BARDDAS – Y GYMDEITHAS GERDD DAFOD
ADRODDIAD BLYNYDDOL YR YSGRIFENNYDD AR RAN Y PWYLLGOR GWAITH am y flwyddyn Ebrill 2024 – Mawrth 2025
Y GYMDEITHAS GERDD DAFOD Rhif yr elusen: 511899
Ymddiriedolwyr Pwyllgor Gwaith Barddas
Swyddogion y Pwyllgor Gwaith: Tymor / Dyddiad y'u penodwyd yn ymddiriedolwr
| Cadeirydd: Gwenallt Llwyd Ifan Is-Gadeirydd: Aneirin Karadog Trysorydd: Dafydd Meirion Jones Ysgrifennydd: Aled Evans Aelodau'r Pwyllgor Gwaith Dafydd John Pritchard Tudur Dylan Jones Gruffudd Antur Edwards Nerys Mari George Mererid Hopwood Osian Rhys Jones Joanne Debrah Heyde Elinor Wyn Reynolds Rhys Dafis (Ysgr. Aelodaeth a Thanysgrifio) Llion Elis Jones (ymddiswyddodd Mawrth 31ain 2025) |
2023 (07/10/2023) 2023 (12/11/2012) 2023 (07/10/2023) 2024 (01/07/2023) Tymor 2025 (30/03/2011) 2025 (18/03/2011) 2025 (12/11/2012) 2025 (28/10/2017) 2025 (28/10/2017) 2025 (28/10/2017) 2025 (28/09/2022) 2025 (28/09/2022) 2025 (04/02/2017) 2024 (18/03/2011) |
|---|---|
Derbyniodd y Comisiwn Elusennau ein ffurflen flynyddol ar gyfer 01/04/2023 - 31/03/2024 ar 23/01/2025.
Swyddogion Cyflogedig Barddas:
| ogion Cyflogedig Barddas: | ||
|---|---|---|
| Golygydd cylchgrawn Barddas: | Twm Morys (telerau llawrydd) | 2011 |
| Golygydd creadigol Barddas: | Bethany Celyn Jukes-Hughes | 2023 |
| Cydlynydd: | Sioned Erin Hughes | 2023 |
Cyfranwyr eraill at waith Barddas:
Cynrychiolydd y Cyngor Llyfrau: Arwel Jones. Cyfrifydd: Cwmni Hill a Roberts, Rhuthun
Bancwyr: Banc Barclays; Banc Nat West (caewyd y cyfrif yn Rhagfyr 2024)
Dylunwyr ac Argraffwyr: Elgan Griffiths (GraffEG), Dafydd Owain, Adran Ddylunio'r Cyngor Llyfrau, Rebecca
1
Ingleby Davies, Y Lolfa, Gwasg Gomer, Gwasg Serol.
Ar Banel Llên Canolog yr Eisteddfod Genedlaethol: Ar Banel Dewis Bardd Plant Cenedlaethol Cymru:
Yr Ysgrifennydd. Y Cadeirydd.
Cyfarfodydd Pwyllgorau Barddas yn y cyfnod dan sylw
Cyfarfodydd Pwyllgor Gwaith / Cyfarfod Ymddiriedolwyr Barddas:
6ed Gorffennaf, 2024 5ed Hydref, 2024 4ydd Tachwedd, 2024 17eg Ionawr, 2025 17eg Mawrth, 2025,
[Mae’r Cyfansoddiad yn galw ar y Pwyllgor Gwaith i gyfarfod o leiaf 3 gwaith y flwyddyn]
- Cyfarfodydd Is Bwyllgor Cyhoeddiadau Barddas:
11eg Mehefin, 2024 5ed Hydref, 2024 4ydd Rhagfyr, 2024 11eg Mawrth, 2025
Aelodaeth Barddas Aelodaeth Barddas – crynodeb diwedd blwyddyn 31/03/2025
| 31/03/23 | 31/03/24 | 31/03/25 | |
|---|---|---|---|
| Nifer yr aelodau: | 531 | 538 | *** 535** |
| Aelodau newydd yn ystod y flwyddyn | 17 | 19 | |
| Colli aelod drwy farwolaeth (i ni wybod) yn ystod y flwyddyn: |
23 | 2 | 3 |
| Dad-ymaelodi / dileu oherwydd dim ateb: | 83 | 8 | 19 |
| Aelodau’n talu drwy archeb banc: | 398 | 446 | 461 |
| Dyledwyr ar ddiwedd y flwyddyn: | 22 | 16 | 36 |
| Dyled diwedd blwyddyn | £550 | £400 | ** £585 |
- Dydy hyn ddim yn cynnwys Ysgolion Uwchradd sy’n cael y cylchgrawn am
ddim.
