Mae’r Erthyglau Cymdeithasiad yn datgan bod pob aelod o’r Elusen yn ymgymryd i gyfrannu at asedau’r elusen swm gofynnol na fydd yn fwy na deg punt os digwydd i’r elusen gael ei dirwyn i ben.

Cyflogaeth

Mae Capel y Tabernacl Cyf. yn cyflogi un person rhan-amser sef, Swyddog Ieuenctid a Cymunedol, ynghyd â glanhawr.

Adolygiad Risg

Mae Bwrdd yr Ymddiriedolwyr wedi adolygu’r risgiau sylweddol hynny lle mae Capel y Tabernacl, Cyf. yn agored i risg, ac mae systemau wedi eu sefydlu i leihau’r risgiau hynny. Paratowyd adroddiadau rheolaidd er mwyn sicrhau bod y camau priodol yn bodoli i leihau’r risgiau, sydd yn cynnwys risgiau megis parhad y capel, materion ariannol, iechyd a diogelwch, amddiffyn plant ac oedolion bregus, data personol yr aelodau, staffio a’r amgylchedd.

Amcanion a Gweithgareddau

Mae’r elusen yn rhoi sylw dyladwy i arweiniad y Comisiwn Elusennol ar lesâd cyhoeddus. Prif amcan yr elusen yw bod yn eglwys sy’n cynnig cyfle i’r aelodau fod yn dystion i Iesu Grist ym mhentref Efail Isaf, ac yn yr ardal o gwmpas. Golyga hynny ymgymryd â’r holl weithgareddau sy’n arferol i eglwys Gristnogol, ac fe’u rhestrir yn yr Erthyglau Cymdeithasiad. Mae gan y cwmni hefyd hawl i arddel at ddibenion cyffredinol unrhyw gorff elusennol y dymuna’r Ymddiriedolwyr ei gefnogi, neu at ddibenion eraill y bydd yr Ymddiriedolwyr yn eu hystyried yn rhai cyfan gwbl elusennol.

Llwyddiannau a Pherfformiad

Gweler adroddiad y Cadeirydd. Hefyd ceir manylion pellach yng nghorff yr Adroddiad Blynyddol.

6

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

Adolygiad Ariannol

Adroddir canlyniadau’r elusen am y flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 2021 yn y Datganiad o Weithgareddau Ariannol ar dudalennau 11–19.

Derbyniwyd cyfanswm incwm o £55,328 (2020: £47,009) a gwariwyd £48,125 (2020: £52,000), ac felly yr incwm net am y flwyddyn oedd £7,203 (2020: gwariant net £4,991). Y prif reswm dros y cynnydd yn incwm yr elusen oedd derbyn nawdd o £10,000 gan Undeb yr Annibynwyr ym mis Medi 2021 fel cyfraniad tuag at dalu cyflog y Swyddog Ieuenctid a Chymunedol am gyfnod o 12 mis, sef hyd at ddiwedd Awst 2022.

Cyfanswm cronfeydd y cwmni ar 31 Rhagfyr 2021 oedd £787,471, o’r hyn roedd £12,545 wedi ei gadw at ddibenion cyfyngedig a £675,104 wedi ei glymu mewn asedau sefydlog. O ganlyniad roedd gan yr elusen £99,822 wrth gefn ar ddiwedd y flwyddyn (2020: £86,731). Ni roddwyd unrhyw dâl i’r Ymddiriedolwyr.

Polisi Arian Wrth Gefn

Penderfynodd yr Ymddiriedolwyr roi ystyriaeth fanwl i anghenion y cwmni elusennol am arian wrth gefn, yn unol â chanllawiau’r Comisiwn Elusennau yn y ddogfen “Elusennau a chronfeydd wrth gefn” (CC19).

Yn ein barn ni, mae angen cronfa wrth gefn i’r dibenion canlynol:

  1. I gynnal gwaith yr elusen a gweithgareddau’r eglwys mewn cyfnodau lle y gallem fod yn wynebu gostyngiad mewn incwm.

  2. I wireddu prosiectau mewn cyfnod byr yn ôl y galw.

  3. I gynnal a chadw’r adeiladau fel ein bod yn medru wynebu unrhyw waith atgyweirio angenrheidiol heb i’r gost lesteirio ein prif waith fel eglwys.

Polisi Buddsoddi

Rheolwyd polisi buddsoddi’r cwmni gan yr Erthyglau Cymdeithasiad, o fewn y canllawiau a osodwyd. Rydym yn adolygu’r sefyllfa hon yn gyson.

Polisi Cronfeydd

Mae’r cwmni’n ffodus bod cyfran helaeth o’r incwm yn dod trwy gyfraniadau aelodau, a’r rheiny ar y cyfan yn weddol gyson trwy’r flwyddyn, gyda nifer helaeth yn talu trwy archeb banc. Derbynnir tua £22,000 y flwyddyn mewn cyfraniadau gan aelodau. Y polisi yw ceisio sicrhau bod tua 3 mis o wariant arferol yn aros yn y cyfrif cyfredol yn gyson, a’r gweddill yn cael ei drosglwyddo i’r gronfa fuddsoddi, fel y nodwyd uchod.

Datblygiadau

Teimla’r Ymddiriedolwyr yn hyderus fod dyfodol ariannol Capel y Tabernacl, Cyf. ar seiliau cadarn iawn.

Archwilydd Annibynnol

Archwilydd Annibynnol y cyfrifon hyn oedd Huw Aled Accountants Ltd., 60 Ashbourn Way, Llanishen, Caerdydd, CF14 5EY.

Paratowyd yr adroddiad hwn ar sail canllawiau Cyfrifo ac Adrodd i Elusennau: Datganiad o Arferion a Argymhellwyd, sy’n berthnasol i elusennau wrth baratoi eu cyfrifon ac yn unol â gofynion Safonau Adroddiadau Ariannol y Deyrnas Gyfunol a Gweriniaeth Iwerddon (FRS 102) (gweithredol o 1 Ionawr 2015).

