Rhif yr elusen: 511899

## **BARDDAS**

## **Y GYMDEITHAS GERDD DAFOD**

## **DATGANIADAU ARIANNOL AM Y FLWYDDYN**

## **YN Y DIWEDDU 31 MAWRTH 2021**

**BARDDAS**

## **Y GYMDEITHAS GERDD DAFOD**

## **CYNNWYS**

|Disgrifiad|Tudalen|

|Manylion yr ymddiriedolwyr a’r pwyllgor|2|
|Adroddiad yr ymddiriedolwyr|3|
|Adroddiad yr arolygwr annibynnol|6|
|Datganiad o weithgaredd ariannol|7|
|Mantolen|8|
|Nodiadau|9|

1

**BARDDAS**

## **Y GYMDEITHAS GERDD DAFOD**

## **ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2021**

Mae’r ymddiriedolwyr yn cyflwyno’u hadroddiad ynghyd a datganiadau ariannol yr elusen ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2021.

Gwybodaeth gyffredinol a manylion gweinyddiaeth yr elusen, yr ymddiriedolwyr oedd yn gweithredu rhwng 1 Ebrill 2020 a 31 Mawrth 2021 a’i ymgynghorwyr: -

Enw Cofrestredig yr Elusen Y Gymdeithas Gerdd Dafod Rhif Cofrestru’r Elusen 511899 Cyfeiriad Cofrestredig Ucheldir, Tollborth y De, Aberystwyth, SY23 1RY **Y Pwyllgor Rheoli** Llywydd Anrhydeddus Dafydd Islwyn Cadeirydd Y Prifardd Aneirin Karadog Is-gadeirydd Y Prifardd Llion Elis Jones Trysorydd Ceri Davies Ysgrifennydd Rhys Dafis **Aelodau Eraill** Y Prifardd Emyr Lewis Y Prifardd Tudur Dylan Jones Gruffudd Antur Y Prifardd Mererid Hopwood Y Prifardd Osian Rhys Jones Mari George Llŷr Gwyn Lewis Y Prifardd Dafydd J Pritchard **Golygydd Llawrydd** Y Prifardd Twm Morys **Staff** Alaw Mai Edwards Ffion Medi Lewis-Hughes (wedi ymddeol 27 Awst 2020) Alaw Griffiths (penodwyd 19 Hydref 2020) **Arolygwyr Annibynnol** R A Roberts BSc, FCA Hill & Roberts Cyfrifwyr Siartredig 1 Tan y Castell Rhuthun Sir Ddinbych LL15 1DQ

2

## **BARDDAS**

## **Y GYMDEITHAS GERDD DAFOD**

## **ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2021**

## **Strwythur a rheolaeth y cronfeydd elusennol**

Mae Barddas (y “Gymdeithas”) yn fenter wedi ei sefydlu o dan gyfansoddiad ysgrifenedig ac yn cael ei gweinyddu gan bwyllgor rheoli. Mae pob aelod o’r Pwyllgor rheoli yn ymddiriedolwr/wraig yn yr elusen. Mae’r gymdeithas elusennol wedi ei chofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau.

Mae’r Pwyllgor Rheoli wedi ei ethol o blith aelodau’r Gymdeithas. Y Pwyllgor Rheoli sy’n gyfrifol am reoli Gwaith y Gymdeithas ar ran yr aelodau. Mae’r Pwyllgor Rheoli yn ethol swyddogion o’u plith.

## **Nodau ac amcanion**

Nod y Gymdeithas yw addysgu’r cyhoedd i werthfawrogi a deall barddoniaeth Gymraeg, yn enwedig y gelf o gynganeddu a hybu’r rhai sydd am farddoni.

## **Darparu budd i’r cyhoedd**

Wrth gynllunio ein gwaith am y flwyddyn, mae’r ymddiriedolwyr wedi ystyried canllawiau’r Comisiwn Elusennau ar fudd y cyhoedd. Mae’r gymdeithas yn gweithio i gyflawni ei hamcanion drwy gyhoeddi pedwar cylchgrawn y flwyddyn, chyhoeddi llyfrau a chynnal cyfarfodydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae’r Gymdeithas yn sicrhau cymorthdaliadau er mwyn galluogi cyhoeddi’r cylchgrawn a’r llyfrau am bris fforddiadwy.

