ADRODDIAD
LYNYDDOL
2023 2024
Menter
Iaith
Sir Ddinbych AIIx4.-
l.Ip.nter
%ir DdiiJiiyLiI
li
YGBI I)1
Elusen Gofrestredig: 1120223
Cwmni Cyfyngedig Trwy Warant: 6204415
SAFON ELUSEN
DDIBYNADVIY
LEFEL 1

## **CYNNWYS:**

|Adroddiad y Cadeirydd|3|

|Beth yw Menter Iaith?|4|
|Menter Iaith Sir Ddinbych|5|
|Cyfarwyddwyr 2023-2024|6|
|Staff y Fenter 2023-2024|6|
|Yr ardal a wasanaethir|7|
|Nodau ac Amcanion Menter Iaith Sir Ddinbych|8|
|Ein llwyddiannau yn 2023-2024|9 – 15|
|Gweledigaeth ar gyfer y flwyddyn nesaf|16|
|Datblygu a Chryfhau’r Fenter|16|
|Diolchiadau|16|
|Cysylltu|17|
|Noddwyr a phartneriaid|18|

2

## **ADRODDIAD Y CADEIRYDD**

Mae’n ymddangos mai’r unig beth sydd yn GYSON yn ein bywydau ar hyn o bryd yw NEWID.  Mae’r byd o’n cwmpas yn newid mewn sawl ffordd, wedi’i ysgogi gan dechnoleg, globaleiddio, sifftiau demograffig, cynnydd cymdeithasol a newid amgylcheddol.  Yn ein gwlad fach hardd rydym yn falch iawn o weld un peth, o leiaf, yn aros sef y nod Cenedlaethol o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg ar y pryd yn cyflwyno Bil y Gymraeg ac Addysg yng Ngorffennaf eleni.

Gellir dadlau fod newidiadau yn dod a chyfleoedd a buddion newydd, ond maent hefyd yn creu heriau a risgiau sy’n ymofyn lefelau uwch o arweinyddiaeth a chydweithio.  Diolchwn felly am y balchder a’r ewyllys da sydd yn ein Sir tuag at y Gymraeg ac yn arbennig felly'r ymdrech ddiflino gan Fenter Iaith Sir Ddinbych dan arweiniad diwyd ein Prif Swyddog, Ruth Williams.  Diolchwn hefyd i’w chydweithwyr, Iorwen Jones a Gwion Tomos Jones, a phawb arall ddaw atynt yn achlysurol dan nawdd gwahanol grantiau neu’n wirfoddol, yn cynnwys aelodau o’r Pwyllgor ei hun hefyd sy’n cynnig cefnogaeth a chyngor pan mae’r staff eu hangen. Dim ond drwy gydweithio fel hyn y daw llwyddiant.

Mae’r profiadau a’r gefnogaeth y mae’r Fenter yn ei ddarparu a’i gynnig ar draws y Sir a thu draw iddi yn ysbrydoliaeth i ni gyd gyda’r Adroddiad Blynyddol hwn yn tystio i ehangder, amrywiaeth, arloesedd ac ansawdd y gwasanaeth hwnnw. Anodd yw credu sut y gall tîm o dri gyflawni cymaint â hynny heb gynnydd yn yr arian a ddaw o du’r llywodraeth unwaith eto eleni.

Wrth lywio ffordd drwy newid mae'n bwysig dathlu llwyddiannau. Llongyfarchiadau calonnog felly i holl staff a phwyllgor ar ddyfarniad marc safon Elusen Ddibynadwy am yr ail waith. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosib heb ymrwymiad ac ymroddiad pob un i’r Fenter.

Yng nghanol yr holl newid mae’n bwysig ein bod hefyd yn edrych i’r dyfodol.  Mae cyfnod hynod gyffrous wrth droed wrth i’r Fenter fod yn wynebu ail leoli eu swyddfa i’r Farchnad Fenyn yng nghanol tref Dinbych.  Rwy’n sicr y bydd delwedd wahanol iawn i’r Fenter erbyn yr adeg yma flwyddyn nesaf fydd yn gweddu yn well ein byd heddiw, ac yn llawer mwy hwylus a chyfleus i bawb.

Fel y daw fy mlwyddyn gyntaf fel Cadeirydd y Bwrdd Rheoli i ben rhaid dweud ei bod yn fraint ac yn anrhydedd i fod yn rhan o fudiad mor weithgar a llwyddiannus â Menter Iaith Sir Ddinbych.  Hoffwn ddymuno yn dda i chi ar gyfer 2024-25

Bethan Cartwright, Cadeirydd Hydref 2024

3

11
Mae 22 Menter yn gweithio yn
ein cymunedau dr05 Gymru
There are 22 Welsh langua8e
enterprises working in Wales
yn cefnogi dros 160.000 0
bobl o bob oed
i gynyddu a chryfhau'r defnydd
o'r Gymraeg yn ein cymunedau.
supporting over 160.000 to increase and strengthen the use
people of all ages
of Welsh in our communities.
GOOOOOOL•
Yn trefnu gwyliau. clybiau gofal, mae'r fenter yn siop-un-5top
5esiynau iaith a mwy -
ar gyfer yr iaith.
yn ein helpu i fyw. dysgu a
mwynhau yn Gymraeg.
Organising festivals. childcare.
language sesstons and more -
Menter laith is a one-stop-
shop for the language.
helping us live. learn and
enjoy in Welsh
1111
mE￿RAu IA
Mae'r Mentrau laith i bawb.
I ddarganfod mwy ewch i
mentrauiaith.cymru
entrau laith is for everyone.
To find out more go to
mentrauiaith.cymru

## **MENTER IAITH SIR DDINBYCH**

Sefydlwyd Menter Iaith Sir Ddinbych ym mis Hydref 2003 pan esblygodd o’r hen Fenter Iaith Dinbych-Conwy a oedd wedi bodoli ers 1998.

Mae’r Fenter yn elusen gofrestredig ers 11eg Tachwedd 2004 ac yn gwmni cyfyngedig trwy warant ers 5ed Ebrill 2007.  Mae gan y Fenter fwrdd o gyfarwyddwyr profiadol, gweithgar a chefnogol iawn.

## **Strwythur  Menter Iaith Sir Ddinbych 2023-2024**

## **PWYLLGOR RHEOLI**

**----- Start of picture text -----**

11 x Cyfarwyddwr
2 x Aelod o Staff
Is- bwyllgor
Is-bwyllgor
Staffio  STAFF
Cyllid ac
(Cyflogedig)
Adnoddau
2 Cyfarwyddwr
Prif Swyddog
Trysorydd
Prif Swyddog (Llawn amser)
1 Cyfarwyddwr
Swyddog Cyllid a
Busnes y Fenter Prif Swyddog
(Rhan amser 0.8)
Swyddog Cyllid
Swyddog Datblygu
Pwyllgor  Cymunedol
(Llawn amser)
Apêl Staff
Swyddog Prosiect:
Cadeirydd
Ardal y Glannau
(Rhan amser 0.3 ac yn
2 Cyfarwyddwr
gyflogedig trwy gytundeb â
Menter Iaith Conwy)
**----- End of picture text -----**

5

## **CYFARWYDDWYR / YMDDIRIEDOLWYR 2023-2024**

**Enw: Cynrychioli Etholwyd** Cadeirydd Bethan Cartwright Unigolyn                11/10/2017 Is–Gadeirydd - -                              - Trysorydd Owain Gwyn Morris Unigolyn 20/10/2011 Ysgrifennydd           Anna Lloyd Edwards Unigolyn 16/10/2019 Gwenan Prysor Unigolyn 21/10/2015 Arwel Roberts Unigolyn 24/04/2014 Emrys Wynne Unigolyn 03/10/2012 Menna Jones                                Unigolyn                16/01/2019 Catrin Eynon                                 Unigolyn                 21/10/2021 Lowri Ellis                                      Unigolyn                21/10/2021 Dyfan Philips                                 Unigolyn                18/10/2023

## **STAFF  2023-2024**

## **Prif Swyddog: Ruth Williams**

Mae Ruth wedi gweithio i’r Fenter ers Medi 2013. Yn llawn amser, mae hi’n rheoli’r Fenter o ddydd i ddydd, yn gyfrifol am faterion strategol, marchnata a chyfathrebu. Mae hi hefyd yn gyfrifol am ambell i weithgaredd cymunedol.

## **Swyddog Cyllid a Busnes: Iorwen Jones**

Mae Iorwen wedi gweithio i’r Fenter ers Ebrill  2004. Yn gweithio 4 diwrnod yr wythnos, mae hi’n gyfrifol am weinyddiaeth a chyllid y Fenter ac yn cefnogi peth o waith cymunedol y Fenter.

## **Swyddog Datblygu Cymunedol:  Gwion Tomos-Jones**

Mae Gwion wedi gweithio i’r Fenter, yn llawn amser, ers Hydref 2013. Mae prif feysydd gwaith Gwion yn ymwneud â chyfleoedd i blant, pobl ifanc a theuluoedd.

## **Swyddog Prosiect y Glannau (rhan amser): Eryl Prys Jones**

Mae Eryl yn gweithio tridiau'r wythnos ar brosiect Y Glannau, sy'n weithredol ar hyd ardal glannau siroedd Conwy a Dinbych, o Brestatyn i Benmaenmawr. Ariennir y prosiect trwy gronfeydd cymunedol ffermydd gwynt Gwynt y Môr a Rhyl Flats. Cyflogir Eryl trwy gytundeb â Menter Iaith Conwy, ac mae'n gweithio diwrnod a hanner yr wythnos yn cefnogi grwpiau yn Sir Ddinbych.

