CAERSALEM A.D. 1815 CAPEL Y BEDYDDWYR
ADRODDIAD BLYNYDDOL AM 2024
(Tudalen a adawyd yn wag yn fwriadol)
Y CYFAMOD EGLWYSIG
Wrth ddod yn aelod o Gaersalem, yr wyf yn addo:
-
I rodio’n addas o Efengyl ein Harglwydd Iesu Grist ac i ‘wneud safiad dros y ffydd, sef y gwirionedd mae Duw wedi’i roi i’w bobl un waith ac am byth.’ (Jwdas 1:3)
-
I ymroi i gymdeithas a bywyd yr eglwys. (Hebreaid 10:25) 3. I gyfrannu at waith yr Arglwydd ‘fel y llwyddodd Duw fi.’
-
I ildio i’r mwyafrif.
-
I gadw pethau’r tŷ yn y tŷ.
AELODAETH CYSYLLTIOL
Mae Caersalem yn perthyn i Gymanfa Bedyddwyr Arfon ac Undeb Bedyddwyr Cymru. Yn rhinwedd ein aelodaeth o Undeb Bedyddwyr Cymru rydym yn monitro, gweinyddu a derbyn hyfforddiant mewn materion diogelwch dan y Panel Diogelwch Cydenwadol.
Ein swyddog diogelwch dynodedig lleol yw Robin Luff. Ein Swyddog Hyfforddiant a Diogelu yw Julie Edwards o’r Panel Diogelwch Cydenwadol.
Os oes consyrn diogelwch y dymunwch drafod gyda rhywun tu allan i Gaersalem cysylltwch gyda Judith Morris, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Bedyddwyr Cymru: judith@ubc.cymru
SWYDDOGION YR EGLWYS
Gweinidog
(Dysgu, Bugeilio a Chyfathrebu)
Rhys Llwyd rhys@caersalem.com
Gweinidog Cyswllt (Cenhadaeth Pob Oed)
Hannah Smethurst hannah@caersalem.com
Tîm Arwain
timarwain@caersalem.com diogelu@caersalem.com
Lowri Jones (Lletygarwch)
Rhodri Jones (Ieuenctid / Dysgu / Technegol)
Robin Luff (Addoli a Diogelu)
Menna Machreth (Cenhadaeth)
Mari Williams (Plant / Dysgu)
Martin Williams (Addoli / Cenhadaeth)
Arwel Jones (Ysgrifennydd / Dysgu)
Maggie Hughes (Gweddi / Lletygarwch)
Gweinidog Anrhydeddus Denis Young
Yn ystod 2024 fe aeth Denis Young adref at ei Waredwr yn 100 oed ac wedi 60 mlynedd yn y Weinidogaeth Ordeiniedig. Rydym yn diolch i’r Arglwydd amdano ac yn cydymdeimlo gyda Arvonia a’r teulu.
Swyddogion Ariannol
Martin Williams (Trysorydd Cyd-bwyllgor y Weinidogaeth), Jan Jones (Archwiliwr y Cyfrifon) ac Ann Griffith.
Tîm Addoli ac Arweinyddion y Gwaith Plant
Mae nifer sylweddol yn gwasanaethu fel rhan o’r tîm addoli a’r tîm gwaith plant bellach. Diolch i bawb am eu gwasanaeth.
Ysgrifennydd
Arwel E Jones
Eithinog Uchaf, Penygroes, Gwynedd, LL54 6PD (eithinoguchaf@btinternet.com; 07586 053961)
YMDDIRIEDOLWYR YR ELUSEN (Rhif Elusen 502317)
Arwel E. Jones • Mari Williams • Siân Wyn Rees
Wrth i’r adroddiad hwn gael ei baratoi mae cyfansoddiad newydd i’r Eglwys a’r elusen wrthi yn cael ei baratoi. Mae’r wybodaeth sydd wedi ei gynnwys yn yr adroddiad hwn yn adlewyrchu’r sefyllfa fel ag yr oedd yn 2024 cyn mabwysiadu unrhyw gyfansoddiad newydd.
| Ystadegau | |
|---|---|
| Rhif yr Aelodau 1 Ionawr 2024 | 54 |
| Collwyd trwy farwolaeth | 1 |
| Gollyngwyd | 0 |
| Derbyniwyd | 5 |
| Rhif yr Aelodau 1 Ionawr 2025 | 58 |
AELODAU A CHYFEILLION YN YSTOD 2024
Penderfynwyd peidio cyhoeddi rhestr aelodau a chyfeillion yn gyhoeddus eleni. Ond mae rhestr gyfredol o aelodau ffurfiol yr eglwys ar gael gan Swyddogion yr Eglwys.
