OpenCharities

This text was generated using OCR and may contain errors. Check the original PDF to see the document submitted to the regulator.

2024-03-31-accounts

ANTUR WAUNFAWR (Cwmni yn gyfyngedig trwy warant)

ADRODDIAD a DATGANIADAU ARIANNOL BLWYDDYN HYD AT: 31 MAWRTH 2024

Rhif Elusen: 515445 Rhif Cwmni: 01832813

ANTUR WAUNFAWR

GWYBODAETH GYFREITHIOL A GWEINYDDOL:

Rhif Cofrestru’r Elusen: 515445 Rhif Cofrestru’r Cwmni: 1832813 Ymddiriedolwyr Aelodau’r Bwrdd: Miss. Gwen Tomos Cadeirydd Mr. Huw Ynyr Is-gadeirydd Mr Rhys Evans Mr. Daron Harris Mrs. Sara Mair Tomos Mrs. Anna Ll. Williams Mrs. Lowri Huws Jones Dr. Catrin Ellis Williams Mr. Terry Parry Miss. Mared Ynyr Ms. Carol Davies Owen Mr Dafydd Davies Penodwyd 24.07.23 Mr Tudur Owen Penodwyd 20.11.23 Mrs. Ellen Thirsk Ysgrifenyddes Y Tîm Rheoli: Ellen Thirsk Prif Weithredwraig Stephen Goodwin Uwch Reolwr Gwasanaethau Dydd a Phreswyl Haydn Jones Uwch Reolwr Tri Busnes Gwyrdd Sioned Hughes Rheolwraig Cyllid Gwenlli Mai Wynne Rheolwraig Datblygu Busnes Elain Hughes Rheolwraig Datblygu Busnes Glesni Lewis Rheolwraig Adnoddau Dynol Margaret Jones Rheolwraig Cydymffurfio ac Ansawdd

Swyddfa Gofrestredig a Gweinyddol: Bryn Pistyll Waunfawr Caernarfon Gwynedd LL55 4BJ

Cyfreithwyr: Iestyn T. Harris, Carter Vincent LLP, The Port House, Porth Penrhyn, Bangor, Gwynedd, LL57 4HN

Bancwyr: Banc Barclays, Grŵp Canghennau Gwynedd, Bangor, Gwynedd

Archwilwyr: W.J. Matthews a’i Fab, 11-15 Y Bont Bridd, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1AB

1

ADRODDIAD BWRDD YMDDIRIEDOLWYR ANTUR WAUNFAWR AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2024

RHAGAIR

Cofnod o waith Antur Waunfawr yn ystod y cyfnod rhwng Ebrill 2023 a Mawrth 2024 yw’r adroddiad hwn. Mae sylw yma i waith a phrosiectau’r Antur a nodir y llwyddiannau a’r holl a gyflawnwyd drwy gydol y flwyddyn.

Mae’r ymddiriedolwyr, sydd hefyd yn gyfarwyddwyr yr elusen at bwrpas Deddf Cwmnïau, yn cyflwyno'r adroddiad blynyddol a’r datganiadau ariannol archwiliedig am y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2024, sydd hefyd wedi eu paratoi er mwyn cwrdd â’r angen am adroddiad cyfarwyddwyr a chyfrifon at bwrpas Deddf Cwmnïau. Mae’r datganiadau ariannol yn cydymffurfio â Deddf Elusennau 2011, Deddf Cwmnïau 2006, Erthyglau a Memorandwm y cwmni, a Chyfrifo ac Adrodd gan Elusennau, Datganiad o Weithredoedd Ariannol sydd yn berthnasol yn y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon (FRS 102).

Cwmni Cyfyngedig drwy Warant yw Antur Waunfawr a wnaed yn Gwmni Corfforedig ar 13eg Gorffennaf 1984 ac a gofrestrwyd yn Elusen ar 6ed Awst 1984. Sefydlwyd y Cwmni o dan Femorandwm y Cwmni sy’n sefydlu amcanion ac awdurdod y cwmni elusennol hwn ac yn cael ei reoli gan Erthyglau’r Cwmni.

GWELEDIGAETH ANTUR WAUNFAWR

Gweledigaeth Antur Waunfawr yw galluogi pobl ag anableddau dysgu i integreiddio i’r gymuned leol a chyflawni gwaith go iawn gyda phwrpas: Rydym yn Fenter Gymdeithasol flaenllaw sydd yn cynnig cyfleoedd iechyd a llesiant, hyfforddiant a gwaith amrywiol iawn yn ei natur i unigolion ag anableddau dysgu. Yn treiddio trwy hyn oll mae’r thema cynaladwyedd sy’n greiddiol i’n gwaith. Yn ogystal â chynnig cyfleoedd gwaith i’n hunigolion, mae gan yr Antur nifer o fusnesau llewyrchus, a chaiff yr holl elw ei ail fuddsoddi yn y gwasanaeth i unigolion efo anableddau dysgu ac ein cymuned leol.

Mae ein nod o integreiddio pobl ag anableddau dysgu i’r gymuned ym mhob agwedd bosib - boed yn waith neu weithgareddau cymdeithasol, yn rhinwedd sydd yr un mor bwysig heddiw ag yr oedd pan sefydlwyd yr Antur.

NOD AC AMCANION

Mae’r Bwrdd yn trafod pwrpas yr elusen yn rheolaidd ac yn ei gadw mewn cof wrth gynllunio a datblygu ei strategaeth ar gyfer y Cwmni.

Rydym yn cyflawni ein nodau ac amcanion drwy:

2

SUT MAE EIN GWEITHGAREDDAU YN CREU BUDD CYHOEDDUS

Drwy weithredu’r amcanion uchod, rydym yn ateb anghenion ein hunigolion gydag anableddau dysgu a’r gymdeithas ehangach.

Mae gweithgareddau Antur Waunfawr yn creu budd cyhoeddus drwy hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol, cynaliadwyedd amgylcheddol, a datblygiad economaidd o fewn y gymuned. Trwy ddarparu cyfleoedd gwaith a hyfforddiant ystyrlon i unigolion ag anableddau dysgu, mae Antur Waunfawr yn hybu annibyniaeth ac yn gwella ansawdd bywyd ar gyfer unigolion a byddai ddim yn cael y cyfleoedd yma fel arall. Yn ogystal, mae ffocws y sefydliad ar ailgylchu, ailddefnyddio, ac arferion cynaliadwy, megis ein gwaith yn Warws Werdd, Caergylchu a Beics Antur sy'n helpu i leihau gwastraff ac effaith amgylcheddol, gan rhoi budd cymunedol ehangach. Trwy'r ymdrechion hyn, mae Antur Waunfawr yn cefnogi economi leol ac amgylchedd sy'n fwy cynhwysol a chynaliadwy.

CYFLAWNIAD A PHERFFORMIAD

Mae Antur Waunfawr wedi ymrwymo i gyfarch ysbryd ac amcanion Deddfau Llywodraeth Cymru, yn bennaf;

Sy’n canolbwyntio ar gynaladwyedd, a llesiant unigolion sy’n derbyn gwasanaethau gan Antur Waunfawr. Mae’n bwysig ein bod yn cydymffurfio â gofynion y Deddfau, ac yn sicrhau fod y cynnwys yn treiddio trwy weithgareddau, prosiectau a gofalaeth Antur Waunfawr. Byddwn yn gweithredu’n unol ag amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol er mwyn parhau i weithredu a chynllunio’n gynaliadwy ar gyfer y dyfodol, ac yn unol â nod ‘Miliwn o Siaradwyr Cymraeg’ Llywodraeth Cymru, yn rhagweithiol o ran defnyddio a hybu’r Gymraeg. Mae’r Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn berthnasol i brosiect Beics Antur.

Wrth lunio ein hamcanion ar gyfer y flwyddyn a chynllunio ein gweithgareddau, mae’r ymddiriedolwyr wedi ystyried canllawiau’r Comisiwn Elusennau ar fudd cyhoeddus, gan gynnwys y canllaw ‘Budd cyhoeddus: rhedeg elusen (PB2)’.

Mabwysiadodd yr Antur Ddatganiad Llesiant yn 2016, ac mae’r datganiad yma yn sail i’n darpariaethau llesiant wrth ddatblygu ein gweithgareddau a phrosiectau iechyd a lles i’r dyfodol.

Datganiad Llesiant Antur Waunfawr:

“Hyrwyddo llesiant, iechyd da a hapusrwydd, a galluogi unigolion fydd conglfeini gwasanaethau Antur Waunfawr i’r dyfodol.

Darperir gofal, cefnogaeth weithgar, hyfforddiant a gwaith ystyrlon mewn modd effeithlon a chymesur i ateb gofynion pobl ag anableddau dysgu a phobl ddifreintiedig yn lleol.

Fel menter gymdeithasol bydd Antur Waunfawr yn cyfarch anghenion cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol y gymuned leol– a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg neu ddewis iaith yr unigolyn, ac mewn partneriaeth.

Ein nod yw creu cymdeithas arloesol, gyfartal, gynhyrchiol a charbon isel trwy feithrin teulu o fusnesau cynaliadwy yn lleol - cychwyn wrth ein traed a gweithredu’n uchelgeisiol i sicrhau llesiant a chymunedau gwydn.”

Mae gan Antur Waunfawr sawl adran lwyddiannus sy’n cynnig cyfleoedd gwaith, hyfforddiant, cyfleoedd llesiant a gwasanaethau amrywiol i unigolion ag anableddau dysgu, a phobl ddifreintiedig.

3

YMDDIRIEDOLWYR

Aelodau’r Bwrdd: Miss. Gwen Tomos Cadeirydd Mr. Huw Ynyr Is-gadeirydd Mr. Rhys Evans Mr. Daron Harris Mrs. Sara Mair Tomos Mrs. Anna Ll. Williams Mrs. Lowri Huws Jones Dr. Catrin Ellis Williams Mr. Terry Parry Miss. Mared Ynyr Ms. Carol Davies Owen Mr. Tudur Owen Penodwyd 20/11/2023 Mr. Dafydd Glyn Davies Penodwyd 24/07/2023 Mrs. Ellen Thirsk Ysgrifenydd

Recriwtio a Phenodi’r Bwrdd Rheoli

Mae Cyfarwyddwyr y Cwmni yn ymddiriedolwyr elusennol yn ôl gofynion y gyfraith elusennol. Fe’u hadwaenir yn ôl Memorandwm ac Erthyglau’r Cwmni fel ‘Cyfarwyddwyr’ neu fel ‘Aelodau’r Bwrdd’. Hefyd, mae’r Erthyglau’n gosod amod mai am flwyddyn ar y tro y byddant yn gwasanaethu a bod rhaid ethol neu ail-ethol dim mwy na 15 Cyfarwyddwr yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

Rydym yn ffodus fod gennym amrediad da o arbenigedd a phrofiad ar y Bwrdd, sy’n cynnig cefnogaeth a chyngor i’r tîm rheoli yn y meysydd sy’n berthnasol i waith y cwmni e.e. cyllid a busnes, cyfreithiol, moeseg, yswiriant, iechyd, gofal cwsmer, ailgylchu, addysg a hyfforddiant, gwasanaethau digidol arbenigol, iaith a lleferydd.

Ymddiriedolwyr Newydd

Tudur Owen

Mae gan Tudur dros 30 mlynedd o brofiad yn y byd darlledu ac adloniant drwy ei waith fel perfformiwr, awdur a chyfarwyddwr. Yn ogystal a hyn mae ganddo brofiad helaeth o sefydlu a rhedeg busnesau lletygarwch llwyddiannus yn yr ardal.

“Mae o’n fraint cael bod yn rhan bach o Antur Waunfawr a dwi’n gobeithio y byddaf yn gallu defnyddio fy mhrofiadau ym myd y cyfryngau a chyfathrebu yn ogystal a’r diwydiant lletygarwch a manwerthu i helpu’r sefydliad pwysig yma barhau i wneud gwahaniaeth i fywydau gymaint yn ein cymuned”

Dafydd Glyn Davies

Mae Dafydd yn uwch reolwr profiadol, wedi arfer â chyflawni prosiectau a rhaglenni o’r dechrau i’r diwedd, gan arwain a datblygu busnesau ar sail ryngwladol, gan weithio’n agos gyda chleientiaid a rhanddeiliaid allweddol. Dychwelodd Dafydd i Gymru i sefydlu ac arwain BIC ym Mangor, sef y busnes gwasanaethau arloesi mwyaf blaenllaw yng Nghymru; bu Dafydd yn ymwneud yn helaeth ag arwain prosiectau a rhaglenni ar gyfer cleientiaid BIC. Sefydlodd BrynTeg Consulting ar ôl gadael.

“Rwy'n falch o gael y cyfle i gyfrannu at ddatblygiad Antur Waunfawr fel aelod o'r Bwrdd unwaith eto, o safbwynt cymydog agos i'r Antur yn Waunfawr a chefnogwr brwd o'r gwaith pwysig mae'n gwneud yn lleol a thu hwnt. Ar ôl gyrfa busnes hir mae'n braf cael y cyfle a'r amser i gyfrannu'n lleol fel cynghorydd cymuned a helpu llywio'r fenter ynni cymunedol newydd Gwyrfai Gwyrdd”.

Anwythiad a Hyfforddiant Ymddiriedolwyr

Caiff pob aelod o’r Bwrdd ffeil gyda manylion y strwythur rheolaethol a’r polisïau ynddi. Mae’r Brif Weithredwr yn treulio amser gyda chyfarwyddwyr newydd, yn eu hanwytho drwy drefnu ymweliadau â'r safleoedd ac ateb eu cwestiynau.

4

STRWYTHUR Y TÎM RHEOLI

Rheolwyr Gweithredol

Cynhelir cyfarfodydd Uwch Dîm Rheoli a Thîm Rheoli yn rheolaidd. Bydd cynrychiolydd pob adran hefyd yn cynnal cyfarfodydd gyda’u timau yn ogystal â Gweithgor Iechyd a Diogelwch, Gweithgor Meddiannau a’r Gweithgor TGCh. Mae Is-bwyllgorau Bwrdd wedi’u sefydlu er mwyn gweithredu ar benderfyniadau neu adolygiadau – gan gynnwys Isbwyllgor Personél, yr Is-bwyllgor Polisïau, Is-bwyllgor Cyllid, a’r Is-bwyllgor Datblygu. Yn ystod y flwyddyn mae'r rhain i gyd yn bwydo adroddiadau i’r Tîm Rheolaethol, yn ogystal â’r Bwrdd.

Ellen Thirsk, Prif Weithredwr

Mae gan y Brif Weithredwr, Ysgrifennydd y Cwmni ac Unigolyn Cyfrifol brofiad a chymhwyster yn y meysydd adnoddau dynol, datblygu gwasanaethau, busnes a chyllid, iechyd a diogelwch, iechyd a llesiant ac yn ymrwymedig i bolisïau a safonau megis ISO, ac mae ganddi’r awdurdod mewn ymgynghoriad â'r Bwrdd i weithredu ar yr holl faterion yma. Mae Ellen yn Gyfarwyddwr i Galeri, Menter Gymdeithasol a Chreadigol yng Nghaernarfon ac yn Gadeirydd i gorff Llywodraethwyr Ysgol Pendalar. Mae hi wedi gwirfoddoli i’r Samariaid am gyfnod o 15 mlynedd yn y gorffennol ac wedi cael trawstoriad o brofiadau rheoli mewn Iechyd, Tai a Gofal Cymdeithasol dros gyfnod o 33 mlynedd. Mae Ellen yn aelod siartredig o’r corff CIPD ac wedi cymhwyso ar lefel uwch mewn Cyfraith Cyflogaeth ac Iechyd a Diogelwch (NEBOSH).

