_“Popeth a wnewch, gwnewch mewn cariad”_

_(I Corinthiaid xvi: 13)_ GGGGGGG

## **EGLWYS Y BEDYDDWYR**

## **RHYDWILYM**

## _Adroddiad Blynyddol am y flwyddyn 2025_

## _Diaconiaid :_

1978 W. Russell Evans Dennis Lewis 1996 Mon Davies 1997 E. Eilir Davies 2008 Katrina Jenkins Beryl John Verina Thomas

_**Corfforwyd 1668**_

## **SWYDDOGION YR EGLWYS**

_Ymddiriedolwyr:_ Dennis Lewis, W. Russell Evans, Leighton Bryan, Emyr John

_Ysgrifennydd:_ Beryl John, Gorlan, Llanycefn (01437 563357)

_Ysgrifennydd Ariannol:_ E. Eilir Davies, Tyˆ-Rhôs, Efailwen (01994 419649)

_Trysorydd:_ Mon Davies, Man Tawel, Llandysilio (01437 563853)

_Organyddion:_ Katrina Jenkins Eilir Davies

_Archwiliwr y Cyfrifon:_ Ian Eynon

-1-

## **ANERCHIAD**

Annwyl gyd-aelodau,

Dyma gyflwyno Adroddiad Rhydwilym am y flwyddyn 2025. Mae’r flwyddyn wedi hedfan gyda’i thristwch a’i hapusrwydd yn rhan o bob aelwyd.

Trist yw cofnodi ein bod wedi ffarwelio yn sydyn iawn gydag un aelod sef Vernon Edwards yn ystod mis Tachwedd. Cofiwn am ei wasanaeth a’i garedigrwydd a chydymdeimlwn gyda’r teulu, hefyd cydymdeimlwn gyda’r aelodau sydd wedi colli anwyliaid yn ystod y flwyddyn.

Cynhaliwyd angladd hollol breifat y ddiweddar Mrs Val John, Heatherholme yn y fynwent yn unig a’r Parchg Eirian Wyn Lewis yn gwasanaethu.

Gwelwyd rhaglen ddiddorol ar S4C ym mis Gorffennaf sef “Y Byd ar Bedwar” yn cynnwys hanes a thrafodaeth am yr anghyfiawnder mawr yn Ffynnon Samson ‘nôl yn 1976. ‘Roedd Griff a Patti Thomas yn aelodau ffyddlon gyda ni yn Rhydwilym. Diolchwn yn fawr i Huw Absalom am gyfrannu.

Ar brynhawn braf o Hydref, rhoddodd Eilir a Russell groeso i aelodau o Gapel Bethel, Y Tymbl. Ar ôl oedfa fer yn y Capel, gwnaethant fwynhau edrych o amgylch y safle a chael dipyn o’r hanes gan Russell. Cawsom rodd o £50 ganddynt.

Wedyn, bu criw bach o bobl o ardal Arberth yn cerdded y cwm ac ymweld â’r Capel o dan ofal Nigel Rossiter, Arberth. Cawsom rodd o £30 ganddynt. Maen nhw yn gobeithio dod eto!

Cyrhaeddodd organ o “Aspire Classical Organs” y Capel – rhodd wrth Mon ac Eilir.

Cynhaliwyd priodas Islwyn a Suzanne ar y 19eg o Orffennaf. Gwasanaethwyd gan y Parchg Peter M. Thomas – dymunwn briodas dda a phob hapusrwydd iddynt.

Claddwyd y diweddar Mr Peter Hopkins a’i wraig Ann (Llangolman ac Amlwch) yn y fynwent ar ôl oedfa fer yn y Capel o dan ofal y Parchg Geoffrey Eynon.

Cynhaliwyd yr Oedfa Ddiolchgarwch yn mis Medi a Miss Natalie Morgan yn gwasanaethu – trosglwyddwyd arian y casgliad tuag at Ysbyty Prince Philip, Llanelli.

