**RHIF CWMNI COFRESTREDIG: 03865538 (Cymru) RHIF ELUSEN GOFRESTREDIG: 1078543** 

## **Adroddiad yr Ymddiriedolwyr a Datganiadau ariannol wedi eu harchwilio, ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 2024** 

## **ar gyfer** 

## **Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn** 

**(Cwmni cyfyngedig drwy warant)** 



## **Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn** 

## **Cynnwys y datganiadau ariannol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2024** 

||**Tudalen**|**Tudalen**|**Tudalen**|
|---|---|---|---|
|**Adroddiad y Cadeirydd**||1||
|**Adroddiad yr Ymddiriedolwyr**|2|i|5|
|**Adroddiad yr Archwilwyr Annibynnol**|6|i|9|
|**Datganiad o Weithgareddau Ariannol**||10||
|**Mantolen**|11|i|12|
|**Datganiad Llif Arian**||13||
|**Nodiadau i'r Datganiad Llif Arian**||14||
|**Nodiadau i'r Datganiadau Ariannol**|15|i|26|
|**Datganiad Manwl o Weithgareddau Ariannol**|27|i|29|





## **Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn** 

## **Adroddiad y Cadeirydd ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2024** 

Mae gwaith yr Adran Addysg wedi mynd o nerth i nerth, gyda chynnydd trawiadol yn y nifer o gyrsiau a gynhelir, yn arbennig ein cyrsiau Cymraeg Gwaith. Mae adborth y dysgwyr i’r cyrsiau yn gyson uchel. Bellach mae tri chwrs yr wythnos yn cael eu cynnal yn gyfredol sy’n gwneud cyfraniad pwysig i leihau’r rhestr aros. Yn 2025 rhoddir pwyslais ychwanegol ar gyflenwi’r galw am hyfforddiant iaith o fewn y sector addysg ar draws Cymru. 

Fel erioed, mae ein gwaith addysgol yn cael ei gefnogi gan incwm a gynhyrchir trwy estyn croeso i’r rhai sydd am ddod atom i gynnal gwasanaeth priodas neu gynhadledd. Bu’r galw ychydig yn is nag yn y ddwy flynedd flaenorol. 

Bu buddsoddiad sylweddol mewn systemau technoleg gwybodaeth. Mae hyn yn hwyluso’r gwaith o dderbyn archebion llety ac yn ei gwneud hi’n haws i ni gynnig mwy o’r unedau llety i’w gwerthu i’r cyhoedd pan nad oes cyrsiau neu ddigwyddiadau eraill yn cael eu cynnal. 

Yn dilyn cais llwyddiannus am gymorth ariannol gan gynllun TWIG Llywodraeth Cymru, a weinyddir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, bu gwaith mawr ar droed i dorri’r mwyafrif o’r coed pîn ar y safle ac ail-blannu coed cysefin yn eu lle. Bydd y cynllun hefyd yn darparu llwybrau newydd i’w mwynhau gan y cyhoedd ac ystafell ddosbarth waliau agored. 

Trosiant y cwmni yn 2024 oedd £1,900,210 (2023: £1,541,717). Ar ôl tynnu dibrisiant, dangosir elw am y flwyddyn o £20,589 (2023: colled o £5,790). 

Y nifer a gyflogwyd yn ystod y flwyddyn oedd: Swyddi parhaol, lleiafswm 3 diwrnod yr wythnos: 26 Swyddi parhaol, llai na 3 diwrnod yr wythnos: Swyddi achlysurol (cyfartaledd 10.5 awr yr wythnos): 20 **Cyfanswm: 51** 

Rydym yn falch o’r cyfraniad sylweddol i gyflogaeth yn yr ardal a wneir gan weithgareddau’r Ganolfan. 

Er hynny, ni fu’n flwyddyn hawdd i’r staff, gyda mwy nag un newid o ran y prif swyddi rheoli. Rydym yn ddiolchgar iddynt oll am eu hymroddiad i waith y Ganolfan. Ym mis Mawrth 2025 penodwyd Siwan Tomos yn Brif Weithredwr a chychwynnodd ar ei swydd ym mis Ebrill. Bydd sicrhau perthynas gydweithredol ac effeithiol rhwng Rheolwyr, Bwrdd a Staff yn flaenoriaeth ganddi er mwyn sicrhau bod y defnydd gorau posibl yn cael ei wneud o’r adnoddau a’r lleoliad arbennig y mae gennym y fraint o fod yn gyfrifol amdano. 

Yn ogystal â’r cynlluniau i ehangu ym maes addysg ein prif obeithion yn 2025 yw cwblhau’r Cynllun Coed, a chychwyn ar gynlluniau i adnewyddu Caffi Meinir ynghyd â rhai o’r unedau llety.  Cynhelir mwy o ddigwyddiadau sy’n denu’r cyhoedd i ymweld. Byddwn yn cwblhau adolygiad o’n dulliau o ddefnyddio ac arbed ynni ac yn dechrau ar raglen o welliannau iddynt. 

Tristwch mawr oedd derbyn y newyddion yn ystod y flwyddyn am farwolaeth Heulwen Richards, gynt o Fae Trearddur, Ynys Môn. Bu Heulwen yn gefnogwr hynod o hael i’r Nant ar hyd y blynyddoedd ac mae’n fwriad cofnodi ei haelioni mewn modd priodol maes o law. 

Hoffwn ddiolch i aelodau’r Bwrdd am eu cyfraniadau a’u cefnogaeth yn ystod y flwyddyn gan edrych ymlaen at groesawu penodi aelodau newydd yn y Cyfarfod Blynyddol. 

## **Huw Jones** 

Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth - Mehefin 2025 

Tudalen 1 



## **Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn** 

## **Adroddiad yr Ymddiriedolwyr** 

## **ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2024** 

Mae'r ymddiriedolwyr, sydd hefyd yn gyfarwyddwyr yr elusen at ddibenion Deddf Cwmnïau 2006, yn cyflwyno eu hadroddiad gyda datganiadau ariannol yr elusen am y flwyddyn yn diweddu ar 31 Rhagfyr 2024. Mae'r ymddiriedolwyr wedi mabwysiadu darpariaethau Cyfrifeg ac Adrodd gan Elusennau: Datganiad o Ymarfer a Argymhellir sy'n berthnasol i elusennau sydd yn paratoi eu cyfrifon yn unol â'r Safon Adrodd Ariannol sy'n gymwys yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon (FRS 102) (daeth i rym 1 Ionawr 2019). 

## **AMCANION A GWEITHGAREDDAU Amcanion ac amcanion** 

Pwrpas Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn, y cwmni, yw hyrwyddo a meithrin addysg a hyfforddiant yr iaith, diwylliant a llenyddiaeth Gymraeg, yng Nghymru. Mae'r cwmni'n cael ei redeg yn bennaf yn y Ganolfan Genedlaethol Iaith a Threftadaeth yn Nant Gwrtheyrn, ger Llithfaen, ond weithiau cynhelir gweithgareddau mewn canolfannau eraill pan fo angen. 

## **Budd y cyhoedd** 

Mae'r ymddiriedolwyr yn cadarnhau eu bod wedi cydymffurfio â'r dyletswyddau a nodir yn adran 17(5) o Ddeddf Elusennau 2011, sef rhoi sylw dyledus i'r canllawiau budd cyhoeddus a gyhoeddir gan y Comisiwn Elusennau. 

## **ADOLYGIAD ARIANNOL** 

## **Sefyllfa ariannol** 

Daeth y cwmni elusennol i ddiwedd y flwyddyn gyda gwarged o incwm dros wariant o £20,589 (2023: gwariant uwch nag incwm o £5,790). 

## **Prif ffynonellau ariannu** 

Daeth prif ffynhonnell ariannu yr amcanion elusennol o'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, gyda defnydd strategol o asedau a lleoliad y cwmni yn ategu hyn. h.y. yn ogystal â ac mewn cefnogaeth i’r prif amcanion, cynhaliwyd rhai gweithgareddau masnachol cyfyngedig, gyda'r gweithgareddau hyn yn cynnwys gweithredu Caffi Meinir, defnyddio'r safle fel lleoliad priodas, a phan fydd lle yn caniatáu, rhywfaint o osod fel llety gwyliau cyfyngedig. 

## **Polisi wrth gefn** 

Polisi'r cwmni yw cynnal cronfa wrth gefn ddigonol, er mwyn ei alluogi i gyflawni ei amcanion elusennol, bodloni ei ofynion beunyddiol parhaus, a chronni digon o arian i gynnal ac uwchraddio'r cyfleusterau y mae'n gweithredu ohonynt. Nôd y polisi wrth gefn presennol yw cynnal gwarchodfa sy'n cyfateb i bedwar mis o'r costau rhedeg presennol. 

Ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, roedd cyfanswm y cronfeydd arian yn dod i £4,056,552 (2023: £4,035,963), ac roedd y cronfeydd rhydd wrth gefn, sydd yn eithrio asedau sefydlog a chronfeydd cyfyngedig, yn dod i £541,295 (2023: £593,347), gyda hyn yn dod i oddeutu pedwar mis o'r gwariant a wnaethpwyd yn y flwyddyn gyfredol. 

## **STRWYTHUR, LLYWODRAETHU A RHEOLI** 

## **Dogfen lywodraethol** 

Rheolir y cwmni elusennol gan ei ddogfennau llywodraethu, ei Femorandwm a'i Erthyglau Cymdeithasu, dyddiedig 21 Hydref 1999, a ddiwygiwyd 5 Gorffennaf 2023. Cwblhawyd y cofrestriad gyda’r Comisiwn Elusennau ar 10 Rhagfyr 1999. Felly mae'n gwmni cyfyngedig elusennol, sydd yn gyfyngedig drwy warant, fel y diffinnir gan Ddeddf Cwmnïau 2006, ac mae'r datganiadau ariannol wedi'u paratoi yn unol â gofynion sydd yn berthnasol i gwmni elusennol. 

Tudalen 2 



## **Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn** 

## **Adroddiad yr Ymddiriedolwyr ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2024** 

## **STRWYTHUR, LLYWODRAETHU A RHEOLI Strwythur sefydliadol** 

Bwrdd yr ymddiriedolwyr sydd yn penderfynu ar bolisi a chyfeiriad cyffredinol y cwmni, ond dirprwyir y rheolaeth o ddydd i ddydd i'r Prif Weithredwr. Mae'r bwrdd felly yn ystyried mai personél rheoli allweddol yr elusen yw’r Prif Weithredwr a'r rheolwyr adrannol. 

