CAERSALEM A.D. 1815 CAPEL Y BEDYDDWYR
Adnabod, Addoli a Dilyn Iesu a’i gyfwyno i eraill
ADRODDIAD BLYNYDDOL AM 2021
Y CYFAMOD EGLWYSIG
Wrth ddod yn aelod o Gaersalem, yr wyf yn addo:
-
I rodio’n addas o Efengyl ein Harglwydd Iesu Grist ac i ‘wneud safiad dros y ffydd, sef y gwirionedd mae Duw wedi’i roi i’w bobl un waith ac am byth.’ (Jwdas 1:3)
-
I ymroi i gymdeithas a bywyd yr eglwys. (Hebreaid 10:25) 3. I gyfrannu at waith yr Arglwydd ‘fel y llwyddodd Duw fi.’
-
I ildio i’r mwyafrif.
-
I gadw pethau’r tŷ yn y tŷ.
AELODAETH CYSYLLTIOL
Mae Caersalem yn perthyn i Gymanfa Bedyddwyr Arfon ac Undeb Bedyddwyr Cymru.
Rydym hefyd yn aelod o’r Cynghrair Efengylaidd.
Yn rhinwedd ein aelodaeth o Undeb Bedyddwyr Cymru rydym yn monitro, gweinyddu a derbyn hyfforddiant mewn materion diogelwch dan y Panel Diogelwch Cydenwadol.
YMDDIRIEDOLWYR YR ELUSEN
Arwel E. Jones • Mari Williams • Siân Wyn Rees
Yn ystod 2021 penodwyd dau ymddiriedolwr newydd sef Mari Williams sy’n aelod o Caersalem a Siân Wyn Rees fel ymddiriedolwr nad sy’n aelod er mwyn cael lefel uwch o atebolrwydd.
Rhif Elusen 502317
Yn ogystal â’r Credo Apostolaidd a Datganiad o Egwyddor y Bedyddwyr dyma’r frawddeg sy’n crynhoi beth sy’n bwysig i ni ar sail ein dealltwriaeth o stori fawr y Beibl: Rydym ni’n bobl sydd eisiau “adnabod, addoli a dilyn Iesu a’i gyflwyno i eraill.”
Adnabod Iesu
Dydyn ni ddim yn meddwl fod Duw yn dduw pell sy’n byw ar y cymylau, ond yn hytrach rydym ni’n credu fod Duw y Tad wedi dod atom ni yn ei fab, sef Iesu Grist. Oherwydd hynny fe allwn ni adnabod Duw. Oherwydd bod y byd yma ac yn aml ein bywydau ni mewn llanast, rydym ni angen troi ac adnabod Iesu, oherwydd fe sy’n dod â gobaith i bob sefyllfa. Rydym ni eisiau helpu pobl i ddod i adnabod Iesu am y tro cyntaf, a helpu ein gilydd i adnabod Iesu’n well.
Addoli Iesu
Rydym ni’n credu fod Duw wedi ein creu ni i fyw bywydau a fydd yn ei addoli ef. Er fod canu gyda’n gilydd ar ddydd Sul yn rhan bwysig o addoli, mae llawer mwy ‘na hynny i addoli hefyd. Rydym ni’n credu fod modd gwneud popeth fel addoliad i Dduw – o ofalu am ein teulu, i weithio’n galed yn y gwaith i olchi’r llestri hyd yn oed! Mae meddwl am ein bywyd fel un cyfle mawr i addoli yn rhoi gwerth a phwrpas arbennig i fywyd pawb.
Dilyn Iesu
Mae llawer o bobl yn gwybod am Iesu, ond mae Iesu yn ein galw i’w ddilyn yn nerth ei ysbryd, Yr Ysbryd Glân. Rydym ni’n bobl sy’n credu yn Iesu, ond gyda’i help rydyn ni’n ceisio ei ddilyn hefyd fel rhan o deulu Duw, Yr Eglwys. Rydym ni’n gofyn am ei help i ni garu a gwasanaethu pobl fel mae Iesu’n gyntaf wedi ein caru ni.
