Rhif yr Elusen : 1201909

## **Ffynnon, Llandysul**

## **Sefydliad Elusennol Corfforedig (CIO)**

Rhif yr Elusen: 1201909

**Adroddiad yr Ymddiriedolwyr a Datganiadau Ariannol** Ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 31 Awst 2025

**Ffynnon, Llandysul** ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 31 Awst 2025

Rhif yr Elusen: 1201909

|Cynnwys||

||Tudalen|
|Gwybodaeth gyfreithiol a gweinyddol|2|
|Adroddiad yr Ymddiriedolwyr|3 - 4|
|Adroddiad yr Archwiliwr Annibynnol|5|
|Datganiad o Weithgaredd Ariannol|6|
|Datganiad o’r Sefyllfa Ariannol|7|
|Nodiadau ar y datganiadau ariannol|8 – 9|
|Atodiad 1 (Mantolen Ariannol)|10|

Tud 1

**Ffynnon, Llandysul** ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 31 Awst 2025

Rhif yr Elusen: 1201909

Gwybodaeth Gyfreithiol a Gweinyddol Enw’r Sefydliad:  Ffynnon, Llandysul Cofrestrif yr Elusen:  1201909

Cyfeiriad: Llechryd Sunny Hill Llandysul Ceredigion SA44 4DT Ymddiriedolwyr: Mr Steffan Morris (hyd at Mehefin 2025) Mr Timothy Evans Mr Kristian Davies Parch Meirion Morris Mrs Lois Franks Mr Gwilym Jeffs Mrs Gwenno Morris

Archwilydd Annibynnol: Mrs Sandra Richards-Davies Bancwyr: Lloyds Bank 25, Gresham St Llundain

Tud 2

**Ffynnon, Llandysul** ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 31 Awst 2025

Rhif yr Elusen: 1201909

## **Adroddiad yr Ymddiriedolwyr**

Mae’r Ymddiriedolwyr yn cyflwyno eu hadroddiad a’r datganiadau ariannol am y flwyddyn yn diweddu 31 Awst 2025. Yr Ymddiriedolwyr a wasanaethodd yn ystod y cyfnod yw’r rhai a restrir ar dudalen 1.

Mae’r Ymddiriedolwyr yn cyfarfod i sicrhau gweithgaredd elusennol Ffynnon, Llandysul, ac yn caniatau i’r Tîm Arwain weinyddu a threfnu’r gweithgarwch o ddydd i ddydd.

## **Strwythur, Llywodraethiad a Rheolaeth**

Mae’r Elusen yn cael ei rheoli gan yr Ymddiriedolwyr, gyda’r gweithgarwch dyddiol yn digwydd o dan gyfarwyddyd y Tîm Arwain. Etholir yr Ymddiriedolwyr yn unol à’r Cyfansoddiad, a bydd yr Ymddiriedolwyr yn ymrwymo i Gyffes Ffydd a Datganiad Ethos Ffynnon, Llandysul.

## **Dogfen Lywodraethol**

Llywodraethir yr elusen gan ei chyfansoddiad.

## **Nodau ac amcanion**

## **Adolygiad Ariannol**

Yn dilyn cynnal gweithgareddau’r flwyddyn mae’r Ymddiriedolwyr yn nodi fod yna warged o £2,221.32 (2023-2024 - £1,321.21), gydag elw ar y flwyddyn o £900.11 (2023-24) – (-£14,035.64). Bwriad yr Ymddiriedolwyr yw fod y gynulleidfa yn cyllido ein gweithgarwch o ddydd i ddydd.

Tud 3

**Ffynnon, Llandysul** ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 31 Awst 2025

Rhif yr Elusen: 1201909

## **Polisi arian wrth gefn**

Ar hyn o bryd, mae’r Ymddiriedolwyr yn cytuno y dylai £1,000 fod yn ein cyfrif fel arian wrth gefn. Bydd yr Ymddiriedolwyr yn adolygu’r penderfyniad hwn o flwyddyn i flwyddyn.

## **Datganiad o gyfrifoldebau’r ymddiriedolwyr**

Mae’r Ymddiriedolwyr yn gyfrifol am baratoi’r adroddiad blynyddol a’r datganiadau ariannol a hynny yn unol â unrhyw gyfraith berthnasol ac Ymarfer Cyfrifo Derbyniol y Deyrnas Unedig.