## **Trefniant a Gweithgareddau**

Yn ystod y flwyddyn, cyhoeddwyd y llyfrau canlynol gyda chymorth y Cyngor Llyfrau: -

Dal i Fod.  Eiliad ac Einioes.  Fy Llyfr Englynion.  Dathlu’r Talwrn.  Llyfr Bach Nadolig.  Y Gynghanedd Heddiw.   Rhwng Teifi, Dyfi a’r Don.

Gohiriwyd DNA tan 2021-22.

Yn ogystal, cyhoeddwyd dau lyfr o raglen 2019-20, sef Llyfr Gwyrdd Ystwyth a Desg Lydan oedd wedi’u gohirio oherwydd effaith y pandemig; roedd yr argraffwyr ar gau.

Bu’r Gymdeithas yn brysur yn cyhoeddi’r cylchgrawn, yn ogystal â chynnal digwyddiadau rhithiol yn ystod y pandemig.  Gohiriwyd Eisteddfod Genedlaethol Tregaron 2020, yn ogystal â llawer o ddigwyddiadau eraill.

3

**BARDDAS**

## **Y GYMDEITHAS GERDD DAFOD**

## **Adolygiad ariannol**

Mae’r gymdeithas wedi parhau i dderbyn grantiau o’r Cyngor Llyfrau Cymru. Derbyniwyd cyfanswm o £80,200 (2019-20: £68,244).

## **Polisi cronfeydd**

Mae’n rhan o bolisi’r elusen i gadw cronfeydd anghyfyngedig sef y cronfeydd rhydd, ar lefel sy’n hafal i tua 3 mis o dreuliau anghyfyngedig. Mae hyn yn caniatáu cronfa ddigonol i dalu costau rheoli, gweinyddu a chynnal yr elusen. Bu i’r cronfeydd anghyfyngedig gael eu cynnal ar y lefel yma gydol y flwyddyn.

## **Polisi Buddsoddiad**

Yr amcan buddsoddiad yw diogelu'r buddsoddiadau cyfredol yn erbyn chwyddiant ac i gael incwm rhesymol yn ôl. Nid oes gan yr elusen fuddsoddiadau penodol, ond mae’r ymddiriedolwyr yn sicrhau fod yr arian yn y banc yn cael ei ddiogelu.

## **Rheolaeth Risg**

Mae’r ymddiriedolwyr wedi gwneud arolwg risg ym meysydd strategaeth, busnes a gweithredol yr Elusen a gallant gadarnhau y byddai’r Elusen mewn sefyllfa i liniaru unrhyw risg.

## **Cynlluniau ar gyfer y dyfodol**

Mae’r gymdeithas yn parhau i weithio’n agos gyda Chyngor Llyfrau Cymru a bwriada’r elusen barhau i gyhoeddi llyfrau, cyhoeddi’r cylchgrawn, datblygu presenoldeb ar y we drwy’r wefan a chyfryngau cymdeithasol, Facebook, Instagram a Twitter.  Bwriedir hefyd barhau cynnal digwyddiadau yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac ar draws Cymru, pan fydd cyfyngiadau COVID 19 wedi codi.

## **Datganiad o gyfrifoldebau'r Ymddiriedolwyr**

Mae'r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am baratoi Adroddiad yr Ymddiriedolwyr a'r datganiadau ariannol yn unol â chyfraith berthnasol a Safonau Cyfrifeg y DU (Arferion Cyfrifyddu a Dderbynnir yn Gyffredinol yn y Deyrnas Unedig).

4

**BARDDAS**

## **Y GYMDEITHAS GERDD DAFOD**

## **Datganiad o gyfrifoldebau'r Ymddiriedolwyr (parhad)**

Mae cyfraith sy’n berthnasol i elusennau yn gofyn bod yr ymddiriedolwyr yn paratoi datganiadau ariannol ar gyfer pob blwyddyn ariannol sy'n rhoi safbwynt cywir a theg ar faterion yr elusen fel y mae pethau ac o'r ffynonellau sy'n dod i mewn a defnydd y ffynonellau, gan gynnwys incwm a gwariant y cwmni elusennol dros y cyfnod hwnnw. Fel rhan o waith paratoi'r datganiadau ariannol, bydd gofyn i'r ymddiriedolwyr wneud y canlynol:

- Dewis polisïau cyfrifyddu addas ac yna eu rhoi ar waith yn gyson

- Dilyn dulliau ac egwyddorion Datganiad o Arferion Argymelledig yr Elusen

- Beirniadu ac amcangyfrif yn rhesymol ac yn bwyllog

- Paratoi'r datganiadau ariannol yn seiliedig ar fusnes sydd ar fynd oni bai ei bod yn anaddas cymryd y bydd y cwmni elusennol yn parhau mewn busnes