## **Swyddog achlysurol: Gwenno Williams**

Fe gychwynnodd Gwenno hefo ni trwy gynllun gwirfoddoli a phrofiad gwaith. Mae hi wedi bod yn cefnogi ambell gweithgaredd i blant a theuluoedd hefo ni wedyn ar gytundeb achlysurol. (lluniau o Gwenno nes mlaen)

6

## **YR ARDAL A WASANAETHIR GAN Y FENTER**

**Mae ychydig dros 93,000 o bobl dros 3 oed yn byw yn Sir Ddinbych, ac mae 22.5% o’r rheini yn gallu siarad Cymraeg yn ôl Cyfrifiad 2021. Mae hyn yn cymharu â 24.6% yng Nghyfrifiad 2011. Mae hyn o ganlyniad i ostyngiad o 1,300 yn niferoedd y rhai sy’n gallu siarad Cymraeg, a chynnydd yng nghyfanswm y boblogaeth gyffredinol dros yr un cyfnod.**

Drwy’r sir i gyd, cafodd 58% o’r boblogaeth eu geni yng Nghymru, ac o Loegr mae’r mwyafrif llethol o’r gweddill yn hanu. O’r rhai a aned yng Nghymru, mae ychydig dros eu traean (33.8%) yn gallu siarad Cymraeg.

Mae hanner poblogaeth y sir yn byw yn nhrefi Prestatyn a’r Rhyl, a dyma ran fwyaf Seisnig y sir, gyda’r gyfran sy’n gallu siarad Cymraeg yn 13.6% ar gyfartaledd rhyngddynt. Ychydig dros hanner y boblogaeth (53.3%) a aned yng Nghymru, ac mae’n llai na hanner mewn sawl ward.

Mae ychydig dros 11,000 o bobl yn byw yn y pentrefi, trefi a’r maestrefi cyfagos – Rhuddlan, Bodelwyddan, Dyserth a dinas Llanelwy. Mae’r ganran sy’n gallu siarad Cymraeg ychydig yn uwch yma – 18.5%.

Yn gyffredinol mae’r canrannau sy’n gallu siarad Cymraeg yn codi wrth symud i fyny Dyffryn Clwyd, gyda rhwng tua chwarter a thraean yn gallu siarad Cymraeg yn mhentrefi dwyreiniol a gwaelod y dyffryn. Y ddwy brif dref yw Dinbych, lle mae 33% yn siarad Cymraeg, a Rhuthun gyda chanran o 37.8%

Rhan Gymreiciaf y sir yw de-orllewin Dyffryn Clwyd a Edeirnion, lle mae dros 40% yn gallu siarad Cymraeg ar gyfartaledd, gan godi i dros 50% mewn pum cymuned. Cynwyd yw’r gymuned fwyaf Cymraeg gyda 58.4% o’r boblogaeth yn gallu siarad yr iaith, a’r unig gymunedau eraill sydd â mymryn dros hanner yn gallu siarad Cymraeg yw Gwyddelwern, Betws Gwerfyl Goch a Llandrillo yng nghyffiniau Corwen, a Llanrhaeadr yn Nyffryn Clwyd.

Mae llawer o’r ardaloedd hyn yn ffinio at ardaloedd cyfagos yn siroedd Conwy a Gwynedd, lle mae dros ddau draean o’r boblogaeth yn gallu sairad Cymraeg.

Yn olaf, mae’r canrannau sy’n gallu siarad Cymraeg yn isel – tua 20 y cant ar gyfartaledd – yn nwyrain y sir, sef Llangollen a chymunedau cyfagos Llantysilio, Llandegla a Llanarmon yn Iâl.

**Uchod: Map yn dangos cymunedau sir Ddinbych lle mae 20% a mwy yn gallu siarad Cymraeg**

7

## **NODAU AC AMCANION**

## : **Prif nodau hir dymor y Fenter yw**

1. Normaleiddio'r defnydd o’r Gymraeg ym mhob agwedd o fywyd yn Sir Ddinbych.

2. Sicrhau fod cyfleoedd ac anogaeth ar gael i fewnfudwyr a thrigolion diGymraeg ddysgu’r iaith

3. Sicrhau fod cyfleoedd i drigolion cynhenid ddatblygu eu gwybodaeth a defnydd o’r iaith.

4. Dylanwadu ar yr ystod eang o weithgarwch cymdeithasol, economaidd, diwylliannol, addysgiadol sy’n digwydd o fewn y sir er mwyn datblygu i fod yn drwyadl ddwyieithog neu Gymraeg.

## **Amcanion**

- i) Cynorthwyo’r sector wirfoddol i gynnig gwasanaeth dwyieithog.

- ii) Annog y di-Gymraeg i fabwysiadu agweddau cadarnhaol tuag at yr iaith e.e. cymhathu mewnfudwyr a chynorthwyo’r dysgwyr i ddod yn rhugl ac i ddod yn rhan o’r gymdeithas Gymraeg.

- iii) Cynnal digwyddiadau newydd naill a’i yn annibynnol neu trwy gydweithio mewn partneriaeth ag eraill

- i bontio rhwng ysgol a chymdeithas.

- i ategu at waith y ddarpariaeth Cymraeg i oedolion.

- i gyfoethogi a bywiocáu bywyd Cymraeg yn gyffredinol.

- iv) Cefnogi gweithgareddau gwirfoddol sy’n bodoli eisoes yn Gymraeg.

- v) Annog plant a phobl ifanc i ddefnyddio’r Gymraeg, a threfnu gweithgareddau ar eu cyfer.

- vi) Hyrwyddo trosglwyddiad o’r Gymraeg o fewn y teulu.

## **Safbwyntiau am y Gymraeg, y gymuned a’r economi leol**

Gosodwyd safbwyntiau’r rhwydwaith o Fentrau Iaith am y Gymraeg, y gymuned a’r economi leol mewn maniffesto ar gyfer etholiad Senedd Cymru 2021. Darllenwch y maniffesto ar wefan Mentrau Iaith Cymru.

8

## **Ein Llwyddiannau yn ystod 2023-24**

Mae'r flwyddyn hon wedi gweld twf yn gyffredinol o ran ein gweithgareddau a'n heffaith. Dyma rai o'n llwyddiannau mwyaf nodedig:

## 1. **Rhaglenni Cymunedol:**

Rydym wedi cynnal nifer o raglenni cymunedol yn cefnogi teuluoedd a phlant, gan ddarparu adnoddau a chefnogaeth sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eu bywydau.

## 2. **Gwirfoddolwyr:**

Rydym wedi croesawu 15 o wirfoddolwyr newydd i'r tîm eleni, gan gryfhau ein gallu i gyrraedd hyd yn oed mwy o bobl. Ar ben hyn mae criwiau o wirfoddolwyr wedi cael eu cefnogi i ddatblygu a chynnal gweithgareddau Cymraeg ym Mhrestatyn a Rhuddlan.

## 3. **Partneriaethau:**

Drwy ein partneriaethau newydd gyda sefydliadau lleol a busnesau, rydym wedi gallu estyn ein gwaith a darparu cyngor, cefnogaeth a gweithgareddau i mwy o bobl ar draws y sir.

Yn unol ag amodau’r grant craidd gan Lywodraeth Cymru, roedd ein targedau canolbwyntio ar dri phrif faes a rheini’n deillio o Thema 2 ( _**Defnydd**_ o’r Gymraeg) rhaglen waith Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr Cymraeg

## **1. Plant a Phobl Ifanc**

## **2. Teuluoedd**

## **3. Y Gymuned**

- O dan y penawdau hyn buom yn gweithio tuag at:

- Mwy o blant a phobl ifanc yn defnyddio'r Gymraeg yn naturiol a hyderus tu allan i oriau addysg

- Codi'r lefel o ymwybyddiaeth am y Gymraeg a'r diwylliant Cymraeg/Cymreig a chynyddu'r nifer o gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gymuned.

I ddilyn, mae detholiad o’r math o waith roedd y Fenter yn ei wneud rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2024.   Blas yn unig sydd yma.  Ceir darlun mwy manwl a’r cyfle i weld lluniau ac ambell glip fideo o’r gweithgareddau ar ein gwefan ac ar ein tudalennau Facebook , X (Twitter) ac Instagram.

Roedd y gwaith yn cynnwys :

- i. Gweithgareddau i blant a phobl ifanc a theuluoedd

- ii. Gweithgareddau cymunedol

- iii. Cefnogi grwpiau cymunedol / gwirfoddol

- iv. Cefnogi ymgyrchoedd y Llywodraeth

- v. Fforwm Iaith – parhau i gydweithio a chynllunio gyda phartneriaid

- vi. Cefnogi a chydweithio gyda phartneriaid i hyrwyddo Cymraeg mewn addysg

- vii. Cyfathrebu â’r cyhoedd

- viii. Cefnogi busnesau

9

## **i. Gweithgareddau i blant, pobl ifanc a theuluoedd**

Trefnwyd **79 o weithgareddau i blant a phobl ifanc** , gyda o leiaf 1650 o blant 1-10 oed yn cymryd rhan ac o leiaf 900 o bobl ifanc 11-25 oed yn cymryd rhan ynddynt.

Cafwyd gweithgareddau yn defnyddio Lego a Minecraft ar thema hanes lleol eto, rhain yn parhau i fod yn boblogaidd ac yn safonol, ac yn cynnig lle i ddatblygu ymhellach.