Stephen Goodwin, Uwch Reolwr Gwasanaethau Dydd a Phreswyl

Mae Stephen yn aelod o Grŵp Trawsffurfio Gwasanaeth, Cyngor Gwynedd. Mae ganddo dros 28 mlynedd o brofiad yn y maes gofal a chanddo brofiad helaeth o ddatblygu Gwasanaethau Gofal a chyfleoedd Iechyd a Llesiant ar gyfer unigolion. Mae wedi cymhwyso fel Rheolwr Cofrestredig lefel 4 ac eisoes wedi bod yn berson cyfrifol ar y Gwasanaeth Gofal cyn newidiadau yn Rheoliadau Arolygiaeth Gofal Cymru. Mae Stephen hefyd wedi cwblhau cyrsiau mewn arweinyddiaeth a rheoli staff.

Haydn Jones, Uwch Reolwr Busnesau Gwyrdd

Mae Haydn Jones yn bresennol ar secondiad am gyfnod o flwyddyn. Mae ganddo brofiad helaeth o annog unigolion yng Nghymru a dramor tra roedd yn gweithio yn yr America drwy ei waith ‘coaching’ gyda thrawstoriad o unigolion (abl ac anabl). Mae ganddo brofiad eang o reoli ac mae’n gyfrifol am reoli a rhedeg gwasanaethau ailddefnyddio ac ailgylchu o fewn yr Antur. Mae wedi cymhwyso i lefel graddedig (MA) mewn Addysg ac mae wedi mynychu trawstoriad o gyrsiau rheoli, ac wedi cwblhau NVQ Lefel 3 mewn Ailgylchu.

Sioned Hughes Rheolwr Cyllid Gwenlli Wynne Rheolwr Datblygu Busnes Elain Hughes Rheolwr Datblygu Busnes Glesni Lewis Rheolwr Adnoddau Dynol Margaret Jones Rheolwr Cydymffurfio ac Ansawdd Ceri Hughes Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu Eleri Jones Rheolwr Gweinyddol Sian Williams Rheolwr Iechyd a Llesiant a Rheolwr Cofrestredig (Gwasanaethau Aml Ofynion a Tai a Chefnogaeth) Gwenllian Evans Rheolwr Iechyd a Llesiant (Gwasanaethau Tai a Chefnogaeth) Ifan Tudur Rheolwr Iechyd a Llesiant (Gwasanaethau Tai a Chefnogaeth) Dewi Jones Rheolwr Iechyd a Llesiant (Gwasanaethau Dydd Safle Waunfawr) Allison Evans Rheolwr Iechyd a Llesiant (Cyfnod mamolaeth) Cara Evans Rheolwr Iechyd a Llesiant (Gwasanaethau Dydd Tri Busnes Gwyrdd) Sion Thomas Rheolwr Gwasanaethau Ailgylchu Malcolm Allen Rheolwr Warws Werdd a Llinell Blastigion Tom Workman Rheolwr Beics Antur

GOFAL A CHEFNOGAETH

Unigolion Antur Waunfawr

Daw'r mwyafrif o unigolion sydd yn derbyn gwasanaeth o Ogledd Gwynedd ond cyfeirir rhai atom gan gynghorau eraill cyfagos. Mae ein gallu i gynnig cytundebau gwasanaeth neu gartrefi i bobl yn dibynnu ar allu’r asiantaethau statudol i gynnig cytundebau gwasanaeth gofal a llesiant ar eu cyfer. Byddwn yn cyd-weithio gyda’r asiantaethau hyn ar bob achlysur, ac yn ymdrechu yn rhagweithiol i sicrhau cyfleoedd addas i bob person sy’n cael ei gyfeirio atom, ac i sicrhau adnoddau teg i roi’r gwasanaeth gorau posib i’n unigolion. Mae mwy o deuluoedd yn hunan gyfeirio erbyn hyn ac mae Antur Waunfawr yn eu cynghori i ymgysylltu a chyd-drafod gwasanaeth posib efo’r gwasanaethau cymdeithasol perthnasol.

5

Erbyn heddiw mae’r Antur yn cynnig cefnogaeth i dros 70 o unigolion ag anableddau dysgu dros ein 4 safle gwaith a thai.

Cynllun Cartrefu

Yn ein hadroddiad blynyddol, rydym yn falch o dynnu sylw at brosiect Cynllun Cartrefu'r Antur, sy’n amlygu ein hymrwymiad i sicrhau bod gan unigolion ag anableddau dysgu’r hawl i fyw bywydau boddhaus a chymryd rhan ym mhob gweithgaredd fel pawb arall. Gan gydnabod bod pob person yn wahanol, rydym yn darparu cymorth personcanolog sy'n sicrhau fod y cymorth wedi ei deilwra ar gyfer yr unigolion yn unol â’u hanghenion. Mae Cynllun Cartrefi'r Antur yn cefnogi 13 o unigolion ar draws 10 cartref, gan roi'r cyfle iddynt reoli eu cartrefi eu hunain gyda chefnogaeth gan ein gweithwyr cefnogol. Mae hyn yn cynnwys datblygu sgiliau byw'n annibynnol, derbyn cefnogaeth gynhwysfawr gyda materion ariannol, cymorth gyda siopa a chynnal diet iach, a chymorth gydag apwyntiadau meddygol. Yn ogystal, rydym yn cynnig cefnogaeth o fewn y gymuned, megis mynychu digwyddiadau a sioeau. Drwy gydol y flwyddyn, mwynhaodd sawl unigolyn wyliau a thripiau i Harrogate, York a Langollen gan atgyfnerthu rôl y cynllun o ran gwella annibyniaeth ac integreiddio unigolion i’w cymuned.

Isod mae esiampl o sut mae darparu cefnogaeth person-canolog yn y cynllun yn cael effaith cadarnhaol ar fywydau ein hunigolion.

Ymweliad cyntaf i’r deintydd:

Cai wedi derbyn taflen wybodaeth y noson gynt ac wedi cael cyfle i fynd drwyddo efo staff. Yn y bore, staff wedi mynd drwy’r daflen wybodaeth unwaith eto gyda Cai. O ganlyniad, mae’r Gweithiwr Cefnogol wedi medru mynd â fo i’r deintydd, mae Cai wedi eistedd yn y gadair a’r deintydd wedi gallu edrych ar ei ddannedd a phopeth yn iawn. Heb y gefnogaeth yma gan staff mi fysa Cai wedi dangos ymddygiad o bryder, ac o ganlyniad heb fynychu ei apwyntiad deintydd.

“It just goes to show that … the crux to working with Cai – if he knows in a timely way what will be happening, he can cope with it positively. I’m so pleased he finally has a staff team who all understand that”.

Sally Gadsby, Therapydd Lleferydd a Iaith

Aml Ofynion

Mae'r gwasanaeth aml-ofynion yn Antur Waunfawr yn cynnig cefnogaeth un-i-un a chyfleoedd iechyd a llesiant i unigolion gydag anableddau mwy dwys yn y gymuned. Mae'r gwasanaeth, sydd ar gael 6 diwrnod yr wythnos, yn cynnwys sesiynau lles ar ein safle yn Waunfawr, megis cerddoriaeth, carioci, ac arlunio, yn ogystal â gweithgareddau yn y gymuned, sef nofio, dringo, beicio gyda sesiynau Tonic yn Galeri Caernarfon yn un o'r ffefrynnau. Ar benwythnosau, rydym yn cynnig gwasanaeth hamddenol gyda thripiau lleol amrywiol, sy’n darparu ysbaid gwerthfawr i rieni.

Mae’r ystafell synhwyraidd ym Mhorth yr Aur yn cynnig boddhad mawr i sawl unigolyn, ac rydym wedi galluogi aelodau o’n staff i arbenigo mewn cyfathrebu drwy gydweithio â therapyddion iaith, gan wella’n darpariaeth cyfathrebu. Yn ogystal, rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda'r tîm ymddygiad cadarnhaol Cyngor Gwynedd i ddatblygu a hyfforddi ein staff, gan wella’r ffordd mae’r unigolion yn cael eu cefnogi.

Mae'r gofal ar gweithgareddau llesiant mae'r adran Aml-Ofynion yn ei ddarparu yn cael effaith cadarnhaol ar yr unigolion rydym yn eu cefnogi. Gydag adborth positif gan deuluoedd a gofalwyr, dywedodd un:

Byngalo llety a chefnogaeth

Yn dilyn buddsoddiad o gronfeydd Antur Waunfawr a grant Cyfenter, datblygwyd byngalo hygyrch sy’n addas i unigolion gydag anableddau. Symudodd unigolyn i mewn i’r byngalo ym mis Gorffennaf 2023, ac mae bellach wedi ymgartrefu yno ac yn mwynhau yn ei gartref newydd ger safle’r Antur. Yn y dyfodol agos gobeithiwn gynnig llety a chefnogaeth i unigolyn arall yn y byngalo.

6

EIN PROSIECTAU

SAFLE BRYN PISTYLL

Ym Mryn Pistyll, mae Antur Waunfawr yn darparu amgylchedd bywiog a chefnogol lle mae iechyd a lles unigolion yn cael blaenoriaeth. Mae'r safle yn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau sydd wedi’u cynllunio i wella bywydau'r rhai sy'n cymryd rhan, gan gynnwys sesiynau garddio, cynhyrchu seidr, dawnsio, ioga, pilates, a chrefftau. Mae unigolion hefyd yn cymryd rhan wrth baratoi a gweini cinio yng Nghaffi Blas y Waun, gan feithrin ymdeimlad o gymuned a chyflawniad.

Eleni, mae Antur Waunfawr wedi adeiladu ar ei gydweithrediad gyda Llwybrau Llesiant, gan drefnu gweithgareddau ar y cyd gyda phobl y tu allan i'r Antur, megis mynd i'r sinema a sesiynau bingo. Mae cyfleoedd wythnosol hefyd ar gael i feicio a nofio yng nghanolfan hamdden Byw'n Iach, yn ogystal â sesiynau misol gyda Dreigiau'r Dyffryn lle gall cyfranogwyr ddefnyddio'r trampolîn i gadw'n heini. Mae sesiynau carioci ar y safle wedi dod yn ffordd boblogaidd o ddod â phawb ynghyd, gan greu awyrgylch bywiog a chynhwysol.

Yn ogystal, mae Antur Waunfawr wedi cydweithio ag Ysgol Pendalar i gynnig sesiynau cerddoriaeth wythnosol gyda chefnogaeth Makaton dan arweiniad Mr. T, sy'n rhedeg y cwmni Cerdd Amdani. Daeth y sesiynau hyn yn uchafbwynt yr wythnos i'r unigolion oedd yn cymryd rhan. Bu'r gweithdai'n rhedeg o fis Medi tan ganol mis Rhagfyr, gan arwain at ryddhau eu sengl Nadolig eu hunain. Cafodd y sengl sylw mawr, gyda Heno ar S4C yn rhoi sylw i’w rhyddhau ac eitem ar Radio Cymru. Cafodd y sengl ei henwi’n “Trac yr Wythnos” ar Radio Cymru, gan greu ymdeimlad o falchder a chyflawniad i bawb a fu'n rhan ohoni. Arianwyd y sesiynau yma drwy Grant Cymorth Ieuenctid, Cyngor Gwynedd.

Caffi Blas y Waun

Y flwyddyn hon, er bod Caffi Blas y Waun wedi bod ar gau i'r cyhoedd, mae unigolion yn Antur Waunfawr wedi parhau i ddatblygu eu sgiliau drwy baratoi a gweini prydau wythnosol ar y safle. Maent yn creu a gweini pryd dwy gwrs, gan gynnal eu harfer coginio a'u hymgysylltiad ac eraill. Maent hefyd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau lles, gan gynnwys sesiwn gerddoriaeth gydag Ann a Bill bob bore Llun sy'n gosod ton bositif ar gyfer yr wythnos sydd i ddod.

Yn ogystal â'r gweithgareddau hyn, maent yn cynhyrchu Bara Brith, jamiau, a siytni i’w gwerthu mewn ffeiriau lleol, ochr yn ochr â’r seidr. Yn ystod y Nadolig, crëuwyd hamper anrhegion llawn cynnyrch wedi'u wneud a llaw gan unigolion yr Antur, sy'n boblogaeth iawn a'r gymuned leol. Eleni, cynhyrchwyd 35 o’r hamperi hyn.

Parc natur a gerddi

Ar safle Bryn Pistyll mae 7 erw o erddi a pharc natur, yn ogystal â maes chwarae cynhwysol. Yn ystod y cyfnod, fe arwyddwyd ein cytundebau rhandiroedd i gyd, ac un syniad cyffrous i'r dyfodol yw datblygu’r ochr yma o’r busnes, gan gynnig mwy o randiroedd, yn cynnwys pobl hefo anableddau a darparu sesiynau dysgu sgiliau ayb.

Bragdy Antur Waunfawr

Mae'r bragdy wedi cael blwyddyn brysur ofnadwy, gyda’r tîm yn Waunfawr yn cynhyrchu amrywiaeth o seidr allan o ffrwythau a thyfir ar y safle neu wedi cael eu rhoi fel rhodd gan aelodau o’r gymuned leol. Galluogodd y casgliad hwn o ffrwythau i ni gynhyrchu 700 o boteli Seidr ffrwyth a 500 potel Seidr plaen, sef 1200 o boteli yn y cyfnod yna.

Mae ein hystod yn cynnwys pedwar blas: canolig sych, rhiwbob, cyrens duon, a mefus. Lansiwyd y seidr mefus ym mis Medi 2023 ac roedd yn llwyddiant mawr, hyd yn oed yn cael sylw ar Heno S4C.

Ym mis Tachwedd, cyflwynwyd gwirod cyrens duon newydd, a ddaeth yn ffefryn mawr ymhlith cwsmeriaid dros gyfnod y Nadolig. Diolch i’n gwefan: https://perllan.shop/ a’n mynychiad i nifer o ffeiriau Nadolig, cawsom dymor gwerthu prysur iawn wrth i’r Nadolig agosáu. Mae’r unigolion rydym yn eu cefnogi yn rhan annatod o bob agwedd ar y prosiect hwn, o dyfu a chasglu’r ffrwythau i gynhyrchu, potelu, a labelu’r seidr, yn ogystal â thrin danfoniadau—gan roi cyfleoedd gwerthfawr iddynt ddatblygu eu sgiliau. Yn ogystal â gwerthu mewn ffeiriau lleol, megis Gŵyl Fwyd Caernarfon a Hwyl dros yr Aber, a oedd yn llwyddiannus iawn. Mae ein seidr yn cael ei stocio gan nifer o fusnesau lleol, gan gynnwys y Black Boy Inn a Glaslyn Beddgelert, ac mae hefyd yn boblogaidd gyda pherchnogion gwestai lleol sy’n ei gynnwys mewn basgedi croeso i’w gwesteion.

