## **BARDDAS – Y GYMDEITHAS GERDD DAFOD** 

## **ADRODDIAD BLYNYDDOL YR YSGRIFENNYDD AR RAN Y PWYLLGOR GWAITH am y flwyddyn Ebrill 2023 – Mawrth 2024** 

## **Pwyllgor Gwaith Barddas:** . 

## Swyddogion y Pwyllgor Gwaith: 

Cadeirydd: Aneirin Karadog 2017 – Medi 2023 * Gwenallt Llwyd Ifan Medi 2023 – ** Is Gadeirydd: Llion Elis Jones 2017 – 2023 Trysorydd: Carwyn Llŷr James 2021 – 2023 * Dafydd Meirion Jones 2023 – ** Ysgrifennydd: Rhys Dafis 2017 – 2024 Aled Evans 2024 – ** 

## Aelodau'r Pwyllgor Gwaith 

|waith||
|---|---|
|Dafydd John Pritchard|2020|
|Tudur Dylan Jones|2020|
|Gruffudd Antur Edwards|2021|
|Nerys Mari George|2020|
|Mererid Hopwood|2020|
|Osian Rhys Jones|2020|
|Joanne Debrah Heyde|2022|
|Elinor Wyn Reynolds|2022|
|Aneirin Karadog|2023 *|

* Ymddiswyddo fel Swyddogion yn y Cyfarfod Blynyddol 06/09/2023. Aneirin Karadog a Llion Elis Jones yn parhau yn aelod o’r Pwyllgor Gwaith. 

** Cyfethol yn aelodau o’r Pwyllgor Gwaith ac yn Swyddogion yn dilyn y Cyfarfod Blynyddol ar 06/09/2023. 

## **Swyddogion Cyflogedig Barddas:** 

|**ogion Cyflogedig Barddas:**|||||
|---|---|---|---|---|
|Golygydd cylchgrawn Barddas:|Twm Morys||2011|–|
|Golygydd cyfrolau Barddas:|Bethany Celyn Jukes-Hughes||2023|–|
|Cydlynydd:|Heledd Melangell Williams||2023||
|**wyr eraill at waith Barddas:**|||||
|Cynrychiolydd y Cyngor Llyfrau:|Arwel Jones.||||
|Cyfrifydd:|Cwmni Hill a Roberts, Rhuthun||||
|Bancwyr:|Banc Barclays, Cangen Porthmadog||||
||Banc Y NatWest||||
|Dylunwyr ac Argraffwyr:|Elgan Griffiths (GraffEG), Tanwen Haf,||||
||Olwen Fowler, Sion Ilar,  Y Lolfa,||Gwasg||
||Gomer. Rebecca Ingleby Davies,||Serol||
||Print||||

## **Cyfranwyr eraill at waith Barddas:** 

1 

Ar Banel Llên Canolog yr Eisteddfod Genedlaethol: Yr Ysgrifennydd. Ar Banel Dewis Bardd Plant Cenedlaethol Cymru: Y Cadeirydd. 

## **Cyfarfodydd Pwyllgorau Barddas yn y cyfnod dan sylw** 

## Cyfarfodydd Pwyllgor Gwaith Barddas: 

01 Gorffennaf, 2023 07 Hydref, 2023 03 Chwefror, 2024 

[Mae’r Cyfansoddiad yn galw ar y Pwyllgor Gwaith i gyfarfod o leiaf 3 gwaith y flwyddyn.] 

## - Cyfarfodydd Is Bwyllgor Cyhoeddiadau Barddas: 

1af o Orffennaf, 2023 – Aberystwyth 7fed o Hydref, 2023 – Aberystwyth 12fed o Fawrth, 2024 – Cyfarfod rhithiol 

## **Aelodaeth Barddas** 

|**Aelodaeth Barddas**|||
|---|---|---|
||**31/03/23**|**31/03/24**|
||||
|Nifer yr aelodau:|531|**538**|
||||
|Aelodau newydd yn ystod y flwyddyn||**17**|
|Colli aelod drwy farwolaeth (i ni wybod) yn ystod y flwyddyn:|23|**2**|
|Dad-ymaelodi / dileu oherwydd dim ateb:|83|**8**|
||||
|Aelodau’n talu drwy archeb banc:|398|**446**|
||||
|Dyledwyr ar ddiwedd y flwyddyn:|22|**16**|

## **Cyhoeddiadau gan Barddas Ebrill 2023 – Mawrth 2024** 

## Y Cylchgrawn ‘Barddas’ (yng ngofal Golygyddol y Prifardd Twm Morys) 

Rhifyn 357 (Gwanwyn) Ebrill 2023 Rhifyn 358 (Haf) Gorffennaf 2023 Rhifyn 359 (Hydref) Hydref 2023 Barddas Bach y Dolig Rhifyn electronig Rhifyn 360 (Gaeaf) Chwefror 2024 

## ‘ ’ - Cyfrolau gwasg Cyhoeddiadau Barddas (yng ngofal Bethany Celyn Jukes Hughes) 

_**Y Gragen** , Casia Wiliam, Mai 2023 (Beirdd Bach)_ 

_**Oriel y Bardd** , gol. D. Geraint Lewis, Mai 2023 (Rhaglen 22-23)_ 

2 

_**Tonfedd Heddiw: Gwawrio** , Tegwen Bruce-Deans, Mehefin 2023 (Rhaglen 23-24)_ 

_**Mymryn Rhyddid** , Gruffudd Owen, Gorffennaf 2023 (Rhaglen 23-24)_ 

_**Curiadau: Blodeugerdd LHDTC+** , gol. Gareth Evans-Jones, Awst 2023 (Rhaglen 23-24)_ 

_**Pamffled Prifeirdd Cymru** , Twm Morys & Emyr Young, Awst 2023 (tu allan i’r rhaglen)_ 

_**Gweld Llun o Glywed Llinell** , Rhys Dafis, Hydref 2023 (Rhaglen 23-24)_ 

_**Pigion y Talwrn 14** , gol. Ceri Wyn Jones, Tachwedd 2023 (Rhaglen 23-24)_ 

_**Tymor Da** , Robat Powell, Mawrth 2023_ 

_**Mae Gêm yn Fwy na Gêm: Blodeugerdd Chwaraeon** , gol. Sioned Dafydd, Mawrth 2024 (Rhaglen 23-24)_ 

_**Cerddi’r Arfordir** (Blodeugerdd), gol. Mari George, Mawrth 2024_ 

Hoffem ddiolch yn fawr i’r Cyngor Llyfrau am barhad eu cefnogaeth i’n gweithgaredd cyhoeddi, ac am y cydweithio hwylus bob amser, a’r parodrwydd i ystyried ac ysgogi syniadau newydd **.** 

## **Gweithgareddau hyrwyddol Barddas  2023/20234** 

Barddas oedd yn gyfrifol fel arfer am drefnu a chynnal ymryson y beirdd ( **Ymryson Barddas** ) yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan, Pen Llŷn. 