** Mae hyn yn bennaf oherwydd bod aelodau’n anghofio addasu eu tanysgrifiad neu heb dalu tanysgrifiad mewn pryd.
Cyhoeddiadau gan Barddas Ebrill 2023 – Mawrth 2024
Y Cylchgrawn ‘Barddas’ (yng ngofal golygyddol y Prifardd Twm Morys)
2
Rhifyn 361 (Gwanwyn) Ebrill 2024 Rhifyn 362 (Haf) Gorffennaf 2024 Rhifyn 363 (Hydref) Hydref 2024 Barddas Bach y Dolig Rhifyn electronig Rhifyn 364 (Gaeaf) Chwefror 2025
‘ ’ - Cyfrolau gwasg Cyhoeddiadau Barddas (yng ngofal Bethany Celyn Jukes Hughes)
Egin, Aron Pritchard (Mehefin 2024)
Cariad Yw, Casi Wyn (Mehefin 2024)
Pethau sy’n Digwydd, Siôn Tomos Owen (Gorffennaf 2024)
deud llai, Dafydd John Pritchard (Hydref 2024)
rhwng dau feddwl, Christine James (Tachwedd 2024)
Chwarter Eiliad, Jo Heyde (Mawrth 2025)
O Ffrwyth y Gangen Hon, gol. Nia Morais (Mawrth 2025)
Cerddi’r Ystrad, Lyn Ebenezer (Mawrth 2025)
Pamffledi Caleidosgop - Rhaff, Mari George & Bachgen Bach o Bonty, Aneirin Karadog (Awst 2024)
Hoffem ddiolch yn fawr i’r Cyngor Llyfrau am barhad eu cefnogaeth i’n gweithgaredd cyhoeddi, ac am y cydweithio hwylus bob amser, a’r parodrwydd i ystyried ac ysgogi syniadau newydd .
Gweithgareddau hyrwyddol Barddas 2023/20234
Barddas oedd yn gyfrifol fel arfer am drefnu a chynnal ymryson y beirdd ( Ymryson Barddas ) yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd, Rhondda Cynon Taf.
Cafwyd 4 ymryson hwyliog, gyda Twm Morys a Gruffudd Antur yn Meurynna ac Islwyna'n ddifyr ac yn ddeheuig fel arfer. Wrth eu hochr roedd Mair Tomos Ifans a'r Prifardd Emyr Lewis yn gyfrifol am feirniadu limrigau ac englynion y dydd; a chafwyd degau ar ddegau o'r rheini. Diolchwn i swyddogion yr Eisteddfod am hwyluso’r digwyddiad. Dyma’r buddugwyr:
Tlws Rolant o Fôn (Tîm buddugol yr Ymryson) Llŷn ac Eifionydd Tlws T Arfon Williams (englyn gorau’r Ymrysona) Tîm Deheubarth Tlws John Glyn Jones (‘englyn y dydd’ gorau) Idris Reynolds Tlws Edgar Parry Williams John Wyn Jones
Buddugwyr Englyn y Dydd:
Mawrth Huw Meirion Edwards Mercher Arwel Emlyn Iau Huw Meirion Edwards Gwener Idris Reynolds
3
Buddugwyr Limrig y Dydd:
Mawrth Iwan Bryn James Mercher John Wyn Jones Iau John Wyn Jones Gwener Meirion Jones
Cynhaliwyd cystadlaethau Tlysau Barddas hefyd a’r enillwyr oedd:
Tlws Pat Neill – ysgolion cynradd: Isabelle Bray (Ysgol Myfenydd, Ceredigion) Tlws Ysgolion Uwchradd: Luned Medi Defis (Ysgol Gyfun Bro Myrddin) Tlws D Gwyn Evans – oedran 16 – 25 Tesni Peers (Wrecsam) Tlws y Gerdd Rydd – cerdd rydd orau Barddas: Manon Wynn Davies
Tlws W D Williams – englyn unigol gorau Barddas: Arwel Emlyn Tlws Roy Stephens – cerdd gaeth orau Barddas: Alan Llwyd
Ar benwythnos 1af – 3ydd Tachwedd, 2023 cynhaliwyd Gŵyl Gerallt ym Mhenllyn, gyda’r prif sylw ar goffáu deng mlynedd ers bu farw Gerallt Lloyd Owen. Penderfynwyd neilltuo'r ŵyl gyfan i ddathlu bywyd a gwaith Gerallt ei hun. Bu cefnogaeth dda iawn i weithgareddau'r ŵyl gyda Chlwb Golff y Bala dan ei sang ar gyfer cyflwyniadau'r dydd Sadwr. Dyma grynodeb o’r rhaglen:
Nos Wener:
Neuadd Bentref Llanuwchllyn, gig gyda Bob Delyn a'r Ebillion a Katie Howells (trefnwyd gan Fenter Gymunedol Llanuwchllyn).