Cymeradwywyd gan y Cyfarwyddwyr/Ymddiriedolwyr ar 13 Medi 2022 ac fe’i llofnodwyd ar eu rhan gan:

Enw: Bethan Guilfoyle Ymddiriedolwr

Enw: Helen Middleton Ymddiriedolwr

7

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

ADRODDIAD Y CADEIRYDD

Annwyl Gyd-aelodau

Braint ac anrhydedd i mi yw cael eich cyfarch unwaith eto wrth gyflwyno’r adroddiad blynyddol i’ch sylw. Braf yw cael dweud ar y cychwyn ein bod wedi goroesi’r aflwydd Cofid-19 sydd wedi llethu llawer o boblogaeth y byd tros y ddwy flynedd a hanner ddiwethaf. Rhaid diolch am wyddonwyr, arbenigwyr ym meysydd iechyd a diogelwch y cyhoedd, a’r gofalwyr iechyd o bob gradd am eu gwaith diflino i wneud y byd mor saff ag sy’n bosib. Nid oes amheuaeth y byddai pethau’n dra gwahanol arnom oni bai am y brechiadau sy’n ein harbed rhag y salwch gwaethaf.

Yn sgil y cyfyngiadau a chyfreithiau gwladol, nid oedd modd i ni ymgynnull i gyd-addoli yn y Tabernacl yn ôl ein harfer am ddeunaw mis rhwng Mawrth 2020 a dechrau Medi 2021. Er hynny, gyda’r defnydd o dechnoleg, a dycnwch rhai o’n haelodau, roedd modd lledaenu’r neges Gristnogol i bawb oedd yn barod i wrando trwy gyfrwng y gwefannau cymdeithasol. Gyda lliniaru ychydig ar y cyfyngiadau, bu modd cychwyn cyd-addoli trwy gadw at gyfyngiadau arbennig. Erbyn hyn mae’r holl gyfyngiadau wedi eu codi, ond fe barhawyd i ledaenu’r gwasanaethau bore Sul yn llwyddiannus dros y gwefannau cymdeithasol. Mae’n rhaid diolch i’r unigolion hynny fu’n weithgar yn sicrhau parhad y gwasanaethau trwy gyfnod mor anodd.

Yn ystod y clo mawr, bu raid rhoi gwaharddiad am gyfnod hir ar weithgareddau’r Ysgol Sul. Her fawr, felly, oedd ailddechrau’r sefydliad pwysig hwn pan godwyd y gwaharddiadau. Yn anffodus, anodd oedd denu’r plant hŷn yn ôl, ond mae’n braf medru adrodd bod cnewyllyn da o blant iau yn mynychu’r Ysgol Sul yn rheolaidd ac mae lle gennym i ddiolch i’w rhieni am hynny. Mae pethau’n edrych yn obeithiol tuag at y dyfodol.

Er y trafferthion oedd yn codi yn sgil Cofid, bu’n gyfnod prysur a bendithiol ym mywyd yr eglwys. Penodwyd Eleri Mai yn Swyddog Ieuenctid a Chymunedol dan nawdd Rhaglen Arloesi a Buddsoddi Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. Ers iddi ddechrau yn ei swydd ganol mis Medi, mae’r penodiad wedi dwyn ffrwyth ar ei ganfed. Ailsefydlwyd y Twmiaid, ac o fewn ychydig iawn o amser bu’n rhaid ychwanegu’r Twmiaid Bach i blant 9–11 oed, ac yn fuan wedyn esgorwyd ar Babi Twm. Mae’r apwyntiad wedi bod yn llwyddiant aruthrol ac yn hwb i waith yr Eglwys, gan ddangos ein bod ni’n barod i ymddiried a buddsoddi yn ein pobl ifanc. Ond, er gwaethaf nawdd yr Undeb, rhaid cofio bod cyflogi unrhyw berson yn golygu costau i ninnau hefyd, ac fe hoffwn i bob un ohonom ystyried hynny pan yn cysidro ein cyfraniad ariannol i’r eglwys.

Her ariannol arall na allwn mo’i hosgoi yw’r cynnydd sylweddol ym mhris nwy a thrydan y byddwn fel eglwys yn ei wynebu yn ystod y blynyddoedd nesaf. Dros y misoedd diwethaf mae Bwrdd y Cyfarwyddwyr wedi dod yn ymwybodol iawn o’r heriau y bydd raid ymgodymu â nhw gyda’r codiadau hyn, ac yn derbyn y bydd angen mabwysiadu mesurau i gadw rheolaeth ar y defnydd o danwydd yn y Capel a’r Ganolfan.

Mae’r Gweithgor Cyfiawnder Cymdeithasol wedi bod yn hynod brysur drwy gydol y flwyddyn. Ar adegau, roedd y capel yn edrych yn debycach i warws na man addoliad wrth i lwythi o gelfi tŷ a danteithion gael eu cyflwyno ar gyfer aelodau anghenus o’n cymdeithas. Mae gennym le i ddiolch am haelioni pobl yr ardal, a hefyd yr unigolion hynny sy’n gweithio’n ddiwyd i ddethol a didoli’r gwahanol roddion ar gyfer eu dosbarthu.

Yn ystod y misoedd diwethaf daeth cwmwl rhyfel tros Wcráin, ac mae effaith y rhyfel yn ymestyn i Gymru mewn mwy nag un cyfeiriad. Gwelwyd chwyddiant mewn costau byw, ond hefyd haelioni mawr wrth i’r eglwys a’r gymuned yn lleol gyfrannu dros £4,000 ers dechrau’r rhyfel ym mis Chwefror eleni i leddfu ychydig ar boen y ffoaduriaid oedd yn dianc am eu bywyd o’r wlad honno. Roedd hyn ar ben haelioni rhyfeddol aelodau a chyfeillion yr eglwys a lwyddodd i godi cyfanswm o £8,959 tuag at yr elusennau hynny oedd yn derbyn ein cefnogaeth yn ystod 2021.

