## **CAERSALEM A.D.  1815 CAPEL  Y  BEDYDDWYR**

**Adnabod, Addoli a Dilyn Iesu a’i gyfwyno i eraill**

**ADRODDIAD BLYNYDDOL AM 2023**

## **Y  CYFAMOD  EGLWYSIG**

Wrth ddod yn aelod o Gaersalem, yr wyf yn addo:

1.  I rodio’n addas o Efengyl ein Harglwydd Iesu Grist ac i ‘wneud safiad dros y ffydd, sef y gwirionedd mae Duw wedi’i roi i’w bobl un waith ac am byth.’ (Jwdas 1:3)

2.  I ymroi i gymdeithas a bywyd yr eglwys. (Hebreaid 10:25) 3.  I gyfrannu at waith yr Arglwydd ‘fel y llwyddodd Duw fi.’

4.  I ildio i’r mwyafrif.

5.  I gadw pethau’r tŷ yn y tŷ.

## **AELODAETH CYSYLLTIOL**

Mae Caersalem yn perthyn i Gymanfa Bedyddwyr Arfon ac Undeb Bedyddwyr Cymru. Yn rhinwedd ein aelodaeth o Undeb Bedyddwyr Cymru rydym yn monitro, gweinyddu a derbyn hyfforddiant mewn materion diogelwch dan y Panel Diogelwch Cydenwadol.

Ein swyddog diogelwch dynodedig lleol yw ein Gweinidog Rhys Llwyd ac am gyfnod yn ystod 2023, oherwydd salwch, gweithredodd Robin Luff fel y swyddog dynodedig. Swyddog Hyfforddiant a Diogelu yw Julie Edwards o’r Panel Diogelwch Cydenwadol.

Os oes consyrn diogelwch y dymunwch drafod gyda rhywun tu allan i Gaersalem cysylltwch gyda Judith Morris, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Bedyddwyr Cymru: judith@ubc.cymru

## **YMDDIRIEDOLWYR YR ELUSEN** (Rhif Elusen 502317)

Arwel E. Jones • Mari Williams • Siân Wyn Rees

Yn ogystal â’r Credo Apostolaidd a Datganiad o Egwyddor y Bedyddwyr dyma’r frawddeg sy’n crynhoi beth sy’n bwysig i ni ar sail ein dealltwriaeth o stori fawr y Beibl: Rydym ni’n bobl sydd eisiau “adnabod, addoli a dilyn Iesu a’i gyflwyno i eraill.”

## **Adnabod Iesu**

Dydyn ni ddim yn meddwl fod Duw yn dduw pell sy’n byw ar y cymylau, ond yn hytrach rydym ni’n credu fod Duw y Tad wedi dod atom ni yn ei fab, sef Iesu Grist. Oherwydd hynny fe allwn ni adnabod Duw. Oherwydd bod y byd yma ac yn aml ein bywydau ni mewn llanast, rydym ni angen troi ac adnabod Iesu, oherwydd fe sy’n dod â gobaith i bob sefyllfa. Rydym ni eisiau helpu pobl i ddod i adnabod Iesu am y tro cyntaf, a helpu ein gilydd i adnabod Iesu’n well.

## **Addoli Iesu**

Rydym ni’n credu fod Duw wedi ein creu ni i fyw bywydau a fydd yn ei addoli ef. Er fod canu gyda’n gilydd ar ddydd Sul yn rhan bwysig o addoli, mae llawer mwy ‘na hynny i addoli hefyd. Rydym ni’n credu fod modd gwneud popeth fel addoliad i Dduw – o ofalu am ein teulu, i weithio’n galed yn y gwaith i olchi’r llestri hyd yn oed! Mae meddwl am ein bywyd fel un cyfle mawr i addoli yn rhoi gwerth a phwrpas arbennig i fywyd pawb.

