CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

## **ADRODDIAD BLYNYDDOL A DATGANIAD ARIANNOL**

Y flwyddyn hyd at 31[ain ] Rhagfyr 2021

**Capel y Tabernacl, Cyf.** Cwmni Cyfyngedig Cofrestredig: 06349041 (Cymru) Elusen Gofrestredig Rhif: 1122584

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

## **CYNNWYS**

|Gwybodaeth Gyfreithiol a Gweinyddol|Tudalen 2–3|

|Swyddogion y Tabernacl|Tudalen  4–5|
|Adroddiad yr Ymddiriedolwyr|Tudalen 6–7|
|Adroddiad y Cadeirydd|Tudalen 8–9|
|Adroddiad yr Archwilydd Annibynnol|Tudalen 10|
|Datganiad o’r Gweithgareddau Ariannol|Tudalen 11|
|Mantolen|Tudalen 12|
|Nodiadau sy’n ffurfio rhan o’r Datganiadau Ariannol|Tudalen 13–19|
|Datganiad Manwl o’r Gweithgareddau Ariannol|Tudalen 20|

**Enw cofrestredig y cwmni:** Capel y Tabernacl, Cyf. **Cwmni Cyfyngedig Cofrestredig:** 06349041 (Cymru) **Elusen Gofrestredig:** 1122584

**Cyfeiriad Cofrestredig:**

9 Gerddi’r Sofran, Ffordd Cefn yr Hendy, Meisgyn, Pont-y-clun CF72 8SZ

**Ysgrifennydd y Cwmni:**

Gwilym Huws

**2**

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

## **YMDDIRIEDOLWYR YR ELUSEN A CHYFARWYDDWYR Y CWMNI**

**Enw Etholwyd** Geraint Wyn Davies Tachwedd 2019 Edwyn Evans Tachwedd 2018 _(Cadeirydd)_ Gwion Prys Evans Tachwedd 2021 Rhian Eyres Tachwedd 2021 Hefin Gwyn Gruffydd Tachwedd 2020 Bethan Haulwen Guilfoyle Tachwedd 2020 Sarah Eleri Jones Tachwedd 2019 Bethan Angharad Lloyd Herbert* Tachwedd 2018 Helen Middleton Tachwedd 2020 Iwan Llwyd Rowlands Tachwedd 2020 Gwenfil Edwina Thomas Tachwedd 2019 David Michael West* Tachwedd 2018 Nia Mair Williams Tachwedd 2019

Mae disgwyl i draean yr ymddiriedolwyr / cyfarwyddwyr ymddeol yn eu tro bob blwyddyn. Ymddeolodd y rhai gyda * ar bwys eu henwau ym mis Tachwedd 2021.

## **Gwefan: www.tabernacl.org**

**Cyfreithwyr:** Devonalds, York House, Pontypridd CF37 1JW

**Banc:** Lloyds Bank, Sgwâr y Farchnad, Pontypridd CF37 2TF

**Cyfrifwyr:** Huw Aled Accountants Ltd., Cyfrifwyr Siartredig, 60 Ashbourn Way, Llanishen, Caerdydd, CF14 5EY

**3**

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

## **SWYDDOGION Y TABERNACL**

## **Cadeirydd**

Edwyn Evans

**Ysgrifennydd** Gwilym Huws

**Trysorydd** Arwyn Lloyd Jones

**Y Gweithgor Gweinidogaethu** Parchedig D. Eirian Rees _(Cadeirydd)_

## **Trefnyddion Oedfaon, Cyhoeddiadau a Phriodasau**

Rhiannon Humphreys Helen Prosser Heulyn Rees Lyn West

## **Panel Priodasau**

Geraint Rees (Cadeirydd) _Cofrestru Priodasau:_ Rhys Llewelyn a Helen Middleton

## **Organyddion a Chyfeilyddion**

Sian Elin Jones gyda chymorth Bethan Roberts, Rhiannon Humphreys ac Eleri Huws

**Golygydd y Wefan** Emlyn Davies

**Gweithgor Cysylltwyr Ardal**

Geraint Wyn Davies _(Cadeirydd)_ Lowri Roberts _(Ysgrifennydd)_

## **Merched y Tabernacl**

Judith Thomas Gaynor Evans

**4**

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

## **SWYDDOGION Y TABERNACL –** _**parhad**_

## **Y Gweithgor Cyfiawnder Cymdeithasol**

John Ll. Thomas _(Cadeirydd)_ Ann D. Davies _(Ysgrifennydd) Cymorth Cristnogol:_ John Ll. Thomas _Cronfa Lesotho:_ Nia Williams

## **Yr Ysgol Sul a’r Twmiaid**

_Ysgol Sul:_ Caroline Rees a Manon Humphreys Huws _Twmiaid:_ Eleri Mai Thomas

## **Pwyllgor Amddiffyn Plant ac Oedolion Bregus**

Gwion Evans _(Cadeirydd) Gwirwyr DBS:_ Wendy Reynolds a Gwerfyl Morse

## **Pwyllgor Arloesi a Buddsoddi**

Hefin Gwyn Gruffydd (Cadeirydd)

## **Pwyllgor y Meddiannau**

Mike West _(Cadeirydd) Y Fynwent:_ Edwyn Evans _Rhandiroedd:_ Emlyn P. Jones

## **Gweithgor Ariannol**

Gwilym Huws _(Cadeirydd)_ Arwyn Lloyd Jones _(Trysorydd)_

## **Swyddog Ieuenctid a Chymunedol**

Eleri Mai Thomas

## **Rheolwr Safle**

Mike West

**5**

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

## **ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR**

Mae’r Ymddiriedolwyr, sydd hefyd yn Gyfarwyddwyr yr elusen at ddiben deddfwriaeth cwmnïau, yn cyflwyno eu hadroddiad blynyddol a’r datganiadau ariannol archwiliedig am y flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 2021. Mae’r Ymddiriedolwyr wedi mabwysiadu’r “Datganiad o Arferion a Argymhellwyd i Elusennau”  a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2015 wrth baratoi’r adroddiad blynyddol, ac mae’r datganiadau hyn yn unol â Safon Adroddiadau Ariannol y Deyrnas Gyfunol a Gweriniaeth Iwerddon (FRS 102) (yn weithredol o 1 Ionawr 2015).

## **Strwythur, rheoli a threfn lywodraethol**

Mae Capel y Tabernacl, Cyf. yn gwmni elusennol ac yn gwmni cyfyngedig o dan warant fel y’i diffinnir yn Neddf Cwmnïau 2006. Fe’i sefydlwyd yn unol â’r Memorandwm sy’n datgan manylion a phwerau’r cwmni, a chaiff ei reoli’n unol â’r Erthyglau Cymdeithasiad.