Mae'r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am gadw cofnodion ariannol digonol sy'n datgelu, gyda chywirdeb rhesymol ar unrhyw adeg, beth ydy sefyllfa ariannol yr elusen ac yn eu galluogi nhw i sicrhau fod y datganiadau ariannol yn cydymffurfio gyda Deddf Elusennau 2011, Rheoliadau Elusennau (Cyfrifon ac Adroddiadau) perthnasol, a chyfansoddiad yr elusen. Maen nhw hefyd yn gyfrifol am ddiogelu asedau'r elusen ac felly hefyd dros gymryd camau rhesymol er mwyn rhwystro a datgelu unrhyw dwyll neu anghysondeb arall.

## **Datganiad**

Mae adroddiad yr ymddiriedolwyr wedi ei gymeradwyo gan yr ymddiriedolwyr.

Arwyddwyd

Rhys Dafis – Ysgrifennydd

Dyddiad  25 Ionawr 2022

5

**BARDDAS**

## **Y GYMDEITHAS GERDD DAFOD**

## **ADRODDIAD YR AROLYGWR ANNIBYNNOL I YMDDIRIEDOLWYR BARDDAS**

Dyma fy adroddiad ar gyfrifon Barddas am y flwyddyn yn diweddu 31ain Mawrth 2021 fel ag y gwelir ar dudalennau 8 hyd 15.

## **Cyfrifoldebau'r Pwyllgor Rheoli a’r Arolygwyr**

Mae ymddiriedolwyr yr elusen yn gyfrifol am baratoi'r cyfrifon. Mae ymddiriedolwyr yr elusen yn ystyried nad oes angen archwiliad o dan Adran 144(2) o ddeddf Elusennau 2011 (y Ddeddf 2011) ac mai arolwg annibynnol sydd ei angen.

Fy nghyfrifoldeb i yw:

- arolygu’r cyfrifon o dan adran 145 o’r Ddeddf 2011;

- dilyn cyfarwyddiadau a roddwyd yn y Cyfeiriadau Cyffredinol a ddatganwyd gan Gomisiynwyr Elusen o dan adran 145 (5)(b) o’r Ddeddf 2011; a

- datgan os oes unrhyw fater arbennig wedi dod i’m sylw.

## **Sail Datganiad yr Arolygwr**

Gwnaed yr arolwg yn ôl y Cyfarwyddiadau Cyffredinol roddir gan y Comisiynwyr Elusen. Mae’r arolwg yn cynnwys adolygu’r cofnodion ariannol sy’n cael eu cadw gan yr elusen a chysoni’r cofnodion hynny â’r cyfrifon a gyflwynir. Mae hefyd yn cynnwys ystyriaeth o unrhyw eitemau anarferol neu ddatguddiadau yn y cyfrifon a cheisio eglurhad oddi wrthych chi fel ymddiriedolwyr ynglŷn â’r materion hynny. Nid yw’r drefn a ddilynir yn rhoi'r holl dystiolaeth a fyddai ei angen i wneuthur archwiliad, ac mewn canlyniad, nid wyf yn bwriadu mynegi barn archwiliol ar yr hyn sy’n cael ei weld yn y cyfrifon.

## **Datganiad yr Arolygwr Annibynnol**

Mewn canlyniad i’n harolwg, nid oes unrhyw fater sylweddol wedi dod i’m sylw :

1. a fyddai yn rhoi achos rhesymol i mi gredu nad yw’r gofynion

- a) i gadw cofnodion cyfrifon yn ôl adran 130 o’r Ddeddf 2011 ; ac

- b) i baratoi cyfrifon sy’n cyfateb â’r cofnodion cyfrifon ac yn ateb gofynion Cyfrifo o’r Ddeddf 2011 wedi cael eu cyflawni, neu

2. sydd yn fy nhyb i, angen tynnu sylw atynt, er mwyn sicrhau dealltwriaeth gywir o’r cyfrifon.

Arwyddwyd .................................