8

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

ADRODDIAD Y CADEIRYDD (parhad)

Bu’r criw bore Iau yn parhau’n weithgar, ac erbyn hyn mae ôl graen ar randiroedd y capel a’r fynwent. Datblygwyd Cwtsh Meddylgarwch rhwng y capel a’r ganolfan, ac mae hwn wedi dod yn lle hyfryd i unigolion a theuluoedd ddod i fyfyrio a chymdeithasu. Erbyn hyn, mae’r fynwent a’r rhandiroedd wedi dod yn adnoddau pwysig o fewn y gymuned, a hyfryd yw gweld yr ymateb cadarnhaol i’r gwaith o wella’r safleoedd. Dros gyfnod y Nadolig roedd tua 50 o dorchau blodau wedi eu gosod yn y fynwent gan gyfeillion er cof am anwyliaid, gan ddangos yn eglur pa mor bwysig yw cadw’r safle’n ddiogel a dymunol.

Un o sgil-effeithiau’r pandemig oedd estyn croeso i aelodau’r Tabernacl a thrigolion y gymuned leol i gymdeithasu yn y Ganolfan pan nad oedd modd cwrdd i addoli yn y capel oherwydd y cyfyngiadau. Bellach, mae’r boreau coffi hyn ar ddydd Mawrth wedi dod yn ran annatod o raglen wythnosol y capel i rai sy’n chwilio am gwmnïaeth. Yn sgil y rhain fe drefnwyd nifer o weithgareddau dyngarol, megis codi arian i gynnal Nyrsys Dementia a thuag at Wythnos Cymorth Cristnogol. Bellach, cynhelir rhyw weithgarwch neu’i gilydd ar safle’r Tabernacl ar o leiaf chwe diwrnod bob wythnos.

Trist yw cofnodi i ni golli un o anwyliaid yr eglwys yn ystod y flwyddyn. Roedd Carol (Williams) yn berson hoffus dros ben ac mae chwithdod mawr ar ei hôl. Mae ein cydymdeimlad â Penri a’r teulu’n ddidwyll iawn yn eu profedigaeth.

Er mai edrych yn ôl dros y flwyddyn ddiwethaf yw prif bwrpas yr adroddiad yma, efallai y gwnewch faddau i mi sôn ychydig am y dyfodol. Rydym eisoes wedi sicrhau nawdd ariannol i ddatblygu systemau technegol y capel fel bod modd darlledu ein gwasanaethau’n fyw dros y rhwydweithiau cymdeithasol. Byddwn felly yn medru taenu neges Iesu Grist i bedwar ban byd, ac mae hynny’n ddatblygiad i’w glodfori.

I derfynu, hoffwn ddiolch i’r unigolion hynny sy’n gweithio mor ddiwyd, naill ai’n unigol neu mewn grwpiau, i sicrhau parhad yr eglwys yn ymarferol ac yn ysbrydol. Nid wyf am enwi’r unigolion hynny oherwydd fe fyddai’r rhestr yn un faith, gyda’r peryg i mi anghofio rhywun. Yn syml, felly, derbyniwch fy niolch am yr holl waith sy’n cael ei gyflawni er lles yr Eglwys yn enw Iesu Grist.

Diolch eto i Aled Wyn Thomas, Huw Aled Accountants, am ei waith trylwyr wrth baratoi’r adroddiad ariannol hwn i’ch sylw.

Edwyn Evans, Cadeirydd 13 Medi 2022

9

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

ADRODDIAD YR ARCHWILYDD ANNIBYNNOL I YMDDIRIEDOLWYR CAPEL Y TABERNACL, CYF.

Adroddiad yr archwilydd annibynnol i ymddiriedolwyr Capel y Tabernacl, Cyf. (‘y Cwmni’)

Yr wyf yn adrodd i ymddiriedolwyr yr elusen am fy archwiliad o gyfrifon y Cwmni am y flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 2021.

Cyfrifoldebau a sail yr adroddiad

Fel ymddiriedolwyr y Cwmni (a hefyd y cyfarwyddwyr at ddibenion deddfwriaeth cwmnïau) chi’n sy’n gyfrifol am baratoi’r cyfrifon yn unol â gofynion Deddf Cwmnïau 2006 (‘Deddf 2006’).

Wedi bodloni fy hun nad oes angen i gyfrifon y Cwmni dderbyn awdit o dan Rhan 16 Deddf 2006, a’i bod yn gymwys ar gyfer archwiliad annibynnol, gallaf adrodd ar sail fy archwiliad o gyfrifon yr elusen o dan Adran 145 o Ddeddf Elusennau 2011 (‘Deddf 2011’). Wrth gynnal fy archwiliad rwyf wedi dilyn Cyfarwyddiadau y Comisiwn Elusennau o dan Adran 145(5) (b) o Ddeddf 2011).

Datganiad yr Archwilydd Annibynnol

Rwyf wedi cwblhau fy archwiliad, a gallaf gadarnhau nad oes unrhyw fater wedi dod i’m sylw mewn cysylltiad â’m harchwiliad sy’n peri i mi gredu:

  1. nad yw’r cofnodion cyllido wedi eu cadw mewn perthynas â’r Cwmni yn unol â gofynion Adran 386 Deddf 2006; neu

  2. nad yw’r cyfrifon yn cyd-fynd â’r cofnodion hyn;

  3. neu

  4. nad yw’r cyfrifon yn cydymffurfio â gofynion Adran 396 Deddf 2006 ac eithrio unrhyw ofyniad bod y cyfrifon yn cyflwyno darlun cywir a theg nad yw’n rhan o’r materion gaiff eu hystyried fel rhan o archwiliad annibynnol; neu

  5. nad yw’r cyfrifon wedi eu paratoi yn unol â methodoleg ac egwyddorion y Datganiad o Ymarfer a Argymhellwyd ( Statement of Recommended Practice ) a ddefnyddir i gyfrifo ac adrodd gan elusennau sy’n berthnasol i elusennau wrth baratoi eu cyfrifon yn ôl gofynion Safon Adroddiadau Ariannol y Deyrnas Gyfunol a Gweriniaeth Iwerddon (FRS 102).