Ei gyflwyno i eraill
Mae gennym ni i gyd ffydd bersonol, ond all dilynwyr Iesu fyth gadw eu ffydd yn breifat. Rydym ni wrth ein boddau yn rhannu’r newyddion da am Iesu gyda phobl drwy sôn wrth bobl amdano a cheisio byw sut roedd e’n byw wrth i ni gael y fraint o roi blas i bobl o’r nefoedd newydd a’r daear newydd sydd yn dod.
SWYDDOGION YR EGLWYS
Gweinidog
Rhys Llwyd Maen Gwyn, Ffordd Fictoria rhys@caersalem.com 07834 556202
Tîm Arwain
Lowri Jones (Gwaith Plant / Gofal Tŷ)
Rhodri Jones (Gwaith Ieuenctid / Dysgu)
Susann Kelly (Gwaith Chwiorydd / Gofal Tŷ)
Robin Luff (Addoli)
Menna Machreth (Gwaith Ieuenctid / Gwaith Cenhadol)
Mari Williams (Gwaith Plant / Gwaith Cenhadol)
Martin Williams (Dysgu / Grwpiau Tŷ)
Arwel Jones (Ysgrifennydd / Dysgu)
Denis Young (Gweinidog Anrhydeddus)
Rhif Elusen 502317
Swyddogion Ariannol
Martin Williams (Trysorydd Cyd-bwyllgor y Weinidogaeth), Jan Jones (Archwiliwr y Cyfrifon) ac Ann Griffith.
Tîm Addoli ac Arweinyddion y Gwaith Plant
Mae nifer sylweddol yn gwasanaethu fel rhan o’r tîm addoli a’r tîm gwaith plant bellach. Diolch i bawb am eu gwasanaeth.
Ysgrifennydd
Arwel E Jones
Eithinog Uchaf, Penygroes, Gwynedd, LL54 6PD (eithinoguchaf@btinternet.com; 07586 053961)
Gweithiwr Plant a Ieuenctid (ar y cyd gyda Cynllun EfE) Susan Williams
Interns
Lowri Jones (2020/21) Hannah Smethurst (2021/22)
| Ystadegau | |
|---|---|
| Rhif yr Aelodau 1 Ionawr 2021 | 52 |
| Collwyd trwy farwolaeth | 1 |
| Gollyngwyd | 0 |
| Derbyniwyd | 0 |
| Rhif yr Aelodau 1 Ionawr 2022 | 51 |
AELODAU A CHYFEILLION YN YSTOD 2021
a Mae’r rhestr yma yn cynnwys aelodau swyddogol chyfeillion sy’n addoli’n rheolaidd gyda ni. Mae’r rhestr yn cynnwys aelodau a chyfeillion a hunodd yn ystod y flwyddyn dan sylw.
Mae’r rhestr mor gynhwysol â phosib ond os ydym ni wedi anghofio cynnwys rhywun gadewch i ni wybod er mwyn cywiro’r rhestr i’r dyfodol. Os ydym wedi eich gadael allan ar gamgymeriad rydym yn ymddiheuro am hynny.
