OpenCharities

This text was generated using OCR and may contain errors. Check the original PDF to see the document submitted to the regulator.

2026-03-31-accounts

COFNODION CYFARFOD BLYNYDDOL CYHOEDDUS NEUADD GYMUNED TALSARNAU GYNHALIWYD NOS LUN, 1AF MEHEFIN 2026

Presennol : Sion Richards (Cadeirydd), Carwyn Richards, Margaret Roberts Anwen Roberts, Gwenda Griffiths, Siriol Lewis, Eluned Williams Eirlys Williams, Celt Roberts, Colin Rayner, Owen Lloyd Roberts Eifion Williams, Mai Jones (13)

Hefyd yn bresennol y Cynghorydd Gwynfor Owen. Nid oedd neb o’r cyhoedd yn bresennol yn y cyfarfod.

Croesawyd pawb i’r cyfarfod gan y Cadeirydd, gan estyn croeso arbennig i’r Cynghorydd Gwynfor Owen. Hefyd da oedd gweld Colin Rayner yn gallu mynychu, wedi gwella ar ôl y ddamwain car a gafodd o ganlyniad i gael ei daro gan yrrwr diofal.

Cyflwynwyd gopi o Gofnodion Cyfarfod Cyhoeddus 20 Mai 2025 i sylw’r aelodau a’u derbyn yn gywir.

Adroddiad Ariannol 2025-26

Roedd yr aelodau wedi derbyn copi o’r adroddiad ac wedi cael cyfle i edrych drwyddo cyn y cyfarfod. Gwahoddwyd Margaret, y trysorydd i gyflwyno’r adroddiad a gwnaeth ychydig o sylwadau ar y cynnwys - tynnwyd sylw at y ffaith bod y neuadd wedi derbyn llawer o grantiau yn ystod y flwyddyn a diolchwyd i rai o aelodau’r pwyllgor fu’n gyfrifol am hyn. Cafwyd ad-daliad gan Scottish Power ar ôl hir ymdrechu i fynd ar ôl yr hyn oedd yn ddyledus, nodwyd gyda diolch bod cyfraniad da iawn yn dod o Glwb y Werin a diolchwyd i Betsan Emlyn am gyfrannu’r elw o’r trip siopa i Lerpwl ym mis Tachwedd. Rhoddwyd cyfle i bawb ofyn cwestiwn neu ddatgan unrhyw sylwadau.

Ni ddaeth ymholiad pellach a chytunwyd i dderbyn yr Adroddiad Ariannol am 2025-26 yn dangos cyfanswm o £46,288.26 yn y banc ar 31 Mawrth 2026.

Diolchwyd i Margaret am ei holl waith yn gofalu am yr arian ac yn paratoi’r adroddiad yn daclus iawn. Diolchodd hithau i Phil Mostert am archwilio’r cyfrifon.

Roedd un mater wedi’i godi yng Nghyfarfod Blynyddol Mai 2025 gyda’r Cynghorydd Gwynfor Owen ynglŷn â chael arwyddion ar ochr y briffordd yn dynodi lleoliad y neuadd. Da oedd cael adrodd bod y mater yma mewn llaw ac arwyddion wedi’u harchebu i’w gosod mewn lle amlwg ger y briffordd. Diolchwyd i’r Cynghorydd am ei gymorth gyda hyn.

Ni chodwyd yr un mater arall yn y cyfarfod a chyn gadael i fynd i gyfarfod arall yn Harlech, cyflwynodd y Cynghorydd ei longyfarchiadau i’r pwyllgor am eu gwaith da a’u gofal arbennig o’r Neuadd ac yn eu canmol am yr Adroddiad Ariannol ardderchog.

Daeth y cyfarfod i ben am 19.30.

Cadeirydd :............................................. (Sion Richards) Dyddiad : ..............................................