**----- Start of picture text -----**

Creu fideos yng Ngŵyl Fwyd Llangollen
**----- End of picture text -----**

10

Trefnwyd **12 gweithgaredd** i deuluoedd gydol y flwyddyn gyda **746 o blant** a **441 o rieni/oedolion** yn cymryd rhan a llawer mwy yn derbyn gwybodaeth am fanteision y Gymraeg i’w plant trwy dulliau eraill yn cynnwys ein gwaith i dargedu rheini ar y rhwydweithiau cymdeithasol **.**

11

## **ii. Gweithgareddau cymunedol**

Cynhaliwyd **44 o weithgareddau cymunedol** yn ystod y flwyddyn. Rydym yn amcangyfrif fod dros 1,194 o oedolion wedi cymryd rhan yn y gweithgareddau hyn. (Hyn heb gyfri’r niferoedd lu a oedd wedi mynychu gweithgareddau eraill a drefnwyd gan grwpiau a gefnogwyd gennym e.e. Gŵyl Rhuthun)

i - i ae! Baba aan _Darlith am Robert Everett gan Dr Jerry Hunter yn ystod Gŵyl Ganol Haf Dinbych_

## **Cefnogi Dysgwyr Cymraeg**

Trwy gydweithrediad â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg a Mentrau Iaith Cymru buom yn cynllunio a darparu teithiau tywysedig Cymraeg i ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg o bob lefel.

Mae cyfres Paned a Sgwrs i ddysgwyr Cymraeg wedi cael dipyn o fuddsoddiad amser yn ystod y flwyddyn hon, er mwyn sefydlu gweithgaredd i bontio dysgwyr a siaradwyr rhugl mewn cymunedau ledled y sir. Fe gynhaliwyd 28 o sesiynau yn ystod y flwyddyn mewn 8 lleoliad gwahanol

_Dysgwyr yn ymweld â Phont y Tŵr Mehefin 2023_

12

## **iii. Cefnogi grwpiau cymunedol / gwirfoddol**

Rydym wedi parhau i gefnogi grwpiau gwirfoddol megis Grŵp Amgueddfa Dinbych, Theatr Twm o’r Nant, Prosiect y Farchnad Fenyn, Gŵyl Rhuthun, Partneriaeth De Sir Ddinbych, Cymdeithas Lenyddol y Glannau, Cymdeithas Gymraeg Dinbych, Menter Gymraeg Rhuddlan, Yr Hen Lŷs Rhuthun, Gŵyl Rhuthun, Pwyllgor Dathlu Dydd Owain Glyndŵr a Gŵyl Ganol Haf Dinbych a sawl grŵp / elusen arall wedi cael

cefnogaeth gennym o ran cyfieithu a hyrwyddo digwyddiadau.

Cefnogwyd pwyllgor gwirfoddol Theatr Twm o’r Nant i gynnal 7 digwyddiadau Cymraeg a chefnogwyd Menter Gymraeg Rhuddlan i gynnal 5 gweithgaredd cymdeithasol a stondin yng Ngwledd Rhuddlan.

Sefydlwyd bwyllgor newydd ym Mhrestatyn - Llais Prestatyn, a rhoddwyd cyngor a chefnogaeth i grwpiau o wirfoddolwyr sefydlu a chynnal Paned a Sgwrs i ddysgwyr yn Nhremeirchion a Dyserth.

## **iv. Cefnogi ymgyrchoedd y Llywodraeth**

Parhawyd i rannu ac ail-drydar ymgyrchoedd ac ymgynhoriadau perthnasol gan Lywodraeth Cymru ar dudalennau Facebook ac X Menter Iaith Sir Ddinbych.

13

## **v. Fforwm Iaith Sirol (Partner Iaith Sir Ddinbych)**

Cydlynwyd ein fforwm iaith sirol yn chwarterol gyda chynrychiolaeth yn mynychu o’r Cyngor Sir, Merched y Wawr, CFfI Clwyd, Mudiad Meithrin, Cymraeg i Blant, Popeth Cymraeg a Choleg Cambria, yn ogystal a ninnau. Mwy na dim, fforwm i rannu profiadau, blaenoriaethau ac adrodd ar heriau a chyfleoedd oeddynt, ond hefyd yn gyfle i drafod syniadau o ran cydweithio ar ambell beth, er engraifft presenoldeb yng Ngharnifal Dinbych i hyrwyddo’r Gymraeg.

## **vi. Cydweithio gyda phartneriaid i hyrwyddo a chefnogi Cymraeg mewn addysg**

Parhawyd i gefnogi a chydweithio gyda Grŵp Strategol Cymraeg Mewn Addysg Sir Ddinbych. Bu i ni hefyd gynnal:

- ➢ sesiynau ymwybyddiaeth ac ymarfer i griw o athrawon cynradd ar gwrs sabothol

- ➢ hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg yng Ngharnifal y Rhyl, ~~a~~ Carnifal Dinbych a Diwrnod Chwarae Cenedlaethol yn y Rhyl

- ➢ Cydweithio ag Ysgol y Llys, Ysgol Dewi Sant, Ysgol Glan Clwyd a Rhieni Dros Addysg Gymraeg i gynnal Râs yr Iaith ar hyd promenade / llwybr arfordir y Rhyl - hyn yn dilyn cais i dynnu sylw at fanteision addysg cyfrwng Cymraeg yng ngogledd y sir.

- ➢ Cynhaliwyd Cwis Dim Clem i ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg y sir, a braf iawn oedd medru cyhoeddi mai ysgol o Sir Ddinbych enillodd y rownd genedlaethol wedi rowndiau lleol a rhanbarthol ledled Cymru.

- ➢ Clybiau Cymraeg amser cinio rheolaidd yn Ysgol Glan Clwyd, Ysgol Brynhyfryd ac Ysgol Dinas Brân - 50 sesiwn rhwng y dair ysgol ystod y flwyddyn.

- ➢ Un arall o uchafbwyntio'r cydweithio o fewn addysg oedd trefniadau Gorymdaith Dydd Gŵyl Dewi yn Ninbych, lle cafodd bron i 700 o blant a phobl ifanc o 11 ysgol leol gyfle i ddod allan o'u hysgolion i orymdeithio trwy Ddinbych.

14

## **vii. Cyfathrebu â’r Cyhoedd**

## **Rhwydweithiau cymdeithasol**

Gwelsom gynnydd da yn y nifer yn ein dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol yn ystod y flwyddyn hon, yn adlewyrchu ein cynnydd yn y defnydd o ddulliau digidol i gyrraedd pobl o bob oed a diddordeb.

**Cyhoeddwyd o leiaf 600 eitem** ar y gwahanol gyfrifon digidol dros y flwyddyn (hynny ddim yn cynnwys ail-drydariadau a rhannu gan sefydliadau eraill, er bod hi’n werth nodi bod hynny’n digwydd o leiaf 20 gwaith yr wythnos hefyd). Mae dadansoddiad o’r cyfnod ar facebook yn dangos bod y postiadau mwyaf poblogaidd wedi cyrraedd o dros 4,000 o linellau amser.

Diolch i gefnogaeth gan wirfoddolwr, sicrhawyd ein bod yn parhau i weld hanner tudalen yn Gymraeg yn y Denbighshire Free Press yn wythnosol, hyn yn cyfateb i 156 o eitemau.

Cyfrannwyd dros 25 o eitemau i bapurau bro ein hardal.

## **viii. Cefnogi Busnesau**

Mae busnesau bach y sir yn parhau i groesawu ein cefnogaeth – fel arfer angen cyngor ar gyfieithu, ond weithiau syniadau am sut i gyrraedd mwy o farchnad Gymraeg a Chymreig.

Amcangyfrifwn i ni fod wedi delio â 120+ o fusnesau bach yn ystod y flwyddyn hon, yn arbennig trwy weithio mewn ffeiri megis Gŵyl Eirin Dinbych, Ffair Nadolig Dinbych a thrwy gynnal cystadleuaeth Ffenestri Dydd Gŵyl Dewi ym Mhrestatyn, Rhuddlan, Dinbych a Rhuthun.

15

## **GWELEDIGAETH AR GYFER Y FLWYDDYN NESAF**

Wrth edrych ymlaen, rydym yn gobeithio ehangu ein gwaith mewn meysydd allweddol gan gynnwys:

- Chwilio am nawdd er mwyn datblygu rhagor o raglenni er budd cymunedau Cymraeg, siaradwyr Cymraeg rhugl, a'r rheini sy'n dysgu.

- Trwy gydweithio gyda mwy o bartneriaid, ehangu ein gwasanaethau, er mwyn bodloni'r galw am gyngor a chefnogaeth.

- Ymgysylltu â mwy o bartneriaid lleol i gyrraedd cynulleidfaoedd ehangach.

## **DATBLYGU A CHRYFHAU’R FENTER**

Mae’r Fenter yn ymfalchïo yn y farc ansawddDdibynadwy a ddyfarnwyd i ni eto am 3 mlynedd ym mis Medi ~~—~~ Elusen ~~—~~ 2023.

O ganlyniad i rai o'r blaenoriaethau a benderfynwyd arnynt yn ystod y broses dyfarnu, aethom ati i ymgeisio am nawdd trwy'r Cyngor Gwirfoddol i alluogi i wella capasiti yn ystod 2024. Cafwyd llwyddiant gyda'r cais ar ddiwedd 2023, a ganiataodd i ni foderneiddio ein system taliadau trwy ddefnydd o ddarllenydd taliadau, a chychwyn ar waith PR i amlygu pwysigrwydd a manteision gwirfoddoli.

## **DIOLCH**

Diolch i holl rieni, plant a phobl ifanc am droi atom yn y Fenter Iaith drwy gydol y flwyddyn i chwilio am gefnogaeth, gweithgareddau a chyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg.

Rydym yn falch o fod wedi parhau i wasanaethu trigolion Sir Ddinbych, drwy gynnig cymorth o ran eu hanghenion ieithyddol, ac yn falch o fod wedi dwyn perswâd ar eraill o ran rhoi cynnig ar ddefnyddio’r Gymraeg, boed fel siaradwyr Cymraeg mamiaith, ailiaith neu ddysgwyr, grwpiau cymunedol neu fusnesau.

