;4
‘me
i J
‘
ye
3
‘
ag:as: ‘
Yu
i
:
EGLWYS ANNIBYNNOL
Ger Caerfyrddin
----- Start of picture text -----
ee Csrra | a eS
----- End of picture text -----
o’r Cyfrifon Ariannol am y flwyddyn 2023
Cyflwyniad gan ein Gweinidog
Annwy! Gyfeillion,
Daeth yn amser i’ch cyfarch unwaith eto wrth gyflwyno i’ch sylw caredig Adroddiad o weithgarwch yr eglwys amy flwyddyn 2023. Bu’n flwyddyn brysur iawn yn hanes Cana.
Ail-Agor y Capel
Llawenydd mawr i bawb ohonom oedd cael dychwelyd i addoli yn y capel ar Ol cyfnod hir o addoli yn y festri. Rwy’n siwr y cytunwch bod y nenfwd newydd ynghyd a’r gwaith paentio yn edrych yn ardderchog. Diolch i Robert a Nigel Davies am eu gwaith, i Huw Jones am arolygu’r cwbl, i Rhian Bowen am ei mewnbwn hithau ac i bawb a fu’n helpu ym mhob ffordd arall. Diolch i chi gyfeillion Cana am eich gwaith caled yn codi’r arian i’n galluogi i fedru cyflawni’r gwaith.
Cynhaliwyd Cymanfa Ganu/Cyngerdd yng Nghana ym mis Hydref i ddathlu’r ailagor ac i nodi’n iawn 200 mlwyddiant yr Achos gan na lwyddwyd i wneud hynny yn 2021 oherwydd y Cyfnod Clo. Diolch i John Thomas am dderbyn ein gwahoddiad i fod yn Llywydd y noson ac am ei gyfraniad hael. Diolch eto am bob ymdrech gennych chi, yr aelodau, i sicrhau bod y noson yn llwyddiant mawr.
Addoli
Diolch yn fawr iawn i bawb am eich ffyddlondeb i’r oedfaon ar y Sul trwy gydol y flwyddyn.
Braint fawr yw eich arwain yn yr addoliad, wrth inni gael ein harwain gan yr Ysbryd i ddyfnderoedd bywiol Y Gair.
Diolch i bawb am eu parodrwydd i gymryd rhan ar y Suliau a chalondid mawr i mi yw gweld awydd yr aelodau i drefnu oedfaon eu hunain ar yr achlysuron pan fyddaf oddi cartref. Mae hyn yn dangos yr agwedd iach ac aeddfed sy’n bodoli yn eich plith.
Mae cyflwyniadau gweledol cyson yn cyfoethogi’r addoliad. Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb sy’n cynorthwyo gydag ochr gerddorol ein haddoliad a hefyd yr ochr dechnolegol.
Da hefyd oedd cael cyfle i gydaddoli a’r Priordy a Bancyfelin, ynghyd ag oedfaon undebol Dydd Gweddi’r Byd, Tanio’r Fflam a’r Gymanfa Bwnc. Hyfryd oedd dychwelyd i Gartref Plas y Dderwen i gynnal oedfaon.
Mae’r Oedfaon Digidol yn parhau i gael eu rhyddhau o Sul i Sul. Rydym yn ddiolchgar eu bod yn dod a bendith a chysur i dros 300 0 wylwyr yn gyson bob wythnos.
Yr Ysgol Sul
Rydym bob amser yn falch o weld y plant yn yr oedfa ac yn llawenhau eu bod yn bresennol yn yr Ysgol Sul. Cynhaliwyd dwy oedfa blant a theuluol, a hyfryd oedd gweld y teuluoedd yn cymryd rhan mewn unedau. Cafwyd oedfa deulu undebol ar y Sul pan gynhaliwyd y Gymanfa Bwnca phinacl y flwyddyn oedd yr oedfa Nadolig a ddaeth a bendith a llawenydd i bawb.
Hoffwn ddiolch i’r rhieni i gyd am eu cefnogaeth i waith y plant yn yr eglwys a diolch arbennig i athrawon yr Ysgol Sul am eu gwaith. Hyderwn y cawn flwyddyn well yn yr Ysgol Sul yn 2023.
Aelodaeth
Hyfrydwch oedd derbyn dau aelod newydd i gymdeithas yr eglwys yn ystod 2023. Gobeithio eich bod yn ymgartrefu yn ein plith.
Ar nodyn trist, collwyd dau aelod o’n plith, a gweddiwn dros y teuluoedd yn eu hiraeth a’u galar.
Bu amryw o’n haelodau mewn gwaeledd yn ystod y flwyddyn a nifer mewn ysbytai. Estynnwn ein cofion cynhesaf at bawb ohonoch sy’n methu a chydaddoli 4 ni oherwydd Illesgedd neu wendid, gan eich sicrhau ein bod yn cofio amdanoch yn ein gweddiau.