Yn 2023, ffurfiwyd partneriaeth newydd gyda Bragdy Lleu i helpu lleihau nifer y poteli cwrw a seidr sy'n mynd yn wastraff. Fel rhan o'r cydweithrediad hwn, mae Bragdy Lleu yn casglu pob un o'u poteli a ddefnyddiwyd o ffeiriau a'r dafarn y maent yn ei gweithredu o'u bragdy ac yn eu rhoi i'r Antur. Rydym ni wedyn yn glanhau ac yn sterileiddio'r

7

poteli hyn, gan eu gwneud yn barod i'w hailddefnyddio ar gyfer cynhyrchu ein seidr. Nid yn unig mae'r fenter hon yn lleihau ein costau cynhyrchu, ond mae hefyd yn lleihau gwastraff yn sylweddol, gan hyrwyddo ailgylchu, ailddefnyddio a meithrin partneriaeth gref o fewn y gymuned . Ar gyfartaledd, rydym ni'n derbyn tua 60 potel gan Bragdy Lleu bob ychydig wythnosau.

WARWS WERDD

Sefydlwyd Warws Werdd yn 2004 yn dilyn arian gan Gronfeydd Ariannu Ewropeaidd (ERDF) ac LRF Llywodraeth Cymru. Mae’r Warws yn casglu dodrefn a dillad gan y gymuned ac o safleoedd y Cyngor, eu uwchgylchu, eu hail ddefnyddio neu eu paratoi i’w hailgylchu. Mae’r gwasanaeth yn darparu lleoliadau gwaith i 16 o unigolion ag anableddau dysgu, yn ogystal a chyfleoedd iechyd a llesiant. Mae’r Warws yn rhoi cyfle i'r unigolion ddatblygu eu sgiliau mewn amryw eang o swyddi, magu hyder ac yn gyfle i gymdeithasu a trawsdoriad o’r gymuned.

“Staff caredig, ffrindiau o nghwmpas, staff yn deall fy ymddygiad / anghenion. Diolch am bob dim -rydach chi’n wych!”

Dillad

Mae Prosiect Dillad Antur Waunfawr wedi cael blwyddyn lwyddiannus iawn, gan ehangu ein mentrau ailgylchu ar draws Gwynedd ac Ynys Môn. Rydym yn gweithredu nifer o fanciau dillad ledled Gwynedd ac yn cydweithio’n agos gyda Chyngor Gwynedd i ailgylchu dillad o’u canolfannau ailgylchu. Yn ogystal, rydym yn bartneru gyda Thyddyn Môn i ymestyn ein hymdrechion ailgylchu ar draws Ynys Môn. Mae rhan allweddol o'n gwaith yn cynnwys partneriaethau gydag ysgolion yng Ngwynedd lle rydym wedi gosod banciau dillad ar safleoedd ysgolion. Am bob cilogram o ddillad a ailgylchir, mae ysgolion yn derbyn arian gan y Warws, sydd wedyn wedi’i ddefnyddio ar gyfer amryw o brosiectau. Yn nodedig, mae un ysgol wedi defnyddio’r arian i adeiladu maes chwarae i’w disgyblion. Mae’r prosiect hwn nid yn unig yn hyrwyddo cynaliadwyedd ond hefyd yn darparu cymorth gwerthfawr i gymunedau lleol.

Ar ol i ni gasglu a didoli y dillad yn y Warws, mae gweddill y dillad yn cael ei yrru i'n partneriaid Roberts Recycling LTD, byddent yn sicrhau bod yn dillad yn cael ei hailgylchu neu ailddefnyddio yn gyfrifol.

Dros y flwyddyn, cafodd 447 tunnell o ddillad eu brosesu drwy’r Warws, roedd 11 tunnell yn fwy na’r llynedd, gyda mis Ionawr 2024 yn un o'r prysura rydym wedi ei weld eto. Ar gyfartaledd mae 8.5 tunnell o decstilau'r wythnos yn cael eu harbed rhag mynd i safleoedd tirlenwi trwy'r prosiect hwn yn unig.

Siop eBay

I fanteisio ar y nifer cynyddol o ddillad ail-law a dderbyniwn bob wythnos, mae Warws Werdd wedi gwneud buddsoddiad strategol yn ein tudalen gwerthu ar-lein: eBay. Wrth gydnabod y cyfle i gynyddu ein gwerthiant dillad, fe wnaethom gyflogi Cynorthwyydd Gwerthu Dillad llawn amser wedi'i neilltuo i reoli ein siop eBay. Ei cyfrifoldebau yw sortio eitemau i werthu, ei rhestru ar-lein, a darparu gwasanaeth cwsmer heb ei ail, sydd i gyd wedi cyfrannu at gynnydd yn ein gwerthiand dillad. Y tu hwnt i greu ffrydiau incwm newydd, mae’r fenter hon hefyd wedi agor cyfleoedd gwaith gwerthfawr i’r unigolion rydym yn eu cefnogi, sy'n cynorthwyo gyda gwahanol agweddau ar y broses werthu, o dynnu lluniau i bostio. Mae'r fenter hon yn nodi pennod newydd gyffrous i Warws Werdd, ac rydym wedi ymrwymo i ehangu'r maes hwn ymhellach dros y blynyddoedd nesaf.

Ers dechrau ar y prosiect hwn yn Tachwedd, mae 856 o eitemau wedi’u gwerthu.

Dodrefn

Mae gwasanaeth ailgylchu ac ailddefnyddio dodrefn Warws Werdd yn chwarae rhan hanfodol wrth hyrwyddo cynaliadwyedd tra’n darparu dodrefn fforddiadwy i’r gymuned. Mae ein siop ail-law yn cynnig ystod o ddodrefn aillaw a newydd am brisiau cystadleuol. Rydym yn darparu gwasanaeth casglu cyfleus am ffi fechan, lle rydym yn casglu dodrefn diangen o gartrefi cwsmeriaid, gan ailddefnyddio ac uwchgylchu eitemau i’w gwerthu yn ein siop. Gall cwsmeriaid hefyd ddod â’u heitemau diangen yn uniongyrchol i’r siop. Yn ogystal, rydym yn cydweithio gyda sefydliadau lleol megis Adra, Digartrefedd Ynys Môn, Gisda, Grŵp Cynefin, a’r Adran Digartrefedd yng Nghyngor Gwynedd i ddodrefnu cartrefi ar gyfer pobl mewn angen. Dros y flwyddyn ddiwethaf, buom yn prosesu 19.7 tunnell o ddodrefn, gan leihau gwastraff yn sylweddol, ac o ganlyniad yn gwella’r amgylchedd. Mae’r prosiect hwn hefyd yn

8

helpu i ddatblygu sgiliau gwerthfawr i’r unigolion rydym yn eu cefnogi, gan gynnwys sgiliau gweinyddol ar y ffôn a’r ddesg flaen, yn ogystal â sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid a chyfathrebu yn ystod ymweliadau cartref.

Gofod Trwsio a Chreu Ffiws Antur Waunfawr

Yn 2022 derbyniwyd nifer o offer ar gyfer gofod trwsio a chreu o dan frand ‘Ffiws’, sydd wedi ei ariannu gan Gronfa Economi Gylchol drwy law Cyngor Gwynedd. Mae’r offer yn cynnwys argraffwr 3D, torrwr laser, torrwr finyl, a pheiriannau gwnïo a brodwaith.

Mae staff ac unigolion ar draws adrannau Antur Waunfawr wedi mynychu sawl hyfforddiant yn ymwneud â phrosiect Ffiws Antur Waunfawr. Pwrpas Ffiws Antur Waunfawr yw rhoi cyfle i bawb gael mynediad at offer uwch-dechnoleg ac annog ac ysbrydoli creadigrwydd.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Ffiws wedi bod yn brysur wrth gynhyrchu amrywiaeth o gynnyrch o safon. Ar gyfer Eisteddfod Boduan, cawsom y cyfle i ddylunio a chreu nwyddau wedi brandio ar gyfer yr Antur a mudiadau eraill, gan gynnwys bathodynnau, mygiau, coasters, a mwy. Yn ogystal, buom yn gweithio gyda Bara Caws i gynhyrchu crysau-t wedi brandio ar gyfer eu staff. Mae'r adran hefyd wedi cynhyrchu casgliad o eitemau anrhegion Nadolig i’w gwerthu yn ein siop ac ar wefan Antur Waunfawr. Eleni, roedd ein myg Nadolig yn arbennig o boblogaidd, gyda 53 myg yn gwerthu allan mewn dim ond pythefnos, gan adlewyrchu galw ac ymroddiad cryf gan y gymuned leol.

Sied Werdd

Yn dilyn derbyn arian grant drwy gronfa Economi Gylchol Llywodraeth Cymru mewn partneriaeth gyda Cyngor Gwynedd i wella isadeiledd ailgylchu ac ailddefnyddio’r sir, rydym ar fin gorffen y Sied Werdd sydd yn estyniad I'r Warws Werdd a bydd yn agor i’r cyhoedd eleni.

Penodwyd Ymgynghoriaeth Gwynedd ar gyfer y gwaith dylunio a rheoli prosiect a chwmni adeiladu OBR ar gyfer y cytundeb adeiladu. Mae’r sied sy’n 170m[2] , gydag ail lawr yr un maint yn adeilad hygyrch, gyda lifft a chyfleusterau cymorth, ac wedi ei dylunio gan ystyried amrywiaeth eang o anghenion.

Mae’r llawr gwaelod yn cynnwys gweithdy ar gyfer didoli dillad i'w ailddefnyddio, cantîn ar gyfer unigolion ag staff, a gofod ar gyfer lifft a storfa. Mae’r llawr cyntaf wedi ei rannu i 3 uned, swyddfa, gofod Ffiws ag ystafell aml-bwrpas ar gyfer cyfarfodydd, hyfforddiant; gall hwn hefyd fod yn gofod addysgiadol ar gyfer grwpiau cymunedol ac ysgolion, neu yn ofod i'w hurio i'r cyhoedd.

Bydd y Sied Werdd yn rhyddhau gofod yn y Warws Werdd ar gyfer llawr siop ehangach ac yn cynyddu troedle i gynyddu gwerthiant.

Altro

Mewn partneriaeth efo BIC Innovation, Byw Bywyd ac Adra, sefydlwyd prosiect Altro yn dilyn arian o’r Gronfa Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru. Bwriad y prosiect oedd chwyldroi’r sector byw a chymorth drwy’r economi gylchol, a’i nod yw adnewyddu ac ailddosbarthu offer byw a chymorth fyddai fel arall wedi mynd i safleoedd tirlenwi. Rôl Antur Waunfawr yn y prosiect hwn oedd i gasglu offer a’u paratoi ar gyfer ail ddosbarthu, gan gynnig gwaith i unigolion yr Antur yn y broses. Yn anffodus iawn, daeth y prosiect i ben Gorffennaf 2023 oherwydd diweddglo cronfa grant, a rhwng mis Ebrill 2023 a mis Gorffennaf 2023 arbedwyd 104 o eitemau oedd gyfwerth ag arbed 5,345kg o garbon.

Reuse Network

Mynychwyd digwyddiad oedd yn cael ei gynnal ym mhrosiect Boomerang Cardiff, ar ddiwedd mis Ebrill 2023. Gweledigaeth y mudiad Reuse Network ydi creu cymdeithas lle gall pawb greu cartref cynaliadwy, a’i genhadaeth yw lleddfu allgau cymdeithasol, a mynd i'r afael â newid hinsawdd.

Mae’r Antur, fel aelod o’r Reuse Network, a’r gwaith sydd yn mynd ymlaen yn Y Warws Werdd yn rhannu’r gwerthoedd yma, ac yn edrych ymlaen at weithio tuag at gael cyrraedd statws o fod yn ganolfan ailddefnyddio achrededig, drwy’r rhwydwaith, erbyn diwedd 2024.

CAERGYLCHU

Canolfan ailgylchu ar Stad Ddiwydiannol Cibyn, Caernarfon, a sefydlwyd mewn partneriaeth a Cyngor Gwynedd yn 2005 ac sy’n esiampl flaenllaw o gydweithio rhwng y ddau sector. Denwyd £1.7m o grant i Gaergylchu yn 2007. Mae Caergylchu yn gartref i'n gwasanaeth llarpio cyfrinachol a’r linell plastigion sydd yn cael ei redeg gan yr Antur mewn partneriaeth a’r Cyngor. Mewn blwyddyn arferol, rydym yn trin 970 tunnell o blastig y flwyddyn, ac yn ystod y flwyddyn 23/24 danfonwyd 270 tunnell o bapur i'w ailgylchu.

9

Llarpio

Mae ein gwasanaeth llarpio papur cyfrinachol, sydd wedi’i leoli yng Nghaergylchu, yn cynnig gwaredu dogfennau cyfrinachol a sensitif mewn ffordd ddiogel ac amgylcheddol gyfrifol ar gyfer busnesau, sefydliadau a chartrefi ar draws Gogledd Cymru. Rydym yn sicrhau bod yr holl ddeunyddiau cyfrinachol yn cael eu casglu, eu rhwygo, a'u hailgylchu yn unol â rheoliadau diogelu data, gan roi tawelwch meddwl i'n cwsmeriaid, a lleihau yr effaith amgylcheddol. Drwy ddewis ein gwasanaeth, nid yn unig mae cwsmeriaid yn diogelu eu gwybodaeth gyfrinachol ond hefyd yn cyfrannu at ddyfodol cynaliadwy drwy ein hymrwymiad i'r amgylchedd a chefnogi gweledigaeth yr Antur, drwy gynnig gwaith i 8 o unigolion ag anableddau dysgu.

Gyda dros 2000 o gwsmeriaid, casglwyd 14,029 o sachau coch dros y flwyddyn. Rydym yn gweithredu yn unol â gofynion rheolau GDPR ac wedi derbyn achrediad BS EN 15713: 2009.

Casglu offer TGCh

Rydym wedi cael cyfarfodydd cychwynnol gyda North Wales Recycling IT, menter gymunedol sy’n ailgylchu offer TGCh mewn ffordd diogel ac amgylcheddol, sydd wedi ei lleoli yn Llangefni, Sir Fôn. Byddwn yn gweithio ar y cyd i gasglu yr offer TGCh a’i ddanfon draw i Llangefni fel bod yr offer yn cael ei drin ac ailddefnyddio ar safle Recycle IT. Mae ein rheolwr gwasanaeth ailgylchu papur, Sion Thomas wedi rhoi cynllun casglu at ei gilydd a fydd yn plethu mewn gyda’n casgliadau presennol gyda’r bwriad i sicrhau cynaladwyaeth ariannol ac amgylcheddol y cynllun newydd yma.

BEICS ANTUR

Siop feics sydd yn hurio, trwsio a gwasanaethu beics yw Beics Antur, wedi ei leoli ym Mhorth yr Aur Caernarfon. Rydym yn hurio beics 2 olwyn oedolion, beics plant, e feics a fflyd a beics addasedig ar gyfer oedolion a phlant ifanc megis rhai ochr yn ochr, rydym hefyd yn cynnig trosi beics i fod yn feics trydan.