## **Sefydlu a hyfforddi ymddiriedolwyr newydd** 

Mae aelodaeth y cwmni yn agored i unrhyw unigolyn neu gorff sydd â diddordeb mewn hyrwyddo ei amcanion, sy'n gwneud cais i'r cwmni elusennol yn y ffurflen briodol ac yn derbyn cymeradwyaeth y bwrdd ymddiriedolwyr. 

Mae gan y cwmni broses i sefydlu ymddiriedolwyr newydd. Etholir aelodau a swyddogion i'r bwrdd yn y Cyfarfod Blynyddol. Yr ymddiriedolwyr (y bwrdd), a all ddim fod yn fwy nag 12 mewn nifer, sydd yn rheoli'r cwmni, ei eiddo a'i arian. Mae gan y bwrdd hawl i gyfethol aelodau sydd â gwybodaeth neu ddiddordeb arbennig mewn maes perthnasol. Bydd unrhyw strategaethau a fabwysiadwyd yn cael eu gweithredu gan y staff. Cynhelir cyfarfodydd o leiaf bedair gwaith y flwyddyn. 

Mae asesiad risg llawn ar gyfer Iechyd a Diogelwch wedi'i gwblhau. 

## **MANYLION CYFEIRIO A GWEINYDDOL Rhif cwmni cofrestredig** 03865538 (Cymru) 

## **Rhif Elusen Gofrestredig 1078543** 

## **Swyddfa gofrestredig** 

Canolfan Nant Gwrtheyrn Nant Gwrtheyrn Llithfaen Pwllheli Gwynedd LL53 6NL 

## **Ymddiriedolwyr** 

Ms R Ceiri Dylunydd Mr M J Croydon Darlithydd Mrs G Griffith Rheolwr-Gyfarwyddwr (ymadawedig 1.7.24) Mrs E A Hughes Dylunydd Mewnol Mrs J Iwan Cyfarwyddwr Cwmni Mr W G Jones Wedi Ymddeol Mrs E M Jones Prif Reolwr (ymddiswyddo 7.12.24) Mr D H Jones Ymgynghorydd Mr G L Lewis Cyfarwyddwr Dr Greg Stevenson Cyfarwyddwr (penodi 1.7.24 ymddiswyddo 7.12.24) 

## **Ysgrifennydd y Cwmni** 

Mrs P M Ellis (ymddiswyddo 1.7.24) Mr G L Lewis (penodi 1.7.24) 

Tudalen 3 7 



## **Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn** 

## **Adroddiad yr Ymddiriedolwyr** 

## **ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2024** 

## **MANYLION CYFEIRIO A GWEINYDDOL Prif Archwilydd Statudol** 

David Chidley 

## **Archwiliwr** 

WJ Matthews a’i fab 

11-15 Y Bont Bridd Caernarfon Gwynedd LL55 1AB 

## **Cyfreithwyr** 

Ellis Davies & Co 27 Stryd Bangor Caernarfon Gwynedd 

## **DATGANIAD O GYFRIFOLDEBAU'R YMDDIRIEDOLWYR** 

Mae'r ymddiriedolwyr (sydd hefyd yn gyfarwyddwyr Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn at ddibenion cyfraith cwmnïau) yn gyfrifol am baratoi Adroddiad yr Ymddiriedolwyr a'r datganiadau ariannol yn unol â'r gyfraith berthnasol a Safonau Cyfrifo'r Deyrnas Unedig (Arfer Cyfrifeg a Dderbynnir yn Gyffredinol y Deyrnas Unedig) gan gynnwys Safon Adrodd Ariannol 102 "Y Safon Adrodd Ariannol sy'n gymwys yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon". 

Mae cyfraith cwmnïau yn ei gwneud yn ofynnol i'r ymddiriedolwyr baratoi datganiadau ariannol ar gyfer pob blwyddyn ariannol sy'n rhoi darlun cywir a theg o gyflwr materion y cwmni elusennol ac adnoddau sy'n dod i mewn a'u cymhwyso, gan gynnwys incwm a gwariant, y cwmni elusennol am y cyfnod hwnnw. Wrth baratoi'r datganiadau ariannol hynny, mae'n ofynnol i'r ymddiriedolwyr: 

- dewis polisïau cyfrifyddu addas ac yna eu cymhwyso'n gyson; 

- dilyn y dulliau a'r egwyddorion yn yr SORP Elusennol; 

- llunio barn ac amcangyfrifon sy'n rhesymol ac yn ddarbodus; 

- paratoi'r datganiadau ariannol ar y sail y bydd parhad fel cwmni byw, oni bai ei bod yn amhriodol tybio y bydd y cwmni elusennol yn parhau mewn busnes. 

Mae'r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am gadw cofnodion cyfrifyddu priodol sy'n datgelu sefyllfa ariannol y cwmni elusennol yn rhesymol gywir ar unrhyw adeg ac i'w galluogi i sicrhau bod y datganiadau ariannol yn cydymffurfio â Deddf Cwmnïau 2006. Maent hefyd yn gyfrifol am ddiogelu asedau'r cwmni elusennol ac felly am gymryd camau rhesymol i atal a datgelu twyll ac afreoleidd-dra eraill. 

I'r graddau y mae'r ymddiriedolwyr yn ymwybodol: 

- nid oes unrhyw wybodaeth archwilio berthnasol nad yw archwilwyr y cwmni elusennol yn ymwybodol ohoni; a 

- bod yr ymddiriedolwyr wedi cymryd pob cam y dylent fod wedi'i gymryd i wneud eu hunain yn ymwybodol o unrhyw wybodaeth archwilio berthnasol ac i gadarnhau bod yr archwilwyr yn ymwybodol o'r wybodaeth honno. 

Tudalen 4 



## **Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn** 

## **Adroddiad yr Ymddiriedolwyr ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2024** 

## **ARCHWILWYR** 

Bydd yr archwiliwr, WJ Matthews a’i fab, yn cael eu cynnig i'w hailbenodi yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol eleni. 

Cymeradwywyd drwy orchymyn y bwrdd ymddiriedolwyr ar ............................................. 

Llofnodwyd ar ei ran gan: 

.......................................................... Mr G L Lewis - Ysgrifennydd 

Tudalen 5 4 



## **Adroddiad yr Archwilwyr Annibynnol i Aelodau Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn** 

## **Barn** 

Rydym wedi archwilio datganiadau ariannol Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn (y ‘cwmni elusennol’) ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2024 sy’n cynnwys y Datganiad o Weithgareddau Ariannol, y Fantolen, y Datganiad Llif Arian a nodiadau’r datganiadau ariannol, gan gynnwys crynodeb o bolisïau cyfrifyddu arwyddocaol. Y fframwaith adrodd ariannol a ddefnyddiwyd wrth eu paratoi yw'r gyfraith berthnasol a Safonau Cyfrifyddu'r Deyrnas Unedig (Yr Arferion Cyfrifyddu a Dderbynnir yn Gyffredinol yn y Deyrnas Unedig), gan gynnwys Safon Adrodd Ariannol 102 'Y Safon Adrodd Ariannol sy'n berthnasol yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon'. 

Yn ein barn ni, mae’r datganiadau ariannol: 

- yn cyflwyno darlun cywir a theg o sefyllfa materion y cwmni elusennol ar 31 Rhagfyr 2024 ac o’i adnoddau sy’n dod i mewn a’r defnydd o adnoddau, gan gynnwys ei incwm a’i wariant, ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben bryd hynny; 

- wedi cael eu paratoi'n briodol yn unol â’r Arferion Cyfrifyddu a Dderbynnir yn Gyffredinol yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Safon Adrodd Ariannol 102 'Y Safon Adrodd Ariannol sy'n berthnasol yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon'; ac 

- wedi cael eu paratoi yn unol â gofynion Deddf Cwmnïau 2006. 

## **Sail y farn** 

Cynhaliwyd ein harchwiliad gennym yn unol â’r Safonau Archwilio Rhyngwladol (y DU) (ISAs (DU)) a chyfraith berthnasol. Disgrifir ein cyfrifoldebau o dan y safonau hynny ymhellach yn yr adran cyfrifoldebau'r Archwilwyr am archwilio datganiadau ariannol yn ein hadroddiad. Rydym yn annibynnol o’r cwmni elusennol yn unol â’r gofynion moesegol sy’n berthnasol i’n harchwiliad o’r datganiadau ariannol yn y DU, gan gynnwys Safon Foesegol yr FRC, ac rydym wedi cyflawni ein cyfrifoldebau moesegol eraill yn unol â’r gofynion hyn. Credwn fod y dystiolaeth archwilio a gawsom yn ddigonol ac yn briodol i ddarparu sail ar gyfer ein barn. 

## **Casgliadau yn ymwneud â busnes gweithredol** 

Wrth archwilio’r datganiadau ariannol, rydym wedi dod i’r casgliad bod defnydd yr ymddiriedolwyr o’r sail busnes gweithredol o gyfrifyddu wrth baratoi’r datganiadau ariannol yn briodol. 

Yn seiliedig ar y gwaith rydym wedi'i gyflawni, nid ydym wedi nodi unrhyw ansicrwydd sylfaenol sy'n ymwneud â digwyddiadau neu amodau a allai, yn unigol neu ar y cyd, fwrw amheuaeth sylweddol ar allu'r cwmni elusennol i barhau fel busnes gweithredol am gyfnod o ddeuddeng mis o leiaf o'r dyddiad pryd bydd y datganiadau ariannol yn cael eu hawdurdodi i'w cyhoeddi. 

Disgrifir ein cyfrifoldebau a chyfrifoldebau’r ymddiriedolwyr mewn perthynas â busnes gweithredol yn adrannau perthnasol yr adroddiad hwn. 

## **Gwybodaeth arall** 

Mae'r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am yr wybodaeth arall. Mae'r wybodaeth arall yn cynnwys yr wybodaeth a gynhwysir yn yr Adroddiad Blynyddol, ac eithrio'r datganiadau ariannol a'n hadroddiad fel Archwilwyr Annibynnol arnynt. 

