





**Y Capel Bach** 


**Mr. Geraint Williams Organydd** 





























**Eglwys Gynulleidfaol BETHESDA Llangennech** 






































**ADRODDIAD Am y flwyddyn 2025** 


































## **CYFRIF CYFREDOL** 

Mewn llaw 1 Ionawr 2025 10,473.34 Holl Dderbyniadau 25,643.59 **£ 36,116.93** Holl Daliadau -     27,890.25 Mewn llaw 31 Rhagfyr 2025 **£    8,226.68** 

## **TRYSORFA CYFFREDINOL YR EGLWYS** 

Cyfrif Cyfredol 8,226.68 Cyfrif ’Nationwide’ 66,002.20 


**£  74,228.88** 

## **Cyfrif ‘Nationwide’** 

Cyfalaf  2025 **£  66,002.20** 

## **Cyfraniadau at gynnal y fynwent** 

Aelodau £ 415.00 Cyngor Cymuned Llangennech £ 100.00 Angladdau £ 425.00 Mrs. Bethan Griffiths £   30.00 Jennifer a Meirion £   10.00 Mr. Dewi Thomas £   50.00 Mrs. Betsan Phillips £   25.00 Christine Rees a Miriam £   30.00 Mr. a Mrs. Dennis Banfield £   20.00 

**£ 1105.00** 

**Y Parchedig LLEWELYN PICTON JONES, B.Sc., M.Ed.** 


**21** 

**1** 



## **ANERCHIAD Y GWEINIDOG** 

## Annwyl Gyfeillion, 

Cyfarchion cynnes i chi gyd ar ddechrau blwyddyn newydd yn hanes Eglwys Bethesda wrth i mi gyflwyno’r adroddiad hwn am y flwyddyn 2025 i’ch sylw caredig. Erbyn i chi ddarllen y geiriau yma fe fydd bron a bod dau ddeg saith mlynedd wedi mynd heibio  ers imi ddechrau fy ngweinidogaeth ym Methesda ar y 1af o Ebrill 1999. Mae wedi bod yn fraint i wasanaethu’r Arglwydd yn eich plith dros y blynyddoedd a ga’i ddiolch i chi gyd am eich cefnogaeth i Marie Lynne a finnau yn ystod y cyfnod yma. 

Mae’r adroddiad hwn yn dangos fod llawer iawn o bobl wedi bod yn ffyddlon yn eu stiwardiaeth Gristnogol ac wedi gwasanaethu’r eglwys gyda theyrngarwch ac ymroddiad. Y mae ein diolch yn fawr iawn unwaith eto i bawb a gyfrannodd at waith yr eglwys mewn gwahanol ffyrdd yn ystod y flwyddyn. Byddai’n amhosibl enwi pawb, ond y mae’n hyfryd gallu tystio fod llawer o ffyddlondeb a theyrngarwch o hyd ac ‘rydym yn arbennig o ddiolchgar i swyddogion yr eglwys am eu harweiniad yn ystod y flwyddyn. Gallwn ni hefyd dystio fel Nehemeia (4:6) - _“Yr oedd gan y bobl galon i weithio”._ 

Testun o lawenydd yw’r cyd-weithio a’r cyd-addoli hapus sydd rhwng Bethesda ag Eglwys Bryn Seion. Mae hyn yn fuddiol i’r ddwy eglwys ac edrychwn ymlaen i barhau ȃ’r trefniant yn y dyfodol eto. 

Diolch i chi gyd am eich ymateb cadarnhaol  eleni eto i _Apêl ‘Operation Christmas Child’, Apêl ‘Cymorth Cristnogol’_ y pentre, ac i ‘ _Banc Bwyd Llanelli’._ Mae cefnogi’r achosion da yma yn parhau i fod yn rhan pwysig o’n gwaith a’n tystiolaeth fel Eglwys Iesu Grist. 

Yn ystod y flwyddyn, hyfrydwch oedd derbyn tri aelod newydd sef Mr Dennis Banfield, Mrs. Marian Banfield a Mrs. Wendy Jones gan hyderu iddynt dderbyn bendith yn ein plith.  Rydym yn llongyfarch ac yn dymuno’n dda i’r aelodau fu’n dathlu penblwyddi arbennig a phenblwyddi priodas arbennig yn ystod y flwyddyn. 

