OpenCharities

This text was generated using OCR and may contain errors. Check the original PDF to see the document submitted to the regulator.

2024-03-31-accounts

Institiwt Caernarfon

Cyfrif Derbyniadau a Thaliadau Am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2024

Rhif Elusen Cofrestredig: 514204

Institiwt Caernarfon

Adroddiad Blynyddol am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2024

Mae Institiwt Caernarfon, Adeiladau’r Institiwt, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1AT wedi ei gofrestru gyda’r Comisiynwyr Elusennau (Rhif 514204) ac wedi ei sefydlu gan Drawsgludiad dyddiedig 20fed Rhagfyr 1886 ac mewn mater o’r Ddeddf Elusennau 1960.

Gweinyddir yr Elusen a’i heiddo gan Gyngor Tref Frenhinol Caernarfon, yr Ymddiriedolwr. Mae Cynghorwyr y Cyngor Tref Brenhinol yn goruchwylio’r weinyddiaeth ar ran y Cyngor. Etholir y Cynghorwyr bob pedair blynedd gan etholaeth Caernarfon. Gwneir penderfyniadau yn y Cyngor gan y Cyngor fel corff. Cyfeirir yr holl oblygiadau costau gan Banel Cyllid y Cyngor. Mae argymhellion i weithredu yn cael eu dirprwyo i Glerc y Dref i’w cyflawni.

Pwrpas yr elusen yw darparu sefydliad er budd trigolion Tref Frenhinol Caernarfon. Nod yr Ymddiriedolwr yw darparu cyfleusterau neuadd ac ystafelloedd cymunedol o safon uchel am gost fforddiadwy i sefydliadau gwirfoddol ac elusennol sydd yn gwasanaethu’r gymuned. Mae’r Ymddiriedolwr wedi ystyried canllawiau’r Comisiwn Elusennau ar fudd cyhoeddus, gan gynnwys y canllawiau Budd Cyhoeddus: Rhedeg Elusen (PB2) wrth adolygu aneliad ac amcanion yr Elusen wrth gynllunio gweithgareddau.

Mae’r siop ar y llawr isaf wedi ei rentu am £650 y mis ers mis Awst 2019.

Mae’r Ymddiriedolwr yn cadarnhau bod y prif risgiau sydd wedi wynebu’r elusen wedi eu hadolygu a bod systemau wedi eu sefydlu i liniaru’r risgiau hynny.

...................................................................................... .............................................. Arwyddwyd ar ran Cyngor Tref Frenhinol Caernarfon Dyddiedig

1

Adroddiad yr Arholwr Annibynnol i Ymddiriedolwr Institiwt Caernarfon

Rwyf yn adrodd i’r ymddiriedolwr ar fy arholiad o gyfrifon yr elusen am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2024, a nodir ar dudalennau 3 i 4.

Cyfrifoldebau a sail yr adroddiad

Fel ymddiriedolwr yr elusen rydych yn gyfrifol am baratoi’r cyfrifon yn unol â gofynion Deddf Elusennau 2011 (‘y Ddeddf”).

Rwyf yn adrodd mewn perthynas â’m arholiad o’r cyfrifon elusennol a gynhaliwyd o dan adran 145 o Ddeddf 2011 ac wrth gynnal fy arholiad, rwyf wedi dilyn yr holl gyfarwyddiadau cymwys a roddwyd gan y Comisiwn Elusennau o dan adran 145(5)(b) o Ddeddf 2011.

Datganiad Arholwr Annibynnol

Rwyf wedi cwblhau fy arholiad. Rwyf yn cadarnhau nad oes unrhyw faterion o bwys wedi dod i’m sylw mewn cysylltiad â’r arholiad gan roi achos i mi gredu hynny mewn unrhyw ffordd berthnasol:

Nid oes gennyf unrhyw bryderon ac nid wyf wedi dod ar draws unrhyw faterion eraill mewn cysylltiad â’r archwiliad y dylid tynnu sylw atynt yn yr adroddiad hwn er mwyn galluogi cyrraedd dealltwriaeth cywir o’r cyfrifon.

David Chidley W. J. Matthews a’i Fab Cyfrifwyr Siartredig 11-15 Y Bont Bridd Caernarfon Gwynedd

Dyddiedig:

2

Institiwt Caernarfon Cyfrif Derbyniadau a Thaliadau Am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2024

2024 2023
£ £
Incwm:
Cyfraniad 49,913 8,179
Rhent siop 7,800 7,800
Llogi ystafelloedd 15,498 15,957
_ _
73,211 31,936
_ _
Gwariant Elusennol Uniongyrchol:
Cyflogau 20,110 14,286
Atgyweirio ac adeiladu 40,365 7,263
Cynnal a chadw a Glanhau - 225
Yswiriant 1,839 1,405
Gwres a goleuo 7,359 8,371
Dwr a charthffosiaeth 638 386
Costau proffesiynol 2,900 -
______ _
73,211 31,936
______ _
Derbyniadau net am y flwyddyn DIM DIM
Arian a balansau banc ar 1 Ebrill 2023 DIM DIM
_ _
Arian a balansau banc ar 31 Mawrth 2024 £ DIM £ DIM
_ _

3

Institiwt Caernarfon

Datganiadau Asedau a Rhwymedigaethau ar 31 Mawrth 2024

Asedau Ariannol 2024 2023
£ £
Dyledwyr 3,080 1,512
_ _
Rhwymedigaethau
Croniadau 769 -
_ _

Asedau An-ariannol

Mae’r elusen yn dal un ased an-ariannol, sef adeiladau’r institiwt. Gwerth yswiriant Adeiladau’r Institiwt yw £5,204,331.

Tâl Personél Rheoli allweddol

Ni thalwyd unrhyw ffioedd na chyflogau i’r ymddiriedolwr yn ystod y flwyddyn (2023 – DIM). Nid oedd unrhyw bersonél rheoli allweddol arall. Ni wnaed unrhyw ad-daliadau i’r ymddiriedolwr am gostau a dderbyniwyd (2023 – DIM).

...................................................................................... ..............................................
Arwyddwyd ar ran Cyngor Tref Frenhinol Caernarfon Dyddiedig

4