## **Cylch Meithrin Bontnewydd** 

**Adroddiad a Datganiad Ariannol Blynyddol Anarchwiliedig** 

**01-04-2024 – 31-03-2025** 

**Rhif Cofrestredig Elusennol: 1200644** 



## **Cylch Meithrin Bontnewydd** 

## **Swyddfa Gofrestredig:** 

Cylch Meithrin Bontnewydd, Y Ganolfan, Bontnewydd, Caernarfon, Gwynedd, LL55 2UF 

## **Manylion cyswllt ac aelodau’r pwyllgor:** 

|**Swyddogaeth**|**Enw**|
|---|---|
|Arweinydd|Donna Owen|
|Person Cofrestredig|Carol Williams|
|Cadeirydd|Rhodri Jones|
|Ysgrifennydd|Lowri Thomas|
|Trysorydd|Lois Hughes|



1 



## **Cylch Meithrin Bontnewydd** 

Dymuna’r pwyllgor gyflwyno eu hadroddiad a datganiad ariannol yr elusen am y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2025 

## **Nod ac Amcanion:** 

Prif amcan Cylch Meithrin Bontnewydd yw rhoi addysg cyn-ysgol i blant rhwng 2½ a 4 oed ym Mhentref Bontnewydd a’r cyffiniau er mwyn rhoi cyfle i blant ifanc fanteisio ar wasanaeth a phrofiadau blynyddoedd cynnar drwy gyfrwng y Gymraeg, yn unol ag athroniaeth Mudiad Ysgolion Meithrin a safonau gofynnol cenedlaethol ar gyfer sesiynau dyddiol. 

## **Cylch Meithrin:** 

Grŵp sesiynol yw’r cylch meithrin, yn darparu gofal ac addysg blynyddoedd cynnar o’r ansawdd uchaf i blant o 2½ oed hyd at oed ysgol. 

Mae’r cylch yn cynllunio a darparu ystod o weithgareddau a phrofiadau o fewn Fframwaith y Cyfnod Sylfaen 3-7 oed, sef y Cwricwlwm ar gyfer plant ifanc yng Nghymru.  Bydd y plant yn dysgu trwy chwarae ac yn cael profiadau yn y meysydd canlynol sy’n rhan o’r Cyfnod Sylfaen: 

- Datblygiad personol a chymdeithasol, lles ac amrywiaeth ddiwylliannol 

- Sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu 

- Datblygiad mathemategol 

- Gwybodaeth a dealltwriaeth o’r byd 

- Datblygiad corfforol 

- Datblygiad creadigol 

Nod y cylch meithrin yw rhoi cyfle i blant fanteisio ar addysg feithrin Cymraeg gwaeth beth fo’i angen.  Mae’r Cylch Meithrin yn agored 5 diwrnod yr wythnos o ddydd Llun i Gwener.  Mae’r Cylch wedi ei gofrestru i ddarparu ‘’Gofal Dydd Sesiynol’’.  Oriau agor y cylch yw: 

08:30 – 10:30 – Sesiynau Cylch Meithrin 

11:00 – 14:50 – Sesiynau Clwb Cinio a Meithrin Mwy 

Cynigir amryw o brofiadau a chyfleoedd dysgu i’r plant drwy gyfrwng y Gymraeg.  Ein blaenoriaeth fel cylch yw parhau i ddarparu addysg blynyddoedd cynnar drwy gyfrwng y Gymraeg i blant oed cynysgol yr ardal mewn awyrgylch cynnes a chyfeillgar.  Yn flynyddol mae plant y cylch yn cael cyfle i mynychu trip, eleni trefnwyd iddynt ymweld â Pili Palas. 

## **Meithrin Mwy:** 

Rydym yn cydweithio yn agos gydag Ysgol Gynradd Bontnewydd.  Rydym yn cynnig darpariaeth gofal plant ar gyfer y rhai hynny sydd yn mynychu’r cyfnod sylfaen yn yr ysgol yn y bore.  Mi all y plant aros yn y sesiwn Meithrin Mwy hyd at 14:50, ble mae cyfle iddynt gymdeithasu a dysgu.  Aelodau staff y Cylch Meithrin sydd yn cael eu cyflogi ar gyfer sesiynau Meithrin Mwy. 

