OpenCharities

This text was generated using OCR and may contain errors. Check the original PDF to see the document submitted to the regulator.

2021-03-31-accounts

ANTUR WAUNFAWR (Cwmni yn gyfyngedig trwy warant)

ADRODDIAD a DATGANIADAU ARIANNOL BLWYDDYN HYD AT: 31 MAWRTH 2021

Rhif Elusen: 515445 Rhif Cwmni: 01832813

Antur Waunfawr

Cynnwys Tudalen
Gwybodaeth cyfreithiol a gweinyddol 2
Adroddiad yr ymddiriedolwyr 3-16
Adroddiad yr archwiliwr 17-19
Datganiad o weithredoedd ariannol 20
Mantolen 21
Datganiad ynghylch llif arian 22
Datganiad o newidiadau mewn cyllid a ddefnyddwyd I dderbyn asedau sefydlog 23
Nodiadau yn ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol 24-33

1

ANTUR WAUNFAWR

GWYBODAETH GYFREITHIOL A GWEINYDDOL:

Rhif Cofrestru’r Elusen: 515445 Rhif Cofrestru’r Cwmni: 1832813 Ymddiriedolwyr Aelodau’r Bwrdd: Mr. Rhys Evans Cadeirydd Mr. Huw Ynyr Is-gadeirydd Mr. Kevin Hughes Trysorydd Mr. John Gwynedd Jones Mr. Geraint Strello Mr. Norman Williams Dr. John Prys Morgan Jones Mr. Daron Harris Mrs. Sara Mair Tomos Mrs. Anna Ll. Williams Mrs. Lowri Huws Jones Miss. Gwen Tomos Dr. Catrin Ellis Williams (Ionawr 2021) Mr. Terry Parry (Mawrth 2021) Ms. Menna Jones Ysgrifenyddes Y Tîm Rheoli: Menna Jones Prif Weithredwraig Stephen Goodwin Uwch Reolwr Gwasanaethau Dydd a Phreswyl Ellen Thirsk Uwch Reolwraig Adnoddau Dynol Haydn Jones Uwch Reolwr Tri Busnes Gwyrdd Sioned Hughes Rheolwraig Cyllid Gwenlli Mai Wynne Rheolwraig Datblygu Busnes Elain Hughes Rheolwraig Datblygu Busnes

Swyddfa Gofrestredig a Gweinyddol:

Bryn Pistyll Waunfawr Caernarfon Gwynedd LL55 4BJ

Cyfreithwyr:

Iestyn T. Harris, Carter Vincent LLP, The Port House, Porth Penrhyn, Bangor, Gwynedd, LL57 4HN

Bancwyr:

Banc Barclays, Grŵp Canghennau Gwynedd, Bangor, Gwynedd

Archwilwyr:

W.J. Matthews a’i Fab, 11-15 Y Bont Bridd, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1AB

2

ADRODDIAD BWRDD YMDDIRIEDOLWYR ANTUR WAUNFAWR AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2021

RHAGAIR

Cofnod o waith Antur Waunfawr yn ystod y cyfnod rhwng Ebrill 2020 a Mawrth 2021 yw’r adroddiad hwn. Mae sylw yma i waith a phrosiectau’r Antur ond eleni, mae yma hefyd sylw i ymdrechion staff mewn ymateb i bandemig Cofid-19. Mae hi wedi bod yn gyfnod anodd ond gallwn hefyd nodi’r llwyddiannau a’r holl a gyflawnwyd er gwaethaf yr heriau a’n wynebwyd.

Mae’r ymddiriedolwyr, sydd hefyd yn gyfarwyddwyr yr elusen at bwrpas Deddf Cwmnïau, yn cyflwyno'r adroddiad blynyddol a’r datganiadau ariannol archwiliedig am y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2021, sydd hefyd wedi eu paratoi er mwyn cwrdd â’r angen am adroddiad cyfarwyddwyr a chyfrifon at bwrpas Deddf Cwmnϊau. Mae’r datganiadau ariannol yn cydymffurfio â Deddf Elusennau 2011, Deddf Cwmnïau 2006, Erthyglau a Memorandwm y cwmni, a Chyfrifo ac Adrodd gan Elusennau, Datganiad o Weithredoedd Ariannol sydd yn berthnasol yn y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon (FRS 102).

Cwmni Cyfyngedig drwy Warant yw Antur Waunfawr a wnaed yn Gwmni Corfforedig ar 13eg Gorffennaf 1984 ac a gofrestrwyd yn Elusen ar 6ed Awst 1984. Sefydlwyd y Cwmni o dan Femorandwm y Cwmni sy’n sefydlu amcanion ac awdurdod y cwmni elusennol hwn ac yn cael ei reoli gan Erthyglau’r Cwmni.

NOD AC AMCANION

Mae Memorandwm Antur Waunfawr yn cyhoeddi ein nod fel a ganlyn;

“I hyrwyddo a chymryd rhan yng nghymorth a gofal bobl ag anawsterau dysgu ac unigolion ag anableddau corfforol a gyfeirir atom gan asiantaethau statudol, yn Sir Gwynedd a’r cylch:- drwy ddarparu, a rhoi cymorth yn y ddarpariaeth o gynnig cyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth, heb eithrio hil, oed neu ryw na thybiaethau gwleidyddol, crefyddol neu dybiaethau eraill.”

Mae’r Bwrdd yn trafod nod yr elusen yn rheolaidd ac yn ei gadw mewn cof wrth gynllunio a datblygu ei strategaeth ar gyfer y Cwmni.

Rydym yn cyflawni’r nod drwy:

SUT MAE EIN GWEITHGAREDDAU YN CREU BUDD CYHOEDDUS

Drwy weithredu’r amcanion uchod, rydym yn ateb anghenion ein hunigolion gydag anableddau dysgu a’r gymdeithas ehangach.

3

Daw'r mwyafrif o unigolion sydd yn derbyn gwasanaeth o Ogledd Gwynedd ond cyfeirir rhai atom gan gynghorau eraill cyfagos. Mae ein gallu i gynnig lleoliadau gwaith neu gartrefi i bobl yn dibynnu ar allu’r asiantaethau statudol i gynnig cytundebau gwasanaeth gofal a llesiant ar eu cyfer. Byddwn yn cyd-weithio gyda’r asiantaethau hyn ar bob achlysur, ac yn ymdrechu yn rhagweithiol i sicrhau cyfleoedd addas i bob person sy’n cael ei gyfeirio atom, ac i sicrhau adnoddau teg i roi’r gwasanaeth gorau posib i’n defnyddwyr. Mae mwy o deuluoedd yn hunan gyfeirio erbyn hyn ac mae Antur Waunfawr yn eu cynghori i ymgysylltu a chyd-drafod gwasanaeth posib efo’r gwasanaethau cymdeithasol perthnasol.

CYFLAWNIAD A PHERFFORMIAD

Mae Antur Waunfawr wedi ymrwymo i gyfarch ysbryd ac amcanion Deddfau Llywodraeth Cymru, yn bennaf;

Sy’n canolbwyntio ar gynaladwyedd, a llesiant unigolion sy’n derbyn gwasanaethau gan Antur Waunfawr. Mae’n bwysig ein bod yn cydymffurfio â gofynion y Deddfau, ac yn sicrhau fod y cynnwys yn treiddio trwy weithgareddau, prosiectau a gofalaeth Antur Waunfawr. Byddwn yn gweithredu’n unol ag amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol er mwyn parhau i weithredu a chynllunio’n gynaliadwy ar gyfer y dyfodol, ac yn unol â nod ‘Miliwn o Siaradwyr Cymraeg’ Llywodraeth Cymru, yn rhagweithiol o ran defnyddio a hybu’r Gymraeg. Mae’r Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn berthnasol i’n prosiect llesiant a datblygiad newydd Porth yr Aur.

Wrth lunio ein hamcanion ar gyfer y flwyddyn a chynllunio ein gweithgareddau, mae’r ymddiriedolwyr wedi ystyried canllawiau’r Comisiwn Elusennau ar fudd cyhoeddus, gan gynnwys y canllaw ‘Budd cyhoeddus: rhedeg elusen (PB2)’.

Mabwysiadodd yr Antur Ddatganiad Llesiant yn 2016, ac mae’r datganiad yma yn sail i’n darpariaethau llesiant wrth ddatblygu ein gweithgareddau a phrosiectau iechyd a lles i’r dyfodol.

Datganiad Llesiant Antur Waunfawr:

“Hyrwyddo llesiant, iechyd da a hapusrwydd, a galluogi unigolion fydd conglfeini gwasanaethau Antur Waunfawr i’r dyfodol.

Darperir gofal, cefnogaeth weithgar, hyfforddiant a gwaith ystyrlon mewn modd effeithlon a chymesur i ateb gofynion pobl ag anableddau dysgu a phobl ddifreintiedig yn lleol.

Fel menter gymdeithasol bydd Antur Waunfawr yn cyfarch anghenion cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol y gymuned leol– a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg neu ddewis iaith yr unigolyn, ac mewn partneriaeth.

Ein nod yw creu cymdeithas arloesol, gyfartal, gynhyrchiol a charbon isel trwy feithrin teulu o fusnesau cynaliadwy yn lleol - cychwyn wrth ein traed a gweithredu’n uchelgeisiol i sicrhau llesiant a chymunedau gwydn.”

Mae gan Antur Waunfawr sawl adran lwyddiannus sy’n cynnig cyfleoedd gwaith, hyfforddiant, cyfleoedd llesiant a gwasanaethau amrywiol i unigolion ag anableddau dysgu, a phobl ddifreintiedig.

Yn sgil y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 adolygwyd swydd ddisgrifiad y Brif Weithredwraig i gydymffurfio â gofynion y Rheoliadau. Mae’r Ddeddf yn cefnogi nodau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, sy’n diogelu hawliau pobl sy’n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth mewn cyfraith.

4

CROESAWU AELODAU NEWYDD I’R BWRDD RHEOLI

Recriwtio a Phenodi’r Pwyllgor Rheoli

Mae Cyfarwyddwyr y Cwmni hefyd yn ymddiriedolwyr elusennol yn ôl gofynion y gyfraith elusennol. Fe’u hadwaenir yn ôl Memorandwm ac Erthyglau’r Cwmni fel ‘Cyfarwyddwyr’ neu fel ‘Aelodau’r Bwrdd’. Hefyd, mae’r Erthyglau’n gosod amod mai am flwyddyn ar y tro y byddant yn gwasanaethu a bod rhaid ethol neu ail-ethol dim mwy na 15 Cyfarwyddwr yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

Rydym yn ffodus fod gennym amrediad da o arbenigedd a phrofiad ar y Bwrdd, sy’n cynnig cefnogaeth a chyngor i’r tîm rheoli yn y meysydd sy’n berthnasol i waith y cwmni e.e. cyllid, cyfreithiol, yswiriant, iechyd, gofal cwsmer, ail-gylchu, addysg a hyfforddiant, busnes a hylendid bwyd. Fe wnaeth y Bwrdd barhau i gyfarfod dros y pandemig, a hynny’n rhithiol.

Croesawyd ymddiriedolwyr newydd y Bwrdd eleni – sef Dr. Catrin Ellis Williams a Mr. Terry Parry.

Mae Dr. Catrin Ellis Williams yn fam i Unigolyn sy’n mynychu’r Antur, yn feddyg teulu a phartner ym Meddygfa Bodnant, Bangor; Catrin sy’n gyfrifol am yr archwiliadau blynyddol ar bob claf cofrestredig sydd ag anabledd dysgu. Fe fuodd yn rhiant-lywodraethwr yn Ysgol Pendalar ac wedyn yn Is-Gadeirydd. Mae’n drysorydd Grŵp Cefnogi Awtistiaeth Gwynedd a Môn. Mae Catrin hefyd yn ymddiriedolwr ar Fwrdd rheoli Cartrefi Cymru ac ar fin cychwyn fel Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol y Garnedd ym Mangor. Mae’n un o gyfarwyddwyr Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn, ac yn Ysgrifennydd Y Gymdeithas Feddygol.

Mae Terry Parry yn Rheolwr Datblygu Busnes, a chanddo brofiad busnes helaeth a chysylltiadau â Waunfawr. Yn ogystal â bod yn ŵr busnes, prif faes Terry yw’r maes adeiladu; mae wedi codi oddeutu 10 tŷ yn y pentref, a chanddo brofiad o reoli prosiectau cyfalaf.