Nid yw ein barn ar y datganiadau ariannol yn cwmpasu’r wybodaeth arall ac, ac eithrio i’r graddau a nodir fel arall yn benodol yn ein hadroddiad, nid ydym yn mynegi unrhyw fath o gasgliad sicrwydd arnynt. 

Tudalen 6 



## **Adroddiad yr Archwilwyr Annibynnol i Aelodau Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn** 

## **Gwybodaeth arall** - parhad 

Mewn cysylltiad â’n harchwiliad o’r datganiadau ariannol, ein cyfrifoldeb ni yw darllen yr wybodaeth arall ac, wrth wneud hynny, ystyried a yw’r wybodaeth arall yn sylfaenol anghyson â’r datganiadau ariannol neu a yw’n ymddangos bod ein gwybodaeth a gafwyd yn yr archwiliad neu fel arall wedi’i chamddatgan yn sylfaenol. Os byddwn yn nodi anghysondebau sylfaenol o'r fath neu gamddatganiadau sylfaenol ymddangosiadol, mae'n ofynnol i ni benderfynu a yw hyn yn arwain at gamddatganiad sylfaenol yn y datganiadau ariannol eu hunain. Os byddwn yn dod i'r casgliad, yn seiliedig ar y gwaith rydym wedi'i wneud, bod camddatganiad sylfaenol o'r wybodaeth arall hon, mae'n ofynnol i ni adrodd y ffaith honno. Nid oes gennym ddim i’w adrodd yn y cyswllt hwn. 

## **Barn ar faterion eraill a ragnodir gan Ddeddf Cwmnïau 2006** 

Yn ein barn ni, ar sail y gwaith a wnaed yn ystod yr archwiliad: 

- mae'r wybodaeth a roddwyd yn Adroddiad yr Ymddiriedolwyr ar gyfer y flwyddyn ariannol y paratowyd y datganiadau ariannol ar ei chyfer yn gyson â'r datganiadau ariannol; ac 

- mae Adroddiad yr Ymddiriedolwyr wedi cael ei baratoi yn unol â'r gofynion cyfreithiol perthnasol. 

## **Materion y mae'n ofynnol i ni adrodd arnynt drwy eithriad** 

Yng ngoleuni'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth o'r cwmni elusennol a'i amgylchedd a sicrhawyd yn ystod yr archwiliad, nid ydym wedi nodi camddatganiadau sylfaenol yn Adroddiad yr Ymddiriedolwyr. 

Nid oes gennym unrhyw beth i’w adrodd mewn perthynas â’r materion canlynol lle mae Deddf Cwmnïau 2006 yn datgan ei bod yn ofynnol i ni adrodd i chi os, yn ein barn ni: 

- ni chadwyd cofnodion cyfrifyddu digonol neu ni dderbyniwyd ymatebion digonol ar gyfer ein harchwiliad gan ganghennau nad ydym wedi ymweld â hwy; neu 

- nid yw'r datganiadau ariannol yn gyson â'r cofnodion a'r ffurflenni cyfrifyddu; neu 

- nid yw rhai datgeliadau o dâl ymddiriedolwyr a bennir gan y gyfraith yn cael eu gwneud; neu 

- - nid ydym wedi derbyn yr holl wybodaeth ac esboniadau sydd arnom eu hangen ar gyfer ein harchwiliad; neu 

- nid oedd hawl gan yr ymddiriedolwyr i fanteisio ar yr eithriad cwmnïau bach o'r gofyniad i baratoi Adroddiad Strategol neu wrth baratoi Adroddiad yr Ymddiriedolwyr. 

## **Cyfrifoldebau’r ymddiriedolwyr** 

Fel yr eglurir yn llawnach yn y Datganiad o Gyfrifoldebau’r Ymddiriedolwyr, yr ymddiriedolwyr (sydd hefyd yn gyfarwyddwyr y cwmni elusennol at ddibenion y gyfraith cwmnïau) sy’n gyfrifol am baratoi’r datganiadau ariannol ac am fod yn fodlon eu bod yn cyflwyno darlun cywir a teg, ac am unrhyw reolaeth fewnol o’r fath y mae’r ymddiriedolwyr yn penderfynu sy’n angenrheidiol er mwyn gallu paratoi datganiadau ariannol sy’n rhydd o gamddatganiadau sylfaenol, boed hynny drwy dwyll neu gamgymeriad. 

Wrth baratoi’r datganiadau ariannol, mae’r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am asesu gallu’r cwmni elusennol i barhau fel busnes gweithredol, gan ddatgelu, fel sy’n berthnasol, faterion sy’n ymwneud â busnes gweithredol a defnyddio sail busnes gweithredol i gyfrifyddu oni bai bod yr ymddiriedolwyr naill ai’n bwriadu diddymu’r cwmni elusennol neu roi'r gorau i weithredu, neu os nad oes ganddynt ddewis arall realistig heblaw am wneud hynny. 

Tudalen 7 



## **Adroddiad yr Archwilwyr Annibynnol i Aelodau Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn** 

## **Ein cyfrifoldebau am archwilio’r datganiadau ariannol** 

Ein hamcanion yw cael sicrwydd rhesymol ynghylch a yw’r datganiadau ariannol yn eu cyfanrwydd yn rhydd o gamddatganiadau sylfaenol, boed hynny oherwydd twyll neu gamgymeriad, a chyhoeddi Adroddiad yr Archwilwyr Annibynnol sy’n cynnwys ein barn. Mae sicrwydd rhesymol yn lefel uchel o sicrwydd, ond nid yw’n warant y bydd archwiliad a gynhelir yn unol ag ISAs (DU) bob amser yn canfod camddatganiad sylfaenol pan fydd yn bodoli. Gall camddatganiadau ddeillio o dwyll neu gamgymeriad ac maent yn cael eu hystyried yn sylfaenol os gellid, yn unigol neu ar y cyd, rhesymol ddisgwyl iddynt ddylanwadu ar benderfyniadau economaidd defnyddwyr a wneir ar sail y datganiadau ariannol hyn. 

Manylir isod ar i ba raddau mae ein gweithdrefnau’n gallu canfod afreoleidd-dra, gan gynnwys twyll: 

## **Adnabod ac asesu risgiau posibl yn ymwneud ag afreoleidd-dra** 

Wrth adnabod ac asesu risgiau camddatganiad sylfaenol mewn perthynas ag afreoleidd-dra, gan gynnwys twyll a diffyg cydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau, aethom ati i ystyried y canlynol: 

## **Adnabod ac asesu risgiau posibl:** 

- natur y diwydiant a'r sector, yr amgylchedd rheoli a pherfformiad busnes. 

- canlyniadau ein hymholiadau i reolwyr, a'r rhai sy'n gyfrifol am lywodraethu, ynghylch eu gwaith eu hunain i adnabod ac asesu risgiau afreoleidd-dra. 

- unrhyw faterion a nodwyd gennym ar ôl derbyn ac adolygu gwybodaeth y cwmni elusennol am ei bolisïau a’i weithdrefnau sy'n ymwneud ag: 

   - adnabod, gwerthuso a chydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau ac a oedd yn ymwybodol o unrhyw achosion o ddiffyg cydymffurfio. 

   - canfod ac ymateb i risgiau o dwyll ac a oedd yn gwybod am unrhyw dwyll gwirioneddol, amheuaeth o dwyll neu dwyll honedig. 

   - y mesurau rheoli mewnol sydd wedi’u sefydlu i liniaru risgiau o dwyll neu ddiffyg cydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau; ac 

   - unrhyw faterion a drafodwyd ymhlith tîm ymgysylltu’r archwiliad, gan gynnwys, os yw’n berthnasol, arbenigwyr allanol, unrhyw dreth neu brisiadau eraill nodedig, ac ati. 

O ganlyniad i'r gweithdrefnau hyn, aethom ati i ystyried y cyfleoedd a'r cymhellion a all fodoli o fewn y cwmni elusennol ar gyfer twyll a nodi'r potensial mwyaf i dwyll fod mewn perthynas â chydnabod refeniw, gyda gweithdrefnau penodol yn cael eu cyflawni yma. Yn ogystal, ac yn gyffredin â phob archwiliad o dan ISAs (DU), mae hefyd yn ofynnol i ni gyflawni gweithdrefnau penodol i ymateb i’r risg o ddiystyru rheolwyr. 

Sicrhawyd dealltwriaeth gennym hefyd o'r fframweithiau cyfreithiol a rheoleiddiol y mae'r cwmni elusennol yn gweithredu oddi mewn iddynt, gan ganolbwyntio ar ddarpariaethau'r cyfreithiau a'r rheoliadau hynny a gafodd effaith uniongyrchol ar bennu symiau a datgeliadau sylfaenol yn y datganiadau ariannol. Roedd y cyfreithiau a’r rheoliadau allweddol a ystyriwyd gennym yn y cyddestun hwn yn cynnwys Deddf Cwmnïau 2006, UK GAAP ac unrhyw gyfreithiau a rheoliadau eraill nad ydynt efallai’n cael effaith uniongyrchol ar y datganiadau ariannol, ond y gallai cydymffurfiaeth â hwy fod yn sylfaenol i allu’r cwmni elusennol i weithredu neu i osgoi cosb faterol. 

Tudalen 8 7 8 



## **Adroddiad yr Archwilwyr Annibynnol i Aelodau Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn** 

## **Ymateb yr archwiliad i risgiau a nodwyd** 

Roedd ein gweithdrefnau i ymateb i risgiau a nodwyd yn cynnwys y canlynol: 

- adolygu datgeliadau’r datganiadau ariannol a phrofi dogfennau ategol i asesu cydymffurfiaeth â darpariaethau’r cyfreithiau a’r rheoliadau perthnasol y disgrifir eu bod yn cael effaith uniongyrchol ar y datganiadau ariannol. 

- holi'r rheolwyr a'r rhai sy'n gyfrifol am lywodraethu ynghylch ymgyfreitha a hawliadau gwirioneddol a phosibl. 

- cwblhau gweithdrefnau dadansoddol i nodi unrhyw berthnasoedd anarferol neu annisgwyl a all ddynodi risgiau o gamddatganiad sylfaenol oherwydd twyll. 

- darllen cofnodion cyfarfodydd y rhai sy'n gyfrifol am lywodraethu a holi am unrhyw ohebiaeth neu faterion a godwyd gyda chyrff rheoleiddio perthnasol. 

