Institiwt Caernarfon
Cyfrif Derbyniadau a Thaliadau
Am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2025
Rhif Elusen Cofrestredig: 514204
Institiwt Caernarfon
Adroddiad Blynyddol am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2025
Mae Institiwt Caernarfon, Adeiladau’r Institiwt, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1AT wedi ei gofrestru gyda’r Comisiynwyr Elusennau (Rhif 514204) ac wedi ei sefydlu gan Drawsgludiad dyddiedig 20fed Rhagfyr 1886 ac mewn mater o’r Ddeddf Elusennau 1960.
Gweinyddir yr Elusen a’i heiddo gan Gyngor Tref Frenhinol Caernarfon, yr Ymddiriedolwr. Mae Cynghorwyr y Cyngor Tref Brenhinol yn goruchwylio’r weinyddiaeth ar ran y Cyngor. Etholir y Cynghorwyr bob pedair blynedd gan etholaeth Caernarfon. Gwneir penderfyniadau yn y Cyngor gan y Cyngor fel corff. Cyfeirir yr holl oblygiadau costau gan Banel Cyllid y Cyngor. Mae argymhellion i weithredu yn cael eu dirprwyo i Glerc y Dref i’w cyflawni.
Pwrpas yr elusen yw darparu sefydliad er budd trigolion Tref Frenhinol Caernarfon. Nod yr Ymddiriedolwr yw darparu cyfleusterau neuadd ac ystafelloedd cymunedol o safon uchel am gost fforddiadwy i sefydliadau gwirfoddol ac elusennol sydd yn gwasanaethu’r gymuned. Mae’r Ymddiriedolwr wedi ystyried canllawiau’r Comisiwn Elusennau ar fudd cyhoeddus, gan gynnwys y canllawiau Budd Cyhoeddus: Rhedeg Elusen (PB2) wrth adolygu aneliad ac amcanion yr Elusen wrth gynllunio gweithgareddau.
Mae’r siop ar y llawr isaf wedi ei rentu ers mis Awst 2019, yn mis Mai 2024 codwyd y rent o £650 y mis i £683 y mis.
Mae’r Ymddiriedolwr yn cadarnhau bod y prif risgiau sydd wedi wynebu’r elusen wedi eu hadolygu a bod systemau wedi eu sefydlu i liniaru’r risgiau hynny.
...................................................................................... .............................................. Arwyddwyd ar ran Cyngor Tref Frenhinol Caernarfon Dyddiedig
1
Adroddiad yr Arholwr Annibynnol i Ymddiriedolwr Institiwt Caernarfon
Rwyf yn adrodd i’r ymddiriedolwr ar fy arholiad o gyfrifon yr elusen am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2025, a nodir ar dudalennau 3 i 4.
Cyfrifoldebau a sail yr adroddiad
Fel ymddiriedolwr yr elusen rydych yn gyfrifol am baratoi’r cyfrifon yn unol â gofynion Deddf Elusennau 2011 (‘y Ddeddf”).
Rwyf yn adrodd mewn perthynas â’m arholiad o’r cyfrifon elusennol a gynhaliwyd o dan adran 145 o Ddeddf 2011 ac wrth gynnal fy arholiad, rwyf wedi dilyn yr holl gyfarwyddiadau cymwys a roddwyd gan y Comisiwn Elusennau o dan adran 145(5)(b) o Ddeddf 2011.
Datganiad Arholwr Annibynnol
Rwyf wedi cwblhau fy arholiad. Rwyf yn cadarnhau nad oes unrhyw faterion o bwys wedi dod i’m sylw mewn cysylltiad â’r arholiad gan roi achos i mi gredu hynny mewn unrhyw ffordd berthnasol:
-
(1) Ni chadwyd cofnodion cyfrifyddu mewn perthynas â’r elusen fel sydd yn ofynnol gan adran 130 o’r Ddeddf: neu:
-
(2) Nid yw’r cyfrifon yn cyd-fynd â’r cofnodion hynny.
Nid oes gennyf unrhyw bryderon ac nid wyf wedi dod ar draws unrhyw faterion eraill mewn cysylltiad â’r archwiliad y dylid tynnu sylw atynt yn yr adroddiad hwn er mwyn galluogi cyrraedd dealltwriaeth cywir o’r cyfrifon.
David Chidley W. J. Matthews a’i Fab Cyfrifwyr Siartredig 11-15 Y Bont Bridd Caernarfon Gwynedd
Dyddiedig:
2
Institiwt Caernarfon Cyfrif Derbyniadau a Thaliadau Am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2025
| 2025 | 2024 | |
|---|---|---|
| £ | £ | |
| Incwm: | ||
| Cyfraniad | 63,165 | 49,913 |
| Rhent siop | 8,163 | 7,800 |
| Llogi ystafelloedd | 19,730 | 15,498 |
| _ | _ | |
| 91,058 | 73,211 | |
| _ | _ | |
| Gwariant Elusennol Uniongyrchol: | ||
| Cyflogau | 19,530 | 20,110 |
| Atgyweirio ac adeiladu | 58,358 | 40,365 |
| Yswiriant | 2,333 | 1,839 |
| Gwres a goleuo | 10,314 | 7,359 |
| Dwr a charthffosiaeth | 198 | 638 |
| Costau proffesiynol | 325 | 2,900 |
| ______ | _ | |
| 91,058 | 73,211 | |
| ______ | _ | |
| Derbyniadau net am y flwyddyn | DIM | DIM |
| Arian a balansau banc ar 1 Ebrill 2024 | DIM | DIM |
| _ | _ | |
| Arian a balansau banc ar 31 Mawrth 2025 | £ DIM | £ DIM |
| _ | _ |
3
Institiwt Caernarfon
Datganiadau Asedau a Rhwymedigaethau ar 31 Mawrth 2025
| Asedau Ariannol | 2025 | 2024 |
|---|---|---|
| £ | £ | |
| Dyledwyr | 1,595 | 3,080 |
| _ | _ | |
| Rhwymedigaethau | ||
| Croniadau | 1,133 | 769 |
| _ | _ |
Asedau An-ariannol
Mae’r elusen yn dal un ased an-ariannol, sef adeiladau’r institiwt. Gwerth yswiriant Adeiladau’r Institiwt yw £5,204,331.
Tâl Personél Rheoli allweddol
Ni thalwyd unrhyw ffioedd na chyflogau i’r ymddiriedolwr yn ystod y flwyddyn (2024 – DIM). Nid oedd unrhyw bersonél rheoli allweddol arall. Ni wnaed unrhyw ad-daliadau i’r ymddiriedolwr am gostau a dderbyniwyd (2024 – DIM).
| ...................................................................................... | .............................................. |
|---|---|
| Arwyddwyd ar ran Cyngor Tref Frenhinol Caernarfon | Dyddiedig |
4