Adroddiad Blynyddol Ymddiriedolwyr Eglwys Efengylaidd Caerfyrddin
Ionawr - Rhagfyr 2023
Rhif Elusen 1002715
Rhagymadrodd
Bwriad yr adroddiad hwn yw egluro sut y gwnaeth yr eglwys geisio cyflawni ei nod a’i hamcanion am y flwyddyn 2023, a rhoi crynodeb o dderbynion a gwariant ariannol yr eglwys am y flwyddyn.
Diolchwn i Dduw am ei ffyddlondeb i ni fel eglwys, yn ein gwarchod a’n cynnal yn unol am flwyddyn arall.
Nod ac amcanion
Nod ac amcanion Eglwys Efengylaidd Caerfyrddin fel elusen gofrestredig yw :
-
Hyrwyddo’r Ffydd Gristnogol Efengylaidd a hyrwyddo gwybodaeth, astudio, deall a gwerthfawrogiad o’r Beibl yn Gymraeg a
-
Lleddfu tlodi yn ardal Caerfyrddin
Anelwyd i gyflawni’r amcanion hyn drwy waith yr Eglwys a ddisgrifir yn yr adroddiad hwn, gan geisio sicrhau budd cyhoeddus drwy holl brif weithgareddau'r eglwys.
Cyflawniadau a heriau 2023
Cyfarfodydd a Gweinidogaeth y Sul
Cynhaliwyd cyfarfodydd ddwywaith ar y Sul drwy gyfrwng y Gymraeg drwy gydol y flwyddyn. Hysbyswyd cyfarfodydd y Sul yn wythnosol ar ein gwefan, sy’n cael ei diweddaru’n gyson, a lle y gellir gwrando ar bregethau’r eglwys. Hysbyswyd yr holl gyfarfodydd drwy gyfryngau cymdeithasol X (Trydar) a Facebook a darlledwyd negeseuon y Sul ac eraill ar You Tube. Roedd ein cyfarfodydd yn agored i bawb i’w mynychu.
Parhawyd â’r gyfres o bregethau o lyfr y Salmau dros y flwyddyn. Dechreuwyd cyfres newydd o bregethau ar efengyl Marc a pharhawyd hefyd a chyfresi ar aberthau llyfr Lefiticus a Hebreaid 11. Pregethwyd ar destunau amrywiol o’r Hen Destament, megis llyfrau Esther, Sechareia a Malachi ynghyd ȃ thestunau efengylu o amrywiol lyfrau a llythyrau’r Testament Newydd.
Mae’r ddau henuriad a’r efengylydd, a fu’n pregethu fwyaf aml, yn ddiolchgar am bob cynhaliaeth. Nid yw sicrhau siaradwyr allanol ar gyfer y Sul yn waith hawdd, wrth i’r to hŷn o bregethwyr leihau’n eu nifer, a diolchwn am wasanaeth yr un ar bymtheg o siaradwr gwadd o eglwysi ledled Cymru a fu mor barod i gynorthwyo’r eglwys ar y Sul yn ystod y flwyddyn.
Efengylu
Yn ystod y flwyddyn bu’r Parch. Roger Thomas yn parhau i gysylltu gydag unigolion, grwpiau a sefydliadau yng Nghaerfyrddin a’r cylch, gan ymweld yn rheolaidd a ‘Mart’ anifeilaid y dre i greu a meithrin perthynas â ffermwyr lleol a masnachwyr eraill yno. Parhaodd ei waith fel caplan Heddlu Dyfed Powys ac ymweld a busnesau’r dre gan gynnwys busnesau’r farchnad nwyddau leol. Parhaodd y Parch. Roger Thomas ei
gyswllt â’r grwp dysgu Cymraeg a drefnir gan Fenter Iaith Gorllewin Sir Gar, a fu’n cyfarfod yng nghanolfan iaith yr Atom yn y dref.
Derbyniwyd gwahoddiad i fynychu a chynnal stondyn yng Ngwyl y Dref eleni, wedi i’r trefnwyr wrthod ein cais i wneud hynny y flwyddyn flaenorol. Mynychwyd pedair sioe amaethyddol leol hefyd, ynghyd ȃ chefnogi’r gwaith efengylu yn y Sioe Fawr genedlaethol.
Parhaodd presenoldeb digidol yr eglwys ar y cyfryngau cymdeithasol drwy gydol y flwyddyn a pharhaodd y niferoedd a wrandawai ar bregethau wedi eu darlledu ar y Sul i fod yn niferus.
Cyfarfodydd arbennig
Cynhaliwyd cyfarfod dathlu Gwyl Dewi gyda chawl a sgwrs i ddilyn gan Robert Rhys i goffau tri chan mlwyddiant geni Peter Williams. Cafwyd cyfarfod diolchgarwch am y cynhaeaf yn y Celwrn dan arweiniad Isias Grandis a chynhaliwyd oedfa garolau adeg y Nadolig.
Cyfarfodydd Canol Wythnos
Parhawyd i gynnal y cyfarfod gweddi ar nos Fercher yn y Celwrn, gan neilltuo un nos Fercher y mis i dderbyn adroddiad gan y Parch. Roger Thomas am waith y mis er mwyn gweddïo’n benodol am ei waith ac am gysylltiadau cenhadol eraill.
