CAERSALEM A.D. 1815 CAPEL Y BEDYDDWYR
ADRODDIAD BLYNYDDOL AM 2025
C Y FA M O D E G LW Y S I G
Mae aelodaeth mewn eglwys yn rhan allweddol o’r ymrwymiad i dreulio amser gyda Iesu, dod yn debycach Iddo a dilyn ei esiampl.
Felly, anogir unigolion sy’n rhannu ein ffydd a’n gweledigaeth i ymaelodi’n ffurfiol a dod yn rhan llawn o fywyd a gwaith yr eglwys a derbyn ein cyfamod eglwysig:
-
Tystiaf fy mod yn Gristion ac yn cytuno gyda diffiniad Caersalem o hanfodion y ffydd fel yr amlinellir yn y ddogfen hon.
-
Rwy’n cyfamodi, gyda chymorth Duw, i fyw bywyd sy’n gyson a gwerthoedd y ffydd Gristnogol.
-
Rwyf wedi fy Medyddio. (Yn ddelfrydol derbyn Bedydd Crediniwr neu esbonio pam eich bod yn dymuno i’r Eglwys anrhydeddu eich bedydd mewn traddodiad arall.)
-
Rwyf yn byw o fewn pellter rhesymol i Gaernarfon er mwyn gallu bod yn aelod gweithredol a rheolaidd o’r Eglwys.
-
Rwy’n cyfamodi i ymrwymo i weithgareddau rheolaidd yr eglwys (hyd eithaf fy ngallu ac y mae iechyd yn caniatáu) yn arbennig yn y cyd-addoli ar fore
Sul lle y daw fy nghyd-aelodau ynghŷd i addoli, dysgu o’r Beibl a dathlu Swper yr Arglwydd.
-
Rwy’n cyfamodi (hyd eithaf fy ngallu ac y mae iechyd yn caniatáu) i ymuno gyda grŵp canol wythnos er mwyn cydgerdded gyda fy nghyd-aelodau drwy astudio’r Beibl, cyd-weddïo ac estyn gofal bugeiliol dros ein gilydd.
-
Rwy’n cyfamodi i wasanaethu yn ôl fy nawn, gallu ac amser ym mywyd yr eglwys.
-
Rwy’n cyfamodi i roi yn ariannol yn ôl fy ngallu i gynnal gwaith yr eglwys.
-
Rwy’n cyfamodi i barchu’r ffaith fod yr Eglwys wedi ei galw i weinidogaethu a chenhadu drwy gyfrwng y Gymraeg ac felly rwy’n cadarnhau fy mod naillai yn gallu siarad Cymraeg neu ar y daith i’w dysgu.
-
Rwy’n cyfamodi i gadw heddwch yn yr eglwys drwy ddangos parch a chariad at gyd-aelodau mewn gair a gweithred, peidio hel clecs a pharchu cyfrinachedd.
Yn ogystal â’r Credo Apostolaidd a Datganiad o Egwyddor y Bedyddwyr dyma’r frawddeg sy’n crynhoi beth sy’n bwysig i ni ar sail ein dealltwriaeth o stori fawr y Beibl: Rydym ni’n bobl sydd eisiau “adnabod, addoli a dilyn Iesu a’i gyflwyno i eraill.”
Adnabod Iesu
Dydyn ni ddim yn meddwl fod Duw yn dduw pell sy’n byw ar y cymylau, ond yn hytrach rydym ni’n credu fod Duw y Tad wedi dod atom ni yn ei fab, sef Iesu Grist. Oherwydd hynny fe allwn ni adnabod Duw. Oherwydd bod y byd yma ac yn aml ein bywydau ni mewn llanast, rydym ni angen troi ac adnabod Iesu, oherwydd fe sy’n dod â gobaith i bob sefyllfa. Rydym ni eisiau helpu pobl i ddod i adnabod Iesu am y tro cyntaf, a helpu ein gilydd i adnabod Iesu’n well.