Diolchwn hefyd i’r holl wirfoddolwyr sydd wedi rhoi o’u hamser yn ystod y cyfnod hwn, i helpu llywio gwaith y Fenter, neu i’n cefnogi wrth gynnal gweithgareddau neu rannu negeseuon.

Diolchwn i’w noddwyr a’n partneriaid am eu cefnogaeth a chydweithrediad yn ystod 2023-2024

16

## **Cysylltwch â ni**

I gael mwy o wybodaeth am ein gwaith neu os hoffech ymuno â ni fel gwirfoddolwr, cysylltwch â ni:

Menter Iaith Sir Ddinbych 6 Heigad Dinbych Sir Ddinbych LL16 3LE

 01745 812822

E-bost: menter@MISirDdinbych.cymru

Gwefan: www.misirddinbych.cymru Menter Iaith Sir Ddinbych @MIDinbych @cymraeg_sirddinbych ~~[Ww]~~ 8 ~~—___~~

17

Hoffai Menter laith Sir Ddinbych ddiolch i'w noddwyr am eu
cymorth yn ystod 2023-2024
Cyngor
sir ddinbych
denbighshire
Ly*D&aeth Cymrn
Ly
Welsh Go¥eTrrnent
Covrsty Covncil
Gltr
Partn8riaelh Gymundedd
De Sir Ckjinbych
Scxjth Oenbtghshwe
COMM￿lty Partnership
Rhuddan
GANOL IL4p
Fu
noson Allan
* niqht Out
Iwyd
Grwp Cynefwi
Cymraeg
Urdd
Mentrau
laith
(•ymru
Diolch hefyd i swyddogion a phwyllgor Mentrau latth
mru ac i rwYd￿dith y Mentrau laith am eu ￿fnogaeth
a chythithrediad gv#Erthfav4T gydol y flwyddyn
MENTRAU IAITH
18

## **Rhif cofrestredig y cwmni: 6204415 Rhif yr elusen: 1120223**

**Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig**

**Datganiadau Ariannol Am y Flwyddyn yn Diweddu 31 Mawrth 2024 Sydd Wedi’u Paratoi Heb Archwiliad Ariannol.**

## **Hoffai Menter Iaith Sir Ddinbych ddiolch i’w noddwyr am eu cymorth yn ystod 2023-2024**

**----- Start of picture text -----**

WEE AriennirLywodraeth gan  Cymru
**----- End of picture text -----**

**----- Start of picture text -----**

Cyngor Tref Prestatyn
t
p ¥ y € (
ea ES
ww

Prestatyn Town Council
**----- End of picture text -----**

Diolch hefyd i swyddogion a phwyllgor Mentrau Iaith Cymru am eu cefnogaeth a chydweithrediad gwerthfawr gydol y flwyddyn.

## **MENTER IAITH SIR DDINBYCH Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig**

|**Cynnwys**||

||**Tudalen**|
|Adroddiad yr Ymddiriedolwyr|1 - 5|
|Adroddiad yr archiliwr annibynnol|6|
|Datganiad o weithgareddau ariannol|7|
|Mantolen|8|
|Nodiadau ar y Datganiadau Ariannol|9 – 18|

## **MENTER IAITH SIR DDINBYCH Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig**

## **ADRODDIAD Y CYFARWYDDWYR AC YMDDIRIEDOLWYR AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2024**

## **CYFEIRNOD A MANYLION GWEINYDDOL.**

Enw'r elusen gofrestredig Menter Iaith Sir Ddinbych Rhif cofrestru'r elusen: 1120223 Rhif cofrestredig y cwmni 6204415 (Cymru a Lloegr) **Swyddfa gofrestredig** 6 Heigad DINBYCH Sir Ddinbych LL16 3LE

## **Cyfarwyddwyr ac ymddiriedolwyr**

Y cyfarwyddyr ac ymddiriedolwyr a fu’n gwasanaethu’r elusen yn ystod y cyfnod 1 Ebrill 2023 hyd at 31 Mawrth 2024 oedd:

Cadeirydd Bethan Cartwright Trysorydd Owain Gwyn Morris Cyfarwyddwyr ac Ymddiriedolwyr eraill Anna Lloyd Edwards Lowri Haf Ellis Catrin Eynon Alaw Griffith (ymddeol 18/10/2023) Dyfan Mael Phillips (ethol 18/10/2023) Menna Eluned Jones Gwenan Prysor Arwel Roberts Emrys Wynne Ysgrifennydd Anna Lloyd Edwards

**Bancwyr** HSBC 17 Stryd y Dyffryn DINBYCH Sir Ddinbych LL16 3AG **Cyfrifwyr** Hill & Roberts Cyfrifwyr Siartredig 1 Tan y Castell RHUTHUN Sir Ddinbych LL15 1DQ

1

## **MENTER IAITH SIR DDINBYCH Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig**

## **ADRODDIAD Y CYFARWYDDWYR AC YMDDIRIEDOLWYR AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2024**

## **Strwythur a rheolaeth**

Mae Menter Iaith Sir Ddinbych yn elusen gofrestredig, rhif 1120223, wedi ei sefydlu fel cwmni cyfyngedig, rhif 6204415. Mae cyfansoddiad y cwmni yn unol â chyfansoddiad elusennol a chwmnïau cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol. Cofrestrwyd Menter Iaith Sir Ddinbych fel elusen gofrestredig, ac fel cwmni cyfyngedig, ar 5 Ebrill 2007.

Mae Menter Iaith Sir Ddinbych (yr ‘Elusen’) yn cael ei gweinyddu a’i rheoli yn ôl y memorandwm ac erthyglau cymdeithasol y cwmni, a gan aelodau bwrdd y cyfarwyddwyr.

Mae aelodaeth yr Elusen yn agored i unigolion dros 18 oed ac unrhyw gymdeithas, gorfforedig neu anghorfforedig, sydd yn cytuno ag amcanion a gwaith yr Elusen, heb wahaniaethu rhwng pobl o safbwynt eu cyfoeth, gwleidyddiaeth, hil, crefydd, rhyw neu anabledd. Bydd i bob aelodfudiad benodi unigolyn i’w gynrychioli ac i bleidleisio.

Gall Bwrdd y Cyfarwyddwyr yn unfrydol ac am reswm da, roi terfyn ar aelodaeth unrhyw unigolyn neu aelod-fudiad: cyhyd a bod gan yr unigolyn dan sylw neu gynrychiolydd penodedig yr aelod-fudiad dan sylw'r hawl i wrandawiad gan y Bwrdd y Cyfarwyddwyr, yng nghwmni ffrind, cyn y gwneir penderfyniad terfynol.

## **Bwrdd y cyfarwyddwyr**

Rheolir busnes yr Elusen gan Fwrdd y Cyfarwyddwyr a fydd yn atebol i'r aelodau. Ni fydd gan unrhyw berson hawl i weithredu fel Cyfarwyddwr, boed hynny am, y tro cyntaf neu dro dilynol, hyd nes y bydd wedi llofnodi datganiad derbyn parodrwydd i weithredu er budd yr Elusen yn llyfr cofnodion Bwrdd y Cyfarwyddwyr.

Bydd Bwrdd y cyfarwyddwyr yn cynnwys dim llai na 5 o gyfarwyddwyr a dim mwy na 14 o gyfarwyddwyr.

Gall y Cyfarwyddwyr ar unrhyw adeg gyfethol unrhyw berson i Fwrdd y Cyfarwyddwyr cyn belled na fydd mwy nag un rhan o dair o Fwrdd y Cyfarwyddwyr yn gyfetholedig a chyn belled na ragorir ar yr uchafswm a benodir yn erthygl 39, ac na wneir rhagor na thri chyfetholiad o’r fath rhwng un Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a’r nesaf. Rhaid i bob person a gyfetholir fel hyn ymddiswyddo yn y Cyfarfod Blynyddol yn dilyn eu cyfetholiad, ond byddent yn gymwys i’w hailbenodi wedi hynny.

Ceir talu holl gostau teithio, gwesty a threuliau eraill rhesymol cyfarwyddwyr mewn perthynas â’u presenoldeb mewn cyfarfod Cyfarwyddwyr, pwyllgorau neu gyfarfod cyffredinol neu mewn perthynas â chyflawni eu dyletswyddau, ond fel arall ni fyddant yn derbyn tal.

2

## **MENTER IAITH SIR DDINBYCH Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig**

## **ADRODDIAD Y CYFARWYDDWYR AC YMDDIRIEDOLWYR AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2024**

## **Nodau'r elusen**

1. Normaleiddio'r defnydd o’r Gymraeg ym mhob agwedd o fywyd yn Sir Ddinbych.

2. Sicrhau fod cyfleoedd ac anogaeth ar gael i fewnfudwyr a thrigolion di-gymraeg ddysgu’r iaith

3. Sicrhau fod cyfleoedd i drigolion cynhenid ddatblygu eu gwybodaeth a defnydd o’r iaith. 4. Dylanwadu ar yr ystod eang o weithgarwch cymdeithasol, economaidd, diwylliannol, addysgiadol sy’n digwydd o fewn y sir er mwyn datblygu i fod yn drwyadl ddwyieithog neu Gymraeg.

## **Amcanion yr elusen**

- i) Cynorthwyo’r sector wirfoddol i gynnig gwasanaeth dwyieithog.

- ii) Annog y di-gymraeg i fabwysiadu agweddau cadarnhaol tuag at yr iaith e.e. cymhathu mewnfudwyr a chynorthwyo’r dysgwyr i ddod yn rhugl ac i ddod yn rhan o’r gymdeithas Gymraeg.