Ansell, Catrin Beca, Sian Brown, Andrew Parry Dafydd, Ruth Dawson, Lorraine Davies, Myfanwy Edwards, Tegwedd Eggington, Stuart a Enid Ellis, Glenys Flanegan, Iorwen Flanegan, Nicola Fraser, Helen Gareth, Rhian Glyn, Cynan a KIm Griffiths Ann Griffith, Helen Griffiths Rhiannon Gruffydd, Melangell Gwilym, Trystan a Bethan Gwyn, Cadi
Hughes, Gwyn a Gwenno Hughes, Maggie Jones, Arwel a Lowri Jones, Carolyn Jones, Ceinwen Jones, Noel Jones, Nia Wyn Jones, Jan, Lowri ac Eleri Jones, Kevin Jones, Liz Jones, Mary Wynne Jones, Michael Jones, Nora Jones, Rhodri Jones, Sion Jones, Thomas H Joyce, Eilian ac Eleri Kelly, Susann Lewis, Anita Lewis, Ben a Lora
Long, Andy Roberts, Hazel Llewelyn, Menna Settatree, Andrew a Hef Llwyd, Y Parch Rhys a Menna Machreth Smethurst, Hannah Lovell, Madeline Tenbrink, Thora Luff, Robin, Fi, Alwenna ac Eben Thomas, Peggy McCain, Trey ac Amelia Wallace, Elin Myfanwy, Ruth Williams, Carys Morris, Sandra Williams, Gwen Morris, Elizabeth Williams, Gwyneth Morris, Kent Williams, Gwyn Owen, Falmai Williams, Gwynedd Owen, Ieuan Williams, Martin a Mari Pritchard, Dafydd a Gwenno Williams, Paul Pritchard, Nerys Williams, Susan Roberts, Iwan, Delyth ac Esyllt Williams, Manon Robinson, Y Parch John Young, Y Parch Denis ac Arvonia Roberts, Dilys
Dod yn aelod?
Os ydych chi’n cyfri Caersalem fel eich eglwys leol yna rydych chi’n rhan o deulu Caersalem. Ond fel eglwys rydym hefyd yn credu fod lle i aelodaeth ffurfiol.
I fod yn aelod o Eglwys Gatholig Iesu Grist (fyd eang) yr hyn sy’n bwysig yw ymddiried yn Iesu Grist fel eich Arglwydd a’ch Gwaredwr.
Ond rydym ni’n credu, wrth edrych ar y Testament Newydd, fod Duw wedi galw ei bobl at ei gilydd yn eglwysi lleol hefyd. Mae perthyn i eglwys leol yr un mor bwysig a pherthyn i’r Eglwys Gatholig.
Os ydych yn dymuno dod yn aelod ffurfiol fel arwydd o’ch ymrwymiad i Iesu ac i’ch cyd-ddisgyblion i Iesu yng Nghaersalem mynnwch air gyda un o’r tîm arwain eleni.
Beth yw Bedydd?
Oni bai fod yna reswm teilwng rydym fel Eglwys Fedyddiedig yn credu y dylai Cristnogion gael Bedydd Crediniwr, neu ‘Fedydd Trochiad’, ar ôl dod i gredu a cyn dod yn aelod o’r Eglwys leol. Dyma grynodeb o’r hyn a gredwn am hyn:
Mae Bedydd crediniwr yn foment
arbennig iawn ar lwybr ffydd. Dyma’r foment y mae presenoldeb a bendith Duw yn ein cyfarfod, a dyma pryd y byddwn yn gwneud arwydd gyhoeddus o’n ffydd bersonol yn Iesu fel Arglwydd a Gwaredwr. Arwydd allanol o newid mewnol sydd eisoes wedi cymryd lle.
Mae’n nodi diwedd yr hen fywyd a’r ail-eni i fywyd newydd yng Nghrist. Fel arfer bydd yn fedydd lle bydd y corff i gyd wedi ei roi dan y dŵr ac yna ei godi yn ôl i fyny allan o’r dŵr. Mae Bedyddio fel yma yn arwydd o edifeirwch a glanhad , o uniaethu gydag Iesu yn ei farwolaeth a’i atgyfodiad, a derbyn galwad Duw ar ein bywyd.
2 Gorchymyn Iesu: Yn y Comisiwn Mawr (Mathew 28:18-20) mae Iesu’n dweud: “Felly ewch i wneud pobl o bob gwlad yn ddisgyblion i mi, a’u bedyddio nhw fel arwydd eu bod nhw wedi dod i berthynas â’r Tad, a’r Mab a’r Ysbryd Glân.”