R A Roberts BSc FCA Hill & Roberts Cyfrifwyr Siartredig 1 Tan y Castell Rhuthun

Sir Ddinbych LL15 1DQ

Dyddiad 26 Ionawr 2022

6

## **BARDDAS**

## **Y GYMDEITHAS GERDD DAFOD**

## **DATGANIAD O WEITHGAREDDAU ARIANNOL AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2021**

|Nodyn
**Adnoddau a dderbyniwyd**
Rhoddion a chymynroddion
3
Gweithgaredd elusennol
4
Buddsoddiadau
5
**Adnoddau a dreuliwyd**
Gweithgareddau elusennol
6
**Cyfanswm gwariant**
Incwm/ (Gwariant) Net
Symudiadau net rhwng cronfeydd
Adnoddau a dderbyniwyd net
Cyfanswm cronfeydd 1 Ebrill 2020
**Cyfanswm cronfeydd 31 Mawrth**
**2021**|2021
2021
**2021**
2020
Cronfa heb
gyfyngiad
Cronfa
wedi ei
gyfyngu
**Cyfanswm**
**cronfeydd**
Cyfansw
m
cronfeyd
d

93,967

**93,967**
81,109
22,108

**22,108**
19,310
31

**31**
160|

||116,106

**116,106**
100,579|
||117,069
85
**117,154**
105,016|
||117,069
85
**117,154**
105,016|
||(963)
(85)
**(1,048)**
(4,437)

||(963)
(85)
**(1,048)**
(4,437)|
||77,120
14,008
**91,128**
95,565|
||**76,157**
**13,923**
**90,080**
91,128|

7

## **BARDDAS**

## **Y GYMDEITHAS GERDD DAFOD**

## **MANTOLEN AR 31 MAWRTH 2021**

|**Nodyn**
**ASEDAU PARHAOL**
Asedau cyffyrddadwy
16
**ASEDAU CYFREDOL**
Stoc
17
Dyledwyr a Rhagdaliadau
18
Arian yn y banc
**CREDYDWYR**
Yn daladwy o fewn y
flwyddyn
19
**CRONFEYDD**
Heb eu cyfyngu
20
Wedi eu cyfyngu
20|**2021**

**11,765**
**10,270**
**72,951**
**94,986**
**4,906**
**90,080**
**90,080**
**76,157**
**13,923**
**90,080**|**2021**

**11,765**
**10,270**
**72,951**
**94,986**
**4,906**
**90,080**
**90,080**
**76,157**
**13,923**
**90,080**|**2020**

12,474
10,991
75,819
99,284
8,156
91,128
91,128
77,120
14,008
91,128|**2020**

12,474
10,991
75,819
99,284
8,156
91,128
91,128
77,120
14,008
91,128|

||**94,986**||99,284||
||**4,906**||8,156||

|||**90,080**||91,128|
|||**76,157**
**13,923**||77,120
14,008|
|||**90,080**||91,128|

Wedi ei gymeradwyo gan yr ymddiriedolwyr ar 25 Ionawr 2022

Y Prifardd Aneirin Karadog _(Cadeirydd)_

8

**BARDDAS**

## **Y GYMDEITHAS GERDD DAFOD**

## **NODIADAU AR Y CYFRIFON AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2021**

## **1. GWYBODAETH GYFFREDINOL**

Mae’r Gymdeithas Gerdd Dafod yn elusen gofrestredig wedi ei sefydlu o dan gyfansoddiad ysgrifenedig. Mae’r elusen wedi ei chofrestru yng Nghymru a chyfeiriad cyswllt yw Noddfa, Tregaron, Ceredigion, SY25 6ND.

## **2. POLISÏAU CYFRIFO**

## **Y Sail Gyfrifyddol**

Y mae datganiadau ariannol yr elusen wedi eu paratoi ar sail confensiwn cost hanesyddol ac yn unol ag FRS 102 “The Financial Reporting Standard applicable in the UK and the Republic of Ireland” y “Charities SORP (FRS 102) a Deddf Elusennau 2011.

Mae’r datganiadau ariannol wedi’u paratoi yn unol â’r confensiwn costau hanesyddol, wedi ei ddiwygio  ar gyfer ail brisio rhai asedau a dyledion ac eiddo buddsoddiad sydd wedi eu mesur yn ôl gwerth teg. Caiff y datganiad ariannol eu cyflwyno mewn punnoedd Prydeinig (£), arian gweithredu’r elusen a’i dalgrynnu at y bunt agosaf.

## **Busnes hyfyw**

Nid oes unrhyw ansicrwydd ynglŷn â gallu’r elusen i barhau mewn busnes.