Prif ddiben y cwmni yw hybu’r grefydd Gristnogol yn unol â chredoau’r anghydffurfwyr Protestannaidd a elwir yn Annibynwyr Cymraeg, fel aelodau o Undeb yr Annibynwyr Cymraeg; a hefyd at ddibenion cyffredinol y cyfryw gyrff elusennol neu at ddibenion eraill a fydd yn elusennol yn unig fel y penderfynir o bryd i’w gilydd gan yr Ymddiriedolwyr. Y Bwrdd sydd yn gyfrifol am arolygu holl waith a busnes yr elusen, gyda’r aelodau’n gweithredu fel Ymddiriedolwyr.

## **Yr Ymddiriedolwyr**

Etholir yr Ymddiriedolwyr gan Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol Capel y Tabernacl, Cyf. Ni fyddant yn llai na chwech mewn nifer ond (oni bai y pennir fel arall gan benderfyniad cyffredin), ni fyddant yn amodol ar unrhyw uchafswm. Mae gan y Bwrdd hawl i gyfethol Ymddiriedolwyr ychwanegol. Yn dilyn pob Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, bydd yr Ymddiriedolwyr yn penodi un o’u plith i fod yn gadeirydd eu cyfarfodydd. Y nifer angenrheidiol i ffurfio cworwm yw 6 person sydd â’r hawl i bleidleisio ar y mater i’w drafod.

## **Rheoli**

Cynhelir cyfarfodydd y Bwrdd yn fisol. Mae gwaith yr eglwys yn cael ei drefnu o ddydd i ddydd gan nifer o bwyllgorau a gweithgorau sy’n cwrdd yn rheolaidd.

Bydd pob un o’r pwyllgorau a’r gweithgorau hyn yn adrodd yn ôl i’r Bwrdd yn rheolaidd.

Mae’r Erthyglau Cymdeithasiad yn datgan bod pob aelod o’r Elusen yn ymgymryd i gyfrannu at asedau’r elusen swm gofynnol na fydd yn fwy na deg punt os digwydd i’r elusen gael ei dirwyn i ben.

## **Cyflogaeth**

Mae Capel y Tabernacl Cyf. yn cyflogi un person rhan-amser sef, Swyddog Ieuenctid a Cymunedol, ynghyd â glanhawr.

## **Adolygiad Risg**

Mae Bwrdd yr Ymddiriedolwyr wedi adolygu’r risgiau sylweddol hynny lle mae Capel y Tabernacl, Cyf. yn agored i risg, ac mae systemau wedi eu sefydlu i leihau’r risgiau hynny. Paratowyd adroddiadau rheolaidd er mwyn sicrhau bod y camau priodol yn bodoli i leihau’r risgiau, sydd yn cynnwys risgiau megis parhad y capel, materion ariannol, iechyd a diogelwch, amddiffyn plant ac oedolion bregus, data personol yr aelodau, staffio a’r amgylchedd.

## **Amcanion a Gweithgareddau**

Mae’r elusen yn rhoi sylw dyladwy i arweiniad y Comisiwn Elusennol ar lesâd cyhoeddus. Prif amcan yr elusen yw bod yn eglwys sy’n cynnig cyfle i’r aelodau fod yn dystion i Iesu Grist ym mhentref Efail Isaf, ac yn yr ardal o gwmpas. Golyga hynny ymgymryd â’r holl weithgareddau sy’n arferol i eglwys Gristnogol, ac fe’u rhestrir yn yr Erthyglau Cymdeithasiad. Mae gan y cwmni hefyd hawl i arddel at ddibenion cyffredinol unrhyw gorff elusennol y dymuna’r Ymddiriedolwyr ei gefnogi, neu at ddibenion eraill y bydd yr Ymddiriedolwyr yn eu hystyried yn rhai cyfan gwbl elusennol.

## **Llwyddiannau a Pherfformiad**

Gweler adroddiad y Cadeirydd. Hefyd ceir manylion pellach yng nghorff yr Adroddiad Blynyddol.

**6**

## CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

## **Adolygiad Ariannol**

Adroddir canlyniadau’r elusen am y flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 2021 yn y Datganiad o Weithgareddau Ariannol ar dudalennau 11–19.

Derbyniwyd cyfanswm incwm o £55,328 (2020: £47,009) a gwariwyd £48,125 (2020: £52,000), ac felly yr incwm net am y flwyddyn oedd £7,203 (2020: gwariant net £4,991). Y prif reswm dros y cynnydd yn incwm yr elusen oedd derbyn nawdd o £10,000 gan Undeb yr Annibynwyr ym mis Medi 2021 fel cyfraniad tuag at dalu cyflog y Swyddog Ieuenctid a Chymunedol am gyfnod o 12 mis, sef hyd at ddiwedd Awst 2022.

Cyfanswm cronfeydd y cwmni ar 31 Rhagfyr 2021 oedd £787,471, o’r hyn roedd £12,545 wedi ei gadw at ddibenion cyfyngedig a £675,104 wedi ei glymu mewn asedau sefydlog. O ganlyniad roedd gan yr elusen £99,822 wrth gefn ar ddiwedd y flwyddyn (2020: £86,731). Ni roddwyd unrhyw dâl i’r Ymddiriedolwyr.

## **Polisi Arian Wrth Gefn**

Penderfynodd yr Ymddiriedolwyr roi ystyriaeth fanwl i anghenion y cwmni elusennol am arian wrth gefn, yn unol â chanllawiau’r Comisiwn Elusennau yn y ddogfen “Elusennau a chronfeydd wrth gefn” (CC19).

Yn ein barn ni, mae angen cronfa wrth gefn i’r dibenion canlynol:

1. I gynnal gwaith yr elusen a gweithgareddau’r eglwys mewn cyfnodau lle y gallem fod yn wynebu gostyngiad mewn incwm.

2. I wireddu prosiectau mewn cyfnod byr yn ôl y galw.

3. I gynnal a chadw’r adeiladau fel ein bod yn medru wynebu unrhyw waith atgyweirio angenrheidiol heb i’r gost lesteirio ein prif waith fel eglwys.

## **Polisi Buddsoddi**

Rheolwyd polisi buddsoddi’r cwmni gan yr Erthyglau Cymdeithasiad, o fewn y canllawiau a osodwyd. Rydym yn adolygu’r sefyllfa hon yn gyson.

## **Polisi Cronfeydd**

Mae’r cwmni’n ffodus bod cyfran helaeth o’r incwm yn dod trwy gyfraniadau aelodau, a’r rheiny ar y cyfan yn weddol gyson trwy’r flwyddyn, gyda nifer helaeth yn talu trwy archeb banc. Derbynnir tua £22,000 y flwyddyn mewn cyfraniadau gan aelodau. Y polisi yw ceisio sicrhau bod tua 3 mis o wariant arferol yn aros yn y cyfrif cyfredol yn gyson, a’r gweddill yn cael ei drosglwyddo i’r gronfa fuddsoddi, fel y nodwyd uchod.

## **Datblygiadau**

Teimla’r Ymddiriedolwyr yn hyderus fod dyfodol ariannol Capel y Tabernacl, Cyf. ar seiliau cadarn iawn.

## **Archwilydd Annibynnol**

Archwilydd Annibynnol y cyfrifon hyn oedd Huw Aled Accountants Ltd., 60 Ashbourn Way, Llanishen, Caerdydd, CF14 5EY.