Cymdeithasu
Gwych oedd cael sawl cyfle yn ystod 2023 i gymdeithasu. Mwynhawyd sawl paned yny festri, ynghyd 4 Swper adeg y Cwrdd Blynyddol, y Cwrdd Diolchgarwch a’r parti Nadolig. Mwynhawyd Cinio Gwyl Dewi Cana ynghyd a Chinio Gwyl Dewi yng Nghlwb y Cwins, Caerfyrddin, Pererindod i Sain Ffagan a Chinio Dydd Sul yr Ofalaeth yn y New Cross Dryslwyn. Mae cwmni ffyddion yn parhau i gwrdd am Baned a Sgwrs yn y Fox & Hounds bob mis.
| i | | -
| -
Y Ddolen Mae’r Ddolen yn dal i ymddangos o fis i fis. Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu erthyglau diddorol i’r Ddolen, a charem wahodd yr aelodau i barhau i wneud hyn.
Mae dros 90 0 bobl, sy’n cynnwys aelodau a phiant yr eglwys sy’n byw oddi_ cartref, yn ei dderbyn yn electronig bob mis. Os oes gennych gyfeiriad e- bost, a fyddech gystal a’i ddanfon ymlaen ataf ar beti.wyn@icloud.com. Mae’r Ddolen hefyd yn cael ei dosbarthu yn Swyddfa Bost Bancyfelin ac yn y County Stores, Sanclér. Rydym yn ddiolchgar am y grant ariannol hael oddi wrth Ddydd Gweddi'r Byd tuag at gostau’r Ddolen.
Cofiwch hefyd am dudalen FACEBOOK Capel Cana sy'n cynnwys newyddion cyfredol yr eglwys, lluniau o ddigwyddiadau a threfn wythnosol y Sul a thudalen sy’n profi’n hynod o boblogaidd, hefyd gyfrif Trydar y Capel sef @Cana-Bancyfelin. Cofiwch ein dilyn! Ceisiaf hefyd gael newyddion a Iluniau’r eglwys ym Mhapur Bro Y Cardi Bach bob mis yn ogystal a threfn yr oedfaon yn Y Journal.
Achosion da
Ymatebodd yr eglwys yn arbennig iawn i apeliadau elusennol yn ystod 2023 fel Banc Bwyd Caerfyrddin a Chymorth Cristnogol ynghyd ag Apél Anrhegion Nadolig Cyngor Sir Caerfyrddin. Diolch i chi i gyd am eich cefnogaeth ariannol ac ymarferol i'r apeliadau dyngarol hyn. Gwn yn iawn fod nifer ohonoch yn cefnogi llawer iawn o elusennau’r tu allan i'r eglwys hefyd. Mae’r cwbl yn arwydd clir o’ch awydd mawr i daenu mantell eich gofal a’ch consyrn dros eraill.
Dementia Gyfeillgar
Da gweld bod yr eglwys wedi cymryd camau tuag at fod yn Eglwys ~ Dementia Gyfeillgar. Mae arwyddion wedi eu gosod yn y capel a’r festri, gosodwyd seddau ty bach coch yn eu lle, a chafwyd prynhawn bendigedig __ oO ganu emynau dros baned yny festri yng nghwmni rhai o drigolion Cartref Plas y Dderwen a Chartref Ddl y Felin. Edrychwn ymlaen at ddatblygu’r gwaith hwn ymhellach yn ystod 2024.
Yr Adeiladau
Rydym yn ddyledus iawn i Hugh Jones am gadw llygad ar yr adeiladau a’n harwain i gwrdd ag unrhyw waith sydd angen ei gyflawni. Diolch hefyd i Howard a Non James am eu gwaith yn goruchwylio’r fynwent, i Ken a Heulwen am eu gwaith yn glanhau’r Capel a’r festri, i ofalwyr y mis am weld i'w cyfrifoldebau yn ffyddion ac i bawb arall sydd wedi helpu ym mhob ffordd ar hyd y daith.
Llywyddiaeth
Daeth fy nhymor fel Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg i ben ym mis Gorffenanf, 2023. Bu’n fraint ac yn brofiad cadarnhaol iawn. Diolch i'r Ofalaeth am bob cefnogaeth yn ystod cyfnod fy llywyddiaeth. Yr Ofalaeth Newydd Yn dilyn cyfnod hir o drafodaeth am y posiblrwydd o ehangu’r Ofalaeth, penderfynwyd drwy fwyafrif mewn Cwrdd Eglwys ar 4 Tachwedd 2023 o blaid cyfuno ein Gofalaeth ni 4 Gofalaeth Heol Awst ac Elim i greu Gofalaeth newydd sef ‘Gofalaeth Caerfyrddin a Bancyfelin’. Bydd yr Ofalaeth newydd yn cychwyn ar 1 Ebrill 2024. Dyma gyfle newydd a chyffrous i gryfhau’r dystiolaeth Gristnogol yn y dref ac ardal Bancyfelin ar gyfer y dyfodol. Dymunwn fendith Duw ar y bennod newydd hon yn ein hanes.