## **Asedau sefydlog cyffyrddadwy**

Mae asedau sefydlog yn cael eu cofnodi yn wreiddiol yn ôl eu cost ac yna’n cael eu datgan yn ôl eu cost llai dibrisiant ac unrhyw golledion amhariad. Mae unrhyw asedau sefydlog sydd yn cael eu datgan ar ail brisiad yn cael eu cofnodi yn ôl eu gwerth teg ar ddyddiad yr ail brisiad, llai unrhyw ddibrisio a cholledion amhariad pellach. Bydd cynnydd yng ngwerth ased yn sgil ail brisio yn cael ei gydnabod gydag elw a cholledion cydnabyddedig eraill heblaw ei fod yn gwyrdroi unrhyw elw cydnabyddedig a wnaed mewn blynyddoedd cynt.

## **Dibrisiant**

Mae’r dibrisiant ar yr asedau sefydlog cyffyrddadwy yn cael ei gyfrif fel bo cost yr asedau, llai eu gwerth gweddilliol, yn cael ei ddileu dros gyfnod bywyd economaidd arferol yr asedau. Y gyfradd a ddefnyddiwyd yw 25% ar ddull mantol yn gostwng.

## **Amhariad asedau sefydlog**

Fe wneir adolygiad yn flynyddol os oes amhariad wedi digwydd i werth asedau sefydlog, ac os oes amhariad yn bodoli yna ail brisir yr ased yn unol â’r gwerth y gellir disgwyl amdano. Lle mae’r gwerth yn y llyfrau yn fwy na’r gwerth y gellir ei ddisgwyl, yna mae’r ased yn cael ei amharu.

## **Stoc**

Y mae stoc wedi ei brisio ar yr isaf o gost a phris gwerthu, ar ôl cymryd i ystyriaeth oed a chyflwr y stoc. Y mae natur llyfrau’r Gymdeithas yn arbennig ac felly nid yw’r rhai sydd yn flwydd oed neu hyn yn cael eu prisio.

9

**BARDDAS**

## **Y GYMDEITHAS GERDD DAFOD**

## **Cronfeydd anghyfyngedig**

Cronfeydd heb eu cyfyngu yw rhoddion sy’n cael eu derbyn ac adnoddau eraill a dderbynnir, neu a grëir o dan nod yr elusennau, heb bwrpas penodedig ac maent ar gael fel Cronfeydd Cyffredinol.

## **Cronfeydd cyfyngedig**

Mae’n rhaid i gronfeydd wedi eu cyfyngu cael eu defnyddio i bwrpas penodedig yn ôl dymuniad y rhoddwr. Mae gwariant sydd yn ateb y gofynion yma yn cael ei ddangos yn erbyn y gronfa.

## **Adnoddau a Dderbynnir**

Mae’r holl adnoddau a dderbynnir ar gyfer cynhyrchu llyfrau a’r cylchgrawn yn cael eu dangos yn y datganiad o weithgareddau ariannol pan mae’r hawl cyfreithiol gan yr elusen i’r incwm a gellir adnabod y swm gyda sicrwydd rhesymol. Mae unrhyw grantiau cyfalaf yn cael eu hadnabod yn y flwyddyn y maent yn cael eu derbyn yn y datganiad o weithgareddau ariannol.

## **Grantiau**

Mae grantiau a dderbynnir ar gyfer cynhyrchu llyfrau a’r cylchgrawn yn cael eu dangos yn y datganiad o weithgareddau ariannol yn y cyfnod y maent yn cael eu derbyn.

## **Adnoddau a dreuliwyd**

Cyfrifir yr holl gostau ar raddfa croniad ac fe’u cyfrifir o dan benawdau sy’n cyfrannu’r holl gostau sy’n berthnasol i’r categori. Mae costau codi arian yn cynnwys treuliau ynglŷn â chwilio am gyfraniadau gwirfoddol yn unig, ac nid ydynt yn cynnwys costau gwybodaeth daenedig sy’n cefnogi’r gweithgareddau elusennol. Costau cynhaliaeth yw’r rhai hynny sy’n digwydd yn uniongyrchol i gadarnhau’r gwariant ar amcanion yr elusen. Costau gweinyddol yw’r rhai sydd ynglŷn â gweinyddiaeth yr elusen a’r angen i gydymffurfio ag anghenion cyfansoddiadol a statudol.

## **Treth**

Ni wnaed darpariaeth treth gorfforaeth na threthiant a ohiriwyd gan fod yr elusen yn un gofrestredig ac felly yn cael eu heithrio ar ei weithgareddau elusennol.