Paratowyd yr adroddiad hwn ar sail canllawiau _Cyfrifo ac Adrodd i Elusennau: Datganiad o Arferion a Argymhellwyd,_ sy’n berthnasol i elusennau wrth baratoi eu cyfrifon ac yn unol â gofynion Safonau Adroddiadau Ariannol y Deyrnas Gyfunol a Gweriniaeth Iwerddon (FRS 102) (gweithredol o 1 Ionawr 2015).

Cymeradwywyd gan y Cyfarwyddwyr/Ymddiriedolwyr ar 13 Medi 2022 ac fe’i llofnodwyd ar eu rhan gan:

**Enw: Bethan Guilfoyle Ymddiriedolwr**

**Enw: Helen Middleton Ymddiriedolwr**

**7**

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

## **ADRODDIAD Y CADEIRYDD**

## Annwyl Gyd-aelodau

Braint ac anrhydedd i mi yw cael eich cyfarch unwaith eto wrth gyflwyno’r adroddiad blynyddol i’ch sylw. Braf yw cael dweud ar y cychwyn ein bod wedi goroesi’r aflwydd Cofid-19 sydd wedi llethu llawer o boblogaeth y byd tros y ddwy flynedd a hanner ddiwethaf. Rhaid diolch am wyddonwyr, arbenigwyr ym meysydd iechyd a diogelwch y cyhoedd, a’r gofalwyr iechyd o bob gradd am eu gwaith diflino i wneud y byd mor saff ag sy’n bosib. Nid oes amheuaeth y byddai pethau’n dra gwahanol arnom oni bai am y brechiadau sy’n ein harbed rhag y salwch gwaethaf.

Yn sgil y cyfyngiadau a chyfreithiau gwladol, nid oedd modd i ni ymgynnull i gyd-addoli yn y Tabernacl yn ôl ein harfer am ddeunaw mis rhwng Mawrth 2020 a dechrau Medi 2021. Er hynny, gyda’r defnydd o dechnoleg, a dycnwch rhai o’n haelodau, roedd modd lledaenu’r neges Gristnogol i bawb oedd yn barod i wrando trwy gyfrwng y gwefannau cymdeithasol. Gyda lliniaru ychydig ar y cyfyngiadau, bu modd cychwyn cyd-addoli trwy gadw at gyfyngiadau arbennig. Erbyn hyn mae’r holl gyfyngiadau wedi eu codi, ond fe barhawyd i ledaenu’r gwasanaethau bore Sul yn llwyddiannus dros y gwefannau cymdeithasol. Mae’n rhaid diolch i’r unigolion hynny fu’n weithgar yn sicrhau parhad y gwasanaethau trwy gyfnod mor anodd.

Yn ystod y clo mawr, bu raid rhoi gwaharddiad am gyfnod hir ar weithgareddau’r Ysgol Sul. Her fawr, felly, oedd ailddechrau’r sefydliad pwysig hwn pan godwyd y gwaharddiadau. Yn anffodus, anodd oedd denu’r plant hŷn yn ôl, ond mae’n braf medru adrodd bod cnewyllyn da o blant iau yn mynychu’r Ysgol Sul yn rheolaidd ac mae lle gennym i ddiolch i’w rhieni am hynny. Mae pethau’n edrych yn obeithiol tuag at y dyfodol.

Er y trafferthion oedd yn codi yn sgil Cofid, bu’n gyfnod prysur a bendithiol ym mywyd yr eglwys. Penodwyd Eleri Mai yn Swyddog Ieuenctid a Chymunedol dan nawdd Rhaglen Arloesi a Buddsoddi Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. Ers iddi ddechrau yn ei swydd ganol mis Medi, mae’r penodiad wedi dwyn ffrwyth ar ei ganfed. Ailsefydlwyd y Twmiaid, ac o fewn ychydig iawn o amser bu’n rhaid ychwanegu’r Twmiaid Bach i blant 9–11 oed, ac yn fuan wedyn esgorwyd ar Babi Twm. Mae’r apwyntiad wedi bod yn llwyddiant aruthrol ac yn hwb i waith yr Eglwys, gan ddangos ein bod ni’n barod i ymddiried a buddsoddi yn ein pobl ifanc. Ond, er gwaethaf nawdd yr Undeb, rhaid cofio bod cyflogi unrhyw berson yn golygu costau i ninnau hefyd, ac fe hoffwn i bob un ohonom ystyried hynny pan yn cysidro ein cyfraniad ariannol i’r eglwys.

Her ariannol arall na allwn mo’i hosgoi yw’r cynnydd sylweddol ym mhris nwy a thrydan y byddwn fel eglwys yn ei wynebu yn ystod y blynyddoedd nesaf. Dros y misoedd diwethaf mae Bwrdd y Cyfarwyddwyr wedi dod yn ymwybodol iawn o’r heriau y bydd raid ymgodymu â nhw gyda’r codiadau hyn, ac yn derbyn y bydd angen mabwysiadu mesurau i gadw rheolaeth ar y defnydd o danwydd yn y Capel a’r Ganolfan.

Mae’r Gweithgor Cyfiawnder Cymdeithasol wedi bod yn hynod brysur drwy gydol y flwyddyn. Ar adegau, roedd y capel yn edrych yn debycach i warws na man addoliad wrth i lwythi o gelfi tŷ a danteithion gael eu cyflwyno ar gyfer aelodau anghenus o’n cymdeithas. Mae gennym le i ddiolch am haelioni pobl yr ardal, a hefyd yr unigolion hynny sy’n gweithio’n ddiwyd i ddethol a didoli’r gwahanol roddion ar gyfer eu dosbarthu.

Yn ystod y misoedd diwethaf daeth cwmwl rhyfel tros Wcráin, ac mae effaith y rhyfel yn ymestyn i Gymru mewn mwy nag un cyfeiriad. Gwelwyd chwyddiant mewn costau byw, ond hefyd haelioni mawr wrth i’r eglwys a’r gymuned yn lleol gyfrannu dros £4,000 ers dechrau’r rhyfel ym mis Chwefror eleni i leddfu ychydig ar boen y ffoaduriaid oedd yn dianc am eu bywyd o’r wlad honno. Roedd hyn ar ben haelioni rhyfeddol aelodau a chyfeillion yr eglwys a lwyddodd i godi cyfanswm o £8,959 tuag at yr elusennau hynny oedd yn derbyn ein cefnogaeth yn ystod 2021.

8

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

## **ADRODDIAD Y CADEIRYDD (parhad)**

Bu’r criw bore Iau yn parhau’n weithgar, ac erbyn hyn mae ôl graen ar randiroedd y capel a’r fynwent. Datblygwyd Cwtsh Meddylgarwch rhwng y capel a’r ganolfan, ac mae hwn wedi dod yn lle hyfryd i unigolion a theuluoedd ddod i fyfyrio a chymdeithasu. Erbyn hyn, mae’r fynwent a’r rhandiroedd wedi dod yn adnoddau pwysig o fewn y gymuned, a hyfryd yw gweld yr ymateb cadarnhaol i’r gwaith o wella’r safleoedd. Dros gyfnod y Nadolig roedd tua 50 o dorchau blodau wedi eu gosod yn y fynwent gan gyfeillion er cof am anwyliaid, gan ddangos yn eglur pa mor bwysig yw cadw’r safle’n ddiogel a dymunol.

