OpenCharities

This text was generated using OCR and may contain errors. Check the original PDF to see the document submitted to the regulator.

2024-03-31-accounts

ADRODDIAD LYNYDDOL 2023 2024 Menter Iaith Sir Ddinbych AIIx4.- l.Ip.nter %ir DdiiJiiyLiI li YGBI I)1 Elusen Gofrestredig: 1120223 Cwmni Cyfyngedig Trwy Warant: 6204415 SAFON ELUSEN DDIBYNADVIY LEFEL 1

CYNNWYS:

Adroddiad y Cadeirydd 3
Beth yw Menter Iaith? 4
Menter Iaith Sir Ddinbych 5
Cyfarwyddwyr 2023-2024 6
Staff y Fenter 2023-2024 6
Yr ardal a wasanaethir 7
Nodau ac Amcanion Menter Iaith Sir Ddinbych 8
Ein llwyddiannau yn 2023-2024 9 – 15
Gweledigaeth ar gyfer y flwyddyn nesaf 16
Datblygu a Chryfhau’r Fenter 16
Diolchiadau 16
Cysylltu 17
Noddwyr a phartneriaid 18

2

ADRODDIAD Y CADEIRYDD

Mae’n ymddangos mai’r unig beth sydd yn GYSON yn ein bywydau ar hyn o bryd yw NEWID. Mae’r byd o’n cwmpas yn newid mewn sawl ffordd, wedi’i ysgogi gan dechnoleg, globaleiddio, sifftiau demograffig, cynnydd cymdeithasol a newid amgylcheddol. Yn ein gwlad fach hardd rydym yn falch iawn o weld un peth, o leiaf, yn aros sef y nod Cenedlaethol o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg ar y pryd yn cyflwyno Bil y Gymraeg ac Addysg yng Ngorffennaf eleni.

Gellir dadlau fod newidiadau yn dod a chyfleoedd a buddion newydd, ond maent hefyd yn creu heriau a risgiau sy’n ymofyn lefelau uwch o arweinyddiaeth a chydweithio. Diolchwn felly am y balchder a’r ewyllys da sydd yn ein Sir tuag at y Gymraeg ac yn arbennig felly'r ymdrech ddiflino gan Fenter Iaith Sir Ddinbych dan arweiniad diwyd ein Prif Swyddog, Ruth Williams. Diolchwn hefyd i’w chydweithwyr, Iorwen Jones a Gwion Tomos Jones, a phawb arall ddaw atynt yn achlysurol dan nawdd gwahanol grantiau neu’n wirfoddol, yn cynnwys aelodau o’r Pwyllgor ei hun hefyd sy’n cynnig cefnogaeth a chyngor pan mae’r staff eu hangen. Dim ond drwy gydweithio fel hyn y daw llwyddiant.

Mae’r profiadau a’r gefnogaeth y mae’r Fenter yn ei ddarparu a’i gynnig ar draws y Sir a thu draw iddi yn ysbrydoliaeth i ni gyd gyda’r Adroddiad Blynyddol hwn yn tystio i ehangder, amrywiaeth, arloesedd ac ansawdd y gwasanaeth hwnnw. Anodd yw credu sut y gall tîm o dri gyflawni cymaint â hynny heb gynnydd yn yr arian a ddaw o du’r llywodraeth unwaith eto eleni.

Wrth lywio ffordd drwy newid mae'n bwysig dathlu llwyddiannau. Llongyfarchiadau calonnog felly i holl staff a phwyllgor ar ddyfarniad marc safon Elusen Ddibynadwy am yr ail waith. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosib heb ymrwymiad ac ymroddiad pob un i’r Fenter.

Yng nghanol yr holl newid mae’n bwysig ein bod hefyd yn edrych i’r dyfodol. Mae cyfnod hynod gyffrous wrth droed wrth i’r Fenter fod yn wynebu ail leoli eu swyddfa i’r Farchnad Fenyn yng nghanol tref Dinbych. Rwy’n sicr y bydd delwedd wahanol iawn i’r Fenter erbyn yr adeg yma flwyddyn nesaf fydd yn gweddu yn well ein byd heddiw, ac yn llawer mwy hwylus a chyfleus i bawb.

Fel y daw fy mlwyddyn gyntaf fel Cadeirydd y Bwrdd Rheoli i ben rhaid dweud ei bod yn fraint ac yn anrhydedd i fod yn rhan o fudiad mor weithgar a llwyddiannus â Menter Iaith Sir Ddinbych. Hoffwn ddymuno yn dda i chi ar gyfer 2024-25

Bethan Cartwright, Cadeirydd Hydref 2024

3

11 Mae 22 Menter yn gweithio yn ein cymunedau dr05 Gymru There are 22 Welsh langua8e enterprises working in Wales yn cefnogi dros 160.000 0 bobl o bob oed i gynyddu a chryfhau'r defnydd o'r Gymraeg yn ein cymunedau. supporting over 160.000 to increase and strengthen the use people of all ages of Welsh in our communities. GOOOOOOL• Yn trefnu gwyliau. clybiau gofal, mae'r fenter yn siop-un-5top 5esiynau iaith a mwy - ar gyfer yr iaith. yn ein helpu i fyw. dysgu a mwynhau yn Gymraeg. Organising festivals. childcare. language sesstons and more - Menter laith is a one-stop- shop for the language. helping us live. learn and enjoy in Welsh 1111 mE￿RAu IA Mae'r Mentrau laith i bawb. I ddarganfod mwy ewch i mentrauiaith.cymru entrau laith is for everyone. To find out more go to mentrauiaith.cymru

MENTER IAITH SIR DDINBYCH

Sefydlwyd Menter Iaith Sir Ddinbych ym mis Hydref 2003 pan esblygodd o’r hen Fenter Iaith Dinbych-Conwy a oedd wedi bodoli ers 1998.

Mae’r Fenter yn elusen gofrestredig ers 11eg Tachwedd 2004 ac yn gwmni cyfyngedig trwy warant ers 5ed Ebrill 2007. Mae gan y Fenter fwrdd o gyfarwyddwyr profiadol, gweithgar a chefnogol iawn.

Strwythur Menter Iaith Sir Ddinbych 2023-2024

PWYLLGOR RHEOLI

----- Start of picture text -----
11 x Cyfarwyddwr
2 x Aelod o Staff
Is- bwyllgor
Is-bwyllgor
Staffio STAFF
Cyllid ac
(Cyflogedig)
Adnoddau
2 Cyfarwyddwr
Prif Swyddog
Trysorydd
Prif Swyddog (Llawn amser)
1 Cyfarwyddwr
Swyddog Cyllid a
Busnes y Fenter Prif Swyddog
(Rhan amser 0.8)
Swyddog Cyllid
Swyddog Datblygu
Pwyllgor Cymunedol
(Llawn amser)
Apêl Staff
Swyddog Prosiect:
Cadeirydd
Ardal y Glannau
(Rhan amser 0.3 ac yn
2 Cyfarwyddwr
gyflogedig trwy gytundeb â
Menter Iaith Conwy)
----- End of picture text -----

5

CYFARWYDDWYR / YMDDIRIEDOLWYR 2023-2024

Enw: Cynrychioli Etholwyd Cadeirydd Bethan Cartwright Unigolyn 11/10/2017 Is–Gadeirydd - - - Trysorydd Owain Gwyn Morris Unigolyn 20/10/2011 Ysgrifennydd Anna Lloyd Edwards Unigolyn 16/10/2019 Gwenan Prysor Unigolyn 21/10/2015 Arwel Roberts Unigolyn 24/04/2014 Emrys Wynne Unigolyn 03/10/2012 Menna Jones Unigolyn 16/01/2019 Catrin Eynon Unigolyn 21/10/2021 Lowri Ellis Unigolyn 21/10/2021 Dyfan Philips Unigolyn 18/10/2023

STAFF 2023-2024

Prif Swyddog: Ruth Williams

Mae Ruth wedi gweithio i’r Fenter ers Medi 2013. Yn llawn amser, mae hi’n rheoli’r Fenter o ddydd i ddydd, yn gyfrifol am faterion strategol, marchnata a chyfathrebu. Mae hi hefyd yn gyfrifol am ambell i weithgaredd cymunedol.

Swyddog Cyllid a Busnes: Iorwen Jones

Mae Iorwen wedi gweithio i’r Fenter ers Ebrill 2004. Yn gweithio 4 diwrnod yr wythnos, mae hi’n gyfrifol am weinyddiaeth a chyllid y Fenter ac yn cefnogi peth o waith cymunedol y Fenter.