Trist cofnodi inni golli, drwy farwolaeth, dau aelod ffyddlon sef Mrs Meriel Davies a Mrs Nan Jones.  Roedd y cyfeillion hyn yn annwyl iawn yn ein golwg ac fe welwn eu heisiau yn fawr iawn.  Hiraethwn a diolchwn i Dduw amdanynt a gweddïwn ar i Dduw gynnal a nerthu eu teuluoedd  yn eu galar a’u hiraeth. 

## **SULIAU BETHESDA  2026  (Bore am 11.00)** 

Gorffennaf 5 10.30 Wendy Evans -  Bryn Seion Gorffennaf 12 10.30 Sul Sbesial yn Hope-Siloh Gorffennaf 19 Gweinidog Gorffennaf 26 Dai Lloyd Awst 2 Gweinidog (Cymun) (Bryn Seion yn ymuno) Awst 9 Dim Oedfa Awst 16 10.30 Parchg Brian Witt – Bryn Seion Awst 23 Dim Oedfa Awst 30 Dim Oedfa Medi 6 10.30 C.P . Bryn Seion – Dai Lloyd Medi 13 Gweinidog (Cymun) Medi 20 Gweinidog Medi 27 10.30 Parchg Randolph Thomas – Bryn Seion Hydref 4 Gweinidog (Cymun) 6.00 Cymanfa Ganu’r Bont Hydref 11 Gweinidog - Oedfa Diolchgarwch  (B.S. yn ymuno) Hydref 18 Nigel Davies Hydref 25 10.30 Parchg David Jones – Bryn Seion Tachwedd 1 Gweinidog (Cymun) Tachwedd 8 _(Sul y Cofio)_ 10.30 Bryn Seion  - Parchg Randolph Thomas Tachwedd 15 Gweinidog - Oedfa ‘ _Operation Christmas Child_ ’ Tachwedd 22 Gweinidog (Bryn Seion yn ymuno) Tachwedd 29 Gweinidog (Cymun) Rhagfyr 6 Parchg Gerald Jones Rhagfyr 13 3pm Gwasanaeth Nadolig y Ieuenctid (B.S. ymuno) Rhagfyr 20 Gweinidog / Aelodau 

6.00 - Oedfa Golau Cannwyll – Hope-Siloh Rhagfyr 25 _(Y Nadolig)_ 10.00 Gweinidog - Oedfa Gymun Undebol Rhagfyr 27 Dim Oedfa 

**19** 

**2** 



## **SULIAU BETHESDA  2026   (Bore am 11.00)** 

Ionawr 4 10.30 Parchg Ian Sims (Cymun) – Bryn Seion Ionawr 11 Gweinidog (Cymun) (Bryn Seion yn ymuno) Ionawr18 Parchg Gerald Jones Ionawr 25 Gweinidog Chwefror 1 Marie Lynne (Cymun) Chwefror 8 Parchg Dafydd Morris Chwefror 15 Gweinidog Chwefror 22 Parchg Randolph Thomas Mawrth 1 Gweinidog (Gŵyl Dewi/Cymun) – B.S. yn ymuno Mawrth 8 Meic Williams Mawrth 15 10.30 Dafydd Iwan – Bryn Seion Mawrth 22 Parchg Andrew Lenny Mawrth 29 _(Sul y Blodau)_ Gweinidog Ebrill 3 _(Y Groglith)_ 2.30 Bryn Seion – Parchg John Treharne Ebrill 5 _(Y Pasg)_ Gweinidog (Cymun) Ebrill 12 Dai Lloyd Ebrill 19 Gweinidog Ebrill 26 Parchg Gerald Jones (Bryn Seion yn ymuno) Mai 3 Gweinidog (Cymun) Mai 10 Parchg Andrew Lenny - Cyfarfod Pregethu Mai 17 Gweinidog - Oedfa Undebol Cymorth Cristnogol Mai 24 ( _Y Pentecost)_ Gareth Watkins Mai 31 Gweinidog (Cymun) Mehefin 7 Parchg John Gwilym Jones Mehefin 14 Gweinidog Mehefin 21 10.30 Huw Jones – Bryn Seion Mehefin 28 Gweinidog (Cymun) (Bryn Seion yn ymuno) 