Rydym yn diolch i bob aelod a chyfaill am eich cyfraniadau hael unwaith eto eleni.
Dod yn aelod?
Os ydych chi’n cyfri Caersalem fel eich eglwys leol yna rydych chi’n rhan o deulu Caersalem. Ond fel eglwys rydym hefyd yn credu fod lle i aelodaeth ffurfiol.
I fod yn aelod o eglwys fyd eang Iesu Grist yr hyn sy’n bwysig yw ymddiried yn Iesu Grist fel eich Arglwydd a’ch Gwaredwr.
Ond rydym ni’n credu, wrth edrych ar y Testament Newydd, fod Duw wedi galw ei bobl at ei gilydd yn eglwysi lleol hefyd. Mae perthyn i eglwys leol yr un mor bwysig a pherthyn i’r Eglwys fyd eang.
Os ydych yn dymuno dod yn aelod ffurfiol fel arwydd o’ch ymrwymiad i Iesu ac i’ch cyd-ddisgyblion i Iesu yng Nghaersalem mynnwch air gyda un o’r tîm arwain eleni.
Beth yw Bedydd?
Oni bai fod yna reswm teilwng rydym fel Eglwys Fedyddiedig yn credu y dylai Cristnogion gael Bedydd Crediniwr, neu ‘Fedydd Trochiad’, ar ôl dod i gredu a cyn dod yn aelod o’r Eglwys leol. Dyma grynodeb o’r hyn a gredwn am hyn:
Mae Bedydd crediniwr yn foment
arbennig iawn ar lwybr ffydd. Dyma’r foment y mae presenoldeb a bendith Duw yn ein cyfarfod, a dyma pryd y byddwn yn gwneud arwydd gyhoeddus o’n ffydd bersonol yn Iesu fel Arglwydd a Gwaredwr. Arwydd allanol o newid mewnol sydd eisoes wedi cymryd lle.
Mae’n nodi diwedd yr hen fywyd a’r ail-eni i fywyd newydd yng Nghrist. Fel arfer bydd yn fedydd lle bydd y corff i gyd wedi ei roi dan y dŵr ac yna ei godi yn ôl i fyny allan o’r dŵr. Mae Bedyddio fel yma yn arwydd o edifeirwch a glanhad , o uniaethu gydag Iesu yn ei farwolaeth a’i atgyfodiad, a derbyn galwad Duw ar ein bywyd.
2 Gorchymyn Iesu: Yn y Comisiwn Mawr (Mathew 28:18-20) mae Iesu’n dweud: “Felly ewch i wneud pobl o bob gwlad yn ddisgyblion i mi, a’u bedyddio nhw fel arwydd eu bod nhw wedi dod i berthynas â’r Tad, a’r Mab a’r Ysbryd Glân.”
3 Ers y dechrau dyma oedd patrwm Eglwys Iesu Grist: Ar ddiwrnod y Pentecost mae Pedr yn dweud wrth y bobl: “Rhaid i chi droi cefn ar eich pechod, a chael eich bedyddio fel arwydd eich bod yn perthyn i Iesu y Meseia a bod Duw yn maddau eich pechodau chi. Wedyn byddwch chi’n derbyn yr Ysbryd Glân yn rhodd gan Dduw.” (Actau 2:38)
Mae Bedydd hefyd yn symbol o dderbyn Ysbryd Duw i’n cynorthwyo i’w wasanaethu yn y byd.