Nid oes gennyf unrhyw gonsýrn ac nid wyf wedi dod ar draws unrhyw faterion mewn cysylltiad â’r archwiliad y dylid tynnu sylw atynt yn yr adroddiad hwn er mwyn dod i ddealltwriaeth llawn o’r cyfrifon.

Aled Wyn Thomas, ACA Huw Aled Accountants Ltd 60 Ashbourn Way Llanishen Caerdydd CF14 5EY

Dyddiad: 13 Medi 2022

10

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

DATGANIAD O WEITHGAREDDAU ARIANNOL (YN CYNNWYS CYFRIF O INCWM A GWARIANT) AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 RHAGFYR 2021

Nodiadau
INCWM A GWADDOLION O:
Rhoddion a Chymynroddion
4
Gweithgareddau Elusennol
Gweithgareddau crefyddol
6
Incwm o fuddsoddiadau
5
Cyfanswm
GWARIANT AR
Gweithgareddau Elusennol
Gweithgareddau Crefyddol
7
(GWARIANT)/INCWM
GWEITHREDU NET
Enillion heb eu gwireddu o ailbrisio
asedau buddsoddi
14
INCWM/(GWARIANT) NET
CYSONI’R CRONFEYDD
12
Cysoni’r cronfeydd a gariwyd
ymlaen
CYFANSWM Y CRONFEYDD A
DDYGWYD YMLAEN
Cronfeydd
Anghyfyngedig
Cronfeydd
Cyfyngedig
£
£
36,326
-
-
18,995
7
-
36,333
18,995
36,651
11,474
(318)
7,521
10,000
-
9,682
7,521
765,244
5,024
774,926
12,545
2021
Cyfanswm
Cronfeydd
£
36,326
18,995
7
55,328
48,125
7,203
10,000
17,203
770,268
787,471
2020
Cyfanswm
Cronfeydd
£
33,886
13,102
21
47,009
52,000
(4,991)
10,000
5,009
765,259
770,268

Mae’r nodiadau yn ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol

11

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

MANTOLEN
AR 31 RHAGFYR 2021
ASEDAU SEFYDLOG
Nodiadau
Asedau Diriaethol
13
Asedau Buddsoddi
14
ASEDAU CYFREDOL
Dyledwyr
15
Arian yn y banc
CREDYDWYR
Yn ddyledus o fewn blwyddyn
16
ASEDAU NET CYFREDOL
CYFANSWM ASEDAU LLAI
DYLEDION CYFREDOL
ASEDAU NET
CRONFEYDD
18
Cronfeydd Anghyfyngedig
Cronfeydd Cyfyngedig
CYFANSWM Y CRONFEYDD
Cronfeydd
Anghyfyngedig
Cronfeydd
Cyfyngedig
£
£
530,104
-
145,000
-
2,609
-
98,263
12,545
2021
Cyfanswm
Cronfeydd
2020
Cyfanswm
Cronfeydd
£
£
530,104
543,513
145,000
135,000
2,609
2,494
110,808
90,311
100,872
12,545
(1,050)
-
113,417
92,805
(1,050)
(1,050)
99,822
12,545
112,367
91,755
774,926
12,545
787,471
770,268
774,926
12,545
787,471
770,268
774,926
765,244
12,545
5,024
787,471
770,268

Mae gan y cwmni elusennol hawl i beidio â chynnal awdit, dan Adran 477 o Ddeddf Cwmnïau 2006, am y flwyddyn yn diweddu ar 31 Rhagfyr 2021.

Nid yw’r aelodau wedi gofyn i’r cwmni elusennol gynnal awdit o’u cyfrifon ariannol am y flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 2021 yn unol ag Adran 476 Deddf Cwmnïau 2006.

Mae’r Ymddiriedolwyr yn cydnabod eu cyfrifoldeb dros y canlynol:

(a) sicrhau bod y cwmni elusennol yn cadw cyfrifon sy’n cyd-fynd â gofynion Adran 386 a 387 o Ddeddf Cwmnïau 2006, ac

(b) yn paratoi datganiadau ariannol sy’n adlewyrchu’n gywir a theg sefyllfa’r cwmni elusennol ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol, gan gynnwys y gwarged neu’r ddyled yn unol â gofynion Adrannau 394 a 395 ac sydd fel arall yn cydymffurfio â gofynion Deddf Cwmnïau 2006 o safbwynt datganiadau ariannol sy’n berthnasol i gwmnïau elusennol.

Cafodd y datganiadau ariannol hyn eu paratoi i gydymffurfio â gofynion arbennig Rhan 15 o Ddeddf Cwmnïau 2006 sy’n berthnasol i gwmnïau elusennol bychan.

Cafodd y datganiadau ariannol eu cymeradwyo gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr ar 13 Medi 2022 a’u llofnodi ar eu rhan gan:

Enw:Bethan Guilfoyle Ymddiriedolwr

Enw: Helen Middleton Ymddiriedolwr

Mae’r nodiadau yn ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol

12

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

NODIADAU AR DDATGANIADAU ARIANNOL AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 RHAGFYR 2021

1. GWYBODAETH STATUDOL

Mae Capel y Tabernacl, Cyf. yn gwmni cyfyngedig dan warant wedi ei ymgorffori yng Nghymru o fewn y Deyrnas Gyfunol. Y Swyddfa Gofrestredig yw 9 Gerddi’r Sofran, Meisgyn, Pontyclun, Cymru, CF72 8SZ.