Mae’r gyfraith sy’n berthnasol i elusennau yng Nghymru a Lloegr yn mynnu fod yr ymddiriedolwyr yn paratoi datganiadau ariannol ar gyfer pob blwyddyn ariannol sy’n rhoi darlun cywir a theg o weithgaredd ariannol yr elusen a’i sefyllfa ariannol ar ddiwedd y flwyddyn. Wrth baratoi’r datganiadau ariannol, rhaid i’r ymddiriedolwyr:

- Ddewis polisïau cyfrifo priodol a’u cymhwyso’n gyson

- Dod i farn a chyflwyno amcangyfrifon sy’n rhesymol a gofalus; a

- Paratoi’r datganiadau ariannol ar sail busnes gweithredol os nad yw’n amhriodol i ragdybio y bydd yr elusen yn parhau i weithredu.

Mae’r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am gadw cofnodion cyfrifo cywir sy’n datgelu gyda chywirdeb rhesymol ar unrhyw amser sefyllfa gyllidol yr elusen, gan ganiatáu iddynt sicrhau fod y datganiadau ariannol yn cydymffurfio â gofyn y Ddeddf Elusennol 2011. Mae’r ymddiriedolwyr hefyd yn gyfrifol am ddiogelu asedau’r elusen, ac o ganlyniad, am gymryd camau rhesymol i ddiogelu rhag, ac i adnabod twyll ac unrhyw afreoleidddra arall.

Mae’r ymddiriedolwyr yn datgan eu bod wedi cymeradwyo adroddiad yr ymddiriedolwyr uchod.

Ar ran corff yr Ymddiriedolwyr

Tud 4

**Ffynnon, Llandysul** ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 31 Awst 2025

Rhif yr Elusen: 1201909

## **ADRODDIAD YR ARCHWILIWR ANNIBYNNOL I’R YMDDIRIEDOLWYR**

## **Rhif yr Elusen:** 1201909

**Cyfnod Ariannol:** 1 Medi 2024 i 31 Awst 2025

Yr wyf yn adrodd i Ymddiriedolwyr yr elusen ar fy archwiliad o gyfrifon y CIO ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 31 Awst 2025, sy’n cael eu gosod allan ar dudalennau 6-10.

## **Cyfrifoldebau a sail yr adroddiad**

Fel ymddiriedolwyr yr elusen, yr ydych yn gyfrifol am baratoi’r cyfrifon yn unol â gofynion Deddf Elusennol 2011. (“y Ddeddf”).

Yr wyf yn adrodd ar sail fy archwiliad o gyfrifon y CIO a wnaed o dan adran 145 o’r Ddeddf, ac wrth gynnal fy archwiliad yr wyf wedi dilyn y Cyfarwyddiadau perthnasol a nodir gan y Comisiwn Elusennau o dan adran 145(5)(b) o’r Ddeddf.

## **Datganiad yr archwiliwr annibynnol**

Yr wyf wedi cwblhau fy archwiliad. Yr wyf yn cadarnhau nad oes unrhyw faterion perthnasol wedi dod i’m sylw o ran fy archwiliad sy’n fy arwain i gredu mewn unrhyw fater perthnasol:

1. nad yw cofnodion cyfrifo'r CIO heb eu cadw fel y mae gofyn i wneud o dan adran 130 o’r Ddeddf; neu 2. fod y cyfrifon ddim yn cyd-fynd â’r cofnodion rheiny; neu

3. fod y cyfrifon heb gydymffurfio â’r gofynion perthnasol mewn perthynas â ffurf a chynnwys cyfrifon fel y gosodir hyn allan yn Rheoliadau Elusennau (Cyfrifon ac Adroddiadau) 2008 ar wahân i’r gofyn fod y cyfrifon yn rhoi darlun ‘gwir a theg’ sy’n fater nad ystyriwyd fel rhan o archwiliad annibynnol.

Nid oes gennyf unrhyw ofidiau, ac nid wyf wedi dod ar draws unrhyw fater arall mewn perthynas â’r archwiliad sy’n gofyn imi dynnu sylw ato yn yr adroddiad hwn er mwyn fy ngalluogi i ddod i ddealltwriaeth briodol o’r cyfrifon.