- iii) Cynnal digwyddiadau newydd naill a’i yn annibynnol neu trwy gydweithio mewn partneriaeth ag eraill

- i bontio rhwng ysgol a chymdeithas.

- i ategu at waith y ddarpariaeth Cymraeg i oedolion.

- i gyfoethogi a bywiocáu bywyd Cymraeg yn gyffredinol.

- iv) Cefnogi gweithgareddau gwirfoddol sy’n bodoli eisoes yn Gymraeg.

- v) Annog plant a phobl ifanc i ddefnyddio’r Gymraeg, a threfnu gweithgareddau ar eu cyfer.

- vi) Hyrwyddo trosglwyddiad o’r Gymraeg o fewn y teulu.

## **Darparu budd i’r cyhoedd**

Wrth gynllunio ein gwaith am y flwyddyn, mae aelodau’r pwyllgor sy’n gyfarwyddwyr/ymddiriedolwyr wedi ystyried canllawiau’r Comisiwn Elusennau a’r budd i’r cyhoedd.  Yn benodol, ceisiwn gynorthwyo a chefnogi’r gymuned yn ei chyfanrwydd o ran hyrwyddo a hwyluso defnyddio’r Gymraeg gan bob oedran.  Rydym yn gweithio ar draws y sir gyfan a darparwn gyfleoedd i bobl wella proffil y Gymraeg a dwyieithrwydd, drwy ddarparu cyngor, cymorth, prosiectau a gweithgareddau penodol.  Ein corff ni yw’r unig un â’r brîff penodol i normaleiddio’r Gymraeg/dwyieithrwydd mewn bywyd teuluol a bywyd cyhoeddus ar draws sbectrwm oedran y sir.  Gweithiwn ar y cyd gyda phartneriaid allweddol megis yr Urdd a Mudiad Meithrin a darparwyr statudol megis ysgolion a’r Cyngor Sir.  Rydym yn gweithio gyda chyrff eraill sy’n ymwneud â darparu gwersi Cymraeg i oedolion hefyd gan gynorthwyo i ymestyn y cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol.  Mae ein deunyddiau cynnig cyngor a marchnata ar gael bob amser, ac mae’r Cyfarwyddwyr/Ymddiriedolwyr yn cytuno ar dargedau ar gyfer gwaith cymunedol yn flynyddol.

3

## **MENTER IAITH SIR DDINBYCH Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig**

## **ADRODDIAD Y CYFARWYDDWYR AC YMDDIRIEDOLWYR AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2024**

## **Adolygiad ariannol**

Mae’r prif weithgareddau yn ystod y flwyddyn yn cynnwys rhai i blant a phobl ifanc, mewn partneriaeth gyda grwpiau lleol eraill. Defnyddir yr holl incwm a dderbynnir i wella’r gwasanaethau a ddarperir i’r cyhoedd, p’un ai ar y ffôn, drwy gyfrwng e-bost neu wyneb yn wyneb. Ceisiwn sicrhau presenoldeb mewn digwyddiadau cymunedol, gan dargedu’r cyhoedd drwy gynnig cyngor am ddim a gweithgareddau neu weithdai celfyddydol, llenyddol, digidol a rhai sy’n addas i siaradwyr Cymraeg rhugl neu siaradwyr Cymraeg newydd.

## **Campau a gyflawnwyd**

Am ddarlun mwy manwl o weithgareddau’r flwyddyn sy’n cyflawni nodau ac amcanion yr elusen ac yn rhoi budd i’r cyhoedd gweler Adroddiad Blynyddol yr elusen.

## **Perfformiad Ariannol yr Elusen**

Mae cyfanswm yr adnoddau a dderbyniwyd am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2024 wedi codi o £123,456 i £124,902, sef cynydd o £1,446 (1.1%) ar y flwyddyn flaenorol.  Mae’r cyfradd llog wedi codi ac erbyn diwedd y flwyddyn derbyniwyd £380 o incwm buddsoddiad am y flwyddyn (2023 - £103).  Mae cyfanswm yr adnoddau a dreuliwyd am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2024 wedi gostwng o £120,350 i £114,225 sef gostyngiad o £6,125 (5.0%) ar y flwyddyn flaenorol.  Cafwyd gwarged o £10,677 am y flwyddyn i gymharu â gwarged o £3,106 am y flwyddyn flaenorol.  Mae mwy o fanylder i’w weld yn Adroddiad Blynyddol yr Elusen.

## **Polisi Cronfeydd**

Mae’n rhan o bolisi’r Elusen i gadw cronfeydd anghyfyngedig sef y cronfeydd rhyddion, ar lefel sy’n hafal i tua 3 mis o dreuliau anghyfyngedig.  Mae hyn yn caniatáu cronfa ddigonol i dalu costau rheoli, gweinyddu a chynnal yr Elusen.

## **Polisi Buddsoddiad**

Yr amcan buddsoddiad yw diogelu'r buddsoddiadau cyfredol yn erbyn chwyddiant ac i gael incwm rhesymol yn ôl. Mae perfformiad y buddsoddiadau yn cael eu hadolygu ar sail gyson trwy eu cymharu gyda maincfesuriad addas.

## **Rheolaeth Risg**

Gwnaed arolwg gan y Cyfarwyddwyr ym meysydd busnes a gweithredu’r Elusen a gallant gadarnhau y byddai’r Elusen mewn sefyllfa i liniaru unrhyw risg.

## **Cynlluniau ar gyfer y dyfodol**

Mae’r Elusen yn parhau i weithio yn agos gyda Llywodraeth Cymru,  Cyngor Sir Ddinbych a phartneriaid eraill i  hybu’r iaith Gymraeg drwy Sir Ddinbych gyfan. Mae’r Elusen hefyd yn parhau i ddatblygu presenoldeb ar y we a chyfryngau cymdeithasol drwy’r wefan a rhwydweithiau cymdeithasol, a hyn wedi dod yn bwysicach dros y blynyddoedd ddiwethaf wrth i batrymau cyfathrebu a chymdeithasu newid.  Mae’r Elusen bellach wedi’i ddyfarnu’n Elusen Ddibynadwy gan yr NCVO am yr ail dro ym mis Medi 2023. Golyga hyn bod prosesau yn eu lle i roi sicrwydd i bartneriaid ac arianwyr a photensial i ddenu mwy o fuddsoddiad a gwaith mewn partneriaeth.

4

## **MENTER IAITH SIR DDINBYCH Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig**

## **ADRODDIAD Y CYFARWYDDWYR AC YMDDIRIEDOLWYR AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2024**

## **Datganiad o Gyfrifoldebau'r Ymddiriedolwyr**

Mae'r ymddiriedolwyr (sydd hefyd yn gyfarwyddwyr ar Fenter Iaith Sir Ddinbych at ddibenion cyfraith cwmnïau) yn gyfrifol am baratoi adroddiad yr ymddiriedolwyr a'r datganiadau ariannol yn unol â chyfraith berthnasol a Safonau Cyfrifeg y DU (Arferion Cyfrifyddu a Dderbynnir yn Gyffredinol yn y Deyrnas Unedig).

Mae cyfraith cwmnïau yn gofyn bod yr ymddiriedolwyr yn paratoi datganiadau ariannol ar gyfer pob blwyddyn ariannol sy'n rhoi safbwynt cywir a theg ar faterion y cwmni elusennol fel y mae pethau ac o'r ffynonellau sy'n dod i mewn a defnydd y ffynonellau, gan gynnwys incwm a gwariant y cwmni elusennol dros y cyfnod hwnnw. Fel rhan o waith paratoi'r datganiadau ariannol, bydd gofyn i'r ymddiriedolwyr wneud y canlynol:

- Dewis polisïau cyfrifyddu addas ac yna eu rhoi ar waith yn gyson

- Dilyn dulliau ac egwyddorion Datganiad o Arferion Argymelledig yr Elusen

- Beirniadu ac amcangyfrif yn rhesymol ac yn bwyllog

- Paratoi'r datganiadau ariannol yn seiliedig ar fusnes sydd ar fynd oni bai ei bod yn anaddas cymryd y bydd y cwmni elusennol yn parhau mewn busnes.

Mae'r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am gadw cofnodion ariannol digonol sy'n datgelu, gyda chywirdeb rhesymol ar unrhyw adeg, beth ydy sefyllfa ariannol y cwmni elusennol ac yn eu galluogi nhw i sicrhau fod y datganiadau ariannol yn cydymffurfio gyda Deddf Cwmnïau 2006. Maen nhw hefyd yn gyfrifol am ddiogelu asedau'r cwmni elusennol ac felly hefyd dros gymryd camau rhesymol er mwyn rhwystro a datgelu unrhyw dwyll neu anghysondeb arall.

Cafodd adroddiad blynyddol yr ymddiriedolwyr ei fabwysiadu ar 23 Hydref 2024 a’i arwyddo ar ran Bwrdd yr Ymddiriedolwyr gan:

**Llofnod** _Bethan Cartwright_ **Enw llawn Bethan Cartwright Safle Cadeirydd**

5

## **MENTER IAITH SIR DDINBYCH Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig**

## **ADRODDIAD YR ARCHWILIWR ANNIBYNNOL I YMDDIRIEDOLWYR CWMNI ELUSENNOL MENTER IAITH SIR DDINBYCH (‘y Cwmni’)**

Adroddaf i’r ymddiriedolwyr elusen ar fy archwiliad o gyfrifon y Cwmni am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2024.

## **Cyfrifoldebau a’r sail adrodd**

Fel ymddiriedolwyr elusen y Cwmni (a hefyd ei gyfarwyddwyr at ddibenion y gyfraith cwmnïau), rydych yn gyfrifol am baratoi'r cyfrifon yn unol â gofynion Deddf Cwmnïau 2006 (‘Deddf 2006’).