## **Offerynnau ariannol**

Mae ased ariannol neu rwymedigaeth ariannol yn cael ei gydnabod pan fod hawl gan yr elusen i ddarpariaethau cytundebol yr offeryn. Hawliwyd offerynnau ariannol sylfaenol am bris y trafodyn. Ond os yw’r trefniad yn drafodyn ariannu, rhaid cydnabod gwerth presennol taliadau dyfodol yr offeryn ariannol wedi disgowntio ar gyfradd y farchnad. Ar ddiwedd pob blwyddyn, cynhaliwyd adolygiad o amhariad yn yr asedau ariannol. Os oes tystiolaeth wrthrychol o amhariad, rhaid cydnabod y golled ar unwaith yn y cyfrif incwm a cholledion. Os oes gwrthdroad o amhariad, rhaid cydnabod y gwrthdroad yn y datganiad o weithgareddau ariannol ar unwaith. Ni cheir cynyddu gwerth yr ased ariannol i ffigwr fwy na’r ffigwr gwreiddiol cyn yr amhariad.

10

## **BARDDAS**

## **Y GYMDEITHAS GERDD DAFOD**

## **3. RHODDION A CHYMYNRODDION**

|Grantiau
Tanysgrifiadau
Rhoddion
Lwfans Cyflogaeth|**2021**
**2021**
2020
2020
**Anghyfyngedig**
**Cyfanswm**
Anghyfyngedig
Cyfanswm

80,200
**80,200**
68,244
**68,244**
11,543
**11,543**
12,115
**12,115**

750
**750**
2,224
**2,224**

||93,967
**93,967**
81,109
**81,109**|

Derbyniwyd £2,104 o lwfans cyflogaeth yn ystod 2019-20.  Dangoswyd y lwfans yma fel gostyngiad i gostau cyflogaeth yn y flwyddyn.  Yn ôl arferiad newydd, bydd lwfans cyflogaeth yn cael ei ddangos fel incwm o 1 Ebrill 2020 ymlaen.

|**Cyngor Llyfrau Cymru**
Grant Cylchgrawn am y flwyddyn
Grant Llyfrau am y flwyddyn
Grant swydd am y flwyddyn
Grant awduron am y flwyddyn
Grantiau eraill am y flwyddyn
Grant gweledol|**2021**

**20,000**
**27,000**
**15,180**
**17,750**
**270**

**80,200**|2020

20,000
24,000
12,144
11,100
1,000

|||68,244|

## **4. INCWM GWEITHGAREDDAU ELUSENNOL**

||**2021**|**2021**|2020|2020|

||**Anghyfyngedig**|**Cyfanswm**|Anghyfyngedig|Cyfanswm|

|Gwerthiant llyfrau a|||||
|chylchgronau|**22,108**|**22,108**|17,257|17,257|
|Eisteddfod|**-**|**-**|1,150|1,150|
|Hawlfraint|**-**|**-**|345|345|
|Gŵyl Gerallt
|**-**|**-**|483|483|
|Incwm arall|**-**|**-**|75|75|
||**22,108**|**22,108**|19,310|19,310|

**INCWM BUDDSODDIAD**|||||
||**2021**|**2021**|2020|2020|
||**Anghyfyngedig**|**Cyfanswm**|Anghyfyngedig|Cyfanswm|

|Llog a dderbyniwyd|**26**|**26**|127|127|
|Gwobr teyrngarwch banc|**5**|**5**|33|33|
||**31**|**31**|160|160|

## **5. INCWM BUDDSODDIAD**

11

## **BARDDAS**

## **Y GYMDEITHAS GERDD DAFOD**

## **6. GWARIANT AR WEITHGAREDDAU ELUSENNOL**

|2021
Anghyfyngedig

Cynhyrchu cylchgrawn
26,149
Cynhyrchu llyfrau
82,845
Gwariant elusennol eraill
700
Gweinyddiaeth a rheolaeth
7,375
117,069
2020
Anghyfyngedig