Dydd Sadwrn:
Yng Nghlwb Golff y Bala:
‘Talwrn yr Ysgolion Uwchradd’ – Ysgol Godre'r Berwyn v Ysgol Dyffryn Conwy, dan ofal y Meuryn, Ceri Wyn Jones (ar gyfer Radio Cymru).
Darlith Goffa Gerallt 2024: ‘Cerddi anghasgledig ac anghasgladwy Gerallt’ –Dr. Gruffudd Antur.
‘Sesiwn Hel Atgofion am Gerallt' – Huw Jones, Elwyn Edwards, Elfyn Pritchard, Eilir Hendre ac Angharad Elen dan gadeiryddiaeth Ynyr Williams.
‘Cerdd Orau Gerallt’ – llys llên gyda’r Prifardd Emyr Lewis yn cadw trefn ar ddadleuon y Prifardd Myrddin ap Dafydd, Y Prifardd Mererid Hopwood, Eurig Salisbury, Y Prifardd Tudur Dylan Jones, Nia Powell, a’r Dr. Peredur Lynch.
Ymryson Cofio Gerallt – gyda’r Meuryn Twm Morys a’r Islwyn Gruffudd Antur yn graddio beirdd timoedd Penllyn, Llandwrog, Tir Iarll a Chilmeri.
Enillwyd cystadleuaeth englyn yr ŵyl ar y cyd gan Nia Powell a'r Prifardd Tudur Dylan Jones.
Bore Sul: taith i Lyn Caereini wedi'i thywys gan Eilir Hendre.
4
Cynhaliwyd nifer o lansiadau cyfrolau newydd pan fu awduron yn cael eu holi ac yn trafod a chyflwyno eu gwaith. Roedd y digwyddiadau yn gartrefol broffesiynol, gyda chynulleidfa dda ymhob un. Llwyddwyd i gael sylw i amryw o’n cyfrolau newydd ar raglenni teledu megis Heno, ar y radio ac mewn cylchgronau. Roedd y cyhoeddusrwydd cenedlaethol i’r lansiadau yn gyfrwng buddiol i hyrwyddo gwerthiant.
Bu nifer o aelodau’r Gymdeithas yn weithgar yn hyrwyddo Cerdd Dafod yn lleol yn ystod y flwyddyn, drwy gynnal dosbarthiadau cynganeddu mewn canolfannau ac yn rhithiol, a chefnogi beirdd unigol sy’n dysgu’r grefft. Bu eraill yn sgwrsio neu ddarlithio am farddoniaeth, a llunio englynion a cherddi ar gyfer achlysuron penodol.
Partneriaeth rhwng y BBC a Barddas sy’n gyfrifol am ddewis ‘ Bardd y Mis’ i lunio cerddi cyfoes i’w darlledu ar Radio Cymru. Jo Heyde a fu’n gyfrifol am gydlynu cyfraniadau’r beirdd gyda Radio Cymru, a chyfrannodd sawl un o’n haelodau at y raglenni Radio o fis i fis. Dyma gofnod o'r rhai a fu'n feirdd y mis yn ystod y cyfnod dan sylw'r adroddiad hwn: Ebrill 2024, Esyllt Angharad Lewis; Mai 2024, Alan Llwyd; Mehefin 2024,Casia Wiliam; Gorffennaf 2024, Jo Heyde; Awst 2024, Lowri Hedd; Medi 2024, Meirion Jones; Hydref 2024, Gwen Saunders Collins; Tachwedd 2024, Eirian Dafydd; Rhagfyr 2024, Aron Pritchard; Ionawr 2025 Gareth Evans Jones; Chwefror 2025, Rhys Iorwerth; Mawrth 2025, Brennig Davies.
