## **Neuadd Goffa Penrhyndeudraeth** 

Rhif Cofrestru : 231804 

Cyfeiriad : Meinir Jones, Llwyn Hudol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd  LL48 6AW 

## _**Ymddiriedolwyr**_ 

Diwygiwyd ar nos Iau, Medi 23ain, 2021 yng nghyfarfod blynyddol y Neuadd Goffa. 

1. Robin Williams…cadeirydd 

2. Morris Jones…..is-gadeirydd 

3. MorwenPritchard..ysgrifennydd 

4. Meinir Jones…trysorydd 

5. Nefina Parri 

6. Gwilym Phillips 

7. Medwyn Williams 

8. Ceri Jones 

9. Marian Williams 

10. Meryl Roberts 

11. Carina Roberts 

12. Lynwen Haf Lloyd Evans 

13. Tegwen Parri 

14. Sian Llywelyn 

Wedi ymddiswyddo ar y noson hon: Margaret Roberts Nerys Roberts Elisabeth Roberts Donna Williams Ymddiriedolwyr a adawodd oherwydd marwolaeth, gwaeledd neu am eu bod ddim wedi bod yn mynychu cyfarfodydd: David Bussey Gwenno Roberts Jacqui Thomas Ken Gruffydd 

## _**Strwythur**_ 

Mae yna bwyllgor sydd yn cyfarfod yn fisol a hwy yw’r Ymddiriedolwyr. Mae’r pwyllgor yn cynnwys cynrychiolaeth o’r holl Gymdeithasau sydd ym Mhenrhyndeudraeth. Yn naturiol mae Cadeirydd, Is-gadeirydd, Ysgrifenyddes a Thrysorydd. 

Mae gennym Is Bwyllgorau fel a ganlyn – Is Bwyllgor Cyllid; Is Bwyllgor Cynnal a Chadw; Is Bwyllgor Codi arian; Is Bwyllgor Iechyd a Diogelwch; Is Bwyllgor Defnyddwyr y Neuadd. Pan fydd yr Is Bwyllgorau hyn wedi 



cyfarfod byddant yn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor mawr, ac fe fyddwn yn gwneud penderfyniadau wedyn ar eu hargymellion. 

## _**Amcanion, Gweithgareddau a Budd Cyhoeddus**_ 

Mae adeilad y Neuadd Goffa, Penrhyndeudraeth yn hen adeilad ac yn adeilad pwysig a hanesyddol ym Mhenrhyndeudraeth. Rydym wedi gwario yn helaeth arno i ddod a’r adeilad yn gymwys i’r unfed ganrif ar hugain. Yn ogystal a hyn mae gwaith cynnal a chadw arno, ac fe’r ydym yn sicrhau fod hynny yn cael ei wneud hefyd fel bo’r galw ar angen. Nid oes adeilad o’r maint yma ym Mhenrhyndeudraeth i gynnal pethau. Mae y Neuadd Fawr, i’w llogi neu yr Ystafell gefn sydd yn llai o faint ac Ystafell lai arall. Mae gennym felly amrywiaith o lefydd i’w cynnig i’r gymuned. 

Mae’r Neuadd yn cael ei defnyddio gan amryw o Gymdeithasau. Mae yna ddosbarth Karate wythnosol yn ogystal ag Yoga, Cadw yn Heini, “Slimmimg World” a Zumba. Mae yna amryw yn cynnal Te Parti plant yno. Mae Merched y Wawr a Sefydliad y Merched yn cynnal eu cyfarfodydd misol yno hefyd. Ceir clwb “Bridge” yno yn ogystal a Chlwb Deudraeth (clwb henoed) yn wythnosol. 

Mae’ Ysgol Gynradd leol yn gwneud defnydd helaeth ohonni i gynnal eu Cyngerddau ar wahanol adegau o’r flwyddyn.  Yn fisol mae y Cyngor Tref yn cyfarfod yno hefyd. Mae Capel Efengylwyr Y Fron yn cynnal Clwb Ti a Fi yn wythnosol, a thrwy yr Haf roeddynt yn cynnal eu gwasanaethau yno ar fore Sul gan ddefnyddio yr Ystafelloedd i gyd. Maent yn dal i ddefnyddio y Neuadd ar rai Suliau trwy gydol y flwyddyn. 

Mae amryw byd o Gyngherddau rydym wedi eu trefnu wedi cael eu cynnal yno. Mae Cwmni Teledu wedi bod yno droeon yn ffilimio er enghraifft Cyngerdd olaf Tebot Piws am ddwy noson, Pawb a’i Farn ac aml i beth arall. 

Mae Cwmni Derwen sydd yn goaflu am blant gydag anableddau yn defnyddio y Neuadd yn wythnosol hefyd. 

## _**Adolygiad Ariannol**_ 

Yn y flwyddyn ariannol ddaeth i ben 31 Mawrth 2021 roedd incwm y Neuadd yn £36,731 gyda gwariant o £17,551. Roedd balans y cyfrif banc ar ddiwedd y cyfnod yma yn £34,658. 