Tud 5

**Ffynnon, Llandysul** ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 31 Awst 2025

Rhif yr Elusen: 1201909

## FFYNNON, LLANDYSUL

DATGANIAD O WEITHGAREDD ARIANNOL CYFNOD YN DIWEDDU 31 AWST 2025

|Nodiadau
**Incwm**
Cyfraniadau
3
Gweithgaredd
4
**Cyfanswm Incwm**
**Gwariant ar:**
Costau Gwasanaethau
5
Adnoddau
6
Gwaith cymunedol
7
Rhent
6
Cenhadon
8
**Cyfanswm Gwariant**
**Incwm  / (Gwariant) net**
**Ychwanegu Arian Hwyr**
9
**Llai Arian yn ddyledus i'r Cenhadon**
10
**Arian yn weddill Awst 2024**
**Cyfanswm cronfeydd ddygwyd ymlaen**|31/08/2025
Cyfanswm
£38,574.85
£16,838.25
£55,413.10
£9,950.63
£9,204.93
£16,416.85
£8,783.84
£3,687.74
£48,043.99
£7,369.11
£5,560.45
£12,029.45
£1,321.21
£2,221.32|31/08/2024
Cyfanswm
£22,063.17
£8,159.00|31/08/2024
Cyfanswm
£22,063.17
£8,159.00|

||||£30,222.17|
|||£9,366.75
£5,547.63
£23,569.50
£5,773.93
£0.00
£44,257.81
(-£14,035.64)
£1,321.21||

Tud 6

**Ffynnon, Llandysul** ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 31 Awst 2025

Rhif yr Elusen: 1201909

|**DATGANIAD O'R SEFYLLFA**
**ARIANNOL AR 31 AWST**
**2025**
**Nodyn**
**Asedau Cyfredol**
**Arian yn y banc**
**Dyledwyr - swm yn**
**ddyledus o fewn**
**blwyddyn**
**9**
**Credydwyr - swm yn**
**ddyledus o fewn**
**blwyddyn**
**10**
**Asedau Cyfredol Net**
**Cyfanswm Cronfeydd**|**2025**
£8,690.32
£8,690.32
£5,560.45
£12,029.45|**2025**
£2,221.32
£2,221.32|**2024**
£1,321.21
£1,321.21
£0.00
£0.00|**2024**
£1,321.21
£1,321.21|

Tud 7

**Ffynnon, Llandysul** ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 31 Awst 2025

Rhif yr Elusen: 1201909

## **Nodiadau ar y Datganiadau Ariannol**

Ar gyfer y flwyddyn yn gorffen 31 Awst 2025

## **1. Sail Paratoi**

## 1.1. Sail Cyfrifyddu

Mae'r cyfriflenni ariannol yn cael eu paratoi o dan y confensiwn cost hanesyddol ac yn unol â'r Datganiad o Ymarfer a Argymhellir i Gyfrifo, ac Adrodd gan Elusennau: Datganiad o Ymarfer Argymhellir (SORP FRS102), â'r Ddeddf Elusennau.

## 1.2. Newid yn Sail Cyfrifo

Ni fu unrhyw newid yn y polisïau cyfrifyddu (rheolau a ffurf o gyfrifo) ers y flwyddyn ddiwethaf.

## 1.3. Newid i Gyfrifon blaenorol

Ni waned unrhyw newidiadau i gyfrifon o flynyddoedd blaenorol.

## **2. Polisïau Cyfrifyddu**

Mae'r prif bolisïau cyfrifyddu wedi'u crynhoi isod. Mae'r polisïau cyfrifyddu wedi cael eu cymhwyso'n gyson trwy gydol y flwyddyn.

## 2.1 Adnoddau sy'n dod i mewn

Mae'r holl adnoddau sy'n dod i mewn yn cael eu cynnwys yn y datganiad o weithgareddau ariannol pan fydd gan yr elusen hawl i'r incwm a gellir meintioli'r swm gyda chywirdeb rhesymol. Mae'r polisïau penodol canlynol yn cael eu cymhwyso i gategorïau penodol o incwm:

Derbynnir incwm gwirfoddol drwy roddion ac fe'i cynhwysir yn llawn yn y Datganiad o Weithgareddau Ariannol pan fo wedi ei dderbyn. Nid yw gwerth y gwasanaethau a ddarperir gan wirfoddolwyr wedi'i gynnwys.

## 2.2 Adnoddau a wariwyd

Mae gwariant yn cael ei gydnabod ar sail croniad pan fo rhwymedigaeth yn dod yn ddyledus. Mae gwariant yn cynnwys unrhyw DAW na ellir ei adennill yn llawn, ac fe'i hadroddir fel rhan o'r gwariant y mae'n ymwneud ag ef.

Mae adnoddau a wariwyd yn cael eu cydnabod yn y flwyddyn y maent yn cdod yn ddyledus.

Costau cymorth yw'r costau hynny a werir yn uniongyrchol i gefnogi gwariant ar amcanion yr elusen.