## **Dilyn Iesu**

Mae llawer o bobl yn gwybod am Iesu, ond mae Iesu yn ein galw i’w ddilyn yn nerth ei ysbryd, Yr Ysbryd Glân. Rydym ni’n bobl sy’n credu yn Iesu, ond gyda’i help rydyn ni’n ceisio ei ddilyn hefyd fel rhan o deulu Duw, Yr Eglwys. Rydym ni’n gofyn am ei help i ni garu a gwasanaethu pobl fel mae Iesu’n gyntaf wedi ein caru ni.

## **Ei gyflwyno i eraill**

Mae gennym ni i gyd ffydd bersonol, ond all dilynwyr Iesu fyth gadw eu ffydd yn breifat. Rydym ni wrth ein boddau yn rhannu’r newyddion da am Iesu gyda phobl drwy sôn wrth bobl amdano a cheisio byw sut roedd e’n byw wrth i ni gael y fraint o roi blas i bobl o’r nefoedd newydd a’r daear newydd sydd yn dod.

## **SWYDDOGION YR EGLWYS**

# **Gweinidog**

Rhys Llwyd 24 Ffordd Eryri, Caernarfon, LL55 2UR rhys@caersalem.com 07834 556202

## **Tîm Arwain**

timarwain@caersalem.com

Lowri Jones (Gwaith Plant / Gofal Tŷ)

Rhodri Jones (Gwaith Ieuenctid / Dysgu)

Robin Luff (Addoli)

Menna Machreth (Gwaith Ieuenctid / Gwaith Cenhadol)

Mari Williams (Gwaith Plant / Gwaith Cenhadol)

Martin Williams (Addoli / Grwpiau Tŷ)

Arwel Jones (Ysgrifennydd / Dysgu)

Maggie Hughes (Gweddi)

## **Gweinidog Anrhydeddus**

Denis Young

Yn ystod 2023 safodd **Susann Kelly** i lawr o’r tîm arwain. Diolch yn fawr am ei gwasanaeth ar y tîm dros y blynyddoedd.

**Rhif Elusen** 502317

# **Swyddogion Ariannol**

Martin Williams (Trysorydd Cyd-bwyllgor y Weinidogaeth), Jan Jones (Archwiliwr y Cyfrifon) ac Ann Griffith.

## **Tîm Addoli ac Arweinyddion y Gwaith Plant**

Mae nifer sylweddol yn gwasanaethu fel rhan o’r tîm addoli a’r tîm gwaith plant bellach. Diolch i bawb am eu gwasanaeth.

## **Ysgrifennydd**

Arwel E Jones

Eithinog Uchaf, Penygroes, Gwynedd, LL54 6PD (eithinoguchaf@btinternet.com; 07586 053961)

## **Myfyriwr Gweinidogaethol**

Hannah Smethurst

Myfyriwr yng Ngoleg y Bedyddwyr Caerdydd ac ar leoliad gyda ni hannah@caersalem.com

|**Ystadegau**||

|Rhif yr Aelodau 1 Ionawr 2023|52|
|Collwyd trwy farwolaeth|2|
|Gollyngwyd|2|
|Derbyniwyd|6|
|Rhif yr Aelodau 1 Ionawr 2024|**54**|

## **AELODAU  A  CHYFEILLION YN YSTOD 2023**

a Mae’r rhestr yma yn cynnwys **aelodau swyddogol chyfeillion** bu’n addoli’n rheolaidd gyda ni neu’n cyfrannu yn ystod 2023, yn cynnwys aelodau a chyfeillion a hunodd yn ystod y flwyddyn.

Mae’r rhestr mor gynhwysol â phosib ond os ydym ni wedi gwneud camgymeriad ac anghofio cynnwys rhywun gadewch i ni wybod er mwyn cywiro’r rhestr i’r dyfodol.  Os ydym wedi eich gadael allan ar gamgymeriad rydym yn ymddiheuro am hynny.