Yr Ofalaeth Newydd
Diolchiadau
Manteisiaf ar y cyfle hwni ddiolch i chi, yr aelodau, am eich rhan ym mhob ffordd, ar hyd y flwyddyn yn hanes yr eglwys hon. Diolch i’r diaconiaid i gyd am eu cymorth mawr wrth arwain yr eglwys. Mae eu hymroddiad yn fawr a llawer iawn o waith yn cael ei wneud yn dawel bach.
Mae’n siwr gennyf fy mod wedi hepgor nifer o bethau yn yr adroddiad hwn, ond diolch ein bod yn cael y newyddioni gyd yn fisol trwy gyfrwng Y Ddolen.
Diolch i swyddogion yr eglwys sy’n ysgwyddo Ilawer iawn o gyfrifoldebau ac yn gefn mawr i'r eglwys a’r gweinidog.
Diolch hefyd i chi i gyd am eich cefnogaeth i’m gweinidogaeth yn ystod y flwyddyn a aeth heibio, a’ch caredigrwydd i ninnau fel teulu — yn enwedig ar awr dywyll.
Mae’n ddyletswydd arnaf hefyd i ddiolch i bawb a fu’n gyfrifol am gynhyrchu’r Adroddiad Blynyddol hwn, a’i lywio drwy’r Wasg.
Awn ymlaen i weld pa gyfleoedd fydd gan 2024 i’w cynnig i ni. Gafaelwn yn dynn ar bob cyfle i fentro yn enw Duw ac er lles ei Deyrnas Ef.
Pob bendith i chi i gyd
Y gywir
Beti-Wyn
MANTOLEN EGLWYS ANNIBYNNOL CANA 2023
| Derbyniadau | |||
|---|---|---|---|
| Cyfraniadau Aelodau | Ce eee |
£7,223.00 | |
| Caredigion yrAchos | FEC EEE CECE RGEC Carce |
£660.00 | |
| Casgliadauar y Sul | cauisastesestiteeteseuneestaestst-retsecnwect?ssnere | £495.35 | |
| Difidend y Gronfa Fuddsoddi | Ce ee SE ee ee ee |
£5,100.62 | |
| RhentTy Capel | Dave desu sure cuctieceesceesertevestentettecsssetrscers | £3,400.00 | |
| Rhent yrArdd | neonate ter ora Bie Mormons Been: | £400.00 | |
| Ad-daliad treth incwm | SEPEEEDEELEREL nLeroonoro PO SOE | £3,816.30 | |
| Apél daeargryn Twrci a | Syria | sass sgucsevss seeseuss seeceeseetaveccseteseseqesseeee | £118.80 |
| Cawl Gwyl Dewi | seta de eivehpieseseasns eos gions deleneneiasseseanecnas | £100.00 | |
| Cymorth Cristnogol | aaiesaeeracaeteevsteyesesasnetiareeteeas sr seaeereece | £100.00 | |
| Lle bedd Ida Mary Evans | AEA OCEEE SE Dror cen eC ceePerce |
£50.00 | |
| Lle bedd June Thomas | asciteseaeeoennetacaaerereT este eae cc CTT |
£50.00 | |
| Angladdau tu allan i’r ofalaeth | Renate reads recerneneer nanan etecater seeseteater Tee | £183.33 | |
| (gan ygweinidog) | |||
| YGymanfa Fodern | aca ceueustessar cuss cansur ies srunsuvacs euserswseenss esseetee | £737.00 | |
| CyfrifVirgin Money | sstdnussnsuconvaspasueeasovterenpaausnsvanseceseerennvaveean | £6,000.00 | |
| Cyfrif y gronfa fuddsoddi |
qoeadefaceceneteatetene ausanetieasusaesteacusemieses sateen | £8,000.00 | |
| £36,434.40 | |||
| Mewn llaw ar ddechrau’r flwyddyn | HSBC a.....escccssccceessessseeeeesseeeeees |
£7,036.20 | |
| £43,470.60 | |||
| Cyfrif Elusen Virgin Money | |||
| Mewn Ilaw ar ddechrau’r flwyddyn | FERC CE eeeEEErer ECO | £6,298.11 | |
| Tynnu allan | eeeeenenernearenseeracesreerieCiereeTater | £6,000.00 | |
| Llog | eee EEE |
£7.03 | |
| Mewn llaw arddiwedd yflwyddyn |
saceeeeeeeeeeseeceaeeeeeeaeeeaeeeaes | £305.14 |