MANTOLEN NEUADD GYMUNED TALSARNAU MANTOLEN NEUADD GYMUNED TALSARNAU MANTOLEN NEUADD GYMUNED TALSARNAU MANTOLEN NEUADD GYMUNED TALSARNAU
1 EBRILL 2025 - 31MAWRTH 2026
DERBYNIADAU 2025-2026 2024-2025 TALIADAU 2025-2026 2024-2025
GRANTIAU OFFER A DODREFN
Cyngor Cymuned,Hysbysfwrdd 470.00 Defn Glanhau 16.18 15.99
Cyngor Cymuned,Cymorth Ariannol 2000.00 2000.00 Amazon keysafe 18.99 49.99
Mantell Gwynedd,Grant Gegin 9437.00 Amazon,Rests Snwcer 25.66 158.98
Grant Cyfrifiaduron Trysorau 4076.94 Motel,Trays I'r Gegin 19.10
Grant Sportlot,Byrddau Snwcer 2354.00 Lidl Tecell Trydan 18.99
Grant Nuclear Restoration Fund 1460.00 Leisure Controls International,token snwcer 75.12
GOSODIADAU
Tai Chi 360.00 CYNNAL A CHADW
Cyngor Gwynedd – defnganyr Ysgol 4333.37 Elgan Tudur Lewis,GosodyGegin 3243.30
Canolfan Wm Mathias CanfodyGan 30.00 60.00 Ian Jones,Tiwnio Piano 85.00
Mudiad Ysgolion Meithrin-Ti a Fi 60.00 138.00 Dafydd Morgan 3962.00
Plaid Cymru Wigglesworth Rampiau 20811.60
Parti NadoligCapel Newydd 35.00 Haydn Rayner 212.50
Camargue Group (Peilonau) Colin Rayner 40.00
Partion 400.00 299.00 Richard John,Pensaer
Cyngor Cymuned, 210.00 Dafydd Price,Gwresogydd 1960.00
MerchedyWawr 90.00 75.00 Allied Westminster -yswiriant 2417.29 2247.21
Wigglesworth 50.00 BT - ffon 1069.47 992.42
Cymdeithas Snwcer Ffestiniog 25.00 50.00 Scottish Power - trydan 2928.66 3431.88
Cor Cana Mi Gei 720.00 580.00 BanwyFuels - olew 1142.40 1778.70
Cylch Ffensio Meirionnydd 40.00 240.00 Dwr Cymru 404.86 261.31
Pilates Carysmatic 887.50 720.00 Snowdonia Fire - offer tan 451.87 165.60
Cyngor Gwynedd,Etholiadau 250.00 Daniel Hughes,Glanhau tu allan 495.00
Pilates Lauren 460.00 400.00 Defib World,Batteries apads 460.99
Angladdau 130.00 Travis Perkins,dodrefngegin 6105.10
Cyfeillion Ellis Wynne 15.00 145.00 Trwydded Deledu 174.50 169.50
Band Arall 20.00 Cleaner Carpets 96.00
Cwmni Dawns DCC 817.50 Cyngor Sir Gwynedd - lesytir 0.05 0.05
Cyngerdd Cana Mi Gei 65.00 65.00 Mantell Gwynedd,Ffiymaelodi 10.00 10.00
Dawnsio Cylch 36.00 Alliance Snooker, 2976.00
Awel Evans,Tylino Babanod 75.00 A T L Heating. Boiler 154.75 497.04
Dosbarth Gwnio 155.00 I S Lester,Silff ddur 125.00
Swyddfa'r Post 204.75 Gwariant Grant NRS 1460.00
CODI ARIAN
Scottish Pwer,Ad-daliad 2091.59 G & S Supplies,Defnglanhau 133.66 68.41
Raffl Pedair 160.00
Noson Titanic,Plemming 76.00 48.00 Andrew James,Cricieth,Wifi 172.80 172.80
TripLerpwl 400.00 220.00 Criccieth TV CCTV
Ffair Nadolig 657.00 726.27 Robert Morris,Noson Wrthryfel 40.00
Eventbright,tocynnau PEDAIR 670.01
PEDAIRgwerthiant diod 45.00
Noson Bingo Nadolig 46.45
ClwbyWerin 1200.00 900.00 Sion Richards,Tywod 32.76
Noson Bingo Ship 100.00 Ink Argraffu
Rhoddion 70.00 25.00 Netnerd Site Hosting 129.48 129.48
MenthygByrddau 50.00 HP In Ltd. Argraffydd Trysorau 124.12
Sgwrs Arwyn Jones,Frongoch 68.50 Names.Co.Uk 97.19
Noson Sion Tecwyn 41.00 Cyfrifiaduron Porthmadog,Cyf Trysorau 3952.82 45.99
CyfeillionyNeuadd 530.00 515.00 Trysorau, papur llungopio 25.69
Costau Trydan Ysgol Gynradd 181.49 CyflogGofalwr 8177.05 7322.77
Sel Cist Car 289.90 Treth Incwm Gofalwr 2351.40 1802.80
Ystafell Snwcer 1402.00 1175.00 Laud Meredith,Cyflogres 348.00 336.00
Ras Llandecwyn 100.00 50.00 Flickr Cytundeb 2 flynedd 124.00
Noson Bob Morris,Ysgol Wrthryfel 47.10 CyngoryCelfyddydau,Noson Allan 510.00 815.00
Hysbysebu ar safle we Talsarnau 50.80 Rhodd I'r Gofalwr 250.00
Gwerthiant llyfrauynycyntedd 82.00 117.00
Incwm Paneli Solar 1898.81 1877.92 Hysbysebuyn Llais Ardudwy
Llogau Banc - Cyfrif cadw 620.26 1121.04 Costau Banc 74.03 103.40
Nosweithiau Allan 1124.18 90.00
Er côf am Iona Aubrey 609.96
Er côf am Keith Lockett 161.58
RhoddganyShipAground 200.00
HENO,Rhaglen stafell snwcer 150.00
Cyfanswm Derbyniadau 39404.67 14623.25 Cyfanswm Taliadau 39520.03 48558.67
Yny Banc 31 Mawrth 2025 Yny banc 31 Mawrth, 2026
Cyfrif Cyfredol 2674.90 1731.36 Cyfrif Cyfredol 3085.28 2674.90
Cyfrif Llôg 43728.72 78607.68 Cyfrif Llôg 43202.98 43728.72
Cyfanswm 85808.29 94962.29 Cyfanswm 85808.29 94962.29
Margaret Roberts Archwilwydgan:
Trysorydd …………………………………………………………….
Dyddiad : Dyddiad: ….....................................................................

Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech, 23 Ebrfll, 2026 RWYF wedl archwillo ac adoly8u cyfrifon Neuadd Gymuned Ta15arnau arn y flwyddyn 2025-26 yn drylwyr ac rwyf yn cadarnhau eu bod yn hollol gfivir. Phll MostÈrt