- sicrhau dealltwriaeth, drwy drafodaethau gyda’r rheolwyr, o'r sail ar gyfer cydnabod incwm; ac 

- wrth fynd i'r afael â'r risg o dwyll drwy i reolwyr ddiystyru mesurau rheoli, profi priodoldeb cofnodion dyddlyfr ac addasiadau eraill; asesu a yw'r dyfarniadau a wnaed wrth wneud amcangyfrifon cyfrifyddu yn arwydd o ragfarn bosibl; a gwerthuso rhesymeg busnes unrhyw drafodion sylweddol sy'n anarferol neu y tu hwnt i gwrs arferol y busnes. 

Aethom ati hefyd i gyfleu cyfreithiau a rheoliadau perthnasol a nodwyd a risgiau twyll posibl i bob aelod o’r tîm ymgysylltu, ac roeddem yn gyson effro i unrhyw arwyddion o dwyll neu ddiffyg cydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau drwy gydol yr archwiliad. 

Ceir disgrifiad pellach o'n cyfrifoldebau am archwilio'r datganiadau ariannol ar wefan y Cyngor Adrodd Ariannol yn www.frc.org.uk/auditorsresponsibilities. Mae'r disgrifiad hwn yn rhan o Adroddiad yr Archwilwyr Annibynnol. 

## **Defnydd o'n hadroddiad** 

Mae'r adroddiad hwn yn cael ei wneud i aelodau'r cwmni elusennol yn unig, fel corff, yn unol â Phennod 3 o Ran 16 Deddf Cwmnïau 2006. Mae ein gwaith archwilio wedi cael ei gwblhau er mwyn i ni allu datgan i aelodau'r cwmni elusennol y materion hynny y mae'n ofynnol i ni eu datgan iddynt mewn adroddiad archwilwyr ac nid at unrhyw ddiben arall. I’r graddau llawnaf a ganiateir gan y gyfraith, nid ydym yn derbyn nac yn ysgwyddo cyfrifoldeb i unrhyw un ac eithrio’r cwmni elusennol ac aelodau’r cwmni elusennol fel corff, am ein gwaith archwilio, am yr adroddiad hwn, ac am y farn a ffurfiwyd gennym. 

David Chidley (Prif Archwilydd Statudol) ar gyfer ac ar ran 

WJ Matthews a’i fab 

Archwilwr Statudol 11-15 Y Bont Bridd Caernarfon Gwynedd. LL55 1AB 

Dyddiad: ............................................. 

Tudalen 9 8 



## **Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn** 

## **Datganiad o weithgareddau ariannol (Yn cynnwys cyfrif incwm a gwariant) ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2024** 

|||||**31.12.24**|31.12.23|
|---|---|---|---|---|---|
|||Cronfa|Cronfa|**Cyfanswm**|Cyfanswm|
|||Anghyfyngedig|Cyfyngedig|**Cronfeydd**|Cronfeydd|
||Nodyn|<br>£|£|**£**|£|
|**INCWM A GWADDODION O**||||||
|Rhoddion a chymynroddion|2|**4,434**|**-**|**4,434**|12,644|
|**Gweithgareddau elusennol**|5|||||
|Addysg a hyfforddiant||**734,456**|**85,543**|**819,999**|619,998|
|Gweithgareddau masnachu eraill|3|**992,606**|**-**|**992,606**|876,962|
|Incwm buddsoddi|4|**24,778**|**-**|**24,778**|22,357|
|Incwm arall||**58,393**|**-**|**58,393**|9,756|
|**Cyfanswm**||**1,814,667**|**85,543**|**1,900,210**|1,541,717|
|**GWARIANT AR**||||||
|Codi arian|6|**272,295**|**-**|**272,295**|265,681|
|**Gweithgareddau elusennol**|7|||||
|Addysg a hyfforddiant||**1,446,570**|**7,938**|**1,454,508**|1,141,980|
|Arall||**147,923**|**4,895**|**152,818**|139,846|
|**Cyfanswm**||**1,866,788**|**12,833**|**1,879,621**|1,547,507|
|**INCWM NET/(GWARIANT)**||**(52,121)**|**72,710**|**20,589**|(5,790)|
|**CYMODI CRONFEYDD**||||||
|Cyfanswm y cronfeydd a ddaeth ymlaen||**3,806,233**|**229,730**|**4,035,963**|4,041,753|
|**CYFANSWM YR ARIAN A GARIWYD**||||||
|**YMLAEN**||**3,754,112**|**302,440**|**4,056,552 **|4,035,963|



## **GWEITHREDIADAU PARHAUS** 

Mae'r holl incwm a gwariant wedi codi o weithgareddau parhaus. 

Tudalen109 



## **Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn** 

## **Mantolen 31 Rhagfyr 2024** 

|**Mantolen**<br>**31 Rhagfyr 2024**|||||||
|---|---|---|---|---|---|---|
||||||**31.12.24**|31.12.23|
|||Cronfa|Cronfa||**Cyfanswm**|Cyfanswm|
|||Anghyfyngedig|Cyfyngedig||**Cronfeydd**|Cronfeydd|
||Nodyn|<br>£|£||**£**|£|
|**ASEDAU SEFYDLOG**|||||||
|Asedau gweladwy|13|**3,212,817**|**72,710**||**3,285,527**|3,212,885|
|**Buddsoddiadau**|||||||
|Buddsoddiad mewn is-gwmni|14|**100**||**-**|**100**|100|
|Eiddo buddsoddiadol|15|**-**|**229,730**||**229,730**|229,730|
|||**3,212,917**|**302,440**||**3,515,357**|3,442,715|
|**ASEDAU CYFREDOL**|||||||
|Stoc wrth law|16|**17,516**||**-**|**17,516**|10,412|
|Dyledwyr|17|**102,619**||**-**|**102,619**|60,898|
|Arian mewn llaw ac yn y banc||**923,225**||**-**|**923,225**|979,224|
|||**1,043,360**||**-**|**1,043,360**|1,050,534|
|**CREDYDWYR**|||||||
|Symiau’n ddyledus o fewn blwyddyn|18|**(397,228) **||**-**|**(397,228) **|(345,695)|
|**ASEDAU CYFREDOL NET**||**646,132**||**-**|**646,132**|704,839|
|**CYFANSWM ASEDAU, LLAI**|||||||
|**CREDYDWYR CYFREDOL**||**3,859,049**|**302,440**||**4,161,489**|4,147,554|
|**CREDYDWYR**|||||||
|Symiau’n ddyledus mewn mwy na|||||||
|deuddeg mis|19|**(104,937)**||**-**|**(104,937)**|(111,591)|
|**ASEDAU NET**||**3,754,112**|**302,440**||**4,056,552 **|4,035,963|
|**CRONFEYDD**|23||||||
|Cronfeydd anghyfyngedig|||||**3,754,112**|3,806,233|
|Cronfeydd cyfyngedig|||||**302,440**|229,730|
|**CYFANSWM Y CRONFEYDD**|||||**4,056,552**|4,035,963|



Tudalen 1110 

Parhau... 



## **Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn** 

## **Mantolen - parhad** 

## **31 Rhagfyr 2024** 

Mae'r datganiadau ariannol hyn wedi'u paratoi yn unol â'r darpariaethau sy'n berthnasol i gwmnïau elusennol bach, yn unol a’r darpariaethau arbennig yn rhan 15 o’r Ddeddf Cwmnïau 2006. 

Cytunwyd ar y datganiadau ariannol gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr ac awdurdodwyd eu cyhoeddi ar................................ ac fe’i llofnodwyd ar ran y Bwrdd gan: 

............................................. Mr D H Jones - Ymddiriedolwr 

Tudalen 12 

Parhau...11 



## **Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn** 

|**Datganiad Llif Arian**<br>**ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2024**|<br>**31.12.24**<br>**£**<br>**238,462**<br>**(11,646)**<br>**226,816**<br>**(225,460)**<br>**24,778**<br>**(200,682) **<br>**(82,133)**<br>**(82,133) **<br>**(55,999)**<br>**979,224**<br>**923,225**|31.12.23<br>£<br>109,070<br>(15,520)<br>93,550<br>(102,999)<br>22,357<br>(80,642)<br>(77,869)<br>(77,869)<br>(64,961)<br>1,044,185<br>979,224|
|---|---|---|
|<br>Nodyn<br>**Llif arian o weithgareddau**<br>**gweithredol**<br>Arian a gynhyrchwyd o<br>weithrediadau<br>i<br>Llog a dalwyd<br>Arian net a ddarperir gan<br>weithgareddau gweithredu<br>**Llif arian o weithgareddau buddsoddi**<br>Pryniant o asedau sefydlog gweladwy<br>Llog a dderbyniwyd<br>Arian net a ddefnyddir mewn<br>gweithgareddau buddsoddi<br>**Llif arian o weithgareddau ariannu**<br>Ad-daliadau benthyciadau yn y flwyddyn<br>Arian net a ddefnyddir mewn<br>gweithgareddau ariannu<br>**Newid mewn arian parod a**<br>**chyfwerthiannau parod yn y**<br>**cyfnod adrodd**<br>**Arian parod a chyfwerthiadau**<br>**arian ar ddechrau'r cyfnod adrodd**<br>**Arian parod a chyfwerthiadau**<br>**arian ar ddiwedd y cyfnod adrodd**|||



Tudalen 1312 



## **Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn** 

## **Nodiadau i’r Llif Arian** 

## **ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2024** 

## **(i). CYSONI (GWARIANT) / INCWM NET I LIF ARIAN NET O WEITHGAREDDAU GWEITHREDOL** 

|**Incwm/(gwariant) net ar gyfer y cyfnod adrodd**<br>**(yn unol â'r Datganiad o Weithgareddau Ariannol)**<br>**Newidiadau am:**<br>Costau dibrisiant<br>Llog a dderbyniwyd<br>Llog a dalwyd<br>(Cynnydd)/Lleihad mewn stoc<br>Cynnydd mewn dyledwyr<br>Cynnydd/(Lleihad) mewn credydwyr<br>**Arian net a ddarperir gan weithrediadau**|**31.12.24**<br>**£**<br>**20,589**<br>**152,818**<br>**(24,778)**<br>**11,646**<br>**(7,104)**<br>**(41,721)**<br>**127,012**<br>**238,462**|31.12.23<br>£<br>(5,790)<br>139,846<br>(22,357)<br>15,520<br>6,046<br>(18,400)<br>(5,795)<br>109,070|
|---|---|---|



