OpenCharities

This text was generated using OCR and may contain errors. Check the original PDF to see the document submitted to the regulator. This document is also available as Markdown.

2025-03-31-accounts

ANTUR WAUNFAWR (Cwmni yn gyfyngedig trwy warant)

ADRODDIAD a DATGANIADAU ARIANNOL BLWYDDYN HYD AT: 31 MAWRTH 2025

Rhif Elusen: 515445 Rhif Cwmni: 01832813

ANTUR WAUNFAWR

GWYBODAETH GYFREITHIOL A GWEINYDDOL:

Rhif Cofrestru’r Elusen: 515445 Rhif Cofrestru’r Cwmni: 1832813

Swyddfa Gofrestredig a Gweinyddol:

Bryn Pistyll Waunfawr Caernarfon Gwynedd LL55 4BJ

Cyfreithwyr:

Iestyn T. Harris, Carter Vincent LLP, The Port House, Porth Penrhyn, Bangor, Gwynedd, LL57 4HN

Bancwyr:

Banc Barclays, Grŵp Canghennau Gwynedd, Bangor, Gwynedd

Archwilwyr:

W.J. Matthews a’i Fab, 11-15 Y Bont Bridd, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1AB

1

ADRODDIAD BWRDD YMDDIRIEDOLWYR ANTUR WAUNFAWR AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2025

RHAGAIR

Roedd eleni yn garreg filltir anferthol i Antur Waunfawr, dathliad pen-blwydd 40 mlynedd!

Gwnaethom ddathlu’r daith weledigaethol a daniwyd gan ein sylfaenydd, R Gwynn Davies bedwar degawd yn ôl, ei angerdd am gynwysoldeb a baratôdd y ffordd i oedolion ag anableddau dysgu, gan gynnig nid yn unig profiadau gwaith, ond ymdeimlad dwys o berthyn o fewn eu cymuned. Roedd y dathliad nid yn unig yn ddathliad pen-blwydd, ond yn dyst i wydnwch, cynnydd ac ymrwymiad i rymuso ac integreiddio pobl efo anableddau dysgu i galon eu cymuned leol.

Eleni, braf iawn ydi nodi’r dathliadau a’r gwaith a ddigwyddodd yn ystod y cyfnod rhwng Ebrill 2024 a Mawrth 2025 yn yr adroddiad hwn. Mae sylw yma i brosiectau’r Antur a nodir y llwyddiannau a’r holl a gyflawnwyd drwy gydol y flwyddyn.

Mae’r ymddiriedolwyr, sydd hefyd yn gyfarwyddwyr yr elusen at bwrpas Deddf Cwmnïau, yn cyflwyno'r adroddiad blynyddol a’r datganiadau ariannol archwiliedig am y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2025, sydd hefyd wedi eu paratoi er mwyn cwrdd â’r angen am adroddiad cyfarwyddwyr a chyfrifon at bwrpas Deddf Cwmnïau. Mae’r datganiadau ariannol yn cydymffurfio â Deddf Elusennau 2011, Deddf Cwmnïau 2006, Erthyglau a Memorandwm y cwmni, a Chyfrifo ac Adrodd gan Elusennau, Datganiad o Weithredoedd Ariannol sydd yn berthnasol yn y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon (FRS 102).

Cwmni Cyfyngedig drwy Warant yw Antur Waunfawr a wnaed yn Gwmni Corfforedig ar 13eg Gorffennaf 1984 ac a gofrestrwyd yn Elusen ar 6ed Awst 1984. Sefydlwyd y Cwmni o dan Femorandwm y Cwmni sy’n sefydlu amcanion ac awdurdod y cwmni elusennol hwn ac yn cael ei reoli gan Erthyglau’r Cwmni.

GWELEDIGAETH ANTUR WAUNFAWR

Gweledigaeth Antur Waunfawr yw galluogi pobl ag anableddau dysgu i integreiddio i’r gymuned leol a chyflawni gwaith go iawn gyda phwrpas: Rydym yn Fenter Gymdeithasol flaenllaw sydd yn cynnig cyfleoedd iechyd a llesiant, hyfforddiant a phrofiadau gwaith amrywiol iawn yn ei natur i bobl ag anableddau dysgu. Yn treiddio trwy hyn oll mae’r thema cynaladwyedd sy’n greiddiol i’n gwaith. Yn ogystal â chynnig cyfleoedd gwaith i’n defnyddwyr gwasanaeth, mae gan yr Antur nifer o fusnesau llewyrchus, a chaiff yr holl elw ei ail fuddsoddi yn y gwasanaeth i bobl efo anableddau dysgu ac ein cymuned leol.

Mae ein nod o integreiddio pobl ag anableddau dysgu i’r gymuned ym mhob agwedd bosib - boed yn waith neu weithgareddau cymdeithasol, yn rhinwedd sydd yr un mor bwysig heddiw ag yr oedd pan sefydlwyd yr Antur.

2

NOD AC AMCANION

Mae’r Bwrdd yn trafod pwrpas yr elusen yn rheolaidd ac yn ei gadw mewn cof wrth gynllunio a datblygu ei strategaeth ar gyfer y Cwmni.

Rydym yn cyflawni ein nodau ac amcanion drwy:

SUT MAE EIN GWEITHGAREDDAU YN CREU BUDD CYHOEDDUS

Drwy weithredu’r amcanion uchod, rydym yn ateb anghenion pobl gydag anableddau dysgu a’r gymdeithas ehangach.

Mae gweithgareddau Antur Waunfawr yn creu budd cyhoeddus drwy hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol, cynaliadwyedd amgylcheddol, a datblygiad economaidd o fewn y gymuned. Trwy ddarparu cyfleoedd gwaith a hyfforddiant ystyrlon i unigolion ag anableddau dysgu, mae Antur Waunfawr yn hybu annibyniaeth ac yn gwella ansawdd bywyd ar gyfer unigolion a fyddai ddim yn cael y cyfleoedd yma fel arall. Yn ogystal, mae ffocws y sefydliad ar ailgylchu, ailddefnyddio, ac arferion cynaliadwy, megis ein gwaith yn Warws Werdd, Caergylchu a Beics Antur sy'n helpu i leihau gwastraff ac effaith amgylcheddol, gan roi budd cymunedol ehangach. Trwy'r ymdrechion hyn, mae Antur Waunfawr yn cefnogi economi leol ac amgylchedd sy'n fwy cynhwysol a chynaliadwy.

3

CYFLAWNIAD A PHERFFORMIAD

Mae Antur Waunfawr wedi ymrwymo i gyfarch ysbryd ac amcanion Deddfau Llywodraeth Cymru, yn bennaf;

Sy’n canolbwyntio ar gynaladwyedd, a llesiant unigolion sy’n derbyn gwasanaethau gan Antur Waunfawr. Mae’n bwysig ein bod yn cydymffurfio â gofynion y Deddfau, ac yn sicrhau fod y cynnwys yn treiddio trwy weithgareddau, prosiectau a gofalaeth Antur Waunfawr. Byddwn yn gweithredu’n unol ag amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol er mwyn parhau i weithredu a chynllunio’n gynaliadwy ar gyfer y dyfodol, ac yn unol â nod ‘Miliwn o Siaradwyr Cymraeg’ Llywodraeth Cymru, yn rhagweithiol o ran defnyddio a hybu’r Gymraeg.

Mabwysiadodd yr Antur Ddatganiad Llesiant yn 2016, ac mae’r datganiad yma yn sail i’n darpariaethau llesiant wrth ddatblygu ein gweithgareddau a phrosiectau iechyd a lles i’r dyfodol.

Datganiad Llesiant Antur Waunfawr:

“Hyrwyddo llesiant, iechyd da a hapusrwydd, a galluogi unigolion fydd conglfeini gwasanaethau Antur Waunfawr i’r dyfodol.

Darperir gofal, cefnogaeth weithgar, hyfforddiant a gwaith ystyrlon mewn modd effeithlon a chymesur i ateb gofynion pobl ag anableddau dysgu a phobl ddifreintiedig yn lleol.

Fel menter gymdeithasol bydd Antur Waunfawr yn cyfarch anghenion cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol y gymuned leol– a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg neu ddewis iaith yr unigolyn, ac mewn partneriaeth.

Ein nod yw creu cymdeithas arloesol, gyfartal, gynhyrchiol a charbon isel trwy feithrin teulu o fusnesau cynaliadwy yn lleol - cychwyn wrth ein traed a gweithredu’n uchelgeisiol i sicrhau llesiant a chymunedau gwydn.”

4

YMDDIRIEDOLWYR

Aelodau’r Bwrdd:

Miss. Gwen Tomos Cadeirydd Mr. Huw Ynyr Is-gadeirydd Mr. Rhys Evans Mr. Daron Harris Mrs. Sara Mair Tomos Ymddiswyddo 20 Mai 2025 Mrs. Anna Ll. Williams Ms. Lowri Huws Dr. Catrin Ellis Williams Mr. Terry Parry Miss. Mared Ynyr Ms. Carol Davies Owen Mr. Tudur Owen Mr. Dafydd Glyn Davies Mrs. Ellen Thirsk Ysgrifenydd

Recriwtio a Phenodi’r Bwrdd Rheoli

Mae Cyfarwyddwyr y Cwmni yn ymddiriedolwyr elusennol yn ôl gofynion y gyfraith elusennol. Fe’u hadwaenir yn ôl Memorandwm ac Erthyglau’r Cwmni fel ‘Cyfarwyddwyr’ neu fel ‘Aelodau’r Bwrdd’. Hefyd, mae’r Erthyglau’n gosod amod mai am flwyddyn ar y tro y byddant yn gwasanaethu a bod rhaid ethol neu ail-ethol dim mwy na 15 Cyfarwyddwr yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

Rydym yn ffodus fod gennym amrediad da o arbenigedd a phrofiad ar y Bwrdd, sy’n cynnig cefnogaeth a chyngor i’r tîm rheoli yn y meysydd sy’n berthnasol i waith y cwmni e.e. cyllid a busnes, cyfreithiol, moeseg, yswiriant, iechyd, gofal cwsmer, ailgylchu, addysg a hyfforddiant, gwasanaethau digidol arbenigol, iaith a lleferydd.

Anwythiad a Hyfforddiant Ymddiriedolwyr

Caiff pob aelod o’r Bwrdd ffeil gyda manylion y strwythur rheolaethol a’r polisïau ynddi. Mae’r Prif Weithredwr yn treulio amser gyda chyfarwyddwyr newydd, yn eu hanwytho drwy drefnu ymweliadau â'r safleoedd ac ateb eu cwestiynau.

STRWYTHUR Y TÎM RHEOLI

Rheolwyr Gweithredol

Cynhelir cyfarfodydd Uwch Dîm Rheoli a Thîm Rheoli yn rheolaidd. Bydd cynrychiolydd pob adran hefyd yn cynnal cyfarfodydd gyda’u timau yn ogystal â Gweithgor Iechyd a Diogelwch, Gweithgor Meddiannau a’r Gweithgor TGCh. Mae Is-bwyllgorau Bwrdd wedi’u sefydlu er mwyn gweithredu ar benderfyniadau neu adolygiadau – gan gynnwys Is-bwyllgor Personél, yr Isbwyllgor Polisïau, Is-bwyllgor Cyllid, a’r Is-bwyllgor Datblygu. Yn ystod y flwyddyn mae'r rhain i gyd yn bwydo adroddiadau i’r Tîm Rheolaethol, yn ogystal â’r Bwrdd.

Ellen Thirsk, Prif Weithredwr

Mae gan y Prif Weithredwr, Ysgrifennydd y Cwmni ac Unigolyn Cyfrifol brofiad a chymhwyster yn y meysydd adnoddau dynol, datblygu gwasanaethau, busnes a chyllid, iechyd a diogelwch, iechyd a llesiant ac yn ymrwymedig i bolisïau a safonau megis ISO, ac mae ganddi’r awdurdod

5

mewn ymgynghoriad â'r Bwrdd i weithredu ar yr holl faterion yma. Mae Ellen yn Gyfarwyddwr i Galeri, Menter Gymdeithasol a Chreadigol yng Nghaernarfon ac yn Gadeirydd i gorff Llywodraethwyr Ysgol Pendalar. Mae hi wedi gwirfoddoli i’r Samariaid am gyfnod o 15 mlynedd yn y gorffennol ac wedi cael trawstoriad o brofiadau rheoli mewn Iechyd, Tai a Gofal Cymdeithasol dros gyfnod o 34 mlynedd. Mae Ellen yn aelod siartredig o’r corff CIPD ac wedi cymhwyso ar lefel uwch mewn Cyfraith Cyflogaeth ac Iechyd a Diogelwch (NEBOSH).

Stephen Goodwin, Uwch Reolwr Gwasanaethau Dydd a Phreswyl

Mae Stephen yn aelod o Grŵp Trawsffurfio Gwasanaeth, Cyngor Gwynedd. Mae ganddo dros 29 mlynedd o brofiad yn y maes gofal a chanddo brofiad helaeth o ddatblygu Gwasanaethau Gofal a chyfleoedd Iechyd a Llesiant ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth. Mae wedi cymhwyso fel Rheolwr Cofrestredig lefel 4 ac eisoes wedi bod yn berson cyfrifol ar y Gwasanaeth Gofal cyn newidiadau yn Rheoliadau Arolygiaeth Gofal Cymru. Mae Stephen hefyd wedi cwblhau cyrsiau mewn arweinyddiaeth a rheoli staff.

Haydn Jones, Uwch Reolwr Busnesau Gwyrdd

Mae Haydn Jones yn dychwelyd ar y Cyntaf o Ebrill 2025 ar ôl secondiad am gyfnod o flwyddyn. Mae ganddo brofiad helaeth o annog unigolion yng Nghymru a dramor tra roedd yn gweithio yn yr America drwy ei waith ‘coaching’ gyda thrawstoriad o unigolion (abl ac anabl). Mae ganddo brofiad eang o reoli ac mae’n gyfrifol am reoli a rhedeg gwasanaethau ailddefnyddio ac ailgylchu o fewn yr Antur. Mae wedi cymhwyso i lefel graddedig (MA) mewn Addysg ac mae wedi mynychu trawstoriad o gyrsiau rheoli, ac wedi cwblhau NVQ Lefel 3 mewn Ailgylchu.