Cynhyrchu cylchgrawn
26,450
Cynhyrchu llyfrau
68,105
Gwariant elusennol eraill
2,932
Gweinyddiaeth a rheolaeth
7,282
104,769
**7.**
**COSTAU CYNHYRCHU’R CYLCHGRAWN**
Golygyddion Llawrydd
Cynhyrchu a dosbarthu Barddas
Cyfranwyr Barddas
Elfen o gyflog a phensiwn
Hysbysebu
**8.**
**COSTAU CYNHYRCHU LLYFRAU**
Stoc ar 1 Ebrill 2020
Cynhyrchu llyfrau yn y cyfnod
Stoc ar 31 Mawrth 2021
Cyflog golygydd a chyfran o gyflogau gweinyddwr
Golygydd Llawrydd
Hawlfraint i gyfranwyr ac awduron
Awduron Cynllun A a B
Cyfranwyr eraill
Lansio
Hysbysebu, cyhoeddusrwydd a gwobrau|2021
Anghyfyngedig

26,149
82,845
700
7,375|2021
Cyfyngedig

85
-|**2021**
**Cyfanswm**

**26,149**
**82,845**
**785**
**7,375**
**117,154**
2020
Cyfanswm

26,450
68,105
3,179
7,282
105,016
2020

8,528
10,995
2,600
4,327

||117,069|85||
||2020
Anghyfyngedig

26,450
68,105
2,932
7,282|2020
Cyfyngedig

247

||104,769|247||
|||**2021**

**9,160**
**7,772**
**4,982**
**4,051**
**184**
**26,149**
**2021**

**12,474**
**36,666**
**(11,765)**
**37,375**
**28,608**
**912**
**3,538**
**8,330**
**3,480**
**83**
**519**
**82,845**||
||||26,450|
||||2020

15,858
22,137
(12,474)|
||||25,521
25,472
1,570
3,012
6,200
1,900
2,331
2,099|
||||68,105|

12

## **BARDDAS**

## **Y GYMDEITHAS GERDD DAFOD**

## 9. **GWARIANT ELUSENNOL ARALL**

|Eisteddfod genedlaethol
Nawdd Llenyddiaeth Cymru (Cronfa Gerallt)
Gwyl Gerallt
Tlws Pat Neill
10.
**GWEINYDDU A RHEOLAETH**
Elfen o gyflogau
Cyfrifo
Post a chostau swyddfa
Teithio a chynhaliaeth
Rhent a storio
Costau banc
Dibrisiant
Manion
Hysbysebu|**2021**

**300**
**400**

**85**
**785**
**2021**

**4,051**
**840**
**844**
**252**
**624**
**86**

**494**
**184**
**7,375**|2020

624
400
1,908
247|

|||3,179|
|||2020

4,327
408
333
1,212
694
183
124
1

|||7,282|

## **11. GWARIANT ELUSENNOL YN ÔL GWEITHGAREDDAU**

|Cynhyrchu llyfrau
Cynhyrchu cylchgrawn
Gwariant elusennol arall
Llywodraethu|Gweithgareddau
Uniongyrchol
Costau
cefnogi
**Cyfanswm**
**2021**
Cyfanswm
2020

82,845
5,203
**88,048**
73,005
26,149
1,642
**27,791**
28,354
785
50
**835**
3,407

480
**480**
250|

||109,779
7,375
**117,154**
105,016|

## **12. DADANSODDIAD O GOSTAU CEFNOGI**

|Costau staff
Costau eiddo
Costau swyddfa
gyffredinol
Costau llywodraethu|Cynhyrchu
llyfrau
Cynhyrchu
cylchgrawn
Gwariant
Elusennol
Arall
**Cyfanswm**
**2021**
Cyfanswm
2020

3,057
965
29
**4,051**
4,327

124
2,146
677
21
**2,844**
2,581
363
114
3**480**
250|

||5,566
1,756
53
**7,375**
7,282|

13

**BARDDAS**

## **Y GYMDEITHAS GERDD DAFOD**

|**13.**
**ADNODDAU A DDERBYNIWYD/ DREULIWYD NET**
**2021**
2020

Y mae wedi ei ddatgan ar ôl tynnu: -
Dibrisiant

124
**14.**
**FFIOEDD YR AROLYGWR ANNIBYNNOL**
**2021**
2020

Adroddiad ar y cyfrifon
**480**
120
Gwasanaethau cyflogau
**360**
288
**840**
408
**15.**
**CYFLOGAU**
**2021**
2020

Cyflogau
**32,871**
32,501
Nawdd cymdeithasol
**2,224**

Pensiwn Cyflogwr
**1,615**
1,625
**36,710**
34,126
Ni enillodd unrhyw weithiwr £60,000 neu fwy (2020 – dim).
Cyfartaledd nifer y gweithwyr am y flwyddyn oedd 2 (2020 – 2).
**16.**
**Asedau parhaol cyffyrddadwy**
Offer swyddfa
**Cost**