Swyddog Datblygu Cymunedol: Gwion Tomos-Jones

Mae Gwion wedi gweithio i’r Fenter, yn llawn amser, ers Hydref 2013. Mae prif feysydd gwaith Gwion yn ymwneud â chyfleoedd i blant, pobl ifanc a theuluoedd.

Swyddog Prosiect y Glannau (rhan amser): Eryl Prys Jones

Mae Eryl yn gweithio tridiau'r wythnos ar brosiect Y Glannau, sy'n weithredol ar hyd ardal glannau siroedd Conwy a Dinbych, o Brestatyn i Benmaenmawr. Ariennir y prosiect trwy gronfeydd cymunedol ffermydd gwynt Gwynt y Môr a Rhyl Flats. Cyflogir Eryl trwy gytundeb â Menter Iaith Conwy, ac mae'n gweithio diwrnod a hanner yr wythnos yn cefnogi grwpiau yn Sir Ddinbych.

Swyddog achlysurol: Gwenno Williams

Fe gychwynnodd Gwenno hefo ni trwy gynllun gwirfoddoli a phrofiad gwaith. Mae hi wedi bod yn cefnogi ambell gweithgaredd i blant a theuluoedd hefo ni wedyn ar gytundeb achlysurol. (lluniau o Gwenno nes mlaen)

6

YR ARDAL A WASANAETHIR GAN Y FENTER

Mae ychydig dros 93,000 o bobl dros 3 oed yn byw yn Sir Ddinbych, ac mae 22.5% o’r rheini yn gallu siarad Cymraeg yn ôl Cyfrifiad 2021. Mae hyn yn cymharu â 24.6% yng Nghyfrifiad 2011. Mae hyn o ganlyniad i ostyngiad o 1,300 yn niferoedd y rhai sy’n gallu siarad Cymraeg, a chynnydd yng nghyfanswm y boblogaeth gyffredinol dros yr un cyfnod.

Drwy’r sir i gyd, cafodd 58% o’r boblogaeth eu geni yng Nghymru, ac o Loegr mae’r mwyafrif llethol o’r gweddill yn hanu. O’r rhai a aned yng Nghymru, mae ychydig dros eu traean (33.8%) yn gallu siarad Cymraeg.

Mae hanner poblogaeth y sir yn byw yn nhrefi Prestatyn a’r Rhyl, a dyma ran fwyaf Seisnig y sir, gyda’r gyfran sy’n gallu siarad Cymraeg yn 13.6% ar gyfartaledd rhyngddynt. Ychydig dros hanner y boblogaeth (53.3%) a aned yng Nghymru, ac mae’n llai na hanner mewn sawl ward.

Mae ychydig dros 11,000 o bobl yn byw yn y pentrefi, trefi a’r maestrefi cyfagos – Rhuddlan, Bodelwyddan, Dyserth a dinas Llanelwy. Mae’r ganran sy’n gallu siarad Cymraeg ychydig yn uwch yma – 18.5%.

Yn gyffredinol mae’r canrannau sy’n gallu siarad Cymraeg yn codi wrth symud i fyny Dyffryn Clwyd, gyda rhwng tua chwarter a thraean yn gallu siarad Cymraeg yn mhentrefi dwyreiniol a gwaelod y dyffryn. Y ddwy brif dref yw Dinbych, lle mae 33% yn siarad Cymraeg, a Rhuthun gyda chanran o 37.8%

Rhan Gymreiciaf y sir yw de-orllewin Dyffryn Clwyd a Edeirnion, lle mae dros 40% yn gallu siarad Cymraeg ar gyfartaledd, gan godi i dros 50% mewn pum cymuned. Cynwyd yw’r gymuned fwyaf Cymraeg gyda 58.4% o’r boblogaeth yn gallu siarad yr iaith, a’r unig gymunedau eraill sydd â mymryn dros hanner yn gallu siarad Cymraeg yw Gwyddelwern, Betws Gwerfyl Goch a Llandrillo yng nghyffiniau Corwen, a Llanrhaeadr yn Nyffryn Clwyd.

Mae llawer o’r ardaloedd hyn yn ffinio at ardaloedd cyfagos yn siroedd Conwy a Gwynedd, lle mae dros ddau draean o’r boblogaeth yn gallu sairad Cymraeg.

Yn olaf, mae’r canrannau sy’n gallu siarad Cymraeg yn isel – tua 20 y cant ar gyfartaledd – yn nwyrain y sir, sef Llangollen a chymunedau cyfagos Llantysilio, Llandegla a Llanarmon yn Iâl.

Uchod: Map yn dangos cymunedau sir Ddinbych lle mae 20% a mwy yn gallu siarad Cymraeg

7

NODAU AC AMCANION

: Prif nodau hir dymor y Fenter yw

  1. Normaleiddio'r defnydd o’r Gymraeg ym mhob agwedd o fywyd yn Sir Ddinbych.

  2. Sicrhau fod cyfleoedd ac anogaeth ar gael i fewnfudwyr a thrigolion diGymraeg ddysgu’r iaith

  3. Sicrhau fod cyfleoedd i drigolion cynhenid ddatblygu eu gwybodaeth a defnydd o’r iaith.

  4. Dylanwadu ar yr ystod eang o weithgarwch cymdeithasol, economaidd, diwylliannol, addysgiadol sy’n digwydd o fewn y sir er mwyn datblygu i fod yn drwyadl ddwyieithog neu Gymraeg.

Amcanion

Safbwyntiau am y Gymraeg, y gymuned a’r economi leol

Gosodwyd safbwyntiau’r rhwydwaith o Fentrau Iaith am y Gymraeg, y gymuned a’r economi leol mewn maniffesto ar gyfer etholiad Senedd Cymru 2021. Darllenwch y maniffesto ar wefan Mentrau Iaith Cymru.

8

Ein Llwyddiannau yn ystod 2023-24

Mae'r flwyddyn hon wedi gweld twf yn gyffredinol o ran ein gweithgareddau a'n heffaith. Dyma rai o'n llwyddiannau mwyaf nodedig:

1. Rhaglenni Cymunedol:

Rydym wedi cynnal nifer o raglenni cymunedol yn cefnogi teuluoedd a phlant, gan ddarparu adnoddau a chefnogaeth sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eu bywydau.

2. Gwirfoddolwyr:

Rydym wedi croesawu 15 o wirfoddolwyr newydd i'r tîm eleni, gan gryfhau ein gallu i gyrraedd hyd yn oed mwy o bobl. Ar ben hyn mae criwiau o wirfoddolwyr wedi cael eu cefnogi i ddatblygu a chynnal gweithgareddau Cymraeg ym Mhrestatyn a Rhuddlan.

3. Partneriaethau:

Drwy ein partneriaethau newydd gyda sefydliadau lleol a busnesau, rydym wedi gallu estyn ein gwaith a darparu cyngor, cefnogaeth a gweithgareddau i mwy o bobl ar draws y sir.

Yn unol ag amodau’r grant craidd gan Lywodraeth Cymru, roedd ein targedau canolbwyntio ar dri phrif faes a rheini’n deillio o Thema 2 ( Defnydd o’r Gymraeg) rhaglen waith Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr Cymraeg

1. Plant a Phobl Ifanc

2. Teuluoedd

3. Y Gymuned

I ddilyn, mae detholiad o’r math o waith roedd y Fenter yn ei wneud rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2024. Blas yn unig sydd yma. Ceir darlun mwy manwl a’r cyfle i weld lluniau ac ambell glip fideo o’r gweithgareddau ar ein gwefan ac ar ein tudalennau Facebook , X (Twitter) ac Instagram.

Roedd y gwaith yn cynnwys :

9

i. Gweithgareddau i blant, pobl ifanc a theuluoedd

Trefnwyd 79 o weithgareddau i blant a phobl ifanc , gyda o leiaf 1650 o blant 1-10 oed yn cymryd rhan ac o leiaf 900 o bobl ifanc 11-25 oed yn cymryd rhan ynddynt.

Cafwyd gweithgareddau yn defnyddio Lego a Minecraft ar thema hanes lleol eto, rhain yn parhau i fod yn boblogaidd ac yn safonol, ac yn cynnig lle i ddatblygu ymhellach.

----- Start of picture text -----
Creu fideos yng Ngŵyl Fwyd Llangollen
----- End of picture text -----

10

Trefnwyd 12 gweithgaredd i deuluoedd gydol y flwyddyn gyda 746 o blant a 441 o rieni/oedolion yn cymryd rhan a llawer mwy yn derbyn gwybodaeth am fanteision y Gymraeg i’w plant trwy dulliau eraill yn cynnwys ein gwaith i dargedu rheini ar y rhwydweithiau cymdeithasol .

