
## **Cymdeithas Tŷ Tawe – Canolfan Gymraeg Abertawe** 

## **Adroddiad blynyddol ar gyfer y cyfnod 01/04/2024 – 31/03/2025** 

Rhif elusen: 1200058 

Cadarnhawyd cofrestriad yr elusen fel Sefydliad Corfforedig Elusennol (SCE/CIO) ar 15/08/22. 

Yn dilyn cael caniatad gan y Comisiwn Elusennau, gofynnodd y Pwyllgor Rheoli i gyfreithwyr arwain ar y broses o drosglwyddo asedau o’r elusen wreiddiol, Cymdeithas Tŷ Tawe – Canolfan Gymraeg Abertawe (rhif elusen: 514082) i’r Sefydliad Corffordeig Elusennol a enwir uchod. 

Mae’r gwaith hwn yn parhau i fynd rhagddo ac felly mae’r elusen wreiddiol wedi parhau i weithredu. Comisiwn Ceir adroddiad blynyddol ac ariannol am y flwyddyn yn dod i ben ar 31/03/25 ar wefan y Elusennau. 

Ni fu gweithgarwch o dan enw’r SCE/CIO yn ystod y cyfnod dan sylw o ganlyniad i’r gwaith o drosglwyddo asedau. Yr unig incwm a gwariant yn ystod y cyfnod dan sylw oedd taliadau Clwb Cefnogwyr (£90), ad-daliad yswiriant gan Menter Iaith Abertawe (£4,375.55), a ffioedd banc (£60). Fe’u dangosir isod. 

## **Rheolaeth** 

Y swyddogion yn ystod y cyfnod ers sefydlu’r elusen oedd Catrin Rowlands (Cadeirydd), Jaci Gruffudd (Trysorydd), Rhian Jones (Ysgrifennydd). Ymddiriedolwyr yr elusen oedd Heini Gruffudd, Jaci Gruffudd a Roderick Evans. 

## **Cyfrifon** 

Incwm £4,465.55 Gwariant £60 