Tud 8

**Ffynnon, Llandysul** ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 31 Awst 2025

Rhif yr Elusen: 1201909

## 3

|**Incwm Cyfraniadau**
Rhoddion uniongyrchol
£13,227.95
Rhoddion drwy Stewardship/Gocardless
£17,591.27
Rhodd Cymorth (2022-2024)
£7,755.63
4
**Incwm Gweithgaredd**
Digwyddiadau
£3,743.25
Grantiau
£13,095.00
5
GWARIANT – Costau Gwasanaethau
Nwy, Trydan, Dwr
£5,480.11
Rhyngrwyd
£918.72
Cynnal a Cadw / Glanhau / Larymau
£3,551.80
6
GWARIANT - Adnoddau
Adnoddau cynulleidfa a Rhent
£9,673.05
Ffioedd gwefannau / rhwydweithiau ayyb
£3,257.22
Clybiau, Caffi, (bwyd, ayyb)
£4,523.79
Hyfforddiant a Profiad Bugeiliol
£534.71
7
GWARIANT – Gwaith Cymunedol
Arian at gydnabyddiaeth Rhys
£12,500.00
Arian at ymestyn allan
£2,886.85
Costau Plethu
£180.00
Cenhadon newydd
Pregethwyr
£850.00
8
Cenhadon newydd
£3,687.74
9
Arian Hwyr
Llanw (Casgliad Cenhadon)
£619.00
CThEF (2024-25)
£4,711.45
Church Suite (Cenhadon)
£230.00
10
Arian Cenhadon
£14,375.21
Llai biliau
£2,345.76|£38,574.85
£16,838.25
£9,950.63
£17,988.77
£16,416.85
£3,687.74
£5,560.45
£12,029.45|£55,413.10
£48,043.99
£5,560.45
£12,029.45|

Nid yw gwerth ariannol amser gwirfoddolwyr wedi ei gynnwys yn y datganiadau ariannol ond maent yn rhan allweddol o lwyddiant y sefydliad.

## **Treuliau’r Ymddiriedolwyr**

Ni dderbyniodd yr un ymddiriedolwyr rodd na thaliad yn ystod y flwyddyn hon na’r flwyddyn flaenorol.

## **Gwariant Cyflogai**

Nid oedd unrhyw gyflogai gan y sefydliad y flwyddyn flaenorol, ac un cyflogai yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol. Mae’r gyflogres yn cael ei gweinyddu gan Stewardship UK.

Tud 9

**Ffynnon, Llandysul** ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 31 Awst 2025

Rhif yr Elusen: 1201909

Nid oes yr un cyflogai yn derbyn dros £60,000 o gydnabyddiaeth.

## **Datgeliadau Pellach**

Nid oes datgeliadau pellach am eleni.

## ATODIAD 1

## **Ffynnon, Llandysul**

## **Mantolen Ariannol am y flwyddyn 1/9/2024 - 31/8/2025**

|**Incwm**
Rhoddion uniongyrchol
Rhoddion drwy Stewardship/Gocardless
Digwyddiadau
Grantiau
Rhodd Cymorth (2022-2024)
Arian hwyr
Llanw (Casgliad Cenhadon)
Rhodd Cymorth (2024-25)
Church Suite (Cenhadon)
Cyfanswm Incwm
Gweddill 2023-24
Gweddill 2024- 25|£13,227.95
£17,591.27
£3,743.25
£13,095.00
£7,755.63
£619.00
£4,711.45
£230.00
£1,321.21|**Gwariant**
Nwy, Trydan, Dwr
£5,480.11
Les Ffynnon
£8,783.84
Rhyngrwyd
£918.72
Cynnal a Cadw / Glanhau / Larymau
£3,551.80
£55,413.10
Adnoddau cynnulleidfa a Rhent
£889.21
Ffioedd gwefannau / rhwydweithiau ayyb
£3,257.22
Clybiau, Caffi, (bwyd, ayyb)
£4,523.79
Hyfforddiant a Profiad Bugeiliol
£534.71
Arian at gydnabyddiaeth Rhys
£12,500.00
£5,560.45
Arian at ymestyn allan
£2,886.85
Costau Plethu
£180.00
Pregethwyr
£850.00
£60,973.55
Cenhadon newydd
£3,687.74
Cyfanswm Gwariant
£62,294.76
Yn ddyledus i gyfrif Cenhadon
£12,029.45
£2,221.32|£48,043.99|

||||£60,073.44|

Tud 10