Anwythiad a Hyfforddiant Ymddiriedolwyr

Gan fod Antur Waunfawr wedi ei sefydlu dros 30 mlynedd yn ôl, gyda phroffil uchel o fewn y gymdeithas, mae gan bob darpar gyfarwyddwr wybodaeth dda o’n gwaith. Caiff pob aelod o’r Bwrdd ffeil gyda manylion y strwythur rheolaethol a’r polisïau ynddi. Mae’r Brif Weithredwraig yn treulio amser gyda chyfarwyddwyr newydd, yn eu hanwytho drwy drefnu ymweliadau ậ’r safleoedd ac ateb cwestiynau.

STRWYTHUR Y TÎM RHEOLI

Rheolwyr Gweithredol

Cynhelir cyfarfodydd Uwch Dim Rheoli a Thîm Rheoli yn rheolaidd. Bydd cynrychiolydd pob adran hefyd yn cynnal cyfarfodydd gyda’u timau yn ogystal â Gweithgor Iechyd a Diogelwch, Gweithgor Meddiannau, Gweithgor TGCh a Phanel Marchnata. Yn ystod y flwyddyn mae'r rhain i gyd yn bwydo adroddiadau i’r Tîm Rheolaethol.

Menna Jones, Prif Weithredwraig

Mae Menna yn gwasanaethu ar fyrddau rheoli Menter a Busnes, Canolfan Cydweithredol Cymru ac yn Is-gadeirydd Canolfan Iaith Nant Gwrtheyrn. Mae wedi gweithio mewn mentrau cymdeithasol a chymunedol ers 30 mlynedd ac yn ystod y flwyddyn mi gymerodd gyfrifoldeb ‘Person Cyfrifol’ Antur Waunfawr. Mae wedi ei hyfforddi gan Social Enterprise Academy (Scotland) ar y cyd â Chreu Menter, Conwy i ddatblygu arweinwyr Academi Mentrau Cymdeithasol Cymru.

Stephen Goodwin, Uwch Reolwr Gwasanaethau Dydd a Phreswyl

Mae Stephen yn aelod o Grŵp Trawsffurfio Gwasanaeth, Cyngor Gwynedd. Mae gan Stephen dros 23 mlynedd o brofiad yn y maes gofal. Mae wedi cymhwyso fel Rheolwr Cofrestredig lefel 4. Mae Stephen hefyd wedi cwblhau cyrsiau mewn arweinyddiaeth a rheoli staff.

5

Ellen Thirsk, Uwch Reolwraig Adnoddau Dynol

Mae Ellen yn Gyfarwyddwr i Galeri, Menter Gymdeithasol a Chreadigol yng Nghaernarfon ac yn Gadeirydd i gorff Llywodraethwyr Ysgol Pendalar. Mae hi wedi gwirfoddoli i’r Samariaid am gyfnod o 15 mlynedd yn y gorffennol ac wedi cael trawstoriad o brofiadau rheoli mewn Iechyd, Tai a Gofal Cymdeithasol dros gyfnod o 30 mlynedd. Mae Ellen yn aelod siartredig o’r corff CIPD ac wedi cymhwyso ar lefel uwch mewn Cyfraith Cyflogaeth ac Iechyd a Diogelwch (NEBOSH).

Haydn Jones, Uwch Reolwr Busnesau Gwyrdd

Mae gan Haydn brofiad helaeth o annog unigolion yng Nghymru a dramor tra roedd yn gweithio yn yr America drwy ei waith ‘coaching’ gyda thrawstoriad o unigolion (abl ac anabl)

Mae ganddo brofiad eang o reoli ac mae’n gyfrifol am reoli a rhedeg gwasanaethau ailddefnyddio ac ailgylchu o fewn yr Antur.

Mae wedi cymhwyso i lefel graddedig (MA) mewn Addysg ac mae wedi mynychu trawstoriad o gyrsiau rheoli, ac yn ddiweddar wedi cwblhau NVQ Lefel 3 mewn Ailgylchu.

Sioned Hughes, Rheolwraig Cyllid

Mae gan Sioned arbenigaeth a phrofiad eang o’r maes cyllid a gweinyddiaeth, rheoli busnes a datblygu a sefydlu sustemau a gweithdrefnau. Mae wedi ei chymhwyso i Lefel 4 yn ‘Association of Accounting Technicians’ Mae ganddi sgiliau rheoli da ac wedi mynychu trawstoriad o gyrsiau cyllid a rheolaeth, yn ogystal â phrofiad helaeth o ddelio gyda sefydliadau allanol, e.e., cyfrifydd, prif bartneriaid ariannol, ayb.

Elain Hughes, Rheolwraig Datblygu Busnes

Graddiodd Elain o Brifysgol Aberystwyth yn 2015 efo gradd BA Cymraeg Proffesiynol ac mae wedi gweithio i’r Antur ers 2016. Mae ganddi wybodaeth eang o Antur Waunfawr gan ei bod wedi bod yn gynorthwyydd personol i Menna ac wedi gweithio’n agos gyda phob adran; y tîm Rheoli, Uwch Reoli a’r Bwrdd dros y pum mlynedd diwethaf. Prif ganolbwynt ei gwaith yn ddiweddar yw rheoli a datblygu prosiectau cyfalaf Porth yr Aur a’r Sied Werdd. Mae Elain yn bwynt cyswllt i bartneriaethau newydd ac yn presenoli mewn digwyddiadau, cyfarfodydd a grwpiau ffocws allanol.

Gwenlli Wynne, Rheolwraig Datblygu Busnes

Mae gan Gwenlli ddealltwriaeth a phrofiad gyda phob adran yn Antur Waunfawr gan ei bod wedi bod yn gynorthwyydd personol i Menna a Huw Davies (cyn-Ddirprwy Brif Weithredwr) cyn symud ymlaen i’w swydd bresennol. Mae ganddi BSc Gofal Iechyd a Chymdeithasol. Mae Gwenlli wedi mynychu cwrs arwain gyda ‘Learn to Inspire’, ac mae ganddi brofiad helaeth o ddelio gyda sefydliadau allanol megis mentrau cymdeithasol eraill, Gwasanaethau Cymdeithasol, Cynghorwyr lleol ayb.

GWELEDIGAETH ANTUR WAUNFAWR

Gweledigaeth Antur Waunfawr yw galluogi pobl ag anableddau dysgu i integreiddio i’r gymuned leol a chyflawni gwaith ‘go iawn’ gyda phwrpas: Rydym yn Fenter Gymdeithasol flaenllaw sydd yn cynnig cyfleoedd iechyd a llesiant, hyfforddiant a gwaith amrywiol iawn yn ei natur i unigolion ag anableddau dysgu. Yn treiddio trwy hyn oll mae’r thema cynaladwyedd sy’n greiddiol i’n gwaith. Yn ogystal â chynnig cyfleoedd gwaith i’n hunigolion, mae gan yr Antur nifer o fusnesau llewyrchus, a chaiff yr holl elw ei ail fuddsoddi yn y gwasanaeth i unigolion efo anableddau dysgu ac ein cymuned leol.

Mae ein nod o integreiddio pobl ag anableddau dysgu i’r gymuned ym mhob agwedd bosib - boed yn waith neu weithgareddau cymdeithasol, yn rhinwedd sydd yr un mor bwysig heddiw ag yr oedd pan sefydlwyd yr Antur.

YMATEB I ARGYFWNG COFID-19:

Prif flaenoriaeth yr Antur ydi iechyd, diogelwch a llesiant yr unigolion yr ydym yn eu cefnogi. Ar ddechrau’r pandemig, yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru, addaswyd ein strwythurau a strategaethau er mwyn sicrhau cynnal gwasanaethau i unigolion efo anableddau dysgu. Adnabyddwyd flaenoriaethau a chynlluniwyd gyda’n

6

comisiynwyr i ddarparu gwasanaeth i'r unigolion mwyaf bregus ac i gyrraedd ein cwsmeriaid a phartneriaid, gan ddarparu amgylchedd diogel i unigolion a staff, ac i sicrhau parhad busnes Antur Waunfawr.

DIOGELU

Parhawyd i ddarparu gwasanaeth i unigolion preswyl, i unigolion gofal dwys yn unol â gofynion teuluol a chomisiynwyr, tra bod rhai unigolion yn cysgodi adref gyda theuluoedd a gwarchodwyr. Roedd rheolaeth lem ar fonitro symptomau, hunan ynysu, profi, olrhain achosion, darpariaeth ddigonol o PPE a chynllun ail agor.

IECHYD MEDDWL

Mae iechyd a llesiant meddyliol llawn mor bwysig ag iechyd a llesiant corfforol. Roedd yn anorfod bod y cyfyngiadau a newidiadau sylweddol i fywydau yn mynd i effeithio iechyd a lles meddyliol unigolion, teuluoedd, gwarchodwyr a staff yn ddiwahân. Roedd staff penodedig yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd gydag unigolion, teuluoedd, gwarchodwyr a staff oedd adref yn cysgodi, ac roedd yn gyfle hefyd i gynnal digwyddiadau megis bore coffi, bingo a chwis ar-lein.

Ein nod oedd darparu a chynnal y gwasanaethau gofal ac iechyd a llesiant i’r safon gorau posib o dan amgylchiadau heriol, drwy gynllunio ar gyfer anghenion yr unigolion, cynnal trafodaethau parhaus gyda’n comisiynwyr gwasanaeth a gofalwyr drwy gydol y cyfnod cysgodi ac wrth gynllunio i unigolion ddychwelyd yn ôl i'r gwasanaeth. Roedd angen sicrhau’r cydbwysedd rhwng lles iechyd corfforol a lles meddyliol, a thrwy hynny sicrhau dyfodol Antur Waunfawr fel Menter Gymdeithasol.

Cymerwyd camau bychan i groesawu ein hunigolion yn ôl yn ddiogel ac yn raddol i’r gweithle, gan addasu a pharatoi gofodau i gynnal a chefnogi’r gwasanaethau dydd.

GALAR

Gyda chalon drom, nodir colli dau unigolyn annwyl yr Antur yn ystod y cyfnod - Keith Thomas a Richard Richards. Gyda thristwch nodir hefyd bod pedwar unigolyn wedi colli rhiant yn ystod y cyfnod.

GWARCHOD EIN STAFF A’R CYHOEDD

O dan arweiniad cyson a chlir yr Uwch Dim Rheoli ac Aelodau’r Bwrdd Rheoli, fe wnaeth yr Antur:

7

Fe warchodwyd a chefnogwyd holl rhanddeiliaid yr Antur, ond yn ogystal, fe roddwyd pwyslais ar iechyd a lles meddyliol yn ystod y cyfnod yma. Fe ymrwymwyd cynlluniau llesiant, iechyd meddwl, iechyd corfforol, ac ymwybyddiaeth ofalgar i’r strategaeth led-led y Cwmni. Yn ogystal, llwyddwyd i weddnewid a thrawsnewid, gan gynnig gwasanaethau gwahanol ar gyfer y dyfodol er mwyn cynnig amrywiaeth a phrofiadau gwaith i unigolion ag anableddau dysgu.

TRI BUSNES GWYRDD

WARWS WERDD

Canolfan a siop sy’n ailgylchu ac ailddefnyddio dodrefn a dillad ydi’r Warws Werdd. Rydym yn ailddefnyddio ac ailgylchu 277 tunnell o ddillad a dodrefn y flwyddyn fel rheol.

Yn ystod 2020/21, fe ganolbwyntiwyd ar gasglu, didoli a phrosesu dillad er mwyn cynnal y gwasanaeth a’r incwm. Arallgyfeiriwyd 5.5 tunnell rhag mynd i dirlenwi, ac ailddefnyddiwyd 833 o eitemau yn ystod y cyfnod. Gwerthwyd 193 o eitemau o ddillad drwy dudalen e-bay yn ystod y cyfnod a hysbysebwyd ar ein tudalen Facebook. Oherwydd rheoliadau cofid, nid oedd yn bosibl mynd i dai i gasglu dodrefn bellach ac felly lluniwyd trefn newydd o ddefnyddio storfeydd ar safle’r Cyngor i gasglu dodrefn gan y cyhoedd. Roedd hefyd yn gyfle i beilota prosiectau newydd a gweithio yn fwy creadigol, gan greu partneriaethau strategol newydd gyda gwahanol sefydliadau.

Cynllun Tai Gwag Adra

Fe wnaethom arbed tunelledd rhag mynd i dirlenwi drwy glirio, didoli, uwchraddio ac ailgylchu gwastraff o dai i Adra.