Ar ôl bodloni fy hun nad yw’n ofynnol i gynnal archiliwad ariannol o gyfrifon y Cwmni o dan Ran 16 o Ddeddf 2006 a’i fod yn gymwys i gael archwiliad annibynnol, adroddaf mewn perthynas â’m harchwiliad o gyfrifon eich elusen fel y cwblhawyd o dan adran 145 o Ddeddf Elusennau 2011 (‘Deddf 2011’).  Wrth gynnal fy archwiliad, dilynais y Cyfarwyddiadau a roddwyd gan y Comisiwn Elusennau o dan adran 145(5)(b) o Ddeddf 2011.

## **Datganiad yr archwiliwr annibynnol**

Cwblheais fy archwiliad.  Cadarnhaf nad yw unrhyw faterion perthnasol wedi dod i’m sylw mewn perthynas â’r archwiliad sy’n rhoi achos i mi gredu:

- bod cofnodion cyfrifyddu heb eu cadw ar gyfer y Cwmni fel sy’n ofynnol gan adran 386 o Ddeddf Cwmnïau 2006; neu

- nid yw’r cyfrifon yn cyfateb â’r cofnodion hynny; neu

- nid yw’r cyfrifon yn cydymffurfio â gofynion cyfrifyddu perthnasol o dan adran 396 o Ddeddf 2006 heblaw unrhyw ofyniad bod y cyfrifon yn rhoi darlun ‘gwir a theg’ nad yw’n fater i’w ystyried fel rhan o archwiliad annibynnol; neu

- nid yw’r cyfrifon wedi cael eu paratoi yn unol â dulliau ac egwyddorion y Datganiad o Arferion Cymeradwy ar gyfer cyfrifon ac adroddiadau gan elusennau yn gymwys i elusennau sy'n paratoi eu cyfrifon yn unol â'r Safon Adrodd Ariannol sy'n gymwys yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon (FRS 102).

Nid oes unrhyw bryderon gennyf ac nid wyf wedi dod ar draws unrhyw faterion eraill mewn perthynas â’r archwiliad y dylid dwyn sylw atynt yn yr adroddiad hwn er mwyn sicrhau dealltwriaeth briodol o’r cyfrifon.

Arwyddwyd: _R A Roberts_

Dyddiad:  23 Hydref 2024

R A Roberts, BSc, FCA Hill & Roberts Cyfrifwyr Siartredig 1 Tan y Castell RHUTHUN Sir Ddinbych LL15 1DQ

6

## **MENTER IAITH SIR DDINBYCH Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig**

## **Datganiad o weithgareddau ariannol (yn cynnwys crynodeb o gyfrif incwm a gwariant) am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2024**

|||2024|2024|2024|2024|2023|

|Nodyn||Cronfeydd|Cronfeydd||Cyfanswm|Cyfanswm|
|||Anghyfyngedig|Cyfygedig||Cronfeydd|Cronfeydd|

|**Incwm**|||||||
|**Incwm a gwaddoliadau**|||||||
|Rhoddion a chymynroddion|3|96,376||-|96,376|100,127|
|Gweithgareddau elusennol|4|13,060||-|13,060|14,510|
|Gweithgareddau masnachu arall|5|10,086||-|10,086|3,716|
|Incwm arall|6|5,000||-|5,000|5,000|
|Buddsoddiant|7|380||-|380|103|

|Cyfanswm incwm||124,902||-|124,902|123,456|

|**Gwariant**|||||||
|Gwariant ar weithgareddau|||||||
|elusennol|8|114,225||-|114,225|120,350|

|Cyfanswm gwariant||114,225||-|114,225|120,350|

|**Incwm / gwariant net**|11|**10,677**||**-**|**10,677**|**3,106**|
|**Trosglwyddiadau gros rhwng**|||||||
|**cronfeydd**|||||**-**|**-**|

|**Symudiad net yn y cronfeydd**||**10,677**||**-**|**10,677**|**3,106**|
|Cyfanswm cronfeydd||43,139||-|43,139|40,033|
|01 Ebrill 2023|||||||

|**Cyfanswm cronfeydd**||**53,816**||**-**|**53,816**|**43,139**|
|**31 Mawrth 2024**||=======|=======||=======|=======|

Mae holl weithgareddau’r cwmni yn cael eu hystyried yn rhai parhaol.

Nid oedd gan y cwmni enillion na cholledion heblaw am y gwarged am y flwyddyn.

Mae’r nodiadau ar dudalennau 9 i 18 yn rhan annatod o’r datganiadau ariannol yma.

7

## **MENTER IAITH SIR DDINBYCH**

## **Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig**

## **MANTOLEN AR 31 MAWRTH 2024**

||**Nodyn**||**2024**||**2023**|

|**Asedau sefydlog**||||||
|Asedau cyffyrddadwy|16||2,793||2,484|
|**Asedau cyfredol**||||||
|Dyledwyr|17|943||1,589||
|Arian yn y banc||52,047||41,170||
|Arian mewn llaw||-||63||

|||52,990||42,822||

|**Credydwyr -yn daladwy**||||||
|**o fewn blwyddyn**|18|1,967||2,167||

|**Asedau cyfredol net**|||51,023||40,655|

|**Asedau net**|||**£53,816**||**£43,139**|

|**Cronfeydd wrth gefn**||||||
|Cronfeydd anghyfyngedig|19||53,816||43,139|
|Cronfeydd cyfyngedig|19||-||-|

|**Cyfanswm cronfeydd**|||**£53,816**||**£43,139**|

Roedd gan y cwmni hawl i eithrio rhag archwilio’r datganiadau ariannol yn rhinwedd adran 477 o’r Ddeddf Cwmnïau 2006 yn berthnasol i gwmnïau bychan.

Nid yw’r aelodau wedi gofyn i’r cwmni gael archwiliad o’r datganiadau ariannol am y flwyddyn berthnasol yn unol ag adran 476;

Mae’r cyfarwyddwyr yn cydnabod eu dyletswyddau i gydymffurfio gyda gofynion y Ddeddf ynglŷn â chadw cofnodion cyfrifyddu a pharatoi’r datganiadau ariannol.

Y mae’r datganiadau ariannol yma wedi eu paratoi mewn cytundeb â’r ddarpariaeth arbennig adran XV o ddeddf Cwmnïau 2006 sydd yn berthnasol i gwmnïau bach ac yn unol â FRS 102 SORP.

Mabwysiadwyd y datganiadau ariannol hyn gan Fwrdd yr Cyfarwyddwyr ar 23 Hydref 2024 ac arwyddwyd ar eu rhan gan:

## **Llofnod:** _Owain Gwyn Morris_

## **Owain Gwyn Morris Trysorydd - Cyfarwyddwr**

Mae’r nodiadau ar dudalennau 9 i 18 yn rhan annatod o’r datganiadau ariannol yma

8

## **MENTER IAITH SIR DDINBYCH Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig**

## **NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2024**

## **1 Gwybodaeth Statudol**

Mae Menter Iaith Sir Ddinbych yn gwmni cyfyngedig drwy warant wedi'i gorffori yng Nghymru, yn y DU. Y swyddfa gofrestredig ydy 6 Heigad, Dinbych, Sir Ddinbych, LL16 3LE.

Caiff y datganiadau ariannol eu cyflwyno mewn punnoedd sterling (£), arian gweithredu'r cwmni, a'i dalgrynnu at y bunt agosaf.

Mae'r polisïau cyfrifyddu arwyddocaol sydd wedi'u defnyddio wrth baratoi'r datganiadau ariannol hyn wedi'u gosod isod. Mae'r polisïau wedi'u defnyddio yn gyson gyda phob blwyddyn gaiff ei chyflwyno, oni bai y nodir yn wahanol.

## **2 Polisïau Cyfrifyddu**

## **Sail paratoi'r datganiadau ariannol**

Mae datganiadau ariannol y cwmni elusennol, sy'n endid budd cyhoeddus o dan FRS102, wedi'u paratoi yn unol â Datganiad o Arferion Argymelledig yr Elusen (FRS102)  'Cyfrifyddu ac Adrodd gan Elusennau: Datganiad o Arferion Argymelledig sy'n berthnasol i elusennau sy'n paratoi eu cyfrifon yn unol â Safon Adrodd Ariannol perthnasol y DU a Gweriniaeth Iwerddon (FRS102) (mewn grym 1 Ionawr 2019)', Safon Adrodd Ariannol 102 'Safon Adrodd Ariannol perthnasol y DU a Gweriniaeth Iwerddon' a Deddf Cwmnïau 2006. Mae'r datganiadau ariannol wedi'u paratoi yn unol â'r confensiwn costau hanesyddol.

## **Incwm**

Caiff yr holl incwm ei gydnabod yn y Datganiad o Weithgareddau Ariannol unwaith bydd gan yr elusen hawl dros yr arian.

## **Incwm o weithgareddau elusennol**

Mae incwm o weithgareddau elusennol yn cynnwys incwm wedi'i dderbyn trwy gytundeb neu lle mae hawl dros arian grant yn dibynnu ar amodau perfformio penodol. Caiff yr incwm hwn ei gydnabod wrth i'r gwasanaethau cysylltiedig gael eu darparu ac wrth gaffael yr hawl, bydd modd mesur tebygrwydd faint gaiff ei dderbyn a'r swm ei hun gyda digon o ddibynadwyedd.   Caiff incwm ei ohirio pan gaiff swm ei dderbyn cyn perfformio'r gwasanaeth neu ddigwyddiad y mae'n gysylltiedig ag o.

## **Incwm o fuddsoddiad**

Caiff incwm o fuddsoddiad ei gydnabod pan gaiff ei derbyn.