Yn ogystal â’n gwefan, defnyddiwyd cyfryngau X ( Trydar ) a Gweplyfr a thebyg yn helaeth iawn hefyd i hyrwyddo’n digwyddiadau a’n lansiadau. Yn sicr, bu hyn yn allweddol i gynnal proffil ein gwaith. Gyda mwy o bobl yn siopa ‘ar lein’, mae’n gyfrwng pwysig i’r dyfodol, yn enwedig ymhlith y to iau.
Croesawyd penodiad Sioned Erin Hughes ar y 1af Ebrill 2024 yn gydlynydd newydd Barddas.
Aled Evans
Ysgrifennydd Rhagfyr 2025
5
Y GYMDEITHAS GERDD DAFOD
BARDDAS
- Talwyd yr ymddiriedolwyr (neu bersonau cysylitiedig ag ymddiriedolwyr) canlynol am waith arbenigol yn trefnu digwyddiadau hyrwyddol:
Enw Cyfrol Disgrifiad Swm £ Gruffudd Antur (gwaith yn yr Eisteddfod yn yr Eisteddfod yr Eisteddfod Eisteddfod Gen} Islwyna 540
Gruffudd Antur (gwaith yn yr Eisteddfod yn yr Eisteddfod yr Eisteddfod Eisteddfod Gen} Islwyna
Gwnaedy taliad uchod gan Barddas wedi i'r elusen dderbyn y swm gan y BBC.
- Talwyd 3 ymddiriedolwr (neu bersonau cysylitiedig agymddiriedolwyr) ad-daliadau am gostau roeddynt wedi eu taluar ran Barddasa chostau teithio yn ystod y flwyddyn am gyfanswm o £1,146. Roedd y taliadau hyn yn cyfateb i'r costau dalwyd ar ran Barddas gan yr ymddiriedolwyr ac nid oedd unrhyw elw neu fudd i'r Ymddiriedolwyr.
Yn ystod y flwyddyn derbyniwyd rhoddion o £150 gan ymddiriedolwyr (meu bersonau cysylitiedig ag ymddiriedolwyr) (£100 tuag at Gwyl Gerallt a £50 i Gronfa Gerallt).
- 6, Yn ystod y flwyddyn, darparwyd benthyciadau gan yr ymddiriedolwyr i’r elusen am gyfanswm 0 £6,200. Mae'r benthyciadau yn ddi-og ac nid oes amser penodol ar gyfer eu had-dalu.
18
Y GYMDEITHAS GERDD DAFOD
BARDDAS
- Talwyd yr ymddiriedolwyr (neu bersonau cysylitiedig ag ymddiriedolwyr) canlynol am waith arbenigol yn trefnu digwyddiadau hyrwyddol:
Enw Cyfrol Disgrifiad Swm £ Gruffudd Antur (gwaith yn yr Eisteddfod yn yr Eisteddfod yr Eisteddfod Eisteddfod Gen} Islwyna 540
Gruffudd Antur (gwaith yn yr Eisteddfod yn yr Eisteddfod yr Eisteddfod Eisteddfod Gen} Islwyna
Gwnaedy taliad uchod gan Barddas wedi i'r elusen dderbyn y swm gan y BBC.
- Talwyd 3 ymddiriedolwr (neu bersonau cysylitiedig agymddiriedolwyr) ad-daliadau am gostau roeddynt wedi eu taluar ran Barddasa chostau teithio yn ystod y flwyddyn am gyfanswm o £1,146. Roedd y taliadau hyn yn cyfateb i'r costau dalwyd ar ran Barddas gan yr ymddiriedolwyr ac nid oedd unrhyw elw neu fudd i'r Ymddiriedolwyr.
Yn ystod y flwyddyn derbyniwyd rhoddion o £150 gan ymddiriedolwyr (meu bersonau cysylitiedig ag ymddiriedolwyr) (£100 tuag at Gwyl Gerallt a £50 i Gronfa Gerallt).
- 6, Yn ystod y flwyddyn, darparwyd benthyciadau gan yr ymddiriedolwyr i’r elusen am gyfanswm 0 £6,200. Mae'r benthyciadau yn ddi-og ac nid oes amser penodol ar gyfer eu had-dalu.
18