Mae 8 o unigolion yr Antur yn cael profiadau gwaith yn y gweithdy gyda’r swyddogion beics, a rhai wedi dysgu sgiliau trin beics er mwyn cwblhau tasgau yn annibynnol.

Mae'r siop wedi gweld prysurdeb mawr yr haf hwn, gyda diwrnod yn mis Awst wedi gweld y nifer mwyaf o gwsmeriaid yn dod trwy'r drws i hurio Beics ers i ni agor. Mae'r tîm yn darparu gwasanaeth gwerth chweil ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn yr adborth cawn gan gwsmeriaid:

“Ffordd wych o gael hwyl o gwmpas Caernarfon.”

“Wedi llogi tandem trydan gyda fy mab. Roedd yn llawer o hwyl. mynd o gwmpas y dre wedyn dilyn y Menai yn syth ar lwybr beicio. Mae'r beiciau pâr yn ddigon sefydlog y gallem reidio ar gyflymder hwyliog. Mae gan y beic un ochr sy'n llywio a un ochr sydd ddim. Roedd gan yr hwb trydan bum lefel pŵer. Roedd y siop yn gyfeillgar iawn a gwaith papur yn hawdd. Roedden nhw hyd yn oed yn gofalu am fy nghamera. Rhad pan fyddwch yn ystyried dau ohonom gyda llogi helmed yn gynwysedig i. Argymell yn fawr.”

Llofft Llesiant

Ar y llawr cyntaf Beics Antur mae Llofft Llesiant, gofod stiwdio 100m[2] ar gyfer pob math o weithgareddau iechyd a llesiant megis dawns, ioga , pilates a ffitrwydd, sydd hefyd ar gael i'w llogi ar gyfer cyfarfodydd a hyfforddiant. Yn ychwanegol, mae Ystafell Synhwyraidd ar y llawr cyntaf ar gyfer unigolion ag anghenion dwys neu nam ar y synhwyrau. Mae’r adnoddau yma yn boblogaidd iawn ac ar gael i'r cyhoedd eu hurio.

Beicio i Bawb

Mae prosiect newydd Beicio i Bawb yn cyflwyno amrywiaeth o sesiynau a gweithgareddau beicio fforddiadwy i drawstoriad o’r gymdeithas yng Ngwynedd gan gynnwys disgyblion ysgol, pobl ifanc difreintiedig, henoed, unigolion ag anableddau dysgu, grwpiau corfforaethol, a drwy bresgripsiwn cymunedol.

Gyda chefnogaeth gan Gronfa Ffyniant Cyffredin, prif nod y prosiect hwn yw hyrwyddo Iechyd a Llesiant a Theithio Llesol Cymru drwy wella mynediad i feicio hygyrch a fforddiadwy, gwella sgiliau, magu hyder ac annog pobol o bob oedran a gallu yn ein cymdeithas i feicio. Yn ychwanegol penodwyd 2 aelod staff i'r tîm i gynnal y sesiynau a gweithgareddau y prosiect Beicio i Bawb.

Sgiliau Beicio – Rydym yn gweithio gydag ysgolion cynradd ar draws Gwynedd i ddatblygu sgiliau beicio disgyblion, yn y sesiynau yma mae plant blwyddyn 3 a 4 yn cael cyfle i ddysgu sgiliau a thechnegau beicio mewn awyrgylch diogel, sydd yn cyfrannu at lesiant plant a codi eu hyder i fynd ar gefn beic drwy annog plant i fod a diddordeb naturiol yn y maes beicio.

10

Ysgolion Uwchradd

Rydym yn cyd-weithio gydag Ysgolion Uwchradd yr ardal yn hurio beics i ddisgyblion yn ystod wythnos llesiant yr ysgolion. Yn ystod y flwyddyn daeth 291 o ddisgyblion i feicio.

IAITH A DIWYLLIANT

Cymraeg yw iaith weinyddol fewnol y cwmni a Chymraeg yw iaith weinyddol y prosiectau sydd wedi eu sefydlu, ac rydym yn anelu bob amser i fod yn gyflogwr rhagorol a blaengar, a hybu’r iaith, diwylliant a’r economi leol.

Byddwn yn parhau i weithredu a chynllunio’n gynaliadwy ar gyfer y dyfodol, yn unol â nod ‘Miliwn o Siaradwyr Cymraeg’ Llywodraeth Cymru, gan fod yn rhagweithiol o ran defnyddio a hybu’r Gymraeg. Fel menter gymdeithasol bydd Antur Waunfawr yn cyfarch anghenion cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol y gymuned leol– a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg neu ddewis iaith yr unigolyn, ac mewn partneriaeth.

Cynnig Cymraeg

Rydym wedi ymrwymo i gynnig gwasanaethau Cymraeg ac yn ystod y flwyddyn, cafwyd ein Cynnig Cymraeg ei gymeradwyo gan Comisiynydd y Gymraeg.

RHWYDWEITHIAU STRATEGOL, PARTNERIAETHAU NEWYDD A CHYDWEITHIO YN YSTOD Y FLWYDDYN:

PERTHYNAS AG ASIANTAETHAU ALLANOL

Mae Antur Waunfawr yn cynnig gwasanaeth i oedolion ag anableddau dysgu mewn partneriaeth, yn bennaf, ag adran Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Gwynedd, yn ogystal â Chynghorau Conwy ac Ynys Môn. Mae’r cynghorau yn comisiynu’r gwasanaeth yn unol â’u hasesiad o angen ac rydym yn cytundebu gyda’r cynghorau i ddarparu gwahanol fathau o wasanaeth yn unol â’r asesiad. Ein nod wedyn fel menter gymdeithasol yw hyrwyddo potensial yr unigolion o ran eu gwaith ond hefyd eu datblygiad personol a’u sgiliau.

Parhawyd i gydweithio gyda swyddogion y Gwasanaethau Cymdeithasol ac Ysgol Pendalar, Ysgol Hafod Lon, Coleg Menai, Coleg Meirion Dwyfor, a Glynllifon, yn ystod y flwyddyn, er mwyn cynllunio darpariaethau ar gyfer adnoddau gwell i dderbyn unigolion gydag anghenion mwy dwys. Rydym hefyd yn cynnig sesiynau ymarfer corff yng ngofod Dreigiau’r Dyffryn yn Nhregarth, sydd yn fenter gymdeithasol leol.

Adra

Yn sgil y newid yn y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, golygai nad oeddem mwyach yn gallu parhau i fod yn landlordiaid yn ogystal â darparu gofal personol i’n tenantiaid. Yr opsiwn gorau er lles ein tenantiaid oedd creu partneriaeth gyda chymdeithas tai Adra, sydd yn golygu mai Adra sydd bellach yn landlordiaid ar ein tai.

Rôl y Prif Weithredwr yw cydymffurfio â gofynion y Rheoliadau – a hi yw’r Person Cyfrifol ar gyfer y cwmni. Mae’r Ddeddf yn cefnogi nodau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, sy’n diogelu hawliau unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth mewn cyfraith.

RCS Wales

Rydym wedi cydweithio’n gyson gydag RCS Wales a darparwyr lles eraill yn allanol ar gyfer cyfeirio staff am gefnogaeth cwnsela a physiotherapi gan sicrhau eu bod yn gallu parhau yn y lle gwaith. Mae gennym ddwy aelod o’r tîm Adnoddau Dynol sydd wedi’u hyfforddi fel pencampwyr llesiant drwyddynt hefyd. Maent hefyd yn darparu gweminarau llesiant cyson sydd o fudd i allu cefnogi staff.

Cymunedoli Cyf

Mae Antur Waunfawr yn falch o adrodd am ei gydweithrediad â Cymunedoli Cyf, rhwydwaith nodedig o fentrau cymunedol sydd wedi ymrwymo i rannu adnoddau ac arbenigedd i gryfhau ei gilydd. Mae’r bartneriaeth hon nid yn

11

unig yn gwella ein gallu i wasanaethu ac ymgysylltu â’n cymunedau, ond hefyd yn cefnogi ein nod i warchod a hyrwyddo ein hiaith a’n diwylliant. Trwy weithio gyda’n gilydd, rydym yn manteisio ar gryfderau cyfunedig i yrru cynnydd ystyrlon, hybu datblygiad lleol a thwf economaidd, a chyfrannu at rwydwaith mwy cadarn a gysylltiedig o fentrau cymunedol, wrth barhau i ddiogelu a dathlu ein hetifeddiaeth ddiwylliannol.

Cynllun Ynni Cymunedol:

Mae yna Bwyllgor wedi cael ei sefydlu i edrych ar y posibilrwydd o ddatblygu Cynllun Ynni Cymunedol yn Waunfawr. Cafodd Ellen Thirsk ei gwahodd i fod yn rhan o’r Pwyllgor sydd yn cynnwys Dafydd G Davies (sydd hefyd ar Fwrdd yr Antur), cynrychiolaeth o Cyngor Cymuned Waunfawr a Caeathro. Mae’r Pwyllgor wedi cytuno i sefydlu’r cwmni dan yr enw Gwyrfai Gwyrdd.

YMWELIADAU I’R ANTUR

Trwy gydol y flwyddyn, mae Antur Waunfawr wedi cael y pleser o groesawu nifer o ymwelwyr i’n safleoedd. Mae'r ymweliadau hyn wedi rhoi cyfleoedd gwerthfawr i ni rwydweithio, cryfhau partneriaethau presennol a newydd, ac arddangos y gwaith rhagorol mae ein unigolion ac ein staff ymroddgar yn ei wneud o ddydd i ddydd. Mae pob ymweliad wedi atgyfnerthu ein hymrwymiad i'n cenhadaeth, gan hefyd dynnu sylw at yr effaith gadarnhaol rydym yn ymdrechu i’w gwneud o fewn ein cymuned.

Cyngor Gwynedd:

Cafwyd cyfarfod efo Rhian George, Rheolwr Gwasanaethau Cefnogi Cymunedau, Cyngor Gwynedd yn sgil yr Uwch Dim Rheoli yn mynychu cyfarfodydd ymgynghorol y Cyngor yn Ardal Ni Caernarfon a Nant Peris. Mae’r cynlluniau isod o fewn y ddogfen strategol gan y Cyngor:

Comisiynydd y Gymraeg:

Ymwelodd Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg â’r safle yn Waunfawr ar 31 Ionawr, 2024. Roedd ganddi ddiddordeb mawr yn y maes gofal, a phwysigrwydd yr iaith Gymraeg wrth ddarparu ein gwasanaethau. Braf oedd cael ei chyfarfod ac dangos y gwaith ar y safle.

Gofal Cymdeithasol Cymru:

Ymwelodd Sandie Grieve, Swyddog Arweiniol Datblygu a Chysylltu’r Sector, Gofal Cymdeithasol Cymru y safle yn Ionawr 2024 i ffilmio’r unigolion yn eu lleoliad gwaith/iechyd a llesiant er mwyn hybu’r angen am wasanaeth dwyieithog, gyda phwyslais ar ddarpariaeth Cymraeg yn y sector. Pleser oedd cael Sandie yn ymweld ac o ganlyniad i'r ymweliad mae yna ddeunydd ar ‘You Tube’ sydd yn hybu’r angen am y iaith Gymraeg yn y maes Gofal Cymdeithasol.

S4C:

Ymwelodd Ryan Chappell, Arweinydd Amrywiaeth, Cynaliadwyedd a Phwrpas Cymdeithasol o S4C yn Chwefror 2024. Roedd Ryan yn gweld bod yna gyfleoedd i ni gydweithio a gofynnodd i ni ystyried Sut mae’r Panel Anableddau S4C yn sicrhau bod S4C yn cynrychioli pobl efo anableddau/ac Antur Waunfawr yn benodol? Roedd ein Prif Weithredwr eisoes yn rhan o’r Panel Anableddau S4C ac braf oedd cael cyfle i drafod gwahanol gyfleoedd posib I'r dyfodol.

Plaid Cymru- Beics Antur:

Mae Liz Saville Roberts AS wedi ymweld â Beics Antur ar yr 8 Mawrth, 2024 i drafod y prosiect a’r gwaith amrywiol sydd yn cael ei gyflawni o ddydd i ddydd. Cafwyd cyfle hefyd i roi trosolwg o’r prosiect newydd Beicio i Bawb. Diolch yn fawr i Liz am ei hamser ac yr ymroddiad tuag at yr Antur.

Warws Werdd

Trefnwyd ymweliad i’r Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Arweinydd Cyngor Gwynedd a’r Cynghorydd Nia Wyn Jeffreys, Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd i gael cyflwyniad ar waith cynlluniau ailddefnyddio Warws Werdd ar 24 Ebrill 2023. Rydym yn gwerthfawrogi cefnogaeth Cyngor Gwynedd ac yn diolch yn fawr iddynt am roi eu hamser i ymweld.

12

Ymweliad Cyngor Gwynedd i Warws Werdd

Cafwyd ymweliad gan Dafydd Wyn Williams, Pennaeth Adran Amgylcheddol, Cyngor Gwynedd a Roland Thomas, Pennaeth Cynorthwyol Adran Amgylcheddol, Cyngor Gwynedd i’r Warws Werdd dydd Mercher, 12 Gorffennaf 2023. Roeddent wedi cael argraff dda iawn o’r trawstoriad o waith mae’r Antur yn ei gyflawni i’r Cyngor a’r gwerth cymdeithasol rydym yn dod i’r sir yn sgil y gwaith yma.

SAFONAU

ArchwiliadISO 14001 ac ISO 9001

Llwyddwyd i gynnal ein Hachrediad ISO 14001 a’r Achrediad ISO 9001 unwaith eto yn dilyn archwiliad ar safle. Ni chafwyd unrhyw ddiffyg cydymffurfio yn ein herbyn. Mae’r gweithredu ar y broses a’r systemau cysylltiedig yn fuddiol i ni wrth ymgeisio am gytundebau a thendrau i’r dyfodol.

BS EN 15713 GWASANAETH LLARPIO

Mae’r gwasanaeth llarpio gydag achrediad BS EN 15713 a cafwyd archwiliad allanol 27 Mawrth 2023 gyda dim i weithredu arno. Mae’r achrediad yn cryfhau ein systemau gweithio yn ogystal ȃ gallu ymgeisio am gytundebau a thendrau newydd.

Tystysgrif Cyber Essential Plus

Rydym wedi bod yn llwyddiannus yn derbyn y dystysgrif uchod eleni.

Safecontractor

Llwyddwyd i gynnal yr achrediad Safecontractor yn 2023. Mae’r achrediad yma yn angenrheidiol ar gyfer cadw cytundebau llarpio presennol ac yn cryfhau ein sefyllfa wrth ymgeisio am dendrau.

ADNODDAU DYNOL

Denu a datblygu staff

Wrth gymryd i ystyriaeth yr hinsawdd economaidd anodd mae cyflogwyr yn eu hwynebu, mae’r Tîm Adnoddau Dynol yn falch o adrodd ein bod wedi llwyddo i gynnal yr adnoddau staff angenrheidiol ac wedi cydymffurfio efo holl ofynion gyfraith cyflogaeth. Drwy reoli ein hadnoddau rydym wedi llwyddo i gynnal safon ein gwasanaethau a chynllunio ar gyfer unigolion newydd yn ein gwasanaethau dydd a chefnogaeth gartref.