Sioned Hughes Rheolwr Cyllid
Gwenlli Wynne Rheolwr Datblygu Busnes
Elain Hughes Rheolwr Datblygu Busnes
Glesni Lewis Rheolwr Adnoddau Dynol
Margaret Jones Rheolwr Cydymffurfio ac Ansawdd
Ceri Hughes Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu
Eleri Jones Rheolwr Gweinyddol
Siân Williams Rheolwr Iechyd a Llesiant a Rheolwr Cofrestredig (Gwasanaeth Aml
Ofynion a Thai a Chefnogaeth)(Gadawodd y rôl Mai 2024)
Gwenllian Evans Rheolwr Iechyd a Llesiant (Gwasanaethau Tai a Chefnogaeth) a
Rheolwr Cofrestredig_(Penodwyd i’r rôl Mehefin 2024)_
Ifan Tudur Rheolwr Iechyd a Llesiant (Gwasanaethau Tai a Chefnogaeth)
Dewi Jones Rheolwr Iechyd a Llesiant (Gwasanaethau Dydd Safle Waunfawr)
Allison Evans Rheolwr Iechyd a Llesiant (Gwasanaethau Aml Ofynion)
Sioned Roberts Rheolwr Iechyd a Llesiant (Gwasanaethau Aml Ofynion)
Cara Evans Rheolwr Iechyd a Llesiant (Gwasanaethau Dydd Tri Busnes Gwyrdd)
(gadawodd y rôl Mawrth 2025)
Siôn Thomas Rheolwr Gwasanaethau Ailgylchu
Malcolm Allen Rheolwr Warws Werdd a Llinell Blastigion
Tom Workman Rheolwr Beics Antur

6

GOFAL A CHEFNOGAETH

Defnyddwyr Gwasanaeth Antur Waunfawr

Daw'r mwyafrif o unigolion sydd yn derbyn gwasanaeth o Ogledd Gwynedd ond cyfeirir rhai atom gan gynghorau eraill cyfagos. Mae ein gallu i gynnig cytundebau gwasanaeth neu gartrefi i bobl yn dibynnu ar allu’r asiantaethau statudol i gynnig cytundebau gwasanaeth gofal a llesiant ar eu cyfer. Byddwn yn cyd-weithio gyda’r asiantaethau hyn ar bob achlysur, ac yn ymdrechu yn rhagweithiol i sicrhau cyfleoedd addas i bob person sy’n cael ei gyfeirio atom, ac i sicrhau adnoddau teg i roi’r gwasanaeth gorau posib i’n defnyddwyr.

Erbyn heddiw mae’r Antur yn cynnig cefnogaeth i dros 70 o unigolion ag anableddau dysgu dros ein 4 safle gwaith a thai.

Cynllun Cartrefu

Yn ein hadroddiad blynyddol, rydym yn falch o dynnu sylw at brosiect Cynllun Cartrefu'r Antur, sy’n amlygu ein hymrwymiad i sicrhau bod gan unigolion ag anableddau dysgu’r hawl i fyw bywydau boddhaus a chymryd rhan ym mhob gweithgaredd fel pawb arall. Gan gydnabod bod pob person yn wahanol, rydym yn darparu cymorth person-canolog sy'n sicrhau fod y cymorth wedi ei deilwra ar gyfer y defnyddiwr gwasanaeth yn unol â’u hanghenion. Mae Cynllun Cartrefi'r Antur yn cefnogi 14 o unigolion ar draws 10 cartref gan roi'r cyfle iddynt reoli eu cartrefi eu hunain gyda chefnogaeth gan ein gweithwyr cefnogol. Mae hyn yn cynnwys datblygu sgiliau byw'n annibynnol, derbyn cefnogaeth gynhwysfawr gyda materion ariannol, cymorth gyda siopa a chynnal diet iach, a chymorth gydag apwyntiadau meddygol a chynnal eu lefel iechyd. Yn ogystal, rydym yn cynnig cefnogaeth o fewn y gymuned, megis mynychu digwyddiadau a sioeau. Drwy gydol y flwyddyn, mwynhaodd sawl unigolyn wyliau a thripiau gan atgyfnerthu rôl y cynllun o ran gwella annibyniaeth ac integreiddio unigolion i’w cymuned.

“Darparu gofal un i un arbennig”

Byngalo llety a chefnogaeth

Yn dilyn buddsoddiad o gronfeydd Antur Waunfawr a grant Cyfenter, datblygwyd byngalo hygyrch sy’n addas i unigolion gydag anableddau. Yn unol â gofynion ein comisiynwyr, newidiwyd pwrpas y byngalo yn gartref preswyl a chefnogaeth yn 2023 ac erbyn hyn mae un unigolyn wedi ymgartrefu yno ers Mehefin 2023, ac yn mwynhau yn ei gartref ger safle’r Antur.

Aml Ofynion

Mae'r gwasanaeth aml-ofynion yn Antur Waunfawr yn cynnig cefnogaeth un-i-un a chyfleoedd iechyd a llesiant i unigolion gydag anableddau dwys a chymhleth yn y gymuned. Mae'r gwasanaeth, sydd ar gael 6 diwrnod yr wythnos, yn cynnwys sesiynau lles ar ein safle yn Waunfawr, megis cerddoriaeth, carioci, ac arlunio, yn ogystal â gweithgareddau yn y gymuned, sef nofio, dringo, beicio gyda sesiynau Tonic yn Galeri Caernarfon yn un o'r ffefrynnau. Ar benwythnosau, rydym yn cynnig gwasanaeth hamddenol gyda thripiau lleol amrywiol, sy’n darparu ysbaid gwerthfawr i rieni.

7

Mae’r ystafell synhwyraidd ym Mhorth yr Aur yn cynnig boddhad mawr i sawl unigolyn, ac rydym wedi galluogi aelodau o’n staff i arbenigo mewn cyfathrebu drwy gydweithio â therapyddion iaith, gan wella’n darpariaeth cyfathrebu. Yn ogystal, rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda'r tîm ymddygiad cadarnhaol Cyngor Gwynedd i ddatblygu a hyfforddi ein staff, gan wella’r ffordd mae’r defnyddwyr gwasanaeth yn cael eu cefnogi.

Mae'r gofal a’r gweithgareddau llesiant mae'r adran Aml-Ofynion yn ei ddarparu yn cael effaith cadarnhaol ar yr unigolion rydym yn eu cefnogi.

EIN PROSIECTAU

SAFLE BRYN PISTYLL

Ym Mryn Pistyll, mae Antur Waunfawr yn darparu amgylchedd bywiog a chefnogol lle mae iechyd a lles unigolion yn cael blaenoriaeth. Mae'r safle yn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau sydd wedi’u cynllunio i wella bywydau'r rhai sy'n cymryd rhan, gan gynnwys sesiynau garddio, cynhyrchu seidr, dawnsio, ioga, pilates, a chrefftau. Mae defnyddwyr gwasanaeth hefyd yn cymryd rhan wrth baratoi a gweini cinio yng Nghaffi Blas y Waun, gan feithrin ymdeimlad o gymuned a chyflawniad.

Eleni, mae Antur Waunfawr wedi parhau i feithrin ei bartneriaeth gyda Llwybrau Llesiant drwy gynnig amrywiaeth o weithgareddau i’r bobl a gefnogwn. Ymhlith yr uchafbwyntiau roedd Strictly Gwynedd a Môn, prosiect dawns chwe wythnos dan arweiniad Dawns i Bawb a ddaeth i ben gyda sioe fawreddog yng Ngwesty Celtic Royal, gan ddod ag ystod eang o sefydliadau at ei gilydd megis Seren Ffestiniog Cyf a Mencap Môn.

Caffi Blas y Waun

Mae’r tri mis cyntaf o 2025 wedi bod yn gyfnod prysur ar safle Bryn Pistyll, wrth i ni weithio tuag at adnewyddu’r caffi. Fel rhan o’r gwaith hwn, fe wnaethom bartneru â Chwmni CARN yng Nghaernarfon a’r artist lleol Zoe Lewthwaite, a arweiniodd brosiect uwchgylchu creadigol gyda’r bobl a gefnogwn. Trwy’r prosiect, trawsnewidiwyd ein hen fyrddau gyda darluniau ysbrydoledig wedi’u seilio ar yr ardal leol. Gydag fwy o waith adnewyddu i ddigwydd yn y dyfodol agos, rydym yn edrych i ail agor y caffi yn ystod Gwanwyn 2025.

Ond wrth i'r gwaith adnewyddu ddigwydd dros y misoedd, parhawyd defnyddwyr gwasanaeth i ddatblygu eu sgiliau drwy baratoi a gweini prydau wythnosol ar y safle. Maent yn creu a gweini pryd dwy gwrs, gan gynnal eu harfer coginio a'u hymgysylltiad ac eraill.

Parc natur a gerddi

Ar safle Bryn Pistyll mae 7 erw o erddi a pharc natur, yn ogystal â maes chwarae cynhwysol. Yn ystod y cyfnod. Un syniad cyffrous i'r dyfodol yw datblygu ein rhandiroedd, gan gynnig gweithdai darparu sesiynau dysgu sgiliau.

Bragdy Antur Waunfawr

Mae'r bragdy wedi cael blwyddyn brysur ofnadwy, gyda’r tîm yn Waunfawr yn cynhyrchu amrywiaeth o seidr allan o ffrwythau a thyfir ar y safle neu wedi cael eu rhoi fel rhodd gan aelodau o’r gymuned leol. Eleni, cafwyd o leiaf tunnell o ffrwythau fel rhoddion ac rydym hefyd wedi tyfu ffrwythau ein hunain. Galluogodd y casgliad hwn o ffrwythau i ni gynhyrchu 500 o boteli

8

Seidr plaen a 700 o boteli seidr ffrwyth, sef 1,200 o boteli yn y cyfnod yna. Mae ein hystod yn cynnwys pedwar blas: canolig sych, ffrwythau’r gwrych, rhiwbob, cyrens duon, a mefus. Rydym nawr yn gwneud ein seidr trwy’r gydol y flwyddyn gan ddefnyddio dwysfwyd afal yn y cynhyrchiad seidr, mae hyn yn gwneud y seidr mwy cyson gan gadw’r blas a’r cryfder yr un fath.

Diolch i’n gwefan: https://perllan.shop/ a’n mynychiad i nifer o ffeiriau Nadolig, cawsom dymor gwerthu prysur iawn wrth i’r Nadolig agosáu. Mae’r pobl ag anableddau dysgu rydym yn eu cefnogi yn rhan annatod o bob agwedd ar y prosiect hwn, o dyfu a chasglu’r ffrwythau i gynhyrchu, potelu, a labelu’r seidr, yn ogystal â thrin danfoniadau gan roi cyfleoedd gwerthfawr iddynt ddatblygu eu sgiliau. Croesawyd partneriaid cyfanwerthu newydd. Yn ogystal a Black Boy Inn a Glaslyn Beddgelert, mae ein seidr bellach ar gael yn Jac y Do, Caernarfon a hefyd yn Galeri. Mae’r bartneriaeth newydd hon yn agor y drws i fwy o bobl leol a thwristiaid i flasu ac i fwynhau cynnyrch Antur Waunfawr.

Dathliadau 40 Mlynedd 2024

Beicio 40 milltir Ebrill 12

Dathlu 40 mlynedd gyda her o feicio 40 milltir. Bu criw o staff a defnyddwyr gwasanaeth yn beicio 40 milltir gan ddechrau’r daith o Beics Antur yng Nghaernarfon, a gwneud eu ffordd i fyny am Waunfawr, Beddgelert, ac yna draw i Llanberis, a gorffen nôl yng Nghaernarfon a chael eu croesawu gan weddill o staff a defnyddwyr gwasanaeth yr Antur a oedd hefyd wedi bod yn beicio drwy gydol y dydd ar deithiau byrrach. Mawr oedd ein diolch i fusnesau lleol am ein noddi er mwyn gallu prynu dillad addas i feicio ynddynt.

Gŵyl Fwyd Caernarfon Mai 11

Yn rhan o’n dathliadau pen-blwydd 40 oed eleni, fe wnaethom lansio blas newydd o’n seidr yng Ngŵyl Fwyd Caernarfon, Ffrwythau’r Gwrych. Cafodd y seidr ei greu o aeron cymysg a dyfir ar ein safle yn Waunfawr, ac mae’n ychwanegiad cyffrous ac unigryw i’n casgliad. Roedd yn boblogaidd iawn gyda’r trigolion lleol, gan dderbyn croeso brwdfrydig. Ar gyfer y lansiad, buom hefyd yn cydweithio gyda grŵp o ddisgyblion o Ysgol Syr Hugh, a ddyluniodd gwpan arbennig yn dathlu popeth sy’n gwneud Antur Waunfawr. Gwerthwyd y cwpanau hyn ochr yn ochr â’r seidr yn yr Ŵyl eleni, gan ychwanegu at y profiad ac atgof arbennig o’r dathliad

Cyngerdd 40 mlynedd yn Galeri, Caernarfon Mehefin 22

Ym mis Mehefin 2025, cynhaliwyd Gig 40 Antur yn y Galeri. Ar gyfer y noson, buom yn gweithio gyda Ceri Bostock i sefydlu côr Makaton Antur Waunfawr, gyda chyfranogiad defnyddwyr gwasanaeth a staff. Yn ystod y cyfnod paratoi, cynhaliwyd ymarferion wythnosol lle dysgwyd chwe chân newydd a berfformiwyd o flaen cynulleidfa fyw ar y noson fawr.

Yn ystod y digwyddiad, rhoed teyrnged i John Gwynedd, a fu farw wythnosau cyn y noson, drwy rannu lluniau a straeon. Roedd John yn aelod ymroddedig o Fwrdd cyfarwyddwyr Antur Waunfawr am flynyddoedd lawer ac fe wnaeth helpu i lunio’r Antur fel y mae heddiw.

9

Penllanw’r cyngerdd oedd perfformiad Mei Gwynedd a Band Tŷ Potas – sef mab John Gwynedda orffennodd y noson mewn awyrgylch llawn emosiwn, balchder a chariad, gan wneud hi’n un noson wirioneddol gofiadwy a dathlu gwirol o’r hyn mae cymuned Antur Waunfawr yn ei gynrychioli.

Gŵyl Haf

Ym mis Gorffennaf, cynhaliwyd Ffair Haf Antur Waunfawr gyntaf ers blynyddoedd, gan ddod â’r gymuned at ei gilydd mewn diwrnod llawn hwyl, gweithgareddau a pherfformiadau. Fel rhan o’r diwrnod, bu nifer o berfformwyr byw yn creu awyrgylch arbennig, gan gynnwys Côr Makaton Antur Waunfawr yn perfformio gyda disgyblion o Ysgol Waunfawr, ynghyd â Doniau Cudd a Dylan Evans. Roedd y digwyddiad yn gyfle i ddathlu’r haf, cefnogi gwaith yr Antur, ac i bobl o bob oed fwynhau amrywiaeth o stondinau, gweithdai a gweithgareddau i’r teulu oll. Roedd yn wych gweld cymaint o’r gymuned leol yn cymryd rhan ac yn mwynhau’r awyrgylch bywiog, gan adlewyrchu pwysigrwydd y digwyddiad fel rhan o fywyd cymunedol Waunfawr.