Cofiwn hefyd am eraill o’n haelodau sydd wedi colli perthnasau agos yn ystod y flwyddyn a aeth heibio. Boed iddyn nhw hefyd brofi o ddiddanwch Duw. Dymunwn fendith Duw hefyd ar yr aelodau sy’n dioddef o afiechyd, y rhai sy’n gaeth i’w cartrefi, y rhai sy mewn cartrefi preswyl a’r rhai sydd mewn gofid am wahanol resymau. Boed iddynt ganfod Duw yn Dduw hawdd ei gael mewn cyfyngder. 

Parhau i ffynnu mae’r Dosbarth Beiblaidd Undebol yn y Capel Bach sydd yn cwrdd bob yn ail prynhawn Ddydd Mawrth.  Un o uchafbwyntiau’r flwyddyn oedd   y bererindod i Eglwysi hynafol Manordeifi a Clydai a wedi hynny cynhaliwyd oedfa yng Nghapel  hynafol y Bedyddwyr Blaenffos. Edrychwn ymlaen eleni at barhau i fwynhau y gwmniaeth ddifyr, y trafod adeiladol, y ciniawau achlysurol a’r bererindod flynyddol. Beth am ymuno ȃ ni y flwyddyn hon? Cewch groeso cynnes wrth i ni fyfyrio yn y Gair. 

Mae’r adeiladau, yn fewnol ac yn allanol, yn gyson yn galw am sylw a gofal cynnal a chadw. Yn ystod y flwyddyn  gwnaethpwyd gwaith ar y Capel Bach gan  adnewyddu’r ‘porch’  a  hefyd paentio tu allan y Capel. 

Y mae’r difaterwch ysbrydol yn ein cymdeithas ac yn ein gwlad yn galw yn gyson am ein gweddïau di-baid a’n hymroddiad di-sigl. Nodweddion amlycaf pob eglwys fyw yw sicrwydd ei ffydd, cynhesrwydd ei chymdeithas a theyrngarwch a brwydfrydedd ei haelodau.  Ga’i apelio ar bob aelod, os yw iechyd, nerth ac amgylchiadau yn caniatau, i fynychu’r oedfaon yn gyson. 

Diolchwn i Dduw am ein cynnal yn ystod y flwyddyn a aeth heibio ac am ein galluogi i bwyso ar yr adnod yma o’r Salmau: _“Y mae Duw yn noddfa ac yn nerth i ni, yn gymorth parod mewn cyfyngder” (Salm 46:1)._ Diolch i chi’r ffyddloniaid am eich cefnogaeth yn ystod y flwyddyn ac wrth droi ein golygon tua’r dyfodol  gweddïwn am arweiniad Duw i wynebu her ein cyfnod. Boed i’r Ysbryd Glȃn ein harwain i’r dyfodol gydag ymrwymiad a brwdfrydedd. Gadewch i ni gysegru ein hunain o’r newydd i’r Arglwydd Iesu Grist gan weddïo am ei fendith ar ein holl ymdrechion. _“Bydded trugaredd yr Arglwydd arnom_ ; _llwydda waith ein dwylo inni, llwydda waith ein dwylo.”  (Salm 90:17)_ 

_**Llewelyn Picton Jones**_ 

**18** 

**3** 



## **SWYDDOGION YR EGLWYS** 

## **YR EGLWYS AM Y FLWYDDYN 2025** 

**Gweinidog: Y Parchedig Ll. P. JONES, B.Sc., M.Ed. 50 Heol Glanffrwd, Pontarddulais, Abertawe SA4 8QE Ffôn: 01792-882889 Symudol:  07792 823877** 

## **Diaconiaid:** 

_Etholwyd_ Mr. KENNETH JOHN, 3,C1ôs Pendderi 1971 Mr. J. COLIN LEE,  Heol Troserch 1990 Mrs. MARGARET HARRIES, Alltyfran 1999 Mr. DESMOND JONES, Haulfryn 1999 Mr. KEITH THOMAS, Tirgof 1999 PARCH. GERALD JONES,  Parc Morlais 2017 