Un o sgil-effeithiau’r pandemig oedd estyn croeso i aelodau’r Tabernacl a thrigolion y gymuned leol i gymdeithasu yn y Ganolfan pan nad oedd modd cwrdd i addoli yn y capel oherwydd y cyfyngiadau. Bellach, mae’r boreau coffi hyn ar ddydd Mawrth wedi dod yn ran annatod o raglen wythnosol y capel i rai sy’n chwilio am gwmnïaeth. Yn sgil y rhain fe drefnwyd nifer o weithgareddau dyngarol, megis codi arian i gynnal Nyrsys Dementia a thuag at Wythnos Cymorth Cristnogol. Bellach, cynhelir rhyw weithgarwch neu’i gilydd ar safle’r Tabernacl ar o leiaf chwe diwrnod bob wythnos.

Trist yw cofnodi i ni golli un o anwyliaid yr eglwys yn ystod y flwyddyn. Roedd Carol (Williams) yn berson hoffus dros ben ac mae chwithdod mawr ar ei hôl. Mae ein cydymdeimlad â Penri a’r teulu’n ddidwyll iawn yn eu profedigaeth.

Er mai edrych yn ôl dros y flwyddyn ddiwethaf yw prif bwrpas yr adroddiad yma, efallai y gwnewch faddau i mi sôn ychydig am y dyfodol. Rydym eisoes wedi sicrhau nawdd ariannol i ddatblygu systemau technegol y capel fel bod modd darlledu ein gwasanaethau’n fyw dros y rhwydweithiau cymdeithasol. Byddwn felly yn medru taenu neges Iesu Grist i bedwar ban byd, ac mae hynny’n ddatblygiad i’w glodfori.

I derfynu, hoffwn ddiolch i’r unigolion hynny sy’n gweithio mor ddiwyd, naill ai’n unigol neu mewn grwpiau, i sicrhau parhad yr eglwys yn ymarferol ac yn ysbrydol. Nid wyf am enwi’r unigolion hynny oherwydd fe fyddai’r rhestr yn un faith, gyda’r peryg i mi anghofio rhywun. Yn syml, felly, derbyniwch fy niolch am yr holl waith sy’n cael ei gyflawni er lles yr Eglwys yn enw Iesu Grist.

Diolch eto i Aled Wyn Thomas, Huw Aled Accountants, am ei waith trylwyr wrth baratoi’r adroddiad ariannol hwn i’ch sylw.

**Edwyn Evans, Cadeirydd 13 Medi 2022**

**9**

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

## **ADRODDIAD YR ARCHWILYDD ANNIBYNNOL I YMDDIRIEDOLWYR CAPEL Y TABERNACL, CYF.**

## **Adroddiad yr archwilydd annibynnol i ymddiriedolwyr Capel y Tabernacl, Cyf. (‘y Cwmni’)**

Yr wyf yn adrodd i ymddiriedolwyr yr elusen am fy archwiliad o gyfrifon y Cwmni am y flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 2021.

## **Cyfrifoldebau a sail yr adroddiad**

Fel ymddiriedolwyr y Cwmni (a hefyd y cyfarwyddwyr at ddibenion deddfwriaeth cwmnïau) chi’n sy’n gyfrifol am baratoi’r cyfrifon yn unol â gofynion Deddf Cwmnïau 2006 (‘Deddf 2006’).

Wedi bodloni fy hun nad oes angen i gyfrifon y Cwmni dderbyn awdit o dan Rhan 16 Deddf 2006, a’i bod yn gymwys ar gyfer archwiliad annibynnol, gallaf adrodd ar sail fy archwiliad o gyfrifon yr elusen o dan Adran 145 o Ddeddf Elusennau 2011 (‘Deddf 2011’). Wrth gynnal fy archwiliad rwyf wedi dilyn Cyfarwyddiadau y Comisiwn Elusennau o dan Adran 145(5) (b) o Ddeddf  2011).

## **Datganiad yr Archwilydd Annibynnol**

Rwyf wedi cwblhau fy archwiliad, a gallaf gadarnhau nad oes unrhyw fater wedi dod i’m sylw mewn cysylltiad â’m harchwiliad sy’n peri i mi gredu:

1. nad yw’r cofnodion cyllido wedi eu cadw mewn perthynas â’r Cwmni yn unol â gofynion Adran 386 Deddf 2006; _neu_

2. nad yw’r cyfrifon yn cyd-fynd â’r cofnodion hyn;

- _neu_

3. nad yw’r cyfrifon yn cydymffurfio â gofynion Adran 396 Deddf 2006 ac eithrio unrhyw ofyniad bod y cyfrifon yn cyflwyno darlun cywir a theg nad yw’n rhan o’r materion gaiff eu hystyried fel rhan o archwiliad annibynnol; _neu_

4. nad yw’r cyfrifon wedi eu paratoi yn unol â methodoleg ac egwyddorion y Datganiad o Ymarfer a Argymhellwyd ( _Statement of Recommended Practice_ ) a ddefnyddir i gyfrifo ac adrodd gan elusennau sy’n berthnasol i elusennau wrth baratoi eu cyfrifon yn ôl gofynion Safon Adroddiadau Ariannol y Deyrnas Gyfunol a Gweriniaeth Iwerddon (FRS 102).

Nid oes gennyf unrhyw gonsýrn ac nid wyf wedi dod ar draws unrhyw faterion mewn cysylltiad â’r archwiliad y dylid tynnu sylw atynt yn yr adroddiad hwn er mwyn dod i ddealltwriaeth llawn o’r cyfrifon.

Aled Wyn Thomas, ACA Huw Aled Accountants Ltd 60 Ashbourn Way Llanishen Caerdydd CF14 5EY

Dyddiad: 13 Medi 2022

**10**

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

## **DATGANIAD O WEITHGAREDDAU ARIANNOL (YN CYNNWYS CYFRIF O INCWM A GWARIANT) AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 RHAGFYR 2021**

|**Nodiadau**
**INCWM A GWADDOLION O:**
Rhoddion a Chymynroddion
**4**
**Gweithgareddau Elusennol**
Gweithgareddau crefyddol
**6**
Incwm o fuddsoddiadau
**5**
**Cyfanswm**
**GWARIANT AR**
**Gweithgareddau Elusennol**
Gweithgareddau Crefyddol
**7**
**(GWARIANT)/INCWM**
**GWEITHREDU NET**
Enillion heb eu gwireddu o ailbrisio
asedau buddsoddi
**14**
**INCWM/(GWARIANT) NET**
**CYSONI’R CRONFEYDD**
**12**
**Cysoni’r cronfeydd a gariwyd**
**ymlaen**
**CYFANSWM Y CRONFEYDD A**
**DDYGWYD YMLAEN**|Cronfeydd
Anghyfyngedig
Cronfeydd
Cyfyngedig