11

ii. Gweithgareddau cymunedol

Cynhaliwyd 44 o weithgareddau cymunedol yn ystod y flwyddyn. Rydym yn amcangyfrif fod dros 1,194 o oedolion wedi cymryd rhan yn y gweithgareddau hyn. (Hyn heb gyfri’r niferoedd lu a oedd wedi mynychu gweithgareddau eraill a drefnwyd gan grwpiau a gefnogwyd gennym e.e. Gŵyl Rhuthun)

i - i ae! Baba aan Darlith am Robert Everett gan Dr Jerry Hunter yn ystod Gŵyl Ganol Haf Dinbych

Cefnogi Dysgwyr Cymraeg

Trwy gydweithrediad â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg a Mentrau Iaith Cymru buom yn cynllunio a darparu teithiau tywysedig Cymraeg i ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg o bob lefel.

Mae cyfres Paned a Sgwrs i ddysgwyr Cymraeg wedi cael dipyn o fuddsoddiad amser yn ystod y flwyddyn hon, er mwyn sefydlu gweithgaredd i bontio dysgwyr a siaradwyr rhugl mewn cymunedau ledled y sir. Fe gynhaliwyd 28 o sesiynau yn ystod y flwyddyn mewn 8 lleoliad gwahanol

Dysgwyr yn ymweld â Phont y Tŵr Mehefin 2023

12

iii. Cefnogi grwpiau cymunedol / gwirfoddol

Rydym wedi parhau i gefnogi grwpiau gwirfoddol megis Grŵp Amgueddfa Dinbych, Theatr Twm o’r Nant, Prosiect y Farchnad Fenyn, Gŵyl Rhuthun, Partneriaeth De Sir Ddinbych, Cymdeithas Lenyddol y Glannau, Cymdeithas Gymraeg Dinbych, Menter Gymraeg Rhuddlan, Yr Hen Lŷs Rhuthun, Gŵyl Rhuthun, Pwyllgor Dathlu Dydd Owain Glyndŵr a Gŵyl Ganol Haf Dinbych a sawl grŵp / elusen arall wedi cael

cefnogaeth gennym o ran cyfieithu a hyrwyddo digwyddiadau.

Cefnogwyd pwyllgor gwirfoddol Theatr Twm o’r Nant i gynnal 7 digwyddiadau Cymraeg a chefnogwyd Menter Gymraeg Rhuddlan i gynnal 5 gweithgaredd cymdeithasol a stondin yng Ngwledd Rhuddlan.

Sefydlwyd bwyllgor newydd ym Mhrestatyn - Llais Prestatyn, a rhoddwyd cyngor a chefnogaeth i grwpiau o wirfoddolwyr sefydlu a chynnal Paned a Sgwrs i ddysgwyr yn Nhremeirchion a Dyserth.

iv. Cefnogi ymgyrchoedd y Llywodraeth

Parhawyd i rannu ac ail-drydar ymgyrchoedd ac ymgynhoriadau perthnasol gan Lywodraeth Cymru ar dudalennau Facebook ac X Menter Iaith Sir Ddinbych.

13

v. Fforwm Iaith Sirol (Partner Iaith Sir Ddinbych)

Cydlynwyd ein fforwm iaith sirol yn chwarterol gyda chynrychiolaeth yn mynychu o’r Cyngor Sir, Merched y Wawr, CFfI Clwyd, Mudiad Meithrin, Cymraeg i Blant, Popeth Cymraeg a Choleg Cambria, yn ogystal a ninnau. Mwy na dim, fforwm i rannu profiadau, blaenoriaethau ac adrodd ar heriau a chyfleoedd oeddynt, ond hefyd yn gyfle i drafod syniadau o ran cydweithio ar ambell beth, er engraifft presenoldeb yng Ngharnifal Dinbych i hyrwyddo’r Gymraeg.

vi. Cydweithio gyda phartneriaid i hyrwyddo a chefnogi Cymraeg mewn addysg

Parhawyd i gefnogi a chydweithio gyda Grŵp Strategol Cymraeg Mewn Addysg Sir Ddinbych. Bu i ni hefyd gynnal:

14

vii. Cyfathrebu â’r Cyhoedd

Rhwydweithiau cymdeithasol

Gwelsom gynnydd da yn y nifer yn ein dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol yn ystod y flwyddyn hon, yn adlewyrchu ein cynnydd yn y defnydd o ddulliau digidol i gyrraedd pobl o bob oed a diddordeb.

Cyhoeddwyd o leiaf 600 eitem ar y gwahanol gyfrifon digidol dros y flwyddyn (hynny ddim yn cynnwys ail-drydariadau a rhannu gan sefydliadau eraill, er bod hi’n werth nodi bod hynny’n digwydd o leiaf 20 gwaith yr wythnos hefyd). Mae dadansoddiad o’r cyfnod ar facebook yn dangos bod y postiadau mwyaf poblogaidd wedi cyrraedd o dros 4,000 o linellau amser.

Diolch i gefnogaeth gan wirfoddolwr, sicrhawyd ein bod yn parhau i weld hanner tudalen yn Gymraeg yn y Denbighshire Free Press yn wythnosol, hyn yn cyfateb i 156 o eitemau.

Cyfrannwyd dros 25 o eitemau i bapurau bro ein hardal.

viii. Cefnogi Busnesau

Mae busnesau bach y sir yn parhau i groesawu ein cefnogaeth – fel arfer angen cyngor ar gyfieithu, ond weithiau syniadau am sut i gyrraedd mwy o farchnad Gymraeg a Chymreig.

Amcangyfrifwn i ni fod wedi delio â 120+ o fusnesau bach yn ystod y flwyddyn hon, yn arbennig trwy weithio mewn ffeiri megis Gŵyl Eirin Dinbych, Ffair Nadolig Dinbych a thrwy gynnal cystadleuaeth Ffenestri Dydd Gŵyl Dewi ym Mhrestatyn, Rhuddlan, Dinbych a Rhuthun.

15

GWELEDIGAETH AR GYFER Y FLWYDDYN NESAF

Wrth edrych ymlaen, rydym yn gobeithio ehangu ein gwaith mewn meysydd allweddol gan gynnwys:

DATBLYGU A CHRYFHAU’R FENTER

Mae’r Fenter yn ymfalchïo yn y farc ansawddDdibynadwy a ddyfarnwyd i ni eto am 3 mlynedd ym mis Medi ~~—~~ Elusen ~~—~~ 2023.

O ganlyniad i rai o'r blaenoriaethau a benderfynwyd arnynt yn ystod y broses dyfarnu, aethom ati i ymgeisio am nawdd trwy'r Cyngor Gwirfoddol i alluogi i wella capasiti yn ystod 2024. Cafwyd llwyddiant gyda'r cais ar ddiwedd 2023, a ganiataodd i ni foderneiddio ein system taliadau trwy ddefnydd o ddarllenydd taliadau, a chychwyn ar waith PR i amlygu pwysigrwydd a manteision gwirfoddoli.

DIOLCH

Diolch i holl rieni, plant a phobl ifanc am droi atom yn y Fenter Iaith drwy gydol y flwyddyn i chwilio am gefnogaeth, gweithgareddau a chyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg.

Rydym yn falch o fod wedi parhau i wasanaethu trigolion Sir Ddinbych, drwy gynnig cymorth o ran eu hanghenion ieithyddol, ac yn falch o fod wedi dwyn perswâd ar eraill o ran rhoi cynnig ar ddefnyddio’r Gymraeg, boed fel siaradwyr Cymraeg mamiaith, ailiaith neu ddysgwyr, grwpiau cymunedol neu fusnesau.

Diolchwn hefyd i’r holl wirfoddolwyr sydd wedi rhoi o’u hamser yn ystod y cyfnod hwn, i helpu llywio gwaith y Fenter, neu i’n cefnogi wrth gynnal gweithgareddau neu rannu negeseuon.