-2-

Dymunwn wellhad i’r aelodau sydd yn anhwylus a’r rhai sydd wedi derbyn triniaethau meddygol yn ystod y flwyddyn. Cofiwn hefyd am y rhai hynny sy’n methu bod yn bresennol yn yr oedfaon oherwydd henaint ac afiechyd. Anfonwn ein cofion at Emrys Llewelyn sydd mewn Cartref Gofal yn Hendy-gwyn ar Daf.

Mae’r Capel a’r adeiladau y tu mewn a thu allan yn edrych yn dda ar ôl i’r gwaith adnewyddu orffen ac mae y byrddau gwybodaeth yn fonws ar gyfer ymwelwyr.  Diolchwn yn fawr i Ian Eynon, Huw John ac Ifan Davies (Adeiladwr) am gyflawni’r gwaith mawr yn ddi-ffws yn ystod y gaeaf a’r gwanwyn. Bu’r Parchg Peter M. Thomas yn agor y Capel ar ei newydd wedd ar ôl i’r gwaith adnewyddu orffen. Wedyn, ar nos Sul, 5ed o Hydref cynhaliwyd oedfa Adnewyddu “Tasglu Cristnogol Sir Benfro” (o dan ofal Hefin Wyn).

Diolchwn yn fawr i Brian a Meurig am ofalu am y ddwy fynwent eleni eto. Mae’n bleser gweld y ddwy.

Mae’r gwasanaethau yn mynd ymlaen o fis i fis ac yr ydym yn ffodus i gael gwahanol weinidogion i lanw’r Suliau. Wrth gwrs, ‘rydym mor ddiolchgar i Eurfyl Lewis am drefnu rhain i ni. Mae rhestr yr oedfaon yn ymddangos yn yr Adroddiad hwn, felly bydd pawb yn gwybod y drefn am y flwyddyn.

Awn ymlaen gyda’n gilydd i’r flwyddyn newydd yn ein hanes. Bendith arnoch chi gyd.

Mon Davies (Trysorydd)

-3-

## **RHESTR O’R AELODAU A’U CYFRANIADAU AM 2025**

_Colofnau Ariannol:_ 1—Y Weinidogaeth;   2—U.B.C.; 3—Treuliau;   4—Rhodd Gymorth (m)—Bu farw

|**RHESTR O’R AELODAU A’U CYFRANIADAU AM 2025**
_Colofnau Ariannol:_1—Y Weinidogaeth;   2—U.B.C.;
3—Treuliau;   4—Rhodd Gymorth
(m)—Bu farw|**RHESTR O’R AELODAU A’U CYFRANIADAU AM 2025**
_Colofnau Ariannol:_1—Y Weinidogaeth;   2—U.B.C.;
3—Treuliau;   4—Rhodd Gymorth
(m)—Bu farw|**RHESTR O’R AELODAU A’U CYFRANIADAU AM 2025**
_Colofnau Ariannol:_1—Y Weinidogaeth;   2—U.B.C.;
3—Treuliau;   4—Rhodd Gymorth
(m)—Bu farw||

|1.|2.|3.|4.n|
|£  c.|£  c.|£  c.|£  c.|
|Absalom, Huw, Manor Deilo . . . . . . . . . . .250.00
Bryan, Leighton, Colman House. . . . . . . .100.00|——

|Bryan, Marilyn, eto . . . . . . . . . . . . . . . . . . .50.00|——|——|——|
|Bryan, Sara, eto . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .50.00
Bryan, Siân, eto . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .50.00
Davies, Nesta, Hwlffordd . . . . . . . . . . . . .100.00
Davies, Mon, Man Tawel . . . . . . . . . . . . .150.00
Davies, Elsa, Banc y Felin . . . . . . . . . . . .100.00
Davies, Eilir, Tyˆ-Rhôs . . . . . . . . . . . . . . . .200.00
Davies, Hafwen, Ffynnon Lwyd . . . . . . . . .80.00
Davies, Rhodri, eto. . . . . . . . . . . . . . . . . . .80.00
Davies, Rhys, eto . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .80.00|——

