OpenCharities

This text was generated using OCR and may contain errors. Check the original PDF to see the document submitted to the regulator. This document is also available as Markdown.

2024-12-31-accounts

RHIF CWMNI COFRESTREDIG: 03865538 (Cymru) RHIF ELUSEN GOFRESTREDIG: 1078543

Adroddiad yr Ymddiriedolwyr a Datganiadau ariannol wedi eu harchwilio, ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 2024

ar gyfer

Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn

(Cwmni cyfyngedig drwy warant)

Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn

Cynnwys y datganiadau ariannol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2024

Tudalen Tudalen Tudalen
Adroddiad y Cadeirydd 1
Adroddiad yr Ymddiriedolwyr 2 i 5
Adroddiad yr Archwilwyr Annibynnol 6 i 9
Datganiad o Weithgareddau Ariannol 10
Mantolen 11 i 12
Datganiad Llif Arian 13
Nodiadau i'r Datganiad Llif Arian 14
Nodiadau i'r Datganiadau Ariannol 15 i 26
Datganiad Manwl o Weithgareddau Ariannol 27 i 29

Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn

Adroddiad y Cadeirydd ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2024

Mae gwaith yr Adran Addysg wedi mynd o nerth i nerth, gyda chynnydd trawiadol yn y nifer o gyrsiau a gynhelir, yn arbennig ein cyrsiau Cymraeg Gwaith. Mae adborth y dysgwyr i’r cyrsiau yn gyson uchel. Bellach mae tri chwrs yr wythnos yn cael eu cynnal yn gyfredol sy’n gwneud cyfraniad pwysig i leihau’r rhestr aros. Yn 2025 rhoddir pwyslais ychwanegol ar gyflenwi’r galw am hyfforddiant iaith o fewn y sector addysg ar draws Cymru.

Fel erioed, mae ein gwaith addysgol yn cael ei gefnogi gan incwm a gynhyrchir trwy estyn croeso i’r rhai sydd am ddod atom i gynnal gwasanaeth priodas neu gynhadledd. Bu’r galw ychydig yn is nag yn y ddwy flynedd flaenorol.

Bu buddsoddiad sylweddol mewn systemau technoleg gwybodaeth. Mae hyn yn hwyluso’r gwaith o dderbyn archebion llety ac yn ei gwneud hi’n haws i ni gynnig mwy o’r unedau llety i’w gwerthu i’r cyhoedd pan nad oes cyrsiau neu ddigwyddiadau eraill yn cael eu cynnal.

Yn dilyn cais llwyddiannus am gymorth ariannol gan gynllun TWIG Llywodraeth Cymru, a weinyddir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, bu gwaith mawr ar droed i dorri’r mwyafrif o’r coed pîn ar y safle ac ail-blannu coed cysefin yn eu lle. Bydd y cynllun hefyd yn darparu llwybrau newydd i’w mwynhau gan y cyhoedd ac ystafell ddosbarth waliau agored.

Trosiant y cwmni yn 2024 oedd £1,900,210 (2023: £1,541,717). Ar ôl tynnu dibrisiant, dangosir elw am y flwyddyn o £20,589 (2023: colled o £5,790).

Y nifer a gyflogwyd yn ystod y flwyddyn oedd: Swyddi parhaol, lleiafswm 3 diwrnod yr wythnos: 26 Swyddi parhaol, llai na 3 diwrnod yr wythnos: Swyddi achlysurol (cyfartaledd 10.5 awr yr wythnos): 20 Cyfanswm: 51

Rydym yn falch o’r cyfraniad sylweddol i gyflogaeth yn yr ardal a wneir gan weithgareddau’r Ganolfan.

Er hynny, ni fu’n flwyddyn hawdd i’r staff, gyda mwy nag un newid o ran y prif swyddi rheoli. Rydym yn ddiolchgar iddynt oll am eu hymroddiad i waith y Ganolfan. Ym mis Mawrth 2025 penodwyd Siwan Tomos yn Brif Weithredwr a chychwynnodd ar ei swydd ym mis Ebrill. Bydd sicrhau perthynas gydweithredol ac effeithiol rhwng Rheolwyr, Bwrdd a Staff yn flaenoriaeth ganddi er mwyn sicrhau bod y defnydd gorau posibl yn cael ei wneud o’r adnoddau a’r lleoliad arbennig y mae gennym y fraint o fod yn gyfrifol amdano.

Yn ogystal â’r cynlluniau i ehangu ym maes addysg ein prif obeithion yn 2025 yw cwblhau’r Cynllun Coed, a chychwyn ar gynlluniau i adnewyddu Caffi Meinir ynghyd â rhai o’r unedau llety. Cynhelir mwy o ddigwyddiadau sy’n denu’r cyhoedd i ymweld. Byddwn yn cwblhau adolygiad o’n dulliau o ddefnyddio ac arbed ynni ac yn dechrau ar raglen o welliannau iddynt.

Tristwch mawr oedd derbyn y newyddion yn ystod y flwyddyn am farwolaeth Heulwen Richards, gynt o Fae Trearddur, Ynys Môn. Bu Heulwen yn gefnogwr hynod o hael i’r Nant ar hyd y blynyddoedd ac mae’n fwriad cofnodi ei haelioni mewn modd priodol maes o law.

Hoffwn ddiolch i aelodau’r Bwrdd am eu cyfraniadau a’u cefnogaeth yn ystod y flwyddyn gan edrych ymlaen at groesawu penodi aelodau newydd yn y Cyfarfod Blynyddol.

Huw Jones

Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth - Mehefin 2025

Tudalen 1

Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn

Adroddiad yr Ymddiriedolwyr

ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2024

Mae'r ymddiriedolwyr, sydd hefyd yn gyfarwyddwyr yr elusen at ddibenion Deddf Cwmnïau 2006, yn cyflwyno eu hadroddiad gyda datganiadau ariannol yr elusen am y flwyddyn yn diweddu ar 31 Rhagfyr 2024. Mae'r ymddiriedolwyr wedi mabwysiadu darpariaethau Cyfrifeg ac Adrodd gan Elusennau: Datganiad o Ymarfer a Argymhellir sy'n berthnasol i elusennau sydd yn paratoi eu cyfrifon yn unol â'r Safon Adrodd Ariannol sy'n gymwys yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon (FRS 102) (daeth i rym 1 Ionawr 2019).

AMCANION A GWEITHGAREDDAU Amcanion ac amcanion

Pwrpas Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn, y cwmni, yw hyrwyddo a meithrin addysg a hyfforddiant yr iaith, diwylliant a llenyddiaeth Gymraeg, yng Nghymru. Mae'r cwmni'n cael ei redeg yn bennaf yn y Ganolfan Genedlaethol Iaith a Threftadaeth yn Nant Gwrtheyrn, ger Llithfaen, ond weithiau cynhelir gweithgareddau mewn canolfannau eraill pan fo angen.

Budd y cyhoedd

Mae'r ymddiriedolwyr yn cadarnhau eu bod wedi cydymffurfio â'r dyletswyddau a nodir yn adran 17(5) o Ddeddf Elusennau 2011, sef rhoi sylw dyledus i'r canllawiau budd cyhoeddus a gyhoeddir gan y Comisiwn Elusennau.

ADOLYGIAD ARIANNOL

Sefyllfa ariannol

Daeth y cwmni elusennol i ddiwedd y flwyddyn gyda gwarged o incwm dros wariant o £20,589 (2023: gwariant uwch nag incwm o £5,790).

Prif ffynonellau ariannu

Daeth prif ffynhonnell ariannu yr amcanion elusennol o'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, gyda defnydd strategol o asedau a lleoliad y cwmni yn ategu hyn. h.y. yn ogystal â ac mewn cefnogaeth i’r prif amcanion, cynhaliwyd rhai gweithgareddau masnachol cyfyngedig, gyda'r gweithgareddau hyn yn cynnwys gweithredu Caffi Meinir, defnyddio'r safle fel lleoliad priodas, a phan fydd lle yn caniatáu, rhywfaint o osod fel llety gwyliau cyfyngedig.

