## **ELUSEN ELIZABETH OWEN (CHARITY OF ELIZABETH OWEN)**

## **ADRODDIAD BLYNYDDOL YR YMDDIRIEDOLWR A CHYFRIFON AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2021**

## **HAROLD SMITH CYFRIFWYR SIARTEDIG LLANELWY A CHRICCIETH**

**Rhif Elusen Cofrestredig 237078 Cofresrwyd gyda Chartrefi Lloegr Rhif A2706**

**ELUSEN ELIZABETH OWEN**

2

## **(CHARITY OF ELIZABETH OWEN)**

Mae'r Ymddiriedolwyr yn cyflwyno ei hadroddiad a datganiadau ariannol o'r flwyddyn gorffenwyd 31 Mawrth 2021. Paratowyd y datganiadau ariannol yn unol ag Arferion Cyfrifo a Dderbyniwyd yn Gyffredinol y DU (UK GAAP) gan gynnwys Safon Adrodd Ariannol 102 (FRS102) a'r SORP Tai 2014: Datganiad o Arfer a Argymhellir ar gyfer Darparwyr Tai Cymdeithasol Cofrestredig a chydymffurfio â Chyfarwyddyd Cyfrifo ar gyfer Darparwyr Cofrestredig Preifat o Dai Cymdeithasol 2015.

## **Cyfeiriadau a Manylion Gweinyddol:**

|Ymddiriedolwr Corfforaethol:|Grŵp Cynefin|

|Rheolwr yr Elusendy|Grŵp Cynefin|
|Ysgrifennydd Cwmni:|Grŵp Cynefin|
||Ty Silyn|
||Ffordd Llanllyfni|
||Penygroes|
||CAERNARFON|
||Gwynedd|
||LL54 6LY|
|Cyfreithwyr:|Hugh James|
||Hodge House|
||114 - 116 Heol Eglwys Fair|
||CAERDYDD|
||CF10 1DY|
|Archwilwyr:|Partneriaeth Harold Smith|
||Cyfrifwyr Siartedig|
||32 Llys Edmund Prys|
||Parc Busnes Llanelwy|
||LLANELWY|
||Sir Ddinbych|
||LL17 0JA|
|Swyddfa Gofrestredig:|Grŵp Cynefin|
||Ty Silyn|
||Ffordd Llanllyfni|
||Penygroes|
||CAERNARFON|
||Gwynedd|
||LL54 6LY|
|Rhif Cofrestredig||
|Comisiwn Elusennau|237078|
|Rhif Cofrestredig||
|Cartrefi Lloegr|A2706|

**ELUSEN ELIZABETH OWEN**

3

**(CHARITY OF ELIZABETH OWEN)**

## **Adroddiad yr Ymddiriedolwr am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2021 (parhad)**

## **Strwythur, Trefn Lywodraethol a Rheolaeth**

Grŵp Cynefin yw'r Ymddiriedolwr (rhif cofrestru Deddf Cymdeithasau Cydweithredol a Budd Cymunedol 2014: 21194R).

Penodwyd y cwmni fel Ymddiriedolwr ym Mawrth 2006

## **Cyfundrefn**

Mae'r Ymddiriedolwr yn gyfrifol am faterion yr elusen.  Mae Bwrdd yr Ymddiriedolwr yn cyfarfod pedair gwaith y flwyddyn ac mae  Pwyllgor Archwilio a Risg yr Ymddiriedolwr yn cyfarfod pedair gwaith y flwyddyn yn ychwanegol.

## **Awdurdod Buddsoddi**

Mae gan yr Ymddiriedolwr awdurdod i wneud unrhyw fuddsoddiadau fel y gwelir sy'n addas.