Ar y 1af o Ebrill 2020 a 31 o Fawrth 2021
5,082
**Dibrisiant**
Ar y 1af o Ebrill 2020
5,082
Dibrisiant

Ar y 31 o Fawrth 2021
5,082
**Gwir werth llyfr ar y 31 o Fawrth 2021**

Gwir werth llyfr ar y 31 o Fawrth 2020

**17.**
**STOC**
**2021**
2020

Llyfrau
**11,765**
12,474|**2021**

**2021**

**480**
**360**|**2021**

**2021**

**480**
**360**|2020

124
2020

120
288|

||**840**||408|
||||2020

32,501

1,625|
||||34,126|
|||5,082

|||5,082||

|||2020

12,474||

14

## **BARDDAS**

## **Y GYMDEITHAS GERDD DAFOD**

|**18.**|**DYLEDWYR**||||||

||||||**2021**|2020|

||Dyledwyr gweithredol||||**9,002**|2,741|
||Dyledwyr eraill||||**138**|-|
||Rhagdaliadau||||**1,130**|8,250|
|||||**10,270**||10,991|
|**19.**|**CREDYDWYR**||||||
||||||**2021**|2020|
||Yn daladwy o fewn y flwyddyn||||**£**|£|
||Credydwyr gweithredol||||**3,692**|6,767|
||Credydwyr eraill a|nawdd cymdeithasol|||**134**|837|
||Croniadau ac incwm gohiriedig||||**1,080**|552|
||||||**4,906**|8,156|
|**20.**|**SYMUDIAD YN Y CRONFEYDD**||||||
|||1 Ebrill 2020|Adnoddau|Adnoddau|Trosglwyddo|
31 Mawrth|
||||Mewn|Allan||2021|

|Cronfeydd wedi’u|||||||
|cyfyngu|||||||
|Ewyllys Pat Neil||14,008|
-|(85)|-|
13,923|
|||14,008|
-|(85)|

13,923|
|Cronfeydd heb eu|||||||
|cyfyngu|||||||
|Cronfa|Gyffredinol|77,120|
116,106|(117,069)|-|
76,157|
|||77,120|
116,106|(117,069)|

76,157|
|||91,128|
116,106|(117,154)|-|
90,080|
|**21.**|**Dadansoddiad o asedau net rhwng cronfeydd**||||||
|||**Asedau sefydlog**||**Asedau cyfredol net**||**Cyfanswm**|
||||**cyffyrddadwy**||||

|Cronfeydd heb eu cyfyngu|||-||76,157|76,157|
|Cronfeydd wedi’u cyfyngu|||-||13,923|13,923|
|**Cyfanswm**|||**-**||**90,080**|**90,080**|

15

**BARDDAS**

## **Y GYMDEITHAS GERDD DAFOD**

## **22. Trafodion rhwng person cysylltiedig**

Nid oes unrhyw aelod o’r Pwyllgor Rheoli, nag unrhyw berson sydd yn gysylltiedig â’r Pwyllgor wedi derbyn, neu i dderbyn, unrhyw gydnabyddiaeth am y flwyddyn yn uniongyrchol neu anuniongyrchol o gronfa’r elusen, heblaw fel y dangosir isod: -

1. Fe werthwyd llyfrau yn uniongyrchol gan awduron sydd hefyd yn ymddiriedolwyr yr elusen. Mae’r elusen yn derbyn 65% o bris gwerthu’r llyfrau yma, sef ar yr un sail a siopau annibynnol.

2. Mae awduron y llyfrau yn derbyn, o ran arferiad, 12 cyfrol o’r argraffiad Cyntaf am ddim, a hefyd mae pob aelod o’r Pwyllgor rheoli yn derbyn un llyfr am ddim o bob llyfr a argraffwyd yn y flwyddyn.

3. Talwyd yr ymddiriedolwyr isod yn y flwyddyn, drwy gytundeb, am wasanaeth golygu arbenigedd i’r Elusen.

|rbenigedd i’r Elusen.||

|Mererid Hopwood (Fy Llyfr Englynion)|600|
|Aneirin Karadog (Y Gynghanedd Heddiw)|450|

||£1,050|

4. Talwyd saith ymddiriedolwr am gyfraniad i’r cylchgrawn, neu at lyfr, ar yr un telerau ar gael i aelodau a’r cyhoedd am gyfanswm o £680.

16