2 



## **Cylch Meithrin Bontnewydd** 

Mae’r cylch wedi ei gofrestru gydag Arolygaeth Gofal Cymru (AGC) ar gyfer derbyn uchafswm o 24 plentyn i bob sesiwn Cylch Meithrin a Meithrin Mwy. 

Mae’r Cylch yn derbyn arolwg AGC ac Estyn yn rheolaidd. 

Yn ystod y flwyddyn dan sylw roedd; 

- 19 o blant wedi cofrestru ar gyfer sesiynau Cylch Meithrin 

- 25 o blant wedi cofrestru ar gyfer sesiynau Meithrin Mwy 

## **Strwythur a Threfniant:** 

Mae’r elusen yn cael ei redeg gan bwyllgor / ymddiriedolwyr sydd fel arfer yn rhieni i’r plant sydd yn mynychu’r cylch.  Nid oes yr un aelod o’r pwyllgor yn derbyn tâl na braint am eu gwaith gwirfoddol. 

Mae’r pwyllgor yn cael ei ethol yn ystod cyfarfod AGM ar ddiwedd y flwyddyn addysgol. 

Mae gweithgareddau dydd i ddydd y cylch yn cael eu rheoli gan staff cyflogedig gyda chefnogaeth Swyddog Cefnogi Gogledd Orllewin y Mudiad Meithrin, yn ogystal ag ymweliadau pob hanner tymor gan Athrawes Gysylltiol y Cynllun 10 awr. 

Yn ystod y cyfnod ariannol cyflogwyd: 

- 6 aelod o staff parhaol; 

Pwyllgor rheoli’r cylch sy’n gyfrifol am benodi, cyflogi a diswyddo staff y cylch.  Mae Swyddog Datblygu lleol y Mudiad yn cynghori’r cylch ar faterion staffio. 

3 



## **Cylch Meithrin Bontnewydd** 

## **Cynllun Gofal 30 awr:** 

Mae Cylch Meithrin Bontnewydd yn rhan o’r Cynllun Gofal 30 awr.  O dan y cynllun, gall rieni cymwys hawlio hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant bob wythnos, am hyd at 48 wythnos y flwyddyn.  Nod y cynllun yw gwneud bywyd yn haws i rieni trwy gynnig help gyda chostau gofal plant.  Mae’r cynnig eisoes yn helpu rhieni i ddychwelyd i’r gwaith, cynyddu eu horiau neu weithio’n fwy hyblyg. 

## **Grantiau:** 

Yn ystod y flwyddyn derbyniwyd Grant Addysg a Grant Cyfalaf gan Cyngor Gwynedd yn ogystal a chyfraniad gan Cyngor Cymuned Bontnewydd a Hwyl y Bont. 

## **Ail-Gofrestru** 

Yn ystod y flwyddyn yn fe wnaeth yr elusen ail-gofrestru gyda’r comiswin elusennau fel ‘Charitable Incorporated Organisation’. Rhif blaenorol yr elusen oedd 1056539 

## **Gwybodaeth Ariannol a Chronfeydd:** 

Cedwir cronfeydd at gostau rhedeg dydd i ddydd yr elusen ac i fod yn ddigonol am o leiaf pedwar mis o wariant os bydd incwm cyffredinol yn gorffen. 

Yn ystod y flwyddyn dan sylw derbyniwyd incwm o £81,764  Roedd y gwariant yn £88,300. 

Roedd £76,525 yn y banc ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. 

Paratowyd yr Adroddiad a Datganiad Ariannol hwn gan Lois Hughes – Trysorydd. 

Cymeradwywyd gan yr Ymddiriedolwyr ar 26/1/26  ac arwyddwyd ar eu rhan gan: 

## **Llofnod Trysorydd: L Hughes Enw Trysorydd: Lois Hughes** 

4 



## **Cylch Meithrin Bontnewydd** 

## **Adroddiad Arholwr Annibynnol i Aelodau Cylch Meithrin Bontnewydd** 

Adroddaf  i’r ymddiriedolwyr ar fy archwiliad o gyfrifon yr eluson uchod (“yr Ymddiriedolaeth”) am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2025, a ymddengys ar dudalennau  6  i 7. 