## **Amcanion a Gweithgareddau**

Mae amcanion elusennol yr elusen fel â ganlyn:-

Darparu tai, llety a chymorth i helpu cartrefu pobl sydd mewn oed neu'n anabl a  darparu cyfleusterau cysylltiedig a amwynderau i'r fath bobl neu ar gyfer rhyddhad yr henoed a'r anabl; ac

I hyrwyddo'r fath amcanion elusennol cyffredinol fel y mae'r Ymddiriedolwr yn ei benderfynu.

## **Gweithgareddau a Pherfformiad**

Cyfanswm y trosiant oedd £27,183 am y flwyddyn yn diweddu  31 Mawrth 2021 (£27,616 am

y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2020), sydd wedi achosi'r elusen i gynhyrchu colled cyn trosglwyddiadau o £17,856 (£13,853 gwarged am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2020).

**ELUSEN ELIZABETH OWEN**

4

## **(CHARITY OF ELIZABETH OWEN)**

## **Adroddiad yr Ymddiriedolwr am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2021 (parhad)**

## **Adolygiad Ariannol**

## **Polisi Cronfeydd**

Mae'r Ymddiriedolwr wedi ystyried yr angen am lefel addas o gronfeydd mewn cysylltiad a chyfarwyddyd  a gyhoeddwyd gan Gomisiwn yr Elusennau.

Pan yn llunio  polisi cronfeydd, mae'r Ymddiriedolwr wedi sefydlu amcanion craidd i'w cyrraedd.  Mae'r rhain fel â ganlyn:

* Sefydlu cronfeydd rhydd digonol  i sicrhau fod gan yr elusen hylifedd digonol i gwrdd ag unrhyw amrywiaeth tymor byr mewn lefelau daliadaeth neu gostau eithriadol nad oedd yn y gyllideb; a

* Sefydlu cronfa benodedig ar gyfer cyllido gwelliannau i'r eiddo presennol

## **Ffynonellau Incwm a Gwariant**

Prif ffynhonnell incwm yw'r tâl a godir i ddarparu y  llety. Mae'r holl wariant ar gyfer darparu'r llety hwn.

**ELUSEN ELIZABETH OWEN**

5

**(CHARITY OF ELIZABETH OWEN)**

## **Adroddiad yr Ymddiriedolwr am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2021 (parhad)**

## **Cyfrifoldebau Ymddiriedolwr mewn perthynas â'r Datganiadau Ariannol**

Mae cyfraith cwmniau a chyfraith elusen yn gofyn i'r Ymddiriedolwr baratoi datganiadau ariannol ar gyfer pob blwyddyn ariannol, sydd yn rhoi adlewyrchiad cywir a theg o gyflwr ariannol yr  elusen ac o'r gwarged neu ddiffyg ar y cyfnod.  Wrth baratoi'r datganiadau ariannol hyn, mae gofyn i'r Ymddiriedolwr.

* ddewis polisiau cyfrifo perthnasol ac yna eu defnyddio yn gyson;

* wneud dyfarniadau ac amcangyfrifon sydd yn rhesymol a gochelgar;

* nodi  os yw safonau cyfrifo cymwys wedi eu dilyn, yn amodol ar wyriadau materol yn cael eu datgelu ac yn cael eu hesbonio  yn y datganiadau ariannol; a

* pharatoi'r datganiadau ariannol ar sail busnes hyfyw oni bai ei bod yn amhriodol i ragdybio bod yr elusen yn mynd i barhau mewn busnes.

Mae'r Ymddiriedolwr hefyd yn gyfrifol am ddiogelu eiddo'r elusen ac i atal a chanfod twyll ac anghysondebau eraill.

## **Datgelu gwybodaeth i'r archwilwyr anibynol**

Mae'r  Ymddiriedolwr yn cadarnhau'r canlynol:

- cyn belled a bod yr Ymddiriedolwr yn ymwybodol, nid oes angen gwybodaeth perthnasol ar yr

- archwilwyr annibynnol i baratoi eu hadroddiad nad ydynt yn gwybod amdano yn barod, a

- mae'r Ymddiriedolwr wedi cymryd yr holl gamau y dylid ei gymryd fel  Ymddiriedolwr er mwyn gwneud

- ei hun yn ymwybodol o'r wybodaeth berthnasol sydd ei angen gan yr archwilwyr anibynnol er mwyn iddynt allu paratoi eu hadroddiad ac i sefydlu fod yr archwilwyr yn ymwybodol o'r wybodaeth yma.