WARWS WERDD

Sefydlwyd Warws Werdd yn 2004 yn dilyn derbyn arian gan Gronfeydd Ariannu Ewropeaidd (ERDF) ac LRF Llywodraeth Cymru. Mae’r Warws yn casglu dodrefn a dillad gan y gymuned ac o safleoedd y Cyngor, eu uwchgylchu, eu hail ddefnyddio neu eu paratoi i’w hailgylchu. Mae’r gwasanaeth yn darparu lleoliadau gwaith i 16 o unigolion ag anableddau dysgu, yn ogystal â chyfleoedd iechyd a llesiant. Mae’r Warws yn rhoi cyfle i'r defnyddwyr gwasanaeth ddatblygu eu sgiliau mewn amryw eang o brofiadau gwaith, magu hyder, ac yn gyfle i gymdeithasu a rhoi gwasanaeth cwsmer i drawstoriad o’r gymuned.

Eleni, gyda chefnogaeth ariannol gan Gronfa Integreiddio Rhanbarthol, cafwyd gwaith adnewyddu ei wneud i'r Warws Werdd er mwyn ei wneud mwy hygyrch i ddefnyddwyr gwasanaeth a chwsmeriaid, megis adnewyddu’r gofod derbynfa, cegin, a drysau awtomatig i'r fynedfa.

Pwrpas hyn oedd i'n galluogi i gynnig mwy o brofiadau gwaith gweinyddol a gofal cwsmer, mewn gofod fydd yn hygyrch i bawb ac yn ein paratoi ar gyfer galluogi derbyn unigolion mewn i ddatblygu sgiliau a pharatoi ar gyfer gwaith cyflogedig.

Dillad

Mae Prosiect Dillad Antur Waunfawr wedi cael blwyddyn heriol gan fod y sector ailgylchu tecstiliau wedi gwynebu argyfwng digynsail ynghanol heriau'r farchnad fyd-eang oherwydd trafferthion allforio. Serch hynny rydym wedi llwyddo i oresgyn yr heriau annisgwyl a pharhau i arbed, ailddefnyddio ac ailgylchu dillad a thecstiliau ac wedi cychwyn partneriaeth newydd gyda masnachwyr dillad ychwanegol; SWD. Rydym yn gweithredu nifer o fanciau dillad ledled Gwynedd ac yn cydweithio’n agos gyda Chyngor Gwynedd i ailgylchu dillad o’u canolfannau ailgylchu. Yn ogystal, rydym yn partneru gyda Thyddyn Môn i ymestyn ein hymdrechion ailgylchu ar draws Ynys Môn. Mae rhan allweddol o'n gwaith yn cynnwys partneriaethau gydag ysgolion yng Ngwynedd lle rydym wedi gosod banciau dillad ar safleoedd ysgolion. Am bob cilogram o ddillad a ailgylchir, mae ysgolion yn derbyn arian gan y Warws, sydd wedyn wedi’i ddefnyddio ar

10

gyfer amryw o brosiectau. Mae’r prosiect hwn nid yn unig yn hyrwyddo cynaliadwyedd ond hefyd yn darparu cymorth gwerthfawr i gymunedau lleol.

Ar ôl i ni gasglu a didoli’r dillad yn y Warws, mae gweddill y dillad yn cael eu casglu gan ein partneriaid Roberts Recycling LTD a SWD, byddent yn sicrhau bod y dillad yn cael ei hailgylchu neu ailddefnyddio yn gyfrifol.

Dros y flwyddyn, cafodd 310 tunnell o ddillad eu prosesu drwy’r Warws.

Siop eBay

Mae’r Warws Werdd yn ei hail flwyddyn o werthu dillad ag esgidiau ail lawr drwy blatfform ebay.

Wrth gydnabod safon rhai o’r dillad sydd yn dod mewn i'r Warws, mae gwerthu drwy ebay nid yn unig yn ffordd o gynyddu ein hincwm, ond hefyd yn ffordd o gynyddu nifer y dillad ag esgidiau sydd yn cael eu hail cartrefu ac yn lleihau’r tunelledd sydd yn mynd i dirlenwi. Drwy ddarparu’r gwasanaeth yma rydym hefyd yn rhoi cyfleoedd a phrofiadau gwaith ychwanegol i bobl ag anableddau dysgu sy’n derbyn gwasanaeth gennym, mae pawb yn cael cyfle i gynorthwyo gyda gwahanol agweddau o fewn y broses gwerthu, o dynnu lluniau i bostio.

Dodrefn

Mae gwasanaeth ailgylchu ac ailddefnyddio dodrefn Warws Werdd yn chwarae rhan hanfodol wrth hyrwyddo cynaliadwyedd tra’n darparu dodrefn fforddiadwy i’r gymuned. Mae ein siop aillaw yn cynnig ystod o ddodrefn ail-law a newydd am brisiau cystadleuol. Rydym yn darparu gwasanaeth casglu cyfleus am ffi fechan, lle rydym yn casglu dodrefn diangen o gartrefi cwsmeriaid, gan ailddefnyddio ac uwchgylchu eitemau i’w gwerthu yn ein siop. Gall cwsmeriaid hefyd ddod â’u heitemau diangen yn uniongyrchol i’r siop. Yn ogystal, rydym yn cydweithio gyda sefydliadau lleol megis Adra, Digartrefedd Ynys Môn, Gisda, Grŵp Cynefin, a’r Adran Digartrefedd yng Nghyngor Gwynedd i ddodrefnu cartrefi ar gyfer pobl mewn angen. Rydym hefyd wedi creu partneriaeth gyda Dodrefn Perkins, Caprice a Dodrefn Parry’s ar gyfer derbyn dodrefn diwedd llinell i'w gwerthu yn y Warws Werdd. Dros y flwyddyn ddiwethaf, buom yn prosesu 20.2 tunnell o ddodrefn, gan leihau gwastraff yn sylweddol, ac o ganlyniad yn gwella’r amgylchedd a chadw eitemau o fewn yr economi gylchol. Mae’r prosiect hwn hefyd yn helpu i ddatblygu sgiliau gwerthfawr i’r unigolion rydym yn eu cefnogi, gan gynnwys sgiliau gweinyddol ar y ffôn a’r ddesg flaen, yn ogystal â sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid a chyfathrebu yn ystod ymweliadau cartref wrth ddanfon dodrefn.

Gofod Trwsio a Chreu Ffiws Antur Waunfawr

Yn 2022 derbyniwyd nifer o offer ar gyfer gofod trwsio a chreu o dan frand ‘Ffiws’, sydd wedi ei ariannu gan Gronfa Economi Gylchol drwy law Cyngor Gwynedd. Mae’r offer yn cynnwys argraffwr 3D, torrwr laser, torrwr finyl, a pheiriannau gwnïo a brodwaith.

Pwrpas Ffiws Antur Waunfawr yw rhoi cyfle i bawb gael mynediad at offer uwch-dechnoleg ac annog ac ysbrydoli creadigrwydd.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Ffiws wedi cynhyrchu amrywiaeth o gynnyrch o safon, yn cynnwys cit pel-droed ar gyfer tîm anableddau dysgu Caernarfon, medalau i Eisteddfod Y Felinheli, ag addurn Nadolig gan Groto Sion Corn yn Ffair Nadolig Caernarfon a threfnwyd gan Gŵyl Fwyd Caernarfon.

11

Mae'r adran hefyd wedi cynhyrchu casgliad o eitemau anrhegion Nadolig i’w gwerthu yn ein siop ac ar wefan Antur Waunfawr.

Sied Werdd

Yn dilyn derbyn arian grant drwy gronfa Economi Gylchol Llywodraeth Cymru mewn partneriaeth gyda Cyngor Gwynedd i wella isadeiledd ailgylchu ac ailddefnyddio’r sir, rydym wedi gorffen yr estyniad i'r Warws Werdd a agorodd eleni.

Mae’r sied sy’n 170m[2] , gydag ail lawr yr un maint, yn adeilad hygyrch, gyda lifft a chyfleusterau cymorth.

Mae’r llawr gwaelod yn cynnwys gweithdy ar gyfer didoli dillad i'w ailddefnyddio, cantîn ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth a staff, lifft a storfa. Mae’r llawr cyntaf wedi ei rannu i 3 uned, swyddfa, gofod Ffiws ag ystafell aml-bwrpas ar gyfer cyfarfodydd a hyfforddiant; gall hwn hefyd fod yn ofod addysgiadol ar gyfer grwpiau cymunedol ac ysgolion, neu yn ofod i'w hurio i'r cyhoedd.

Mae’r Sied Werdd wedi rhyddhau gofod yn y Warws Werdd ar gyfer llawr siop ehangach ac yn cynyddu troedle er mwyn cynyddu gwerthiant ailddefnyddio. Yn sgil y datblygiad yma cafwyd cyfle i gyflwyno ein gwaith yn y Gynhadledd Hotspot Economi Gylchol Ewrop yng Nghaerdydd.

Mae Hotspot Economi Gylchol Ewrop yn ddigwyddiad blynyddol, sydd wedi tyfu o gynulliad a gynhaliwyd gyntaf yn yr Iseldiroedd yn 2016. Mae'n cael ei gynnal mewn lle gwahanol bob blwyddyn, gyda'r lle hwnnw'n cael ei ddewis am ddangos yr arloesedd a'r arfer rhyngwladol gorau wrth ddatblygu economi gylchol.

Daeth dros 400 o gynrychiolwyr i’r digwyddiadau dros y tridiau. Roedd yr Hotspot yn gyfle i rannu llwyddiannau Cymru ac archwilio eu dull blaenllaw sy'n seiliedig ar lesiant cenedlaethau'r dyfodol a'n hymrwymiadau uchelgeisiol sero-net a dim gwastraff.

Mae cydweithio wrth wraidd y digwyddiadau Hotspot hyn ac roedd Hotspot Economi Gylchol Cymru yn gyfle unigryw i adeiladu a chryfhau partneriaethau yng Nghymru a chyda chenhedloedd a rhanbarthau eraill. Roedd y cyflwyniadau a'r trafodaethau yn pwysleisio nid yn unig bwysigrwydd hanfodol yr economi gylchol, ond hefyd y rhan y gall ei chwarae wrth gyflawni pontio teg a sicrhau nad yw cymunedau'n cael eu gadael ar ôl, ein bod yn tyfu ein heconomi werdd, a sicrhau bod ein cymunedau'n rhannu'r manteision wrth inni weithio i gyflawni ein nodau hinsawdd.

CAERGYLCHU

Canolfan ailgylchu ar Stad Ddiwydiannol Cibyn, Caernarfon, a sefydlwyd mewn partneriaeth a Cyngor Gwynedd yn 2005 ac sy’n esiampl flaenllaw o gydweithio rhwng y ddau sector. Denwyd £1.7m o grant i Caergylchu yn 2007. Mae Caergylchu yn gartref i'n gwasanaeth llarpio cyfrinachol a’r llinell plastigion sydd yn cael ei redeg gan yr Antur mewn partneriaeth a’r Cyngor.

Llarpio

Mae ein gwasanaeth llarpio papur cyfrinachol, sydd wedi’i leoli yng Nghaergylchu, yn cynnig gwaredu dogfennau cyfrinachol a sensitif mewn ffordd ddiogel ac amgylcheddol gyfrifol ar gyfer busnesau, sefydliadau a chartrefi ar draws Gogledd Cymru. Rydym yn sicrhau bod yr holl ddeunyddiau cyfrinachol yn cael eu casglu, eu rhwygo, a'u hailgylchu yn unol â rheoliadau diogelu data, gan roi tawelwch meddwl i'n cwsmeriaid, a lleihau’r effaith amgylcheddol. Drwy

12

ddewis ein gwasanaeth, nid yn unig mae cwsmeriaid yn diogelu eu gwybodaeth gyfrinachol ond hefyd yn cyfrannu at ddyfodol cynaliadwy drwy ein hymrwymiad i'r amgylchedd a chefnogi gweledigaeth yr Antur, drwy gynnig lleoliad i 8 o unigolion ag anableddau dysgu.

Gyda dros 2000 o gwsmeriaid, casglwyd 17,275 o sachau coch dros y flwyddyn a phroseswyd bron i 330 tunnell o bapur yn barod i’w ailgylchu yn bapur tusw. Rydym yn gweithredu yn unol â gofynion rheolau GDPR ac wedi derbyn achrediad BS EN 15713: 2009.

Casglu offer TGCh

Mewn partneriaeth a North Wales Recycle IT, Llangefni, menter gymunedol sy’n ailgylchu offer TGCh mewn ffordd ddiogel ac amgylcheddol, cynhalwyd prosiect peilot ble roedd Antur Waunfawr yn casglu offer TGCh a’i ddanfon draw i Llangefni fel bod offer yn cael ei drin ac ailddefnyddio ar safle Recycle IT.

Roedd hwn yn brosiect i ddod a ffrwd incwm newydd mewn i wasanaeth prosiect Llarpio’r Antur ac yn sicrhau cynaladwyedd ariannol. Gan ei fod yn brosiect oedd yn ychwanegu at ein gwasanaethau amgylcheddol penderfynwyd parhau tu hwnt i'r peilot 6 mis.

BEICS ANTUR

Siop feics sydd yn hurio, trwsio a gwasanaethu beics yw Beics Antur, wedi ei leoli ym Mhorth yr Aur Caernarfon. Mae 8 o unigolion yr Antur yn cael profiadau gwaith yn y gweithdy gyda’r swyddogion beics, a rhai wedi dysgu sgiliau trin beics er mwyn cwblhau tasgau yn annibynnol.

Rydym yn hurio beics 2 olwyn oedolion, beics plant, e-feics a fflyd beics addasedig ar gyfer oedolion a phlant ifanc megis rhai ochr yn ochr, rydym hefyd yn cynnig trosi beics i fod yn feics trydan.

Mae'r tîm yn darparu gwasanaeth gwerth chweil ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn yr adborth cawn gan gwsmeriaid:

“Atgyweirio a chyngor ar feiciau, yn ogystal â defnyddio beiciau o ansawdd uchel. Am fusnes a sefydliad elusennol gwych! Dechreuais ymweld â'r safle ym mis Gorffennaf i gael help gyda thyllau a phroblemau beiciau cyffredinol. Mae ansawdd y gwasanaeth yn rhagorol, ac mae'r atgyweiriadau i safon uchel. Mae gan y staff agwedd gadarnhaol ac maent yn ymfalchïo yn eu crefftwaith. Pan fydd fy ffrind yn ymweld, bydd hi'n llogi beic, ac maen nhw'n cynnig ystod eang o feiciau am brisiau fforddiadwy. Cwsmer bodlon arall a fydd yn ymgysylltu â'u harbenigedd a'u gwasanaethau.”