Mae’r datganiadau ariannol wedi eu cyflwyno mewn Sterling (£), sef arian cyfred y cwmni, yn grwn i’r bunt agosaf.

Prif ddiben a natur yr elusen yw hybu gweithgarwch crefyddol.

Caiff y prif bolisïau cyfrifo a ddefnyddiwyd wrth baratoi’r datganiadau ariannol hyn eu nodi isod. Cafodd y polisïau eu gweithredu’n gyson dros yr holl flynyddoedd a gyflwynir, oni nodir yn wahanol.

2. POLISÏAU CYFRIFO

Sail paratoi’r datganiadau ariannol

Mae datganiadau ariannol y cwmni elusennol, sydd yn endid budd cyhoeddus o dan FRS 102, wedi cael eu paratoi yn unol â SORP (FRS 102) Accounting and Reporting by Charities: Statement of Recommended Practice sy’n gymwys i elusennau sy’n paratoi eu cyfrifon yn unol â Safon Adroddiadau Ariannol yn y Deyrnas Gyfunol a Gweriniaeth Iwerddon (FRS 102) (gweithredol o 1 Ionawr 2019), a Deddf Cwmnïau 2006. Mae’r datganiadau ariannol wedi eu paratoi ar sail confensiwn hanesyddol.

Mae Capel y Tabernacl, Cyf. yn cwrdd â’r diffiniad o endid budd cyhoeddus dan FRS 102. Caiff yr asedau a’r dyledion eu cydnabod o’r cychwyn cyntaf ar gost neu werth gweithrediad hanesyddol oni nodir yn wahanol yn y nodyn / nodiadau cyfrifo perthnasol.

Incwm

Caiff yr holl incwm ei gydnabod yn y Datganiad o Weithgareddau Ariannol unwaith mae gan yr elusen hawl i’r cronfeydd, mae’r incwm yn debygol o gael ei dderbyn, ac mae modd mesur y swm yn hyderus.

Incwm cyfraniadau a chymynroddion

Mae incwm cyfraniadau a chymynroddion yn cynnwys cyfraniadau, rhoddion a grantiau sy’n sicrhau cyllid craidd neu sydd o natur gyffredinol a gydnabyddir lle bo hawl, a thebygolrwydd o’i dderbyn, a lle gellir mesur y swm gyda hyder digonol. Caiff incwm ei gadw’n ôl yn unig pan fydd y rhoddwr yn nodi bod rhaid ei ddefnyddio mewn cyfnod cyfrifo gwahanol, neu lle bo’r rhoddwr wedi gosod amodau y mae’n rhaid i’r elusen gwrdd â hwy cyn sicrhau hawl diamod ar y swm.

Incwm o weithgareddau elusennol

Mae’r incwm o weithgareddau elusennol yn cynnwys incwm a dderbyniwyd dan gytundeb neu lle bo’r hawl yn amodol ar berfformiad dan amodau penodol. Caiff yr incwm hwn ei gydnabod gan bod y gwasanaethau perthynol yn cael eu darparu, ac y mae yna hawl, a thebygolrwydd o dderbynneb, a gellir mesur y swm gyda dibynadwyedd digonol. Caiff yr incwm ei ohirio lle bo’r arian yn cael ei dderbyn cyn cyflawni’r gwasanaeth neu’r digwyddiad mae’r arian yn berthnasol iddo.

Incwm buddsoddiadau

Caiff incwm o fuddsoddiadau ei gydnabod ar sail ei dderbyn.

Nid yw’n bolisi gan yr elusen i ddangos incwm net o wariant.

Gwariant

Caiff ymrwymiadau eu cydnabod fel gwariant cyn gynted ag y bo rheidrwydd cyfreithiol neu ymarferol yn ymrwymo’r elusen i’r gwariant hwnnw. Mae’n debygol y bydd rhaid trosglwyddo buddiannau economaidd fel setliad a gellir mesur yr ymrwymiad mewn modd dibynadwy. Caiff y gwariant ei gyfrifo ar sail croniadau, ac fe’i dosbarthwyd dan benawdau sy’n corlannu’r holl gostau o fewn y categori. Lle nad oes modd clustnodi costau dan bennawd penodol, maent wedi ei glustnodi o dan weithgareddau ar sail sy’n gyson â’r defnydd a wneir o’r adnoddau.

Mae costau sy’n ymwneud â chodi arian yn cynnwys costau ymgyrchu, hysbysebu a marchnata, a defnyddiau postio uniongyrchol.

Mae gwariant ar weithgarwch elusennol yn cynnwys y costau hynny a delir gan yr elusen wrth gyflawni ei gweithgareddau a’i gwasanaethau er lles ei derbynwyr. Mae’n cynnwys nid yn unig y costau y gellir eu clustnodi’n uniongyrchol, ond hefyd y gweithgareddau a’r costau hynny o natur anuniongyrchol sy’n angenrheidiol er mwyn eu cefnogi.

Mae’r nodiadau hyn yn ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol

13

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

NODIADAU AR DDATGANIADAU ARIANNOL AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 RHAGFYR 2021 – PARHAD

2. POLISÏAU CYFRIFO

Gwariant – parhad

Costau Cynorthwyol yw’r costau hynny nad ydynt, er yn hanfodol i’r elusen gyflawni ei hamcanion, yn creu na chyflawni gweithgarwch elusennol. Mae’r rhain yn cynnwys costau llywodraethiant, sef y costau hynny i gwrdd â gofynion cyfansoddiadol a statudol yr elusen, gan gynnwys ffioedd cyfrifo a chostau’n gysylltiedig â rheolaeth strategol yr elusen.

Asedau Sefydlog diriaethol

Caiff asedau sefydlog eu cyfalafu ar gost.