Brown, Andrew Parry Jones, Arwel a Lowri Cliffton, Sally Jones, Carolyn Dafydd, Ruth Jones, Ceinwen Davies, Myfanwy Jones, Gwion a Georgia Edwards, Tegwedd Jones, Gwyn Egginton, Stuart a Enid Jones, Noel Ellis, Glenys Jones, Nia Wyn Evans, Gethyn Jones, Jan, Lowri ac Eleri Evans, Mary Jones, Liz Flanegan, Iorwen Jones, Michael Flanegan, Nicola Jones, Rhodri ac Elin Wallace-Jones Fix, Harley Jones, Sian Gareth, Rhian Jones, Sion Glyn, Cynan a Kim Joyce, Eilian ac Eleri Griffiths Ann Kelly, Susann Griffith, Helen Lewis, Anita Griffiths Rhiannon Lewis, Ben a Lora Gruffydd, Melangell Long, Andy Gwilym, Trystan a Bethan Llewelyn, Menna Hughes, Gwenno Llwyd, Y Parch Rhys a Menna Machreth Hughes, Maggie Luff, Robin, Fi, Alwenna ac Eben

McCain, Trey ac Amelia Settatree, Andrew a Hef Morey, Ellis Smethurst, Hannah Morey, Leslie Tenbrink, Thora Myfanwy, Ruth Thomas, Peggy Morris, Elizabeth Tootill, Sion Morris, Kent Williams, Carys Owen, Falmai Williams, Gwen Owen, Ieuan Williams, Gwyneth Owen, Michael Williams, Gwyn Pritchard, Dafydd a Gwenno Williams, Gwynedd Pritchard, Nerys Williams, Martin a Mari Roberts, Ifan Williams, Paul Roberts, Iwan, Delyth ac Esyllt Williams, Susan Roberts, Dilys Williams, Manon Roberts, Hazel Wrightson, Ann Robinson, Y Parch John Young, Y Parch Denis ac Arvonia Robson, Eirian

## **Dod yn aelod?**

**Os ydych chi’n cyfri Caersalem fel eich eglwys leol yna rydych chi’n rhan o deulu Caersalem. Ond fel eglwys rydym hefyd yn credu fod lle i aelodaeth ffurfiol.**

I fod yn aelod o eglwys fyd eang Iesu Grist yr hyn sy’n bwysig yw ymddiried yn Iesu Grist fel eich Arglwydd a’ch Gwaredwr.

Ond rydym ni’n credu, wrth edrych ar y Testament Newydd, fod Duw wedi galw ei bobl at ei gilydd yn eglwysi lleol hefyd. Mae perthyn i eglwys leol yr un mor bwysig a pherthyn i’r fyd eang.

Os ydych yn dymuno dod yn aelod ffurfiol fel arwydd o’ch ymrwymiad i Iesu ac i’ch cyd-ddisgyblion i Iesu yng Nghaersalem mynnwch air gyda un o’r tîm arwain eleni.

## **Beth yw Bedydd?**

Oni bai fod yna reswm teilwng rydym fel Eglwys Fedyddiedig yn credu y dylai Cristnogion gael Bedydd Crediniwr, neu ‘Fedydd Trochiad’, ar ôl dod i gredu a cyn dod yn aelod o’r Eglwys leol. Dyma grynodeb o’r hyn a gredwn am hyn:

## **Mae Bedydd crediniwr yn foment**

**arbennig iawn ar lwybr ffydd.** Dyma’r foment y mae presenoldeb a bendith Duw yn ein cyfarfod, a dyma pryd y byddwn yn gwneud arwydd gyhoeddus o’n ffydd bersonol yn Iesu fel Arglwydd a Gwaredwr. **Arwydd allanol o newid mewnol sydd eisoes wedi cymryd lle.**

Mae’n nodi **diwedd yr hen fywyd a’r ail-eni i fywyd newydd yng Nghrist.** Fel arfer bydd yn fedydd lle bydd y corff i gyd wedi ei roi dan y dŵr ac yna ei godi yn ôl i fyny allan o’r dŵr. Mae Bedyddio fel yma yn **arwydd o edifeirwch a glanhad** , o uniaethu gydag Iesu yn ei farwolaeth a’i atgyfodiad, a **derbyn galwad Duw ar ein bywyd.**

Mae Bedydd hefyd yn **symbol o dderbyn Ysbryd Duw** i’n cynorthwyo i’w wasanaethu yn y byd.