## **(ii). DADANSODDIAD O NEWIDIADAU MEWN CRONFEYDD NET** 

|**Arian net**<br>Arian mewn llaw ac yn y banc<br>**Benthyciadau**<br>Yn daliadwy o fewn blwyddyn<br>Yn daliadwy mewn mwy na blwyddyn<br>**Cyfanswm**|Ar 1.1.24<br>£<br>979,224<br>979,224<br>(91,545)<br>(111,591)<br>(203,136)<br>**776,088**|Llif arian<br>£<br>(55,999)<br>(55,999)<br>75,479<br>6,654<br>82,133<br>**26,134**|**Ar 31.12.24**<br>**£**<br>923,225<br>923,225<br>(16,066)<br>(104,937)<br>(121,003)<br>**802,222**|
|---|---|---|---|



Tudalen 1413 



**Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn** 

## **Nodiadau i'r Datganiadau Ariannol ar gyfer y Flwyddyn a Ddaeth i Ben ar 31 Rhagfyr 2024** 

## **1. POLISÏAU CYFRIFO** 

## **Sail paratoi'r datganiadau ariannol** 

Paratowyd datganiadau ariannol y cwmni elusennol, sy'n endid budd cyhoeddus oddi tan FRS 102, yn unol â'r SORP Elusennol (FRS 102) 'Cyfrifeg ac Adrodd gan Elusennau: Datganiad o Ymarfer a Argymhellir sy'n berthnasol i elusennau sydd yn paratoi eu cyfrifon yn unol â'r Safon Adrodd Ariannol sy'n gymwys yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon (FRS 102) (daeth i rym 1 Ionawr 2019)', Safon Adrodd Ariannol 102 'Y Safon Adrodd Ariannol sy'n gymwys yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon' a Deddf Cwmnïau 2006. Paratowyd y datganiadau ariannol oddi tan y confensiwn cost hanesyddol, ac eithrio buddsoddiadau sydd wedi'u cynnwys ar werth y farchnad. Nid oedd ansicrwydd ynghylch a all yr elusen i barhau mewn busnes. 

## **Paratoi datganiadau ariannol cyfunol** 

Mae'r datganiadau ariannol yn cynnwys gwybodaeth am Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn fel cwmni unigol ac nid ydynt yn cynnwys gwybodaeth ariannol gyfunol fel rhiant i grŵp. Mae'r elusen wedi'i heithrio o dan Adran 399(2A) o Ddeddf Cwmnïau 2006 o'r gofynion i baratoi datganiadau ariannol cyfunol. 

## **Dyfarniadau cyfrifeg beirniadol a ffynonellau allweddol o ansicrwydd amcangyfrif** 

Wrth baratoi'r adroddiadau ariannol, mae'n rhaid i'r rheolwyr wneud dyfarniadau, amcangyfrifon a phenderfyniadau sy'n effeithio ar y ffigurau sy'n cael eu hadrodd. Mae'r amcangyfrifon a'r dyfarniadau hyn yn cael eu hadolygu'n rheolaidd ac maent yn seiliedig ar brofiad a ffactorau eraill, gan gynnwys disgwyliadau o ddigwyddiadau yn y dyfodol y credir eu bod yn rhesymol oddi tan yr amgylchiadau. 

## **Incwm** 

Mae arian sy'n dod i fewn yn cael eu cynnwys yn y datganiad o weithgareddau ariannol pan fydd yr hawl i'r incwm wedi'i drosglwyddo i'r cwmni elusennol. Dilynir y polisïau penodol canlynol:- 

- Cydnabyddir incwm o roddion a grantiau pan fydd tystiolaeth o'r rhodd a gellir ei fesur mewn modd dibynadwy. Caiff grantiau cyfalaf eu cynnwys mewn cronfa cyfyngedig a’u cyfatebu gyda’r dibrisiant ar yr asedau. 

- Cydnabyddir incwm o ffynonellau gwaddol a chymynroddion pan mae'n debygol y cytunwyd ar yr hawl i'w dderbyn. 

- Caiff incwm o nwyddau a roddir i’r elusen ei fesur yn ôl gwerth teg y nwyddau hynny, ac eithrio os yw y dull hyn yn anymarferol. Yn y sefyllfa hon, mae'r gwerth a roddir arnynt yn deillio o'r gost i'r rhoddwr neu ei werth gwerthu amcangyfrifedig. Mae cyfleusterau a roddir a gwasanaethau a ddarperir yn cael eu cydnabod yn y cyfrifon os gellir eu mesur mewn modd dibynadwy. Nid oes gwerth yn cael ei roi ar lafur gwirfoddol. 

- Cydnabyddir incwm o gytundebau ar gyfer darparu gwasanaethau wrth i'r cytundeb gael ei wireddu. Caiff hyn ei drin fel cronfeydd anghyfyngedig, ac eithrio os oes amod bod yn rhaid defnyddio'r incwm at ddiben penodol, ac yn y sefyllfa hon caiff ei drin fel cronfa gyfyngedig. 

Tudalen 1514 

Parhau... 



**Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn** 

## **Nodiadau i'r Datganiadau Ariannol ar gyfer y Flwyddyn a Ddaeth i Ben ar 31 Rhagfyr 2024** 

## **1. POLISÏAU CYFRIFO – parhad** 

## **Gwariant** 

Cydnabyddir rhwymedigaethau fel gwariant cyn gynted ag y bydd rhwymedigaeth gyfreithiol neu adeiladol yn ymrwymo'r elusen i'r gwariant hwnnw, mae'n debygol y bydd angen trosglwyddo buddion economaidd wrth setlo a gellir mesur swm y rhwymedigaeth yn ddibynadwy. Cyfrifir gwariant ar sail croniadau ac fe'i dosbarthwyd o dan benawdau sy'n cydgrynhoi'r holl gostau sy'n gysylltiedig â'r categori. Lle na ellir priodoli'r costau'n uniongyrchol i benawdau penodol, fe'u dyrannwyd i weithgareddau ar sail sy'n gyson â'r defnydd o adnoddau. 

Mae taliadau prydles gweithredol yn cael eu cydnabod fel cost dros gyfnod y cytundeb ac fe'u cofnodir ar sail llinell syth. 

## **Asedau sefydlog gweladwy** 

Eiddo, Peiriannau ac Offer 

Cofnodir asedau sefydlog i ddechrau yn ôl eu cost, ac yna fe'u nodir ar eu cost llai dibrisiant a namau. Mae unrhyw asedau sefydlog sydd wedi cael eu hailbrisio yn cael eu cofnodi ar eu gwerth teg ar ddyddiad prisio, ac llai dibrisiant cronedig ac unrhyw addasiadau am nam. 

Mae asedau sefydlog, oddi tan y model cost, yn cael eu datgan ar gost hanesyddol llai dibrisiant cronedig ac unrhyw golledion nam cronedig. Mae cost hanesyddol yn cynnwys gwariant y gellir ei briodoli'n uniongyrchol i ddod â'r ased i'r lleoliad a'r amod sy'n angenrheidiol er mwyn iddo allu gweithredu yn y modd a fwriadwyd gan reolwyr. Mae unrhyw asedau sefydlog sydd wedi cael eu hailbrisio yn cael eu cofnodi ar eu gwerth teg ar ddyddiad prisio, llai dibrisiant cronedig ac unrhyw addasiadau am namau. 

Nid yw'r tir yn cael ei ddibrisio. Darperir dibrisiant ar asedau eraill ar y cyfraddau blynyddol canlynol er mwyn dyrannu cost yr asedau, llai eu gwerth gweddilliol, dros y bywyd defnyddiol a amcangyfrifed: 

Safle’r Nant - 1% - 20% ar sail llinell syth Offer a pheiriannau ayyb - 5% - 20% ar sail llinell syth 

Mae gwerthoedd gweddilliol, bywydau defnyddiol a dulliau dibrisiant yr asedau'n cael eu hadolygu, a'u haddasu fel y bo'n briodol, neu os oes arwydd o newid arwyddocaol ers y dyddiad adrodd diwethaf. 

Mae enillion a cholledion ar warediadau yn cael eu pennu trwy gymharu'r enillion â'r swm cario ac yn cael eu cydnabod yn y daflen incwm a gwariant. 

## Buddsoddiadau asedau sefydlog 

Caiff buddsoddiadau rhestredig eu mesur ar eu gwerth teg gyda'r newid yn y prisiad a gofnodir fel incwm neu wariant ar y datganiad o weithgareddau ariannol. Os nad oes modd mesur gwerth teg, yna fe'u cofnodir ar eu cost llai o amhariad. Cofnodir buddsoddiadau heb eu rhestru, fel cyfalaf cyfranddaliadau yr is-gwmni segur, ar gost. 

## **Eiddo buddsoddiadol** 

Dangosir eiddo buddsoddiadol ar eu prisiad diweddaraf. Mae unrhyw warged neu ddiffyg cyfanredol sy'n deillio o newidiadau mewn gwerth teg yn cael eu cydnabod yn y datganiad o weithgareddau ariannol. 

Tudalen 1615 

Parhau... 



**Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn** 

## **Nodiadau i'r Datganiadau Ariannol - parhad ar gyfer y Flwyddyn a Ddaeth i Ben ar 31 Rhagfyr 2024** 

## **1. POLISÏAU CYFRIFO – parhad** 

## **Stoc wrth law** 

Mae stoc yn cael eu prisio ar yr isaf o’u cost isaf a gwerth gwirioneddu net, ar ôl gwneud lwfans dyledus ar gyfer eitemau darfodedig a symud yn araf. 

## **Trethiant** 

Mae'r elusen wedi'i heithrio rhag treth gorfforaeth ar ei gweithgareddau elusennol. Mae’r elusen wedi ei chofrestru am dreth ar werth, felly lle bynnag y bydd yn briodol, bydd y ffigyrau yn y ddogfen hon yn cael eu dangos yn net o’r dreth hon. 