Gwastraff Masnachol

Cynnig dodrefn fforddiadwy i deuluoedd mewn angen drwy gyd-weithio gydag:

PRIFYSGOL BANGOR:

Fe wnaethom gryfhau ein perthynas â Phrifysgol Bangor, gan gasglu eitemau diangen gan fyfyrwyr a oedd yn gadael neuadd breswyl, fel rhan o’u Hymgyrch Ailddefnyddio Diwedd Tymor.

Gan fod y siop ar gau i'r cyhoedd, roedd hyn yn golygu bod gofod ar gael i gynnal gweithgareddau iechyd a llesiant yn ddiogel gan sicrhau pellter cymdeithasol.

CAERGYLCHU

Canolfan ailgylchu ar Stad Ddiwydiannol Cibyn, Caernarfon, a sefydlwyd mewn partneriaeth â’r cyngor yn 2005 ac sy’n esiampl flaenllaw o gydweithio rhwng y ddau sector. Denwyd £1.7m o grant i Gaergylchu yn 2007. Ar gyfartaledd, rydym yn trin 970 tunnell o blastig y flwyddyn ac yn ailgylchu 332 tunnell o bapur y flwyddyn.

LLARPIO ANTUR

Gwasanaeth llarpio papur cyfrinachol, sydd wedi’i leoli yng Nghaergylchu, ac yn gwasanaethu ar hyd Gogledd Cymru i fusnesau a chartrefi, gyda dros 1200 o gwsmeriaid. Rydym yn gweithredu yn unol â gofynion rheolau GDPR. Dros gyfnod Cofid-19 gwelwyd y nifer o gwsmeriaid actif yn disgyn oherwydd bod swyddfeydd ar gau ayb, ond parhawyd i wasanaethu cwsmeriaid megis meddygfeydd, fferyllfeydd ac ysgolion.

Cafodd y pandemig effaith sylweddol ar fasnach y Cwmni. Wrth i fwyafrif o weithluoedd ein cwsmeriaid weithio o adref yn hytrach nag mewn swyddfeydd, a nifer o fusnesau ar gau, crebachwyd y gwasanaethau llarpio. Casglwyd 250 sach y mis ar ddechrau’r pandemig, o’i gymharu hefo cyfartaledd o 1,400 sach y mis yn arferol. Dros y misoedd

8

diwethaf mae’r niferoedd wedi cynyddu yn rheolaidd ac wedi sefydlogi, gyda 1,100 sach yn cael ei chasglu fis Mawrth, 2021.

BEICS ANTUR

Parhaodd y gwaith datblygu ym Mhorth yr Aur, Caernarfon dros y flwyddyn, er mwyn ailgartrefu ein busnes Beics Antur; cwblhawyd y safle mis Mai 2021.

Mae’r adeilad newydd yn ddau lawr, yn gwbl hygyrch gan gynnwys lifft a chawod ac mae Beics Antur wedi ei leoli ar y llawr gwaelod - gwasanaeth hurio, trwsio a gwasanaethu beics, beics addasedig a beics trydan. Ar y llawr cyntaf mae Llofft Llesiant, gofod stiwdio 100m2 ar gyfer pob math o weithgareddau iechyd a llesiant megis dawns, ioga a ffitrwydd. Yn ychwanegol, mae Ystafell Synhwyraidd ar y llawr cyntaf ar gyfer unigolion ag anghenion dwys neu nam ar y synhwyrau.

Ers 2017, mae Antur Waunfawr wedi buddsoddi dros £500k o gronfeydd wrth gefn yn y prosiect hwn, ac wedi sicrhau dros £500k o grantiau. Mae’r rhain yn cynnwys:

SIED WERDD

Yn dilyn derbyn grant o £300,000 yn 2018 gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu Sied Werdd mewn partneriaeth efo Cyngor Gwynedd er mwyn gwella isadeiledd a chynyddu tunelledd ailgylchu ac ailddefnyddio’r sir, derbyniwyd grant ychwanegol o £200,000 o Gronfa Economi Gylchog, Llywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol.

Penodwyd Ymgynghoriaeth Gwynedd ar gyfer y gwaith dylunio a rheoli prosiect, ac mae’r gwaith datblygu wedi bod yn dod yn ei flaen dros y flwyddyn ddiwethaf. Bydd y sied 360m2, gydag ail lawr 260m2, yn cael ei hadeiladu ar dir sydd yn eiddo i’r Antur, tu ôl i’r Warws Werdd yng Nghibyn. Bydd yr adeilad yn hygyrch, gyda lifft a chyfleusterau cymorth, ac wedi ei dylunio gan ystyried amrywiaeth eang o anghenion arbennig yn dilyn ymgynghori gydag unigolion ar y sbectrwm awtistig.

Bydd y llawr gwaelod yn cynnwys gweithdy gyda meinciau addasedig sydd yn codi i fyny ac i lawr ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn, a pheiriannau ysgafn ar gyfer unigolion gyda gwendid yn eu cyhyrau. Bydd y llawr cyntaf wedi ei rannu i 3 neu 4 uned, gyda gofodau hyblyg ar gyfer prosiectau ailgylchu ac ailddefnyddio (a fydd yn cyfrannu at nod y prosiect). Gall hwn hefyd fod yn ofod addysgiadol ar gyfer grwpiau cymunedol ac ysgolion.

CERBYDAU TRYDAN

Yn dilyn cais llwyddiannus i Gronfa Adferiad Gwyrdd, Llywodraeth Cymru, sicrhawyd grant o £106K i fuddsoddi yn ein fflyd gerbydau ar gyfer ein busnesau gwyrdd; fe brynwyd fan drydan ar gyfer Warws Werdd a Beics Antur.

SAFLE BRYN PISTYLL

CAFFI BLAS Y WAUN

Ar ein prif safle yn Waunfawr mae Caffi Blas y Waun - caffi cymunedol yn cydweithio gyda sefydliadau lleol megis ysgolion a grwpiau cymunedol. Yn ystod cyfnod Cofid-19, roedd yn rhaid cau i'r cyhoedd ac fe drawsnewidiwyd y gofod yn lleoliad i baratoi pecynnau bwyd i bobl leol y pentref a oedd yn hunan-ynysu, ac yn safle diogel i unigolion gael gweithio.

SIOP GREFFTAU

Yn ystod y pandemig, crëwyd siop a chatalog digidol ar ein gwefan, a hysbysebwyd a gwerthwyd cynnyrch a chrefftau’r Siop drwy ein tudalen Facebook. Gan fod yn rhaid cau’r siop i'r cyhoedd, roedd yn lleoliad diogel i'n hunigolion weithio ynddo yn ystod y cyfnod.

9

PARC NATUR A GERDDI

Ar safle Bryn Pistyll mae 7-erw o erddi a pharc natur, yn ogystal â maes chwarae cynhwysol. Er bod y safle wedi bod ar gau i'r cyhoedd yn ystod y cyfnod, parhaodd y tîm gerddi blannu a thyfu llysiau a ffrwythau yma, i greu cynnyrch yn y caffi a gwerthu cynnyrch a phlanhigion ar ein tudalen Facebook ac ar ein gwefan.

Yn ystod y flwyddyn, addaswyd ein maes parcio a tharmacwyd er mwyn gwneud lle pwrpasol ac addas i'r bysiau mini barcio, ac ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn. Yn ogystal, lefelwyd ac ail hadwyd cae ar gyfer cynnal gweithgareddau iechyd a llesiant yn yr awyr agored.

BRAGDY ANTUR WAUNFAWR

Mae bragdy bach ar y safle, lle mae cynnyrch lleol yn cael ei droi’n sudd afal a seidr Perllan y Fro, a’u gwerthu i'r cyhoedd. Fe ymgeisiwyd ein seidr cyrens duon a seidr afal yn y gystadleuaeth Blas Cymru 2021 yn ystod y cyfnod.

Dros gyfnod y Nadolig, gwelwyd gwerthiant o £3,500 ar ein gwefan led-led y Cwmni.

BYNGALO GWYLIAU

Dros y blynyddoedd diwethaf, yn dilyn buddsoddiad o gronfeydd Antur Waunfawr a grant Cyfenter, rydym wedi bod yn datblygu Byngalo gwyliau hygyrch, sy’n addas i unigolion gydag anableddau, a all hefyd gael ei ddefnyddio ar gyfer llety ysbaid. Cwblhawyd y prosiect yn ystod Gwanwyn 2020, a defnyddiwyd y gofod ar gyfer gwasanaeth dydd i ddarparu gofod diogel ychwanegol i unigolion ag aml-ofynion yn ystod y flwyddyn oherwydd heriau Covid 19.

CYNLLUN CARTREFI AC AML OFYNION

Rydym yn darparu gwasanaeth Cymorth Cartref o dan reoliadau Arolygiaeth Gofal Cymru ar gyfer 10 unigolyn lle darparwn gefnogaeth gofal a gofal personol sydd wedi ei deilwra ar gyfer yr unigolion yn unol â’u hanghenion. Rydym yn cynnal gwasanaeth aml-ofynion lle mae unigolion yn derbyn cefnogaeth un i un, a chyfleoedd iechyd a llesiant.

Eleni, buddsoddwyd mewn meddalwedd ‘Access Planning’ – sydd yn galluogi staff i gael mynediad i ffeiliau ar unrhyw adeg, ac yn system sy’n ei gwneud yn haws i fonitro ac addasu meddyginiaeth - gan leihau’r angen i fynd i mewn i’r tai; mantais fawr yn ystod cyfyngiadau Cofid-19. Yn ogystal, mae’r meddalwedd yn gallu cofnodi patrwm ymddygiad unigolion – a gellir gyrru adroddiadau i warchodwyr, gwasanaethau cymdeithasol a’r gwasanaeth iechyd.

RHWYDWEITHIAU STRATEGOL

PERTHYNAS AG ASIANTAETHAU ALLANOL

Mae Antur Waunfawr yn cynnig gwasanaeth i oedolion ag anableddau dysgu mewn partneriaeth, yn bennaf, ag adran Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Gwynedd, ond rydym yn gweithio efo Cynghorau Conwy ac Ynys Môn hefyd. Rhagwelwn yn ystod y blynyddoedd nesaf y bydd mwy o bwyslais ar dendro ffurfiol am wasanaethau newydd a gwasanaethau presennol. Mae’r cynghorau yn comisiynu’r gwasanaeth yn unol â’u hasesiad o angen ac rydym yn cytundebu gyda’r cynghorau i ddarparu gwahanol fathau o wasanaeth yn unol â’r asesiad. Ein nod wedyn fel menter gymdeithasol yw hyrwyddo potensial yr unigolion o ran eu gwaith ond hefyd eu datblygiad personol a’u sgiliau.

Er mewn ffordd wahanol eleni, parhawyd i gydweithio gyda swyddogion y Gwasanaethau Cymdeithasol ac Ysgol Pendalar, Ysgol Hafod Lon, Coleg Menai, Coleg Meirion Dwyfor, a Glynllifon, yn ystod y flwyddyn, er mwyn cynllunio darpariaethau ar gyfer adnoddau gwell i dderbyn unigolion gydag anghenion mwy dwys.

LLYWODRAETH CYMRU:

Gwahoddwyd Antur Waunfawr i fod yn rhan o drafodaethau gweminar a sgyrsiau ar lein hefo Aelodau Llywodraeth Cymru – Jeremy Miles, Y Gweinidog Trosglwyddo Ewropeaidd (rhwng 2018 a 2021) a Chwnsler Cyffredinol Cymru (rhwng 2018 a 2021), a Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth (rhwng 2018 a 2021).

10

CYNGOR CYDWEITHREDOL CYMRU:

Cyfrannodd Menna at lansiad y Cynllun Gweledigaeth a Gweithredu ar gyfer mentrau cymdeithasol yng Nghymru

ADRA:

Yn sgil y newid yn y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, golygai nad oeddem mwyach yn gallu parhau i fod yn landlordiaid yn ogystal â darparu gofal personol i’n tenantiaid. Yr opsiwn gorau er lles ein tenantiaid oedd creu partneriaeth gyda chymdeithas tai Adra, sydd yn golygu mai Adra sydd bellach yn landlordiaid ar ein tai.

Yn ychwanegol, adolygwyd swydd ddisgrifiad y Brif Weithredwraig i gydymffurfio â gofynion y Rheoliadau – Menna Jones yw’r Person Cyfrifol nawr ar gyfer y cwmni. Mae’r Ddeddf yn cefnogi nodau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, sy’n diogelu hawliau unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth mewn cyfraith.