Diolchwn i’w noddwyr a’n partneriaid am eu cefnogaeth a chydweithrediad yn ystod 2023-2024

16

Cysylltwch â ni

I gael mwy o wybodaeth am ein gwaith neu os hoffech ymuno â ni fel gwirfoddolwr, cysylltwch â ni:

Menter Iaith Sir Ddinbych 6 Heigad Dinbych Sir Ddinbych LL16 3LE

 01745 812822

E-bost: menter@MISirDdinbych.cymru

Gwefan: www.misirddinbych.cymru Menter Iaith Sir Ddinbych @MIDinbych @cymraeg_sirddinbych ~~[Ww]~~ 8 ~~—___~~

17

Hoffai Menter laith Sir Ddinbych ddiolch i'w noddwyr am eu cymorth yn ystod 2023-2024 Cyngor sir ddinbych denbighshire Ly*D&aeth Cymrn Ly Welsh Go¥eTrrnent Covrsty Covncil Gltr Partn8riaelh Gymundedd De Sir Ckjinbych Scxjth Oenbtghshwe COMM￿lty Partnership Rhuddan GANOL IL4p Fu noson Allan * niqht Out Iwyd Grwp Cynefwi Cymraeg Urdd Mentrau laith (•ymru Diolch hefyd i swyddogion a phwyllgor Mentrau latth mru ac i rwYd￿dith y Mentrau laith am eu ￿fnogaeth a chythithrediad gv#Erthfav4T gydol y flwyddyn MENTRAU IAITH 18

Rhif cofrestredig y cwmni: 6204415 Rhif yr elusen: 1120223

Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig

Datganiadau Ariannol Am y Flwyddyn yn Diweddu 31 Mawrth 2024 Sydd Wedi’u Paratoi Heb Archwiliad Ariannol.

Hoffai Menter Iaith Sir Ddinbych ddiolch i’w noddwyr am eu cymorth yn ystod 2023-2024

----- Start of picture text -----
WEE AriennirLywodraeth gan Cymru
----- End of picture text -----

----- Start of picture text -----
Cyngor Tref Prestatyn
t
p ¥ y € (
ea ES
ww
>
Prestatyn Town Council
----- End of picture text -----

Diolch hefyd i swyddogion a phwyllgor Mentrau Iaith Cymru am eu cefnogaeth a chydweithrediad gwerthfawr gydol y flwyddyn.

MENTER IAITH SIR DDINBYCH Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig

Cynnwys
Tudalen
Adroddiad yr Ymddiriedolwyr 1 - 5
Adroddiad yr archiliwr annibynnol 6
Datganiad o weithgareddau ariannol 7
Mantolen 8
Nodiadau ar y Datganiadau Ariannol 9 – 18

MENTER IAITH SIR DDINBYCH Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig

ADRODDIAD Y CYFARWYDDWYR AC YMDDIRIEDOLWYR AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2024

CYFEIRNOD A MANYLION GWEINYDDOL.

Enw'r elusen gofrestredig Menter Iaith Sir Ddinbych Rhif cofrestru'r elusen: 1120223 Rhif cofrestredig y cwmni 6204415 (Cymru a Lloegr) Swyddfa gofrestredig 6 Heigad DINBYCH Sir Ddinbych LL16 3LE

Cyfarwyddwyr ac ymddiriedolwyr

Y cyfarwyddyr ac ymddiriedolwyr a fu’n gwasanaethu’r elusen yn ystod y cyfnod 1 Ebrill 2023 hyd at 31 Mawrth 2024 oedd:

Cadeirydd Bethan Cartwright Trysorydd Owain Gwyn Morris Cyfarwyddwyr ac Ymddiriedolwyr eraill Anna Lloyd Edwards Lowri Haf Ellis Catrin Eynon Alaw Griffith (ymddeol 18/10/2023) Dyfan Mael Phillips (ethol 18/10/2023) Menna Eluned Jones Gwenan Prysor Arwel Roberts Emrys Wynne Ysgrifennydd Anna Lloyd Edwards

Bancwyr HSBC 17 Stryd y Dyffryn DINBYCH Sir Ddinbych LL16 3AG Cyfrifwyr Hill & Roberts Cyfrifwyr Siartredig 1 Tan y Castell RHUTHUN Sir Ddinbych LL15 1DQ

1

MENTER IAITH SIR DDINBYCH Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig

ADRODDIAD Y CYFARWYDDWYR AC YMDDIRIEDOLWYR AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2024

Strwythur a rheolaeth

Mae Menter Iaith Sir Ddinbych yn elusen gofrestredig, rhif 1120223, wedi ei sefydlu fel cwmni cyfyngedig, rhif 6204415. Mae cyfansoddiad y cwmni yn unol â chyfansoddiad elusennol a chwmnïau cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol. Cofrestrwyd Menter Iaith Sir Ddinbych fel elusen gofrestredig, ac fel cwmni cyfyngedig, ar 5 Ebrill 2007.

Mae Menter Iaith Sir Ddinbych (yr ‘Elusen’) yn cael ei gweinyddu a’i rheoli yn ôl y memorandwm ac erthyglau cymdeithasol y cwmni, a gan aelodau bwrdd y cyfarwyddwyr.

Mae aelodaeth yr Elusen yn agored i unigolion dros 18 oed ac unrhyw gymdeithas, gorfforedig neu anghorfforedig, sydd yn cytuno ag amcanion a gwaith yr Elusen, heb wahaniaethu rhwng pobl o safbwynt eu cyfoeth, gwleidyddiaeth, hil, crefydd, rhyw neu anabledd. Bydd i bob aelodfudiad benodi unigolyn i’w gynrychioli ac i bleidleisio.

Gall Bwrdd y Cyfarwyddwyr yn unfrydol ac am reswm da, roi terfyn ar aelodaeth unrhyw unigolyn neu aelod-fudiad: cyhyd a bod gan yr unigolyn dan sylw neu gynrychiolydd penodedig yr aelod-fudiad dan sylw'r hawl i wrandawiad gan y Bwrdd y Cyfarwyddwyr, yng nghwmni ffrind, cyn y gwneir penderfyniad terfynol.

Bwrdd y cyfarwyddwyr

Rheolir busnes yr Elusen gan Fwrdd y Cyfarwyddwyr a fydd yn atebol i'r aelodau. Ni fydd gan unrhyw berson hawl i weithredu fel Cyfarwyddwr, boed hynny am, y tro cyntaf neu dro dilynol, hyd nes y bydd wedi llofnodi datganiad derbyn parodrwydd i weithredu er budd yr Elusen yn llyfr cofnodion Bwrdd y Cyfarwyddwyr.

Bydd Bwrdd y cyfarwyddwyr yn cynnwys dim llai na 5 o gyfarwyddwyr a dim mwy na 14 o gyfarwyddwyr.

Gall y Cyfarwyddwyr ar unrhyw adeg gyfethol unrhyw berson i Fwrdd y Cyfarwyddwyr cyn belled na fydd mwy nag un rhan o dair o Fwrdd y Cyfarwyddwyr yn gyfetholedig a chyn belled na ragorir ar yr uchafswm a benodir yn erthygl 39, ac na wneir rhagor na thri chyfetholiad o’r fath rhwng un Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a’r nesaf. Rhaid i bob person a gyfetholir fel hyn ymddiswyddo yn y Cyfarfod Blynyddol yn dilyn eu cyfetholiad, ond byddent yn gymwys i’w hailbenodi wedi hynny.

Ceir talu holl gostau teithio, gwesty a threuliau eraill rhesymol cyfarwyddwyr mewn perthynas â’u presenoldeb mewn cyfarfod Cyfarwyddwyr, pwyllgorau neu gyfarfod cyffredinol neu mewn perthynas â chyflawni eu dyletswyddau, ond fel arall ni fyddant yn derbyn tal.

2

MENTER IAITH SIR DDINBYCH Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig

ADRODDIAD Y CYFARWYDDWYR AC YMDDIRIEDOLWYR AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2024

Nodau'r elusen

  1. Normaleiddio'r defnydd o’r Gymraeg ym mhob agwedd o fywyd yn Sir Ddinbych.

  2. Sicrhau fod cyfleoedd ac anogaeth ar gael i fewnfudwyr a thrigolion di-gymraeg ddysgu’r iaith

  3. Sicrhau fod cyfleoedd i drigolion cynhenid ddatblygu eu gwybodaeth a defnydd o’r iaith. 4. Dylanwadu ar yr ystod eang o weithgarwch cymdeithasol, economaidd, diwylliannol, addysgiadol sy’n digwydd o fewn y sir er mwyn datblygu i fod yn drwyadl ddwyieithog neu Gymraeg.