Cafwyd 4 ymryson hwyliog, gyda Twm Morys yn Feuryn am y tro cyntaf, a hynny’n ddeheuig fel arfer. Wrth ei ochr roedd Meuryn cynorthwyol, a fedyddiwyd â’r enw anrhydeddus, “Yr Islwyn”, sef Gruffudd Antur. Diolchwn i swyddogion yr Eisteddfod am hwyluso’r digwyddiad.  Dyma’r buddugwyr: 

Tlws Rolant o Fôn (Tîm buddugol yr Ymryson) 

Tlws Rolant o Fôn (Tîm buddugol yr Ymryson) Deheubarth Tlws T Arfon Williams (englyn gorau’r Ymrysona) Tîm Llŷn ac Eifionydd Tlws John Glyn Jones (‘englyn y dydd’ gorau) Huw Meirion Edwards Tlws Edgar Parry Williams Arwel ‘Pod’ Roberts 

Buddugwyr Englyn y Dydd: 

Mawrth Huw Meirion Edwards Mercher Huw Meirion Edwards Iau Huw Meirion Edwards Gwener Gruffudd Antur 

Buddugwyr Limrig y Dydd: 

Mawrth Carys Parry Mercher Siân Northey Iau J. Arwel Jones Gwener Arwel ‘Pod’ Roberts 

3 

## Cynhaliwyd cystadlaethau **Tlysau Barddas** hefyd a’r enillwyr oedd: 

Tlws Pat Neill – ysgolion cynradd                       Emily Smith Jones (Ysgol Ponrhydfendigaid) Tlws Ysgolion Uwchradd Cadi Prys Dafydd (Ysgol Gyfun Glan Taf) Tlws D Gwyn Evans – oedran 16 – 25               Lois Medi William, (Caernarfon) 

Tlws y Gerdd Rydd – cerdd rydd orau Barddas: Guto Dafydd ( (Pwllheli) Tlws W D Williams – englyn unigol gorau Barddas: Huw Meirion Edwards (Llandre) Tlws Roy Stephens – cerdd gaeth orau Barddas: Emyr Lewis (Craig Cefn Parc) 

Ar benwythnos 24 – 26 Tachwedd, 2023 cynhaliwyd **Gŵyl Gerallt** yng ngogleddddwyrain Cymru, gyda’i brif sylw ar Caerwys a’r cyffiniau. Roedd yr Ŵyl yn achlysur i ddathlu 500 mlynedd ers Eisteddod Caerwys 2023, pryd y daeth penceirddiaid y genedl at ei gilydd i grynhoi a rhoi trefn ar reolau ‘Cerdd Dafod’. Roedd yn fraint i’r Gymdeithas fod yng ngofal y dathliad, a chafwyd cefnogaeth frwdfrydig gan gyfeillion i'r traddodiad yn y rhan hanesyddol hon o Gymru. Dyma grynodeb o’r rhaglen: 

Nos Wener: 

Yn Theatr Elwy, Ysgol Glan Clwyd: Noson yng nghwmni Siân James, Gwyneth Glyn a Twm Morys: 

Dydd Sadwrn: 

Bore Sadwrn: Yn neuadd hanesyddol Plas Mostyn: 

Darlith Gerallt 2023: ‘Eisteddfod Caerwys a’r traddodiad cerdd dafod’ – Dr Peredur Lynch a Dr. Gruffudd Antur. 

‘Awenau gwerin Tegeingl’ – cyflwyniadau gan Dr. Goronwy Wynne ac Ieuan ap Siôn. 

‘Ceinciau’r oesoedd’ – datganiadau ar y delyn gan Sioned Williams, Telynores Garmon. 

Pnawn Sadwrn: Yn Neuadd y Dref, Caerwys: 

‘Lleisiau yfory’ – Nia Morais, Bardd Plant Cymru yn rhannu cynnyrch gweithdai barddoni yn ysgolion cynradd Cymraeg y Gwenffrwd, Mornant a Thremeirchion. 

‘Talwrn yr Ysgolion Uwchradd’ – Maes Garmon v Glan Clwyd, dan ofal y meuryn Ceri Wyn Jones (ar gyfer Radio Cymru). 

4 

‘Cerdd gaeth fwyaf yr iaith’ – cynnadl panel o feirdd, gyda’r Prifardd Emyr Lewis yn cadw trefn ar ddadleuon y Prifardd Dafydd John Pritchard, Nia Powell, a’r Dr. Peredur Lynch. 

Seremoni wobrwyo ‘Pencerdd Powys 2023’ am awdl ‘Etifeddiaeth’, a enillwyd gan y Prifardd Alan Llwyd. Y gadair arian hardd yn rhodd gan gyfeillion o’r ardal. 

Nos Sadwrn: yng Ngwesty’r Oriel, Llanelwy: 

Trafod awdl Pencerdd Caerwys 2023 yng ngofal y Prifeirdd Mererid Hopwood a Myrddin ap Dafydd. 

Ymryson 500 mlynedd’ – gyda’r Meuryn Twm Morys a’r Islwyn Gruffudd Antur yn graddio beirdd timoedd Y Berffro, Mathrafal a Dinefwr. 

Bore Sul: yn ardal Treffynnon: ‘Pererindod Tegeingl’ i Ffynnon Gwenfrewi ac Abaty Dinas Basing yng nghwmni’r cywyddwyr. 

Mae Barddas yn ddiolchgar i _Llenyddiaeth Cymru_ a _Chyngor Llyfrau Cymru_ , am gefnogi’r Ŵyl – a hefyd i drigolion diwylliedig yr ardal am cefnogaeth a’u croeso cynnes. 

Cynhaliwyd nifer o **lansiadau cyfrolau newydd** pan fu awduron yn cael eu holi ac yn trafod a chyflwyno eu gwaith. Roedd y digwyddiadau yn gartrefol broffesiynol, gyda chynulleidfa dda ymhob un. Llwyddwyd i gael sylw i amryw o’n cyfrolau newydd ar raglenni teledu megis Heno, ar y radio ac mewn cylchgronau. Roedd y cyhoeddusrwydd cenedlaethol i’r lansiadau yn gyfrwng buddiol i hyrwyddo gwerthiant. 

Bu nifer o aelodau’r Gymdeithas yn weithgar yn **hyrwyddo Cerdd Dafod yn lleol** yn ystod y flwyddyn, drwy gynnal dosbarthiadau cynganeddu mewn canolfannau ac yn rhithiol, a chefnogi beirdd unigol sy’n dysgu’r grefft. Bu eraill yn sgwrsio neu ddarlithio am farddoniaeth, a llunio englynion a cherddi ar gyfer achlysuron penodol. 

Partneriaeth rhwng y BBC a Barddas sy’n gyfrifol am ddewis ‘ **Bardd y Mis’** i lunio cerddi cyfoes i’w darlledu ar Radio Cymru. Jo Heyde a fu’n gyfrifol am gydlynu cyfraniadau’r beirdd gyda Radio Cymru, a chyfrannodd sawl un o’n haelodau at y raglenni Radio o fis i fis. 

**Yn ogystal â’n gwefan, defnyddiwyd cyfryngau** _**Trydar**_ **a** _**Gweplyfr**_ a thebyg yn helaeth iawn hefyd i hyrwyddo’n digwyddiadau a’n lansiadau. Yn sicr, bu hyn yn allweddol i gynnal proffil ein gwaith. Gyda mwy o bobl yn siopa ‘ar lein’, mae’n gyfrwng pwysig i’r dyfodol, yn enwedig ymhlith y to iau. 

**Rhys Dafis** Ysgrifennydd Rhagfyr 2024 

5 

Rhif yr elusen: 511899 

## **Y GYMDEITHAS GERDD DAFOD** 

## **BARDDAS** 

## **DATGANIADAU ARIANNOL AM Y FLWYDDYN** 

## **YN Y DIWEDDU 31 MAWRTH 2024** 

**Y GYMDEITHAS GERDD DAFOD** 

## **BARDDAS** 

## **CYNNWYS** 

|Disgrifiad|Tudalen|
|---|---|
|Manylion yr ymddiriedolwyr a’r pwyllgor gwaith|2|
|Adroddiad yr ymddiriedolwyr|3|
|Adroddiad yr archwiliwr annibynnol|6|
|Datganiad o weithgaredd ariannol|8|
|Mantolen|9|
|Nodiadau|10|

1 

**Y GYMDEITHAS GERDD DAFOD** 

## **BARDDAS** 

## **ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2024** 

Mae’r Ymddiriedolwyr yn cyflwyno’u hadroddiad ynghyd â datganiadau ariannol yr elusen ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2024. 