Bydd llawer o Fedyddwyr yn eiddgar i roi croeso a chadarnhau Cristnogion sydd â stori wahanol o ran eu bedydd a’u camau tuag at ffydd, ond yn parhau i gredu o argyhoeddiad mae bedydd crediniwr yw’r patrwm a welwn yn yr ysgrythur:

**1 Esiampl Iesu:** Bedyddiwyd Iesu gan Ioan Fedyddiwr (Mathew 3:1317; Marc 1:9-11; Luc 3:21-22)

**2 Gorchymyn Iesu:** Yn y Comisiwn Mawr (Mathew 28:18-20) mae Iesu’n dweud: _“Felly ewch i wneud pobl o bob gwlad yn ddisgyblion i mi, a’u bedyddio nhw fel arwydd eu bod nhw wedi dod i berthynas â’r Tad, a’r Mab a’r Ysbryd Glân.”_

**3 Ers y dechrau dyma oedd patrwm Eglwys Iesu Grist:** Ar ddiwrnod y Pentecost mae Pedr yn dweud wrth y bobl: _“Rhaid i chi droi cefn ar eich pechod, a chael eich bedyddio fel arwydd eich bod yn perthyn i Iesu y Meseia a bod Duw yn maddau eich pechodau chi. Wedyn byddwch chi’n derbyn yr Ysbryd Glân yn rhodd gan Dduw.”_ (Actau 2:38)

Er bod Bedydd yn arwydd o ffydd bersonol yn Iesu Grist, **mae’r ffydd Gristnogol yn ffydd sydd i’w fyw mewn cymuned gyda Christnogion eraill** yn yr eglwys leol. Mae Bedydd yn **arwydd eich bod wedi ymuno a’r corff o gredinwyr mae Iesu’n ei alw’n briodferch iddo** .

Yn ogystal â bod yn arwydd o ymrwymiad i Iesu **ddylai Bedydd hefyd fod yn arwydd o ymrwymiad i gorff Iesu sef yr Eglwys** , ac felly mae aelodaeth eglwysig yn cael ei annog i rheiny sy’n mynd trwy ddŵr y bedydd.

**Cyfraniadau aelodau a chyfeillion at waith yr eglwys 2009-2023**

70000.00

52500.00

**----- Start of picture text -----**

35000.00
17500.00
0.00
2009 2010 2011 2012 2013 2014 2015 2016 2017 2018 2019 2020 2021 2022 2023
**----- End of picture text -----**

**Gwariant o’r gronfa gyffredinol ar rai agweddau o waith yr Eglwys yn 2023**

- Adeiladau (Biliau, cynnal a chadw ayb.) Cefnogi elusennau/mudiadau allanol

|**Gwariant sylweddol**|**2022**|**2023**|

|Cyflogi a Chostau Staffio|£37,824|£32,815|
|Adeiladau (Biliau, cynnal a chadw ayb.)|£43,000|£26,635|
|Cefnogi elusennau/mudiadau allanol|£3,900|£6,400|

## **Nodyn:**

Yn ogystal, cyfrannwyd £40 o incwm a dderbyniwyd yn sgil Gweinidogaeth Sozo at waith Tear Fund (ar wahân i lyfrau’r eglwys)

## **INCWM Y GRONFA GYFFREDINOL 2023**

## **CYFRANIADAU GAN AELODAU A CHYFEILLION TUAG AT WAITH YR EGLWYS**

Casgliadau rhydd ac amleni £1,341.00 Cyfraniadau drwy’r Banc a Stewardship £67,612.30

## **Cyfanswm £68,953.30**

## **CASGLIADAU, RHODDION AC INCWM ARBENNIG**

Rhoddion er côf £685.00 Casgliadau Arbennig £1,442.24 Casgliad Cyfarfodydd y Senana £463.00 Incwm Cawl a Chwmni £5,425.61 Incwm Gŵyl Caersalem £511.75 Incwm Interniaeth £4,096.50