Amcanion yr elusen

Darparu budd i’r cyhoedd

Wrth gynllunio ein gwaith am y flwyddyn, mae aelodau’r pwyllgor sy’n gyfarwyddwyr/ymddiriedolwyr wedi ystyried canllawiau’r Comisiwn Elusennau a’r budd i’r cyhoedd. Yn benodol, ceisiwn gynorthwyo a chefnogi’r gymuned yn ei chyfanrwydd o ran hyrwyddo a hwyluso defnyddio’r Gymraeg gan bob oedran. Rydym yn gweithio ar draws y sir gyfan a darparwn gyfleoedd i bobl wella proffil y Gymraeg a dwyieithrwydd, drwy ddarparu cyngor, cymorth, prosiectau a gweithgareddau penodol. Ein corff ni yw’r unig un â’r brîff penodol i normaleiddio’r Gymraeg/dwyieithrwydd mewn bywyd teuluol a bywyd cyhoeddus ar draws sbectrwm oedran y sir. Gweithiwn ar y cyd gyda phartneriaid allweddol megis yr Urdd a Mudiad Meithrin a darparwyr statudol megis ysgolion a’r Cyngor Sir. Rydym yn gweithio gyda chyrff eraill sy’n ymwneud â darparu gwersi Cymraeg i oedolion hefyd gan gynorthwyo i ymestyn y cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol. Mae ein deunyddiau cynnig cyngor a marchnata ar gael bob amser, ac mae’r Cyfarwyddwyr/Ymddiriedolwyr yn cytuno ar dargedau ar gyfer gwaith cymunedol yn flynyddol.

3

MENTER IAITH SIR DDINBYCH Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig

ADRODDIAD Y CYFARWYDDWYR AC YMDDIRIEDOLWYR AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2024

Adolygiad ariannol

Mae’r prif weithgareddau yn ystod y flwyddyn yn cynnwys rhai i blant a phobl ifanc, mewn partneriaeth gyda grwpiau lleol eraill. Defnyddir yr holl incwm a dderbynnir i wella’r gwasanaethau a ddarperir i’r cyhoedd, p’un ai ar y ffôn, drwy gyfrwng e-bost neu wyneb yn wyneb. Ceisiwn sicrhau presenoldeb mewn digwyddiadau cymunedol, gan dargedu’r cyhoedd drwy gynnig cyngor am ddim a gweithgareddau neu weithdai celfyddydol, llenyddol, digidol a rhai sy’n addas i siaradwyr Cymraeg rhugl neu siaradwyr Cymraeg newydd.

Campau a gyflawnwyd

Am ddarlun mwy manwl o weithgareddau’r flwyddyn sy’n cyflawni nodau ac amcanion yr elusen ac yn rhoi budd i’r cyhoedd gweler Adroddiad Blynyddol yr elusen.

Perfformiad Ariannol yr Elusen

Mae cyfanswm yr adnoddau a dderbyniwyd am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2024 wedi codi o £123,456 i £124,902, sef cynydd o £1,446 (1.1%) ar y flwyddyn flaenorol. Mae’r cyfradd llog wedi codi ac erbyn diwedd y flwyddyn derbyniwyd £380 o incwm buddsoddiad am y flwyddyn (2023 - £103). Mae cyfanswm yr adnoddau a dreuliwyd am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2024 wedi gostwng o £120,350 i £114,225 sef gostyngiad o £6,125 (5.0%) ar y flwyddyn flaenorol. Cafwyd gwarged o £10,677 am y flwyddyn i gymharu â gwarged o £3,106 am y flwyddyn flaenorol. Mae mwy o fanylder i’w weld yn Adroddiad Blynyddol yr Elusen.

Polisi Cronfeydd

Mae’n rhan o bolisi’r Elusen i gadw cronfeydd anghyfyngedig sef y cronfeydd rhyddion, ar lefel sy’n hafal i tua 3 mis o dreuliau anghyfyngedig. Mae hyn yn caniatáu cronfa ddigonol i dalu costau rheoli, gweinyddu a chynnal yr Elusen.

Polisi Buddsoddiad

Yr amcan buddsoddiad yw diogelu'r buddsoddiadau cyfredol yn erbyn chwyddiant ac i gael incwm rhesymol yn ôl. Mae perfformiad y buddsoddiadau yn cael eu hadolygu ar sail gyson trwy eu cymharu gyda maincfesuriad addas.

Rheolaeth Risg

Gwnaed arolwg gan y Cyfarwyddwyr ym meysydd busnes a gweithredu’r Elusen a gallant gadarnhau y byddai’r Elusen mewn sefyllfa i liniaru unrhyw risg.

Cynlluniau ar gyfer y dyfodol

Mae’r Elusen yn parhau i weithio yn agos gyda Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Ddinbych a phartneriaid eraill i hybu’r iaith Gymraeg drwy Sir Ddinbych gyfan. Mae’r Elusen hefyd yn parhau i ddatblygu presenoldeb ar y we a chyfryngau cymdeithasol drwy’r wefan a rhwydweithiau cymdeithasol, a hyn wedi dod yn bwysicach dros y blynyddoedd ddiwethaf wrth i batrymau cyfathrebu a chymdeithasu newid. Mae’r Elusen bellach wedi’i ddyfarnu’n Elusen Ddibynadwy gan yr NCVO am yr ail dro ym mis Medi 2023. Golyga hyn bod prosesau yn eu lle i roi sicrwydd i bartneriaid ac arianwyr a photensial i ddenu mwy o fuddsoddiad a gwaith mewn partneriaeth.

4

MENTER IAITH SIR DDINBYCH Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig

ADRODDIAD Y CYFARWYDDWYR AC YMDDIRIEDOLWYR AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2024

Datganiad o Gyfrifoldebau'r Ymddiriedolwyr

Mae'r ymddiriedolwyr (sydd hefyd yn gyfarwyddwyr ar Fenter Iaith Sir Ddinbych at ddibenion cyfraith cwmnïau) yn gyfrifol am baratoi adroddiad yr ymddiriedolwyr a'r datganiadau ariannol yn unol â chyfraith berthnasol a Safonau Cyfrifeg y DU (Arferion Cyfrifyddu a Dderbynnir yn Gyffredinol yn y Deyrnas Unedig).

Mae cyfraith cwmnïau yn gofyn bod yr ymddiriedolwyr yn paratoi datganiadau ariannol ar gyfer pob blwyddyn ariannol sy'n rhoi safbwynt cywir a theg ar faterion y cwmni elusennol fel y mae pethau ac o'r ffynonellau sy'n dod i mewn a defnydd y ffynonellau, gan gynnwys incwm a gwariant y cwmni elusennol dros y cyfnod hwnnw. Fel rhan o waith paratoi'r datganiadau ariannol, bydd gofyn i'r ymddiriedolwyr wneud y canlynol:

Mae'r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am gadw cofnodion ariannol digonol sy'n datgelu, gyda chywirdeb rhesymol ar unrhyw adeg, beth ydy sefyllfa ariannol y cwmni elusennol ac yn eu galluogi nhw i sicrhau fod y datganiadau ariannol yn cydymffurfio gyda Deddf Cwmnïau 2006. Maen nhw hefyd yn gyfrifol am ddiogelu asedau'r cwmni elusennol ac felly hefyd dros gymryd camau rhesymol er mwyn rhwystro a datgelu unrhyw dwyll neu anghysondeb arall.

Cafodd adroddiad blynyddol yr ymddiriedolwyr ei fabwysiadu ar 23 Hydref 2024 a’i arwyddo ar ran Bwrdd yr Ymddiriedolwyr gan:

Llofnod Bethan Cartwright Enw llawn Bethan Cartwright Safle Cadeirydd

5

MENTER IAITH SIR DDINBYCH Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig

ADRODDIAD YR ARCHWILIWR ANNIBYNNOL I YMDDIRIEDOLWYR CWMNI ELUSENNOL MENTER IAITH SIR DDINBYCH (‘y Cwmni’)

Adroddaf i’r ymddiriedolwyr elusen ar fy archwiliad o gyfrifon y Cwmni am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2024.

Cyfrifoldebau a’r sail adrodd

Fel ymddiriedolwyr elusen y Cwmni (a hefyd ei gyfarwyddwyr at ddibenion y gyfraith cwmnïau), rydych yn gyfrifol am baratoi'r cyfrifon yn unol â gofynion Deddf Cwmnïau 2006 (‘Deddf 2006’).

Ar ôl bodloni fy hun nad yw’n ofynnol i gynnal archiliwad ariannol o gyfrifon y Cwmni o dan Ran 16 o Ddeddf 2006 a’i fod yn gymwys i gael archwiliad annibynnol, adroddaf mewn perthynas â’m harchwiliad o gyfrifon eich elusen fel y cwblhawyd o dan adran 145 o Ddeddf Elusennau 2011 (‘Deddf 2011’). Wrth gynnal fy archwiliad, dilynais y Cyfarwyddiadau a roddwyd gan y Comisiwn Elusennau o dan adran 145(5)(b) o Ddeddf 2011.