Gwybodaeth gyffredinol a manylion gweinyddiaeth yr elusen, yr Ymddiriedolwyr oedd yn gweithredu rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2024 a’i ymgynghorwyr: - 

|Enw Cofrestredig yr Elusen|Y Gymdeithas Gerdd Dafod|
|---|---|
|Rhif Cofrestru’r Elusen|511899|
|Cyfeiriad Cofrestredig|Cilgwyn, Llansannan, Dinbych, LL16 5HL|
|Llywydd Anrhydeddus|Dafydd Islwyn|
|**Ymddiriedolwyr (Y Pwyllgor Gwaith)**||
|Cadeirydd|Y Prifardd Aneirin Karadog (ymddeolodd 6 Medi 2023)|
||Y Prifardd Gwenallt Llwyd Ifan (cyfetholwyd 6 Medi 2023)|
|Is-gadeirydd|Y Prifardd Llion Elis Jones (ymddeolodd 6 Medi 2023)|
||Y Prifardd Aneirin Karadog (penodwyd 6 Medi 2023)|
|Trysorydd|Llŷr James (ymddeolodd 6 Medi 2023)|
||Dafydd Meirion Jones (cyfetholwyd 6 Medi 2023)|
|Ysgrifennydd|Rhys Dafis (ymddeolodd 31 Mawrth 2024)|
|Darpar ysgrifennydd|Aled Maredudd Evans (cyfetholwyd 06 Medi 2023)|
||Y Prifardd Llion Elis Jones|
||Gruffudd Antur Edwards|
||Nerys Mari George|
||Y Prifardd Mererid Hopwood|
||Y Prifardd Tudur Dylan Jones|
||Y Prifardd Osian Rhys Jones|
||Y Prifardd Dafydd John Pritchard|
||Joanne Debra Heyde|
||Elinor Wyn Reyonlds|
|**Golygydd Llawrydd**|Y Prifardd Twm Morys|
|**Staff**|Alaw Griffiths (gadael Mehefin 2023)|
||Bethany Celyn Juckes-Hughes|
||Heledd Williams (ymuno Medi 2023)|
|**Archwiliwr Annibynnol**|R A Roberts BSc, FCA|
||Hill & Roberts|
||Cyfrifwyr Siartredig|
||1 Tan y Castell|
||Rhuthun|
||Sir Ddinbych|
||LL15 1DQ|

## **Strwythur a rheolaeth y cronfeydd elusennol** 

Mae Y Gymdeithas Gerdd Dafod (y “Gymdeithas”) yn fenter wedi ei sefydlu o dan gyfansoddiad ysgrifenedig ac yn cael ei gweinyddu gan Bwyllgor Gwaith. Mae pob aelod o’r Pwyllgor Gwaith yn Ymddiriedolwr/wraig yn yr elusen. Mae’r Gymdeithas elusennol wedi ei chofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau (rhif 511899). 

Mae’r Pwyllgor Gwaith wedi ei ethol o blith aelodau’r Gymdeithas. Y Pwyllgor Gwaith sy’n gyfrifol am reoli gwaith y Gymdeithas ar ran yr aelodau. Mae’r Pwyllgor Gwaith yn ethol swyddogion o’u plith. 

## **Nodau ac amcanion** 

Nod y Gymdeithas yw addysgu’r cyhoedd i werthfawrogi a deall barddoniaeth Gymraeg, yn enwedig y gelf o gynganeddu a hybu’r rhai sydd am farddoni. 

## **Darparu budd i’r cyhoedd** 

Wrth gynllunio ein gwaith am y flwyddyn, mae’r Ymddiriedolwyr wedi ystyried canllawiau’r Comisiwn Elusennau ar fudd y cyhoedd.  Mae’r Gymdeithas yn gweithio i gyflawni ei hamcanion drwy gyhoeddi o leiaf pedwar rhifyn o’r cylchgrawn _Barddas_ yn flynyddol, cyhoeddi llyfrau, a chynnal cyfarfodydd a digwyddiadau hyrwyddol amrywiol ledled Cymru ac ar y cyfryngau. 

## **Trefniant a Gweithgareddau** 

Yn ystod y flwyddyn, cyhoeddwyd y llyfrau canlynol gyda chymorth y Cyngor Llyfrau: - 

Y Gragen;       Oriel y Bardd;    Gwawrio;     Mymryn Rhyddid;    Curiadau: Bloeugerdd LHDTC+;     Dau Lais: Detholiad o Waith Gwilym Ceri Jones;      Prifeirdd Cymru - Llŷn ac Eifionydd;     Gweld Llun o Glywed Llinell;     Pigion y Talwrn 14;    Mae Gêm yn Fwy Na Gêm: Blodeugerdd Chwaraeon;   Tymor Da;   Cerddi'r Arfordir. 

Cyhoeddwyd 5 rhifyn o Barddas a chynhaliwyd cystadlaethau Tlysau Barddas yn Eisteddfod Genedlaethol Llyn ac Eifionydd a Gwyl Gerallt yng Nghaerwys a'r cyffiniau, yn ogystal a nifer o lansiadau Creola newydd. Mewn partneriaeth â’r BBC, trefnwyd “Bardd y Mis” ar gyfer darllediadau Radio Cymru a chyromyid yn gyson at raglenni’n trafod barddoniaeth. 

## **Adolygiad ariannol** 

Mae’r Gymdeithas wedi parhau i dderbyn grantiau oddi wrth Cyngor Llyfrau Cymru. Derbyniwyd cyfanswm o £75,689 (2022-23: £83,040). Mae canlyniadau’r elusen i’w gweld yn y Datganiad o Weithgareddau Ariannol.  Cyfanswm incwm oedd £116,886 (2023  - £127,727) a chyfanswm gwariant oedd £172,691 (2023 - £130,778).  Mae hyn yn gadael gwariant net o £55,805 wedi tynnu o gronfeydd yr elusen am y flwyddyn (2023 – gwariant net £3,051). 

## **Polisi cronfeydd** 

Mae’n rhan o bolisi’r elusen i gadw cronfeydd anghyfyngedig sef y cronfeydd rhydd, ar lefel sy’n hafal i tua 3 mis o dreuliau anghyfyngedig. Mae hyn yn caniatáu cronfa ddigonol i dalu costau rheoli, gweinyddu a chynnal yr elusen. 

Mae’r gronfa anghyfyngedig wedi disgyn i lefel sy’n is na sy’n ddelfrydol ar 31 Mawrth 2024.  Mae’r ymddiriedolwyr wedi cydnabod hyn ac wedi rhoi cynllun mewn lle i godi’r gronfa yn ôl i’r lefel sy’n cyfateb a’r polisi.  Gweler sylwadau ar dudalen 9 “Busnes hyfyw”. 

## **Polisi Buddsoddiad** 

Yr amcan buddsoddiad yw diogelu'r buddsoddiadau cyfredol yn erbyn chwyddiant ac i gael incwm rhesymol yn ôl.  Mae’r Elusen yn defnyddio cyfrifon cadw yn y banc, er mwyn ennill ychydig log a chadw arian yr Elusen yn ddiogel. 

## **Rheolaeth Risg** 

Mae’r Ymddiriedolwyr wedi gwneud arolwg risg ym meysydd strategaeth, busnes a gweithredol yr Elusen a gallant gadarnhau y byddai’r Elusen mewn sefyllfa i liniaru unrhyw risg ragweladwy. 

## **Cynlluniau ar gyfer y dyfodol** 

Mae’r Gymdeithas yn parhau i weithio’n agos gyda Chyngor Llyfrau Cymru a bwriada’r elusen barhau i gyhoeddi llyfrau, cyhoeddi’r cylchgrawn, cynnal digwyddiadau hyrwyddol amrywiol (megis lansiadau, ymrysonau, cystadleuthau barddoniaeth a Gŵyl flynyddol). 

## **Datganiad o gyfrifoldebau'r Ymddiriedolwyr** 

Mae'r Ymddiriedolwyr fel Pwyllgor Gwaith yn gyfrifol am baratoi Adroddiad yr Ymddiriedolwyr a'r datganiadau ariannol yn unol â chyfraith berthnasol a Safonau Cyfrifeg y DU (Arferion Cyfrifyddu a Dderbynnir yn Gyffredinol yn y Deyrnas Unedig). 

