## Adroddiad Blynyddol Ymddiriedolwyr Eglwys Efengylaidd Caerfyrddin 

Ionawr - Rhagfyr 2023 

Rhif Elusen 1002715 



## **Rhagymadrodd** 

Bwriad yr adroddiad hwn yw egluro sut y gwnaeth yr eglwys geisio cyflawni ei nod a’i hamcanion am y flwyddyn 2023, a rhoi crynodeb o dderbynion a gwariant ariannol yr eglwys am y flwyddyn. 

Diolchwn i Dduw am ei ffyddlondeb i ni fel eglwys, yn ein gwarchod a’n cynnal yn unol am flwyddyn arall. 

## **Nod ac amcanion** 

Nod ac amcanion Eglwys Efengylaidd Caerfyrddin fel elusen gofrestredig yw : 

- Hyrwyddo’r Ffydd Gristnogol Efengylaidd a hyrwyddo gwybodaeth, astudio, deall a gwerthfawrogiad o’r Beibl yn Gymraeg a 

- Lleddfu tlodi yn ardal Caerfyrddin 

Anelwyd i gyflawni’r amcanion hyn drwy waith yr Eglwys a ddisgrifir yn yr adroddiad hwn, gan geisio sicrhau budd cyhoeddus drwy holl brif weithgareddau'r eglwys. 

## **Cyflawniadau a heriau 2023** 

## Cyfarfodydd a Gweinidogaeth y Sul 

Cynhaliwyd cyfarfodydd ddwywaith ar y Sul drwy gyfrwng y Gymraeg drwy gydol y flwyddyn. Hysbyswyd cyfarfodydd y Sul yn wythnosol ar ein gwefan, sy’n cael ei diweddaru’n gyson, a lle y gellir gwrando ar bregethau’r eglwys. Hysbyswyd yr holl gyfarfodydd drwy gyfryngau cymdeithasol X (Trydar) a Facebook a darlledwyd negeseuon y Sul ac eraill ar You Tube. Roedd ein cyfarfodydd yn agored i bawb i’w mynychu. 

Parhawyd â’r gyfres o bregethau o lyfr y Salmau dros y flwyddyn. Dechreuwyd cyfres newydd o bregethau ar efengyl Marc a pharhawyd hefyd a chyfresi ar aberthau llyfr Lefiticus a Hebreaid 11. Pregethwyd ar destunau amrywiol o’r Hen Destament, megis llyfrau Esther, Sechareia a Malachi ynghyd ȃ thestunau efengylu o amrywiol lyfrau a llythyrau’r Testament Newydd. 

Mae’r ddau henuriad a’r efengylydd, a fu’n pregethu fwyaf aml, yn ddiolchgar am bob cynhaliaeth. Nid yw sicrhau siaradwyr allanol ar gyfer y Sul yn waith hawdd, wrth i’r to hŷn o bregethwyr leihau’n eu nifer, a diolchwn am wasanaeth yr un ar bymtheg o siaradwr gwadd o eglwysi ledled Cymru a fu mor barod i gynorthwyo’r eglwys ar y Sul yn ystod y flwyddyn. 

## Efengylu 

Yn ystod y flwyddyn bu’r Parch. Roger Thomas yn parhau i gysylltu gydag unigolion, grwpiau a sefydliadau yng Nghaerfyrddin a’r cylch, gan ymweld yn rheolaidd a ‘Mart’ anifeilaid y dre i greu a meithrin perthynas â ffermwyr lleol a masnachwyr eraill yno. Parhaodd ei waith fel caplan Heddlu Dyfed Powys ac ymweld a busnesau’r dre gan gynnwys busnesau’r farchnad nwyddau leol.  Parhaodd y Parch. Roger Thomas ei 



gyswllt â’r grwp dysgu Cymraeg a drefnir gan Fenter Iaith Gorllewin Sir Gar, a fu’n cyfarfod yng nghanolfan iaith yr Atom yn y dref. 

Derbyniwyd gwahoddiad i fynychu a chynnal stondyn yng Ngwyl y Dref eleni, wedi i’r trefnwyr wrthod ein cais i wneud hynny y flwyddyn flaenorol. Mynychwyd pedair sioe amaethyddol leol hefyd, ynghyd ȃ chefnogi’r gwaith efengylu yn y Sioe Fawr genedlaethol. 

Parhaodd presenoldeb digidol yr eglwys ar y cyfryngau cymdeithasol drwy gydol y flwyddyn a pharhaodd y niferoedd a wrandawai ar bregethau wedi eu darlledu ar y Sul i fod yn niferus. 

## Cyfarfodydd arbennig 

Cynhaliwyd cyfarfod dathlu Gwyl Dewi gyda chawl a sgwrs i ddilyn gan Robert Rhys i goffau tri chan mlwyddiant geni Peter Williams. Cafwyd cyfarfod diolchgarwch am y cynhaeaf yn y Celwrn dan arweiniad Isias Grandis a chynhaliwyd oedfa garolau adeg y Nadolig. 

## Cyfarfodydd Canol Wythnos 

Parhawyd i gynnal y cyfarfod gweddi ar nos Fercher yn y Celwrn, gan neilltuo un nos Fercher y mis i dderbyn adroddiad gan y Parch. Roger Thomas am waith y mis er mwyn gweddïo’n benodol am ei waith ac am gysylltiadau cenhadol eraill. 

## Cyfarfodydd gwragedd 

Cyhaliwyd cwrdd gwragedd ‘Lydia’ yn fisol yn y Celwrn. 