Bydd llawer o Fedyddwyr yn eiddgar i roi croeso a chadarnhau Cristnogion sydd â stori wahanol o ran eu bedydd a’u camau tuag at ffydd, ond yn parhau i gredu o argyhoeddiad mae bedydd crediniwr yw’r patrwm a welwn yn yr ysgrythur:
1 Esiampl Iesu: Bedyddiwyd Iesu gan Ioan Fedyddiwr (Mathew 3:1317; Marc 1:9-11; Luc 3:21-22)
Er bod Bedydd yn arwydd o ffydd bersonol yn Iesu Grist, mae’r ffydd Gristnogol yn ffydd sydd i’w fyw mewn cymuned gyda Christnogion eraill yn yr eglwys leol. Mae Bedydd yn arwydd eich bod wedi ymuno a’r corff o gredinwyr mae Iesu’n ei alw’n briodferch iddo .
Yn ogystal â bod yn arwydd o ymrwymiad i Iesu ddylai Bedydd hefyd fod yn arwydd o ymrwymiad i gorff Iesu sef yr Eglwys , ac felly mae aelodaeth eglwysig yn cael ei annog i rheiny sy’n mynd trwy ddŵr y bedydd.
Yn ogystal â’r Credo Apostolaidd a Datganiad o Egwyddor y Bedyddwyr dyma’r frawddeg sy’n crynhoi beth sy’n bwysig i ni ar sail ein dealltwriaeth o stori fawr y Beibl: Rydym ni’n bobl sydd eisiau “adnabod, addoli a dilyn Iesu a’i gyflwyno i eraill.”
Adnabod Iesu
Dydyn ni ddim yn meddwl fod Duw yn dduw pell sy’n byw ar y cymylau, ond yn hytrach rydym ni’n credu fod Duw y Tad wedi dod atom ni yn ei fab, sef Iesu Grist. Oherwydd hynny fe allwn ni adnabod Duw. Oherwydd bod y byd yma ac yn aml ein bywydau ni mewn llanast, rydym ni angen troi ac adnabod Iesu, oherwydd fe sy’n dod â gobaith i bob sefyllfa. Rydym ni eisiau helpu pobl i ddod i adnabod Iesu am y tro cyntaf, a helpu ein gilydd i adnabod Iesu’n well.
Addoli Iesu
Rydym ni’n credu fod Duw wedi ein creu ni i fyw bywydau a fydd yn ei addoli ef. Er fod canu gyda’n gilydd ar ddydd Sul yn rhan bwysig o addoli, mae llawer mwy ‘na hynny i addoli hefyd. Rydym ni’n credu fod modd gwneud popeth fel addoliad i Dduw – o ofalu am ein teulu, i weithio’n galed yn y gwaith i olchi’r llestri hyd yn oed! Mae meddwl am ein bywyd fel un cyfle mawr i addoli yn rhoi gwerth a phwrpas arbennig i fywyd pawb.
Dilyn Iesu
Mae llawer o bobl yn gwybod am Iesu, ond mae Iesu yn ein galw i’w ddilyn yn nerth ei ysbryd, Yr Ysbryd Glân. Rydym ni’n bobl sy’n credu yn Iesu, ond gyda’i help rydyn ni’n ceisio ei ddilyn hefyd fel rhan o deulu Duw, Yr Eglwys. Rydym ni’n gofyn am ei help i ni garu a gwasanaethu pobl fel mae Iesu’n gyntaf wedi ein caru ni.
Ei gyflwyno i eraill
Mae gennym ni i gyd ffydd bersonol, ond all dilynwyr Iesu fyth gadw eu ffydd yn breifat. Rydym ni wrth ein boddau yn rhannu’r newyddion da am Iesu gyda phobl drwy sôn wrth bobl amdano a cheisio byw sut roedd e’n byw wrth i ni gael y fraint o roi blas i bobl o’r nefoedd newydd a’r daear newydd sydd yn dod.
Cyfraniadau aelodau a chyfeillion at waith yr eglwys 2009-2024
Gwariant o’r gronfa gyffredinol ar rai agweddau o waith yr Eglwys yn 2024
Nodyn:
Mae’r symiau a’r graffiau ar y dudalen hon wedi eu crynhoi ac at ddiben darluniadol yn unig. Mae’r ffigyrau manwl cywir ar y cyfrifon sy’n dilyn dros y tudalennau nesaf.