## **Datganiad o gyfrifoldebau'r Ymddiriedolwyr (parhad)** 

Mae cyfraith sy’n berthnasol i elusennau yn gofyn bod yr Ymddiriedolwyr yn paratoi datganiadau ariannol ar gyfer pob blwyddyn ariannol sy'n rhoi safbwynt cywir a theg ar faterion yr elusen fel y mae pethau ac o'r ffynonellau sy'n dod i mewn a defnydd y ffynonellau, gan gynnwys incwm a gwariant y cwmni elusennol dros y cyfnod hwnnw. Fel rhan o waith paratoi'r datganiadau ariannol, bydd gofyn i'r Ymddiriedolwyr wneud y canlynol: 

- Dewis polisïau cyfrifyddu addas ac yna eu rhoi ar waith yn gyson 

- Dilyn dulliau ac egwyddorion Datganiad o Arferion Argymelledig yr Elusen 

- Beirniadu ac amcangyfrif yn rhesymol ac yn bwyllog 

- Paratoi'r datganiadau ariannol yn seiliedig ar fusnes sydd ar fynd oni bai ei bod yn anaddas cymryd y bydd y cwmni elusennol yn parhau mewn busnes 

Mae'r Ymddiriedolwyr yn gyfrifol am gadw cofnodion ariannol digonol sy'n datgelu, gyda chywirdeb rhesymol ar unrhyw adeg, beth ydy sefyllfa ariannol yr elusen ac yn eu galluogi nhw i sicrhau fod y datganiadau ariannol yn cydymffurfio gyda Deddf Elusennau 2011, Rheoliadau Elusennau (Cyfrifon ac Adroddiadau) perthnasol, a chyfansoddiad yr elusen. Maen nhw hefyd yn gyfrifol am ddiogelu asedau'r elusen ac felly hefyd dros gymryd camau rhesymol er mwyn rhwystro a datgelu unrhyw dwyll neu anghysondeb arall. 

## **Datganiad** 

Mae adroddiad yr Ymddiriedolwyr wedi ei gymeradwyo gan yr Ymddiriedolwyr. 

## Arwyddwyd _A M Evans_ 

Aled Maredudd Evans – Ysgrifennydd 

Dyddiad  22 Ionawr 2025 

5 

## **Y GYMDEITHAS GERDD DAFOD** 

## **BARDDAS** 

## **ADRODDIAD YR ARCHWILIWR ANNIBYNNOL I YMDDIRIEDOLWYR Y GYMDEITHAS GERDD DAFOD** 

Adroddaf i’r Ymddiriedolwyr ar fy archwiliad o gyfrifon Y Gymdeithas Gerdd Dafod (“yr Ymddiriedolaeth”) am y flwyddyn yn diweddu 31ain Mawrth 2024 fel ag y gwelir ar dudalennau 8 hyd 19. 

## **Cyfrifoldebau a’r sail adrodd** 

Fel Ymddiriedolwyr elusen yr Ymddiriedolaeth rydych yn gyfrifol am baratoi’r cyfrifon yn unol â gofynion Deddf Elusennau 2011 (“y Ddeddf”). 

Adroddaf mewn perthynas â'm harchwiliad o gyfrifon yr Ymddiriedolaeth a gwblhawyd o dan adran 145 o Ddeddf 2011 ac wrth ymgymryd â'm harchwiliad, dilynais yr holl Gyfarwyddiadau cymwys a roddwyd gan y Comisiwn Elusennau o dan adran 145(5)(b) o'r Ddeddf. 

## **Datganiad yr archwiliwr annibynnol** 

Cwblheais fy archwiliad.  Cadarnhaf nad yw unrhyw faterion perthnasol wedi dod i'm sylw mewn perthynas â'r archwiliad sy'n rhoi achos i mi gredu, mewn unrhyw agwedd berthnasol bod: 

- cofnodion cyfrifyddu heb eu cadw ar gyfer yr Ymddiriedolaeth fel sy’n ofynnol gan adran 130 o'r Ddeddf; neu 

- nid yw'r cyfrifon yn cyfateb â'r cofnodion hynny; neu 

- nid yw'r cyfrifon yn cydymffurfio â'r gofynion cymwys yngylch ffurf a chynnwys cyfrifon a amlinellir yn Rheoliadau Elusennau (Cyfrifon ac Adroddiadau) 2008 heblaw unrhyw ofyniad bod y cyfrifon yn rhoi darlun 'gwir a theg' nad yw'n fater i'w ystyried fel rhan o archwiliad annibynnol. 

Mae dau fater wedi dod i’m sylw yn ystod fy archwiliad o gofnodion cyfrifyddu’r elusen y tynnaf sylw atynt yn yr adroddiad hwn. 

Mae'r ymddiriedolwyr wedi adolygu amodau'r gymynrodd a dderbyniwyd o dan ewyllys Pat Neill. Mae’r ymddiriedolwyr bellach yn credu bod y gronfa gyfyngedig hon hefyd yn gronfa waddol ac felly maent wedi trosglwyddo digon o arian cyffredinol i adfer y gronfa i gydymffurfio â’r amodau hynny ac wedi cynrychioli’r gronfa o fewn y datganiadau ariannol ar dudalennau 8, 9, 11 ac yn fwy arbennig yn nodyn 20 ar dudalen 17. 

Y gwariant net ar gyfer y flwyddyn cyn trosglwyddo arian oedd £55,805 o’i gymharu â £3,051 ar gyfer y flwyddyn flaenorol.  Mae'r ymddiriedolwyr wedi adolygu'r rhesymau dros y lefel uchel hon o wariant net ac wedi nodi eu hesboniadau ar dudalen 10 o dan y polisi Cyfrifo 'Busnes Gweithredol'.  Mae’r ymddiriedolwyr wedi cymryd camau i leihau costau a gwella adnoddau ariannol yr elusen o fewn y cyfnod ariannol canlynol a sicrhau parhad yr elusen a chyflawni amcanion yr elusen. 

6 

Nid wyf wedi dod ar draws unrhyw faterion eraill mewn perthynas â'r archwiliad y dylid dwyn sylw atynt yn yr adroddiad hwn er mwyn sicrhau dealltwriaeth briodol o'r cyfrifon. 

## Llofnodwyd _R A Roberts_ 

Richard Andrew Roberts BSc FCA 

Hill & Roberts, Cyfrifwyr Siartredig, 1 Tan y Castell Rhuthun, Sir Ddinbych LL15 1DQ 

Dyddiad 23 Ionawr 2025 

7 

**Y GYMDEITHAS GERDD DAFOD** 

## **BARDDAS** 

## **DATGANIAD O WEITHGAREDDAU ARIANNOL AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2024** 

||Nodyn|2024|2024|2024|**2024**|2023|
|---|---|---|---|---|---|---|
|||Cronfa heb|Cronfa|Cronfa|**Cyfanswm**|Cyfanswm|
|||gyfyngiad|wedi ei|gwaddol|**cronfeydd**|cronfeydd|
||||gyfyngu||||
|||£|£|£|**£**|£|
|**Adnoddau a dderbyniwyd**|||||||
|Rhoddion a<br>chymynroddion|3|91,432|-|-|**91,432**|97,784|
|Gweithgareddau elusennol|4|25,041|-|-|**25,041**|29.819|
|Buddsoddiadau|5|228|-|185|**413**|124|
|||116,701|-|185|**116,886**|127,727|
|**Adnoddau a dreuliwyd**|||||||
|Gweithgareddau elusennol|6|172,506|-|185|**172,691**|130,778|
|**Cyfanswm gwariant**||172,506|-|185|**172,691**|130,778|
|Incwm/ (Gwariant) Net||(55,805)|-|-|**(55,805)**|(3,051)|
|Symudiadau net rhwng<br>cronfeydd||(1,152)|(13,848)|15,000|**-**|-|
|Adnoddau a dderbyniwyd<br>net||(56,957)|-|15,000|**(55,805)**|(3,051)|
|Cyfanswm cronfeydd 1<br>Ebrill 2023||64,697|13,848|-|**78,545**|81,596|
|**Cyfanswm cronfeydd 31**<br>**Mawrth 2024**||**7,740**|**-**|**15,000**|**22,740**|78,545|