Polisi wrth gefn

Polisi'r cwmni yw cynnal cronfa wrth gefn ddigonol, er mwyn ei alluogi i gyflawni ei amcanion elusennol, bodloni ei ofynion beunyddiol parhaus, a chronni digon o arian i gynnal ac uwchraddio'r cyfleusterau y mae'n gweithredu ohonynt. Nôd y polisi wrth gefn presennol yw cynnal gwarchodfa sy'n cyfateb i bedwar mis o'r costau rhedeg presennol.

Ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, roedd cyfanswm y cronfeydd arian yn dod i £4,056,552 (2023: £4,035,963), ac roedd y cronfeydd rhydd wrth gefn, sydd yn eithrio asedau sefydlog a chronfeydd cyfyngedig, yn dod i £541,295 (2023: £593,347), gyda hyn yn dod i oddeutu pedwar mis o'r gwariant a wnaethpwyd yn y flwyddyn gyfredol.

STRWYTHUR, LLYWODRAETHU A RHEOLI

Dogfen lywodraethol

Rheolir y cwmni elusennol gan ei ddogfennau llywodraethu, ei Femorandwm a'i Erthyglau Cymdeithasu, dyddiedig 21 Hydref 1999, a ddiwygiwyd 5 Gorffennaf 2023. Cwblhawyd y cofrestriad gyda’r Comisiwn Elusennau ar 10 Rhagfyr 1999. Felly mae'n gwmni cyfyngedig elusennol, sydd yn gyfyngedig drwy warant, fel y diffinnir gan Ddeddf Cwmnïau 2006, ac mae'r datganiadau ariannol wedi'u paratoi yn unol â gofynion sydd yn berthnasol i gwmni elusennol.

Tudalen 2

Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn

Adroddiad yr Ymddiriedolwyr ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2024

STRWYTHUR, LLYWODRAETHU A RHEOLI Strwythur sefydliadol

Bwrdd yr ymddiriedolwyr sydd yn penderfynu ar bolisi a chyfeiriad cyffredinol y cwmni, ond dirprwyir y rheolaeth o ddydd i ddydd i'r Prif Weithredwr. Mae'r bwrdd felly yn ystyried mai personél rheoli allweddol yr elusen yw’r Prif Weithredwr a'r rheolwyr adrannol.

Sefydlu a hyfforddi ymddiriedolwyr newydd

Mae aelodaeth y cwmni yn agored i unrhyw unigolyn neu gorff sydd â diddordeb mewn hyrwyddo ei amcanion, sy'n gwneud cais i'r cwmni elusennol yn y ffurflen briodol ac yn derbyn cymeradwyaeth y bwrdd ymddiriedolwyr.

Mae gan y cwmni broses i sefydlu ymddiriedolwyr newydd. Etholir aelodau a swyddogion i'r bwrdd yn y Cyfarfod Blynyddol. Yr ymddiriedolwyr (y bwrdd), a all ddim fod yn fwy nag 12 mewn nifer, sydd yn rheoli'r cwmni, ei eiddo a'i arian. Mae gan y bwrdd hawl i gyfethol aelodau sydd â gwybodaeth neu ddiddordeb arbennig mewn maes perthnasol. Bydd unrhyw strategaethau a fabwysiadwyd yn cael eu gweithredu gan y staff. Cynhelir cyfarfodydd o leiaf bedair gwaith y flwyddyn.

Mae asesiad risg llawn ar gyfer Iechyd a Diogelwch wedi'i gwblhau.

MANYLION CYFEIRIO A GWEINYDDOL Rhif cwmni cofrestredig 03865538 (Cymru)

Rhif Elusen Gofrestredig 1078543

Swyddfa gofrestredig

Canolfan Nant Gwrtheyrn Nant Gwrtheyrn Llithfaen Pwllheli Gwynedd LL53 6NL

Ymddiriedolwyr

Ms R Ceiri Dylunydd Mr M J Croydon Darlithydd Mrs G Griffith Rheolwr-Gyfarwyddwr (ymadawedig 1.7.24) Mrs E A Hughes Dylunydd Mewnol Mrs J Iwan Cyfarwyddwr Cwmni Mr W G Jones Wedi Ymddeol Mrs E M Jones Prif Reolwr (ymddiswyddo 7.12.24) Mr D H Jones Ymgynghorydd Mr G L Lewis Cyfarwyddwr Dr Greg Stevenson Cyfarwyddwr (penodi 1.7.24 ymddiswyddo 7.12.24)

Ysgrifennydd y Cwmni

Mrs P M Ellis (ymddiswyddo 1.7.24) Mr G L Lewis (penodi 1.7.24)

Tudalen 3 7

Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn

Adroddiad yr Ymddiriedolwyr

ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2024

MANYLION CYFEIRIO A GWEINYDDOL Prif Archwilydd Statudol

David Chidley

Archwiliwr

WJ Matthews a’i fab

11-15 Y Bont Bridd Caernarfon Gwynedd LL55 1AB

Cyfreithwyr

Ellis Davies & Co 27 Stryd Bangor Caernarfon Gwynedd

DATGANIAD O GYFRIFOLDEBAU'R YMDDIRIEDOLWYR

Mae'r ymddiriedolwyr (sydd hefyd yn gyfarwyddwyr Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn at ddibenion cyfraith cwmnïau) yn gyfrifol am baratoi Adroddiad yr Ymddiriedolwyr a'r datganiadau ariannol yn unol â'r gyfraith berthnasol a Safonau Cyfrifo'r Deyrnas Unedig (Arfer Cyfrifeg a Dderbynnir yn Gyffredinol y Deyrnas Unedig) gan gynnwys Safon Adrodd Ariannol 102 "Y Safon Adrodd Ariannol sy'n gymwys yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon".

Mae cyfraith cwmnïau yn ei gwneud yn ofynnol i'r ymddiriedolwyr baratoi datganiadau ariannol ar gyfer pob blwyddyn ariannol sy'n rhoi darlun cywir a theg o gyflwr materion y cwmni elusennol ac adnoddau sy'n dod i mewn a'u cymhwyso, gan gynnwys incwm a gwariant, y cwmni elusennol am y cyfnod hwnnw. Wrth baratoi'r datganiadau ariannol hynny, mae'n ofynnol i'r ymddiriedolwyr:

Mae'r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am gadw cofnodion cyfrifyddu priodol sy'n datgelu sefyllfa ariannol y cwmni elusennol yn rhesymol gywir ar unrhyw adeg ac i'w galluogi i sicrhau bod y datganiadau ariannol yn cydymffurfio â Deddf Cwmnïau 2006. Maent hefyd yn gyfrifol am ddiogelu asedau'r cwmni elusennol ac felly am gymryd camau rhesymol i atal a datgelu twyll ac afreoleidd-dra eraill.

I'r graddau y mae'r ymddiriedolwyr yn ymwybodol:

Tudalen 4

Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn

Adroddiad yr Ymddiriedolwyr ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2024

ARCHWILWYR

Bydd yr archwiliwr, WJ Matthews a’i fab, yn cael eu cynnig i'w hailbenodi yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol eleni.

Cymeradwywyd drwy orchymyn y bwrdd ymddiriedolwyr ar .............................................

Llofnodwyd ar ei ran gan:

.......................................................... Mr G L Lewis - Ysgrifennydd

Tudalen 5 4

Adroddiad yr Archwilwyr Annibynnol i Aelodau Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn

Barn

Rydym wedi archwilio datganiadau ariannol Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn (y ‘cwmni elusennol’) ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2024 sy’n cynnwys y Datganiad o Weithgareddau Ariannol, y Fantolen, y Datganiad Llif Arian a nodiadau’r datganiadau ariannol, gan gynnwys crynodeb o bolisïau cyfrifyddu arwyddocaol. Y fframwaith adrodd ariannol a ddefnyddiwyd wrth eu paratoi yw'r gyfraith berthnasol a Safonau Cyfrifyddu'r Deyrnas Unedig (Yr Arferion Cyfrifyddu a Dderbynnir yn Gyffredinol yn y Deyrnas Unedig), gan gynnwys Safon Adrodd Ariannol 102 'Y Safon Adrodd Ariannol sy'n berthnasol yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon'.