Er mwyn parhau i sicrhau effeithlonrwydd y Cwmni, gwobrwywyd ymroddiad ein staff a pharhawyd i gefnogi’r staff sydd yn arbenigo mewn darparu gofal ar sawl lefel i’n hunigolion ag anableddau dysgu yn y maes gofal. Rhoddwyd blaenoriaeth ar ddatblygu cryfderau a gyrfaoedd, rhoi cyfrifoldebau newydd i staff, rhoi clod i gyrhaeddiad ein staff a chynllunio’n strategol, gan roi pwyslais ar fentora, magu, a chadw staff.

Mae’r strwythur yma yn creu llwybr gyrfa i’n gweithwyr cefnogol, a chodiad cyflog i’r rhai a lwyddodd i ateb gofynion y meini prawf uwch. Bwriad y strwythur newydd yw magu hyder, datblygu sgiliau a chymwysterau ac annog ein staff i ymgeisio am swyddi uwch. Mae gennym 13 aelod staff sydd wedi llwyddo i gyrraedd y meini prawf uwch ac o ganlyniad maent wedi cymryd lefel uwch o gyfrifoldebau sydd wedi galluogi’r Rheolwyr gofal i ganolbwyntio ar faterion rheolaethol.

Ymgyrch recriwtio a ffeiriau swyddi

Ym mis Medi 2023, cynhaliwyd diwrnod recriwtio llwyddiannus yn Beics Antur, mewn cydweithrediad â Gwaith Gwynedd, i gyflwyno’r cyfle i bobl ddysgu mwy am Antur Waunfawr a’n cyfleoedd gwaith. Roedd y noson agored hon yn gyfle gwych i archwilio’r gwaith y gallwn ei gynnig a phrofi’r amgylchedd gwaith byw.

Yn sgil yr ymgyrch recriwtio, rydym wedi cynhyrchu fideos newydd sy’n ceisio denu rhai sy'n ystyried newid gyrfa, yn ogystal â phobl ifanc sy'n chwilio i ddatblygu yn y maes. Rydym wedi cynnwys unigolion mewn ffair swyddi i helpu i ddenu staff gofal, a roddwyd y cyfle i groesawu ymgeiswyr cyn eu cyfweliadau, gan ddarparu adborth gwerthfawr i’r tîm adnoddau dynol i sicrhau bod penderfyniadau’n adlewyrchu eu gofynion a’u cefnogaeth.

Mae ein hymdrechion wedi ymestyn i gyflwyniadau yn Coleg Menai a nifer o ysgolion lleol, lle rydym wedi ysbrydoli disgyblion sydd yn astudio cyrsiau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r sesiynau hyn wedi bod yn llwyddiant mawr, gan arwain at nifer o fyfyrwyr sydd wedi mynychu profiadau gwaith gyda ni ac sydd wedi derbyn swyddi rhan-amser wrth fynd ymlaen â'u hastudiaethau.

13

Staff newydd

Rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2024 fe benodwyd 15 aelod newydd o staff ar draws y cwmni.

Hyfforddiant

Mae gan yr Antur raglen Hyfforddiant a Datblygiad cynhwysfawr sydd yn ateb gofynion ein gwasanaethau ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu, gan sicrhau ein bod yn cadw i safonau megis Arolygiaeth Gofal Cymru a Gwasanaethau Cymdeithasol, Cyngor Gwynedd, Ynys Môn a Conwy. Rydym yn sicrhau bod gofynion hyfforddiant yn gyfredol ac yn cofrestru ein gweithwyr cefnogol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ac maent yn cwblhau gwerthoedd ac egwyddorion o fewn ei 6 mis cyntaf o gychwyn eu cyflogaeth.

Rydym wedi cofrestru 7 aelod staff yn ystod y cyfnod yma. Byddwn yn parhau i gofrestru staff a chadw cofrestriad staff yn gyfredol yn unol â’r gofynion.

Profiadau gwaith

Rydym yn adolygu profiadau gwaith yn rheolaidd yn ein Gweithgor Iechyd a Diogelwch. Llwyddwyd cynnig profiadau gwaith gwerthfawr i fyfyrwyr a disgyblion dros y cyfnod.

Profedigaeth

Gyda thristwch mawr rydym yn adrodd ein bod wedi colli dau aelod staff gwerthfawr o fewn cyfnod yr adroddiad yma, a’r ddau yn dilyn salwch tymor byr. Roedd Corinne Edwards yn Weithwraig Cefnogol i'r Antur ers 15 mlynedd. Roedd Gwyn Pritchard yn Arweinydd y Linell Blastig yn Nghaergylchu ers 8 mlynedd.

ADOLYGIAD CYLLIDOL

Prif ffynonellau incwm

Prif ffynhonnell incwm y cwmni yw Incwm Cytundebol o’r Awdurdodau Lleol trwy’r Adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol. Yn ogystal mae’r Cwmni yn rhan o bartneriaeth ailgylchu ac ailddefnyddio gyda Chyngor Gwynedd a chytundebir gyda’r Cyngor am y gwaith hwn. Mae incwm masnachol o werthu gwasanaeth a chynnyrch Antur Waunfawr, yn dod ag incwm hollbwysig i sicrhau cynaladwyeth ariannol yr Antur mewn cyfnod heriol yn economaidd.

Polisi arian wrth gefn

Mae’n bolisi gan y Cwmni i gadw cronfa anghyfyngedig fechan, gan eithrio cronfeydd dynodedig o eiddo’r Elusen sydd wedi eu neilltuo yn benodol. Penderfynodd y Bwrdd adolygu’r polisi yn rheolaidd (gan gymryd i ystyriaeth asedau cynyddol y Cwmni) fel bod yna arian i gynnal costau gwasanaethu amcanion yr elusen am gyfnod, ac i gynnal costau rheoli a gweinyddu, a hefyd digon i ymateb i unrhyw gais brys. Dros y 7 mlynedd diwethaf mae’r Cwmni wedi sicrhau bod yna lleiafswm o 3 mis o gyflog wedi ei gadw wrth gefn ar gyfer unrhyw heriau annisgwyl. Mae hyn yn unol â chanllawiau ymarfer da’r Comisiwn Elusennau ac yn cwrdd ag amcanion y Cod Llywodraethu. Mae’r Cwmni hefyd yn ymwybodol bod angen buddsoddi yn adeiladau a safleoedd y Cwmni er mwyn sicrhau cynaladwyedd yr Antur i’r dyfodol.

Rhoddion

Rydym yn ddiolchgar iawn am y rhoddion hael eto eleni sydd wedi ein galluogi ni i wneud gweithgareddau ychwanegol efo’r unigolion.

Derbyniwyd rhodd er cof am Sioned Harris, merch Gwynn Davies. Fe wnaeth y teulu wneud cais ein bod yn comisiynu Luned Rhys Parri, Artist lleol i wneud darn o waith efo’r unigolion er cof am Sioned. Ein bwriad yw sicrhau gofod parhaol iddynt ar ein safle yn Waunfawr.

MARCHNATA, CYFATHREBU AC YMGYSYLLTU

Mae 2023 wedi bod yn flwyddyn nodedig i Antur Waunfawr, gyda datblygiadau sylweddol a ffocws newydd ar ymgysylltu a chyfathrebu â’r gymuned. Bu penodiad Ceri Hughes yn Awst fel ein Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu newydd yn gam hanfodol ymlaen. Mae arbenigedd Ceri, a ddatblygwyd dros dair blynedd yn y trydydd sector ac a gafodd ei gryfhau ymhellach gyda’i Diploma Lefel 7 mewn Marchnata a’i aelodaeth CIM Associate, eisoes wedi cael effaith cadarnhaol ar ein hymdrechion marchnata.

Drwy gydol y flwyddyn, rydym wedi gweithio’n ddi-baid i ail-gysylltu â’r gymuned. Roedd ein presenoldeb yn yr Eisteddfod ym Moduan, ar y cyd â Cymunedoli, yn gyfle rhagorol i arddangos ein gwasanaethau, cynnal

14

gweithgareddau diddorol, a ffurfio partneriaethau newydd gydag ystod o sefydliadau ar draws Cymru. Roedd y digwyddiad hwn yn enghraifft o’n hymrwymiad i estyn allan a’n penderfyniad i ehangu ein rhwydwaith.

Mae ein ffocws ar wella ein presenoldeb ar-lein hefyd wedi rhoi canlyniadau trawiadol. Trwy gynyddu ein cyrhaeddiad ac ymgysylltiad ar ein holl lwyfannau cyfryngau cymdeithasol—Antur Waunfawr, Beics Antur, a Warws Werdd— rydym wedi denu sylw sylweddol gan y cyfryngau. Mae ein hymdrechion wedi’u cydnabod gyda sylw ar raglenni teledu a sioeau radio amlwg yng Nghymru, gan gynnwys Heno S4C a Sioe Aled Hughes ar BBC Cymru. Rydym yn estyn ein diolch o galon i’r allfeydd cyfryngau hyn am eu cefnogaeth ac am ein helpu i ledaenu ein neges.

Yn ogystal, roedd ein hymgyrch Nadolig eleni yn llwyddiant mawr. Gwelsom werthiannau cryf o’n cynnyrch cartref o Waunfawr, gyda chefnogaeth gwefan adnewyddedig Perllan y Fro a’n cyfranogiad gweithgar mewn ffeiriau Nadolig lleol, megis Gŵyl Nadolig Caernarfon, Ffair Nadolig Ysgol Pendalar, a Ffair Nadolig Talysarn, i enwi ond ychydig. Roedd ein siop ar-lein yn ei gwneud hi’n haws nag erioed i gwsmeriaid brynu ein cynnyrch, ac ar ôl cyflwyno danfon lleol, cawsom un o’n tymhorau Nadolig gorau hyd yma o ran gwerthiannau.

Wrth edrych ymlaen, mae 2024 yn addo bod yn flwyddyn gyffrous wrth i ni ddathlu 40 mlynedd o weledigaeth R. Gwyn Davies wrth greu cyfleoedd gwaith ystyrlon i oedolion ag anableddau dysgu yn eu cymunedau lleol. Rydym eisoes wedi lansio logo coffaol sy’n adlewyrchu taith anhygoel yr Antur, ac rydym yn awyddus i gyflwyno cyfres o ddigwyddiadau dathliadol trwy gydol y flwyddyn.

Hoffem ddiolch i’n cefnogwyr, ein partneriaid, a’r gymuned gyfan am eu cefnogaeth ddiysgog. Gyda’n gilydd, rydym yn edrych ymlaen at barhau â’n cenhadaeth a gwneud 2024 yn flwyddyn i’w chofio.

Ystadegau Marchnata Digidol (2023-2024):

GWOBRAU

Gwobr Hyfforddiant Cambrian

Gyda balchder mawr rydym yn hapus i adrodd enillodd Beics Antur 3 gwobr yn noson gwobrwyo Hyfforddiant Cambrian ym Mai 2023:

Enillwyd Jack Williams, Gweithiwr Cefnogol Beics Antur:

15

Yn ogystal â gwobrau Jack, cyflwynwyd i Antur Waunfawr gwobr Cyflogwr Canolig y Flwyddyn.

Gwobr CIPD Cymru 2023

Rydym hefyd yn hynod o falch o fod wedi derbyn gwobr Canmoliaeth Uchel gan CIPD Cymru yn y categori- ‘Y Fenter Lles Orau’. Mae’r gydnabyddiaeth hon yn dyst i’n hymrwymiad i flaenoriaethu lles ein staff, gan ymdrechu’n gyson i sicrhau bod eu hiechyd a’u hapusrwydd yn ganolog i bopeth a wnawn.

DIWEDDGLO

Wrth i ni adlewyrchu ar flwyddyn arall o dwf a chyflawniadau yn Antur Waunfawr, rydym yn llawn diolchgarwch am ymroddiad ein staff, cefnogaeth ein cymuned, ein partneriaethau ac ein hunigolion sy'n parhau i'n hysbrydoli. Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn heriol wrth i ni addasu i fywyd ar ôl y pandemig, ond mae 2023-24 wedi bod yn flwyddyn lle rydym wedi ymroi i ailgysylltu â'r gymuned— rhywbeth yr ydym wedi’i golli’n fawr dros y blynyddoedd diwethaf. Mae wedi bod yn gyfnod cyffrous iawn i'r Antur wrth i ni gau'r flwyddyn gyntaf gyda'n Phrif Weithredwr newydd, ac rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu'r bennod nesaf o dan ei arweinyddiaeth wrth i 2024 nodi ein 40 mlynedd o weithredu. Gyda’n gilydd, rydym wedi gwneud camau ystyrlon tuag at gyflawni ein cenhadaeth, ac rydym yn edrych ymlaen at adeiladu ar y momentwm hwn yn y flwyddyn i ddod.

Mae 2024 yn nodi carreg filltir anferthol, 40 mlynedd o Antur Waunfawr, y flwyddyn hon rydym yn dathlu'r daith weledigaethol a daniwyd gan ein sylfaenydd, R Gwynn Davies. I ddathlu mae rhaglen o weithgareddau ar draws y flwyddyn wedi'u trefnu yn cynnwys cylchdaith beicio 40 milltir, lansiad seidr blas newydd hefo label arbennig i ddathlu 40 mlynedd (ffrwythau'r gwrych), gŵyl haf Safle Waunfawr, a bydd unigolion hefyd yn perfformio dan arweiniad Ceri Bostock yn ein gig 40 yn y Galeri.

“Braint enfawr oedd cael fy mhenodi i'r swydd Prif Weithredwr yn y flwyddyn diwethaf, mae cael bod yn yr Antur yn fy ysbrydoli yn bersonol ac yn broffesiynol. Mae’r unigolion sydd yn rhan allweddol o waith yr Antur yn fy ysgogi bob dydd i anelu i neud yn well. Rwyf yn falch iawn o’r cydweithio cadarn a pharhaus sydd bob tro yna i mi gan y Bwrdd, y Staff, ein Partneriaid ac ein Cymuned lleol. Fedrai ddim peidio nodi ei fod yn gyfnod yn ein hanes lle mae

gwydnwch mor anghenrheidiol i redeg menter gymdeithasol sydd yn arloesi yn ei gwaith gofal, ailgylchu ag ailddefnyddio, ac mae’r flwyddyn diwethaf yn adlewyrchiad llawn o’r gwydnwch yna. Diolch yn fawr iawn i bawb”

Ellen Thirsk, Prif Weithredwr, Antur Waunfawr

Gyda’ch cefnogaeth barhaus, rydym yn hyderus y bydd Antur Waunfawr yn parhau i ffynnu, creu cyfleoedd, a chael effaith gadarnhaol am flynyddoedd lawer i ddod.

Cyfrifoldebau yr ymddiriedolwyr mewn cysylltiad a’r datganiadau ariannol

Yr ymddiriedolwyr sydd yn gyfrifol am baratoi yr adroddiad blynyddol a’r datganiadau ariannol yn unol a chyfraith perthnasol ac Arferiad Cyfrifeg Safonol Cyffredinol y Deyrnas Unedig (UK GAAP).