Wrth gwrs, bu i’r covid amharu’n sylweddol ar y gweithgareddau arferol a fyddai yn cymeryd lle yn y Neuadd. 



Derbyniwyd grantiau a rhoddion yn ystod y cyfnod o £29,058. 

Fe gofnododd yr archwilidd ariannol nad oedd ganddo unrhyw bryderon ac nad oedd wedi dod ar draws unrhyw faterion eraill mewn cysylltiad â'r archwiliad y dylid tynnu sylw ato. 

Nid oes gan y Neuadd bolisi cronfeydd wrth gefn ffurfiol. 

## _**Ymddiriedolwr Ceidwad**_ 

Ni does gan y Neuadd arian fel ymddiriedolwr ceidwad. 

Arwyddwyd 

Meinir Jones 

Morwen Pritchard 

Trysorydd Ysgrifennydd Dyddiad :  11/10/21 Dyddiad :   11/10/21 





## **Adroddiad archwiliwr annibynnol i ymddiriedolwyr yr elusen Neuadd Goffa Penrhyndeudraeth** 

Rwy'n adrodd i'r ymddiriedolwyr ar fy archwiliad o gyfrifon elusen Neuadd Goffa Penrhyndeudraeth (yr Elusen) ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021. 

## **Cyfrifoldebau a sail yr adroddiad** 

Fel ymddiriedolwyr elusennol yr Elusen, rydych chi'n gyfrifol am baratoi'r cyfrifon yn unol â gofynion Deddf Elusennau 2011 ('y Ddeddf'). 

Rwy'n adrodd mewn perthynas â'm harchwiliad o gyfrifon yr Elusen a gynhaliwyd o dan adran 145 o Ddeddf 2011 ac wrth gynnal fy archwiliad rwyf wedi dilyn yr holl gyfarwyddiadau cymwys a roddwyd gan y Comisiwn Elusennau o dan adran 145 (5) (b) o'r Ddeddf. . 

## **Datganiad yr arholwr annibynnol** 

Rwyf wedi cwblhau fy arholiad. Rwy'n cadarnhau nad oes unrhyw faterion o bwys wedi dod i'm sylw mewn cysylltiad â'r arholiad sydd yn rhoi achos imi gredu mewn unrhyw ffordd berthnasol: 

1) ni chadwyd cofnodion cyfrifyddu mewn perthynas â'r Elusen fel sy'n ofynnol gan adran 130 o'r Ddeddf; neu 

2) nid yw cyfrifon yn cydymffurfio â'r cofnodion hynny; neu 

3) nid yw'r cyfrifon yn cydymffurfio â'r gofynion cymwys sy'n ymwneud â ffurf a chynnwys cyfrifon a nodir yn Rheoliadau Elusennau (Cyfrifon ac Adroddiadau) 2008 ac eithrio unrhyw ofyniad bod y cyfrifon yn rhoi golwg wir a theg nad yw'n fater sy'n cael ei ystyried fel rhan o arholiad annibynnol. 

Nid oes gennyf unrhyw bryderon ac nid wyf wedi dod ar draws unrhyw faterion eraill mewn cysylltiad â'r archwiliad y dylid tynnu sylw ato yn yr adroddiad hwn er mwyn galluogi cyrraedd dealltwriaeth gywir o'r cyfrifon. 




Llofnodwyd: 

Enw: Maldwyn Jones 

Cymhwyster proffesiynol perthnasol:  BSc (Anrh)  ACIB Cyfeiriad: Manaros,  3 Holborn,  Stryd Fawr,  Nefyn,  Gwynedd  LL53 6HD Dyddiad: 19 Mai 2021 


## **Neuadd Penrhyndeudraeth Cyfrifon blwyddyn diweddu 31 Mawrth 21** 

|**INCWM**|||£|£||
|---|---|---|---|---|---|
|Grantiau|||25000.00|||
|Rhoddion|||4058.00|||
|Llogi y neuadd|||2463.00|||
|Llog banc|||6.19|||
|Codi Arian|||451.50|||
|Yswiriant|||4752.57||36731.26|
|Yn y banc|01/04/2020|Cyfredol|1075.91|||
|||Cadw|11126.09|||
|||Sbardun|3277.18||15479.18|
|Cyfanswm|||||52210.44|
|**GWARIANT**||||||
|Cyfeustodau|||2837.06|||
|Yswiriant|||1228.69|||
|Gofalwraig|||2835.80|||
|Ffoedd|||395.00|||
|Cynnal a chadw|||1519.35|||
|CCTV|||804.95|||





|Adeiladau||7830.92||
|---|---|---|---|
|Rhoddion||70.00||
|Print Neuadd||30.00|17551.77|
|Yn y banc 31/03/2021|Cyfredol|1596.64||
||Cadw|29683.49||
||Sbardun|3378.54|34658.67|
||||52210.44|