COLEG LLANDRILLO MENAI A GYRFA CYMRU:

Gyda digwyddiadau ‘byw’ wedi’u canslo oherwydd y firws, mi roedd y galw i bresenoli drwy ffurf fideo wedi cynyddu’n sylweddol dros y cyfnod. Fe gynhyrchwyd sawl fideo ar gyfer ddigwyddiadau, yn cynnwys fideo ‘Gweithio i’r Antur’ i fyfyrwyr Iechyd a Gofal Coleg Llandrillo Menai a Gyrfa Cymru.

RHEOLI RISG

HAP-WIRIAD GWEITHREDIAETH IECHYD A DIOGELWCH

Fel cyflogwr, mae’n gyfrifoldeb arnom i amddiffyn pobl rhag niwed. Mae hyn yn cynnwys cymryd camau rhesymol i amddiffyn ein gweithwyr ac eraill rhag Cofid-19.

Cafodd yr Antur archwiliad dros y ffôn yn ystod y pandemig gan Y Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch (HSE). Yn ystod yr archwiliad, fe:

Roeddent yn fodlon hefo’r atebion ac nid oedd angen archwiliad pellach ganddynt yn dilyn y sgwrs.

ARCHWILIAD ISO 14001 ac ISO 9001

Llwyddwyd i gynnal yr Achrediad ISO 14001 a’r Achrediad ISO 9001 unwaith eto yn dilyn proses fanwl a thrylwyr rhannol-rhithiol a gwaith gwirio mewnol. Mae’r gweithredu ar y broses a’r systemau cysylltiedig yn fuddiol i ni wrth ymgeisio am gytundebau a thendrau i’r dyfodol.

Mi roedd cydweithio rhagorol wedi bod rhwng y Rheolwyr, a’r adran Adnoddau Dynol - a’r canlyniad oedd cydymffurfiaeth lawn, ac adroddiad teilwng dros ben.

BS EN 15713 GWASANAETH LLARPIO

Roedd y gwasanaeth llarpio yn llwyddiannus yn cael yr achrediad BS EN 15713 fis Mawrth 2021 a bydd yn cryfhau ein systemau gweithio yn ogystal ȃ gallu ymgeisio am gytundebau a thendrau newydd. Ychydig iawn o waith ychwanegol oedd ei angen ar gyfer yr achrediad yma gan fod y gwasanaeth llarpio eisoes yn gweithio i’r safon.

DENU A DATBLYGU POBL

Mae’r Uwch-reolwraig Adnoddau Dynol yn aelod siartredig o’r corff CIPD ac wedi cymhwyso ar lefel uwch mewn Cyfraith Cyflogaeth i roi cyngor ac arweiniad ar faterion adnoddau dynol ar draws y corff, mae hi hefyd wedi

11

cwblhau cwrs Adnabod a Delio gyda Gwahaniaethu yn y Gweithle. Rydym yn defnyddio cyfreithiwr lleol i ddarparu cefnogaeth pan mae angen.

Wrth gymryd i ystyriaeth yr hinsawdd economaidd anodd mae cyflogwyr yn eu hwynebu, mae’r Uwch Reolwraig Adnoddau Dynol yn falch o adrodd ein bod eto eleni wedi llwyddo i gynnal yr adnoddau staff angenrheidiol ac wedi cydymffurfio efo holl ofynion gyfraith cyflogaeth. Drwy reoli ein hadnoddau rydym wedi llwyddo i gynnal safon ein gwasanaethau a chynllunio ar gyfer unigolion newydd yn ein gwasanaethau dydd a phreswyl.

Er mwyn sicrhau effeithlonrwydd y cwmni yn ystod y pandemig, roedd yn rhaid sicrhau effeithiolrwydd strwythurau staffio. Ers mis Mawrth 2020, mae’r Uwch Dim Rheoli wedi craffu’r strwythur rheolaethol er mwyn sicrhau eu bod yn gyfoes a phwrpasol ac yn ateb gofynion ein gwasanaethau gofal a masnachol. Yn ogystal, fe gwblhawyd adlewyrchiad blynyddol mewnol y Cwmni eto eleni, gan lunio amcanion a nodau ar gyfer yr adrannau i gyd am y flwyddyn nesaf.

Yn ystod y cyfnod heriol, fe leihawyd nifer ein staff o 101 i 89 yn sgil staff yn penderfynu ein gadael oherwydd gofynion iechyd neu resymau eraill, megis datblygu gyrfaoedd; penderfynwyd adolygu’r strwythur staffio mewn ymateb i’r newidiadau yma.

Penderfynwyd gwobrwyo ymroddiad ein staff a chefnogi’r staff sydd yn arbenigo mewn darparu gofal ar sawl lefel i’n hunigolion ag anableddau dysgu yn y maes gofal. Rhoddwyd blaenoriaeth ar ddatblygu cryfderau a gyrfaoedd, rhoi cyfrifoldebau newydd i staff, rhoi clod i gyrhaeddiad ein staff a chynllunio’n strategol, gan roi pwyslais ar fentora, magu, a chadw staff. Mae’r strwythur newydd yn creu llwybr gyrfa i’n gweithwyr cefnogol, a chodiad cyflog i’r rhai a lwyddodd i ateb gofynion y meini prawf uwch. Bwriad y strwythur newydd yw magu hyder, datblygu sgiliau a chymwysterau ac annog ein staff i ymgeisio am swyddi uwch.

Mae staff yr Antur yn ystod y cyfnod Cofid-19 wedi dangos ymroddiad cryf i waith yr Antur ac mae’r Bwrdd Rheoli a’r Uwch Dim yn ddiolchgar iawn o hyn.

STAFF NEWYDD

Rhwng 1 Ebrill 2020 a 31 Mawrth 2021 fe benodwyd 8 aelod newydd o staff ar draws y cwmni.

HYFFORDDIANT

Mae gan yr Antur raglen Hyfforddiant a Datblygiad cynhwysfawr sydd yn ateb gofynion ein gwasanaethau ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu, gan sicrhau ein bod yn cadw i safonau megis Arolygiaeth Gofal Cymru a Gwasanaethau Cymdeithasol, Cyngor Gwynedd, Ynys Môn a Conwy. Rydym yn sicrhau bod gofynion hyfforddiant yn gyfredol ac yn cofrestru ein gweithwyr cefnogol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ac maent yn mynychu ein fframwaith gofal.

Oherwydd Cofid-19 bu’r cyfnod yn heriol iawn o ran gallu hyfforddi staff a chadw ar ben diweddaru hyfforddiant. Llwyddwyd i symud i ddysgu ar lein er mwyn diweddaru hyfforddiant mandadol staff fel datrysiad dros dro.

PROFIADAU GWAITH

Ni fu unrhyw brofiadau gwaith yn ystod y cyfnod hwn oherwydd y sefyllfa Cofid-19. Oherwydd natur y gwasanaeth roedd yn bwysig canolbwyntio ar gadw ein hunigolion yn saff. Rydym yn adolygu profiadau gwaith yn rheolaidd yn ein Gweithgor Iechyd a Diogelwch a gobeithir gallu ailgychwyn profiadau gwaith i fyfyrwyr a disgyblion dros y misoedd nesaf.

UNIGOLION ANTUR WAUNFAWR

Daw'r mwyafrif o unigolion sydd yn derbyn gwasanaeth o Ogledd Gwynedd ond cyfeirir rhai atom gan gynghorau eraill cyfagos. Mae ein gallu i gynnig cytundebau gwasanaeth neu gartrefi i bobl yn dibynnu ar allu’r asiantaethau statudol i gynnig cytundebau gwasanaeth gofal a llesiant ar eu cyfer. Byddwn yn cyd-weithio gyda’r asiantaethau hyn ar bob achlysur, ac yn ymdrechu yn rhagweithiol i sicrhau cyfleoedd addas i bob person sy’n cael ei gyfeirio

12

atom, ac i sicrhau adnoddau teg i roi’r gwasanaeth gorau posib i’n defnyddwyr. Mae mwy o deuluoedd yn hunan gyfeirio erbyn hyn ac mae Antur Waunfawr yn eu cynghori i ymgysylltu a chyd-drafod gwasanaeth posib efo’r gwasanaethau cymdeithasol perthnasol.

ADOLYGIAD CYLLIDOL

Fe’n gorfodwyd i drawsnewid y gwasanaeth yn llwyr ar fyrder a gweithredu’n dra gwahanol ar hyd y flwyddyn er mwyn sicrhau cynnal y gwasanaeth; roedd ymroddiad a gofal ein staff o ran eu cefnogaeth mewn cyfnod tu hwnt o heriol yn allweddol. Cydnabyddodd Aelodau’r Bwrdd fod staff yr Antur wedi diogelu bywydau ac wedi gweithio mor galed i roi cefnogaeth ddiffuant yn ystod y cyfnod a phenderfynwyd rhoi cydnabyddiaeth ariannol o £500 i’r holl staff a oedd wedi bod yn cefnogi neu’n darparu gofal personol. Roedd y swm yma yn ychwanegol i daliadau’r Llywodraeth ar gyfer staff gofal.

RHODDION

Sefydlwyd ein cyfrif PayPal gyda statws ‘elusen’ fel bod posibl gwerthu eitemau heb orfod talu ffioedd gwerthu, a hefyd posib codi arian drwy ddefnyddio botwm ‘PayPal Donate’ drwy system ‘PayPal Giving’. Golygai hyn ei fod bellach yn haws nag erioed i bobl roddi arian i’r Antur, drwy ddull digidol.

PRIF FFYNONELLAU INCWM

Prif ffynhonnell incwm y cwmni yw Incwm Cytundebol o’r Awdurdodau Lleol trwy’r Adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol. Yn ogystal mae’r Cwmni yn rhan o bartneriaeth Caergylchu gyda Chyngor Gwynedd a chytundebir gyda’r Cyngor am y gwaith hwn. Mae incwm masnachol o werthu gwasanaeth i gwmnïau ac unigolion, a chynnyrch Antur Waunfawr, yn dod ag incwm hollbwysig i’r Antur.

DENU GRANTIAU A CHRONFEYDD NEWYDD

Yn ystod y flwyddyn, llwyddwyd i sicrhau’r grantiau canlynol:

Mae’r ffigyrau ariannol yn dangos bod Antur wedi gwneud elw sylweddol hyd at 31 Mawrth 2021 o £468,953 gyda £259,331 or elw yma yn gyfynedig. Mae hyn yn gadael elw o £209,622 sydd yn anghyfynedig ac ar gael i wario er lles Antur fel y bod angen. Mae’r ffigwr yma yn cynnwys £132,436 o grantiau amrywiol tug at gymorth gyda Cofid a £47,207 o incwm cynllun cadw swyddi. Heb y cymorth yma fe fyddai Antur wedi gwneud elw anghyfynedig o £29,979 am y flwyddyn, i gymharu gyda elw o £184,842 y flwyddyn ariannol cynt.

POLISI ARIAN WRTH GEFN

Mae’n bolisi gan y Cwmni i gadw cronfa anghyfyngedig fechan, gan eithrio cronfeydd dynodedig o eiddo’r Elusen sydd wedi eu neilltuo yn benodol. Penderfynodd y Bwrdd adolygu’r polisi yn rheolaidd (gan gymryd i ystyriaeth asedau cynyddol y Cwmni) fel bod yna arian i gynnal costau gwasanaethu amcanion yr elusen am gyfnod, ac i gynnal costau rheoli a gweinyddu, a hefyd digon i ymateb i unrhyw gais brys. Dros y 6 mlynedd diwethaf mae’r Cwmni wedi sicrhau bod yna lleiafswm o 3 mis o gyflog wedi ei gadw wrth gefn ar gyfer unrhyw heriau annisgwyl. Mae hyn yn unol â chanllawiau ymarfer da’r Comisiwn Elusennau ac yn cwrdd ag amcanion y Cod Llywodraethu. Mae’r Cwmni hefyd yn ymwybodol bod angen buddsoddi yn adeiladau a safleoedd y Cwmni er mwyn sicrhau cynaladwyedd yr Antur i’r dyfodol.

13

IAITH A DIWYLLIANT

Cymraeg yw iaith weinyddol fewnol y cwmni a Chymraeg yw iaith weinyddol y prosiectau sydd wedi eu sefydlu, ac rydym yn anelu bob amser i fod yn gyflogwr rhagorol a blaengar, a hybu’r iaith, diwylliant a’r economi leol.