Mae’n ofynnol dan y Ddeddf Cwmnïau i’r ymddiriedolwyr baratoi datganiadau ariannol sydd yn rhoi golwg wir a theg o amgylchiadau yr elusen ar ddiwedd y flwyddyn ariannol am y gweddill neu ddiffyg yn y flwyddyn ariannol. Wrth baratoi’r datganiadau ariannol mae’n ofynnol ar yr ymddiriedolwyr i:

  1. ddefnyddio a chymhwyso yn gyson bolisïau cyfrifyddol addas;

  2. gwneud dyfarniadau ac amcangyfrifon rhesymol a phwyllog; a

  3. pharatoi’r datganiadau ariannol ar sail busnes byw os nad yw’n anaddas i ystyried bydd yr elusen yn parhau mewn busnes.

Mae’r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am sicrhau fod trefniadau wedi eu gwneud i gynnal cofnodion cyfrifyddol sydd yn datgan sefyllfa ariannol yr elusen yn rhesymol fanwl ac sydd yn eu galluogi i’r datganiadau ariannol gydymffurfio â Deddf Cwmnïau 2006. Mae’r ymddiriedolwyr hefyd yn gyfrifol am ddiogelu asedau’r elusen, ac i sicrhau y gwneir darpariaethau i atal a darganfod twyll ac afreoleidd-dra arall.

16

Datganiad yr Ymddiriedolwyr Ynglyn a Datgelu Gwybodaeth i’r Archwiliwr

Mae’r ymddiriedolwyr yn cadarnhau cyn belled ac maent yn ymwybodol, nad oes dim gwybodaeth perthnasol nad yw archwiliwr yr elusen yn ymwybodol ohonno. Maent wedi cymeryd pob cam y dylent fel ymddiriedolwyr i wneud eu hunain yn ymwybodol o unrhyw wybodaeth archwilio perthnasol ac i sicrhau fod archwiliwr yr elusen yn ymwybodol o’r wybodaeth.

Ymddiriedolwr Awdurdodedig: Miss Gwen Tomos – Cadeirydd y Bwrdd

Cafodd yr Adroddiad ei chymeradwyo

Llofnod: Fun

Miss Gwen Tomos – Cadeirydd

Dyddiad: 02/09/2024

17

Adroddiad yr Archwiliwr Annibynnol i Aelodau Antur Waunfawr

Barn

Yr ydym wedi archwilio datganiadau ariannol Antur Waunfawr am y flwyddyn hyd 31 Mawrth 2024 sydd yn cynnwys y datganiad o weithredoedd ariannol, y fantolen, y datganiad ynghylch llif arian a’r nodiadau i’r datganiadau ariannol, gan gynnwys crynodeb o’r polisïau cyfrifo sylweddol. Y fframwaith adrodd ariannol a ddefnyddiwyd i baratoi y datganiadau ariannol yw cyfraith cymwys a Safonau Cyfrifo y Deyrnas Unedig, gan gynnwys FRS 102, , 'Y Safon Adrodd Ariannol sy'n gymwys yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon' (Arferiad Cyfrifeg Safonol Cyffredinol y Deyrnas Unedig).

Yn ein barn mae’r datganiadau ariannol yn:

Sail ein barn

Rydym wedi cynnel ein archwiliad yn unol â Safonau Archwilio Rhyngwladol (DU) (ISAs (DU)) a chyfraith cymwys. Disgrifir ein cyfrifoldebau dan y safonau hynny ymhellach yn adran cyfrifoldebau’r archwiliwr am archwiliad o’r datganiadau ariannol o’n hadroddiad. Rydym yn annibynnol o’r cwmni yn unol â’r anghenion ethegol sydd yn gymwys i’n archwiliad o’r datganiadau ariannol yn y DU, gan gynnwys Safonau Ethegol yr FRC ac rydym wedi cyflawni ein cyfrifoldebau ethegol eraill yn unol â’r gofynion hynny. Rydym yn credu fod y tystiolaeth archwilio a gawsom yn ddigonol a chymwys i baratoi sail i’n barn.

Canlyniadau ynglŷn a busnes byw

Wrth archwilio’r datganiadau ariannol rydym wedi dod i’r casgliad bod defnydd yr ymddiriedolwyr o’r sail busnes byw o gyfrifo wrth baratoi’r datganiadau yn briodol.

Yn seiliedig ar y gwaith rydym wedi’i gyflawni, nid ydym wedi nodi unrhyw ansicrwydd materol yn ymwneud a digwyddiadau neu amodau a allai, yn unigol neu ar y cyd, fwrw amheuaeth sylweddol ar allu’r endid i barhau fel busnes byw am gyfnod o leiaf 12 mis o’r adeg yr awdurdodir y datganiadau ariannol.

Disgrifir ein cyfrifoldebau a chyfrifoldebau’r ymddiriedolwyr mewn perthynas a busnes byw yn adrannau perthnasol yr adroddiad hwn.

Gwybodaeth arall

Yr ymddiriedolwyr sydd yn gyfrifol am y gwybodaeth arall. Mae’r wybodaeth arall yn cynnwys yr wybodaeth gynwysiedig yn yr adroddiad blynyddol, heblaw am y datganiadau ariannol a’n hadroddiad ni fel archwiliwr arnynt. Nid yw ein barn ar y datganiadau ariannol yn cwmpasu’r wybodaeth arall ac, heblaw i’r helaeth fod wedi ei nodi’n benodol yn ein hadroddiad, nid ydym yn datgan unrhyw ganlyniadau o sicrwydd arno.

Mewn cysylltiad â’n harchwiliad o’r datganiadau ariannol, mae gennym gyfrifoldeb i ddarllen yr wyboadaeth arall ac, wrth wneud hynny, ystyried os oes anghysondeb sylweddol rhwng yr wybodaeth arall a’r datganiadau ariannol neu’r wybodaeth a gawsom yn ystod yr archwiliad neu sydd fel arall yn ymddangos yn sylweddol anghywir. Os daw yn ymwybodol o unrhyw gamfynegiant sylweddol ymddangosiadol neu anghysondebau, mae’n ofynnol arnom i benderfynu os oes camddatganiad sylweddol yn y datganiadau ariannol neu gamddatganiad sylweddol yn yr wybodaeth arall. Os down i gasgliad , ar sail y gwaith a gwblhawyd fod camddatganiad sylweddol yn yr wybodaeth ychwanegol yma, mae’n ofynnol arnom i ymadrodd y ffaith.

Nid oes gennym ddim i ymadrodd mewn cyswllt â hyn.

18

Barn ar faterion eraill a benodwyd gan Ddeddf Cwmniau 2006

Yn ein barn, yn seiliedig ar y gwaith a ymgymerwyd yng nghwrs yr archwiliad:

Materion yr ydym angen datgan arnynt trwy eithriad

Yn sgil yr wybodaeth a dealltwriaeth y cwmni a’i amgylchedd a gafwyd yn ystod ein harchwiliad, nid ydym wedi adnabod camfynegiant sylweddol yn adroddiad yr ymddiriedolwyr.

Nid oes gennym ddim i ddatgan ynglyn â’r materion canlynol lle mae Deddf Cwmniau 2006 yn gofyn i ni ddatgan i chwi os, yn ein barn:

Cyfrifoldebau'r ymddiriedolwyr

Fel yr eglurir yn llawnach yn y datganiad o gyfrifoldebau’r ymddiriedolwyr, yr ymddiriedolwyr (sydd hefyd yn gyfarwyddwyr y cwmni elusennol at bwrpas deddf cwmnïau) sydd yn gyfrifol am baratoi y datganiadau ariannol ac am foddhau eu hunain eu bod yn rhoi golwg wir a theg ac am y rheolau mewnol mae’r ymddiriedolwyr yn cysidro’n angenrheidiol i alluogi paratoad o ddatganiadau ariannol sydd yn rhydd o gamosodiad sylweddol, boed hynny yn deillio o dwyll neu gamgymeriad.

Wrth baratoi y datganiadau ariannol, mae’r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am asesu gallu’r cwmni elusennol i barhau fel busnes byw, gan ddatgelu, fel yn gymwys, materion perthnasol i allu’r busnes i barhau a defnyddio y sail busnes byw o gyfrifo os nad yw’r ymddiriedolwyr un ai wedi penderfynu i gau y cwmni neu roi gorau i weithredu, neu heb fod gyda dewis rhesymol ond i wneud hynny.

Cyfrifoldeb yr archwiliwr am archwilio’r datganiadau ariannol

Ein amcanion yw i dderbyn sicrwydd rhesymol fod y datganiadau ariannol ar y cyfan yn rhydd o gamddatganiad sylweddol, boed hynny wedi ei achosi drwy dwyll neu gamgymeriad, ac i gyhoeddi adroddiad archwiliwr sydd yn cynnwys ein barn. Mae sicrwydd rhesymol yn lefel uchaf o sicrwydd, ond nid yn gwarantu y buasai archwiliad wedi ei chynnal yn unol ag ISAs (DU) yn darganfod camddatganiad sylweddol, os yw yn bod pob adeg. Gall camosodiadau godi o dwyll neu gamgymeriad, a byddent yn cael eu cysidro yn sylweddol os, yn unigol neu gyda’i gilydd, y buasai’n rhesymol i ddisgwyl iddynt effeithio dewisiadau economaidd defnyddwyr a gymerir ar sail y datganiadau yma.

Mae afreolaidd-dra, gan gynnwys twyll, yn achosion o ddiffyg cydymffurfio â deddfau a rheoliadau. Rydym yn dylunio gweithdrefnau yn unol â’n cyfrifoldebau, a amlinellir uchod, i ganfod camddatganiadau perthnasol mewn perthynas ag afreolaidd-dra, gan gynnwys twyll. Manylir isod i ba raddau y mae ein gweithdrefnau’n gallu canfod afreolaidd-dra, gan gynnwys twyll:

19

Gwnaethom asesu tueddiad datganiadau ariannol y cwmni i gamddatganiad perthnasol, gan gynnwys cael dealltwriaeth o sut y gallai twyll ddigwydd, trwy:

Er mwyn mynd i’r afael â’r risg o dwyll trwy ragfarn rheoli a diystyru rheolaethau, rydym yn:

Mewn ymateb i’r risg o afreolaidd-dra a diffyg cydymffurfio â deddfau a rheoliadau, gwnaethom ddylunio gweithdrefnau a oedd yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

Mae cyfyngiadau cynhenid yn ein gweithdrefnau archwilio a ddisgrifir uchod. Po fwyaf y caiff deddfau a rheoliadau eu dileu o drafodion ariannol, y lleiaf tebygol yw y byddem yn dod yn ymwybodol o ddiffyg cydymffurfio. Mae safonau archwilio hefyd yn cyfyngu’r gweithdrefnau archwilio sydd yn ofynnol i nodi diffyg cydymffurfio â deddfau a rheoliadau i ymholi’r cyfarwyddwyr a rheolwyr eraill ac archwilio gohebiaeth reoleiddiol a chyfreithiol, os o gwbl. Gall fod yn anoddach canfod camddatganiadau materol sydd yn codi oherwydd twyll na’r rhai sydd yn codi o gamgymeriad oherwydd gallent gynnwys cuddio neu gydgynllwynio yn fwriadol.

Fel rhan o archwiliad a ymgymerir yn unol ag ISAs (DU), rydym yn ymarfer barn proffesiynol a chynnal amheuaeth broffesiynol trwy gydol yr archwiliad, rydym hefyd yn:

20

neu amgylchiadau a all godi amheuaeth sylweddol ar allu‘r cwmni elusennol i barhau fel uned byw. Os y down i gasgliad fod ansicrwydd sylweddol yn bod, mae’n ofynnol arnom i dynnu sylw, yn ein adroddiad archwiliwr i’r datgeliadau perthnasol yn y datganiadau ariannol neu, os nad yw’r datgeliadau yn ddigonol, i addasu ein barn. Mae ein casgliadau yn seiliedig ar y tystiolaeth archwilio a dderbyniwyd hyd at dyddiad adroddiad yr archwiliwr. Er hynny, gall digwyddiadau neu amgylchiadau yn y dyfodol achosi’r cwmni i beidio parhau fel busnes byw.

Rydym yn cyfathrebu gyda’r rhai sydd yn gyfrifol am lywodraethu ynglŷn, ymysg materion eraill, paratoi cwmpas ac amseru yr archwiliad a darganfyddiadau sylweddol yr archwiliad, gan gynnwys unrhyw wendidau sylfaenol mewn rheolaeth ariannol a ddarganfuwyd gennym yn ystod ein harchwiliad.

Defnyddio ein adroddiad

Mae’r adroddiad hwn wedi ei wneud i aelodau’r cwmni elusennol yn unig, fel corff, yn unol â Phennod 3 o Adran 16 Deddf Cwmnïau 2006. Rydym wedi ymgymryd a’r gwaith archwilio fel y gallwn adrodd i aelodau’r cwmni elusennol ar y materion hynny y mae’n ofynnol i ni adrodd arnynt mewn adroddiad yr archwiliwr ac i ddim pwrpas arall. Hyd at eithaf â ganiateir trwy gyfraith, nid ydym yn derbyn na chymryd cyfrifoldeb i unrhyw un heblaw y cwmni elusennol ac aelodau’r cwmni elusennol fel corff, am ein gwaith archwilio, am yr adroddiad hwn, nac am y farn yr ydym wedi ei ffurfio.

David Chidley (Prif archwiliwr statudol) Dros ac ar ran W J Matthews a’i Fab, Archwiliwr Statudol a Chyfrifwyr Siartredig, 11-15 Y Bont Bridd, CAERNARFON Ll55 1AB Dyddiad:

21

Antur Waunfawr

Datganiad o weithredoedd ariannol (yn cynnwys Cyfrif Incwm a Gwariant) am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2024

Holl Holl
Gronfeydd Gronfeydd
Cronfeydd Cronfeydd 31 Mawrth 31 Mawrth
Nodiadau Anghyfyngedig Cyfyngedig 2024 2023
£ £ £ £
Incwm
Rhoddion
Rhoddion a grantiau 3 6,486 123,736 130,222 65,916
Grant Cyfalaf – Sied Werdd - 376,662 376,662 275,787
Grant Cyfalaf – Beics i Bawb - 27,865 27,865 -
Incwm o weithgareddau elusennol:
Incwm Safle a Chynllun Cartrefu 4 1,791,034 - 1,791,034 1,681,199
Incwm Warws Werdd 4 414,172 - 414,172 413,166
Incwm Caer Gylchu 4 589,733 - 589,733 585,122
Incwm Beics Menai 4 92,928 - 92,928 97,963
Llog 2,313 - 2,313 124
__ _ __ __
Cyfanswm incwm 2,896,666 528,263 3,424,929 3,119,277
__ _ __ __
Gwariant
Gweithgareddau elusennol 5 2,895,373 163,043 3,058,416 2,888,538
__ _ __ __
Cyfanswm gwariant 2,895,373 163,043 3,058,416 2,888,538
__ _ __ __
Cyfanswm adnoddau a ddefnyddiwyd cyn
enillion/colledion eraill a gydnabyddir 1,293 365,220 366,513 230,739
Symudiad net
mewn cronfeydd am y flwyddyn 1,293 365,220 366,513 230,739
Cronfeydd ar 1af Ebrill 2023 3,940,498 1,253,214 5,193,712 4,962,973
__ __ __ __
Cronfeydd ar 31ain Mawrth 2024 3,941,791 1,618,434 5,560,225 5,193,712
======= ======= ======= =======

Mae’r canlyniadau uchod yn deillio i gyd o weithgareddau sydd yn parhau.