INCWM Y GRONFA GYFFREDINOL 2024
CYFRANIADAU GAN AELODAU A CHYFEILLION TUAG AT WAITH YR EGLWYS Casgliad Amlenni a Rhydd £4,123.53 Cyfraniadau drwy’r Banc a Stewardship £67,621.10 O’r Cyfrif Cadw £5,000.00 Cyfanswm £76,744.63 CASGLIADAU, RHODDION AC INCWM ARBENNIG Rhoddion er côf £3,000.00 Casgliadau Arbennig £1,079.78 Casgliad Cytun at Cymorth Cristnogol £107.70 Cymanfa Arfon – Grant Arbennig £500.00 Rhoddion ar y Cwrs Alffa £200.00 Incwm Gŵyl Caersalem £611.21 Incwm Interniaeth £1,855.68
Cyfanswm
£7,354.37
Cyfanswm Casgliadau a Rhoddion 2024
£84,099.00
Cyfrif Cyfredol - 01/01/2024 £20,670.91
Cyfanswm Incwm 2024
yn cynnwys yr hyn a gariwyd drosodd o 2023
£104,769.91
TALIADAU Y GRONFA GYFFREDINOL 2024
CYNNAL GWAITH A GWEINIDOGAETH YR EGLWYS
Taliadau Cronfa’r Weinidogaeth £27,254.79 Taliadau Cronfa’r Adeiladau £27,000.00 Pregethwyr a Chyfranwyr Achlysurol £545.00 Costau Cawl a Chwmni £350.00 Costau Interniaeth £15,153.84 Costau Bugeiliol a Hyfforddi £664.65 Costau Gwyl Caersalem £765.41 £71,733.69
CEFNOGI ELUSENAU A MUDIADAU ALLANOL BMS £300.00 Ysgol Pendalar (Rhoddion 2023) £350.00 Banc Bwyd £1,200.00 Cefnogi Gweinidogaethau Eraill £4,876.00 Rhodd Cytun i Cymorth Cristnogol £150.00 £6,876.00 ARALL Cylchgronnau £60.90 Ad-dalu Benthyciad Undeb Bedyddwyr £5,000.00 Costau Banc £117.06 Aelodaeth Undeb Bedyddwyr £1,040.00 Aelodaeth Mudiad Chwiorydd UBC £15.00 Cyflenwad Paned i’r Capel £157.50 Aelodaeth y Gynghrair Efengylaidd £90.00 Costau Cyfarfodydd UBC £260.00 Costau Hysbysebu / Marchnata ac Argraffu £242.32 Costau Stondin ar y Stryd £162.20 £7,144.98
Cyfanswm taliadau at waith a gweinidogaeth yr eglwys, elusenau a mudiadau allanol a chostau eraill yn 2024 £85,754.67 Cyfrif Cyfredol - 31/12/2024 £19,015.24 Cyfanswm taliadau 2024
yn cynnwys yr hyn a gariwyd drosodd mewn i 2025
£104,769.91
MANTOLEN Y GRONFA ADEILADAU 2024
TALIADAU
DERBYNIADAU
Yswiriant y Capel £1,777.56 Balans HSBC 1/1/2024 £7,590.00 Bil Dwr £271.56 O’r Gronfa Gyffredinol £27,000.00 Biliau Nwy a Trydan £8,436.96 Incwm at y Gwaith ar yr Adeilad £1,082.50 Trwyddedau Amrywiol £2,035.09 Grant at Brosiect yr Iard Gefn £5,909.93 Gwaith Cynnal a Thrwsio £9,998.82 Tal am ddefnydd o’r Capel £1,645.00 Offer a Dodrefn i’r Capel £432.21 Incwm Darlledu / Ffrydio Byw £50.00 Gwasanaeth a Chynnal y Lifft £935.96 Ad-daliad Yswiriant - Difrod Storm £1,067.60 Prosiect yr Iard Gefn £8,766.23 Costau Glanhau’r Capel £2,557.23 Costau Diogelwch a Tan £1,753.11 Costau Banc £85.81 Gweddill HSBC 31/12/2024 £7,294.49 CYFANSWM £44,345.03 £44,345.03
Y GRONFA CADW 2024
| TALIADAU I’r Gronfa Gyffredi-nol Cyfrif - 31/12/2024 |
INCWM £5,000 Llog y Banc 31,147.43 Cyfrif – 01/1/2024 36,147.43 |
675.86 35,471.57 36,147.43 |
|---|---|---|
Noder: Yn unol ag arweiniad y Comisiwn Elusennau, rydym yn anelu at gadw swm wrth gefn fyddai yn ddigon i gyfarfod a 6 mis o gostau sylfaenol yr eglwys, sef costau cydnabyddiaeth ariannol a chostau ar gyfer yr adeilad.