36,326

18,995
7

36,333
18,995
36,651
11,474
(318)
7,521
10,000

9,682
7,521
765,244
5,024
774,926
12,545|2021
Cyfanswm
Cronfeydd

36,326
18,995
7
55,328
48,125
7,203
10,000
17,203
770,268
787,471|2020
Cyfanswm
Cronfeydd

33,886
13,102
21|

||||47,009
52,000|
||||(4,991)
10,000|
||||5,009
765,259|
||||770,268|

_Mae’r nodiadau yn ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol_

11

## CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

|**MANTOLEN**
**AR 31 RHAGFYR 2021**
**ASEDAU SEFYDLOG**
**Nodiadau**
Asedau Diriaethol
**13**
Asedau Buddsoddi
**14**
**ASEDAU CYFREDOL**
Dyledwyr
**15**
Arian yn y banc
**CREDYDWYR**
Yn ddyledus o fewn blwyddyn
**16**
**ASEDAU NET CYFREDOL**
**CYFANSWM ASEDAU LLAI**
**DYLEDION CYFREDOL**
**ASEDAU NET**
**CRONFEYDD**
**18**
Cronfeydd Anghyfyngedig
Cronfeydd Cyfyngedig
**CYFANSWM Y CRONFEYDD**|Cronfeydd
Anghyfyngedig
Cronfeydd
Cyfyngedig

530,104

145,000

2,609

98,263
12,545|2021
Cyfanswm
Cronfeydd
2020
Cyfanswm
Cronfeydd

530,104
543,513
145,000
135,000
2,609
2,494
110,808
90,311|

||100,872
12,545
(1,050)
-|113,417
92,805
(1,050)
(1,050)|
||99,822
12,545|112,367
91,755|
||774,926
12,545|787,471
770,268|
||774,926
12,545|787,471
770,268|
|||774,926
765,244
12,545
5,024|
|||787,471
770,268|

Mae gan y cwmni elusennol hawl i beidio â chynnal awdit, dan Adran 477 o Ddeddf Cwmnïau 2006, am y flwyddyn yn diweddu ar 31 Rhagfyr 2021.

Nid yw’r aelodau wedi gofyn i’r cwmni elusennol gynnal awdit o’u cyfrifon ariannol am y flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 2021 yn unol ag Adran 476 Deddf Cwmnïau 2006.

Mae’r Ymddiriedolwyr yn cydnabod eu cyfrifoldeb dros y canlynol:

(a) sicrhau bod y cwmni elusennol yn cadw cyfrifon sy’n cyd-fynd â gofynion Adran 386 a 387 o Ddeddf Cwmnïau 2006, ac

(b) yn paratoi datganiadau ariannol sy’n adlewyrchu’n gywir a theg sefyllfa’r cwmni elusennol ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol, gan gynnwys y gwarged neu’r ddyled yn unol â gofynion Adrannau 394 a 395 ac sydd fel arall yn cydymffurfio â gofynion Deddf Cwmnïau 2006 o safbwynt datganiadau ariannol sy’n berthnasol i gwmnïau elusennol.

Cafodd y datganiadau ariannol hyn eu paratoi i gydymffurfio â gofynion arbennig Rhan 15 o Ddeddf Cwmnïau 2006 sy’n berthnasol i gwmnïau elusennol bychan.

Cafodd y datganiadau ariannol eu cymeradwyo gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr ar 13 Medi 2022 a’u llofnodi ar eu rhan gan:

Enw:Bethan Guilfoyle Ymddiriedolwr

Enw: Helen Middleton Ymddiriedolwr

_Mae’r nodiadau yn ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol_

12

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

## **NODIADAU AR DDATGANIADAU ARIANNOL AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 RHAGFYR  2021**

## **1. GWYBODAETH STATUDOL**

Mae Capel y Tabernacl, Cyf. yn gwmni cyfyngedig dan warant wedi ei ymgorffori yng Nghymru o fewn y Deyrnas Gyfunol. Y Swyddfa Gofrestredig yw 9 Gerddi’r Sofran, Meisgyn, Pontyclun, Cymru, CF72 8SZ.

Mae’r datganiadau ariannol wedi eu cyflwyno mewn Sterling (£), sef arian cyfred y cwmni, yn grwn i’r bunt agosaf.

Prif ddiben a natur yr elusen yw hybu gweithgarwch crefyddol.

Caiff y prif bolisïau cyfrifo a ddefnyddiwyd wrth baratoi’r datganiadau ariannol hyn eu nodi isod. Cafodd y polisïau eu gweithredu’n gyson dros yr holl flynyddoedd a gyflwynir, oni nodir yn wahanol.

## **2. POLISÏAU CYFRIFO**

## **Sail paratoi’r datganiadau ariannol**

Mae datganiadau ariannol y cwmni elusennol, sydd yn endid budd cyhoeddus o dan FRS 102, wedi cael eu paratoi yn unol â SORP (FRS 102) _Accounting and Reporting by Charities: Statement of Recommended Practice_ sy’n gymwys i elusennau sy’n paratoi eu cyfrifon yn unol â Safon Adroddiadau Ariannol yn y Deyrnas Gyfunol a Gweriniaeth Iwerddon (FRS 102) (gweithredol o 1 Ionawr 2019), a Deddf Cwmnïau 2006. Mae’r datganiadau ariannol wedi eu paratoi ar sail confensiwn hanesyddol.

Mae Capel y Tabernacl, Cyf. yn cwrdd â’r diffiniad o endid budd cyhoeddus dan FRS 102. Caiff yr asedau a’r dyledion eu cydnabod o’r cychwyn cyntaf ar gost neu werth gweithrediad hanesyddol oni nodir yn wahanol yn y nodyn / nodiadau cyfrifo perthnasol.

## **Incwm**

Caiff yr holl incwm ei gydnabod yn y Datganiad o Weithgareddau Ariannol unwaith mae gan yr elusen hawl i’r cronfeydd, mae’r incwm yn debygol o gael ei dderbyn, ac mae modd mesur y swm yn hyderus.

## **Incwm cyfraniadau a chymynroddion**

Mae incwm cyfraniadau a chymynroddion yn cynnwys cyfraniadau, rhoddion a grantiau sy’n sicrhau cyllid craidd neu sydd o natur gyffredinol a gydnabyddir lle bo hawl, a thebygolrwydd o’i dderbyn, a lle gellir mesur y swm gyda hyder digonol. Caiff incwm ei gadw’n ôl yn unig pan fydd y rhoddwr yn nodi bod rhaid ei ddefnyddio mewn cyfnod cyfrifo gwahanol, neu lle bo’r rhoddwr wedi gosod amodau y mae’n rhaid i’r elusen gwrdd â hwy cyn sicrhau hawl diamod ar y swm.