Amcangyfrifir y dibrisiad er mwyn lleihau cost yr ased, namyn yr amcangyfrif o werth sy’n weddill, dros oes yr ased fel a ganlyn:

Eiddo rhyddfraint - dros 40 mlynedd
Offer a chyfarpar - 25% o’r gost
Offer cyfrifiadurol - 50% o’r gost

Asedau Buddsoddi

Mae asedau buddsoddi yn cael eu cyfalafu ar gost ac yn cael eu hailbrisio i werth teg yr ased ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Mae unrhyw enillion neu colledion o'r ailbrisio blynyddol yn cael eu cynnwys o dan y pennawd 'Enillion/(colledion) heb eu gwireddu o ailbrisio asedau buddsoddi" yn y Datganiad o Weithgareddau Ariannol.

Nid yw'r asedau buddsoddi yn cael eu dibrisio.

Trethiant

Mae’r elusen yn cael ei heithrio o dalu treth gorfforaethol ar ei gweithgarwch elusennol.

Cyfrifo Cronfeydd

Gellir defnyddio cronfeydd anghyfyngedig yn unol â’r amcanion elusennol gyda sêl bendith yr ymddiriedolwyr. Dim ond at ddibenion penodol o fewn amcanion yr elusen y gellir defnyddio cronfeydd cyfyngedig. Ceir cyfyngiad pan fo’r rhoddwr yn nodi hynny, neu pan fo’r gronfa wedi ei chreu i godi arian at bwrpasau cyfyngedig penodol.

Ceir esboniad pellach am natur a diben pob cronfa yn y nodiadau i’r datganiadau ariannol.

Offerynnau Ariannol

Dim ond asedau ac ymrwymiadau ariannol o’r math sy’n gymwys ar gyfer offerynnau ariannol sylfaenol sydd gan yr elusen. Caiff offerynnau ariannol sylfaenol eu derbyn yn y lle cyntaf ar sail y gwerth ariannol, ac yna eu mesur ar sail eu gwerth setliad.

Caiff benthyciadau rhatach eu derbyn a’u mesur yn y lle cyntaf ar sail eu gwerth ariannol, gyda’r symiau gaiff eu cario drosodd yn cael eu haddasu yn y blynyddoedd canlynol i adlewyrchu taliadau a wnaed ac unrhyw log sy’n deillio ohonynt.

Dyledwyr

Cydnabyddir dyledwyr masnachol a dyledwyr eraill yn ôl y swm y cytunwyd arno ar ôl cynnwys unrhyw ddisgownt masnachol. Caiff blaendaliadau eu prisio ar y swm net o unrhyw ddisgownt sy’n ddyledus a dalwyd ymlaen llaw.

Credydwyr

Cydnabyddir credydwyr lle mae gan yr elusen ymrwymiad cyfredol o ganlyniad i ddigwyddiad yn y gorffennol sy’n debygol o arwain at drosglwyddo arian i drydydd parti, a bod y swm i gwrdd â’r ymrwymiad yn un y gellir ei fesur neu ei amcangyfrif yn ddibynadwy. Fel arfer, caiff credydwyr eu cydnabod wrth iddynt setlo’r swm ar ôl caniatáu unrhyw ddisgownt masnachol sy’n ddyledus.

Mae’r nodiadau hyn yn ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol

14

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

NODIADAU AR DDATGANIADAU ARIANNOL AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 RHAGFYR 2021 – PARHAD

4. RHODDION A CHYMYNRODDION

Aelodaeth
Casgliadau Rhydd a Rhoddion
Rhent Tŷ Capel
Hurio’r Ganolfan
Amrywiol
Ad-daliad Treth Incwm
5.
INCWM BUDDSODDIADAU
Llog cyfrif cadw
6.
INCWM O WEITHGAREDDAU ELUSENNOL
Rhaglen Arloesi Gweithgarwch Crefyddol
Cronfa Elusennol
Gweithgarwch Crefyddol
Cymorth Cristnogol Gweithgarwch Crefyddol
Apêl Talebau Nadolig Gweithgarwch Crefyddol
Apêl Banc Bwyd Gweithgarwch Crefyddol
Apêl Llifogydd Gweithgarwch Crefyddol
Apêl Lesotho Gweithgarwch Crefyddol
7.
COSTAU GWEITHGAREDDAU CREFYDDOL
Costau

Uniongyrchol
(gweler nodyn 8)
Gweithgareddau Crefyddol
£
47,075
8.
COSTAU UNIONGYRCHOL GWEITHGAREDDAU ELUSENNOL
Costau Staff (anghyfyngedig)
Costau Staff (cyfyngedig, Rhaglen Arloesi a Buddsoddi Undeb yr Annibynwyr)
Yswiriant
Gwres, Golau a Dŵr
Pregethwyr
Undeb yr Annibynwyr Cymraeg
Llenyddiaeth
Gweinyddol
Y Ganolfan
Y Fynwent
Amrywiol
Cronfa Elusennau
Cymorth Cristnogol
Costau Cynnal a Chadw
Rhoddion ychwanegol
Apêl Madagascar
Apêl Banc Bwyd
Apêl Felindre
Dibrisiant
2021
£
22,269
2,272
3,813
-
-
7,972
36,326
2021
£
7
2021
£
10,000
3,430
1,165
1,390
3,010
-
-
18,995
Costau
Cymorth
£
1,050
2021
£
2,306
2,934
3,681
8,197
1,620
800
322
1,656
-
967
117
3,430
1,145
1,546
980
-
3,965
-
13,409
47,075
2020
£
21,172
1,065
4,340
1,280
-
6,029
33,886
2020
£
21
2020
£
-
3,813
1,455
1,195
4,385
2,095
159
13,102

Cyfanswm
£
48,125
2020
£
2,020
-
3,493
9,313
1,060
800
849
1,035
-
1,235
452
4,199
1,495
3,229
1,737
2,719
3,405
500
13,409
50,950

Mae’r nodiadau hyn yn ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol

15

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

NODIADAU AR DDATGANIADAU ARIANNOL AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 RHAGFYR 2021 – PARHAD

9. INCWM NET/(GWARIANT)

Nodir incwm net/(gwariant) ar ôl codi tâl /(credydu):

Ffi archwilio
Dibrisiant – asedau’r cwmni
2021
£
1,050
13,409
2020
£
1,050
13,409

10. CYDNABYDDIAETH A BUDDIANNAU’R YMDDIRIEDOLWYR

Ni roddwyd unrhyw gydnabyddiaeth na buddiannau eraill i’r ymddiriedolwyr yn ystod y flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 2021 na’r flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 2020.