BUDDSODDIADAU 2024
Mewn llaw
| Treasury Bonds 1965 Treasury Bonds 1966 Yn y Banc Cynilo 31/12/23 Llog y Banc |
£800.00 Treasury Bonds 1965 £300.00 Treasury Bonds 1966 £1,228.35 £12.32 Yn y Banc Cynilo 31/12/24 £2,340.67 |
£800.00 £300.00 £1,240.67 £2,340.67 |
|---|---|---|
CRONFA GWAITH PLANT A IEUENCTID 2024
Taliadau
Derbyniadau
Costau Clwb Ieuenctid £392.18 Gweddill yn yr HSBC 1/1/2024 £6,719.33 Costau Gw. Plant/Llan Llanast £385.98 Cyfraniadau Unigol Rheolaidd £650.00 Costau Banc £77.69 Rhoddion i Clwb Sblash £130.00 Costau Ser Bach £432.37 Incwm Ser Bach £1,237.09 Costau Clwb Plant yr Haf £138.80
Gweddill yn HSBC 31/12/2024 £7,309.30
CYFANSWM
£8,736.32
£8,736.32
MANTOLEN Y WEINIDOGAETH 2024
Mae cronfa’r Weinidogaeth yn derbyn incwm o 5 ffynhonnell. Y tair eglwys y mae’r Gweinidog yn Gweinidogaethu ynddynt, y grant gweinidogaethol mae’r cylch yn derbyn gan Gymanfa Bedyddwyr Arfon ac yna’r swm rydym yn derbyn gan y Cyngor Ysgolion Sul am y secondiad diwrnod yr wythnos y mae Rhys Llwyd yn gwneud iddynt fel eu Dylunydd a Swyddog Technegol.
Mae’r gost sylfaenol ar gyfer gweinidogaeth Caersalem, Calfaria ac Ebeneser yn cael ei rannu yn ôl y fformiwla a gytunwyd rhwng y partneriaid i gyd. Mae unrhyw gostau dros ben hynny sydd yn cynnwys, er enghraifft, gyflog y Gweinidog Cyswllt yn disgyn ar eglwys Caersalem yn unig. Mae’r fantolen yma yn cynnwys y costau hynny i gyd.
Caersalem (75% o’r costau ar ôl incwm Cymanfa Arfon a’r Cyngor Ysgolion Sul) Calfaria (50% o’r gweddill ar ôl cyfraniad Caersalem) Ebeneser (50% o’r gweddill ar ôl cyfraniad Caersalem)
Derbyniadau Costau Dyledus i’r Banc 01-01-2024 £1,981.55 Stipend, Lwfans, Costau a Chyfraniad Pensiwn y Gweinidogion £41,141.20 Treth £6,697.02 Cyfraniadau - Caersalem £27,254.79 Arall £170.80 Calfaria £2,775.67 Ebeneser £2,775.67 Y Gymanfa £7,665.00 Ysgol Sul £6,936.00 Yn y Banc 31-12-2024 £1,379.66
£49,388.68 £49,388.68
Derbyniadau/Costau
Caersalem Calfaria Ebeneser 75% 50% o 25% 50% o 25% Taliadau £27,254.79 £2,775.67 £2,775.67
(Tudalen a adawyd yn wag yn fwriadol)
CIERSILEV, Stryd Garnon - Caernarfon www.caersalem.com
CWRDD EGLWYS CAERSALEM
ADRODDIAD GAN YR YMDDIRIEDOLWYR: 8 Mai 2025
-
Mae Cyfansoddiad Drafft y capel yn gosod nifer o gyfrifoldebau ar yr Ymddiriedolwyr:-
-
Sicrhau bod yr eglwys yn gweithredu yn unol â’i ddogfen gyfansoddiadol
-
Derbyn Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Capel (wedi iddynt gael sylw gan Gyfarfod Aelodau’r Eglwys)
-
Sicrhau bod trefniadau diogelu digonol yn eu lle
-
Sicrhau fod yr eglwys yn gweithredu yn unol â’r ‘Charities Act (2011)’ neu unrhyw ddeddf arall perthnasol a hefyd â’i weledigaeth fel y mae’n cael ei amlinellu yn y ddogfen
-
Mae un awgrym newydd sef y dylai’r Ymddiriedolwyr gyflwyno adroddiad blynyddol i’r Cwrdd Eglwys ar iechyd yr eglwys a’i drefniadau. Mae hyn yn golygu bod modd i’r Ymddiriedolwyr ddal yr eglwys yn atebol am weithredu yn briodol ac yn gyson â’i gyfansoddiad a hefyd yn gyfle i dynnu sylw at unrhyw faterion o bryder.