**Ysgrifenyddes:** Mrs. MARGARET HARRIES, Fferm Alltyfran (Ffôn: 772363) 

**Ysgrifenyddes y Pulpud:** Mrs. MARIE LYNNE JONES 50, Heol Glanffrwd,Pontarddulais (Ffon: (01792-882889) 

**Trysorydd:** Mr. KEITH THOMAS, 66, Tirgof, Llangennech (Ffôn: 821955) 

**Ysgrifennydd Ariannol:** Mr. COLIN LEE, 4A, Heol Troserch, Llangennech (Ffôn: 823719) 

_Cyhoeddwr_ Mr. DESMOND JONES _Organydd_ Mr.GERAINT WILLIAMS 

## **TALIADAU** 

||£   c|
|---|---|
|Cyflog y Gweinidog|9,199.99|
|Treth Incwm|2,300.01|
|Bwrdd Trydan - SSE|630.19|
|Pregethwyr Achlysurol|1,415.00|
|Adeiladau’r Capel<br>|3,725.73|
|Yr Undeb|460.00|
|Olew i’r Capel|788.68|
|Adroddiadau|105.00|
|Anrhegion i’r Ieuenctid  (Nadolig)<br>|70.00|
|Lluniaeth Parti Nadolig<br>|360.00|
|Dŵr Cymru|170.61|
|Yswiriant (Congregational)|5,033.08|
|Organyddion|1,010.00|
|Cyfundeb Dwyrain Caerfyrddin|30.00|
|Trysorfa Gweddwon Gweinidogion<br>|45.00|
|Trin y Fynwent a’r coed|900.00|
|Nwyddau a blodau|92.16|
|Genhadaeth|200.00|
|Cymorth Cristnogol|200.00|
|Samaritan’s Purse - Operation Christmas Child     212.00||
|Banc Bwyd Llanelli|100.00|
|Gwin Cymundeb|14.00|
|Blwyddiaduron<br>|20.00|
|Cymdeithas y Beibl|70.00|
|Tiwnio’r organ a’r piano|638.80|
|Anrheg - Dathlu 30 mlynedd yn y weinidogaeth      100.00||
|Mewn Llaw Rhagfyr 31 2025|8,226.68|
||________|
||**£36,116.93**|



*** Yr wyf wedi archwilio’r llyfrau a’r Cyfrifon ac yn tystio eu  bod yn gywir ac yn cytuno a hwynt. 

_( Diolch i Mr. Allan Fewster am ei gymorth parod)_ 

_Cyfeilyddes_ Mrs.LYNWEN GALLIMORE _Ysgrifennydd y Fynwent_ Mr. GWYNNE DAVIES 

**17** 

**4** 



## **TRYSORFA GYFFREDINOL** 

## **YMDDIRIEDOLWYR** 

|**DERBYNIADAU**||
|---|---|
||£   c|
|Mewn Llaw Ionawr 2025<br>|10,473.34|
|Casgliad Wythnosol<br>|13,317.65|
|Cynllun Rhodd Cymorth (Treth Incwm)|1,800.31|
|Llog ‘Nationwide’|2,331.02|
|Clwb ‘Camcorder’ Llangennech|422.00|
|Genhadaeth -  Aelodau|120.00|
|Apȇl ‘Operation Christmas Child’|167.50|
|Banc Bwyd Llanelli|60.10|
|**Trysorfa’r Fynwent:**||
|Cyfraniadau|580.00|
|Angladdau|425.00|
|Cyngor Cymuned Llangennech|100.00|
|**Rhoddion:**||
|Er cof am Parch. Maurice Loader|100.00|
|Er cof am Parch. E.D.Morgan|100.00|
|Er cof am Mrs. Menna Thomas|120.00|
|Er cof am William a Bessie Grove|100.00|
|Mrs. Jennifer Brain|150.00|
|**Ad-daliad o Gapel  Hope-Siloh**||
|Cyflog y Gweinidog|5,750.00|
||_______|
||**£ 36,116.93**|



Etholwyd 1973 Mr. Kenneth John Etholwyd 2005 Mr.Desmond Jones Mr.Colin Lee Mr.Keith Thomas 

## **AELODAU NEWYDD** 

Dennis Banfield Marian Banfield Wendy Jones **MARWOLAETHAU** Meriel Davies Nan Jones Dydd Sul am 11.00 Oedfa Bore ac Ysgol Sul Dydd Mawrth am 2.00 Dosbarth Beiblaidd 

**16** 

**5** 



## **CYFARWYDDIADAU I’R AELODAU** 

- Gofynnir i  bob  Aelod  ddefnyddio  amlenni plaen i holl gasgliadau’r Eglwys. Mae cyflenwad o amlenni i gael yn y cyntedd. 