Addoli Iesu
Rydym ni’n credu fod Duw wedi ein creu ni i fyw bywydau a fydd yn ei addoli ef. Er fod canu gyda’n gilydd ar ddydd Sul yn rhan bwysig o addoli, mae llawer mwy ‘na hynny i addoli hefyd. Rydym ni’n credu fod modd gwneud popeth fel addoliad i Dduw – o ofalu am ein teulu, i weithio’n galed yn y gwaith i olchi’r llestri hyd yn oed! Mae meddwl am ein bywyd fel un cyfle mawr i addoli yn rhoi gwerth a phwrpas arbennig i fywyd pawb.
Dilyn Iesu
Mae llawer o bobl yn gwybod am Iesu, ond mae Iesu yn ein galw i’w ddilyn yn nerth ei ysbryd, Yr Ysbryd Glân. Rydym ni’n bobl sy’n credu yn Iesu, ond gyda’i help rydyn ni’n ceisio ei ddilyn hefyd fel rhan o deulu Duw, Yr Eglwys. Rydym ni’n gofyn am ei help i ni garu a gwasanaethu pobl fel mae Iesu’n gyntaf wedi ein caru ni.
Ei gyflwyno i eraill
Mae gennym ni i gyd ffydd bersonol, ond all dilynwyr Iesu fyth gadw eu ffydd yn breifat. Rydym ni wrth ein boddau yn rhannu’r newyddion da am Iesu gyda phobl drwy sôn wrth bobl amdano a cheisio byw sut roedd e’n byw wrth i ni gael y fraint o roi blas i bobl o’r nefoedd newydd a’r daear newydd sydd yn dod.
AELODAETH CYSYLLTIOL
Mae Caersalem yn perthyn i Gymanfa Bedyddwyr Arfon ac Undeb Bedyddwyr Cymru.
Yn rhinwedd ein aelodaeth o Undeb Bedyddwyr Cymru rydym yn monitro, gweinyddu a derbyn hyfforddiant mewn materion diogelwch dan y Panel Diogelwch Cydenwadol.
Ein swyddog diogelwch dynodedig lleol yw Robin Luff. Ein Swyddog Hyfforddiant a Diogelu yw Julie Edwards o’r Panel Diogelwch Cydenwadol.
Os oes consyrn diogelwch y dymunwch drafod gyda rhywun tu allan i Gaersalem cysylltwch gyda Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Bedyddwyr Cymru: post@ubc.cymru
SWYDDOGION YR EGLWYS
Gweinidog Gweinidog Cyswllt (Dysgu, Bugeilio a Chyfathrebu) (Cenhadaeth Pob Oed)
Rhys Llwyd rhys@caersalem.com
Hannah Smethurst hannah@caersalem.com
Tîm Arwain timarwain@caersalem.com diogelu@caersalem.com
Lowri Jones (Lletygarwch)
Mari Williams (Plant / Dysgu)
Rhodri Jones (Ieuenctid / Dysgu / Technegol)
Robin Luff (Addoli a Diogelu)
Martin Williams (Addoli / Cenhadaeth)
Arwel Jones (Ysgrifennydd / Dysgu)
Menna Machreth (Cenhadaeth)
Maggie Hughes (Gweddi / Lletygarwch)
Swyddogion Ariannol
Martin Williams (Trysorydd Cyd-bwyllgor y Weinidogaeth), Jan Jones (Archwiliwr y Cyfrifon) ac Ann Griffith.
Tîm Addoli ac Arweinyddion y Gwaith Plant
Mae nifer sylweddol yn gwasanaethu fel rhan o’r tîm addoli a’r tîm gwaith plant bellach. Diolch i bawb am eu gwasanaeth.
Ysgrifennydd
Arwel E Jones
Eithinog Uchaf, Penygroes, Gwynedd, LL54 6PD (eithinoguchaf@btinternet.com; 07586 053961)
YMDDIRIEDOLWYR YR ELUSEN (Rhif Elusen 502317)
Arwel E. Jones • Mari Williams • Robin Luff • Siân Wyn Rees
| Ystadegau | |
|---|---|
| Rhif yr Aelodau 1 Ionawr 2025 | 58 |
| Collwyd trwy farwolaeth | 0 |
| Gollyngwyd | 1 |
| Derbyniwyd | 5 |
| Rhif yr Aelodau 1 Ionawr 2026 | 62 |
Incwm a Gwariant Caersalem (2020-2025)
Sut y gwariwyd pob £1 gennym yn 2025
Nodyn:
Mae’r symiau a’r graffiau ar y dudalen hon wedi eu crynhoi ac at ddiben darluniadol yn unig. Mae’r ffigyrau manwl cywir ar y cyfrifon sy’n dilyn dros y tudalennau nesaf. Mae ‘Staffio’ wrth gwrs yn cynnwys buddsoddi yn ein gwaith craidd o weinidogaethu a chenhadu.