-
Dylid nodi, ar y pwynt hwn, mai 3 ymddiriedolwr sydd ar hyn o bryd, 4 os y derbynnir cynnig yn rhan arall o’r agenda. Y 3 ar hyn o bryd yw Mari ac Arwel (sydd yn aelodau o’r Tîm Arwain ar hyn o bryd) a Sian Rees sy’n ymddiriedolwr allanol. Mae hyn yn batrwm cyfarwydd gan ei fod yn cynnwys pobl fewnol sydd yn ddigon cyfarwydd gyda sut mae’r eglwys yn gweithredu o ddydd i ddydd a hefyd rhywun o’r tu allan sydd yn nabod yr eglwys ond hefyd yn ddigon annibynnol i fedru cynnig sylw a mynegi unrhyw bryderon.
-
I osgoi unrhyw bryderon bod aelodau o’r Tîm Arwain yn “marcio eu gwaith cartref eu hunain”, mae’r cymalau sy’n dilyn yn datgan barn Sian, fel yr ymddiriedolwr allanol:-
a. Gweledigaeth yr eglwys: Da cael gweld eglwys yn gweithredu ar weledigaeth, a bod y weledigaeth honno wedi cael ei chyrraedd trwy weddi. Nodyn o anogaeth i chi fel eglwys; cefais freuddwyd proffwydol ychydig cyn gŵyl Llanw, a dwi wedi rhannu’r cynnwys gyda rhai o’r Tîm Arwain. Dwi’n synhwyro y bydd tyfiant nesaf Caersalem yn dod o ganlyniad i gyfeillgarwch ei haelodau wrth iddynt estyn allan i bobl y dref a thu hwnt.
b. Priodoldeb ariannol: Mae derbyn adroddiadau misol ar wariant ar draws cyllidebau gwahanol yr eglwys yn ein galluogi ni fel ymddiriedolwyr i gadw llygad ar wariant yr eglwys a sicrhau atebolrwydd.
c. Y Cyfansoddiad: Mae’n ddoeth symud i gyfansoddiad ffurfiol wrth i’r eglwys dyfu ond, wrth gwrs, mae rhoi pethau ar ddu a gwyn am amlygu rhai gwahaniaethau barn o ran sut mae’r eglwys yn gweithredu. Rhaid cofio ei fod bob amser yn anodd cael y balans cywir rhwng Tîm Arwain a gwrando ar y gynulleidfa, ond mi ddaw pethau’n iawn efo gweddi.
ch. Mentro ymlaen: Dwi’n croesawu penderfyniad yr eglwys i alw Hannah Smethurst fel Gweinidog Cyswllt yn fawr. Fel y gwyddoch chi, mae Hannah yn ddynes alluog a llawn eneiniad yr Ysbryd Glân ar gyfer y gwaith. Mae ei phenodiad yn dangos gweledigaeth a menter ar ran Caersalem, yn fuddsoddiad yn y Deyrnas, ac yn ddatganiad o ffydd bod Duw am weithio yn eich plith. Bendith arnoch.
Yn gywir,
Arwel E. Jones Mari Williams Siân Wyn Rees
8 Mai 2025