Ar ran Grŵp Cynefin

Yr Ymddiriedolwr

…………………………….................................. Aelod

16 Medi 2021 ................................…Dyddiad

6

## **ADRODDIAD ARCHWILWYR ANNIBYNNOL I YMDDIRIEDOLWR ELUSEN ELIZABETH OWEN**

## **(CHARITY OF ELIZABETH OWEN)**

Yr ydym yn adrodd ar ddatganiadau'r elusen am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2021 sydd yn cynnwys y Cyfrif Incwm a Gwariant, Mantolen a'r nodiadau perthnasol.

## **Cyfrifoldebau Priodol yr Ymddiriedolwr a'r Archwilwyr**

Mae ymddiriedolwr yr elusen yn gyfrifol am baratoi'r cyfrifon.  Mae ymddiriedolwr yr elusen yn ystyried nad oes angen archwiliad cyfrifon am y flwyddyn hon o dan adran 144 o'r Ddeddf Elusennol 2011 ac mai archwiliad annibynnol sydd ei angen.

Ein cyfrifoldeb ni yw:

- archwilio'r cyfrifon o dan adran 145 o'r Ddeddf Elusennol,

- canlyn y drefn sydd wedi ei osod yn y cyfarwyddiadau cyffredinol gan y Comisiwn Elusennol (o dan

- adran 145(5)(b) o'r Ddeddf Elusennol, ac

- i ddatgan os oes unrhyw faterion neilltuol wedi dod i'n sylw.

## **Sail Datganiad Archwilwyr Annibynnol**

Gwnaed ein archwiliad yn unol a'r Cyfarwyddiadau Cyffredinol gan y Comisiwn Elusennol.

Mae archwiliad yn cynnwys adolygiad o gofnodion y cyfrifon sydd wedi eu cadw gan yr elusen a chymhariaeth o'r cyfrifon sydd wedi eu cyflwyno gyda'r cofnodion.  Mae hefyd yn cynnwys ystyriaeth o unrhyw eitemau anghyffredin neu ddatguddiad yn y cyfrifon, ac ymofyn eglurhad gan yr ymddiriedolwr ynglyn a materion cyffelyb. Nid yw'r drefn sydd wedi ei ymgymryd yn darparu'r dystiolaeth gyfan fyddai ei angen mewn archwiliad, ac felly ni roddir barn os ydi'r cyfrifon yn cyflwyno barn 'teg a chywir' ac mae'r datganiad wedi ei gyfyngu i'r materion sydd wedi eu gosod yn y datganiad isod.

## **Datganiad Archwilwyr Annibynnol**

Nid oes mater wedi dod i'n sylw ynglyn a'n archwiliad

- 1 sy'n rhoi achos resymol i ni gredu, mewn unrhyw achos materol, mae'r anghenion:

- i gadw cofnodion cyfrifon yn unol ac adran 130 o'r Ddeddf Elusennol; ac

- i baratoi cyfrifon sydd yn unol a'r cofnodion ac yn cydsynio gyda'r anghenion cyfrifon y Ddeddf Elusennol heb eu cyfarfod; na

- 2 yn ein tyb ni, y dylai sylw gael ei dynnu er mwyn galluogi cyrraedd dealltwriaeth priodol o'r cyfrifon.

............................................... Dyddiad..................................