Byddwn yn parhau i weithredu a chynllunio’n gynaliadwy ar gyfer y dyfodol, yn unol â nod ‘Miliwn o Siaradwyr Cymraeg’ Llywodraeth Cymru, gan fod yn rhagweithiol o ran defnyddio a hybu’r Gymraeg. Fel menter gymdeithasol bydd Antur Waunfawr yn cyfarch anghenion cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol y gymuned leol– a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg neu ddewis iaith yr unigolyn, ac mewn partneriaeth.

MARCHNATA, YMGYSYLLTU A CHYHOEDDUSRWYDD

Mi wnaeth y Swyddog Marchnata barhau i weithredu’r strategaeth marchnata a chyrraedd y nodau a amlinellwyd yn y strategaeth.

Mae’r wefan yn parhau i gyfrannu at dwf presenoldeb ar-lein y cwmni a hefyd yn adrodd ein newyddion diweddaraf.

Mae twf wedi bod ar gyfrifon Twitter, Facebook ac Instagram Antur Waunfawr unwaith eto. Mae ein cyfryngau cymdeithasol nawr â chyfanswm dilyniant o 12,355, sydd yn gynnydd o 1,008 ers 2019-20. Mae hysbysebion taladwy eisoes yn cael ei ddefnyddio ar dudalennau Facebook ac Instagram y Cwmni, ar gyfer hyrwyddo digwyddiadau a swyddi, ac mae'r rhain wedi profi’n hysbysebion llwyddiannus i’r cwmni.

Y DYFODOL

IECHYD A LLESIANT

Mae nifer o gynlluniau gan yr Antur ar y gweill ar gyfer y blynyddoedd nesaf a byddwn yn adolygu’r blaenoriaethau yn ddibynnol ar yr hinsawdd allanol;

• Cwblhau ac agor prosiect Beics Antur mewn cydweithrediad â phartneriaid a mudiadau yng Nghaernarfon, er mwyn creu busnes llewyrchus a defnyddiol i bobl ag anableddau, yn ogystal â’r cyhoedd ac ymwelwyr er mwyn iddynt deithio’n wyrdd yn lleol a chael cyfleoedd hamdden newydd

• Addasu strwythurau, gweithleoedd, a safleoedd, a datblygu prosiectau newydd yn Waunfawr a Caernarfon mewn modd cynaliadwy: Ein nod yw gwella ein darpariaeth, y cyfleoedd gwaith a busnes, ynghyd â safon ein hadeiladau, a grymuso Antur Waunfawr i fod yn fwy cystadleuol a chynaliadwy yn y dyfodol

• Dehongli a gweithredu’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol a’r Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 gan ymgorffori egwyddorion ac ysbryd y Deddfau yn ein gweithgaredd a’n busnes

• Datblygu diwylliant rhagweithiol o osod allbynnau penodol trwy ‘Cefnogaeth Weithgar’ a mesur canlyniadau ar gyfer ein gweithwyr efo anableddau dysgu - sy’n hybu annibyniaeth a sgiliau. Gall hyn olygu addasu a newid gweithgareddau a rhaglenni gwaith er mwyn uchafu ymdrechion a phrofiadau gweithwyr

• Datblygu’n rôl o gydweithio mewn modd strategol gyda mentrau eraill mewn fforymau neu gonsortiwm i uchafu’r cyfleoedd i fentrau cymdeithasol Gogledd Cymru a gwasanaethau i’r boblogaeth leol yn sgil hynny

14

• Parhau i weithredu ar Strategaeth Marchnata’r Cwmni, ac ystyried y posibilrwydd o ail-frandio

• Parhau i gynyddu gweithgaredd ac incwm o’r banciau ailgylchu dillad yn y gymuned ac uchafu’r cyfleoedd ailddefnyddio gydag adnodd newydd y Sied Werdd

• Parhau i ddatblygu’r gwasanaethau ailgylchu i adeiladu a diogelu’r busnes presennol gyda’r adnoddau Datblygu Busnes

• Parhau i gadw rheolaeth dynn ar reoliadau Cofid-19, gan ddiogelu ein hunigolion a’n staff a sicrhau bod y gweithle yn le diogel i bawb

• Parhau i gynnal trafodaethau gyda'n comisiynwyr a gofalwyr er mwyn ail integreiddio unigolion sydd wedi bod yn cysgodi yn ôl i mewn i'r gwasanaeth yn ddiogel

DIWEDDGLO

Rydym yn esiampl o Fenter sy’n arwain y ffordd ac yn arfer da – rydym yn ddiolchgar iawn i’r bobl sy’n cefnogi ein prosiectau ar sail ein henw da – gan obeithio fod yr adroddiad yma yn dyst i waith graenus yr Antur.

Mae’r Brif Weithredwraig a’i staff yn gweithio’n barhaus i gynnal safonau ac amrywiaeth o gyfleoedd trwy’r prosiectau a’r busnesau a reolir, ac i gydymffurfio a’r rheoliadau a’r ddeddfwriaeth berthnasol. Hefo’r cyfyngiad ariannol sy’n taro, rydym angen parhau i weithredu gyda rheolaeth dynn, adolygu’r cyllidebau’n ofalus, dethol gwasanaethau a chynllunio’n greadigol. Yn sicr, bydd y Cwmni yn parhau i ddarparu gofal, hyfforddiant a gwaith perthnasol a deniadol i bobl ag anableddau dysgu, a bydd yn parhau i ddarparu cartrefi o ansawdd uchel i’r tenantiaid mewn amgylchedd iach a hapus. Fodd bynnag, rhagdybiwn y bydd yna newidiadau sylweddol yn deillio o drefniadau comisiynu’r gwasanaeth trwy’r cynghorau, gyda phwyslais ar ddeilliannau a chanlyniadau penodol, tra bo’r cyllid yn cael ei gwtogi.

Nod Antur Waunfawr yw parhau i oroesi trwy fod yn gystadleuol ac effeithiol fel menter gymdeithasol, tra hefyd yn canolbwyntio ar ein gwerthoedd, iechyd a llesiant a’n nodau ac amcanion.

15

CYFRIFOLDEBAU YR YMDDIRIEDOLWYR MEWN CYSYLLTIAD A’R DATGANIADAU ARIANNOL

Yr ymddiriedolwyr sydd yn gyfrifol am baratoi yr adroddiad blynyddol a’r datganiadau ariannol yn unol a chyfraith perthnasol ac Arferiad Cyfrifeg Safonol Cyffredinol y Deyrnas Unedig (UK GAAP).

Mae’n ofynnol dan y Ddeddf Cwmnïau i’r ymddiriedolwyr baratoi datganiadau ariannol sydd yn rhoi golwg wir a theg o amgylchiadau yr elusen ar ddiwedd y flwyddyn ariannol am y gweddill neu ddiffyg yn y flwyddyn ariannol. Wrth baratoi’r datganiadau ariannol mae’n ofynnol ar yr ymddiriedolwyr i:

  1. ddefnyddio a chymhwyso yn gyson bolisïau cyfrifyddol addas;

  2. gwneud dyfarniadau ac amcangyfrifon rhesymol a phwyllog; a

  3. pharatoi’r datganiadau ariannol ar sail busnes byw os nad yw’n anaddas i ystyried bydd yr elusen yn parhau mewn busnes.

Mae’r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am sicrhau fod trefniadau wedi eu gwneud i gynnal cofnodion cyfrifyddol sydd yn datgan sefyllfa ariannol yr elusen yn rhesymol fanwl ac sydd yn eu galluogi i’r datganiadau ariannol gydymffurfio â Deddf Cwmnïau 2006. Mae’r ymddiriedolwyr hefyd yn gyfrifol am ddiogelu asedau’r elusen, ac i sicrhau y gwneir darpariaethau i atal a darganfod twyll ac afreoleidd-dra arall.

Datganiad yr Ymddiriedolwyr Ynglyn a Datgelu Gwybodaeth i’r Archwiliwr

Mae’r ymddiriedolwyr yn cadarnhau cyn belled ac maent yn ymwybodol, nad oes dim gwybodaeth perthnasol nad yw archwiliwr yr elusen yn ymwybodol ohonno. Maent wedi cymeryd pob cam y dylent fel ymddiriedolwyr i wneud eu hunain yn ymwybodol o unrhyw wybodaeth archwilio perthnasol ac i sicrhau fod archwiliwr yr elusen yn ymwybodol o’r wybodaeth.

Ymddiriedolwr Awdurdodedig: Mr Rhys Evans – Cadeirydd y Bwrdd

Cafodd yr Adroddiad ei chymeradwyo

Llofnod: Rhys Evans

Mr Rhys Evans – Cadeirydd

Dyddiad: 20 Fedi 2021

16

Adroddiad yr Archwiliwr Annibynnol i Aelodau Antur Waunfawr

Barn

Yr ydym wedi archwilio datganiadau ariannol Antur Waunfawr am y flwyddyn hyd 31 Mawrth 2021 sydd yn cynnwys y datganiad o weithredoedd ariannol, y fantolen, y datganiad ynghylch llif arian a’r nodiadau i’r datganiadau ariannol, gan gynnwys crynodeb o’r polisïau cyfrifo sylweddol. Y fframwaith adrodd ariannol a ddefnyddiwyd i baratoi y datganiadau ariannol yw cyfraith cymwys a Safonau Cyfrifo y Deyrnas Unedig, gan gynnwys FRS 102, , 'Y Safon Adrodd Ariannol sy'n gymwys yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon' (Arferiad Cyfrifeg Safonol Cyffredinol y Deyrnas Unedig).

Yn ein barn mae’r datganiadau ariannol yn:

Sail ein barn

Rydym wedi cynnel ein archwiliad yn unol â Safonau Archwilio Rhyngwladol (DU) (ISAs (DU)) a chyfraith cymwys. Disgrifir ein cyfrifoldebau dan y safonau hynny ymhellach yn adran cyfrifoldebau’r archwiliwr am archwiliad o’r datganiadau ariannol o’n hadroddiad. Rydym yn annibynnol o’r cwmni yn unol â’r anghenion ethegol sydd yn gymwys i’n archwiliad o’r datganiadau ariannol yn y DU, gan gynnwys Safonau Ethegol yr FRC ac rydym wedi cyflawni ein cyfrifoldebau ethegol eraill yn unol â’r gofynion hynny. Rydym yn credu fod y tystiolaeth archwilio a gawsom yn ddigonol a chymwys i baratoi sail i’n barn.

Canlyniadau ynglŷn a busnes byw

Nid oes gennym unrhyw beth i’w adrodd mewn perthynas â’r materion canlynol ble mae’r ISAs (DU) yn ei gwneud yn ofynnol i ni roi gwybod i chwi lle:

Gwybodaeth arall

Yr ymddiriedolwyr sydd yn gyfrifol am y gwybodaeth arall. Mae’r wybodaeth arall yn cynnwys yr wybodaeth gynwysiedig yn yr adroddiad blynyddol, heblaw am y datganiadau ariannol a’n hadroddiad ni fel archwiliwr arnynt. Nid yw ein barn ar y datganiadau ariannol yn cwmpasu’r wybodaeth arall ac, heblaw i’r helaeth fod wedi ei nodi’n benodol yn ein hadroddiad, nid ydym yn datgan unrhyw ganlyniadau o sicrwydd arno.

Mewn cysylltiad â’n harchwiliad o’r datganiadau ariannol, mae gennym gyfrifoldeb i ddarllen yr wyboadaeth arall ac, wrth wneud hynny, ystyried os oes anghysondeb sylweddol rhwng yr wybodaeth arall a’r datganiadau ariannol neu’r wybodaeth a gawsom yn ystod yr archwiliad neu sydd fel arall yn ymddangos yn sylweddol anghywir. Os daw yn ymwybodol o unrhyw gamfynegiant sylweddol ymddangosiadol neu anghysondebau, mae’n ofynnol arnom i benderfynu os oes camddatganiad sylweddol yn y datganiadau ariannol neu gamddatganiad sylweddol yn yr wybodaeth arall. Os down i gasgliad , ar sail y gwaith a gwblhawyd fod camddatganiad sylweddol yn yr wybodaeth ychwanegol yma, mae’n ofynnol arnom i ymadrodd y ffaith.

Nid oes gennym ddim i ymadrodd mewn cyswllt â hyn.

17

Barn ar faterion eraill a benodwyd gan Ddeddf Cwmniau 2006

Yn ein barn, yn seiliedig ar y gwaith a ymgymerwyd yng nghwrs yr archwiliad:

Materion yr ydym angen datgan arnynt trwy eithriad

Yn sgil yr wybodaeth a dealltwriaeth y cwmni a’i amgylchedd a gafwyd yn ystod ein harchwiliad, nid ydym wedi adnabod camfynegiant sylweddol yn adroddiad yr ymddiriedolwyr.