## **Incwm o weithgareddau elusennol**

Mae’r incwm o weithgareddau elusennol yn cynnwys incwm a dderbyniwyd dan gytundeb neu lle bo’r hawl yn amodol ar berfformiad dan amodau penodol. Caiff yr incwm hwn ei gydnabod gan bod y gwasanaethau perthynol yn cael eu darparu, ac y mae yna hawl, a thebygolrwydd o dderbynneb, a gellir mesur y swm gyda dibynadwyedd digonol. Caiff yr incwm ei ohirio lle bo’r arian yn cael ei dderbyn cyn cyflawni’r gwasanaeth neu’r digwyddiad mae’r arian yn berthnasol iddo.

## **Incwm buddsoddiadau**

Caiff incwm o fuddsoddiadau ei gydnabod ar sail ei dderbyn.

Nid yw’n bolisi gan yr elusen i ddangos incwm net o wariant.

## **Gwariant**

Caiff ymrwymiadau eu cydnabod fel gwariant cyn gynted ag y bo rheidrwydd cyfreithiol neu ymarferol yn ymrwymo’r elusen i’r gwariant hwnnw. Mae’n debygol y bydd rhaid trosglwyddo buddiannau economaidd fel setliad a gellir mesur yr ymrwymiad mewn modd dibynadwy. Caiff y gwariant ei gyfrifo ar sail croniadau, ac fe’i dosbarthwyd dan benawdau sy’n corlannu’r holl gostau o fewn y categori. Lle nad oes modd clustnodi costau dan bennawd penodol, maent wedi ei glustnodi o dan weithgareddau ar sail sy’n gyson â’r defnydd a wneir o’r adnoddau.

Mae costau sy’n ymwneud â chodi arian yn cynnwys costau ymgyrchu, hysbysebu a marchnata, a defnyddiau postio uniongyrchol.

Mae gwariant ar weithgarwch elusennol yn cynnwys y costau hynny a delir gan yr elusen wrth gyflawni ei gweithgareddau a’i gwasanaethau er lles ei derbynwyr. Mae’n cynnwys nid yn unig y costau y gellir eu clustnodi’n uniongyrchol, ond hefyd y gweithgareddau a’r costau hynny o natur anuniongyrchol sy’n angenrheidiol er mwyn eu cefnogi.

_Mae’r nodiadau hyn yn ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol_

**13**

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

**NODIADAU AR DDATGANIADAU ARIANNOL AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 RHAGFYR  2021 – PARHAD**

## **2. POLISÏAU CYFRIFO**

**Gwariant – parhad**

Costau Cynorthwyol yw’r costau hynny nad ydynt, er yn hanfodol i’r elusen gyflawni ei hamcanion, yn creu na chyflawni gweithgarwch elusennol. Mae’r rhain yn cynnwys costau llywodraethiant, sef y costau hynny i gwrdd â gofynion cyfansoddiadol a statudol yr elusen, gan gynnwys ffioedd cyfrifo a chostau’n gysylltiedig â rheolaeth strategol yr elusen.

## **Asedau Sefydlog diriaethol**

Caiff asedau sefydlog eu cyfalafu ar gost.

Amcangyfrifir y dibrisiad er mwyn lleihau cost yr ased, namyn yr amcangyfrif o werth sy’n weddill, dros oes yr ased fel a ganlyn:

|Eiddo rhyddfraint|- dros 40 mlynedd|

|Offer a chyfarpar|- 25% o’r gost|
|Offer cyfrifiadurol|- 50% o’r gost|

## **Asedau Buddsoddi**

Mae asedau buddsoddi yn cael eu cyfalafu ar gost ac yn cael eu hailbrisio i werth teg yr ased ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Mae unrhyw enillion neu colledion o'r ailbrisio blynyddol yn cael eu cynnwys o dan y pennawd 'Enillion/(colledion) heb eu gwireddu o ailbrisio asedau buddsoddi" yn y Datganiad o Weithgareddau Ariannol.

Nid yw'r asedau buddsoddi yn cael eu dibrisio.

## **Trethiant**

Mae’r elusen yn cael ei heithrio o dalu treth gorfforaethol ar ei gweithgarwch elusennol.

## **Cyfrifo Cronfeydd**

Gellir defnyddio cronfeydd anghyfyngedig yn unol â’r amcanion elusennol gyda sêl bendith yr ymddiriedolwyr. Dim ond at ddibenion penodol o fewn amcanion yr elusen y gellir defnyddio cronfeydd cyfyngedig. Ceir cyfyngiad pan fo’r rhoddwr yn nodi hynny, neu pan fo’r gronfa wedi ei chreu i godi arian at bwrpasau cyfyngedig penodol.

Ceir esboniad pellach am natur a diben pob cronfa yn y nodiadau i’r datganiadau ariannol.

## **Offerynnau Ariannol**

Dim ond asedau ac ymrwymiadau ariannol o’r math sy’n gymwys ar gyfer offerynnau ariannol sylfaenol sydd gan yr elusen. Caiff offerynnau ariannol sylfaenol eu derbyn yn y lle cyntaf ar sail y gwerth ariannol, ac yna eu mesur ar sail eu gwerth setliad.

Caiff benthyciadau rhatach eu derbyn a’u mesur yn y lle cyntaf ar sail eu gwerth ariannol, gyda’r symiau gaiff eu cario drosodd yn cael eu haddasu yn y blynyddoedd canlynol i adlewyrchu taliadau a wnaed ac unrhyw log sy’n deillio ohonynt.

## **Dyledwyr**

Cydnabyddir dyledwyr masnachol a dyledwyr eraill yn ôl y swm y cytunwyd arno ar ôl cynnwys unrhyw ddisgownt masnachol. Caiff blaendaliadau eu prisio ar y swm net o unrhyw ddisgownt sy’n ddyledus a dalwyd ymlaen llaw.

## **Credydwyr**

Cydnabyddir credydwyr lle mae gan yr elusen ymrwymiad cyfredol o ganlyniad i ddigwyddiad yn y gorffennol sy’n debygol o arwain at drosglwyddo arian i drydydd parti, a bod y swm i gwrdd â’r ymrwymiad yn un y gellir ei fesur neu ei amcangyfrif yn ddibynadwy. Fel arfer, caiff credydwyr eu cydnabod wrth iddynt setlo’r swm ar ôl caniatáu unrhyw ddisgownt masnachol sy’n ddyledus.