Cyfrif Elusen Virgin Money Mewn Ilaw ar ddechrau’r flwyddyn Tynnu allan Llog Mewn llaw ar ddiweddy flwyddyn
MANTOLEN EGLWYS ANNIBYNNOL CANA 2023
Taliadau
| Taliadau | |
|---|---|
| Y WeinidOgaetld cinsccscccccsssssccsscsececossecscseavatenciessaresevescesesseus stosereorsussaexer |
£10,413.93 |
| GWweiNidOgion GWadd .......ececesssssssesceeceeesssceceeceeceeseecseeeeseesseseesaeees |
£420.00 |
| Argraffu’r Adroddiad a’r Ddolen, postio ............essssesseeeeceeneeesees | £338.88 |
| SDTVGLAM 05% ests Ssueassstecesceas sarsusenecos cacaeseverersanassregescserssesseseceseceetenseresnrerase | £1,648.78 |
| NSWAP AING secleccsccnstessscessccesssncoasesscvecneesscssseesdcatsarseencscstees na ticeeseeeceseue sete | £2,010.42 |
| DwrCymru (£119.12), diffoddwyrtan (£80.22)... eects |
£199.34 |
| Apél daeargryn TWrci a Syria... eeseseeeceeseeceeceeeesseseeesseseeenseeves |
£120.00 |
| Undeb yrAnnibynwyr Cymraeg .........:cceeeeseessseceeseeeseeneeeeee | £460.00 |
| Cyfundeb Gorllewin Caerfyrddin .........cseseccsessnseseeessesssseeseeeeans | £16.00 |
| CYMOMtH CriStnOBOlscccscssscesccocescncsvsecsesercecasecesstssersuneuesesssver cuacoessana¥s |
£100.00 |
| Cwblhau’r nenfwd a phaentio’r Capel... ceseseessseeeeeeseeeneeenes |
£14,237.66 |
| Ystafell ymolchi Newydd a phaentio yn TyCapel... eee | £5,459.00 |
| Glanhau (£628.08, Hoover Newydd (£149.00).......... cs seeeeseeeeeeees |
£777.08 |
| Torri porfa (£300.00), arwyddion sbwriel (£40.00).............scccee | £340.00 |
| Cyfraniad i drip yrOfalaeth......... eeeeccsesssseeceetesseseeesseeeesesseesseeenaee |
£15.00 |
| Noddi rhaglen Garnifal Bancyfelin.............essseceeeeeeeeceseeeeeeeeseneee | £35.00 |
| Blodau i deulu’r BSWEINIGOG...c.isssccesssessscocersessecseresorsesvnnsesssnensvnsconsses |
£20.00 |
| HAMPe? i ROY...... cseescesseessecsecesesscesesscsssesssessesesessssssssesseeseseessaseseeseese | £9.05 |
| Neuadd Bancyfelin prynuOrgan... esses cseeenssesesceeeersesaeaes |
£250.00 |
| Vaughan Sound ail diwnio’r systemSaiN.......... sees eseseeeteteteeeeee |
£132.00 |
| Organyddion (£50.00), Wifi (£120.79)... seeeessseeetseeeeeseeeeeeees |
£170.79 |
| Dau degell i’r gegin (£40.00), Gwin Cymun (£13.00)...............- | £53.00 |
| SeddaucochAEMeENtia........05:..cesseccaceseseteccsessnsoecasocssonsvasteerexteraneseess | £59.80 |
TreuUlidU Banc ...... ...... eee ececesseecesseecnseescsseeeseeeeeeessaeesesseeesensuesenees ececesseecesseecnseescsseeeseeeeeeessaeesesseeesensuesenees
----- Start of picture text -----
TreuUlidU Banc ...... ...... eee ececesseecesseecnseescsseeeseeeeeeessaeesesseeesensuesenees ececesseecesseecnseescsseeeseeeeeeessaeesesseeesensuesenees £92.00
£37,377.73
Mewn Llaw ar diwedd y flwyddyn ...........esceseeseeesseeeereeeseeees £6,092.87
£43,470.60
Y Gronfa Fuddsoddi cn
Gwerth y gronfa RAAGfYr 2023.......sssscseeccssssesesnecsssensestenseessssensseseeseraes £147,625.00
----- End of picture text -----
Y Gronfa Fuddsoddi
Archwiliwyd a chafwyd yn gywir D Kevin Ward ACIB/ BSc (Hons) (06/02/2024)