Profiad gwych

Roedd Beics Antur yn wych 👍 fe wnaethon nhw drefnu popeth y gallem ei angen a hefyd rhoi cyngor ar rai llwybrau a argymhellir i ni. Cawson ni daith feicio 3 awr wych ar ddau feic cyfforddus a dibynadwy iawn. Diolch i chi Beics Antur am brofiad cofiadwy yng nghefn gwlad prydferth Cymru.

Llofft Llesiant

Ar y llawr cyntaf Beics Antur mae Llofft Llesiant, gofod stiwdio 100m[2] ar gyfer pob math o weithgareddau iechyd a llesiant megis dawns, ioga , pilates a ffitrwydd, sydd hefyd ar gael i'w llogi ar gyfer cyfarfodydd a hyfforddiant. Yn ychwanegol, mae Ystafell Synhwyraidd ar y llawr cyntaf ar gyfer unigolion ag anghenion dwys neu nam ar y synhwyrau. Mae’r adnoddau yma yn boblogaidd iawn ac ar gael i'r cyhoedd eu hurio.

13

Beicio i Bawb

Roedd prosiect Beicio i Bawb yn cyflwyno amrywiaeth o sesiynau a gweithgareddau beicio fforddiadwy i drawstoriad o’r gymdeithas yng Ngwynedd gan gynnwys disgyblion ysgol gynradd, pobl ifanc difreintiedig, pobl hyn, unigolion ag anableddau dysgu, grwpiau corfforaethol, a drwy bresgripsiwn cymunedol.

Gyda chefnogaeth gan Gronfa Ffyniant Cyffredin, prif nod y prosiect hwn oedd hyrwyddo Iechyd a Llesiant a Theithio Llesol Cymru drwy wella mynediad i feicio hygyrch a fforddiadwy, gwella sgiliau, magu hyder ac annog pobol o bob oedran a gallu yn ein cymdeithas i feicio.

Yn ystod y prosiect cynhaliwyd;

Un o’r prif lwyddiannau oedd y sesiynau Sgiliau Beicio a gynhaliwyd o fewn ysgolion cynradd ar draws Gwynedd i ddatblygu sgiliau beicio disgyblion. Yn y sesiynau hyn roedd plant blwyddyn 3 a 4 yn cael cyfle i ddysgu sgiliau a thechnegau beicio mewn awyrgylch diogel, sydd yn cyfrannu at lesiant plant a chodi eu hyder i fynd ar gefn beic drwy annog plant i fod â diddordeb naturiol yn y maes beicio.

“Un o’r plant newydd ddechrau defnyddio’r pedalau beic am y tro cyntaf” “Pawb yn edrych ymlaen ac yn enjoio” Ysgol Pendalar

“Teimlo’n dda, wedi blino ond rhaid gwneud hyn yn amlach. Mwynhau cael rhoi defnydd i fy nghoesau” - Person 65+

Mae Beicio i Bawb yn allweddol iawn i ddisgyblion blwyddyn 3 sydd yn yr oed i gael mynd adref ei hunain. Mae nifer o blant sydd ddim yn gallu mynd ar feic wedi cynyddu dros y blynyddoedd ac mae’r sgiliau sylfaenol yma yn holl bwysig iddynt. Pennaeth ysgol gynradd

Ysgolion Uwchradd

Rydym yn cyd-weithio gydag Ysgolion Uwchradd yr ardal yn hurio beics i ddisgyblion yn ystod wythnos llesiant yr ysgolion.

IAITH A DIWYLLIANT

Cymraeg yw iaith weinyddol fewnol y cwmni a Chymraeg yw iaith weinyddol y prosiectau sydd wedi eu sefydlu, ac rydym yn anelu bob amser i fod yn gyflogwr rhagorol a blaengar, a hybu’r iaith, diwylliant a’r economi leol.

Byddwn yn parhau i weithredu a chynllunio’n gynaliadwy ar gyfer y dyfodol, yn unol â nod ‘Miliwn o Siaradwyr Cymraeg’ Llywodraeth Cymru, gan fod yn rhagweithiol o ran defnyddio a hybu’r Gymraeg. Fel menter gymdeithasol bydd Antur Waunfawr yn cyfarch anghenion cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol y gymuned leol– a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg neu ddewis iaith yr unigolyn, ac mewn partneriaeth.

14

Cynnig Cymraeg

Rydym wedi ymrwymo i gynnig gwasanaethau Cymraeg ac yn ystod y flwyddyn, cafwyd ein Cynnig Cymraeg ei gymeradwyo gan Comisiynydd y Gymraeg.

RHWYDWEITHIAU STRATEGOL, PARTNERIAETHAU NEWYDD A CHYDWEITHIO YN YSTOD Y FLWYDDYN:

PERTHYNAS AG ASIANTAETHAU ALLANOL

Mae Antur Waunfawr yn cynnig gwasanaeth i oedolion ag anableddau dysgu mewn partneriaeth, yn bennaf, ag adran Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Gwynedd, yn ogystal â Chynghorau Conwy ac Ynys Môn. Mae’r cynghorau yn comisiynu’r gwasanaeth yn unol â’u hasesiad o angen ac rydym yn cytundebu gyda’r cynghorau i ddarparu gwahanol fathau o wasanaeth yn unol â’r asesiad. Ein nod wedyn fel menter gymdeithasol yw hyrwyddo potensial y defnyddwyr gwasanaeth o ran eu gwaith ond hefyd eu datblygiad personol a’u sgiliau.

Parhawyd i gydweithio gyda swyddogion y Gwasanaethau Cymdeithasol ac Ysgol Pendalar, Ysgol Hafod Lon, Coleg Menai, Coleg Meirion Dwyfor, a Glynllifon, yn ystod y flwyddyn, er mwyn cynllunio darpariaethau ar gyfer adnoddau gwell i dderbyn unigolion gydag anghenion dwys a chymhleth.

Adra

Yn sgil y newid yn y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, golygai nad oeddem mwyach yn gallu parhau i fod yn landlordiaid yn ogystal â darparu gofal personol i’n tenantiaid. Yr opsiwn gorau er lles ein tenantiaid oedd creu partneriaeth gyda chymdeithas tai Adra, sydd yn golygu mai Adra sydd bellach yn landlordiaid ar ein tai.

Rôl y Prif Weithredwr yw cydymffurfio â gofynion y Rheoliadau – a hi yw’r Person Cyfrifol ar gyfer y cwmni. Mae’r Ddeddf yn cefnogi nodau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, sy’n diogelu hawliau unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth mewn cyfraith.

RCS Wales a Canopi Cymru

Rydym wedi cydweithio’n gyson gydag RCS Wales ar gyfer cyfeirio staff am gefnogaeth cwnsela a physiotherapi gan sicrhau eu bod yn gallu parhau yn y lle gwaith. Maent hefyd yn darparu gweminarau llesiant cyson sydd o fudd i allu cefnogi staff. Mae staff hefyd yn elwa o sesiynau cefnogaeth drwy Canopi Cymru. Mae aelodau o’r Tîm Adnoddau Dynol wedi’u hyfforddi fel pencampwyr llesiant hefyd ac ar gael i gefnogi a dargyfeirio staff am gymorth pellach.

15

Cymunedoli Cyf

Mae Antur Waunfawr yn falch o adrodd am ei gydweithrediad â Cymunedoli Cyf, rhwydwaith nodedig o fentrau cymunedol sydd wedi ymrwymo i rannu adnoddau ac arbenigedd i gryfhau ei gilydd. Mae’r bartneriaeth hon nid yn unig yn gwella ein gallu i wasanaethu ac ymgysylltu â’n cymunedau, ond hefyd yn cefnogi ein nod i warchod a hyrwyddo ein hiaith a’n diwylliant. Trwy weithio gyda’n gilydd, rydym yn manteisio ar gryfderau cyfunedig i yrru cynnydd ystyrlon, hybu datblygiad lleol a thwf economaidd, a chyfrannu at rwydwaith mwy cadarn a gysylltiedig o fentrau cymunedol, wrth barhau i ddiogelu a dathlu ein hetifeddiaeth ddiwylliannol.

YMWELIADAU I’R ANTUR

Trwy gydol y flwyddyn, mae Antur Waunfawr wedi cael y pleser o groesawu nifer o ymwelwyr i’n safleoedd. Mae'r ymweliadau hyn wedi rhoi cyfleoedd gwerthfawr i ni rwydweithio, cryfhau partneriaethau presennol a newydd, ac arddangos y gwaith rhagorol mae ein defnyddwyr gwasanaeth ac ein staff ymroddgar yn ei wneud o ddydd i ddydd. Mae pob ymweliad wedi atgyfnerthu ein hymrwymiad i'n cenhadaeth, gan hefyd dynnu sylw at yr effaith gadarnhaol rydym yn ymdrechu i’w gwneud o fewn ein cymuned.

Cyngor Gwynedd:

Pleser oedd croesawu Mari Wynne Jones, Rheolwr Gwasanaethau Anableddau Dysgu (olynydd Helen Fôn) i ymweld â’r Antur ar 11 Ebrill 2024. Cafwyd cyfle i roi trosolwg i Mari o’n gwasanaethau a thrafod blaenoriaethau’r cyngor at y dyfodol er mwyn sicrhau ein bod yn cynllunio ymlaen. Cadarnhawyd gan Mari’r blaenoriaethau, sef cynnydd mewn darpariaeth gwasanaethau dwys a chymhleth, cynlluniau i gefnogi defnyddwyr gwasanaeth nol i waith lle mae’n briodol, a mwy o gynlluniau tai a chefnogaeth.

Partneriaeth Adfywio Caernarfon :

Cynhaliwyd cyfarfod ym Meics Antur ar 8 Gorffennaf, 2024. Cyfarfod ar y cyd efo Adran Economaidd Cyngor Gwynedd ydoedd ac mae’r prif bartneriaid yn yr ardal yn cydweithio i sicrhau bod Cynlluniau Ardal Ni Caernarfon a’r Cynllun Canol Tref Caernarfon yn cael eu gwireddu. Yn ogystal, cafwyd cyfarfod pellach ar 10 Chwefror 2025 i drafod a phenderfynu ar y blaenoriaethau o fewn y Cynllun Creu Lleoedd yng Nghaernarfon.

Gwyrfai Gwyrdd:

Prosiect arfaethedig i gynhyrchu ynni cymunedol newydd i sicrhau dyfodol net sero llewyrchus Waunfawr a’r ardal gyfagos ar gyfer cenedlaethau, sy’n cynnwys gwerthu ynni gwyrdd i’r gymuned ydyw, ac rydym yn ddiolchgar iawn o arweiniad y grŵp cymunedol sydd yn arwain ar y fenter yma yn y pentref. Gwnaeth Grŵp Llywio Gwyrfai Gwyrdd dderbyn arian gan Grymuso Gwynedd i ymgynghori gyda’r gymuned leol er mwyn gosod blaenoriaethau ar gyfer y deg mlynedd nesaf. Derbyniwyd arian hefyd gan Uchelgais Gogledd Cymru er mwyn creu Cynllun Busnes pum mlynedd.

Mae Ellen Thirsk, ein Prif Weithredwr yn rhan o’r Pwyllgor sydd yn cynnwys Dafydd G Davies (aelod o Fwrdd Rheoli’r Antur), cynrychiolaeth o Cyngor Cymuned Waunfawr a Caeathro.

Digwyddiadau, Rhwydweithio a Chynhadleddau Pellach:

16

Mynychodd Stephen Goodwin, Uwch Reolwr Gwasanaethau Dydd a Phreswyl a Gwenllian Evans (ein Rheolwr Cofrestredig newydd) hefyd.

SAFONAU

Cawsom adborth cadarnhaol yn dilyn archwiliad Arolygiaeth Gofal Cymru ar y 19eg o Fawrth 2024, a’r adroddiad yn galonogol iawn ac yn adroddiad a oedd yn canmol y sefydliad. Mae archwiliad ysgrifenedig yr Arolygydd Rheoliadau wedi cael ei gyhoeddi yn ddwyieithog ar wefan Arolygiaeth Gofal Cymru.

Archwiliad ISO 14001 ac ISO 9001

Llwyddwyd i gynnal ein Hachrediad ISO 14001 a’r Achrediad ISO 9001 unwaith eto yn dilyn archwiliad ar safle. Mae’r gweithredu ar y broses a’r systemau cysylltiedig yn fuddiol i ni wrth ymgeisio am gytundebau a thendrau.

BS EN 15713 GWASANAETH LLARPIO

Mae’r gwasanaeth llarpio gydag achrediad BS EN 15713 a chafwyd archwiliad allanol 1 Mai 2024 gyda dim i weithredu arno. Mae’r achrediad yn cryfhau ein systemau gweithio yn ogystal ȃ gallu ymgeisio am gytundebau a thendrau newydd.

Tystysgrif Cyber Essential

Rydym wedi bod yn llwyddiannus yn derbyn y dystysgrif uchod eleni.

Safecontractor

Llwyddwyd i gynnal yr achrediad Safe Contractor yn 2024. Mae’r achrediad yma yn angenrheidiol ar gyfer cadw cytundebau llarpio presennol ac yn cryfhau ein sefyllfa wrth ymgeisio am dendrau.

ADNODDAU DYNOL

Denu a datblygu staff

Wrth gymryd i ystyriaeth yr hinsawdd economaidd anodd mae cyflogwyr yn eu hwynebu, mae’r Tîm Adnoddau Dynol yn falch o adrodd ein bod wedi llwyddo i gynnal yr adnoddau staff angenrheidiol ac wedi cydymffurfio efo holl ofynion gyfraith cyflogaeth. Drwy reoli ein hadnoddau rydym wedi llwyddo i gynnal safon ein gwasanaethau a chynllunio ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth newydd yn ein gwasanaethau dydd a chefnogaeth gartref.

Er mwyn parhau i sicrhau effeithlonrwydd y Cwmni, gwobrwywyd ymroddiad ein staff a pharhawyd i gefnogi’r staff sydd yn arbenigo mewn darparu gofal ar sawl lefel i’n defnyddwyr gwasanaeth yn y maes gofal. Rhoddwyd blaenoriaeth ar ddatblygu cryfderau a gyrfaoedd, rhoi cyfrifoldebau newydd i staff, rhoi clod i gyrhaeddiad ein staff a chynllunio’n strategol, gan roi pwyslais ar fentora, magu, a chadw staff.