- Awgrymir yn garedig i Aelodau a symudant i eglwysi eraill y disgwylir iddynt  cyn  cael ‘Llythyr  aelodaeth’  fod  wedi  gwneud  eu rhan yn rhesymol os yn eu gallu, i gyflawni eu rhwymedigaeth ariannol  at yr Eglwys. 

- Pan  fydd  marwolaeth, dymunir  ar  y perthnasau ymgynghori a’r Gweinidog cyn trefnu amser yr angladd. 

- Awgrymir yn garedig i unrhyw un a wyr am afiechyd ymhlith Aelodau’r Eglwys wneud y peth yn hysbys i’r Gweinidog, neu un o’r diaconiaid fel y gellir ymweld a hwynt heb golli amser. 

- Disgwylir i  bob Aelod gyflawni  ei addewid tuag at holl gasgliadau’r Eglwys  erbyn  y  Sul olaf o’r flwyddyn, er mwyn hwyluso gwaith yr Ysgrifennydd Ariannol ynglyn a’r Adroddiad. 

- Y Fynwent:  Rhaid   ymgynghori a  Ysgrifennydd  y  Fynwent, cyn trefnu  a’r torrwr beddau ynghylch claddedigaeth.  Ni ellir cadw manylion ar  wahan i hynny. 

## **IEUENCTID  Y CAPEL** 

Efa Haf George Ffion Mari George Siwan Haf James Dafydd Harri John Elen Gwenllian John Elin Thomas Catrin Thomas Iwan Thomas 

Rhodri Harries Lois Harries Hannah Harries Hannah Lois Thomas Ifan Elis Thomas Cadi Mai Evans Mali Lloyd Evans 


**TU ALLAN I EGLWYS HYNAFOL MANORDEIFI A SEFYDLWYD YN YR 13eg GANRIF** 


## **CERFLUN O’R SWPER OLAF YM MHULPUD BETHESDA** 

**15** 

**6** 




## **DOSBARTH BEIBLAIDD BETHESDA A HOPE-SILOH** 

## **PWYLLGOR  Y  FYNWENT** 

Ysgrifennydd:  Mr. Gwynne Davies Trysorydd:     Mr. Keith Thomas 

## **RHEOLAU’R FYNWENT** 

- Y mae’r Fynwent o dan reolaeth Pwyllgor Dewisiedig gan yr Eglwys. 

- • Rhaid i’r bedd fod o fewn naw troedfedd a phedair modfedd o hyd , pump troedfedd o led a saith troedfedd o ddyfnder. 

   - Length: 9ft  4in    Width:  5ft     Depth:  7ft 

- Ni chaniateir i’r Cwrbyn fod dros saith troedfedd wrth dair troedfedd. Curb:  7ft  x  3ft 

- Y mae pob bedd  i’w dorri yn unol a’r cynllun a dynwyd allan gan y  Pwyllgor. 

- Y Perchenogion fydd yn gyfrifol am y beddfeini pan ail-agorir bedd. 

- Fe gyll y perchenogion hawl i feddau nas glanheir cyn y gwyliau pregethu Blynyddol. 

- Ymgadwed y rhai a fyddo’n glanhau beddau rhag anurddo beddau eraill. Rhaid iddynt gario’r chwyn i fan penodedig. 


## **PERERINDOD Y DOSBARTH BEIBLAIDD** 

**YMWELD Â CAPEL Y BEDYDDWYR BLAENFFOS** 

- Ni oddefir claddu ar y Sul heb ganiatad y Pwyllgor. 