Simon Murray-Williams Partneriaeth Harold Smith Cyfrifwyr Siartedig 32 Llys Edmund Prys Parc Busnes Llanelwy LLANELWY Sir Ddinbych

**ELUSEN ELIZABETH OWEN (CHARITY OF ELIZABETH OWEN)**

7

## **CYFRIF INCWM A GWARIANT**

|**Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2021**
Nodiadau
**Trosiant**
Costau Gweithredol
**Gwarged Gweithredol**
Llog a  Difidend wedi ei Dderbyn
9
**Gwarged am y flwyddyn cyn Trosglwyddiadau**
Trosglwyddo i Gronfa Benodedig
**Gwarged wedi Trosglwyddiadau**|**2021**
**2020**

27,183
27,616
(45,444)
(41,958)
(18,261)
(14,342)
405
489
(17,856)
(13,853)
17,856
13,853

Mae'r holl symiau yn berthnasol i weithgareddau parhaol Mae'r gwarged uchod yn warged cost hanesyddol Mae holl enillion a cholledion cydnabyddedig wedi cael eu cynnwys yn y datganiad hwn Mae'r datganiad uchod yn adlewyrchu y strwythur a'r sail paratoi fel y cyfeirwyd ato yn Nodyn 1

**ELUSEN ELIZABETH OWEN**

8

## **(CHARITY OF ELIZABETH OWEN)**

## **Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2021**

|**DATGANIAD O WEITHGAREDDAU ARIANNOL**
**Incwm**
Rhent derbyniadwy
Amorteiddio Grant Cyfalaf
**Gwariant**
Costau Rheoli
Ffioedd Cyfrifo
Yswiriant
Costau Banc
Cynnal a Chadw
Costau Amrywiol
Tanysgrifiadau
Trethi
Printio a Postio
Ffioedd Proffesiynol
Foidiau
**Cyfanswm  Gwariant**
**Incwm llai Costau Gweithredol**
**Incwm a Chostau Cyllido**
Llog a Difidend a Dderbyniwyd
**Gwarged/(Colledion) ar Fuddsoddiadau**
Symudiadau Net mewn Cronfeydd
**Cronfeydd**
**Cariwyd ymlaen - 1 Ebrill 2020**
**Cariwyd ymlaen - 31 Mawrth 2021**|**2021**

25,073
2,110
27,183
2,450
980
1,311
69
5,669
0
15
10,937
0
0
24,012
45,443
(18,260)
405
(17,856)
0
109,145
(17,856)
127,001|**2020**

25,506
2,110|

|||27,616
1,750
960
1,267
60
9,618
700
137
6,354
0
1,740
19,372|
|||41,958|
|||(14,342)
489|
|||(13,853)
1,825|
|||(12,028)
139,029|
|||127,001|

**ELUSEN ELIZABETH OWEN (CHARITY OF ELIZABETH OWEN)**

9

## **MANTOLEN AR 31 MAWRTH 2021**

|Notes
**Asedau Sefydlog**
Asedau Diriaethol
2
**Assedau cyffredol**
Buddsoddiadau
3
Dyledwyr
4
Arian parod yn y Banc
**Rhwymedigaethau Cyfredol**
Symiau sy'n ddyledus o fewn blwyddyn
5
**Asedau Cyfredol Net**
**Cyfanswm asedau llai rhwymedigaethau cyfredol**
Grant Tai Cymdeithasol
7
**Cronfeydd wrth Gefn**
Cronfa Wrthbrisio
8
Gwargedion Cronedig
6|**2021**
107,104
107,104
23,864
2,159
81,218
107,241
(8,206)
99,035
206,139
(97,014)
109,125
4,808
104,317
109,125|**2020**
107,104|

|||107,104|
|||23,884
3,225
99,716|
|||126,825
(7,804)|
|||119,021|
|||226,125
(99,124)|
|||127,001|
|||4,828
122,173|
|||127,001|

Mae'e datganiad uchod yn adlewyrchu'r strwythur a'r sail paratoi y cyfeirir ato yn Nodyn 1.