Yn ein barn ni, mae’r datganiadau ariannol:

Sail y farn

Cynhaliwyd ein harchwiliad gennym yn unol â’r Safonau Archwilio Rhyngwladol (y DU) (ISAs (DU)) a chyfraith berthnasol. Disgrifir ein cyfrifoldebau o dan y safonau hynny ymhellach yn yr adran cyfrifoldebau'r Archwilwyr am archwilio datganiadau ariannol yn ein hadroddiad. Rydym yn annibynnol o’r cwmni elusennol yn unol â’r gofynion moesegol sy’n berthnasol i’n harchwiliad o’r datganiadau ariannol yn y DU, gan gynnwys Safon Foesegol yr FRC, ac rydym wedi cyflawni ein cyfrifoldebau moesegol eraill yn unol â’r gofynion hyn. Credwn fod y dystiolaeth archwilio a gawsom yn ddigonol ac yn briodol i ddarparu sail ar gyfer ein barn.

Casgliadau yn ymwneud â busnes gweithredol

Wrth archwilio’r datganiadau ariannol, rydym wedi dod i’r casgliad bod defnydd yr ymddiriedolwyr o’r sail busnes gweithredol o gyfrifyddu wrth baratoi’r datganiadau ariannol yn briodol.

Yn seiliedig ar y gwaith rydym wedi'i gyflawni, nid ydym wedi nodi unrhyw ansicrwydd sylfaenol sy'n ymwneud â digwyddiadau neu amodau a allai, yn unigol neu ar y cyd, fwrw amheuaeth sylweddol ar allu'r cwmni elusennol i barhau fel busnes gweithredol am gyfnod o ddeuddeng mis o leiaf o'r dyddiad pryd bydd y datganiadau ariannol yn cael eu hawdurdodi i'w cyhoeddi.

Disgrifir ein cyfrifoldebau a chyfrifoldebau’r ymddiriedolwyr mewn perthynas â busnes gweithredol yn adrannau perthnasol yr adroddiad hwn.

Gwybodaeth arall

Mae'r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am yr wybodaeth arall. Mae'r wybodaeth arall yn cynnwys yr wybodaeth a gynhwysir yn yr Adroddiad Blynyddol, ac eithrio'r datganiadau ariannol a'n hadroddiad fel Archwilwyr Annibynnol arnynt.

Nid yw ein barn ar y datganiadau ariannol yn cwmpasu’r wybodaeth arall ac, ac eithrio i’r graddau a nodir fel arall yn benodol yn ein hadroddiad, nid ydym yn mynegi unrhyw fath o gasgliad sicrwydd arnynt.

Tudalen 6

Adroddiad yr Archwilwyr Annibynnol i Aelodau Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn

Gwybodaeth arall - parhad

Mewn cysylltiad â’n harchwiliad o’r datganiadau ariannol, ein cyfrifoldeb ni yw darllen yr wybodaeth arall ac, wrth wneud hynny, ystyried a yw’r wybodaeth arall yn sylfaenol anghyson â’r datganiadau ariannol neu a yw’n ymddangos bod ein gwybodaeth a gafwyd yn yr archwiliad neu fel arall wedi’i chamddatgan yn sylfaenol. Os byddwn yn nodi anghysondebau sylfaenol o'r fath neu gamddatganiadau sylfaenol ymddangosiadol, mae'n ofynnol i ni benderfynu a yw hyn yn arwain at gamddatganiad sylfaenol yn y datganiadau ariannol eu hunain. Os byddwn yn dod i'r casgliad, yn seiliedig ar y gwaith rydym wedi'i wneud, bod camddatganiad sylfaenol o'r wybodaeth arall hon, mae'n ofynnol i ni adrodd y ffaith honno. Nid oes gennym ddim i’w adrodd yn y cyswllt hwn.

Barn ar faterion eraill a ragnodir gan Ddeddf Cwmnïau 2006

Yn ein barn ni, ar sail y gwaith a wnaed yn ystod yr archwiliad:

Materion y mae'n ofynnol i ni adrodd arnynt drwy eithriad

Yng ngoleuni'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth o'r cwmni elusennol a'i amgylchedd a sicrhawyd yn ystod yr archwiliad, nid ydym wedi nodi camddatganiadau sylfaenol yn Adroddiad yr Ymddiriedolwyr.

Nid oes gennym unrhyw beth i’w adrodd mewn perthynas â’r materion canlynol lle mae Deddf Cwmnïau 2006 yn datgan ei bod yn ofynnol i ni adrodd i chi os, yn ein barn ni:

Cyfrifoldebau’r ymddiriedolwyr

Fel yr eglurir yn llawnach yn y Datganiad o Gyfrifoldebau’r Ymddiriedolwyr, yr ymddiriedolwyr (sydd hefyd yn gyfarwyddwyr y cwmni elusennol at ddibenion y gyfraith cwmnïau) sy’n gyfrifol am baratoi’r datganiadau ariannol ac am fod yn fodlon eu bod yn cyflwyno darlun cywir a teg, ac am unrhyw reolaeth fewnol o’r fath y mae’r ymddiriedolwyr yn penderfynu sy’n angenrheidiol er mwyn gallu paratoi datganiadau ariannol sy’n rhydd o gamddatganiadau sylfaenol, boed hynny drwy dwyll neu gamgymeriad.

Wrth baratoi’r datganiadau ariannol, mae’r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am asesu gallu’r cwmni elusennol i barhau fel busnes gweithredol, gan ddatgelu, fel sy’n berthnasol, faterion sy’n ymwneud â busnes gweithredol a defnyddio sail busnes gweithredol i gyfrifyddu oni bai bod yr ymddiriedolwyr naill ai’n bwriadu diddymu’r cwmni elusennol neu roi'r gorau i weithredu, neu os nad oes ganddynt ddewis arall realistig heblaw am wneud hynny.

Tudalen 7

Adroddiad yr Archwilwyr Annibynnol i Aelodau Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn

Ein cyfrifoldebau am archwilio’r datganiadau ariannol

Ein hamcanion yw cael sicrwydd rhesymol ynghylch a yw’r datganiadau ariannol yn eu cyfanrwydd yn rhydd o gamddatganiadau sylfaenol, boed hynny oherwydd twyll neu gamgymeriad, a chyhoeddi Adroddiad yr Archwilwyr Annibynnol sy’n cynnwys ein barn. Mae sicrwydd rhesymol yn lefel uchel o sicrwydd, ond nid yw’n warant y bydd archwiliad a gynhelir yn unol ag ISAs (DU) bob amser yn canfod camddatganiad sylfaenol pan fydd yn bodoli. Gall camddatganiadau ddeillio o dwyll neu gamgymeriad ac maent yn cael eu hystyried yn sylfaenol os gellid, yn unigol neu ar y cyd, rhesymol ddisgwyl iddynt ddylanwadu ar benderfyniadau economaidd defnyddwyr a wneir ar sail y datganiadau ariannol hyn.

Manylir isod ar i ba raddau mae ein gweithdrefnau’n gallu canfod afreoleidd-dra, gan gynnwys twyll:

Adnabod ac asesu risgiau posibl yn ymwneud ag afreoleidd-dra

Wrth adnabod ac asesu risgiau camddatganiad sylfaenol mewn perthynas ag afreoleidd-dra, gan gynnwys twyll a diffyg cydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau, aethom ati i ystyried y canlynol:

Adnabod ac asesu risgiau posibl:

O ganlyniad i'r gweithdrefnau hyn, aethom ati i ystyried y cyfleoedd a'r cymhellion a all fodoli o fewn y cwmni elusennol ar gyfer twyll a nodi'r potensial mwyaf i dwyll fod mewn perthynas â chydnabod refeniw, gyda gweithdrefnau penodol yn cael eu cyflawni yma. Yn ogystal, ac yn gyffredin â phob archwiliad o dan ISAs (DU), mae hefyd yn ofynnol i ni gyflawni gweithdrefnau penodol i ymateb i’r risg o ddiystyru rheolwyr.