8 

## **Y GYMDEITHAS GERDD DAFOD** 

## **BARDDAS** 

## **MANTOLEN AR 31 MAWRTH 2024** 

|**Nodyn**<br>**ASEDAU PARHAOL**<br>Asedau cyffyrddadwy<br>16<br>**ASEDAU CYFREDOL**<br>Stoc<br>17<br>Dyledwyr a Rhagdaliadau<br>18<br>Arian yn y banc<br>**CREDYDWYR**<br>Yn daladwy o fewn y<br>flwyddyn<br>19<br>**CRONFEYDD**<br>Gwaddol<br>20<br>Wedi eu cyfyngu gwaddol<br>20<br>Heb eu cyfyngu<br>20|**2024**<br>**£**<br>**£**<br>**637**<br>**12,964**<br>**7,660**<br>**16,205**<br>**36,829**<br>**14,726**<br>**22,103**<br>**22,740**<br>**15,000**<br>**-**<br>**7,740**<br>**22,740**|**2024**<br>**£**<br>**£**<br>**637**<br>**12,964**<br>**7,660**<br>**16,205**<br>**36,829**<br>**14,726**<br>**22,103**<br>**22,740**<br>**15,000**<br>**-**<br>**7,740**<br>**22,740**|**2023**<br>**£**<br>**£**<br>-<br>26,804<br>3,803<br>65,791<br>96,398<br>17,853<br>78,545<br>78,545<br>-<br>13,848<br>64,697<br>78,545|**2023**<br>**£**<br>**£**<br>-<br>26,804<br>3,803<br>65,791<br>96,398<br>17,853<br>78,545<br>78,545<br>-<br>13,848<br>64,697<br>78,545|
|---|---|---|---|---|
||**36,829**||96,398||
||**14,726**||17,853||
||||||
|||**22,740**||78,545|
|||**15,000**<br>**-**<br>**7,740**||-<br>13,848<br>64,697|
|||**22,740**||78,545|

Wedi ei gymeradwyo gan yr ymddiriedolwyr ar  22 Ionawr 2025 

## _Gwenallt Lloyd Ifan_ 

Y Prifardd Gwenallt Llwyd Ifan _(Cadeirydd)_ 

9 

**Y GYMDEITHAS GERDD DAFOD** 

## **BARDDAS** 

## **NODIADAU AR Y CYFRIFON AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2024** 

## **1. GWYBODAETH GYFFREDINOL** 

Mae’r Gymdeithas Gerdd Dafod yn elusen gofrestredig wedi ei sefydlu o dan gyfansoddiad ysgrifenedig. Mae’r elusen wedi ei chofrestru yng Nghymru â chyfeiriad cofrestredig Cilgwyn, Llansannan, Dinbych, LL16 5HL. 

## **2. POLISÏAU CYFRIFO** 

## **Y Sail Gyfrifyddol** 

Y mae datganiadau ariannol yr elusen wedi eu paratoi ar sail confensiwn cost hanesyddol ac yn unol ag FRS 102 “The Financial Reporting Standard applicable in the UK and the Republic of Ireland” y “Charities SORP (FRS 102)” a Deddf Elusennau 2011. 

Mae’r datganiadau ariannol wedi’u paratoi yn unol â’r confensiwn costau hanesyddol, wedi ei ddiwygio ar gyfer ail brisio rhai asedau a dyledion ac eiddo buddsoddiad sydd wedi eu mesur yn ôl gwerth teg. Caiff y datganiad ariannol eu cyflwyno mewn punnoedd Prydeinig (£), arian gweithredu’r elusen a’i dalgrynnu at y bunt agosaf. 

## **Busnes hyfyw** 

Yn ystod y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2024 roedd gwariant yr elusen £55,805 yn uwch na’r incwm (“colled am y flwyddyn”).  Roedd hyn yn cynwys lleihad yng ngwerth y stoc llyfrau ar 31 Mawrth 2024 o £21,361 i adlewyrchu llyfrau sy’n anhebygol o gael eu gwerthu yn y dyfodol rhagweladwy.  Roedd stoc ar ddechrae’r flwyddyn yn £26,804 ac ar ddiwedd y flwyddyn yn £12,964; a’r gostyngiad o £13,840 yn rhan o’r golled yma (gweler nodyn 8). 

Mae gweddill y golled am y flwyddyn yn adlewyrchu’r canlynol: 

- ➢ Lleihad yng ngwerthiant llyfrau yn gyffredinol sy’n adlewyrchu’r hinsawdd economaidd. Mae hyn wedi effeithio ar y sector gyhoeddi yng Nghymru’n gyffredinol. 

- ➢ Cynydd mewn costau gyda’r incwm yn sefydlog neu’n crebachu – eto’n adlewyrchu’r hinsawdd economaidd a’r heriau cyllidol sy’n wynebu’r sector. 

- ➢ Rhaglen gyhoeddi uchelgeisiol yn 2023/24 gyda costau cynhyrchu uchel a gwerthiant yn sylweddol llai na’r disgwyl. 

- ➢ Costau eithriadol i gydnabod 500 mlynedd ers i grefft y mesurau cynganeddol (‘cerdd dafod’) gael ei chydnabod a’i safoni yn Eisteddfod Caerwys 1523. 

Mae’r heriau ariannol wedi parhau yn 2024/25 ac mae’r Ymddiriedolwyr wedi cymryd camau i leihau a rheoli costau ac i sicrhau fod gan yr elusen yr adnoddau ariannol priodol i’w galluogi i barhau i weithredu a chyflawni amcanion yr elusen yn effeithiol. 

Ar y sail hon mae’r ymddiriedolwyr yn hyderus ei bod yn briodol i’r sail busnes hyfyw gael ei ddefdnyddio wrth baratoi’r cyfrifon ac y bydd gan yr elusen gyfalaf gweithiol digonol ar gyfer y dyfodol rhagweladwy. 

10 

**Y GYMDEITHAS GERDD DAFOD** 

## **BARDDAS** 

## **Asedau sefydlog cyffyrddadwy** 

Mae asedau sefydlog yn cael eu cofnodi yn wreiddiol yn ôl eu cost ac yna’n cael eu datgan yn ôl eu cost llai dibrisiant ac unrhyw golledion amhariad. Mae unrhyw asedau sefydlog sydd yn cael eu datgan ar ail brisiad yn cael eu cofnodi yn ôl eu gwerth teg ar ddyddiad yr ail brisiad, llai unrhyw ddibrisio a cholledion amhariad pellach. Bydd cynnydd yng ngwerth ased yn sgil ail brisio yn cael ei gydnabod gydag elw a cholledion cydnabyddedig eraill heblaw ei fod yn gwyrdroi unrhyw elw cydnabyddedig a wnaed mewn blynyddoedd cynt. 

## **Dibrisiant** 

Mae’r dibrisiant ar yr asedau sefydlog cyffyrddadwy yn cael ei gyfrif fel bo cost yr asedau, llai eu gwerth gweddilliol, yn cael ei ddileu dros gyfnod bywyd economaidd arferol yr asedau. Y gyfradd a ddefnyddiwyd yw 25% ar ddull mantol yn gostwng. 

## **Amhariad asedau sefydlog** 

Fe wneir adolygiad yn flynyddol os oes amhariad wedi digwydd i werth asedau sefydlog, ac os oes amhariad yn bodoli yna ail brisir yr ased yn unol â’r gwerth y gellir disgwyl amdano. Lle mae’r gwerth yn y llyfrau yn fwy na’r gwerth y gellir ei ddisgwyl, yna mae’r ased yn cael ei amharu. 

## **Stoc** 

Y mae stoc wedi ei brisio ar yr isaf o gost a phris gwerthu, ar ôl cymryd i ystyriaeth oed a chyflwr y stoc. Y mae natur llyfrau’r Gymdeithas yn arbennig ac felly nid yw’r rhai sydd yn flwydd oed neu hyn yn cael eu prisio. 