15.00
18.50

18.50

5.00

20.00

|Davies, Meinir, Llanfynydd . . . . . . . . . . . . .50.00
Day, Helen, Leeds . . . . . . . . . . . . . . . . . . .40.00
Edwards, Islwyn, Cefn Mwynant. . . . . . . .150.00
Edwards, Suzanne, eto . . . . . . . . . . . . . .150.00
Edwards, Vernon, Nantgaredig (m) . . . . .250.00
Evans, Russell, Parc y Wern . . . . . . . . . .240.00
Eynon, Ian, Bryn Briallu . . . . . . . . . . . . . .120.00
Hoskins, Nerys, Y Tymbl. . . . . . . . . . . . . . .25.00
Ifan, Gwenallt Llwyd, Tal y Bont . . . . . . . . 110.00
Ifan, Delyth Llwyd, eto . . . . . . . . . . . . . . . 110.00
James, Howell, Tŷ Coch. . . . . . . . . . . . . .100.00
Jenkins, Katrina, Fferm Drefach. . . . . . . .130.00
John, Hafwen, Y Bala. . . . . . . . . . . . . . . .300.00
John, Dyfrig, Bonvilston . . . . . . . . . . . . . .300.00
John, Beryl, Y Gorlan . . . . . . . . . . . . . . . .100.00
John, Geraint, Bloomfeld . . . . . . . . . . . . . .25.00
John, Emyr, Blaenpant . . . . . . . . . . . . . . . .25.00|——

18.50

|Jones, Eluned, Llechwedd . . . . . . . . . . . .200.00|——|——|**|
|Jones, Siân, Penfro . . . . . . . . . . . . . . . . . .80.00
Jones, Steffan eto. . . . . . . . . . . . . . . . . . . .80.00
Jones, Manon, eto . . . . . . . . . . . . . . . . . . .80.00
Llewelyn, Brian, Efail Nantgwyn . . . . . . . . .80.00
Llewelyn, Russell, Tŷ Uchaf . . . . . . . . . . .200.00
Llewelyn, Ann, eto . . . . . . . . . . . . . . . . . .150.00
Llewelyn, Elaine, eto. . . . . . . . . . . . . . . . . .70.00
Llewelyn, Melanie, eto . . . . . . . . . . . . . . . .70.00
Llewelyn, John, Victoria House . . . . . . . . .90.00
Llewelyn, Emrys, Waungron. . . . . . . . . . .100.00|——

-4-

|1.|2.|3.|4.n|

|£  c.|£  c.|£  c.|£  c|
|Lewis, Malgwyn, Neyland. . . . . . . . . . . . . . .——
Lewis, Dennis, Maenclochog . . . . . . . . . .100.00
Lewis, Iwan, Delfryn . . . . . . . . . . . . . . . . .100.00
Lewis, Hedydd, eto. . . . . . . . . . . . . . . . . .100.00
Morris, Ian, Llandysilio . . . . . . . . . . . . . . . .50.00
Morris, Keith, Dŵr Bach . . . . . . . . . . . . . . .50.00
Owen, Pamela, Maenclochog. . . . . . . . . . .60.00
Owen, Meinir, Caerfyrddin . . . . . . . . . . . . .45.00
Phillips, Ann, Penfro . . . . . . . . . . . . . . . . .100.00
Phillips, John, Weybridge . . . . . . . . . . . . .250.00
Phillips, Susan, Blaenffos. . . . . . . . . . . . . .50.00
Rees, David, Ely. . . . . . . . . . . . . . . . . . . .250.00
Rees, Darwel, Arberth . . . . . . . . . . . . . . .100.00
Roberts, Anthea, Hwlffordd. . . . . . . . . . . . .80.00
Rowlands, Morwen, Ynys Môn. . . . . . . . .150.00
Thomas, Ann, Clynderwen . . . . . . . . . . . .100.00
Thomas, Gareth, Brynamlwg . . . . . . . . . .100.00|——

20.00
20.00

25.00
30.00

20.00

|Thomas, Verina, Cilau Ganol . . . . . . . . . .100.00|——|——|**|
|Watchman, Mary, Bethesda . . . . . . . . . . . .50.00
Williams, Gwenda, Pantirion Bach . . . . . . .80.00
Youngman, Ann, Llainfach . . . . . . . . . . . .100.00|——

**[yn dynodi fod yr aelodau yma wedi arwyddo ffurflen rhodd gymorth fel bod y ] capel yn derbyn ad-daliad treth incwm wrth HMRC.  Does dim ffordd I wybod yn gywir faint o ad-adaliad sydd yn ddyledus I unigolion, gan fod yr HMRC ddim yn rhannu’r wybodaeth yma.