Datganiad yr archwiliwr annibynnol

Cwblheais fy archwiliad. Cadarnhaf nad yw unrhyw faterion perthnasol wedi dod i’m sylw mewn perthynas â’r archwiliad sy’n rhoi achos i mi gredu:

Nid oes unrhyw bryderon gennyf ac nid wyf wedi dod ar draws unrhyw faterion eraill mewn perthynas â’r archwiliad y dylid dwyn sylw atynt yn yr adroddiad hwn er mwyn sicrhau dealltwriaeth briodol o’r cyfrifon.

Arwyddwyd: R A Roberts

Dyddiad: 23 Hydref 2024

R A Roberts, BSc, FCA Hill & Roberts Cyfrifwyr Siartredig 1 Tan y Castell RHUTHUN Sir Ddinbych LL15 1DQ

6

MENTER IAITH SIR DDINBYCH Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig

Datganiad o weithgareddau ariannol (yn cynnwys crynodeb o gyfrif incwm a gwariant) am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2024

2024 2024 2024 2024 2023
Nodyn Cronfeydd Cronfeydd Cyfanswm Cyfanswm
Anghyfyngedig Cyfygedig Cronfeydd Cronfeydd
£ £ £ £
Incwm
Incwm a gwaddoliadau
Rhoddion a chymynroddion 3 96,376 - 96,376 100,127
Gweithgareddau elusennol 4 13,060 - 13,060 14,510
Gweithgareddau masnachu arall 5 10,086 - 10,086 3,716
Incwm arall 6 5,000 - 5,000 5,000
Buddsoddiant 7 380 - 380 103
_ __ _ __
Cyfanswm incwm 124,902 - 124,902 123,456
_ __ _ _
Gwariant
Gwariant ar weithgareddau
elusennol 8 114,225 - 114,225 120,350
_ __ _ __
Cyfanswm gwariant 114,225 - 114,225 120,350
_ __ _ _
Incwm / gwariant net 11 10,677 - 10,677 3,106
Trosglwyddiadau gros rhwng
cronfeydd - -
_ __ _ _
Symudiad net yn y cronfeydd 10,677 - 10,677 3,106
Cyfanswm cronfeydd 43,139 - 43,139 40,033
01 Ebrill 2023
_ _ _ __
Cyfanswm cronfeydd 53,816 - 53,816 43,139
31 Mawrth 2024 ======= ======= ======= =======

Mae holl weithgareddau’r cwmni yn cael eu hystyried yn rhai parhaol.

Nid oedd gan y cwmni enillion na cholledion heblaw am y gwarged am y flwyddyn.

Mae’r nodiadau ar dudalennau 9 i 18 yn rhan annatod o’r datganiadau ariannol yma.

7

MENTER IAITH SIR DDINBYCH

Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig

MANTOLEN AR 31 MAWRTH 2024

Nodyn 2024 2023
£ £ £ £
Asedau sefydlog
Asedau cyffyrddadwy 16 2,793 2,484
Asedau cyfredol
Dyledwyr 17 943 1,589
Arian yn y banc 52,047 41,170
Arian mewn llaw - 63
______ _
52,990 42,822
_ _
Credydwyr -yn daladwy
o fewn blwyddyn 18 1,967 2,167
_ _
Asedau cyfredol net 51,023 40,655
_ _
Asedau net £53,816 £43,139
======= =======
£ £
Cronfeydd wrth gefn
Cronfeydd anghyfyngedig 19 53,816 43,139
Cronfeydd cyfyngedig 19 - -
_ _
Cyfanswm cronfeydd £53,816 £43,139
======= =======

Roedd gan y cwmni hawl i eithrio rhag archwilio’r datganiadau ariannol yn rhinwedd adran 477 o’r Ddeddf Cwmnïau 2006 yn berthnasol i gwmnïau bychan.

Nid yw’r aelodau wedi gofyn i’r cwmni gael archwiliad o’r datganiadau ariannol am y flwyddyn berthnasol yn unol ag adran 476;

Mae’r cyfarwyddwyr yn cydnabod eu dyletswyddau i gydymffurfio gyda gofynion y Ddeddf ynglŷn â chadw cofnodion cyfrifyddu a pharatoi’r datganiadau ariannol.

Y mae’r datganiadau ariannol yma wedi eu paratoi mewn cytundeb â’r ddarpariaeth arbennig adran XV o ddeddf Cwmnïau 2006 sydd yn berthnasol i gwmnïau bach ac yn unol â FRS 102 SORP.

Mabwysiadwyd y datganiadau ariannol hyn gan Fwrdd yr Cyfarwyddwyr ar 23 Hydref 2024 ac arwyddwyd ar eu rhan gan:

Llofnod: Owain Gwyn Morris

Owain Gwyn Morris Trysorydd - Cyfarwyddwr

Mae’r nodiadau ar dudalennau 9 i 18 yn rhan annatod o’r datganiadau ariannol yma

8

MENTER IAITH SIR DDINBYCH Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig

NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2024

1 Gwybodaeth Statudol

Mae Menter Iaith Sir Ddinbych yn gwmni cyfyngedig drwy warant wedi'i gorffori yng Nghymru, yn y DU. Y swyddfa gofrestredig ydy 6 Heigad, Dinbych, Sir Ddinbych, LL16 3LE.

Caiff y datganiadau ariannol eu cyflwyno mewn punnoedd sterling (£), arian gweithredu'r cwmni, a'i dalgrynnu at y bunt agosaf.

Mae'r polisïau cyfrifyddu arwyddocaol sydd wedi'u defnyddio wrth baratoi'r datganiadau ariannol hyn wedi'u gosod isod. Mae'r polisïau wedi'u defnyddio yn gyson gyda phob blwyddyn gaiff ei chyflwyno, oni bai y nodir yn wahanol.

2 Polisïau Cyfrifyddu

Sail paratoi'r datganiadau ariannol

Mae datganiadau ariannol y cwmni elusennol, sy'n endid budd cyhoeddus o dan FRS102, wedi'u paratoi yn unol â Datganiad o Arferion Argymelledig yr Elusen (FRS102) 'Cyfrifyddu ac Adrodd gan Elusennau: Datganiad o Arferion Argymelledig sy'n berthnasol i elusennau sy'n paratoi eu cyfrifon yn unol â Safon Adrodd Ariannol perthnasol y DU a Gweriniaeth Iwerddon (FRS102) (mewn grym 1 Ionawr 2019)', Safon Adrodd Ariannol 102 'Safon Adrodd Ariannol perthnasol y DU a Gweriniaeth Iwerddon' a Deddf Cwmnïau 2006. Mae'r datganiadau ariannol wedi'u paratoi yn unol â'r confensiwn costau hanesyddol.

Incwm

Caiff yr holl incwm ei gydnabod yn y Datganiad o Weithgareddau Ariannol unwaith bydd gan yr elusen hawl dros yr arian.

Incwm o weithgareddau elusennol

Mae incwm o weithgareddau elusennol yn cynnwys incwm wedi'i dderbyn trwy gytundeb neu lle mae hawl dros arian grant yn dibynnu ar amodau perfformio penodol. Caiff yr incwm hwn ei gydnabod wrth i'r gwasanaethau cysylltiedig gael eu darparu ac wrth gaffael yr hawl, bydd modd mesur tebygrwydd faint gaiff ei dderbyn a'r swm ei hun gyda digon o ddibynadwyedd. Caiff incwm ei ohirio pan gaiff swm ei dderbyn cyn perfformio'r gwasanaeth neu ddigwyddiad y mae'n gysylltiedig ag o.

Incwm o fuddsoddiad

Caiff incwm o fuddsoddiad ei gydnabod pan gaiff ei derbyn.

Gwariant

Caiff dyledion eu cydnabod fel gwariant unwaith y bydd gorfodaeth ymarferol neu gyfreithiol sy'n ymrwymo'r elusen i'r gwariant hwnnw, mae'n debyg y bydd angen trosglwyddo buddion economaidd wrth ei dalu a bydd modd mesur swm yr orfodaeth yn ddibynadwy. Caiff gwariant ei ystyried ar sail croniadau ac mae wedi'i ddosbarthu o dan benawdau sy'n crynhoi'r holl gostau sy'n gysylltiedig â'r categori. Mae gwariant yn cynnwys unrhyw DAW nad oes modd ei hawlio yn ôl.

Mae ‘gwariant elusennol’ yn cynnwys y costau hynny mae'r elusen wedi'i wario wrth ddarparu ei gweithgareddau a'i gwasanaethau ar gyfer ei buddiolwyr. Mae'n cynnwys costau y mae modd eu dyrannu yn uniongyrchol tuag at weithgareddau o'r fath a'r costau hynny o natur anuniongyrchol sy'n angenrheidiol er mwyn eu cefnogi.