## **Cronfeydd anghyfyngedig** 

Cronfeydd heb eu cyfyngu yw rhoddion sy’n cael eu derbyn ac adnoddau eraill a dderbynnir, neu a grëir o dan nod yr elusennau, heb bwrpas penodedig ac maent ar gael fel Cronfeydd Cyffredinol. 

## **Cronfeydd cyfyngedig** 

Mae’n rhaid i gronfeydd wedi eu cyfyngu cael eu defnyddio i bwrpas penodedig yn ôl dymuniad y rhoddwr. Mae gwariant sydd yn ateb y gofynion yma yn cael ei ddangos yn erbyn y gronfa. Mae cronfeydd gwaddol yn cynrychioli’r asedau hynny y mae’n rhaid eu dal yn barhaol gan yr elusen, yn bennaf Cronfa Ewyllys Pat Neill.  Gall incwm sy’n codi o’r cronfeydd gwaddol nad oes ei angen i wneud taliadau gwobrau gael ei ddefnyddio yn unol ag amcanion yr elusen ac mae wedi’i gynnwys fel incwm anghyfyngedig. 

## **Adnoddau a Dderbynnir** 

Mae’r holl adnoddau a dderbynnir ar gyfer cynhyrchu llyfrau a’r cylchgrawn yn cael eu dangos yn y datganiad o weithgareddau ariannol pan mae’r hawl cyfreithiol gan yr elusen i’r incwm a gellir adnabod y swm gyda sicrwydd rhesymol. Mae unrhyw grantiau cyfalaf yn cael eu hadnabod yn y flwyddyn y maent yn cael eu derbyn yn y datganiad o weithgareddau ariannol. 

## **Grantiau** 

Mae grantiau a dderbynnir ar gyfer cynhyrchu llyfrau a’r cylchgrawn yn cael eu dangos yn y datganiad o weithgareddau ariannol yn y cyfnod y maent yn cael eu derbyn. 

11 

## **Y GYMDEITHAS GERDD DAFOD** 

## **BARDDAS** 

## **Adnoddau a dreuliwyd** 

Cyfrifir yr holl gostau ar raddfa croniad ac fe’u cyfrifir o dan benawdau sy’n cyfrannu’r holl gostau sy’n berthnasol i’r categori. Mae costau codi arian yn cynnwys treuliau ynglŷn â chwilio am gyfraniadau gwirfoddol yn unig, ac nid ydynt yn cynnwys costau gwybodaeth daenedig sy’n cefnogi’r gweithgareddau elusennol. Costau cynhaliaeth yw’r rhai hynny sy’n digwydd yn uniongyrchol i gadarnhau’r gwariant ar amcanion yr elusen. Costau gweinyddol yw’r rhai sydd ynglŷn â gweinyddiaeth yr elusen a’r angen i gydymffurfio ag anghenion cyfansoddiadol a statudol. 

## **Treth** 

Ni wnaed darpariaeth treth gorfforaeth na threthiant a ohiriwyd gan fod yr elusen yn un gofrestredig ac felly yn cael eu heithrio ar ei weithgareddau elusennol. 

## **Offerynnau ariannol** 

Mae ased ariannol neu rwymedigaeth ariannol yn cael ei gydnabod pan fod hawl gan yr elusen i ddarpariaethau cytundebol yr offeryn. Hawliwyd offerynnau ariannol sylfaenol am bris y trafodyn. Ond os yw’r trefniad yn drafodyn ariannu, rhaid cydnabod gwerth presennol taliadau dyfodol yr offeryn ariannol wedi disgowntio ar gyfradd y farchnad. Ar ddiwedd pob blwyddyn, cynhaliwyd adolygiad o amhariad yn yr asedau ariannol. Os oes tystiolaeth wrthrychol o amhariad, rhaid cydnabod y golled ar unwaith yn y cyfrif incwm a cholledion. Os oes gwrthdroad o amhariad, rhaid cydnabod y gwrthdroad yn y datganiad o weithgareddau ariannol ar unwaith. Ni cheir cynyddu gwerth yr ased ariannol i ffigwr fwy na’r ffigwr gwreiddiol cyn yr amhariad. 

## **3. RHODDION A CHYMYNRODDION** 

|Grantiau<br>Tanysgrifiadau<br>Rhoddion<br>Lwfans Cyflogaeth|**2024**<br>**2024**<br>2023<br>2023<br>**Anghyfyngedig**<br>**Cyfanswm**Anghyfyngedig<br>Cyfanswm<br>**£**<br>**£**<br>£<br>£<br>75,689<br>**75,689**<br>83,040<br>**83,040**<br>12,767<br>**12,767**<br>12,532<br>**12,532**<br>100<br>**100**<br>-<br>**-**<br>2,876<br>**2,876**<br>2,212<br>**2,212**|
|---|---|
||91,432<br>**91,432**<br>97,784<br>**97,784**|

|**Cyngor Llyfrau Cymru**<br>Grant Cylchgrawn am y flwyddyn<br>Grant Llyfrau am y flwyddyn<br>Grant swydd am y flwyddyn<br>Grant awduron am y flwyddyn<br>Grantiau eraill am y flwyddyn<br>Grant marchnata|**2024**<br>**£**<br>**24,000**<br>**23,625**<br>**15,180**<br>**12,884**<br>**-**<br>**-**<br>**75,689**|2023<br>£<br>20,000<br>27,000<br>15,180<br>18,840<br>-<br>2,020|
|---|---|---|
|||83,040|

12 

## **Y GYMDEITHAS GERDD DAFOD** 

## **BARDDAS** 

## **4. INCWM GWEITHGAREDDAU ELUSENNOL** 

|Gwerthiant llyfrau a<br>chylchgronau<br>Hysbysebu<br>Gŵyl Gerallt<br>Gwyl Canol Dre<br>Eisteddfod<br>Incwm arall<br>**5.**<br>**INCWM BUDDSODDIAD**<br>Llog a dderbyniwyd<br>Gwobr teyrngarwch<br>banc|2024<br>2024<br>**2024**<br>2023<br>Anghyfyngedig<br>Cyfynedig<br>**Cyfanswm**<br>Cyfanswm<br>£<br>£<br>**£**<br>£<br>16,954<br>-<br>**16,954**<br>26,018<br>-<br>-<br>**-**<br>25<br>1,414<br>-<br>**1,414**<br>826<br>-<br>-<br>**-**<br>150<br>4,003<br>-<br>**4,003**<br>2,314<br>2,670<br>-<br>**2,670**<br>486|
|---|---|
||25,041<br>-<br>**25,041**<br>29,819|
||<br>2024<br>2024<br>**2024**<br>2023<br>Anghyfyngedig<br>Gwaddol<br>**Cyfanswm**<br>Cyfanswm<br>£<br>£<br>**£**<br>£<br>218<br>185<br>**403**<br>106<br>10<br>-<br>**10**<br>18<br>228<br>185<br>**413**<br>124|

## **6. GWARIANT AR WEITHGAREDDAU ELUSENNOL** 

|Cynhyrchu cylchgrawn<br>Cynhyrchu llyfrau<br>Gwariant elusennol eraill<br>Gweinyddiaeth a rheolaeth<br>Cynhyrchu cylchgrawn<br>Cynhyrchu llyfrau<br>Gwariant elusennol eraill<br>Gweinyddiaeth a rheolaeth|2024<br>2024<br>**2024**<br>Anghyfyngedig<br>Gwaddol<br>**Cyfanswm**<br>£<br>£<br>**£**<br>34,634<br>-<br>**34,634**<br>110,576<br>-<br>**110,576**<br>12,544<br>185<br>**12,729**<br>14,752<br>-<br>**14,752**|
|---|---|
||172,506<br>185<br>**172,691**|
||2023<br>2023<br>2023<br>Anghyfyngedig<br>Cyfyngedig<br>Cyfanswm<br>£<br>£<br>£<br>33,027<br>-<br>33,027<br>78,655<br>-<br>78,655<br>6,991<br>75<br>7,066<br>12,030<br>-<br>12,030|
||130,703<br>75<br>130,7778|