17

Mae’r strwythur yma yn creu llwybr gyrfa i’n gweithwyr cefnogol, a chodiad cyflog i’r rhai a lwyddodd i ateb gofynion y meini prawf uwch. Bwriad y strwythur newydd yw magu hyder, datblygu sgiliau a chymwysterau ac annog ein staff i ymgeisio am swyddi uwch. Mae gennym 10 aelod staff sydd wedi llwyddo i gyrraedd y meini prawf uwch ac o ganlyniad maent wedi cymryd lefel uwch o gyfrifoldebau sydd wedi galluogi’r Rheolwyr gofal i ganolbwyntio ar faterion rheolaethol.

Ymgyrch recriwtio a ffeiriau swyddi

Eleni, mae Antur Waunfawr wedi parhau i ffynnu drwy gynnal ymgyrchoedd recriwtio llwyddiannus, gan ddenu aelodau newydd i’r tîm a chynyddu ein gallu i gefnogi’r gymuned. Drwy gyfuniad o ymgyrchoedd ar y cyfryngau cymdeithasol, ymgyrchoedd “Cyfeiriwch Ffrind” mewnol, a chyfranogiad mewn ffeiriau recriwtio lleol gyda Gwaith Gwynedd a Phrifysgol Bangor, buom yn gallu cyrraedd amrywiaeth eang o ymgeiswyr ac annog pobl o gefndiroedd amrywiol i ymuno â’n gweithleoedd. Mae’r ymgyrchoedd hyn wedi helpu i sicrhau bod Antur Waunfawr yn parhau i dyfu, gan gadw ein gwaith o fewn y gymuned yn fywiog a phwrpasol.

Eleni unwaith eto, buodd rhai o’r defnyddwyr gwasanaeth yn rhan o’r panel cyfweld er mwyn iddynt gael profiad o ofyn cwestiynau, a chyfarfod a dewis yr ymgeiswyr.

Mae ein hymdrechion wedi ymestyn i gyflwyniadau yng Ngholeg Menai a nifer o ysgolion lleol, lle rydym wedi ysbrydoli disgyblion sydd yn astudio cyrsiau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r sesiynau hyn wedi bod yn llwyddiant mawr, gan arwain at nifer o fyfyrwyr sydd wedi mynychu profiadau gwaith gyda ni ac sydd wedi derbyn swyddi rhan-amser wrth fynd ymlaen â'u hastudiaethau.

Staff newydd

Rhwng 1 Ebrill 2024 a 31 Mawrth 2025 fe benodwyd 17 aelod newydd o staff ar draws y cwmni. Yn yr un cyfnod, penderfynwyd 5 aelod staff i adael y Cwmni er mwyn datblygu eu gyrfa.

Hyfforddiant

Mae gan yr Antur raglen Hyfforddiant a Datblygiad cynhwysfawr sydd yn ateb gofynion ein gwasanaethau ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu, gan sicrhau ein bod yn cadw i safonau megis Arolygiaeth Gofal Cymru a Gwasanaethau Cymdeithasol, Cyngor Gwynedd, Ynys Môn a Conwy. Rydym yn sicrhau bod gofynion hyfforddiant yn gyfredol ac yn cofrestru ein gweithwyr cefnogol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ac maent yn cwblhau gwerthoedd ac egwyddorion o fewn ei 6 mis cyntaf o gychwyn eu cyflogaeth. Mae’r Cwmni erbyn hyn wedi datblygu pasbort hyfforddiant i staff sydd yn amlinellu’r hyfforddiant hanfodol a dymunol ar gyfer pob gwasanaeth.

Rydym wedi cofrestru 7 aelod staff yn ystod y cyfnod yma. Byddwn yn parhau i gofrestru staff a chadw cofrestriad staff yn gyfredol yn unol â’r gofynion.

Profiadau gwaith

Llwyddwyd i gynnig profiadau gwaith gwerthfawr i fyfyrwyr a disgyblion dros y cyfnod.

Profedigaeth

Gyda thristwch mawr rydym yn adrodd ein bod wedi colli cyn-gadeirydd y Bwrdd - John Gwynedd, a dau aelod staff Aled Parry, Gweithiwr Cefnogol a Bethan Howel, Gweithiwr Gofal. Roedd y tri yn agos at galonnau’r Bwrdd, y staff a defnyddwyr gwasanaeth ac mae colled fawr ar eu hol.

18

ADOLYGIAD CYLLIDOL

Prif ffynonellau incwm

Prif ffynhonnell incwm y cwmni yw Incwm Cytundebol o’r Awdurdodau Lleol trwy’r Adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol. Yn ogystal mae’r Cwmni yn rhan o bartneriaeth ailgylchu ac ailddefnyddio gyda Chyngor Gwynedd a chytundebir gyda’r Cyngor am y gwaith hwn. Mae incwm masnachol o werthu gwasanaeth a chynnyrch Antur Waunfawr, yn dod ag incwm hollbwysig i sicrhau cynaladwyedd ariannol yr Antur mewn cyfnod heriol iawn yn economaidd.

Polisi arian wrth gefn

Mae’n bolisi gan y Cwmni i gadw cronfa anghyfyngedig fechan, gan eithrio cronfeydd dynodedig o eiddo’r Elusen sydd wedi eu neilltuo yn benodol. Penderfynodd y Bwrdd adolygu’r polisi yn rheolaidd (gan gymryd i ystyriaeth asedau cynyddol y Cwmni) fel bod yna arian i gynnal costau gwasanaethu amcanion yr elusen am gyfnod, ac i gynnal costau rheoli a gweinyddu, a hefyd digon i ymateb i unrhyw gais brys.

Rhoddion

Rydym yn ddiolchgar iawn am y rhoddion hael eto eleni sydd wedi ein galluogi ni i wneud gweithgareddau ychwanegol efo’r defnyddwyr gwasanaeth.

Derbyniwyd rhoddion er cof am ddau gyn-aelod staff, am ewythr un o’r defnyddwyr gwasanaeth rydym yn ei gefnogi, a gan stad deulu caredig o Griccieth. Yn unol â chais y teuluoedd, penderfynwyd ein bod am ddefnyddio’r rhoddion hyn i greu gardd synhwyraidd ar safle Waunfawr er mwyn i'r defnyddwyr gwasanaeth gael man tawel i eistedd a myfyrio. Mi fydd aelodau teuluoedd sydd wedi cyfrannu tuag y prosiect yn cael eu gwahodd i ymweld unwaith bydd y gwaith wedi ei orffen.

MARCHNATA, CYFATHREBU AC YMGYSYLLTU

Roedd blwyddyn 2024–2025 yn garreg filltir anferth i Antur Waunfawr wrth i ni ddathlu ein penblwydd yn 40 mlwydd oed. Roedd y garreg filltir hon yn gyfle i fyfyrio ar y daith a ddechreuodd gyda gweledigaeth ein sylfaenydd, R. Gwyn Davies, a’i gred mewn creu cyfleoedd i bobl ag anableddau dysgu a meithrin dyfodol gwyrddach. Pedwar degawd yn ddiweddarach, mae’r weledigaeth honno’n parhau i fod wrth wraidd Antur Waunfawr ac mae gwaith marchnata a chyfathrebu eleni wedi canolbwyntio ar ddathlu pob cam o’r daith honno, wrth edrych ymlaen at flynyddoedd i ddod gydag optimistiaeth ac uchelgais.

Cynhaliwyd dathliadau’r pen-blwydd drwy gydol y flwyddyn, gan ddod â’r gymuned, ffrindiau, teuluoedd a phartneriaid at ei gilydd. Cyflwynwyd digwyddiadau newydd fel y daith feicio 40 milltir a Gig 40 Antur, ochr yn ochr â hoff ddigwyddiadau traddodiadol fel y Ffair Haf a’r Miri Siôn Corn. Roedd y dathliadau hyn nid yn unig yn boblogaidd, ond cawsant hefyd sylw helaeth yn y cyfryngau, gyda darlledu ar Heno (S4C), ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru, ac mewn erthygl ar BBC Cymru Fyw. Cododd yr ymwybyddiaeth hon ein proffil ledled Cymru, gan bwysleisio dylanwad ac arwyddocâd Antur Waunfawr yn y gymuned.

Mae’r defnyddwyr gwasanaeth wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau, un o’r gweithgareddau mwyaf cofiadwy i ni eleni oedd perfformiad Halibalŵ.

Prosiect theatrig arbennig mewn cydweithrediad â Bara Caws. Dechreuodd y fenter gyda gweithdai drama wythnosol yn y Galeri, dan arweiniad Ruth Thomas ac Emyr Gibson. Nôl ym

19

mis Hydref cynhyrchwyd ffilm “Bys Breuddwydion Halibalŵ”, a gafodd ei hysbrydoli gan eu breuddwydion a’u diddordebau eu hunain, ac roedd y ffilm yn llwyddiant ysgubol.

Yn ogystal â’r dathliadau, roedd hyrwyddo ein cynnyrch cartref gan gynnwys seidr, jamiau, piclau a nwyddau eraill yn ganolbwynt eleni. Am y tro cyntaf ers blynyddoedd, cafodd Antur Waunfawr stondin yn Farchnad Nadolig Glynllifon, a oedd yn llwyddiant mawr. Hefyd, arddangoswyd ein cynnyrch mewn marchnadoedd lleol eraill gan gynnwys Ysgol Pendalar, Ysgol Waunfawr, a Marchnad Maes Awyr Caernarfon, gan gysylltu â chynulleidfaoedd newydd a chryfhau ein henw da am gynnyrch lleol cynaliadwy o safon.

Fel rhan o'n hymgyrchon Nadolig, cynhaliwyd noson siopa hwyr gyntaf erioed yn Warws Werdd, gan dynnu sylw at bwysigrwydd lleihau gwastraff a phrynu anrhegion ail-law ac wedi’u hailgylchu ar gyfer Nadolig Gwyrdd. Roedd y noson yn ffordd o feithrin ymwybyddiaeth am gynaliadwyedd. Yn fuan wedyn, fe ddaeth y Miri Siôn Corn yn ôl am y tro cyntaf ers 2019, gyda pherfformiadau bendigedig gan Fand Arian Llanrug a Lleisiau Llawen, noson hudolus i’r gymuned gyfan.

Canolbwyntiwyd cryn dipyn ar gryfhau ein platfformau digidol yn ystod 2024–25. Adnewyddwyd ein siop ar-lein, gan roi golwg fwy modern ac apelgar iddi er mwyn gwella profiad y cwsmer a denu cynulleidfaoedd newydd. Yn Ionawr, lansiwyd siop Etsy Antur Waunfawr hefyd, gan werthu crefftau wedi’u gwneud o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu. Nid yn unig yr estynnodd hyn ein cyrhaeddiad i gynulleidfa ehangach a hyd yn oed cenedlaethol, ond hefyd pwysleisiodd ein hymrwymiad i gynaliadwyedd.

GWOBRAU

Yn sgil derbyn y Wobr Gofalu, Gwella Llesiant y Gweithlu 2024 gan Gofal Cymdeithasol Cymru cafodd Ellen Thirsk y cyfle i gyflwyno ein gwaith mewn Gweithdy Iechyd a Llesiant yn Llandudno a chawsom hysbysrwydd yn dilyn ennill y wobr megis Gary Owen o BBC Radio Cymru wedi bod ar safle yn ffilmio ac yn trafod efo staff y gwaith rydym yn ei gyflawni i warchod eu hiechyd a llesiant, ac erthygl wedi ei hysgrifennu yn rhoi sylw i ni, ac yn cael ei ddarlledu ar raglen Heno ac ar radio BBC Cymru

DIWEDDGLO

Mae blwyddyn 2024–2025 wedi bod yn flwyddyn o ddathlu, cydweithio a thwf i Antur Waunfawr. Wrth i ni nodi 40 mlynedd ers ein sefydlu, roedd yn fraint rhannu’r garreg filltir hon gyda’n defnyddwyr gwasanaeth, staff, ein partneriaid a’n cymuned leol.

Nid yw’r flwyddyn wedi bod heb ei heriau, ond trwy gydweithio ac ymrwymiad, rydym wedi gallu eu goresgyn. Mae hyn yn dyst i gryfder a gwaith caled ein staff a’n cymuned, sy’n parhau i fod wrth wraidd popeth a wnawn.

Wrth edrych yn ôl, rydym yn falch iawn o’r hyn sydd wedi’i gyflawni; ac wrth edrych ymlaen, rydym yn llawn cyffro ac uchelgais ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Gyda’ch cefnogaeth barhaus, rydym yn hyderus y bydd Antur Waunfawr yn parhau i ffynnu, creu cyfleoedd, a chael effaith gadarnhaol. Diolch o galon i bawb sy’n ein cefnogi.

20

Cyfrifoldebau yr ymddiriedolwyr mewn cysylltiad a’r datganiadau ariannol

Yr ymddiriedolwyr sydd yn gyfrifol am baratoi yr adroddiad blynyddol a’r datganiadau ariannol yn unol a chyfraith perthnasol ac Arferiad Cyfrifeg Safonol Cyffredinol y Deyrnas Unedig (UK GAAP).

Mae’n ofynnol dan y Ddeddf Cwmnïau i’r ymddiriedolwyr baratoi datganiadau ariannol sydd yn rhoi golwg wir a theg o amgylchiadau yr elusen ar ddiwedd y flwyddyn ariannol am y gweddill neu ddiffyg yn y flwyddyn ariannol. Wrth baratoi’r datganiadau ariannol mae’n ofynnol ar yr ymddiriedolwyr i:

  1. ddefnyddio a chymhwyso yn gyson bolisïau cyfrifyddol addas;

  2. gwneud dyfarniadau ac amcangyfrifon rhesymol a phwyllog; a

  3. pharatoi’r datganiadau ariannol ar sail busnes byw os nad yw’n anaddas i ystyried bydd yr elusen yn parhau mewn busnes.

Mae’r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am sicrhau fod trefniadau wedi eu gwneud i gynnal cofnodion cyfrifyddol sydd yn datgan sefyllfa ariannol yr elusen yn rhesymol fanwl ac sydd yn eu galluogi i’r datganiadau ariannol gydymffurfio â Deddf Cwmnïau 2006. Mae’r ymddiriedolwyr hefyd yn gyfrifol am ddiogelu asedau’r elusen, ac i sicrhau y gwneir darpariaethau i atal a darganfod twyll ac afreoleidd-dra arall.

Datganiad yr Ymddiriedolwyr Ynglyn a Datgelu Gwybodaeth i’r Archwiliwr

Mae’r ymddiriedolwyr yn cadarnhau cyn belled ac maent yn ymwybodol, nad oes dim gwybodaeth perthnasol nad yw archwiliwr yr elusen yn ymwybodol ohonno. Maent wedi cymeryd pob cam y dylent fel ymddiriedolwyr i wneud eu hunain yn ymwybodol o unrhyw wybodaeth archwilio perthnasol ac i sicrhau fod archwiliwr yr elusen yn ymwybodol o’r wybodaeth.