9

MENTER IAITH SIR DDINBYCH

Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig

NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL ( parhad ) AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2024

2 Polisïau Cyfrifyddu (parhad)

Gwariant (parhad)

‘Costau cefnogi’ ydy'r costau hynny sy'n angenrheidiol er mwyn darparu gweithgaredd ond er hynny, tydyn nhw ddim yn cynhyrchu neu yn creu allbwn gweithgaredd yr elusen. Mae hyn yn cynnwys costau llywodraethol sef y costau hynny sy'n gysylltiedig gyda chwrdd â gofynion cyfansoddiadol a statudol yr elusen ac yn cynnwys y ffioedd a chostau cyfrifyddu sy'n gysylltiedig â rheolaeth strategol yr elusen yn ogystal â rhan o'r cyflogau sy'n seiliedig ar fras amcan o'r amser a dreuliwyd ar yr adran hon.

Asedau sefydlog cyffyrddadwy

Mae asedau sefydlog wedi'u cofnodi trwy gostau i ddechrau.

Dibrisiad

Caiff dibrisiad ei gyfrifo er mwyn dileu cost ased, llai o'i werth sy'n weddill dros fywyd economaidd defnyddiol yr ased fel a ganlyn:

Offer swyddfa

Treth

Mae'r elusen wedi'i heithrio rhag treth gorfforaethol ar ei gweithgareddau elusennol.

Cyfrifyddu cronfeydd

Mae cronfeydd anghyfyngedig ar gael i'r elusen eu defnyddio, fel y gwêl yr ymddiriedolwyr yn ddoeth, at unrhyw ddiben sy'n ymwneud ag amcanion yr elusen.

Mae cronfeydd cyfyngedig wedi'u derbyn yn amodol gan y rhoddwyr at y diben sydd wedi'i bwriadu ar eu cyfer.

Offerynnau ariannol

Does gan yr elusen ddim ond asedau ariannol a dyledion ariannol o natur sy'n cymhwyso fel offerynnau ariannol syml. Caiff offerynnau ariannol syml eu hadnabod yn gyntaf drwy werth trosglwyddo ac yna eu mesur trwy eu gwerth talu.

Dyledwyr

Caiff dyledwyr masnachu a dyledwyr eraill eu cydnabod trwy'r swm talu sy'n ddyledus ar ôl cynnig unrhyw ostyngiad masnachu.

Caiff taliadau o flaen llaw eu prisio ar y swm net a dalwyd o flaen llaw ar unrhyw ostyngiad dyledus.

Credydwyr

Caiff credydwyr eu cydnabod lle bo gan yr elusen orfodaeth bresennol o ganlyniad i ddigwyddiad blaenorol fydd mwy na thebyg yn arwain at drosglwyddo cronfeydd at drydydd parti a bydd modd mesur neu amcangyfrif y swm sy'n ddyledus er mwyn talu’r orfodaeth yn ddibynadwy. Caiff credydwyr gan amlaf eu cydnabod trwy eu swm talu ar ôl caniatáu ar gyfer unrhyw ostyngiadau masnachu sy'n ddyledus.

Costau pensiwn

Mae'r cwmni elusennol yn gweithredu cynllun cyfraniad pensiwn diffiniedig. Caiff costau cyfraniadau sy'n daladwy i gynllun pensiwn y cwmni elusennol eu codi ar y Datganiad o Weithgareddau Ariannol ar gyfer y cyfnod perthnasol.

10

MENTER IAITH SIR DDINBYCH Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig

NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL ( parhad ) AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2024

2 Polisïau Cyfrifyddu (parhad)

Costau pensiwn (parhad)

Mae'r cwmni elusennol yn gwneud cyfraniadau i gynlluniau pensiwn personol ar ran ei gyflogai. Caiff costau eu codi ar y Datganiad o Weithgareddau Ariannol ar gyfer y cyfnod perthnasol.

3 Rhoddion a chymynrhoddion

Rhoddion a chymynrhoddion
Cronfeydd Cronfeydd Cyfanswm Cyfanswm
Anghyfynedig Cyfyngedig 2024 2023
£ £ £ £
Grant Llywodraeth Cymru 81,583 - 81,583 85,603
Grant Cyngor Sir Ddinbych 14,763 - 14,763 14,524
Rhodd Cymdeithas Cymraeg Dinbych
30
- 30 -
_ __ _ __
96,376 - 96,376 100,127
_ __ _ __

4 Gweithgareddau elusennol

Gweithgareddau elusennol
Cronfeydd Cronfeydd Cronfeydd Cyfanswm
Anghyfynedig Cyfyngedig 2024 2023
£ £ £ £
Grant Grwp Cynefin 960 - 960 -
Grant DVSC 10,000 - 10,000 -
Grant Mentrau Iaith Cymru Haf o Hwyl
-
- - 9,780
Grant Cyngor Sir Dinbych Haf o Hwyl - - - 3,380
Grant Mentrau Iaith Cymru Dysgwyr - - - 1,000
Grant Cyngor Tref Rhuddlan 1,650 - 1,650 -
Grant Cyngor Tref Prestatyn 250 - 250 350
Grant Cadwyn Clwyd 200 - 200 -
_ __ _ __
13,060 - 13,060 14,510
_ __ _ __
Gweithgareddau masnachu eraill
Cronfeydd Cronfeydd Cyfanswm Cyfanswm
Anghyfynedig Cyfyngedig 2024 2023
£ £ £ £
Gweithgareddau a phrosiectau 8,808 - 8,808 3,029
Incwm Arall 128 - 128 437
Prosiect y Glannau rhentu desg 750 - 750 250
Er cof am Richard Cowell 400 - 400 -
_ __ _ __
10,086 - 10,086 3,716
_ __ _ __

5 Gweithgareddau masnachu eraill

11

MENTER IAITH SIR DDINBYCH Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig

NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL ( parhad ) AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2024

6 Incwm Arall

Cronfeydd Cronfeydd Cyfanswm Cyfanswm
Anghyfyngedig Cyfyngedig 2024 2023
£ £ £ £
Lwfans Nawdd Cymdeithasol 5,000 - 5,000 5,000
_ __ _ __
5,000 - 5,000 5,000
_ __ _ __
7 Incwm o fuddsoddiant
Cronfeydd Cronfeydd Cyfanswm Cyfanswm
Anghyfyngedig Cyfyngedig 2024 2023
£ £ £ £
Llog derbyniwyd 380 - 380 103
_ __ _ __
380 - 380 103
_ __ _ __

12

MENTER IAITH SIR DDINBYCH Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig

NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL ( parhad ) AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2024

8 Gwariant ar weithgareddau elusennol

Cronfeydd Cronfeydd Cronfeydd Cyfanswm Cyfanswm
Anghyfynedig Cyfyngedig 2024 2023
£ £ £ £
Costau gweithgareddau elusennol
cyffredin
Cyflogau staff 66,785 - 66,785 65,532
Yswiriant gwladol 6,048 - 6,048 6,117
Costau pensiwn staff 5,129 - 5,129 4,530
Hyfforddiant 283 - 283 61
Costau gwasanaethau llawrydd 600 - 600 3,980
Rhent a hurio ystafelloedd 875 - 875 1,750
Prydlesi gweithredol – offer swyddfa 1,402 - 1,402 1,185
Teithio a Lluniaeth 2,295 - 2,295 1,848
Teleffon 399 - 399 399
Trydan - - - 85
Argraffu, papur a phost 425 - 425 535
Costau Cyfrifiadur 662 - 662 754
Marchnata a hysbysebu 459 - 459 692
Costau banc 151 - 151 124
Tanysgrifiadau 957 - 957 1,095
Dibrisiant 816 - 816 725
Prosiectau a gweithgareddau - Cymuned 2,063 - 2,063 2,665
Prosiectau a gweithgareddau – Teulu 311 - 311 164
Prosiectau a gweithgareddau – Plant &
Phobl Ifanc 2,703 - 2,703 1,753
Prosiectau a gweithgareddau – Swyddog
gwynt y mor 2,039 - 2,039 -
Prosiectau a gweithgareddau – Bocs
Trysor - - - 1,014
Prosiectau a gweithgareddau – Dysgwyr 520 - 520 3
Prosiectau a gweithgareddau – DCC
Haf o Hwyl - - - 853
Prosiectau a gweithgareddau – MIC
Haf o Hwyl - - - 7,754
Gwaith PR ar gyfer prosiect gwirfoddolwyr 800 - 800 -
______ ______ ______ ______
95,722 - 95,722 103,618
______ ______ ______ ______

13

MENTER IAITH SIR DDINBYCH

Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig

NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL ( parhad ) AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2024