- Rhaid  cael  caniatad  oddi  wrth Ysgrifennydd y Fynwent cyn gosod beddfaen yn y Fynwent. 

- Ni chaniateir bedd newydd i ddieithriaid. 

- Nid  cyfrifoldeb  y  Pwyllgor,  na’r  Eglwys, yw  gofalu  am wasanaeth Gweinidog nac Organydd mewn angladdau. 

## **************** 

## **RHEOLAU  ARBENNIG** 

## **Telerau Claddu:** 

**Aelodau:** Trysorfa’r Fynwent,  £  50.00 

1. Gwaherddir y  sawl na fyddo’n aelod  rhag ail-agor bedd heb ganiatad ysgrifenedig y perchennog. 

2. Ni agorir beddau o flaen y rhes gyntaf tu-cefn i’r Capel. 3. Ar  ol  gorffen claddu tu-cefn i’r Capel, cleddir ar ochr dde y Capel ar gynllun Claddfa Lawn (Lawn Cemetery). 

4. BEDDFAEN:  Ddim yn fwy na’r mesuriadau canlynol -  42ins x 36ins x 3ins, ac yn cynnwys llestr blodau os dymunir. 

5. Ni chaniateir llestr blodau ar wahan. 

6. Gwneler pob cais am le claddu yn y Fynwent i’r Ysgrifennydd. 

**14** 

**7** 



## **RHESTR O’R AELODAU YNGHYD A’U CYFRANIADAU TUAG AT ACHOSION YR EGLWYS** 

_‘Ond gwneuthur daioni, a chyfrannu nac anghofiwch canys a chyfryw ebyrth y rhyngir bodd Duw.’  -  Hebreaid xiii, 16._ 

Dynoda: **(m)** -rhai a hunodd; **(y.l.)** -Ymadael trwy Lythyr; **(y)** -Ymadael; **(d)** -Derbyniwyd o’r newydd ac o Eglwysi eraill; **(*)** Rhodd Cymorth. Dengys Colofn: (1) Casgliad Wythnosol ;  (2) Y Genhadaeth;  (3)  Y Fynwent 

**DOSBARTH 1 Nant-y-gro, Llwynifan, Allt a  Heol Troserch** Dosbarthwr Mrs. Glenda Davies 

||Casgliad|Genhadaeth|Fynwent|
|---|---|---|---|
|*Glenda Davies|£ 750.00||£  20.00|
|Gareth Davies|£   50.00|||
|*Anne Hughes|£ 375.00|£ 10.00|£  10.00|
|*Colin Lee|£ 437.50||£  10.00|
|Margaret Lee|£ 437.50||£  10.00|
|*Lynwen Williams|£  131.25||£    5.00|
|*Geraint Williams|£  137.50|||
|(**m)***Meriel Davies|£    93.75|||
|Sioned Davies|£   25.00|||
|Iwan Thomas|£ 100.00||£  20.00|




**RHODDION I’R BANC BWYD. CYFRANWYD £100 HEFYD GAN YR AELODAU.** 


**UN O’R GWIRFODDOLWYRENYA -YN DANGOS UN O’R ‘STAFELLOEDD DOSBARTHU YM MANC BWYD MYRTLE HOUSE, LLANELLI** 


**CYFRANIAD HAEL GAN AELODAU A FFRINDIAU BETHESDA** 

**8** 

**13** 




## **GWASANAETH NADOLIG O DAN ARWEINIAD YR IEUENCTID** 


**DOSBARTH 2   Afon Road, Park Lane, Mwrwg Rd., Bank Road,  Tirgof, Heol Pontarddulais a Talyclun** Dosbarthwr Mr.Keith Thomas 

||Casgliad|Genhadaeth|Fynwent|
|---|---|---|---|
||£|||
|Yvonne Jones|£  70.00||£ 10.00|
|*Hugh Thomas|£ 500.00||£   5.00|
|*Keith Thomas|£ 125.00||£   5.00|
|David Moore|£   65.00||£  15.00|
|*Gerwyn Mathews|£ 325.00||£  10.00|
|Maureen Mathews|£ 325.00||£  10.00|
|Parch. Gerald Jones|£ 275.00|£  10.00|£    5.00|
|Mai Jones|£ 275.00|£  10.00|£    5.00|
|*Sian Jones|£ 180.00|||



|**DOSBARTH 3  Staton Road ,**|**DOSBARTH 3  Staton Road ,**|**Heol y Maes**|||
|---|---|---|---|---|
|Dosbarthwr|Mr. Penry Richards||||
|Jean Thomas||£ 100.00|||
|*Penry Richards||£ 150.00|£  10.00|£ 10.00|
|Eleri Phillips||£ 150.00||£ 50.00|
|*Lynwen Gallimore||£ 275.00|||
|Dennis Banfeld||£   60.00|||
|Marian Banfeld||£ 175.00|||