INCWM Y GRONFA GYFFREDINOL 2025
CYFRANIADAU GAN AELODAU A CHYFEILLION A THROSGLWYDDIADAU O’R CYFRI CADW
Casgliad Amlenni a Rhydd £3,454.50 Cyfraniadau drwy’r Banc a Stewardship £82,449.08 O’r Cyfrif Cadw £15,000.00
Cyfanswm
£100,903.58
CASGLIADAU, RHODDION AC INCWM ARBENNIG
Rhoddion er côf £250.00 Cymanfa Arfon – Grant Arbennig £193.51 Rhoddion ar y Cwrs Alffa £70.00 Incwm Cawl a Chwmni £2,428.22 Rhoddion at Gostau Bugeiliol £2,941.99 Cyfanswm £5,883.72
Cyfanswm Casgliadau, Rhoddion a Throsglwyddiadau 2025
£106,787.30
Cyfrif Cyfredol - 01/01/2025 £19.015.24
Cyfanswm Incwm 2025
yn cynnwys yr hyn a gariwyd drosodd o 2024 £125,802.54
TALIADAU Y GRONFA GYFFREDINOL 2025
CYNNAL GWAITH A GWEINIDOGAETH YR EGLWYS
Taliadau Cronfa’r Weinidogaeth £50,539.21 Taliadau Cronfa’r Adeiladau £34,000.00 Costau Cawl a Chwmni £1,038.59 Costau Cwrs Alffa £334.89 Costau Bugeiliol a Hyfforddi £3,442.29
£89,354.98
CEFNOGI ELUSENAU A MUDIADAU ALLANOL BMS £1,000.00 Tear Fund £1,000.00 Ysgol Pendalar (Rhoddion 2024) £300.00 Gweinidogaeth Mawl Meilyr Geraint £200 Gŵyl Llanw £1,000 Plannu Eglwysi - Nodda Llŷn £1,000 Porthi Dre £300 Beiblau i Ysgolion £57.50 Cymorth Cristnogol £500.00 Banc Bwyd £1,700.00
£7,057.50
ARALL I’r Gronfa Gadw £10,000.00 Ad-dalu Benthyciad Undeb Bedyddwyr £5,000.00 Costau Banc £96.63 Aelodaeth Undeb Bedyddwyr £1,134.00 Aelodaeth Mudiad Chwiorydd UBC £15.00 Cylchgronnau £60.90 Cyflenwadau Paned i’r Capel £209.39 Costau Cyfarfodydd UBC £366.39 Costau Hysbysebu / Marchnata ac Argraffu £252.90
£17,135.21
Cyfanswm taliadau at waith a gweinidogaeth yr eglwys, elusenau a mudiadau allanol a chostau eraill yn 2025
£113,547.69
Cyfrif Cyfredol - 31/12/2025
£12,254.85
Cyfanswm taliadau 2025
yn cynnwys yr hyn a gariwyd drosodd mewn i 2026
£125,802.54
MANTOLEN Y GRONFA ADEILADAU 2025
TALIADAU
DERBYNIADAU
Yswiriant y Capel £1,827.89 Balans HSBC 1/1/2025 £7,294.49 Bil Dwr £360.99 O’r Gronfa Gyffredinol £19,000.00 Biliau Nwy a Trydan £6,575.96 O’r Gronfa Gadw £15,000.00 Trwyddedau Amrywiol £2,561.54 Ad-daliad Yswiriant (Storm) £24,680.07 Gwaith Cynnal a Thrwsio £6,729.37 Tal am ddefnydd o’r Capel £1,811.38 Offer, Dodrefn a Cyflenwadau £320.05 Incwm Cyfieithu a Darlledu £490.00 Costau Banc £78.24 Prosiect yr Iard Gefn £4,731.92 Costau Glanhau’r Capel £2,726.10 Costau Diogelwch a Tan £925.07 Costau y Lifft £2,605.59 Costau Difrod Storm £24,798.87 Dychwelwyd i’r Gronfa Gadw £5,000.00 Gweddill HSBC 31/12/2025 £9,034.35
CYFANSWM
£68,275.94 £68,275.94
Y GRONFA CADW 2025
TALIADAU
INCWM
I’r Gronfa Adeiladau £15,000 Yn ôl o’r Gronfa Adeiladau £5,000 Yn ôl o’r Gronfa Gyffredinol £10,000 Llog y Banc £415.55 Cyfrif - 1/1/2025 £31,562.98 Cyfrif – 01/1/2026 £31,147.43
Noder: Yn unol ag arweiniad y Comisiwn Elusennau, rydym yn anelu at gadw swm wrth gefn fyddai yn ddigon i gyfarfod a 6 mis o gostau sylfaenol yr eglwys, sef costau cydnabyddiaeth ariannol a chostau ar gyfer yr adeilad.