## **Cyfanswm**

## **£12,624.10**

## **Cyfanswm Casgliadau a Rhoddion 2023**

## **£81,577.40**

Cyfrif Cyfredol - 01/01/2023 £24,969.23

## **Cyfanswm Incwm 2023**

yn cynnwys yr hyn a gariwyd drosodd o 2022

**£106,546.63**

## **TALIADAU Y GRONFA GYFFREDINOL 2023**

## **CYNNAL GWAITH A GWEINIDOGAETH YR EGLWYS**

Taliadau Cronfa’r Weinidogaeth (Gweinidog) £15,622.83 Taliadau Cronfa’r Adeiladau £13,000.00 Pregethwyr a Chyfranwyr Achlysurol £775.00 Grant byw a chostau Myfyriwr Gweinidogaethol £17,191.72 Costau Cawl a Chwmni £4,594.04 Costau Caru Caersalem £320.18 Costau Gŵyl Caersalem £609.53

**£52,113.30**

## **CEFNOGI ELUSENAU A MUDIADAU ALLANOL**

BMS £650.00 Ysgol Pendalar (rhodd 2022) £300.00 Banc Bwyd £1,500.00 Cefnogi Gweinidogaethau Eraill £3,950.00

**£6,400.00**

## **ARALL**

Trosglwyddiad i’r Gronfa Gadw £20,000.00 Ad-dalu Benthyciad Undeb Bedyddwyr £5,000.00 Costau Banc £134.67 Aelodaeth Undeb Bedyddwyr £943.50 Aelodaeth Mudiad Chwiorydd UBC £10.00 Cyflenwadau Paned i’r Capel £201.09 Aelodaeth y Gynghrair Efengylaidd £90.00 Costau Cyfarfodydd UBC £50.00 Costau / Rhoddion Cyfarfodydd y Senana £585.00 Costau Hysbysebu / Marchnata ac Argraffu £286.26 Cylchgronnau £60.90

**£27,361.42**

## **Cyfanswm taliadau at waith a gweinidogaeth yr eglwys, elusenau a mudiadau allanol a chostau eraill yn 2023**

**£85,874.72**

Cyfrif Cyfredol - 31/12/2023

£20,670.91

## **Cyfanswm taliadau 2023**

yn cynnwys yr hyn a gariwyd drosodd mewn i 2024

**£106,545.63**

## **MANTOLEN Y GRONFA ADEILADAU 2023**

## **TALIADAU**

## **DERBYNIADAU**

Yswiriant y Capel £1,682.71 Balans yn yr HSBC 1/1/2023 £10,700.80 Bil Dwr £287.22 O’r Gronfa Gyffredinol £13,000.00 Biliau Nwy a Trydan £7,513.90 Incwm at Waith ar yr Adeilad £1,466.89 Trwyddedau ac Offer TG £3,042.80 Incwm Gwaith ar yr Wal (TAW) £4,262.61 Gwaith Cynnal a Thrwsio £3,798.69 Tal am ddefnydd o’r Capel £1,663.54 Offer a Dodrefn i’r Capel £902.53 Costau Ynni Mannau Cynnes £2,750.00 Costau Banc £77.00 Cydnabyddiaeth Offer Cyfieithu £100.00 Costau Glanhau’r Capel £2,608.11 Incwm Darlledu / Ffrydio Byw £280.72 Costau Gwaith ar y Wal £4,820.00 Gwasanaeth a Chynnal y Lifft £1,901.60 Gweddill HSBC 31/12/2023 £7,590.00

## **CYFANSWM**

## **£34,224.56**

**£34,224.56**

## **Y GRONFA CADW 2023**

## **INCWM**

|**TALIADAU**
Cyfrif - 31/12/2023|**INCWM**
Llog y Banc
O’r Gronfa Gyffredinol
35,471.57
Cyfrif – 01/1/2023
**35,471.57**|306.12
20,000.00
15,165.45
**35,471.57**|