Llofnodwyd ar ran:

………………….....................…. Aelod

…………....................……….. Swyddog

**ELUSEN ELIZABETH OWEN**

10

## **(CHARITY OF ELIZABETH OWEN)**

## **NODIADAU I'R DATGANIADAU ARIANNOL AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2021**

## **1 POLISIAU CYFRIFO**

## **Sylfaen Paratoi Cyfrifon**

Paratowyd y datganiadau ariannol yn unol ag Arferion Cyfrifo a Dderbyniwyd yn Gyffredinol y DU (UK GAAP) gan gynnwys Safon Adrodd Ariannol 102 (FRS102) a'r SORP Tai 2014: Datganiad o Arfer a Argymhellir ar gyfer Darparwyr Tai Cymdeithasol Cofrestredig a chydymffurfio â Chyfarwyddyd Cyfrifo ar gyfer Darparwyr Cofrestredig Preifat o Dai Cymdeithasol 2015.

## **Strwythyr a Gweithgareddau**

Mae gan yr Elusen, sydd wedi ei chofrestru gyda'r Comisiwn Elusennol, gyfansoddiad a mynegiant ymddiriedol dyddiedig 2 Mawrth 1968 (fel y cywirwyd).

Yn ychwanegol, mae'r Ymddiriedolwr yn dal cronfeydd a buddsoddiadau gyda'r bwriad o ddatblygu ymhellach ei amcanion elusennol.

## **Cyfalafu a Defnydd o  Eiddo Sefydlog**

## **Eiddo Tai**

Mae cost yr eiddo ar ôl tynnu cymhorthdal  a gwerth tir dros ben yn cael ei adolygu ar gyfer dibrisio yn flynyddol.  Mae'r Ymddiriedolwr yn ystyried nad oes swm i'w ddibrisio.  Mae'r eiddo yn cael ei adolygu ar gyfer amhariad yn flynyddol ac mae'r Ymddiriedolwr yn ystyried nad oes amhariad.

Pan mae elfenau o'r eiddo yn cael ei adnewyddu, e.e. Cegin, Ystafell Ymolchi, mae'r gost yn cael ei gyfalafu a dibrisio drost amcan bywyd yr elfen.  Os yn faterol, bydd cost gwreiddiol yr elfen yn cael ei ysgrifennu i ffwrdd.

Mae gwariant ar welliannau rhydd-ddaliad i'w cadw yn barhaol yng ngweithgareddau'r Ymddiriedolwr ac yn cael ei gyfalafu a'i ddibrisio pan yn gymwys.

Mae dibrisiant yn cael ei ddarparu ar gostau o'r fath i ddileu y gost llai ar amcangyfrif o'r gwerth dros ben ar sylfaen llinell-syth dros 10 mlynedd.

## **Cymhorthdal  Tai Cymdeithasol**

Cyfrifir am Grantiau Tai Cymdeithasol fel incwm gohiriedig. Cydnabyddir incwm trwy'r datganiad o incwm cynhwysfawr yn gyfartal dros gyfnod o 50 mlynedd.

## **Ffynonellau Incwm**

Mae incwm yn cael ei gyfrifo ar sail tâl anfonebau ar gyfer incwm rhent derbynadwy, rhoddion ac incwm arall.  Mae'n cynnwys casgliadau uniongyrchol o gyfraniadau ar y  tai lleol sydd yn cynwys budd-dâl  a gasglwyd yn uniongyrchol gan yr awdurdod lleol a'r cyfraniadau  personol gan y preswylwyr.

**ELUSEN ELIZABETH OWEN**

11

## **(CHARITY OF ELIZABETH OWEN)**

## **NODIADAU I'R DATGANIADAU ARIANNOL AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2021**

## **1 POLISIAU CYFRIFO (parhad)**

## **Gwariant**

Mae'r holl wariant yn gysylltiedig a'r costau o ddarparu  llety.

## **Buddsoddiadau**

Mae gwerth marchnadol y   buddsoddiadau tymor hir wedi eu cynnwys yn yr asedau cyfredol. Mae'r Ymddiriedolwr yn cynnwys yr holl incwm o fuddsoddiadau a'r holl enillion a cholledion cydnabyddedig yn y Daganiad o Weithgareddau Ariannol.