Ymddiriedolwr Awdurdodedig: Miss Gwen Tomos – Cadeirydd y Bwrdd

Cafodd yr Adroddiad ei chymeradwyo

Llofnod:

Miss Gwen Tomos – Cadeirydd

Dyddiad:

21

Adroddiad yr Archwiliwr Annibynnol i Aelodau Antur Waunfawr

Barn

Yr ydym wedi archwilio datganiadau ariannol Antur Waunfawr am y flwyddyn hyd 31 Mawrth 2025 sydd yn cynnwys y datganiad o weithredoedd ariannol, y fantolen, y datganiad ynghylch llif arian a’r nodiadau i’r datganiadau ariannol, gan gynnwys crynodeb o’r polisïau cyfrifo sylweddol. Y fframwaith adrodd ariannol a ddefnyddiwyd i baratoi y datganiadau ariannol yw cyfraith cymwys a Safonau Cyfrifo y Deyrnas Unedig, gan gynnwys FRS 102, , 'Y Safon Adrodd Ariannol sy'n gymwys yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon' (Arferiad Cyfrifeg Safonol Cyffredinol y Deyrnas Unedig).

Yn ein barn mae’r datganiadau ariannol yn:

Sail ein barn

Rydym wedi cynnel ein archwiliad yn unol â Safonau Archwilio Rhyngwladol (DU) (ISAs (DU)) a chyfraith cymwys. Disgrifir ein cyfrifoldebau dan y safonau hynny ymhellach yn adran cyfrifoldebau’r archwiliwr am archwiliad o’r datganiadau ariannol o’n hadroddiad. Rydym yn annibynnol o’r cwmni yn unol â’r anghenion ethegol sydd yn gymwys i’n archwiliad o’r datganiadau ariannol yn y DU, gan gynnwys Safonau Ethegol yr FRC ac rydym wedi cyflawni ein cyfrifoldebau ethegol eraill yn unol â’r gofynion hynny. Rydym yn credu fod y tystiolaeth archwilio a gawsom yn ddigonol a chymwys i baratoi sail i’n barn.

Canlyniadau ynglŷn a busnes byw

Wrth archwilio’r datganiadau ariannol rydym wedi dod i’r casgliad bod defnydd yr ymddiriedolwyr o’r sail busnes byw o gyfrifo wrth baratoi’r datganiadau yn briodol.

Yn seiliedig ar y gwaith rydym wedi’i gyflawni, nid ydym wedi nodi unrhyw ansicrwydd materol yn ymwneud a digwyddiadau neu amodau a allai, yn unigol neu ar y cyd, fwrw amheuaeth sylweddol ar allu’r endid i barhau fel busnes byw am gyfnod o leiaf 12 mis o’r adeg yr awdurdodir y datganiadau ariannol.

Disgrifir ein cyfrifoldebau a chyfrifoldebau’r ymddiriedolwyr mewn perthynas a busnes byw yn adrannau perthnasol yr adroddiad hwn.

Gwybodaeth arall

Yr ymddiriedolwyr sydd yn gyfrifol am y gwybodaeth arall. Mae’r wybodaeth arall yn cynnwys yr wybodaeth gynwysiedig yn yr adroddiad blynyddol, heblaw am y datganiadau ariannol a’n hadroddiad ni fel archwiliwr arnynt. Nid yw ein barn ar y datganiadau ariannol yn cwmpasu’r wybodaeth arall ac, heblaw i’r helaeth fod wedi ei nodi’n benodol yn ein hadroddiad, nid ydym yn datgan unrhyw ganlyniadau o sicrwydd arno.

Mewn cysylltiad â’n harchwiliad o’r datganiadau ariannol, mae gennym gyfrifoldeb i ddarllen yr wyboadaeth arall ac, wrth wneud hynny, ystyried os oes anghysondeb sylweddol rhwng yr wybodaeth arall a’r datganiadau ariannol neu’r wybodaeth a gawsom yn ystod yr archwiliad neu sydd fel arall yn ymddangos yn sylweddol anghywir. Os daw yn ymwybodol o unrhyw gamfynegiant sylweddol ymddangosiadol neu anghysondebau, mae’n ofynnol arnom i benderfynu os oes camddatganiad sylweddol yn y datganiadau ariannol neu gamddatganiad sylweddol yn yr wybodaeth arall. Os down i gasgliad , ar sail y gwaith a gwblhawyd fod camddatganiad sylweddol yn yr wybodaeth ychwanegol yma, mae’n ofynnol arnom i ymadrodd y ffaith.

Nid oes gennym ddim i ymadrodd mewn cyswllt â hyn.

22

Barn ar faterion eraill a benodwyd gan Ddeddf Cwmniau 2006

Yn ein barn, yn seiliedig ar y gwaith a ymgymerwyd yng nghwrs yr archwiliad:

Materion yr ydym angen datgan arnynt trwy eithriad

Yn sgil yr wybodaeth a dealltwriaeth y cwmni a’i amgylchedd a gafwyd yn ystod ein harchwiliad, nid ydym wedi adnabod camfynegiant sylweddol yn adroddiad yr ymddiriedolwyr.

Nid oes gennym ddim i ddatgan ynglyn â’r materion canlynol lle mae Deddf Cwmniau 2006 yn gofyn i ni ddatgan i chwi os, yn ein barn:

Cyfrifoldebau'r ymddiriedolwyr

Fel yr eglurir yn llawnach yn y datganiad o gyfrifoldebau’r ymddiriedolwyr, yr ymddiriedolwyr (sydd hefyd yn gyfarwyddwyr y cwmni elusennol at bwrpas deddf cwmnïau) sydd yn gyfrifol am baratoi y datganiadau ariannol ac am foddhau eu hunain eu bod yn rhoi golwg wir a theg ac am y rheolau mewnol mae’r ymddiriedolwyr yn cysidro’n angenrheidiol i alluogi paratoad o ddatganiadau ariannol sydd yn rhydd o gamosodiad sylweddol, boed hynny yn deillio o dwyll neu gamgymeriad.

Wrth baratoi y datganiadau ariannol, mae’r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am asesu gallu’r cwmni elusennol i barhau fel busnes byw, gan ddatgelu, fel yn gymwys, materion perthnasol i allu’r busnes i barhau a defnyddio y sail busnes byw o gyfrifo os nad yw’r ymddiriedolwyr un ai wedi penderfynu i gau y cwmni neu roi gorau i weithredu, neu heb fod gyda dewis rhesymol ond i wneud hynny.

Cyfrifoldeb yr archwiliwr am archwilio’r datganiadau ariannol

Ein amcanion yw i dderbyn sicrwydd rhesymol fod y datganiadau ariannol ar y cyfan yn rhydd o gamddatganiad sylweddol, boed hynny wedi ei achosi drwy dwyll neu gamgymeriad, ac i gyhoeddi adroddiad archwiliwr sydd yn cynnwys ein barn. Mae sicrwydd rhesymol yn lefel uchaf o sicrwydd, ond nid yn gwarantu y buasai archwiliad wedi ei chynnal yn unol ag ISAs (DU) yn darganfod camddatganiad sylweddol, os yw yn bod pob adeg. Gall camosodiadau godi o dwyll neu gamgymeriad, a byddent yn cael eu cysidro yn sylweddol os, yn unigol neu gyda’i gilydd, y buasai’n rhesymol i ddisgwyl iddynt effeithio dewisiadau economaidd defnyddwyr a gymerir ar sail y datganiadau yma.

Mae afreolaidd-dra, gan gynnwys twyll, yn achosion o ddiffyg cydymffurfio â deddfau a rheoliadau. Rydym yn dylunio gweithdrefnau yn unol â’n cyfrifoldebau, a amlinellir uchod, i ganfod camddatganiadau perthnasol mewn perthynas ag afreolaidd-dra, gan gynnwys twyll. Manylir isod i ba raddau y mae ein gweithdrefnau’n gallu canfod afreolaidd-dra, gan gynnwys twyll:

23

Gwnaethom asesu tueddiad datganiadau ariannol y cwmni i gamddatganiad perthnasol, gan gynnwys cael dealltwriaeth o sut y gallai twyll ddigwydd, trwy:

Er mwyn mynd i’r afael â’r risg o dwyll trwy ragfarn rheoli a diystyru rheolaethau, rydym yn:

Mewn ymateb i’r risg o afreolaidd-dra a diffyg cydymffurfio â deddfau a rheoliadau, gwnaethom ddylunio gweithdrefnau a oedd yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

Mae cyfyngiadau cynhenid yn ein gweithdrefnau archwilio a ddisgrifir uchod. Po fwyaf y caiff deddfau a rheoliadau eu dileu o drafodion ariannol, y lleiaf tebygol yw y byddem yn dod yn ymwybodol o ddiffyg cydymffurfio. Mae safonau archwilio hefyd yn cyfyngu’r gweithdrefnau archwilio sydd yn ofynnol i nodi diffyg cydymffurfio â deddfau a rheoliadau i ymholi’r cyfarwyddwyr a rheolwyr eraill ac archwilio gohebiaeth reoleiddiol a chyfreithiol, os o gwbl. Gall fod yn anoddach canfod camddatganiadau materol sydd yn codi oherwydd twyll na’r rhai sydd yn codi o gamgymeriad oherwydd gallent gynnwys cuddio neu gydgynllwynio yn fwriadol.

Fel rhan o archwiliad a ymgymerir yn unol ag ISAs (DU), rydym yn ymarfer barn proffesiynol a chynnal amheuaeth broffesiynol trwy gydol yr archwiliad, rydym hefyd yn:

24

neu amgylchiadau a all godi amheuaeth sylweddol ar allu‘r cwmni elusennol i barhau fel uned byw. Os y down i gasgliad fod ansicrwydd sylweddol yn bod, mae’n ofynnol arnom i dynnu sylw, yn ein adroddiad archwiliwr i’r datgeliadau perthnasol yn y datganiadau ariannol neu, os nad yw’r datgeliadau yn ddigonol, i addasu ein barn. Mae ein casgliadau yn seiliedig ar y tystiolaeth archwilio a dderbyniwyd hyd at dyddiad adroddiad yr archwiliwr. Er hynny, gall digwyddiadau neu amgylchiadau yn y dyfodol achosi’r cwmni i beidio parhau fel busnes byw.

Rydym yn cyfathrebu gyda’r rhai sydd yn gyfrifol am lywodraethu ynglŷn, ymysg materion eraill, paratoi cwmpas ac amseru yr archwiliad a darganfyddiadau sylweddol yr archwiliad, gan gynnwys unrhyw wendidau sylfaenol mewn rheolaeth ariannol a ddarganfuwyd gennym yn ystod ein harchwiliad.

Defnyddio ein adroddiad

Mae’r adroddiad hwn wedi ei wneud i aelodau’r cwmni elusennol yn unig, fel corff, yn unol â Phennod 3 o Adran 16 Deddf Cwmnïau 2006. Rydym wedi ymgymryd a’r gwaith archwilio fel y gallwn adrodd i aelodau’r cwmni elusennol ar y materion hynny y mae’n ofynnol i ni adrodd arnynt mewn adroddiad yr archwiliwr ac i ddim pwrpas arall. Hyd at eithaf â ganiateir trwy gyfraith, nid ydym yn derbyn na chymryd cyfrifoldeb i unrhyw un heblaw y cwmni elusennol ac aelodau’r cwmni elusennol fel corff, am ein gwaith archwilio, am yr adroddiad hwn, nac am y farn yr ydym wedi ei ffurfio.

David Chidley (Prif archwiliwr statudol) Dros ac ar ran W J Matthews a’i Fab, Archwiliwr Statudol a Chyfrifwyr Siartredig, 11-15 Y Bont Bridd, CAERNARFON Ll55 1AB Dyddiad:

25

Antur Waunfawr

Datganiad o weithredoedd ariannol (yn cynnwys Cyfrif Incwm a Gwariant) am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2025

Holl Holl
Gronfeydd Gronfeydd
Cronfeydd Cronfeydd 31 Mawrth 31 Mawrth
Nodiadau Anghyfyngedig Cyfyngedig 2025 2024
£ £ £ £
Incwm
Rhoddion
Rhoddion a grantiau 3 2,849 224,697 227,546 130,222
Grant Cyfalaf – Sied Werdd - - - 376,662
Grant Cyfalaf – Beics i Bawb - - - 27,865
Grant Cyfalaf Cronfa Economi Gylchol - 25,000 25,000 -
Incwm o weithgareddau elusennol:
Incwm Safle a Chynllun Cartrefu 4 1,918,063 - 1,918,063 1,791,034
Incwm Warws Werdd 4 409,496 - 409,496 414,172
Incwm Caer Gylchu 4 628,526 - 628,526 589,733
Incwm Beics Menai 4 76,640 - 76,640 92,928
Incwm arall 150 - 150 -
Llog 1,227 - 1,227 2,313
__ _ __ __
Cyfanswm incwm 3,036,950 249,697 3,286,647 3,424,929
__ _ __ __
Gwariant
Gweithgareddau elusennol 5 3,113,649 262,986 3,376,635 3,058,416
__ _ __ __
Cyfanswm gwariant 3,113,649 262,986 3,376,635 3,058,416
__ _ __ __
Cyfanswm adnoddau a ddefnyddiwyd cyn
enillion/colledion eraill a gydnabyddir (76,699)
(13,289)
(89,988) 366,513
Symudiad net
mewn cronfeydd am y flwyddyn (76,699)
(13,289)
(89,988) 366,513
Cronfeydd ar 1af Ebrill 2024 3,941,791 1,618,434 5,560,225 5,193,712
__ __ __ __
Cronfeydd ar 31ain Mawrth 2025 3,865,092 1,605,145 5,470,237 5,560,225
======= ======= ======= =======

Mae’r canlyniadau uchod yn deillio i gyd o weithgareddau sydd yn parhau.