22

Antur Waunfawr

Mantolenar 31ain Mawrth 2024
(Rhif Cofrestru’r Cwmni: 1832813)
2024 2023
Nodiadau £ £
Buddiannau Sefydlog
Buddiannau sefydlog dirweddol 12 4,623,776 4,137,434
Buddiannau cyfredol
Stoc 13 27,045 31,290
Dyledwyr 14 794,334 228,173
Arian mewn banc ac mewn llaw 260,701 840,209
__ __
1,082,080 1,099,672
Credydwyr: symiau yn ddyledus o fewn blwyddyn 15 145,631 29,771
_ __
Asedau cyfredol net 936,449 1,069,901
__ __
Cyfanswm asedau llai rhwymedigaethau cyfredol 5,560,225 5,207,335
Credydwyr: symiau yn ddyledus ar ôl blwyddyn 16 - 13,623
__ __
Asedau Net 5,560,225 5,193,712
======= ========
Cronfeydd
Cronfeydd Incwm
Cronfeydd anghyfyngedig 20 3,941,791 3,940,498
Cronfeydd cyfyngedig 20 1,618,434 1,253,214
__ __
5,560,225 5,193,712
======= =======

Mae’r datganiadau ariannol wedi’u paratoi yn unol â’r darpariaethau arbennig ar gyfer cwmnïau bach o dan Ran 15 o Ddeddf Cwmnïau 2006.

.......................................................

Miss Gwen Tomos (Cyfarwyddwr)

Dyddiad :

23

Antur Waunfawr

Datganiad ynghylch llif arian am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2024

Nodyn 2024 2023
£ £
Llif arian net o weithgareddau gweithredol 18 (22,112) 148,435
_ _
Llif arian o weithgareddau buddsoddi
Llog a dderbyniwyd 2,313 124
Derbyniadau o werthiant asedau sefydlog 15,610 -
Prynu asedau sefydlog 12 (561,696) (305,842)
_ _
Arian a ddefnyddiwyd i fuddsoddi (543,773) (305,718)
_ _
Llif arian o weithgareddau ariannu
Derbyniad ariannu hur bwrcas - -
Ad-daliad oblygiadau hur bwrcas (13,623) (15,219)
_ _
Arian a dderbynwyd o weithgareddau ariannu (13,623) (15,219)
_ _
(Lleihad)/Cynnydd mewn arian a chyfatebolion arian (579,508) (172,502)

Arian a chyfatebolion arian ar 1 Ebrill 2023
840,209 1,012,711
__ __
Arian a chyfatebolion arian ar 31 Mawrth 2024 260,701 840,209
======= =======

24

Antur Waunfawr

Datganiad o newidiadau mewn cyllid a ddefnyddiwyd i dderbyn asedau sefydlog at ddefnydd yr elusen am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2024

Gronfeydd Gronfeydd
Cronfeydd Cronfeydd 31 Mawrth 31 Mawrth
Anghyfyngedig Cyfyngedig 2024 2023
£ £ £ £
Symudiad net mewn cronfeydd 1,293 365,220 366,513 230,739
Adnoddau a ddefnyddiwyd i dderbyn
Asedau sefydlog net (157,169)
(404,527)
(561,696) (305,842)
_ _ _ _
Symudiad net mewn cronfeydd ar gael at
weithgareddau y dyfodol (155,876)
(39,307)
(195,183) (75,103)
======= ======= ======= =======

25

Antur Waunfawr

Nodiadau i’r datganiadau ariannol am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2024

1. Polisïau cyfrifyddol

Mae’r prif bolisïau cyfrifo a fabwysiadwyd, penderfyniadau a phrif ffynonellau ansicrwydd â amcangyfrifir wrth baratoi y datganiadau ariannol fel a ganlyn:

a) Sail paratoi cyfrifon

Mae’r datganiadau ariannol wedi eu darparu yn unol a “Cyfrifo ac Adrodd gan Elusennau” Datganiad o Ymarferion Cymeradwyol sydd yn berthnasol i elusennau sydd yn paratoi eu cyfrifon yn unol a’r Datganiad o Weithredoedd Ariannol sydd yn berthynol yn y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon (FRS102) – (SORP Elusennau (FRS102)), yr Safon Adrodd Ariannol sydd yn berthynol yn y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon (FRS102) a Deddf Cwmniau 2006.

Mae Antur Waunfawr yn bodloni gofynion diffiniad uned budd cyhoeddus dan FRS102. Cydnabyddir asedau a rhwymedigaethau yn wreiddiol ar sail cost hanesyddol neu werth trafodion os na nodir yn wahanol yn y nodyn polisi cyfrifo perthnasol.

Mae’r ymddiriedolwyr yn cysidro nad oes ansicrwydd sylweddol am allu’r cwmni elusennol i barhau fel busnes byw.

b) Cyfrifo cronfeydd

Cronfeydd cyffredinol yw cronfeydd anghyfyngedig sydd yn barod i’w defnyddio gan yr ymddiriedolwyr i hyrwyddo amcanion cyffredinol yr elusen ac sydd heb eu penodi at unrhyw bwrpas arall.

Mae cronfeydd dynodedig yn cynnwys cronfeydd anghyfyngedig sydd wedi eu rhoi i’r neilltu gan yr ymddiriedolwyr at bwrpas arbennig. Mae nod a defnydd y cronfeydd dynodedig wedi eu disgrifio yn y nodiadau i’r cyfrifon.

Cronfeydd cyfyngedig yw cronfeydd sydd i’w defnyddio yn unol a chyfyngiadau penodol dan amodau’r rhoddwr neu sydd wedi eu codi gan yr elusen at bwrpas arbennig. Mae’r costau o godi a gweinyddu’r cronfeydd wedi eu nodi yn erbyn y cronfeydd penodedig. Mae nod pob cronfa gyfyngedig wedi eu nodi yn y nodiadau i’r cyfrifon.

c) Incwm

Dangosir incwm yn y Datganiad o Weithredoedd Ariannol pan fydd gan yr elusen hawl cyfreithlon i’r incwm, bydd canllawiau perfformio dan dermau yr ffynonellau incwm wedi eu cyfarfod, bydd yn debygol y derbynnir yr incwm a gellir mesur y swm yn rhesymol fanwl.

Cydnabyddir am grantiau llywordraeth a grantiau eraill, boed y grant yn grant refeniw neu gyfalaf, Ariannol pan fydd gan yr elusen hawl cyfreithlon i’r incwm, bydd canllawiau perfformio dan dermau yr ffynonellau incwm wedi eu cyfarfod, bydd yn debygol y derbynnir yr incwm a gellir mesur y swm yn rhesymol fanwl ac nac oes angen gohirio’r incwm.

ch) Gwariant a TAW anadferadwy

Cydnabyddir gwariant pan mae oblygiad cyfreithiol neu weithredol i wneud taliad i drydydd person, y mae’n debygol fydd taliad yn angenrheidiol a gellir mesur yr blygiad yn ddibynadwy.

Cyfrifir TAW na ellir ei hawlio fel cost yn erbyn y gweithgaredd a achosodd y gwariant.

d) Dosbarthiad costau cynorthwyol

Costau cynorthwyol yw gweithgareddau sydd yn cefnogi gwaith yr elusen ond sydd ddim yn ymwneud a gweithgareddau elusennol yn uniongyrchol. Mae costau cynorthwyol yn cynnwys yr adran weinyddol, cyllid, personél a llywodraethol sydd yn cefnogi y gwahanol brosiectau elusennol. Mae’r costau hyn wedi eu dosbarthu rhwng y gwahanol adrannau fel y dangosir yn nodyn 6.

26

Antur Waunfawr

Nodiadau i’r datganiadau ariannol am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2024

1 Polisïau cyfrifyddol (ymlaen)

dd) Asedau sefydlog

Mae asedau sefydlog yn cael eu dangos ar sail cost neu ar brisiad y farchnad. Dangosir y buddiannau sefydlog ar gost neu brisiad llai dibrisiant. Cyfrifwyd am ddibrisiant ar sail dileu cost y buddiannau dros gyfnod amcangyfrif o’u hoes fel a ganlyn:

Adeiladau 2% Siediau a thai gwydr 10% Offer 20 -331/3% Moduron 20%

Ni chyfrifir am ddibrisiant ar dir rhyddfreiniol. Nid yw buddiannau sefydlog sydd yn costio llai na £1,000 yn cael eu cyfalafu a byddent yn cael eu dileu ym mlwyddyn prynnu.

e) Stoc

Mae stoc yn cynrychioli asedau a brynwyd i ailwerthu. Prisiwyd y stoc ar y lleiaf o gost neu werth net sylweddoladwy. Nid yw eitemau stoc a dderbyniwyd fel rhoddion neu er mwyn dosbarthu yn cael eu cynnwys yn y datganiadau ariannol nes maent wedi eu gwerthu neu ddosbarthu.

f) Dyledwyr

Cydnabyddir dyledwyr ar y swm cytundebol ar ôl nodi unrhyw disgownt masnachol a gynnigwyd. Dangosir blaendaliadau ar werth y swm a dalwyd ymlaen llaw llai unrhyw ddisgownt masnachol a dderbyniwyd.

ff) Arian mewn banc ac mewn llaw

Mae arian mewn banc ac mewn llaw yn cynnwys arian buddsoddiadau tymor byr sydd yn aeddfedu o fewn tri mis o’u caffael neu o agor y cyfrif adnau.

g) Credydwyr a darpariaethau

Cydnabyddir credydwyr a darpariaethau pan fydd gan yr elusen oblygiad cyfredol yn deillio o ddigwyddiad yn y gorffennol gyda’r canlyniad tebygol o drosglwyddiad o eiddo i drydydd person a gellir mesur y swm angenrheidiol i setlo’r oblygiad yn ddibynadwy. Cydnabyddir credydwyr a darpariaethau ar y swm setlo llai unrhyw ddisgownt masnachol a dderbyniwyd.

nh)

Offerynnau ariannol

Dim ond offerynnau ariannol sylfaenol sydd gan yr elusen. Cofnodir offerynnau ariannol sylfaenol i dechrau ar bris y contract os nad yw’r trefniant yn sefydlu gweithrediad ariannu, pan fyddent yn cael eu cofnodi ar werth presennol taliadau yn y dyfodol wedi eu gostyngu ar raddfa llog y farchnad am offeryn ariannol tebyg.

h) Costau pensiwn

Mae’r gost o baratoi pensiwn a manteision cyffelyb yn cael eu prisio i’r Datganiad o Weithredoedd ariannol fel mae’r rhwymedigaeth yn codi. Mae’r elusen yn talu cyfraniadau pensiwn ar sail cyfraniadau wedi eu diffinio.

2 Statws y cwmni

Mae’r cwmni yn gyfyngedig drwy warant. Wrth ddirwyn i ben neu ddiddymu’r cwmni ac wedi bodloni ei holl ddyledion a’i rwymedigaethau, os erys unrhyw eiddo o gwbl yn weddill, ni thelir ef i aelodau’r cwmni na’i ddosbarthu yn eu mysg, ond yn hytrach ei roi i sefydliad elusennol arall gydag amcanion cyffelyb i amcanion y cwmni.

27

Antur Waunfawr

Nodiadau i’r datganiadau ariannol am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2024

3. Rhoddion a grantiau gwirfoddol

Cronfeydd Cronfeydd Cyfanswm Cyfanswm
Anghyfyngedig Cyfyngedig 2024 2023
£ £ £ £
Rhoddion 6,486 - 6,486 54,316
Grantiau Gan Cyngor Sir Fflint - - - 8,100
Grant Cymorth Ieuenctid - 5,000 5,000 2,500
Grant Hyfforddiant Cambrian - - - 1,000
Grant AHF - 4,979 4,979 -
Grant CIST - 2,145 2,145 -
Grant SPF ‘Beics i Bawb’ - 95,463 95,463 -
Grant NWRPB - 16,149 16,149 -
_ _ _ _
6,486 123,736 130,222 65,916
_ _ _ _

4. Incwm o weithgareddau elusennol

Safle &
Cynllun Warws Caer- Beics Cyfanswm Cyfanswm
Cartrefu Werdd Gylchu Menai 2024 2023
£ £ £ £ £ £
Cytundebau Gwasanaeth 1,683,220 163,559 108,979 44,911 2,000,669 1,828,308
Cytundeb Ailgylchu - 76,672 257,468 - 334,140 334,140
Incwm Caergylchu - - 223,286 - 223,286 213,696
Incwm Warws Werdd - 173,941 - - 173,941 214,452
Incwm Safle a Chynllun Cartrefu 99,684 - - - 99,684 123,282
Incwm Beics Menai - - - 48,017 48,017 55,999
Incwm arall 8,130 - - - 8,130 7,573
_ _ _ _ __ __
1,791,034 414,172 589,733 92,928 2,887,867 2,777,450
_ _ _ _ __ __

28

Antur Waunfawr

Nodiadau i’r datganiadau ariannol am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2024

5. Dadansodiad o wariant ar weithgareddau elusennol

Safle &
Cynllun Warws Caer- Beics Cyfanswm Cyfanswm
Cartrefu Werdd Gylchu Menai 2024 2023
£ £ £ £ £ £
Costau staff 1,382,603 242,581 374,469 101,658 2,101,311 1,975,366
Nwyddau i’w gwerthu a thraul 246 18,795 9,766 26,189 54,996 63,415
Cafe/ Bwyd 5,251 - - - 5,251 8,056
Safle ac adnewyddu 71,840 31,656 11,984 16,440 131,920 147,946
Teithio a chostau buddiolwyr 65,455 32,446 56,541 1,832 156,274 144,132
Costau swyddfa 11,229 8,858 6,370 4,046 30,503 28,451
Hyfforddiant 16,491 1,866 505 3,712 22,574 17,333
Costau staff - 3,482 662 - 4,144 4,012
Costau marchnata 1,422 973 - 1,588 3,983 7,508
Costau proffesiynol 5,848 2,084 9,909 2,648 20,489 20,226
Dibrisiant 4,870 16,309 7,261 14,280 42,720 42,060
Elw ar werthu asedau (2,610) - - (2,610) -
Llogau - - 1,319 - 1,319 2,491
Eraill - 935 - 1,224 2,159 2,263
Costau llywodraethol 14,530 2,667 4,795 1,416 23,408 25,063
Costau cynorthwyol 285,518 52,411 94,214 27,832 459,975 400,216
__ _ _ __ _ __
1,865,303 412,453 577,795 202,865 3,058,416 2,888,538
__ _ _ __ __ __

(2023-£2,831,912) yn anghyfyngedig a £ 163,043 (2023 - £56,626) yn gyfyngedig.

6. Dadansoddiad o gostau llywodraethol a chynorthwyol

I ddechrau, mae’r cwmni elusennol yn nodi ei gostau cynorthwyol. Yna nodir y costau sydd yn berthnasol i’r pwrpas llywodraethol. Wedi adnabod y costau llywodraethol, rhannir y costau cynorthwyol cyffredinol a’r costau llywodraethol rhwng y pedwar gweithgaredd elusennol a ymgymerwyd yn ystod y flwyddyn. Nodir sail dosbarthiad y costau rhwng y gweithgareddau elusennol yn y tabl isod.