## **Cronfeydd** 

Gellir defnyddio cronfeydd anghyfyngedig yn unol â'r amcanion elusennol ac yn ôl disgresiwn yr ymddiriedolwyr. Mae'r cronfeydd dynodedig yn gronfeydd anghyfyngedig sydd wedi'u clustnodi gan yr ymddiriedolwyr ar gyfer prosiect penodol neu gyfnod yn y dyfodol. 

Dim ond at ddibenion cyfyngedig penodol y gellir defnyddio arian cyfyngedig o fewn amcanion yr elusen. Mae cyfyngiadau'n codi pan bennir gan y rhoddwr neu pan godir arian at ddibenion cyfyngedig penodol. 

Mae esboniad pellach o natur a phwrpas pob cronfa wedi'i gynnwys yn y nodiadau i'r datganiadau ariannol. 

## **Llogi ymrwymiadau prynu a phrydlesu** 

Codir rhenti a delir oddi tan prydlesi gweithredol i'r datganiad o weithgareddau ariannol ar sail llinell syth dros gyfnod y les. 

## **Costau pensiwn a budd-daliadau ôl-ymddeol eraill** 

Mae'r cwmni elusennol yn gweithredu cynllun pensiwn cyfraniadau diffiniedig. Codir cyfraniadau sy'n daladwy i gynllun pensiwn y cwmni elusennol i'r datganiad o weithgareddau ariannol yn y cyfnod y maent yn perthyn iddo. 

## **Taliadau terfynu** 

Mae taliadau terfynu yn cael eu cydnabod fel treuliau pan fydd gan yr elusen rwymedigaeth gyfreithiol neu adeiladol i wneud taliadau o'r fath. Mae'r rhwymedigaeth hon yn codi pan fydd cynllun diswyddo neu drefniant terfynu ffurfiol wedi'i gyfathrebu i'r gweithwyr dan sylw, gan greu disgwyliad dilys o daliad. Mae taliadau terfynu yn cael eu mesur yn seiliedig ar hawliau cytundebol neu statudol, yn ogystal ag unrhyw symiau ychwanegol disgresiynol a gymeradwywyd gan yr ymddiriedolwyr ac yn cael eu cynnwys yn y datganiadau ariannol o dan gostau staff. 

## **2. RHODDION A CHYMYNRODDION** 

|**RHODDION A CHYMYNRODDION**|||
|---|---|---|
||**31.12.24**|31.12.23|
||**£**|£|
|Rhoddion|**2,012**|9,103|
|Ffrindiau’r Nant|**-**|500|
|Grantiau|**-**|300|
|Casglu tâl parcio gwirfoddol|**2,422**|2,741|
||**4,434**|12,644|



Tudalen 17 16 

Parhau... 



## **Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn** 

## **Nodiadau i'r Datganiadau Ariannol - parhad ar gyfer y Flwyddyn a Ddaeth i Ben ar 31 Rhagfyr 2024** 

|**3.**<br>**GWEITHGAREDDAU MASNACHOL ERAILL**<br>Llogi lleoliad a safle<br>Incwm arlwyo (caffi)<br>Incwm lletygarwch<br>Incwm bar<br>Gwerthu llyfrau<br>Rhentu nwyddau priodasol<br>Incwm adloniant<br>**4.**<br>**INCWM BUDDSODDI**<br>Llog banc a dderbyniwyd<br>**5.**<br>**INCWM O WEITHGAREDDAU ELUSENNOL**<br>Incwm o’r cyrsiau<br>Darlithoedd hanesyddol<br>Ymweliadau addysgol<br>Grantiau<br>Mae'r grantiau a dderbynnir, sydd wedi'u cynnwys<br>yn yr uchod, fel a ganlyn:<br>Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol<br>Cronfa Treftadaeth (Prosiect Coed)|**31.12.24**<br>**£**<br>**87,794**<br>**533,665**<br>**318,592**<br>**38,994**<br>**12,728**<br>**200**<br>**633**<br>**992,606**<br>**31.12.24**<br>**£**<br>**24,778**<br>**31.12.24**<br>**£**<br>**110,978**<br>**633**<br>**-**<br>**708,388**<br>**819,999**<br>**31.12.24**<br>**£**<br>**622,845**<br>**85,543**<br>_______<br>**708,388**|31.12.23<br>£<br>165,678<br>433,592<br>228,656<br>39,679<br>4,712<br>1,800<br>2,845<br>876,962<br>31.12.23<br>£<br>22,357<br>31.12.23<br>£<br>98,753<br>887<br>133<br>520,225<br>619,998<br>31.12.23<br>£<br>520,225<br>-<br>_______<br>520,225|
|---|---|---|



Tudalen 1817 

Parhau... 



## **Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn** 

## **Nodiadau i'r Datganiadau Ariannol - parhad ar gyfer y Flwyddyn a Ddaeth i Ben ar 31 Rhagfyr 2024** 

## **6. CODI ARIAN** 

## **Gweithgareddau masnachol eraill** 

||**Gweithgareddau masnachol eraill**|||||
|---|---|---|---|---|---|
|||||**31.12.24**|31.12.23|
|||||**£**|£|
||Stoc a ddaeth ymlaen|||**10,412**|16,457|
||Pryniant|||**279,399**|259,939|
||Stoc ar ddiwedd y flwyddyn|||**(17,516)**|(10,412)|
||Dyledion drwg|||**-**|(303)|
|||||**272,295**|265,681|
|**7.**|**COSTAU GWEITHGAREDDAU ELUSENNOL**|||||
|||||Costau||
|||||cefnogol||
|||Costau||(gweler||
|||uniongyrchol||<br>nodyn 8)|Cyfanswm|
|||£||£|£|
||Addysg a hyfforddiant|**1,382,964 **||**71,544**|**1,454,508**|
|**8.**|**COSTAU CEFNOGOL**|||||
|||||Costau||
|||Cyllid<br>||llywodraethu|Cyfanswm|
|||£||£|£|
||Ffi archwilio||**-**|**7,175**|**7,175**|
||Ffioedd ymgynghorol, cyllidol a chyfreithiol||**-**|**38,130**|**38,130**|
||Costau banc|**14,593**||**-**|**14,593**|
||Llog banc|**11,646**||**-**|**11,646**|
|||**26,239**||**45,305**|**71,544**|
|**9.**|**INCWM/(GWARIANT) NET**|||||
||Nodir incwm / (gwariant) net ar ôl codi talu / (credydu):|||||
|||||**31.12.24**|31.12.23|
|||||**£**|£|
||Dibrisiant - asedau|||**152,818**|139,846|
||Llogi offer a pheiriannau|||**35,016**|41,549|
||Prydlesi gweithredol eraill|||**250**|250|



Tudalen 1918 

Parhau... 



## **Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn** 

## **Nodiadau i'r Datganiadau Ariannol - parhad ar gyfer y Flwyddyn a Ddaeth i Ben ar 31 Rhagfyr 2024** 

## **10. TALIADAU ARCHWILIWR** 

|**TALIADAU ARCHWILIWR**|||
|---|---|---|
||**31.12.24**|31.12.23|
||**£**|£|
|Ffioedd sy'n daladwy i archwilwyr yr elusen am archwilio|||
|datganiadau ariannol yr elusen|**7,175**|7,000|



## **11. CYDNABYDDIAETH A BUDDION YR YMDDIRIEDOLWYR** 

Nid oedd unrhyw gydnabyddiaeth ariannol na buddion eraill ar gyfer y flwyddyn yn diweddu ar 31 Rhagfyr 2024, nac am y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2023. 

## **Treuliau ymddiriedolwyr** 

Ni thalwyd treuliau i’r ymddiriedolwyr am y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2024 nac am y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2023. 

## **12. COSTAU STAFF** 

|Cyflogau<br>Yswiriant gwladol<br>Costau pensiwn|**31.12.24**<br>**£**<br>**848,784**<br>**73,711**<br>**23,511**<br>**946,006**|31.12.23<br>£<br>652,623<br>45,933<br>17,473<br>716,029|
|---|---|---|



Roedd y nifer cyfartalog o weithwyr yn ystod y flwyddyn fel a ganlyn: 

||**31.12.24**|31.12.23|
|---|---|---|
|Rheolwyr allweddol|**4**|5|
|Gweithwyr eraill|**47**|36|
||**51**|41|



Nifer y gweithwyr, lle y mae eu budd-daliadau gweithwyr (ac eithrio costau pensiwn cyflogwyr) yn fwy na £60,000 oedd: 

||**31.12.24**|31.12.23|
|---|---|---|
|£60,001 - £70,000|**-**|1|
|£70,001- £80,000|**1**|-|



Mae bwrdd yr ymddiriedolwyr yn ystyried mai personél rheoli allweddol yr elusen yw'r Prif Weithredwr a'r rheolwyr adrannol. Cyfanswm buddion cyflogaeth, gan gynnwys yswiriant gwladol cyflogwyr a chyfraniadau pensiwn y personél rheoli allweddol oedd £204,381 (2023: £167,574) yn y flwyddyn. 

Tudalen 2020 

Parhau... 



**mddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn** 

## **Nodiadau i'r Datganiadau Ariannol - parhad ar gyfer y Flwyddyn a Ddaeth i Ben ar 31 Rhagfyr 2024** 

## **12. COSTAU STAFF parhau** 

Yn ystod y flwyddyn ariannol, gwnaed taliadau terfynu o £51,239 i ddau aelod o staff fel rhan o becynnau ymadael cytunedig. Roedd y taliadau hyn yn cynnwys iawndal diswyddo yn ogystal a £26,239 fel Taliad yn Lle Hysbysiad (PILON). 

Gwnaed pob taliad terfynu yn unol â rhwymedigaethau cytundebol ac maent wedi’u cydnabod yn llawn yn y datganiadau ariannol. Nid oes unrhyw rwymedigaethau pellach yn weddill ar ddyddiad y fantolen. 