## **Bydd y llyfrau yn cau diwedd Rhagfyr 2026. Byddwn yn ddiolchgar iawn i dderbyn eich cyfraniadau cyn hynny, er mwyn hwyluso gwaith paratoi yr Adroddiad Blynyddol.**

## **CYFARFOD DIOLCHGARWCH**

Dydd Sul, 27ain Medi, 2026 am 2.00 o’r gloch – Lyndon Lloyd

-5-

## **CAREDIGION YR ACHOS**

Betty a Billy Smith. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 50.00 Parchedig P. M. a Mrs Thomas . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 200.00 Rhian Mai . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 25.00 Ieuan Davies. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 40.00 Janet Prout . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 90.00 Angharad Booth-Taylor. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 30.00 Rhodd Ymwelwyr: Capel Bethel Y Tymbl . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 50.00 Ramblers Arberth . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 30.00 ––——— **£515.00** ––———

**YSTADEGAETH YR AELODAETH** Rhif yr Aelodau ar 1af Ionawr, 2025 . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 61 Bu farw . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 1 — Rhif yr Aelodau ar 31ain Rhagfyr, 2025 . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 60 —

## **CRONFA’R FYNWENT**

£  c. Mewn llaw ar 1af Ionawr, 2025. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 5,929.09 G. & S. Llewelyn, Pen-y-Cwm . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 220.81 –———— Mewn llaw 31ain Rhagfyr, 2025 . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . **£5,708.28** –————

-6-

## **MANTOLEN GYFFREDINOL YR EGLWYS AM Y FLWYDDYN 2025**

## _Derbyniadau_

£  c. Yr Achos yn Rhydwilym . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 6,730.00 U.B.C.. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .110.50 Treuliau. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 105.00 Casgliadau Rhydd . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 363.50 Caredigion yr Achos . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 515.00 Rhodd Gymorth (i’w dderbyn yn hwyrach) Llog y Banc (COIF). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 2,332.51 Rhent y Waun. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 50.00 Cyfarfod Diolchgarwch . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 135.00 Cymorth Cristnogol. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 57.00 SSE: Rhent Polyn Santander. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 13.52 Claddu Gweddillion. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 500.00 Ffilmio’r Capel gan S4C . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 50.00 Gwerthiant llyfrau Russell. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 30.00 Grant y Loteri . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 20,093.10 Grant adran y celfeddydau (ad-daliad y TAW) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 2,499.40 Grant Cyngor Sir Benfro, Cronfa Eglwysi Cymru . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 5,000.00 –————– **£38,584.53** –————– _Taliadau_ £  c. Talu Gweinidogion . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 975.00 U.B.C.. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 1,302.00 Yswiriant yr Eiddo. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 1,174.23 Trydan . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 1,171.52 Tacluso’r Eiddo . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 3,500.00 Cymanfa Caerfyrddin a Cheredigion . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 62.00 Cymdeithas y Beibl Cymorth Cristnogol. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 150.00 Ysbyty Llanelli. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 135.00 Argraffwyr E L Jones Rhodd i Eisteddfod y Garreg Glas . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 200.00 Tysteb i Bonni Davies. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 25.00 Stampiau a llyfr llofnodi ymwelwyr . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 35.89 Gwaith toi’r Capel a’r Hen Ysgol ayyb . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 36,391.00 ––––——— **£45,121.64** –––—–——