## **Stoc**

Mae pob pryniant yn cael ei gynnwys  fel gwariant, ac nid oes stoc ar ddiwedd y flwyddyn wedi ei gynnwys yn y fantolen.

## **Cynnal a Chadw**

Nid yw'r Elusen yn darparu ar gyfer gwaith yn y dyfodol ond yn prisio costau gwirioneddol i'r cyfrif incwm a gwariant.  Fodd bynnag mae'r  elusen yn dynodi rhan o'i chronfeydd ar gyfer cynnal a chadw yn y dyfodol.

## **Atgyweirio Anghyffredin**

Mae'r elusen yn darparu ar gyfer atgyweirio anghyffredin fel y mae'n ofynnol gan weithred yr Ymddiriedolwr trwy roi  rhan o'i chronfeydd o'r neilltu  fel dynodiad ar gyfer cynnal a chadw yn y dyfodol.

|**2**
**ASEDAU DIRIAETHOL SEFYDLOG**
**Eiddo**
**Gwelliannau**
**Tai**
**rhydd-ddaliad**

**Cost**
Ar 1 Ebrill 2020
107,104
20,397
Ar 31 Mawrth 2021
107,104
20,397
**Dibrisiant**
Ar 1 Ebrill 2020

20,397
Dibrisiant am y cyfnod

Ar 31 Mawrth 2021

20,397
**Gwerth ar y llyfrau**
Ar 31 Mawrth 2021
107,104

Ar 31 Mawrth 2020
107,104
-|**Cyfanswm**

127,501|

||127,501|
||20,397

||20,397|
||107,104|
||107,104|

**ELUSEN ELIZABETH OWEN**

12

## **(CHARITY OF ELIZABETH OWEN)**

## **NODIADAU I'R DATGANIADAU ARIANNOL AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2021**

|**3  BUDDSODDIADAU**
Yn cael eu dal gan reolwyr awdurdodedig
(Colledion)/Enillion heb eu cyflawni ar Fuddsoddiadau
Gwerth Marchnadol
**4  DYLEDWYR: YN DALADWY O FEWN BLWYDDYN**
Ol-Ddyledion Rhent
Taliadau o flaen llaw
**5  CREDYDWYR: YN DALADWY O FEWN BLWYDDYN**
Credydwyr Masnachol
Croniadau ac Incwm wedi ei ohirio
**6  GWARGED CRONEDIG**
Ar 31 o Fawrth 2021 a 1af o Ebrill 2020
**7 INCWM GRANT A DDIRPRWYWYD**
Ar 1 Ebrill 2020
Amorteiddiant
Ar 31 Mawrth 2021||

**ELUSEN ELIZABETH OWEN**

13

## **(CHARITY OF ELIZABETH OWEN)**

## **NODIADAU I'R DATGANIADAU ARIANNOL AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2021**

|Ar 31 Mawrth 2021
**9  LLOG A DIFIDEND WEDI EI DDERBYN**
Difidend wedi ei dderbyn ar Fuddsoddiadau
Llog arall wedi ei dderbyn
**10  TÂL CYFRIFWYR**
Yn eu cynhwysedd fel Cyfrifwyr
**8  CRONFA AIL-BRISIO**
Ar 1 Ebrill 2020
(Colledion)/Enillion heb eu cyflawni ar Fuddsoddiadau||**2021**

4,808
405

405
900
900
4,828
(20)||**2020**

3,003
1,825|

|||||4,828|
|||||489

|||||489|
|||||900|
|||||900|

## **11  PARTION PERTHNASOL**

Ymddiriedolwr yr elusen ers 9 Mawrth 2006 yw Grŵp Cynefin (rhif cwmni cofrestredig IP21194R)

Mae Grwp Cynefin wedi codi tâl o £2,450 am gostau rheoli ar yr elusen.