3 Ers y dechrau dyma oedd patrwm Eglwys Iesu Grist: Ar ddiwrnod y Pentecost mae Pedr yn dweud wrth y bobl: “Rhaid i chi droi cefn ar eich pechod, a chael eich bedyddio fel arwydd eich bod yn perthyn i Iesu y Meseia a bod Duw yn maddau eich pechodau chi. Wedyn byddwch chi’n derbyn yr Ysbryd Glân yn rhodd gan Dduw.” (Actau 2:38)
Mae Bedydd hefyd yn symbol o dderbyn Ysbryd Duw i’n cynorthwyo i’w wasanaethu yn y byd.
Bydd llawer o Fedyddwyr yn eiddgar i roi croeso a chadarnhau Cristnogion sydd â stori wahanol o ran eu bedydd a’u camau tuag at ffydd, ond yn parhau i gredu o argyhoeddiad mae bedydd crediniwr yw’r patrwm a welwn yn yr ysgrythur:
1 Esiampl Iesu: Bedyddiwyd Iesu gan Ioan Fedyddiwr (Mathew 3:1317; Marc 1:9-11; Luc 3:21-22)
Er bod Bedydd yn arwydd o ffydd bersonol yn Iesu Grist, mae’r ffydd Gristnogol yn ffydd sydd i’w fyw mewn cymuned gyda Christnogion eraill yn yr eglwys leol. Mae Bedydd yn arwydd eich bod wedi ymuno a’r corff o gredinwyr mae Iesu’n ei alw’n briodferch iddo .
Yn ogystal â bod yn arwydd o ymrwymiad i Iesu ddylai Bedydd hefyd fod yn arwydd o ymrwymiad i gorff Iesu sef yr Eglwys , ac felly mae aelodaeth eglwysig yn cael ei annog i rheiny sy’n mynd trwy ddŵr y bedydd.
Cyfraniadau aelodau a chyfeillion at waith yr eglwys 2009-2021
Gwariant o’r gronfa gyffredinol ar wahanol agweddau o waith yr Eglwys yn 2021
| Gwariant 2021 Cyfogi (Rhys, Susan ac Interns) £27,096 Adeiladau (Biliau, cynnal a chadw ac offer) £25,000 Cefnogi elusenau a mudiadau allanol £3,450 Arall £2,708 Cyfanswm £58,255 |
|
|---|---|
Nodyn:
Nid yw pob ymgyrch/casgliad a wnaed i elusennau a mudiadau allanol wedi mynd trwy lyfrau’r eglwys e.e. pan rydym wedi defnyddio gwasanaethau fel JustGiving lle mae y cyfraniad yn mynd yn uniongyrchol i’r elusen fel Sialens24 Tearfund y Clwb Ieuenctid yn mis Mawrth 2021.
Adeiladau (Biliau, cynnal a chadw ac offer) Cefnogi elusenau a mudiadau allanol Arall
INCWM Y GRONFA GYFFREDINOL 2021
CYFRANIADAU GAN AELODAU A CHYFEILLION TUAG AT WAITH YR EGLWYS
Casgliadau rhydd £904.00 Casgliad Amlenni £3,333.00 Cyfraniadau drwy’r Banc a Stewardship £55,550.93 Cyfanswm £59,787.93 CASGLIADAU A RHODDION ARBENNIG Rhoddion er côf £750.00 Ysgol Pendalar (2020 & 2021) £325.32 Rhoddion Cymorth Cristnogol £70.00 Rhoddion at y Gwaith ar y Ffenestri £250.00 Incwm Interniaeth £2,220.05 Cyfrannu at Gylchgronnau £25.00 Cyfanswm £3,640.37
Cyfanswm Casgliadau a Rhoddion 2021 £63,428.30
Cyfrif Cyfredol - 01/01/2021 £22,941.31
Cyfanswm Incwm 2021
yn cynnwys yr hyn a gariwyd drosodd o 2020 £86,369.61