26

Antur Waunfawr

Mantolenar 31ain Mawrth 2025
(Rhif Cofrestru’r Cwmni: 1832813)
2025 2024
Nodiadau £ £
Buddiannau Sefydlog
Buddiannau sefydlog dirweddol 12 4,568,741 4,623,776
Buddiannau cyfredol
Stoc 13 22,906 27,045
Dyledwyr 14 300,100 794,334
Arian mewn banc ac mewn llaw 638,365 260,701
__ __
961,371 1,082,080
Credydwyr: symiau yn ddyledus o fewn blwyddyn 15 (59,875) (145,631)
_ __
Asedau cyfredol net 901,496 936,449
__ __
Cyfanswm asedau llai rhwymedigaethau cyfredol 5,470,237 5,560,225
__ __
Asedau Net 5,470,237 5,560,225
======= ========
Cronfeydd
Cronfeydd Incwm
Cronfeydd anghyfyngedig 19 3,865,092 3,941,791
Cronfeydd cyfyngedig 19 1,605,145 1,618,434
__ __
5,470,237 5,560,225
======= =======

Mae’r datganiadau ariannol wedi’u paratoi yn unol â’r darpariaethau arbennig ar gyfer cwmnïau bach o dan Ran 15 o Ddeddf Cwmnïau 2006.

.......................................................

Miss Gwen Tomos (Cyfarwyddwr)

Dyddiad :

27

Antur Waunfawr

Datganiad ynghylch llif arian am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2025

Nodyn 2025 2024
£ £
Llif arian net o weithgareddau gweithredol 17 409,968 (22,112)
_ _
Llif arian o weithgareddau buddsoddi
Llog a dderbyniwyd 1,227 2,313
Derbyniadau o werthiant asedau sefydlog 150 15,610
Prynu asedau sefydlog 12 (20,194) (561,696)
_ _
Arian a ddefnyddiwyd i fuddsoddi (18,817) (543,773)
_ _
Llif arian o weithgareddau ariannu
Ad-daliad oblygiadau hur bwrcas (13,487) (13,623)
_ _
Arian a dderbynwyd o weithgareddau ariannu (13,487) (13,623)
_ _
(Lleihad)/Cynnydd mewn arian a chyfatebolion arian 377,664 (579,508)

Arian a chyfatebolion arian ar 1 Ebrill 2023
260,701 840,209
__ __
Arian a chyfatebolion arian ar 31 Mawrth 2024 638,365 260,701
======= =======

28

Antur Waunfawr

Datganiad o newidiadau mewn cyllid a ddefnyddiwyd i dderbyn asedau sefydlog at ddefnydd yr elusen am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2025

Gronfeydd Gronfeydd
Cronfeydd Cronfeydd 31 Mawrth 31 Mawrth
Anghyfyngedig Cyfyngedig 2025 2024
£ £ £ £
Symudiad net mewn cronfeydd (76,699)
(13,289)
(89,988) 366,513
Adnoddau a ddefnyddiwyd i dderbyn
Asedau sefydlog net (20,194)
-
(20,194) (561,696)
_ _ _ _
Symudiad net mewn cronfeydd ar gael at
weithgareddau y dyfodol (96,893)
(13,289)
(110,182) (195,183)
======= ======= ======= =======

29

Antur Waunfawr

Nodiadau i’r datganiadau ariannol am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2025

1. Polisïau cyfrifyddol

Mae’r prif bolisïau cyfrifo a fabwysiadwyd, penderfyniadau a phrif ffynonellau ansicrwydd â amcangyfrifir wrth baratoi y datganiadau ariannol fel a ganlyn:

a) Sail paratoi cyfrifon

Mae’r datganiadau ariannol wedi eu darparu yn unol a “Cyfrifo ac Adrodd gan Elusennau” Datganiad o Ymarferion Cymeradwyol sydd yn berthnasol i elusennau sydd yn paratoi eu cyfrifon yn unol a’r Datganiad o Weithredoedd Ariannol sydd yn berthynol yn y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon (FRS102) – (SORP Elusennau (FRS102)), yr Safon Adrodd Ariannol sydd yn berthynol yn y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon (FRS102) a Deddf Cwmniau 2006.

Mae Antur Waunfawr yn bodloni gofynion diffiniad uned budd cyhoeddus dan FRS102. Cydnabyddir asedau a rhwymedigaethau yn wreiddiol ar sail cost hanesyddol neu werth trafodion os na nodir yn wahanol yn y nodyn polisi cyfrifo perthnasol.

Mae’r ymddiriedolwyr yn cysidro nad oes ansicrwydd sylweddol am allu’r cwmni elusennol i barhau fel busnes byw.

b) Cyfrifo cronfeydd

Cronfeydd cyffredinol yw cronfeydd anghyfyngedig sydd yn barod i’w defnyddio gan yr ymddiriedolwyr i hyrwyddo amcanion cyffredinol yr elusen ac sydd heb eu penodi at unrhyw bwrpas arall.

Mae cronfeydd dynodedig yn cynnwys cronfeydd anghyfyngedig sydd wedi eu rhoi i’r neilltu gan yr ymddiriedolwyr at bwrpas arbennig. Mae nod a defnydd y cronfeydd dynodedig wedi eu disgrifio yn y nodiadau i’r cyfrifon.

Cronfeydd cyfyngedig yw cronfeydd sydd i’w defnyddio yn unol a chyfyngiadau penodol dan amodau’r rhoddwr neu sydd wedi eu codi gan yr elusen at bwrpas arbennig. Mae’r costau o godi a gweinyddu’r cronfeydd wedi eu nodi yn erbyn y cronfeydd penodedig. Mae nod pob cronfa gyfyngedig wedi eu nodi yn y nodiadau i’r cyfrifon.

c) Incwm

Dangosir incwm yn y Datganiad o Weithredoedd Ariannol pan fydd gan yr elusen hawl cyfreithlon i’r incwm, bydd canllawiau perfformio dan dermau yr ffynonellau incwm wedi eu cyfarfod, bydd yn debygol y derbynnir yr incwm a gellir mesur y swm yn rhesymol fanwl.

Cydnabyddir am grantiau llywordraeth a grantiau eraill, boed y grant yn grant refeniw neu gyfalaf, Ariannol pan fydd gan yr elusen hawl cyfreithlon i’r incwm, bydd canllawiau perfformio dan dermau yr ffynonellau incwm wedi eu cyfarfod, bydd yn debygol y derbynnir yr incwm a gellir mesur y swm yn rhesymol fanwl ac nac oes angen gohirio’r incwm.

ch) Gwariant a TAW anadferadwy

Cydnabyddir gwariant pan mae oblygiad cyfreithiol neu weithredol i wneud taliad i drydydd person, y mae’n debygol fydd taliad yn angenrheidiol a gellir mesur yr blygiad yn ddibynadwy.

Cyfrifir TAW na ellir ei hawlio fel cost yn erbyn y gweithgaredd a achosodd y gwariant.

d) Dosbarthiad costau cynorthwyol

Costau cynorthwyol yw gweithgareddau sydd yn cefnogi gwaith yr elusen ond sydd ddim yn ymwneud a gweithgareddau elusennol yn uniongyrchol. Mae costau cynorthwyol yn cynnwys yr adran weinyddol, cyllid, personél a llywodraethol sydd yn cefnogi y gwahanol brosiectau elusennol. Mae’r costau hyn wedi eu dosbarthu rhwng y gwahanol adrannau fel y dangosir yn nodyn 6.

30

Antur Waunfawr

Nodiadau i’r datganiadau ariannol am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2025

1 Polisïau cyfrifyddol (ymlaen)

dd) Asedau sefydlog

Mae asedau sefydlog yn cael eu dangos ar sail cost neu ar brisiad y farchnad. Dangosir y buddiannau sefydlog ar gost neu brisiad llai dibrisiant. Cyfrifwyd am ddibrisiant ar sail dileu cost y buddiannau dros gyfnod amcangyfrif o’u hoes fel a ganlyn:

Adeiladau 2% Siediau a thai gwydr 10% Offer 20 -331/3% Moduron 20%

Ni chyfrifir am ddibrisiant ar dir rhyddfreiniol. Nid yw buddiannau sefydlog sydd yn costio llai na £1,000 yn cael eu cyfalafu a byddent yn cael eu dileu ym mlwyddyn prynnu.

e) Stoc

Mae stoc yn cynrychioli asedau a brynwyd i ailwerthu. Prisiwyd y stoc ar y lleiaf o gost neu werth net sylweddoladwy. Nid yw eitemau stoc a dderbyniwyd fel rhoddion neu er mwyn dosbarthu yn cael eu cynnwys yn y datganiadau ariannol nes maent wedi eu gwerthu neu ddosbarthu.

f) Dyledwyr

Cydnabyddir dyledwyr ar y swm cytundebol ar ôl nodi unrhyw disgownt masnachol a gynnigwyd. Dangosir blaendaliadau ar werth y swm a dalwyd ymlaen llaw llai unrhyw ddisgownt masnachol a dderbyniwyd.

ff) Arian mewn banc ac mewn llaw

Mae arian mewn banc ac mewn llaw yn cynnwys arian buddsoddiadau tymor byr sydd yn aeddfedu o fewn tri mis o’u caffael neu o agor y cyfrif adnau.

g) Credydwyr a darpariaethau

Cydnabyddir credydwyr a darpariaethau pan fydd gan yr elusen oblygiad cyfredol yn deillio o ddigwyddiad yn y gorffennol gyda’r canlyniad tebygol o drosglwyddiad o eiddo i drydydd person a gellir mesur y swm angenrheidiol i setlo’r oblygiad yn ddibynadwy. Cydnabyddir credydwyr a darpariaethau ar y swm setlo llai unrhyw ddisgownt masnachol a dderbyniwyd.

nh) Offerynnau ariannol

Dim ond offerynnau ariannol sylfaenol sydd gan yr elusen. Cofnodir offerynnau ariannol sylfaenol i dechrau ar bris y contract os nad yw’r trefniant yn sefydlu gweithrediad ariannu, pan fyddent yn cael eu cofnodi ar werth presennol taliadau yn y dyfodol wedi eu gostyngu ar raddfa llog y farchnad am offeryn ariannol tebyg.

h) Costau pensiwn

Mae’r gost o baratoi pensiwn a manteision cyffelyb yn cael eu prisio i’r Datganiad o Weithredoedd ariannol fel mae’r rhwymedigaeth yn codi. Mae’r elusen yn talu cyfraniadau pensiwn ar sail cyfraniadau wedi eu diffinio.

2 Statws y cwmni

Mae’r cwmni yn gyfyngedig drwy warant. Wrth ddirwyn i ben neu ddiddymu’r cwmni ac wedi bodloni ei holl ddyledion a’i rwymedigaethau, os erys unrhyw eiddo o gwbl yn weddill, ni thelir ef i aelodau’r cwmni na’i ddosbarthu yn eu mysg, ond yn hytrach ei roi i sefydliad elusennol arall gydag amcanion cyffelyb i amcanion y cwmni.

31

Antur Waunfawr

Nodiadau i’r datganiadau ariannol am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2025

3. Rhoddion a grantiau gwirfoddol

Cronfeydd Cronfeydd Cyfanswm Cyfanswm
Anghyfyngedig Cyfyngedig 2025 2024
£ £ £ £
Rhoddion 2,849 7,000 9,849 6,486
Grant Cymorth Ieuenctid - 2,500 2,500 5,000
Grant AHF - - - 4,979
Grant CIST - - - 2,145
Grant SPF ‘Beics i Bawb’ 157,860 157,860 95,463
Grant NWRPB - - - 16,149
Grant Byw’n Iach - 7,867 7,867 -
Grant West DCP - 44,470 44,470 -
Cronfa Economi Gylchol - 5,000 5,000 -
_ _ _ _
2,849 224,697 227,546 130,222
_ _ _ _

4. Incwm o weithgareddau elusennol

Safle &
Cynllun Warws Caer- Beics Cyfanswm Cyfanswm
Cartrefu Werdd Gylchu Menai 2025 2024
£ £ £ £ £ £
Cytundebau Gwasanaeth 1,802,587 191,568 109,234 35,928 2,139,317 2,000,669
Cytundeb Ailgylchu - 76,672 257,468 - 334,140 334,140
Incwm Caergylchu - - 261,824 - 261,824 223,286
Incwm Warws Werdd - 141,256 - - 141,256 173,941
Incwm Safle a Chynllun Cartrefu 107,883 - - - 107,883 99,684
Incwm Beics Menai - - - 40,712 40,712 48,017
Incwm arall 7,593 - - - 7,593 8,130
_ _ _ _ __ __
1,918,063 409,496 628,526 76,640 3,032,725 2,887,867
_ _ _ _ __ __

32

Antur Waunfawr

Nodiadau i’r datganiadau ariannol am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2025

5. Dadansodiad o wariant ar weithgareddau elusennol

Safle &
Cynllun Warws Caer- Beics Cyfanswm Cyfanswm
Cartrefu Werdd Gylchu Menai 2025 2024
£ £ £ £ £ £
Costau staff 1,453,868 336,774 380,086 101,646 2,272,374 2,101,311
Nwyddau i’w gwerthu a thraul 320 22,864 7,640 16,828 47,652 54,996
Cafe/ Bwyd 11,444 - - - 11,444 5,251
Safle ac adnewyddu 101,206 77,413 12,342 24,162 215,123 131,920
Teithio a chostau buddiolwyr 66,070 36,437 73,966 2,305 178,778 156,274
Costau swyddfa 12,902 25,230 8,206 4,308 50,646 30,503
Hyfforddiant 7,295 809 4,146 52 12,302 22,574
Costau staff - 4,220 791 - 5,011 4,144
Costau marchnata 1,462 1,250 588 2,252 5,552 3,983
Costau proffesiynol 6,534 7,051 12,387 2,912 28,884 20,489
Dibrisiant 3,470 19,595 12,861 18,163 54,089 42,720
Elw ar werthu asedau - - - - - (2,610)
Llogau - - 685 - 685 1,319
Dyledwyr Drwg - - 243 - 243 -
Eraill - 826 - 809 1,635 2,159
Costau llywodraethol 14,073 2,955 4,420 1,329 22,777 23,408
Costau cynorthwyol 290,057 60,912 91,090 27,381 469,440 459,975
__ _ _ __ _ __
1,968,701 596,336 609,451 202,147 3,376,635 3,058,416
__ _ _ __ __ __

(2024-£2,895,373) yn anghyfyngedig a £262,986 (2024 - £163,043) yn gyfyngedig.

6. Dadansoddiad o gostau llywodraethol a chynorthwyol

I ddechrau, mae’r cwmni elusennol yn nodi ei gostau cynorthwyol. Yna nodir y costau sydd yn berthnasol i’r pwrpas llywodraethol. Wedi adnabod y costau llywodraethol, rhannir y costau cynorthwyol cyffredinol a’r costau llywodraethol rhwng y pedwar gweithgaredd elusennol a ymgymerwyd yn ystod y flwyddyn. Nodir sail dosbarthiad y costau rhwng y gweithgareddau elusennol yn y tabl isod.