Sicrhawyd dealltwriaeth gennym hefyd o'r fframweithiau cyfreithiol a rheoleiddiol y mae'r cwmni elusennol yn gweithredu oddi mewn iddynt, gan ganolbwyntio ar ddarpariaethau'r cyfreithiau a'r rheoliadau hynny a gafodd effaith uniongyrchol ar bennu symiau a datgeliadau sylfaenol yn y datganiadau ariannol. Roedd y cyfreithiau a’r rheoliadau allweddol a ystyriwyd gennym yn y cyddestun hwn yn cynnwys Deddf Cwmnïau 2006, UK GAAP ac unrhyw gyfreithiau a rheoliadau eraill nad ydynt efallai’n cael effaith uniongyrchol ar y datganiadau ariannol, ond y gallai cydymffurfiaeth â hwy fod yn sylfaenol i allu’r cwmni elusennol i weithredu neu i osgoi cosb faterol.

Tudalen 8 7 8

Adroddiad yr Archwilwyr Annibynnol i Aelodau Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn

Ymateb yr archwiliad i risgiau a nodwyd

Roedd ein gweithdrefnau i ymateb i risgiau a nodwyd yn cynnwys y canlynol:

Aethom ati hefyd i gyfleu cyfreithiau a rheoliadau perthnasol a nodwyd a risgiau twyll posibl i bob aelod o’r tîm ymgysylltu, ac roeddem yn gyson effro i unrhyw arwyddion o dwyll neu ddiffyg cydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau drwy gydol yr archwiliad.

Ceir disgrifiad pellach o'n cyfrifoldebau am archwilio'r datganiadau ariannol ar wefan y Cyngor Adrodd Ariannol yn www.frc.org.uk/auditorsresponsibilities. Mae'r disgrifiad hwn yn rhan o Adroddiad yr Archwilwyr Annibynnol.

Defnydd o'n hadroddiad

Mae'r adroddiad hwn yn cael ei wneud i aelodau'r cwmni elusennol yn unig, fel corff, yn unol â Phennod 3 o Ran 16 Deddf Cwmnïau 2006. Mae ein gwaith archwilio wedi cael ei gwblhau er mwyn i ni allu datgan i aelodau'r cwmni elusennol y materion hynny y mae'n ofynnol i ni eu datgan iddynt mewn adroddiad archwilwyr ac nid at unrhyw ddiben arall. I’r graddau llawnaf a ganiateir gan y gyfraith, nid ydym yn derbyn nac yn ysgwyddo cyfrifoldeb i unrhyw un ac eithrio’r cwmni elusennol ac aelodau’r cwmni elusennol fel corff, am ein gwaith archwilio, am yr adroddiad hwn, ac am y farn a ffurfiwyd gennym.

David Chidley (Prif Archwilydd Statudol) ar gyfer ac ar ran

WJ Matthews a’i fab

Archwilwr Statudol 11-15 Y Bont Bridd Caernarfon Gwynedd. LL55 1AB

Dyddiad: .............................................

Tudalen 9 8

Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn

Datganiad o weithgareddau ariannol (Yn cynnwys cyfrif incwm a gwariant) ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2024

31.12.24 31.12.23
Cronfa Cronfa Cyfanswm Cyfanswm
Anghyfyngedig Cyfyngedig Cronfeydd Cronfeydd
Nodyn
£
£ £ £
INCWM A GWADDODION O
Rhoddion a chymynroddion 2 4,434 - 4,434 12,644
Gweithgareddau elusennol 5
Addysg a hyfforddiant 734,456 85,543 819,999 619,998
Gweithgareddau masnachu eraill 3 992,606 - 992,606 876,962
Incwm buddsoddi 4 24,778 - 24,778 22,357
Incwm arall 58,393 - 58,393 9,756
Cyfanswm 1,814,667 85,543 1,900,210 1,541,717
GWARIANT AR
Codi arian 6 272,295 - 272,295 265,681
Gweithgareddau elusennol 7
Addysg a hyfforddiant 1,446,570 7,938 1,454,508 1,141,980
Arall 147,923 4,895 152,818 139,846
Cyfanswm 1,866,788 12,833 1,879,621 1,547,507
INCWM NET/(GWARIANT) (52,121) 72,710 20,589 (5,790)
CYMODI CRONFEYDD
Cyfanswm y cronfeydd a ddaeth ymlaen 3,806,233 229,730 4,035,963 4,041,753
CYFANSWM YR ARIAN A GARIWYD
YMLAEN 3,754,112 302,440 **4,056,552 ** 4,035,963

GWEITHREDIADAU PARHAUS

Mae'r holl incwm a gwariant wedi codi o weithgareddau parhaus.

Tudalen109

Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn

Mantolen 31 Rhagfyr 2024

Mantolen
31 Rhagfyr 2024
31.12.24 31.12.23
Cronfa Cronfa Cyfanswm Cyfanswm
Anghyfyngedig Cyfyngedig Cronfeydd Cronfeydd
Nodyn
£
£ £ £
ASEDAU SEFYDLOG
Asedau gweladwy 13 3,212,817 72,710 3,285,527 3,212,885
Buddsoddiadau
Buddsoddiad mewn is-gwmni 14 100 - 100 100
Eiddo buddsoddiadol 15 - 229,730 229,730 229,730
3,212,917 302,440 3,515,357 3,442,715
ASEDAU CYFREDOL
Stoc wrth law 16 17,516 - 17,516 10,412
Dyledwyr 17 102,619 - 102,619 60,898
Arian mewn llaw ac yn y banc 923,225 - 923,225 979,224
1,043,360 - 1,043,360 1,050,534
CREDYDWYR
Symiau’n ddyledus o fewn blwyddyn 18 **(397,228) ** - **(397,228) ** (345,695)
ASEDAU CYFREDOL NET 646,132 - 646,132 704,839
CYFANSWM ASEDAU, LLAI
CREDYDWYR CYFREDOL 3,859,049 302,440 4,161,489 4,147,554
CREDYDWYR
Symiau’n ddyledus mewn mwy na
deuddeg mis 19 (104,937) - (104,937) (111,591)
ASEDAU NET 3,754,112 302,440 **4,056,552 ** 4,035,963
CRONFEYDD 23
Cronfeydd anghyfyngedig 3,754,112 3,806,233
Cronfeydd cyfyngedig 302,440 229,730
CYFANSWM Y CRONFEYDD 4,056,552 4,035,963

Tudalen 1110

Parhau...

Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn

Mantolen - parhad

31 Rhagfyr 2024

Mae'r datganiadau ariannol hyn wedi'u paratoi yn unol â'r darpariaethau sy'n berthnasol i gwmnïau elusennol bach, yn unol a’r darpariaethau arbennig yn rhan 15 o’r Ddeddf Cwmnïau 2006.

Cytunwyd ar y datganiadau ariannol gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr ac awdurdodwyd eu cyhoeddi ar................................ ac fe’i llofnodwyd ar ran y Bwrdd gan:

............................................. Mr D H Jones - Ymddiriedolwr

Tudalen 12

Parhau...11

Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn

Datganiad Llif Arian
ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2024

31.12.24
£
238,462
(11,646)
226,816
(225,460)
24,778
(200,682)
(82,133)
(82,133)
(55,999)
979,224
923,225
31.12.23
£
109,070
(15,520)
93,550
(102,999)
22,357
(80,642)
(77,869)
(77,869)
(64,961)
1,044,185
979,224

Nodyn
Llif arian o weithgareddau
gweithredol
Arian a gynhyrchwyd o
weithrediadau
i
Llog a dalwyd
Arian net a ddarperir gan
weithgareddau gweithredu
Llif arian o weithgareddau buddsoddi
Pryniant o asedau sefydlog gweladwy
Llog a dderbyniwyd
Arian net a ddefnyddir mewn
gweithgareddau buddsoddi
Llif arian o weithgareddau ariannu
Ad-daliadau benthyciadau yn y flwyddyn
Arian net a ddefnyddir mewn
gweithgareddau ariannu
Newid mewn arian parod a
chyfwerthiannau parod yn y
cyfnod adrodd
Arian parod a chyfwerthiadau
arian ar ddechrau'r cyfnod adrodd
Arian parod a chyfwerthiadau
arian ar ddiwedd y cyfnod adrodd