**BOCSYS ‘OPERATION CHRISTMAS CHILD’ WRTH YR AELODAU. RHODDWYD CYFRANIAD ARIANNOL HEFYD O £212.00** 

**9** 

**12** 



**DOSBARTH 4 Bridge Street** Dosbarthwr Mr. Keith Thomas 

||Casgliad|Genhadaeth|Fynwent|
|---|---|---|---|
|Sandra Davies|£ 120.00|||
|Rhian  Phillips|£  40.00|||
|Melanie Jenkins|£ 100.00||£    5.00|



**DOSBARTH 5 Hendre Road, Plas Isaf, Talywern,  Hendre Park** 

|Aldwyn Beasley||
|---|---|
|Gwendoline Davies|£ 110.00|
|Mari Rees|£ 200.00|
|*Moira Roberts|£ 275.00|
|Wendy Jones|£  32.00|



**DOSBARTH 6 Brynhyfryd, Pencoed,  Cleviston Park, Penllwyngwyn-** Dosbarthwr Mrs. Pamela Richards 

||Casgliad|Genhadaeth|Fynwent|
|---|---|---|---|
|Rhian George|£   50.00|||
|Paul Edwards|£   50.00||£  20.00|
|Alun Richards|£ 200.00||£  10.00|
|Pamela Richards|£ 200.00||£  10.00|
|Menna Hughes|£ 112.00|£  5.00|£  10.00|
|Richard Hughes|£   20.00|||
|*Gwynne Davies|£ 425.00||£  10.00|
|*Meriel Davies|£ 425.00||£  10.00|
|Ashley Davies|£   50.00|||
|**(m)***Nan Jones||||
|*Desmond Jones|£ 562.50||£  15.00|
|Rita Jones|£ 562.50||£  15.00|
|Goronwy Davies|£ 400.00|||
|Monica Davies|£ 400.00|||



## **DOSBARTH 7     Ardal o amgylch Llangennech** Dosbarthwr     Mr. Ken John 

||Casgliad|Genhadaeth|Fynwent|
|---|---|---|---|
|*Kenneth John|£ 500.00|£ 20.00|£  20.00|
|Dinah John|£ 500.00|£ 20.00|£  20.00|
|*Hefn John|£  50.00|||
|Brian Morris|£ 150.00|||
|Wynne Harries|£ 250.00|£  5.00|£   5.00|
|Margaret Harries|£ 250.00|£  5.00|£   5.00|
|Cerith Harries|£  10.00|||
|Ian Harries|£ 100.00|||
|Eiddwen Harries|£ 100.00|||
|Eiddan Harries|£  25.00|||
|Owain Harries|£  25.00|||
|Kenneth Harries|£ 120.00|||
|Margaret Harries|£ 120.00|||
|Emyr Harries|£  10.00|||
|Aled Harries|£  10.00|||
|Iwan Harries|£  10.00|||
|*Jefrey White|£ 675.00|£ 25.00||
|Monica Jenkins|£ 100.00||£   10.00|
|Bethan Lewis|£ 110.00|||
|Emyr Lewis||||
|*Ryan Lee|£ 125.00|||
|*Parch.Ll.P.Jones|£ 787.50||£   20.00|
|Hilda Phillips|£ 120.00||£   30.00|
|Elaine Ley|£ 410.00|||
|Veronica Davies|£ 390.00|||
|Rhoddion:||||
|*Lyn a Heulwen Hunt|£125.00|||
|*Ellis a Janet Thomas|£212.50|||
|Avril Evans|£ 25.00|||



**10** 

**11** 