Cyfarfodydd gwragedd
Cyhaliwyd cwrdd gwragedd ‘Lydia’ yn fisol yn y Celwrn.
Cyswllt â’r gymuned
Trefnwyd sesynau crefftau a bore coffi er budd banc bwyd lleol gan godi £850.00 trwy werthiant y cynnyrch a chyfraniadau.
Cefnogi gwaith Cristnogol ehangach
Mae’r eglwys wedi parhau i gefnogi gwaith MERF trwy gyfraniad blynyddol. Parhawyd i gefnogi gwaith Cymraeg Mudiad Efengylaidd Cymru. Mae’r eglwys wedi parhau i gefnogi gwaith Emmanuel Durand yn Ffrainc. Parhaodd ymrwymiad yr eglwys i weddïo’n benodol am ddwy wedd ar waith cymdeithas cyfieithu’r beibl - Wycliffe - gan dderbyn gwybodaeth chwarterol.
Cyswllt ag eglwysi eraill
Parhaodd y cyswllt a nifer o eglwysi efengylaidd eraill yng Nhymru drwy ymweliadau pregethwyr o’r eglwysi hynny a Eglwys Efengylaidd Caerfyrddin. Tristwch mawr i’r eglwys oedd penderfyniad arweinwyr Eglwys Efengylaidd Saesneg Caerfyrddin i ddwyn yr achos i ben yn 2023, yn dilyn ymadawiad eu gweinidog a gwerthu eu hadeilad y flwyddyn flaenorol.
Yr Adeilad
Diolchwn na fu rhaid defnyddio offer pwmpio dŵr ar un adeg yn ystod y flwyddyn ond roedd yn gysur gwybod fod yr offer yn ei le pe byddai bygythiad i’r Celwrn gan lifogydd.
Sefyllfa Ariannol
Derbyniodd yr eglwys rodd o £75,808.50 o weddillion asedau’r eglwys efengylaidd saesneg, yn arwydd o’r cyswllt agos a fu rhyngom fel chwaer eglwysi dros lawer o flynyddoedd, wedi i’w hymddiriedolwyr ac aelodau bleidleisio’n unfrydol o blaid gwneud hynny.
Caed £95,675.58 o weddillion dros wariant ar ddiwedd 2023 o’r herwydd. Mae incwm yr eglwys ar hyn o bryd yn ddigonol i gynnal gweithiwr ond gyda chostau eraill, disgwylir y bydd y galw ar ryw gymaint o’r gweddillion yn parhau i’r dyfodol . Nid oes ansicrwydd ariannol sy’n peryglu gallu’r elusen i barhau ar hyn o bryd. Gweler y fantolen ariannol amgaeedig am y flwyddyn 2023.
Strwythur Llywodraethiant a Rheolaeth
Strwythur arweinyddiaeth yr eglwys yw dau henuriad a thri diacon.
Llywodraethir yr elusen gan Weithred Ymddiriedolaeth fel Ymddiriedolaeth Elusennol a wnaed a 27 Chwefror 1991.
Ar hyn o bryd, ceir tri ymddiriedolwr i’r Elusen a adweinir fel Eglwys Efengylaidd Caerfyrddin (Rhif Cofrestru 1002715), sef dau henuriad Eglwys Efengylaidd Caerfyrddin : Robert Rhys a Parry Davies ac un aelod o’r eglwys, sef John Roberts. Dewisir ymddiriedolwyr o blith aelodau a swyddogion yr Eglwys mewn cyfarfod eglwys. Penodwyd yr ymddiriedolwyr presennol yn 1991.
A Parry Davies
(Ar ran ymddiriedolwyr Eglwys Efengylaidd Caerfyrddin)
Dyddiad : 30 Hydref 2024
EÈlwyS EhllW.afdd CèBrfbrthn n a Gwarkl laf kITl[lI1- 411tt Rha 212iJ).a6 21535.98 I23B.2Q .75Pi&5 A[(hEblu Banc All¢ QLCH RhtsddGwwethfyuellE5t Rent Ad-daR3d21d 6yrwrlh UDSVfa . &27B,20 2[71 1311517.95 11 Cyffog v GwElthlwr Treth fncttffl Ysw*lart GYr 16A81,22 1845.[ 522.96 L708,n ZW,DD 4,5(M), 751.lJ4 S.3 1116.89 72 154159 813,76 IWA15 ' NÈst (pefts1wn) Pregeth¥ryr Gw&dd Gw41th Cenh&tlol{MEQUFM,f41erfl Co¥(au'r Adellad l+wsr.Trydan,tPAT Y$wlrl•Trt 8r(hwllb'r CyFrtFon GydL drog'GwkrJ&nt 95,57556 '&
COMISIWN ELUSENNAU AR GYFER CYMRU A LLOE(R Adrodthad yr vehwlltr annlbynnol ar y AthrdId I l&Lw EfFNGLILALDb CfvSAFMRLNJV 11 IiiJao33 16703?15 Ar y y (•• f•••) J Oothjl Elu>•rThgu X1111* 00 o d8n 8dr8n 145 0 DOw&ff JJ119¢ yTiwyd a c{ff 145<5Xb} dr Dothff. . I l npd )Wn gynp 20 8A AGGO fr hAJD fLUAJvc£ Ilff ER Hydrof 2018