Tudalen 1312

Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn

Nodiadau i’r Llif Arian

ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2024

(i). CYSONI (GWARIANT) / INCWM NET I LIF ARIAN NET O WEITHGAREDDAU GWEITHREDOL

Incwm/(gwariant) net ar gyfer y cyfnod adrodd
(yn unol â'r Datganiad o Weithgareddau Ariannol)
Newidiadau am:
Costau dibrisiant
Llog a dderbyniwyd
Llog a dalwyd
(Cynnydd)/Lleihad mewn stoc
Cynnydd mewn dyledwyr
Cynnydd/(Lleihad) mewn credydwyr
Arian net a ddarperir gan weithrediadau
31.12.24
£
20,589
152,818
(24,778)
11,646
(7,104)
(41,721)
127,012
238,462
31.12.23
£
(5,790)
139,846
(22,357)
15,520
6,046
(18,400)
(5,795)
109,070

(ii). DADANSODDIAD O NEWIDIADAU MEWN CRONFEYDD NET

Arian net
Arian mewn llaw ac yn y banc
Benthyciadau
Yn daliadwy o fewn blwyddyn
Yn daliadwy mewn mwy na blwyddyn
Cyfanswm
Ar 1.1.24
£
979,224
979,224
(91,545)
(111,591)
(203,136)
776,088
Llif arian
£
(55,999)
(55,999)
75,479
6,654
82,133
26,134
Ar 31.12.24
£
923,225
923,225
(16,066)
(104,937)
(121,003)
802,222

Tudalen 1413

Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn

Nodiadau i'r Datganiadau Ariannol ar gyfer y Flwyddyn a Ddaeth i Ben ar 31 Rhagfyr 2024

1. POLISÏAU CYFRIFO

Sail paratoi'r datganiadau ariannol

Paratowyd datganiadau ariannol y cwmni elusennol, sy'n endid budd cyhoeddus oddi tan FRS 102, yn unol â'r SORP Elusennol (FRS 102) 'Cyfrifeg ac Adrodd gan Elusennau: Datganiad o Ymarfer a Argymhellir sy'n berthnasol i elusennau sydd yn paratoi eu cyfrifon yn unol â'r Safon Adrodd Ariannol sy'n gymwys yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon (FRS 102) (daeth i rym 1 Ionawr 2019)', Safon Adrodd Ariannol 102 'Y Safon Adrodd Ariannol sy'n gymwys yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon' a Deddf Cwmnïau 2006. Paratowyd y datganiadau ariannol oddi tan y confensiwn cost hanesyddol, ac eithrio buddsoddiadau sydd wedi'u cynnwys ar werth y farchnad. Nid oedd ansicrwydd ynghylch a all yr elusen i barhau mewn busnes.

Paratoi datganiadau ariannol cyfunol

Mae'r datganiadau ariannol yn cynnwys gwybodaeth am Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn fel cwmni unigol ac nid ydynt yn cynnwys gwybodaeth ariannol gyfunol fel rhiant i grŵp. Mae'r elusen wedi'i heithrio o dan Adran 399(2A) o Ddeddf Cwmnïau 2006 o'r gofynion i baratoi datganiadau ariannol cyfunol.

Dyfarniadau cyfrifeg beirniadol a ffynonellau allweddol o ansicrwydd amcangyfrif

Wrth baratoi'r adroddiadau ariannol, mae'n rhaid i'r rheolwyr wneud dyfarniadau, amcangyfrifon a phenderfyniadau sy'n effeithio ar y ffigurau sy'n cael eu hadrodd. Mae'r amcangyfrifon a'r dyfarniadau hyn yn cael eu hadolygu'n rheolaidd ac maent yn seiliedig ar brofiad a ffactorau eraill, gan gynnwys disgwyliadau o ddigwyddiadau yn y dyfodol y credir eu bod yn rhesymol oddi tan yr amgylchiadau.

Incwm

Mae arian sy'n dod i fewn yn cael eu cynnwys yn y datganiad o weithgareddau ariannol pan fydd yr hawl i'r incwm wedi'i drosglwyddo i'r cwmni elusennol. Dilynir y polisïau penodol canlynol:-

Tudalen 1514

Parhau...

Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn

Nodiadau i'r Datganiadau Ariannol ar gyfer y Flwyddyn a Ddaeth i Ben ar 31 Rhagfyr 2024

1. POLISÏAU CYFRIFO – parhad

Gwariant

Cydnabyddir rhwymedigaethau fel gwariant cyn gynted ag y bydd rhwymedigaeth gyfreithiol neu adeiladol yn ymrwymo'r elusen i'r gwariant hwnnw, mae'n debygol y bydd angen trosglwyddo buddion economaidd wrth setlo a gellir mesur swm y rhwymedigaeth yn ddibynadwy. Cyfrifir gwariant ar sail croniadau ac fe'i dosbarthwyd o dan benawdau sy'n cydgrynhoi'r holl gostau sy'n gysylltiedig â'r categori. Lle na ellir priodoli'r costau'n uniongyrchol i benawdau penodol, fe'u dyrannwyd i weithgareddau ar sail sy'n gyson â'r defnydd o adnoddau.

Mae taliadau prydles gweithredol yn cael eu cydnabod fel cost dros gyfnod y cytundeb ac fe'u cofnodir ar sail llinell syth.

Asedau sefydlog gweladwy

Eiddo, Peiriannau ac Offer

Cofnodir asedau sefydlog i ddechrau yn ôl eu cost, ac yna fe'u nodir ar eu cost llai dibrisiant a namau. Mae unrhyw asedau sefydlog sydd wedi cael eu hailbrisio yn cael eu cofnodi ar eu gwerth teg ar ddyddiad prisio, ac llai dibrisiant cronedig ac unrhyw addasiadau am nam.

Mae asedau sefydlog, oddi tan y model cost, yn cael eu datgan ar gost hanesyddol llai dibrisiant cronedig ac unrhyw golledion nam cronedig. Mae cost hanesyddol yn cynnwys gwariant y gellir ei briodoli'n uniongyrchol i ddod â'r ased i'r lleoliad a'r amod sy'n angenrheidiol er mwyn iddo allu gweithredu yn y modd a fwriadwyd gan reolwyr. Mae unrhyw asedau sefydlog sydd wedi cael eu hailbrisio yn cael eu cofnodi ar eu gwerth teg ar ddyddiad prisio, llai dibrisiant cronedig ac unrhyw addasiadau am namau.

Nid yw'r tir yn cael ei ddibrisio. Darperir dibrisiant ar asedau eraill ar y cyfraddau blynyddol canlynol er mwyn dyrannu cost yr asedau, llai eu gwerth gweddilliol, dros y bywyd defnyddiol a amcangyfrifed:

Safle’r Nant - 1% - 20% ar sail llinell syth Offer a pheiriannau ayyb - 5% - 20% ar sail llinell syth

Mae gwerthoedd gweddilliol, bywydau defnyddiol a dulliau dibrisiant yr asedau'n cael eu hadolygu, a'u haddasu fel y bo'n briodol, neu os oes arwydd o newid arwyddocaol ers y dyddiad adrodd diwethaf.

Mae enillion a cholledion ar warediadau yn cael eu pennu trwy gymharu'r enillion â'r swm cario ac yn cael eu cydnabod yn y daflen incwm a gwariant.

Buddsoddiadau asedau sefydlog

Caiff buddsoddiadau rhestredig eu mesur ar eu gwerth teg gyda'r newid yn y prisiad a gofnodir fel incwm neu wariant ar y datganiad o weithgareddau ariannol. Os nad oes modd mesur gwerth teg, yna fe'u cofnodir ar eu cost llai o amhariad. Cofnodir buddsoddiadau heb eu rhestru, fel cyfalaf cyfranddaliadau yr is-gwmni segur, ar gost.

Eiddo buddsoddiadol

Dangosir eiddo buddsoddiadol ar eu prisiad diweddaraf. Mae unrhyw warged neu ddiffyg cyfanredol sy'n deillio o newidiadau mewn gwerth teg yn cael eu cydnabod yn y datganiad o weithgareddau ariannol.

Tudalen 1615

Parhau...

Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn

Nodiadau i'r Datganiadau Ariannol - parhad ar gyfer y Flwyddyn a Ddaeth i Ben ar 31 Rhagfyr 2024

1. POLISÏAU CYFRIFO – parhad

Stoc wrth law

Mae stoc yn cael eu prisio ar yr isaf o’u cost isaf a gwerth gwirioneddu net, ar ôl gwneud lwfans dyledus ar gyfer eitemau darfodedig a symud yn araf.

Trethiant

Mae'r elusen wedi'i heithrio rhag treth gorfforaeth ar ei gweithgareddau elusennol. Mae’r elusen wedi ei chofrestru am dreth ar werth, felly lle bynnag y bydd yn briodol, bydd y ffigyrau yn y ddogfen hon yn cael eu dangos yn net o’r dreth hon.

Cronfeydd

Gellir defnyddio cronfeydd anghyfyngedig yn unol â'r amcanion elusennol ac yn ôl disgresiwn yr ymddiriedolwyr. Mae'r cronfeydd dynodedig yn gronfeydd anghyfyngedig sydd wedi'u clustnodi gan yr ymddiriedolwyr ar gyfer prosiect penodol neu gyfnod yn y dyfodol.

Dim ond at ddibenion cyfyngedig penodol y gellir defnyddio arian cyfyngedig o fewn amcanion yr elusen. Mae cyfyngiadau'n codi pan bennir gan y rhoddwr neu pan godir arian at ddibenion cyfyngedig penodol.

Mae esboniad pellach o natur a phwrpas pob cronfa wedi'i gynnwys yn y nodiadau i'r datganiadau ariannol.

Llogi ymrwymiadau prynu a phrydlesu

Codir rhenti a delir oddi tan prydlesi gweithredol i'r datganiad o weithgareddau ariannol ar sail llinell syth dros gyfnod y les.

Costau pensiwn a budd-daliadau ôl-ymddeol eraill

Mae'r cwmni elusennol yn gweithredu cynllun pensiwn cyfraniadau diffiniedig. Codir cyfraniadau sy'n daladwy i gynllun pensiwn y cwmni elusennol i'r datganiad o weithgareddau ariannol yn y cyfnod y maent yn perthyn iddo.

Taliadau terfynu

Mae taliadau terfynu yn cael eu cydnabod fel treuliau pan fydd gan yr elusen rwymedigaeth gyfreithiol neu adeiladol i wneud taliadau o'r fath. Mae'r rhwymedigaeth hon yn codi pan fydd cynllun diswyddo neu drefniant terfynu ffurfiol wedi'i gyfathrebu i'r gweithwyr dan sylw, gan greu disgwyliad dilys o daliad. Mae taliadau terfynu yn cael eu mesur yn seiliedig ar hawliau cytundebol neu statudol, yn ogystal ag unrhyw symiau ychwanegol disgresiynol a gymeradwywyd gan yr ymddiriedolwyr ac yn cael eu cynnwys yn y datganiadau ariannol o dan gostau staff.

2. RHODDION A CHYMYNRODDION

RHODDION A CHYMYNRODDION
31.12.24 31.12.23
£ £
Rhoddion 2,012 9,103
Ffrindiau’r Nant - 500
Grantiau - 300
Casglu tâl parcio gwirfoddol 2,422 2,741
4,434 12,644

Tudalen 17 16

Parhau...

Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn

Nodiadau i'r Datganiadau Ariannol - parhad ar gyfer y Flwyddyn a Ddaeth i Ben ar 31 Rhagfyr 2024

3.
GWEITHGAREDDAU MASNACHOL ERAILL
Llogi lleoliad a safle
Incwm arlwyo (caffi)
Incwm lletygarwch
Incwm bar
Gwerthu llyfrau
Rhentu nwyddau priodasol
Incwm adloniant
4.
INCWM BUDDSODDI
Llog banc a dderbyniwyd
5.
INCWM O WEITHGAREDDAU ELUSENNOL
Incwm o’r cyrsiau
Darlithoedd hanesyddol
Ymweliadau addysgol
Grantiau
Mae'r grantiau a dderbynnir, sydd wedi'u cynnwys
yn yr uchod, fel a ganlyn:
Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
Cronfa Treftadaeth (Prosiect Coed)
31.12.24
£
87,794
533,665
318,592
38,994
12,728
200
633
992,606
31.12.24
£
24,778
31.12.24
£
110,978
633
-
708,388
819,999
31.12.24
£
622,845
85,543
_
708,388
31.12.23
£
165,678
433,592
228,656
39,679
4,712
1,800
2,845
876,962
31.12.23
£
22,357
31.12.23
£
98,753
887
133
520,225
619,998
31.12.23
£
520,225
-
_
520,225

Tudalen 1817

Parhau...

Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn

Nodiadau i'r Datganiadau Ariannol - parhad ar gyfer y Flwyddyn a Ddaeth i Ben ar 31 Rhagfyr 2024

6. CODI ARIAN

Gweithgareddau masnachol eraill

Gweithgareddau masnachol eraill
31.12.24 31.12.23
£ £
Stoc a ddaeth ymlaen 10,412 16,457
Pryniant 279,399 259,939
Stoc ar ddiwedd y flwyddyn (17,516) (10,412)
Dyledion drwg - (303)
272,295 265,681
7. COSTAU GWEITHGAREDDAU ELUSENNOL
Costau
cefnogol
Costau (gweler
uniongyrchol
nodyn 8)
Cyfanswm
£ £ £
Addysg a hyfforddiant **1,382,964 ** 71,544 1,454,508
8. COSTAU CEFNOGOL
Costau
Cyllid
llywodraethu Cyfanswm
£ £ £
Ffi archwilio - 7,175 7,175
Ffioedd ymgynghorol, cyllidol a chyfreithiol - 38,130 38,130
Costau banc 14,593 - 14,593
Llog banc 11,646 - 11,646
26,239 45,305 71,544
9. INCWM/(GWARIANT) NET
Nodir incwm / (gwariant) net ar ôl codi talu / (credydu):
31.12.24 31.12.23
£ £
Dibrisiant - asedau 152,818 139,846
Llogi offer a pheiriannau 35,016 41,549
Prydlesi gweithredol eraill 250 250

Tudalen 1918

Parhau...

Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn

Nodiadau i'r Datganiadau Ariannol - parhad ar gyfer y Flwyddyn a Ddaeth i Ben ar 31 Rhagfyr 2024

10. TALIADAU ARCHWILIWR

TALIADAU ARCHWILIWR
31.12.24 31.12.23
£ £
Ffioedd sy'n daladwy i archwilwyr yr elusen am archwilio
datganiadau ariannol yr elusen 7,175 7,000

11. CYDNABYDDIAETH A BUDDION YR YMDDIRIEDOLWYR

Nid oedd unrhyw gydnabyddiaeth ariannol na buddion eraill ar gyfer y flwyddyn yn diweddu ar 31 Rhagfyr 2024, nac am y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2023.

Treuliau ymddiriedolwyr

Ni thalwyd treuliau i’r ymddiriedolwyr am y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2024 nac am y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2023.

12. COSTAU STAFF

Cyflogau
Yswiriant gwladol
Costau pensiwn
31.12.24
£
848,784
73,711
23,511
946,006
31.12.23
£
652,623
45,933
17,473
716,029

Roedd y nifer cyfartalog o weithwyr yn ystod y flwyddyn fel a ganlyn:

31.12.24 31.12.23
Rheolwyr allweddol 4 5
Gweithwyr eraill 47 36
51 41

Nifer y gweithwyr, lle y mae eu budd-daliadau gweithwyr (ac eithrio costau pensiwn cyflogwyr) yn fwy na £60,000 oedd:

31.12.24 31.12.23
£60,001 - £70,000 - 1
£70,001- £80,000 1 -

Mae bwrdd yr ymddiriedolwyr yn ystyried mai personél rheoli allweddol yr elusen yw'r Prif Weithredwr a'r rheolwyr adrannol. Cyfanswm buddion cyflogaeth, gan gynnwys yswiriant gwladol cyflogwyr a chyfraniadau pensiwn y personél rheoli allweddol oedd £204,381 (2023: £167,574) yn y flwyddyn.

