OpenCharities

This text was generated using OCR and may contain errors. Check the original PDF to see the document submitted to the regulator.

2024-02-29-accounts

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNGOR CYMUNED LLANFAIR

2023/2024

– GAIR GAN Y CADEIRYDD Y CYNG. EURIG HUGHES

Mae’n bleser cyflwyno ail adroddiad blynyddol Cyngor Cymuned Llanfair sy’n cofnodi’r gwaith sydd wedi ei gyflawni yn 2023/24 a sut rydym yn gweithio gyda’r gymuned a phartneriaid i wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol y bentref i wneud Llanfair yn le hyd yn oed gwell i fyw ac ymweld â nhw. Y weledigaeth yw i “sicrhau bod y bentref yn parhau i fod yn le braf a chroesawgar i bobl o bob oed fyw oherwydd byddant yn teimlo’n ddiogel, a bydd ganddynt gyfleodd i fod yn iach yn gorfforol ac yn feddyliol ac i gymdeithasu a gweithio mewn amgylchedd o ansawdd. Bydd hefyd yn le sy’n croesawu ymwelwyr ac yn cyd-fyw gyda hwy’n rhwydd.” Bwriad yr adroddiad yw rhoi blas o waith y Cyngor Cymuned yn ystod y flwyddyn a sut mae’r Cyngor yn hyrwyddo bywyd i drigolion o bob oed, perchnogion busnesau, cymdeithasau ac ymwelwyr i’r pentref. Rydym yn cydnabod bod hyn mewn hinsawdd heriol i bawb ac wedi ymrwymo i gyd-weithio gyda’r gymuned a phartneriaid i wireddu’r weledigaeth. Er bod digon o heriau i ni fel Cyngor Cymuned, rydym wedi llwyddo i gyflawni nifer o brosiectau cyffroes. Mae hi yn fraint cael bod yn Gadeirydd y Cyngor Cymuned.

Etholaeth gymharol fach I’w Llanfair gyda tua 350 o etholwyr, nid oes ddim siop na tafarn yn y pentre a nid yw y Cyngor yn gyfrifol am barc chwarae ag felly nid yw gwariant y Cyngor yn fawr.

Aelodaeth

Cyng. Eurig Hughes (Cadeirydd)

Cyng. Russell Sharp (Is-Gadeirydd)

Cyng. Osian Edwards

Cyng. Dylan Hughes – Ymddiswyddo Mehefin 2023

Cyng. Hywel Jones

Cyng. Robert Owen

Cyng. David John Roberts

Cyng. Guy Slater – Cyfethol Hydref 2023

Cyng. Mair Thomas

Mae dau Gynghorydd yn cynrychioli’r ardal ar Gyngor Gwynedd sef y Cyng. Annwen Hughes ar Cyng. Gwynfor Owen.

Yn mis Mehefin fe ymddiswyddodd y Cyng. Dylan Hughes fel Aelod o’r Cyngor ag yn mis Hydref fe groesawyd y Cyng. Guy Slater I’n plith a oedd wedi cael ei gyfethol gan y Cyngor.

Staff

Mae gan y Cyngor un aelod o staff, Annwen Hughes, sy'n Glerc a Swyddog Cyllid. Mae hi'n gweithio'n rhan-amser. Gellir cysylltu â'r Clerc drwy e-bost annwen@btconnect.com, llythyr I Crafnant, Llanbedr, Gwynedd LL45 2PH neu ffonio 01341241613/07919582741.

Cyfarfodydd

Cynhelir cyfarfodydd arferol y Cyngor bob rhyw bump I chwech wythnos ag eithro mis Awst yn y neuadd goffa yn y pentre ar noson sydd yn cael ei chytuno yng nghyfarfod blaenorol y Cyngor.

Safle We

Mae y Cyngor Cymuned ar hyn o bryn yn y broses o ddatblygu gwefan newydd oherwydd ‘roeddynt yn arfer rhannu gwefan hefo Cyngor Cymuned Harlech. Mae rhai dogfennau yn dal ar gael ar wefan newydd Cyngor Cymuned Harlech ond y bwriad ydyw I drosglwyddo pob dim I wefan newydd Cyngor Cymuned Llanfair pan fydd hi wedi cael ei chwblhau. Safle we’r Cyngor ar hyn o bryd: www.cyngorharlech.co.uk

Aelodaeth Allanol

Mae'r Cyngor Cymuned yn aelod o Un Llais Cymru, sef y prif gorff cynrychioliadol ar gyfer Cynghorau Cymuned a Thref yng Nghymru. Mae'r Cyng. Mair Thomas a Robert G. Owen hefyd yn aelodau o bwyllgor y neuadd goffa sydd wedi ei lleoli yn y pentre.

Atebolrwydd

Mae'r Cyngor Cymuned wedi mabwysiadu cod ymddygiad aelodau a chedwir cofrestr o fuddiannau ar gyfer pob aelod. Mae gofyn i'r Cynghorwyr ddatgelu unrhyw fuddiannau sydd ganddynt am eitemau i'w trafod ar gychwyn bob cyfarfod a bydd y rhain yn cael ei nodi yn y cofnodion.

Mae cyfrifon y Cyngor Cymuned yn cael eu harchwilio gan archwilydd mewnol ac allanol yn flynyddol. Mae'r archwiliad mewnol yn cael ei gynnal gan Adran Archwilio Cyngor Gwynedd, a'r Archwiliad Allanol gan Swyddfa Archwilio Cymru.