Nid oes gennym ddim i ddatgan ynglyn â’r materion canlynol lle mae Deddf Cwmniau 2006 yn gofyn i ni ddatgan i chwi os, yn ein barn:

Cyfrifoldebau'r ymddiriedolwyr

Fel yr eglurir yn llawnach yn y datganiad o gyfrifoldebau’r ymddiriedolwyr, yr ymddiriedolwyr (sydd hefyd yn gyfarwyddwyr y cwmni elusennol at bwrpas deddf cwmnïau) sydd yn gyfrifol am baratoi y datganiadau ariannol ac am foddhau eu hunain eu bod yn rhoi golwg wir a theg ac am y rheolau mewnol mae’r ymddiriedolwyr yn cysidro’n angenrheidiol i alluogi paratoad o ddatganiadau ariannol sydd yn rhydd o gamosodiad sylweddol, boed hynny yn deillio o dwyll neu gamgymeriad.

Wrth baratoi y datganiadau ariannol, mae’r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am asesu gallu’r cwmni elusennol i barhau fel busnes byw, gan ddatgelu, fel yn gymwys, materion perthnasol i allu’r busnes i barhau a defnyddio y sail busnes byw o gyfrifo os nad yw’r ymddiriedolwyr un ai wedi penderfynu i gau y cwmni neu roi gorau i weithredu, neu heb fod gyda dewis rhesymol ond i wneud hynny.

Cyfrifoldeb yr archwiliwr am archwilio’r datganiadau ariannol

Ein amcanion yw i dderbyn sicrwydd rhesymol fod y datganiadau ariannol ar y cyfan yn rhydd o gamddatganiad sylweddol, boed hynny wedi ei achosi drwy dwyll neu gamgymeriad, ac i gyhoeddi adroddiad archwiliwr sydd yn cynnwys ein barn. Mae sicrwydd rhesymol yn lefel uchaf o sicrwydd, ond nid yn gwarantu y buasai archwiliad wedi ei chynnal yn unol ag ISAs (DU) yn darganfod camddatganiad sylweddol, os yw yn bod pob adeg. Gall camosodiadau godi o dwyll neu gamgymeriad, a byddent yn cael eu cysidro yn sylweddol os, yn unigol neu gyda’i gilydd, y buasai’n rhesymol i ddisgwyl iddynt effeithio dewisiadau economaidd defnyddwyr a gymerir ar sail y datganiadau yma.

Mae afreolaidd-dra, gan gynnwys twyll, yn achosion o ddiffyg cydymffurfio â deddfau a rheoliadau. Rydym yn dylunio gweithdrefnau yn unol â’n cyfrifoldebau, a amlinellir uchod, i ganfod camddatganiadau perthnasol mewn perthynas ag afreolaidd-dra, gan gynnwys twyll. Manylir isod i ba raddau y mae ein gweithdrefnau’n gallu canfod afreolaidd-dra, gan gynnwys twyll:

18

Gwnaethom asesu tueddiad datganiadau ariannol y cwmni i gamddatganiad perthnasol, gan gynnwys cael dealltwriaeth o sut y gallai twyll ddigwydd, trwy:

Er mwyn mynd i’r afael â’r risg o dwyll trwy ragfarn rheoli a diystyru rheolaethau, rydym yn:

Mewn ymateb i’r risg o afreolaidd-dra a diffyg cydymffurfio â deddfau a rheoliadau, gwnaethom ddylunio gweithdrefnau a oedd yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

Mae cyfyngiadau cynhenid yn ein gweithdrefnau archwilio a ddisgrifir uchod. Po fwyaf y caiff deddfau a rheoliadau eu dileu o drafodion ariannol, y lleiaf tebygol yw y byddem yn dod yn ymwybodol o ddiffyg cydymffurfio. Mae safonau archwilio hefyd yn cyfyngu’r gweithdrefnau archwilio sydd yn ofynnol i nodi diffyg cydymffurfio â deddfau a rheoliadau i ymholi’r cyfarwyddwyr a rheolwyr eraill ac archwilio gohebiaeth reoleiddiol a chyfreithiol, os o gwbl. Gall fod yn anoddach canfod camddatganiadau materol sydd yn codi oherwydd twyll na’r rhai sydd yn codi o gamgymeriad oherwydd gallent gynnwys cuddio neu gydgynllwynio yn fwriadol.

Fel rhan o archwiliad a ymgymerir yn unol ag ISAs (DU), rydym yn ymarfer barn proffesiynol a chynnal amheuaeth broffesiynol trwy gydol yr archwiliad, rydym hefyd yn:

19

neu amgylchiadau a all godi amheuaeth sylweddol ar allu‘r cwmni elusennol i barhau fel uned byw. Os y down i gasgliad fod ansicrwydd sylweddol yn bod, mae’n ofynnol arnom i dynnu sylw, yn ein adroddiad archwiliwr i’r datgeliadau perthnasol yn y datganiadau ariannol neu, os nad yw’r datgeliadau yn ddigonol, i addasu ein barn. Mae ein casgliadau yn seiliedig ar y tystiolaeth archwilio a dderbyniwyd hyd at dyddiad adroddiad yr archwiliwr. Er hynny, gall digwyddiadau neu amgylchiadau yn y dyfodol achosi’r cwmni i beidio parhau fel busnes byw.

Rydym yn cyfathrebu gyda’r rhai sydd yn gyfrifol am lywodraethu ynglŷn, ymysg materion eraill, paratoi cwmpas ac amseru yr archwiliad a darganfyddiadau sylweddol yr archwiliad, gan gynnwys unrhyw wendidau sylfaenol mewn rheolaeth ariannol a ddarganfuwyd gennym yn ystod ein harchwiliad.

Defnyddio ein adroddiad

Mae’r adroddiad hwn wedi ei wneud i aelodau’r cwmni elusennol yn unig, fel corff, yn unol â Phennod 3 o Adran 16 Deddf Cwmnïau 2006. Rydym wedi ymgymryd a’r gwaith archwilio fel y gallwn adrodd i aelodau’r cwmni elusennol ar y materion hynny y mae’n ofynnol i ni adrodd arnynt mewn adroddiad yr archwiliwr ac i ddim pwrpas arall. Hyd at eithaf â ganiateir trwy gyfraith, nid ydym yn derbyn na chymryd cyfrifoldeb i unrhyw un heblaw y cwmni elusennol ac aelodau’r cwmni elusennol fel corff, am ein gwaith archwilio, am yr adroddiad hwn, nac am y farn yr ydym wedi ei ffurfio.

W J Matthews a’i fab

David Chidley (Prif archwiliwr statudol) Dros ac ar ran W J Matthews a’i Fab, Archwiliwr Statudol a Chyfrifwyr Siartredig, 11-15 Y Bont Bridd, CAERNARFON Ll55 1AB Dyddiad: 20 Fedi 2021

20

Antur Waunfawr

Datganiad o weithredoedd ariannol (yn cynnwys Cyfrif Incwm a Gwariant) am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2021

Holl Holl
Gronfeydd Gronfeydd
Cronfeydd Cronfeydd 31 Mawrth 31 Mawrth
Nodiadau Anghyfyngedig Cyfyngedig 2021 2020
£ £ £ £
Incwm
Rhoddion
Rhoddion a grantiau 3 3,105 7,103 10,208 6,045
Grant Cyfalaf – Porth Yr Aur - 168,624 168,624 290,375
Grant Cyfalaf – Adferiad Gwyrdd - 102,685 102,685 -
Incwm o weithgareddau elusennol:
Incwm Safle a Chynllun Cartrefu 4 1,630,825 324 1,631,149 1,763,887
Incwm Warws Werdd 4 317,438 - 317,438 366,991
Incwm Caer Gylchu 4 519,177 - 519,177 574,127
Incwm Beics Menai 4 30,242 5,278 35,520 60,744
Elw ar werthu ased sefydlog 145 - 145 750
Llog 21 - 21 1,355
Incwm arall - 2,442 2,442 4,173
Cynllun Cadw Swyddi 47,207 - 47,207 -
Grantiau Covid 132,436 - 132,436 -
_ _ _ __
Cyfanswm incwm £2,680,596 £286,456 £2,967,052 £3,068,447
_ _ _ __
Gwariant
Gweithgareddau elusennol 5 2,470,974 27,125 2,498,099 2,622,506
Colled ar ail-brisio asedau - - - 549,330
_ _ _ __
Cyfanswm gwariant £2,470,974 £27,125 £2,498,099 £3,171,836
_ _ _ __
Cyfanswm adnoddau a ddefnyddiwyd cyn
enillion/colledion eraill a gydnabyddir 209,622 259,331 468,953 (103,389)
Enillion a cholledion eraill a gydnabyddir
Colledion yn erbyn cronfa ail-brisio - - - (220,563)
Symudiad net
mewn cronfeydd am y flwyddyn 209,622 259,331 468,953 (323,952)
Cronfeydd ar 1af Ebrill 2020 3,623,748 710,981 4,334,729 4,658,681
_ _ _ _
Cronfeydd ar 31ain Mawrth 2021 £3,833,370 £970,312 £4,803,682 £4,334,729
======= ======= ======= =======

Mae’r canlyniadau uchod yn deillio i gyd o weithgareddau sydd yn parhau.

21

Antur Waunfawr

Mantolenar 31ain Mawrth 2021
(Rhif Cofrestru’r Cwmni: 1832813)
2021 2020
Nodiadau £ £
Buddiannau Sefydlog
Buddiannau sefydlog dirweddol 12 3,863,325 3,137,622
Buddiannau cyfredol
Stoc 13 11,124 7,582
Dyledwyr 14 253,227 366,783
Arian mewn banc ac mewn llaw 949,097 1,288,033
_ __
1,213,448 1,662,398
Credydwyr: symiau yn ddyledus o fewn blwyddyn 15 230,172 409,352
_ __
Asedau cyfredol net 983,276 1,253,046
__ __
Cyfanswm asedau llai rhwymedigaethau cyfredol 4,846,601 4,390,668
Credydwyr: symiau yn ddyledus ar ôl blwyddyn 16 42,919 55,939
__ __
Asedau Net £4,803,682 £4,334,729
======= ========
Cronfeydd
Cronfeydd Incwm
Cronfeydd anghyfyngedig 20 3,833,370 3,623,748
Cronfeydd cyfyngedig 20 970,312 710,981
_ __
£4,803,682 £4,334,729
======= =======

Mr Rhys Evans .......................................................

Mr Rhys Evans (Cyfarwyddwr)

Dyddiad : 20 Fedi 2021

22

Antur Waunfawr

Datganiad ynghylch llif arian am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2021

Nodyn 2021 2010
£ £
Llif arian net o weithgareddau gweithredol 18 434,234 443,104
_ _
Llif arian o weithgareddau buddsoddi
Llog a dderbyniwyd 21 1,355
Derbyniadau o werthiant asedau sefydlog 145 750
Prynu asedau sefydlog 12 (760,316) (454,462)
_ _
Arian a ddefnyddiwyd i fuddsoddi (760,150) (452,357)
_ _
Llif arian o weithgareddau ariannu
Derbyniad ariannu hur bwrcas - 69,900
Ad-daliad oblygiadau hur bwrcas (13,020) (3,502)
_ _
Arian a dderbynwyd o weithgareddau ariannu (13,020) 66,398
_ _
(Lleihad)/Cynnydd mewn arian a chyfatebolion arian (338,936) 57,145
Arian a chyfatebolion arian ar 1 Ebrill 2020 1,288,033 1,230,888
__ __
Arian a chyfatebolion arian ar 31 Mawrth 2021 £949,097 £1,288,033
======= =======

23

Antur Waunfawr

Datganiad o newidiadau mewn cyllid a ddefnyddiwyd i dderbyn asedau sefydlog at ddefnydd yr elusen am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2021

Gronfeydd Gronfeydd
Cronfeydd Cronfeydd 31 Mawrth 31 Mawrth
Anghyfyngedig Cyfyngedig 2021 2020
£ £ £ £
Symudiad net mewn cronfeydd 209,622 259,331 468,953 (323,953)
Adnoddau a ddefnyddiwyd i dderbyn
Asedau sefydlog net (489,007)
(271,309)
(760,316) (438,082)
_ _ _ _
Symudiad net mewn cronfeydd ar gael at
weithgareddau y dyfodol (£279,385)
(£11,978)
(£291,363) (£762,035)
======= ======= ======= =======

24

Antur Waunfawr

Nodiadau i’r datganiadau ariannol am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2021

1. Polisïau cyfrifyddol

Mae’r prif bolisïau cyfrifo a fabwysiadwyd, penderfyniadau a phrif ffynonellau ansicrwydd â amcangyfrifir wrth baratoi y datganiadau ariannol fel a ganlyn:

a) Sail paratoi cyfrifon

Mae’r datganiadau ariannol wedi eu darparu yn unol a “Cyfrifo ac Adrodd gan Elusennau” Datganiad o Ymarferion Cymeradwyol sydd yn berthnasol i elusennau sydd yn paratoi eu cyfrifon yn unol a’r Datganiad o Weithredoedd Ariannol sydd yn berthynol yn y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon (FRS102) – (SORP Elusennau (FRS102)), yr Safon Adrodd Ariannol sydd yn berthynol yn y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon (FRS102) a Deddf Cwmniau 2006.

