OpenCharities

This text was generated using OCR and may contain errors. Check the original PDF to see the document submitted to the regulator.

2023-03-31-accounts

ADRODDIAD Y CADEIRYDD DYDD IAU, MEHEFIN 27ain, 2024 Noswaith dda i chi i gyd a chroeso i gyfarfod blynyddol Neuadd Goffa, Penrhyndeudraeth. Mae'n bleser cael adrodd bod y Neuadd yn brysur dros ben, yn wir yn Ilawer lawn prysurach nag y bu ers rhai blynyddoedd. Mae mwy a mwy o geisiadau yn dod i law li parthed Ilogi yr ystafelloedd yn y Neuadd ac fel canlyniad, mae ein sefyllfa ariannol yn bur Ilewyrchus. Bu derbyn grantiau yn ystod cyfi]od y Covid yn gymorth mawr i ni ac yn ddiweddarach, grantiau gan y National Grid a Rebecca. Oherwydd y prysurdeb yn y Neuadd, penderfynwyd cyflogi person arall i gynorthwyo Chris Williams gyda'r glanhau a gofalu. Mae Chris wrth ei waith ar ddydd Llun ac rnae Des Jones yma ar ddydd Iau. Mae'r trefniant yma i weld yn gweithio yn dda i sicrhau bod y Neuadd mewn cyflwr glan a derbyniol ar gyfer y defnyddwyr o un pen i'r wythnos i'r Ilall. Yn ogystal, anfonwyd Ilythyr ynghyd a rhestr o delerau ac amodau at bawb sy'n gwneud dethydd o'r Ile. Mae'r gwair yn cael ei dorri a'r ffenestri yn cael eu glanhau yn rheolaidd. Mae'r goleuadau, y larymau a'r offer atal tan yn cael eu profi a'r offer tydanol yn cael profion PAT yn flynyddol. Mae'r sefyllfa gadarnhaol yma yn bodoli hefyd oherwydd bod yma bwyllgor rheoli o ymddiriedolwyr gweithgar, ymroddgar a dibynadwy,sy'n rhoi eu hamser yn ddiflino tuag at rediad effeithiol a threfnus y sefydliad a phawb yn gwneud hymiy yn wirfoddol. Diolch amdanynt.

Fel y gwyddoch, mae'r neuadd yn 100 oed y flwyddyn nesaf. Mae'r adeilad yn mynd yn hyn a rhaid sicrhau bod gennym arian wrth gefn i'w chynnal a'i chadw fel ei fod yn ffynnu am flynyddoedd i ddod. Mae'n adnodd gwerthfawr yn y gymuned, gyda Ilawer un yn ei chanmol pan maent yn dod yma am y tro cyntaf. Dyma a wnaed yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i gynnal, cadw ac uwchraddio yr adeilad. Paentio yr ystafell gefn a gosod ffenestri newydd yna. Plastro a phaentio y ddau allanfa dan a phaento y waliau yn y fynedfa i'r ystafell gefn. Carped newydd yn yr ystafell gefn a gorchudd ar lawr y gegin fach. Tynnu yr hen 'boiler"o'r gegin fach gefn. Trwsio yr urinals yn nhoiledau y dynion. Sychwyr dwylo newydd yn y toiledau. Gwresogydd arall yn Ystafell Sbardun. Ffens newydd ar hyd yr ocl]r chwith y tu allan i'r Neuadd. Landeri newydd ar yr adeilad. Goleuadau argyfwng ychwanegol. System sain newydd. Glanhawr carped shark. Teimlaf yn sicr mai gwaith diflino a threfnus yr ymddiriedolwyr sydd yn gyfrifol am fyniant y Neuadd. Mawr yw fy niolch i chi am eich ymroddiad ac am roi cymaint o'ch amser yn wirfoddol i Neuadd Goff Penrhyndeudraeth. Diolch o galon! ! Morwen Pritchard Cadeirydd.

NeuAOD GOFFA PENRHYNDEVDPArThi Cyfrlkn bwdyh dw•ddu 91 Mwth 2023 IPICWM Rhodd￿n Llo81 y n?u14Jd Apel Ukralne ban 4846.81 17485.rxj 28S3.7 150.85 25336.37 Yn v b•n¢:. 0110412022 Cthdol C•dw Sbardun Apel Vkr41n¢ 3447.23 18425AO 4379.(hS 2241.93 28494.02 53830.39 Cyl•n5wm GWARfANr CyAeustod¥u Y5?￿rIant Glanhau Anrhe8lon Cyn Aelod4u Cost Audtt Snowdonla Nr• and Protectlon Arwyddlon Cyftnal a chadw Apel Ukralne Telplo Costau Banc 35CQ.16 1339.68 337.60 105.1)J 224.12 4147.38 5095.63 35.1Kl 186.66 15432.03 Yn y banc 0110412023 Cfftdol Cadw Sbardun 1975.98 30915.64 5506.74 38398.36 53830.39

Adroddiad archwiliwr annibynnol i ymddiriedolwyr yr elusen Neuadd Goffa Penrhyndeudraeth

Rwy'n adrodd i'r ymddiriedolwyr ar fy archwiliad o gyfrifon elusen Neuadd Goffa Penrhyndeudraeth (yr Elusen) ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2023.

Cyfrifoldebau a sail yr adroddiad

Fel ymddiriedolwyr elusennol yr Elusen, rydych chi'n gyfrifol am baratoi'r cyfrifon yn unol â gofynion Deddf Elusennau 2011 ('y Ddeddf').

Rwy'n adrodd mewn perthynas â'm harchwiliad o gyfrifon yr Elusen a gynhaliwyd o dan adran 145 o Ddeddf 2011 ac wrth gynnal fy archwiliad rwyf wedi dilyn yr holl gyfarwyddiadau cymwys a roddwyd gan y Comisiwn Elusennau o dan adran 145 (5) (b) o'r Ddeddf. .

Datganiad yr arholwr annibynnol

Rwyf wedi cwblhau fy arholiad. Rwy'n cadarnhau nad oes unrhyw faterion o bwys wedi dod i'm sylw mewn cysylltiad â'r arholiad sydd yn rhoi achos imi gredu mewn unrhyw ffordd berthnasol:

1) ni chadwyd cofnodion cyfrifyddu mewn perthynas â'r Elusen fel sy'n ofynnol gan adran 130 o'r Ddeddf; neu

2) nid yw cyfrifon yn cydymffurfio â'r cofnodion hynny; neu

3) nid yw'r cyfrifon yn cydymffurfio â'r gofynion cymwys sy'n ymwneud â ffurf a chynnwys cyfrifon a nodir yn Rheoliadau Elusennau (Cyfrifon ac Adroddiadau) 2008 ac eithrio unrhyw ofyniad bod y cyfrifon yn rhoi golwg wir a theg nad yw'n fater sy'n cael ei ystyried fel rhan o arholiad annibynnol.

Nid oes gennyf unrhyw bryderon ac nid wyf wedi dod ar draws unrhyw faterion eraill mewn cysylltiad â'r archwiliad y dylid tynnu sylw ato yn yr adroddiad hwn er mwyn galluogi cyrraedd dealltwriaeth gywir o'r cyfrifon.

Llofnodwyd:

Enw: Maldwyn Jones

Cymhwyster proffesiynol perthnasol: BSc (Anrh) ACIB

Cyfeiriad: Manaros, 3 Holborn, Stryd Fawr, Nefyn, Gwynedd LL53 6HD Dyddiad: 10 Chwefror 2025