## **Cyfrifoldebau’r a’r sail adrodd** 

Fel ymddiriedolwyr elusen yr Ymddiriedolaeth, rydych yn gyfrifol am baratoi’r cyfrifon yn unol a gofynion Deddf Elusennau 2011 ( y Deddf). 

Adroddaf mewn perthynas a’m harchwiliad o gyfrifon yr Ymddiriedolaeth a gwblhawyd o dan adran 145 o Ddeddf 2011 ac wrth ymgymryd a’m harchwiliad, dilynais y Cyfarwyddiadau cymwys a roddwyd gan y Comisiwn Elusennau o dan adran 145(5)(b) o’r Ddeddf. 

## **Datganiad yr Arholwr Annibynnol** 

Rwyf wedi cwblhau fy archwiliad. Cadarnhaf nad yw unrhyw faterion perthnasol wedi dod i’m sylw mewn perthynas a’r archwiliad sy’n rhoi achos i mi gredu, mewn unrhyw agwedd perthnasol: 

- ni chafodd cofnodion cyfrifyddu eu cadw yn unol ag adran 130 o’r Ddeddf Elusennau; neu 

- `o` nid yw’r cyfrifon yn cyfateb a’r cofnodion cyfrifyddu 

Nid oes unrhyw bryderon gennyf ac nid wyf wedi dod ar draws unrhwy faterion eraill mewn perthynas a’r archwiliad y dylid dwyn sylw atynyt er mwyn sicrhau dealltwriaeth briodol o’r cyfrifon. 

## **Laura Adams** 

**W. J. Matthews a’i Fab Cyfrifwyr Siartredig, 11-15 Y Bont Bridd, Caernarfon, Gwynedd.** 

**Dyddiedig:** 

5 



## **CYLCH MEITHRIN BONTNEWYDD CYFRIF DERBYNIADAU A THALIADAU AM Y FLWYDDYN HYD 31 MAWRTH 2025** 

||**2025**|**2024**|
|---|---|---|
||**£**|**£**|
|**Incwm:**|||
|Ffioedd Plant|73,048|60,342|
|Grant Cyngor Gwynedd|6,646|12,559|
|Cynllun Cyfeirio|-|5,106|
|Rhoddion cyffredinol|1,000|500|
|Incwm Codi Arian|410|537|
|Arall|660|359|
||______|______|
||£81,764|£79,403|
||________|______|
|**Gwariant**|||
|**Gweithgareddau Elusennol:**|||
|Cyflogau|78,545|67,820|
|Rhent a gwresogi y Ganolfan|4,455|2,685|
|Offer, nwyddau ac adnoddau|3,459|2,323|
||______|______|
||86,459|72,828|
|**Gwariant arall:**|||
|Costau cyrsiau|320|-|
|Cyfrifo|484|393|
|Cynnal a chadw|-|82|
|Arall|1,037|1,036|
|Manion|-|625|
|Ad-daliad grant cyfalaf|______|______|
||1,841|2,136|
||______|______|
|Cyfanswm gwariant|88,300|74,964|
||______|______|
|Gwariant  / Incwm net am y flwyddyn|(6,536)|4,439|
|**Arian mewn banc ac mewn llaw**|||
|Ar 31 Mawrth 2024|83,061|78,622|
||______|______|
|Ar 31 Mawrth 2025|£76,525|£83,061|
||_______|______|



## **Ymddiriedolwyr** 

Ni dalwyd cyflog na ffioedd i unrhyw ymddiriedolwyr yn ystod y flwyddyn. (2024 – DIM). Ni wnaed ad-daliadau i ymddiriedolwyr yn ystod y flwyddyn (2024 - DIM). 

## **Cymeradwywyd gan yr Ymddiriedolwyr ar 26.1.2026 ac arwyddwyd ar eu rhan gan** 

## **L HUGHES Tysorydd** 

6 