Mae Antur Waunfawr yn bodloni gofynion diffiniad uned budd cyhoeddus dan FRS102. Cydnabyddir asedau a rhwymedigaethau yn wreiddiol ar sail cost hanesyddol neu werth trafodion os na nodir yn wahanol yn y nodyn polisi cyfrifo perthnasol.

Mae’r ymddiriedolwyr yn cysidro nad oes ansicrwydd sylweddol am allu’r cwmni elusennol i barhau fel busnes byw.

b) Cyfrifo cronfeydd

Cronfeydd cyffredinol yw cronfeydd anghyfyngedig sydd yn barod i’w defnyddio gan yr ymddiriedolwyr i hyrwyddo amcanion cyffredinol yr elusen ac sydd heb eu penodi at unrhyw bwrpas arall.

Mae cronfeydd dynodedig yn cynnwys cronfeydd anghyfyngedig sydd wedi eu rhoi i’r neilltu gan yr ymddiriedolwyr at bwrpas arbennig. Mae nod a defnydd y cronfeydd dynodedig wedi eu disgrifio yn y nodiadau i’r cyfrifon.

Cronfeydd cyfyngedig yw cronfeydd sydd i’w defnyddio yn unol a chyfyngiadau penodol dan amodau’r rhoddwr neu sydd wedi eu codi gan yr elusen at bwrpas arbennig. Mae’r costau o godi a gweinyddu’r cronfeydd wedi eu nodi yn erbyn y cronfeydd penodedig. Mae nod pob cronfa gyfyngedig wedi eu nodi yn y nodiadau i’r cyfrifon.

c) Incwm

Dangosir incwm yn y Datganiad o Weithredoedd Ariannol pan fydd gan yr elusen hawl cyfreithlon i’r incwm, bydd canllawiau perfformio dan dermau yr ffynonellau incwm wedi eu cyfarfod, bydd yn debygol y derbynnir yr incwm a gellir mesur y swm yn rhesymol fanwl.

Cydnabyddir am grantiau llywordraeth a grantiau eraill, boed y grant yn grant refeniw neu gyfalaf, Ariannol pan fydd gan yr elusen hawl cyfreithlon i’r incwm, bydd canllawiau perfformio dan dermau yr ffynonellau incwm wedi eu cyfarfod, bydd yn debygol y derbynnir yr incwm a gellir mesur y swm yn rhesymol fanwl ac nac oes angen gohirio’r incwm.

ch) Gwariant a TAW anadferadwy

Cydnabyddir gwariant pan mae oblygiad cyfreithiol neu weithredol i wneud taliad i drydydd person, y mae’n debygol fydd taliad yn angenrheidiol a gellir mesur yr blygiad yn ddibynadwy.

Cyfrifir TAW na ellir ei hawlio fel cost yn erbyn y gweithgaredd a achosodd y gwariant.

d) Dosbarthiad costau cynorthwyol

Costau cynorthwyol yw gweithgareddau sydd yn cefnogi gwaith yr elusen ond sydd ddim yn ymwneud a gweithgareddau elusennol yn uniongyrchol. Mae costau cynorthwyol yn cynnwys yr adran weinyddol, cyllid, personél a llywodraethol sydd yn cefnogi y gwahanol brosiectau elusennol. Mae’r costau hyn wedi eu dosbarthu rhwng y gwahanol adrannau fel y dangosir yn nodyn 6.

25

Antur Waunfawr

Nodiadau i’r datganiadau ariannol am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2021

1 Polisïau cyfrifyddol (ymlaen)

dd) Asedau sefydlog

Mae asedau sefydlog yn cael eu dangos ar sail cost neu ar brisiad y farchnad. Dangosir y buddiannau sefydlog ar gost neu brisiad llai dibrisiant. Cyfrifwyd am ddibrisiant ar sail dileu cost y buddiannau dros gyfnod amcangyfrif o’u hoes fel a ganlyn:

Adeiladau 2% Siediau a thai gwydr 10% Offer 20 -331/3% Moduron 20%

Ni chyfrifir am ddibrisiant ar dir rhyddfreiniol. Nid yw buddiannau sefydlog sydd yn costio llai na £1,000 yn cael eu cyfalafu a byddent yn cael eu dileu ym mlwyddyn prynnu.

e) Stoc

Mae stoc yn cynrychioli asedau a brynwyd i ailwerthu. Prisiwyd y stoc ar y lleiaf o gost neu werth net sylweddoladwy. Nid yw eitemau stoc a dderbyniwyd fel rhoddion neu er mwyn dosbarthu yn cael eu cynnwys yn y datganiadau ariannol nes maent wedi eu gwerthu neu ddosbarthu.

f) Dyledwyr

Cydnabyddir dyledwyr ar y swm cytundebol ar ôl nodi unrhyw disgownt masnachol a gynnigwyd. Dangosir blaendaliadau ar werth y swm a dalwyd ymlaen llaw llai unrhyw ddisgownt masnachol a dderbyniwyd.

ff) Arian mewn banc ac mewn llaw

Mae arian mewn banc ac mewn llaw yn cynnwys arian buddsoddiadau tymor byr sydd yn aeddfedu o fewn tri mis o’u caffael neu o agor y cyfrif adnau.

g) Credydwyr a darpariaethau

Cydnabyddir credydwyr a darpariaethau pan fydd gan yr elusen oblygiad cyfredol yn deillio o ddigwyddiad yn y gorffennol gyda’r canlyniad tebygol o drosglwyddiad o eiddo i drydydd person a gellir mesur y swm angenrheidiol i setlo’r oblygiad yn ddibynadwy. Cydnabyddir credydwyr a darpariaethau ar y swm setlo llai unrhyw ddisgownt masnachol a dderbyniwyd.

nh)

Offerynnau ariannol

Dim ond offerynnau ariannol sylfaenol sydd gan yr elusen. Cofnodir offerynnau ariannol sylfaenol i dechrau ar bris y contract os nad yw’r trefniant yn sefydlu gweithrediad ariannu, pan fyddent yn cael eu cofnodi ar werth presennol taliadau yn y dyfodol wedi eu gostyngu ar raddfa llog y farchnad am offeryn ariannol tebyg.

h) Costau pensiwn

Mae’r gost o baratoi pensiwn a manteision cyffelyb yn cael eu prisio i’r Datganiad o Weithredoedd ariannol fel mae’r rhwymedigaeth yn codi. Mae’r elusen yn talu cyfraniadau pensiwn ar sail cyfraniadau wedi eu diffinio.

2 Statws y cwmni

Mae’r cwmni yn gyfyngedig drwy warant. Wrth ddirwyn i ben neu ddiddymu’r cwmni ac wedi bodloni ei holl ddyledion a’i rwymedigaethau, os erys unrhyw eiddo o gwbl yn weddill, ni thelir ef i aelodau’r cwmni na’i ddosbarthu yn eu mysg, ond yn hytrach ei roi i sefydliad elusennol arall gydag amcanion cyffelyb i amcanion y cwmni.

26

Antur Waunfawr

Nodiadau i’r datganiadau ariannol am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2021

3. Rhoddion a grantiau gwirfoddol

Cronfeydd Cronfeydd Cyfanswm Cyfanswm
Anghyfyngedig Cyfyngedig 2021 2020
£ £ £ £
Grant Heddlu Gogledd Cymru - 2,500 2,500 -
Grant Adferiad Gwyrdd - 3,470 3,470 -
Rhoddion 3,105 1,133 4,238 6,045
_ _ _ _
£3,105 £7,103 £10,208 £6,045
_ _ _ _

4. Incwm o weithgareddau elusennol

Safle &
Cynllun Warws Caer- Beics Cyfanswm Cyfanswm
Cartrefu Werdd Gylchu Menai 2021 2020
£ £ £ £ £ £
Cytundebau Gwasanaeth 1,547,789 155,868 100,912 30,168 1,834,737 1,878,601
Cronfa Byw yn Annibynnol 324 - - - 324 4,825
Cytundeb Ailgylchu - 76,672 257,468 - 334,140 334,140
Grant ICF - - - 5,278 5,278 12,703
Incwm Caergylchu - - 160,797 - 160,797 221,548
Incwm Warws Werdd - 84,898 - - 84,898 147,220
Incwm Safle a Chynllun Cartrefu 79,396 - - - 79,396 142,837
Incwm Beics Menai - - - 74 74 18,521
Incwm arall 3,640 - - - 3,640 5,354
_ _ _ _ __ __
£1,631,149 £317,438 £519,177 £35,520 £2,503,284 £2,765,749
_ _ _ _ __ __

27

Antur Waunfawr

Nodiadau i’r datganiadau ariannol am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2021

5. Dadansodiad o wariant ar weithgareddau elusennol

Safle &
Cynllun Warws Caer- Beics Cyfanswm Cyfanswm
Cartrefu Werdd Gylchu Menai 2021 2020
£ £ £ £ £ £
Costau staff 1,062,526 214,942 390,133 17,217 1,684,818 1,830,142
Nwyddau i’w gwerthu a thraul - 44,459 4,232 540 49,231 50,870
Cafe/ Bwyd 13,124 - - - 13,124 11,571
Safle ac adnewyddu 79,164 25,934 18,183 9,607 132,888 125,120
Teithio a chostau buddiolwyr 36,596 20,105 44,186 2,827 103,714 138,433
Costau swyddfa 13,222 9,971 5,698 3,359 32,250 34,428
Hyfforddiant 2,798 2,958 1,367 1,090 8,213 9,317
Costau staff - 1,118 730 - 1,848 20,147
Costau marchnata 675 373 3,423 48 4,519 7,949
Costau proffesiynol 1,966 - 965 42 2,973 5,852
Dibrisiant 4,870 3,300 9,480 2,980 20,630 25,060
Llogau - - 4,597 - 4,597 3,369
Eraill 6,694 214 - 105 7,013 2,661
Costau llywodraethol 13,875 2,928 4,650 694 22,147 22,631
Costau cynorthwyol 256,969 54,221 86,116 12,828 410,134 334,956
__ _ _ __ _ __
£1,492,479 £380,523 £573,760 £51,337 £2,498,099 £2,622,506
__ _ _ __ __ _

Roedd gwariant ar weithgareddau elusennol yn £2,498,099 (2020 - £2,622,506). O’r gwariant yma roedd £2,470,974 (2020-£2,566,680) yn anghyfyngedig a £27,125 (2020 - £55,826) yn gyfyngedig.

6. Dadansoddiad o gostau llywodraethol a chynorthwyol

I ddechrau, mae’r cwmni elusennol yn nodi ei gostau cynorthwyol. Yna nodir y costau sydd yn berthnasol i’r pwrpas llywodraethol. Wedi adnabod y costau llywodraethol, rhannir y costau cynorthwyol cyffredinol a’r costau llywodraethol rhwng y pedwar gweithgaredd elusennol a ymgymerwyd yn ystod y flwyddyn. Nodir sail dosbarthiad y costau rhwng y gweithgareddau elusennol yn y tabl isod.