TALIADAU Y GRONFA GYFFREDINOL 2021
| CYNNAL GWAITH A GWEINIDOGAETH YR EGLWYS Taliadau Cronfa’r Weinidogaeth (Cynnal Gweinidog) £13,758.63 Taliadau Cronfa’r Adeiladau £25,000.00 Pregethwyr Achlysurol £547.00 Cynllun Interniaeth (Lowri a Hannah) £8,715.92 Trosglwyddwyd i Gronfa’r Ysgol Sul £150.00 CEFNOGI ELUSENAU A MUDIADAU ALLANOL Cymorth Cristnogol £350.00 Ysgol Pendalar (rhodd 2020) £300.00 Banc Bwyd £1,200.00 Cefnogi Gweinidogaethau Eraill £1,600.00 ARALL Costau Cyfreithiol £300.00 Cylchgronnau £220.90 Aelodaeth Undeb Bedyddwyr £892.50 Cyfenwad Coff i’r Capel £18.00 Aelodaeth y Gynghrair Efengylaidd £90.00 Costau Hyfforddi £450.00 Costau Gwiriadau Diogelu £40.00 Cyfanswm taliadau ar waith a gweinidogaeth yr eglwys, elusenau a mudiadau allanol a chostau eraill yn 2020 Cyfrif Cyfredol - 31/12/2021 £32,736.66 |
£48,171.55 | £48,171.55 | £48,171.55 |
|---|---|---|---|
| £3,450 £2,011.40 £53,632.95 |
£3,450 £2,011.40 |
£3,450 | |
Cyfanswm taliadau 2021
yn cynnwys yr hyn a gariwyd drosodd mewn i 2022
£86,369.61
MANTOLEN Y GRONFA ADEILADAU 2021
| DERBYIADAU TALIADAU Balans HSBC 31/12/20 £10,649.42 Yswiriant y Capel O’r Gronfa Gyffredinol £25,000.00 Bil Dwr Rhoddion at y Gwaith Ffenestri £2,749.39 Biliau Nwy a Trydan Incwm Cymdeithas y Beibl £2,000.00 Trwyddedau Amrywiol Gwaith Cynnal a Thrwsio Offer Gweddill yn yr HSBC 31/12/21 CYFANSWM £40,398.81 |
£1,525.15 £237.65 £5,708.65 £1,732.47 £3,342.87 £3,328.37 £24,523.65 £40,398.81 |
|---|---|
BUDDSODDIADAU 2021
| Mewn llaw Treasury Bonds 1965 Treasury Bonds 1966 Yn y Banc Cynilo 31/12/20 Llog y Banc |
£800.00 Treasury Bonds 1965 £300.00 Treasury Bonds 1966 £1,217.67 £0.12 Yn y Banc Cynilo 31/12/21 £2,317.79 |
£800.00 £300.00 £1,217.79 £2,317.79 |
|---|---|---|
Y GRONFA CADW 2021
TALIADAU INCWM Llog y Banc 1.64 Cyfrif - 31/12/2021 15,142.69 Cyfrif – 01/1/2021 15,141.05 15,142.69 15,142.69
CRONFA CHWIORYDD 2021
| Yn y Banc 31/12/20 Cyfredol Cadw Casgliadau Llog Cyfredol Cadw CYFANSWM |
£274.37 Tâl Aelodaeth £54.31 Ffoedd Banc £328.68 £0.00 Yn y Banc 31/12/21 £0.00 Cyfredol £0.00 Cadw £328.68 |
£10.00 £5.00 £15.00 £259.37 £54.31 £328.68 |
|---|---|---|
CRONFA CENHADAETH LEOL 2021
Derbyniadau Gweddill yn y Banc ar 31/12/20 Rhodd gan CPC
Taliadau
£1,033.92 Costau Estyn Allan ar-lein £845.92 £500.00 Gweddill yn y Banc ar 31/12/21 £688.00
CYFANSWM
£1,533.92 £1,533.92
CRONFA GWAITH IEUENCTID 2021
Derbyniadau Gweddill yn yr HSBC 31/12/20 Cyfraniadau Unigol Rheolaidd Rhoddion i gefnogi Gwaith PG
Taliadau