## **Gwariant**

Caiff dyledion eu cydnabod fel gwariant unwaith y bydd gorfodaeth ymarferol neu gyfreithiol sy'n ymrwymo'r elusen i'r gwariant hwnnw, mae'n debyg y bydd angen trosglwyddo buddion economaidd wrth ei dalu a bydd modd mesur swm yr orfodaeth yn ddibynadwy. Caiff gwariant ei ystyried ar sail croniadau ac mae wedi'i ddosbarthu o dan benawdau sy'n crynhoi'r holl gostau sy'n gysylltiedig â'r categori. Mae gwariant yn cynnwys unrhyw DAW nad oes modd ei hawlio yn ôl.

Mae ‘gwariant elusennol’ yn cynnwys y costau hynny mae'r elusen wedi'i wario wrth ddarparu ei gweithgareddau a'i gwasanaethau ar gyfer ei buddiolwyr. Mae'n cynnwys costau y mae modd eu dyrannu yn uniongyrchol tuag at weithgareddau o'r fath a'r costau hynny o natur anuniongyrchol sy'n angenrheidiol er mwyn eu cefnogi.

9

## **MENTER IAITH SIR DDINBYCH**

## **Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig**

## **NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL (** _**parhad**_ **) AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2024**

## **2 Polisïau Cyfrifyddu (parhad)**

## **Gwariant (parhad)**

‘Costau cefnogi’ ydy'r costau hynny sy'n angenrheidiol er mwyn darparu gweithgaredd ond er hynny, tydyn nhw ddim yn cynhyrchu neu yn creu allbwn gweithgaredd yr elusen. Mae hyn yn cynnwys costau llywodraethol sef y costau hynny sy'n gysylltiedig gyda chwrdd â gofynion cyfansoddiadol a statudol yr elusen ac yn cynnwys y ffioedd a chostau cyfrifyddu sy'n gysylltiedig â rheolaeth strategol yr elusen yn ogystal â rhan o'r cyflogau sy'n seiliedig ar fras amcan o'r amser a dreuliwyd ar yr adran hon.

## **Asedau sefydlog cyffyrddadwy**

Mae asedau sefydlog wedi'u cofnodi trwy gostau i ddechrau.

## **Dibrisiad**

Caiff dibrisiad ei gyfrifo er mwyn dileu cost ased, llai o'i werth sy'n weddill dros fywyd economaidd defnyddiol yr ased fel a ganlyn:

Offer swyddfa

- lleihau'r cyfanswm o 25%

## **Treth**

Mae'r elusen wedi'i heithrio rhag treth gorfforaethol ar ei gweithgareddau elusennol.

## **Cyfrifyddu cronfeydd**

Mae cronfeydd anghyfyngedig ar gael i'r elusen eu defnyddio, fel y gwêl yr ymddiriedolwyr yn ddoeth, at unrhyw ddiben sy'n ymwneud ag amcanion yr elusen.

Mae cronfeydd cyfyngedig wedi'u derbyn yn amodol gan y rhoddwyr at y diben sydd wedi'i bwriadu ar eu cyfer.

## **Offerynnau ariannol**

Does gan yr elusen ddim ond asedau ariannol a dyledion ariannol o natur sy'n cymhwyso fel offerynnau ariannol syml. Caiff offerynnau ariannol syml eu hadnabod yn gyntaf drwy werth trosglwyddo ac yna eu mesur trwy eu gwerth talu.

## **Dyledwyr**

Caiff dyledwyr masnachu a dyledwyr eraill eu cydnabod trwy'r swm talu sy'n ddyledus ar ôl cynnig unrhyw ostyngiad masnachu.

Caiff taliadau o flaen llaw eu prisio ar y swm net a dalwyd o flaen llaw ar unrhyw ostyngiad dyledus.

## **Credydwyr**

Caiff credydwyr eu cydnabod lle bo gan yr elusen orfodaeth bresennol o ganlyniad i ddigwyddiad blaenorol fydd mwy na thebyg yn arwain at drosglwyddo cronfeydd at drydydd parti a bydd modd mesur neu amcangyfrif y swm sy'n ddyledus er mwyn talu’r orfodaeth yn ddibynadwy. Caiff credydwyr gan amlaf eu cydnabod trwy eu swm talu ar ôl caniatáu ar gyfer unrhyw ostyngiadau masnachu sy'n ddyledus.

## **Costau pensiwn**

Mae'r cwmni elusennol yn gweithredu cynllun cyfraniad pensiwn diffiniedig. Caiff costau cyfraniadau sy'n daladwy i gynllun pensiwn y cwmni elusennol eu codi ar y Datganiad o Weithgareddau Ariannol ar gyfer y cyfnod perthnasol.

10

## **MENTER IAITH SIR DDINBYCH Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig**

## **NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL (** _**parhad**_ **) AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2024**

## **2 Polisïau Cyfrifyddu (parhad)**

## **Costau pensiwn (parhad)**

Mae'r cwmni elusennol yn gwneud cyfraniadau i gynlluniau pensiwn personol ar ran ei gyflogai. Caiff costau eu codi ar y Datganiad o Weithgareddau Ariannol ar gyfer y cyfnod perthnasol.

## **3 Rhoddion a chymynrhoddion**

|**Rhoddion a chymynrhoddion**|||||

||Cronfeydd|Cronfeydd|Cyfanswm|Cyfanswm|
|Anghyfynedig||Cyfyngedig|2024|2023|

|Grant Llywodraeth Cymru|81,583|-|81,583|85,603|
|Grant Cyngor Sir Ddinbych|14,763|-|14,763|14,524|
|Rhodd Cymdeithas Cymraeg Dinbych|
30|-|30|-|

||96,376|-|96,376|100,127|

## **4 Gweithgareddau elusennol**

|**Gweithgareddau elusennol**|||||

||Cronfeydd|Cronfeydd|Cronfeydd|Cyfanswm|
|Anghyfynedig||Cyfyngedig|2024|2023|

|Grant Grwp Cynefin|960|-|960|-|
|Grant DVSC|10,000|-|10,000|-|
|Grant Mentrau Iaith Cymru Haf o Hwyl|
-|-|-|9,780|
|Grant Cyngor Sir Dinbych Haf o Hwyl|-|-|-|3,380|
|Grant Mentrau Iaith Cymru Dysgwyr|-|-|-|1,000|
|Grant Cyngor Tref Rhuddlan|1,650|-|1,650|-|
|Grant Cyngor Tref Prestatyn|250|-|250|350|
|Grant Cadwyn Clwyd|200|-|200|-|

||13,060|-|13,060|14,510|

|**Gweithgareddau masnachu eraill**|||||
||Cronfeydd|Cronfeydd|Cyfanswm|Cyfanswm|
|Anghyfynedig||Cyfyngedig|2024|2023|

|Gweithgareddau a phrosiectau|8,808|-|8,808|3,029|
|Incwm Arall|128|-|128|437|
|Prosiect y Glannau rhentu desg|750|-|750|250|
|Er cof am Richard Cowell|400|-|400|-|

||10,086|-|10,086|3,716|

## **5 Gweithgareddau masnachu eraill**

11

## **MENTER IAITH SIR DDINBYCH Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig**

## **NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL (** _**parhad**_ **) AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2024**

## **6 Incwm Arall**

|||Cronfeydd|Cronfeydd|Cyfanswm|Cyfanswm|

|||Anghyfyngedig|Cyfyngedig|2024|2023|

||Lwfans Nawdd Cymdeithasol|5,000|-|5,000|5,000|

|||5,000|-|5,000|5,000|

|**7**|**Incwm o fuddsoddiant**|||||
|||Cronfeydd|Cronfeydd|Cyfanswm|Cyfanswm|
|||Anghyfyngedig|Cyfyngedig|2024|2023|

||Llog derbyniwyd|380|-|380|103|

|||380|-|380|103|

12

## **MENTER IAITH SIR DDINBYCH Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig**

## **NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL (** _**parhad**_ **) AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2024**

## **8 Gwariant ar weithgareddau elusennol**

|Cronfeydd|Cronfeydd|Cronfeydd|Cyfanswm|Cyfanswm|

|Anghyfynedig||Cyfyngedig|2024|2023|

|**Costau gweithgareddau elusennol**|||||
|**cyffredin**|||||
|Cyflogau staff|66,785|-|66,785|65,532|
|Yswiriant gwladol|6,048|-|6,048|6,117|
|Costau pensiwn staff|5,129|-|5,129|4,530|
|Hyfforddiant|283|-|283|61|
|Costau gwasanaethau llawrydd|600|-|600|3,980|
|Rhent a hurio ystafelloedd|875|-|875|1,750|
|Prydlesi gweithredol – offer swyddfa|1,402|-|1,402|1,185|
|Teithio a Lluniaeth|2,295|-|2,295|1,848|
|Teleffon|399|-|399|399|
|Trydan|-|-|-|85|
|Argraffu, papur a phost|425|-|425|535|
|Costau Cyfrifiadur|662|-|662|754|
|Marchnata a hysbysebu|459|-|459|692|
|Costau banc|151|-|151|124|
|Tanysgrifiadau|957|-|957|1,095|
|Dibrisiant|816|-|816|725|
|Prosiectau a gweithgareddau - Cymuned|2,063|-|2,063|2,665|
|Prosiectau a gweithgareddau – Teulu|311|-|311|164|
|Prosiectau a gweithgareddau – Plant &|||||
|Phobl Ifanc|2,703|-|2,703|1,753|
|Prosiectau a gweithgareddau – Swyddog|||||
|gwynt y mor|2,039|-|2,039|-|
|Prosiectau a gweithgareddau – Bocs|||||
|Trysor|-|-|-|1,014|
|Prosiectau a gweithgareddau – Dysgwyr|520|-|520|3|
|Prosiectau a gweithgareddau – DCC|||||
|Haf o Hwyl|-|-|-|853|
|Prosiectau a gweithgareddau – MIC|||||
|Haf o Hwyl|-|-|-|7,754|
|Gwaith PR ar gyfer prosiect gwirfoddolwyr|800|-|800|-|

||95,722|-|95,722|103,618|

13

## **MENTER IAITH SIR DDINBYCH**

## **Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig**

## **NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL (** _**parhad**_ **) AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2024**