Costau
Sail Cynorthwyol Cyfanswm Cyfanswm
Dosbarthu CyffredinolLlywodraethol
2021
2020
£ £ £ £
Costau staff Amser staff 226,660 13,734 240,394 234,769
Safle ac adnewyddu Defnydd 36,791 - 36,791 31,023
Costau Covid Defnydd 43,584 - 43,584 43,584
Swyddfa Defnydd 62,826 - 62,826 57,052
Teithio Defnydd - - - 3,768
Hyfforddiant Defnydd 2,856 - 2,856 2,497
Hysbysebu a marchnata Defnydd 2,810 - 2,810 3,606
Archwilio/Cyfrifydd Defnydd - 8,413 8,413 8,244
Proffesiynnol Trafodion 19,887 - 19,887 5,877
Dibrisiant Defnydd 13,984 - 13,984 8,716
Eraill Trafodion 736 - 736 2,035
_ _ _ __
£410,134 £22,147 £432,281 £357,587
_ __ _ __

28

Antur Waunfawr

Nodiadau i’r datganiadau ariannol am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2021

7. Incwm net am y flwyddyn

Nodir yr incwm net ar ôl codi: 2021 2020
£ £
Dibrisiant 34,614 33,778
Ffioedd archwilio 5,912 5,794
Archwiliwr – ffioedd eraill 2,501 2,450
_ ______

8. Costau staff a chydnabyddiaeth yr ymddiriedolwyr

2021 2020
£ £
Cyflogau 1,651,167 1,782,873
Cyflogau gweithwyr 49,304 57,472
Yswiriant cenedlaethol 137,160 132,446
Costau pensiwn 87,581 87,046
__ __
£1,925,212 £2,059,837
__ __

Cyfanswm nifer cyflogedig ar sail blwyddyn cyflawn oedd 154 ( 2020 – 180 ). Nid oedd cydnabyddiaeth unrhyw aelod o staff dros £60,000 y flwyddyn.

Ni dderbyniwyd ffioedd na thal rheoli gan ymddiriedolwyr yr elusen yn ystod y flwyddyn (2020 – Dim). Ni wnaed taliadau i ymddiriedolwyr yr elusen am gostau a achoswyd (2020 – Dim). Ni wnaethpwyd taliad am wasanaethau proffesiynol nac am wasanaethau eraill i ymddiriedolwyr yr elusen yn ystod y flwyddyn (2020 – Dim) .

Mae personél rheoli allweddol yr elusen yn cynnwys yr ymddiriedolwyr a’r tim rheoli. Roedd cydnabyddiaeth personél rheoli allweddol yr elusen yn £253,672 (2020 - £254,506) .

2021 2020
Nifer Nifer
Prif weithredwr 1 1
Uwch reolwyr 3 3
Rheolwyr 9 9
Safle 25 35
Ail Gylchu 13 14
Warws Werdd 5 5
Cynllun Cartrefu 27 27
Beics Menai 2 1
Gweinyddol 6 10
Gweithwyr gyda anabledd 63 75
____ ____
154 180
=== ===

29

Antur Waunfawr

Nodiadau i’r datganiadau ariannol am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2021

9. Trafodion Partion Cysylltiedig

Ni fu trafodion gyda partïon cysylltiedig yn ystod y flwyddyn. Nid oedd symiau yn ddyledus i na dyledus gan bartïon cysylltiedig ar ddiwedd y flwyddyn (2020 - £Dim) .

10.

Grantiau Llywodraeth

Mae incwm grantiau llywodraeth yn cynnwys cytundebau gwasanaeth gyda awdurdodai lleol i ffynonellau gwasanaethau buddiannol i fuddiolwyr yr elusen.

11. Treth gorfforaeth

Mae gan Antur Waunfawr eithriad o dreth ar incwm ac enillion dan Adran 505 o Ddeddf Treth 1988 ac adran 252 o’r Ddeddf Treth Enillion Cyfalaf 1992 i’r eithaf eu defnyddir at ei nodau elusennol.

12.

Buddiannau sefydlog

12.
Buddiannau sefydlog
Tir ac
Adeiladau Offer Moduron Cyfanswm
£ £ £ £
Cost/Gwerth
Ar 1af Ebrill 2020 3,209,065 482,985 22,154 3,714,203
Ychwanegiadau 651,238 12,630 96,448 760,316
Gwarediadau - - (4,000) (4,000)
__ __ __ __
Ar 31ain Mawrth 2021 3,860,303 495,615 114,602 4,470,520
__ __ __ __
Dibrisiant
Ar 1af Ebrill 2020 215,156 339,271 22,154 576,581
Cost am y flwyddyn 14,004 20,610 - 34,614
Gwarediadau - - (4,000) (4,000)
_ _ _ _
Ar 31ain Mawrth 2021 229,160 359,881 18,154 607,195
_ _ _ _
Gwerth Llyfr Net
Ar 31ain Mawrth 2021 £3,631,143 £135,734 £96,448 £3,863,325
======== ======= ===== =======
Ar 31ain Mawrth 2020 £2,993,909 £143,714 £ - £3,137,622
======== ======= ===== =======

Yn gynwysedig yn y £3,137,622 mae £20,000 sydd yn werth tir yn Waunfawr ac £38,599 o dir yng Nghaernarfon . Ail brisiwyd y tir ac adeiladau yn Waunfawr ac Warws Werdd yng Nghaernarfon gan Dafydd Hardy, syrfewyr siartredig yn mis Mawrth 2020. Rhoddwyd gwerth y tir ac adeiladau yn Waunfawr fel £2,165,000. Mae’r gwerth yma yn isel ac yn llai na’r disgwyl oherwydd yr ansicrwydd yn y farchnad eiddo yn dilyn y pandemic Covid-19. Cost gwreiddiol yr asedau sefydlog yw £3,861,553 (2020-£3,715,453) a buasai dibrisiant o £191,367, (2020- £179,777) wedi ei godi arnynt.

13.

Stoc 2021 2020
£ £
Cynnwys stoc:
Stoc Warws Werdd 8,674 6,282
Stoc Beics Menai 2,150 1,000
Stoc siop 200 200
Stoc cafe 100 100
______ ______
£11,124 £7,582
______ ______

30

Antur Waunfawr

Nodiadau i’r datganiadau ariannol am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2021

14. Dyledwyr 2021 2020
£ £
Grantiau, cytundebau a dyledwyr masnachol 242,257 327,287
Dyledwyr eraill 10,971 39,496
_ _
£253,228 £366,783
_ _
15. Credydwyr:symiau yn ddyledus o fewn blwyddyn
2021 2020
£ £
Credydwyr masnachol 19,225 207,873
Swm yn ddyledus dan gytundeb hur bwrcas 13,994 15,947
Treth a nawdd cymdeithasol 131 10,929
Croniadau ac incwm gohiriedig 196,822 174,603
_ _
£230,172 £409,352
_ _
16. Credydwyr:symiau yn ddyledus ar ol blwyddyn
2021 2020
£ £
Swm yn ddyledus dan gytundeb hur bwrcas £42,919 £55,939
(yn daladwy mewn llai na 5 blywyddyn) _ _
17. Offerynnau ariannol

Yr offerynnau ariannol a fesurir ar sail cost wedi ei amorteiddio yw’r benthyciad hur bwrcas.

2021 2020
£ £
Swm yn ddyledus o fewn blwyddyn 13,994 15,947
Swm yn ddyledus dros blwyddyn ond o fewn pum mlynedd 42,919 55,939
_ ______
Cyfanswm £56,913 £71,886
_ _
Cymodi'r elw gweithredol â'r mewnlif arian net o weithgareddau gweithredol
2021 2020
£ £
Symudiad net mewn cronfeydd 468,953 445,941
Llog a dderbyniwyd (21) (1,355)
Dibrisiant 34,614 33,778
Elw ar werthu ased (145) (750)
(Cynnydd) Lleihad/ mewn stoc (3,542) 992
(Cynnydd)/Lleihad mewn dyledwyr 113,555 (250,930)
Cynydd/(Lleihad) mewn credydwyr (179,180) 215,428
__ _
Llif arian net o
weithgareddau gweithredol 434,234 443,104
======= =======

18 . Cymodi'r elw gweithredol â'r mewnlif arian net o weithgareddau gweithredol

31

Antur Waunfawr

Nodiadau i’r datganiadau ariannol am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2021

19. Ymroddiad cyfalaf

Ar ddiwedd y flwyddyn nid oedd gan Antur Waunfawr ymroddiad cyfalaf ynglŷn a datblygiad adeiladu (2020 - £580,760).

20. Cronfeydd cyfyngedig

31 Mawrth Trosglwydd Adnoddau Ail -
2020 -iadau
Cyllid
Brisio Cyfanswm
£ £ £ £ £
Warws Werdd 369,188 - (10,548) - 358,640
Sgubor Grefftau 9,048 - (251) - 8,797
Grant Cae Chwarae 23,220 - (1,080) - 22,140
Rhoddion 4,930 - (99) - 4,831
Grant Clothworkers Foundation 14,220 - - - 14,220
Grantiau Porth Yr Aur 290,375 168,624 - 458,999
Grant Adferiad Gwyrdd - - 102,685 102,685
_ _ _ _ _
£710,981 £ - £259,331 £- £970,312
_ _ _ ______ _
31 Mawrth Trosglwydd Adnoddau Ail -
2019 -iadau
Cyllid
Brisio Cyfanswm
£ £ £ £ £
Warws Werdd 609,075 - (16,918) (222,969) 369,188
Cronfa Ailbrisio Warws Werdd 88,759 - (2,466) (86,293) -
Tŷ Capel 75,000 - - (75,000) -
Sgubor Grefftau 56,237 - (1,520) (45,669) 9,048
Grant cyfalaf Coastal Communities Fund 7,500 - (7,500) - -
Grant Cae Chwarae 24,300 - (1,080) - 23,220
Rhoddion 3,162 - 1,768 - 4,930
Hydro 1,560 - (1,560) - -
Grant Clothworkers Foundation 14,220 - - - 14,220
Grantiau Porth yr Aur - - 290,375 - 290,375
_ _ _ _ _
£879,813 £ - £261,099 (£429,931) £710,981
_ _ _ ______ _

32

Antur Waunfawr

Nodiadau i’r datganiadau ariannol am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2021

Cronfeydd anghyfyngedig

Cronfeydd anghyfyngedig
Balans
31 Mawrth Trosglwy- Adnoddau Ail
2020 ddiadau Cyllid Brisio Cyfanswm
£ £ £ £
£
Tal Aelodaeth 182 - - -
182
Cronfa Gyffredinol 2,246,131 218,640 209,622 - 2,674,393
Cronfa Ailbrisio 530,244 (2,156)
-
-
528,088
__ ______ ______ ______
_
2,776,557 216,484 209,622 - 3,202,663
Cronfeydd Dynodedig
Cronfa Datblygu Eiddo 339,191 (220,191)
-
-
119,000
Cronfa Wrth Gefn 508,000 3707 - -
511,707
__ _ _ _
_
£3,623,748 £- £209,622 £- £3,833,370
__ _ _ _
_
Balans
31 Mawrth Trosglwy- Adnoddau Ail
2019 ddiadau Cyllid Brisio Cyfanswm
£ £ £ £
£
Tal Aelodaeth 182 - - -
182
Cronfa Gyffredinol 2,326,167 (59,186)
(20,850)

-
2,246,131
Cronfa Ailbrisio 669,068 (4,554)
-
(134,270)
530,244
__ ______ ______ ______
_
2,995,417 (63,740)
(20,850)
(134,270) 2,776,557
Cronfeydd Dynodedig
Cronfa Datblygu Eiddo 293,451 45,740 - -
339,191
Cronfa Wrth Gefn 490,000 18,000 - -
508,000
__ _ _ _
_
£3,778,868 £ - (£20,850) (£134,270) £3,623,748
__ _ _ _
_

21. Dadansoddiad o’r Cronfeydd rhwng yr asedau net ar 31ain Mawrth 2021

Cronfeydd Cronfeydd Cronfa
Cyfyngedig Dynodedig Gyffredinol Cyfanswm
£ £ £ £
Asedau Sefydlog 970,312 - 2,893,013 3,863,325
Asedau Cyfredol Net - 630,707 352,569 983,276
Credydwyr: symiau yn ddyledus ar ôl blwyddyn - - (42,919) (42,919)
_ _ _ _
Cyfanswm asedau net £970,312 £630,707 £3,202,663 £4,803,682
__ _ _ _

33

Antur Waunfawr

Nodiadau i’r datganiadau ariannol am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2021

Cronfeydd Anghyfyngedig

Prif weithgaredd y cwmni yw darparu gwaith a hyfforddiant i bobl ag anabledd dysgu, a thrwy hynny gwasanaethu’r gymuned.

Cronfeydd Dynodedig a chyfyngedig

Mae’r cwmni wedi penderfynu ymrwymo arian sydd ar gael wrth gefn er mwyn datblygu eiddo Sied Werdd.

Mae swm yn cynrychioli tri mis o gyflog wedi ei gadw wrth gefn i gyfarfod unrhyw heriau annisgwyl h.y £511,707 ar hyn o bryd. Mae hyn yn unol a chanllawiau ymarfer da y Comisiwn Elusennau ac yn cyfarfod ag amcanion Llywodraethu Da Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

34