Costau’r Ymddiriedolwyr

Ad-dalwyd cyfanswm o £dim (2020: £59) i'r Ymddiriedolwr yn ystod y flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 2021 am gostau a dalwyd gan yr Ymddiriedolwr ar ran y Capel. Ni thalwyd unrhyw dreuliau i’r ymddiriedolwyr yn ystod y flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 2021 na’r flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 2020.

11. COSTAU STAFF

Ar gyfartaledd misol, cyflogwyd y nifer canlynol o staff yn ystod y flwyddyn:

2021 2020
2 2

Ni dderbyniodd yr un o’r cyflogeion dâl o fwy na £60,000.

12. CYMARIAETHAU AR GYFER Y DATGANIAD O WEITHGAREDDAU ARIANNOL

INCWM A CHYMYNRODDION O:
Rhoddion a Chymynroddion
Gwaith Elusennol
Gweithgarwch Crefyddol
Incwm Buddsoddi
Cyfanswm
GWARIANT AR:
Gweithgarwch Elusennol
Gweithgarwch Crefyddol
Cyfanswm
INCWM NET/(GWARIANT) GWEITHREDU
Enillion heb eu gwireddu o ailbrisio asedau buddsoddi
INCWM/(GWARIANT) NET
CYSONI CRONFEYDD
Cyfanswm a gariwyd ymlaen
CYFANSWM CRONFEYDD A DDYGWYD YMLAEN
Cronfeydd
anghyfyngedig
Cronfeydd
cyfyngedig
£
£
33,886
-
-
13,102
21
-
33,907
13,102
39,682
12,318
39,682
12,318
(5,775)
784
10,000
-
4,225
784
761,019
4,240
765,244
5,024
Cyfanswm
cronfeydd
£
33,886
13,102
21
47,009
52,000
52,000
(4,991)
10,000
5,009
765,259
770,268

Mae’r nodiadau hyn yn ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol

16

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

NODIADAU AR DDATGANIADAU ARIANNOL AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 RHAGFYR 2021 – PARHAD

13. ASEDAU SEFYDLOG DIRIAETHOL

14.
ASEDAU BUDDSODDI
15.
DYLEDWYR: SYMIAU’N DDYLEDUS O FEWN UN BLWYDDYN
2021
£
Blaendaliadau
2,609
-------
16.
CREDYDWYR: SYMIAU SY'N DDYLEDUS O FEWN UN BLWYDDYN
2021
£
Ffi archwilio
1,050
--------
1,050
--------
Eiddo
Rhyddfraint
Cyfarpar ac
Offer
COST
£
£
Ar 1 Ionawr 2020 a 31 Rhagfyr 2020
636,377
24,614
Ar 1 Ionawr 2020 a 31 Rhagfyr 2020
636,377
24,614
DIBRISIANT
Ar 1 Ionawr 2020
79,455
24,614
Tâl am y flwyddyn
13,409
-
Ar 1 Ionawr 2021
92,864
24,614
Tâl am y flwyddyn
13,409
-
Ar 31 Rhagfyr 2021
106,273
24,614
GWERTH NET YN Y LLYFR
Ar 31 Rhagfyr 2021
530,104
-
Ar 31 Rhagfyr 2020
543,513
-
Ar 1 Ionawr 2021
Enillion heb eu gwireddu o ailbrisio asedau buddsoddi
Ar 31 Rhagfyr 2021
Eiddo
Rhyddfraint
Cyfarpar ac
Offer
£
£
636,377
24,614
Cyfansym-iau
£
660,991
636,377
24,614
660,991
79,455
24,614
13,409
-
104,069
13,409
92,864
24,614
13,409
-
117,478
13,409
106,273
24,614
130,887
530,104
-
530,104
543,513
-
543,513
Tŷ Capel
£
135,000
10,000
145,000
2020
£
2,494
--------
2020
£
1,050
-------
1,050
-------