£8,134.32 Cyfraniadau at Gynllun “EFE” £4,621.87 £600.00 Costau Gweithgareddau £167.64 £165.00 Anrheg o Gydnabyddaieth £100.00 Gweddill yn yr HSBC 31/12/21 £4,009.81
CYFANSWM
£8,899.32
£8,899.32
CRONFA YR YSGOL SUL 2021
| Derbyniadau Cyfrif Cyfredol Yn y Banc 31/12/20 O’r Gronfa Gyffredinol Casgliadau £0.00 Cyfrif Cadw Yn y Banc 31/12/2020 & Llog CYFANSWM |
Taliadau Anrhegion Nadolig 2020 £119.95 Llyfrau Gwaith Plant £150.00 Anrhegion Nadolig 2021 Ffoedd Banc £425.44 Yn y Banc (31/12/2021) £0.04 Cyfrif Cyfredol £695.43 CYFANSWM |
£115.00 £50.00 £100.00 £5.00 £270.00 £325.48 £99.95 £695.43 |
|---|---|---|
SÊR BACH A LLAN LLANAST 2021
| Derbyniadau Yn yr HSBC 31/12/20 Incwm CYFANSWM |
Taliadau £940.34 Adnoddau Llan Llanast ayb £54.58 Adnoddau Gwaith Plant Adnoddau Sêr Bach Is-gyfanswm Gweddill yn yr HSBC 31/12/21 £994.92 CYFANSWM |
£323.13 £159.94 £124.59 £607.66 £387.26 £994.92 |
|---|---|---|
Mantolen yr Ofalaeth Caersalem, Calfaria ac Ebeneser
| Derbyniadau Dyledus i’r banc 01.01.2021 Cyfraniad Caersalem Cyfraniad Calfaria Cyfraniad Ebeneser Cyfraniad y Gymanfa Cyfraniad CYS |
Taliadau 1,608.00 Cyfog y Gweinidog 13,758.63 Treuliau 2,967.55 Lwfans Tŷ 1,618.66 Cyfraniad Pensiwn 6,630.00 a manion eraill 6,204.00 yn y banc 31/12/2021 32,786.84 |
23,685 2,404 3,939 952.04 1,806.80 32,786.84 |
|---|---|---|
SUT ARIENIR CRONFA’R WEINIDOGAETH?
Dyma yw y gronfa sy’n cyflogi ein Gweinidog. Mae tair eglwys yn cyfrannu iddi, Caersalem Caernarfon, Calfaria Penygroes ac Ebeneser Llanllyfni.
Yn ogystal â hynny rydym yn derbyn grant blynyddol gan Gymanfa Bedyddwyr Arfon. Am gyfnod buom hefyd yn derbyn grant gan Undeb Bedyddwyr Cymru ond mae y grant hwnnw bellach wedi dod i ben.
Rydym hefyd yn derbyn incwm i’r gronfa gan y Cyngor Ysgolion Sul a hynny gan fod y Gweinidog wedi ei secondio i weithio iddynt am ddiwrnod yr wythnos.
Ar ôl cymryd grant Cymanfa Bedyddwyr Arfon a chyfraniad y Cyngor Ysgolion Sul i ystyriaeth mae y swm sy’n weddill yn cael ei ateb fel y ganlyn yn seiliedig yn fras ar nifer aelodau y dair eglwys:
Caersalem 75%
Calfaria (59% o’r 25% sy’n weddill) Ebeneser (41% o’r 25% sy’n weddill)
Ariannwyd Cronfa’r Weinidogaeth yn 2021 fel a ganlyn*:
| Ariannwyd Cronfa’r Weinidogaeth | yn 202 |
|---|---|
| Cyfraniad Caersalem, Caernarfon | 44% |
| Grant gan Cymanfa Bedyddwyr Arfon | 21% |
| Taliad gan Cyngor Ysgolion Sul | 20% |
| Cyfraniad Calfaria, Penygroes | 10% |
| Cyfraniad Ebeneser, Llanllyfni | 5% |
| *Canranau wedi crynhoi i’r 1% agosaf |
CIERSILEV, Stryd Garnon - Caernarfon www.caersaLem.com