## **8 Gwariant ar weithgareddau elusennol (parhad)**

||Cronfeydd|Cronfeydd|Cyfanswm|Cyfanswm|

||Anghyfynedig|Cyfyngedig|2024|2023|

|**Costau cefnogi**|||||
|Cyflogau|10,038|-|10,038|9,818|
|Yswiriant gwladol|758|-|758|764|
|Costau pensiwn staff|399|-|399|687|
|Rhent|125|-|125|345|
|Yswiriant|763|-|763|715|
|Prydlesi gweithredol – offer swyddfa|200|-|200|169|
|Trydan|-|-|-|12|
|Glanhau|486|-|486|455|
|Cynnal a chadw|82|-|82|137|
|Argraffu, post a phapur|161|-|161|73|
|Marchnata a hysbysebu|66|-|66|99|
|Teleffon|57|-|57|57|
|Costau cyfrifiadur|105|-|105|108|
|Costau cyfieithu|106|-|106|319|
|Costau proffesiynol|2,024|-|2,024|-|
|Teithio a lluniaeth|202|-|202|114|
|Costau cyfrifo|2,228|-|2,228|2,112|
|Costau banc|21|-|21|18|
|Mân gostau|341|-|341|466|
|Tanysgrifiadau|137|-|137|156|
|Dibrisiant asedau cyffyrddadwy|116|-|116|104|
|(Elw)/Colled ar waredu|88|-|88|-|
|Llog ar dreth|-|-|-|4|

||18,503|-|18,503|16,732|

|Cyfanswm gwariant ar|||||
|weithgareddau elusennol|114,225|-|114,225|120,350|

## **9 Gwariant ar weithgareddau elusennol yn ôl math y gronfa**

||Cronfeydd|Cronfeydd|Cyfanswm|Cronfeydd|Cronfeydd|Cyfanswm|

||Anghyfyng|Cyfyngedig|2024|Anghyfyng|Cyfyngedig|2023|
||-edig|||-edig|||

|Gwariant elusennol|
95,722|-|95,722|101,329|2,289|103,618|
|Costau cefnogi|18,503|-|18,503|16,732|-|16,732|

||114,225|-|114,225|118,061|2,289|120,350|

14

## **MENTER IAITH SIR DDINBYCH**

## **Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig**

## **NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL (** _**parhad**_ **) AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2024**

## **10 Gwariant elusennol yn ôl gweithgareddau**

|Gweithgareddau|Gweithgareddau|Costau|Cyfanswm|Cyfanswm|

||Uniongyrchol|Cefnogi|2024|2023|

|Gweithgareddau elusennol cyffredin|95,722|13,370|109,092|115,698|
|Gweithgareddau elusennol penodol|-|-|-|2,289|
|Costau llywodraethol|-|5,133|5,133|2,363|

||95,722|18,503|114,225|120,350|

## **11 Dadansoddiad o gostau cefnogi**

|**Dadansoddiad o gostau cefnogi**||||

||Costau|Cyfanswm|Cyfanswm|
||Gweithgareddau|2024|2023|
||Hybu’r iaith|||
||Gymraeg|||

|Costau staff|11,195|11,195|11,269|
|Costau eiddo|286|286|241|
|Costau swyddfa gyffredinol|1,889|1,889|2,859|
|Costau llywodraethu|5,133|5,133|2,363|

||18,503|18,503|16,732|

|**Gwariant / Incwm Net**||||
|Mae Gwariant net wedi ei ddatgan ar ôl codi:|||£|
|Dibrisiant|||932|

## **12 Gwariant / Incwm Net**

## **13 Taliadau a Budd-daliadau'r Ymddiriedolwyr**

Ni thalwyd unrhyw gydnabyddiaeth na buddiant eraill i’r ymddiriedolwyr ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2024 (2023 - £ Dim).  Mae’r elusen yn ystyried mai ei phersonél rheoli allweddol ydy’r ymddiriedolwyr a’r prif swyddog.  Cyfanswm buddiant cyflogaeth y personél rheoli allweddol, yn cynnwys cyfraniadau pensiwn, oedd £35,473 (2023 - £34,544).

## **Treuliau'r ymddiriedolwyr**

Ni thalwyd unrhyw dreuliau i'r ymddiriedolwyr yn y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2024 (2023 - £ Dim).

15

## **MENTER IAITH SIR DDINBYCH Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig**

## **NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL (** _**parhad**_ **) AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2024**

|**14**|**Costau staff**|||

|||**2024**|**2023**|

||Cyflogau|76,823|75,350|
||Yswiriant gwladol|6,806|6,881|
||Cyfraniadau pensiwn|5,528|5,217|
||Lwfans cyflogwr|(5,000)|(5,000)|

|||£84,157|£82,448|

Mae'r elusen yn cyflogi 2 aelod o staff llawn amser ac 2 aelod o staff rhan-amser (2023 - 2 amser llawn ac 1 rhan amser).  Ni enillodd unrhyw aelod o staff fwy na £60,000 y flwyddyn (2023: Dim).  Mae'r elusen yn gweithredu cynllun pensiwn cyfraniad diffiniedig mewn perthynas â'r staff. Mae rheolwyr annibynnol yn dal y cynllun a'i asedau. Mae'r tâl pensiwn yn cynrychioli cyfraniadau sy'n ddyledus gan y cwmni a'u cyfanswm yw £5,528 (2023 - £5,217). Cyfraniadau pensiwn sy'n ddyledus ar ddiwedd y flwyddyn oedd £ dim (2023: £183).  Bydd gordaliad cyfraniad pensiwn yn ystod y flwyddyn blaenorol, nid oes swm yn ddyledus yn ôl i’r elusen ar ddiwedd y flwyddyn (2023: £264).

## **15 Tâl yr Arolygwyr Annibynnol**

Roedd tâl yr arholwr annibynnol yn gyfystyr â ffi cyfrifo ac arholi o £1,800 (2023 - £1,766) a gwaith cyflogres o £428 (2023 - £346).

## **16 Asedau cyffyrddadwy sefydlog**

|||**Offer**||

||**Dodrefn**|**Swyddfa**|**Cyfanswm**|
|**Cost**|£|£|£|
|Ar 1 Ebrill 2023|673|8,431|9,104|
|Ychwanegiadau|-|1,329|1,329|
|Gwaredu|-|(2,113)|(2,113)|

|Ar 31 Mawrth 2024|673|7,647|8,320|

|**Dibrisiant**||||
|Ar 1 Ebrill 2023|663|5,957|6,620|
|Dibrisiant am y cyfnod|2|930|932|
|Dileu wrth waredu|-|(2,025)|(2,025)|

|Ar 31 Mawrth 2024|665|4,862|5,527|

|**Gwerth llyfr net**||||
|Ar 31 Mawrth 2024|£8|£2,785|£2,793|

|Ar 31 Mawrth 2023|£10|£2,474|£2,484|

16

## **MENTER IAITH SIR DDINBYCH Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig**

## **NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL (** _**parhad**_ **) AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2024**

|**17**|**Dyledwyr – yn ddyledus o fewn y flwyddyn**|**Dyledwyr – yn ddyledus o fewn y flwyddyn**|**Dyledwyr – yn ddyledus o fewn y flwyddyn**|**2024**|**2023**||

||Dyledwr eraill|||943|1,589||

|||||943|1,589||

|**18**|**Credydwyr - yn ddyledus**|**o fewn y flwyddyn**||**2024**|**2023**||

||Credydwyr masnachol|||-|-||
||Trethi a nawdd cymdeithasol|||-|-||
||Credydwyr eraill|||1,967|2,167||

|||||1,967|2,167||

|**19**|**Dadansoddiad o gronfeydd elusennol**||||||
|||**Ar 31**|**Incwm**|**Gwariant**
**Trosglwy**||**Ar 31**|
|||**Mawrth**||**-ddiadau**||**Mawrth**|
|||**2023**||||**2023**|

||Cronfeydd cyfyngedig|-|-|-|-|-|
||Cronfeydd anghyfyngedig|43,139|124,902|(114,225)|-|53,816|

||Cyfanswm cronfeydd|**£43,139**|**£124,902**|**£(114,225)**|**£-**|**£53,816**|

|**20**|**Dadansoddiad o asedau net rhwng cronfeydd**||||||

||**Asedau**|**Asedau**|**Rhwymedig**|**Cyfanswm**|

||**sefydlog**|**Cyfredol**|**-aethau**||
||**cyffyrddadwy**|**net**|**tymor hir**||

|Cronfeydd cyfyngedig|-|-|-|-|
|Cronfeydd anghyfyngedig|2,793|51,023|-|53,816|

||**£2,793**|**£51,023**|**£ -**|**£53,816**|

17

## **MENTER IAITH SIR DDINBYCH**

## **Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig**

## **NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL (** _**parhad**_ **) AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2024**

## **21 Partïon perthynol**

Ni fu unrhyw drafodion gyda phartïon perthynol yn ystod y flwyddyn.

## **22 Ymrwymiadau ariannol arall**

Ar 31 Mawrth 2024, roedd gan y cwmni ymrwymiadau o dan brydlesi gweithredol ni chaiff eu diddymu, dros weddill tymor y prydlesi yma o £dim (2023 - £113).

18