Tudalen 2020

Parhau...

mddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn

Nodiadau i'r Datganiadau Ariannol - parhad ar gyfer y Flwyddyn a Ddaeth i Ben ar 31 Rhagfyr 2024

12. COSTAU STAFF parhau

Yn ystod y flwyddyn ariannol, gwnaed taliadau terfynu o £51,239 i ddau aelod o staff fel rhan o becynnau ymadael cytunedig. Roedd y taliadau hyn yn cynnwys iawndal diswyddo yn ogystal a £26,239 fel Taliad yn Lle Hysbysiad (PILON).

Gwnaed pob taliad terfynu yn unol â rhwymedigaethau cytundebol ac maent wedi’u cydnabod yn llawn yn y datganiadau ariannol. Nid oes unrhyw rwymedigaethau pellach yn weddill ar ddyddiad y fantolen.

13. ASEDAU SEFYDLOG GWELADWY

COST
Ar 1 Ionawr 2024
Ychwanegiadau
Ar 31 Rhagfyr 2024
DIBRISIAD
Ar 1 Ionawr 2024
Dibrisiant am y flwyddyn
Ar 31 Rhagfyr 2024
GWERTH LLYFR NET
Ar 31 Rhagfyr 2024
Ar 31 Rhagfyr 2023
Gosodiadau
Eiddo
a
Rhydd-ddaliadol Ffitiadau
Cyfanswm
£
£
£
7,640,537
348,646
7,989,183
178,973
46,487
225,460
7,819,510
395,133
8,214,643
4,612,286
164,012
4,776,298
118,788
34,030
152,818
4,731,074
198,042
4,929,116
3,088,436
197,091
3,285,527
3,028,251
184,634
3,212,885

Cafodd safle'r cwmni elusennol ei brisio, ar sail y farchnad agored, gan Christie & Co. ym mis Hydref 2019, gyda gwerth o £3.3m yn cael ei briodoli iddo. Mae'r bwrdd o'r farn fod hyn yn adlewyrchiad teg o'i werth presennol, ac felly mae'r bwrdd yn cytuno nad oes angen prisiad newydd, na newid am amhariad eleni.

14. BUDDSODDIADAU ASEDAU SEFYDLOG

BUDDSODDIADAU ASEDAU SEFYDLOG
Cyfranddaliadau
mewn
ymgymeriadau
grwp
£
GWERTH MARCHNAD
Ar 1 Ionawr 2024 a 31 Rhagfyr 2024 100
GWERTH LLYFR NET
Ar 1 Ionawr 2024 a 31 Rhagfyr 2024 100
Nid oedd unrhyw asedau buddsoddi y tu allan i'r Deyrnas Unedig.
Tudalen 2120 Parhau...

Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn

Nodiadau i'r Datganiadau Ariannol - parhad ar gyfer y Flwyddyn a Ddaeth i Ben ar 31 Rhagfyr 2024

14. BUDDSODDIADAU ASEDAU SEFYDLOG - parhad

Cwmni Nant Cyfyngedig

Swyddfa Cofrestredig: Nant Gwrtheyrn, Llithfaen, Gwynedd, LL53 6NL Natur y busnes: Ddim yn masnachu

%
Cyfranddaliadau: cyfanswm
100 o gyfranddaliadau cyffredin - £1
100
15.
EIDDO BUDDSODDIADOL
GWERTH TEG
Ar 1 Ionawr 2024
a 31 Rhagfyr 2024
GWERTH LLYFR NET
Ar 31 Rhagfyr 2024
Ar 31 Rhagfyr 2023
£
229,730
229,730
229,730

Manylion o’r eiddo buddsoddi:

Yn ystod 2007, trosglwyddwyd y tir ym Mhorth y Nant, Pistyll i'r cwmni fel rhodd gan Hanson Quarry Products Europe Ltd. Yn ôl y Bwrdd, a'r ddogfen sydd wedi ei chofrestru, nid oes gwerth i'r tir hwn. Hefyd yn ystod 2007, derbyniodd y cwmni elusennol rodd gan Ms Heulwen Richards o'r canlynol:-

Cafodd y tir a'r adeiladau cyfan eu prisio'n broffesiynol gan Dafydd Hardy MRICS ym mis Mai 2009, ond ers hynny mae'r ymddiriedolwyr wedi cadw llygad ar y farchnad leol, ac yn credu bod yr uchod yn frasamcan cywir o’u gwerth marchnad.

16. STOC

31.12.24 31.12.23
£ £
Stoc 17,516 10,412
17. DYLEDWYR: SYMIAU SY'N DDYLEDUS O FEWN BLWYDDYN
31.12.24 31.12.23
£ £
Dyledwyr masnachol 38,843 51,038
Blaendaliadau 6,873 9,860
Dyledwyr eraill 56,903 -
102,619 60,898
===== ======

Tudalen 2220

Parhau...

Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn

Nodiadau i'r Datganiadau Ariannol - parhad ar gyfer y Flwyddyn a Ddaeth i Ben ar 31 Rhagfyr 2024

18. CREDYDWYR: SYMIAU SY'N DDYLEDUS O FEWN BLWYDDYN

31.12.24
£
Benthyciadau banc a gorddrafftiau (gweler nodyn 20)
16,066
Credydwyr masnachol
80,439
Nawdd cymdeithasol a threthi eraill
26,041
Treth ar werth
5,775
Credydwyr eraill
6,620
Cyfalaf cyfranddaliadau yr is-gwmni
100
Incwm gohiriedig
219,398
Costau cronedig
42,789
397,228
19.
CREDYDWYR: SYMIAU SY'N DDYLEDUS AR ÔL MWY NA BLWYDDYN
31.12.24
£
Benthyciadau banc (gweler nodyn 20)
91,079
Benthyciadau Eraill (gweler nodyn 20)
13,858
104,937
20.
BENTHYCIADAU
Rhoddir dadansoddiad o aeddfedrwydd benthyciadau isod:
31.12.24
£
Symiau yn ddyledus, ar alw, o fewn blwyddyn:
Benthyciadau banc
16,066
Symiau sydd yn ddyledus o fewn blwyddyn i ddwy:
Benthyciadau banc - 1-2 flynedd
16,066
Symiau sydd yn ddyledus mewn dwy i bum mlynedd:
Benthyciadau banc - 2-5 mlynedd
48,198
Symiau sydd yn ddyledus ar ôl pum mlynedd:
Ad-daladwy drwy randdaliadau:
Benthyciad banc – mwy na 5 mlynedd
26,815
______
107,145
======
Benthyciadau eraill sydd yn ddyledus ar ôl pum mlynedd:
Benthyciadau eraill – mwy na 5 mlynedd
13,858
31.12.23
£
91,545
93,474
9,873
6,099
3,524
100
133,630
7,450
345,695
31.12.23
£
97,733
13,858
111,591
31.12.23
£
91,545
26,314
52,628
18,791
______
189,278
======
13,858

Tudalen 23

Parhau...

Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn

Nodiadau i'r Datganiadau Ariannol - parhad ar gyfer y Flwyddyn a Ddaeth i Ben ar 31 Rhagfyr 2024

21. CYTUNDEBAU PRYDLESU

Mae isafswm taliadau prydles oddi tan brydlesi gweithredol a na ellir eu canslo yn ddyledus fel a ganlyn:

31.12.24 31.12.23
£ £
O fewn blwyddyn 11,029 11,029
Rhwng 1 a 5 mlynedd 25,478 38,864
36,507 49,893

22. DYLEDION GWARANTEDIG

Mae'r dyledion canlynol wedi'u gwarantu ac yn cael eu cynnwys o fewn y credydwyr:

Benthyciadau banc

31.12.24
£
107,145
31.12.23
£
189,278

Ar hyn o bryd mae gan y cwmni elusennol 3 ffi weithredol ar ei gofrestr yn Tŷ'r Cwmnïau, gyda'r rhain yn gysylltiedig â'r benthyciadau a nodir yn y nodiadau i'r datganiadau ariannol. Y prif fanylion ar eu cyfer yw:

23. SYMUD MEWN CRONFEYDD

Cronfeydd anghyfyngedig
Cronfa gyffredinol
Cronfa asedau sefydlog
Cronfeydd cyfyngedig
Cronfa eiddo buddsoddi
Cronfa Treftadaeth (Prosiect Coed)
CYFANSWM CRONFEYDD
Symudiad
net mewn
Ar 1.1.24
cronfeydd
£
£
593,348
(52,053)
3,212,885
(68)
3,806,233
(52,121)
229,730
-
-
72,710
4,035,963
20,589
Tudalen 24
Trosglwyddiadau

rhwng y
Ar

cronfeydd
31.12.24
£
£
-
541,295
-
3,212,817
-
3,754,112
-
-
229,730
72,710
-
4,056,552
Parhau...

Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn

Nodiadau i'r Datganiadau Ariannol - parhad ar gyfer y Flwyddyn a Ddaeth i Ben ar 31 Rhagfyr 2024

23. SYMUD MEWN CRONFEYDD - parhad

Mae y symudiad net mewn cronfeydd, sydd wedi'u cynnwys yn yr uchod fel a ganlyn:

Cronfeydd anghyfyngedig
Cronfa gyffredinol
Cronfa Treftadaeth (Prosiect Coed)
CYFANSWM CRONFEYDD
Incwm
£
1,814,667
85,543
1,900,210
1,900,210
Symudiad yn

Gwariant y cronfeydd
£
£
(1,866,788)
(52,121)
(12,833)
72,710
(1,879,621)
(20,589)
(1,879,621)
(20,589)
Symudiad yn

Gwariant y cronfeydd
£
£
(1,866,788)
(52,121)
(12,833)
72,710
(1,879,621)
(20,589)
(1,879,621)
(20,589)
(20,589)
(20,589)

Symud yng nghronfeydd y llynedd

Symudiad Trosglwyddiadau Trosglwyddiadau
net mewn
rhwng y

Ar
Ar 1.1.23
cronfeydd

cronfeydd

31.12.23
£ £ £ £
Cronfeydd anghyfyngedig
Cronfa gyffredinol 562,291 134,055 (102,999) 593,347
Cronfa asedau sefydlog 3,249,732 (139,845) 102,999 3,212,886
3,812,023
(5,790)
- 3,806,233
Cronfeydd cyfyngedig
Cronfa eiddo buddsoddiadol 229,730 - - 229,730
CYFANSWM CRONFEYDD 4,041,753 (5,790) - 4,035,963
Mae y symudiad net mewn cronfeydd, sydd wedi'u cynnwys yn yr uchod fel a ganlyn:
Symudiad yn
Incwm
Gwariant
y cronfeydd
£ £ £
Cronfeydd anghyfyngedig
Cronfa gyffredinol 1,541,716 (1,407,661) 134,055
Cronfa asedau sefydlog - (139,845) (139,845)
1,541,716 (1,547,506) (5,790)
CYFANSWM CRONFEYDD 1,541,716 (1,547,506) (5,790)

Trosglwyddiadau rhwng y cronfeydd

Mae’r trosglwyddiad o’r gronfa gyffredinol i’r gronfa asedau sefydlog ddynodedig yn cynrychioli trosglwyddo costau ychwanegiadau’r flwyddyn ar gyfer yr asedau sefydlog rhwng y cronfeydd.

Tudalen 2524

Parhau...

Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn

Nodiadau i'r Datganiadau Ariannol - parhad ar gyfer y Flwyddyn a Ddaeth i Ben ar 31 Rhagfyr 2024

24. DATGELIADAU PARTION CYSYLLTIEDIG

Rheolir yr Elusen gan yr ymddiriedolwyr a enwir ar ddechrau'r ddogfen hon. Ni thalwyd unrhyw gostau teithio na chostau eraill i'r ymddiriedolwyr yn ystod y flwyddyn hon na'r flwyddyn flaenorol.

Fodd bynnag, ar ddiwedd y flwyddyn roedd y swm canlynol yn daladwy i ysgrifennydd y cwmni : (Nid oes llog yn daladwy ar y benthyciad):- Mrs P M Ellis - £2,000 (2023: £2,000).

Yn ogystal, yn ystod y flwyddyn talwyd cyfanswm o £17,480 wrth fasnachu hyd braich gyda un aelod o’r Bwrdd (2023 – dim).

Tudalen 2625

Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn

Datganiad manwl o weithgareddau ariannol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2024

INCWM AC GWADDOLION
Rhoddion a chymynroddion
Rhoddion
Ffrindiau’r Nant
Grantiau
Casgliadau tâl parcio gwirfoddol
Gweithgareddau masnachol eraill
Rhentu lleoliadau a’r safle
Incwm arlwyo (caffi)
Incwm lletygarwch
Incwm o’r bar
Gwerthiant llyfrau
Llogi offer priodasol
Incwm adloniant
Incwm buddsoddiad
Llog a dderbyniwyd
Gweithgareddau elusennol
Incwm o’r cyrsiau
Darlithoedd hanesyddol
Ymweliadau addysgol
Grantiau
Incwm arall
Rhent
Incwm arall
Gwerthu coed
Costau postio/cludo
Cyfanswm adnoddau sy'n dod i fewn
31.12.24
£
2,012
-
-
2,422
4,434
87,794
533,665
318,592
38,994
12,728
200
633
992,606
24,778
110,978
633
-
708,388
819,999
4,562
309
53,522
-
58,393
1,900,210
31.12.23
£
9,103
500
300
2,741
12,644
165,678
433,592
228,656
39,679
4,712
1,800
2,845
876,962
22,357
98,753
887
133
520,225
619,998
-
5,185
4,544
27
9,756
1,541,717

Nid yw'r dudalen hon yn rhan o'r datganiadau ariannol statudol

Tudalen 27

Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn

Datganiad manwl o weithgareddau ariannol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2024

GWARIANT
Gweithgareddau masnachol eraill
Stoc a gariwyd ymlaen
Pryniannau
Glanhau ac adnewyddu - lletygarwch
Drwg ddyledwyr
Stoc ar ddiwedd y flwyddyn
Gweithgareddau elusennol
Cyflogau
Yswiriant gwladol
Pensiynau
Taliadau cyflogaeth eithriadol
Llogi peiriannau ayyb
Prydlesi gweithredu eraill
Yswiriant
Golau a gwres
Ffon a rhyngrwyd ayyb
Postio a deunydd ysgrifennu
Hysbysiadau
Costau eraill
Costau’r cyrsiau
Trwyddedau a thanysgrifiadau
Hyfforddiant
Moduro a thrafaelio
Costau tiwtor a llafur achlysurol
Atgyweirio, cynnal a chadw eiddo
Cost cynnal a chadw eraill
Costau cynhaliaeth
Costau treth ar werth anadferadwy
31.12.24
£
10,412
202,806
76,593
-
(17,516)
272,295
=======
848,784
73,711
23,511
51,239
35,016
250
8,125
104,948
5,013
5,645
7,901
11,358
20,072
7,504
5,852
10,447
88,417
18,615
23,586
1,208
31,762
1,382,964
31.12.23
£
16,457
193,742
66,197
(303)
(10,412)
265,681
=======
652,623
45,933
17,473
-
41,549
250
7,746
69,958
2,175
5,055
16,352
5,473
13,708
8,398
1,392
3,743
83,358
16,227
27,952
-
26,900
1,046,265

Nid yw'r dudalen hon yn rhan o'r datganiadau ariannol statudol

Tudalen 28

Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn

Datganiad manwl o weithgareddau ariannol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2024

Costau cefnogol
Cyllid
Costau bancio
Llog ar fenthyciadau banc
Cyllid
Costau llywodraethu
Ffioedd proffesiynol
Tâl yr archwilwyr
Ffioedd ymgynghorol a chyfreithiol
Costau dibrisiant
Cyfanswm yr adnoddau a wariwyd
Incwm/(gwariant) net
31.12.24
£
14,593
11,646
26,239
3,149
7,175
34,981
45,305
1,454,508
=======
152,818
=======
1,879,621
20,589
31.12.23
£
9,979
15,520
25,499
-
7,000
63,216
70,216
1,141,980
=======
139,846
=======
1,547,507
(5,790)

Nid yw'r dudalen hon yn rhan o'r datganiadau ariannol statudol

Tudalen 29