-7-

## **MANTOLEN GYFFREDINOL YR EGLWYS AR Y 31ain RHAGFYR 2025**

## **ASEDAU**

£  c. **Yn y Banc ar 31ain Rhagfyr, 2025:** Cyfrif y “Llog Uwch” (COIF) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 80,000.00 Cyfrif Cyffredinol (Barclays) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 10,340.21 Santander (Shares) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 258.00 Yn ddyledus i’r Trysorfa . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 377.18 ––———— **£90,975.39** ––————

|**Arian wedi ei neilltuo wrth gefn ar 31ain Rhagfyr, 2025:**||

|£  c.|£  c.|
|Arian ni ellir ei wario (llog yn unig) . . . . . . . . . . . . . . . . . . 40,000.00
Wedi derbyn ymlaen llaw am 2026. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .150.00||
|Cronfa arbennig y fynwent . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 5,000.00
Cronfa gyffredinol y fynwent. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 5,708.28||

Cronfa Gyffredinol . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 46,654.22
Yn ddyledus am y fwyddyn . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 6,537.11|50,858.28|
|–————|40,117.11|

||**£90,975.39**|

-8-

## **RHESTR OEDFAON 2026**

||**RHESTR OEDFAON 2026**|

|Chwefror 8fed|Oedfa Gymun 10.30. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . Shan Jones|
|Chwefror 22ain|Brecwast Gŵyl Dewi yng Nghaff Beca|
||yng nghwmni Cleif Harpwood|
|Mawrth 8fed|Angen llenwi|
|Mawrth 22ain|Oedfa am 10.30 . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .Orinda Roberts|
|Ebrill 5ed|Oedfa am 2.00 . . . . . . o dan ofal Delyth, Gwenallt ac Esther|
|(Sul y Pasg)||
|Ebrlll 19eg|Oedfa am 2.00 . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . Tudur Dylan|
|Mai 3ydd|Oedfa Gymun am 2.00. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . Wyn Morris|
|Mai 17eg|Oedfa am 2.00 . . . . . . . . . . . . . . . . . . Parchg Peter Thomas|
|Mai 31ain|Oedfa am 2.00 . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . Alun Lenny|
|Mehefn14eg|Oedfa Gymun am 10.30. . . . . . . . . . . . . . . . . Donna George|
|Mehefn 28ain|Oedfa am 2.00 . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . Eirian Wyn|
|Gorffennaf 12fed|Oedfa Gymun am 2.00. . . . . . . . . . . . . Parchg Judith Morris|
|Gorffennaf 26ain|Oedfa am 2.00 . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .Natalie Morgan|
|Medi 13eg|Oedfa Gymun am 10.30. . . . . . . . . . . . . . . . . . . Shan Jones|
|Medi 27ain|**Oedfa Ddiolchgarwch am 2.00**. . . . . . . . . . . Lyndon Lloyd|
|Hydref 11eg|Oedfa Gymun am 10.30. . . . . . . . . . . . . . . .Catrln I. Thomas|
|Hydref 18fed/25ain|Cymanfa Ganu 10.30|
|Tachwedd 8fed|Oedfa Gymun am 2.00. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . Tom Evans|
|Tachwedd 22aln|Oedfa am 2.00 . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . Hedd Ladd-Lewis|
|Rhagfyr 6ed|Angen llenwi|
|Rhagfyr 20fed|Cwrdd Nadolig aelodau am 10.30|

-9-

## **RHEOLAU’R FYNWENT**

Mewn cyfarfod o’r swyddogion fe wnaed adolygiad o reolau’r fynwent. Islaw mae rhestr o’r rheolau ar eu newydd wedd. Mae yr adolygiad hwn o’r rheolau yn dod â rheolau mynwent Rhydwilym yn unol â rheolau mynwentydd eglwysi eraill yn yr ardal.

1. Ar ochr chwith y fynwent newydd caniateir cerrig pen yn unig, heb gwrbyn.

2. Ar yr ochr chwith hefyd rhaid dilyn ymlaen y safle nesaf at y bedd diwethaf hyd ddiwedd y rhestr.

3. Mae hawl i gadw hyd at ddau le ar ochr bedd newydd. Os byddwch am gadw lle, mae’n bwysig i chwi roi gwybod i Brian Llewelyn, sydd yn gyfrifol am y fynwent yn awr, er mwyn nodi hyn ar gynllun y fynwent, fel bod pawb yn gwybod fod y safle wedi ei gadw.