Costau
Sail Cynorthwyol Cyfanswm Cyfanswm
Dosbarthu Cyffredinol Llywodraethol
2025

2024
£ £
£

£
Costau staff Amser staff 189,955 12,960
202,915

276,091
Safle ac adnewyddu Defnydd 76,177 -
76,177

57,325
Costau Glanhau Defnydd 34,318 -
34,318

36,882
Swyddfa Defnydd 34,665 -
34,665

35,356
Teithio Defnydd 3,965 -
3,965

1,757
Hyfforddiant Defnydd 447 -
447

3,275
Hysbysebu a marchnata Defnydd 3,614 -
3,614

2,451
Archwilio/Cyfrifydd Defnydd - 9,817
9,817

9,275
Proffesiynnol Trafodion 105,115 -
105,115

40,952
Dibrisiant Defnydd 21,140 -
21,140

19,633
Eraill Trafodion 44 -
44

386
_ _
_
__
469,440 22,777
492,217

483,383
_ __
_
__

33

Antur Waunfawr

Nodiadau i’r datganiadau ariannol am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2025

7. Incwm net am y flwyddyn

Nodir yr incwm net ar ôl codi:

Nodir yr incwm net ar ôl codi: 2025 2024
£ £
Dibrisiant 75,229 62,354
Ffioedd archwilio 6,917 6,435
Archwiliwr – ffioedd eraill 2,900 2,840
_ ______

8. Costau staff a chydnabyddiaeth yr ymddiriedolwyr

2025 2024
£ £
Cyflogau 2,150,298 2,071,796
Cyflogau gweithwyr 47,341 47,206
Yswiriant cenedlaethol 179,483 168,602
Costau pensiwn 96,634 89,798
__ __
2,473,756 2,377,402
__ __

Cyfanswm nifer cyflogedig ar sail blwyddyn cyflawn oedd 182 ( 2024 – 163 ). Nid oedd cydnabyddiaeth unrhyw aelod o staff dros £60,000 y flwyddyn.

Ni dderbyniwyd ffioedd na thal rheoli gan ymddiriedolwyr yr elusen yn ystod y flwyddyn (2024 – Dim). Ni wnaed taliadau i ymddiriedolwyr yr elusen am gostau a achoswyd (2024 – Dim). Ni wnaethpwyd taliad am wasanaethau proffesiynol nac am wasanaethau eraill i ymddiriedolwyr yr elusen yn ystod y flwyddyn (2024 – Dim) .

Mae personél rheoli allweddol yr elusen yn cynnwys yr ymddiriedolwyr a’r tim rheoli. Roedd cydnabyddiaeth personél rheoli allweddol yr elusen yn £208,311 (2024 - £226,292) .

2025 2024
Nifer Nifer
Prif weithredwr 1 1
Uwch reolwyr 3 3
Rheolwyr 13 13
Safle 36 23
Ail Gylchu 12 17
Warws Werdd 5 3
Cynllun Cartrefu 34 26
Beics Menai 3 3
Gweinyddol 4 4
Gweithwyr gyda anabledd 71 70
____ ____
182 163
=== ===

34

Antur Waunfawr

Nodiadau i’r datganiadau ariannol am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2025

9. Trafodion Partion Cysylltiedig

Ni fu trafodion gyda partïon cysylltiedig yn ystod y flwyddyn. Nid oedd symiau yn ddyledus i na dyledus gan bartïon cysylltiedig ar ddiwedd y flwyddyn (2024 - £Dim) .

10. Grantiau Llywodraeth

Mae incwm grantiau llywodraeth yn cynnwys cytundebau gwasanaeth gyda awdurdodai lleol i ffynonellau gwasanaethau buddiannol i fuddiolwyr yr elusen.

11. Treth gorfforaeth

Mae gan Antur Waunfawr eithriad o dreth ar incwm ac enillion dan Adran 505 o Ddeddf Treth 1988 ac adran 252 o’r Ddeddf Treth Enillion Cyfalaf 1992 i’r eithaf eu defnyddir at ei nodau elusennol.

12.

Buddiannau sefydlog

Buddiannau sefydlog
Tir ac
Adeiladau Offer Moduron Cyfanswm
£ £ £ £
Cost/Gwerth
Ar 1af Ebrill 2024 4,720,968 549,426 142,602 5,412,996
Ychwanegiadau - 2,039 18,155 20,194
Gwarediadau - - (18,153) (18,153)
__ __ __ __
Ar 31ain Mawrth 2025 4,720,968 551,465 142,604 5,415,037
__ __ __ __
Dibrisiant
Ar 1af Ebrill 2024 287,883 425,316 76,021 789,220
Cost am y flwyddyn 23,645 26,693 24,891 75,229
Rhyddhawyd ar warediadau - - (18,153) (18,153)
_ _ _ _
Ar 31ain Mawrth 2025 311,528 452,009 82,759 846,296
_ _ _ _
Gwerth Llyfr Net
Ar 31ain Mawrth 2025 4,409,440 99,456 59,845 4,568,741
======== ======= ===== =======
Ar 31ain Mawrth 2024 4,433,085 124,110 66,581 4,623,776
======== ======= ===== =======

Yn gynwysedig yn y £4,568,741 mae £20,000 sydd yn werth tir yn Waunfawr ac £38,599 o dir yng Nghaernarfon . Ail brisiwyd y tir ac adeiladau yn Waunfawr ac Warws Werdd yng Nghaernarfon gan Dafydd Hardy, syrfewyr siartredig yn mis Mawrth 2020. Rhoddwyd gwerth y tir ac adeiladau yn Waunfawr fel £2,165,000. Mae’r ymddiriedolwyr o’r farn bod y gwerth yma yn briodol ar 31 Mawrth 2025 o ystyried yr amodau economaidd presennol. Cost gwreiddiol yr asedau sefydlog yw £4,722,218 (2024-£4,722,218) a buasai dibrisiant o £268,046, (2024- £246,800) wedi ei godi arnynt.

13.

Stoc 2025 2024
£ £
Cynnwys stoc:
Stoc Warws Werdd 5,145 11,561
Stoc Beics Menai 4,800 5,200
Stoc siop 8,419 7,032
Stoc cafe 1,522 812
Stoc Caergylchu 3,020 2,440
______ ______
22,907 27,045
______ ______

35

Antur Waunfawr

Nodiadau i’r datganiadau ariannol am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2025

14. Dyledwyr 2025 2024
£ £
Grantiau, cytundebau a dyledwyr masnachol 203,842 713,369
Dyledwyr eraill 96,258 80,965
_ _
300,100 794,334
_ _
15. Credydwyr:symiau yn ddyledus o fewn blwyddyn
2025 2024
£ £
Credydwyr masnachol 19,004 125,020
Swm yn ddyledus dan gytundeb hur bwrcas - 13,480
Treth a nawdd cymdeithasol 131 131
Croniadau ac incwm gohiriedig 40,740 7,000
_ _
59,875 145,631
_ _

16. Offerynnau ariannol

Yr offerynnau ariannol a fesurir ar sail cost wedi ei amorteiddio yw’r benthyciad hur bwrcas.

2025 2024
£ £
Swm yn ddyledus o fewn blwyddyn - 13,480
Swm yn ddyledus dros blwyddyn ond o fewn pum mlynedd - -
_ ______
Cyfanswm - 13,480
_ _
17. Cymodi'r elw gweithredol â'r mewnlif arian net o weithgareddau gweithredol
2025 2024
£ £
Symudiad net mewn cronfeydd (89,988) 366,513
Llog a dderbyniwyd (1,227) (2,313)
Dibrisiant 75,227 62,354
Elw ar werthu asedau (150) (2,610)
(Cynnydd) Lleihad/ mewn stoc 4,148 4,245
(Cynnydd)/Lleihad mewn dyledwyr 494,234 (566,161)
Cynydd/(Lleihad) mewn credydwyr (72,276) 115,860
__ _
Llif arian net o
weithgareddau gweithredol 409,968 (22,112)
======= =======

36

Antur Waunfawr

Nodiadau i’r datganiadau ariannol am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2025

18. Ymroddiad cyfalaf

Ar ddiwedd y flwyddyn roedd gan Antur Waunfawr ymroddiad cyfalaf ynglŷn a datblygiad adeiladau o £DIM (2024 - £DIM ).

19. Cronfeydd cyfyngedig

31 Mawrth Trosglwydd Adnoddau Ail -
2024 -iadau
Cyllid
Brisio Cyfanswm
£ £ £ £ £
Warws Werdd 326,996 - (10,548) - 316,448
Sgubor Grefftau 8,034 - (261) - 7,773
Grant Cae Chwarae 18,900 - (1,080) - 17,820
Rhoddion - - 7,000 - 7,000
Grant Clothworkers Foundation 2,650 - (2,650) - -
Grantiau Porth Yr Aur 540,466 - (5,648) - 534,818
Grant Adferiad Gwyrdd 41,074 - (20,537) - 20,537
Grantiau Sied Werdd 652,449 - (3,992) - 648,457
Grant SPF ‘Beicio i Bawb’ 27,865 - (5,573) - 22,292
Grant Economi Gylchol - - 30,000 - 30,000
_ _ _ _ _
1,618,434 - (13,289) - 1,605,145
_ _ _ ______ _
31 Mawrth Trosglwydd Adnoddau Ail -
2023 -iadau
Cyllid
Brisio Cyfanswm
£ £ £ £ £
Warws Werdd 337,544 - (10,548) - 326,996
Sgubor Grefftau 8,295 - (261) - 8,034
Grant Cae Chwarae 19,980 - (1,080) - 18,900
Rhoddion 1,233 - (1,233) - -
Grant Clothworkers Foundation 2,650 - - - 2,650
Grantiau Porth yr Aur 546,114 - (5,648) - 540,466
Grant Adferiad Gwyrdd 61,611 - (20,537) - 41,074
Grantiau Sied Werdd 275,787 - 376,662 - 652,449
Grant SPF ‘Beicio i Bawb’ - - 27,865 - 27,865
_ _ _ _ _
1,254,214 - 365,220 - 1,618,434
__ _ _ ______ _

37

Antur Waunfawr

Nodiadau i’r datganiadau ariannol am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2025

Cronfeydd anghyfyngedig
Balans
31 Mawrth Trosglwy- Adnoddau Ail
2024 ddiadau Cyllid Brisio Cyfanswm
£ £ £ £
£
Tal Aelodaeth 182 - - -
182
Cronfa Gyffredinol 2,800,550 (40,100)
(76,699)
- 2,683,751
Cronfa Ailbrisio 521,620 (2,156)
-
-
519,464
__ ______ ______ ______
_
3,322,352 (42,256)
(76,699)
- 3,203,397
Cronfeydd Dynodedig
Cronfa Wrth Gefn 619,439 42,256 - -
661,695
__ _ _ _
_
3,941,791 - (76,999) - 3,865,092
__ _ _ _
_
Balans
31 Mawrth Trosglwy- Adnoddau Ail
2023 ddiadau Cyllid Brisio Cyfanswm
£ £ £ £
£
Tal Aelodaeth 182 - - -
182
Cronfa Gyffredinol 2,590,290 208,967 1,293 - 2,800,550
Cronfa Ailbrisio 523,776 (2,156)
-
-
521,620
__ ______ ______ ______
_
3,114,248 206,811 1,293 - 3,322,352
Cronfeydd Dynodedig
Cronfa Datblygu Eiddo 229,500 (229,500)
-
-
-
Cronfa Wrth Gefn 596,750 22,689 - -
619,439
__ _ _ _
_
3,940,498 - 1,293 - 3,941,791
__ _ _ _
_

20. Dadansoddiad o’r Cronfeydd rhwng yr asedau net ar 31ain Mawrth 2025

Cronfeydd Cronfeydd Cronfa
Cyfyngedig Dynodedig Gyffredinol Cyfanswm
£ £ £ £
Asedau Sefydlog 1,605,145 - 2,963,596 4,568,741
Asedau Cyfredol Net - 661,695 239,801 901,496
_ _ _ _
Cyfanswm asedau net 1,605,145 661,695 3,203,397 5,470,237
__ _ _ _

38

Antur Waunfawr

Nodiadau i’r datganiadau ariannol am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2025

Cronfeydd Anghyfyngedig

Prif weithgaredd y cwmni yw darparu gwaith a hyfforddiant i bobl ag anabledd dysgu, a thrwy hynny gwasanaethu’r gymuned.

Cronfeydd Dynodedig a chyfyngedig

Mae’r cwmni wedi penderfynu ymrwymo arian sydd ar gael wrth gefn er mwyn datblygu eiddo Sied Werdd.

Mae swm yn cynrychioli tri mis o gyflog wedi ei gadw wrth gefn i gyfarfod unrhyw heriau annisgwyl h.y £661,695 ar hyn o bryd. Mae hyn yn unol a chanllawiau ymarfer da y Comisiwn Elusennau ac yn cyfarfod ag amcanion Llywodraethu Da Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

39

21. Dadansoddiad o gronfeydd y flwyddyn flaenorol

Antur Waunfawr

Datganiad o weithredoedd ariannol (yn cynnwys Cyfrif Incwm a Gwariant) am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2025

Holl Holl
Gronfeydd Gronfeydd
Cronfeydd Cronfeydd 31 Mawrth 31 Mawrth
Nodiadau Anghyfyngedig Cyfyngedig 2024 2023
£ £ £ £
Incwm
Rhoddion
Rhoddion a grantiau 3 6,486 123,736 130,222 65,916
Grant Cyfalaf – Sied Werdd - 376,662 376,662 275,787
Grant Cyfalaf – Beics i Bawb - 27,865 27,865 -
Incwm o weithgareddau elusennol:
Incwm Safle a Chynllun Cartrefu 4 1,791,034 - 1,791,034 1,681,199
Incwm Warws Werdd 4 414,172 - 414,172 413,166
Incwm Caer Gylchu 4 589,733 - 589,733 585,122
Incwm Beics Menai 4 92,928 - 92,928 97,963
Llog 2,313 - 2,313 124
__ _ __ __
Cyfanswm incwm 2,896,666 528,263 3,424,929 3,119,277
__ _ __ __
Gwariant
Gweithgareddau elusennol 5 2,895,373 163,043 3,058,416 2,888,538
__ _ __ __
Cyfanswm gwariant 2,895,373 163,043 3,058,416 2,888,538
__ _ __ __
Cyfanswm adnoddau a ddefnyddiwyd cyn
enillion/colledion eraill a gydnabyddir 1,293 365,220 366,513 230,739
Symudiad net
mewn cronfeydd am y flwyddyn 1,293 365,220 366,513 230,739
Cronfeydd ar 1af Ebrill 2023 3,940,498 1,253,214 5,193,712 4,962,973
__ __ __ __
Cronfeydd ar 31ain Mawrth 2024 3,941,791 1,618,434 5,560,225 5,193,712
======= ======= ======= =======

40