8 Gwariant ar weithgareddau elusennol (parhad)

Cronfeydd Cronfeydd Cyfanswm Cyfanswm
Anghyfynedig Cyfyngedig 2024 2023
£ £ £ £
Costau cefnogi
Cyflogau 10,038 - 10,038 9,818
Yswiriant gwladol 758 - 758 764
Costau pensiwn staff 399 - 399 687
Rhent 125 - 125 345
Yswiriant 763 - 763 715
Prydlesi gweithredol – offer swyddfa 200 - 200 169
Trydan - - - 12
Glanhau 486 - 486 455
Cynnal a chadw 82 - 82 137
Argraffu, post a phapur 161 - 161 73
Marchnata a hysbysebu 66 - 66 99
Teleffon 57 - 57 57
Costau cyfrifiadur 105 - 105 108
Costau cyfieithu 106 - 106 319
Costau proffesiynol 2,024 - 2,024 -
Teithio a lluniaeth 202 - 202 114
Costau cyfrifo 2,228 - 2,228 2,112
Costau banc 21 - 21 18
Mân gostau 341 - 341 466
Tanysgrifiadau 137 - 137 156
Dibrisiant asedau cyffyrddadwy 116 - 116 104
(Elw)/Colled ar waredu 88 - 88 -
Llog ar dreth - - - 4
______ ______ _ ______
18,503 - 18,503 16,732
______ ______ _ ______
Cyfanswm gwariant ar
weithgareddau elusennol 114,225 - 114,225 120,350
______ ______ _ ______

9 Gwariant ar weithgareddau elusennol yn ôl math y gronfa

Cronfeydd Cronfeydd Cyfanswm Cronfeydd Cronfeydd Cyfanswm
Anghyfyng Cyfyngedig 2024 Anghyfyng Cyfyngedig 2023
-edig -edig
£ £ £ £ £ £
Gwariant elusennol
95,722
- 95,722 101,329 2,289 103,618
Costau cefnogi 18,503 - 18,503 16,732 - 16,732
______ ______ ______ _ ______ ______
114,225 - 114,225 118,061 2,289 120,350
______ ______ ______ _ ______ ______

14

MENTER IAITH SIR DDINBYCH

Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig

NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL ( parhad ) AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2024

10 Gwariant elusennol yn ôl gweithgareddau

Gweithgareddau Gweithgareddau Costau Cyfanswm Cyfanswm
Uniongyrchol Cefnogi 2024 2023
£ £ £ £
Gweithgareddau elusennol cyffredin 95,722 13,370 109,092 115,698
Gweithgareddau elusennol penodol - - - 2,289
Costau llywodraethol - 5,133 5,133 2,363
______ ______ ______ ______
95,722 18,503 114,225 120,350
______ ______ ______ ______

11 Dadansoddiad o gostau cefnogi

Dadansoddiad o gostau cefnogi
Costau Cyfanswm Cyfanswm
Gweithgareddau 2024 2023
Hybu’r iaith
Gymraeg
£ £ £
Costau staff 11,195 11,195 11,269
Costau eiddo 286 286 241
Costau swyddfa gyffredinol 1,889 1,889 2,859
Costau llywodraethu 5,133 5,133 2,363
_ _ ______
18,503 18,503 16,732
_ _ ______
Gwariant / Incwm Net
Mae Gwariant net wedi ei ddatgan ar ôl codi: £
Dibrisiant 932

12 Gwariant / Incwm Net

13 Taliadau a Budd-daliadau'r Ymddiriedolwyr

Ni thalwyd unrhyw gydnabyddiaeth na buddiant eraill i’r ymddiriedolwyr ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2024 (2023 - £ Dim). Mae’r elusen yn ystyried mai ei phersonél rheoli allweddol ydy’r ymddiriedolwyr a’r prif swyddog. Cyfanswm buddiant cyflogaeth y personél rheoli allweddol, yn cynnwys cyfraniadau pensiwn, oedd £35,473 (2023 - £34,544).

Treuliau'r ymddiriedolwyr

Ni thalwyd unrhyw dreuliau i'r ymddiriedolwyr yn y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2024 (2023 - £ Dim).

15

MENTER IAITH SIR DDINBYCH Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig

NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL ( parhad ) AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2024

14 Costau staff
2024 2023
£ £
Cyflogau 76,823 75,350
Yswiriant gwladol 6,806 6,881
Cyfraniadau pensiwn 5,528 5,217
Lwfans cyflogwr (5,000) (5,000)
______ ______
£84,157 £82,448
______ ______

Mae'r elusen yn cyflogi 2 aelod o staff llawn amser ac 2 aelod o staff rhan-amser (2023 - 2 amser llawn ac 1 rhan amser). Ni enillodd unrhyw aelod o staff fwy na £60,000 y flwyddyn (2023: Dim). Mae'r elusen yn gweithredu cynllun pensiwn cyfraniad diffiniedig mewn perthynas â'r staff. Mae rheolwyr annibynnol yn dal y cynllun a'i asedau. Mae'r tâl pensiwn yn cynrychioli cyfraniadau sy'n ddyledus gan y cwmni a'u cyfanswm yw £5,528 (2023 - £5,217). Cyfraniadau pensiwn sy'n ddyledus ar ddiwedd y flwyddyn oedd £ dim (2023: £183). Bydd gordaliad cyfraniad pensiwn yn ystod y flwyddyn blaenorol, nid oes swm yn ddyledus yn ôl i’r elusen ar ddiwedd y flwyddyn (2023: £264).

15 Tâl yr Arolygwyr Annibynnol

Roedd tâl yr arholwr annibynnol yn gyfystyr â ffi cyfrifo ac arholi o £1,800 (2023 - £1,766) a gwaith cyflogres o £428 (2023 - £346).

16 Asedau cyffyrddadwy sefydlog

Offer
Dodrefn Swyddfa Cyfanswm
Cost £ £ £
Ar 1 Ebrill 2023 673 8,431 9,104
Ychwanegiadau - 1,329 1,329
Gwaredu - (2,113) (2,113)
_ _ _
Ar 31 Mawrth 2024 673 7,647 8,320
_ _ _
Dibrisiant
Ar 1 Ebrill 2023 663 5,957 6,620
Dibrisiant am y cyfnod 2 930 932
Dileu wrth waredu - (2,025) (2,025)
_ _ _
Ar 31 Mawrth 2024 665 4,862 5,527
_ _ _
Gwerth llyfr net
Ar 31 Mawrth 2024 £8 £2,785 £2,793
======= ======= =======
Ar 31 Mawrth 2023 £10 £2,474 £2,484
======= ======= =======

16

MENTER IAITH SIR DDINBYCH Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig

NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL ( parhad ) AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2024

17 Dyledwyr – yn ddyledus o fewn y flwyddyn Dyledwyr – yn ddyledus o fewn y flwyddyn Dyledwyr – yn ddyledus o fewn y flwyddyn 2024 2023
£ £
Dyledwr eraill 943 1,589
______ ______
943 1,589
______ ______
18 Credydwyr - yn ddyledus o fewn y flwyddyn 2024 2023
£ £
Credydwyr masnachol - -
Trethi a nawdd cymdeithasol - -
Credydwyr eraill 1,967 2,167
______ ______
1,967 2,167
______ ______
19 Dadansoddiad o gronfeydd elusennol
Ar 31 Incwm Gwariant
Trosglwy
Ar 31
Mawrth -ddiadau Mawrth
2023 2023
£ £ £ £ £
Cronfeydd cyfyngedig - - - - -
Cronfeydd anghyfyngedig 43,139 124,902 (114,225) - 53,816
_ _ _ _ _
Cyfanswm cronfeydd £43,139 £124,902 £(114,225) £- £53,816
_ _ _ _ _
20 Dadansoddiad o asedau net rhwng cronfeydd
Asedau Asedau Rhwymedig Cyfanswm
sefydlog Cyfredol -aethau
cyffyrddadwy net tymor hir
£ £ £ £
Cronfeydd cyfyngedig - - - -
Cronfeydd anghyfyngedig 2,793 51,023 - 53,816
_ _ _ _
£2,793 £51,023 £ - £53,816
_ _ _ _

17

MENTER IAITH SIR DDINBYCH

Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig

NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL ( parhad ) AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2024

21 Partïon perthynol

Ni fu unrhyw drafodion gyda phartïon perthynol yn ystod y flwyddyn.

22 Ymrwymiadau ariannol arall

Ar 31 Mawrth 2024, roedd gan y cwmni ymrwymiadau o dan brydlesi gweithredol ni chaiff eu diddymu, dros weddill tymor y prydlesi yma o £dim (2023 - £113).

18