Costau
Sail Cynorthwyol Cyfanswm Cyfanswm
Dosbarthu Cyffredinol Llywodraethol
2024

2023
£ £
£

£
Costau staff Amser staff 261,958 14,133
276,091

237,444
Safle ac adnewyddu Defnydd 57,325 -
57,325

48,953
Costau Glanhau Defnydd 36,882 -
36,882

39,924
Swyddfa Defnydd 35,356 -
35,356

31,014
Teithio Defnydd 1,757 -
1,757

3,679
Hyfforddiant Defnydd 3,275 -
3,275

1,582
Hysbysebu a marchnata Defnydd 2,451 -
2,451

8,668
Archwilio/Cyfrifydd Defnydd - 9,275
9,275

8,855
Proffesiynnol Trafodion 40,952 -
40,952

24,786
Dibrisiant Defnydd 19,633 -
19,633

19,935
Eraill Trafodion 386 -
386

439
_ _
_
__
459,975 23,408
483,383

425,279
_ __
_
__

29

Antur Waunfawr

Nodiadau i’r datganiadau ariannol am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2024

7. Incwm net am y flwyddyn

Nodir yr incwm net ar ôl codi: 2024 2023
£ £
Dibrisiant 62,354 61,995
Ffioedd archwilio 6,435 6,188
Archwiliwr – ffioedd eraill 2,840 2,667
_ ______

8. Costau staff a chydnabyddiaeth yr ymddiriedolwyr

2024 2023
£ £
Cyflogau 2,071,796 1,902,351
Cyflogau gweithwyr 47,206 50,012
Yswiriant cenedlaethol 168,602 169,978
Costau pensiwn 89,798 90,469
__ __
2,377,402 2,212,810
__ __

Cyfanswm nifer cyflogedig ar sail blwyddyn cyflawn oedd 163 ( 2023 – 151 ). Nid oedd cydnabyddiaeth unrhyw aelod o staff dros £60,000 y flwyddyn.

Ni dderbyniwyd ffioedd na thal rheoli gan ymddiriedolwyr yr elusen yn ystod y flwyddyn (2023 – Dim). Ni wnaed taliadau i ymddiriedolwyr yr elusen am gostau a achoswyd (2023 – Dim). Ni wnaethpwyd taliad am wasanaethau proffesiynol nac am wasanaethau eraill i ymddiriedolwyr yr elusen yn ystod y flwyddyn (2023 – Dim) .

Mae personél rheoli allweddol yr elusen yn cynnwys yr ymddiriedolwyr a’r tim rheoli. Roedd cydnabyddiaeth personél rheoli allweddol yr elusen yn £226,292 (2023 - £238,835) .

2024 2023
Nifer Nifer
Prif weithredwr 1 1
Uwch reolwyr 3 2
Rheolwyr 13 12
Safle 23 21
Ail Gylchu 17 13
Warws Werdd 3 4
Cynllun Cartrefu 26 21
Beics Menai 3 2
Gweinyddol 4 5
Gweithwyr gyda anabledd 70 70
____ ____
163 151
=== ===

30

Antur Waunfawr

Nodiadau i’r datganiadau ariannol am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2024

9. Trafodion Partion Cysylltiedig

Ni fu trafodion gyda partïon cysylltiedig yn ystod y flwyddyn. Nid oedd symiau yn ddyledus i na dyledus gan bartïon cysylltiedig ar ddiwedd y flwyddyn (2023 - £Dim) .

10.

Grantiau Llywodraeth

Mae incwm grantiau llywodraeth yn cynnwys cytundebau gwasanaeth gyda awdurdodai lleol i ffynonellau gwasanaethau buddiannol i fuddiolwyr yr elusen.

11. Treth gorfforaeth

Mae gan Antur Waunfawr eithriad o dreth ar incwm ac enillion dan Adran 505 o Ddeddf Treth 1988 ac adran 252 o’r Ddeddf Treth Enillion Cyfalaf 1992 i’r eithaf eu defnyddir at ei nodau elusennol.

12.

Buddiannau sefydlog

Buddiannau sefydlog
Tir ac
Adeiladau Offer Moduron Cyfanswm
£ £ £ £
Cost/Gwerth
Ar 1af Ebrill 2023 4,237,659 513,339 114,602 4,865,600
Ychwanegiadau 483,309 37,387 41,000 561,696
Gwarediadau - (1,300) (13,000) (14,300)
__ __ __ __
Ar 31ain Mawrth 2024 4,720,968 549,426 142,602 5,412,996
__ __ __ __
Dibrisiant
Ar 1af Ebrill 2023 268,230 403,204 56,732 728,166
Cost am y flwyddyn 19,653 23,412 19,289 62,354
Rhyddhawyd ar warediadau - (1,300) - (1,300)
_ _ _ _
Ar 31ain Mawrth 2024 287,883 425,316 76,021 789,220
_ _ _ _
Gwerth Llyfr Net
Ar 31ain Mawrth 2024 4,433,085 124,110 66,581 4,623,776
======== ======= ===== =======
Ar 31ain Mawrth 2023 3,969,429 110,135 57,870 4,137,434
======== ======= ===== =======

Yn gynwysedig yn y £4,636,776 mae £20,000 sydd yn werth tir yn Waunfawr ac £38,599 o dir yng Nghaernarfon . Ail brisiwyd y tir ac adeiladau yn Waunfawr ac Warws Werdd yng Nghaernarfon gan Dafydd Hardy, syrfewyr siartredig yn mis Mawrth 2020. Rhoddwyd gwerth y tir ac adeiladau yn Waunfawr fel £2,165,000. Mae’r ymddiriedolwyr o’r farn bod y gwerth yma yn briodol ar 31 Mawrth 2024 o ystyried yr amodau economaidd presennol. Cost gwreiddiol yr asedau sefydlog yw £4,719,218 (2023-£4,238,909) a buasai dibrisiant o £246,800, (2023- £222,584) wedi ei godi arnynt.

13. Stoc

Stoc 2024 2023
£ £
Cynnwys stoc:
Stoc Warws Werdd 11,561 17,783
Stoc Beics Menai 5,200 5,130
Stoc siop 7,032 5,646
Stoc cafe 812 1,881
Stoc Caergylchu 2,440 850
______ ______
27,045 31,290
______ ______

31

Antur Waunfawr

Nodiadau i’r datganiadau ariannol am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2024

14. Dyledwyr 2024 2023
£ £
Grantiau, cytundebau a dyledwyr masnachol 713,369 203,884
Dyledwyr eraill 80,965 24,289
_ _
794,334 228,173
_ _
15. Credydwyr:symiau yn ddyledus o fewn blwyddyn
2024 2023
£ £
Credydwyr masnachol 125,020 2,923
Swm yn ddyledus dan gytundeb hur bwrcas 13,480 15,479
Treth a nawdd cymdeithasol 131 131
Croniadau ac incwm gohiriedig 7,000 11,238
_ _
145,631 29,771
_ _
16. Credydwyr:symiau yn ddyledus ar ol blwyddyn
2024 2023
£ £
Swm yn ddyledus dan gytundeb hur bwrcas - 13,623
(yn daladwy mewn llai na 5 blywyddyn) _ _
17. Offerynnau ariannol

Yr offerynnau ariannol a fesurir ar sail cost wedi ei amorteiddio yw’r benthyciad hur bwrcas.

2024 2023
£ £
Swm yn ddyledus o fewn blwyddyn 13,480 15,479
Swm yn ddyledus dros blwyddyn ond o fewn pum mlynedd - 13,623
_ ______
Cyfanswm 13,480 29,102
_ _
18. Cymodi'r elw gweithredol â'r mewnlif arian net o weithgareddau gweithredol
2024 2023
£ £
Symudiad net mewn cronfeydd 366,513 230,739
Llog a dderbyniwyd (2,313) (124)
Dibrisiant 62,354 61,995
Elw ar werthu asedau (2,610) -
(Cynnydd) Lleihad/ mewn stoc 4,245 (8,717)
(Cynnydd)/Lleihad mewn dyledwyr (566,161) (96,758)
Cynydd/(Lleihad) mewn credydwyr 115,860 (38,700)
__ _
Llif arian net o
weithgareddau gweithredol (22,112) 148,435
======= =======

32

Antur Waunfawr

Nodiadau i’r datganiadau ariannol am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2024

19. Ymroddiad cyfalaf

Ar ddiwedd y flwyddyn roedd gan Antur Waunfawr ymroddiad cyfalaf ynglŷn a datblygiad adeiladau o £DIM (2023 - £375,508 ).

20. Cronfeydd cyfyngedig

31 Mawrth Trosglwydd Adnoddau Ail -
2023 -iadau
Cyllid
Brisio Cyfanswm
£ £ £ £ £
Warws Werdd 337,544 - (10,548) - 326,996
Sgubor Grefftau 8,295 - (261) - 8,034
Grant Cae Chwarae 19,980 - (1,080) - 18,900
Rhoddion 1,233 - (1,233) - -
Grant Clothworkers Foundation 2,650 - - - 2,650
Grantiau Porth Yr Aur 546,114 - (5,648) - 540,466
Grant Adferiad Gwyrdd 61,611 - (20,537) - 41,074
Grantiau Sied Werdd 275,787 - 376,662 - 652,449
Grant SPF ‘Beicio i Bawb’ - 27,865 - 27,865
_ _ _ _ _
1,253,214 - 365,220 - 1,618,434
_ _ _ ______ _
31 Mawrth Trosglwydd Adnoddau Ail -
2022 -iadau
Cyllid
Brisio Cyfanswm
£ £ £ £ £
Warws Werdd 348,092 - (10,548) - 337,544
Sgubor Grefftau 8,546 - (251) - 8,295
Grant Cae Chwarae 21,060 - (1,080) - 19,980
Rhoddion 2,466 - (1,233) - 1,233
Grant Clothworkers Foundation 2,650 - - - 2,650
Grantiau Porth yr Aur 557,491 - (11,377) - 546,114
Grant Adferiad Gwyrdd 82,148 - (20,537) - 61,611
Grantiau Sied Werdd - - 275,787 - 275,787
_ _ _ _ _
1,022,453 - 230,761 - 1,253,214
_ _ _ ______ _

33

Antur Waunfawr

Nodiadau i’r datganiadau ariannol am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2024

Cronfeydd anghyfyngedig

Cronfeydd anghyfyngedig
Balans
31 Mawrth Trosglwy- Adnoddau Ail
2023 ddiadau Cyllid Brisio Cyfanswm
£ £ £ £
£
Tal Aelodaeth 182 - - -
182
Cronfa Gyffredinol 2,590,290 208,967 1,293 - 2,800,550
Cronfa Ailbrisio 523,776 (2,156)
-
-
521,620
__ ______ ______ ______
_
3,114,248 206,811 1,293 - 3,322,352
Cronfeydd Dynodedig
Cronfa Datblygu Eiddo 229,500 (229,500)
-
-
-
Cronfa Wrth Gefn 596,750 22,689 - -
619,439
__ _ _ _
_
3,940,498 - 1,293 - 3,941,791
__ _ _ _
_
Balans
31 Mawrth Trosglwy- Adnoddau Ail
2022 ddiadau Cyllid Brisio Cyfanswm
£ £ £ £
£
Tal Aelodaeth 182 - - -
182
Cronfa Gyffredinol 2,570,303 20,009 (22) - 2,590,290
Cronfa Ailbrisio 525,932 (2,156)
-
-
523,776
__ ______ ______ ______
_
3,096,417 17,853 (22) - 3,114,248
Cronfeydd Dynodedig
Cronfa Datblygu Eiddo 229,500 - - -
229,500
Cronfa Wrth Gefn 614,603 (17,853)
-
-
596,750
__ _ _ _
_
3,940,520 - (22) - 3,940,498
__ _ _ _
_

21. Dadansoddiad o’r Cronfeydd rhwng yr asedau net ar 31ain Mawrth 2024

Cronfeydd Cronfeydd Cronfa
Cyfyngedig Dynodedig Gyffredinol Cyfanswm
£ £ £ £
Asedau Sefydlog 1,618,434 - 3,005,341 4,623,775
Asedau Cyfredol Net - 619,439 317,011 936,450
_ _ _ _
Cyfanswm asedau net 1,618,434 619,439 3,322,352 5,560,225
__ _ _ _

34

Antur Waunfawr

Nodiadau i’r datganiadau ariannol am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2024

Cronfeydd Anghyfyngedig

Prif weithgaredd y cwmni yw darparu gwaith a hyfforddiant i bobl ag anabledd dysgu, a thrwy hynny gwasanaethu’r gymuned.

Cronfeydd Dynodedig a chyfyngedig

Mae’r cwmni wedi penderfynu ymrwymo arian sydd ar gael wrth gefn er mwyn datblygu eiddo Sied Werdd.

Mae swm yn cynrychioli tri mis o gyflog wedi ei gadw wrth gefn i gyfarfod unrhyw heriau annisgwyl h.y £619,439 ar hyn o bryd. Mae hyn yn unol a chanllawiau ymarfer da y Comisiwn Elusennau ac yn cyfarfod ag amcanion Llywodraethu Da Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

35

22. Dadansoddiad o gronfeydd y flwyddyn flaenorol

Antur Waunfawr

Datganiad o weithredoedd ariannol (yn cynnwys Cyfrif Incwm a Gwariant) am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2023

Holl Holl
Gronfeydd Gronfeydd
Cronfeydd Cronfeydd 31 Mawrth 31 Mawrth
Nodiadau Anghyfyngedig Cyfyngedig 2023 2022
£ £ £ £
Incwm
Rhoddion
Rhoddion a grantiau 3 54,316 11,600 65,916 91,447
Grant Cyfalaf – Porth Yr Aur - - - 109,869
Grant Cyfalaf – Sied Werdd - 275,787 275,787 -
Incwm o weithgareddau elusennol:
Incwm Safle a Chynllun Cartrefu 4 1,681,199 - 1,681,199 1,547,334
Incwm Warws Werdd 4 413,166 - 413,166 414,213
Incwm Caer Gylchu 4 585,122 - 585,122 572,264
Incwm Beics Menai 4 97,963 - 97,963 61,136
Llog 124 - 124 4
Cynllun Cadw Swyddi - - - 10,535
Grantiau Covid - - - 47,932
_ _ _ __
Cyfanswm incwm 2,831,890 287,387 3,119,277 2,854,734
_ _ _ __
Gwariant
Gweithgareddau elusennol 5 2,831,912 56,626 2,888,538 2,695,443
_ _ _ __
Cyfanswm gwariant 2,831,912 56,626 2,888,538 2,695,443
_ _ _ __
Cyfanswm adnoddau a ddefnyddiwyd cyn
enillion/colledion eraill a gydnabyddir (22)
230,761
230,739 159,291
Symudiad net
mewn cronfeydd am y flwyddyn (22) 230,761 230,739 159,291
Cronfeydd ar 1af Ebrill 2022 3,940,520 1,022,453 4,962,973 4,803,682
_ _ _ _
Cronfeydd ar 31ain Mawrth 2023 3,940,498 1,253,214 5,193,712 4,962,973
======= ======= ======= =======

36