4. Bydd tâl o £300 am gladdu unrhyw un na fydd yn aelod o’r eglwys.

5. Gofynnir i chwi sicrhau fod y saer maen yn mynd i ffwrdd ag unrhyw sbwriel a ddaw o ailagor bedd neu atgyweirio bedd, yn enwedig y conrid.

6. Gofynnir i bawb yn garedig wrth lanhau beddau **fynd adref ag unrhyw wydr a bagiau plastig a hen dorchau** o’r fynwent, ac nid ei daflu i’r blwch porfa. Rydym wedi cael problem gyda hyn o hyd.

GGGG

-10-

## **DATGANIAD O GYFRIFOLDEBAU’R YMDDIRIEDOLWYR**

Gorchymyn y Ddeddf Elusen i’r Pwyllgor Rheolaeth ddarparu datganiadau ariannol ar gyfer pob blwyddyn ariannol.

Wrth baratoi’r cyfrifon rhaid i’r pwyllgor rheolaeth:

- G ddewis polisïau cyfrifo addas a’u defnyddio’n gyson;

- G ffurfio barn ac amcangyfrifon sy’n rhesymol a doeth;

- G ddatgan a yw’r polisïau a safonau a fabwysiadwyd yn unol â’r

- datganiadau o ymarferion a argymhellwyd a safonau cymwys yn ôl gofynion y Ddeddf Elusen;

- G baratoi datganiadau ariannol ar sail busnes byw os nad yw’n anaddas

- tybio y bydd y sefydliad yn parhau i weithredu.

Mae’r Ymddiriedolwyr yn gyfrifol am gadw adroddiadau cyfrifon priodol sy’n dadlennu gyda chywirdeb rhesymol ar unrhyw adeg, sefyllfa ariannol y sefydliad ac i’w galluogi i gydymffurfio â’r Ddeddf Elusen. Maent hefyd yn gyfrifol am ddiogelu asedion y sefydliad.

## **Adroddiad Archwiliwr i Aelodau Capel y Bedyddwyr, Rhydwilym**

Yr wyf wedi archwilio’r datganiadau ariannol a ddarparwyd dan gonfensiwn hanesyddol a pholisïau cyfrifo a ddisgrifir uchod.

Adroddaf mewn perthynas â’m harchwiliad o gyfrifon yr Ymddiriedolaeth a gwblhawyd o dan adran 145 o Ddeddf 2011 ac wrth ymgymryd â’m harchwiliad, dilynais y Cyfarwyddiadau cymwys a roddwyd gan y Comisiwn Elusennau o dan adran 145(5)(b) o’r Ddeddf.

## **Cyfrifoldebau priodol y pwyllgor rheolaeth a’r archwilwyr.**

Fel y disgrifiwyd uchod mae’r Ymddiriedolwyr yn gyfrifol am baratoi’r datganiadau ariannol.

Fy nghyfrifoldeb i yw ffurfio barn annibynnol wedi ei selio ar fy archwiliad ar y datganiadau hynny a rhoi adroddiad o’m barn i chi.

## **Sail y farn**

Rwyf wedi cwblhau fy archwiliad. Cadarnhaf nad yw unrhyw faterion perthnasol wedi dod i’m sylw mewn perthynas â’r archwiliad sydd yn berthnasol i faint ariannol Mantolen Eglwys Rhydwilym i roi sicrwydd rhesymol fod y datganiadau ariannol yn rhoi’r argraff gywir.

## **Barn**

Yn fy marn mae’r Cyfrifon Ariannol yn rhoi darlun teg a chywir o gyflwr materion ariannol Eglwys Rhydwilym ar 31 Rhagfyr, 2025 ac am y flwyddyn a ddiweddodd.

D. I. J. Eynon (Archwiliwr y Cyfrifon)

-11-

E. L. thJnÈs.AJ)tt*ifi101239 6122511