## **13. ASEDAU SEFYDLOG GWELADWY** 

|**COST**<br>Ar 1 Ionawr 2024<br>Ychwanegiadau<br>Ar 31 Rhagfyr 2024<br>**DIBRISIAD**<br>Ar 1 Ionawr 2024<br>Dibrisiant am y flwyddyn<br>Ar 31 Rhagfyr 2024<br>**GWERTH LLYFR NET**<br>Ar 31 Rhagfyr 2024<br>Ar 31 Rhagfyr 2023|Gosodiadau<br>Eiddo<br>a<br>Rhydd-ddaliadol Ffitiadau<br>Cyfanswm<br>£<br>£<br>£<br>**7,640,537**<br>**348,646**<br>**7,989,183**<br>**178,973**<br>**46,487 **<br>**225,460**<br>**7,819,510**<br>**395,133**<br>**8,214,643**<br>**4,612,286**<br>**164,012**<br>**4,776,298**<br>**118,788**<br>**34,030**<br>**152,818**<br>**4,731,074**<br>**198,042**<br>**4,929,116**<br>**3,088,436**<br>**197,091**<br>**3,285,527**<br>3,028,251<br>184,634<br>3,212,885|
|---|---|



Cafodd safle'r cwmni elusennol ei brisio, ar sail y farchnad agored, gan Christie & Co. ym mis Hydref 2019, gyda gwerth o £3.3m yn cael ei briodoli iddo. Mae'r bwrdd o'r farn fod hyn yn adlewyrchiad teg o'i werth presennol, ac felly mae'r bwrdd yn cytuno nad oes angen prisiad newydd, na newid am amhariad eleni. 

## **14. BUDDSODDIADAU ASEDAU SEFYDLOG** 

|**BUDDSODDIADAU ASEDAU SEFYDLOG**||
|---|---|
||Cyfranddaliadau|
||mewn|
||ymgymeriadau|
||grwp|
||£|
|**GWERTH MARCHNAD**||
|Ar 1 Ionawr 2024 a 31 Rhagfyr 2024|**100**|
|**GWERTH LLYFR NET**||
|Ar 1 Ionawr 2024 a 31 Rhagfyr 2024|**100**|
|Nid oedd unrhyw asedau buddsoddi y tu allan i'r Deyrnas Unedig.||
|Tudalen 2120|Parhau...|





## **Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn** 

## **Nodiadau i'r Datganiadau Ariannol - parhad ar gyfer y Flwyddyn a Ddaeth i Ben ar 31 Rhagfyr 2024** 

## **14. BUDDSODDIADAU ASEDAU SEFYDLOG - parhad** 

## **Cwmni Nant Cyfyngedig** 

Swyddfa Cofrestredig: Nant Gwrtheyrn, Llithfaen, Gwynedd, LL53 6NL Natur y busnes: Ddim yn masnachu 

||%|
|---|---|
|Cyfranddaliadau:|cyfanswm|
|100 o gyfranddaliadau cyffredin - £1|<br>**100**|



|**15.**<br>**EIDDO BUDDSODDIADOL**<br>**GWERTH TEG**<br>Ar 1 Ionawr 2024<br>a 31 Rhagfyr 2024<br>**GWERTH LLYFR NET**<br>Ar 31 Rhagfyr 2024<br>Ar 31 Rhagfyr 2023|**£**<br>**229,730**|
|---|---|
||**229,730**|
||229,730|



## **Manylion o’r eiddo buddsoddi:** 

Yn ystod 2007, trosglwyddwyd y tir ym Mhorth y Nant, Pistyll i'r cwmni fel rhodd gan Hanson Quarry Products Europe Ltd. Yn ôl y Bwrdd, a'r ddogfen sydd wedi ei chofrestru, nid oes gwerth i'r tir hwn. Hefyd yn ystod 2007, derbyniodd y cwmni elusennol rodd gan Ms Heulwen Richards o'r canlynol:- 

- Yr Ogof, Ravenspoint, Bae Trearddur, Ynys Môn. Bu farw Ms. Richards yn ystod y flwyddyn. Yn hanesyddol roedd ganddi hawl dros yr eiddo am weddill ei hoes. Amcangyfrif o werth yr eiddo yw £227,758. Mae'r eiddo yn rhan o'r cronfeydd cyfyngedig. 

- `o` Cyfran o 49% mewn 5 cae yn ardal Caergybi a elwir yn Tir Môn. Gan mai dim ond 49% mae y cwmni berchen, mae'r gwerth yn y cyfrifon yn isel, gyda gwerth o ddim ond £1,972 yn cael ei briodoli. 

Cafodd y tir a'r adeiladau cyfan eu prisio'n broffesiynol gan Dafydd Hardy MRICS ym mis Mai 2009, ond ers hynny mae'r ymddiriedolwyr wedi cadw llygad ar y farchnad leol, ac yn credu bod yr uchod yn frasamcan cywir o’u gwerth marchnad. 

## **16. STOC** 

|||**31.12.24**|31.12.23|
|---|---|---|---|
|||**£**|£|
||Stoc|**17,516**|10,412|
|**17.**|**DYLEDWYR: SYMIAU SY'N DDYLEDUS O FEWN BLWYDDYN**|||
|||**31.12.24**|31.12.23|
|||**£**|£|
||Dyledwyr masnachol|**38,843**|51,038|
||Blaendaliadau|**6,873**|9,860|
||Dyledwyr eraill|**56,903**|-|
|||**102,619**|60,898|
|||**=====**|======|



Tudalen 2220 

Parhau... 



## **Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn** 

## **Nodiadau i'r Datganiadau Ariannol - parhad ar gyfer y Flwyddyn a Ddaeth i Ben ar 31 Rhagfyr 2024** 

## **18. CREDYDWYR: SYMIAU SY'N DDYLEDUS O FEWN BLWYDDYN** 

|**31.12.24**<br>**£**<br>Benthyciadau banc a gorddrafftiau (gweler nodyn 20)<br>**16,066**<br>Credydwyr masnachol<br>**80,439**<br>Nawdd cymdeithasol a threthi eraill<br>**26,041**<br>Treth ar werth<br>**5,775**<br>Credydwyr eraill<br>**6,620**<br>Cyfalaf cyfranddaliadau yr is-gwmni<br>**100**<br>Incwm gohiriedig<br>**219,398**<br>Costau cronedig<br>**42,789**<br>**397,228**<br>**19.**<br>**CREDYDWYR: SYMIAU SY'N DDYLEDUS AR ÔL MWY NA BLWYDDYN**<br>**31.12.24**<br>**£**<br>Benthyciadau banc (gweler nodyn 20)<br>**91,079**<br>Benthyciadau Eraill (gweler nodyn 20)<br>**13,858**<br>**104,937 **<br>**20.**<br>**BENTHYCIADAU**<br>Rhoddir dadansoddiad o aeddfedrwydd benthyciadau isod:<br>**31.12.24**<br>**£**<br>Symiau yn ddyledus, ar alw, o fewn blwyddyn:<br>Benthyciadau banc<br>**16,066**<br>Symiau sydd yn ddyledus o fewn blwyddyn i ddwy:<br>Benthyciadau banc - 1-2 flynedd<br>**16,066**<br>Symiau sydd yn ddyledus mewn dwy i bum mlynedd:<br>Benthyciadau banc - 2-5 mlynedd<br>**48,198**<br>Symiau sydd yn ddyledus ar ôl pum mlynedd:<br>Ad-daladwy drwy randdaliadau:<br>Benthyciad banc – mwy na 5 mlynedd<br>**26,815**<br>______<br>**107,145**<br>======<br>Benthyciadau eraill sydd yn ddyledus ar ôl pum mlynedd:<br>Benthyciadau eraill – mwy na 5 mlynedd<br>**13,858**|31.12.23<br>£<br>91,545<br>93,474<br>9,873<br>6,099<br>3,524<br>100<br>133,630<br>7,450<br>345,695<br>31.12.23<br>£<br>97,733<br>13,858<br>111,591<br>31.12.23<br>£<br>91,545<br>26,314<br>52,628<br>18,791<br>______<br>189,278<br>======<br>13,858|
|---|---|



Tudalen 23 

Parhau... 



## **Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn** 

## **Nodiadau i'r Datganiadau Ariannol - parhad ar gyfer y Flwyddyn a Ddaeth i Ben ar 31 Rhagfyr 2024** 

## **21. CYTUNDEBAU PRYDLESU** 

Mae isafswm taliadau prydles oddi tan brydlesi gweithredol a na ellir eu canslo yn ddyledus fel a ganlyn: 

||**31.12.24**|31.12.23|
|---|---|---|
||**£**|£|
|O fewn blwyddyn|11,029|11,029|
|Rhwng 1 a 5 mlynedd|25,478|38,864|
||36,507|49,893|



## **22. DYLEDION GWARANTEDIG** 

Mae'r dyledion canlynol wedi'u gwarantu ac yn cael eu cynnwys o fewn y credydwyr: 

## Benthyciadau banc 

|**31.12.24**<br>**£**<br>**107,145**|31.12.23<br>£<br>189,278|
|---|---|



Ar hyn o bryd mae gan y cwmni elusennol 3 ffi weithredol ar ei gofrestr yn Tŷ'r Cwmnïau, gyda'r rhain yn gysylltiedig â'r benthyciadau a nodir yn y nodiadau i'r datganiadau ariannol. Y prif fanylion ar eu cyfer yw: 

- a. Gweithred forgais, a grëwyd gan Lloyds Bank ar 2 Rhagfyr 2009. Mae'r tâl dros y rhifau teitl CYM64983, WA574689, CYM96651, a'r holl adeiladau a gosodiadau cysylltiedig. 

- b. Tâl cyfreithiol, a grëwyd gan Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol ar 26 Mawrth 2010. Mae tâl dros y teitl rhif CYM64983. 

- c. Tâl cyfreithiol dros y teitl CYM368839, Yr Ogof, Bae Trearddur, Ynys Môn. Crëwyd hyn ar 5 Mawrth 2015, gyda'r canlynol yn dwyn y teitl: Syr James Douglas Spooner, Syr Martin Wakefield Jacomb, Arglwydd Sainsbury o Preston Candover KG. a'r Arglwydd Sainsbury o Preston Candover CBE. 