_Mae’r nodiadau hyn yn ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol_

14

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

## **NODIADAU AR DDATGANIADAU ARIANNOL AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 RHAGFYR  2021 – PARHAD**

## **4. RHODDION A CHYMYNRODDION**

|Aelodaeth
Casgliadau Rhydd a Rhoddion
Rhent Tŷ Capel
Hurio’r Ganolfan
Amrywiol
Ad-daliad Treth Incwm
**5**.
**INCWM BUDDSODDIADAU**
Llog cyfrif cadw
**6.**
**INCWM O WEITHGAREDDAU ELUSENNOL**
Rhaglen Arloesi                     Gweithgarwch Crefyddol
Cronfa Elusennol
Gweithgarwch Crefyddol
Cymorth Cristnogol            Gweithgarwch Crefyddol
Apêl Talebau Nadolig           Gweithgarwch Crefyddol
Apêl Banc Bwyd                  Gweithgarwch Crefyddol
Apêl Llifogydd                     Gweithgarwch Crefyddol
Apêl Lesotho                        Gweithgarwch Crefyddol
**7.**
**COSTAU GWEITHGAREDDAU CREFYDDOL**
Costau

Uniongyrchol
(gweler nodyn 8)
Gweithgareddau Crefyddol

47,075
**8.**
**COSTAU UNIONGYRCHOL GWEITHGAREDDAU ELUSENNOL**
Costau Staff (anghyfyngedig)
Costau Staff (cyfyngedig, Rhaglen Arloesi a Buddsoddi Undeb yr Annibynwyr)
Yswiriant
Gwres, Golau a Dŵr
Pregethwyr
Undeb yr Annibynwyr Cymraeg
Llenyddiaeth
Gweinyddol
Y Ganolfan
Y Fynwent
Amrywiol
Cronfa Elusennau
Cymorth Cristnogol
Costau Cynnal a Chadw
Rhoddion ychwanegol
Apêl Madagascar
Apêl Banc Bwyd
Apêl Felindre
Dibrisiant||2021

22,269
2,272
3,813

7,972
36,326
2021

7
2021

10,000
3,430
1,165
1,390
3,010

18,995
Costau
Cymorth

1,050
2021

2,306
2,934
3,681
8,197
1,620
800
322
1,656

967
117
3,430
1,145
1,546
980

3,965

13,409
47,075|2020

21,172
1,065
4,340
1,280

6,029|

||||33,886|
||||2020

21
2020

3,813
1,455
1,195
4,385
2,095
159|
||||13,102|

||Cyfanswm

48,125
2020

2,020

3,493
9,313
1,060
800
849
1,035

1,235
452
4,199
1,495
3,229
1,737
2,719
3,405
500
13,409
50,950|

_Mae’r nodiadau hyn yn ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol_

15

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

## **NODIADAU AR DDATGANIADAU ARIANNOL AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 RHAGFYR  2021 – PARHAD**

## **9. INCWM NET/(GWARIANT)**

Nodir incwm net/(gwariant) ar ôl codi tâl /(credydu):

|Ffi archwilio
Dibrisiant – asedau’r cwmni|2021

1,050
13,409|2020

1,050
13,409|

## **10. CYDNABYDDIAETH A BUDDIANNAU’R YMDDIRIEDOLWYR**

Ni roddwyd unrhyw gydnabyddiaeth na buddiannau eraill i’r ymddiriedolwyr yn ystod y flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 2021 na’r flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 2020.

## **Costau’r Ymddiriedolwyr**

Ad-dalwyd cyfanswm o £dim (2020: £59) i'r Ymddiriedolwr yn ystod y flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 2021 am gostau a dalwyd gan yr Ymddiriedolwr ar ran y Capel. Ni thalwyd unrhyw dreuliau i’r ymddiriedolwyr yn ystod y flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 2021 na’r flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 2020.

## **11. COSTAU STAFF**

Ar gyfartaledd misol, cyflogwyd y nifer canlynol o staff yn ystod y flwyddyn:

|2021|2020|

|2|2|

Ni dderbyniodd yr un o’r cyflogeion dâl o fwy na £60,000.

## **12. CYMARIAETHAU AR GYFER Y DATGANIAD O WEITHGAREDDAU ARIANNOL**

|**INCWM A CHYMYNRODDION O:**
Rhoddion a Chymynroddion
**Gwaith Elusennol**
Gweithgarwch Crefyddol
Incwm Buddsoddi
**Cyfanswm**
**GWARIANT AR:**
**Gweithgarwch Elusennol**
Gweithgarwch Crefyddol
**Cyfanswm**
**INCWM NET/(GWARIANT) GWEITHREDU**
Enillion heb eu gwireddu o ailbrisio asedau buddsoddi
**INCWM/(GWARIANT) NET**
**CYSONI CRONFEYDD**
Cyfanswm a gariwyd ymlaen
**CYFANSWM CRONFEYDD A DDYGWYD YMLAEN**|Cronfeydd
anghyfyngedig
Cronfeydd
cyfyngedig

33,886

13,102
21

33,907
13,102
39,682
12,318
39,682
12,318
(5,775)
784
10,000

4,225
784
761,019
4,240
765,244
5,024|Cyfanswm
cronfeydd

33,886
13,102
21|

|||47,009
52,000|
|||52,000|
|||(4,991)
10,000|
|||5,009|
|||765,259|
|||770,268|

_Mae’r nodiadau hyn yn ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol_

16

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

## **NODIADAU AR DDATGANIADAU ARIANNOL AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 RHAGFYR  2021 – PARHAD**

## **13. ASEDAU SEFYDLOG DIRIAETHOL**

|**14.**
**ASEDAU BUDDSODDI**
**15.**
**DYLEDWYR: SYMIAU’N DDYLEDUS O FEWN UN BLWYDDYN**
2021

Blaendaliadau
2,609

**16.**
**CREDYDWYR: SYMIAU SY'N DDYLEDUS O FEWN UN BLWYDDYN**
2021

Ffi archwilio
1,050

1,050

Eiddo
Rhyddfraint
Cyfarpar ac
Offer
**COST**

Ar 1 Ionawr 2020 a 31 Rhagfyr 2020
636,377
24,614
**Ar 1 Ionawr 2020 a 31 Rhagfyr 2020**
**636,377**
**24,614**
**DIBRISIANT**
Ar 1 Ionawr 2020
79,455
24,614
Tâl am y flwyddyn
13,409

**Ar 1 Ionawr 2021**
**92,864**
**24,614**
Tâl am y flwyddyn
13,409

**Ar 31 Rhagfyr  2021**
**106,273**
**24,614**
**GWERTH NET YN Y LLYFR**
**Ar 31 Rhagfyr 2021**
**530,104**

Ar 31 Rhagfyr 2020
543,513

Ar 1 Ionawr 2021
Enillion heb eu gwireddu o ailbrisio asedau buddsoddi
**Ar 31 Rhagfyr 2021**|Eiddo
Rhyddfraint
Cyfarpar ac
Offer

636,377
24,614|Cyfansym-iau

660,991|

||**636,377**
**24,614**|**660,991**|
||79,455
24,614
13,409
-|104,069
13,409|
||**92,864**
**24,614**
13,409
-|**117,478**
13,409|
||**106,273**
**24,614**|**130,887**|
||**530,104**
**-**|**530,104**|
||543,513
-|543,513|
|||Tŷ Capel