Mae’r nodiadau hyn yn ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol

17

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

NODIADAU AR DDATGANIADAU ARIANNOL AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 RHAGFYR 2021 – PARHAD

18. SYMUDIADAU O FEWN CRONFEYDD

Cronfeydd Anghyfyngedig
Cronfa Gyffredinol
Cronfeydd Cyfyngedig
Cronfa Lesotho
Rhaglen Arloesi
Cronfa Elusennol
Cymorth Cristnogol
Apêl Llifogydd
Apêl Banc Bwyd
Apêl Talebau Nadolig
Apêl Diffibriliwr
Cronfa Ailbrisio
CYFANSYMIAU CRONFEYDD
Mae’r symudiadau net mewn cronfeydd, a gynhwysir
uchod fel a ganlyn:
Cronfeydd Anghyfyngedig
Cronfa gyffredinol
Cronfeydd Cyfyngedig
Rhaglen Arloesi
Cronfa Elusennol
Cymorth Cristnogol
Apêl Talebau Nadolig
Apêl Banc Bwyd
Cronfa Ailbrisio
CYFANSYMIAU CRONFEYDD
Symudiadau cymharol mewn cronfeydd
Cronfeydd Anghyfyngedig
Cronfa Gyffredinol
Cronfeydd Cyfyngedig
Cronfa Lesotho
Cronfa Elusennol
Cymorth Cristnogol
Apêl Llifogydd
Apêl Banc Bwyd
Apêl Talebau Nadolig
Apêl Diffibriliwr
Canolfan Ganser Felindre
Apêl Madagascar
Cronfa Ailbrisio
CYFANSYMIAU CRONFEYDD
Ar 1/1/21
Symudiadau net
mewn cronfeydd
Ar
31/12/21
£
£
£
732,931
(318)
732,613
214
-
214
-
7,066
7,066
-
-
-
-
20
20
2,095
-
2,095
980
(955)
25
1,195
1,390
2,585
540
-
540
5,024
7,521
12,545
32,313
10,000
42,313
770,268
17,203
787,471
Adnoddau a
dderbyniwyd
£
Adnoddau a wariwyd
£
Symudiadau
mewn
cronfeydd
£
36,333
(36,651)
(318)
10,000
(2,934)
7,066
3,430
(3,430)
-
1,165
(1,145)
20
1,390
-
1,390
3,010
(3,965)
(955)
18,995
(11,474)
7,521
10,000
-
10,000
65,328
(48,125)
17,203
Ar 1/1/20
Symudiadau net
mewn cronfeydd
Ar 31/12/20
£
£
£
738,706
(5,775)
732,931
55
159
214
386
(386)
-
40
(40)
-
-
2,095
2,095
-
980
980
-
1,195
1,195
540
-
540
500
(500)
-
2,719
(2,719)
-
4,240
784
5,024
22,313
10,000
32,313
765,259
5,009
770,268

Mae’r nodiadau hyn yn ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol

18

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

NODIADAU AR DDATGANIADAU ARIANNOL AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 RHAGFYR 2021 – PARHAD

18. SYMUDIADAU O FEWN CRONFEYDD – parhad

Mae’r symudiadau net mewn cronfeydd, a gynhwysir yn yr uchod fel a ganlyn:

fel a ganlyn:
Cronfeydd Anghyfyngedig
Cronfa gyffredinol
Cronfeydd Cyfyngedig
Cronfa Lesotho
Cronfa Elusennol
Cymorth Cristnogol
Apêl Talebau Nadolig
Canolfan Ganser Felindre
Apêl Banc Bwyd
Apêl Llifogydd
Cronfa Madagascar
Cronfa Ailbrisio
CYFANSYMIAU CRONFEYDD
Adnoddau a
dderbyniwyd
£
Adnoddau a wariwyd
£
Symudiadau
mewn
cronfeydd
£
33,907
(39,682)
(5,775)
159
-
159
3,813
(4,199)
(386)
1,455
(1,495)
(40)
1,195
-
1,195
-
(500)
(500)
4,385
(3,405)
980
2,095
-
2,095
-
(2,719)
(2,719)
13,102
(12,318)
784
10,000
-
10,000
57,009
(52,000)
5,009

19. DAGELIADAU PARTÏON PERTHYNOL

Cyfanswm y cyfraniadau a wnaed i’r elusen gan bartïon perthynol yn ystod y flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 2021 oedd £3,454 (2020: £5,826).

20. OFFERYNNAU ARIANNOL

Asedau ariannol ar sail cost amorteiddiad
Treuliau ariannol ar sail cost amorteiddiad
2021
2020
£
110,808
£
90,311
1,050
1,050

Mae’r nodiadau hyn yn ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol

19

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

DATGANIAD MANWL O’R GWEITHGAREDDAU ARIANNOL AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 RHAGFYR 2021

INCWM A CHYMYNRODDION
Cyfraniadau a Chymynroddion
Aelodaeth
Casgliadau rhydd a rhoddion
Rhent Tŷ Capel
Llogi’r Ganolfan
Amrywiol
Ad-daliad Treth Incwm
Incwm Buddsoddiadau
Llog y Cyfrif Cadw
Gweithgareddau Elusennol
Rhaglen Arloesi a Buddsoddi Undeb yr Annibynwyr Cymraeg
Cronfa Elusennau
Cymorth Cristnogol
Apêl Banc Bwyd
Apêl Llifogydd
Apêl Talebau Nadolig
Apêl Lesotho
Cyfanswm yr adnoddau a dderbyniwyd
GWARIANT
Gweithgareddau Elusennol
Cyflogau (anghyfyngedig)
Cyflogau (cyfyngedig, Rhaglen Arloesi a Buddsoddi Undeb yr Annibynwyr Cymraeg)
Yswiriant
Gwres, golau a dŵr
Pregethwyr
Undeb yr Annibynwyr Cymraeg
Llenyddiaeth
Gweinyddol
Y Ganolfan
Y Fynwent
Amrywiol
Cronfa Elusennau
Cymorth Cristnogol
Costau Cynnal a Chadw
Rhoddion ychwanegol
Apêl Madagascar
Apêl Banc Bwyd
Canolfan Ganser Felindre
Dibrisiant
Costau Cymorth (Costau Llywodraethu)
Ffi Archwilwyr
Cyfanswm yr adnoddau a wariwyd
Enillion heb eu gwireddu o ailbrisio asedau buddsoddi
Incwm net
2021
£
22,269
2,272
3,813
-
-
7,972
36,326
7
10,000
3,430
1,165
3,010
-
1,390
-
18,995
55,328
2,306
2,934
3,681
8,197
1,620
800
322
1,656
-
967
117
3,430
1,145
1,546
980
-
3,965
-
13,409
47,075
1,050
48,125
10,000
17,203
2020
£
21,172
1,065
4,340
1,280
-
6,029
33,886
21
-
3,813
1,455
4,385
2,095
1,195
159
13,102
47,009
2,020
-
3,493
9,313
1,060
800
849
1,035
-
1,235
452
4,199
1,495
3,229
1,737
2,719
3,405
500
13,409
50,950
1,050
52,000
10,000
5,009

Nid yw’r dudalen hon yn rhan o’r datganiad ariannol statudol

20