13 

**Y GYMDEITHAS GERDD DAFOD** 

## **BARDDAS** 

|**7.**<br>**COSTAU CYNHYRCHU’R CYLCHGRAWN**<br>Golygyddion Llawrydd<br>Cynhyrchu a dosbarthu Barddas<br>Cyfranwyr Barddas<br>Elfen o gyflog a phensiwn<br>Gwobrau<br>**8.**<br>**COSTAU CYNHYRCHU LLYFRAU**<br>Stoc ar 1 Ebrill 2023<br>Cynhyrchu llyfrau yn y cyfnod<br>Stoc ar 31 Mawrth 2024<br>Cyflog golygydd a chyfran o gyflogau gweinyddwr<br>Golygydd Llawrydd<br>Taliadau i gyfranwyr ac awduron<br>Lansio<br>Hysbysebu, cyhoeddusrwydd a gwobrau<br>9.<br>**GWARIANT ELUSENNOL ARALL**<br>Eisteddfod Genedlaethol<br>Nawdd Llenyddiaeth Cymru (Cronfa Gerallt)<br>Gwyl Canol Dre<br>Gŵyl Gerallt<br>Cyhoeddi Podlediad<br>Nwyddau – bagiau, mygiau<br>Dylunio<br>Tlws Pat Neill|**2024**<br>**£**<br>**9,600**<br>**15,686**<br>**2,825**<br>**6,443**<br>**80**<br>**34,634**<br>**2024**<br>**£**<br>**26,804**<br>**43,581**<br>**(12,964)**<br>**57,421**<br>**29,188**<br>**7,652**<br>**12,969**<br>**1,750**<br>**1,596**<br>**110,576**<br>**2024**<br>**£**<br>**4,585**<br>**-**<br>**-**<br>**7,361**<br>**-**<br>**72**<br>**526**<br>**185**<br>**12,729**|2023<br>£<br>8,990<br>14,353<br>3,771<br>5,793<br>120|
|---|---|---|
|||33,027|
|||2023<br>£<br>14,744<br>40,771<br>(26,804)|
|||28,711<br>24,808<br>3,304<br>17,572<br>2,134<br>2,126|
|||78,655|
|||2023<br>£<br>4,320<br>150<br>150<br>1,220<br>300<br>263<br>588<br>75|
|||7,066|

14 

## **Y GYMDEITHAS GERDD DAFOD** 

## **BARDDAS** 

## 10. **GWEINYDDU A RHEOLAETH** 

|Elfen o gyflogau<br>Cyfrifo<br>Cadw Llyfrau<br>Post a chostau swyddfa<br>Teithio a chynhaliaeth<br>Rhent a storio<br>Yswiriant<br>Dyledwyr drwg<br>Costau banc<br>Manion<br>Aelodaeth<br>Hysbysebu<br>Costau Zoom a chyfrifiadur<br>Dibrisiant|**2024**<br>**£**<br>**6,443**<br>**1,354**<br>**1,044**<br>**598**<br>**1,896**<br>**780**<br>**754**<br>**-**<br>**149**<br>**317**<br>**-**<br>**1,039**<br>**166**<br>**212**<br>**14,752**|2023<br>£<br>5,793<br>1,299<br>612<br>495<br>767<br>624<br>1,428<br>(1,450)<br>235<br>290<br>-<br>1,771<br>166<br>-|
|---|---|---|
|||12,030|

## **11. GWARIANT ELUSENNOL YN ÔL GWEITHGAREDDAU** 

|Cynhyrchu llyfrau<br>Cynhyrchu cylchgrawn<br>Gwariant elusennol arall<br>Llywodraethu|Gweithgareddau<br>Uniongyrchol<br>Costau<br>cefnogi<br>**Cyfanswm**<br>**2024**<br>Cyfanswm<br>2023<br>£<br>£<br>**£**<br>£<br>110,576<br>9,655<br>**120,231**<br>86,981<br>34,634<br>3,024<br>**37,658**<br>36,523<br>12,729<br>1,086<br>**13,842**<br>7,814<br>-<br>960<br>**960**<br>(540)|
|---|---|
||157,939<br>14,752<br>**172,691**<br>130,778|

## **12. DADANSODDIAD O GOSTAU CEFNOGI** 

|Costau staff<br>Costau eiddo<br>Costau swyddfa<br>gyffredinol<br>Costau llywodraethu|Cynhyrchu<br>llyfrau<br>Cynhyrchu<br>cylchgrawn<br>Gwariant<br>Elusennol<br>Arall<br>**Cyfanswm**<br>**2024**<br>Cyfanswm<br>2023<br>£<br>£<br>£<br>**£**<br>£<br>5,238<br>1,641<br>603<br>**7,482**<br>7,564<br>148<br>46<br>18<br>**212**<br>4,269<br>1,337<br>492<br>**6,098**<br>5,006<br>672<br>211<br>77<br>**960**<br>(540)|
|---|---|
||10,327<br>3,235<br>1,190<br>**14,752**<br>12,030|

15 

## **Y GYMDEITHAS GERDD DAFOD** 

## **BARDDAS** 

|**13.**<br>**ADNODDAU A DDERBYNIWYD / DREULIWYD NET**<br>**2024**<br>2023<br>**£**<br>£<br>Y mae wedi ei ddatgan ar ôl tynnu: -<br>Dibrisiant<br>**212**<br>-<br>**14.**<br>**FFIOEDD YR ARCHWILIWR ANNIBYNNOL**<br>**2024**<br>2023<br>**£**<br>£<br>Adroddiad ar y cyfrifon<br>**960**<br>910<br>Gwasanaethau cyflogau<br>**394**<br>389<br>**1,354**<br>1,299<br>**15.**<br>**CYFLOGAU**<br>**2024**<br>2023<br>**£**<br>£<br>Cyflogau<br>**37,518**<br>32,446<br>Nawdd cymdeithasol<br>**2,876**<br>2,350<br>Pensiwn Cyflogwr<br>**1,680**<br>1,598<br>**42,074**<br>36,394<br>Ni enillodd unrhyw weithiwr £60,000 neu fwy (2023 – dim).<br>Cyfartaledd nifer y gweithwyr am y flwyddyn oedd 2 (2023 – 2).<br>**16.**<br>**ASEDAU PARHAOL CYFFYRDADWY**<br>Offer swyddfa<br>**Cost**<br>£<br>Ar y 1af o Ebrill 2023 a 31 o Fawrth 2024<br>5,082<br>Ychwanegiadau<br>849<br>5,931<br>**Dibrisiant**<br>Ar y 1af o Ebrill 2023<br>5,082<br>Dibrisiant<br>212<br>Ar y 31 o Fawrth 2024<br>5,294<br>**Gwir werth llyfr ar y 31 o Fawrth 2024**<br>**637**<br>Gwir werth llyfr ar y 31 o Fawrth 2023<br>-|**2024**<br>**£**<br>**212**<br>**2024**<br>**£**<br>**960**<br>**394**|**2024**<br>**£**<br>**212**<br>**2024**<br>**£**<br>**960**<br>**394**|2023<br>£<br>-<br>2023<br>£<br>910<br>389|
|---|---|---|---|
||**1,354**||1,299|
||||2023<br>£<br>32,446<br>2,350<br>1,598|
||||36,394|
|||5,931||
|||5,082<br>212||
|||5,294||
|||**637**||
|||-||