Cyllid a Gwariant

Mae'r Cyngor Cymuned yn gosod cyllideb yn flynyddol ac yn monitro gwariant yn erbyn y gyllideb drwy gydol y flwyddyn ariannol drwy dderbyn adroddiad rheolaidd gan y Clerc. Prif ffynhonnell incwm y Cyngor Cymuned yw'r praesept sy'n cael ei osod yn flynyddol a'i gyflwyno i Gyngor Gwynedd ym mis Ionawr ar gyfer y flwyddyn ariannol ganlynol. Mae'r praesept yn cael ei gasglu ar ran y Cyngor Cymuned gan Gyngor Gwynedd a dyma'r unig ffynhonnell refeniw treth sydd ar gael i Gynghorau Tref a Chymuned. Mae'r broses o benderfynu ar lefel y praesept yn cynnwys paratoi cyllideb ddrafft ar sail sefyllfa ariannol y Cyngor Cymuned drwy ystyried y costau tebygol, cynlluniau ar gyfer prosiectau, pennu swm ar gyfer cyfraniadau - o fewn y canllawiau a gyhoeddir yn flynyddol - ac unrhyw faterion ariannol eraill. Rhoddir ystyriaeth hefyd i'r gwarchodfeydd a ddelir gan y Cyngor Cymuned i sicrhau bod praesept priodol yn cael ei osod. Cafodd lefel y praesept ei chodi o £16,000 I £17,000 ar gyfer 2023/24. Yn ogystal, derbyniodd y Cyngor Cymuned £1,171.68 o'r Cynllun Parcio 10% gan Gyngor Gwynedd a ymunodd ag ef rai blynyddoedd yn ôl.

Incwm a Gwariant 2023/24
Incwm Gwariant
£ £
Llogau Banc 95.49
Precept
17,000.00
Incwm y Fynwent
2,050.72
Rhent Cwt yr Hers 480.00
Ad-daliad T.A.W
259.80
Ad-daliad am dorri gwair y llwybrau 402.50
Ad-daliad incwm maes parcio 1,171.68
Torri Gwair y Llwybrau 402.50
Torri Gwair y Fynwent
2,030.00
Gwariant yn y Fynwent
970.00
Gwaith ychwanegol yn y Fynwent 180.00
Fainc newydd i’r Fynwent 694.80
Cyflog y Clerc
1,520.00
Costau y Clerc am y flwyddyn
409.75
Treth Cyflog y Clerc
380.00
P.A.Y.E ar lein
216.00
Partneriaeth toiledau 4,000.00
Cyfraniadau 150.00
Cyfraniad i’r neuadd 1,800.00
Cyfraniad i HAL 8,568.00
Archwiliad Mewnol 2022/23
246.00
Archwiliad Allanol 2020/21 355.00
Insiwrans y Cyngor 431.41
Tal aelodaeth Un Llais Cymru
116.00
Tap y Fynwent
22.36
Amrywiol
107.00
Costau Banc 62.80
£21,460.19 £22,661.62

CYLLIDEB

Presept y Cyngor yw £17,000 a mae yn cael ei glustnodi fel a ganlyn:-

Yn cyfranu £4,000 i Gyngor Gwynedd at gadw’r toiledau cyhoeddus yn Llandanwg yn agored drwy’r flwyddyn.

Hefyd wedi cyfrannu £8,568 yn ystod y flwyddyn ariannol hon I Hamdden Harlech ac Ardudwy (HAL) er mwyn cadw y pwll nofio yn agored.

Mae y Cyngor yn gyfrifol am dorri gwair y llwybrau cyhoeddus yn yr ardal beth bynnag ddwy waith y flwyddyn ag hefyd yn gyfrifol am dorri gwair a chynnal y fynwent gyhoeddus yn y pentre. Y gost o wneud y gwaith hwn I gyd yn ystod y flwyddyn ariannol hon oedd £2,612.50.

Yn cyfranu I wahanol fudiadau yn yr ardal yn flynyddol a wedi cyfranu £150 I CFFI Meirionnydd yn ystod y flwyddyn ariannol hon a £1,800 I bwyllgor y Neuadd Goffa yn y pentre.

Yn ystod y flwyddyn mae y Cyngor wedi archebu mainc newydd er mwyn I’w gosod yn y fynwent ar bwriad ydi archebu un arall er mwyn I’w gosod yn maes parcio Y Maes yn Llandanwg. Mae y Cyngor Cymuned hefyd yn y broses o gael wi-fi wedi ei osod yn y Neuadd Goffa.

Gwaith y Cyngor a cyfrifoldebau

Rheoli eiddo

Y Fynwent Gyhoeddus

Y Llwybrau Cyhoeddus

Llochesi Bws yn yr ardal

Seddi Cyhoeddus

Hysbysfyrddau

Gweinyddiaeth

Penodwyd Cyngor Gwynedd fel archwiliwr Mewnol 2023/24

Lwfansau – adolygu dim newid, dim taliadau

Gwefan y Cyngor

Cadw asesiad risg.

Cadw cofnod buddiant

Neuadd Goffa Uanfair Balance Sheet l March 2023 to 29 February 2024 Expenditures Electricity Water Rates Insurance Maintenance Income Hire of Hall Donations Community Council Gift (Capel Bedyddwyr Caersalem) I nterest 2332.00 230.00 1800.00 30000.00 1596.56 145.09 1117.30 3489.70 4.95 Poppy Appeal Bank Char 20.00 75.20 Total 34366.95 Total 6443.85 Balances at 0110312023 Current Account Deposit Account , Balances at 2910212024 Current Account Deposit Account 7893.71 337.12 5813.86 30340.07 42597.78 Total 42597.78 Total Balance of CoFf Account 5 at 3Q10912023 £1901.87 Audited and found to be corrert 1710312024

The accounts for Neuadd Go�a Llanfair were audited and found to be correct.

Iwan Lewis