## Cyswllt â’r gymuned 

Trefnwyd sesynau crefftau a bore coffi er budd banc bwyd lleol gan godi £850.00 trwy werthiant y cynnyrch a chyfraniadau. 

## Cefnogi gwaith Cristnogol ehangach 

Mae’r eglwys wedi parhau i gefnogi gwaith MERF trwy gyfraniad blynyddol. Parhawyd i gefnogi gwaith Cymraeg Mudiad Efengylaidd Cymru. Mae’r eglwys wedi parhau i gefnogi gwaith Emmanuel Durand yn Ffrainc. Parhaodd ymrwymiad yr eglwys i weddïo’n benodol am ddwy wedd ar waith cymdeithas cyfieithu’r beibl - Wycliffe - gan dderbyn gwybodaeth chwarterol. 

## Cyswllt ag eglwysi eraill 

Parhaodd y cyswllt a nifer o eglwysi efengylaidd eraill yng Nhymru drwy ymweliadau pregethwyr o’r eglwysi hynny a Eglwys Efengylaidd Caerfyrddin. Tristwch mawr i’r eglwys oedd penderfyniad arweinwyr Eglwys Efengylaidd Saesneg Caerfyrddin i ddwyn yr achos i ben yn 2023, yn dilyn ymadawiad eu gweinidog a gwerthu eu hadeilad y flwyddyn flaenorol. 

## Yr Adeilad 

Diolchwn na fu rhaid defnyddio offer pwmpio dŵr ar un adeg yn ystod y flwyddyn ond roedd yn gysur gwybod fod yr offer yn ei le pe byddai bygythiad i’r Celwrn gan lifogydd. 

## **Sefyllfa Ariannol** 



Derbyniodd yr eglwys rodd o £75,808.50 o weddillion asedau’r eglwys efengylaidd saesneg, yn arwydd o’r cyswllt agos a fu rhyngom fel chwaer eglwysi dros lawer o flynyddoedd, wedi i’w hymddiriedolwyr ac aelodau bleidleisio’n unfrydol o blaid gwneud hynny. 

Caed £95,675.58 o weddillion dros wariant ar ddiwedd 2023 o’r herwydd. Mae incwm yr eglwys ar hyn o bryd yn ddigonol i gynnal gweithiwr ond gyda chostau eraill, disgwylir y bydd y galw ar ryw gymaint o’r gweddillion yn parhau i’r dyfodol **.** Nid oes ansicrwydd ariannol sy’n peryglu gallu’r elusen i barhau ar hyn o bryd. Gweler y fantolen ariannol amgaeedig am y flwyddyn 2023. 

## **Strwythur Llywodraethiant a Rheolaeth** 

Strwythur arweinyddiaeth yr eglwys yw dau henuriad a thri diacon. 

Llywodraethir yr elusen gan Weithred Ymddiriedolaeth fel Ymddiriedolaeth Elusennol a wnaed a 27 Chwefror 1991. 

Ar hyn o bryd, ceir tri ymddiriedolwr i’r Elusen a adweinir fel Eglwys Efengylaidd Caerfyrddin (Rhif Cofrestru 1002715), sef dau henuriad Eglwys Efengylaidd Caerfyrddin : Robert Rhys a Parry Davies ac un aelod o’r eglwys, sef John Roberts. Dewisir ymddiriedolwyr o blith aelodau a swyddogion yr Eglwys mewn cyfarfod eglwys. Penodwyd yr ymddiriedolwyr presennol yn 1991. 

A Parry Davies 

(Ar ran ymddiriedolwyr Eglwys Efengylaidd Caerfyrddin) 

Dyddiad : 30 Hydref 2024 



EÈlwyS EhllW.afdd CèBrfbrthn
n a Gwark￿l
laf kIT￿l[lI1- 41*1tt Rha
212iJ).a6
21535.98
I23B.2Q
.75Pi&5
A[(hEblu￿ Banc
All￿¢ QLCH
RhtsddGwwethfy*uellE5t
Rent
Ad-daR3d21￿￿d 6yrwrlh
UDS￿V￿fa
. &27B,20
2[￿71
1311517.95
11
Cyffog v GwElthlwr
Treth fncttffl
Ysw*lart GY￿r
16A81,22
1845.[
522.96
L708,n
ZW,DD
4,5(M),
751.lJ4
S.3
1116.89 ￿72
154159
813,76
IWA15
' NÈst (pefts1wn)
Pregeth¥ryr Gw&dd
Gw41th Cenh&tlol{MEQUFM,f41erfl
Co¥(au'r Adellad
l+wsr.Trydan,tPAT
Y$wlrl•Trt
8r(hwllb'r CyFrtFon
Gy￿d￿L drog'GwkrJ&nt 95,57556 '&

COMISIWN ELUSENNAU
AR GYFER CYMRU A LLOE(R
Adrodthad yr vehwlltr￿ annlbynnol ar y
Athr￿dId I
l&Lw EfFNGLILALDb CfvSAFMRLNJV
11 IiiJao33
16703?15
Ar y y
(•• f•••)
J Oothjl Elu>•rThgu X1111* 00
o d8n 8dr8n 145 0 DOw&ff JJ119¢ ￿ yTiwyd a
c{ff￿ 145<5Xb} dr Dothff.
. I l ￿ npd )Wn gynp
20
8A AGGO￿ fr hAJD fLUAJvc£
Ilff
ER
Hydrof 2018