## **23. SYMUD MEWN CRONFEYDD** 

|**Cronfeydd anghyfyngedig**<br>Cronfa gyffredinol<br>Cronfa asedau sefydlog<br>**Cronfeydd cyfyngedig**<br>Cronfa eiddo buddsoddi<br>Cronfa Treftadaeth (Prosiect Coed)<br>**CYFANSWM CRONFEYDD**|Symudiad<br>net mewn<br>Ar 1.1.24<br>cronfeydd<br>£<br>£<br>**593,348**<br>**(52,053)**<br>**3,212,885**<br>**(68) **<br>**3,806,233**<br>**(52,121)**<br>**229,730**<br>**-**<br>**-**<br>**72,710**<br>**4,035,963**<br>**20,589**<br>Tudalen 24|Trosglwyddiadau<br> <br>rhwng y<br>Ar<br> <br>cronfeydd<br>31.12.24<br>£<br>£<br>**-**<br>**541,295**<br>**-**<br>**3,212,817**<br>**-**<br>**3,754,112**<br>**-**<br>**-**<br>**229,730**<br>**72,710**<br>**-**<br>**4,056,552**<br>Parhau...|
|---|---|---|





## **Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn** 

## **Nodiadau i'r Datganiadau Ariannol - parhad ar gyfer y Flwyddyn a Ddaeth i Ben ar 31 Rhagfyr 2024** 

## **23. SYMUD MEWN CRONFEYDD - parhad** 

Mae y symudiad net mewn cronfeydd, sydd wedi'u cynnwys yn yr uchod fel a ganlyn: 

|**Cronfeydd anghyfyngedig**<br>Cronfa gyffredinol<br>Cronfa Treftadaeth (Prosiect Coed)<br>**CYFANSWM CRONFEYDD**|Incwm<br>£<br>**1,814,667**<br>**85,543**<br>**1,900,210**<br>**1,900,210**|Symudiad yn<br> <br>Gwariant  y cronfeydd<br>£<br>£<br>**(1,866,788)**<br>**(52,121)**<br>**(12,833)**<br>**72,710**<br>**(1,879,621)**<br> **(20,589)**<br> **(1,879,621)**<br>**(20,589)**|Symudiad yn<br> <br>Gwariant  y cronfeydd<br>£<br>£<br>**(1,866,788)**<br>**(52,121)**<br>**(12,833)**<br>**72,710**<br>**(1,879,621)**<br> **(20,589)**<br> **(1,879,621)**<br>**(20,589)**|
|---|---|---|---|
||||**(20,589)**|
||||**(20,589)**|



## **Symud yng nghronfeydd y llynedd** 

|||Symudiad|Trosglwyddiadau|Trosglwyddiadau|
|---|---|---|---|---|
|||net mewn|<br>rhwng y|<br>Ar|
||Ar 1.1.23|<br>cronfeydd|<br>cronfeydd|<br>31.12.23|
||£|£|£|£|
|**Cronfeydd anghyfyngedig**|||||
|Cronfa gyffredinol|562,291|134,055|(102,999)|593,347|
|Cronfa asedau sefydlog|3,249,732|(139,845)|102,999|3,212,886|
||3,812,023|<br>(5,790)|-|3,806,233|
|**Cronfeydd cyfyngedig**|||||
|Cronfa eiddo buddsoddiadol|229,730|-|-|229,730|
|**CYFANSWM CRONFEYDD**|4,041,753|(5,790)|-|4,035,963|
|Mae y symudiad net mewn cronfeydd,|sydd wedi'u cynnwys yn yr||uchod fel a ganlyn:||
|||||Symudiad yn|
|||Incwm|<br>Gwariant|y cronfeydd|
|||£|£|£|
|**Cronfeydd anghyfyngedig**|||||
|Cronfa gyffredinol||1,541,716|(1,407,661)|134,055|
|Cronfa asedau sefydlog||-|(139,845)|(139,845)|
|||1,541,716|(1,547,506)|(5,790)|
|**CYFANSWM CRONFEYDD**||1,541,716|(1,547,506)|(5,790)|



## **Trosglwyddiadau rhwng y cronfeydd** 

Mae’r trosglwyddiad o’r gronfa gyffredinol i’r gronfa asedau sefydlog ddynodedig yn cynrychioli trosglwyddo costau ychwanegiadau’r flwyddyn ar gyfer yr asedau sefydlog rhwng y cronfeydd. 

Tudalen 2524 

Parhau... 



**Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn** 

## **Nodiadau i'r Datganiadau Ariannol - parhad ar gyfer y Flwyddyn a Ddaeth i Ben ar 31 Rhagfyr 2024** 

## **24. DATGELIADAU PARTION CYSYLLTIEDIG** 

Rheolir yr Elusen gan yr ymddiriedolwyr a enwir ar ddechrau'r ddogfen hon. Ni thalwyd unrhyw gostau teithio na chostau eraill i'r ymddiriedolwyr yn ystod y flwyddyn hon na'r flwyddyn flaenorol. 

Fodd bynnag, ar ddiwedd y flwyddyn roedd y swm canlynol yn daladwy i ysgrifennydd y cwmni : (Nid oes llog yn daladwy ar y benthyciad):- Mrs P M Ellis - £2,000 (2023: £2,000). 

Yn ogystal, yn ystod y flwyddyn talwyd cyfanswm o £17,480 wrth fasnachu hyd braich gyda un aelod o’r Bwrdd (2023 – dim). 

Tudalen 2625 



## **Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn** 

## **Datganiad manwl o weithgareddau ariannol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2024** 

|**INCWM AC GWADDOLION**<br>**Rhoddion a chymynroddion**<br>Rhoddion<br>Ffrindiau’r Nant<br>Grantiau<br>Casgliadau tâl parcio gwirfoddol<br>**Gweithgareddau masnachol eraill**<br>Rhentu lleoliadau a’r safle<br>Incwm arlwyo (caffi)<br>Incwm lletygarwch<br>Incwm o’r bar<br>Gwerthiant llyfrau<br>Llogi offer priodasol<br>Incwm adloniant<br>**Incwm buddsoddiad**<br>Llog a dderbyniwyd<br>**Gweithgareddau elusennol**<br>Incwm o’r cyrsiau<br>Darlithoedd hanesyddol<br>Ymweliadau addysgol<br>Grantiau<br>**Incwm arall**<br>Rhent<br>Incwm arall<br>Gwerthu coed<br>Costau postio/cludo<br>**Cyfanswm adnoddau sy'n dod i fewn**|31.12.24<br>£<br>**2,012**<br>**-**<br>**-**<br>**2,422**<br>**4,434**<br>**87,794**<br>**533,665**<br>**318,592**<br>**38,994**<br>**12,728**<br>**200**<br>**633**<br>**992,606**<br>**24,778**<br>**110,978**<br>**633**<br>**-**<br>**708,388**<br>**819,999**<br> **4,562**<br>**309**<br>**53,522**<br>**-**<br>**58,393**<br>**1,900,210**|31.12.23<br>£<br>9,103<br>500<br>300<br>2,741<br>12,644<br>165,678<br>433,592<br>228,656<br>39,679<br>4,712<br>1,800<br>2,845<br>876,962<br>22,357<br>98,753<br>887<br>133<br>520,225<br>619,998<br>-<br>5,185<br>4,544<br>27<br>9,756<br>1,541,717|
|---|---|---|



Nid yw'r dudalen hon yn rhan o'r datganiadau ariannol statudol 

Tudalen 27 



## **Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn** 

## **Datganiad manwl o weithgareddau ariannol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2024** 

|**GWARIANT**<br>**Gweithgareddau masnachol eraill**<br>Stoc a gariwyd ymlaen<br>Pryniannau<br>Glanhau ac adnewyddu - lletygarwch<br>Drwg ddyledwyr<br>Stoc ar ddiwedd y flwyddyn<br>**Gweithgareddau elusennol**<br>Cyflogau<br>Yswiriant gwladol<br>Pensiynau<br>Taliadau cyflogaeth eithriadol<br>Llogi peiriannau ayyb<br>Prydlesi gweithredu eraill<br>Yswiriant<br>Golau a gwres<br>Ffon a rhyngrwyd ayyb<br>Postio a deunydd ysgrifennu<br>Hysbysiadau<br>Costau eraill<br>Costau’r cyrsiau<br>Trwyddedau a thanysgrifiadau<br>Hyfforddiant<br>Moduro a thrafaelio<br>Costau tiwtor a llafur achlysurol<br>Atgyweirio, cynnal a chadw eiddo<br>Cost cynnal a chadw eraill<br>Costau cynhaliaeth<br>Costau treth ar werth anadferadwy|31.12.24<br>£<br>**10,412**<br>**202,806**<br>**76,593**<br>**-**<br>**(17,516) **<br>**272,295**<br>=======<br>**848,784**<br>**73,711**<br>**23,511**<br>**51,239**<br>**35,016**<br>**250**<br>**8,125**<br>**104,948**<br>**5,013**<br>**5,645**<br>**7,901**<br>**11,358**<br>**20,072**<br>**7,504**<br>**5,852**<br>**10,447**<br>**88,417**<br>**18,615**<br>**23,586**<br>**1,208**<br>**31,762**<br>**1,382,964**|31.12.23<br>£<br>16,457<br>193,742<br>66,197<br>(303)<br>(10,412)<br>265,681<br>=======<br>652,623<br>45,933<br>17,473<br>-<br>41,549<br>250<br>7,746<br>69,958<br>2,175<br>5,055<br>16,352<br>5,473<br>13,708<br>8,398<br>1,392<br>3,743<br>83,358<br>16,227<br>27,952<br>-<br>26,900<br>1,046,265|
|---|---|---|



Nid yw'r dudalen hon yn rhan o'r datganiadau ariannol statudol 

Tudalen 28 



## **Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn** 

## **Datganiad manwl o weithgareddau ariannol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2024** 

|**Costau cefnogol**<br>**Cyllid**<br>Costau bancio<br>Llog ar fenthyciadau banc<br>**Cyllid**<br> **Costau llywodraethu**<br>Ffioedd proffesiynol<br>Tâl yr archwilwyr<br>Ffioedd ymgynghorol a chyfreithiol<br>Costau dibrisiant<br>Cyfanswm yr adnoddau a wariwyd<br>**Incwm/(gwariant) net**|31.12.24<br>£<br>**14,593**<br>**11,646**<br>**26,239**<br> **3,149**<br>**7,175**<br>**34,981**<br>**45,305**<br>**1,454,508**<br>**=======**<br>**152,818**<br>**=======**<br>**1,879,621**<br>**20,589**|31.12.23<br>£<br>9,979<br>15,520<br>25,499<br>-<br>7,000<br>63,216<br>70,216<br>1,141,980<br>=======<br>139,846<br>=======<br>1,547,507<br>(5,790)|
|---|---|---|



Nid yw'r dudalen hon yn rhan o'r datganiadau ariannol statudol 

Tudalen 29 