46,562.98 46,562.98
BUDDSODDIADAU 2025
Mewn llaw
| Treasury Bonds 1965 Treasury Bonds 1966 Yn y Banc Cynilo 31/12/24 Llog y Banc |
£800.00 Treasury Bonds 1965 £300.00 Treasury Bonds 1966 £1,240.67 £12.41 Yn y Banc Cynilo 31/12/25 £2,353.08 |
£800.00 £300.00 £1,253.08 £2,353.08 |
|---|---|---|
CRONFA GWAITH PLANT A IEUENCTID 2025
| Taliadau | Derbyniadau | ||
|---|---|---|---|
| Costau Clwb Ieuenctid | £277.55 | Gweddill yn yr HSBC 1/1/2025 | £7,309.30 |
| Costau Plant / Llan Llanast | £909.52 | Cyfraniadau Unigol Rheolaidd | £621.85 |
| Costau Banc | £56.74 | Rhoddion i Clwb Sblash | £120.00 |
| Costau Ser Bach | £1,240.53 | Incwm Ser Bach | £1,139.74 |
| Costau Estyn Allan | £201.21 | ||
| Gweddill HSBC 31/12/2025 | £6,505.34 |
CYFANSWM £9,190.89
£9,190.89
MANTOLEN Y WEINIDOGAETH 2025
Gweinidog - Rhys Llwyd
Caiff cost sylfaenol cynnal ein Gweinidog ei rhannu rhwng Caersalem, Calfaria ac Ebeneser. Yn gyntaf caiff grant gan Gymanfa Arfon ac incwm gan Cyngor Ysgolion Sul ei dynnu oddi ar y gost, yna mae Caersalem yn talu 75% o’r hyn sy’n weddill, a rhennir y gweddill wedi hynny rhwng Calfaria ac Ebeneser ar sail nifer yr aelodau. Bydd y Gweinidog wedi ei secondio i weithio un diwrnod yr wythnos i’r Cyngor Ysgolion Sul/Cyhoeddiadau’r Gair.
Gweinidog Cyswllt - Hannah Smethurst
Caiff cost sylfaenol cynnal ein Gweinidog Cyswllt (Cenhadaeth Pob Oed) ei hariannu yn bennaf gan eglwys Caersalem. Fodd bynnag, mae tair eglwys ym Mhenygroes (Calfaria, Soar a Chapel y Groes) yn cyfrannu gyda’i gilydd swm sy’n cyfateb i un diwrnod yr wythnos o waith y Gweinidog Cyswllt.
Derbyniadau
Costau
Dyledus i’r Banc 01-01-2025 £1,379.66 Cyflogau, Lwfans Tŷ, Treuliau a Phensiwn y Gweinidogion £65,289.31 Treth £10,239.98 Caersalem £50,539.21 Arall £315.70 Calfaria, Penygroes £4,310.43 Ebeneser, Llanllyfni £2,841.80 Capel y Groes, Penygroes £1,468.63 Soar, Penygroes £1,468.63 Cymanfa Arfon £8,050.00 Cyngor Ysgolion Sul £7,548.00 Yn y Banc 31-12-2025 £1,761.37
£77,606.36
£77,606.36
CIERSILEV, Stryd Garnon - Caernarfon www.caersaLem.com