16 

## **Y GYMDEITHAS GERDD DAFOD** 

## **BARDDAS** 

|**17.**|**STOC**||||||
|---|---|---|---|---|---|---|
||||||**2024**|2023|
||||||**£**|£|
||Llyfrau|||**12,964**||26,804|
|**18.**|**DYLEDWYR**||||||
||||||**2024**|2023|
||||||**£**|£|
||Dyledwyr gweithredol||||**4,558**|1,895|
||Dyledwyr eraill||||**-**|-|
||Rhagdaliadau||||**3,102**|1,908|
||||||**7,660**|3,803|
|**19.**|**CREDYDWYR**||||||
||||||**2024**|2023|
||Yn daladwy o fewn y flwyddyn||||**£**|£|
||Credydwyr gweithredol|||**12,372**||16,614|
||Credydwyr eraill a nawdd cymdeithasol||||**1,753**|638|
||Croniadau ac incwm gohiriedig||||**601**|601|
|||||**14,726**||17,853|
|**20.**|**SYMUDIAD YN Y CRONFEYDD**||||||
|||1 Ebrill 2023|Adnoddau|Adnoddau|Trosglwyddo|31 Mawrth|
||||Mewn|Allan||2024|
|||£|£|£|<br>£|£|
||Cronfeydd wedi’u||||||
||cyfyngu|13,848|-|-|<br>(13,848)|-|
||Cronfeydd gwaddol||||||
||- Ewyllys Pat Neil|-|185|(185)|15,000|15,000|
|||13,848|185|(185)|<br>1,152|15,000|
||Cronfeydd heb eu||||||
||cyfyngu||||||
||Cronfa Gyffredinol|64,697|116,701|(172,506)|(1,152)|7,740|
|||64,697|116,701|(172,506)|<br>(1,152)|7,740|
|||78,545|116,886|(172,691)|-|22,740|

Mae’r ymddiriedolwyr wedi ail ystyried cronfa Ewyllys Pat Neill yn ystod y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2024 ac wedi dod i’r penderfyniad nid yn unig ei bod yn gronfa wedi e’i chyfyngu, ond hefyd yn gronfa waddol.  Yn ôl amodau’r gymynrodd, mae rhaid i’r gronfa sefyll ar £15,000 yn barhaol, felly mae £1,152 wedi ei drosglwyddo o’r gronfa gyffredinol i gronfa Ewyllys Pat Neil (gweler polisïau cronfeydd cyfyngedig ar dudalen 11). 

17 

## **Y GYMDEITHAS GERDD DAFOD** 

## **BARDDAS** 

## **21. DADANSODDIAD O ASEDAU NET RHWNG CRONFEYDD** 

|Cronfa gwaddol<br>Cronfeydd wedi’u cyfyngu<br>Cronfeydd heb eu cyfyngu<br>**Cyfanswm**|**Asedau sefydlog**<br>**cyffyrddadwy**<br>**Asedau cyfredol net**<br>**Cyfanswm**<br>**£**<br>**£**<br>**£**<br>-<br>15,000<br>15,000<br>-<br>-<br>-<br>637<br>7,103<br>7,740|
|---|---|
||**637**<br>**22,103**<br>**22,740**|

## **22. TRAFODION GYDA YMDDIRIEDOLWYR NEU BERSONAU CYSYLLTIEDIG NEU DEBYG** 

Mae’r Ymddiriedolwyr yn rhoi o’u hamser yn gwbl wirfoddol i gyfarfod, rheoli a chynnal gweithgaredd y Gymdeithas, heb unrhyw dâl neu gydnabyddiaeth yn uniongyrchol nag yn anuniongyrchol o gronfa’r elusen am wneud hynny. 

Yr unig eithriad yw cydnabyddiaeth ar ffurf ffi yn ymwneud â gwaith llenyddol creadigol y Gymdeithas.  Lle rhoir cydnabyddiaeth i Ymddiriedolwyr am hynny, mae’n bolisi datgan yr hyn â gânt yn agored, a cheir dadansoddiad isod, felly, o’r taliadau i Ymddiriedolwyr yn ystod y flwyddyn adrodd.  Lle telir i Ymddiriedolwyr am waith creadigol, gwneir hynny ar yr un telerau yn union â chyfranwyr eraill nad ydynt yn Ymddiriedolwyr, yn ddieithriad. 

1. Talwyd yr Ymddiriedolwyr (neu bersonau cysylltiedig ag Ymddiriedolwyr) canlynol drwy gytundeb safonol y Gymdeithas ag awduron cyfrolau: 

|Enw|Cyfrol|Disgrifiad|Swm|
|---|---|---|---|
||||£|
|Rhys Dafis|Gweld llun o|Awdur|500|
||glywed llinell|||

2. Talwyd yr Ymddiriedolwyr (neu bersonau cysylltiedig ag Ymddiriedolwyr) canlynol drwy gytundeb safonol y Gymdeithas â chomisiynwyr a golygyddion cyfrolau: 

|Enw|Cyfrol|Disgrifiad|Swm|
|---|---|---|---|
||||£|
|Nerys Mari George|Cerddi’r Arfordir|Golygydd|700|

3. Yn achos 1 a 2 uchod, yn unol â’r arfer cytundebol, derbyniodd yr awduron / comisiynwyr / golygyddion 12 o argraffiad cyntaf eu cyfrol am ddim. 

4. Yn unol â’r arfer ers sefydlu’r Gymdeithas, derbyniodd aelodau’r Pwyllgor Gwaith yn ystod y flwyddyn adrodd gopi am ddim o bob cyfrol a gyhoeddwyd tra oeddent yn aelod o’r Pwyllgor hwnnw. 

18 

**Y GYMDEITHAS GERDD DAFOD** 

## **BARDDAS** 

5. Talwyd yr Ymddiriedolwyr (neu bersonau cysylltiedig ag Ymddiriedolwyr) canlynol drwy drefniant golygyddol am eu cyfraniadau creadigol i’r cylchgrawn Barddas neu i gyfrolau (yn cynnwys breindal): 

|Enw|Cyfrol|Disgrifiad|Swm|
|---|---|---|---|
||||£|
|Gruffudd Antur|_Barddas_|Cyfrannu cerdd|60|
|Gruffudd Antur|_Barddas_|Eisteddfod|30|
|Gruffudd Antur|_Barddas_|Cyfrannu cerdd|50|
|Rhys Dafis|_Barddas_|Cyfrannu cerdd|50|
|Joanne Debra Heyde|_Barddas_|Cyfrannu cerdd|60|
|Joanne Debra Heyde|Cerddi’r Arfordir|Cyfrannu cerdd|100|
|Tudur Dylan Jones|Cerddi’r Arfordir|Cyfrannu cerdd a lluniau|450|
|Aneirin Karadog|Tymor Da|Cyfrannu cerdd|70|
|Aneirin Karadog|Cerddi’r Arfordir|Cyfrannu cerdd|100|
|Elinor Reynolds|Cerddi’r Arfordir|Cyfrannu cerdd|100|

6. Talwyd yr Ymddiriedolwyr (neu bersonau cysylltiedig ag Ymddiriedolwyr) canlynol am waith arbenigol yn trefnu digwyddiadau hyrwyddol: 

|Enw|Cyfrol|Disgrifiad|Swm|
|---|---|---|---|
||||£|
|Gruffudd Antur||Gwyl Gerallt|80|
|Gruffudd Antur||Meurynna Eisteddfod|360|
|Rhys Dafis||Gwyl Gerallt|410|
|Mari George||Gwyl Gerallt|60|
|Meirion Jones||Eisteddfod Englyn y Dydd|30|
|Tudur Dylan Jones||Gwyl Gerallt|40|
|Aneirin Karadog||Gwyl Gerallt|48|
|Aneirin Karadog||Eisteddfod|200|
|Gwenallt Llwyd Ifan||Gwyl Gerallt|40|
|Dafydd Meirion Jones||Gwyl Gerallt|40|
|Dafydd John Pritchard||Gwyl Gerallt|40|
|Llion Elis Jones||Gwyl Gerallt|40|
|Sgrifen Cyf||Gwyl Gerallt|140|
|(Cwmni personol Mererid Hopwood)||||

7. Talwyd 5 ymddiriedolwyr (neu bersonau cysylltiedig ag Ymddiriedolwyr) costau teithio a llety yn ystod y flwyddyn am gyfanswm o £782. 

19 