135,000
10,000|
|||**145,000**|
|||2020

2,494

2020

1,050

1,050

_Mae’r nodiadau hyn yn ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol_

17

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

## **NODIADAU AR DDATGANIADAU ARIANNOL AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 RHAGFYR  2021 –  PARHAD**

## **18. SYMUDIADAU O FEWN CRONFEYDD**

|**Cronfeydd Anghyfyngedig**
Cronfa Gyffredinol
**Cronfeydd Cyfyngedig**
Cronfa Lesotho
Rhaglen Arloesi
Cronfa Elusennol
Cymorth Cristnogol
Apêl Llifogydd
Apêl Banc Bwyd
Apêl Talebau Nadolig
Apêl Diffibriliwr
Cronfa Ailbrisio
**CYFANSYMIAU CRONFEYDD**
Mae’r symudiadau net mewn cronfeydd, a gynhwysir
uchod fel a ganlyn:
**Cronfeydd Anghyfyngedig**
Cronfa gyffredinol
**Cronfeydd Cyfyngedig**
Rhaglen Arloesi
Cronfa Elusennol
Cymorth Cristnogol
Apêl Talebau Nadolig
Apêl Banc Bwyd
Cronfa Ailbrisio
**CYFANSYMIAU CRONFEYDD**
**Symudiadau cymharol mewn cronfeydd**
**Cronfeydd Anghyfyngedig**
Cronfa Gyffredinol
**Cronfeydd Cyfyngedig**
Cronfa Lesotho
Cronfa Elusennol
Cymorth Cristnogol
Apêl Llifogydd
Apêl Banc Bwyd
Apêl Talebau Nadolig
Apêl Diffibriliwr
Canolfan Ganser Felindre
Apêl Madagascar
Cronfa Ailbrisio
**CYFANSYMIAU CRONFEYDD**|Ar 1/1/21
Symudiadau net
mewn cronfeydd
Ar
31/12/21

732,931
(318)
732,613
214

214

7,066
7,066

20
20
2,095

2,095
980
(955)
25
1,195
1,390
2,585
540

540|

||5,024
7,521
12,545
32,313
10,000
42,313|
||770,268
17,203
787,471|
||Adnoddau a
dderbyniwyd

Adnoddau a wariwyd

Symudiadau
mewn
cronfeydd

36,333
(36,651)
(318)
10,000
(2,934)
7,066
3,430
(3,430)

1,165
(1,145)
20
1,390

1,390
3,010
(3,965)
(955)|
||18,995
(11,474)
7,521
10,000

10,000|
||65,328
(48,125)
17,203|
||Ar 1/1/20
Symudiadau net
mewn cronfeydd
Ar 31/12/20

738,706
(5,775)
732,931
55
159
214
386
(386)

40
(40)

2,095
2,095

980
980

1,195
1,195
540

540
500
(500)

2,719
(2,719)

||4,240
784
5,024|
||22,313
10,000
32,313
765,259
5,009
770,268|

_Mae’r nodiadau hyn yn ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol_

18

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

## **NODIADAU AR DDATGANIADAU ARIANNOL AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 RHAGFYR  2021 – PARHAD**

## **18. SYMUDIADAU O FEWN CRONFEYDD – parhad**

Mae’r symudiadau net mewn cronfeydd, a gynhwysir yn yr uchod fel a ganlyn:

|fel a ganlyn:||

|**Cronfeydd Anghyfyngedig**
Cronfa gyffredinol
**Cronfeydd Cyfyngedig**
Cronfa Lesotho
Cronfa Elusennol
Cymorth Cristnogol
Apêl Talebau Nadolig
Canolfan Ganser Felindre
Apêl Banc Bwyd
Apêl Llifogydd
Cronfa Madagascar
Cronfa Ailbrisio
**CYFANSYMIAU CRONFEYDD**|Adnoddau a
dderbyniwyd

Adnoddau a wariwyd

Symudiadau
mewn
cronfeydd

33,907
(39,682)
(5,775)
159

159
3,813
(4,199)
(386)
1,455
(1,495)
(40)
1,195

1,195

(500)
(500)
4,385
(3,405)
980
2,095

2,095

(2,719)
(2,719)|
||13,102
(12,318)
784
10,000

10,000|
||57,009
(52,000)
5,009|

## **19. DAGELIADAU PARTÏON PERTHYNOL**

Cyfanswm y cyfraniadau a wnaed i’r elusen gan bartïon perthynol yn ystod y flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 2021 oedd £3,454 (2020: £5,826).

## **20. OFFERYNNAU ARIANNOL**

|Asedau ariannol ar sail cost amorteiddiad
Treuliau ariannol ar sail cost amorteiddiad|**2021**
**2020**

110,808

90,311
1,050
1,050|

_Mae’r nodiadau hyn yn ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol_

19

CAPEL Y TABERNACL, Cyf.

## **DATGANIAD MANWL O’R GWEITHGAREDDAU ARIANNOL AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 RHAGFYR 2021**

|**INCWM A CHYMYNRODDION**
**Cyfraniadau a Chymynroddion**
Aelodaeth
Casgliadau rhydd a rhoddion
Rhent Tŷ Capel
Llogi’r Ganolfan
Amrywiol
Ad-daliad Treth Incwm
**Incwm Buddsoddiadau**
Llog y Cyfrif Cadw
**Gweithgareddau Elusennol**
Rhaglen Arloesi a Buddsoddi Undeb yr Annibynwyr Cymraeg
Cronfa Elusennau
Cymorth Cristnogol
Apêl Banc Bwyd
Apêl Llifogydd
Apêl Talebau Nadolig
Apêl Lesotho
**Cyfanswm yr adnoddau a dderbyniwyd**
**GWARIANT**
**Gweithgareddau Elusennol**
Cyflogau (anghyfyngedig)
Cyflogau (cyfyngedig, Rhaglen Arloesi a Buddsoddi Undeb yr Annibynwyr Cymraeg)
Yswiriant
Gwres, golau a dŵr
Pregethwyr
Undeb yr Annibynwyr Cymraeg
Llenyddiaeth
Gweinyddol
Y Ganolfan
Y Fynwent
Amrywiol
Cronfa Elusennau
Cymorth Cristnogol
Costau Cynnal a Chadw
Rhoddion ychwanegol
Apêl Madagascar
Apêl Banc Bwyd
Canolfan Ganser Felindre
Dibrisiant
**Costau Cymorth (Costau Llywodraethu)**
Ffi Archwilwyr
**Cyfanswm yr adnoddau a wariwyd**
Enillion heb eu gwireddu o ailbrisio asedau buddsoddi
**Incwm net**|2021

22,269
2,272
3,813

7,972
36,326
7
10,000
3,430
1,165
3,010

1,390

18,995
55,328
2,306
2,934
3,681
8,197
1,620
800
322
1,656

967
117
3,430
1,145
1,546
980

3,965

13,409
47,075
1,050
48,125
10,000
17,203|2020

21,172
1,065
4,340
1,280

6,029|

|||33,886
21

3,813
1,455
4,385
2,095
1,195
159|
|||13,102|
|||47,009
2,020

3,493
9,313
1,060
800
849
1,035

1,235
452
4,199
1,495
3,229
1,737
2,719
3,405
500
13,409|
|||50,950
1,050
52,000
10,000
5,009|

_Nid yw’r dudalen hon yn rhan o’r datganiad ariannol statudol_

20