## **BUDDSODDIADAU 2023**

|**Mewn llaw**
Treasury Bonds 1965
Treasury Bonds 1966
Yn y Banc Cynilo 31/12/22
Llog y Banc|£800.00
Treasury Bonds 1965
£300.00
Treasury Bonds 1966
£1,218.92
£9.43
Yn y Banc Cynilo 31/12/23
**£2,328.35**|£800.00
£300.00
£1,228.35
**£2,328.35**|

## **CRONFA GWAITH PLANT A IEUENCTID 2023**

|**Taliadau**||**Derbyniadau**||

|Costau Clwb Ieuenctid|£313.97|Balans yn yr HSBC 1/1/23|£6,984.63|
|Costau Banc|£84.46|Cyfraniadau Unigol Rheolaidd|£600.00|
|Costau Ser Bach|£805.08|Incwm Ser Bach|£1,359.56|
|Costau Clwb Sblash|£585.00|Rhoddion i Clwb Sblash|£150.00|
|Costau Profad y Pasg|£138.69|||
|Costau Gwaith Plant|£447.66|||

Gweddill yn yr HSBC 31/12/23 £6,719.33

**£9,094.19**

## **Mantolen yr Ofalaeth Caersalem, Calfaria ac Ebeneser**

|**Derbyniadau**
**Taliadau**
Dyledus i’r banc 01.01.2023
1,907.39
Cyfog y Gweinidog
Cyfraniad Caersalem
15,622.83
Treuliau
Cyfraniad Calfaria
3,124.57
Lwfans Tŷ
Cyfraniad Ebeneser
2,083.04
Pensiwn, treth
Cyfraniad y Gymanfa
7,300.00
cyfogwr a manion eraill
Cyfraniad CYS
6,936.00
yn y banc 31/12/2023
36,973.83|26,516.59
2,691.40
4,409.91
1,374.38
1,981.55
36,973.83|

## **SUT ARIENIR CRONFA’R WEINIDOGAETH?**

Dyma yw y gronfa sy’n cyflogi ein Gweinidog. Mae tair eglwys yn cyfrannu iddi, Caersalem Caernarfon, Calfaria Penygroes ac Ebeneser Llanllyfni. Yn ogystal â hynny rydym yn derbyn grant blynyddol gan Gymanfa Bedyddwyr Arfon. Yn ogystal a bod yn Weinidog dros y dair Eglwys Rhys hefyd yw Arolygydd Cymanfa Bedyddwyr Arfon.

Rydym hefyd yn derbyn incwm i’r gronfa gan y Cyngor Ysgolion Sul a hynny gan fod y Gweinidog wedi ei secondio i weithio iddynt am ddiwrnod yr wythnos.

Ar ôl cymryd grant Cymanfa Bedyddwyr Arfon a chyfraniad y Cyngor Ysgolion Sul i ystyriaeth mae y swm sy’n weddill yn cael ei ateb fel y ganlyn yn seiliedig yn fras ar nifer aelodau y dair eglwys:

## Caersalem 75%

Calfaria (60% o’r 25% sy’n weddill) Ebeneser (40% o’r 25% sy’n weddill)

## **Ariannwyd Cronfa’r Weinidogaeth  yn 2023 fel a ganlyn*:**

|**Ariannwyd Cronfa’r Weinidogaeth**|**yn 202**|

|Cyfraniad Caersalem, Caernarfon|44%|
|Grant gan Cymanfa Bedyddwyr Arfon|21%|
|Taliad gan Cyngor Ysgolion Sul|20%|
|Cyfraniad Calfaria, Penygroes|9%|
|Cyfraniad Ebeneser, Llanllyfni|6%|
|*Canranau wedi eu crynhoi||

(Tudalen a adawyd yn wag yn fwriadol)

CIERSILEV,
Stryd Garnon - Caernarfon
www.caersalem.com